Cynllun Datblygu Lleol Conwy 2007 - 2022

Am gyfarwyddiadau ar sut I ddefnyddio’r system ac I wneud sylwadau, gwelwch ein canllaw cymorth.

4.9 STRATEGAETH MWYNAU A GWASTRAFF

4.9.1 Amcanion Gofodol

AG14, AG15.

4.9.2 Datganiad Strategol Mwynau a Gwastraff

4.9.2.1 Mae’r Cyngor yn cydnabod fod angen ymagwedd strategol i sicrhau cyflenwad agregau yn y tymor hir. Defnyddiwyd y Datganiad Technegol Rhanbarthol Gogledd Cymru (NWRTS), (2009) fel canllaw ar gyfer y CDLl ar faterion fel hyn, ac mae’r ddogfen hon o’r farn nad oes angen dynodi unrhyw dir ar gyfer craig galed yng Nghonwy ar hyn o bryd, oni bai fod amgylchiadau technegol neu amgylcheddol penodol a fyddai’n cyfiawnhau hynny. Mae’r Cyngor o’r farn nad oes unrhyw amgylchiadau a fyddai’n cyfiawnhau dynodiadyn Ardal y Cynllun. Yn ogystal â chwareli craig galed sylweddol, bydd adnoddau graean a thywod sylweddol yn cael eu diogelu hefyd.


4.9.2.2 Cynigir lleiniau diogelu o amgylch chwareli i ddiogelu amwynder trigolion a defnyddwyr tir sensitif eraill, ac i sicrhau bod cloddwyr mwynau yn cynnal eu gweithgareddau arferol heb eu cyfyngu gan bresenoldeb gormod o dirfeddianwyr sensitif.


4.9.2.3 Mae sawl peth yn cymell newid o ran sut rydym yn rheoli ein gwastraff yn well. Mae'r rhain yn cynnwys Cyfarwyddebau Ewropeaidd a Chanllawiau Cenedlaethol, yn ogystal â gweithio ar lefel rhanbarthol, yn creu newid sylweddol mewn rheoli gwastraff. Mae’r cynnydd mewn technoleg hefyd, ynghyd â chyflwyno polisïau ac arferion, yn golygu nad yw llawer o gyfleusterau rheoli gwastraff yn edrych ddim gwahanol ar y tu allan i unrhyw adeilad diwydiannol arall, ac maent yn ymwneud â’r prosesau diwydiannol neu weithgaredd cynhyrchu ynni nad ydynt yn wahanol i lawer o brosesau diwydiannol eraill o ran eu heffaith neu’r ffordd maent yn cael eu gweithredu.


4.9.2.4 Swyddogaeth yr awdurdod cynllunio lleol yw sicrhau fod digon o dir ar gael mewn lleoliadau addas ar gyfer cyfleusterau rhanbarthol (lle bo angen hynny) a chyfleusterau lleol. Ni ddylai cynigion ar gyfer y safle effeithio’n niweidiol ar gyfanrwydd safleoedd Ewropeaidd neu wrthdaro â pholisïau Cynllun eraill. Dylai cyfleusterau gwastraff, fel y nodwyd yng Nghynllun Gofodol Cymru a Nodyn Cyngor Technegol (TAN) 21: Gwastraff, ddilyn egwyddor agosatrwydd (h.y. dylai lleoliad y cyfleuster fod mor agos a bo modd i ffynhonnell y gwastraff). Bydd canlyniad Prosiect Trin Gwastraff Gwaddodol Gogledd Cymru hefyd yn chwarae rhan mewn penderfynu ar leoliad a’r math o dechnoleg a ddefnyddir ar lefel rhanbarthol, trwy gaffael gallu delio â gwastraff bwrdeistrefol gwaddodol sy’n cronni yn y pum awdurdod partner.
 

