Cynllun Datblygu Lleol Conwy 2007 - 2022
4.3 Y STRATEGAETH ECONOMAIDD
4.3.1 Amcanion Gofodol
AG11, AG4, AG5.
4.3.2 Datganiad Strategaeth Economaidd
4.3.2.1 Dylai polisïau strategaeth economaidd y Cynllun hwn ymdrin â nifer o heriau a dyheadau sy’n ymwneud â chyflogaeth gan gynnwys:
- Bodloni anghenion cyflogaeth y boblogaeth a ragfynegir
- Hyrwyddo a datblygu cyfleoedd cyflogaeth uwch eu gwerth
- Cefnogi clystyrau busnes a thechnoleg,
- Cefnogi twf busnesau ac entrepreneuriaid presennol a busnesau newydd
- Datblygu economi sy’n seiliedig ar sgiliau a gwybodaeth sy’n manteisio i’r eithaf ar adnoddau naturiol, amgylchedd a threftadaeth ddiwylliannol yr ardal
- Gwneud defnydd o leoliad strategol o Sir o ran ffyrdd a rheilffyrdd. Yn ddelfrydol, dylai mentrau cyflogaeth o’r fath gynnig gyrfaoedd parhaol sy’n cynnwys sgiliau a fydd yn denu pobl ifanc i’r ardal ac yn eu cadw yno.
4.3.2.2 Gyda’i gilydd, mae’r rhain yn elfennau pwysig er mwyn hyrwyddo strwythur oedran mwy cytbwys a medrus a ffordd gadarnhaol o hyrwyddo a chadw poblogaeth sy’n iau ac yn fwy economaidd-weithgar.
4.3.2.3 Lluniwyd y strategaeth cyflogaeth i sicrhau bod y Cyngor, yn ystod cyfnod y Cynllun yn cydweithio â’i bartneriaid i gynllunio, monitro ac adolygu darpariaeth oddeutu 2,350 o swyddi newydd (20.5 hectar o dir) o ddefnydd cyflogaeth swyddfeydd a diwydiant B1, B2 a B8 gyda lefel wrth gefn ychwanegol (o 235 o swyddi newydd) hyd at gyfanswm o 2,585 o swyddi (22.5 hectar). Mae 1,800 o swyddi eraill (15.5 Hectar) gyda lefel wrth gefn ychwanegol (o 180 o swyddi newydd) hyd at 1,980 o swyddi newydd (17 Hectar) ar gael ar gyfer defnydd cyflogaeth swyddfeydd a diwydiat B1, B2 a B8 yn y Cynllun i gyfrannu at ostwng lefelau all gymudo Caiff datblygiad clystyrau busnes a thechnoleg ei hyrwyddo, ynghyd â’r isadeiledd cludiant, amgylcheddol a thelathrebu sydd ei angen i gefnogi’r rhwydweithiau hynny. Mae’r Strategaeth Economaidd yn cydnabod y gall cydweithio rhwng busnesau cysylltiedig (sy’n prynu ac yn gwerthu ymysg ei gilydd ac sy’n rhannu’r un isadeiledd, technoleg, darpar gwsmeriaid a sylfaen sgiliau) mewn ‘clystyrau’ o’r fath arwain at amgylchedd mwy cystadleuol, cynhyrchiol ac arloesol.
4.3.2.4 Mae polisïau a ddatblygir o dan y Strategaeth Economaidd yn ceisio rhoi’r prif sylw i leoliadau hygyrch a chanddynt isadeiledd da. Dylai hyn gyfrannu at gyflawni amcanion poblogaeth, lleihau lefelau allgymudo, bodloni anghenion a nodwyd yn yr aneddiadau trefol a gwledig, datblygu sgiliau a chreu cyflogaeth o werth uwch. Bydd y Cyngor yn gweithio’n agos gyda phartneriaid preifat a chyhoeddus i lunio strategaeth fuddsoddi ar gyfer y Ardal y Cynllunsy’n ystyriol o’r cymhellion ariannol posib a allai fod ar gael drwy gynlluniau amrywiol fel y Cynllun Buddsoddi yn Seilwaith Cymru.
4.3.2.5 Nododd Cynllun Gofodol Cymru ardaloedd canolbwynt strategol. Dylid canolbwyntio buddsoddi yn y dyfodol ar gyfer cyflogaeth, tai, adwerthu, hamdden a gwasanaethau yn yr ardaloedd hyn. Cydnabyddir Conwy/Cyffordd Llandudno/Bae Colwyn yn un o’r ardaloedd canolbwynt hyn, ac mae dynodi Bae Colwyn – Rhyl fel Ardal Adfywio Strategol yn rhoi rhagor o bwyslais. Mae’r Cyngor yn cydnabod hyn drwy geisio canolbwyntio datblygiad o fewn yr Ardal Strategol Ddatblygu Trefol. I’r perwyl hwnnw, mae cyhoeddi Prif Gynllun Bae Colwyn yn ddull pwysig er mwyn creu cyflogaeth a goresgyn amddifadedd a dirywiad economaidd, ac mae creu swyddi yn brif gymhelliad. Fodd bynnag, mae’r strategaeth economaidd yn cydnabod y cyfyngiadau mawr a geir o fewn y canolbwynt strategol yn nwyrain Ardal y Cynllun, o ran dosbarthu a diogelu’r cyflenwad o gyflogaeth.
4.3.2.6 Mae’n bwysig fod y strategaeth economaidd hefyd yn annog cyflogaeth ar raddfa lai y tu allan i’r aneddiadau trefol fel y gellir datblygu menter wledig a chyfrannu at ddatblygiad economaidd lleol. Ond dylai datblygiadau fel hyn fod yn gydnaws â buddiannau’r ardal o ran tirlun, priffyrdd, ecoleg a mwynderau. Mae hefyd yn bwysig gwella cyflymder, ansawdd a hygyrchedd yr isadeiledd Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu cyflymder uchel, i hwyluso rhagor o gyfleoedd ar gyfer gweithio gartref neu o bell mewn ardaloedd gwledig. Mae gwaith fel hyn yn cynnig manteision penodol, nid yn unig ar gyfer gweithredu egwyddorion datblygu cynaliadwy, ond hefyd ar gyfer creu cyflogaeth newydd, ailddefnyddio adeiladau gwag a lleihau’r angen am deithio mewn cerbydau i’r gwaith. Gall hefyd helpu i liniaru llif allfudo pobl leol o’r ardal a chryfhau bywyd cymunedol trwy alluogi pobl i fyw a gweithio yn eu pentref.
