Cynllun Datblygu Lleol Conwy 2007 - 2022
4. ADRAN PEDWAR - POLISÏAU GOFODOL A CHEFNOGI POLISÏAU RHEOLI DATBLYGIAD
4.1 EGWYDDORION DATBLYGU
4.1.1 Egwyddorion sy’n Pennu Lleoliad Datblygiad
4.1.1.1 Mae egwyddorion datblygiad cynaliadwy yn greiddiol i Gynllun Datblygu Lleol (CDLl) Conwy. Mae datblygiad cynaliadwy yn golygu cyflawni sefydlogrwydd economaidd a symud anghyfartaledd cymdeithasol ac ar yr un pryd amddiffyn a gwella'r amgylchedd. Nod Polisïau'r Egwyddor Datblygu yw sicrhau bod lleoliad, graddfa a'r math o ddatblygiad a ganiateir yn dilyn egwyddorion datblygiad cynaliadwy ac yn cyflawni enillion amgylcheddol, economaidd a chymdeithasol ar gyfer cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol yng Nghonwy.
4.1.1.2 Mae’n yn hanfodol ein bod yn hyrwyddo mannau cynaliadwy ansawdd uchel lle mae pobl yn dymuno byw, gweithio ac ymlacio ynddynt. Mae'r bennod hon felly’n cynnwys polisïau egwyddor allweddol sy'n ymwneud â datblygiad cynaliadwy, ac yn amlinellu’r meini prawf blaenoriaeth y bydd angen i’r datblygiad newydd eu cyflawni, mewn egwyddor, o ran sicrhau datblygiad cynaliadwy wedi’i leoli’n briodol.
4.1.1.3 Dylai cynigion yn Ardal y Cynllun geisio hyrwyddo cynaliadwyedd trwy arddangos bod y meini prawf canlynol a nodwyd ym Mholisi DP/1 ‘Datblygiad Cynaliadwy’ wedi cael eu hystyried:
POLISI STRATEGOL DP/1 – EGWYDDORION DATBLYGIAD CYNALIADWY
- Caniateir datblygiad yn unig lle dangosir ei fod yn gyson ag egwyddorion datblygiad cynaliadwy. Mae'n ofynnol i bob datblygiad:
- Cydymffurfio ag arweiniad cenedlaethol yn unol â Pholisi DP/6 – ‘Canllawiau Cenedlaethol’
- Bod yn gyson â’r dull dilyniannol a nodir ym Mholisi Gofodol DP/2 – ‘Dull Strategol Trosfwaol’;
- Gwneud defnydd effeithlon ac effeithiol o dir, adeiladau ac isadeiledd trwy roi blaenoriaeth i ddefnyddio tir a ddatblygwyd eisoes mewn lleoliadau hygyrch, cyflawni ffurfiau cryno o ddatblygiad trwy ddefnyddio dwyseddau uwch y gellir eu haddasu yn y dyfodol; yn unol â Pholisi DP/2 a pholisïau cysylltiedig eraill yn y Cynllun;
- Cadw neu wella ansawdd adeiladau, safleoedd a mannau o bwysigrwydd hanesyddol, archeolegol neu bensaernïol yn unol â Pholisi Strategol CTH/1 – ‘Treftadaeth Ddiwylliannol’.
- Cadw neu wella ansawdd bioamrywiaeth a chynefinoedd bywyd gwyllt, a diogelu rhywogaethau a warchodir yn unol â Pholisi Strategol NTE/1 – ‘Yr Amgylchedd Naturiol';
- Ystyried ac ymdrin â pherygl llifogydd a llygredd sŵn, golau, dirgryniadau, arogl, allyriadau neu lwch yn unol â Pholisi DP/2 a DP/3 – ‘Hyrwyddo Ansawdd Dylunio a Lleihau Troseddau';
- Defnyddio adnoddau’n effeithiol ac yn effeithlon trwy ddefnyddio technegau adeiladu cynaliadwy sy’n cynnwys camau cadwraeth ynni a dŵr a, lle bynnag y mae hynny'n bosib, defnyddio ynni adnewyddadwy, yn unol â Pholisi DP/3 a Pholisi Strategol NTE/1.
