Cynllun Datblygu Lleol Conwy 2007 - 2022
4.7 TREFTADAETH DDIWYLLIANNOL
4.7.1 Amcanion Gofodol
AG6, AG10, AG12, AG13, AG16.
4.7.2 Datganiad Strategol ynghylch Treftadaeth Ddiwylliannol
4.7.2.1 Mae i ardaloedd hanesyddol ran allweddol wrth gyflawni amcanion y Cynllun Datblygu Lleol (CDLl), p’un ai a yw’r amcanion hynny ar ffurf canolfannau masnachol neu siopa, atyniadau i ymwelwyr neu lefydd deniadol a diddorol i fyw ynddynt. Mae'r Cyngor yn awyddus i sicrhau bod asedau o'r fath yn cael eu diogelu rhag datblygu amhriodol, a bydd yn manteisio ar y cyfle i wella ardaloedd ac adeiladau hanesyddol pan fo angen.
4.7.2.2 Mae cyfreithiau a chanllawiau a pholisïau cynllunio cenedlaethol manwl sy'n trafod diogelu'r amgylchedd hanesyddol a safleoedd o bwysigrwydd archaeolegol yn berthnasol. Serch hynny, dylid cofio pa mor bwysig yw hi i fabwysiadu agwedd gyfannol tuag at ddiogelu asedau treftadaeth. Nid yw asedau treftadol fel tirweddau, parciau a gerddi hanesyddol nac adeiladau nac adeileddau o bwysigrwydd lleol yn elwa ar ddynodiad statudol, er bod y rhain yn cyfrannu'n sylweddol tuag at ddiddordeb a chymeriad unigryw lle arbennig.
4.7.2.3 Mae'r Cynllun Datblygu Lleol hwn felly'n cynnwys polisïau lefel strategol ynghylch datblygu ac asedau hanesyddol, a darperir manylion a chynigion rheoli i gydweddu â nodweddion a chyflawni'r heriau ym mhob ardal unigol mewn canllawiau cynllunio atodol.
4.7.2.4 Mae'r Gymraeg yn elfen bwysig o wead cymunedau lleol. Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddiogelu hyn ac annog datblygiad nad sy’n cefnogi a chynnal lles tymor hir yr iaith Gymraeg.
4.7.2.5 Mae papurau cefndir BP/28 – ‘Amgylchedd Hanesyddol’ a BP/33 – ‘Asesiad Effaith Iaith Gymraeg’ yn darparu mwy o wybodaeth ar y materion pennaf.
POLISI STRATEGOL CTH/1 – TREFTADAETH DDIWYLLIANNOL
Mae’r Cyngor yn ymrwymedig i ddiogelu a, lle bo’n briodol, gwella’i asedau diwylliannol a threftadol. Cyflawnir hyn drwy:
- Sicrhau nad yw lleoliad datblygiadau newydd ar safleoedd a neilltuwyd yn ogystal â hap-safleoedd yn Ardal y Cynllun yn cael effaith niweidiol sylweddol ar asedau treftadaeth yn unol â Pholisïau CTH/2 – ‘Datblygiadau’n Effeithio ar Asedau Treftadaeth’, DP/3 – ‘Hybu Ansawdd Dylunio a Gostwng Trosedd’ a DP/6 – ‘Polisi a Chanllawiau Cynllunio Cenedlaethol’;
- Cydnabod a pharchu gwerth a chymeriad asedau treftadaeth yn Ardal y Cynllun a chyhoeddi Canllawiau Cynllunio Atodol i roi cyfarwyddyd ynghylch ceisiadau datblygu;
- Ceisio cadw a, lle bo'n briodol, gwella ardaloedd cadwraeth, Safle Treftadaeth y Byd yng Nghonwy, tirweddau, parciau a gerddi hanesyddol, adeiladau rhestredig, henebion cofrestredig ac ardaloedd eraill o bwysigrwydd pensaernïol yn unol â Pholisïau DP/6;
- Diogelu adeiladau ac adeileddau o bwysigrwydd lleol yn unol â Pholisi CTH/3 – ‘Adeiladau a Strwythurau o Bwysigrwydd Lleol’;
- Gwella asedau treftadol drwy gynlluniau treftadaeth ac adfywio;
- Cynnal a sicrhau dyfodol asedau treftadaeth drwy ganiatáu datblygiadau galluogol priodol yn unig yn unol â Pholisi CTH/4 – ‘Galluogi Datblygu’;
- Sicrhau bod datblygu yn gydnaws â dichonadwyedd y Gymraeg dros y tymor hir yn unol â Pholisi CTH/5 – ‘Yr Iaith Gymraeg’.