4.3.2.7 Mae’r strategaeth economaidd yn cynnwys polisïau sy’n ceisio diogelu’r stoc bresennol o eiddo swyddfa a chyflogaeth a hyrwyddo busnesau newydd sy’n creu cyflogaeth swyddfeydd a diwydiant ar safleoedd addas sydd heb eu dyrannu. Caiff hyrwyddo rhwydweithiau economi ac eco-ddiwydiant priodol hefyd ei gefnogi ar yr amod na cheir unrhyw effeithiau annerbyniol. Yn ychwanegol at hyn, anogir adsefydlu ac ailwampio ardaloedd cyflogaeth presennol hyd y gellir, er mwyn annog gwelliannau amgylcheddol, denu buddsoddiad ac adfywio’n gyffredinol.
4.3.2.8 Mae’r Strategaeth Economaidd hon yn nodi’r ymagwedd i gyfrannu tuag at y prif faterion hyn.
4.3.3 Diwallu Anghenion Cyflogaeth Swyddfeydd a Diwydiant B1, B2 a B8
POLISI STRATEGOL EMP/1 – DIWALLU ANGHENION CYFLOGAETH SWYDDFEYDD A DIWYDIANT B1, B2 A B8
Mae diwallu anghenion cyflogaeth Ardal y Cynllun yn greiddiol i amcanion y Cyngor i’r dyfodol. Yn ystod cyfnod y Cynllun, bydd y Cyngor yn cynllunio, monitro ac adolygu cyflawni tua 20.5 hectar o dir cyflogaeth swyddfeydd a diwydiant B1, B2 a B8, (gan gynnwys adeiladau a gwblhawyd safleoedd a ymrwymwyd a dyraniadau newydd) gyda lefel wrth gefn ychwanegol hyd at 2.0 hectar (cyfanswm o 22.5 hectar) o dir cyflogaeth swyddfeydd a diwydiant B1, B2 a B8, i ddiwallu anghenion y amcanestyniadau poblogaeth yn ystod cyfnod y Cynllun. Darperir tua 15.5 hectar gyda chynllun wrth gefn o 1.5 hectar (cyfanswm o 17 hectar), o dir cyflogaeth swyddfeydd a diwydiant B1, B2 a B8 i gyfrannu at yr amcan o leihau lefelau all gymudo. Bydd cyflogaeth gwerth uwch, datblygu sgiliau, clystyrau busnes a thechnoleg a hyrwyddo strwythur oedran mwy cytbwys yn cael eu hannog. Cyflawnir hyn trwy:
- Cefnogi datblygiad cyflogaeth newydd yn yr Ardaloedd Datblygu Strategol Gwledig a Threfol yn unol â Pholisi EMP/2 – ‘Datblygiad Cyflogaeth Swyddfeydd a Diwydiant B1, B2 a B8 Newydd’.
- Cyfrannu at leihau lefelau all gymudo trwy gefnogi datblygiadau cyflogaeth swyddfeydd a diwydiant B1, B2 a B8 newydd yn yr Ardal Strategol Datblygu Trefol yn unol â Pholisi EMP/2.
- Cefnogi datblygiad cyflogaeth swyddfeydd a diwydiant B1, B2 a B8 newydd ar safleoedd heb eu dyrannu yn yr Ardaloedd Strategaeth Datblygu Gwledig a Threfol yn unol â Pholisi EMP/3 – ‘Datblygiad Swyddfeydd a Diwydiant B1, B2 a B8 Newydd ar Safleoedd Heb eu Dyrannu’.
- Mynd i’r afael â phroblemau amddifadedd a dirywiad economaidd trwy gadw a datblygu deunyddiau creu cyflogaeth fel rhan o adfywio cynhwysfawr Bae Colwyn yn unol â Pholisi DP/8 –‘Prif Gynllun bae Colwyn’;
- Diogelu safleoedd cyflogaeth swyddfeydd a diwydiant B1, B2 a B8 rhag cael eu defnyddio at bwrpas arall yn unol â Pholisi EMP/4 – ‘Diogelu Safleoedd Cyflogaeth Swyddfeydd a Diwydiant B1, B2 a B8’.
- Hyrwyddo Ardaloedd Gwella ar gyfer swyddfeydd a diwydiant B1, B2 a B8 yn unol â Pholisi EMP/5 – ‘Ardaloedd Gwella ar gyfer Swyddfeydd a Diwydiant’.
- Hyrwyddo defnyddio tir neu adeiladau addas nad ydynt yn cael eu defnyddio neu sy’n cael eu tan ddefnyddio ar gyfer defnydd cyflogaeth o fewn Ardal Strategol Datblygu Gwledig, yn unol â Pholisi EMP/6 – ‘Ailddefnyddio ac Addasu Adeiladau Gwledig’, a Chynllun Asedau Busnes y Cyngor.
- Cefnogi arallgyfeirio priodol ar ddaliadau amaethyddol, sy’n gydnaws â’r tirlun, yr ecoleg a’r mwynderau sy’n cynnig mynediad cynaliadwy yn unol â Pholisi DP/6 – ‘Polisi a Chanllawiau Cynllunio Cenedlaethol’.
- Hyrwyddo datblygu sgiliau yn unol â Pholisïau DP/4 – ‘Meini Prawf Datblygu’, DP5 – ‘Isadeiledd a Datblygiadau Newydd’;
- Cefnogi datblygiad clystyrau busnes/technoleg a manteision amgylcheddol drwy rwydweithio eco-ddiwydiannol gwyrdd yn unol â Pholisïau EMP/2, EMP/3 ac EMP/4
- Annog isadeiledd cefnogol priodoln sy’n cynnal ac yn hyrwyddo’r economi leol, yn unol â’r Egwyddorion Datblygu.
4.3.3.1 Mae’r modd y mae’r Cynllun hwn yn gallu hwyluso gwella economi’r Ardal y Cynllun yn uniongyrchol yn gyfyngedig. Ei brif swyddogaeth yw sicrhau fod cyflenwad digonol o dir ar gael ac wedi’u diogelu, i alluogi ystod ehangach o gynlluniau newydd cyflogaeth heb andwyo’r asedau amgylcheddol a hanesyddol yng Nghonwy a hunaniaeth ddiwylliannol ardal y Cynllun.
