Cynllun Datblygu Lleol Conwy 2007 - 2022

4.5 CYFLEUSTERAU A GWASANAETHAU CYMUNEDOL

4.5.1 Amcanion Gofodol

AG6, AG13.

4.5.2 Datganiad Strategol Cyfleusterau a Gwasanaethau Cymunedol

4.5.2.1 Mae darparu cyfleusterau cymdeithasol a chymunedol yn hanfodol wrth ystyried cynigion datblygu newydd. Mae angen i gymunedau gael mynediad da at ystod eang o wasanaethau a chyfleusterau megis addysg, iechyd a gofal cymdeithasol, mannau agored, a lotments, hamdden a siopa er mwyn bod yn gynaliadwy. Dylid rheoli darparu cyfleusterau o'r fath yn gywir a’i ymgorffori mewn polisïau cynllunio a chynlluniau adfywio.


4.5.2.2 Cynhaliwyd asesiad o’r gofynion isadeiledd cymunedol yn Ardal y Cynllun er mwyn canfod yr angen am rai mathau o gyfleusterau dros gyfnod y Cynllun - nodir y sail tystiolaeth hwn ar Bapurau Cefndir perthnasol 15, 16, 19, 24, 25 a 32 ar ddarparu safleoedd adwerthu, cyfleusterau addysg mewn mannau agored, darparu lotments a mynwentydd. Aseswyd tir a lluniwyd polisïau er mwyn gallu cwrdd â'r anghenion hyn. Mae'r Adran hon o'r CDLl felly yn cynnwys y polisïau a'r dyraniadau tir y bernir eu bod yn angenrheidiol i sicrhau bod cyfleusterau a gwasanaethau cymunedol presennol yn cael eu hamddiffyn a bod anghenion ychwanegol cymunedau yn gallu cael eu cyflawni dros gyfnod y Cynllun.


4.5.2.3 Mae darparu cyfleusterau diwylliannol a hamdden yn arbennig o bwysig mewn cyrchfannau canol tref, a dylid eu cadw. Bydd unrhyw gynnig sy’n creu, gwella neu’n colli defnydd o’r fath yn cael eu hasesu yn erbyn yr Egwyddorion Datblygu a pholisïau perthnasol eraill y Cynllun.

POLISI STRATEGOL CFS/1 – CYFLEUSTERAU A GWASANAETHAU CYMUNEDOL

Bydd y Cyngor yn amddiffyn a, lle mae hynny’n bosib, gwella cyfleusterau a gwasanaethau cymunedol trwy:

  1. Warchod a gwella bywiogrwydd, cymeriad atyniadol a hyfywedd y canolfannau adwerthu yn Ardal y Cynllun trwy leoli datblygiad adwerthu priodol yn unol â Pholisi CFS/2 – ‘Hierarchaeth Adwerthu’;
  2. Defnyddio dull gweithredu dilynol wrth benderfynu ar gynigion ar gyfer datblygiad adwerthu newydd yn Ardal y Cynllun yn nhermau dewis safle a sicrhau bod safleoedd amgen addas ar gael yn unol â Pholisi DP/6 – ‘Canllawiau a Pholisi Cynllunio Cenedlaethol’;
  3. Gwarchod y cynnig adwerthu yn Llandudno a’r canol trefi trwy ddynodi prif ardaloedd siopa a / neu barthau siopa yn unol â Pholisïau CFS/3 - ‘Prif Ardaloedd Siopa’ a CFS/4 – ‘Parthau Siopa’;
  4. Gwarchod cynnig adwerthu Llandudno trwy ddynodi Parc Llandudno a Mostyn Champney fel parciau adwerthu lle bydd adwerthu graddfa fawr yn cael ei ganoli a’i ddiogelu yn unol â Pholisi CFS/5 – ‘Parciau Adwerthu’;
  5. Diogelu cyfleusterau cymunedol y tu allan i Landudno, Bae Colwyn a’r Canolfannau Ardal yn unol â Pholisi CFS/6 – ‘Diogelu Cyfleusterau Cymunedol y tu allan i’r Ganolfan Isranbarthol a Chanol Trefi’;
  6. Gwarchod a gwella cymeriad atyniadol canolfannau siopa trwy ganiatáu blaen siop priodol a mesurau diogelwch blaen siop priodol yn unig yn unol â Pholisïau CFS/7 – ‘Dylunio Blaen Siopau’ a CFS/8 –‘Diogelwch Blaen Stryd Siopa’;
  7. Cwrdd ag angen y gymuned am Lotments drwy ddiogelu Lotments presennol yn unol â Pholisi CFS/9 – ‘Diogelu Lotments’ a dyrannu tir ar gyfer lotments newydd yn Abergele, Cyffordd Llandudno a Dwygyfylchi yn unol â Pholisi CFS/10 – ‘Lotments Newydd’;
  8. Sicrhau bod datblygiad tai newydd yn gwneud darpariaeth ddigonol ar gyfer anghenion mannau agored y trigolio a diogelu mannau agored presennol yn unol â Pholisïau CFS/11 – ‘Datblygu a Mannau Agored’ a CFS/12 – ‘Diogelu Mannau Agored;
  9. Dyrannu caeau chwarae newydd a darnau newydd o dir ar gyfer mannau agored yn Abergele a Glan Conwy yn unol â Pholisi CFS/13 – ‘Dyrannu Mannau Agored Newydd’;
  10. Dyrannu tir ar gyfer ymestyn y mynwentydd yn Llanrwst a Phenmaenmawr yn unol â Pholisi CFS/14 – ‘Dyrannu Tir Claddu Newydd’;
  11. Datblygu cynigion datblygu ar gyfer cyfleusterau addysg yn unol â Pholisi CFS/15 – ‘Cyfleusterau Addysg’.

