Cynllun Datblygu Lleol Conwy 2007 - 2022
Atodiad 2
5.8 Fframwaith Monitro
5.8.1 Ni ddylid edrych ar baratoi unrhyw gynllun fel gweithgaredd unwaith ac am byth. Mae’n hanfodol gwirio bod y cynllun yn cael ei gweithredu yn gywir, asesu deilliannau’r canlyniad hwnnw, a gwirio os yw'r rhain dal yn bodoli fel y bwriadwyd ac fel y dymunir ar hyn o bryd. Mae monitrofelly’n elfen bwysig o'r broses cynllun datblygu, gan ddarparu sail ar gyfer yr adolygiad o'r cynllun, a pharatoi addasiadau lle bo angen.
5.8.2 Mae'n ofynnol i'r Cyngorgan Lywodraeth Cymru i lunio Adroddiad Monitro Blynyddol (AMR) i'w gyflwyno i Lywodraeth Cymru erbyn 31 Hydref bob blwyddyn ar ôl mabwysiadu’r Cynllun.Bydd yr AMR yn asesu i ba stent mae polisïau yn y CDLl yn cael eu cyflawni a bydd hefyd yn cynnwys canlyniadau monitro’r SEA/SA. Mae Rheol 37 LDP angen i’r AMR amlygu unrhyw bolisi sydd ddim yn cael ei weithredu a rhoi rhesymau ynghyd ac unrhyw gamau mae’r awdurdod yn bwriadu ei gymryd i ddiogelu'r gweithrediad o’r polisi ac unrhyw fwriad i adolygu’r LDP ac amnewid neu newid y polisi.
5.9 Dangosyddion Monitro
5.9.1 Er mwyn monitro'r Cynllun, mae angen amlygu a monitro dangosyddion perfformiad allweddol i fesur effeithiolrwydd cyffredinol y Cynllun. Amlygwyd y dangosyddion canlynol mewn canllawiau cynllunio ac wrth baratoi'r cynllun:
- dangosyddion craidd cenedlaethol;
- dangosyddion SEA/SA; a
- dangosyddion canlyniadau lleol;
5.9.2 Mae'r LlawlyfrCDLl, a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru, yn nodi nifer o ddangosyddion craidd cenedlaethol, y ddau gyntaf wedi’u manylu yn y Rheoliadau. Yn ychwanegol at y dangosyddion craidd hyn, mae’r Adroddiad Cwmpasu SEA/SA yn nodi dangosyddion a thargedau SEA/ SA y gellir eu defnyddio i asesu cynnydd ar faterion cynaladwyedd (gweler Papur Cefndir 10). Mae’r dangosyddion canlyniadau lleol yn mynd i’r afael â materion sydd ddim yn cael eu trin gan y dangosyddion craidd ac SEA, ond sy’n cael eu hystyried yn bwysig yn lleol.
5.9.3 Bydd dangosyddion monitro yn feini prawf sylfaen ar gyfer mesur gweithrediad polisïau a dyraniadau. Yn ogystal â’r dangosyddion monitro uchod, bydd cyfres o dargedau a phwyntiau sbarduno yn cael eu gweithredu i amlygu perfformiad polisïau. Bydd y nodweddion canlynol yn ffurfio’r fframwaith monitro ac yn sicrhau gyda’i gilydd weithrediad priodol polisi yn y tablau isod.
Amcan Monitro
5.9.4 Mae’r amcan monitro a manylion pwrpas y polisi a phe bai’n cael ei weithredu fel rhagwelir dros gyfnod y cynllun. Mae wedi ei alinio yn agos â’r amcanion gofodol trosfwaol o’r LDP er mwyn sicrhau y cedwir at yr amcanion hyn.
Data Ffynhonnell
5.9.5 Mae hyn yn amlygu o ble daw'r data er mwyn mesur perfformiad a gweithrediad polisi. Mae M3 y Cyngor yn system geisiadau cynllunio electronig sy’n darparu dulliau i gofnodi data ceisiadau cynllunio hanfodol sy’n berthnasol i elfennau o’r Cynllun a’r Adran Fonitro. Bydd y Cyngor yn gweithio gyda Rheoli Datblygu i sicrhau bod data sy’n berthnasol i’r Adain Fonitro yn cael ei gofnodi trwy bob cais cynllunio a gyflwynir.
Ardal
5.9.6 Mae’n bwysig diffinio’r ardal y mae’r dangosydd monitro yn perthyn iddo gan fod rhai polisïau yn benodol i ardaloedd arbennig. Gallai asesu’r polisïau hyn fel sir ystumio canfyddiadau a chymylu mesuriad y polisi hwnnw.
Targed
5.9.7 Bydd y targed yn cael ei ddefnyddio i fonitro cynnydd y polisi yn erbyn y dangosyddion monitro. Bydd y manylion o beth ddylai’r polisi gyflawni os yw’n cael ei weithredu fel y disgwylir.
Lefel Sylfaen
5.9.8 Dyma’r lefel y dylai’r polisi fod yn gweithio arno os yw’n cael ei weithredu fel y rhagwelwyd. Gallai unrhyw wyro o’r lefel sylfaen yma ddynodi nad yw’r polisi yn cael ei weithredu’n briodol.
Lefel Sbarduno
5.9.9 Mae cyfres o lefelau sbarduno wedi cael ei dylunio i amlygu’r polisïau sydd ddim yn cael ei gweithredu yn llawn. Bydd gwyro o’r lefel sylfaen yn amlinellu’r lefelau sbarduno hyn. Unwaith bydd polisi wedi gweithredu ei lefel sbarduno bydd yn cael ei asesu trwy’r broses AMR i bennu’r ffactorau a allai fod yn effeithio ar weithrediad y polisi hwnnw. Bydd y pwyntiau sbarduno yma yn sicrhau fod camau cyflym ac ymatebol yn cael eu cymryd i unrhyw faterion gweithredu polisi fel y gellir ei newid yn briodol. Lle mae dyraniadau tai a chyflogaeth yn methu dwyn ffrwyth i’w ddatblygu yn unol â’r cynllun datblygu fesul camau, bydd pwyntiau sbarduno yn procio adolygiad o’r safleoedd wrth gefn er mwyn sicrhau rhyddhad parhaus o’r tir ar gyfer datblygiad tai a chyflogaeth.
