Cynllun Datblygu Lleol Conwy 2007 - 2022
Rhagair
Rydym yn freintiedig i gael byw a gweithio mewn ardal hardd. Mae’r pethau rydym yn eu mwynhau am Gonwy wrth gwrs yn deillio rhwng cymunedau lleol a’r amgylchedd. Weithiau mae nhw’n bethau sy’n digwydd yn naturiol, weithiau mae nhw wedi datblygu dros gyfnod hir o amser ac weithiau mae nhw wedi eu cynllunio; beth bynnag fo’r achos mae angen i ni geisio sicrhau bod cyfle i gymunedau yn y dyfodol fwynhau holl rinweddau Conwy. Fodd bynnag nid yw hynny’n dweud y bydd pethau yn aros yr un fath; mae’r ardal yn wynebu llawer o bwysau a sialensiau, a gellir ond delio â nhw trwy edrych ar y problemau o’r newydd.
Rhaid i ni ddarganfod dulliau o ddiwallu anghenion tai a thai fforddiadwy pobl leol a chaniatáu swyddi gyda chyflogau da i gael eu darparu ar gyfer cymunedau’r dyfodol sy’n cael eu cynhyrchu gan y boblogaeth bresennol ac i’r dyfodol, tra’n diogelu cymeriad ieithyddol cymunedau, diogelu’r amgylchedd a mynd i’r afael â’r bygythiad o lifogydd. Ar yr un pryd, rhaid i ni sicrhau bod gallu digonol yn y diwydiant datblygu i gyflawni’r lefel o dwf a hyrwyddir dros gyfnod y Cynllun a sicrhau hefyd bod mecanweithiau hyblyg yn cael eu rhoi ar waith i hyrwyddo poblogaeth ieuengach drwy annog y boblogaeth ieuengach yng Nghonwy ar hyn o bryd ac yn y dyfodol i aros a ffynnu yng Nghonwy.
Mae’r broses o baratoi’r Cynllun Datblygu Lleol newydd wedi bod yn un hir a chymhleth. Rydym wedi treulio llawer o amser yn edrych ar y materion, yn ymgynghori â nifer o wahanol sefydliadau, gan gynnwys y cynghorau tref a chymuned, comisiynu astudiaethau arbenigol ac yn ystyried y dystiolaeth bresennol. Mae’r broses wedi bod yn fodd i ni drafod y materion sy’n effeithio ar y Fwrdeistref Sirol gyda nifer o bobl, ac mae wedi rhoi sail gadarn ar gyfer datblygu’r ddogfen hon.
Mae’r Cynllun Datblygu Lleol Conwy yn rhoi gweledigaeth glir ynglŷn â sut y gall datblygiadau newydd fynd i’r afael â’r heriau a wynebwn ac mae’n nodi ble, pryd, faint a sut bydd datblygiadau yn digwydd yng Nghonwy hyd at 2022.
Hoffwn ddiolch i’r holl bobl sydd wedi cyfrannu at ddatblygu’r Cynllun hwn a gobeithiaf ei fod yn sail ddarparu datblygiadau newydd yng Nghonwy er mwyn rhoi sylw i anghenion y cymunedau lleol mewn ffordd gynaliadwy a phenodol i’r ardal.
Y Cynghorydd Dilwyn Roberts
Arweinydd y Cyngor