Cynllun Datblygu Lleol Conwy 2007 - 2022

1. ADRAN UN - CYFLWYNIAD

1.1 Crynodeb

1.1.1 Mae Cynllun Datblygu Lleol Conwy (CDLl) yn ymwneud â’r rhan o Fwrdeistref Sirol Conwy y tu allan i Barc Cenedlaethol Eryri (a elwir yn Ardal y Cynllun). Mae Ardal y Cynllun yn gyfoethog mewn asedau hanesyddol, mae iddi ddiwydiant twristiaeth ffyniannus, cysylltiadau cludiant rhagorol, ansawdd dŵr ac aer da ac amgylchedd naturiol o ansawdd uchel (gan gynnwys arfordir a chefn gwlad). Fodd bynnag, mae’r rhagolygon poblogaeth ac aelwydydd wedi dangos gallai poblogaeth Ardal y Cynllun gynyddu gan hyd at 7,850 o bobl erbyn 2022. Prif nodweddion y newid poblogaeth hwn a’r pryderon cysylltiedig ydi:

  • Mae nifer o bobl yn grŵp oed 18-64 yn gostwng gan olygu gostyngiad yn y rheiny sydd yn gweithio ac felly yn effeithio ar berfformiad economaidd y Ardal y Cynllun;
  • Mae nifer y bobl oed 65+ yn cynyddu’n sylweddol gan olygu mwy o bwysau ar gyfleusterau gofal cymdeithasol ac iechyd a gwasanaethau a hynny ar draul perfformiad economaidd;
  • Rhagwelir gostyngiad sylweddol yn nifer plant ar draul perfformiad economaidd y dyfodol, lefelau disgyblion ysgol a hunaniaeth gymunedol;
  • Rhagwelir bydd y nifer o bobl yn byw gyda'i gilydd ar aelwydydd yn lleihau gan olygu angen am dai newydd i gefnogi’r boblogaeth gyfredol a gostyngiad mewn cartrefi o faint teuluol;
  • Mae nifer o bobl sydd yn symud i mewn i Ardal y Cynllun yn llawer mwy na’r rheiny sydd yn symud allan gan olygu mwy o angen am dai a chyfleoedd gwaith a;
  • Mae nifer y bobl sy’n byw yn y Ardal y Cynllun ac sy’n gweithio mewn lleoliadau y tu allan i’r Ardal y Cynllun yn anghynaladwy gan arwain at yr angen i gynyddu cyfleoedd cyflogaeth lleol.


1.1.2 Mae effaith y newidiadau bwriedig hyn mewn poblogaeth wedi creu nifer o faterion blaenoriaeth i’r Cyngor. Mae angen:

  • Lefel twf tai a chyflogaeth gynaliadwy y gellir ei ddarparu a’i gynnal ac sy’n adlewyrchu’r prif newid poblogaeth naturiol, y newid mewn meintiau aelwydydd a’r mewnlifiad net;
  • Cyfleoedd cyflogaeth ychwanegol i gyfrannu at leihau’r lefelau sy’n teithio y tu allan i’r sir i weithio
  • Annog strwythur oedran mwy cytbwys a hyrwyddo safle economaidd mwy cadarn trwy'r cynnig o dai a gwaith, datblygu sgiliau, creu swyddi a dylunio tai yn greadigol. Tra ar yr un pryd, yn addasu i boblogaeth sy’n heneiddio o ran anghenion iechyd, gofal cymdeithasol, tai a chyflogaeth,
  • Cyfrannu at ofynion cyfredol am Angen Lleol am Dai Fforddiadwy (AHLN) ac uchafu’r ddarpariaeth yn y dyfodol;
  • Diogelu amgylchedd naturiol ac adeiledig Conwy;
  • Diogelu a hyrwyddo’r iaith Gymraeg a hunaniaeth gymunedol;
  • Annog datblygiad sy’n ceisio cyflawni amcanion blaenoriaeth y cynllun.


1.1.3 Gan ystyried yr holl ffactorau hyn, mae’r Cyngor yn cynnig lefel twf cynaliadwy sydd yn cynnwys rhwng tua:

  • 6,520 o unedau tai newydd gyda lefel 10% wrth gefn o hyd at 7,170 o unedau tai newydd i adlewyrchu newidiadau poblogaeth naturiol, newidiadau mewn meintiau teuluoedd a mewnfudo net
  • 2,350 o swyddi newydd gyda lefel wrth gefn o hyd at 2,585 o swyddi newydd i adlewyrchu newidiadau poblogaeth naturiol, newidiadau mewn meintiau teuluoedd a mewnfudo net
  • 1,800 swydd gyda lefel wrth gefn o hyd at 1,980 o swyddi newydd i gyfrannu at leihau lefelau cymudo allanol
  • 1,875 o unedau tai fforddiadwy newydd (1,000 gan adeiladu o’r newydd)