4.3.3.2 Mae rhan fwyaf o’r aneddiadau mwy a mwy cynaliadwy yn y Ardal y Cynllun ar hyd coridor yr A55 a’r rheilffordd. Er bydd y lleoliadau trefol hyn yn cynnwys y rhan fwyaf o’r twf mewn cyflogaeth yn ystod cyfnod y cynllun, mae’r cynllun yn cydnabod anghenion cymunedau gwledig ac yn dyrannu tir cyflogaeth yn yr Ardal Strategol Datblygu Gwledig, i gynorthwyo i hyrwyddo’r cymunedau gwledig cynaliadwy, a chyfrannu at leihau teithio mewn car preifat.
4.3.3.3 Mae astudiaethau i’r gofynion am dir cyflogaeth (gweler BP/2 – Amcanestyniadau Poblogaeth ac Aelwydydd’) ac argaeledd safleoedd addas o’r cyflenwad presennol (gweler BP/13 – ‘Adroddiad Monitro Tir Cyflogaeth’) yn dangos bod cyflenwad mawr o dir ar gael gyda chaniatâd cynllunio ar gyfer cyflogaeth yn y Ardal y Cynllun, yn bennaf o fewn Ardal y Strategaeth Datblygu Trefol. Fel y dangoswyd yn BP/13, mae digon o dir hefyd ar gael ar gyfer y rhan fwyaf o anghenion tymor byr a thymor canolig i dymor hir yr ardal. Ond, mae tir newydd ar gyfer cyflogaeth wedi ei ddyrannu yn yr Ardaloedd Strategaeth Datblygu Gwledig a Threfol, yn bennaf yn lleoliadau canolbwyntiau strategol Cynllun Gofodol Cymru, sef Conwy Cyffordd Llandudno a Llandudno a lleoliad hygyrch Abergele, i ddiwallu’r diffyg a nodwyd a’r gofynion ychwanegol i leihau lefelau all gymudo. Yn ogystal â hyn, caiff cynigion priodol am ddatblygiad swyddfeydd a diwydiant mewn aneddiadau cydnabyddedig, neu ar gyrion yr aneddiadau hynny eu hyrwyddo os bydd hynny’n golygu cyflawni’r amcanion â blaenoriaeth.
4.3.3.4 Bydd y rhan fwyaf o ddatblygiad cyflogaeth newydd yn yr Ardal Strategol Datblygu Trefol, ond ceir dyraniadau ychwanegol yn yr aneddiadau Ardal Strategol Datblygu Gwledig, sydd yn fwy hygyrch ac sy’n cael eu gwasanaethu, yn bennaf yn y Prif Bentrefi Lefel 1 a 2, i gyfrannu at hyrwyddo cymunedau mwy cynaliadwya swyddi a gaiff eu creu’n lleol, ac sydd ar gael yn lleol. Mae’r Cyngor yn cydnabod y bydd cefnogi busnesau presennol a newydd yn cynorthwyo cymunedau lleol i ffynnu, gan ddarparu sgiliau datblygu a helpu i leihau’r angen i bobl gymudo yn bell i weithio. Mae’r ymagwedd o ran polisi yn ddigon hyblyg i sicrhau y caiff cynigion newydd priodol am gyfleoedd cyflogaeth lleol mewn ardaloedd gwledig hefyd eu hannog ar safleoedd sydd heb eu dyrannu. Mae’n holl bwysi diogelu a chyfoethogi’r Gymraeg a diwylliant Cymreig, yn ogystal â diogelu a gwella’r amgylchedd.
4.3.3.5 Mae’n bwysig diogelu’r stoc bresennol o eiddo cyflogaeth swyddfeydd a diwydiant. Fodd bynnag, mae’r Cyngor yn cydnabod achosion lle na fydd eiddo swyddfa ac/neu ddiwydiannol yn addas i ardal, a lle bydd angen iddynt adleoli er mwyn parhau i fod yn ddichonadwy o safbwynt ariannol.
4.3.4 Dyrannu Safleoedd Datblygu Cyflogaeth Swyddfeydd a Diwydiant B1, B2 a B8 Newydd
Polisi EMP/2 – DYRANNU SAFLEOEDD DATBLYGU CYFLOGAETH SWYDDFEYDD A DIWYDIANT B1, B2 A B8 NEWYDD
- Yn ystod cyfnod y Cynllun, bydd y Cyngor yn cynllunio, monitro ac adolygu darparu tua 20.5 hectar o dir cyflogaeth swyddfeydd a diwydiant B1, B2 a B8, (gan gynnwys safleoedd wedi eu cwblhau, safleoedd wedi ymrwymo a dyraniadau newydd) gyda lefel wrth gefn ychwanegol hyd at 2.0 hectar (cyfanswm o 22.5 hectar) o dir cyflogaeth swyddfeydd a diwydiant B1, B2 a B8 i gwrdd â’r amcanestyniadau poblogaeth. Darperir tua 15.5 hectar, gyda thir wrth gefn hyd at 1.5 hectar (cyfanswm o 17 hectar) o dir cyflogaeth swyddfeydd a diwydiant B1, B2 a B8 i gyfrannu at yr amcan o leihau lefelau cymudo o’r sir. Cyflogaeth swyddfeydd a diwydiant B1, B2 a B8 gwerth uwch, datblygu sgiliau a chlystyrau busnes a thechnoleg er mwyn annog strwythur oedran mwy cytbwys. Cyflawnir hyn drwy:
- Leoli a diogelu tuag 85% (17.5 hectar) hectar o dir swyddfeydd a diwydiant B1, B2 a B8 yn yr Ardal Strategol Datblygu Trefol (gan gynnwys safleoedd wedi’u cwblhau, safleoedd a ymrwymwyd a dyraniadau newydd) a lefel wrth gefn ychwanegol o 1.5 hectar (cyfanswm o 19 hectar) lle disgwylir y twf mwyaf mewn poblogaeth. Mae dyraniadau safleoedd newydd a safleoedd wrth gefn wedi eu dosbarthu a’u diogelu fel y nodwyd isod:
- Lleoli a diogelu 15.5 hectar ychwanegol o dir swyddfeydd a diwydiant yn yr Ardal Strategol Datblygu Trefol (gan gynnwys safleoedd a gwblhawyd, safleoedd a ymrwymwyd a dyraniadau newydd) a hyd at 1.5 hectar ychwanegol o dir wrth gefn (cyfanswm o 17 hectar) i gyfrannu at leihau lefelau all gymudo. Mae’r dyraniadau safle newydd a safleoedd wrth gefn wedi eu dosbarthu a’u diogelu fel y nodwyd isod:
ARDAL STRATEGOL DATBLYGU TREFOL
Anheddiad Trefol
Dyraniad Safle
Dyraniad Cyflogaeth
Esgyryn, Cyffordd Llandudno (Tai defnydd Cymysg a Safle Cyflogaeth)
5.2 Hectaro Gyflogaeth B1
Gogledd-ddwyrain y Cyn Iard Nwyddau
0.4 Hectar o Gyflogaeth B1
Cyfanswm dyraniadau USDA
11.5 hectar(i gwrdd â gofynion ar gyfer 10.73 hectar – gweler tabl 8)
Safle wrth gefn
Abergele De Ddwyrain
3.7 hectar o Gyflogaeth B1/B2/B8 (gofyniad 3.0 hectar – gweler tabl 7)
CYFANSWM (gan gynnwys wrth gefn)
15.2 hectar
- Lleoli a diogelu tua 15% (3 hectar) o dir swyddfeydd a diwydiant B1, B2 a B8 yn yr Ardal Strategol Datblygu Gwledig (gan gynnwys safleoedd wedi eu cwblhau, safleoedd a ymrwymwyd a dyraniadau newydd) gyda lefel wrth gefn ychwanegol o 0.5 hectar (cyfanswm o 3.5 hectar) yn ystod cyfnod y Cynllun. Bydd y dyraniadau safle newydd a’r safleoedd wrth gefn yn cael eu dosbarthu a’u diogelu fel y nodwyd isod:
ARDAL STRATEGOL DATBLYGU GWLEDIG
Anheddiad Gwledig
Dyraniad Safle
Dyraniad Cyflogaeth
Safle R5 oddi ar y B5105, Cerrigydrudion (Defnydd Cymysg Tai a Chyflogaeth)
1.0 Hectar Cyflogaeth BI/B2
Cyfanswm Dyraniadau RDSA
3.1 Hectar(i gwrdd â gofynion 3 hectar – gweler tabl 8)
Wrth gefn
MS9 Gorsaf Betrol Orme View, Dwygyfylchi
0.5 hectar Cyflogaeth B1/B2/B8 (gofyniad 0.5 hectar-gweler tabl 7)
CYFANSWM (gan gynnwys wrth gefn)
3.6 hectar
- Bydd safleoedd wedi’u dyrannu a safleoedd wrth gefn yn cael eu rhyddhau fel y nodwyd yn y Cynllun Gweithredu a Monitro. Caiff safle wrth gefn ei ryddhau os caiff ei ddangos drwy’r Adroddiadau Monitro Blynyddol bod cyfraddau datblygu blynyddol yn 15% yn is neu’n uwch na thargedau ar gyfer dwy flynedd olynol neu fwy.
4.3.5 Cwrdd â gofynion cyflogaeth o newidiadau a ragwelir i’r boblogaeth
4.3.5.1 I gwrdd â’r galw am dir cyflogaeth a achosir gan y newidiadau a ragwelir yn y boblogaeth yn ystod cyfnod y Cynllun, mae angen i Gonwy gynllunio, monitro ac adolygu gofyniad am20.5hectaro dir cyflogaeth gyda 2 hectar (cyfanswm o 22.5 hectar) o dir wrth gefn ychwanegol , yn ystod cyfnod y Cynllun (Gweler BP/2), gan gynnwys adeiladau cyflogaeth ers 2007, safleoedd heb eu datblygu gyda chaniatâd cynllunio, a dyraniadau newydd. (gweler Tabl 7) . Nodwyd y gymhareb ar gyfer y gofyniad tir swyddi yn BP/42 - ‘Y Cyflenwad o Dir Cyflogaeth a’r Galw Amdano’. Yn unol â BP/37 – ‘Adroddiad Opsiynau Dosbarthu Twf’, mae 85% o’r gofyniad tir cyflogaeth hwn (17.5 hectar) i’w leoli yn yr Ardal Strategol Datblygu Trefol a 15% (3 hectar) yn yr Ardal Strategol Datblygu Gwledig. Mae rhaniad y cyflenwad cyffrediniol yn cyfateb â dosbarthiad safleoedd wrth gefn a safleoedd tai, gan greu ymagwedd strategaeth gyfannol.
4.3.6 Lleihau lefelau cymudo allan o’r Sir
4.3.6.1 Nododd yr asesiad diweddaraf o lefelau cymudo a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru yn 2010 bod 7,200 o bobl yn cymudo allan o Gonwy i’r gwaith, sy’n fwy na’r ffigyrau blaenorol yn 2009 (mae’r ffigyrau ar ffurf net). Uno amcanion y Cyngor yw lleihau’r lefel o gymudo allan o’r Sir trwy ddarparu twf economaidd. Gallai darparu mwy o swyddi na thai arwain at leihau cymudo yn y sir, ond yn gyffredinol nid yw’r lefel cymudo allan o sir yn debygol o leihau’n drawiadol, oherwydd natur fechan a mwy gwledig y Ardal y Cynllun. Dim ond ardaloedd trefol mawr sydd â digon o boblogaeth a chyflogaeth i ddarparu’r amrywiaeth o swyddi sydd eu hangen i gefnogi bod yn hunangynhwysol.Gan hynny, mae’r tir cyflogaeth a gynhyrchir yn sgil lleihau allgymudo wedi’i ddosbarthu yn y lleoliadau canolbwynt strategol ac yn lleoliad hygyrch a chynaliadwy Abergele.
4.3.6.2 Fel y nodwyd yn BP/2 a BP/3, dylid sicrhau 1,800 yn rhagor o swyddi yn y cynllun, i gyfrannu at leihau mudo allan o’r sir.
4.3.6.3 Er mwyn cyfrannu at leihau lefelau allgymudo, dylid sicrhau 15.5 hectar ychwanegol gyda lefel wrth gefn ychwanegol o 1.5 hectar (cyfanswm o17 hectar) o dir cyflogaeth yn yr Ardal Strategol Datblygu Trefol, yn bennaf yn lleoliad Canolbwynt Strategol Conwy/Llandudno/ Cyffordd Llandudno/Bae Colwyn ac anheddiad trefol hygyrch a chynaliadwy Abergele. Mae angen cadw’r elfen hon o anghenion ychwanegol ar wahân i’r galw a grëwyd gan y newid a ragwelwyd yn y boblogaeth o ganlyniad i fod dim goblygiadau o ran tai gan drigolion sydd eisoes yn byw yn y Ardal y Cynllun.