- Lle mae hynny’n briodol dylai cynigion datblygu hefyd
- Ddarparu mynediad diogel a hwylus trwy gludiant cyhoeddus ar feic ac ar droed i leihau'r angen i deithio mewn ceir yn unol â Pholisi DP/2 a Pholisi Strategol STR/1- ‘'Cludiant Cynaliadwy';
- Cynnwys camau rheoli traffig a lleihau tagfeydd yn unol â Pholisi Strategol STR/1;
- Darparu ar gyfer isadeiledd a gwasanaethau cyhoeddus eraill sy'n ofynnol oherwydd y datblygiad, yn unol â Pholisïau DP/4 – ‘Meini Prawf Datblygu', DP/5 – ‘Isadeiledd a Datblygiadau Newydd' a Monitro a Gweithredu'r Cynllun;
- Cael eu dylunio i safon uchel, gan fod yn ddeniadol, hwylus i'w haddasu, hygyrch, a diogel fel y nodir ym Mholisi DP/3;
- Hyrwyddo datblygiad economaidd cynaliadwy yn unol â Pholisi Strategol EMP/1 – ‘Cwrdd â’r Angen am Gyflogaeth’;
- Cadw neu wella ansawdd mannau agored gwerthfawr, cymeriad ac ansawdd tirweddau lleol a chefn gwlad ehangach yn unol â pholisïau strategol NTE/1 a CFS/1- ‘'Cyfleusterau a Gwasanaethau Cymunedol';
- Ystyried ac ymdrin ag effaith bosibl newid hinsawdd yn unol â Pholisi Strategol NTE/1 – ‘Yr Amgylchedd Naturiol’;
- amddiffyn ansawdd adnoddau naturiol cynnwys dŵr, aer a phridd yn unol â NTE1;
- lleihau cynhyrchu gwastraff a rheoli ailgylchu gwastraff yn unol â Pholisi Strategol MWS/1 – ‘Mwynau a Gwastraff’.
4.1.1.4 Mae'r polisi allweddol yma yn dwyn ynghyd materion cynaliadwyedd i sicrhau bod egwyddorion sylfaenol datblygiad cynaliadwy yn sylfaen i bob cynnig datblygu. Trafodir y materion hyn yn fanylach mewn penodau dilynol. Mae hefyd yn cynnwys cyfeiriadau at faterion cynaliadwyedd allweddol dulliau a deunyddiau adeiladu, a fydd yn rhan o ystyriaeth gyffredinol y cynnig datblygu, ond nad ydynt yn uniongyrchol gysylltiedig â'r system gynllunio.
4.1.2 Dull Strategol Trosfwaol
4.1.2.1 Amcanion Strategol
AG1, AG3, AG4, AG7.
Polisi DP/2 – DULL STRATEGOL TROSFWAOL
Bydd y datblygiad yn cael ei leoli yn unol â’r dull strategol trosfwaol a nodir isod:
Ardaloedd Trefol
Abergele/Pensarn, Bae Colwyn (yn cynnwys Llandrillo-yn-Rhos a Hen Golwyn, Conwy, Deganwy / Llanrhos, Llandudno, Cyffordd Llandudno, Llanfairfechan, Llanrwst, Mochdre, Penmaenmawr, Bae Penrhyn / Ochr Penrhyn a Thywyn / Bae Cinmel.
Bydd y rhan fwyaf o ddatblygiadau newydd yn digwydd o fewn ac ar gyrion yr ardaloedd trefol hyn. Dros gyfnod y cynllun bydd tua 85% o'r tai ac 85% o ddatblygiadau cyflogaeth (B1, B2 a B8) (trwy ddatblygiadau a gwblhawyd, ymrwymiadau, hap-safleoedd a dyraniadau newydd) yn cael eu lleoli'n bennaf, o fewn ac ar ymyl yr ardaloedd trefol er mwyn adlewyrchu blaenoriaethau gofodol cyfrannu at greu cymunedau cynaliadwy.
Bydd Ardaloedd Trefol yn allweddol wrth ddarparu cyfuniad o'r farchnad a Thai Fforddiadwy ar gyfer Angen Lleol (AHLN) ar safleoedd a ddyrannwyd a hap-safleoedd. Bydd ffiniau anheddiad yn cael eu haddasu i adlewyrchu'r datblygiad arfaethedig. Caniateir AHLN hefyd ar safleoedd eithrio gerllaw Llanrwst.
Prif Bentrefi
Haen 1:
Llanddulas, Dwygyfylchi*, Llysfaen, Glan Conwy
Haen 2:
Betws-yn-Rhos, Cerrigydrudion, Dolgarrog*, Eglwysbach
Llanfair Talhaearn, Llangernyw, Llansannan, Trefriw* a Thal-y-bont*/Castell
Bydd graddfa datblygiad arfaethedig y dyfodol yn adlewyrchu anghenion yr aneddiadau o safbwynt maint a swyddogaeth a'u perthynas ffisegol a swyddogaethol ag ardaloedd trefol. Mae Prif Bentrefi yn darparu gwasanaeth swyddogaethol ar gyfer y Pentrefi Bychain a Pentrefannau a bydd hyn yn cael ei gynnal a'u ddatblygu ymhellach i gwrdd ag anghenion y cymunedau. Dros gyfnod y cynllun bydd tua 15% o'r datblygiadau tai ac 15% o'r datblygiadau cyflogaeth (B1, B2 a B8) yn cael eu lleoli o fewn Prif Bentrefi, Pentrefi Bychain a Pentrefannau, ond yn bennaf ym Mhrif Bentrefi Haen 1 a Haen 2 a'u cyflenwi trwy ddatblygiadau a gwblhawyd, ymrwymiadau, hap-safleoedd a dyraniadau newydd.