4.7.3 Datblygu Sy’n Effeithio ar Asedau Treftadol
Polisi CTH/2 – DATBLYGU SY'N EFFEITHIO AR ASEDAU TREFTADOL
Bydd ceisiadau datblygu sy'n effeithio ar ased treftadol a restrir isod (af) a/neu ei leoliad, yn cadw neu'n gwella'r ased hwnnw os yw’n briodol. Bydd ceisiadau datblygu'n cael eu hystyried yn unol â Pholisi DP/6 lle bo'n berthnasol, a Polisi DP/3.
- Ardaloedd Cadwraeth;
- Safle Treftadaeth y Byd yng Nghonwy;
- Tirweddau, parciau a gerddi hanesyddol;
- Adeiladau Rhestredig;
- Henebion Cofrestredig;
- Safleoedd o bwysigrwydd archeolegol.
4.7.3.1 Ceir 25 o ardaloedd cadwraeth yn Ardal y Cynllun. Mae'r ardaloedd wedi cael eu dynodi ar raddfa leol, ac mae i bob ardal gadwraeth gymeriad unigryw. Yn y gorffennol, byddai cyfres o bolisïau tros-fwaol a oedd yn berthnasol i bob ardal gadwraeth, yn cael eu defnyddio i'w rheoli. Yr ymagwedd a fabwysiadwyd yn y cynllun hwn ydi llunio Canllawiau Cynllunio Atodol ar gyfer themâu neu faterion penodol sy’n gyffredin ar gyfer y rhan fwyaf, os nad y cyfan, o’r ardaloedd cadwraeth a hefyd ffurfio Canllawiau Cynllunio Atodol yn ymdrin â phob ardal gadwraeth (yn seiliedig ar Werthusiadau Ardaloedd Cadwraeth a Chynlluniau Rheoli) i reoli ac arwain cynigion datblygu yn rhagweithiol.
4.7.3.2 Mae'r pwysau am newid o fewn y mwyafrif o ardaloedd cadwraeth yn ardal y cynllun wedi bod yn cynyddu'n gyson ac mae mân newidiadau i nifer o adeiladau ac addasiadau mwy wedi niweidio cymeriad arbennig a natur unigryw llawer o ardaloedd yn sylweddol.Yn benodol, mae gosod ffenestri UPVC, drysau, ffasgais a nwyddau dŵr glaw wedi cael effaith negyddol ar nifer o ardaloedd cadwraeth. Mae hyn yn enghraifft o faterion problematig sy’n gyffredin i ran fwyaf o ardaloedd cadwraeth lle bydd canllawiau ychwanegol yn cael eu darparu trwy Ganllaw Cynllunio Atodol.
4.7.3.3 Dros y blynyddoedd diwethaf, mae'r pwysau am ddatblygu mewn ardaloedd cadwraeth dwysedd isel wedi arwain at nifer gynyddol o geisiadau i ddymchwel, ailddatblygu, mewnlenwi a datblygu tir cefn. Er bod polisi cynllunio cenedlaethol yn annog defnydd darbodus o dir, gan ffafrio datblygu tir llwyd oddi mewn i aneddiadau presennol, ni ddylid difetha cymeriad ardaloedd cadwraeth dwysedd isel, er enghraifft Pen y Cae, Penmaenmawr a Phwllycrochan, Bae Colwyn. Mae datblygiadau dwysedd uchel nad ydynt yn gyson â ffurf adeiledig ardaloedd o'r fath yn niweidio'u cymeriad, a bydd rhagdybiaeth yn erbyn datblygu o'r fath.