POLISI STRATEGOL DP/1 – EGWYDDORION DATBLYGU CYNALIADWY |
|||||
Amcan(ion) |
Amcan Monitro |
||||
Mae’r holl Amcanion Gofodol yn dod o dan yr Egwyddorion Datblygu. Mae’r Egwyddorion Datblygu, yn y rhan fwyaf o achosion, yn cael eu darparu a’u monitro trwy bolisïau cefnogol eraill o fewn y Cynllun. |
Cyfrannu at hyrwyddo cymunedau cynaliadwy yng Nghonwy. Lleihau’r lefel poblogaeth yn y wardiau mwyaf difreintiedig. Sicrhau bod y newidiadau a ragwelir yn y boblogaeth yn cael eu cwrdd trwy ddiogelu adeiladu 85% o’r angen tai o fewn yr Ardal Strategaeth Datblygu Trefol a 15% yn yr Ardal Strategaeth Datblygu Gwledig. Sicrhau bod y newidiadau a ragwelir yn y boblogaeth yn cael eu cwrdd trwy ddiogelu adeiladu 80% o’r angen cyflogaeth o fewn yr Ardal Strategaeth Datblygu Trefol a 10% yn yr Ardal Strategaeth Datblygu Gwledig. Sicrhau cyfraniadau oddi wrth ddatblygwyr tuag at y gofynion isadeiledd gofynnol. |
||||
Dangosyddion Monitro |
Data Ffynhonnell |
Targedau a Phwyntiau Sbardun |
|||
Ardal |
Targed |
Lefel Sylfaen |
Ardal |
||
% o ddatblygiadau tai y manteisir arnynt yn yr Ardaloedd Strategaeth Datblygu Trefol a Gwledig (Ardal Strategaeth Datblygu Trefol – RDSA) wrth gwrdd â’r gofynion newid poblogaeth a ragwelwyd. |
Ceisiadau Cynllunio (M3) a’r Cyd-Astudiaeth Argaeledd Tir Tai |
Ardal y Cynllun |
85% yn yr Ardal Strategaeth Datblygu Trefol a 15% yn yr RDSA erbyn 2010, 2017 a 2022. |
Trefol – Gwledig – (gwaelodlin 2010 o ragolygon datblygiadau a gwblhawyd, a ymrwymwyd a rhai annisgwyl). |
10% o wyriad ym mhob ardal datblygu strategol. |
% o dir cyflogaeth y manteisir arno yn yr Ardaloedd Strategaeth Datblygu Trefol a Gwledig wrth gwrdd â’r gofynion newid poblogaeth a ragwelwyd. |
Ceisiadau Cynllunio (M3) a’r Adroddiad Monitro Tir Cyflogaeth |
Ardal y Cynllun |
85% yn yr Ardal Strategaeth Datblygu Trefol ac 15% yn yr RDSA erbyn 2010, 2017 a 2022. |
(2010) |
10% o wyriad ym mhob ardal ddatblygu strategol |
Maint y datblygiad newydd (ha) a ganiateir drwy drawsnewid ac ailddatblygu tir llwyd fel % o bob datblygiad a ganiateir. |
Ceisiadau Cynllunio (M3) a’r Cyd-Astudiaeth Argaeledd Tir Tai ac Adroddiad Monitro Tir Cyflogaeth |
Ardal y Cynllun |
60% ac uwch |
50% |
Gostwng islaw’r lefel sylfaen. |
Y nifer o droseddau sy’n cael eu riportio yn ôl math fel cyfanswm. |
Heddlu Gogledd Cymru |
Ardal y Cynllun |
15% o ostyngiad cyffredinol 7299 (2012) 6831 (2017) 6386 (2022) |
7486 (troseddau 2009/2010) |
Cynnydd o’r lefel sylfaen am fwy na 3 blynedd yn olynol. |
Nifer o geisiadau cynllunio a gymeradwywyd heb fod yn unol â’r Canllaw Cynllunio Atodol perthnasol (h.y. SPG Dylunio) neu’r Briff Cynllunio. |
Ceisiadau Cynllunio CBSC a’r System M3. |
Ardal y Cynllun |
100% |
0 |
3 mewn unrhyw flwyddyn. |
Cyfanswm goblygiadau llwyddiannus a drafodwyd gyda datblygwyr. |
Ceisiadau Cynllunio CBSC a’r System M3 a Chronfa Ddata S106 CBSC. |
Ardal y Cynllun |
5 y flwyddyn (2010) 10 y flwyddyn (2017) 20 y flwyddyn (2022) |
5 y flwyddyn |
Llai na’r lefel sylfaen. |
Cyfanswm nifer o geisiadau cynllunio sy’n cael eu cymeradwyo yn erbyn polisi DP/6 ‘Canllaw Cenedlaethol’. |
Ceisiadau Cynllunio CBSC a’r System M3. |
Ardal y Cynllun |
0 |
0 |
3 mewn unrhyw flwyddyn |
Paratoi a monitro’r SPG Dylunio |
Polisi Cynllunio |
Ardal y Cynllun |
SPG wedi’i gwblhau a’i fabwysiadu o fewn 12 mis o fabwysiadu’r CDLl |
Ddim yn berthnasol |
Ddim yn berthnasol |
Nifer y safleoedd tir glas ac agored a gollir ar gyfer datblygu (ha) na ddyrannwyd yn y CDLl nac yn unol â Pholisi’r CDLl. |
Ceisiadau Cynllunio (M3) |
Ardal y Cynllun |
Ni gollwyd unrhyw rai |
Ddim yn berthnasol |
1 mewn unrhyw flwyddyn |
POLISI STRATEGOL HOU/1 – ‘CWRDD Â’R ANGEN TAI’ |
|||||
Amcan(ion) |
Amcan Monitro |
||||
AG1: Sicrhau bod anghenion y gymuned wedi eu cwrdd, a hynny wrth warchod yr amgylchedd naturiol ac adeiledig, trwy hyrwyddo lefelau digonol a phriodol o ddatblygiad, trwy leoli datblygiad lle bod hynny’n ymarferol ar dir a ddefnyddiwyd o’r blaen yn yr ardaloedd arfordirol trefol mwy ac ar hyd rhwydweithiau isadeiledd presennol a bwriedig, a thrwy amlygu a gwarchod asedau amgylcheddol allweddol a sicrhau dwysedd effeithlon o ddatblygiad sy’n gydnaws ag amwynder lleol. |
Sicrhau adeiladu 6,520 annedd, gan gynnwys rhai a ymrwymwyd, rhai annisgwyl a dyraniadau newydd a 1875 o unedau tai fforddiadwy trwy’r holl fecanweithiau, a hynny ar yr un pryd yn sicrhau bod y math, deiliadaeth a maint iawn o ddatblygiad tai yn cael ei gyflawni. Cynnal cyflenwad tir tai 5 mlynedd. Rheoli datblygiad tai mewn cefn gwlad agored. Hyrwyddo adfywio cynhwysfawr trwy reoli Tai Amlbreswyliaeth a hynny ar yr un pryd yn sicrhau bod fflatiau hunangynhwysol o safon dylunio uchel. Darparu safle ar gyfer Sipsiwn a Theithwyr |
||||
AG3. Darparu tir i alluogi cyflenwad digonol ac amrywiol i dai i gyfrannu at anghenion, gan gynnwys tai fforddiadwy ar gyfer angen lleol ac i fodloni’r angen ar gyfer Sipsiwn a Theithwyr, ar raddfa sy’n gyson â gallu ardaloedd a chymunedau gwahanol i dyfu. |
|||||
Dangosyddion Monitro |
Data Ffynhonnell |
Targedau a Phwyntiau Sbardun |
|||
Ardal |
Targed |
Lefel Sylfaen |
Ardal |
||
Nifer o anheddau fforddiadwy a marchnad gyffredinol ychwanegol net a adeiladir y flwyddyn. |
M3/ Cyd-Astudiaeth Argaeledd Tir Tai ac adenillion blynyddol i Lywodraeth Cymru ar dai fforddiadwy. |
Ardal y Cynllun |
125 o anheddau fforddiadwy a 423 y farchnad gyffredinol y flwyddyn |
132 o anheddau fforddiadwy a 423 y farchnad gyffredinol y flwyddyn |
15% uwchlaw neu islaw’r targed |
Cyflenwad Tir Tai 5 Mlynedd |