Bydd Prif Bentrefi Haen 1 yn darparu cyfuniad o bris y farchnad a thai fforddiadwy ar gyfer angen lleol (AHLN). Bydd Pentrefi Haen 2 ceisio darparu 100% AHLN yn unig ar safleoedd a ddyrannwyd a hap-safleoedd o fewn terfynau’r anheddiadau. I gynnig elfen o hyblygrwydd, bydd anheddau ar y farchnad yn cael eu caniatáu dan amgylchiadau eithriadol ar safleoedd a ddyrannwyd a hap-safleoedd mewn pentrefi Haen 2 fel modd o ddarparu tai fforddiadwy ar y safle, yn amodol ar brofion ymarferoldeb ariannol. Bydd datblygiadau o’r fath ar raddfa lai na'r hyn a ganiateir mewn Ardaloedd Trefol. Ni chaniateir datblygu pellach y tu allan i ffiniau anheddiad, ac eithrio AHLN graddfa lai 100% ar safleoedd eithrio i ddiwallu angen a ddynodwyd yn unol â Pholisi HOU/6 – ‘Safleoedd Eithriad Gwledig Tai Fforddiadwy ar gyfer Anghenion Lleol' a dan amgylchiadau eithriadol i ddiwallu anghenion cyflogaeth yn unol â Pholisi EMP/3 – ‘Datblygiadau Swyddfeydd a Diwydiannol Newydd B1, B2 a B8 ar safleoedd heb eu dyrannu’.
Pentrefi Bychain
Bryn Pydew, Glanwydden, Groes, Henryd, Llanbedr-y-Cennin*, Llanddoged, Llanelian, Llangwm, Llannefydd, Pentrefelin, Pentrefoelas, Rhyd-y-foel, Rowen*, Llan San Siôr, Tal-y-cafn a Thyn-y-groes
Bydd datblygiad cyfyngedig yn digwydd yn y Pentrefi Bychain er mwyn amddiffyn cymeriad yr ardal, a chyfran at greu cymunedau cynaliadwy. Dros gyfnod y cynllun, ni ddyrennir unrhyw safleoedd tai'r farchnad neu safleoedd cyflogaeth, ac ni fydd ffiniau aneddiadau yn cael eu llunio o gwmpas y Pentrefi Bychain. Yn unol â Pholisi HOU/2, bydd y Pentrefi Bychain yn ceisio darparu 100% AHLN ar hap-safleoedd yn unig o fewn terfynau’r anheddiad neu lle bod grwpiau bychain o stadau anheddau newydd (hyd at 5 annedd) neu anheddau sengl yn cynnig ffurf o fewnlenwi ac yn gweddu’n ffisegol ac yn weledol â’r anheddiad. I gynnig elfen o hyblygrwydd, bydd anheddau ar y farchnad yn cael eu caniatáu dan amgylchiadau eithriadol ar safleoedd a ddyrannwyd a hap-safleoedd mewn pentrefi Haen 2 fel modd o ddarparu tai fforddiadwy ar y safle, yn amodol ar brofion ymarferoldeb ariannol. Mae’n bosibl y caiff safleoedd eithriad AHLN 100% eu caniatáu tu allan, ar ymyl, terfynau’r prif aneddiadau, lle mae’n diwallu angen lleol yn unol â Pholisi HOU/6.
Dan amgylchiadau eithriadol bydd datblygiadau cyflogaeth newydd B1,B2 a B8 yn cael eu caniatáu yn unol â Pholisi EMP/3.
Pentrefannau
Bodtegwel, Bryn-y-maen, Brymbo, Bryn Rhyd-yr-Arian, Bylchau, Capelulo*, Cefn Berain, Cefn Brith, Dinmael, Glan Rhyd, Glasfryn, Groesffordd, Gwytherin, Hendre, Llanelian, Llanfihangel Glyn Myfyr, Maerdy, Melin y Coed, Nebo*, Pandy Tudur, Pentre Isa, Pentrellyncymer, Pentre Isa, Pentre Tafarn-y-Fedw, Rhydlydan a Than-y-Fron
Dros gyfnod y cynllun, ni roddir dyraniadau ar gyfer datblygiadau mewn Pentrefannau. Dim ond dan amgylchiadau eithriadol y caniateir datblygiad. Un eithriad fyddai datblygiad sy’n darparu anghenion tai fforddiadwy ar gyfer anghenion lleol unigol neu gyfleoedd cyflogaeth mewn lleoliadau derbyniol a chynaliadwy.
*Yn rhannol ym Mharc Cenedlaethol Eryri.
4.1.2.2 Mae'r Dull Strategol Trosfwaol yn diffinio'r fframwaith ar gyfer lleoli'r datblygiad. Mae hyn yn angenrheidiol i sicrhau bod cefn gwlad yn cael ei warchod rhag datblygiadau ymwthiol graddol ar ymyl pentrefi a helpu i warchod rhag twf graddol mewn lleoliadau anghynaliadwy. Fodd bynnag, yn gyffredinol cefnogir ailddefnyddio effeithlon tir a ddatblygwyd yn barod o fewn fframweithiau datblygu, yn amodol ar fodloni'r polisïau perthnasol, er budd cynaliadwyedd. Diffiniwyd fframweithiau er mwyn ystyried maint presennol yr ardal adeiledig, datblygiadau yr ymrwymwyd iddynt gan ganiatâd cynllunio a chynigion eraill a gafodd eu cynnwys yn y CDLl.