POLISI STRATEGOL MWS/1 – MWYNAU A GWASTRAFF

Bydd y Cyngor yn sicrhau bod darpariaeth ddigonol o adnoddau mwynol a chyfleusterau rheoli gwastraff, wrth ddiogelu’r amgylchedd naturiol ac adeiledig trwy:

  1. Ddiogelu cronfeydd a ganiateir o graig galed ym Mhenmaenmawr, Raynes (Llysfaen), Llanddulas a Llan San Siôr ac adnoddau ychwanegol o graig galed fel amlygwyd ar y map cynigion yn unol â Pholisïau MWS/2 - ‘Mwynau’ a MWS/3 - ‘Diogelu Craig Galed, a Thywod ac Adnoddau Graean’;
  2. Caniatáu cloddio mwynau agregau yn y dyfodol yn unig ble mae angen cynnal stoc o gronfeydd wrth gefn a ganiateir yn unol â Pholisi MWS/2;
  3. Ddynodi ardaloedd diogelu o amgylch chwareli i ddiogelu amwynder a sicrhau nad yw gweithgareddau mwynau wedi’u cyfyngu yn ormodol gan ddefnyddwyr tir eraill yn unol â Pholisi MWS/4 – ‘Lleiniau Diogelu Chwareli’;
  4. Ddiogelu adnoddau graean a thywod fel amlygwyd ar y map cynigion yn unol â Pholisi MWS/3;
  5. Nodi Llanddulas a Gofer (a ddangosir ar y Prif Ddiagram) fel lleoliadau ar gyfer cyfleusterau rheoli gwastraff yn unol â Pholisi MWS/6 – ‘Lleoliadau ar gyfer Cyfleusterau Rheoli Gwastraff’;
  6. Ystyried addasrwydd tir diwydiannol presennol a/ neu dir a ddiogelwyd ar gyfer cludiant â thrên ar gyfer cyfleusterau rheoli gwastraff newydd, sy’n cyd-fynd â defnydd cyfagos, yn unol â Pholisi MWS/7 – ‘Defnyddio Tir Diwydiannol ar gyfer Cyfleusterau Rheoli Gwastraff’, STR/6 - ‘Cludo â Thrên’ ac EMP/3 – Datblygiadau Swyddfa a Diwydiannol B1, B2 a B8 Newydd ar Safleoedd na Ddyrannwyd’;
  7. Gwrdd â’r angen ychwanegol yn y dyfodol ar gyfer cyfleusterau rheoli gwastraff newydd yn unol â Pholisi MWS/5 – ‘Cynigion ar gyfer Rheoli Gwastraff;
  8. Ddynodi llain ddiogelu tirlenwi o gwmpas safle tirlenwi Llanddulas er mwyn sicrhau mai dim ond datblygiadau priodol gaiff eu caniatáu yn y safle hwn yn unol â Pholisi MWS/8 – ‘Parth Byffer Tirlenwi’.

4.9.3 Mwynau

Polisi MWS/2 – MWYNAU

  1. Bydd y chwareli presennol ym Mhenmaenmawr, Raynes (Llysfaen) a Llan San Siôr yn darparu cyfraniad y Ardal y Cynllun i gyflenwad craig galed ranbarthol.
  2. Bydd ceisiadau ar gyfer cloddio mwynau agregau yn y dyfodol mewn mannau eraill gan gynnwys estyniadau i chwareli presennol o fewn Ardal y Cynllun ond yn cael ei ganiatáu pan fo angen cynnal stoc o gronfeydd wrth gefn a ganiateir gan ystyried ffigyrau Gweithgor Agregau Rhanbarthol Gogledd Cymru, neu, pan nad oes ffigwr yn bodoli, angen amlwg y diwydiant dan sylw.


4.9.3.1 Darperir Polisi Cenedlaethol gan Bolisi Cynllunio Mwynau Cymru (MPPW) a Nodyn Cynghori Technegol 1 Mwynau: Agregau (MTAN1). Mae’r NWRTS yn rhoi canllaw ar gyfer CDLl ynglŷn â chyflenwi agregau yn y tymor hir.