4.3.6.4 Mae’r holl ddyraniadau a’r defnydd ohonynt, fel y nodir ym Mholisi EMP/2 wedi’u diogelu.Ni chaniateir newid defnydd o ddyraniad wedi’i ddiogelu i ddefnydd cyflogaeth arall na defnydd heb gyflogaeth. Mae Tabl 7 isod yn nodi’r fframwaith tir cyflogaeth dros gyfnod y cynllun.
Tabl 7: Fframwaith Tir Cyflogaeth Ardal y Cynllun 2007 - 2022
Y galw sy’n cael ei greu gan y newid a ragwelir yn y boblogaeth | |
Y tir sydd ei angen | 20.5 Hectar (17.5 ha yn Ardal Strategol Datblygu Trefol a 3.0 ha yn Ardal Strategol Datblygu Gwledig) |
Wrth gefn | 2.0 Hectar (1.5 ha yn Ardal Strategol Datblygu Trefol a 0.5 ha yn Ardal Strategol Datblygu Gwledig) |
Is-gyfanswm gofynion tir | 22.5 Hectar |
Dosbarthu’r angen | Targedu 85% yr angen yn yr Ardal Strategol Datblygu Trefol ac 15% yn yr Ardal Strategol Datblygu Gwledig |
Y galw sy’n cael ei greu i leihau lefelau cymudo allan o’r sir | |
Y tir sydd ei angen | 15.5 Hectar yn yr Ardal Strategol Datblygu Trefol |
Wrth gefn | 1.5 Hectar yn yr Ardal Strategol Datblygu Trefol |
Is-gyfanswm gofynion tir | 17 Hectar |
Dosbarthu’r angen | Targedu 100% o’r angen yn yr Ardal Strategol Datblygu Trefol |
CYFANSWM GOFYNION TIR | |
Gofynion tir cyffredinol | 36 Hectar (20.5 ha + 15.5 ha) |
Y tir wrth gefn cyffredinol sydd ei angen | 3.5 Hectar (2 ha + 1.5 ha) |
Defnyddiau tir cyflogaeth | |
Defnydd tir cyflogaeth | Rhagor o alw a symud tuag at B1/B8 yn y tymor byr i dymor canolig a B2 yn y tymor hir |
4.3.6.5 Mae cyflawni a chynnal lefelau uchel o dwf economaidd B1, B2 a B8 a chyflogaeth yn fater cynllunio pwysig, gyda goblygiadau, nid yn unig ar gyfer creu cyfleoedd cyflogaeth cynaliadwy, ond hefyd ar gyfer materion cysylltiedig fel argaeledd tai ac isadeiledd. Y bwriad felly yw sicrhau fod safleoedd economaidd yn cael ei defnyddio i’w potensial llawn o fewn Ardal y Cynllun.
4.3.7 Tir Cyflogaeth ac Awdurdodau Cyfagos
4.3.7.1 Mae’r Cynllun yn cydnabod nad oes modd ystyried cyflenwad tir cyflogaeth B1, B2 a B8 yng Nghonwy ar wahân i gyflenwad ardaloedd awdurdodau cyfagos, yn enwedig y lleoliadau hynny sydd wedi eu lleoli yn strategol ar hyd coridor yr A55. Mae Cynllun Datblygu Lleol Conwy yn ystyried argaeledd tir cyflogaeth sydd ar gael, yn ogystal â dwysedd a math o weithgaredd cyflogaeth presennol. Yn Sir Ddinbych mae Parc Busnes Llanelwy yn ddatblygiad mawr 47 hectar sy’n cynnwys swyddfeydd ar raddfa fawr. Mae Parc Menai ac Ystâd Bryn Cegin yng Ngwynedd hefyd yn safleoedd cyflogaeth pwysig. Yn ogystal â hyn, cynigiodd CDLl Sir Ddinbych y dylid dyrannu tua 26 hectar o dir cyflogaeth newydd ym Modelwyddan. Ond i gyflawni’r amcanion sy’n flaenoriaethau yn y Cynllun, ac yn enwedig i ostwng lefelau allgymudo, bodloni newidiadau a ragfynegir i’r boblogaeth a hyrwyddo strategaeth twf gyfannol, maedyraniadau cyflogaeth newydd yn cael eu hyrwyddo yn Ardal Cynllun Conwy.
4.3.8 Ffynonellau Cyflenwad Tir Cyflogaeth
4.3.8.1 Wrth ddiwallu’r angen am 20.5 hectar o dir cyflogaeth i gyfrannu at y newid mewn cyflogaeth a’r 15.5 hectar i gyfrannu tuag at leihau lefel cymudo allan o’r sir yn ystod cyfnod y Cynllun, mae’n bosibl i’r Cyngor hefyd ystyried tir cyflogaeth a gwblhawyd (wedi’u hadeiladu) a thir cyflogaeth a ymrwymwyd (gyda chaniatâd cynllunio ond heb eu hadeiladu eto) ers 2007. Mae’r Cyngor eisoes wedi gwneud gwaith i nodi a dosbarthu’r stoc bresennol hwn. Mae’r Adroddiad Monitro Tir Cyflogaeth (gweler BP/13) yn nodi bod eisoes banc tir sylweddol o dir cyflogaeth. Mae Tabl 8 isod yn crynhoi sefyllfa bresennol cyflenwadau tir. Mae hyn yn rhoi syniad clir i’r Cyngor pa dir sydd ar gael ar gyfer datblygu, cyn ystyried dyraniadau cyflogaeth newydd. Yn ogystal mae’n bwysig sicrhau bod y math cywir a defnydd o dir (B1, B2 a B8) ar gael ar yr adeg gywir yn ystod cyfnod y Cynllun fel y nodir yn BP/13 a BP/42. Yn gyffredinol o ystyried y tir a gwblhawyd ac a ymrwymwyd, mae angen i’r Cyngor ddyrannu tua 11 hectar o dir yn yr Ardal Strategol Datblygu Trefol a 3 hectar yn yr Ardal Strategol Datblygu Gwledig, yn bennaf ar gyfer busnesau (B1), i gwrdd â’r newid a ragwelir mewn cyflogaeth a chyfrannu tuag at gymudo allan o’r Sir. Mae hyn yn ystyried bod tua 11.7 hectar eisoes wedi cael ei adeiladu ers 2007 ac mae caniatâd wedi’i sicrhau ar gyfer 10.57 hectar, ond nid yw gwaith wedi ei ddechrau eto fel y dangosir yn Nhabl 8 isod, BP/13 a BP/42. Nid oes unrhyw dir o’r cyflenwad hwn yn yr Ardal Strategol Datblygu Gwledig.