4.1.2.3 Er mwyn cyfrannu at gyflawni’r materion blaenoriaeth o amddiffyn yr amgylched naturiol ac adeiledig a darparu tir i gwrdd ag AHLN, mae'r Cyngor yn hyrwyddo lefel o ddatblygiad dros gyfnod y cynllun sy'n ceisio chwarae rhan mewn cyflenwi'r materion blaenoriaeth hyn. Wrth fynd i'r afael â'r materion hyn sy'n wynebu Conwy, bydd datblygiadau yn cael eu canoli yn y lleoliadau mwyaf cynaliadwy, yn unol â Pholisi DP/2 – ‘Dull Strategol Trosfwaol' yn Ardaloedd Strategaeth Datblygu Trefol Abergele, Bae Colwyn, Llandudno a Chyffordd Llandudno.
4.1.3 Hyrwyddo Ansawdd Dylunio a Lleihau Troseddau
4.1.3.1 Amcanion Gofodol
AG10, AG11, AG14.
Polisi DP/3 – HYRWYDDO ANSAWDD DYLUNIO A LLEIHAU TROSEDD
- Bydd pob datblygiad newydd o safon uchel a’u dyluniad yn gynaliadwy, ac sy’n darparu mannau y gellir eu defnyddio diogel, parhaol a derbyniol, ac yn amddiffyn cymeriad lleol a hynodrwydd amgylchedd adeiledig hanesyddol a naturiol Ardal y Cynllun. Bydd y Cyngor yn mynnu bod datblygiad:
- Yn addas ar gyfer ei gyffiniau ac yn eu gwella o ran ffurf, graddfa, crynswth, manylion edrychiad a’r defnydd o ddeunyddiau;
- Yn bodloni safonau cymeradwy’r Cyngor o ran darparu mannau agored a mannau parcio;
- Bodloni safonau gofynnol hygyrchedd, drwy roi ystyriaeth briodol i anghenion pobl o wahanol oedrannau a gallu wrth ddylunio’r cynnig;
- Yn talu sylw i’r effaith ar eiddo cyfagos, ardaloedd a chynefinoedd sy’n cynnal rhywogaethau a ddiogelir;
- Yn ystyried cyfeiriadedd priodol, effeithiolrwydd ynni a’r defnydd o ynni adnewyddadwy o ran dyluniad, gosodiad, deunyddiau a thechnoleg yn unol â NTE/6 – ‘Effeithlonrwydd Ynni a Thechnoleg Adnewyddadwy Mewn Datblygu;
- Yn darparu systemau draenio trefol cynaliadwy i gyfyngu ar ddŵr gwastraff a llygredd dŵr a lleihau’r perygl o lifogydd yn unol â chanllawiau cenedlaethol a Pholisi NTE/8 – ‘Systemau Draenio Cynaliadwy;
- Pan fo hynny’n briodol, bydd y Cyngor hefyd yn ceisio:
- Gwella cymeriad lleol adeiladau, treftadaeth a mannau agored;
- Darparu ar gyfer cymysgedd cydnaws o ddefnyddiau, yn arbennig yng nghanol trefi a phentrefi;
- Ymgorffori tirlunio o fewn ac o amgylch y datblygiad, yn briodol i raddfa ac effaith y datblygiad;
- Integreiddio a llwybrau presennol i ddarparu mannau cydgysylltiedig sy’n cysylltu â’r ardal ehangach, a chyfleusterau cyhoeddus a llwybrau cludiant gwyrdd yn enwedig;
- Darparu datblygiadau sy’n cynnig dewisiadau cludiant amgen ac yn hyrwyddo cerdded, beicio a’r defnydd o gludiant cyhoeddus;
- Creu mannau diogel trwy fabwysiadu egwyddorion dylunio i osgoi trosedd er mwyn darparu gwyliadwriaeth naturiol, gwelededd ac amgylcheddau wedi’u goleuo’n dda ac ardaloedd lle mae’r cyhoedd yn symud o gwmpas;
- Sicrhau bod nodweddion bioamrywiaeth yn cael eu cadw a’u gwella;
- Ymgorffori ardaloedd a chyfleusterau rheoli gwastraff, cronni/storio dŵr glaw, ailddefnyddio dŵr llwyd ac ailgylchu;
- Talu sylw i Ganllawiau Mabwysiadu Ffyrdd yr Awdurdod wrth gynllunio ffyrdd.