1.2 Cynllun Datblygu Lleol Conwy (CDLl)

1.2.1 Mae Deddf Cynllunio a Phryniant Gorfodol 2004 yn gorchymyn bod y Cyngor yn paratoi CDLl ar gyfer Ardal y Cynllun sy’n gweithredu fel un fframwaith ar gyfer rheoli datblygu a defnydd tir o fewn ei derfynau gweinyddol. Mae’n amlinelli’r prif heriau sy’n wynebu Conwy, yn nodi’r Weledigaeth, Amcanion a’r Strategaeth Ofodol ar gyfer datblygu'r ardal dros y cyfnod 2007 i 2022. Bydd y CDLl yn cael ei ddefnyddio gan y Cyngor i arwain a rheoli datblygu gan ddarparu’r sail ar gyfer penderfynu ar geisiadau cynllunio. Mae’r CDLl yn cymryd lle’r Cynlluniau Fframwaith presennol a’r Cynlluniau Lleol a oedd yn arfer darparu’r fframwaith bolisi ar gyfer Ardal Cynllun Conwy.


1.2.2 Pwrpas y CDLl yw:

  • Darparu sail ymarferol a manwl ar gyfer rheoli datblygu a defnydd tir
  • Diogelu’r amgylchedd naturiol ac adeiledig
  • Cynnig cymhelliad i ddatblygwyr drwy ddyrannu tir ar gyfer mathau penodol o ddatblygiadau
  • Dod â materion cynllunio lleol a manwl ger bron y cyhoedd

1.3 Strwythur y Cynllun

1.3.1 Mae fframwaith y cynllun yn dangos yn glir sut yr ymdrinnir â, ac y cyflawni’r anghenion a’r materion sy’n wynebu Conwy yn 2022.


1.3.2 Mae rhan 2 yn amlinellu amcanion allweddol y Cynllun, gan fanylu sut y dylid mynd i’r afael â thema defnydd tir Strategaeth Gymunedol Conwy a materion allweddol sy’n wynebu Conwy dros gyfnod y Cynllun.

Mae rhan 3 yn cyflwyno Strategaeth Ofdol y Cyngor i gyflawni’r weledigaeth a’r amcanion dros gyfnod y Cynllun.

Mae Rhan 4 yn cynnwys yr egwyddorion datblygu, y polisïau strategol ac ar sail meini prawf a fydd yn cael eu defnyddio wrth benderfynu ar y cynigion datblygu.

Mae Atodiad 1 yn dangos sut y bydd polisïau a safleoedd datblygu penodol yn cael eu cyflwyno, gan gynnwys pa asiantaethau fydd yn cyfrannu tuag at eu darparu.

Mae’r Cynllun Gweithredu yn cynnwys Cynllun Datblygu Graddol, disgrifiadau Safleoedd Strategol a rhestr o’r math o wybodaeth ategol fydd angen ar y cam cais cynllunio ar gyfer pob un o’r safleoedd strategol.

Mae Atodiad 2 yn amlinellu Fframwaith Fonitro’r CDLl, gan ddarparu’r sail ar gyfer adolygu’r Cynllun yn rhannol neu’n llawn a gwneud newidiadau, lle bod angen.


1.3.3 Ategir y CDLl hefyd gan Fap Cynigion sy’n dangos lleoliad daearyddol a graddfa’r datblygiadau ar safleoedd penodol a diogelu polisïau sydd wedi eu dynodi o fewn y CDLl.

1.4 Papurau Cefndir fel Tystiolaeth

1.4.1 Mae amryw o bapurau cefndir a data technegol arall wedi darparu’r sail dystiolaeth ar gyfer y dull a gymerwyd yn y CDLl Conwy hwn (gweler gwefan y Cyngor i gael rhestr ddiffiniol www.conwy.gov.uk/cdll).

1.5 Gwerthusiad o Gynaladwyedd ac Asesiad Amgylcheddol Strategol

1.5.1 Cynhaliwyd Arfarniad Cynaliadwyedd ac Asesiad Amgylcheddol Strategol (SA/SEA) ar CDLl Conwy i sicrhau ei fod yn diwallu amcanion cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol. Mae’r SA/SEA wedi bod yn broses bwysig wrth ddynodi meysydd o newid a mesurau lliniaru i sicrhau bod CDLl Conwy yn gynaliadwy. Cyflwynir canlyniadau’r SA/SEA yn BP/10 sydd ar gael ar wefan y Cyngor www.conwy.gov.uk/cdll.

1.6 Asesiad Cyfarwyddeb Cynefinoedd

1.6.1 Mae’n ofynnol i’r Cyngor gynnal Asesiad Priodol o’i gynlluniau datblygu defnydd tir lle gallai effeithio ar Safleoedd Ewropeaidd (Ardaloedd Cadwraeth Arbennig, Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig a Safleoedd Morol oddi ar yr Arfordir). Cynhaliwyd Ymarferiad Sgrinio Gwerthusiad Rheoliadau Cynefinoedd (HRA) cychwynnol ar CDLl Conwy gan asesu ei effaith cyffredinol, ac mae hwn ar gael ar wefan y Cyngor.

