Cynllun Datblygu Lleol Conwy 2007 - 2022

4.6 YR AMGYLCHEDD NATURIOL

4.6.1 Amcanion Gofodol

SO11, SO12, SO14.

4.6.2 Datganiad Strategaeth yr Amgylchedd Naturiol

4.6.2.1 Mae Ardal y Cynllun yn elwa ar brydferthwch gwledig ac arfordirol sy'n cefnogi diwydiant twristiaeth ffyniannus ac yn darparu adnoddau hamdden gwerthfawr i'r trigolion. Nod y polisïau yn yr adran hon yw diogelu a gwella cymeriad cefn gwlad, y dirwedd, yr amgylchedd adeiledig, y cyfoeth o fioamrywiaeth a'r asedau daearegol.


4.6.2.2 Mae’r ardal o gefn gwlad hefyd yn cynnal economi amaethyddol iachus ac yn ôl polisi'r Llywodraeth dylid ystyried lleoliad y tir amaethyddol gorau a mwyaf amlbwrpas ochr yn ochr ag ystyriaethau cynaliadwyedd eraill wrth benderfynu ynghylch ceisiadau cynllunio.


4.6.2.3 Yn ogystal â diogelu'r amgylchedd lleol, rhaid i ddatblygiadau newydd hefyd geisio cyfyngu ar yreffaith ar amgylchedd y byd drwy ddefnyddio cyn lleied ag sy'n bosibl o adnoddau, cynyddu effeithlonrwydd ynni a gostwng allyriadau carbon. Yn ôl cyfarwyddyd y Strategaeth Ofodol a’r broses ddilynol o’i hasesu, dylid lleolidatblygiadau mewn aneddiadau sy'n darparu ystod o wasanaethau a chyfleusterau, gan leihau'r angen i deithio (a thrwy hynny allyriadau carbon). Mae polisïau eraill yn yr adran hon yn ceisio cynyddu effeithlonrwydd ynni mewn adeiladau a chynyddu'r ynni adnewyddadwy sy'n cael ei gynhyrchu. Yn ogystal â hyn, mae angen sicrhau nad yw datblygiadau'n ei gwneud hi'n fwy tebygol y bydd bywyd gwyllt a chynefinoedd yn cael eu colli yn sgil newid yn yr hinsawdd, ac y gallant addasu i gyfateb â newidiadau i'r hinsawdd yn y dyfodol.


4.6.2.4 Mae risg llifogydd ar hyd llawer o’r arfordir, yn enwedig Ardal y Strategaeth Datblygu Trefol, ac mae angen atal datblygu amhriodol mewn ardaloedd lle ceir risg. Mae'r risg yn debygol o gynyddu yn y dyfodol o ganlyniad i'r newid yn yr hinsawdd a lefelau’r môr yn codi. Gan hynny, defnyddir ymagwedd gyfyngol ar gyfer datblygiadau newydd mewn ardaloedd lle ceir risg, yn unol â Pholisi DP/6 – 'Polisi a Chanllawiau Cynllunio Cenedlaethol'. Bydd angen trefniadau draenio dŵr wyneb priodol, fel Systemau Draenio Cynaliadwy, i helpu i reoli llifogydd dŵr wyneb, fel y nodir yn yr adran hon.


4.6.2.5 Mae cefn gwlad agored yn cynnwys yr holl ardaloedd hynny y tu allan i'r terfynau anheddiad a ddiffiniwyd. Mae canllawiau cenedlaethol yn ceisio cadw ac, os yw hynny'n bosibl, gwella cefn gwlad er mwyn diogelu ei werth ecolegol, daearegol, ffisiographig, hanesyddol, archeolegol ac amaethyddol. Mae'r morlin agored yn bwysig o ran harddwch, bywyd gwyllt a hamdden. Mae'r Gogarth wedi'i ddynodi'n Arfordir Treftadaeth gan fod ei glogwyni carreg galch a'i laswelltir yn cael eu hystyried ymysg golygfeydd gwychaf arfordir Cymru. Mae'r diwydiant hamdden yn ogystal â’r gwaith ar yr amddiffynfeydd môr yn rhoi pwysau ar yr arfordir. Rhaid i ddatblygiadau o'r fath fod yn gydnaws ag ecoleg ac ymddangosiad yr arfordir. Yn yr un modd, mae rhai ardaloedd yn debygol o gael llifogydd ac mae angen peidio lleoli datblygiadau ar ardaloedd risg uchel.
 

POLISI STRATEGOL NTE/1 – YR AMGYLCHEDD NATURIOL

Er mwyn ceisio cefnogi anghenion economaidd a chymdeithasol ehangach yn Ardal y Cynllun, bydd y Cyngor yn ceisio rheoleiddio datblygu i gadw, a lle bo modd, gwella amgylchedd naturiol, cefn gwlad ac arfordir Ardal y Cynllun. Cyflawnir hyn drwy:

  1. Ddiogelu bioamrywiaeth, daeareg, cynefinoedd, hanes a thirweddau Ardal y Cynllun drwy ddiogelu a gwella safleoedd o bwysigrwydd rhyngwladol, cenedlaethol, rhanbarthol a lleol, yn unol â Pholisi DP/6 – ‘Polisi a Chanllawiau Cynllunio Cenedlaethol’;
  2. Defnyddio Lletemau Glas a therfynau anheddiad i reoli hunaniaeth aneddiadau unigol, atal cyfuno a diogelu’r dirwedd sydd o gwmpas ardaloedd trefol yn unol â Pholisi NTE/2 - ‘Lletemau Glas a Diwallu Anghenion Datblygu’r Gymuned’;
  3. Lle bo'n briodol ac yn angenrheidiol, gwella ansawdd tirweddau statudol ac anstatudol, ac ardaloedd gwerthfawr o safbwynt bioamrywiaeth yr effeithir arnynt, trwy gytundebau rheoli, cysylltedd cynefin, plannu tirweddu a chynnal gwell, yn unol â'r Polisïau Egwyddor Datblygu a Pholisi NTE/3 – ‘Bioamrywiaeth’;
  4. Cydweithio â datblygwyr i ddiogelu rhywogaethau a warchodir a gwella'u cynefinoedd yn unol â Pholisïau DP/6 a NTE/3;
  5. Ceisio sicrhau bod cyn lleied ag sy'n bosibl o dir amaethyddol Gradd 2 a 3a yn cael ei golli ar gyfer datblygiadau newydd, yn enwedig yn nwyrain Ardal y Strategaeth Datblygu Trefol, yn unol â Pholisi DP/6;
  6. Parchu, cadw neu wella cymeriad lleol a nodweddion unigryw pob Ardal Tirwedd Arbennig, yn unol â Pholisi NTE/4 – ‘Y Dirwedd a Diogelu Ardaloedd Tirwedd Arbennig’ ac fel y dangosir ar Fap y Cynigion;
  7. Diogelu’r Parth Arfordirol yn unol â Pholisi NTE/5 – ‘Y Parth Arfordirol’;
  8. Hyrwyddo effeithlonrwydd ynni a thechnolegau adnewyddadwy mewn datblygiadau yn unol â Pholisi NTE/6 – ‘Effeithlonrwydd Ynni a Thechnolegau Adnewyddadwy mewn Datblygiadau Newydd’;
  9. Atal, gostwng neu adfer pob ffurf ar lygredd gan gynnwys aer, golau, sŵn, pridd a dŵr, yn unol â Pholisi DP/6.

Tir Amaethyddol o Ansawdd Uchel

4.6.2.6 Mae Paragraff 4.9.1. Polisi Cynllunio Cymru yn diogelu tir amaethyddol o'r ansawdd gorau lle bo modd, gan ei fod yn adnodd y mae terfyn iddo. Nid oes tir amaethyddol Gradd 1 yn Ardal y Cynllun, ond ceir ardaloedd o dir Gradd 2 a Gradd 3a ar yr arfordir. Bydd y Cyngor yn ceisio sicrhau bod cyn lleied o dir Gradd 2 a Gradd 3a yn cael eu colli i ddatblygiadau newydd, ond efallai y bydd angen colli rhai ardaloedd o'r tir hwn er mwyn sicrhau y cyrhaeddir y targedau o ran tai. Bydd yn rhaid i geisiadau cynllunio sy'n effeithio ar y mater hwn fodloni gofynion Polisi DP/6.
 

Diogelu Tirweddau a Chynefinoedd

4.6.2.7 Mae nifer y safleoedd o bwysigrwydd rhyngwladol a chenedlaethol yn adlewyrchu ansawdd ac amrywiaeth yr amgylchedd yn Ardal y Cynllun. Mae polisïau cenedlaethol yn ceisio diogelu, ac, mewn rhai amgylchiadau, gwella ardaloedd sydd wedi'u dynodi yng nghefn gwlad a'r arfordir, ardaloedd sy’n gyfoethog o ran bioamrywiaeth, cynefinoedd o bwysigrwydd lleol, tir amaethyddol a'r amgylchedd trefol. Bydd ceisiadau cynllunio sy'n debygol o effeithio ar yr ardaloedd hyn yn amodol ar Bolisi DP/6.