- Bydd y Cyngor yn gofyn am gyfraniad o ganran a gytunir arni o gyfanswm y costau datblygu i ddarparu neu gomisiynu gweithiau celf neu wella dylunio sy’n hygyrch i’r cyhoedd yn unol â DP/5 – ‘Isadeiledd a Datblygiadau Newydd’, pan fo hynny’n briodol i’w leoliad a’i hyfywedd.
4.1.3.2 Mae’n rhaid i unrhyw ddatblygiad, boed yn estyniad trefol neu’n estyniad i gartrefi presennol, ymateb i’w cyd-destun. Mae hyn yn cynnwys adeiladau, mannau agored ac ymylon pentrefi, ac yn sicrhau cynllun integredig nad yw’n niweidio amwynder lleol ac sy’n dod â manteision i’r ardal, pryd bynnag y bo modd. Mae dyluniad o safon uchel yn fater y mae’r Cyngor yn rhoi blaenoriaeth iddo, i annog y boblogaeth ieuengach i aros yn yr ardal a dychwelyd iddi i weithio ac i fyw. Gellir cyflawni datblygiad cynaliadwy drwy greu lleoedd deniadol ac ymarferol sydd â manteision i’r datblygiad ei hun, y trigolion, yr amgylchedd a’r gymuned. Mae isafswm y gofynionar gyfer hygyrchedd i adeiladau yn cael eu cynnwys yn y Ddogfen a Gymeradwywyd, Rhan M o’r Rheoliadau Adeiladu, a'u hasesu ar wahân i'r system Gynllunio, fodd bynnag, bydd y Cyngor yn edrych yn ffafriol ar gynigion sy'n ceisio darparu lefelau uwch o hygyrchedd na'r hyn sy'n ofynnol.Mae datblygiadau sydd wedi’u dylunio’n wael yn annerbyniol. Gallant leihau’r amgyffred o ddiogelwch, cynyddu troseddau, rhwystro ailgylchu, cynyddu’r defnydd o ynni a rhwystro trigolion rhag ymarfer a defnyddio mannau agored lleol. Er mwyn cynorthwyo i sicrhau dyluniad da, paratowyd Canllawiau Cynllunio Atodol Dylunio Cartrefi, a bydd CCA Dylunio yn cael ei baratoi yn unol â’r adain fonitro i gyd-fynd â Pholisi DP/3.
4.1.3.3 Dylai pob adeilad newydd fod o safon uchel ac wedi’u dylunio i fod yn gynaliadwy. Mae’n rhaid iddynt barchu a gwella’r ardal heb niweidio’r amwynder lleol. Dylent ddiogelu a gwella hynodrwydd a chymeriad lleol. Dylai eu graddfa, eu dyluniad a’u defnyddiau fod yn addas i’w lleoliad, gan gynnwys darpariaeth ar gyfer tirlunio. Gall celf gyhoeddus gyfrannu’n sylweddol at wella cymeriad a hunaniaeth leol, ac mewn achosion priodol caiff ei gefnogi yn unol â DP/4 – ‘Meini Prawf Datblygu’ a’r Canllawiau Cynllunio Atodol – Ymrwymiadau Cynllunio.
4.1.4 Meini Prawf Datblygu
4.1.4.1 Amcanion Gofodol
AG1, AG13.
Polisi DP/4 – MEINI PRAWF DATBLYGU
- Dylai cynigion datblygu, pan fo hynny’n briodol ac yn unol â pholisïau’r Cynllun a Safonau’r Cyngor, ddarparu’r canlynol:
- Tai Fforddiadwy ar gyfer Anghenion Lleol;
- Mynediad diogel o’r rhwydwaith priffyrdd, a gwella’r isadeiledd cludiant cyhoeddus, beicio a cherdded;
- Lle parcio ceir;
- Lle diogel i barcio beiciau;
- Man Agored;
- Mynediad diogel a hwylus i bob adeilad a gofod cyhoeddus, yn cynnwys y bobl hynny sy’n cael trafferth i symud o gwmpas neu sydd â namau eraill ar y synhwyrau, megis ar eu golwg neu eu clyw;
- Ardal wedi’i sgrinio ar gyfer gwastraff, yn cynnwys deunyddiau y gellir eu hailgylchu;
- Dyluniad a gosodiad sy’n lleihau’r cyfleoedd i droseddu;
- Cyfraniadau ariannol tuag at ddarparu a chynnal a chadw isadeiledd, gwasanaethau a chyfleusterau sy’n angenrheidiol i’r datblygiad;
- Ni roddir caniatâd cynllunio pe byddai’r datblygiad arfaethedig yn cael effaith andwyol annerbyniol:
- Ar amwynder preswyl;
- Yn sgil traffig sy’n cael ei gynhyrchu;
- Ar fuddiannau archeolegol a’r ffurf adeiledig;
- Ar yr iaith Gymraeg;
- Ar amodau amgylcheddol yn deillio o sŵn, golau, dirgryniad, arogl, allyriadau gwenwynig neu lwch;
- Ar fuddiannau ecolegol a bywyd gwyllt a chymeriad y dirwedd;
- Ar lifogydd a’r perygl o lifogydd;
- Ar y tir amaethyddol gorau a mwyaf amlddefnydd;
- Ar ansawdd dŵr daear neu ddŵr wyneb;
- Ar gyfleusterau cymunedol hanfodol.