1.7 Statws y Ddogfen a Chanslo Cynlluniau

1.7.1 Pan fabwysiadir y CDLl yn 2013, i bwrpas Adran 38(6) Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 bydd y cynlluniau canlynol yn cael eu canslo:

Cynlluniau Fframwaith

  • Cynllun Fframwaith Gwynedd a Fabwysiadwyd (1993)
  • Cynllun Fframwaith Clwyd – Ail Addasiad (1999)

Cynlluniau Lleol

  • Cynllun Lleol Bwrdeistref Colwyn a Fabwysiadwyd (1999)
  • Cynllun Ardal Llandudno Conwy (1982)

Cynllun Datblygu Unedol

  • Cynllun Datblygu Unedol Drafft Conwy (2001)

Datganiad

  • Datganiad Darparu Tai Fforddiadwy

1.8 Fframwaith Polisi

Cynllun Gofodol Cymru

1.8.1 Mae Deddf Cynllunio a Phryniant Gorfodol 2004 a’i reoliadau ategol yn ei gwneud yn ofynnol i CDLl Conwy ystyried Cynllun Gofodol Cymru (WSP). Rhennir y WSP yn chwe Ardal Cynllun Gofodol (SPAs) traws-ffiniol. Mae Ardal Cynllun Conwy yn bennaf o fewn Gogledd Ddwyrain Cymru - SPA y Ffin a’r Arfordir ac ystyrir ei fod yn gwneud cyfraniad pwysig i economi Cymru a’r DU. Mae ffyniant yr Ardal i’r dyfodol wedi’i gysylltu’n agos â Gogledd Orllewin Lloegr yn ogystal â SPA cyfagos Gogledd Orllewin Cymru a Chanolbarth Cymru. Darperir gwybodaeth bellach am y berthynas rhwng y CDLl a’r WSP yn BP/1 ‘Cynlluniau a Strategaethau Perthnasol.’


1.8.2 Mae cynlluniau a strategaethau pwysig cenedlaethol, rhanbarthol a lleol wedi dylanwadu ar gyfeiriad CDLl Conwy. Ceir crynodeb o brif oblygiadau’r materion hyn ar y Cynllun yn BP/1. Er hynny, drwy gydol y CDLl hwn cyfeirir at y dogfennau perthnasol yn y rhesymeg a’r cyfiawnhad dros yr ymagwedd bolisi, lle bod hynny’n briodol.

1.9 Cyd-destun Ardal y Cynllun

1.9.1 Mae Ardal y Cynllun yn cwmpasu ardal o 1,130 km sgwâr ac amcangyfrifir bod poblogaeth breswyl o tua 111,700 o bobl. Mae aneddiadau trefol Ardal y Cynllun, yn bennaf ar hyd y llain arfordirol gul lle mae tua 85% o’r holl boblogaeth yn byw, gyda’r 15% sy’n weddill yn byw mewn aneddiadau gwledig. Mae tua 4% o’r boblogaeth yn byw ym Mharc Cenedlaethol Eryri, tu allan i Ardal y Cynllun. Tref arfordirol Llandudno yw’r ardal gyda’r boblogaeth fwyaf (20,000 o breswylwyr), gyda Chonwy yn agos ar ei ôl (14,200 o breswylwyr), Abergele (10,000 o breswylwyr), Bae Colwyn (9,700 o breswylwyr) a Tywyn a Bae Cinmel (7,800) o breswylwyr), ac mae pob un ohonynt wedi’u gwasanaethu gan gysylltiadau ardderchog ar ffyrdd a rheilffyrdd a gwasanaethau cludiant cyhoeddus sydd wedi hen sefydlu. Mae’r ardal wledig, fewndirol yn bennaf, sy’n weddill yn cynnwys nifer o brif bentrefi a phentrefannau o bwysigrwydd lleol sy’n cynnig cyfleusterau a gwasanaethau allweddol.


1.9.2 MaeArdal y Cynllun yn ardal o dirwedd arbennig sy’n amrywio o draethau tywodlyd a phentiroedd i ddyffrynnoedd cysgodol, rhosydd agored a choetiroedd naturiol sy’n ffinio a mynyddoedd Parc Cenedlaethol Eryri. Mae sawl ardal o Dirwedd Hanesyddol yn ogystal â phum safle cadwraeth natur dynodedig o bwysigrwydd rhyngwladol. Mae Ardal y Cynllun hefyd yn cynnwys nifer o safleoedd dynodedig lleol sy’n cyfrannu at gymeriad cyffredinol ac ansawdd yr amgylchedd naturiol.