M3/ Cyd-Astudiaeth Argaeledd Tir Tai. |
Ardal y Cynllun |
Cyflenwad Tir Tai o 5 Mlynedd |
Cyflenwad Tir Tai o 5 Mlynedd |
Cyflenwad yn disgyn o dan 5 mlynedd |
Nifer y safleoedd wrth gefn sy’n cael eu rhyddhau, yn seiliedig ar Lleoliad: Bydd blaenoriaeth ar gyfer rhyddhau un neu fwy o safleoedd wrth gefn yn ardaloedd cyffredin lle y mae diffyg wedi’i ganfod; Cynhwysedd: Dylai bod y safle wrth gefn sy’n cael ei ryddhau yn gallu darparu nifer amcangyfrifol o anheddau sydd eu hangen. Darpariaeth: Dylai bod y safle wrth gefn yn gallu cael ei ddarparu yn y cyfnod a ragwelir |
CDLl/M3/Cyd-Astudiaeth Argaeledd Tir Tai |
Ardal y Cynllun |
Rhoi caniatâd cynllunio ar safle wrth gefn o fewn 12 mis o’r dyddiad rhyddhau |
Amh |
Dim caniatâd cynllunio o fewn 24 mis ar ôl rhyddhau safle wrth gefn. |
Nifer o anheddau gwag a ailddefnyddir. |
M3/ Monitro gan Wasanaethau Tai CBSC. |
Ardal y Cynllun |
25 annedd y flwyddyn |
25 annedd y flwyddyn (o 2012) |
15% am ddwy flynedd yn olynol. |
Faint o ddatblygiadau tai a ganiateir ar safleoedd a ddyrannwyd (a) fel % o ddyraniadau tai cynllun datblygu a (b) fel % o gyfanswm y datblygiadau tai a ganiateir. |
M3/ Cyd-Astudiaeth Argaeledd Tir Tai |
Ardal y Cynllun |
(a) 15% y flwyddyn (b) 70% (i ganiatáu ar gyfer arian annisgwyl a thrawsnewidiadau) |
Amh |
(a) 10% neu islaw am ddwy flynedd yn olynol (b) 15% islaw’r targed am ddwy flynedd yn olynol. |
Dwysedd cyfartalog datblygiadau tai a ganiateir ar safleoedd cynllun datblygu a ganiateir. |
M3 |
Ardal y Cynllun |
Isafswm o 30 annedd fesul; hectar ar gyfer cynllun o 3 annedd neu fwy. |
Amh. |
5 cynllun neu fwy wedi cael caniatâd ar o leiaf 30 annedd yr hectar. |
Y nifer o gynlluniau tai sy’n datblygu mathau a meintiau tai yn erbyn y dystiolaeth a amlygwyd yn yr Asesiad Marchnad Tai Lleol a/ neu Gofrestri Tai Cymdeithasol/ Fforddiadwy. |
M3 |
Ardal y Cynllun |
0 |
0 |
1 neu fwy o ganiatâd cynllunio a roddwyd yn erbyn argymhellion y swyddogion |
Faint o dai fforddiadwy a ganiateir trwy ‘safleoedd eithriedig’. |
M3/ Astudiaethau Galluogwr Tai Gwledig/ Cyd-Astudiaeth Argaeledd Tir Tai. |
Ardal Strategaeth Datblygu Trefol a Llanrwst. |
5 annedd y flwyddyn |
5 annedd y flwyddyn |
20% uwchlaw neu islaw’r targed |
Y nifer o geisiadau am Dai Amlbreswyliaeth sy’n cael caniatad cynllunio. |
M3 |
Ardal y Cynllun |
0 |
0 |
1 neu fwy o ganiatad cynllunio. |
Paratoi a mabwysiadu SPG ar Dai Fforddiadwy. |
Polisi Cynllunio a Thai |
Ardal y Cynllun |
Mabwysiadwyd o fewn 12 mis o fabwysiadu’r CDLl. |
Amh |
Amh. |
Paratoi a mabwysiadu SPG ar Fflatiau Hunangynhwysol. |
Polisi Cynllunio a Thai |
Ardal y Cynllun |
Mabwysiadwyd o fewn 12 mis o fabwysiadu’r CDLl. |
AMH. |
AMH. |
Nifer ceisiadau cynllunio preifat/Cyngor ar gyfer safleoedd Sipsiwn a Theithwyr a ganiatawyd neu wrthodwyd yn unol â pholisi HOU/9 neu yn wrthwyneb i’r Polisi. |
M3 |
Ardal y Cynllun |
Lleiafswm o 1 safle yn derbyn caniatâd |
0 |
a) 1 neu fwy o geisiadau cynllunio sy’n cyfateb â’r polisi a wrthodwyd b) Methiant CBS Conwy i gymeradwyo safle erbyn Gorffennaf 2014 |
Darparu safle i Sipsiwn a Theithwyr |
Polisi Cynllunio/Tai/Llywodraeth Cymru |
Ardal y Cynllun |
Galw am safle erbyn Awst 2013 Sefydlu gweithgor i ystyried safleoedd erbyn Hydref 2013 Cwblhau chwilio am safle/asesiad erbyn Mawrth 2014 Cymeradwyo’r safleoedd a ffefrir gan GBS Conwy erbyn Mehefin 2014 Cyflwyno cais cynllunio erbyn Medi 2014 Penderfyniad ar y cais cynllunio erbyn Ionawr 2015 Cyflwyno cais ar gyfer cyllid Llywodraeth Cymru erbyn Mawrth 2015 |
0 |
Methu cyflawni dyddiadau’r targedau. |
Cyflawni asesiad o anghenion safleoedd ar gyfer unigolion gyda sioeau teithiol |
Polisi Cynllunio a Thai |
Ardal y Cynllun |
Cwblhau astudiaeth o fewn 12 mis o fabwysiadu’r CDLl |
Amh |
Amh |
POLISI STRATEGOL EMP/1 – ‘CWRDD Â’R ANGEN CYFLOGAETH’ |
|||||
Amcan(ion) |
Amcan Monitro |
||||
AG1: Sicrhau lefelau twf poblogaeth cynaliadwy. |
Cyfrannu at y newidiadau a ragwelir mewn poblogaeth a’r cynnydd mewn lefelau cyflogaeth trwy sicrhau adeiladu 20.5 hectar o dir cyflogaeth, gan gynnwys cyflawniadau, ymrwymiadau a dyraniadau newydd. Gostwng lefelau all-gymudo trwy adeiladu 15.5 hectar ychwanegol o dir cyflogaeth yn yr Ardal Strategaeth Datblygu Trefol. |
||||
AG4. Canfod a diogelu tir i ateb anghenion cymunedau ac i sicrhau lefelau cymudo allan o’r sir is, rhagor o swyddi a ffyniant economaidd gwell a lefelau cymudo allan llai gan ganolbwyntio ar gyfleoedd cyflogaeth gwerth uwch a datblygu sgiliau o fewn ac o gwmpas canolbwyntiau strategol Conwy, Llandudno, Cyffordd Llandudno a Bae Colwyn ac yn ardal hygyrch a chynaliadwy Abergele. |
|||||
AG5. Annog cryfhau ac arallgyfeirio’r economi wledig lle bo hynny’n gydnaws â buddiannau amgylcheddol, yr economi leol, a’r gymuned. |
|||||
Dangosyddion Monitro |
Data Ffynhonnell |
Targedau a Phwyntiau Sbardun |
|||
Ardal |
Targed |
Lefel Sylfaen |
Ardal |
||
Lefel Diweithdra Blynyddol. |
Ystadegau Cymru LlC: Cyfraddau diweithdra Blynyddol yn ôl Awdurdodau Lleol Cymru. |
Ardal y Cynllun |
Gostwng lefelau diweithdra gan 10% |
4.8% (Blwyddyn yn gorffen 31 March 2007) |
15% neu uwch |
Nifer o Breswylwyr y Ardal y Cynllun mewn Gwaith |
Ystadegau Cymru LlC: Statws Gwaith unigolion 16+ |
Ardal y Cynllun |
Cynyddu Lefelau Cyflogaeth fel y nodir isod: 47,826 (2012)* 49,227 (2017)* 49,850 (2022)* |
47,500 (Blwyddyn yn gorffen 31 March 2007) |
Dim cynnydd am 3 blynedd neu fwy yn olynol, neu ostyngiad islaw’r Lefel Sylfaen. |
Tir cyflogaeth a ddatblygir bob blwyddyn yn yr Ardal Strategaeth Datblygu Trefol . |
