Cynllun Datblygu Lleol Conwy 2007 - 2022
3. ADRAN TRI – Y STRATEGAETH OFODOL A DIAGRAM ALLWEDDOL
3.1 Datganiad Crynodeb y Strategaeth Ofodol
3.1.1 Strategaeth ‘hybrid’ yw strategaeth CDLl Conwy sy’n darparu datblygiadau mewn lleoliadau sy’n cyfrannu at ddiwallu anghenion lleol gan hyrwyddo twf cynaliadwy ar yr un pryd. Cyflawnir hyn drwy dargedu datblygiadau yn y lleoliadau canolbwynt strategol trefol, sy’n hygyrch ac wedi’u blaenoriaethu, ac mewn ardaloedd sy’n dirywio ac sydd angen eu hadfywio, ond gan sicrhau ar yr un pryd fod cymunedau gwledig yn cael eu meithrin drwy ddarparu lefelau cynaliadwy o swyddi a gwasanaethau hygyrch yn lleol. Elfen hanfodol o’r strategaeth yw bod lefel y datblygu’n adlewyrchu rolau a swyddogaethau aneddiadau unigol.
Mae’r Strategaeth Ofodol wedi’i llunio’n seiliedig ar sawl cydran allweddol, y defnyddiwyd y materion â blaenoriaeth, y weledigaeth a’r amcanion i’w ffurfio, ac yn ategu ymhellach y polisïau yn y CDLl. Mae nifer o gydrannau allweddol yn y strategaeth wedi dylanwadu ar lefel y twf ac ar yr ymagwedd gyffredinol at ddosbarthiad cynaliadwy er mwyn sicrhau bod datblygiadau’r dyfodol yn gweddu i Gonwy fel y dangosir yn nhabl 2 isod:
Tabl 2: Cydrannau Strategol Allweddol a Pherthynas gydag Amcanion Gofodol y CDLl | |
Cydrannau Strategol Allweddol | Amcanion Gofodol CDLl |
1. Ystyried Polisi a Thystiolaeth Cenedlaethol, Rhanbarthol a Lleol | Pob un |
2. Hyrwyddo dull cynaliadwy a chytbwys i reoli tai yn y dyfodol a thwf cyflogaeth a lleihau lefelau allgymudo | 1, 3, 4, 5 |
3. Sicrhau hyblygrwydd drwy ddarparu cyflenwad tir wrth gefn ar gyfer tai a chyflogaeth, a mecanwaith rhyddhau addas | 3, 4, 5 |
4. Rhoi blaenoriaeth i ddatblygu yn y dyfodol o fewn y lleoliadau canolbwynt economaidd o Gonwy, Llandudno, Cyffordd Llandudno a Bae Colwyn ac o fewn ac ar gyrion yr aneddiadau sydd â chyswllt agos â chyfleusterau a gwasanaethau hanfodol, ac yn hygyrch i’r rhwydweithiau ffyrdd a rheilffyrdd strategol ar hyd y llain arfordirol drefol | 2, 6, 7, 9 |
5. Targedu datblygiad yn unol â Hierarchaeth Aneddiadau i adlewyrchu rolau a swyddogaethau aneddiadau unigol | 1, 2, 3, 4, 5, 6, 7, 9, 16 |
6. Cydnabod argaeledd cyfyngedig tiroedd llwyd, ond ar yr un pryd yn manteisio ar gyfleoedd tir llwyd lle bo’n briodol ac y gellir eu darparu cyn maes glas | 1, 2, 3, 4, 5, 6, 7, 9 |
7. Cydnabod y cyfyngiadau perygl o lifogydd i'r Dwyrain o’r Ardal y Cynllun | 2, 11 |
8. Caniatáu ar gyfer gwella a chyfleoedd adfywio drwy Brif Gynllun Bae Colwyn a Phrif Gynllun Abergele. | 2 |
9. Sicrhau bod datblygiad yn cyfrannu tuag at welliannau isadeiledd angenrheidiol ac yn cael eu cyflwyno'n raddol yn unol â hynny | 7, 9, 10 |
10. Sicrhau bod datblygiad yn darparu cyfleusterau cymunedol angenrheidiol ac yn cyfrannu tuag at ddarparu tai fforddiadwy a datblygu sgiliau a hyfforddiant | 3, 4, 5, 13 |
11. Lleihau effaith datblygiad ar yr arfordir a chefn gwlad a chyfarwyddo twf at ardaloedd sydd â'r gallu amgylcheddol heb achosi gormod o niwed i ardaloedd a werthfawrogir am eu gwerth cynhenid o ran diddordeb bioamrywiaeth, tirwedd, hanesyddol neu gadwraeth | 5, 12 |
12. Cydnabod gallu'r diwydiant adeiladu tai i gyflwyno'r strategaeth ar gyfer Conwy | 1, 3 |
3.1.2 Cafodd nifer o ddewisiadau datblygu eu hystyried mewn perthynas â’r lefelau o ddatblygiad tai a chyflogaeth (gweler BP/2 – ‘Amcanestyniadau Poblogaeth ac Aelwydydd’) a’r dosbarthiad gofodol cyffredinol (gweler BP/37 – ‘Adroddiad Opsiynau Dosbarthu Twf’). Er mwyn targedu datblygu mewn modd priodol, cefnogir y Cynllun hefyd gan bolisi Hierarchaeth Aneddiadau er mwyn cynorthwyo i ffurfio’r strategaeth (gweler BP/8 – ‘Hierarchaeth Aneddiadau a Ffiniau Aneddiadau’). Yn unol â chydrannau allweddol y strategaeth a nodir uchod, caiff y dewis gofodol a ffafrir ei hyrwyddo drwy'r ‘Ardal Strategaeth Datblygu Trefol’ (ASDT) sy’n cyfeirio tua 85% o ddatblygiad newydd i naill ai o fewn neu’n gyfagos i aneddiadau trefol presennol ar dir maes glas a thir llwyd ar hyd y belt arfordirol a thref farchnad Llanrwst i mewn yn y tir. Mae gan y lleoliadau hyn fynediad i gyfleusterau allweddol a gwasanaethau, maent wedi'u cysylltu'n agos ag ardaloedd cyflogaeth, ac yn cael eu cefnogi gan rwydwaith ffyrdd a rhwydwaith drenau strategol. Dyma’r prif ardaloedd o ran poblogaeth a chanddynt Angen Lleol am Dai Fforddiadwy (AHLN), ac maent yn gwneud defnydd llawn o ganolbwynt strategol Conwy, Llandudno, Cyffordd Llandudno a Bae Colwyn yng Nghynllun Gofodol Cymru.