4.7.3.4 Lle mae ceisiadau datblygu neu ddymchwel yn effeithio ar adeiladau neu strwythurau sy’n cyfrannu mewn modd niwtral neu gadarnhaol tuag at gymeriad pensaernïol a hanesyddol arbennig ardal gadwraeth, bydd rhagdybiaeth o blaid y cynigion hynny sy’n cynnal neu os yn bosibl wella cymeriad yr ardal ddynodedig yn unig. Lle ceir effaith negyddol ar gymeriad ardal gadwraeth gan newidiadau a datblygiadau amhriodol a gynigir, bydd y Cyngor yn ceisio gwella yn hytrach na chynnal cymeriad, trwy er enghraifft adfer datblygiad a nodweddion hanesyddol.
4.7.3.5 Mae Castell Conwy (gan gynnwys waliau’r dref) yn Safle Treftadaeth y Byd. Mae’r dynodiad hwn yn amlygu pwysigrwydd rhyngwladol y safle. Bydd y Cynllun yn symud cynigion a chanllawiau ymlaen sy’n adlewyrchu goruchafiaeth y dynodiad ynghyd ag ardal gadwraeth y dref. Ceir gofyniad gan UNESCO i baratoi cynllun rheoli i roi cyfarwyddyd ar ddatblygu sy'n effeithio ar Safleoedd Treftadaeth y Byd. Bydd y Cyngor hefyd yn ystyried lleoliad ehangach Safle Treftadaeth y Byd sy’n ymestyn y tu hwnt i’r lleoliad a ddangosir ar y map cynigion, yn unol â Pholisi CTH/2. Yn ogystal â'r cynllun rheoli hwn, bydd y Cyngor yn paratoi cynigion i ddynodi tref Conwy'n ardal gadwraeth a fydd wedi'u llunio oddi mewn i Gynllun Rheoli Safle Treftadaeth y Byd ac Ardal Gadwraeth. Bydd Canllawiau Cynllunio Atodol yn cael ei ffurfio o’r dogfennau hyn.
4.7.3.6 Nid yw cynnwys parciau a gerddi ar Gofrestr Cadw/ICOMOS wedi arwain at unrhyw reolaethau statudol ychwanegol. Ni ddylai datblygiadau newydd a gynigir oddi mewn neu’n effeithio ar leoliad parciau a gerddi hanesyddol cofrestredig amharu ar eu arbennig. Dylid cynnal asesiad systematig o geisiadau hwyluso datblygu mewn tirweddau, parciau a gerddi hanesyddol er mwyn sicrhau bod cymeriad arbennig yr asedau hyn yn cael eu diogelu'n ddigonol. Bydd cynigion datblygu sy’n syrthio o fewn tirweddau, parciau a gerddi hanesyddol cofrestredig yn cael eu hasesu yn erbyn Polisi CTH/2, y Canllaw ar Arfer Da ar gyfer defnyddio’r Gofrestr Tirweddau o Ddiddordeb Hanesyddol yng Nghymru, SPG Amgylchedd Naturiol, Polisi CTH/4 a’r Canllawiau Cynllunio Atodol ar Alluogi Datblygu lle bo’n berthnasol.
4.7.3.7 Mae’r Cyngor yn cydnabod pwysigrwydd rhoi cyngor cyn i geisiadau gael eu gwneud er mwyn sicrhau fod dewisiadau priodol ar gyfer newidiadau i adeiladau rhestredig yn cael eu hystyried yn llawn i ddiogelu eu cymeriad cyn cyflwyno cais ffurfiol. Rhaid i unrhyw gais i wneud gwaith ar adeiladau rhestredig gael ei gyfiawnhau’n llawn o safbwynt sicrhau fod cymeriad hanesyddol a phensaernïol arbennig a nodweddion pwysicaf yr adeiladau a’u lleoliad yn cael eu diogelu. Byddwn ond yn caniatáu dymchwel adeiladau rhestredig yn llawn neu’n rhannol, neu rannau sylweddol o adeileddau sydd wedi’u diogelu mewn amgylchiadau prin, os profir cyfiawnhad pwysicach. Mae hefyd angen ystyried Polisi Strategol NTE/1 - ‘Yr Amgylchedd Naturiol’ mewn perthynas â rhywogaethau gwarchodedig statudol, eu cynefinoedd a mannau gorffwys wrth asesu ceisiadau am waith ar adeiladau rhestredig. Bydd Canllawiau Cynllunio Atodol yn cael eu llunio ar adeiladau rhestredig i ddarparu gwybodaeth a chanllaw i ymgeiswyr.