4.3.8.2 Mae’r Cyngor yn cydnabod y bydd adegau pan na fydd y safleoedd a nodwyd yn Tabl 8, na lleoliadau newydd, ar gael. I wneud iawn am y posibilrwydd hwn mae’r Cynllun wedi nodi 3 hectar o dir yn yr ardal drefol a 0.5 hectar o dir yn yr ardal wledig fel cyflenwad cyflogaeth wrth gefn os oes angen. Cymerwyd pob cyfle i ddyrannu tir mewn lleoliadau Canolbwynt Strategol. Bydd y Cynllun Gweithredu a Monitro, y Cynllun Gam wrth Gam a’r Adroddiad Monitro Blynyddol yn goleuo’r broses o ryddhau tir wrth gefn ar gyfer cyflogaeth.
Cyflenwad Tir Cyflogaeth (2007 i’r presennol
Safleoedd | Math o ddefnydd | Adeiladwyd ers 2007 | Ymrwymwyd (heb eu datblygu) |
ARDAL STRATEGOL DATBLYGU TREFOL | |||
Parc Masnachol, Mochdre, Conwy | B1, B2 a B8 (B2 a B8 yn bennaf) | 5.5 | 5 |
Hotpoint, Narrow Lane, Cyffordd Llandudno | B1 | 3.7 | 0 |
Llandudno ‘ar-lein’, Ffordd Conwy, Cyffordd Llandudno | B1 a B2 | 0 | 3.2 |
Parc Busnes Abergele | B1 | 2.0 | 0 |
Lynx Express, Penrhyn Avenue, Links Rd, Llandrillo-yn-Rhos | B1 | 0 | 0.13 |
Uned 1 Parc Busnes Morfa Conwy, Conwy | B1 a B2 | 0.2 | 0 |
Tir yn Ffordd Maelgwyn, Cyffordd Llandudno | B1, B2 a B8 | 0.3 | 0 |
Cyn Laethdy, Ffordd yr Orsaf, Mochdre | B1 a B8 | 0 | 0.7 |
Tŷ Gwyn, Llanrwst | B1, B2 a B8 | 0 | 1.54 |
Is-gyfanswm | 11.7 Hectar | 10.57 Hectar | |
Cyfanswm cyflenwad presennol yn yr ardal drefol | 22.27 Hectar | ||
Y Cyfanswm sydd ei angen i ddiwallu'r newid a ragwelir mewn poblogaeth | 17.5 Hectar | ||
Cyfanswm sydd ei angen i gyfrannu at leihau lefelau cymudo | 15.5 Hectar | ||
Dyraniadau tir newydd sydd eu hangen yn yr ASDT | 10.73 Hectar | ||
Ardal Strategol Datblygu Gwledig | |||
Amherthnasol | Amherthnasol | 0 | 0 |
Is Gyfanswm | 0.00 | 0.00 | |
Cyfanswm sydd ei angen i ddiwallu’r angen a ragwelir mewn cyflogaeth | 3 Hectar |
4.3.9 Datblygiadau Swyddfeydd, Diwydiannol a Chyfleusterau Rheoli Gwastraff B1, B2 a B8 Newydd ar Safleoedd heb eu Dyrannu
Polisi EMP/3 – DATBLYGIAD SWYDDFEYDD A DIWYDIANT B1, B2 A B8 AR SAFLEOEDD HEB EU DYRANNU
Cefnogir datblygiad swyddfeydd a chyfleusterau diwydiannol newydd ar safleoedd heb eu dyrannu ym mhrif ardaloedd adeiledig Aneddiadau’r Strategaeth Datblygu Trefol a Phrif Bentrefi a Phentrefi Llai Lefel 1 a 2, neu’n gyfagos â’r ardaloedd hynny, yn amodol ar bolisïau eraill yn y Cynllun ac ar fodloni’r holl feini prawf canlynol:
- Bod y cynnig yn gydnaws â’i leoliad o ran ei natur ac o ran graddfa.
- Y gellir dangos na ellid cynnwys y cynnig ar dir a ddyrannwyd at y defnydd neilltuol, na’i leoli ar safle tir llwyd neu mewn adeilad addas.
- Y cefnogir y cais gan dystiolaeth o’r manteision i gyflogaeth leol, o ran darparu swyddi dichonadwy a chynhyrchu sgiliau lleol.
- Na fyddai’r datblygiad a gynigir yn cael effaith andwyol annerbyniol ar breswylwyr eiddo cyfagos na’r amgylchedd;
- Bod y cynnig yn hygyrch o safbwynt cynaliadwy;
- Nad oes unrhyw effaith andwyol ar y Gymraeg yn unol â Polisi CTH/5 – ‘Y Gymraeg’.
4.3.9.1 Yn ogystal â’r ffynonellau uchod o gyflenwadau a dyraniadau, bydd yr Awdurdod hefyd yn ystyried cynigion datblygu economaidd B1, B2 a B8 ar safleoedd heb eu dyrannu yn y prif ardaloedd adeiledig neu wrth eu hymyl, yn yr Ardal Strategol Datblygu Trefola Phrif Bentrefi a Phentrefi Llai Lefel 1 a 2, yn amodol ar Bolisi EMP/3 a pholisïau eraill y Cynllun. Caiff cynigion am gyfleusterau rheoli gwastraff mewn lleoliadau o’r fath eu hystyried yn ôl teilyngdod unigol yn unol â pholisïau EMP/3 a MWS/6. Bydd yn ofynnol cael cynllun busnes proffesiynol, wedi’i baratoi gan gynghorydd/syrfëwr annibynnol i gefnogi cais cynllunio o dan y polisi, sy’n dangos dichonadwyedd y cynllun a’r budd a ddaw yn ei sgil o ran cyflogaeth, gan gynnwys datblygu sgiliau. Ni chefnogir cynigion lle ceir effeithiau andwyol ar yr amgylchedd ac ar fwynderau’r ardal. Bydd cynigion am ddatblygiadau swyddfa a diwydiant newydd yn amodol ar fodloni dogfen LDP4 – Canllawiau Cynllunio Atodol ‘Ymrwymiadau Cynllunio’, yn enwedig ar gyfer datblygu sgiliau lleol.
