Cynllun Datblygu Lleol Conwy 2007 - 2022

Am gyfarwyddiadau ar sut I ddefnyddio’r system ac I wneud sylwadau, gwelwch ein canllaw cymorth.

4.4 TWRISTIAETH

4.4.1 Amcanion Gofodol

AG5, AG8.

4.4.2 Datganiad Strategaeth Twristiaeth

4.4.2.1 Mae twristiaeth yn gwneud cyfraniad hanfodol i economi Ardal y Cynllun. Mae'r Strategaeth Gymunedol – Un Conwyyn cydnabod bod atyniadau i ymwelwyr gydol y flwyddyn yn hanfodol i ffyniant a lles yr ardal a'r economi lleol. Mae prif ffocws llety twristiaeth yng nghanolfannau gwyliau traddodiadol yr arfordir. Mae'r prif atyniadau yn cynnwys asedau unigryw amgylchedd naturiol ac adeiledig Ardal y Cynllun ac agosatrwydd Parc Cenedlaethol Eryri. Mae'n bwysig amddiffyn nid yn unig yr atyniadau a’r cyfleusterau traddodiadol yma, a gwella ansawdd cyffredinol y llety presennol, ond hefyd i hyrwyddo a chefnogi twristiaeth y tu allan i'r tymhorau brig gan sicrhau ansawdd amgylcheddol a threftadaeth. Mae'r Adran hon yn ymgorffori’r polisïau manwl angenrheidiol i sicrhau bod gweithgareddau fel beicio, cerdded a thwristiaeth amgylcheddol a threftadaeth yn cael eu hyrwyddo a’u cefnogi fel rhan o'r strategaeth sy'n cynnal y diwydiant twristiaeth a chymunedau lleol. Dylai datblygiadau hefyd fod yn unol â dogfennau a polisi a strategaethau lleol a chenedlaethol eraill a chymryd arweiniad ganddynt.
 

POLISI STRATEGOL TOU/1 – TWRISTIAETH GYNALIADWY

Bydd y Cyngor yn hyrwyddo economi twristiaeth gynaliadwy trwy:

  1. Cefnogi, mewn egwyddor, cynigion ar gyfer datblygiad twristiaeth gynaliadwy newydd o ansawdd uchel drwy gydol y flwyddyn sy’n arallgyfeirio’r economi ac yn annog cysylltiadau traws-ffiniol ag awdurdodau cyfagos, yn unol â Pholisi Tou/2 - 'Datblygu Twristiaeth a Hamdden Cynaliadwy Newydd';
  2. Gwrthwynebu cynigion a fyddai'n arwain at golli llety sy’n cael ei wasanaethu, yn unol â Pholisi TOU/3 – ‘Ardal Llety Gwyliau’;
  3. Rheoli datblygiad safleoedd newydd ac estyniadau i safleoedd presennol ar gyfer chalets, carafannau statig a theithiol a champio o fewn Ardal y Cynllun, yn unol â Pholisi TOU/4 – ‘Safleoedd Chalets, Carafanau a Champio;
  4. Cefnogi mewn egwyddor, cynigion i ymestyn y tymor gwyliau tu allan i’r cyfnod brig ar gyfer chalets, carafannau statig a theithio a safleoedd gwersylla gan gynnal ansawdd amgylcheddol a threftadaeth fel y nodwyd ym Mholisi TOU/4;
  5. Gwella cysylltedd trwy gefnogi cyflenwi gwell cysylltiadau yn Harbwr Foryd, gwelliannau i Lwybr Arfordir Cymru a thrwy’r Cynllun Gwella Hawliau Tramwy Cyhoeddus, yn unol â Pholisi Strategol STR/1– ‘Trafnidiaeth Gynaliadwy, Datblygiad a Hygyrchedd’ a Pholisi TOU/2;
  6. Cefnogi, mewn egwyddor, sefydlu gwestai newydd o ansawdd uchel neu wedi’u haddasu (4 a 5*) sy'n ehangu’r amrediad o lety sydd ar gael yn unol â Pholisi TOU/2.