4.9.3.2 Mae tair chwarel weithredol yng Nghonwy, ac mae bob un ohonynt yn cynhyrchu deunyddiau adeiladu (o’r enw agregau). Mae Chwarel Penmaenmawr yn cynhyrchu craig igneaidd, sydd hynod o addas fel balast rheilffyrdd ac ar gyfer deunyddiau eraill. Mae Chwareli Raynes ger Llysfaen a Llan San Siôr ger Abergele yn cynhyrchu calchfaen, sy’n caelei ddefnyddio, er enghraifft, wrth wneud concrit. Mae Chwareli Raynes a Llan San Siôr wedi eu cyfyngu o ran maint eu hestyniadau ffisegol, ond mae gan y tair chwarel ganiatâd cynllunio sy’n estyn heibio cyfnod y cynllun.


4.9.3.3 Yn ogystal â’r chwareli gweithredol, mae Chwarel Llanddulas yn cynnwys adnoddau calchfaen o ansawdd uchel. Mae’r rhan fwyaf o’r chwarel yn safle tirlenwi, tra bo cytundeb cyfreithiol yn gwahardd cloddio i ddibenion agregau cyffredinol.


4.9.3.4 Mae’r NWRTS yn nodi nad oes angen dynodi tir ar gyfer craig galed yng Nghonwy ar hyn o bryd, oni bai fod amgylchiadau technegol neu amgylcheddol penodol a fyddai’n cyfiawnhau hynny. Mae’r Cyngor o’r farn nad oes unrhyw gyfiawnhad ar hyn o bryd ar gyfer dyrannu tir yn Ardal y Cynllun. Fodd bynnag, er mwyn caniatáu rhywfaint o hyblygrwydd ar gyfer unrhyw newid posibl mewn amgylchiadau dros gyfnod y Cynllun, mae'n bosibl y caniateir cloddio yn y dyfodol am adnoddau agregau lle mae angen cynnal cronfeydd wrth gefn a ganiateir. Bydd hyn yn cael ei asesu yn erbyn ffigurau Gweithgor Agregau Rhanbarthol Gogledd Cymru a'r MPPW a MTAN1. Cydnabyddir mewn rhai achosion efallai na fydd ffigyrau yn bodoli, felly, dylai cynigion roi sylw i angen y diwydiant dan sylw.


4.9.3.5 Maeadneuon o dywodfaen gyda photensial i'w defnyddio fel cerrig ffyrdd PSV (Gwerth Cerrig Sglein) yn Ardal y Cynllun. Hyd yma, ni fu unrhyw bwysau i gloddio am y deunydd hwn yn Ardal y Cynllun ac mae MTAN 1 yn nodi De Cymru fel un o'r prif ragolygon ar gyfer cloddio. Felly nid oes dyraniad yn cael ei wneud yn y CDLl, fodd bynnag, efallai cyfiawnheir cynigion ar gyfer cloddio’r deunydd hwn ble mae’r cynnig yn bwriadu diwallu manyleb hynod uchel na ddiwallir ar hyn o bryd yn Ardal y Cynllun.


4.9.3.6 Mae’r MPPW yn cefnogi datblygu tyllau benthyg, a fyddai’n gwasanaethu prosiectau adeiladu penodol mewn lleoliadau priodol. Mae hefyd yn cydnabod yr angen am chwareli ar raddfa fechan i ddarparu cerrig lleol, lle byddai’r rhain yn cadw cymeriad yr amgylchedd adeiledig lleol. Mae tyllau benthyg a chwareli cerrig ar raddfa fechan felly tu allan i bwrpas Polisi MWS/2.


4.9.3.7 Hefyd, mae MTAN1 yn cynnwys canllawiau ar ddelio ag effeithiau penodol fel sŵn, llwch a ffrwydro, adfer a defnyddio defnyddiau eilradd, fel gwastraff o ddymchwel adeiladau.