1.9.3 Yn gyffredinol, mae’r economi’n dibynnu’n drwm ar dwristiaeth a diwydiannau gwasanaethau a hynny’n bennaf yn yr aneddiadau arfordirol trefol ac atyniad yr ardal wledig. Mae cyflogaeth ddiwydiannol er ei bod wedi ei leoli’n bennaf ac wedi ei chyfyngu i ryw raddau ger yr arfordir, yn cynnwys gwaith cynhyrchu ac ymchwil, ac mae i’w chanfod mewn lleoedd megis Bae Cinmel, Bae Colwyn a Chyffordd Llandudno. Mae amaethyddiaeth a choedwigaeth yn weithgareddau cyflogi pwysig yn yr ardaloedd gwledig lle siaredir Cymraeg yn bennaf. Mae rhai o’r pentrefi gwledig yma naill ai yn rhannol neu’n gyfan gwbl o fewn y Parc Cenedlaethol.


1.9.4 Mae Llandudno yn gyrchfan glan môr Fictoraidd draddodiadol, sy’n cyfuno ei rôl dwristaidd gyffrous gyda chanolfan fasnach ffyniannus ac yn gweithredu fel canolfan siopa is rhanbarthol ar gyfer yr ardal. Un o’r aneddiadau mwyaf yw Bae Colwyn ac mae ganddo rôl gynyddol bwysig yn y sector masnachol a busnes. Mae Canol Tref Conwy o fewn safle Treftadaeth y Byd dynodedig ac mae’n bwysig o ran y cyfraniad a wna at yr economi twristaidd, tra bo Cyffordd Llandudno yn datblygu fel lleoliad pwysig i swyddfeydd a buddsoddiad o’r sector busnes. Mae aneddiadau eraill yn cynnwys Llanfairfechan a Phenmaenmawr i’r gorllewin a threfi Abergele a Bae Cinmel i’r dwyrain.


1.9.5 Mae Conwy yn wynebu’r her o wella cyflyrau economaidd cymdeithasol mewn ardaloedd o ddirywiad economaidd lle mae amddifadiad aml, fel Bae Colwyn. Er mwyn cwrdd â’r her hon, dynodwyd Ardal Adfywio Strategol (SRA) i feithrin cymhelliant economaidd a chymdeithasol yng nghanol a dwyrain Conwy. Mae’r SRA yn estyn ymhell ac mae’n crwydro i sir gyfagos Sir Ddinbych.

1.10 Y Prif Faterion yng Nghonwy

1.10.1 Er mwyn sicrhau sylfaen gadarn ar gyfer strategaeth ddatblygu’r cynllun, gwnaed arolwg o’r wybodaeth gymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol ar gael ar gyfer y materion oedd yn effeithio ar Ardal y Cynllun.


1.10.2 Mae mwy o fanylion am y materion hyn yn Adroddiad Ymgynghorol CDLla phapur cefndir BP/1 ar gael ar wefan y Cyngor ar www.conwy.gov.uk/cdll.

1.11 Y Materion sy’n Wynebu Conwy

1.11.1 Yn y tabl isod ceir rhestr o’r materion blaenoriaeth, eu ffynhonnell, a chanlyniadau cysylltiedig o Strategaeth Gymunedol ‘Un Conwy’, amcan gofodol cysylltiedig â pholisïau perthnasol y CDLl hwn i ymdrin â’r mater.
 