4.4.2.2 Mae asedau’r amgylchedd naturiol ac adeiledig yn ffactorau allweddol wrth ddenu ymwelwyr i'r ardal ac mae angen eu diogelu a’u rheoli'n effeithiol. Fodd bynnag, mae twristiaeth yng Nghonwy ar hyn o bryd yn gweld newid yn y galw, gyda dirywiad mewn gwyliau haf teuluol traddodiadol a chynnydd yn y pwyslais ar ystod ehangach o weithgareddau, nad ydynt wedi eu cyfyngu'n unig i fisoedd traddodiadol yr haf. Y tair prif ardal twf yw twristiaeth busnes, gweithgareddau morol a gwyliau gweithgaredd a gwyliau arbenigol byr. Mae angen llety a chyfleusterau o ansawdd ar yr ardaloedd twf hyn er mwyn sicrhau bod twristiaeth yn parhau i chwarae rôl bwysig yn Ardal y Cynllun.


4.4.2.3 Mae’r atyniadau a'r cyfleusterau arfordirol traddodiadol a gynigir gan leoedd fel Llandudno, Bae Colwyn, Conwy, Llandrillo-yn-Rhos, Tywyn a Bae Cinmel yn dal i wneud cyfraniad pwysig i'r economi ond mae tueddiadau diweddar yn awgrymu’r angen am sylfaen twristiaeth mwy amrywiol. Mae Venue Cymru yn Llandudno wedi cael ei ehangu ac mae'n cyfrannu at ystod ac ansawdd cyffredinol cyfleusterau twristiaeth sy’n seiliedig ar fusnes a gynigir yn Ardal y Cynllun. Mae cyfle i gadw a gwella’r gwasanaethau hyn trwy ddarparu cyfleusterau newydd a gwella ansawdd cyfleusterau presennol. Byddai hyn yn cynnwys gwella ansawdd llety gwyliau a galluogi darparu ystod eang o weithgareddau awyr agored a dan do, gan ffafrio ailddefnyddio tir a ddatblygwyd yn flaenorol.


4.4.2.4 Mae lleoli Harbwr Foryd ar y ffin rhwng Bae Cinmel yng Nghonwy a Rhyl yn Sir Ddinbych yn golygu bod ei ddefnydd yn y dyfodol yn nwylo’r ddau awdurdod. Diogelir y safle yma yn y Cynllun Datblygu ar gyfer gwell cysylltiadau beicio a cherddwyr, gydag unrhyw ddatblygu a diogelu amgylcheddol yn y dyfodol yn cael ei reoli'n ofalus trwy ddull gweithredu mewn partneriaeth.


4.4.2.5 Efallai y bydd amgylchiadau eithriadol lle byddai llety ac atyniadau twristiaeth mwy yn briodol yng nghefn gwlad agored neu leoliadau eraill nad ydynt yn drefol os ydynt yn arwain at greu cyfleuster twristiaeth trwy’r flwyddyn a chreu rhagor o swyddi yng nghefn gwlad Fodd bynnag, ni ddylai datblygiad fod ar draul ansawdd amgylcheddol neu les cymunedol. Yn aml mae cynlluniau a ddyluniwyd yn dda yn gallu arwain at ddiogelu neu wella bioamrywiaeth ac ansawdd y dirwedd ond cydnabyddir y bydd yn gallu effeithio’n negyddol ar gefn gwlad gan arwain at drefoli rhannol. Felly, mae Polisi EMP/1 – ‘Diwallu Anghenion Cyflogaeth B1, B2 a B8 Swyddfa a Diwydiannol’ yn darparu meini prawf caeth ar gyfer ystyried cynigion o'r fath. Mae enghreifftiau o gynlluniau yng nghefn gwlad agored yn gallu cynnwys eco-dwristiaeth, gweithgareddau marchogaeth, beicio mynydd, canŵio, pledu paent, a physgota fel rhan o gyfleuster twristiaeth integredig. Enghreifftiau o ble gallai cyfleusterau sylweddol fod yn dderbyniol yng nghefn gwlad agored yw hen Waith Alwminiwm Dolgarrog a Castell Gwrych, Abergele.