4.5.3 Adwerthu

Polisi CFS/2 – HIERARCHAETH ADWERTHU

Mae'r cynllun yn sefydlu hierarchaeth adwerthu ar gyfer canolfannau siopa o fewn ardal y cynllun yn unol â pholisi a chanllawiau cenedlaethol. Bydd safle canolfan siopa yn yr hierarchaeth adwerthu yn gyffredinol yn pennu lefel y ddarpariaeth siopa newydd. Y mwyaf yw'r ganolfan, y mwyaf tebygol yw hi gellir cefnogi datblygiad newydd. Darlunnir yr hierarchaeth adwerthu (isod) ar y Diagram CFS/ 2a.

Canolfan Is Ranbarthol: Llandudno
Canol Tref Canolfannau Pentref
Bae Colwyn Betws-yn-Rhos Llanrhos
Abergele Cerrigydrudion Llansannan
Conwy Deganwy Llysfaen
Cyffordd Llandudno Dolgarrog Mochdre
Llanfairfechan Dwygyfylchi Bae Penrhyn
Llanrwst Eglwysbach Pensarn
Penmaenmawr Glan Conwy Pentrefoelas
Canolfannau Ardal Groes Tal-y-Bont
West End Bae Colwyn Gyffin Tal-y-Cafn
Craig y Don Llanddulas Towyn
Bae Cinmel Llanfairtalhaiarn Trefriw
Hen Golwyn Llangernyw Bae Colwyn Uchaf
Llandrillo-yn-Rhos

Hierarchaeth Siopa Conwy


4.5.3.1 Mae’r PPW ym mharagraff 10.2.1 yn datgan y dylai awdurdodau cynllunio lleol adnabod hierarchaeth bresennol o ganolfannau, ac amlygu unrhyw rai sy’n cyflawni swyddogaethau arbenigol.


4.5.3.2 Mae'r categorïau o fewn yr hierarchaeth adwerthu yn seiliedig ar y rhai sydd wedi eu cynnwys o fewn y PPW ym mharagraff 10.1.1 . Lluniwyd meini prawf manwl ynglŷn â safle pob canolfan o fewn yr hierarchaeth ac fe’u nodir yn BP/16 – ‘Ardaloedd Adwerthu Cynradd ac Eilaidd ac Astudiaeth Hierarchaeth'.


4.5.3.3 Dylai datblygiadau newydd fod yn gydnaws â graddfa a swyddogaeth y canolfannau presennol er mwyn creu patrymau o ddatblygiad cynaliadwy ac i osgoi unrhyw effaith niweidiol ar y canolfannau eraill. Mae rhoi ystyriaeth i safle'r ganolfan o fewn yr hierarchaeth gyffredinol yn hanfodol.


4.5.3.4 Bydd ceisiadau cynllunio unigol sy'n ymwneud ag adwerthu yn cael eu hasesu yn ôl eu rhinwedd eu hunain, yn unol â Pholisi DP/6 ac ar sail paragraffau 10.2.11 ac Adran 10.3 y PPW. Rhoddir ffafriaeth yn gyntaf i ddatblygu safleoedd o fewn canolfannau isranbarthol a threfi presennol, yna i safleoedd ar ymyl canolfannau, ac yna canolfannau ardal, lleol a phentref.


4.5.3.5 Mae rôl Llandudno fel y ganolfan siopa isranbarthol yn denu nifer fawr o siopwyr o'r Ardal y Cynllun ac awdurdodau cyfagos. Mae’r CDLl yn cydnabod yr angen i hyrwyddo’r swyddogaeth adwerthu o fewn Llandudno a Bae Colwyn gan gefnogi ar yr un pryd ddatblygiadau adwerthu priodol yng nghanolfannau eraill yr hierarchaeth.


4.5.3.6 Bwriedir gwella Bae Colwyn, y ganolfan adwerthu ail fwyaf yn yr hierarchaeth, yn unol â CDLl/10 – Canllawiau Cynllunio Atodol ‘Prif Gynllun Bae Colwyn’ a chynigion adfywio cysylltiedig eraill. Er mwyn ymateb i’r dirywiad mewn amodau economaidd, mae'r Cyngor yn weithgar wrth geisio adfywio canol y dref a'r ardaloedd cyfagos yn unol â Pholisi DP/8 – ‘Prif Gynllun Adfywio Trefol Bae Colwyn’. Bydd y Cyngor a’i bartneriaid yn adnabod ardaloedd adfywio yn ardal drefol Bae Colwyn ar sail eu potensial ar gyfer ailddatblygu tir llwyd, angen cymdeithasol ac economaidd, ac agosrwydd i Ganol y Dref a chysylltiadau cludiant cynaliadwy. Mae'r ardal yn cynnig rhinweddau, cyfleoedd a sialensiau unigryw, a ddisgrifir yn fanylach yn CDLl/10.


4.5.3.7 Mae Papur Cefndir 15 – ‘Astudiaeth Adwerthu’ yn dod i'r casgliad bod tref Conwy ar hyn o bryd yn gorfasnachu o safbwynt adwerthu nwyddau cyfleus, sydd o bosib yn niweidiol i ddewis ac ansawdd profiad adwerthu'r trigolion. Mae'r Astudiaeth yn awgrymu y byddai'n fuddiol datblygu adnodd adwerthu sy'n darparu cyfleusterau siopa atodol i'r trigolion ar sail dydd i ddydd yng nghanol y dref. Fodd bynnag, oherwydd natur hanesyddol Conwy, mae hyn yn fwy tebygol o gael ei leoli o fewn adeiledd presennol y dref, a dylai cadw'r amgylchedd hanesyddol gael blaenoriaeth ar gyflawni’r angen a nodwyd am nwyddau cyfleus.


4.5.3.8 Mae casgliadau Papur Cefndir 15 yn nodi nad oes angen dyrannu safleoedd ar gyfer adwerthu o fewn cyfnod y Cynllun. Er nad yw’r Astudiaeth Adwerthu yn argymell dyraniadau adwerthu yn y CDLl er hynny mae’n nodi elfen o angen am arwynebedd llawr cymhariaeth ychwanegol yn ardal Llandudno/Cyffordd Llandudno erbyn 2015. Ond, diwallir yr angen eisoes gan nifer o ymrwymiadau presennol ar gyfer adwerthu nwyddau cymhariaeth ar y parciau adwerthu yn Llandudno. Adolygir y sefyllfa fel rhan o’r astudiaeth adwerthu a ddechreuwyd yn 2011/12.