4.6.2.8 Mae Ardal y Cynllun yn cynnwys tirweddau amrywiol o ansawdd uchel ac ardaloedd prydferth, o rostir agored Hiraethog i fannau ac iddynt bwysigrwydd lleol o amgylch trefi a phentrefi. Mae terfyn gorllewinol Ardal y Cynllun yn gyfagos â Pharc Cenedlaethol Eryri. Er mai Awdurdod y Parc Cenedlaethol sy'n penderfynu ar geisiadau yn ei ardal, CBSC yw'r awdurdod cynllunio ar ardaloedd cyfagos a fyddai’n gallu effeithio ar osodiad y Parc. Yn yr ardaloedd hyn, mae Deddf yr Amgylchedd 1995 yn ei gwneud hi'n ofynnol i'r Cyngor ystyried y pwrpasau y dynodwyd y Parc Cenedlaethol ar eu cyfer.


4.6.2.9 Mae Paragraff 5.2.8 Polisi Cynllunio Cymru'n hyrwyddo ymagweddau tuag at ddatblygu sy'n gwella bioamrywiaeth, yn diogelu rhag colli bioamrywiaeth, neu'n gwneud iawn am unrhyw ddifrod na ellir ei osgoi.


4.6.2.10 Mae dwy Ardal Gwarchodaeth Arbennig (SPAs) a saith Ardal Cadwraeth Arbennig (SACs), sydd wedi'u lleoli’n rhannol, neu’n gyfan gwbl, yn Ardal y Cynllun. Mae Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig ac Ardaloedd Cadwraeth Arbennig o bwysigrwydd rhyngwladol, ac o ganlyniad i hynny maent wedi'u diogelu ar lefel uchel iawn drwy'r Cyfarwyddebau Ewropeaidd a thrwy bolisïau cenedlaethol o dan DP/6. Dangosir y rhain ar y Diagram Allwedd, wedi eu hasesu trwy’r Rheoliadau Cynefinoedd o fewn BP/11 a’u rhestru yn nhabl 9 isod:
 

Tabl 9: Safleoedd Ewropeaidd o fewn i Ardal y Cynllun, ac wrth ei ymyl

Tabl 9: Safleoedd Ewropeaidd o fewn i Ardal y Cynllun, ac wrth ei ymyl


4.6.2.11 Mae paragraffau 5.3.8 a 5.3.11 ym Mholisi Cynllunio Cymru hefyd yn gwarchod bioamrywiaeth ar safleoedd o bwysigrwydd cenedlaethol (er enghraifft, Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig). Nid yw polisïau cenedlaethol yn diogelu safleoedd o bwysigrwydd lleol (megis Gwarchodfeydd Natur Lleol a Safleoedd Bywyd Gwyllt), ond fe'u cydnabyddir yn y Cynllun Datblygu Lleol, oherwydd eu pwysigrwydd lleol. Ceir rhagor o wybodaeth am hyn yn y Canllawiau Cynllunio Atodol CDLl 5 - 'Bioamrywiaeth a Chynllunio’.


4.6.2.12 Mae ardaloedd trefol hefyd yn cyfrannu tuag at fioamrywiaeth. Mae Ardal y Cynllun yn cynnwys mwy na 400 hectar o ofodau gwyrdd trefol, fel parciau, caeau chwaraeon ac ymylon ffyrdd. Mae'r safleoedd hyn yn darparu cynefinoedd a all fod yn goridorau bywyd gwyllt sy'n galluogi rhywogaethau i deithio rhwng y naill safle a'r llall. Maent hefyd yn bwysig o ran amwynder, hamdden a lles.


4.6.2.13 Mae'r Awdurdod Cynllunio Lleol, Cyngor Cefn Gwlad Cymru ac Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru wedi dynodi rhwydwaith o safleoedd o bwysigrwydd lleol oherwydd bioamrywiaeth, sy’n cael eu hystyried yn ddarpar 'Safleoedd Bywyd Gwyllt'. Ffurfir rhwydwaith o gynefinoedd gan y safleoedd hyn, ynghyd â'r safleoedd a warchodir ar raddfa genedlaethol, sy'n sail ar gyfer yr adnodd bioamrywiaeth yn Ardal y Cynllun. Gan nad yw gwerthusiad llawn o'r holl ddarpar Safleoedd Bywyd Gwyllt wedi cael eu cynnal hyd yma, bydd eu gwerth o safbwynt bioamrywiaeth yn cael ei werthuso fesul safle wrth i geisiadau datblygu gael eu cyflwyno ar gyfer y lleoliadau hynny.


4.6.2.14 Mae a wnelo geoamrywiaeth â nodweddion daearegol a geomorffaidd. Mae’r nodweddion hyn yn cynnwys Trwyn y Fuwch, lle ceir palmant carreg galch ac ogofâu Llanddulas. Mae rhai safleoedd wedi'u diogelu'n statudol fel Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig. Yn ogystal â hyn, caiff Safleoedd Daearegol o Bwysigrwydd Rhanbarthol eu dynodi gan grwpiau rhanbarthol ar sail eu gwerth gwyddonol, addysgol, hanesyddol ac esthetig. Bydd ceisiadau cynllunio sy'n debygol o effeithio ar yr ardaloedd hyn yn amodol ar Bolisi DP/6.


4.6.2.15 Gyda'i gilydd, mae'r safleoedd hyn a drafodir uchod yn cynrychioli fframwaith strategol er mwyn cadw bioamrywiaeth a geoamrywiaeth. Maent yn cynnwys y safleoedd sydd wedi'u diogelu'n statudol yn rhyngwladol (Ardaloedd Cadwraeth Arbennig ac Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig) ac yn genedlaethol (Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig) a'r rhai sydd wedi'u diogelu'n lleol, sef Gwarchodfeydd Natur Lleol a Safleoedd Bywyd Gwyllt y Sir a Safleoedd Daearegol o Bwysigrwydd Rhanbarthol.


4.6.2.16 Mae coedwigoedd a choetiroedd yn creu a chysylltu cynefinoedd â'i gilydd, yn cyfrannu tuag at gymeriad y dirwedd, ac yn cael eu rheoli'n gynyddol fel ffynhonnell adnewyddadwy o ynni. Y DU yw un o'r gwledydd lleiaf coediog yn Ewrop. Nid yw tir coediog ond yn gorchuddio 12 y cant o'r DU a 14 y cant o Gymru, o'i gymharu â chyfartaledd o 44 y cant yn rhannau eraill o Ewrop. Mae coetiroedd hynafol a lled-naturiol yn enwedig wedi'u diogelu drwy Bolisi Cynllunio Cymru fel cynefinoedd na ellir eu hadfer. Mae coed sy'n bodoli eisoes a phlannu a chynnal coed newydd mewn datblygiadau newydd yn cyfrannu tuag at harddwch a bioamrywiaeth. Bydd Canllawiau Cynllunio Atodol ar Fioamrywiaeth a Dylunio yn darparu gwybodaeth ynghylch bioamrywiaeth, integreiddio, plannu, cynnal, deddfwriaeth, arolygon a gofynion datblygu cynaliadwy. Bydd ceisiadau cynllunio sy'n debygol o effeithio ar goed neu goetiroedd yn amodol ar i Bolisi DP/6.

4.6.3 Lletemau Glas a Diwallu Anghenion Datblygu’r Gymuned

Polisi NTE/2 – LLETEMAU GLAS A DIWALLU ANGHENION DATBLYGU'R GYMUNED

I atal aneddiadau rhag ymgyfuno ac i gadw cymeriad agored yr ardal, dynodwyd y Lletemau Glas a ganlyn, fel y dangosir ar fap y cynigion:

  1. Lletem Las 1 rhwng Dwygyfylchi a Phenmaenmawr
  2. Lletem Las 2 rhwng Deganwy, Llandudno a Llanrhos
  3. Lletem Las 3 rhwng Llandudno a Craigside
  4. Lletem Las 4 rhwng Bae Penrhyn a Llandrillo-yn-Rhos
  5. Lletem Las 5 rhwng Mochdre a Bae Colwyn
  6. Lletem Las 6 rhwng Cyffordd Llandudno a Mochdre
  7. Lletem Las 7 rhwng Bryn y Maen a Bae Colwyn
  8. Lletem Las 8 rhwng Llaneilian a Bae Colwyn
  9. Lletem Las 9 rhwng Coed Coch Road a Peulwys Lane
  10. Lletem Las 10 rhwng Hen Golwyn a Llysfaen
  11. Lletem Las 11 rhwng Rhyd y Foel, Llanddulas ac Abergele
  12. Lletem Las 12 rhwng Tywyn a Belgrano


4.6.3.1 Yn Ardal y Cynllun, mae lletemau glas yn diogelu'r arfordir a chefn gwlad sydd heb ei ddatblygu ac yn atal aneddiadau rhag ymdoddi i'w gilydd. Adolygwyd y tiroedd a ddynodwyd yn lletemau glas i fod yn sail i’r CDLl hwn. Mae'r adolygiad i'w gael ym BP/12 – ‘Asesiad Lletemau Glas’. Dangosir y lletemau/rhwystrau glas dynodedig ar fap y cynigion.


4.6.3.2 Er mwyn sicrhau digon o waith datblygu i ddiwallu anghenion y gymuned a mynd i'r afael â'r materion allweddol sy'n effeithio ar Gonwy, mae angen yr Cyngor asesu pa ardaloedd o dir sydd fwyaf addas i'w datblygu. Gan nad oes gan Gonwy lawer o dir llwyd, mae'n anochel y bydd angen i'r Cyngor ddyrannu datblygiadau newydd ar gyrion aneddiadau. Yn yr adolygiad o'r Lletemau Glas aseswyd pa ardaloedd fyddai'n achosi'r lleiaf o ddifrod i gefn gwlad agored, yr anheddiad presennol a'r dirwedd.