4.7.3.8 Bydd goblygiadau'r newid yn yr hinsawdd a phwysigrwydd cynyddol effeithlonrwydd ynni mewn adeiladau'n arwain at gynnydd yn y gwrthdaro ag amcanion cadwraeth. Dylid mynd ar drywydd datrysiadau cynaliadwy os na fyddant yn difrodi buddiannau hanesyddol yn sylweddol neu'n ddi-droi'n-ôl. Cyhoeddodd CADW ganllawiau ar ynni adnewyddadwy a’r amgylchedd hanesyddol yn 2010. Bydd Canllawiau Cynllunio Atodol yn cael eu llunio a fydd yn amlinellu’r egwyddorion a’r polisïau ar gyfer cadwraeth ynni a chynigion ynni adnewyddadwy sy’n effeithio ar adeiladau, ardaloedd a pharciau hanesyddol, gerddi a thirweddau.
4.7.3.9 Dylai datblygiadau fod yn sensitif i gadwraeth gweddillion archeolegol ac mae polisïau cenedlaethol yn pwysleisio'r angen i werthuso safleoedd, eu cofnodi a chadw'r rhai pwysicaf. Mae ymgynghoriadau ag Ymddiriedolaeth Archeolegol Clwyd - Powys ac Ymddiriedolaeth Archeolegol Gwynedd wedi datgelu y gellid bod angen cynnal asesiadau neu werthusiadau archeolegol ar rai o'r dyraniadau strategol a gynigiwyd cyn gwneud unrhyw waith datblygu. Bydd ymatebion fel hyn i ymgynghoriadau'n cael eu hystyried wrth lunio briffiau datblygu ar gyfer y safleoedd hyn neu wrth asesu ceisiadau'r datblygwr.
4.7.3.10 Dim ond darn bach o gyfanswm y nifer o safleoedd archeolegol a hanesyddol mae henebion hynafol cofrestredig yn cyfrif amdano. Wrth ystyried cynigion ar safleoedd archeolegol anghofrestredig, bydd y Cyngor yn cysylltu ag Ymddiriedolaethau Archeolegol Powys/ Gwynedd, ac yn cadw mewn cof les a phwysigrwydd lleoliad y safleoedd. Os oes angen, bydd y Cyngor yn ei gwneud yn ofynnol i asesu a gwerthuso’r safleoedd cyn penderfynu rhoi caniatâd cynllunio. Bydd caniatâd cynllunio yn cael ei wrthod os nad yw’r safle archeolegol o ddiddordeb digonol i gyfiawnhau diogelwch cyfan gwbl rhag aflonyddwch. Gellir hefyd cadw a chofnodi safleoedd trwy ddefnyddio amodau a chytundebau cynllunio
4.7.4 Adeiladau ac Adeileddau o Bwysigrwydd Lleol
Polisi CTH/3 – ADEILADAU AC ADEILEDDAU O BWYSIGRWYDD LLEOL
Ni fydd ceisiadau datblygu sy'n effeithio ar adeiladau neu adeileddau sy'n gwneud cyfraniad pwysig tuag at gymeriad a diddordeb yr ardal leol ond yn cael eu caniatáu os na fydd ymddangosiad unigryw, hygrededd pensaernïol na lleoliad yr adeilad yn cael eu niweidio'n sylweddol.