4.5.4 Prif Ardaloedd Siopa

Polisi CFS/3 – PRIF ARDALOEDD SIOPA

Dynodir y Prif Ardaloedd Siopa yn Llandudno a Bae Colwyn fel y’u dangosir ar y map cynigion. Caniateir newid defnydd llawr gwaelod eiddo yn yr ardaloedd hyn o siopau dosbarth A1 i ddefnydd arall yn unig lle:

  1. Gellir dangos nad oes angen yr eiddo mwyach ar gyfer defnydd A1 ac mae cadw defnydd A1 i’r eiddo wedi’i archwilio yn llawn, heb lwyddiant, trwy farchnata ar raddfa resymol ar y farchnad am o leiaf chwe mis; a
  2. Nad yw'r newid arfaethedig yn cael effaith annerbyniol ar y swyddogaeth adwerthu neu gymeriad atyniadol y brif ardal siopa.


4.5.4.1 Mae siopa yn cyfrannu nid yn unig at fywiogrwydd, cymeriad deniadol a hyfywedd canol trefi, ond mae hefyd yn rhoi budd i'r economi lleol ac fe all gydweddu ag amcanion hamdden a thwristiaeth y Cynllun hwn. Mae'n hanfodol felly gwarchod craidd adwerthu'r prif ganolfannau siopa a gwrthwynebu datblygiadau sy'n niweidio neu'n tanseilio'r swyddogaeth yma.


4.5.4.2 Mae archwiliad o'r cymysgedd o ddefnydd o fewn PC/16 yn awgrymu bod tua 70% o unedau ym mhrif ardaloedd siopa Llandudno a Bae Colwyn ar hyn o bryd yn rhai dosbarth defnydd A1. Felly mae'r prif ardaloedd siopa wedi’u bwriadu'n bennaf ar gyfer defnydd A1, er y bydd defnydd arall yn cael ei ganiatáu lle mae’n cydymffurfio â’r polisi.


4.5.4.3 Tra ei bod yn angenrheidiol diogelu’r swyddogaeth adwerthu o fewn canol trefi, mae hefyd yn bwysig ystyried sut gellir osgoi neu leihau graddfeydd gwagleoedd tymor hir. Mae’r nifer o wagleoedd o fewn canol trefi wedi cynyddu yn gyflym oherwydd yr hinsawdd economaidd bresennol. Mae hyn hefyd yn wir am ganolfan isranbarthol Llandudno, sydd wedi profi cynnydd yn y nifer o unedau gwag dros y blynyddoedd diweddar.


4.5.4.4 Un ffordd gall y system gynllunio gynorthwyo i adfer canol trefi yw galluogi mwy o hyblygrwydd lle mae gwagleoedd tymor hir yn datblygu i fod yn broblem. Mewn achosion o’r fath, pan ofynnir am newid defnydd o A1, byddai’r ymgeisydd angen darparu tystiolaeth o farchnata’r eiddo am gyfnod o chwe mis ar raddfa resymol ar y farchnad i ddangos nad oes galw mwyach am ddefnydd dosbarth A1 yn y lleoliad hwnnw. Fel arfer, pan ddefnyddir maen prawf o’r fath, gofynnir am gyfnod marchnata o 12 mis, ond mae’r Cyngor yn cydnabod yr effaith negyddol mae blaenau siop gwag yn ei gael mewn canol trefi ac mae’n ceisio helpu i leihau gwagleoedd lle bynnag bo hynny’n bosibl.


4.5.4.5 Hefyd, bydd angen bodloni’r Cyngor bydd y defnydd newydd bwriedig yn cydymffurfio â Maen Prawf b) Polisi CFS/3, ac yn cydbwyso’r angen am leihau’r nifer o unedau gwag wrth ddiogelu cyfanrwydd y brif ardal siopa. Yn benodol, rhaid cymryd gofal arbennig i atal clystyru defnyddiau sy’n gallu bod yn niweidiol i apêl y ganolfan.


4.5.4.6 Bydd Polisi CFS/3 yn destun monitro ac adolygu blynyddol i atal crynhoi defnyddiau yn ormodol sy’n niweidio’r ganolfan. Bydd y lefel gyffredinol o wagleoedd o fewn canolfannau yn cael ei monitro yn flynyddol i bennu a oes angen addasu maen prawf y polisi o 6 mis i 12 mis.

4.5.5 Parthau Siopa

Polisi CFS/4 – PARTHAU SIOPA

Dynodir Parthau Siopa yn Llandudno, Bae Colwyn, Abergele, Conwy, Cyffordd Llandudno, Llanfairfechan, Llanrwst, a Phenmaenmawr, fel dangosir ar y map cynigion. Caniateir newid defnydd llawr gwaelod mangre yn yr ardaloedd hyn o siopau ddosbarth A1 i ddefnydd arall yn unig lle mae'r newid defnydd arfaethedig yn cadw neu'n gwella bywiogrwydd, cymeriad atyniadol a hyfywedd y ganolfan siopa; ac yn cydymffurfio â’r Egwyddorion Datblygu.


4.5.5.1 Adolygwyd dynodiadau adwerthu mewn cynlluniau blaenorol a fabwysiadwyd yng ngoleuni’r data a gasglwyd dros y deng mlynedd blaenorol yn ymwneud â newidiadau mewn defnydd a lefelau eiddo gwag o fewn parthau siopa. Cynigir ardaloedd dynodedig i amddiffyn craidd adwerthu'r ardaloedd hyn.
 