4.3.9.2 Bydd yn ofynnol cael tystiolaeth gefnogol sy’n dangos na cheir unrhyw safleoedd eraill a ddyrannwyd eisoes, neu a ddatblygwyd eisoes, y gellir eu defnnyddio yn lle defnyddio safleoedd maes glas. Bydd y Cyngor yn manteisio yn llawn ar ei Gynllun Asedau Busnes Gwledig i ddod â thir gwag neu dir nad yw yn cael ei ddefnyddio ac adeiladau yn ôl ar gyfer defnydd cyflogaeth yn yr Ardal Strategol Datblygu Gwledig, cyn ystyried datblygiadau newydd ar dir glas yn amodol ar Bolisi EMP/6 – ‘Ailddefnyddio ac Addasu Adeiladau Gwledig Diangen’.
4.3.9.3 Bydd yn rhaid i gynigion fodloni Polisi CTH/5 a Chanllawiau Cynllunio Atodol LDP/4.
4.3.10 Diogelu Safleoedd Swyddfeydd a Diwydiant B1, B2 a B8
Polisi EMP/4 – DIOGELU SAFLEOEDD SWYDDFEYDD A DIWYDIANT B1, B2 A B8
- Mae safleoedd cyflogaeth swyddfeydd a diwydiant presennol B1, B2 a B8, fel y’u dangosir ar y Map Cynigion, wedi’u diogelu ar gyfer defnydd B1, B2 a B8 yn unig. Ni chaniateir datblygiad a fyddai’n arwain at golli safleoedd cyflogaeth presennol B1, B2 a B8 ar dir sydd wedi’i ddynodi. Caniateir cynigion am newid defnydd rhwng y dosbarthiadau defnydd B1, B2 a B8 ar dir dynodedig presennol ar yr amod nad yw’r datblygiad a gynigir yn amharu ar y gofyniad tir cyflogaeth strategol, ei fod yn gydnaws â mwynderau preswylwyr eiddo cyfagos a’r amgylchedd yn gyffredinol, a’i fod yn dderbyniol o safbwynt polisïau eraill y Cynllun Datblygu Lleol.
- Ni chaiff cynigion a fyddai’n arwain at golli tir neu adeiladau cyflogaeth B1, B2 a B8 nad ydynt o fewn ardal sydd wedi’i dynodi neu ei dyrannu, fel y dangosir ar y Map Cynigion, ond eu cefnogi mewn amgylchiadau eithriadol lle bo’r datblygiad yn dderbyniol o safbwynt polisïau eraill y Cynllun Datblygu Lleol, ac ar yr amod:
- Nad oes siawns resymol y bydd modd marchnata’r safle ar gyfer datblygiad cyflogaeth B1, B2 a B8; neu
- Bod y safle’n anghydnaws â’r ardal gyfagos ar gyfer defnydd cyflogaeth B1, B2 a B8, a byddai defnydd arall o’r tir o fudd i’r gymuned a’r ardal gyfagos; Yn y naill a’r llall o’r achosion hyn, mae’n rhaid i’r ymgeisydd hefyd ddangos y canlynol yng nghyswllt defnydd heb gyflogaeth:
- Y byddai’n gydnaws a’r defnydd cyflogaeth cyfagos; ac
- Y bydd yn parchu cymeriad a mwynderau’r ardal gyfagos, ac wedi’i dirlunio’n unol â hynny.
4.3.10.1 Ceir pwysau sylweddol i ganiatáu mathau eraill o ddefnydd tir ac iddynt werth uwch ar safleoedd cyflogaeth. O beidio â rheoli hyn, bydd graddfa, ystod ac amrywiaeth y safleoedd cyflogaeth sydd ar gael o fewn Ardal y Cynllun yn lleihau. Dangosir ardaloedd swyddfeydd a diwydiant sydd eisoes wedi’u sefydlu ar y Map Cynigion fel ardaloedd wedi’u diogelu. Mae’r ardaloedd swyddfeydd a diwydiant presennol hyn sydd wedi’u sefydlu yn hanfodol ar gyfer y cyflenwad cyfredol a’r cyflenwad i’r dyfodol, lle na chaniateir ffurfiau eraill ar ddatblygu nad ydynt yn cynnwys swyddfeydd neu o natur ddiwydiannol, yn unol â pholisi. Caniateir cynigion am newid defnydd rhwng dosbarthiadau defnydd B1, B2 a B8 ar dir sydd eisoes wedi’i ddynodi ar yr amod bod hynny’n dderbyniol o ran y polisi ac o ran polisïau eraill cysylltiedig yn y Cynllun Datblygu Lleol. Nid yw Polisi EMP/4 yn berthnasol i ddyraniadau cyflogaeth newydd fel y’u nodir yn EMP/2. Yn unol â Pholisi EMP/2, caiff dyraniadau cyflogaeth newydd ond eu diogelu ar gyfer y defnydd y cawsant eu dyrannu ar ei gyfer er mwyn cyflawni’r gofyniad tir cyflogaeth strategol yn ystod cyfnod y Cynllun. Caiff y safleoedd sydd wedi’u dyrannu a’u dynodi eu hadolygu a’u monitro yn rhan o Adroddiad Monitro Tir Cyflogaethblynyddol y Cyngor.
4.3.10.2 Bydd llawer o weithgareddau rheoli gwastraff yn perthyn i’r dosbarth diwydiannol cyffredinol yn y Gorchymyn Dosbarthiadau Defnydd, a gellir eu hystyried yn ddefnydd B1, B2 neu B8. Mae hyn yn arbennig o wir oherwydd y duedd gynyddol i symud gweithrediadau rheoli gwastraff i adeiladau caeedig a godwyd i’r diben hwnnw. Mae Cynllun Gwastraff Rhanbarthol Gogledd Cymru’n argymell y dylai pob Awdurdod Cynllunio Lleol asesu’r tir diwydiannol sydd ar gael ar gyfer gweithrediadau rheoli gwastraff. Caiff cynigion am gyfleusterau rheoli gwastraff ar leoliadau felly eu hystyried yn ôl teilyngdod unigol.