4.6.4 Bioamrywiaeth

Polisi NTE/3 – BIOAMRYWIAETH

  1. Dylai datblygiadau newydd anelu i gadw a, lle bo'n bosibl, gwella bioamrywiaeth trwy:
  1. Leoli sensitif, gan osgoi safleoedd Ewropeaidd sydd wedi’u diogelu neu’r rhai o bwysigrwydd cenedlaethol neu leol.
  2. Cynllunio a dylunio sensitif sy’n osgoi effeithiau neu’n lliniaru trwy raglen y cytunwyd arni o ran unrhyw effeithiau anffafriol ar fioamrywiaeth sydd wedi’u nodi.
  3. Creu, gwella a rheoli cynefinoedd bywyd gwyllt a thirweddau naturiol yn cynnwys cysylltedd,
  4. Integreiddio camau bioamrywiaeth i'r amgylchedd adeiledig,
  5. Cyfrannu tuag at gyflawni targedau yng Nghynllun Gweithredu Bioamrywiaeth Leol Conwy (LBAP),
  6. Darparu ar gyfer cytundeb rheoli gyda’r Awdurdod Cynllunio Lleol i sicrhau cadwraeth a dyfodol buddiannau bioamrywiaeth yn y tymor hir lle y bo’n berthnasol.
  1. Dylai pob cynnig gynnwys Datganiad Bioamrywiaeth sy’n rhoi manylion am raddfa’r effaith ar fioamrywiaeth.
  2. Bydd y Cyngor yn gwrthod cynigion fydd yn cael effaith negyddol ar Safle Ewropeaidd, rhywogaethau a warchodir neu sydd â blaenoriaeth neu eu cynefin, oni bai fod yr effaith honno wedi'i lliniaru'n ddigonol, a bod camau adfer a gwella priodol yn cael eu cynnig a'u sicrhau trwy amodau neu rwymedigaethau cynllunio.


4.6.4.1 Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddiogelu a gwella bioamrywiaeth, a bydd yn gweithio gyda phartneriaid i sicrhau ymagwedd ragweithiol tuag at ddiogelu, gwella a rheoli bioamrywiaeth gan gefnogi Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth Leol Conwy (LBAP). Bydd yr angen i ddatblygu'n cael ei ystyried yn ofalus ochr yn ochr â'i effaith ar fioamrywiaeth, ond gall cyfleoedd godi drwy ddatblygiadau sydd wedi'u lleoli'n sensitif a'u dylunio'n ofalus. Gall newid ddod â chyfleoedd newydd yn ei sgil lle gellir defnyddio amodau a chytundebau Adran 106 i greu cynefinoedd newydd a rheoli cynefinoedd sy'n bodoli eisoes.


4.6.4.2 Mae Polisi NTE/3 hefyd yn berthnasol i effaith bosibl y dyraniadau datblygu a wneir yn y CDLl hwn a'r datblygiad arfaethedig ar safleoedd Natura 2000. BP/11 – ‘Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd Adroddiad Sgrinio’ yn nodi na fydd pob dyraniad yn y cynllun yn debygol o gael effaith sylweddol ar safleoedd Natura 2000. Bydd datblygu'n cael ei ganiatáu os yw'n gwella ymddangosiad, bioamrywiaeth a thirwedd y safle. Dim ond ar ôl dangos na fydd hygrededd Safleoedd Natura 2000 yn cael ei niweidio, yn unol â DP/6, y caniateir cynigion datblygu. Mae integreiddio bioamrywiaeth â datblygiadau newydd yn rhan bwysig o ddatblygu cynaliadwy.


4.6.4.3 ‘Rhywogaethau a warchodir’ yw'r rhywogaethau planhigion ac anifeiliaid hynny a warchodir dan y gyfraith, er enghraifft, o dan Gyfarwyddeb Adar a Chyfarwyddeb Cynefinoedd yr Undeb Ewropeaidd (rhaid rhoi'r brif flaenoriaeth i'r rhywogaethau hyn a warchodir ar raddfa Ewropeaidd), neu yn Atodlenni 1, 5 ac 8 Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (fel y cafodd ei diwygio) a Deddf Gwarchod Moch Daear 1992. Rhywogaethau neu gynefinoedd â blaenoriaeth yw'r rhai hynny a ddiffinnir yng Nghynllun Gweithredu Bioamrywiaeth y DU neu Gynllun Gweithredu Bioamrywiaeth Leol Conwy.


4.6.4.4 Mae Polisi NTE/3 yn cefnogi deddfwriaeth ar warchod rhywogaethau a thargedau'r Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth Leol, ac mae’n sicrhau bod unrhyw niwed i rywogaeth neu gynefin yn cael ei ystyried yn erbyn manteision y cais datblygu. Gwneir dyfarniadau'n seiliedig ar yr effaith a ddisgwylir ar y rhywogaethau, pwysigrwydd poblogaeth y rhywogaeth yn lleol, yn genedlaethol neu'n rhyngwladol, ei hamlder, y raddfa ddirywio neu faint y bygythiad.


4.6.4.5 Fel y nodir yn yr adran Egwyddorion Datblygu, ac yn arbennig ym Mholisi DP/3 – ‘Hyrwyddo Dylunio o Ansawdd a lleihau Troseddu’, wrth ystyried ceisiadau datblygu, mae'n bwysig rhoi blaenoriaeth i ddechrau i gynnal ac i wella cynefinoedd a rhywogaethau sy'n bodoli eisoes. Dim ond os daw hi i’r pen y dylid ystyried creu cynefin arall yn lle’r un a gollir i rywogaethau neu gynefinoedd. Dylai camau lliniaru neu ddigolledu ei gwneud hi'n haws i boblogaeth y rhywogaethau oroesi, sicrhau cyn lleied o aflonyddwch ag sy'n bosibl a darparu cynefinoedd digonol i o leiaf gynnal lefel bresennol y boblogaeth.


4.6.4.6 Efallai bydd y dulliau lliniaru’n cynnwys camau penodol i leihau aflonyddu, niwed neu effeithiau posibl, darparu cynefinoedd digonol eraill i gynnal a, lle bo modd, cynyddu niferoedd y rhywogaeth y mae'r gwaith yn effeithio arni, neu alluogi aelodau unigol o'r rhywogaeth i oroesi. Efallai bydd angen camau fel hyn trwy ymrwymo i gytundebau Adran 106 neu amodau cynllunio.


4.6.4.7 Mae Polisi NTE/3 hefyd yn berthnasol i effeithiau'r datblygiad ar gyfle pobl i fwynhau a phrofi natur ar safle; gall datblygu ar, neu'n gyfagos â safle pwysig amharu ar fwynhad pobl o fioamrywiaeth a thirwedd y safle, er enghraifft yn sgil nodweddion gweledol ymwthiol, cyfyngiadau ar fynediad neu gynnydd sylweddol mewn lefelau sŵn.


4.6.4.8 Dylid manteisio ar gyfleoedd i elwa ar ffurf a dyluniad datblygiadau. Lle bo'n briodol, gall camau gynnwys creu, gwella neu reoli cynefinoedd bywyd gwyllt a'r dirwedd naturiol a allai fod yn sail ar gyfer cytundeb rheoli gyda’r Cyngor. Dylid ystyried newidiadau i’r amgylchedd adeiledig yn gyfle i arloesi er mwyn integreiddio bioamrywiaeth yn llawn mewn datblygiadau newydd. Dylid rhoi blaenoriaeth i safleoedd eraill sy’n cynnig creu cynefinoedd neu gysylltu cynefinoedd â'i gilydd ar safleoedd, a fydd yn cynorthwyo i gyflawni targedau yng Nghynllun Gweithredu Bioamrywiaeth Leol Conwy (LBAP).
 

Dyletswydd Bioamrywiaeth

4.6.4.9 Mae Adran 40 o'r Ddeddf Amgylchedd Naturiol a Chymunedau Gwledig 2006 yn ei gwneud hi'n ddyletswydd ar bob awdurdod lleol ac awdurdod cyhoeddus arall yng Nghymru a Lloegr i ystyried cadw bioamrywiaeth wrth gyflawni'u swyddogaethau (dyletswydd bioamrywiaeth).


4.6.4.10 Yn ôl canllawiau LlC ynghylch sut y dylai ALlau gydymffurfio â'r ddyletswydd bioamrywiaeth drwy'r broses rheoli datblygu, yr hyn sy'n allweddol yw archwilio ceisiadau datblygu er mwyn canfod effeithiau posibl ar fioamrywiaeth a cheisio gosod amodau a rhwymedigaethau cynllunio i sicrhau y cedwir bioamrywiaeth. Mae rhagor o ganllawiau ar gael yn CCA CDLl5 – ‘Bioamrywiaeth mewn Cynllunio’.


4.6.4.11 Mae Paragraff 5.5.11 ym Mholisi Cynllunio Cymru'n mynd i'r afael â'r materion cynllunio ac, mewn rhai achosion, gellid bod angen i ddatblygwyr gael trwyddedau gan yr awdurdodau perthnasol. Bydd y Cyngor yn cydweithio â datblygwyr i ddiogelu a gwella cynefinoedd ar gyfer rhywogaethau a warchodir ac yn ystyried ceisiadau cynllunio ar sail Polisi DP/6.