4.9.3.8 Mae MTAN1 yn mynnu hefyd bod awdurdodau cynllunio’n asesu ac adolygu tebygolrwydd cloddio yn y dyfodol ar safleoedd sy’n segur erstalwm ac nad ydynt wedi cael eu defnyddio am 10 mlynedd. Ar hyn o bryd nid oes unrhyw safle yng Nghonwy gyda defnyddiau wrth gefn a ganiateir sydd wedi bod yn segur yn ystod y cyfnod hwn. Petai cyfnod unrhyw safle yn hwy na deng mlynedd a bod yr Awdurdod Cynllunio’n credu ei fod yn annhebygol y bydd rhagor o gloddio yno, bydd yn ystyried cyflwyno gorchymyn gwahardd. Pwrpas gorchymyn gwahardd yw sefydlu’n ddiamheuaeth fod y datblygiad mwynau wedi darfod ac ni ellir ailddechrau cloddio heb roi caniatâd cynllunio newydd, ac i sicrhau fod y tir yn cael ei adfer.

4.9.4 Diogelu Creigiau Caled A Thywod Ac Adnoddau Graean

Polisi MWS/3 – DIOGELU CREIGIAU CALED A THYWOD AC ADNODDAU GRAEAN

  1. Mae’r adnoddau a chyfleusterau perthnasol canlynol wedi’u cynnwys o fewn y dynodiad Craig Galed wedi’i Diogelu neu Dywod a Graean:
  1. Y creigiau caled wrth gefn a ganiateir yn Chwarel Penmaenmawr, gan gynnwys mannau prosesu, rheilffordd a dolen gludo;
  2. Y creigiau caled wrth gefn a ganiateir yn Chwarel Raynes, gan gynnwys mannau prosesu a’r mannau lle leolir y jeti a’r ddolen gludo;
  3. Y creigiau caled wrth gefn a ganiateir yn Chwarel Llanddulas (y tu allan i’r safle tirlenwi), gan gynnwys y mannau lle lleolir yr hen jeti a’r hen ddolen gludo.
  4. Y creigiau caled wrth gefn a ganiateir yn Chwarel Llan San Siôr, gan gynnwys mannau prosesu;
  5. Creigiau caled ychwanegol, fel nodwyd ar y Map Cynigion.
  6. Adnoddau tywod a graean fel nodwyd ar y Map Cynigion.
  1. Ni fydd caniatâd cynllunio yn cael ei roi ar gyfer unrhyw ddatblygiad o fewn y dynodiad Craig Galed neu Dywod a Graean wedi’i diogelu a allai yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol niweidio hyfywdra gweithio’r adnoddau hyn yn y tymor hir oni bai:
  1. Gellir dangos bod yr angen am ddatblygiad yn bwysicach na'r angen i ddiogelu'r adnoddau mwynau; neu
  2. Lle na fyddai datblygiad o'r fath yn cael effaith sylweddol ar hyfywedd y mwynau y gweithir arnynt, neu
  3. Lle mae’r mwynau yn cael eu cloddio cyn datblygu.
  1. Mewn achosion lle nad yw ansawdd a dyfnder craig galed a ddiogelir neu adnoddau tywod a graean wedi ei brofi, gallai mathau eraill o ddatblygu fod yn unol â'r dull diogelu ar yr amod bod yr ymgeisydd yn cyflwyno tystiolaeth, fel samplau twll turio, i ddangos na fyddai unrhyw adnoddau craig galed neu dywod a graean â hyfywdra masnachol yn cael eu heffeithio.


4.9.4.1 Mae’r Ddatganiad Technegol Rhanbarthol yn argymell polisi diogelu penodol ar gyfer Conwy. Mae’r polisi hwn yn gweithredu’r argymhelliad hwnnw ac yn diogelu’r adnoddau mwynau a nodwyd ar gyfleusterau cludiant a phrosesu cysylltiedig i sicrhau eu bod yn parhau i fod ar gael. Nidyw tywod a graean yn cael ei gynhyrchu ar hyn o bryd yn Ardal y Cynllun, fodd bynnag, mae data o Arolwg Daearegol Prydain wedi nodi adnoddau mewn lleoliadau amrywiol ar draws Ardal y Cynllun. Mae Papur Cefndir 29 – ‘Diogelu Adnoddau Agreg’ yn darparu cyfiawnhad llawn ar gyfer y dull diogelu. Pwysleisir bod y polisi hwn yw’n sefydlu rhagdybiaeth o blaid rhoi caniatâd cynllunio ac yn hytrachbod presenoldeb y mwynau yn cael ei ystyried wrth asesu a oes modd i ddatblygiad arall ddigwydd.


