Cynllun Datblygu Lleol Conwy 2007 - 2022
4.8 STRATEGAETH CLUDIANT CYNALIADWY
4.8.1 Amcanion Gofodol
AG1, AG7, AG9, AG13.
4.8.2 Datganiad y Strategaeth Cludiant Cynaliadwy
4.8.2.1 Mae'n ofynnol i ddatblygiadau newydd fynd i'r afael â goblygiadau'r datblygiad hwnnw. Efallai bydd gofyn i gynlluniau mwy lunio asesiadau cludiant er mwyn dangos sut y darperir ar gyfer nifer y teithiau a gynhyrchir a'r modd y sicrheir hygyrchedd i'r safle ac oddi yno drwy'r holl ddulliau cludiant. Ar gyfer ceisiadau amhreswyl sy'n debygol o achosi goblygiadau cludiant sylweddol, mae'r Llywodraeth hefyd yn gofyn am gyflwyno cynlluniau teithio, a'u diben yw hyrwyddo ffurfiau mwy cynaliadwy ar gludiant i gyfateb â gweithgarwch datblygiad neilltuol. (er enghraifft, annog defnyddio ceir yn llai aml a chynyddu'r defnydd o gludiant cyhoeddus, cerdded a beicio).
4.8.2.2 Er mwyn cyflawni'r amcanion teithio bydd gofyn gweithredu mewn dwy ffordd. I ddechrau mae angen gweithredu'n gadarnhaol drwy'r Strategaeth Cludiant Rhanbarthol er mwyn darparu gweledigaeth a strategaeth ar gyfer cludiant integredig yn y Sir. Yn ail, mae angen i'r Cynllun Datblygu Lleol ddarparu polisïau cadarn i sicrhau bod lleoliad datblygiadau newydd yn cefnogi'r amcanion uchod. Mae gwaith partneriaeth yn hanfodol i sicrhau llwyddiant yr amcanion hyn. Mae'r adran hon yn cynnwys y polisïau manwl angenrheidiol i sicrhau bod y strategaeth cludiant cynaliadwy yn cael ei chyflawni.
POLISI STRATEGOL STR/1 – CLUDIANT CYNALIADWY, DATBLYGU A HYGYRCHEDD
Bydd datblygiadau'n cael eu lleoli fel bod angen teithio cyn lleied ag sy'n bosibl. Dylai mynediad cyfleus ar hyd llwybrau, isadeiledd beicio a chludiant cyhoeddus fodoli eisoes. Fel arall, dylid eu darparu lle bo'n briodol, a thrwy hynny annog pobl i ddefnyddio'r mathau hyn o gludiant ar gyfer teithiau lleol, a lleihau'r angen i deithio mewn car preifat a gwella hygyrchedd gwasanaethau i rai nad oes ganddynt fynediad rhwydd at gludiant. Bydd y Cyngor yn ymdrechu i wella hygyrchedd a cheisio newid ymddygiad teithwyr. Cyflawnir hyn drwy gydweithio â'n partneriaid i;
- Ganolbwyntio ar ddatblygu mewn lleoliadau hygyrch iawn yn y Ardal y Cynllun yn y dyfodol, yn bennaf ar hyd yr A55 a'r rhwydwaith rheilffordd ac oddi mewn ac ar ffin yr Ardal y Strategaeth Datblygu Trefol oddi mewn i lain yr arfordir ac yn unol â Pholisi DP/2 ‘Ymagwedd Strategol Drosfwaol’. Bydd pob cais datblygu'n cael ei asesu ochr yn ochr â Safonau Parcio'r Cyngor a nodir ym Mholisi STR/2 – ‘Safonau Parcio’, lliniaru teithio yn unol â Pholisi STR/3 – ‘Lliniaru Effaith Teithio’ a hyrwyddo dulliau cynaliadwy yn unol â Pholisi STR/4 – ‘Teithio Heb Fodur’;