4.7.4.1 Ceir nifer sylweddol o adeiladau a strwythurau sy'n rhan annatod o gymeriad a hunaniaeth eu hardal leol oherwydd eu dyluniad, eu deunyddiau a'u cysylltiadau cymdeithasol a hanesyddol. Dylid cadw'r adeiladau a strwythurau hyn, a cheisio sicrhau defnydd priodol er mwyn cadw'u cymeriad hanfodol. Bydd rhestr leol o adeiladau o'r fath yn cael ei llunio o arolygon gweledol ac ymgynghoriadau â grwpiau o randdeiliaid lleol. Mae CDLl8 – CCA 'Adeiladau a Strwythurau o Bwysigrwydd Lleol' yn amlinellu’r fethodoleg ar gyfer rhestr o'r fath ynghyd â meini prawf a rheolaethau ychwanegol, er enghraifft cyfarwyddiadau Erthygl 4.
4.7.5 Hwyluso Datblygu
Polisi CTH/4 – HWYLUSO DATBLYGU
- Byddwn ond yn caniatáu hwyluso datblygu sy’n ceisio sicrhau dyfodol ac/ neu ddefnydd arall addas i adeilad rhestredig neu adeilad sy’n gwneud cyfraniad positif sylweddol i gymeriad ardal gadwraeth, tirwedd hanesyddol neu barciau a gerddi o ddiddordeb hanesyddol arbennig os yw’r meini prawf canlynol wedi eu diwallu i gyd:
- Ni fydd yn achosi niwed sylweddol i werthoedd treftadaeth yr ased hanesyddol neu ei leoliad; a
- Mae'n osgoi darnio niweidiol o reolaeth yr ased hanesyddol; a
- Bydd yn sicrhau dyfodol tymor hir yr ased hanesyddol a, lle bo'n berthnasol, i barhau i'w ddefnyddio ar gyfer diben cydymdeimladol, a
- Mae angen datrys problemau sy'n deillio o amgylchiadau'r perchennog presennol, neu'r pris prynu a dalwyd; a
- Nid oes cymhorthdal digonol ar gael o unrhyw ffynhonnell arall; a
- Dangosir mai’r swm ar gyfer galluogi’r datblygiad yw'r lleiafswm sydd ei angen i sicrhau dyfodol yr ased hanesyddol, a bod ei ffurf yn lleihau'r niwed i fuddiannau cyhoeddus eraill;
- Mae’r budd cyhoeddus o sicrhau dyfodol yr ased hanesyddol drwy hwyluso datblygiad galluogi o'r fath yn fwy na’r anfanteision o dorri polisïau cyhoeddus eraill.
- Pe bai’r Cyngor yn penderfynu bod cynllun o hwyluso datblygu yn diwallu’r holl feini prawf uchod, dylid wedyn ond rhoi caniatâd cynllunio os:
- Mae effaith y datblygiad yn cael ei ddiffinio'n fanwl gywir ar y cychwyn, fel arfer drwy rhoi caniatâd cynllunio llawn, yn hytrach nag amlinellol;
- Mae cyflawni'r amcan treftadaeth wedi’i gysylltu’n gadarn a gorfodol â hwyluso datblygu;
- Mae’r lle dan sylw wedi cael ei drwsio i safon y cytunwyd arno, neu bo’r arian i wneud hynny ar gael, mor gynnar ag y bo modd yn ystod hwyluso’r datblygiad, yn ddelfrydol o’r cychwyn cyntaf ac yn sicr cyn cwblhau neu breswyliaeth; a
- Mae'r Cyngor yn monitro gweithrediad, ac os oes angen yn gweithredu ar unwaith i sicrhau bod y rhwymedigaethau yn cael eu cyflawni.
4.7.5.1 Mae hwyluso datblygu sy’n gwrthdaro â pholisïau cynllunio neu egwyddorion cadwraeth cadarn yn aml yn cael ei gyflwyno fel cam a fydd yn ei gwneud hi'n bosibl i gadw adeilad rhestredig neu adeilad o bwysigrwydd lleol a'i achub rhag troi'n adfail ac/neu'n segur. Mae'r adeiladau hyn yn aml yn wag, heb eu defnyddio ac yn cynnwys tir helaeth o'u hamgylch, gan gynnwys parciau a gerddi neu dirweddau sydd eu hunain o ddiddordeb arbennig. Dylid ystyried a llunio ceisiadau datblygu gyda dealltwriaeth o ddyluniad ac arwyddocâd adeiladau a’u lleoliadau, parciau a gerddi, a'u perthynas â'r adeiladau hanesyddol sydd wedi'u lleoli ynddynt neu'n gyfagos â hwy. Er enghraifft, bydd cadw’r golygfeydd allweddol a welir wrth edrych ar yr adeilad, a'r golygfeydd o'r adeilad o'r hyn sydd o'i amgylch yn ystyriaeth benderfynu bwysig. Mae Polisi CTH/4 wedi cael ei baratoi yn unol ag Egwyddorion ‘Cadwraeth CADW ar gyfer rheolaeth gynaliadwy’r amgylchedd hanesyddol yng Nghymru’. Bydd canllawiau Cynllunio Atodol ar Hwyluso Datblygu yn darparu canllaw ar a ddefnyddio’r polisi hwn.