4.9.4.2 Byddai rhai mathau o ddatblygiadau yn cael dim neu ychydig iawn o effaith ar yr adnodd wedi’i ddiogelu, nail ai oherwydd eu bod yn berthnasol i ddefnydd dros dro wedi’i gyfyngu gan amser neu oherwydd eu bod yn cynnwys graddfa gymharol isel o fuddsoddiad cyfalaf (fel traciau fferm), neu oherwydd bod datblygiadau presennol yn yr un lleoliad yn golygu'r un faint o gyfyngiadau neu fwy o gyfyngiadau ar y posibilrwydd o waith mwynau. Mae’r rhain yn cynnwys:

  1. datblygiad deiliad tŷ sy’n gysylltiedig â’r mwynhad o anhedd-dŷ presennol;
  2. datblygiad tai mewnlenwi rhwng anheddau presennol;
  3. anheddau newydd, pan fo’r annedd presennol yn cadw hawl defnydd preswyl;
  4. adeiladau amaethyddol newydd (gan gynnwys pyllau slyri ayb) ac estyniadau ar adeiladau amaethyddol presennol o fewn buarth presennol, neu pan fyddai adeilad amaethyddol newydd yn cymryd lle adeilad amaethyddol presennol ar yr un safle;
  5. traciau mynediad amaethyddol;
  6. cynigion ar gyfer y defnydd dros dro o dir (e.e. safleoedd carafannau, cyfleusterau compostio) pan fo amod yn gosod dyddiad terfyn penodol ar y defnydd hwnnw, a phan ceir gwared ag unrhyw ddatblygiad gweithredol perthnasol ar ôl darfod y defnydd hwnnw.


4.9.4.3 Gan nad yw mapio daearegol a geomorffoleg yn wyddor fanwl gywir, nid yw’r Map Cynigion yn nodi llain ddiogelu ar wahân o amgylch y dynodiad Diogelu Tywod a Graean neu o amgylch yr adnoddau yn y dynodiad Craig Galed wedi’i Diogelu nad oes ganddynt ganiatâd cynllunio cyfredol ar gyfer gwaith mwynau.

4.9.5 Lleiniau Diogelu Chwareli

Polisi MWS/4 – LLEINIAU DIOGELU CHWARELI

Bydd rhagdybiaeth yn erbyn datblygiad amhriodol o fewn y lleiniau diogelu chwareli.


4.9.5.1 Mae dau bwrpas i lain ddiogelu. Un yw diogelu amwynder trigolion a defnyddwyr tir sensitif eraill; a’r llall yw sicrhau fod gweithredwyr mwynau’n gallu gweithio’n arferol heb gyfyngu arnynt gan bresenoldeb defnyddwyr tir sensitif. Yn y polisi hwn, mae ‘datblygu anaddas’ yn cynnwys gweithio mwynau (o fewn y llain ddiogelu) a defnydd tir y gellir effeithio arnynt (mae hyn yn cynnwys yr holl geisiadau am ddatblygiadau preswyl (ac eithrio deiliad tŷ), cyflogaeth a thwristiaeth a chyfleusterau cymunedol). Dylai ceisiadau ar gyfer y mathau hyn o ddatblygiad yn y lleiniau diogelu hyn gael eu dwyn i sylw Swyddog Iechyd yr Amgylchedd y Cyngor, Cyfoeth Naturiol Cymru a gweithredwyr y chwarel. Byddai cynigion a fyddai'n arwain at niwed sylweddol i amwynder neu ddiogelwch, neu a fyddai'n cyfyngu’n annerbyniol ar weithrediad safle chwarel, yn cael eu gwrthod. Mae MTAN1 yn argymell y dylai’rlleiniau diogelu fel arfer fod o leiaf yn 200m o amgylch pob ardal weithredol, ar gyfer tywod a graean y pellter a argymhellir yw 100m. Yng Nghonwy, nid yw bob amser yn bosibl cyflawni’r pellter hwn, oherwydd agosatrwydd terfynau aneddiadau presennol. Dangosir hyd a lled y lleiniau diogelu ar Fap y Cynigion.