- Diogelu tir i hyrwyddo cymunedau hygyrch sy'n annog dulliau teithio cynaliadwy ac integredig yn unol â Pholisïau STR/5 – ‘System Cludiant Cynaliadwy Integredig’ ac STR/6 – ‘Rheilffyrdd’. Bydd y Cyngor yn gwella cludiant cyhoeddus ymhellach ac yn hyrwyddo dulliau cynaliadwy a gwella gwasanaethau cludiant cyhoeddus. Ceisir sicrhau gwelliannau i orsafoedd rheilffordd a gorsafoedd bws er mwyn cynorthwyo i newid rhwng dulliau cludiant amrywiol a hyrwyddo ymddygiad cynaliadwy wrth deithio. Bydd datblygiadau'n cyfrannu tuag at y gwelliannau hyn lle bo angen hynny'n unol â Pholisïau DP/1 i DP/6. Bydd llwybrau gwella a ddynodwyd yng Nghynllun Cludiant Rhanbarthol Conwy yn cael eu diogelu;
- Hyrwyddo cerdded a beicio ledled y Fwrdeistref Sirol yn rhan o ddull integredig a chynaliadwy iawn o deithio'n unol â Pholisi DP/4 – ‘Meini Prawf Datblygu’. Bydd dyluniad ac adeiladwaith cyfleusterau ac isadeiledd cerdded a beicio’n cael eu gwella i’w gwneud yn fwy deniadol, uniongyrchol a diogel, yn unol â Pholisi DP/3 – ‘Hyrwyddo Ansawdd Dylunio a Lleihau Trosedd’. Bydd croesfannau cyfleus o ansawdd i gerddwyr yn cael eu hyrwyddo i'w gwneud hi'n haws croesi'n syth a diogel dros ffyrdd prysur. Bydd datblygiadau'n cyfrannu tuag at y cysylltiadau hyn, a thuag at fannau parcio beiciau o ansawdd lle bo'n briodol, yn unol â'r Egwyddorion Datblygu a Safonau Parcio'r Cyngor, fel y nodir ym Mholisi STR/2;
- Bydd cynlluniau cludiant sy'n arwain at wella hygyrchedd yn cael eu cefnogi mewn egwyddor. Wrth ystyried ceisiadau datblygu, rhaid ystyried y posibilrwydd am ddulliau teithio mwy cynaliadwy sy'n gysylltiedig â defnyddwyr a'r defnydd a wneir o'r datblygiad, gan gynnwys paratoi Cynlluniau Teithio.
4.8.2.3 Mae hygyrchedd da yn golygu y gall y gymuned gael mynediad at bethau y maent eu hangen (er enghraifft, siopa, addysg a chyflogaeth) yn rhwydd a heb fod angen car. Gellir gwella hygyrchedd drwy osod datblygiadau mewn lleoliadau priodol a thrwy wella cludiant cyhoeddus a chyfleusterau a gwasanaethau cerdded a beicio. Bydd angen y gymuned am ddatblygu yn cael ei ddiwallu drwy leoli'r rhan fwyaf o ddatblygiadau yn y lleoliadau hygyrch, yn bennaf ar hyd yr A55 a choridor y rhwydwaith trenau, y tu fewn i Ardal y Strategaeth Datblygu Trefol, lle ceir cysylltiadau allweddol â chludiant rheolaidd. Gall sicrhau hygyrchedd da wyro ymddygiad pobl tuag at ddulliau mwy cynaliadwy o deithio. Serch hynny, mae cynllunio teithiau, addysg a rheoli'r galw yn rhannau annatod o'r strategaeth gludiant gyffredinol. Mae gwella hygyrchedd a lleihau'r ddibyniaeth ar geir yn helpu i wella cydraddoldeb, yn lleihau tagfeydd ac yn ymateb i heriau'r newid yn yr hinsawdd a chynaliadwyedd amgylcheddol. Er mwyn gwella'r dulliau teithio cynaliadwy sydd ar gael, iechyd y gymuned a'r amgylchedd, bydd y Cyngor yn neilltuo tir ar gyfer cyfleuster rhyngnewid yng Ngorsaf Reilffordd Llandudno.