3.1.3 Hyrwyddir gofynion datblygu cymunedau gwledig y Cynllun trwy’r ‘Ardal Strategaeth Datblygu Gwledig’ (ASDG) a gaiff eu cyfeirio at ddiwallu anghenion y Prif Bentrefi, y Pentrefi Llai a Phentrefannau. At ei gilydd, mae’r ‘Ardaloedd Strategaeth Datblygu a Gwledig’ yn ffurfio Strategaeth Ofodol ar gyfer Conwy fel y nodir yn Niagram 1.Mae’r agwedd hon yn sicrhau fod mynediad i dai, cyflogaeth, cyfleusterau a gwasanaethau allweddol ym mhob cymuned, drwy ddarparu twf cynaliadwy priodol ym mhob cymuned, ond gan gyfrannu ar yr un pryd at gadw'r arfordir a’r tirlun deniadol a’r nod o gynnal y diwylliant a’r iaith Gymraeg. Ynghyd â chwmpasu'r math cywir o dai a chyflogaeth, datblygu sgiliau a dylunio arloesol, mae’n darparu fframwaith ar gyfer cyfrannu tuag at strwythur oed mwy cytbwys a gweithlu sy’n weithredol yn economaidd.
3.2 Twf Cynaliadwy i Gonwy
3.2.1 Mae amcanestyniadau o boblogaeth y dyfodol yn hanfodol er mwyn pennu nifer yr anheddau a’r swyddi ychwanegol y bydd eu hangen ar safleoedd ledled yArdal y Cynllun dros gyfnod y Cynllun (gweler BP/2). Mae’r rhagdybiaethau a wneir ynghylch hyn yn effeithio ar bob maes arall yn y Cynllun. Er enghraifft, bydd twf y boblogaeth yn y dyfodol yn rhoi pwysau ychwanegol ar y rhwydwaith o gyfleusterau sydd eu hangen i gefnogi cymunedau cynaliadwy (gwastraff, addysg, hamdden, ynni adnewyddadwy ac ati). Bydd polisïau yn y Cynllun yn sicrhau y bydd y cyfleusterau cymunedol angenrheidiol yn cael eu datblygu ochr yn ochr â datblygiadau.
3.2.2 Mae gallu’rdiwydiant adeiladu tai (gweler BP/31 – ‘Gallu’r Diwydiant Adeiladu Tai’), argaeledd tir addas y gellir darparu arno (gweler BP21 – ‘Asesiad Darparu Safle’), barn y gymuned a chyfranogion (gweler yr Adroddiad Ymgynghori) a’r effeithiau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol (gweler BP/10 – ‘Gwerthusiad Cynaladwyedd ac Asesiad Amgylcheddol Strategol’) oll yn rhannau allweddol o’r sylfaen dystiolaeth ac wedi chwarae rhannau hanfodol o ran goleuo cydrannau strategol allweddol ac er mwyn penderfynu’r lefel twf a amlinellwyd yn y Strategaeth hon.
3.2.3 Ar ôl asesu'r prif gydrannau sy’n penderfynu ar y lefel priodol o dwf cynaliadwy, bydd y strategaeth yn cyfrannu at gyflawni’r meysydd blaenoriaeth gan ddarparu tua
- 6,520 o unedau tai newydd gyda lefel wrth gefn o 10% hyd at 7,170 o unedau tai newydd i gyd-fynd â’r newid naturiol yn y boblogaeth, maint teuluoedd a mewnfudo net (gweler BP/2, BP/3, BP/4, BP/5, BP/41)
- 2,350 o swyddi newydd gyda lefel wrth gefn o hyd at 2,585 o swyddi newydd i gyd-fynd â’r newid naturiol yn y boblogaeth, y newid mewn maint teuluoedd a mewnfudo net (gweler BP/2, BP/3, BP/13, BP/14, BP/42)
- 1,800 o swyddi gyda lefel wrth gefn o hyd at 1,980 o swyddi newydd i helpu i leihau lefelau cymudo allan o’r sir (gweler BP/2, BP/3, BP/13, BP/14, BP/42)
- 1,875 o unedau tai fforddiadwy newydd (1,000 wedi’u hadeiladu o’r newydd) (gweler BP/2, BP/3, BP/7)
3.2.4 Yn ogystal, mae’r Strategaeth yn gwneud darpariaeth i ganiatáu ar gyfer datblygu:
- Gerddi ar osod (gweler BP/25)
- Tiroedd Claddu (gweler BP/32)
- Gofod agored (gweler BP/19)
- Diogelu Mwynau (gweler BP/29)
- Cyfleusterau Gwastraff (gweler BP/20)
- Isadeiledd cludiant (gweler BP/28)
3.3 Anghenion Tai, Math a Dyluniad
3.3.1 O ganlyniad i ostyngiad mewn maint cartrefi a’r mewnfudo net a ragwelir, mae angen mwy am dai newydd ac, yn benodol, gofyniad AHLN dros gyfnod y cynllun.
3.3.2 Bydd y Cyngor yn mynnu fod pob tai o’r math, maent ar ddaliadaeth gywir ac yn cael eu hadeiladu i ansawdd dyluniad uchel sydd yn cynnwys technolegau ynni adnewyddadwy. Ar yr un pryd, bydd y Cyngor yn addasu i boblogaeth sy’n heneiddio o safbwynt y math o dai.
3.4 Gallu'r Diwydiant Adeiladu Tai
3.4.1 Mae BP/31 yn nodi'r lefel twf bwriedig gan y Cyngor o 6,520 o anheddau (478 annedd y flwyddyn) sy’n unol â’r hyn y gallai'r diwydiant adeiladu tai ei ddarparu. Byddai unrhyw dwf uwch na’r lefel hwn yn tanseilio'r gallu i ddarparu’r Cynllun yn sylweddol.
3.5 Anghenion Cyflogaeth
3.5.1 Mae tystiolaeth yn dangos y gellir gostwng lefelau cymudo allan o’r sir trwy greu rhagor o swyddi. Fel y nodwyd yn PB/3 – ‘Adroddiad Dewisiadau Lefel Twf’, dylid creu 1,800 o swyddi ychwanegol (15.5 hectar) gyda lefel wrth gefn hyd at 1,980 swydd (1.5 hectar), yn y cynllun, i ostwng lefelau cymudo allan o’r sir. Nid yw hyn yn effeithio ar yr angen am ragor o dai, oherwydd bod y rhai hynny sy’n cymudo allan o’r sir yn byw ynddi. Cynigir cyfanswm o 36 hectar er mwyn bodloni’r defnydd cyflogaeth drwy ddatblygiadau wedi’u cwblhau, ymrwymiadau a dyraniadau newydd.
3.5.2 Bydd y Cyngor yn datblygu economi seiliedig ar sgiliau a gwybodaeth sy’n manteisio i’r eithaf ar werth adnoddau naturiol, amgylchedd a threftadaeth ddiwylliannol yr ardal. Ynghyd â hyrwyddo clystyrau busnes a thechnoleg a chynnig cyflogaeth o werth uwch, bydd poblogaeth mwy economaidd weithgar wedi cyfrannu at oresgyn y gostyngiad a ragwelir yn y gweithlu economaidd weithgar. Mae'r math o swyddi sydd ar gael a’r sgiliau a ddatblygir yn hanfodoli ddenu gweithlu iachach, strwythur oed mwy cytbwys a chyfrannu tuag at boblogaeth ieuengach ar y cyfan. I sicrhau agwedd strategol a holistig tuag at ddatblygu a chefnogi'r strategaeth tai, bydd y tir cyflogaeth sy’n cael ei ddyrannu yn bennaf yn y lleoliadau canolbwynt strategol yn yr ASDT cyraeddadwy ac yn anheddiad cyraeddadwy Abergele.
3.6 Strategaeth Twf Tai a Chyflogaeth Gyson a Chytbwys
3.6.1 Caiff ei chydnabod y bydd twf economaidd newydd yn golygu bod angen lefel cymharol o gartrefi i gefnogi twf poblogaeth, yn benodol twf trigolion sy’n weithredol yn economaidd (cyflenwad llafur). Fel y nodir yn BP/2, BP/3 a BP/37, mae’r Cynllun yn hyrwyddo strategaeth dwf cyson a rhesymegol sy’n sicrhau agwedd holistig at dwf cyflogaeth a thai. Cefnogir hyn gan nifer o safleoedd cyflogaeth defnydd cymysg a thai i’w datblygu fesul cam i sicrhau'r gallu i’w darparu.
3.7 Darparu Hyblygrwydd – Safleoedd Tai a Chyflogaeth Wrth Gefn
3.7.1 Mae’r CDLl yn tybio y bydd graddfa uchel o ddatblygiad tai a chyflogaeth yn cael eu cyflwyno drwy dderbyn caniatâd, drwy ddyraniadau, ac yn achos tai, yn annisgwyl fel ffynhonnell o gyflenwad dros gyfnod y Cynllun. Fodd bynnag, er y bydd safleoedd wedi’u gwerthuso i asesu'r gallu i’w darparu, cydnabyddir ei bod hi’n bosibl na fydd rhai’n dod ymlaen dros gyfnod y cynllun am sawl rheswm. I ganiatáu ar gyfer y posibilrwydd hwn, ac er mwyn sicrhau hyblygrwydd, mae’r Cynllun felly’n cynnwys elfen ychwanegol o dir ar gyfer tai a chyflogaeth (yn ychwanegol at y cyflenwadau a ddynodwyd) sydd hefyd wedi cael ei werthuso ac sydd wedi’i gynnwys yn y Cynllun fel cyflenwad wrth gefn i’w ryddhau os na fydd rhai o’r safleoedd a ddyrannwyd yn cael eu cyflwyno fel y rhagwelir.
3.7.2 Bwriedir rhyddhau’r cyflenwad wrth gefn pan fo’r Adroddiad Monitro Blynyddol (AMB) yn dangos bod y targedau cynyddol a ragamcennir ar gyfer cyflogaeth a thai, fel y’u nodir yn y Cynllun, yn cael eu tanseilio mewn modd sy’n andwyol i strategaeth y Cynllun. Nodir y sail ar gyfer rhyddhau safleoedd wrth gefn ym Mholisi HOU/1 ac fe’i gwelir yn BP/41 – ‘Rhyddhau Safleoedd Wrth Gefn’.
3.8 Darparu’r Anghenion – Dosbarthiad Gofodol
3.8.1 Mae'r Strategaeth Ofodol yn amlinellu lleoliad datblygiad ar ddarpariaeth o wasanaethau ac isadeiledd i gyflawni'r weledigaeth a’r amcanion, sydd yna’n cael eu darparu drwy bolisïau yn yr Adran nesaf.
3.8.2 Gyda chefnogaeth a chyfarwyddyd Polisi Strategol DP/1 – ‘Egwyddorion Datblygiad Cynaliadwy’ a DP/2 – ‘Agwedd Strategol Cyffredinol’, mae’r Cynllun yn cyfeirio datblygiad at y lleoliadau mwyaf cynaliadwy yn yr ASDT, fel yr amlinellir yn y Diagram Allweddol ac ym manylion Polisïau Strategol HOU/1 – ‘Diwallu’r Angen Tai’ a EMP/1 – ‘Diwallu’r Angen Cyflogaeth Swyddfeydd a Diwydiannol B1, B2 a B8’.
3.8.3 Cefnogir yr ASDT gan ASDG sy’n amlinellu’r dull o ddiwallu anghenion aneddiadau gwledig o fewn Ardal y Cynllun. Yn gyffredinol, nid ydym yn rhagweld y bydd maint cymharol aneddiadau’n newid yn sylweddol ond, mewn rhai achosion, mae angen cynyddu eu swyddogaethau neu eu cryfhau’n benodol lle bod hyn yn caniatáu diwallu anghenion yn lleol, gan arwain at greu cymunedau mwy cynaliadwy.
3.8.4 Mae’r Adrannau Gweithredu a Monitro yn Atodiadau 1 a 2 yn rhoi manylion lle bydd angen datblygiad penodol fesul camer mwyn sicrhau darpariaeth. Caiff hyn ei gefnogi gan Bolisïau Strategol HOU/1, EMP/1 a ‘Chynllun Datblygu fesul Camau’ BP/30.
3.9 Ardal Strategaeth Datblygu Trefol
3.9.1 Yr ardaloedd trefol sy’n cynnig yr ystod fwyaf o gyflogaeth, cyfleusterau a gwasanaethau. Mae gan yr ardaloedd hyn raddfa uchel o fynediad i gludiant cyhoeddus a dulliau cynaliadwy eraill, ac mae ganddynt yr angen uchaf am AHLN. Maent yn elwa o goridor rheilffyrdd a ffyrdd strategol sy’n mynd ar hyd Gogledd Cymru ac yn cysylltu'r prif ganolfannau sy’n cael eu cydnabod yng Nghynllun Gofodol Cymru, sy’n chwarae rôl bwysig wrth gynnal yr economi leol. I wellau eu rolau a mynd i’r afael ag anghenion a materion cymunedol, bydd y Cyngor yn canolbwyntio'r mwyafrif o gyflogaeth a rhai i’r dyfodol ar gyfuniad o dir sydd wedi’i ddatblygu’n barod (PDL) a thir glas yn y lleoliadau hyn, yn benodol drwy gymunedau presennol, datblygiad annisgwyl a dyraniadau newydd. I ganiatáu dyraniadau newydd ar gyfer tai, mae ‘terfynau aneddiadau’ wedi’u hymestyn. Ni fydd datblygiadau tu allan i derfynau aneddiadau newydd yn cael eu caniatáu yn y lleoliadau hyn er mwyn diogelu'r amgylchedd naturiol a hanesyddol, ac eithrio mewn amgylchiadau eithriadol ar gyfer datblygiadau cyflogaeth ac ar gyfer angen AHLN ar safleoedd eithriad yn gyfagos i Lanrwst.
3.9.2 Er bod gan bob un o’r ASDT eu nodweddion eu hunain, mae nifer o’r lleoliadau trefol yn profi cysylltiadau agos a swyddogaethau:
Llandudno, Cyffordd Llandudno a Chonwy
3.9.3
Mae Llandudno, Cyffordd Llandudno a Chonwy’n darparu swyddogaeth ddiwylliannol, gymdeithasol ac economaidd bwysig i Ardal y Cynllun ac wedi’i lleoli ar hyd coridor rheilffyrdd a ffyrdd strategol cryf. Dros gyfnod y cynllun rhagwelir y bydd oddeutu 1,905 (30%) o anheddau newydd yn cael eu darparu ar dir PDL a thir glas ac ar ymyl Llandudno, Cyffordd Llandudno a Chonwy i ddiwallu'r angen am farchnad ac AHLN. Mae hyn yn cynnwys cartrefi newydd sydd eisoes wedi eu cwblhau neu wedi derbyn caniatâd. Darperir tua 15 hectar o dir gyflogaeth yng Nghyffordd Llandudno, Conwy a Llandudno dros gyfnod y Cynllun o ddatblygiadau wedi’u cwblhau, ymrwymiadau a dyraniadau newydd. i ddiwallu anghenion cyflogaeth (B1, B2 a B8) yn rhannol yn Ardal y Cynllun.
3.9.4 Ni fydd Canol Tref Llandudno yn darparu ar gyfer unrhyw adwerthu cyfleustra na nwyddau cymharol o bwys pellach hyd at 2012 ond byddyn cael ei ddiogelu a’i wella, lle bo hynny’n bosibl, i sicrhau cymysgedd cytbwys o ddefnyddiau sy’n cynnal gweithgaredd drwy’r dydd a gyda’r nos. I wella mynediad a lleihau tagfeydd, bydd cyfleuster cyfnewid yn cael ei ddarparu yng Ngorsaf Drenau Llandudno. Bydd y llety twristiaeth wedi’i wasanaethu sydd ar gael yn Llandudno’n cael ei ddiogelu, a lle bo’n bosibl, yn cael ei wella i ddarparu ar gyfer cynnydd yn y galw, ond bydd yn arallgyfeirio ymhellach tuag at dwristiaeth drwy gydol y flwyddyn, gan gynnwys twristiaeth busnes, a manteisio ar ein cysylltiadau strategol gyda Pharc Cenedlaethol Eryri.
3.9.5 Mae Cyffordd Llandudno yn cael ei hyrwyddo fel canolbwynt economaidd allweddol yng nghalon Gogledd Cymru. Drwy Brif Gynllun Cyffordd Llandudno, bydd Cyffordd Llandudno yn gweld gwelliannau datblygu i greu defnyddiau cymysg cynaliadwy a chymdogaethau preswyl gyda chymysgedd o fathau o dai a lleoedd gweithio. Byddcwblhau adleoliad Llywodraeth Cymru i’r ardal a gwireddu’r safleoedd defnydd cymysg bwriedig yn gwella’r dref ymhellach fel porth ar gyfer y dyfodol. Bydd y cyswllt rhwng elfen breswyl a chanol tref Cyffordd Llandudno i’r gogledd o’r rheilffordd a’r defnyddiau tir cyflogaeth ac adwerthu i’r de yn cael eu gwella, yn benodol drwy godi pont droed newydd o’r orsaf rheilffordd i’r ardal hamdden ac adloniant. Bydd cyfleoedd am gyflogaeth gwerth uwch a dyraniad ar gyfer cludo nwyddau ar y rheilffyrdd wedi hyrwyddo dulliau teithio mwy cynaliadwy a newid o ddefnyddio’r car tuag at fwy o gerdded, seiclo a defnydd amlach o gludiant cyhoeddus.
3.9.6 Yn Nhref Conwy, mae siopau cyfleustra’n gorfasnachu a gallai hyn fod yn niweidiol i ddewis lleol ac ansawdd y profiad adwerthu. Er y byddai mantais ansoddol i ddatblygu cyfleuster adwerthu sy’n darparu siopa ‘ail-lenwi’ o ddydd i ddydd, mae’r Cynllun yn cydnabod nad oes unrhyw safleoedd priodol o fewn muriau’r dref ac y bydd diogelu'r amgylchedd hanesyddol yn cael blaenoriaeth dros ddiwallu'r angen adwerthu. Bydd angen gweithredu ymagwedd gytbwys yng Nghonwy er mwyn sicrhau y cyfrennir at ddiwallu anghenion y gymuned, ac y caiff yr asedau hanesyddol eu diogelu a’u gwella.
Bae Colwyn (Mochdre, Llandrillo-yn-Rhos a Hen Golwyn)
3.9.7
Mae Bae Colwyn yn gwasanaethu anghenion adwerthu, preswyl ac economaidd y dalgylch o’i chwmpas ac wedi’i leoli ar hyd coridor ffyrdd a rheilffyrdd strategol. I wella ei rôl strategol, mynd i’r afael ag amddifadedd a chyflawni'r amcanion gofodol cyffredinol dros gyfnod y cynllun, rhagwelir y bydd oddeutu 1,587 (25%) o anheddau newydd yn cael eu darparu ar dir a ddatblygwyd eisoes a thir glas yn yr ardaloedd allweddol hyn, gan gynnwys anheddau newydd sydd eisoes wedi'u cwblhau neu wedi derbyn caniatâd. Bydd canolbwyntio ar ddatblygu tai yn y lleoliad cyraeddadwy hwn yn gwneud cyfraniad sylweddol tuag at gyflawni'r weledigaeth a’r amcanion. Bydd adeiladau wedi’u codi ar dir cyflogaeth (B1, B2 a B8) sydd heb ei ddatblygu ar hyn o bryd yn Llandrillo yn Rhos ac ym Mochdre, gan gynnig mwy o gyfle am gyflogaeth.
3.9.8 Bydd tref Bae Colwyn wedi gwireddu ei photensial llawn ar ôl gweithredu Prif Gynllun Bae Colwyn. Drwy'r Fenter Adfywio Strategol, bydd Prif Gynllun Bae Colwyn yn cyfrannu at adfywio ffisegol drwy stoc tai gwell, rheoli Tai Amlfeddiannaeth (HMO), cynnig cyflogaeth uwch, mynediad at wasanaethau a'r amgylchedd cyffredinol. Bydd yr ardal wedi’i hadfywio, ei diogelu a’i gwella i sicrhau cymysged cytbwys o ddefnyddiau i greu canol tref ffyniannus ac amgylchedd deniadol sy’n cynnal y gymuned.
Abergele, Tywyn a Bae Cinmel (gan gynnwys Pensarn)
3.9.9
Mae Abergele, Tywyn a Bae Cinmel yn ardaloedd allweddol sy’n gwasanaethu anghenion gwasanaeth hanfodol y dalgylch o’u cwmpas. Abergele fydd yr ardal dwf allweddol yn y Dwyrain er mwyn diwallu anghenion datblygu, a hynny’n bennaf oherwydd cyfyngiadau’n gysylltiedig â’r risg uchel o lifogydd. Gan ei bod wedi’i lleoli ar hyd coridor ffyrdd strategol a’i chefnogi gan gyfleusterau a gwasanaethau presennol, mae tir ar gael yn Abergele, ac mae gan y dref gapasiti amgylcheddol er mwyn darparu mwyafrif y datblygiadau tai a chyflogaeth yn yr ardal i ddiwallu anghenion y gymuned a gwella swyddogaeth gyffredinol yr ardal. Prif Gynllun Abergele fydd y cyfrwng cyflenwi er mwyn casglu’r holl gyfleoedd datblygu ynghyd mewn modd cyfannol, gan ddarparu dull o sicrhau bod goblygiadau datblygiadau newydd ar yr ardaloedd ehangach yn cael effaith gadarhaol ar y cyfan. Dros gyfnod y Cynllun rydym yn rhagweld y caiff oddeutu 1,270 (20%) o anheddau newydd eu darparu ar dir a ddatblygwyd yn flaenorol a thir glas yn yr ardaloedd allweddol hyn gan gynnwys cartrefi newydd sydd eisoes wedi'u cwblhau neu wedi derbyn caniatâd. Mae’r lefel twf a’r dyraniadau adeiladu newydd yn Abergeleyn adlewyrchiad clir o’r datblygiadau annisgwyl gwael yn y gorffennol yn dod i’r amlwg, ymrwymiadau isel, gofynion tai fforddiadwy uchel a chyfyngiadau yn nwyrain y Sir yn Nhywyn a Bae Cinmel. Caiff tua 6 hectar o dir cyflogaeth (B1, B2 a B8) ei ddarparu yn ardal Abergele er mwyn diwallu anghenion a chyfrannu at leihau lefelau allgymudo a’r defnydd o geir. Bydd potensial Parc Busnes Abergele a’r tir yno nad yw’n cael ei ddefnyddio wedi cael eu gwireddu drwy adleoli tir cyflogaeth i leoliadau mwy hygyrch a chanddynt fynediad uniongyrchol i goridor yr A55. Bydd Abergele, Bae Cinmel a Thywyn hefyd yn elwa o welliannau sydd wedi’u cynnwys yn y Cynllun Ardal Adfywio Strategol.
3.9.10 I wireddu potensial datblygu yn Abergele a lleihau’r effaith ar ganol y dref, bydd Cynllun Gwella Traffig yn rheoli llif traffig, tagfeydd a lleihau pwysau ar y rhwydwaith ffyrdd o gwmpas. Bydd rhagor o gysylltiadau cynaliadwy a diogelach yn cael ei gwireddu drwy gwblhau Llwybr Cenedlaethol 5 SUSTRANS a phont feics/ cerddwyr newydd yn natblygiad Harbwr y Foryd ym Mae Cinmel.
3.9.11 Mae Tywyn a Bae Cinmel yn wynebu lefelau risg llifogydd uchel a fydd yn golygu cyfleoedd datblygu cyfyngedig i’r dyfodol. Mae’r Cynllun yn cydnabod y bydd diffyg datblygiad o’r fath yn debygol o fod yn niweidiol i’r ardal oherwydd bod posibilrwydd y bydd nifer o safleoedd tir llwyd yn dod yn wag ac yn parhau’n wag yn y lleoliadau hyn. Caiff Cynlluniau Gweithredu eu creu er mwyn helpu i atal dirywiad pellach yn yr ardal, gan ganolbwyntio arbrif gysylltiadau, pyrth a thirluniau sydd yn denu rhagor o sylw gan drigolion a thwristiaid.
Llanfairfechan a Phenmaenmawr
3.9.12 Mae Llanfairfechan a Phenmaenmawr yn aneddiadau trefol hunangynhwysol llai gydag ystod o gyfleusterau a gwasanaethau hanfodol. Dros gyfnod y Cynllun bydd tua 317 o anheddau (5% o anghenion tai) yn caeleu dyrannu yn y lleoliadau hyn, yn bennaf i ddiwallu anghenion tai fforddiadwy.
Llanrwst
3.9.13 Mae Llanrwst yn cael ei ystyried yn ardal drefol ac yn rhan o’r ASDT o ganlyniad i’w faint. Y cyfleusterau a’r gwasanaethau mae’n eu cynnig a’r gefnogaeth mae’n eu darparu i’r Prif Bentrefi a’r Pentrefi Llai. Mae Llanrwst hefyd mewn lleoliad gwledig tua 13 milltir i’r de o dref Conwy. Nid yw mor gyraeddadwy o safbwynt ei safle a’i fynediad at y rhwydwaith ffyrdd a rheilffyrdd strategol nac at gyfleoedd gwaith. Am y rhesymau hyn, bydd ardal drefol Llanrwst yn caniatáu elfen o ddatblygiad marchnad, AHLN a chyflogaeth i gyfrannu at y galw, ond bydd graddfa’r datblygiad is na’r hyn a gynigir yn y lleoliadau arfordirol trefol i ddiogelu ei gymeriad gwledig, a’i amgylchedd naturiol ac adeiledig.
3.10 Ardal Strategaeth Datblygu Gwledig
3.10.1 Nod y strategaeth ar gyfer yr ardal wledig yw hyrwyddo economi wledig gynaliadwy a chyfrannu at ddiwallu'r AHLN yn y Prif Bentrefi, y Pentrefi Llai a’r Pentrefannau, i ddileu unrhyw anfanteision cymdeithasol tra ar yr un pryd cadw eu cymeriad naturiol ac adeiledig. Mae nifer o’r aneddiadau gwledig yn yr Hierarchaeth Aneddiadau (gweler Polisi DP/2) yn cyflawni swyddogaethau unigol gwahanol, ond ar yr un pryd yn cefnogi ac yn darparu cysylltiadau hanfodol i gymunedau eraill.
3.10.2 Mae ffermio’n parhau i fod yn rhan hanfodol o'r economi wledig ac yn bwysig i ddiogelu cymeriad ac ymddangosiad tirlun. Dros y blynyddoedd mae rhywfaint o arallgyfeirio wedi bod o weithgareddau gwledig traddodiadol yn bennaf trwy ailddefnyddio'r fferm ac adeiladau eraill i bwrpasau busnes. Nid yn unig mae hyn wedi helpu cynnal cyflogaeth mewn ardaloedd gwledig ond mae hefyd wedi galluogi rhai ffermydd i barhau yn weithredol gan fod y gweithgaredd a arallgyfeiriwyd yn cefnogi'r busnes ffermio. Drwy ganiatáu trawsnewidiadau addas i adeiladau ar gyfer defnydd busnes neu fentrau gwaith byw, gan gynnwys twristiaeth, nod y Cyngor yw cefnogi'r economi wledig. Er hynny, mae’n bosibl y bydd trawsnewidiadau preswyl yn fwy priodol mewn rhai lleoliadau ac ar gyfer rhai mathau o adeiladau i gefnogi busnes ac AHLN.
3.10.3 Bydd y Cyngor yn parhau i gefnogi agwedd gytbwys tuag at arallgyfeirio drwy drawsnewid adeiladau gwledig cyn belled nad yw’n arwain at effeithiau amgylcheddol annerbyniol ac nad yw’n cael effaith negyddol ar gymeriad cefn gwlad. Gan dderbyn bod tir addas yn brin o fewn aneddiadau gwledig, bydd cyfleoedd cyflogaeth newydd wedi cael eu gwireddu drwy ymagwedd hyblyg at ddatblygiadau newydd ar safleoedd heb eu dyrannu. Ar safleoedd o’r fath, bydd sgiliau a hyfforddiant newydd wedi cael eu darparu.
3.10.4 Mae Ardal y Cynllun yn ardal bwysig ar gyfer twristiaeth. Mae’r cefn gwlad ei hun yn atyniad gyda digonedd o gyfleoedd hamdden. Bydd y strategaeth yn cefnogi gwell mynediad at, a mwynhad o, gefn gwlad drwy gydol yr Ardal Cynllun gwledig.
Y Prif Bentrefi
3.10.5
Ystyrir Dwygyfylchi*, Glan Conwy, Llanddulas a Llysfaen yn Brif Bentrefi Haen 1. Ystyrir Betws-yn-Rhos, Cerrigydrudion, Dolgarrog*, Eglwysbach, Llanfair Talhaiarn, Llangernyw, Llansannan, Tal-y-Bont* / Castell a Threfriw* yn Brif Bentrefi Haen 2. Maent yn darparu ystod bwysig o gyfleusterau a gwasanaethau, gan gynnwys siopau, i’r aneddiadau gwledig o’u cwmpas. Mae'r Prif Bentrefi Haen 1 yn darparu lefel uwch o gyfleusterau a gwasanaethau na Phrif Bentrefi Haen 2 ac mae ganddynt fynediad cynaliadwy uwch at ardaloedd trefol uwch. Mae’n bwysig bod y lefel presennol o gyfleusterau a gwasanaethau yn cael eu diogelu lle bo hynny’n bosibl. Bydd y Prif Bentrefi Haen 1 yn darparu cyfuniad o werth y farchnad ac AHLN o ymrwymiadau presennol, ar safleoedd a ddyrennir ac o ddatblygiad annisgwyl, i wireddu amcanion gofodol ar gyfer darparu AHLN a diogelu'r amgylchedd naturiol a hanesyddol. O fewn y Prif Bentrefi Haen 2, bydd y Cyngor yn ceisio darparu 100% AHLN yn unig ar safleoedd a ddyrannir ac ar safleoedd annisgwyl o fewn terfynau aneddiadau i gynrychioli'r lefel o gyfleusterau a gwasanaethau ac i ddiogelu'r iaith Gymraeg. I gynnwys elfen o hyblygrwydd, caniateir anheddau’r farchnad mewn amgylchiadau eithriadol ar safleoedd wedi’u dyrannu a safleoedd annisgwyl o fewn y Pentrefi Haen 2 fel ffordd o ddarparu tai fforddiadwy ar-safle, yn amodol ar ddichonadwyedd ariannol. Ar y cyfan bydd cynlluniau o’r fath, ar safleoedd annisgwyl, yn llai na’r rhai a ganiateir yn yr Ardaloedd Strategaeth Datblygu Trefol, sef dim mwy na 10 o anheddau, a byddant yn cael eu cyflwyno fesul cam yn unol â darpariaeth isadeiledd. Bydd safleoedd eithriedig AHLN 100% ar raddfa fechan yn cael eu caniatáu y tu allan, ond ar ymyl yr anheddiad os yw’n diwallu anghenion lleol. Bydd datblygiadau adwerthu, masnachol a hamdden llai yn cael eu caniatáu ar raddfa sy’n briodol i swyddogaeth yr anheddiad a lle ei fod yn gwella cynaladwyedd.
*Yn rhannol o fewn Parc Cenedlaethol Eryri
3.10.6 Dros gyfnod y cynllun, bydd oddeutu 950 (15% o’r gofyniad tai) yn cael eu dosbarthu rhwng yr aneddiadau hyn (gan gynnwys y Pentrefi Llai a Phentrefannau) drwy ymrwymiadau presennol, safleoedd annisgwyl a dyraniadau newydd yn bennaf yn yr aneddiadau Haen 1 a 2. Bydd oddeutu 15% o’r gofyniad cyflogaeth (B1, B2 a B8) yn cael ei ddyrannu a’i ganiatáu yn y lleoliadau hyn i gefnogi datblygiad cynaliadwy. Er hynny, mae’r cynllun yn cydnabod fod y cyfyngiadau datblygu yn Nolgarrog, Tal y Bont a Threfriw a’r cysylltiadau gyda Pharc Cenedlaethol Eryri. Yn Nolgarrog, bydd y safle cyflogaeth presennol yn yr hen Waith Alwminiwm yn cael ei ddiogelu ar gyfer defnydd cymysg (cyflogaeth/hamdden/twristiaeth/tai) er mwyn darparu cyfleoedd am swyddi’n gysylltiedig â thwristiaeth drwy’r flwyddyn a swyddi hamdden.
Pentrefi Llai
3.10.7
Mae Pentrefi Bryn Pydew, Glanwydden, Groes, Henryd, Llanbedr-y-Cennin*, Llanelian,Llanddoged, Llangwm, Llannefydd, Pentrefelin, Pentrefoelas, Rhyd-y-Foel, Rowen*, Llan San Siôr, Tal-y-Cafn a Thyn-y-Groes yn aneddiadau llai lle caniateir datblygiad cyfyngedig i ddiwallu anghenion y gymuned, diogelu'r cyfleusterau a’r gwasanaethau presennol a diogelu'r amgylchedd naturiol ac adeiledig. Nid oes terfynau anheddiad ar gyfer Pentrefi Llai ac ni ddyrannwyd tir ar gyfer y farchnad dai a chyflogaeth. Er hynny, i ddiwallu anghenion y gymuned. Bydd y Cyngor yn ceisio darparu 100% AHLN yn unig ar safleoedd annisgwyl oddi mewn i derfynau’r anheddiad, neu lle bydd stadau sy’n cynnwys grwpiau bychain o anheddau (hyd at 5 annedd) neu anheddau sengl newydd yn cynrychioli math o fewnlenwi ac yn cydweddu’n ffisegol ac yn weledol â’r anheddiad. Dylai lefel y datblygu gynrychioli lefel y cyfleusterau a’r gwasanaethau a diogelu’r Gymraeg. Er mwyn darparu elfen o hyblygrwydd, caniateir anheddau’r farchnad mewn amgylchiadau eithriadol ar safleoedd annisgwyl oddi mewn i derfynau’r anheddiad, fel ffordd o ddarparu tai fforddiadwy ar-safle, yn amodol ar ddichonadwyedd ariannol yn unig. Bydd modd caniatáu safleoedd eithriedig 100% AHLN ar raddfa fechan ar yr ymylon, y tu allan i derfynau’r prif anheddiad, os yw’n diwallu angen lleol.
Pentrefannau
3.10.8 Mae Pentrefannau Bod Tegwal, Bryn-y-Maen, Brymbo, Bryn Rhyd-yr-Arian, Bylchau, Capelulo*, Cefn Berain, Cefn Brith, Dinmael, Glan Rhyd, Glasfryn, Groesffordd, Gwytherin, Hendre, Llanfihangel Glyn Myfyr, Maerdy, Melin y Coed, Nebo*, Pandy Tudur, Pentre-llyn-cymer, Pentre Isa, Pentre Tafarn-y-Fedw, Rhydlydan a Than-y-Fron yn llai o faint na’r pentrefi llai ac ychydig iawn o gyfleusterau a gwasanaethau sydd ganddynt. Ychydig iawn o ddatblygiad fydd yn y Pentrefannau yn ystod cyfnod y cynllun. Bydd cynigion datblygu graddfa fechan sy’n helpu arallgyfeirio'r economi wledig, creu gwell cysylltiadau â’r Parc Cenedlaethol a darparu cyfleusterau cymunedol allweddol yn cael eu hannog. Gallai Pentrefannau fod yn briodol ar gyfer aneddiadau gweithwyr amaethyddol neu goedwigaeth, trawsnewid anheddau ar gyfer AHLN, darparu AHLN unigol, cynlluniau arallgyfeirio ffermydd a datblygiadau eraill gydag anghenion lleoliad penodol.
*Yn rhannol ym Mharc Cenedlaethol Eryri
Cefn Gwlad Agored
3.10.9 O fewn cefn gwlad agored, bydd anheddau gweithwyr amaethyddol neu goedwigaeth, trawsnewid anheddau ar gyfer AHLN a chynlluniau amrywio ffermydd yn cael eu hystyried lle’u bod yn diwallu anghenion a ddynodwyd yn lleol, yn cefnogi'r economi ac yn diogelu cefn gwlad agored.
3.11 Diagram Allweddol
3.11.1 Mae’r Diagram Allweddol yn amlinellu'r Strategaeth CDLl ar raddfa'r Ardal y Cynllun gyfan. Mae hyn yn cael ei gefnogi gan ddiagram strategol allweddol ychwanegol ar y strategaeth cludiant, yr hierarchaeth adwerthu a’r Map Cynigion. Mae’r diagram hwn, yn amlinellu'r egwyddorion gofodol eang yn y Strategaeth ac nid yw’n fwriad iddo fod yn fanwl neu’n benodol i safleoedd. Mae’r cyfeiriadau polisi a ffafrir yn cael eu hadlewyrchu yn y diagramau, i hwyluso ymgynghoriad cymunedol a gwerthusiad cynaladwyedd.