Tabl 1: Materion Allweddol sy’n Effeithio ar Ardal y Cynllun
MATERION BLAENORIAETH FFYNHONNELL CANLYNIADAU UN CONWY AMCAN CDLl GWEITHREDIAD CDLl
  • Goresgyn Lefelau Uchel o Dir Cyfyngedig:Mae Tir a Ddatblygwyd eisoes yng Nghonwy yn gyfyngedig. Hefyd, mae’r potensial ar gyfer datblygu hefyd yn gyfyngedig o ganlyniad i’r lefel uchel o risg llifogydd ar hyd yr arfordir yn enwedig yn Llandudno a rhan ddwyreiniol Ardal y Cynllun, lefelau uchel o asedau naturiol a threftadaeth a’r topograffi. Fodd bynnag, mae angen i Gonwy ddefnyddio tir yn effeithlon, trwy leoli datblygiadau mewn lleoliadau cynaliadwy a, lle bo’n briodol, ar dir a ddatblygwyd yn flaenorol er mwyn diogelu’r amgylchedd naturiol ac adeiledig unigryw.
  • Cynllun Gofodol Cymru (Diweddaraf 2010)
  • BP/4 ‘Cyflenwad Tir Tai’.
  • BP/5 ‘Astudiaeth Argaeledd Tir Tai
  • BP/27 ‘Ardaloedd Cymeriad Tirwedd’
  • BP/28 ‘Amgylchedd Hanesyddol’
  • BP/30 ‘Cynllun Fesul Cam’
  • BP/31 ‘Capasiti’r Diwydiant Adeiladu Tai’
  • BP/37 ‘Adroddiad Opsiynau Dosbarthu Twf’
1, 2, 3, 6, 8 SO 1 Egwyddorion Datblygu, HOU/1, EMP/1, NTE/1, SPG Dylunio, SPG Ymrwymiadau Cynllunio a’r SPG Bioamrywiaeth mewn Cynllunio.
  • Taclo Ardaloedd Difreintiedig:Bu cryn ddirywiad mewn twristiaeth ym Mae Colwyn. Mae angen hybu proses gynhwysfawr o adfywio Bae Colwyn er mwyn ehangu’r gweithgaredd economaidd, rhoi sylw i eithrio cymdeithasol, a lleihau amddifadedd, a chyfyngu ar a gostwng nifer y Tai Amlbreswyl (HMO) drwy’r Cynllun Ardal Adfywio Strategol a Chynllun Meistr Bae Colwyn.
  • Cynllun Gofodol Cymru (Diweddaraf 2010)
  • Strategaeth Menter Bywyd y Bae (2006)
  • Statws Ardal Menter Adfywio Strategol Llywodraeth Cymru.
  • Briff Prif Gynllun Bae Colwyn (2009)
  • Astudiaeth Sylfaen Prif Gynllun Bae Colwyn
  • ‘Strategaeth Troi’r Llanw’
  • BP/37 ‘Adroddiad Opsiynau Dosbarthu Twf’
3, 5 ,8 SO 2 Egwyddorion Datblygu, HOU/1, CFS/1, SPG Ymrwymiadau Cynllunio, SPG Canllawiau Dylunio Perchnogion Tai, SPG Dylunio, SPG Prif Gynllun Bae Colwyn ac SPG Yr Iaith Gymraeg.
  • Cartrefu’r Twf Mewn Tai Cynaliadwy a Hyrwyddo Strwythur Oedran Mwy Cytbwys:Mae angen mwy o dai o ganlyniad i newid mewn meintiau aelwydydd a mewnlifiad net. Mae angen uchafswm o oddeutu 6,520 o dai newydd, gyda lefel wrth gefn o hyd at 7,170 o unedau tai newydd, yn bennaf ar y lleoliadau ar y llain arfordirol drefol cynaliadwy a hygyrch. Bydd y tai newydd yn rai o’r math iawn ac wedi eu dylunio yn greadigol i annog y boblogaeth iau a theuluoedd i aros a dychwelyd i’r ardal er mwyn cyfrannu at newid fesul camau yn y strwythur oedran poblogaeth a ragwelir a’r gweithlu dirywiol cysylltiedig.
  • Cynllun Gofodol Cymru (Diweddaraf 2010)
  • BP/2 ‘Rhagolygon Poblogaeth ac Aelwydydd’,
  • BP3: Adroddiad Dewisiadau Lefel Twf,
  • Llywodraeth Cymru (LlC) y diweddaraf 2008 yn seiliedig ar Rhagolygon Cenedlaethol ac Is Genedlaethol Aelwydydd.
  • BP/9 ‘Astudiaeth Hyfywdra Tai Fforddiadwy 2010’
  • BP/30 ‘Cynllun Fesul Cam’
  • BP/31 ‘ Capasiti’r Diwydiant Adeiladu Tai’
  • BP/37 ‘Adroddiad Opsiynau Dosbarthu Twf’
3, 4 SO 3 Egwyddorion Datblygu, HOU/1, SPG Ymrwymiadau Cynllunio, SPG Canllawiau Dylunio Perchnogion Tai ac a’r SPG Strwythurau ac Adeiladau o Bwysigrwydd Lleol, SPG Bioamrywiaeth mewn Cynllunio, SPG Dylunio, SPG Yr Iaith Gymraeg a’r SPG Trawsnewid Adeiladau Gwledig.