4.4.3 Datblygiadau Twristiaeth Newydd Cynaliadwy

Polisi TOU/2 – DATBLYGIAD TWRISTIAETH A HAMDDEN CYNALIADWY NEWYDD

  1. Bydd datblygu twristiaeth a hamdden newydd, cynaliadwy o ansawdd uchel o fewn yr Ardaloedd Strategaeth Datblygu Trefol a Gwledig ond yn cael cefnogaeth yn amodol ar fodloni'r holl feini prawf canlynol:
  1. Mae’r cynnig yn cynrychioli cynnig twristiaeth o ansawdd uchel drwy gydol y flwyddyn sy'n darparu amrywiaeth o gyfleusterau twristiaeth a gweithgareddau hamdden;
  2. Mae'r cynnig yn briodol o ran maint a natur i’w leoliad ac yn dangos dyluniad effeithlon o ran adnoddau;
  3. Mae’r cynnig yn cael ei gefnogi gan dystiolaeth i ddangos y byddai manteision cyflogaeth lleol o ran y nifer ac ystod o swyddi;
  4. Mae'r cynnig yn gynaliadwy hygyrch ac yn annog y defnydd o gludiant nad ydyw’n gar;
  5. Mae'r cynnig yn gwneud defnydd addas o unrhyw adeiladau presennol yn hytrach nag adeiladu o'r newydd a thir a ddatblygwyd yn flaenorol yn hytrach na safleoedd maes glas, lle bo'n briodol;
  6. Ni fyddai'r cynnig yn cael effaith andwyol annerbyniol ar ddeiliaid eiddo cyfagos;
  7. Byddai'r cynnig yn cefnogi ac ymestyn yr ystod o gyfleusterau sydd ar gael yn y Ardal y Cynllun;
  8. Byddai’r cynnig yn cynorthwyo amcanion y Cyngor o adfywio Conwy;
  9. Mae'r cynnig yn bodloni polisïau perthnasol eraill yn y Cynllun;
  10. Ni fyddai’r cynnig yn amharu ar y dirwedd a daw gyda chynllun tirweddu manwl, a lle bo’n briodol, Asesiad Effaith Weledol a Thirwedd;
  1. Bydd llety gwyliau newydd o ansawdd uchel ond yn cael eu cefnogi lle mae'n ffurfio rhan atodol o gynllun datblygu twristiaeth cynllun presennol neu newydd bwriedig gan gwrdd â’r holl feini prawf 1 a) - j) uchod. Bydd rhagdybiaeth yn erbyn datblygu safleoedd carafannau sefydlog.
  2. Bydd tir yn hen Waith Alwminiwm Dolgarrog cyntaf yn cael ei ddiogelu ar gyfer dibenion cyfleuster twristiaeth a hamdden cynaliadwy trwy’r flwyddyn.


4.4.3.1 Mae'r galw am ystod eang o gyfleusterau twristiaeth trwy gydol y flwyddyn yn effeithio ar natur dymhorol y diwydiant. Mae gweithredu busnesau twristiaeth gwahanol ar adegau gwahanol yn gofyn am ddull mwy hyblyg. Bydd y Cyngor yn cefnogi datblygu ac addasu ystod o gyfleusterau twristiaeth i ddarparu ar gyfer y newid yma yn y galw lle mae hynny’n briodol. Mewn achosion o'r fath bydd angen cynllun busnesproffesiynol, a baratowyd gan syrfëwr/ymgynghoryddcymwysedigac annibynnol, i gefnogicais cynllunioo dan y polisi, gan ddangos hyfywedd ycynlluna'r buddiannaucyflogaeth,gan gynnwysdatblygu sgiliau.