4.8.2.4 Ar gyfer teithiau cymharol fyr mae cerdded yn ogystal â beicio'n ddulliau teithio dymunol iawn sydd hefyd yn cefnogi arfer byw iachus. Yn ôl data'r cyfrifiad (2001), mae mwyafrif (66%) trigolion Conwy sy'n economaidd weithgar yn defnyddio'u car i deithio i'r gwaith. Tra bo 14% o drigolion yn cerdded i'r gwaith, dim ond 1.7% ohonynt sy'n beicio. Yn anffodus, mae pobl yn cael eu hatal rhag cerdded a beicio i rai ardaloedd gan fod prif ffyrdd a chylchfannau'n peri rhwystr i gerddwyr a beicwyr. Mae cerdded yn rhan o bron bob taith, ac mae pobl yn llai tebygol o gerdded i siop leol neu orsaf bws os yw'r amgylchedd i gerddwyr yn wael neu'n ymddangos yn fygythiol. Mae rhai ffyrdd, strydoedd a chyffyrdd wedi cael eu dylunio mewn modd sy'n rhoi blaenoriaeth i sicrhau llif barhaus y traffig ar draul cerddwyr a beicwyr. Targedir gwelliannau i ddewisiadau cerdded a beicio a’u diogelwch ym mhob anheddiad, yn bennaf lle mae angen cael mynediad at gyflogaeth ac adwerthu yn Llandudno, Cyffordd Llandudno, Bae Colwyn ac Abergele ac i ddibenion hamdden a thwristiaeth ar hyd coridorau'r arfordir a'r afonydd. Enghreifftiau o hyn fyddai gweithredu rhaglen Gwella Llwybr Arfordir Cymru a chynllun Gwella Hawliau Tramwy Conwy. Bydd angen i bob datblygiad newydd ddarparu cyfleusterau cerdded a beicio o ansawdd a chyfrannu tuag at welliannau cynaliadwyedd yn y gymuned o'i amgylch, fel bo'n briodol.
4.8.2.5 Mae cerdded a beicio'n arbennig o bwysig mewn canolfannau lle mae nifer o bobl yn siopa, yn gweithio, yn byw neu'n chwarae o fewn ardal gyfagos. Gall y canolfannau gynnwys nifer fawr iawn o gerddwyr a beicwyr heb broblemau tagfeydd, sŵn a llygredd a achosir gan nifer cymharol fach o gerbydau modur. Er mwyn annog pobl i ddefnyddio dulliau teithio cynaliadwy, gofynnir am gyfraniadau i wella iechyd a diogelu'r amgylchedd yn well. Bydd y Cyngor yn ceisio agor cysylltiadau pont droed newydd yng ngorsaf reilffordd Cyffordd Llandudno ac ym Mae Colwyn rhwng canol y dref a glan y môr.
4.8.2.6 Mae'r Cynllun Datblygu Lleol felly'n ceisio gwneud gwelliannau sylweddol i gludiant cynaliadwy er mwyn gwella dewisiadau cerdded a beicio a’u diogelwch ac i wella cysylltiadau â mathau eraill o ddulliau teithio cynaliadwy yn Ardal y Cynllun ac, yn enwedig ag Ardal y Strategaeth Datblygu Trefol. Er mwyn cyflawni hyn, bydd y Cyngor yn cydweithio â phartneriaid i sicrhau cyfraniadau gan ddatblygwyr, ac yn ceisio cael arian ar gyfer gwelliannau cerdded a beicio, lle bo'r angen, i ehangu Llwybr Beicio Cenedlaethol 5 SUSTRANS drwy adeiladu pont gerdded/beicio yn Harbwr y Foryd er mwyn creu rhwydwaith llawnach i gysylltu Conwy â Sir Ddinbych. Mae'r gwaith i gwblhau Llwybr Beicio Cenedlaethol 5 yn Llandudno hefyd yn symud yn ei flaen.
4.8.2.7 Yn unol â Deddf Cludiant Cymru 2006, mae Llywodraeth Cymru'n gofyn i gonsortiwm Taith, sy’n bartneriaeth o Awdurdodau Lleol a chanddynt gyfrifoldebau dros gludiant yng Ngogledd Cymru, greu Cynllun Cludiant Rhanbarthol (RTP). Strategaeth i ganfod a darparu gwelliannau i'n system gludiant dros y 25 mlynedd nesaf yw’r RTP. Mae RTP Gogledd Cymru wedi cael ei greu, a daeth i rym ym mis Ebrill 2010.
4.8.3 Safonau Parcio
Polisi STR/2 – SAFONAU PARCIO
- Dylai’r ddarpariaeth parcio ceir fod yn unol â safonau uchaf y Cyngor, i leihau dibyniaeth ar geir a hyrwyddo dulliau teithio mwy cynaliadwy.
- Mewn lleoliadau gyda mynediad da at gyfleusterau a gwasanaethau a wasanaethir gan gludiant cyhoeddus o safon uchel, bydd y Cyngor yn ceisio lleihau nifer y mannau parcio a ddarperir, yn unol â Safonau Parcio Conwy.
- Dylid darparu mannau diogel i gadw beiciau yn unol â safonau y Cyngor.