4.9.6 Cynigion Ar Gyfer Rheoli Gwastraff

Polisi MWS/5 – CYNIGION AR GYFER RHEOLI GWASTRAFF

Caniateir cynigion ar gyfer ddatblygu rheoli gwastraff, gan gynnwys newid ac estyn cyfleusterau presennol, dim ond lle :

  1. Bod y cais yn ateb angen a nodwyd yng Nghynllun Gwastraff Rhanbarthol Gogledd Cymru, neu fod angen ar lefel lleol;
  2. Ni ellir ateb yr angen drwy gyfleusterau rheoli gwastraff presennol neu gyfleusterau a gymeradwywyd neu fod y gweithgarwch arfaethedig yn anaddas yn y lleoliadau hynny;
  3. Lle bo’n bosibl, bod y cais yn adennill gwerth o’r gwastraff;
  4. Fod y cais yn cyd-fynd â Pholisïau Strategol NTE/1 –‘Yr Amgylchedd Naturiol’, a CTH/1 – ‘Treftadaeth Ddiwylliannol' a’r Egwyddorion Datblygu.


 

4.9.7 Lleoliadau Ar Gyfer Cyfleusterau Rheoli Gwastraff

Polisi MWS/6 – LLEOLIADAU AR GYFER CYFLEUSTERAU RHEOLI GWASTRAFF

  1. Mae’r Cynllun yn nodi ac yn amddiffyn y safleoedd a ganlyn ar gyfer cyfleusterau rheoli gwastraff, fel y dangosir ar Map y Cynigion:
  1. Chwarel Llanddulas
  2. Gofer, Ffordd Rhuddlan, Abergele.
  1. Yn amodol ar asesiad manwl, efallai bod y gwaith a ganlyn yn addas yn y lleoliadau hyn:
  1. Ailgylchu Deunyddiau
  2. Gorsaf Trosglwyddo Gwastraff
  3. Prosesu Deunyddiau i’w Hailgylchu
  4. Treulio Anaerobig
  5. Compostio’n Fewnol
  6. Canolfan Ailgylchu Gwastraff Cartrefi
  7. Triniaeth Biolegol Mecanyddol
  8. Adennill Ynni

Ond, nid yw’r rhestr uchod yn gynhwysfawr ac ystyrir ceisiadau eraill ar gyfer rheoli gwastraff ar ei haeddiannau yn unol â’r meini prawf ym Mholisi MWS/5.


4.9.7.1 Mae Adolygiad 1af Cynllun Gwastraff Rhanbarthol Gogledd Cymru (2009) yn argymell y dylid nodi17.4 hectar o dir yng Nghonwy ar gyfer darparu cyfleusterau rheoli gwastraff. Dyrannwyd 22 hectar o dir yng Nghonwy (gweler BP/20 – ‘Rheoli Gwastraff’). Bydd y defnydd tir yn cael ei fonitro yn unol â Pholisi MWS/5 o ran ateb y galw am gyfleusterau fel hyn.


4.9.7.2 Mae Chwarel Llanddulas yn ganolog i ardal Conwy a Rhanbarth Gogledd Cymru. Mae’r safle tirlenwi presennol yn un o’r cyfleusterau rheoli gwastraff fwyaf yng Ngogledd Cymru ac mewn lleoliad strategol, ger yr A547 a mynediad da i brif gefnffordd (yr A55). Mae’r brif chwarel eisoes yn cael budd o ganiatâd cynllunio ar gyfer tirlenwi a chompostio.


4.9.7.3 Mae perchnogion preifat y gwaith rheoli gwastraff presennol yn Llanddulas wedi awgrymu nifer o gyfleusterau rheoli gwastraff posibl yn y dyfodol yn y lleoliad hwn, gan gynnwys cyfleuster rheoli gwastraff integredig a fyddai’n gallu cynnwys amrywiaeth o ddulliau technolegol a thrin gwastraff fel compostio, ailgylchu deunyddiau neu drosglwyddo gwastraff.