4.6.5 Ardaloedd Tirwedd Arbennig

Polisi NTE/4 – Y DIRWEDD A DIOGELU ARDALOEDD TIRWEDD ARBENNIG

  1. Dangosir Ardaloedd Tirwedd Arbennig ar y map cynigion ac maent wedi eu dynodi yn y lleoliadau canlynol:
  1. Y Gogarth a Phenrhyn Creuddyn
  2. Dyffryn Conwy
  3. Cefnwlad Abergele
  4. Dyffrynnoedd Elwy ac Aled
  5. Hiraethog
  6. Cerrigydrudion a choridor yr A5
  1. Er mwyn gwarchod nodweddion yr Ardaloedd Tirwedd Arbennig bydd yn rhaid i geisiadau datblygu roi sylw dyledus i gymeriad pob ardal er mwyn lleihau eu heffaith gymaint â phosibl. Dim ond os gellir dangos bod modd integreiddio’r datblygiad yn foddhaol i’r dirwedd y caniateir datblygu. Mewn achosion priodol dylid cyflwyno Asesiad Effaith Weledol a Thirwedd i gyd-fynd â’r cais cynllunio er mwyn asesu effaith weledol y datblygiad a’i effaith ar y dirwedd.
  2. Bydd pob cais, o fewn a’r tu allan i Ardaloedd Tirwedd Arbennig (SLAs) yn cael eu hystyried yn erbyn yr Egwyddorion Datblygu a pholisïau eraill yn y Cynllun ar gyfer diogelu’r cymeriad amgylcheddol a’r dirwedd.


4.6.5.1 Mae cymeriad gweledol y tirweddau, morluniau a’r trefluniau yn Ardal y Cynllun, ac arwahanrwydd aneddiadau, oddi mewn ac oddi allan i ardaloedd dynodedig yn cael ei werthfawrogi'n fawr gan drigolion ac ymwelwyr. Rhoddir blaenoriaeth uchel i ddiogelu, cadw a gwella'r cymeriad hwn yn y dirwedd, a dylai datblygiadau newydd fod wedi'u dylunio'n dda a helpu i gynnal ac/neu greu tirweddau a threfluniau a chanddynt ymdeimlad cryf o naws am le a hunaniaeth leol.


4.6.5.2 Pwrpas y dynodiad yw sicrhau nad yw cymeriad lleol yr ardaloedd hyn yn cael ei newid gan ffurfiau amhriodol o ddatblygu, ac y cedwir y nodweddion sy'n cyfrannu at yr arbenigrwydd lleol. Felly, gwrthwynebir datblygiadau sydd wedi eu dylunio neu eu lleoli’n wael. Dylai'r dyluniad a'r defnyddiau a ddefnyddir yn y gwaith adeiladu a ganiateir, fod yn gydnaws a'r arddull leol, a dylai lleoliad a ffurf y datblygiad integreiddio i'r dirwedd mewn modd sy'n gyson â'r datblygiadau sy'n bodoli eisoes. Dylid dilyn cyfarwyddyd Canllawiau Cynllunio Atodol CDLl9 - ‘Dylunio’ a CDLl1 – ‘Canllaw Dylunio i Berchnogion Tai’.


4.6.5.3 Defnyddiwyd LANDMAP, a baratowyd gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru, i nodi a disgrifio Ardaloedd Tirwedd Arbennig penodol trwy Ardal y Cynllun. Mae’n cynnwys manylion a gwerthoedd ynglŷn â chynefin, gwerth ansoddol hanesyddol, daearegol a diwylliannol y dirwedd. Dylid defnyddio'r wybodaeth hon, ynghyd ag astudiaethau eraill sy'n cyfrannu tuag at y dystiolaeth ynglŷn â'r dirwedd a chymeriad y trefi a'r pentrefi yn Ardal y Cynllun, er mwyn sicrhau bod ceisiadau datblygu'n adlewyrchu natur unigryw, rhinweddau a natur sensitif yr ardal.


4.6.5.4 Nid yw tir sydd y tu allan i’r SLAs yn cael eu hystyried yn syth fel rhai sy’n addas i’w datblygu gan fod ystyriaethau a dynodiadau eraill a allai fod yn berthnasol. Gallai LANDMAP fod yn berthnasol hefyd yn dibynnu ar natur yr haenau gan fod y rhan fwyaf o Ardal y Cynllun yn cynnwys o leiaf un haen o werth uchel. Bydd angen Datganiad Cymeriad Tirwedd ar gyfer pob datblygiad y tu allan i derfynau’r anheddiad a thu allan i’r SLAs, mae’r ddau wedi’u nodi ar fapiau’r cynigion a phob datblygiad dros 15 annedd neu 0.5 hectar o fewn terfynau’r anheddiad.


4.6.5.5 Gellir cynnwys Datganiadau Cymeriad Tirwedd yn y Datganiad Dylunio a Mynediad os oes angen datganiad o’r fath neu gall fod yn ddogfen ar wahân. Bydd Canllawiau Cynllunio Atodol Amgylchedd Naturiol yn cael eu paratoi i ddarparu canllawiau pellach ar ôl cwblhau Datganiad Cymeriad Tirwedd.


4.6.5.6 Wrth integreiddio'r datblygiad i'r dirwedd, dylid ystyried elfennau'r dirwedd hefyd, fel waliau, coed neu gloddiau sy'n bwysig i gymeriad y dirwedd ac y dylid eu cadw. Ni chaniateir datblygu na ellir ei integreiddio i'r dirwedd yn sensitif ac yn hawdd, ac a fyddai'n amharu ar gymeriad y dirwedd. Mewn rhai achosion, gall y datblygiad arfaethedig fod ar ei ennill o'i dirweddu mewn dull sy'n gydnaws a'r ardal, er mwyn lleihau ei effaith.

4.6.6 Yr Ardal Arfordirol

Polisi NTE/5 – YR ARDAL ARFORDIROL

Diffiniwyd yr Ardal Arfordirol ar Fap y Cynigion. Caniateir datblygiad y tu allan i derfynau anheddiad yr Ardal Arfordirol os:

  1. Oes angen lleoliad arfordirol yn benodol ; ac os nad yw’n;
  2. Effeithio’n andwyol ar gymeriad agored yr ardal;
  3. Nid yw’n effeithio’n andwyol ar werth cadwraeth natur yr ardal gydag unrhyw effeithiau a nodwyd ac wedi’i liniaru;
  4. Lleihau gwerth twristiaeth neu gyfleusterau;
  5. Aflonyddu ar brosesau arfordirol naturiol;
  6. Amharu ar unrhyw adeiledd amddiffyn yr arfordir;
  7. Yn unol ag Egwyddorion Datblygu’r Cynllun.


4.6.6.1 Mae rhesymau amgylcheddol ac economaidd dros reoli datblygiadau ar hyd arfordiroedd. Mae angen camau arbennig i ddiogelu arfordiroedd oherwydd eu bod yn sensitif i ddatblygiadau oherwydd eu natur. Maent hefyd yn darparu cynefinoedd ar gyfer rhywogaethau planhigion, mamaliaid ac adar penodol. Ni ddylai datblygiad ychwaith amharu ar brosesau arfordirol naturiol fel erydiad a gwaddodiad. Mae Nodyn Cyngor Technegol (TAN)14 yn nodi “Dylai pob Awdurdod Cynllunio Lleol ystyried a diffinio’r ardal arfordirol fwyaf addas yn ei ardal”. Mae’r arfordir yn gallu bod yn atyniad pwysig i ymwelwyr ac ar gyfer hamdden o safbwynt economaidd. Mae modd darparu cyfleoedd cyflogaeth o weithgareddau arfordirol eraill fel pysgota a marinas. Mae ardaloedd arfordirol hefyd yn dueddol o ddioddef llifogydd ac felly, efallai bydd angen cyflawni gwaith amddiffyn i ddiogelu ardaloedd rhag peryglon fel hyn.


4.6.6.2 Diogelir rhan helaeth o arfordir Conwy rhag perygl llifogydd, ond mae perygl bob amser i’r môr eu bylchu. Bylchwyd ardaloedd helaeth yn nwyrain y Sir yn y gorffennol a thanseiliwyd canol glan y môr Bae Colwyn ac fe’u difrodwyd gan stormydd, er bod gwaith amddiffyn ychwanegol wedi dechrau yn 2011. I’r gorllewin dioddefodd glan y môr Llanfairfechan gyda llifogyddyn dod dros yr amddiffynfeydd. Mae Nodyn Cyngor Technegol (TAN)14 yn nodi “Dylai Awdurdodau Cynllunio ystyried materion arfordirol ar ddwy lefel; y safle ei hun a’r cyffiniau ac o ran yr ardal ehangach”.


4.6.6.3 Diogelir yr arfordir sydd heb ei ddatblygu oherwydd o’r braidd y bydd yr ardaloedd hyn yn addas ar gyfer datblygiad newydd.Ond mae cyfle efallai i ad-drefnu ac adnewyddu ardaloedd trefol presennol yr arfordir a ddatblygwyd. Os oes angen lleoliad arfordirol ar ddatblygiad newydd, yr arfordir datblygedig fyddai’r dewis gorau fel arfer, ar yr amod bod peryglon llifogydd, erydiad neu ansefydlogrwydd y tir, wedi’u hystyried yn briodol. Bydd y CDLl hefyd yn cynnig cyfle i ddiogelu tir llwybrau ar gyfer Cynllunio ar gyfer Argyfwng.