4.4.3.2 Mae ymweliadau traddodiadol yr haf am gyfnod o wythnos neu ddwy yn dirywio ac mae'r galw am wyliau byr yn cynyddu, fodd bynnag, ni ddylid gweld y newid yma fel cyfyngiad, yn wir mae disgwyl i lefelau twristiaeth gynyddu 6% y flwyddyn yn y DU, targed y mae Llywodraeth Cymru yn ymrwymedig i'w gyflawni. Un ffordd o hyrwyddo hyn yw trwy ddarparu amrywiaeth ehangach o gyfleusterau trwy gydol y flwyddyn mewn lleoliadau gweledig ac arfordirol fel: gweithgareddau dŵr, darparu gweithgareddau/cyfleusterau ar gyfer gwyliau byr, gwibdeithiau diwrnod, a gwella cysylltiadau gyda chyfleusterau awdurdodau cyfagos.


4.4.3.3 Fe all twristiaeth hefyd ffynnu mewn ardaloedd gwledig, lle gelir defnyddio trefi marchnad, er enghraifft, i ddenu cyfran uwch o ymwelwyr. Mae gan ardaloedd gwledig hefyd y potensial i integreiddio arallgyfeirio busnesau gyda twristiaeth a bydd y Cynllun yn cefnogi cynlluniau addas mewn lleoliadau priodol gan gydymffurfio â chanllawiau lleol a chenedlaethol.


4.4.3.4 Mae ffurfiau eraill o lety i ymwelwyr yn cynnwys, er enghraifft, sefydliadau gwely a brecwast, a bythynnod a fflatiau hunan arlwyo. Er bod y rhain yn darparu ffurf werthfawr o lety, mae angen asesu natur, graddfa a lleoliad llety newydd yn ofalus, er mwyn sicrhau nad ydynt yn gwrthdaro gydag amcanion eraill y Cynllun ac egwyddorion cynaliadwyedd.


4.4.3.5 Aneddiadau’r Ardal Datblygu Trefol Strategol yw’r lleoliadau a ffafrir ar gyfer datblygiad newydd, er mwyn i’r cyfleusterau newydd fod yn hygyrch i ymwelwyr a bod llety newydd yn cael ei ddarparu lle gall ymwelwyr gael mynediad at ystod o wasanaethau trwy gael dewis o ddulliau teithio.


4.4.3.6 Yn yr Ardal Strategaeth Datblygu Gwledig dylai cynigion ystyried ailddefnyddio adeiladau presennol ac estyniadau i fusnesau presennol i ddechrau er mwyn amddiffyn cefn gwlad rhag datblygiadau anaddas, yn unol â Polisi Strategol TOU/1 a Polisi DP/6 ‘Polisi a Chanllaw Cynllunio Cenedlaethol’. Fodd bynnag, fe ellid caniatáu adeiladu atyniadau a llety â gwasanaethau newydd mewn rhai rhannau o gefn gwlad os nad oes safleoedd neu adeiladau dilyniannol mwy ffafriol. Bydd hyn yn galluogi datblygiad penodol a allai helpu i estyn y tymor twristiaeth, darparu budd i'r gymuned leol a hyrwyddo rhagor o gysylltiadau â Pharc Cenedlaethol Eryri. Fodd bynnag, ni chaniateir adeiladu ‘llety newydd’ nad yw’n cael ei wasanaethu, yng nghefn gwlad agored, er mwyn diogelu’r ardal rhag adeiladu tai gwyliau preifat ar draws Ardal y Cynllun.


4.4.3.7 Mae pwysau ymwelwyr yn benodol yn gallu arwain at bryderon mewn lleoliadau sy'n amgylcheddol sensitif. Mae canllawiau cenedlaethol, strategaethau ac astudiaethau cysylltiedig yn cadarnhau bod angen i'r polisi gydnabod bod lleoliadau datblygu yn fwy cyfyngedig yn yr ardaloedd hyn.

4.4.4 Addasu adeiladau i fod yn Llety Gwyliau

4.4.4.1 Mae nifer o adeiladau presennol yn y trefi a’r pentrefi yn cynnig cyfle i’w haddasu i fod yn llety gwyliau, llety â gwasanaethau a llety hunan arlwyo. Ar ben hynny, ni ddefnyddir llawer o adeiladau gwledig bellach oherwydd arferion ffermio modern. Byddai addasu adeiladau addas fel hyn yn llety gwyliau yn cyfrannu tuag at arallgyfeirio’r economi gwledig ac at hyrwyddo’r Diwylliant Cymraeg, ac felly yn cael croeso cyffredinol, yn unol â Pholisïau EMP/6 – ‘Ailddefnyddio ac Addasu Adeiladau Gwledig Segur’, DP6 – ‘Polisiau a Chanllawiau Cynllunio Cenedlaethol’ ac amodau defnyddio’r Cyngor. Ar gyfer datblygiadau o'r fath, dylai'r Cynllun Busnes annibynnol gyflwyno i gefnogi'r cais cynllunio yn unol â Pholisi EMP/6.

4.4.5 Ardal Llety Gwyliau

Polisi TOU/3 – ARDAL LLETY GWYLIAU

Dynodir Ardaloedd Llety Gwyliau yn Llandudno ac fe’u dangosir ar y map cynigion. Er mwyn diogelu lefel briodol o lety â gwasanaeth ar gyfer twristiaeth, ni chaniateir cynigion ar gyfer ailddatblygu neu addasu llety presennol a wasanaethir i ddefnydd eraill yn yr ardaloedd hyn.


4.4.5.1 Bwriad y Cyngor yw sicrhau bod unrhyw ddirywiad yn lefel y llety gwyliau â gwasanaeth, trwy newid i ddefnydd amgen, yn cael ei reoli'n briodol.


4.4.5.2 Mae gwestai yn rhan bwysig o economi twristiaeth gynaliadwy. Fe all datblygu gwestai newydd fod o fudd lle maent yn gwella ansawdd y llety mewn lleoliad arbennig. Mae hefyd yn bwysig gwrthsefyll colli gwestai. Mae'n bwysig cadw llety gwestai yn ardal Llandudno a Deganwy lle mae hynny'n bosibl, er mwyn cadw ei gymeriad unigryw, bywiogrwydd ac apêl i dwristiaid.


4.4.5.3 Safle gwag allweddol sy’n rhannol o fewn un o’r Ardaloedd Llety Gwyliau yw hen safle Pafiliwn y Lanfa ar North Parade. Bu hir ymaros am ailddatblygiad ar y safle hwn, ond mae cyfyngiadau technegol ar gyfer unrhyw gynigion newydd fel adeileddau/gweddillion rhestredig. Mae’r Cyngor yn cefnogi ailddatblygu’r safle ar gyfer defnydd sy’n gwella’r Parth Llety Gwyliau ac yn cadw pwysigrwydd hanesyddol y safle.


4.4.5.4 Bydd lefel a dwysedd llety â gwasanaeth yn cael eu monitro yn rheolaidd yn yr Ardaloedd Llety Gwyliau er mwyn sicrhau bod yr ardal gywir yn cael ei diogelu fel sydd wedi’i nodi yn yr adran Weithredu a Monitro.

4.4.6 Safleoedd Cabannau Gwyliau, Carafannau a Gwersylla

Polisi TOU/4 – SAFLEOEDD CABANNAU GWYLIAU, CARAFANNAU A GWERSYLLA

  1. Bydd rhagdybiaeth yn erbyn datblygu safleoedd carafannau sefydlog. Caniateir cynigion ar gyfer gwella safleoedd presennol o fewn yr Ardal Strategaeth Datblygu Trefol dim ond os yw’r datblygiad:
  1. Ddim yn cynyddu nifer yr unedau carafannau sefydlog neu gabannau gwyliau ar y safle; er y caniateir estyniadau bach i ardal safle i hwyluso lleihad mewn dwysedd a gwelliannau i’r amgylchedd neu’r amwynderau;
  2. Yn hyrwyddo llety gwyliau, cyfleuster a dyluniad o ansawdd gwell,
  3. Ddim yn amharu’n weledol ar y dirwedd, a daw gyda chynllun tirweddu manwl a lle bo’n briodol, Asesiad Effaith Gweledol a Thirwedd;
  4. Yn cyd-fynd ag Egwyddorion Datblygu a pholisïau cysylltiedig eraill y Cynllun gan gynnwys y protocol ar y cyd ar berygl llifogydd ar gyfer Tywyn a Bae Cinmel;
  5. Yn dod gyda Datganiad Bioamrywiaeth yn nodi lle bydd enillion bioamrywiaeth yn cael eu cyflawni yn unol â pholisi NTE/3
  1. Bydd estyniadau neu welliannau i gabannau gwyliau, carafannau a safleoedd gwersylla sy’n bodoli eisoes o fewn yr Ardal Strategaeth Datblygu ond yn cael eu caniatáu os yw’r datblygiad yn cydymffurfio â’r meini prawf isod i gyd:
  1. Mae’r safle o fewn neu’n gyfagos at, a byddai’n ffurfio rhan o gaban gwyliau, carafán, a safle gwersylla presennol;
  2. Bydd unrhyw gynnydd yn y nifer o leiniau neu unedau llety dros Gyfnod y Cynllun ar raddfa fach, yn gymharol i’r raddfa ac yn ehangu ar y ddarpariaeth bresennol o fewn yr un caban gwyliau, carafán neu safle gwersylla;
  3. Ni fydd y cynllun yn arwain at grynhoi safleoedd na lleiniau’n annerbyniol mewn un lleoliad neu ardal;
  4. Bod modd cael mynedfa addas ac nid yw’r datblygiad yn creu risg annerbyniol i ddiogelwch priffyrdd.
  5. Cydymffurfio â'r meini prawf 1. b) -e) uchod.

Mae’r term ‘safle gwersylla’n’ cynnwys carafannau teithiol, pebyll ac yurts, tra bydd cynlluniau ar gyfer podiau pren neu strwythurau bach amgen yn cael eu hasesu ar eu haeddiant eu hunain, yn unol â’r meini prawf uchod.

  1. Bydd y Cyngor yn caniatáu ymestyn y tymor gwyliau ar gyfer carafannau, chalets, a safleoedd gwersylla sy’n bodoli eisoes, ar amod bod y safle yn addas ar gyfer y fath ddefnydd estynedig, na fyddai’r tymor estynedig yn cynyddu canlyniad digwyddiad llifogydd eithafol, a bydd y datblygiad yn cael ei defnyddio ond at ddibenion gwyliau.


4.4.6.1 Mae safleoeddcarafannau sefydlog, carafannau teithiol yn ogystal â safleoedd cabannau gwyliau a meysydd gwersylla’n gynnig llety gwyliau pwysig, sy'n gallu bod yn hanfodol i lwyddiant yr economi twristiaeth. Fodd bynnag, mae safleoedd o'r fath yn cael eu gweld yn aml fel rhai sy'n weledol ymwthiol, ac yn enwedig felly ym mhrif ardaloedd canolfannau gwyliau Tywyn a Bae Cinmel, lle mae cyfres o safleoedd wedi uno a dod yn amlwg yn y tirlun. Yn yr un modd, mae dwysedd safleoedd yn y gorffennol wedi cael effaith weledol ar nifer fach o leoliadau gwledig. Mewn rhai ardaloedd gellir barnu bod effaith crynodol safleoedd presennol yn weledol ymwthiol ac yn tra-arglwyddiaethu ar y dirwedd, felly bydd y Cyngor yn annog cynlluniau tirweddu i wella a sgrinio safleoedd. Bydd y Cynllun yn ceisio sicrhau bod datblygiad y dyfodol yn cael ei ganiatáu yn unig os nad yw'r datblygiad yn arwain at ormodedd o ddefnydd tebyg yn yr ardal leol a lle mae bioamrywiaeth yr ardal yn cael ei wella’n sylweddol.