4.7.6 Yr Iaith Gymraeg
Polisi CTH/5 – YR IAITH GYMRAEG
- Bydd y Cyngor yn sicrhau bod datblygiadau yn cefnogi a chynnal lles tymor hir yr iaith Gymraeg, ac yn gwrthod datblygiadau a fydd, oherwydd ei faint, graddfa neu leoliad yn niweidio’n sylweddol gymeriad a chydbwysedd ieithyddol cymuned. Mae strategaeth y CDLl wedi cael ei asesu o ran ei effaith ar yr iaith Gymraeg ac amlygwyd y gofynion canlynol:
- Bydd safleoedd tai a ddyrannwyd yn Abergele a Llanrwst a'r safle defnydd cymysg a ddyrannwyd yn Nolgarrog angen 'Datganiadau Lliniaru' yn unol â chanlyniadau’r Asesiad Effaith ar yr Iaith Gymraeg;
- Dylai 'Datganiad Ieithyddol a Chymunedol' ddod gyda:
- Ceisiadau am dai ar safleoedd heb eu dyrannu o ddeg uned neu fwy yn yr Ardal Strategaeth Datblygu Trefol a phum uned neu fwy yn yr ardal Strategaeth Datblygu Gwledig;
- Datblygiad masnachol, diwydiannol neu dwristiaeth ar safleoedd heb eu dyrannu gydag arwynebedd o 1,000 metr sgwâr neu fwy yn ardal y Cynllun; a
- Datblygiad sy'n debygol o arwain at golli cyfleusterau cymunedol fel a ddiffinnir ym Mholisi CFS/6;
- Unwaith y darperir safleoedd tai annisgwyl ar gyfer ardal strategaeth ofodol yn unol â'r ffigurau yn nhabl 3 HOU1a, bydd hyn yn sbarduno adolygiad a fyddai'n cyflwyno asesiad o'r holl geisiadau am dai heb eu dyrannu yn erbyn yr iaith Gymraeg;
- Dylid cyflwyno asesiad mwy manwl ar ffurf 'Asesiad Effaith Cymunedol ac Ieithyddol' gyda:
- Cheisiadau tai ar safleoedd ar hap o 20 uned neu fwy yn yr Ardal Strategaeth Datblygiad Trefol a deg uned neu fwy yn yr Ardal Strategaeth Datblygiad Gwledig:
- Datblygiad masnachol, diwydiannol neu dwristaidd ar safleoedd heb eu dyrannu gydag arwynebedd o 2000 metr sgwâr neu fwy yn ardal y Cynllun;
- Ledled ardal y Cynllun, bydd y Cyngor yn annog darparu arwyddion dwyieithog a dal gafael ar enwau Cymraeg traddodiadol ar gyfer datblygiadau a strydoedd newydd.
4.7.6.1 Mae'r Gymraeg yn rhan annatod o gymunedau lleol a’u treftadaeth. Bydd y Cyngor yn cefnogi ac yn hyrwyddo'r iaith Gymraeg, drwy sicrhau bod digon o gyfleoedd o ran cyflogaeth a thai i gadw siaradwyr Cymraeg ledled y Ardal y Cynllun a chyfyngu ar ddatblygu yn y Pentrefi a'r Pentrefannau.