4.6.6.4 Datblygwyd llawer ar adnodd tir arfordirol Ardal y Cynllun eisoes, gyda phrif ganolfannau poblogaeth ar yr arfordir. Ystyrir bod gweddill yr arfordir sydd heb ei ddatblygu ymysg asedau amgylcheddol mwyaf Conwy.


4.6.6.5 Mae arfordir Conwy yn ffactor bwysig i ddenu ymwelwyr i’r ardal. Oherwydd pwysigrwydd twristiaeth a hamdden i’r economi leol, mae’n bwysig cynnal a gwella apêl yr ardal trwy wella cyfleusterau.

4.6.7 Ynni Adnewyddadwy a Chynaliadwyedd Mewn Datblygiadau Newydd

4.6.7.1 Mae'r Strategaeth Ofodol, wedi'i llunio i leiafu'r angen i deithio ar leoliadau datblygiadau newydd, yn enwedig mewn car, gan leihau allyriadau carbon. Mae dyluniad datblygiadau newydd hefyd yn bwysig, gan fod bron i hanner allyriadau carbon deuocsid y DU yn 2004 yn deillio o'r defnydd o ynni mewn adeiladau, ac roedd mwy na chwarter yr allyriadau hyn yn deillio o ynni a ddefnyddiwyd i gynhesu, goleuo a chyflenwi trydan i gartrefi.


4.6.7.2 Daw'r newid yn yr hinsawdd â goblygiadau mawr i amgylchedd y DU a gallai arwain at dywydd mwy eithafol, gan gynnwys hafau poethach a sychach, llifogydd, a chodiad yn lefel y môr gan arwain at adlinio'r arfordir. Mae canlyniadau hyn yn ddifrifol yn Ardal y Cynllun, lle ceir ardaloedd mawr ac iddynt risg o lifogydd.


4.6.7.3 Mae'r Cyngor yn ceisio sicrhau bod pob datblygiad newydd yn cyfrannu tuag at egwyddorion cynaliadwy ac yn lleihau neu'n lleihau allyriadau carbon, yn gadarn yn erbyn goblygiadau'r newid yn yr hinsawdd yn y dyfodol ac yn diogelu trigolion rhag effeithiau tlodi tanwydd. Mae'n debygol mai anheddau newydd fydd y rhan fwyaf o'r datblygiadau newydd yn Ardal y Cynllun ac mae'r Cod Cartrefi Cynaliadwy'n safon genedlaethol a ddefnyddir i asesu cynaliadwyedd anheddau newydd. Dylid bodloni graddfeydd neilltuol y Cod Cartrefi Cynaliadwy er mwyn sicrhau y darperir tai sydd eu hangen mewn modd cynaliadwy. Mae'r Cod yn ystyried anheddau mewn modd cyfannol ac mae angen bodloni safonau penodol o ran y defnydd o ddŵr, effaith y deunyddiau a ddefnyddir ar yr amgylchedd, darparu mannau awyr agored, a diogelu nodweddion ecolegol presennol er mwyn cyrraedd 'lefel' neilltuol.


4.6.7.4 Mae'r polisïau yn yr adran hon yn ceisio sicrhau y defnyddir adnoddau naturiol yn fwy effeithlon, gostwng y galw am ynni cymaint a bo modd a chynyddu'r defnydd o adnoddau adnewyddadwy. Dylai hyn ostwng costau cynnal adeiladau a chreu mannau deniadol ac iach i bobl fyw a gweithio ynddynt drwy ddefnyddio systemau awyru a golau naturiol. Wrth ystyried ailddefnyddio tir a ddatblygwyd eisoes, dylai datblygwyr geisio adnewyddu adeiladau presennol lle bo'n briodol yn hytrach na'u dymchwel ac adeiladu o'r newydd. Dylid defnyddio deunyddiau adeiladu wedi'u hadfer hefyd lle bo modd. Bydd hyn yn gostwng yr ynni a ddefnyddir i adeiladu a hefyd yn cyfrannu tuag at ddiogelu'r dreftadaeth adeiledig.
 

Polisi NTE/6 – EFFEITHLONRWYDD YNNI A THECHNOLEGAU ADNEWYDDADWY MEWN DATBLYGIADAU NEWYDD

Mae gwneud defnydd effeithlon o adnoddau naturiol a'u cadw yn hanfodol i sicrhau ansawdd bywyd cyffredinol yn Ardal y Cynllun ac i gefnogi amcanion cynaliadwyedd cymdeithasol ac economaidd ehangach. Bydd y Cyngor yn:

  1. Hyrwyddo lefelau uchel o effeithlonrwydd ynni drwy ddefnyddio technegau adeiladu a dylunio cynaliadwy ym mhob datblygiad preswyl newydd (fel y nodwyd yn y Polisi Strategol yn HOU/1 – ‘Diwallu'r Angen am Dai’) a datblygiadau nad ydynt yn breswyl, yn unol â’r Egwyddorion Datblygu a pholisïau cysylltiedig yn y Cynllun;
  2. Hyrwyddo ffynonellau ynni adnewyddadwy mewn ceisiadau cynllunio sy'n cefnogi cynhyrchu ynni o ffynonellau biomas, morol, gwastraff, solar a gwynt, gan gynnwys microgynhyrchu os yw hynny'n dderbyniol o ran effaith ar ansawdd bywyd, amwynder, tirwedd, dichonolrwydd a bioamrywiaeth yn unol â Pholisïau DP/6 a NTE/7 – ‘Datblygiad Tyrbin Gwynt ar y Tir’.
  3. Sicrhau bod egwyddorion dylunio cynaliadwy wedi'u hymgorffori ym mhob datblygiad newydd, ee: cynllun, dwysedd a defnyddio deunyddiau priodol, casglu dŵr glaw, defnyddio ynni'n effeithlon, draenio cynaliadwy a llecynnau/storfeydd ailgylchu gwastraff yn unol â'r Polisïau Egwyddorion Dylunio ac NTE/8 – ‘Systemau Draenio CynaliadwyNTE/9 – 'Draenio Dŵr Budr' a NTE/10 - 'Cadwraeth Dŵr'.
  4. Cefnogi ceisiadau sy'n lleihau i’r eithaf y defnydd o ddeunyddiau newydd wrth adeiladu, sy'n defnyddio deunyddiau wedi'u hailgylchu ac sy'n sicrhau cymaint ag sy'n bosibl o gyfleoedd i ailddefnyddio deunyddiau'n unol â'r Egwyddorion Dylunio a Pholisi Strategol MWS/1 – ‘Mwynau a Gwastraff’.


4.6.7.5 Mae Datblygu Cynaliadwy'n ganolog i CDLl Conwy, ac mae'r Cyngor yn ceisio creu cymunedau sy'n defnyddio adnoddau naturiol mewn modd cynaliadwy. Defnyddio adnoddau naturiol yn effeithlon, yn enwedig llosgi tanwydd ffosil yw un o'r prif ffyrdd o leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr a lleihau effaith y newid yn yr hinsawdd. Mae'r system gynllunio'n effeithio ar y defnydd o adnoddau naturiol, gan gynnwys ynni a mwynau, a'r modd yr ydym yn rheoli gwastraff. Drwy eu defnyddio'n gyfrifol ac effeithlon, gallwn leiafu'r effaith ar yr amgylchedd gan sicrhau cynaliadwyedd i genedlaethau'r dyfodol.


4.6.7.6 Mae Polisi Cynllunio Cymru'n ceisiocael awdurdodau cynllunio lleolintegreiddio amcanion effeithlonrwydd ynni a chadwraeth i'rgwaith cynllunio a dylunio datblygiadau newydd yn eu hardaloedd. Ceir angen cynyddol i leihau'r carbon sy'n cael ei ryddhau. Bydd deunyddiau lleol sy'n ymgorffori lefel isel o ynni'n cael eu ffafrio. Bydd cynlluniau ynni adnewyddadwy'n cael eu hannog lle bo'n briodol, ond y ffordd orau o gyrraedd y targedau uchelgeisiol hyn yn y Fwrdeistref hon yw drwy annog y defnydd o ffynonellau ynni adnewyddadwy ar y safle. O ystyried y raddfa debygol o ddatblygiadau newydd yng Nghonwy oddi mewn i ardaloedd trefol y llain arfordirol, ceir potensial am gyfraniad sylweddol o'r ffynhonnell hon. Gallai fod ar amryw o ffurfiau gan gynnwys generaduron gwynt , paneli solar neu gelloedd ffotofoltäig lleol wedi'u cynnwys yn yr adeiladau. Gall datblygiadau sy'n cael eu dylunio a'u hadeiladu mewn modd cynaliadwy ddarparu ffynonellau ynni adnewyddadwy lleol, defnyddio llai o ynni, gostwng cymaint a bo modd ar y gwres a gollir, defnyddio llai o ddŵr, gwneud y defnydd gorau o olau naturiol, hwyluso ailgylchu gwell, darparu systemau draenio cynaliadwy a defnyddio deunyddiau adeiladu wedi'u hailgylchu.
 