4.8.3.1 Gall nifer y mannau parcio sydd ar gael effeithio'n sylweddol ar y math o gludiant y bydd pobl yn ei ddewis. Yn unol â hynny, mae polisi'r Llywodraeth yn anelu i gyfyngu ar y lefelau parcio sy'n gysylltiedig â datblygiadau newydd er mwyn lleihau'r defnydd o geir a hyrwyddo dulliau teithio mwy cynaliadwy. Yn ogystal â hyn, gall mannau parcio orchuddio llecyn helaeth o dir, gan effeithio ar ymddangosiad y datblygiad a'r defnydd effeithlon o dir. Yn ôl TAN18, Adran 4, ‘gall rheolaethau dros barcio, codi taliadau a chyfyngiadau ar ddarpariaeth neu amser fod yn briodol os ydynt yn gydnaws â pholisïau defnydd tir, yn cyfrannu tuag at leihau tagfeydd ac yn diogelu amwynder’. Diben y polisi hwn a’r canllawiau cynllunio atodol yw rheoli'r galw am fathau penodol o barcio, er mwyn hyrwyddo nodau amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd y cynllun. Lle bo cyfle ar safleoedd defnydd cymysg, er enghraifft, anogir defnyddio mannau parcio ar y cyd a chyd-deithio i leihau’r ddarpariaeth cymaint ag y bo modd? Bydd y Cyngor yn adolygu ei safonau parcio'n seiliedig ar y Cynllun Cludiant Rhanbarthol.
4.8.4 Lliniaru Effaith Teithio
Polisi STR/3 – LLINIARU EFFAITH TEITHIO
- Bydd yn ofynnol i ddatblygiadau newydd liniaru drwgeffeithiau teithio, fel sŵn, llygredd, yr effaith ar amwynder ac iechyd, ac effeithiau eraill amgylcheddol.
- Os yw datblygiad bwriedig yn debygol o arwain at oblygiadau cludiant, cymdeithasol neu amgylcheddol sylweddol, bydd y Cyngor yn ei gwneud yn ofynnol i gyflwyno Asesiad Cludiant a Chynllun Cludiant gyda’r cais cynllunio. Efallai y bydd angen Archwiliad Diogelwch hefyd.
- Lle credir bod y datblygiad bwriedig yn cael goblygiadau cludiant sylweddol ar ardal ehangach, bydd angen cyfraniadau ariannol tuag at welliannau isadeiledd cludiant, yn enwedig i gludiant cyhoeddus, beicio a cherdded, yn unol ag egwyddorion datblygu yn Adran 4 – Polisïau Gofodol a Chefnogi Polisïau Rheoli Datblygiad.
- Efallai y bydd y Cyngor hefyd yn ei gwneud yn ofodol i ddatblygwyr gyflwyno Datganiad Cludiant ar gyfer cynigion datblygu eraill lle mae angen deall effaith y cynnig ar gludiant.
4.8.4.1 Mae'n bwysig bod pob datblygiad yn lliniaru'i effaith ar o ran cludiant. Bydd yn ofynnol i geisiadau 'Datblygu graddfa fawr' neu geisiadau datblygu a chanddynt 'oblygiadau cludiant sylweddol', fel y nodir yn NCT18, lunio Asesiad Cludiant a Chynllun Teithio (fel y nodir ym Mholisi STR/3). Dylid cyflwyno Datganiad Cludiant ochr yn ochr â phob cais datblygu arall er mwyn galluogi'r ymgeisydd i ddangos i'r Cyngor ei fod wedi rhoi ystyriaeth briodol i effaith y cais ar gludiant ac wedi ystyried sut i'w lliniaru. Bydd manylder y Datganiad Cludiant yn amrywio'n unol â graddfa a chymhlethdod y cais yn unol â chanllawiau cenedlaethol a Pholisi DP/6 – ‘Polisïau a Chanllawiau Cynllunio Cenedlaethol’.
4.8.4.2 Mae sicrhau bod cynigion datblygu yn creu cysylltiad addas â phriffyrdd, sy’n ddiogel i gerddwyr, beicwyr, teithwyr mewn cerbydau a defnyddwyr eraill y ffyrdd, yn ystyriaeth gynllunio sylfaenol. Mae’r un mor bwysig sicrhau nad yw diogelwch ar y ffyrdd yn cael ei beryglu trwy ganiatáu cynigion a fydd yn creu lefelau traffig sy’n fwy na gallu’r rhwydwaith ffyrdd cyfagos i’w derbyn.