4.3.10.3 Yn ychwanegol at yr ardaloedd dynodedig a’r dyraniadau a gynigir, ceir nifer sylweddol o safleoedd llai sy’n darparu eiddo cyflogaeth swyddfeydd a diwydiant gwerthfawr i fusnesau lleol, ond nad ydynt wedi’u dyrannu na’u dynodi’n benodol yn y Cynllun. Bydd y Cyngor yn ymdrechu i sicrhau bod y safleoedd a’r adeiladau cyflogaeth hyn yn cael eu trin fel adnodd gwerthfawr. Ni chaniateir colli’r safleoedd hynny ond mewn amgylchiadau eithriadol o dan y polisi hwn. Mae’n bosibl y ceir achosion lle nad yw’r safle’n addas ar gyfer defnydd cyflogaeth B1, B2 na B8 oherwydd ei leoliad a’r hyn sydd o’i amgylch neu fod tystiolaeth gynhwysfawr yn dangos nad yw’r defnydd swyddfeydd neu ddiwydiant cyfredol yn ddichonadwy mwyach. Mewn achosion o’r fath, rhaid i’r ymgeisydd gyflwyno gwybodaeth ariannol berthnasol i gefnogi’r achos, ynghyd â thystiolaeth bod yr eiddo wedi’i farchnata am 12 mis o leiaf, am bris realistig. Dylid cyflwyno datganiad i gefnogi’r cais sy’n egluro ehangder yr ymarfer marchnata ac yn cynnwys safbwynt asiant ynghylch dichonadwyedd masnachol y safle. Dylai ymgeiswyr nodi’r canllawiau manwl pellach i’w cynhyrchu fel Canllawiau Cynllunio Atodol, yn ymwneud ag ymarferion marchnata boddhaol a chynhyrchu datganiadau cefnogi.
4.3.11 Ardaloedd Gwella ar gyfer Swyddfeydd a Diwydiant
4.3.11.1 Mae’r Cyngor yn cydnabod ei bod hi’n gynaliadwy gwneud defnydd gwell o’r hyn sydd gennym eisoes drwy wella ac ailwampio. Ceir llawer o ardaloedd diwydiannol sefydledig a gafodd eu datblygu ar sail ad-hoc yn y gorffennol. Er bod safleoedd diwydiannol presennol yn cael eu cydnabod fel ardaloedd pwysig i’w diogelu o dan bolisi EMP/4 oherwydd y manteision a ddaw yn eu sgil o ran cyflogaeth leol, mae llawer o’r ardaloedd wedi dyddio bellach ac yn anaddas ar gyfer prosesau modern, yn enwedig mewn perthynas ag amgylcheddau gwael, eiddo anaddas a mynediad ac isadeiledd annigonol. Mae’r safleoedd sydd wedi’u cynnwys yn y polisi’n cynnig cyfleoedd am fanteision posib o ran gwelliannau amgylcheddol/tirlunio a gwelliannau i’r adeiladau a lefel y ddarpariaeth isadeiledd. Er mwyn iddynt fod mor effeithiol ag sy’n bosibl, mae angen cyflawni mentrau o’r fath yn rhan o becyn cynhwysfawr lle ystyrir marchnata/arwyddion, delwedd yr ystâd, hygyrchedd/cludiant cyhoeddus a’r potensial i resymoli a datblygu safleoedd yn rhannol. Lle bo’n briodol, anogir busnesau i ehangu ac adleoli os bodlonir polisi EMP/4 i raddau derbyniol. Nid yw’r rhestr yn gynhwysfawr, a bydd cyfleoedd yn codi i wella ardaloedd cyflogaeth eraill sefydledig.
4.3.12 Ailddefnyddio ac Addasu Adeiladau Gwledig Diangen
Polisi EMP/6 – AILDDEFNYDDIO AC ADDASU ADEILADAU GWLEDIG DIANGEN
Caniateir ailddefnyddio ac addasu adeiladau presennol yn yr ardal wledig i ddefnydd busnes newydd sy’n cyfrannu i’r economi leol ac i’r Gymraeg a diwylliant Cymreig os:
- Yw’r adeilad yn gyfan i raddau sylweddol, a bod ei strwythur yn caniatáu trawsnewid heb fod angen unrhyw waith ailadeiladu graddfa fawr, neu ei ailadeiladu’n gyfan gwbl;
- Oes modd trawsnewid yr adeilad yn unol â’r cynnig heb addasu ei faint, ei gymeriad na’i wedd allanol, a bod ffurf, maint a dyluniad cyffredinol yr adeilad yn gydnaws â’r hyn sydd o’i amgylch;
- Nad yw’r trawsnewid yn arwain at effeithiau annerbyniol ar strwythur, ffurf, cymeriad neu leoliad yr adeilad, lle bo’r adeilad o ddiddordeb hanesyddol ac/neu bensaernïol;
- Oes modd darparu mynediad diogel i gerddwyr a cherbydau heb amharu ar gymeriad ac ymddangosiad yr adeilad a’r ardal
- Yw’r cynnig yn cynrychioli datblygiad cynaliadwy o ran ei leoliad a’i adeiladwaith;
- Na chaiff unrhyw waith ategol sy’n gysylltiedig â’r trawsnewid niweidio cymeriad gwledig yr ardal leol i raddau annerbyniol;
- Na cheir unrhyw effaith andwyol ar y Gymraeg yn unol â Pholisi CTH/5;
- Cefnogir y cais gan gynllun busnes proffesiynol sy’n dangos hyfywdra’r cynllun.
4.3.12.1 Dylai Awdurdodau Cynllunio Lleol fabwysiadu ymagwedd gadarnhaol at drawsnewid adeiladau gwledig i’w hailddefnyddio ar gyfer busnes (Polisi Cynllunio Cymru). Os na fydd angen adeiladau ar gyfer eu defnydd gwreiddiol, sef amaethyddiaeth yn bennaf, gallant fod yn gyfle gwerthfawr i gynnig cyflogaeth a chefnogaeth i’r economi wledig ac i’r Gymraeg a diwylliant Cymreig. Yn unol â chyfarwyddyd cenedlaethol, rhoddir blaenoriaeth i ystyried ailddefnyddio at ddefnydd cyflogaeth dros ddatblygu preswyl bob tro. Mae’r mathau o ddefnydd newydd posib yn cynnwys busnes, twristiaeth neu hamdden. Ystyrir cynigion am ddefnydd cyflogaeth yn dderbyniol pan fo’r holl feini prawf wedi’u bodloni o dan y polisi. Darperir canllawiau pellach yn LDP7 CCA ‘Trawsnewid Adeiladau Gwledig’.
4.3.12.2 Bydd angen cynllun busnes proffesiynol, wedi ei baratoi gan ymgynghorydd/ syrfëwr cymwys ac annibynnol, i gefnogi cais cynllunio o dan y polisi, gan ddangos hyfywdra’r cynllun a’r manteision cyflogaeth.
Polisi EMP/5 – ARDALOEDD GWELLA AR GYFER SWYDDFEYDD A DIWYDIANT
Bydd y Cyngor yn hyrwyddo ac yn annog gwelliant i’r safleoedd cyflogaeth Swyddfeydd a Diwydiant B1, B2 a B8 canlynol, fel y’u dangosir ar y Map Cynigion: