Cynllun Datblygu Lleol Conwy 2007 - 2022
2. ADRAN DAU – GWELEDIGAETH AC AMCANION
2.1 Gweledigaeth ar gyfer Conwy
2.1.1 Mae’r weledigaeth a ganlyn yn nodi lle rydym eisiau bod erbyn 2022. Mae’r amcanion sy’n dilyn yn ymdrin â’r materion a nodwyd yn Adran 1 a’r Papurau Cefndir cefnogol. Caiff y ddwy strategaeth allweddol sydd wedi llywio Gweledigaeth y CDLl eu crynhoi yn BP/1 - ‘Cynlluniau a Strategaethau Cysylltiedig’ – Strategaeth Gymunedol ‘Un Conwy’ a Chynllun Corfforaethol Conwy.
2.2 Y Weledigaeth - ‘Conwy yn 2022’
2.2.1 "Erbyn 2022, bydd cymunedau Conwy yn fwy cynaliadwy, yn cynnig safon byw uwch ac fe’u cynhelir gan strwythur oedran mwy cytbwys.
Bydd yr anghenion datblygu a grëwyd gan newidiadau i’r boblogaeth yn y dyfodol a lleihau lefelau all gymudo, wedi’u cyflawni. Byddwn yn diwallu’r angen am dai yn yr ardal yn well, a bydd yn haws cael tai fforddiadwy ar gyfer angen lleol. Bydd pobl ein cymunedau wedi cael addysg a bydd ganddynt sgiliau a chyfle gwell i gael swyddi o ansawdd uwch a chyflogau uwch, yn enwedig yn y diwydiannau gwerth uwch, a’r sectorau twristiaeth trwy gydol y flwyddyn, gan arwain at Gonwy mwy ffyniannus a chyfoethocach. Trwy hyrwyddo Ardal Strategaeth Datblygiad Trefol, bydd aneddiadau cynaliadwy a hygyrch y llain arfordirol drefol, sef Abergele, Bae Colwyn, Conwy, Llandudno a Chyffordd Llandudno wedi datblygu i fod yn ganolbwynt economaidd, cymdeithasol a diwylliannol Ardal y Cynllun. Llwyddwyd i gryfhau’r canolbwyntiau strategol a’r ardaloedd adfywio a hyd y coridor ffordd a rheilffordd allweddol o ganlyniad i hynny. Trwy’r Ardal Strategol Datblygu Gwledig, meithrinwyd cymeriad arbennig yr ardaloedd gwledig fel lleoedd i fyw a gweithio ynddynt trwy ddarparu swyddi a gwasanaethau sy’n hygyrch yn lleol. O fewn y cymunedau hyn, bydd datblygiad wedi cefnogi a chynnal lles tymor hir yr Iaith Gymraeg.
Bydd pobl Conwy yn teimlo’n ddiogelach ac yn iachach, o ganlyniad i ddatblygiadau ansawdd uwch, sydd wedi’u dylunio’n dda, sy’n defnyddio ynni’n effeithiol ac sy’n diogelu ac yn gwella’r amgylchedd naturiol ac adeiledig. Diogelwyd mannau hamdden a mannau agored hanfodol a’u gwella a bydd Lletemau Glas ac Ardaloedd Tirwedd Arbennig wedi meithrin hunaniaeth gymunedol ac aneddiadol.
Sefydlwyd cludiant cyhoeddus, rhwydwaith cerdded a beicio gwell a chwblhawyd cyfleuster cyfnewidfa cludiant cyhoeddus cynaliadwy yn Llandudno a Bae Colwyn. Diogelwyd cyflenwad agregau ar gyfer y tymor hir a hyrwyddwyd cynhyrchu ynni a lleihau gwastraff.”
2.3 Amcanion Gofodol
2.3.1 Mae nifer o amcanion y CDLl wedi eu ffurfio fel modd o wireddu’r weledigaeth a mynd i’r afael â materion blaenoriaeth Ardal y Cynllun. Nodwyd tarddiad yr amcanion yn BP/1 ‘Cynlluniau a Strategaethau Perthnasol’. Dyma’r Amcanion Gofodol:
AG1: Sicrhau lefelau twf poblogaeth cynaliadwy.
AG2: Hyrwyddo adfywio cynhwysfawr o Fae Colwyn, Abergele, Tywyn a Bae Cinmel i ehangu gweithgarwch economaidd, mynd i’r afael ac eithrio cymdeithasol a lleihau amddifadiad trwy’r Fenter Ardal Adfywio Strategol.
AG3: Darparu tir a datblygu cyflenwad amrywiol o dai i gyfrannu at anghenion, gan gynnwys tai fforddiadwy ar gyfer angen lleol ac i fodloni’r angen ar gyfer sipsiwn a theithwyr, ar raddfa sy’n gyson â gallu ardaloedd a chymunedau gwahanol i dyfu.
AG4: Canfod a diogelu tir i ateb anghenion cymunedau ac i sicrhau lefelau cymudo allan o’r sir is, rhagor o swyddi a ffyniant economaidd gwell a lefelau cymudo allan llai gan ganolbwyntio ar gyfleoedd cyflogaeth gwerth uwch a datblygu sgiliau o fewn ac o gwmpas canolbwyntiau strategol Conwy, Llandudno, Cyffordd Llandudno a Bae Colwyn ac yn ardal hygyrch a chynaliadwy Abergele.
AG5: Annog cryfhau ac arallgyfeirio’r economi wledig lle bo hynny’n gydnaws â buddiannau amgylcheddol, yr economi leol, a’r gymuned.
AG6: Datblygu cyrchfannau canol tref bywiog ar gyfer siopa, diwylliant, adloniant a hamdden trwy wella bywiogrwydd, hyfywdra ac apêl Llandudno fel canolfan fanwerthu isranbarthol strategol, ac adfywio canol tref Bae Colwyn a chanolfannau siopau eraill.
AG7: Canolbwyntio datblygiad ar hyd rhwydweithiau isadeiledd presennol a bwriedig, ac yn benodol mewn mannau sy’n gyfleus i gerddwyr, beicwyr a chludiant cyhoeddus.
AG8: Cynorthwyo twristiaeth trwy ddiogelu a gwella atyniadau a llety twristiaeth arfordirol a gwledig, ag ecsbloetio ymhellach y potensial i ddatblygu, cryfhau ac annog y diwydiant twristiaeth drwy gydol y flwyddyn.
AG9: Annog symud effeithlon a chydnabod y rôl strategol y bydd yr A55, a choridorau rheilffyrdd yn ei chwarae wrth fodloni anghenion datblygu Ardal y Cynllun a rhoi sylw penodol i leoliadau datblygu sy’n gyfleus i gerddwyr, cerdded a beicwyr yng Nghonwy i gynorthwyo gostwng gollyngiadau CO2 cludiant.
AG10: Sicrhau darparu dylunio da, cynaliadwy, cynhwysol sy’n cynnwys cyfle i ddileu troseddu trwy ddylunio, i ddatblygu cymunedau cryf, diogel ac sy’n nodedig yn lleol ac annog y boblogaeth iau i aros yn yr ardal a dychwelyd iddi.
AG11: Gostwng y defnydd o ynni trwy leoli a dylunio adeiladau yn ofalus, a hyrwyddo datblygiadau ynni adnewyddadwy lle mae ganddynt y rhagolygon o fod yn ddeniadol yn economaidd ac yn dderbyniol yn amgylcheddol ac yn gymdeithasol.
AG12: Diogelu a gwella cymeriad ac ymddangosiad arfordir a chefn gwlad heb ei datblygu, safleoedd o bwysigrwydd tirwedd/ cadwraeth a nodweddion o ddiddordeb hanesyddol neu bensaernïol wrth sicrhau bioamrywiaeth a rhywogaethau gwarchodedig.
AG13: Diogelu a gwella hygyrchedd i wasanaethau a chyfleusterau hanfodol gan gynnwys mannau agored, iechyd, addysg a hamdden.
AG14: Hyrwyddo’r defnydd darbodus o adnoddau trwy leihau gwastraff a chynorthwyo wrth ddarparu rhwydwaith integredig o gyfleusterau rheoli gwastraff sy’n gyson ac anghenion yr ardal a’r hierarchaeth gwastraff.
AG15: Cyfrannu at anghenion mwynol rhanbarthol a lleol yn gynaliadwy.
AG16: Sicrhau bod datblygiad yn cefnogi a chynnal lles tymor hir yr iaith Gymraeg a rhinweddau a nodweddion ieithyddol cymunedau yn Ardal y Cynllun.
2.3.2 Mae BP/1 ar Gynlluniau a Strategaethau Perthnasol yn dangos Amcanion Gofodol y CDLl ac yn dangos sut maent yn ymwneud ag amcanion y Strategaeth Gymunedol a’r Cynllun Corfforaethol, 5 thema Cynllun Gofodol Cymru a’r 4 egwyddor cynaliadwy a restrwyd ym Mholisi Cynllunio Cymru.