4.8.5 Teithio Heb Fodur
Polisi STR/4 – TEITHIO HEB FODUR
Bydd y Cyngor yn cefnogi cynnydd yn y defnydd o ddulliau teithio heb fodur, gan gynnwys beicio a cherdded, drwy sicrhau bod datblygiadau sy'n creu'r angen i deithio wedi'u lleoli a'u dylunio i hwyluso teithiau byr rhwng y cartref, y gwaith, ysgolion a cholegau, cyrchfannau eraill addas a hamdden. Yn ogystal â lleihau cymaint a bo modd ar y pellter rhwng mannau cychwyn a chyrchfannau, dylai ceisiadau datblygu sicrhau:
- Bod digon o fannau i barcio beiciau'n ddiogel yn unol â'r safonau ym Mholisi STR/2;
- Bod dyluniadau a chynlluniau manwl yn annog pobl i ddefnyddio beiciau a cherdded.
4.8.5.1 Mae'r hierarchaeth uchod yn nodi'r flaenoriaeth i ddarparu isadeiledd ar gyfer dulliau heb fodur o deithio drwy'r broses gynllunio, er enghraifft drwy gyfraniadau Adran 106. Er eu bod wedi'u rhestru yn ôl blaenoriaeth, ni ddylid hyrwyddo unrhyw flaenoriaeth unigol ac anwybyddu'r gweddill. Y flaenoriaeth gyntaf yw cysylltu â chanolfannau atyniadol mwy, yn gyfagos â'r sir ac oddi mewn iddi, gan gynnwys Ardal y Strategaeth Datblygu Trefol a'r Prif Bentrefi. Mae gan y canolfannau hyn ystod o wasanaethau a chyfleusterau, gan gynnwys ysgolion ac ardaloedd cyflogaeth. Mae hyn yn cynnig gwell gwerth am arian o ran ystod y boblogaeth a allai ddefnyddio'r llwybrau. Yn ogystal â hyn, mae ‘Llwybrau Diogelach i'r Ysgol’ eisoes yn cael ei ddarparu o ffynhonnell ariannu ar wahân. Mae'r llwybrau hamdden hefyd yn adnodd pwysig, yn enwedig i wella mynediad i'r ardal o gefn gwlad gyfagos yn rhan o arfer byw iachus.
4.8.5.2 Mae’r Cynllun Cludiant Rhanbarthol yn cynnwys strategaethau ar wahân ar gerdded a beicio ac yn cydnabod eu pwysigrwydd a'r angen i sicrhau gwelliannau i gapasiti, ansawdd a diogelwch y rhwydwaith. Ar yr un pryd, mae angen diogelu hawliau tramwy cyhoeddus sy'n bodoli eisoes. Mae'r Cyngor, drwy ei Awdurdod Priffyrdd lleol, yn gyfrifol am ddiweddaru mapiau hawliau tramwy cyhoeddus swyddogol ac am greu cynlluniau Gwella Hawliau Tramwy. Mae llwybrau cyhoeddus mewn ardaloedd gwledig (llwybrau troed, llwybrau ceffylau a chilffyrdd) yn adnodd pwysig i gerddwyr ac, mewn achosion priodol, i feicwyr a marchogion.
4.8.6 System Cludiant Cynaliadwy Integredig
Polisi STR/5 – SYSTEM CLUDIANT CYNALIADWY INTEGREDIG
Er mwyn gwella’r system cludiant, darparu ar gyfer anghenion datblygu a gwella cymunedau, bydd y cynlluniau canlynol yn cael eu diogelu a’u hyrwyddo fel y nodwyd ar y Map Cynigion:
- Gorsaf Reilffordd Llandudno – Darparu cyfleuster rhyngnewid cludiant cynaliadwy o ansawdd uchel;
- Cyffordd Llandudno - Gwella integreiddio a mynediad i'r ardaloedd adwerthu, hamdden, adloniant a busnes trwy greu pont droed newydd o Orsaf Reilffordd Cyffordd Llandudno;
- Harbwr y Foryd – Hyrwyddo Llwybr Beicio Cenedlaethol 5 SUSTRANS a phont gyswllt newydd i gerddwyr/beicwyr yn Harbwr y Foryd ym Mae Cinmel;
- Bae Cinmel – Ei gwneud hi'n bosibl i greu ffordd gyswllt rhwng Parc Hanes ac Ogwen Avenue i wella mynediad cyffredinol yn yr ardal;
- Hen Reilffordd Dyffryn Clwyd ym Mae Cinmel – Diogelu fel llwybr i hyrwyddo mynediad gwell i'r gymuned;
- Rhaglen Gwella Llwybr Arfordir Cymru a Chynllun Gwella Hawliau Tramwy Conwy – I wella mynediad cymunedau lleol ac ymwelwyr i'r arfordir ac i gefn gwlad;
- Bae Colwyn – Gwell mynediad rhwng y dref a glan y môr fel rhan o Gynllun Bae Colwyn a phrosiect amddiffyn yr arfordir.