4.5.5.2 O fewn y parthau siopa, mae yno ragdybiaeth o blaid cadw defnydd dosbarth A1, ond cydnabyddir y gall defnydd arall, yn enwedig defnydd dosbarth A3 (megis caffis/tai bwyta), neu ddefnydd sector masnachol neu sector gwasanaethau fod yn dderbyniol lle nad yw hynny'n niweidio bywiogrwydd, cymeriad atyniadol a hyfyweddy canolfannau. Yn wir mae PPW ym mharagraff 10.2.4 yn nodi dylai polisïau cynllunio annog amrywiaeth o ddefnyddiau mewn canolfannau. Ond, dylid rhoi sylw arbennig felly i osgoi clystyru rhai defnyddiau sy’n gallu bod yn niweidiol i apêl y ganolfan. Dros y blynyddoedd diwethaf, mae problemau wedi codi gydag ymddygiad gwrthgymdeithasol yng nghanol rhai trefi, ac mae hyn yn cael ei gysylltu yn y rhan fwyaf o achosion gyda’r crynodiad uchel o eiddo trwyddedig fel tafarndai, clybiau, bariau a siopau bwyd poeth i’w fwyta allan mewn rhan benodol o’r dref, er enghraifft Mostyn Street uchaf, Llandudno, ardal sy’n cynnwys eiddo trwyddedig a phreswyl. Yma, mae’r nifer o eiddo sydd wedi’u trwyddedu i werthu alcohol wedi cynyddu o 7 eiddo yn 2005 i 13 eiddo yn 2011.


4.5.5.3 Bydd angen ystyried ceisiadau cynllunio i newid defnydd i ddosbarth A3 mewn ardaloedd o’r fath yn ofalus yn ôl Polisi CFS/4 a’r Egwyddorion Datblygu (yn benodol, Polisïau DP/3 – ‘Hyrwyddo Ansawdd Dylunio a Lleihau Troseddau’ a DP/4 – ‘Meini Prawf Datblygu’). Bydd angen i’r ACLl fod yn fodlon na fydd y cynigion yn cael effaith negyddol o ran pa mor ddeniadol yw canol y dref yn sgil crynodiad rhy uchel o ddefnyddiau A3, ac/neu gael effaith niweidiol ac annerbyniol ar amwynder preswyl, diogelwch y cyhoedd, sŵn a throseddau. Dylid rhoi ystyriaeth hefyd i dystiolaeth berthnasol a ddarperir gan adrannau eraill y Cyngor a chyrff allanol fel yr Heddlu os yw’n ystyriaeth gynllunio berthnasol.

4.5.6 Parciau Adwerthu

Polisi CFS/5 – PARCIAU ADWERTHU

Bydd Parc Adwerthu Mostyn Champney a Pharc Adwerthu Parc Llandudno fel dangosir ar y map cynigion yn cael eu diogelu i gadw eu cymeriad graddfa fawr er mwyn cydweddu â Phrif Ardal Siopa hanesyddol Llandudno. Bydd Parc Adwerthu Mostyn Champney yn cael ei ddiogelu ar gyfer siopau graddfa fawr sy'n gwerthu nwyddau swmpus a nwyddau mewn swmp. Parc Adwerthu Parc Llandudno yn cael ei ddiogelu ar gyfer siopau graddfa fawr sy'n gwerthu nwyddau nad ydynt yn swmpus.


4.5.6.1 Mae Parc AdwerthuMostyn Champney a Pharc Llandudno wedi’u lleoli ar ymyl canol tref Llandudno ac yn cyflawni swyddogaethau adwerthu gwahanol i’r rhai a welir fel rheol mewn canol trefi. Mae Parciau Siopa Mostyn Champney a Pharc Llandudno yn cynnwys siopau adwerthu graddfa fawr sydd fel rheol yn 929m sg (10,000 tr sg) neu fwy mewn maint gyda maes parcio cysylltiedig. Yn achos Parc AdwerthuMostyn Champney, mae adwerthu yn canolbwyntio ar werthu nwyddau swmpus a nwyddau mewn swmp, lle mae Parc Llandudno yn cynnwys adwerthwyr graddfa fawr sy'n gwerthu nwyddau nad ydynt yn swmpus. Fel nodwyd ym mharagraff 10.3.12 y PPW, ni ddylai graddfa, math a lleoliad datblygiadau adwerthu o'r fath danseilio bywiogrwydd, cymeriad atyniadol a hyfyweddcanol trefi. Mae cytundebau cyfreithiol yn eu lle i gyfyngu ar y newid defnydd ac isrannu unedau yn y lleoliadau hyn.

4.5.7 Diogelu Cyfleusterau Cymunedol y Tu Allan I’r Ganolfan Isranbarthol a Chanol Trefi

Polisi CFS/6 – DIOGELU CYFLEUSTERAU CYMUNEDOL Y TU ALLAN I’R GANOLFAN ISRANBARTHOL A CHANOL TREFI

Lle nad oes cyfleusterau tebyg yn bodoli y tu allan i Landudno, Bae Colwyn, Abergele, Conwy, Cyffordd Llandudno, Llanfairfechan, Llanrwst a Phenmaenmawr, caniateir datblygiad a fyddai'n arwain at golli’r cyfleusterau cymunedol canlynol yn unig lle dangoswyd yn glir nad yw'r adeilad bellach yn hyfyw ar gyfer ei ddefnydd presennol ac nad oes unrhyw angen cymunedol mwyach am y cyfleusterau hynny:

  1. Siopau sy’n gwerthu nwyddau cyfleus
  2. Swyddfeydd Post
  3. Gorsafoedd petrol
  4. Neuadd pentref/eglwys
  5. Tafarndai


4.5.7.1 Mae cyfleusterau ardal, lleol, pentref a gwledig fel y rhai hynny a grybwyllwyd ym Mholisi CFS/6 yn chwarae rhan hanfodol mewn cynnal canolfannau llai a lleihau'r angen i drigolion deithio i gwrdd ag anghenion dydd i ddydd. Mewn pentrefi llai maent hefyd yn chwarae rhan bwysig yn y gymuned, trwy gefnogi’r rhai sy'n cael anhawster teithio yn bellach i ffwrdd, gan roi ffocws i fywyd pentref.