4.1.4.2 Mae’n bwysig fod cynigion datblygu’n cynnwys darpariaeth briodol i gwrdd â’r anghenion a gynhyrchwyd. O’i ddarllen ar y cyd â Pholisïau DP/1 a DP/3 ar ‘Egwyddorion Datblygu Cynaliadwy’ a ‘Hyrwyddo Ansawdd Dyluniad a Gostwng Trais’ yn eu tro, mae’r polisi hwn yn darparu rhestr wirio ar gyfer datblygwyr i’w helpu i sicrhau eu bod yn bodloni’r holl ofynion. Er mwyn osgoi polisi rhy hir a chymhleth, mae llawer o’r meini prawf yn croesgyfeirio at bolisïau eraill yn y Cynllun, sy’n darparu’r manylion llawn.
4.1.5 Isadeiledd a Datblygiad
4.1.5.1 Amcan Gofodol
AG13.
Polisi DP/5 – ISADEILEDD A DATBLYGIADAU NEWYDD
Bydd disgwyl i bob datblygiad newydd, os yw’n briodol, wneud cyfraniadau digonol tuag at isadeiledd newydd i ddiwallu gofynion isadeiledd cymdeithasol, economaidd, ffisegol ac / neu amgylcheddol ychwanegol sy’n deillio o’r datblygiad neu gynnal a chadw cyfleusterau i’r dyfodol. Ceisir cael cyfraniadau yn unol â blaenoriaethau’r Cyngor.
4.1.5.2 Bydd cynigion i ddatblygu yng Nghonwy yn cael eu cefnogi sydd wedi gwneud trefniadau addas i wella neu ddarparu isadeiledd, gwasanaethau a chyfleusterau ar y safle ac oddi ar y safle, sy’n angenrheidiol oherwydd y datblygiad, ac ar gyfer eu cynnal a’u cadw yn y dyfodol.
4.1.5.3 Mae’n bwysig darparu ar gyfer isadeiledd, gwasanaethau a chyfleusterau ychwanegol sy’n deillio o ddatblygiad newydd ac ar gyfer eu cynnal a’u cadw yn y dyfodol, yn ogystal â mynediad, parcio, draenio, dyluniad, ynni adnewyddu a thirlunio addas ar y safle. Mae pob datblygiad newydd yn cyfrannu at alwadau ar isadeiledd, cyfleusterau cymunedol a gwasanaethau cyhoeddus presennol. Felly bydd disgwyl i ddatblygwyr gyfrannu at y gwelliannau angenrheidiol neu ddarpariaeth newydd i wasanaethu’r anghenion sy’n deillio o’u datblygiad. Ni ddylai datblygiad ddigwydd cyn gosod yr isadeiledd sydd ei angen gan y rhai fydd yn byw yno. Dim ond ar ôl i’r partïon perthnasol ddod i gytundeb ynglŷn ag ariannu a rhaglen weithredu’r ddarpariaeth sydd ei hangen ar y safle ac oddi ar y safle y caiff datblygiad ei ganiatáu, fel y nodir yn y Canllawiau Cynllunio Atodol (CCA) Ymrwymiadau Cynllunio. Mae’n amlwg, fodd bynnag, fod cyfyngiadau sylweddol ar rai safleoedd a allai gael effaith ar y gallu i gwblhau safle o safbwynt ariannol. Yn yr achosion hyn, caniateir rhywfaint o hyblygrwydd.
4.1.5.4 Ceisir cyfraniadau yn unol â’r mecanweithiau blaenoriaeth a amlinellir yn y Canllawiau Cynllunio Atodol Ymrwymiadau Cynllunio.
Y Doll Isadeiledd Cymunedol (CIL)
4.1.5.5 Mae’r Doll Isadeiledd Cymunedol (CIL) yn fecanwaith gwirfoddol sy’n caniatáu awdurdodau lleol yng Nghymru a Lloegr i godi tâl penodol ar y rhan fwyaf o fathau o ddatblygiadau newydd, i ariannu’r isadeiledd sydd ei angen i gefnogi datblygiad yn eu hardal.
4.1.5.6 Mae’r gyfundrefn ar gyfer y newid hwn rŵan yn caniatáu awdurdodau lleol i osod taliadau ar y rhan fwyaf o ddatblygiadau newydd drwy CIL. Mae’r CIL wedi bod yn destun ymgynghoriadau hir. Yn ei hanfod, dyluniwyd CIL i gymryd lle’r system bresennol o ymrwymiadau cynllunio. Fodd bynnag, mae’r Llywodraeth wedi amlinellu rheolau trawsnewid am gyfnod o 4 blynedd o 6 Ebrill 2010, ac wedi hynny ni all Awdurdodau Lleol ofyn am gyfraniadau tuag at adnoddau a rennir, er enghraifft cyfraniadau ar gyfer gofodau chwarae, drwy gytundebau Adran 106. Bwriad y Cynllun presennol yw sicrhau cyfraniadau drwy Gytundebau Adran 106 nes bod gwaith yn dechrau ar y CIL (dechrau 2013 o bosibl). Bydd y Polisi CDLl ac unrhyw CCA yn gysylltiedig a gyhoeddir yn y cyfamser yn cael ei fonitro bob blwyddyn drwy’r Adroddiad Monitro Blynyddol (AMR) a’i ddiwygio os oes angen.