Deddf Cynllunio ac Ynni 2008

4.6.7.7 Mae Deddf 2008 yn galluogi awdurdodau cynllunio lleol yng Nghymru a Lloegr i osod gofynion ar gyfer y defnydd o ynni ac effeithlonrwydd ynni yn eu cynlluniau datblygu. Mae'n rhoi grym i awdurdodau lleol gynnwys polisïau yn eu cynllun datblygu sy'n gorfodi gofynion rhesymol canlynol:

  • Bod cyfran o'r ynni a ddefnyddir wrth ddatblygu yn eu hardal yn ynni o ffynonellau adnewyddadwy yn ardal leol y datblygiad;
  • Bod cyfran o'r ynni a ddefnyddir wrth ddatblygu yn eu hardal yn ynni carbon isel o ffynonellau yn ardal leol y datblygiad; a
  • Bod datblygu yn eu hardal yn cydymffurfio â safonau effeithlonni ynni sy'n uwch na gofynion ynni rheoliadau adeiladu


4.6.7.8 Ym mis Gorffennaf 2008 cyhoeddodd Llywodraeth Cymru bapur ymgynghori 'Cynllunio ar gyfer y Newid yn yr Hinsawdd’ a ofynnai am sylwadau ynghylch newidiadau posibl i'r polisi cynllunio cenedlaethol, gan gynnwys y meysydd canlynol:

  • Defnyddio safonau adeiladu cynaliadwy i gynyddu cynaliadwyedd adeiladau yng Nghymru;
  • Gofyniad y dylai datblygiadau mawr yn y dyfodol yng Nghymru gynnwys offer ynni adnewyddadwy neu garbon isel ar y safle ac/neu’n gyfagos â’r safle sy'n cyfrannu o leiaf 10% o ostyngiad ychwanegol mewn allyriadau CO2, ac;
  • Galluogi Awdurdodau Cynllunio Lleol osod safonau uwch yn y meysydd uchod ar gyfer ardaloedd strategol yn eu Cynlluniau Datblygu Lleol.

Cod ar gyfer Cartrefi Cynaliadwy a BREEAM

4.6.7.9 Mae Llywodraeth Cymru wedi mabwysiadu'r Cod ar gyfer Cartrefi Cynaliadwy i gefnogi ei ddyheadau di-garbon. Mae'r cod yn disodli'r safon cartrefi eco, ac yn berthnasol i'r holl dai newydd a gaiff eu hyrwyddo neu eu cefnogi gan Lywodraeth Cymru neu Gyrff a Noddir gan Lywodraeth Cymru (CNLCau). Disgwylir bydd asesiadau o ddatblygiadau bwriedig yn cael eu cyflwyno fel rhan o gynigion ceisiadau cynllunio.


4.6.7.10 Mae'r Cod yn mesur cynaliadwyedd cartref newydd ochr yn ochr â chategorïau dylunio cynaliadwy, gan ddynodi gradd i'r ‘cartref cyfan’ fel cyfanwaith. Mae'r Cod yn defnyddio system raddio 1 i 6 seren er mwyn cyfleu perfformiad cyffredinol cartref newydd o safbwynt cynaliadwyedd. Mae'r Cod yn gosod safonau sylfaenol ar gyfer yr ynni a'r dŵr a ddefnyddir ar bob lefel.


4.6.7.11 Mae'r Cod hefyd yn rhoi gwell gwybodaeth i rai sy'n prynu cartrefi newydd ynghylch effaith eu cartref newydd ar yr amgylchedd a'i gostau cynnal posibl, ac yn ddull i adeiladwyr ddangos y gwahaniaeth rhyngddynt ac adeiladwyr eraill o ran cynaliadwyedd.


4.6.7.12 O 1 Mai 2008 bydd yn ofynnol i'r holl dai newydd sy'n cael eu hyrwyddo neu eu cefnogi gan Lywodraeth Cymru gyrraedd o leiaf lefel 3 y Cod, p'un ai a ydynt:

  • wedi'u prynu'n uniongyrchol;
  • wedi derbyn cymorth ariannol;
  • yn fentrau ar y cyd; neu'n
  • brosiectau ar dir a werthwyd, a roddwyd ar les neu a waredwyd mewn unrhyw ffordd arall i'w ddatblygu.


4.6.7.13 Mae hefyd yn berthnasol ar gyfer yr holl dai newydd ar dir wedi'i wella neu wedi'i adfer gyda nawdd Llywodraeth Cymru neu CNLC sydd yn dal dan reolaeth adfachu ariannol.


4.6.7.14 Mae landlordiaid cymdeithasol cofrestredig hefyd wedi cael eu gwahodd i ganfod cynlluniau oddi mewn i'w rhaglenni gwaith. Mae hyn yn rhan o beilot sy'n anelu i ddatblygu prosiectau sy'n bodloni gofynion lefelau uwch yn y Cod, sef lefelau 4 a 5. Bydd datblygiadau tai sy'n cael eu hyrwyddo neu eu cefnogi gan Lywodraeth Cymru'n dilyn yr ymagwedd hon.


4.6.7.15 Mae Dull Asesu Amgylcheddol y Sefydliad Ymchwil Adeiladu (BREEAM) yn dal yn ofyniad ar gyfer datblygiadau amhreswyl sy'n cael eu hyrwyddo neu eu cefnogi gan Lywodraeth Cymru.
 

Asesiad Ynni Adnewyddadwy

4.6.7.16 Mae Polisi Cynllunio Cymru yn gofyn bod awdurdodau cynllunio lleol yn cynnal Asesiadau Ynni Adnewyddadwy (REA) lleol i sefydlu lefelau defnyddio ynni, archwilio opsiynau ar gyfer ynni adnewyddadwy ac yn nodi safleoedd strategol a’u potensial o fewn Ardal Cynllun y CDLl. Cyhoeddwyd dogfennau canllaw gan Lywodraeth Cymru wrth i’r CDLl Diwygiedig gael ei orffen ar gyfer ymgynghori. Ond, mae gan y Cyngor ymrwymiad i gynhyrchu REA ac ymgorffori’r canlyniadau yn y CDLl yn ystod cyfleoedd adolygu yn y dyfodol. Hefyd, mae’r Cyngor wedi ymuno â Chyfamod y Meiri Ewrop a’r prosiect Llwybrau at Ddim Carbon (PTOC). Bydd casglu gwybodaeth ddechreuol yn goleuo’r prosiect PTOC a’r REA. Bydd y tîm sy’n cynhyrchu’r REA yn gweithio ar y cyd gyda’r tîm sy’n cynhyrchu’r PTOC, a bydd y goblygiadau defnyddio tir sy’n codi yn cael eu hymgorffori yn y CDLl trwy adolygiad buan.


4.6.7.17 Bydd yr ymagwedd a gymerwyd ym Mholisi NTE/7 yn cael ei adolygu yn sgil canllawiau newydd gan y Llywodraeth yn unol â Pholisi DP/6.

4.6.8 Datblygiadau Tyrbinau Gwynt At y Tir

Polisi NTE/7 – DATBLYGIADAU TYRBINAU GWYNT AT Y TIR

  1. Bydd datblygu ffermydd gwynt ar raddfa fawr neu fawr iawn (dros 25MW) wedi eu crynhoi o fewn Ardal Chwilio Strategol Clocaenog yn unol â Pholisi DP/6 a bydd yn amodol ar Asesiad Effaith Amgylcheddol. Disgwylir i gynigion:
  1. Ddangos mesurau ar gyfer diogelu, adfer a gwella cynefin a rhywogaethau a chydymffurfio â'r egwyddorion sydd yn Natganiad Prif Egwyddorion Cynllunio Amgylcheddol Clocaenog (SEMP);
  2. Sicrhau bod holl fanylion y datblygiadau atodol yn cael eu cyflwyno gyda'r cais cynllunio fel rhan annatod o'r cynllun.
  3. Sicrhau bod yr effaith gynyddol bosibl ar gymunedau o’u cwmpas, ar y dirwedd a’r amgylchedd yn cael eu hystyried yn dderbyniol. Gwrthodir fferm wynt os ystyrir ei bod yn cael effaith gynyddol annerbyniol.
  4. Dangos na fydd y datblygiad yn arwain at lefelau sŵn neu gryndod cysgodion a fyddai'n niweidiol i amwynder preswyl yr ardal o gwmpas.
  1. Bydd datblygu ffermydd gwynt ar raddfa ganolig sy’n fwy na 5MW ac yn is na 25MW y tu allan i Ardal Chwilio Strategol Clocaenog ond yn cael eu cymeradwyo mewn amgylchiadau arbennig yng nghyd-destun y canlynol:
  1. Eu bod yn dderbyniol yn nhermau polisïau eraill y Cynllun Datblygu Lleol,
  2. Bod yr effaith gynyddol bosibl ar gymunedau o’u cwmpas, ar y dirwedd a’r amgylchedd yn cael eu hystyried yn dderbyniol. Gwrthodir fferm wynt os ystyrir ei bod yn cael effaith gynyddol annerbyniol.
  3. Na fydd y datblygiad yn creu lefelau sŵn neu gysgodion symudol a fyddai’n annerbyniol o niweidiol i amwynder preswylwyr cyfagos neu ddefnyddwyr hawl tramwy neu gyfleusterau neu ardaloedd hamdden eraill,
  4. Dylai Asesiad Effaith Amgylcheddol boddhaol gynnig mesurau ar gyfer diogelu, adfer a gwella cynefin a bioamrywiaeth;
  5. Lle bo’n bosibl, bod tyrbinau wedi eu lleoli ddim llai na 500 metr o annedd lle mae pobl yn byw neu adeilad arall sy’n sensitif i sŵn;
  6. Bydd cynlluniau tyrbin gwynt ar raddfa ganolig neu fwy yn cael eu gwrthod o fewn SLAs.
  7. Ystyrir amgylchiadau eithriadol lle mae angen holl bwysig neu broblem capasiti nad ellir eu hateb o fewn yr Ardal Chwilio Strategol
  1. Bydd datblygu tyrbin gwynt ar raddfa fach a micro (5MW a llai) ond yn cael ei gefnogi os:
  1. Yw’r raddfa’n gymesur yn nhermau’r prif ynni a gynhyrchir i gyflenwi’r adeilad(au) y mae’n cynhyrchu’n uniongyrchol ar ei gyfer;
  2. Nad yw’n cyfaddawdu ar allu’r Ardal Chwilio Strategol i gyrraedd y targed a ragwelir o ran cynhyrchu ynni;
  3. Bod meini prawf 2 a) – f) yn cael eu cyflawni a lle y bo’n briodol bod Asesiad Effaith Amgylcheddol boddhaol wedi ei gyflwyno.
  4. O fewn SLAs ni chaniateir tyrbinau gwynt oni bai eu bod yn cynhyrchu ynni ar gyfer annedd neu glwstwr o anheddau ar raddfa micro.