4.9.7.4 Mae Gofer ar safle tirlenwi blaenorol ond ar hyn o bryd mae’n cynnwys gorsaf swmpio, gorsaf drosglwyddo a chyfleuster gwastraff y cartref. Mae’r ardal ger yr A547, gyda mynediad da i’r A55. Mae mapiau llifogydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn nodi nad yw’r safle mewn perygl oherwydd llifogydd (gweler hefyd BP/17 – ‘Asesiad Canlyniadau Llifogydd Strategol Conwy’). Gellir gweld y sail resymegol lawn ar gyfer dewis Llanddulas a Gofer fel lleoliadau strategol ar gyfer rheoli gwastraff yn BP/20.


4.9.7.5 Ni ddylid ystyried y rhestr o gyfleusterau rheoli gwastraff ym mholisi MWS/6fel rhestr ddiffiniol. Bydd ceisiadau ar gyfer cyfleusterau rheoli gwastraff yn amodol ar asesiad manwl i benderfynu a ydynt yn addas, fel y nodwyd ym Mholisi MWS/5.Efallai bydd angen Trwyddedau Amgylcheddol ar adnoddau fel hyn gan Cyfoeth Naturiol Cymru.


4.9.7.6 Comisiynodd y Cyngor ymgynghorwyri ymgymryd â chwilio am safleoedd a fyddai'n addas ar gyfer tirlenwi neu godi tir (gweler BP/26 Astudiaeth Ddichonoldeb Tirlenwi). Mae'r Ardal y Cynllun wedi’i chyfyngu’n sylweddol o ran mynediad priffyrdd, tirlun, perygl llifogydd a safbwyntiau dŵr daear ac ni amlygwyd unrhyw safleoedd addas ar gyfer tirlenwi na chodi tir gan yr astudiaeth. Felly, nid yw’r Cyngor wedi dyrannu safle ar gyfer tirlenwi. Bydd unrhyw gynigion a allai gael eu cyflwyno ar gyfer safleoedd tirlenwi yn cael eu hasesu ar sail achos wrth achos.

4.9.8 Defnyddio Tir Diwydiannol Ar Gyfer Cyfleusterau Rheoli Gwastraff

Polisi MWS/7 – DEFNYDDIO TIR DIWYDIANNOL AR GYFER CYFLEUSTERAU RHEOLI GWASTRAFF

  1. Bydd cynigion ar gyfer cyfleusterau rheoli gwastraff yn gyffredinol yn cael eu caniatáu ar safleoedd diwydiannol presennol ac ar safleoedd a ddiogelir o dan Bolisi STR/6.
  2. Pan nad oes safleoedd diwydiannol presennol ar gael, gellir caniatáu cynigion ar gyfer rheoli gwastraff tu allan i ffiniau datblygu yn unol â pholisi EMP/3 ' Datblygiadau Swyddfa a Diwydiannol B1, B2 a B8 Newydd ar Safleoedd na Ddyrannwyd’.
  3. Mewn amgylchiadau eithriadol, lle gellir dangos byddai gan gynnig ofynion technegol neu ofodol penodol, sy'n gwrthdaro â gofynion polisi EMP/3, gellir caniatáu cynigion nad ydynt yn cyd-fynd â pholisi EMP/3 ar gyfer cyfleusterau rheoli gwastraff tu allan i ffiniau aneddiadau.


4.9.8.1 Mae Adolygiad 1af Cynllun Gwastraff Rhanbarthol Gogledd Cymru yn argymell y dylai pob Awdurdod Cynllunio Lleol asesu tir diwydiannol sydd ar gael ar gyfer gwaith rheoli gwastraff addas. Bydd cynigion ar gyfer cyfleusterau rheoli gwastraff mewn safleoedd o’r fath yn cael eu hystyried yn ôl eu rhinweddau eu hunain. Sefydlwyd angen am 14.4 hectar o ofynion tir B2 yn ystod cyfnod y Cynllun lle bydd lefel uchel o dir wedi’i ymrwymo.