4.5.7.2 Bydd y Cyngor yn annog cadw cyfleusterau cymunedol o’r fath yn unol â TAN6 – ‘Cynllunio ar gyfer Cymunedau Gwledig Cynaliadwy’ para 5.1.3, lle maent yn darparu gwasanaeth hanfodol i'r lleoliad, ac yn hyfyw yn economaidd. Wrth ystyried y cynigion sy’n golygu colli cyfleusterau o'r fath, bydd y Cyngor yn ystyried effaith y golled ar y gymuned leol, o safbwynt y cyfleusterau sydd ar gael, mynediad at gyfleusterau amgen a'r goblygiadau cymdeithasol, yn cynnwys yr effaith ar hyfywedd y pentref yn gyffredinol. Lle derbynnir cynigion o'r fath, bydd angen i'r ymgeisydd ddangos nad yw'r defnydd cyfredol yn hyfyw bellach trwy ddarparu’r wybodaeth ariannol berthnasol i gefnogir; achos, ynghyd a thystiolaeth bod yr eiddo'n cael ei farchnata am o leiaf 6 mis am bris realistig. Dylid cyflwyno datganiad ategol gyda’r cais, sy’n esbonio maint yr arfer marchnata ac yn cynnwys barn yr asiant ar hyfywedd masnachol y safle. Anogir ymgeiswyr i ddarllen yr adrannau perthnasol a gynhwysir yn CDLl7 - canllawiau cynllunio atodol ‘Addasiadau Cefn Gwlad’ am ganllaw manwl pellach ynglŷn â chyflawni arfer marchnata boddhaol a chynhyrchu datganiadau ategol.

4.5.8 Blaen Siopau

Polisi CFS/7 – DYLUNIAD BLAEN SIOP

Bydd y Cyngor yn rhoi caniatâd cynllunio i gynigion ar gyfer blaen siop newydd neu newidiadau i flaen siop presennol yn unig lle maent yn gydnaws â'r adeilad a’r ardal gyfagos.

Polisi CFS/8 – DIOGELWCH BLAEN STRYD SIOPA

Ni roddir caniatâd cynllunio neu Ganiatâd Adeilad Rhestredig ar gyfer gosod caeadau solet neu gaeadau rholeri tyllog ar du blaen siop, neu ar eiddo arall mewn ffryntiadau stryd siopa. Fel arfer, bydd y Cyngor ond yn rhoi caniatâd cynllunio neu Ganiatâd Adeilad Rhestredig ar gyfer rhwyllau rholeri allanol a rhwyllau y gellir eu tynnu ar du blaen siop ac eiddo masnachol lle mae'r rhwyllau wedi’u hintegreiddio yn nyluniad y tu blaen siop, yn cael effaith weledol fach iawn ac yn gydnaws â gweddill trychiad yr adeilad a golygfa stryd.


4.5.8.1 Mae blaen siop yn hanfodol wrth ffurfio cymeriad ac edrychiad ffryntiadau. Mae'r Cyngor yn rhoi pwys mawr ar blaen siop wedi’i dylunio'n briodol, nid yn unig gadw cymeriad yr adeiladau, ond hefyd i gadw cymeriad atyniadol cyffredinol strydoedd ac i gynnal eu hyfywedd masnachol. Fe all datblygiadau anaddas gael effaith niweidiol iawn nid yn unig ar yr adeilad ond hefyd ar yr olygfa stryd, a photensial masnachu'r stryd.


4.5.8.2 Mae cwsmeriaid a pherchnogion siopau yn elwa os yw amgylchedd golygfa stryd yn cael ei hybu gan flaen siop a ddyluniwyd yn dda ac sy'n cael ei gadw mewn cyflwr da. Mewn pentrefi bydd yn bwysig parchu cymeriad presennol y stryd a’r pentref, tra mewn prif ganolfannau siopa o fewn yr Ardal Strategaeth Datblygu Trefol bydd y pwyslais ar greu a chynnal amgylchedd bywiog o ansawdd. Dylid cydnabod y bydd llawer o du blaen siopau wedi’u lleoli o fewn ardaloedd cadwraeth. Mewn achosion o'r fath dylid cyfeirio at Bolisi Polisi CTH/2 – ‘Datblygiad sy’n Effeithio ar Asedau Treftadaeth’.

4.5.9 Lotments

Polisi CFS/9 – DIOGELU LOTMENTS

Ni roddir Caniatâd Cynllunio i ddatblygiad sy'n arwain at golli tir a ddefnyddir ar gyfer Lotments, ac eithrio;

  1. Lle mae hynny’n addas, gwneir darpariaeth amgen sydd o leiaf yn gyfwerth o ran maint ac ansawdd i'r hyn a gollir, neu;
  2. Lle gellir dangos nad oes angen cymunedol mwyach am y Lotments.


4.5.9.1 Gall gerddi Lotments gyfrannu at fan agored o fewn Ardal y Cynllun. Maent yn rhoi budd cadarnhaol nid yn unig ar gyfer cynaliadwyedd amgylcheddol; ond hefyd ar gyfer cynhyrchu bwyd, bywyd gwyllt a gwerth amwynder cyffredinol. Mae Lotments yn adnodd cymunedol pwysig.


4.5.9.2 Ni roddir Caniatâd Cynllunio ar gyfer ailddatblygu Lotments yn unig oherwydd nad ydynt wedi cael eu defnyddio ers tro a chael eu hesgeuluso. Caniateir datblygiad a fyddai'n dileu'r Lotments yn llwyr yn unig os dangosir nad oes angen am y Lotments neu lle gwnaed darpariaeth amgen.

Polisi CFS/10 – LOTMENTS NEWYDD

  1. Dyrennir tir i gwrdd â'r galw am Lotments newydd yn y lleoliadau canlynol:
  1. Oddi ar Ffordd Rhuddlan, Abergele
  2. Esgyryn, Cyffordd Llandudno
  3. Gogledd Llanrwst
  4. Gogledd Groesffordd, Dwygyfylchi
  5. Gorllewin Gwrych Lodge, Abergele
  1. Gellir adnabod tir ychwanegol yn ystod cyfnod y Cynllun yn unol â’r Egwyddorion Datblygu.