Tabl 10 - NTE7.1: Teipoleg tyrbinau gwynt:

Categori (graddfa) Cynnyrch (categori cynnyrch eang*) Meini prawf atodol (i’w darllen ochr yn ochr â pholisi NTE/7)
Micro O dan 50kW
  • Ceisiadau tyrbin sengl neu ddwbl.
  • Tyrbin yn llai na 20m at flaen y llafn.
Bychan O dan 5 MW
  • Tyrbinau hyd at 3 mewn nifer.
  • Tyrbinau yn llai na 50m at flaen y llafn.
  • Gwelir fel grŵp bach
Canolig O dan 5MW ond yn is na 25 MW
  • Tyrbinau hyd at 9 mewn nifer.
  • Tyrbinau yn llai na 80m at flaen y llafn.
  • Gwelir fel grŵp mawr.
Mawr Dros 25 MW
  • Tyrbinau dros 10 mewn nifer.
  • Tyrbinau dros 80m at flaen y llafn.
  • Gwelir fel ffarm wynt ar raddfa fawr.
  • Lleolir yn yr SSA.
Mawr iawn Dros 25 MW
  • Tyrbinau dros 10 mewn nifer.
  • Tyrbinau dros 110m at flaen y llafn.
  • Gwelir fel ffarm wynt ar raddfa fawr.
  • Lleolir yn yr SSA.
Strategol Dros 50 MW
  • Fel arfer dros 10 mewn nifer.
  • Tyrbinau fel arfer dros 100m hyd at flaen y llafn.
  • Gwelir fel strategaeth genedlaethol.
  • Lleolir yn yr SSA.
  • Penderfynir ar geisiadau drwy Gynllunio Isadeiledd Cenedlaethol a ddarperir drwy PINS.

* Mae’r gwerthoedd hyn yn ganllaw yn unig. Mae effeithlonrwydd a graddfa unedau yn destun datblygiadau technoleg ac amodau gweithredol drwy’r amser, felly mae’n debygol y bydd y gwerthoedd hyn yn debygol o gynyddu a’u diwygio drwy’r broses adolygu CDLl.


4.6.8.1 Mae Llywodraeth Cymru'n ymrwymedig i gyflawni rhaglen ynni i ostwng allyriadau carbon. Bydd ei tharged o 1,120 MW o drydan wedi'i gynhyrchu gan y gwynt yn cael ei gynhyrchu'n bennaf ar ffermydd gwynt mawr, wedi'u lleoli mewn Saith Ardal Chwilio Strategol (SSAs). Gallai un o'r ardaloedd hyn, yng Nghoedwig Clocaenog sy’n pontio terfyn Ardal y Cynllun a Sir Ddinbych gynhyrchu o bosibl oddeutu 280MW (yn ôl Datganiad Polisi Ynni LlC 2010). Bydd union derfyn yr SSA wedi'i ddangos ar Fap y Cynigion. Mae’r llinell hon yn dangos terfyn allanol terfyn yr SSA fel y gwelir ar y map TAN 8. Mae Canllawiau Cynllunio Atodol ar gyfer datblygiad tyrbinau gwynt ar y tir yn cael ei ddatblygu gyda Chyngor Sir Ddinbych a dylid meddwl am hyn wrth ystyried pob math o ddatblygiad tyrbinau gwynt. Mae dogfen canllaw ychwanegol i ddatblygwyr wedi’i chynhyrchu hefyd ac yn cynnig canllaw a rhestr wirio cyn gwneud cais.


4.6.8.2 Mae polisïau cenedlaethol hefyd yn annog cynlluniau fferm wynt cymunedol llai, sydd fel arfer yn llai na 5MW, yn ogystal â mathau eraill o ynni adnewyddadwy, fel biomas, geothermol a gwres a phŵer cyfunedig os ystyrir bod eu heffeithiau'n dderbyniol. Bydd prosiectau ynni adnewyddadwy sy'n cydymdeimlo â chymeriad y dirwedd a'r amwynder lleol hefyd yn cael eu cefnog.


4.6.8.3 Cynlluniwyd Polisi NTE/7 i hyrwyddo datblygiadau tyrbinau gwynt yn y mannau cywir ac ar raddfa briodol yng nghyd-destun targedau a gynigiwyd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer cynhyrchu ynni ar y tir. Dylid crynhoi datblygiadau yn Ardal Chwilio Strategol Clocaenog SSA fel y nodwyd yn TAN8. Mae’r Cyngor hefyd yn dymuno hyrwyddo defnyddio’r Datganiad Prif Egwyddorion Cynllunio Amgylcheddol Clocaenog (SEMP), a luniwyd gan y RSPB ar y cyd gydag awdurdodau cynllunio lleol Sir Ddinbych a Chonwy, Cyngor Cefn Gwlad Cymru ac Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru. Mae hyn yn sefydlu ymagwedd draws ffiniol tuag at reoli tir, er mwyn cynnal, gwella neu greu cynefinoedd yr effeithir arnynt gan ddatblygiadau tyrbinau gwynt ar raddfa fawr.
 

Effaith Gynyddol

4.6.8.4 Effeithiau wedi eu cyfuno yw’r rhain o ganlyniad i’r datblygiad gyda datblygiad arall sydd wedi ei gynllunio neu eisoes yn bodoli. Wrth asesu effaith gynyddol weledol ac ar y dirwedd, bydd graddfa a phatrwm y tyrbinau’n ystyriaethau perthnasol gan gynnwys datblygiadau atodol. Hefyd bydd angen ystyried pwysigrwydd y dirwedd a’r golygfeydd, pa mor agos ydyw a rhyng-welededd, a sensitifrwydd derbynyddion gweledol. Mae’n bosibl hefyd y bydd effaith amgylcheddol a/neu gymdeithasol gynyddol.
 

Budd i’r Gymuned

4.6.8.5 Cyfeirir at fudd i’r gymuned yn TAN 8 a gallai gyfrannu peth at wella canlyniadau’r effaith i’r gymuned a gwneud iawn am yr effeithiau ar y dirwedd ac ansawdd bywyd. Mater i’w gyd-drafod gyda datblygwyr yw hyn ond nid yw’n ofyniad mandadol nac yn ystyriaeth o bwys wrth benderfynu ynghylch rhagoriaethau cynllunio ac ni ddylid ei ystyried fel ffordd i oresgyn gwrthwynebiadau cynllunio sylfaenol tuag at ddatblygiad penodol. Nid oes hawl i osod datblygiad fferm wynt mewn man penodol nac i elwa ar ddatblygwr sy’n gwneud hynny ond gellid yn rhesymol ystyried y byddai budd i’r gymuned yn:

  1. Hyrwyddo cysylltiadau da â chymdogion;
  2. Cynnig iawndal am ddiffyg budd i’r gymuned;
  3. Rhannu’r elw gyda chymunedau lleol.


4.6.8.6 Gall budd i’r gymuned ddod o dan nifer o gategorïau (e.e. budd cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol, ecolegol neu addysgiadol) a gellir cyfrannu ar sawl ffurf megis:

  1. Cronfa Gymunedol: un cyfraniad neu gyfraniadau rheolaidd i gronfa gymunedol y cytunir arni yn ystod y cam cyflwyno cais neu cyn hynny.
  2. Budd gwasanaethau: isadeiledd, amgylchedd, addysg neu wella cyfleusterau y cytunwyd arnynt gyda’r Awdurdod Cynllunio Lleol a’r Gymuned yn ystod y cam cyflwyno cais neu cyn hynny.
  3. Perchnogaeth Leol: cynnig cyfranddaliadau yn y prosiect neu yn y cwmni gweithredu i drigolion lleol gan ddefnyddio naill ai eu buddsoddiad nhw eu hunain, rhannu’r elw neu gynlluniau rhan berchnogaeth a luniwyd i gysylltu’r budd i’r gymuned a pherfformiad y fferm wynt.
  4. Contractio a rheoli’n lleol: Defnyddio gweithwyr lleol wrth adeiladu a gweithredu’r fferm wynt.

Bydd yr Awdurdod Cynllunio Lleol yn ceisio cyd-drafod Budd Cymunedol o safbwynt datblygiadau ffermydd gwynt fel ffordd i leddfu neu wneud iawn am yr effaith ar y gymuned.