  • Blaenoriaethu’r Angen am Dai Fforddiadwy:Mae cyflenwad annigonol o dai fforddiadwy ar gyfer anghenion lleol yng Nghonwy. Mae angen sicrhau bod hyd at tua 1,875 o dai newydd fforddiadwy ar gyfer angen lleol yn cael ei darparu i gyfrannu at y lefelau galw a hyrwyddo strwythur oedran mwy cytbwys.
  • BP/7 ‘Asesiad Marchnad Tai Lleol (Cam 1)’,
  • BP/9 ‘Astudiaeth Hyfywdra Tai Fforddiadwy’
  • BP/34 ‘Papur Rhagdybiaethau Hyfywdra Safle’
  • Cofrestr Tai Fforddiadwy Conwy (2010)
  • BP/36 ‘Cyfrifo Anghenion Tai Fforddiadwy’
  • Cofrestr Camau Cyntaf Conwy (2010)
3, 4 SO 3 Egwyddorion Datblygu, HOU/1, SPG Ymrwymiadau Cynllunio, SPG Canllawiau Dylunio Perchnogion Tai, SPG Adeiladau a Strwythurau o Bwysigrwydd Lleol, SPG Bioamrywiaeth mewn Cynllunio, SPG Dylunio, SPG Yr Iaith Gymraeg a’r SPG Trawsnewid Adeiladau Gwledig.
  • Cartrefu’r Sipsiwn a Theithwyr:Mae angen i Gonwy sicrhau bod dulliau priodol wedi eu sefydlu i gartrefu unrhyw angen ar gyfer sipsiwn a theithwyr.
  • BP/22 ‘Asesiad Galw Safleoedd Sipsiwn a Theithwyr’,
  • Cofrestr Gwersyllfannau Anghyfreithlon CBSC (Rhagfyr 2009),
  • BP/7 ‘Asesiad Marchnad Tai Lleol (Cam 1)’
3, 4 SO 3 Egwyddorion Datblygu a HOU/1
  • Twf Economaidd Cynaliadwy, Lleihau Cymudo Allanol a Hyrwyddo Strwythur Oedran Mwy Cytbwys: Mae angen twf economaidd cynaliadwy o uchafswm o oddeutu 20.5 hectar, gyda lefel wrth gefn o hyd at 22.5 hectar o dir cyflogaeth i ddiwallu’r rhagamcan newid poblogaeth. I gyfrannu at leihau lefelau cymudo allanol, bydd 15.5 hectar pellach o dir cyflogaeth gyda lefel wrth gefn o 17 hectar yn cael eu darparu. Bydd y canolbwyntiau strategol Conwy, Cyffordd Llandudno, Bae Colwyn a lleoliad strategol a chynaliadwy Abergele, yn cael eu defnyddio i ddiwallu’r angen. I gyfrannu at strwythur oedran mwy cytbwys, bydd angen rhoi mwy o bwyslais ar gyfleoedd gwaith o werth uwch a datblygu sgiliau.
  • Cynllun Gofodol Cymru (Diweddaraf 2010)
  • BP/3 ‘Adroddiad Dewisiadau lefel Twf’ (2010)
  • BP/13 ‘Adroddiad Monitro Tir Cyflogaeth ’
  • BP/14 ‘Adroddiad yr Astudiaeth Tir Cyflogaeth’
  • Astudiaeth Economaidd Is Ranbarthol Sir Ddinbych a Chonwy (2007),
  • Ystadegau Cymudo yng Nghymru 2008 – Bwletin Ystadegol Cyfarwyddiaeth Ystadegol LlC SB 80/2009
1, 5 SO 4 a 5 Egwyddorion Datblygu, EMP/1, SPG Ymrwymiadau Cynllunio, SPG Bioamrywiaeth mewn Cynllunio, SPG Yr Iaith Gymraeg a’r SPG Trawsnewid Adeiladau Gwledig.
  • Diogelu Canolfannau Rhanbarthol a Threfi:Mae canolfan ranbarthol Llandudno a Chanol Trefi pwysig eraill yn Ardal y Cynllun yn teimlo pwysau gan ddefnyddiau heb law am fanwerthu. Mae angen cynnal a, lle bo’n briodol, gwella Llandudno fel canolfan fanwerthu ar gyfer yr ardal, hybu’r dasg o adfywio Bae Colwyn, yn ogystal â chanolfannau manwerthu eraill a lle bo’n bosibl gwella bywiogrwydd, edrychiad a hyfywdra canolfannau trwy roi profiad siopa mwy amrywiol.
  • BP/15 ‘Astudiaeth Fan werthu (2007)’
  • BP/16 ‘Astudiaeth Ardaloedd Manwerthu a Hierarchaeth Sylfaenol ac Eilaidd’
  • Ceisiadau Cynllunio CBSC
  • Strategaeth Cynllun Bywyd y Bae (2006)
  • Statws Ardal Cynllun Adfywio Llywodraeth Cymru
  • Briff Prif Gynllun Bae Colwyn (2009)
  • Astudiaeth Sylfaen Prif Gynllun Bae Colwyn
5 SO 6 Egwyddorion Datblygu, CFS/1, SPG Diogelwch Blaen Siopau a Dylunio ac SPG Adeiladau a Strwythurau o Bwysigrwydd Lleol, SPG Ymrwymiadau Cynllunio, SPG Bioamrywiaeth, SPG Dylunio ac SPG yr Iaith Gymraeg.