4.5.9.3 Fel nodwyd yn BP/25 – ‘Adroddiad Galw a Chyflenwi Safleoedd Lotments’, mae yno 13 o safleoedd presennol sy'n darparu cyfanswm o 324 o leiniau Lotment yng Nghonwy.


4.5.9.4 Mewn lleoliadau lle nad oes tir mewn perchnogaeth gyhoeddus i gwrdd ag anghenion y gymuned, dyrannwyd y lleoliad nesaf gorau o safbwynt cynaliadwyedd. Yn deillio o gyfyngiadau uchel yn Nhrefriw, darperir ar gyfer y trigolion hynny sydd mewn angen yn rhannol trwy ddyraniad yn Llanrwst, tra bydd tir addas hefyd ar gael o bosibl yn Ardal Cynllun Parc Cenedlaethol Cymru. Yn yr un modd, i’r trigolion hynny sydd mewn angen yn Llandudno a Chonwy, lle mae safleoedd yn brin, bydd y dyraniad yng Nghyffordd Llandudno yn helpu i ateb y gofyn.


4.5.9.5 Cydnabyddir bod angen lotments mewn rhannau eraill yn yr Ardal Gynllun ac mae’r Cyngor yn weithredol yn chwilio am safleoedd addas i gwrdd ag anghenion cymunedau. Bydd addasrwydd safleoedd o'r fath yn cael ei ystyried yn unol â’r Egwyddorion Datblygu.

4.5.10 Mannau Agored

Polisi CFS/11 – DATBLYGU A MANNAU AGORED

  1. Bydd datblygiad tai o 30 neu fwy o anheddau yn gwneud darpariaeth ar y safle ar gyfer anghenion hamdden eu preswylwyr, yn unol â safonau'r Cyngor ar gyfer mannau agored o 3 hectar am bob 1000 o’r boblogaeth, a fydd yn cynnwys:
  • 1.2 hectar ar gyfer caeau chwarae
  • 0.4 hectar ar gyfer chwaraeon awyr agored
  • 0.8 hectar ar gyfer mannau chwarae i blant
  • 0.6 hectar ar gyfer mannau agored amwynder
  1. Mewn amgylchiadau eithriadol a chyfiawnhad iddynt, rhoddir ystyriaeth i ddarparu swm gohiriedig fel cam amgen i ddarparu ar y safle, yn unol â Pholisi Strategol DP/1 – ‘Egwyddorion Datblygu Cynaliadwy’ a Pholisïau DP4 – ‘Meini Prawf Datblygu’ a DP/5 – ‘Isadeiledd a Datblygiadau Newydd’.
  2. Dylai datblygiadau tai sy’n cynnwys llai na 30 annedd ddarparu swm gohiriedig yn hytrach na darpariaeth ar y safle, yn unol â safon y Cyngor ar gyfer mannau agored o 3 hectar ar gyfer 1,000 o’r boblogaeth.



4.5.10.1 Yn y rhan fwyaf o achosion dylai datblygiadau tai ymgorffori mannau chwarae ac amwynder mewn cynllun, neu lle nad yw hynny'n ymarferol, dylid gwneud cyfraniad ariannol wedi’i sicrhau drwy ymrwymiad cynllunio o dan Adran 106 y Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990. Derbynnir cyfraniadau ariannol ar gyfer datblygiadau preswyl sy’n cynnwys llai na 30 annedd. Ar gyfer datblygiadau preswyl sy’n cynnwys 30 neu fwy o anheddau, bydd y Cyngor yn gofyn am ddarparu cyfleusterau chwarae i blant ar y safle a chyfraniad ariannol at fannau chwaraeon awyr agored oddi ar y safle. Fel arfer, disgwylir bydd datblygiad o 200 neu fwy o anheddau preswyl yn darparu’r holl fannau chwaraeon awyr agored a mannau chwarae i blant ar y safle. Rhoddir mwy o fanylion ynghylch darparu mannau agored a symiau gohiriedig o fewn SPG CDLl4 – ‘Ymrwymiadau Cynllunio’.


4.5.10.2 Mae hamdden a mannau agored yn gyfrannwr allweddol i ansawdd bywyd cyffredinol pobl leol. Mae asesiad diweddar o ddarpariaeth mannau agored yn amlygu’r prinder gofod chwaraeon, mannau chwarae ac mewn rhai ardaloedd, mannau amwynder ar draws yr Ardal Gynllun. Mae hyn yn golygu bod prinder tir ar gyfer chwaraeon awyr agored, a mannau chwarae i blant.


4.5.10.3 Fel sy'n cael ei gydnabod yn Strategaeth Conwy Iach 2008 -2011, mae'r budd i iechyd a lles cymunedau a ddaw yn sgîl parciau a mannau agored yn cynnwys cynnydd yn lefel ymarfer corff, rhyngweithio cymdeithasol a mwy o gyfleoedd i blant chwarae. Un o nodau Cynllun Plant a Phobl Ifanc Conwy yw annog plant a phobl ifanc i ddefnyddio ardaloedd fel parciau, mannau agored, cyfleusterau hamdden a chwaraeon awyr agored. Fodd bynnag, fe allai prinder mannau agored cyhoeddus osod rhwystr rhag cyflawni nodau o'r fath.


4.5.10.4 Gan gydnabod y diffyg, yn 2003 mabwysiadodd y Cyngor Safon ar gyfer darparu mannau agored (yn seiliedig ar Safon flaenorol yr NPFA). Cafodd y safonau hyn eu hadolygu yn 2008 gan Fields in Trust (FIT) a’u hychwanegu at y TAN 16 diwygiedig ar Chwaraeon, Hamdden a Mannau Agored yn gynnar yn 2009. Y safonau diwygiedig hyn sydd wedi’u hymgorffori yn y polisi.