4.4.6.2 Er eglurder, mae’r term ‘atyniad’ yn cyfeirio at gynnig adloniant neu hamdden heb lety, tra bod safleoedd sy’n cyfuno elfennau o lety ac atyniadau’n cael eu diffinio fel ‘cyfleuster’ twristiaeth. Bydd cynlluniau unigol o ansawdd dylunio uchel lle cyfunir atyniadau gyda llety yn cael eu hasesu ar eu haeddiant eu hunain gyda’r polisi uchod, a pholisïau uchod o fewn y Cynllun.


4.4.6.3 Mae gormod o dir yn cael ei roi i lety hunan arlwyo ar ffurf carafannau sefydlog a chabannau gwyliau yn yr Ardal Strategaeth Datblygu Trefol. Felly, bydd y Cyngor yn parhau gyda'r polisi a sefydlwyd ers tro o wrthwynebu cynigion i ddatblygu rhagor o dir ar gyfer unedau ychwanegol yn yr ardaloedd hyn. Nid yw'r broblem yma o ormodedd yn berthnasol yn yr ardal fwyaf gwledig. Fodd bynnag, fe all datblygiad o'r fath, yn enwedig carafannau sefydlog, ymwthio ar y dirwedd a niweidio cymeriad yr ardal wledig oni bai ei fod wedi’i reoli'n gaeth. Er yn cydnabod y rheolaeth gaeth yma, mae'r Cyngor hefyd o'r farn o gael y lleoliad cywir y gall datblygu grwpiau bach o gabannau gwyliau ansawdd uchel, wedi’u hadeiladu’n bwrpasol fod yn dderbyniol yn yr ardal wledig . Fodd bynnag, mae'n rhaid i ddatblygiad a ganiateir o dan y polisi yma ffurfio rhan o adeiladau gwesty/motel presennol, fferm weithredol neu atyniad twristiaeth presennol, gan y byddai hynny'n cynorthwyo i gadw'r fenter a sicrhau budd i'r economi gwledig.


4.4.6.4 Caniateir disodli carafannau sefydlog â chalets/ cabannau arddull cabannau coetir os yw hynny'n gwella’r effaith ar y dirwedd. Fodd bynnag, fel gyda phob datblygiad, caniateir cynigion ar gyfer unrhyw lety yn unig ar ôl dangos na fydd effaith niweidiol ar integriti’r amgylchedd naturiol gan gynnwys Safleoedd Natura 2000 a bod y buddion bioamrywiaeth wedi eu dangos yn unol â Pholisi NTE/3.


4.4.6.5 Yn unol â Pholisi DP/6 a TAN15 ‘Datblygu a Risg Llifogydd’, byddwn yn gwrthod estyn y tymor gwyliau i safleoedd sy’n agored iawn i risg llifogydd, fel y parciau carafanau a chabanau gwyliau hunangynhwysol presennol yn ardal Tywyn a Bae Cinmel, er mwyn sicrhau diogelwch a chyfyngu’r risg cyffredinnol. Bydd angen i’r Cyngor fodloni ei hun, ar ôl ymgynghori ag Cyfoeth Naturiol Cymru, nad oes risg cynyddol o lifogydd ar safle’r cais cyn y bydd yn rhoi caniatâd cynllunio i estyn y tymor gwyliau. Yn gyntaf, rhaid i’r Cyngor fod yn argyhoeddedig na fydd presenoldeb poblogaeth ychwanegol mewn carafannau’n peryglu diogelwch trigolion parhaol, naill ai yn dilyn digwyddiad llifogydd sylweddol, neu os ceir rhybuddion i adael yr ardal ar fyr rybudd.


4.4.6.6 Mae protocol ar gyfer datblygu yn yr ardal hon wedi cael ei ffurfio rhwng y Cyngor ac Cyfoeth Naturiol Cymru a dylid ei ystyried o ran datblygiadau newydd yn rhan ddwyreiniol yr Ardal Strategaeth Datblygu Trefol.

Am gyfarwyddiadau ar sut I ddefnyddio’r system ac I wneud sylwadau, gwelwch ein canllaw cymorth.
back to top Yn ôl i’r brig