4.9.8.2 Mae safleoedd eraill yn ardal y Cynllun a allai fod yn addas ar gyfer dibenion rheoli gwastraff, gan gynnwys tir a ddiogelwyd ar gyfer Cludo a Thrên yng Nghyffordd Llandudno. Mae posibilrwydd i’r safle fod yn llety i gynnal cyfleusterau rheoli gwastraff, megis trosglwyddo gwastraff. Mae Polisi STR/6 a'i destun ategol yn annog defnyddiau ategol megis trosglwyddo gwastraff ar reilffyrdd yn hytrach na ffyrdd.


4.9.8.3 Ni fydd pobcyfleuster rheoli gwastraff yn addas ar safleoedd diwydiannol yn Ardal y Cynllun, boed hynny oherwydd eu gofynion gofodol, yr effeithiau posibl ar ddefnyddiau cyfagos neu ofynion technegol. Er enghraifft, gall safleoedd tirlenwi, compostio rhenciau agored a threuliad anaerobig fod yn fwy priodol tu allan i'r aneddiadau, fel rhan o arallgyfeirio ar ffermydd. Mae'r polisi felly yn caniatáu, mewn amgylchiadau eithriadol, gynigion ar gyfer cyfleusterau rheoli gwastraff y tu allan i ffiniau aneddiadau. Bydd cynigion o'r fath yn cael eu profi'n drylwyr i wneud yn siŵr ei bod yn angenrheidiol eu lleoli y tu allan i ffiniau datblygu, ar ôl dilyn y dull dilyniannol a amlinellir yn y polisi uchod. Dylid dangos bod angen am y cynnig yn unol â Pholisi MWS/5 ac nad oes unrhyw safleoedd amgen addas ar gael.Mae'r polisiyn rhoi hyblygrwydd i ddelio â chynlluniau o'r fath ar sail eu rhinweddau unigol.

4.9.9 Llain Ddiogelu Tirlenwi

Polisi MWS/8 – LLAIN DDIOGELU TIRLENWI

Bydd rhagdybiaeth yn erbyn datblygiad bregus o fewn y llain ddiogelwch tirlenwi.


4.9.9.1 Ar y cyfan, mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn cynghori dylai datblygiadau fod o leiaf 250 metr oddi wrth safleoedd tirlenwi. Y perygl mwyaf i ddatblygiadau ger safleoedd tirlenwi yw’r un a gynigir gan nwy tirlenwi symudol yn teithio trwy’r graig waelodol ac yn mynd i mewn i eiddo o’r ddaear. Hefyd, ceir problemau o dro i dro mewn perthynas ag arogl, llwch, sŵn a phlâu. Mae'rlleiniau diogelu tirlenwi yn ddynodiad ar wahân i'r safle tirlenwi ac mae'n gwasanaethu dau ddiben. Un yw diogelu amwynder trigolion a defnyddwyr tir sensitif eraill, (ac o ganlyniad, ni chaniateir dim tirlenwi ychwanegol o fewn y llain); y llall yw sicrhau y gall gweithredwyr tirlenwi gyflawni eu gweithgareddau arferol heb gael eu cyfyngu’n ormodol gan bresenoldeb defnyddwyr tir sensitif. Felly, mae llain ddiogelwch 250 metr o amgylch y safle tirlenwi wedi cael ei dynodi i sicrhau mai dim ond datblygiadau priodol sydd wedi eu lleoli yn yr ardal yma. Dylid dwyn pob cais am ddatblygiad preswyl (heblaw deilydd tŷ), cyflogaeth, twristiaeth a chyfleusterau cymunedol o fewn y llain ddiogelu i sylw Swyddog Iechyd yr Amgylchedd y Cyngor a Cyfoeth Naturiol Cymru . Bydd sylwadau gan y ddwy ochr yn ystyriaeth bwysig wrth benderfynu a ddylid caniatáu’r datblygiad.

Am gyfarwyddiadau ar sut I ddefnyddio’r system ac I wneud sylwadau, gwelwch ein canllaw cymorth.
back to top Yn ôl i’r brig