4.5.10.5 Yn ychwanegol, drwy gydnabod pwysigrwydd darparu a gwellau man agored amwynder, mae’r polisi hefyd yn cynnwys safon o 0.6 hectar fesul poblogaeth o 1,000 ar gyfer y diben hwn, wedi’i rannu’n 0.3 ha ar gyfer ‘amwynder mawr ffurfiol’ a 0.3 ha ‘amwynder cymdogaeth’ . Dyma’r safon a fabwysiadwyd yn flaenorol yng Nghynllun Lleol Bwrdeistref Colwyn a fydd yn cael ei adolygu pan ymgymerir â’r Archwiliad a’r Asesiad Man Agored. Mae man agored amwynder mawr ffurfiol yn cynnwys ardaloedd fel parciau, gerddi cyhoeddus, gwarchodfeydd natur a thiroedd comin. Ar lefel leol, er enghraifft mewn datblygiadau tai, gellir ei ddefnyddio i ddarparu’r clustogfeydd priodol o amgylch meysydd chwarae’r plant. Mae’r angen i ddarparu mannau agored amwynder, fel mathau eraill o fannau agored, yn cael ei arwain gan Archwiliad ac AsesiadMan Agored. Efallai na fydd datblygiadau mewn meysydd sydd â gorgyflenwad o fathau penodol o fan agored angen darparu man ychwanegol, er hynny, dylid cynnal asesiad ansoddol i benderfynu ansawdd a hygyrchedd mannau agored yn y lleoliadau hyn wrth ystyried os yw cyfraniad yn hanfodol.


4.5.10.6 Yn ychwanegol i’r polisi, mae’r Cyngor wedi cyhoeddi CDLl4 – Canllawiau Cynllunio Atodol ‘Ymrwymiadau Cynllunio’ yn unol â Pholisi DP/4 – ‘Meini Prawf Datblygu’ er mwyn darparu arweiniad i ddatblygwyr ynghylch sut y bydd y safon man agored yn cael ei gymhwyso i ddatblygiadau newydd.


4.5.10.7 Cynhelir arolygon Mannau Agored gan y Cyngor bob dwy flynedd gan ddarparu gwybodaeth ar ddigonolrwydd darpariaeth mannau agored o fewn yr aneddiadau mawr. Dengys yr arolwg mwyaf diweddar a gynhaliwyd yn 2010 bod yno ddiffygion o ran y ddarpariaeth caeau chwarae, chwaraeon awyr agored a / neu fannau chwarae yn yr ardaloedd canlynol; Abergele Deganwy, Glan Conwy, Colwyn Fwyaf, Bae Cinmel, Llandudno, Cyffordd Llandudno, Llanfairfechan, Llanrwst, Llysfaen, Penmaenmawr, Bae Penrhyn, Ochr Penrhyn, a Thywyn.


4.5.10.8 Mae TAN 16 yn awgrymu safonau gofod ar gyfer caeau chwarae a chwaraeon awyr agored fel y cefnogir gan FIT. Mae’r safonau hyn wedi’u defnyddio yn yr Asesiad Gofod Agored diweddaraf. Fodd bynnag, rydym yn cydnabod fod cyfraddau TAN 16 yn ymwneud â mathau eraill o ofod agored fel coridorau glas, gofodau agored a gofodau amwynder glas ond oherwydd amseriad cyhoeddi’r TAN yma a bod cymaint o waith wedi’i wneud ar y CDLl a’r sail tystiolaeth gefnogol, bernir ei bod yn briodol adolygu'r sefyllfa unwaith y mae'r cynllun wedi’i gyhoeddi ar gyfer i’w Archwilio gan y Cyhoedd yn unol â chyngor TAN16 (mae paragraff 2.29 yn cyfeirio at beidio oedi gwaith ar y CDLl yn absenoldeb Archwiliad ac Asesiad Mannau Agored newydd).


4.5.10.9 Felly cynigir y dylid cynnal Archwiliad ac Asesiad o Fannau Agored er mwyn adnabod anghenion lleol, asesu darpariaeth leol a safonau darpariaeth ar gyfer hygyrchedd ac ansawdd, ac adnabod prinder/gormodedd o fannau agored yn unol â’r fersiwn diweddaraf o’r TAN16. Ar ôl eu cwblhau bydd yr Archwiliad ac Asesiad yn ffurfio rhan o sail tystiolaeth y CDLl ac adolygir polisïau yn unol â hynny trwy fecanweithiau ym mhroses mabwysiadu neu adolygu'r CDLl.

Polisi CFS/12 – DIOGELU MANNAU AGORED PRESENNOL

Ni roddir caniatâd cynllunio i ddatblygiad sy'n arwain at golli man agored ac eithrio lle ceir gorddarpariaeth o fannau agored yn y gymuned dan sylw, a lle mae'r cynnig yn arddangos budd sylweddol i'r gymuned sy'n deillio o'r datblygiad, neu, lle caiff ei disodli gan ddarpariaeth amgen derbyniol yng nghyffiniau’r; datblygiad neu o fewn yr un gymuned.

4.5.10.10 Mae’r term ‘man agored’ fel y cyfeirir ato ym Mholisi CFS/12 yn cynnwys y mathau canlynol fel maent wedi’u disgrifio yn TAN16: parciau a gerddi cyhoeddus, cyfleusterau chwaraeon awyr agored, mannau gwyrdd amwynder a darpariaeth ar gyfer plant a phobl ifanc.Mae ardaloedd o'r fath o arwyddocâd mawr i gymunedau lleol yn Ardal y Cynllun. Mae hyn nid yn unig oherwydd y cyfleoedd chwaraeon a hamdden y maent yn eu cynnig ond hefyd effaith y man agored ar gymeriad atyniadol yr amgylchedd adeiledig a naturiol. Felly, ni ddylid colli mannau agored presennol oni bai bod yr asesiad mannau agored yn arddangos yn glir bod yno orddarpariaeth o fannau agored ar gyfer anghenion y gymuned. Mewn achosion o'r fath, bydd angen i ddatblygwyr hefyd arddangos sut y bydd eu cynigion yn dod â manteision sylweddol i'r cymunedau hynny a fydd yn colli eu man agored, megis darparu lefel foddhaol o dai fforddiadwy, siopau cymdogol neu gyfleusterau hamdden eraill fel a lle mae hynny'n briodol.