  • Annog Twristiaeth Cynaliadwy:Mae’r sector twristiaeth yn golygu bod cynnydd mewn diweithdra dros fisoedd y gaeaf yng Nghonwy. Mae angen annog a, lle bo’n bosibl, diogelu’r sector twristiaeth, yn arbennig yn y cyrchfannau arfordirol, manteisio ar botensial twristiaeth yn arbennig o safbwynt yr amgylchedd naturiol ac adeiledig, er mwyn hybu twristiaeth ar hyd y flwyddyn.
  • Cynllun Gofodol Cymru (Diweddaraf 2010)
  • BP/14 ‘Astudiaeth Tir Cyflogaeth (2009)’,
  • Strategaeth Twristiaeth Gogledd Cymru (2003 – 2008),
  • Astudiaeth Economaidd Is Ranbarthol Sir Ddinbych a Chonwy (2007),
  • ‘Strategaeth Troi’r Llanw’
6 SO 7 Egwyddorion Datblygu TOU/1, SPG Ymrwymiadau Cynllunio, SPG Bioamrywiaeth mewn Cynllunio, SPG Dylunio ac SPG yr Iaith Gymraeg.
  • Annog Cludiant Cynaliadwy:Y prif ddull o deithio i’r gwaith o fewn Ardal y Cynllun yn cynnwys y niferoedd uchel sy’n cymudo allan o’r ardal ydi mewn car. Mae angen gwella’r defnydd o gludiant cynaliadwy a chael gwell isadeiledd cludiant yng Nghonwy, drwy ddatblygu system gludiant integredig, hygyrchedd cynaliadwy mewn ardaloedd trefol a gwledig, darparu cludiant cyhoeddus, cyfnewidfeydd moddol, mwy o gyfleusterau beicio a cherdded a hybu cynlluniau teithio er mwyn lleihau’r ddibyniaeth ar geir.
  • Cynllun Gofodol Cymru (Diweddaraf 2010)
  • Cynllun Cludiant Lleol Conwy (2006),
  • Astudiaeth Economaidd Is Ranbarthol Siroedd Dinbych a Chonwy (2007),
  • Ystadegau ar Gymudo yng Nghymru (Ystadegau Cenedlaethol, 2008),
  • Cynllun Cludiant Rhanbarthol Gogledd Cymru (2008)
  • Strategaeth Cynllun Bywyd y Bae (2006)
  • Statws Ardal Cynllun Adfywio Strategol Llywodraeth Cymru
  • Briff Prif Gynllun Bae Colwyn (2009)
  • Astudiaeth Sylfaen Prif Gynllun Bae Colwyn
4, 5, 6 SO 8 Egwyddorion Datblygu, STR/1, SPG Safonau Parcio, SPG Dylunio, SPG Canllawiau Dylunio Perchnogion Tai ac SPG Trawsnewid Adeiladau Gwledig
  • Hyrwyddo Dylunio o Ansawdd Uchel:Mae angen mynnu ar ddylunio cynaliadwy o ansawdd uchel i gynnal a gwella cymeriad Conwy yn ogystal â darparu dyluniadau mwy arloesol i annog y boblogaeth iau i aros a dychwelyd i’r ardal.
  • Rhagolygon Poblogaeth ac Aelwydydd 2008,
  • Ceisiadau Cynllunio CBSC
  • BP/28 ‘Amgylchedd Hanesyddol’
  • Gwerthusiadau Ardaloedd Cadwraeth Conwy.
6 SO 9 Egwyddorion Datblygu, HOU/1, EMP/1, NTE/1, SPG Ymrwymiadau Cynllunio, SPG Canllawiau Dylunio Perchnogion Tai, SPG Adeiladau a Strwythurau o Bwysigrwydd Lleol, SPG Ymrwymiadau Cynllunio, SPG Bioamrywiaeth mewn Cynllunio, SPG Dylunio, SPG Yr Iaith Gymraeg a’r SPG Trawsnewid Adeiladau Gwledig.
  • Defnydd Effeithiol o Adnoddau Naturiol:Mae Conwy yn agored i effeithiau Newid yn yr Hinsawdd, yn arbennig, lefelau’r môr yn codi a stormydd glaw trwm sydyn, sy’n arwain at risg uwch o lifogydd. Mae angen defnyddio adnoddau naturiol yn fwy effeithlon a manteisio ar gynhyrchu ynni adnewyddadwy drwy sicrhau’r gallu i gynhyrchu trydan.
  • Polisi Cynllunio Cymru (diweddaraf 2010),
  • TAN15,
  • Ceisiadau Cynllunio CBSC
  • BP/17 ‘Asesiad Risg Llifogydd Strategol Conwy’
  • Deddf Cynllunio ac Ynni 2008)
  • TAN 22
1, 2, 4, 6 SO 10 Egwyddorion Datblygu, HOU/1, EMP/1, NTE/1, SPG Ymrwymiadau Cynllunio, SPG Canllawiau Dylunio Perchnogion Tai, SPG Ymrwymiadau Cynllunio, SPG Bioamrywiaeth mewn Cynllunio a SPG Dylunio.
  • Diogelu Treftadaeth Ddiwylliannol Conwy:Mae 24 o Ardaloedd Cadwraeth yn Ardal y Cynllun, gyda 1436 o adeiladau rhestredig, 24 ohonynt yn Radd 1, 70 yn Radd II* a 1342 yn Radd II sy’n agored i bwysau yn sgil datblygu. Mae Conwy hefyd yn wynebu colli adeiladau nad ydynt yn rhestredig, adeileddau a nodweddion o bwysigrwydd hanesyddol a phensaernïol. Mae angen i ddatblygiadau roi ystyriaeth i’r amgylchedd adeiledig hanesyddol, a sicrhau bydd dyluniadau ac ansawdd y gwaith adeiladu yn helpu diogelu, cynnal a, lle bo’n bosibl, gwella ar yr ansawdd hwn yng Nghonwy.