4.1.6 Polisi a Chanllawiau Cynllunio Cenedlaethol
4.1.6.1 Amcanion Gofodol
Yn cynnwys yr holl Amcanion Gofodol - AG1 i AG16.
Polisi DP/6 – POLISÏAU A CHANLLAWIAU CYNLLUNIO CENEDLAETHOL
Mae’n rhaid i gynigion datblygu gydymffurfio â pholisïau a chanllawiau cynllunio cenedlaethol.
4.1.6.2 Mae polisïau cynllunio defnydd tir cenedlaethol Llywodraeth Cymru i’w gweld ym Mholisi Cynllunio Cymru a Pholisi Cynllunio Mwynau Cymru a chânt eu hategu gan Nodiadau Cyngor Technegol a Chylchlythyrau a chan Ddatganiadau Polisi Cynllunio Interim y Gweinidog. Rhaid i awdurdodau Cymru ufuddhau i bolisi cenedlaethol, yn cynnwys Cynllun Gofodol Cymru, wrth baratoi CDLlau.
4.1.6.3 Cynhaliwyd ymarfer cwmpasu trwyadl o’r holl ganllawiau cenedlaethol fel y nodir yn BP1 ‘Cynlluniau a Strategaethau Cysylltiedig’ er mwyn deall meysydd sy’n cael eu hailadrodd. Er mwyn rhoi’r canllawiau cenedlaethol perthnasol sy’n berthnasol i rai ceisiadau cynllunio i’r sawl sy’n defnyddio fersiwn i’w Archwilio gan y Cyhoedd CDLl Diwygiedig Conwy, fodd bynnag, bydd y Cyngor yn darparu diweddariadau rheolaidd ar y wefan gyhoeddus ac yn darparu nodiadau arweiniad.
4.1.6.4 Mae Polisi DP/6 yn mynnu bod pob cais cynllunio yn destun canllawiau cynllunio diweddar.
4.1.7 Prif Gynlluniau a Gwerthusiadau Cymunedol
4.1.7.1 Amcanion Gofodol
AG2, AG5, AG6, AG8.
Polisi DP/7 – PRIF GYNLLUNIAU A GWERTHUSIADAU CYMUNEDOL
Bydd cynigion defnydd tir yn deillio o Brif Gynlluniau, Gwerthusiadau Cymunedol, neu debyg, yn cael eu cefnogi os ydynt yn:
- Ymwneud ag Amcanion Strategol y Cynllun;
- Ystyried polisi cenedlaethol, Cynllun Gyfodol Cymru a’r Strategaeth Gymunedol;
- Yn gallu cael eu datblygu a’u cefnogi gan sail tystiolaeth o’r angen
- Yn cael eu cefnogi gan Asesiad Amgylcheddol Strategol/Gwerthusiad Cynaladwyedd, lle bod hynny’n briodol;
- Yn realistig, hyfyw a gall ddangos bod modd ei ddarparu drwy dystiolaeth atodol;
- Yn cael eu paratoi gan ymgynghori â’r cyhoedd a chyfranogion perthnasol;
- Cydymffurfio â pholisïau eraill cysylltiedig y Cynllun.
4.1.7.2 Nod cyffredinol Prif Gynlluniau yw creu lleoedd cynaliadwy.Mae’r broses hon yn dynodi’r angen i ystyried cynllunio safleoedd, integreiddiad cymunedol, cludiant cynaliadwy, ecoleg a thirlunio.Rydym hefyd yn cydnabod yr angen i godi ansawdd dyluniad ar gyfer datblygiadau newydd yn ardal y cynllun, o safleoedd strategol ac ardaloedd o newid sylweddol i rai safleoedd unigol llai.
4.1.7.3 Mae nifer o gynlluniau o’r fath ar waith gan gynnwys Prif Gynlluniau Bae Colwyn, Cyffordd Llandudno a Llanrwst sydd wedi’u datblygu’n unol â briffiau penodol ac unigol ac mae pob un ar wahanol gyfnodau o’u datblygiad. Mae bwriad pellach i greu Prif Gynllun Abergele, nid yn unig i ddarparu cyfeiriad strategol ar gyfer y datblygiadau bwriedig a amlinellir yn y Cynllun hwn, ond hefyd i ddeall rhagor am oblygiadau ehangach a mesurau gwella sy’n ymwneud â’r datblygiad. Bydd y CDLl yn cefnogi agweddau’r prif gynlluniau sy’n cwrdd â Pholisi DP/7.