Ceisiadau Cynllunio CBSC, Adroddiad Monitro Tir Cyflogaeth and M3 system. |
Ardal Strategaeth Datblygu Trefol |
Datblygu 33 ha o Dir Cyflogaeth erbyn 2022 4.54 ha erbyn 2012 (0.91ha y flwyddyn) 19.82ha erbyn 2017 (24.36ha y flwyddyn) 33ha erbyn 2022 (8.64ha y flwyddyn) |
11.7 ha a adeiladwyd ers 2007 |
Cyfraddau datblygu blynyddol 15% yn is neu’n uwch na thargedau am ddwy neu ragor o flynyddoedd yn olynol. |
Tir cyflogaeth a ddatblygir bob blwyddyn yn yr Ardal Strategaeth Datblygu Gwledig |
Ceisiadau cynllunio CBSC, Adroddiad Monitro Tir Cyflogaeth a’r system M3. |
Ardal Strategaeth Datblygu Trefol |
Datblygu 3ha o dir cyflogaeth erbyn 2022. 0.44 ha erbyn 2012 (0.09ha y flwyddyn) 2.16ha erbyn 2017 (0.34ha y flwyddyn) 3.0ha erbyn 2022 (0.17ha y flwyddyn) |
0 ha a adeiladwyd ers 2007 |
Cyfraddau datblygu blynyddol 15% yn is neu’n uwch na thargedau am ddwy neu ragor o flynyddoedd yn olynol. |
Nifer o breswylwyr Conwy yn all-gymudo i’r gwaith i leoliadau tu allan i’r Ardal y Cynllun. |
Ystadegau ar gymudo yng Nghymru – Cyfarwyddiaeth Ystadegol, Llywodraeth Cymru. |
Ardal y Cynllun |
Gostwng lefelau all-gymudo o: 249 erbyn 2012* 1331 erbyn 2017* 1800 erbyn 2022* |
7,200 o all-gymudwyr (ffigwr net 2010) |
Dim gostyngiad am 3 blynedd neu fwy yn olynol, neu gynnydd uwchlaw’r lefel sylfaen. |
Maint y gyflogaeth newydd a ganiateir ar safleoedd a ddyrannwyd yn y cynllun datblygu (a) fel % o holl ddyraniadau cyflogaeth y cynllun datblygu a (b) fel % o’r holl ddatblygiad a ganiateir (ha ac unedau). |
Ceisiadau cynllunio CBSC, Adroddiad Monitro Tir Cyflogaeth a’r system M3. |
Ardal y Cynllun |
(a) 15% y flwyddyn (b) 80% (i ganiatáu ar gyfer ymrwymiadau a datblygiadau ar safleoedd heb eu dyrannu) |
Amherthnasol |
(a) 10% neu lai am 2 flynedd yn olynol (b) 15% yn is na’r targed am 2 flynedd yn olynol. |
Paratoi a mabwysiadu SPG ar Drawsnewidiadau Gwledig |
Polisi Cynllunio |
Ardal y Cynllun |
Mabwysiadu o fewn 12 mis i fabwysiadu’r CDLl |
Amherthnasol |
Amherthnasol |
POLISI STRATEGOL TOU/1 – ‘TWRISTIAETH’ |
|||||
Amcan(ion) |
Amcan Monitro |
||||
AG5. Annog cryfhau ac arallgyfeirio’r economi wledig lle bo hynny’n gydnaws â buddiannau amgylcheddol, yr economi leol, a’r gymuned. |
Sicrhau bod cyfleusterau a llety twristiaeth o ansawdd uchel ar gael yn y lleoliadau mwyaf addas. Osgoi gor-grynodiadau pellach o unedau statig yn yr Ardal Strategaeth Datblygu Trefol a’r Parth Arfordirol. Sicrhau bod Safloedd Cabannau, carafannau a Gwersylla yn cael eu darparu mewn lleoliadau addas yn yr Ardal Strategaeth Datblygu Gwledig. Hyrwyddo atyniadau twristiaeth newydd mewn lleoliadau addas i annog twristiaeth drwy gydol y flwyddyn. |
||||
AG8. Cynorthwyo twristiaeth trwy ddiogelu a gwella atyniadau a llety twristiaeth arfordirol a gwledig, ag ecsbloetio ymhellach y potensial i ddatblygu, cryfhau ac annog y diwydiant twristiaeth drwy gydol y flwyddyn. |
|||||
Dangosyddion Monitro |
Data Ffynhonnell |
Targedau a Phwyntiau Sbardun |
|||
Ardal |
Targed |
Lefel Sylfaen |
Ardal |
||
Lefel o lety â gwasanaeth o fewn y Parthau Llety Gwyliau (HAZ). |
M3 |
Parth Llety Gwyliau |
Dim llai na’r lefel sylfaen gyfredol. |
Parth Un: 64; Parth Dau: 40; Parth Tri: 30; Parth Pedwar: 15. |
1 +/- ym mhob parth. |
Safleoedd Cabannau, Carafannau a Gwersylla newydd yn yr Ardal Strategaeth Datblygu Trefol a ganiatawyd yn erbyn y Polisi. |
M3 |
Ardal Strategaeth Datblygu Trefol |
0 |
am. |
1 caniatad |
Safleoedd Cabannau, Carafannau a Gwersylla newydd yn yr Ardal Strategaeth Datblygu Gwledig a ganiatawyd yn erbyn y Polisi. |
M3 |
Ardal Strategaeth Datblygu Gwledig |
0 |
am. |
1 caniatad |
Ymestyn y tymor gwyliau ar gyfer Safleoedd Cabannau, Carafannau a Gwersylla. |
M3 |
Ardal y Cynllun |
0 |
am. |
1 caniatad |
Nifer o benderfyniadau yn cefnogi colli cyfleusterau twristiaeth yn erbyn argymhelliad y swyddogion. |
M3 |
Ardal y Cynllun |
0 |
am. |
1 caniatad |
POLISI STRATEGOL CFS/1 – ‘CYFLEUSTERAU A GWASANAETHAU CYMUNEDOL’ |
|||||
Amcan(ion) |
Amcan Monitro |
||||
AG6. Datblygu cyrchfannau canol tref bywiog ar gyfer siopa, diwylliant, adloniant a hamdden trwy wella bywiogrwydd, hyfywdra ac apêl Llandudno fel canolfan fanwerthu isranbarthol strategol, ac adfywio canol tref Bae Colwyn a chanolfannau siopau eraill. |
Galluogi darparu cyfleusterau cymdeithasol a chymunedol yng Nghonwy trwy gydnabod yr angen presennol ac anghenion y dyfodol, diogelu’r ddarpariaeth bresennol a hwyluso darpariaeth newydd lle mae tystiolaeth o angen yn bodoli. |
||||
AG10. Sicrhau bod dylunio da, cynaliadwy, cynhwysol yn cael ei ddarparu sy’n cynnwys cyfle i ddylunio trosedd allan, i ddatblygu cymunedau cryf, diogel ac sy’n nodedig yn lleol ac annog y boblogaeth ieuengach i aros yno a dychwelyd i’r ardal. |
|||||
Dangosyddion Monitro |
Data Ffynhonnell |
Targedau a Phwyntiau Sbardun |
|||
Ardal |
Targed |
Lefel Sylfaen |
Ardal |
||
Canran o unedau gwag o fewn y prif ardaloedd siopa a’r parthau siopa. |
Experian GOAD / CBSC |
Ardal y Cynllun |
Dim mwy na 15% mewn unrhyw ganolfan. |
Gwahanol lefelau. Gweler BP16 |
15% neu fwy am dair blynedd yn olynol. |
‘Clystyru’ defnyddiau nad ydynt yn A1 mewn prif ardaloedd siopa a pharthau siopa. |
Experian GOAD / CBSC |
Ardal y Cynllun |
Dim mwy na 30% o unedau mewn blaen parhaus sy’n cynnwys defnyddiau heb law am A1 |
Gwahanol lefelau. Gweler BP16 |
Mwy na 30% o’r unedau mewn blaen parhaus yn cynnwys defnyddiau heb law am A1 |
Nifer o geisiadau am ofod llawr i fanwerthu heb fod yn swmpus tu allan i ganolfannau a ddiffiniwyd yn yr hierarchaeth manwerthu. |