  • CBSC,
  • CADW
  • Adroddiad Cwmpasu Arfarniad o Gynaladwyedd (2006)
  • Gwerthusiadau Ardal Cadwraeth Conwy (2009)
  • Cofrestr Adeiladau mewn Risg Conwy (2009)
  • Cofrestr Adeiladau nad ydynt yn Rhestredig o Ragoriaeth Bensaernïol Conwy
  • BP/28 Amgylchedd Hanesyddol
6 SO 11 Egwyddorion Datblygu, HOU/1, EMP/1, CTH/1, SPG Canllawiau Dylunio Perchnogion Tai, SPG Adeiladau a Strwythurau o Bwysigrwydd Lleol, SPG Ymrwymiadau Cynllunio, SPG Bioamrywiaeth mewn Cynllunio, SPG Dylunio, SPG Trawsnewid Ardaloedd Cadwraeth
  • Diogelu a Gwella Amgylchedd Naturiol Conwy:Mae pwysau ar rywogaethau bywyd gwyllt a chynefinoedd (bioamrywiaeth) yn sgil datblygiad. Lle bo’n briodol dylai pob datblygiad newydd helpu i wella’r adnodd bioamrywiaeth o fewn Ardal y Cynllun a diogelu dynodiadau yn yr amgylchedd naturiol a rennir gydag awdurdodau cyfagos.
  • Cynllun gweithredu Bioamrywiaeth CBSC (2006)
  • LANDMAP (2009)
  • BP/27 Amgylchedd Naturiol
6, 7 SO 12 Egwyddorion Datblygu, HOU/1, EMP/1, NTE/1, SPG Canllawiau Dylunio Perchnogion Tai, SPG Bioamrywiaeth mewn Cynllunio, SPG Ymrwymiadau Cynllunio a SPG Dylunio
  • Diogelu a Gwella Cyfleusterau a Gwasanaethau Cymunedol:Mae ardaloedd trefol a gwledig presennol yArdal y Cynllunyn dioddef o ddiffyg mannau agored ffurfiol ac anffurfiol gan gynnwys lotments a hamdden. Yn fwy diweddar mae rhai cymunedau gwledig yn wynebu pwysau i newid defnydd cyfleusterau cymunedol allweddol, fel tafarndai a siopau pentref. Mae angen diogelu a gwella cyfleusterau a gwasanaethau cymunedol allweddol i sicrhau bod cymunedau cynaliadwy yn cael eu diogelu a’u hyrwyddo.
  • BP/19 ‘Asesiad Mannau Agored’
  • BP/25 ‘Adroddiad Galw a Chyflenwad Safle Lotment
  • Ceisiadau Cynllunio CBSC
1, 4 SO 13 Egwyddorion Datblygu, HOU/1, EMP/1, NTE/1, CFS/1, SPG Ymrwymiadau Cynllunio, SPG Bioamrywiaeth mewn Cynllunio, SPG Dylunio, SPG Trawsnewid Ardaloedd Cadwraeth
  • Gostwng Gwastraff:Bu cynnydd o ran faint o wastraff sy’n cael ei ailgylchu. Tra bod cyfraddau ailgylchu’n dda yn ôl safonau’r Sir bydd angen cryn ymdrech i barhau i wella a lleihau lefelau gwastraff cyffredinol, tirlenwi, cynyddu ail ddefnyddio/ailgylchu gwastraff a diogelu safleoedd presennol.
  • BP/20 ‘Gwastraff (2008)’
  • Cynllun Gwastraff Rhanbarthol (2008)
  • Astudiaeth Dichonolrwydd Tirlenwi (2009)
6 SO 14 Egwyddorion Datblygu, MWS/1, SPG Ymrwymiadau Cynllunio ac SPG Dylunio
  • Cwrdd â’r Anghenion ar Gyfer Mwynau:Mae angen ddiogelu cyflenwad parhaus o fwynau i ddiwallu anghenion y diwydiant a chymunedau.
  • Datganiad Technegol Rhanbarthol Gogledd Cymru (2007)
  • British Geological Society Minerals Mapping (2009)
  • BP/29 ‘Diogelu Adnoddau Agregau’
6 SO 15 Egwyddorion Datblygu a MWS/1
  • Diogelu’r Iaith Gymraeg a’r Diwylliant:Mae pwysau ar yr Iaith Gymraeg o fewn y Ardal y Cynllun. Trwy’r CDLl mae angen diogelu’r iaith Gymraeg.
  • Polisi Cynllunio Cymru
  • Asesiad Effaith Cydraddoldeb Drafft (2010)
  • BP/33 ‘Iaith Gymraeg’
7 SO 16 Egwyddorion Datblygu, HOU/1, EMP/1, CTH/1, SPG Ymrwymiadau Cynllunio a’r SPG yr Iaith Gymraeg

Am gyfarwyddiadau ar sut I ddefnyddio’r system ac I wneud sylwadau, gwelwch ein canllaw cymorth.
back to top Yn ôl i’r brig