4.1.7.4 Bydd y mwyafrif o’r prif gynlluniau’n cael eu harwain gan y Cyngor, er hynny, bydd datblygwyr a grwpiau cymunedol yn dymuno cyflawni ymarferion tebyg i ddarparu gwybodaeth ar gyfer cynigion datblygu ehangach. Bydd dwy brif nod yn y ddau achos:“adfywio canol trefi a phentrefi ac adnewyddu ardaloedd sydd wedi dirywio neu sy’n cael eu tanddefnyddio" a “diogelu, cadw a gwella'r amgylchedd naturiol ac adeiledig”.Bydd unrhyw gynigion sydd angen caniatâd cynllunio yn ôl Egwyddorion Datblygu a pholisïau eraill yn y cynllun.
Polisi DP/8 – PRIF GYNLLUN ADFYWIO TREFOL BAE COLWYN
Bydd cynigion adfywio ym Mae Colwyn yn canolbwyntio ar ardal Prif Gynllun Bae Colwyn (CBMP) fel y dangosir ar y map cynigion. Cefnogir cynigion allweddol ac ymyraethau sy’n cynorthwyo amcanion adfywio trefol Bae Colwyn:
- Creu’r amodau am fuddsoddiad a thwf economaidd a gweithgareddau cymdeithasol gwell;
- Darparu ar gyfer tai newydd yn unol â Pholisi Strategol HOU/1 – ‘Diwallu’r angen am gartrefi’.
- Cynyddu’r cysylltiadau â’r glan y môr, cysylltiadau dwyrain-gorllewin rhwng canol y dref, Dwyrain Colwyn a Pharc Eirias ar hyd Ffordd Abergele yn unol â Pholisi Strategaeth STR/1;
- Darparu ar gyfer datblygiad adwerthu a masnachu canol y dref newydd yn unol â Pholisïau Strategol CFS/1 a STR/1.
- Gwneud y mwyaf o’r cyfle a ddarperir gan Barc Eirias drwy’r Ganolfan Ddigwyddiadau newydd a’r Academi Rygbi, gyda chlystyrau pellach o gyfleusterau chwaraeon at y terfynau deheuol;
- Cyfrannu at adeiladau ac adeileddau o bwysigrwydd lleol neu genedlaethol drwy welliannau sympathetig neu gynigion cadwraeth.
- Darparu ar gyfer gwell datblygiad glan y môr, gan gynnwys gwaith ar yr amddiffynfeydd arfordirol a gwella’r ardal fel cyfleuster/ atyniad twristaidd a hamdden
- Darparu ar gyfer gwell datblygiad o Ganolfan Siopa Bay View a’i chysylltiadau â chanol y dref yn unol â Polisïau Strategol CFS/1 a STR/1;
- Creu canolbwynt newydd i ganol y dref.
- Gwella symudiadau cerbydau a mynediad at drafnidiaeth gyhoeddus at y dref ac yn y dref, gan gynnwys canolbwynt trafnidiaeth integredig newydd yn Sgwâr yr Orsaf, ac adlinio priffyrdd a gofod cyhoeddus newydd yn unol â Pholisi Strategaeth STR/1.
4.1.7.5 Yn 2008, lansiodd Llywodraeth Cymru (WG) y Cynllun Ardal Adfywio Strategol (SRA) i adfywio cymunedau arfordirol yng Nghonwy a Sir Ddinbych. Mae’r Cyngor yn gweithio mewn partneriaeth â WG i hyrwyddo’r adfywiad cynhwysfawr cymunedau arfordirol, ehangu gweithgarwch economaidd, mynd i’r afael ac eithrio cymdeithasol a lleihau amddifadedd.Fel rhan o’r cynllun adfywio hwn, penodwyd tîm amlddisgyblaeth o ymgynghorwyr i baratoi Prif Gynllun Bae Colwyn i hyrwyddo adfywiad cynaliadwy’r ardal tan 2025.
4.1.7.6 Nid yw adfywiad trefol Bae Colwyn yn ymwneud ag ailddatblygiad radical. Bydd yr amcanion yn cael eu cyflawni trwy newid a gwella profiad gofodol y dref a chysylltu ei asedau. Bydd hyn yn cael ei gyflawni drwy themâu allweddol ac amcanion gofodol.
4.1.7.7 Bydd dyrannu tir yn ASDT ac, yn enwedig, dyraniadau tai ym Mae Colwyn, yn gwella a chefnogi amcanion Prif Gynllun Bae Colwyn ac aneddiadau eraill yn yr ardal arfordirol sy’n cael eu cefnogi gan yr SRA.Mae Prif Gynllun Bae Colwyn yn ffurfio CCA, sy’n cynnwys yr adroddiad terfynol a gynhyrchwyd gan DPP Shape a’i gefnogi gan dystiolaeth a amlinellir yn BP23: - ‘Adroddiad Sail Prif Gynllun Bae Colwyn’.