4.6.8.7 Mae angen ystyried effaith ffermydd gwynt, ac yn enwedig yr effaith gynyddol, ar gymunedau lleol, wrth benderfynu ar geisiadau yn cynnwys y rhai yn yr Ardal Chwilio Strategol. Mae ffocws Asesiad Effaith Amgylcheddol yn tueddu i fod ar effeithiau amgylcheddol yn arbennig y dirwedd, cynefinoedd a rhywogaethau yn hytrach nag effeithiau ar gymunedau o bobl. Er mwyn penderfynu a oes effaith annerbyniol ai peidio ar bobl a chymunedau (yn cynnwys newidiadau esthetig a newidiadau eraill i’r amgylchedd) dylai datblygwyr ystyried effaith y ceisiadau ar boblogaethau lleol yn cynnwys asesu’r economi lleol, iechyd a lles. Dylai hyn gynnwys ymgynghori â chymunedau sy’n cael eu heffeithio a nodi mesurau i liniaru, adfer a/neu wneud iawn am effeithiau negyddol.

4.6.9 Systemau Ddraenio Cynaliadwy

Polisi NTE/8 – SYSTEMAU DRAENIO CYNALIADWY

  1. Bydd yn ofynnol defnyddio Systemau Draenio Cynaliadwy lle bo hynny'n rhesymol ymarferol a bydd gwaredu ar y safle'n cael ei ffafrio lle gellir gwneud trefniadau boddhaol ar gyfer cynnal y sustemau hynny yn yr hirdymor. Os na chynigir hyn, bydd angen i ddatblygwr gyfiawnhau bod y gollyngiad yn angenrheidiol ac wedi'i reoli'n ddigonol.
  2. Yr ail ddull o ddraenio dŵr budr fydd yn cael ei ffafrio fydd:
  1. Draenio i gorff dŵr wyneb (afon, llyn ac ati) yn amodol ar waith trin a gwanhau priodol;
  2. Draenio i garthffos dŵr wyneb;
  3. Draenio i garthffos wedi ei gyfuno.
  1. Rhaid i’r datblygwyr ddangos nad yw’r opsiynau draenio sy’n cael eu ffafrio fwyaf yn bosibl cyn cynnig opsiynau llai cynaliadwy.


4.6.9.1 Gall defnyddio Systemau Draenio Cynaliadwy (SuDS) i reoli llif dŵr fod yn ddull pwysig o leiafu'r risg o lifogydd drwy gynyddu arwynebeddau athraidd ar lecyn o dir sy'n caniatáu i ddŵr dreiddio drwyddynt i'r ddaear yn hytrach na llifo i'r system ddraenio, ac sy'n lleihau effaith llygredd tryledol a achosir gan ddŵr ffo a llifogydd. Dylid cynnwys defnydd effeithiol o arwynebeddau athraidd, suddfannau dŵr a storfeydd dŵr ym mhob datblygiad newydd os yw hynny'n dechnegol bosibl. Mae'n ofynnol ystyried SuDS yn fuan fel bo modd ystyried ystod o dechnegau ac anogir datblygwyr i gychwyn trafodaethau buan â'r Cyngor.


4.6.9.2 Mae'n well rheoli dŵr ffo drwy ddefnyddio Systemau Draenio Cynaliadwy (SuDS) gan eu bod yn fanteisiol i'r amgylchedd, i fioamrywiaeth ac o ran estheteg. Gall SuDS fod ar ffurf pantiau, lagwnau, palmentydd athraidd, toeau gwyrdd a gwelyau cyrs neu sianeli wedi'u hail-beiriannu mewn modd sensitif, yn dibynnu ar natur y datblygiad a'r ardal.


4.6.9.3 Pan fydd rhan Draenio Cynaliadwy o Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr yn dechrau, bydd raid i ddatblygwyr gael caniatâd gan Fwrdd Cymeradwyo (SAB) SuDS. Fel arfer bydd hwn yn gais ar y cyd ochr yn ochr â’r broses gynllunio. Felly bydd angen i gynlluniau draenio gael eu sefydlu o ddechrau’r broses ddylunio gan fanylu arnynt yn y DAS. Bydd dyluniad draenio’n cael ei gymeradwyo gan y SAB a hefyd bydd angen manylion am y gwaith cynnal angenrheidiol gan y bydd y SAB yn gyfrifol am fabwysiadu SuDS sy’n cael eu hadeiladu’n unol â’r dyluniad a gymeradwywyd (ac eithrio SuDS ar gyfer eiddo unigol). Yr Awdurdod Llifogydd Lleol Arweiniol sy’n gyfrifol am y SAB ond mae’n bosibl y bydd nifer o awdurdodau’n dod at ei gilydd e.e. (i ffurfio SAB Gogledd Cymru). Mae canllawiau cenedlaethol yn cael eu paratoi ar hyn o bryd a byddant yn cael eu hystyried o dan DP/6. Hefyd dylid cyfeirio at y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr ar gyfer ystyried unrhyw ddatblygiad a allai effeithio ar afon, llyn neu foryd. Dylid cynnwys yr asesiad hwn yn y DAS neu’r Datganiad Bioamrywiaeth

4.6.10 Draenio Dŵr Budr

Polisi NTE/9 – DRAENIO DŴR BUDR

  1. Dylid darparu draenio dŵr budr i garthffos lle bynnag y bo’n bosibl, yn unol â Safonau Adeiladu Gweinidogion Cymru sy’n weithredol o 1 Hydref 2012. Bydd datblygu safleoedd lle nad ydyw draenio i garthffos gyhoeddus yn ddichonadwy ond yn cael ei ganiatáu os ystyrir nad ydyw cyfleusterau amgen bwriedig yn ddigonol ac ni fyddent yn peri risg annerbyniol i ansawdd neu swm y dŵr ar y tir neu ar yr wyneb neu’n llygru cyrsiau dŵr neu safleoedd o bwysigrwydd bioamrywiaeth.
  2. Rhaid i geisiadau datblygu, sy'n cynnwys mannau parcio i gerbydau ac arwynebeddau caled eraill a ddefnyddir gan gerbydau, gynnwys camau fel: gylïau caeedig a rhyng-gipwyr petrol / olew neu ddulliau addas eraill i reoli llygredd er mwyn sicrhau nad yw'r amgylchedd dŵr yn cael ei lygru.


4.6.10.1 Gall datblygu yng nghefn gwlad, sydd fel arfer yn datblygu at ddibenion amaethyddol, gan gynnwys biswail o weithfeydd amaethyddol mawr, fod yn annerbyniol pe gallai dŵr tail heb ei drin, lifo i gyrsiau dŵr lleol a'r amgylchedd dŵr ehangach. Bydd hi felly'n hanfodol i ddatblygiadau o'r fath ddarparu peiriant a fydd yn trin eu dŵr tail os nad yw'n ddichonadwy i wyro'r dŵr i garthffos gyhoeddus . Mae'r polisi'n nodi'n glir na fydd y Cyngor yn rhoi caniatâd cynllunio ar gyfer unrhyw ddatblygiad pe gallai amharu ar ansawdd dŵr daear neu ddŵr tir, cyrsiau dŵr neu safleoedd sy'n bwysig oherwydd bioamrywiaeth oni weithredir camau i liniaru'r niwed.


4.6.10.2 Os yw tanciau neu unrhyw gyfleusterau petrol, cemegol neu olew eraill yn rhan o ddatblygiad arfaethedig, bydd yn ofynnol fel arfer gan y Cyngor iddynt gael eu cynnwys mewn waliau bwnd o faint digonol er mwyn atal hylif rhag gorlifo neu ollwng.

4.6.11 Cadwraeth Dwr

Polisi NTE/10 – CADWRAETH DŴR

Dylai pob datblygiad gynnwys camau cadw dŵr os yw hynny'n ymarferol a chydymffurfio â safonau BREEAM i hyrwyddo cadwraeth dŵr, mesurau effeithlonrwydd a defnyddio technegau SuDS. Dylid cyflwyno Strategaeth Cadwraeth Dŵr i gyd-fynd â cheisiadau datblygu mwy na 1,000m2 neu sy'n cynnwys mwy na 10 annedd.


4.6.11.1 Mae nifer o ffydd o gadw dŵr, fel dyfeisiau arbed dŵr, casglu dŵr glaw ac ailgylchu dŵr llwyd, ac mae'r polisi'n cynnig rhywfaint o hyblygrwydd ynglŷn â'r union ddulliau a ddefnyddir. Gallai datblygiadau mawr, neu gyfanswm yr effaith a achosir gan ddatblygiadau bach sy'n cynnwys camau o'r fath leihau lefelau cyrsiau dŵr a lefelau trwythiad drwy ostwng dŵr ffo, a thrwy hynny effeithio ar fioamrywiaeth. Rhaid sicrhau cydbwysedd rhwng rheoli ailgylchu dŵr a sicrhau na cheir unrhyw effaith niweidiol ar yr amgylchedd dŵr a bioamrywiaeth. Bydd Canllawiau Cynllunio Atodol yn cael eu llunio i gefnogi'r polisi a hysbysu darpar ddatblygwyr ynglŷn â dulliau cadw dwr.

Am gyfarwyddiadau ar sut I ddefnyddio’r system ac I wneud sylwadau, gwelwch ein canllaw cymorth.
back to top Yn ôl i’r brig