Experian GOAD/ M3 |
Ardal y Cynllun |
0 caniatâd (heblaw lle'u bod i gefnogi cymunedau gwledig). |
- |
1 caniatâd. |
Canran o unedau A1 mewn Ardaloedd Siopa Sylfaenol. |
Experian GOAD/ CBSC |
Ardal y Cynllun |
75% |
69% yn Llandudno 72% ym Mae Colwyn |
65% neu lai. |
Colli gyfleusterau cymunedol tu allan i Landudno a chanol y trefi. |
Arolwg Cyfleusterau Cymunedol CBSC |
Ardal y Cynllun |
Dim mwy na 5 cyfleuster wedi ei golli dros gyfnod y cynllun |
- |
6 neu fwy o gyfleusterau cymunedol wedi eu colli i ddefnyddiau eraill. |
Nifer o geisiadau perthnasol a ganiatawyd sy’n golygu bod y blaen siop yn cael effaith negyddol ar yr ardal. |
Gwerthusiadau Ardal Gadwraeth CBSC a M3. |
Ardal y Cynllun |
Ni roddwyd unrhyw ganiatâd. |
Gweler y gwerthusiadau ardal cadwraeth (lle’u bod yn berthnasol) |
Rhoddwyd 1 caniatâd. |
Colled net o dir ar gyfer lotments. |
M3 |
Ardal y Cynllun |
Dim colled net o dir lle mae angen yn bodoli yn y gymuned honno |
- |
Colled net o lotments |
Nifer o geisiadau a gymeradwywyd am lotments newydd ar safleoedd a ddyrannwyd a safleoedd addas eraill lle mae angen yn bodoli ac sy’n cyd-fynd ag egwyddorion datblygu. |
M3 / Rhestr aros am lotments |
Ardal y Cynllun |
100% o geisiadau wedi eu cymeradwyo lle mae angen yn bodoli |
- |
Gwrthod 1 neu fwy o geisiadau dros gyfnod y cynllun |
Nifer o ddatblygiadau am 30 neu fwy o anheddau sy’n rhoi darpariaeth ar y safle ar gyfer mannau agored yn unol â Pholisi CFS/11 ac LDP4 ‘Ymrwymiadau Cynllunio’. |
M3 |
Ardal y Cynllun |
100% o ddatblygiadau perthnasol (gan ystyried blaenoriaethau CDLl4). |
- |
1 neu fwy o geisiadau yn darparu symiau cymudol fel eithriadau. |
Nifer y datblygiadau gyda llai na 30 annedd sy’n gwneud darpariaeth ar gyfer symiau cymudol ar gyfer mannau agored yn unol â Pholisi CFS/11 a CDLl ‘Ymrwymiadau Cynllunio’ |
M3 |
Ardal y Cynllun |
100% o ddatblygiadau perthnasol (gan ystyried blaenoriaethau CDLl4) |
1 neu fwy o geisiadau nad ydynt yn darparu symiau cymudol. |
|
Colled net o fannau agored. |
Archwiliad ac Arolwg Mannau Agored CBSC |
Ardal y Cynllun |
Dim colled net o dir lle mae angen yn bodoli yn y gymuned honno |
2010 Asesiad Mannau Agored |
Colled net o fannau agored |
Ceisiadau a gymeradwywyd ar gyfer ardaloedd newydd o fannau agored mewn lleoliadau ar draws Ardal y Cynllun. |
M3 |
Ardal y Cynllun |
100% o geisiadau wedi eu cymeradwyo lle mae angen yn bodoli lle’u bod yn cyd-fynd ag egwyddorion datblygu |
2010 Asesiad Mannau Agored |
Gwrthod 1 neu fwy o geisiadau dros gyfnod y cynllun lle’u bod yn cyd-fynd ag egwyddorion datblygu. |
Ceisiadau a gymeradwywyd ar gyfer ardaloedd newydd o dir claddu ar safleoedd a ddyrannwyd ac mewn llefydd eraill lle bod angen. |
M3 |
Ardal y Cynllun |
100% o geisiadau wedi eu cymeradwyo lle mae angen yn bodoli |
- |
Gwrthod 1 neu fwy o geisiadau dros gyfnod y cynllun lle’u bod yn cyd-fynd ag egwyddorion datblygu. |
Ceisiadau a gymeradwywyd ar gyfer datblygiadau ysgol newydd sy’n cydymffurfio ag egwyddorion cynllunio. |
M3 |
Ardal y Cynllun |
I’w adolygu yn dilyn gorffen y Prosiect Moderneiddio Ysgolion Cynradd |
AMH. |
Adolygu yn dilyn gorffen y Prosiect Moderneiddio Ysgolion Cynradd yn 2011. |
Adolygu Astudiaeth Adwerthu Conwy |
Polisi Cynllunio a Thîm Ymchwil CBSC |
Ardal y Cynllun |
Wedi’u cwblhau o fewn 12 mis o’u mabwysiadu. |
Ddim yn berthnasol |
Ddim yn berthnasol |
Nifer y datblygiadau adwerthu, swyddfeydd a hamdden dan do o bwys (m2) a ganiatawyd mewn canol trefi fel % o’r holl ddatblygiadau o bwys a ganiatawyd yn Ardal y Cynllun. |
Experian COAD/CBSC/M3 |
Ardal y Cynllun |
90% o ofod llawr (ac eithrio gofod llawr a ganiateir ar barciau adwerthu a busnes a ddyrannwyd a rhai presennol). |
80% neu lai (ac eithrio gofod llawr a ganiateir ar barciau adwerthu a busnes a ddyrannwyd a rhai presennol) |
POLISI STRATEGOL NTE/1 – ‘YR AMGYLCHEDD NATURIOL’ |
|||||
Amcan(ion) |
Amcan Monitro |
||||
AG11. Gostwng y defnydd o ynni trwy leoli a dylunio adeiladau yn ofalus, a hyrwyddo datblygiadau ynni adnewyddadwy lle mae ganddynt y rhagolygon o fod yn ddeniadol yn economaidd ac yn dderbyniol yn amgylcheddol ac yn gymdeithasol. |
Sicrhau bod y datblygiad newydd yn cydymffurfio A’r Rheoliadau Adeiladu a’r targedau cenedlaethol ar gyfer adeiladau newydd. Sicrhau bod datblygiadau mawr yn ceisio darparu 10-25% o’u gofynion ynni o adnoddau adnewyddadwy ar y safle. Cynnal cymeriad agored y parth arfordirol ac ardaloedd lletem las. Gwarchod unrhyw nodweddion o bwysigrwydd archeolegol, hanesyddol neu bensaernïol. Sicrhau fod datblygiadau’n darparu ar gyfer bioamrywiaeth o fewn Ardal y Cynllun. Lle bo’n briodol, bydd disgwyl i unrhyw ddatblygiad newydd asesu, lliniaru am golled a monitro lefelau bioamrywiaeth. Cynnal a gwella statws cadwraeth ffafriol safleoedd dynodedig a’u nodweddion. Sicrhau bod datblygiadau newydd yn darparu draeniad digonol a chynaliadwy. |
||||
AG12. Diogelu a gwella cymeriad ac ymddangosiad arfordir a chefn gwlad heb ei datblygu, safleoedd o bwysigrwydd tirwedd/ cadwraeth a nodweddion o ddiddordeb hanesyddol neu bensaernïol wrth sicrhau bioamrywiaeth a rhywogaethau gwarchodedig. |
|||||
AG14. Hyrwyddo’r defnydd darbodus o adnoddau trwy leihau gwastraff a chynorthwyo wrth ddarparu rhwydwaith integredig o gyfleusterau rheoli gwastraff sy’n gyson ac anghenion yr ardal a’r hierarchaeth gwastraff. |
|||||
Dangosyddion Monitro |
Data Ffynhonnell |
Targedau a Phwyntiau Sbardun |
|||
Ardal |
Targed |
Lefel Sylfaen |
Ardal |
||