4.5.10.11 Os oes tan-ddarpariaeth o fannau agored yn y gymuned, bydd angen i'r datblygwr ddarparu safle amgen dderbyniol yng nghyffiniau'r datblygiad neu o fewn yr ardal Cyngor tref neu gymuned. Dylai unrhyw safle amgen fod yn gyfwerth â, neu’n well na’r safle sy’n cael ei ddatblygu, ac mae’n rhaid iddo fod yn hygyrch iawn i’r gymuned leol drwy ffurfiau cludiant cynaliadwy.

Polisi CFS/13 – DYRANNU MANNAU AGORED NEWYDD

  1. Mae tir yn cael ei ddyrannu i ateb y galw am fannau agored yn y lleoliadau canlynol:
  1. Oddi ar Ffordd Llan Sain Siôr, Tua’r De o Gaeau Chwarae Abergele
  2. Top Llan Road / Llanrwst Road, Glan Conwy
  1. Gellir nodi tir ychwanegol yn ystod cyfnod y Cynllun yn unol â’r Egwyddorion Datblygu.


4.5.10.12 Dengys yr Asesiad Mannau Agored, a wnaethpwyd ym mis Rhagfyr 2010, ddiffygion mewn darparu mannau agored ar draws y Ardal y Cynllun. Dyrannwyd y safleoedd uchod i ddelio â diffygion yn y ddarpariaeth bresennol ac yn adlewyrchu cytundeb a thrafodaethau darparu parhaus gyda thirfeddianwyr a datblygwyr. Nid yw ymestyn y cae chwarae yn Abergele yn ddarpariaeth ychwanegol, ond yn ddarpariaeth yn lle’r darn o gae chwarae fydd yn cael ei ddyrannu ar gyfer y dyraniad tai. Darperir tir ychwanegol ar gyfer mannau agored yn Abergele fel rhan o gyfanswm y dyraniad tir ar gyfer tai.

4.5.11 Dyraniadau Tir Claddu Newydd

Polisi CFS/14 – DYRANIADAU TIR CLADDU NEWYDD

Mae tir yn cael ei ddyrannu i ddiwallu’r angen am dir claddu newydd yn Llanrwst ac ym Mhenmaenmawr yn gyfagos i’r mynwentydd presennol. Gellir nodi tir ychwanegol yn ystod cyfnod y Cynllun yn unol â’r Egwyddorion Datblygu.

Llanrwst

Penmaenmawr


4.5.11.1 I ddiwallu’r angen am le claddu yn ardaloedd Llanrwst ac Abergele, mae’r Cyngor wedi gwneud gwaith i nodi lleoliadau addas ar gyfer naill ai ymestyn mynwentydd presennol, neu diroedd claddu newydd. Mae BP/32 – ‘Adroddiad Galw a Chyflenwad Tiroedd Claddu’ yn cynnwys mwy o fanylion ar waith a wnaethpwyd hyd yn hyn. Mewn perthynas â Llanrwst, bydd y cyfleuster presennol ym Mynwent Cae Melwr yn llawn erbyn diwedd 2013, felly mae estyniad yn cael ei greu i’r fynwent bresennol. Mae’r tir sy’n gyfagos i fynwent Penmaenmawr hefyd yn cael ei ddyrannu er mwyn diogelu’r safle hwn i’w ddefnyddio yn y dyfodol, ond ni fydd ei angen yn ystod y cyfnod Cynllun. Mae angen yn bodoli yn Abergele hefyd ac mae’r Cyngor yn gweithio gyda’r Bwrdd Claddu a Chyngor Tref i chwilio am dir addas i ddiwallu’r angen hwn.

4.5.12 Cyfleusterau Addysg

Polisi CFS/15 – CYFLEUSTERAU ADDYSG

Bydd Cynigion Datblygu ar gyfer ysgolion newydd yn ystod cyfnod y Cynllun yn cael eu cefnogi os ydynt yn unol â’r Egwyddorion Datblygu.


4.5.12.1 Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod yr angen am fuddsoddi mewn ysgolion ar gyfer y dyfodol, ac mae’n gofyn i’r Gyngor sefydlu strategaeth glir ar draws pob ysgol gynradd. Sefydlodd y Cyngor y Prosiect Moderneiddio Ysgolion Cynradd (PMYC) 3 blynedd yn ôl. Mabwysiadwyd y strategaeth a’r cynllun gweithredu yn ffurfiol gan y Cyngor ym mis Hydref 2010.


4.5.12.2 Cynhelir mwy o gyfarfodydd ymgynghori rŵan o fewn y cwmpas a nodir yn y cynllun gweithredu. Cynhelir y cyfarfodydd ymgynghori ffurfiol hyn dros nifer o flynyddoedd. Cyflwynir yr ymatebion o bob cyfarfod ymgynghori ffurfiol i’r Cyngor fydd yn eu hystyried wrth benderfynu pa ddewis i’w ddatblygu a’i weithredu ar gyfer ardal/ysgol. Ni ellir penderfynu ar unrhyw ddyraniadau newydd ar gyfer Sefydliadau Addysgol nes bydd y broses hon wedi’i chwblhau ar gyfer ysgolion neu ardaloedd unigol.


4.5.12.3 Nid ydym yn gwybod canlyniadau cam nesaf y PMYC ar hyn o bryd, felly, mae pob dewis yn dal ar agor, a allai olygu dim newid, cyfuno, ysgol ardal ar safle presennol, ysgol ardal ar safle newydd, ysgol ardal ar wahanol safleoedd, neu adnewyddu ysgol bresennol. Ond, bydd y Cyngor yn adolygu ei ddull ar ôl cwblhau Rhaglen Moderneiddio Ysgolion Cynradd Conwy yn unol â PC/24 – ‘Adroddiad Moderneiddio Ysgolion Cynradd Conwy’. Bydd ysgolion newydd yn cael cefnogaeth yn amodol ar gwrdd â pholisïau perthnasol eraill o fewn y Cynllun. 

Am gyfarwyddiadau ar sut I ddefnyddio’r system ac I wneud sylwadau, gwelwch ein canllaw cymorth.
back to top Yn ôl i’r brig