4.7.6.2 BP/10 – 'Arfarniad Cynaliadwyedd / Asesiad Amgylcheddol Strategol' a BP/33 - 'Asesiad Effaith ar yr Iaith Gymraeg' yn rhoi manylion asesiad y Strategaeth Ofodol o’r CDLl o’r effaith ar yr iaith Gymraeg yn. O ganlyniad i’r gwaith asesu, dylai ymgeiswyr gyflwyno Datganiad Lliniaru yn y cam ymgeisio i benderfynu ar natur y lliniaru ar gyfer y dyraniadau tai yn Abergele a Llanrwst a’r safle defnydd cymysg yn Nolgarrog. Bydd y Cyngor yn paratoi CDLl 6 – Canllaw Cynllunio Atodol (SPG) ‘Iaith Gymraeg’ i hysbysu ymgeiswyr am ofynion y Datganiad Lliniaru.
4.7.6.3 Efallai y bydd mathau annisgwyl o ddatblygiad, ar safleoedd sydd heb eu dyrannu yn y CDLl ac nad ydynt wedi’u cynnwys yn y cyflenwad safleoedd ar hap (llai na deg uned), angen asesiad i bennu effaith ar yr iaith Gymraeg. Bydd ceisiadau ar safleoedd tai heb eu dyrannu ar gyfer deg uned neu fwy yn yr Ardal Strategaeth Datblygu Trefol a phum uned neu fwy yn yr Ardal Strategaeth Datblygu Gwledig yn gofyn am asesiad iaith Gymraeg ar ffurf Datganiad Cymunedol ac Ieithyddol, gan gynnwys manylion am fesurau lliniaru. Unwaith y bydd y targed tai ar hap yn cael ei fodloni ar gyfer ardal strategaeth ofodol yn unol â’r ffigurau yn nhabl 4 HOU1a, byddai hyn yn arwain at adolygiad o’r CDLl â’r gofyniad i asesu’r holl geisiadau tai yn y dyfodol ar safleoedd heb eu dynodi ar gyfer effaith ar y Gymraeg.
4.7.6.4 Byddai datblygiadau masnachol, diwydiannol neu dwristiaeth ar safleoedd heb eu dyrannu gydag arwynebedd o 1,000 metr sgwâr neu fwy a chynigion y byddai’n debygol o arwain at golli cyfleuster cymunedol fel y diffinnir ym Mholisi CFS/6 hefyd angen asesiad drwy Ddatganiad Cymunedol ac Ieithyddol. Dylai hyn gael ei gyflwyno yn y cam cais cynllunio a bydd manylion o’r hyn sy’n ofynnol yn y Datganiad yn cael ei gynnwys yn yr SPG Iaith Gymraeg.
4.7.6.5 Lle bo ceisiadau yn cael eu cyflwyno yn ardal y Cynllun ar safleoedd sydd heb eu dyrannu ar raddfa fwy, yn llawer mwy na’r trothwyon uchod, gan gynnwys datblygiadau preswyl, masnachol, diwydiannol, twristiaeth ac isadeiledd ar raddfa fawr, mae’r effeithiau cronnus ar gymunedau a’r iaith Gymraeg yn debygol o fod yn fwy. Dylai cynigion o’r fath ddod gydag Asesiad Effaith Cymunedol ac Ieithyddol, yn cynnwys manylion am fesurau lliniaru. Dylid cyflwyno’r rhain hefyd yn ystod y cam cais cynllunio, a bydd manylion am yr hyn sydd ei angen yn yr Asesiad yn cael ei gynnwys yn yr SPG Iaith Gymraeg.
4.7.6.6 Bydd canlyniadau’r Datganiadau Cymunedol a Ieithyddol, Asesiadau Effaith a Datganiadau Lliniaru a gyflwynir yn unol â Pholisi CTH/5 yn cael eu hasesu yn ystod y cam gwneud cais, a bydd y Cyngor yn gwrthod datblygiadau a fydd, oherwydd eu maint, graddfa neu leoliad, yn niweidio’n sylweddol ar gydbwysedd cymeriad a ieithyddol cymuned.
4.7.6.7 Mae arwyddion, datblygiadau ac enwau strydoedd i gyd yn ffyrdd o hyrwyddo diwylliant nodedig Cymru a dylid eu hannog trwy'r broses gynllunio.