Caniatâd a roddwyd ar gyfer datblygiad yr ystyrir sy’n cael effaith negyddol ar LBAP (rhestr llawn) rhywogaethau/ cynefinoedd. |
LBAP, ymgynghori Cefn Gwlad. |
Ardal y Cynllun |
0 |
amh. |
1 caniatad |
Datblygiad yn cael effaith negyddol ar RIG y rhoddwyd caniatâd iddo yn erbyn argymhellion Swyddogion neu sefydliad archeolegol lleol. |
M3 |
Ardal y Cynllun |
0 |
amh. |
1 caniatad |
Datblygiad o fewn lletem werdd (ac eithrio un blaned, annedd menter wledig neu dŷ fforddiadwy ar gyfer angen lleol) a gymeradwywyd yn groes i argymhellion y swyddogion. |
M3 |
Ardal y Cynllun |
0 |
amh. |
1 caniatad |
Cynigion wedi eu cymeradwyo heb Gytundebau Rheolwyr yn groes i argymhellion Swyddogion. |
M3 |
Ardal y Cynllun |
0 |
amh. |
1 caniatad |
Datblygiad mwy na 0.5 ha ar dir amaethyddol Gradd 2 a 3a nad yw’n ddyraniad CDLl. |
M3 |
Ardal y Cynllun |
0 |
amh. |
1 caniatad |
Ceisiadau wedi eu caniatáu yn erbyn argymhellion Swyddogion lle mae effaith niweidiol ar SLA wedi cael ei amlygu. |
M3 / Ymgynghoriad Cadwraeth |
Ardal y Cynllun |
0 |
amh. |
1 caniatad |
Datblygiad o fewn Parth Arfordirol a dderbyniodd ganiatâd yn groes i argymhelliad y swyddogion neu yn groes i Bolisi NTE/1. |
M3 / Ymgynghoriad Cadwraeth |
Parth Arfordirol |
0 |
amh. |
1 caniatad |
Datblygiad tyrbin gwynt ar y tir o fewn SSA yn cyflawni llai na 5MW. |
CBSC, M3 |
SSA |
Pob datblygiad >5MW ac uwch. |
28MW |
1 caniatad islaw 5MW. |
Datblygiad tyrbin gwynt ar y tir o fewn SSA |
CBSC, M3 |
SSA |
28MW (2010) 56MW (2017) 140MW (2022) (yn amodol ar adolygu TAN8). |
28MW |
20% +/- y targed. |
Datblygiad tyrbin gwynt ar y tir mwy na 5MW wedi ei gymeradwyo tu allan i SSA. |
CBSC, M3 |
Ardal y Cynllun |
0 |
amh. |
1 caniatad |
Lefelau BREEAM ar gyfer cyflogaeth a adeiladir o’r newydd heb eu cyflawni. |
BRegs, M3 |
Ardal y Cynllun |
BREEAM ‘da iawn’ ar gyfer datblygiadau gyda arwyneb llawr o 1000m sgwâr neu fwy, neu ar safleoedd 1 hectar neu fwy ac yn cyflawni credydau gorfodol Rhagorol dan Ena 1. – gostyngiad mewn allyriadau CO2 (neu ddiweddariadau pellach) |
amh. |
1 caniatad |
Lefelau CFSH ar gyfer anheddau a adeiladir o’r newydd heb eu cyflawni. |
BRegs, M3 |
Ardal y Cynllun |
CFSH (fersiwn 3) lefel 3 ac 1 credyd dan Ene 1 – Cyfradd Allyriadau Annedd (neu ddiweddariadau pellach) |
amh. |
1 caniatad |
Ceisiadau yn cael caniatad yn erbyn cyngor Swyddogion neu yr SAB i gynnwys SUDS neu ddarpariaeth draenio ddigonol. |
M3 |
Ardal y Cynllun |
Pob datblygiad neu gyngor yr SAB. |
amh. |
1 caniatad |
Ceisiadau yn cael caniatad yn erbyn cyngor Swyddogion neu ymgynghorwyr statudol i gynnwys dulliau cadwraeth dŵr. |
M3/Ymgynghorydd Statudol |
Ardal y Cynllun |
Pob datblygiad |
amh. |
1 caniatad |
Datblygiad newydd o 1,000 m2 neu 10 annedd ddim yn cyflwyno Strategaeth Cadwraeth Dŵr. |
M3 |
Ardal y Cynllun |
Datblygiad o 1,000 m2 neu 10 annedd. |
amh. |
1 caniatad |
Llunio SPG ar Ynni Adnewyddadwy. |
Polisi Cynllunio. |
Ardal y Cynllun |
Cwblhawyd o fewn 12 mis i’w fabwysiadu. |
amh. |
amh. |
Llunio SPG ar yr Amgylchedd Naturiol. |
Polisi Cynllunio. |
Ardal y Cynllun. |
Cwblhawyd o fewn 12 mis i’w fabwysiadu. |
amh. |
amh. |
Cynhyrchu SPG ar ddatblygiadau tyrbinau gwynt ar y tir |
Polisi Cynllunio |
Ardal y Cynllun |
Cwblhawyd o fewn 12 mis i fabwysiadu’r CDLl |
amh. |
amh. |
Datblygiad a ganiatawyd mewn ardaloedd gorlifdir C1 a C2 nad ydynt yn cyflawni pob prawf TAN15 neu argymhellion AAC. |
M3/AAC |
Ardal y Cynllun |
Ni chaniateir unrhyw un |
amh. |
1 caniatâd |
Maint datblygiadau Ynni Adnewyddadwy (YA) a osodwyd mewn Ardaloedd Chwilio Strategol fesul math (TAN8) |
Polisi Cynllunio/DC |
Ardal y Cynllun |
Amlinellwyr y targed yn TAN8, NEP neu PPW |
amh. |
Ddim yn cyflawni’r targed a amlinellwyd yn TAN8, Polisi Ynni Cenedlaethol neu PPW |
Ceisiadau a dderbyniodd ganiatâd sy’n arwain at golli tir mewn SPA, SAC neu SSSI |
Polisi Cynllunio |
Ardal y Cynllun |
Ni chaniateir unrhyw un |
amh. |
1 caniatâd yn arwain at golli ardal. |
Ceisiadau a dderbyniodd ganiatâd yn groes i gyngor Swyddogion neu CCGC y credir sydd â’r potensial o achosi niwed i safle neu rywogaeth a ddiogelwyd. |
M3 |
Ardal y Cynllun |
Ni chaniateir unrhyw un |
amh. |
1 caniatâd |
Nifer o amodau bioamrywiaeth na weithredwyd. |
M3 / DC |
Ardal y Cynllun |
Gweithredwyd pob un |
amh. |
1 amod heb ei weithredu |
Unrhyw effaith negyddol a amlygwyd gan gorff statudol yn ymwneud â diraddio corff dŵr mewn safle Ewropeaidd o ganlyniad i ddatblygiad a hyrwyddir yn CDLl Conwy |
Corff Statudol Allanol |
Ardal y Cynllun |
Ni chaniateir unrhyw un |
amh. |
1 wedi’i ganiatáu |
Unrhyw effaith negyddol a achoswyd mewn ardal awdurdod cyfagos a dynnwyd at sylw corff statudol y credir a achoswyd gan ddatblygiad neu Bolisi yn CDLl Conwy. |
Corff Statudol Allanol |
Ardal y Cynllun |
Ni chaniateir unrhyw un |
amh. |
1 wedi’i ganiatáu |
POLISI STRATEGOL CTH/1 – ‘TREFTADAETH DDIWYLLIANNOL’ |
|||||
Amcan(ion) |
Amcan Monitro |
||||
AG6. Datblygu cyrchfannau canol tref bywiog ar gyfer siopa, diwylliant, adloniant a hamdden trwy wella bywiogrwydd, hyfywdra ac apêl Llandudno fel canolfan fanwerthu isranbarthol strategol, ac adfywio canol tref Bae Colwyn a chanolfannau siopau eraill. |
Sicrhau bod asedau treftadaeth Conwy a’r iaith Gymraeg yn cael eu gwarchod neu lle bo’n bosibl, yn cael eu gwella trwy ddatblygu cynigion sy’n effeithio arnynt. Agwedd allweddol o fonitro yn y bennod hon fydd cynhyrchu a chymeradwyo SPG sy’n darparu’r manylion angenrheidiol i arwain cynigion datblygu, a hefyd effeithlonrwydd bob polisi o ran darparu amcanion yr LDP a chynnal a gwella ansawdd yr amgylchedd ddiwylliannol a hanesyddol. |