4.8.6.1 Mae argaeledd a'r defnydd o gludiant cyhoeddus yn elfen bwysig iawn wrth bennu polisïau cynllunio wedi'u dylunio i leihau'r angen i deithio mewn car. I'r perwyl hwn, mae'r polisi cenedlaethol yn gofyn bod awdurdodau cynllunio lleol yn archwilio'r posibilrwydd, ac yn dynodi unrhyw geisiadau, i wella cludiant cyhoeddus drwy ddefnyddio rheilffyrdd, yn enwedig drwy ailagor llinellau rheilffordd. Gallai llwybrau o'r fath hefyd gael eu defnyddio fel llwybrau cerdded a beicio dros dro cyn cyflwyno gwasanaethau rheilffordd.
4.8.7 Cludo Nwyddau ar y Rheilffordd
Polisi STR/6 – CLUDO NWYDDAU AR Y RHEILFFORDD
Mae'r Cyngor yn cefnogi cludo nwyddau ar y rheilffordd ac mae'r cyfleusterau presennol yng Nghyffordd Llandudno a Phenmaenmawr wedi'u diogelu i'r diben hwn.
4.8.7.1 Am flynyddoedd lawer, bu gostyngiad yn nifer y nwyddau sy'n cael eu cludo ar y rheilffordd, yn bennaf o ganlyniad i'r gystadleuaeth gan gludiant ar y ffordd. Fodd bynnag, yn ystod blynyddoedd diweddar, cafwyd adfywiad yn y defnydd o drenau i gludo nwyddau ar raddfa genedlaethol, ond nid yw hyn wedi cael ei adlewyrchu'n lleol. Mae nifer o'r hen gyfleusterau cludo nwyddau ar drenau fu'n bodoli gynt yn Ardal y Cynllun naill ai wedi dod i ben neu wedi cael eu hailddatblygu ac eithrio'r cyfleusterau sydd ar ôl yng Nghyffordd Llandudno a Phenmaenmawr. Mae'r cyfleusterau hyn yn cynnwys (i) seidins ar hyd Gorsaf Reilffordd Cyffordd Llandudno, (ii) y derfynell trenau nwyddau cyfagos yng Nghyffordd Llandudno a (iii) y cyfleuster llwytho balast ym Mhenmaenmawr. Nid yw'r derfynell trenau nwyddau yn cael ei ddefnyddio ar hyn o bryd, ac mae gan ran o'r safle ganiatâd cynllunio dros dro fel storfa.
4.8.7.2 Mae'r Cyngor yn cefnogi trosglwyddo nwyddau o'r ffyrdd i'r rheilffyrdd ac yn ystyried bod posibilrwydd i symud nwyddau ar drenau. Prin iawn yw'r cyfleoedd i greu cyfleusterau trenau nwyddau eraill yn Ardal y Cynllun. Mae Bwrdd Cludiant Gogledd Cymru ar y Cyd (TAITH) wedi comisiynu astudiaeth strategol ar botensial rheilffyrdd yng Ngogledd Cymru mewn cysylltiad â datblygiad y Cynllun Cludiant Rhanbarthol. Casgliad yr astudiaeth oedd bod potensial yng Nghyffordd Llandudno ar gyfer symud nwyddau archfarchnad ar y rheilffordd, a symud gwastraff ar y rheilffordd fel rhan o gynllun ehangach yng Ngogledd Cymru. Mae TAITH yn cefnogi cadw cyfleusterau rheilffordd ac mae’r Cyngor yn ofalus i ddiogelu cyfleusterau fel hyn yn y Ardal y Cynllun, gyda’r posibilrwydd o ddefnyddio’r cyfleusterau hyn ymhellach i ar gyfer cludo nwyddau ar y rheilffordd.