||||
AG10. Sicrhau bod dylunio da, cynaliadwy, cynhwysol yn cael ei ddarparu sy’n cynnwys cyfle i ddylunio cyfleoedd allan o drosedd i ddatblygu cymunedau cryf, diogel ac sy’n nodedig yn lleol ac annog y boblogaeth ieuengach i aros yno a dychwelyd i’r ardal. |
|||||
AG12. Diogelu a gwella cymeriad ac ymddangosiad arfordir a chefn gwlad heb ei datblygu, safleoedd o bwysigrwydd tirwedd/ cadwraeth a nodweddion o ddiddordeb hanesyddol neu bensaernïol wrth sicrhau bioamrywiaeth a rhywogaethau gwarchodedig. |
|||||
AG13. Diogelu a gwella hygyrchedd i wasanaethau a chyfleusterau hanfodol gan gynnwys mannau agored, iechyd, addysg a hamdden. |
|||||
AG16. Sicrhau bod datblygiad yn cefnogi a chynnal lles tymor hir yr iaith Gymraeg a rhinweddau a nodweddion ieithyddol cymunedau yn Ardal y Cynllun. |
|||||
Dangosyddion Monitro |
Data Ffynhonnell |
Targedau a Phwyntiau Sbardun |
|||
Ardal |
Targed |
Lefel Sylfaen |
Ardal |
||
Apeliadau a enillwyd gan LPA yn dilyn gwrthodiadau o dan Bolisi CTH/3 yn ymwneud â datblygiad sy’n cael effaith niweidiol ar adeiladau a strwythurau o bwysigrwydd lleol. |
Penderfyniadau Apêl PINS. |
Ardal y Cynllun |
100% y flwyddyn |
- |
85% y flwyddyn |
Nifer o geisiadau a gymeradwywyd sy’n cael effaith niweidiol ar safleoedd archaeolegol hysbys a safleoedd o bwysigrwydd archaeolegol sydd heb eu cofrestru. |
Ymatebion ymgynghori CPAT/GAT / M3. |
Ardal y Cynllun |
Dim wedi ei roi. |
1 caniatâd wedi ei roi. |
|
Tir a ddynodwyd fel ardaloedd cadwraeth. |
Adain Gadwraeth. |
Ardal y Cynllun |
Cadw 100% o’r dynodiadau presennol sydd wedi’u hadolygu ers mabwysiadu’r CDLl. |
25 ardal ddynodedig |
Colli 1 dynodiad (gan gynnwys dad-ddynodiadau) a/neu adolygiad sylweddol drwy leihau’r ardal o dair neu fwy o ardaloedd cadwraeth |
Nifer o adeiladau rhestredig neu strwythurau a gafodd eu dymchwel. |
M3, Adain Gadwraeth. |
Ardal y Cynllun |
Dim mwy na 5 yn ystod cyfnod y cynllun |
- |
Mwy na 5 erbyn neu cyn 2015. |
Cais am ddatblygiad sy’n effeithio ar adeiladau neu strwythurau rhestredig o fewn ardal gadwraeth wedi’u caniatáu yn erbyn argymhellion y Swyddog Cadwraeth. |
M3, Adain Gadwraeth. |
Ardal y Cynllun |
Dim wedi ei roi |
- |
1 caniatâd wedi ei roi |
Ceisiadau am ddatblygiad sy’n effeithio ar adeiladau neu strwythurau o bwysigrwydd lleol wedi’u caniatáu yn erbyn argymhellion y Swyddog Cadwraeth. |
M3, Adain Gadwraeth. |
Ardal y Cynllun |
Dim wedi ei roi |
- |
1 caniatâd wedi ei roi |
Datblygiadau galluogol a ganiatawyd sy’n cydymffurfio â gofynion polisi CTH/4 ac yn hwyluso cynnal ased hanesyddol. |
M3 |
Ardal y Cynllun |
Yr holl geisiadau perthnasol wedi eu caniatáu |
am. |
Un cais perthnasol neu fwy yn cael ei ganiatáu na sy’n cynnal ased treftadaeth |
SPG wedi’i gynhyrchu ar Faterion Cyffredinol o fewn Ardaloedd Cadwraeth Preswyl a Masnachol. |
Adain Gadwraeth |
Ardal y Cynllun |
Y cyfan wedi ei gwblhau o fewn 12 mis o’i fabwysiadu. |
amh. |
amh. |
SPG wedi ei lunio ar Adeiladau Rhestredig. |
Adain Gadwraeth |
Ardal y Cynllun |
Cwblhau o fewn 18 mis o’i fabwysiadu. |
amh. |
amh. |
Atodiad i’r SPG Ardal Gadwraeth - Llandudno |
Adain gadwraeth |
Ardal gadwraeth Llandudno |
Wedi’i gwblhau o fewn 12 mis o’i fabwysiadu |
n/a |
n/a |
Atodiad i’r SPG Ardal Gadwraeth – Conwy |
Adain gadwraeth |
Ardal gadwraeth Conwy a Safle Treftadaeth y Byd |
Wedi’i gwblhau o fewn 18 mis o’i fabwysiadu |
n/a |
n/a |
Atodiad i’r SPG Ardal Gadwraeth – ardaloedd cadwraeth sy’n weddill |
Adain gadwraeth |
Ardaloedd cadwraeth eraill |
Wedi’i gwblhau o fewn 24 mis o’i fabwysiadu |
n/a |
n/a |
SPG wedi ei lunio ar Alluogi Datblygu. |
Adain Gadwraeth |
Ardal y Cynllun |
Cwblhau o fewn 18 mis o’i fabwysiadu. |
amh. |
amh. |
Nifer y safleoedd ar hap a gyflawnwyd mewn Ardaloedd Strategaeth Datblygu Trefol a Gwledig |
JHLAS/M3 |
Ardal y Cynllun |
Ateb targedau a gynhwysir yn Nhabl 4 HOU1a |
amh. |
Wedi rhagori ar dargedau yn Nhabl 4 |
Ceisiadau a gyflwynwyd gyda Datganiadau Cymunedol ac Ieithyddol, Asesiadau Effaith Cymunedol ac Ieithyddol a Datganiadau Lliniaru yn unol â throthwy’r Polisi yn CTH/5. |
DC ac ymgynghori gyda pholisi ar geisiadau perthnasol |
Ardal y Cynllun |
100% yn unol â throthwyon |
0 (ddim yn cael ei ddefnyddio ar hyn o bryd). |
Islaw 100% lle mae trothwyon yn berthnasol |
Ceisiadau ar safleoedd tai a ddyrennir yn Abergele a Llanrwst, a safle defnydd cymysg yn Nolgarrog, wedi’u cyflwyno gyda ‘Datganiad Lliniaru’ iaith Gymraeg. |
DC ac ymgynghori gyda pholisi ar geisiadau perthnasol |
Ardaloedd y cyfeiriwyd atynt |
100% yn unol â Pholisi CTH/5 |
amh. |
Islaw 100% |
Asesu effeithlonrwydd y Datganiadau Cymunedol ac Ieithyddol, Asesiadau Effaith Cymunedol ac Ieithyddol a’r Datganiadau Lliniaru a gyflwynwyd. |
Astudiaeth ddwyflynyddol. |
Ardal y Cynllun – ardaloedd o fewn a thu allan i’r lefelau trothwy. |
Defnydd effeithiol o Ddatganiadau a/ neu asesiadau effaith wrth benderfynu ar geisiadau cynllunio a diogelu mesurau lliniaru lle bo’n briodol. Asesu addasrwydd gwybodaeth yr wybodaeth a ofynnwyd amdani a’r lefelau trothwy ac amlygu unrhyw sialensiau o ran darparu polisi. |
Dim (ansawdd ansoddol, gan gynnwys arolygion preswylwyr tai) – cynnal yr astudiaeth gyntaf ddwy flynedd ar ôl mabwysiadu. |
Gan fod y gwaith o natur ansoddol, bydd adolygiadau a deilliannau yn cael ei bennu gan ganlyniadau’r astudiaeth a bydd yn plethu mewn â’r AMR. |
POLISI STRATEGOL STR1 – ‘CLUDIANT CYNALIADWY’ |
|||||
Amcan(ion) |
Amcan Monitro |
||||
AG1. Sicrhau lefelau twf poblogaeth cynaliadwy. |
Sicrhau bod gwybodaeth ddigonol yn cael ei ddarparu gyda cheisiadau i ddangos nad oes yna unrhyw effeithiau niweidiol ar ddiogelwch priffyrdd. Diogelwch cyfleusterau llwythi yng Nghyffordd Llandudno a Phenmaenmawr er mwyn sicrhau na fyddai unrhyw ddatblygiad newydd yn cael effaith ar y defnydd o’r tir yn y dyfodol. Cefnogi cynigion sy’n gwella gwasanaethau a chyfleusterau hanfodol, gan gynnwys mannau agored, lotments, iechyd, addysg a hamdden. |
||||
AG7. Canolbwyntio datblygiad ar hyd rhwydweithiau isadeiledd presennol a bwriedig, ac yn benodol mewn mannau sy’n gyfleus i gerddwyr, beicwyr a chludiant cyhoeddus. |
|||||
AG9. Annog symud effeithlon a chydnabod y rôl strategol y bydd yr A55, a choridorau rheilffyrdd yn ei chwarae wrth fodloni anghenion datblygu Ardal y Cynllun a rhoi sylw penodol i leoliadau datblygu sy’n gyfleus i gerddwyr, cerdded a beicwyr yng Nghonwy i gynorthwyo gostwng gollyngiadau CO2 cludiant. |
|||||
AG13. Diogelu a gwella hygyrchedd i wasanaethau a chyfleusterau hanfodol gan gynnwys mannau agored, iechyd, addysg a hamdden. |
|||||
Dangosyddion Monitro |
Data Ffynhonnell |
Targedau a Phwyntiau Sbardun |
|||
Ardal |
Targed |
Lefel Sylfaen |
Lefel Sbardun |
||
Cymeradwyo caniatâd cynllunio na sy’n cydymffurfio â LDP2:Safonau Parcio SPG. |
M3 |
Ardal y Cynllun |
Fesul canllaw LDP2 SPG |
amh. |
1 caniatad |
Datblygiad wedi ei gymeradwyo heb Asesiad Cludiant, Cynllun Teithio neu Archwiliad Diogelwch Ffyrdd yn groes i argymhelliad y Swyddogion neu’r ymgynghorydd statudol. |
M3 |
Ardal y Cynllun |
0 |
amh. |
1 caniatad |
Datblygiad wedi ei gymeradwyo heb gyfraniad ariannol tuag at welliannau yn yr isadeiledd yn groes i argymhelliad y Swyddogion neu’r ymgynghorydd statudol. |
M3 |
Ardal y Cynllun |
0 |
amh. |
1 caniatad |
Datblygiad wedi ei gymeradwyo yn groes i argymhelliad y Swyddogion neu’r ymgynghorydd statudol a byddai’n cael effaith niweidiol ar y defnydd o’r llwythi rheilffordd a diogelwch yng Nghyffordd Llandudno a Phenmaenmawr. |
M3 |
Safle Penodol |
0 |
amh. |
1 caniatad |
Datblygiad wedi ei gymeradwyo yn groes i argymhelliad y Swyddogion neu’r ymgynghorydd statudol sy’n cael effaith negyddol ar wasanaethau a chyfleusterau hanfodol, gan gynnwys mannau agored, lotments, iechyd, addysg a hamdden. |
M3 |
Ardal y Cynllun |
0 |
amh. |
1 caniatad |
POLISI STRATEGOL MWS/1 – ‘MWYNAU A GWASTRAFF’ |
|||||
Amcan(ion) |
Amcan Monitro |
||||
AG14. Hyrwyddo’r defnydd darbodus o adnoddau trwy leihau gwastraff a chynorthwyo wrth ddarparu rhwydwaith integredig o gyfleusterau rheoli gwastraff sy’n gyson ac anghenion yr ardal a’r hierarchaeth gwastraff. |
Cadw cydbwysedd rhwng yr angen i ddarparu a diogelu adnoddau mwynau a chyfleusterau rheoli gwastraff i gwrdd â thargedau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol, a hynny ar yr un pryd â sicrhau nad yw anghenion y defnyddwyr tir presennol ac ansawdd yr amgylchedd naturiol ac adeiledig yn cael eu cyfaddawdu. |
||||
AG15. Cyfrannu at anghenion mwynol rhanbarthol a lleol yn gynaliadwy. |
|||||
Dangosyddion Monitro |
Data Ffynhonnell |
Targedau a Phwyntiau Sbardun |
|||
Ardal |
Targed |
Lefel sylfaen |
Ardal |
||
Mae maint yr agregau tir cynradd a ganiateir yn unol â'r Datganiad Technegol Rhanbarthol ar gyfer Agregau a fynegir fel % o gyfanswm y capasiti sy'n ofynnol fel y nodwyd yn y Datganiad Technegol Rhanbarthol. |
Adroddiad Monitro Blynyddol Gweithgor Agregau Rhanbarthol Gogledd Cymru |
Ardal y Cynllun |
Cynnal banc tir 10 mlynedd o agregau wrth gefn a ganiateir ar gyfer creigiau caled |
68 mlynedd |
Llai na 10 mlynedd o agregau wrth gefn a ganiateir yn parhau |
Gogledd Cymru |
Cynnal banc tir 7 mlynedd o agregau wrth gefn a ganiateir ar gyfertywod a graean |
23 mlynedd (cyfanswm ar gyfer Gogledd Cymru) |
Llai na 7 mlynedd o agregau wrth gefn a ganiateir yn parhau |
||
Nifer o ganiatadau cynllunio wedi ei roi ar gyfer tynnu mwynau agregau heb fod yn unol â pholisi MWS/2 |
M3 |
Ardal y Cynllun |
0 caniatâd wedi ei roi. |
0 caniatâd wedi ei roi. |
1 caniatâd wedi ei roi sydd heb ei gyfiawnhau yn unol â’r Polisi. |
Nifer o ganiatadau cynllunio wedi ei roi i ddiogelu dynodiadau creigiau caled a thywod a graean heb fod yn unol â Pholisi MWS/3. |
M3 |
Ardal y Cynllun |
0 caniatâd wedi ei roi. |
0 caniatâd wedi ei roi. |
1 caniatâd wedi ei roi sydd heb ei gyfiawnhau yn unol â’r Polis |
Nifer o ganiatadau cynllunio ar gyfer datblygiadau amhriodol, e.e. anheddau/ gwaith mwynau, a ganiatawyd yn y Dynodiadau Parth Byffer Chwareli a’r Parth Byffer Tirlenwi. |
M3 |
Ardal y Cynllun |
0 caniatâd wedi ei roi. |
0 caniatâd wedi ei roi. |
1 caniatâd wedi ei roi. |
Cyfraddau ar gyfer ailgylchu, paratoi ailddefnyddio a chompostio i’w cymharu â thargedau cenedlaethol (Mesurau Gwastraff Cymru 2010). |
Adran Rheoli Gwastraff CBSC |
Ardal y Cynllun |
2012/13 = 52% 2015/16 = 58% 2019/22 = 64% |
0 |
2012/13 ≤ 45% 2015/16 ≤ 55% 2019/20 ≤ 60% |
Faint o gapasiti rheoli gwastraff a ddatblygwyd yn ardal y Cynllun, neu tu allan i ardal y Cynllun i ymdrin â gwastraff sy'n codi yng Nghonwy |
M3 |
Ardal y Cynllun a safleoedd a ddatblygwyd y tu allan i Ardal y Cynllun mewn partneriaeth â Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy. |
50% capasiti a ganiatawyd erbyn 2015. |
0 |
Llai na 50% o gapasiti a ganiatwyd erbyn 2015, naill ai o fewny Ardal y Cyllun, neu y tu allan i'r Ardal y Cynllun mewn partneriaeth gydag awdurdodau lleol eraill Gogledd Cymru , fel cyfran o gapasiti sy'n ofynnol gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy. |