Cynllun Datblygu Lleol Conwy 2007 - 2022

4.2 Y STRATEGAETH TAI

4.2.1 Amcanion Gofodol

AG1, AG2, AG3, AG12.

4.2.2 Datganiad Strategaeth Tai

4.2.2.1 Mae materion tai’n parhau i fod yn destun pryder allweddol i nifer o gymunedau Ardal y Cynllun. Mae’r prinder tai fforddiadwy i’w rhentu neu eu prynu yn un o’r heriau mwyaf sy’n wynebu nifer o gymunedau Conwy. Mae incymau lleol yn y Ardal y Cynllunyn isel ar y cyfan ac mae cyfleoedd i gael gwaith gyda chyflog uwch yn gyfyngedig. Mae’r cyfuniad hwn o ffactorau’n creu anawsterau i bobl leol gael mynediad i’r farchnad dai. Mae mynediad a fforddiadwyedd tai’n ffactor hanfodol wrth ddiogelu cynaladwyedd tymor hir ein cymunedau. Mae maint cyfartalog aelwydydd Ardal y Cynllun hefyd wedi gostwng, wrth i fwy o bobl fyw ar ben eu hunain, ac i bobl ifanc symud o’r ardal, a chael eu disodli gan bobl hŷn sy’n symud i mewn. Gallai'r newid i oed a strwythur cymdeithasol poblogaeth Conwy fygwth lles cymunedau a hyfywedd ysgolion, busnesau, gwasanaethau a chyfleusterau lleol. Gan hynny, mae’n hanfodol ar gyfer dyfodol Conwy fod anghenion y newid a ragwelir o ran poblogaeth ac aelwydydd yn cael eu diogelu a’n bod yn hyrwyddo strwythur oedran mwy cytbwys drwy ddatblygu anheddau hygyrch sydd wedi’u dylunio’n dda ac o’r math, y maint a’r ddeiliadaeth gywir.


4.2.2.2 Cynlluniwyd y polisi tai strategol i sicrhau bod cyflenwad tir tai ar gyfer adeiladu hyd ar uchafswm o 6,520 o dai (gyda lefel wrth gefn o hyd at 7,170 o anheddau), dros weddill cyfnod y cynllun yn y llefydd cywir a’u bod o’r math cywir i sicrhau eu bod yn gwneud gymaint o gyfraniad â phosibl at ddiwallu anghenion a ganfyddir am dai’r farchnad a thai fforddiadwy (gweler BP/2 – ‘Amcanestyniadau Poblogaeth ac Aelwydydd’). Y brif flaenoriaeth yw sicrhau cynnydd yn y cyflenwad o Dai Fforddiadwy ar gyfer Anghenion Lleol (AHLN) a bydd y Cyngor yn manteisio ar bob cyfle drwy ei bolisïau i sicrhau bod cymaint â phosibl o AHLN yn cael eu darparu. Mae’r ymagwedd o ran polisi’n sicrhau y caiff y gofyniad tai fforddiadwy o 1,875 (gweler BP/36 – ‘Cyfrifiad Anghenion Tai Fforddiadwy’) ei gyflawni drwy ddarparu oddeutu 1,000 o unedau tai fforddiadwy newydd dros gyfnod y Cynllun. Mae’r strategaeth yn cydnabod bod y ffigur anghenion tai fforddiadwy ‘sylfaenol’ o 1,875 yn cynrychioli mwy na gofyniad i adeiladu cartrefi newydd – mae’n golygu aelwydydd mewn angen. Yn ogystal â darparu tai newydd fforddiadwy ar ffurf oddeutu 1,000 o anheddau wedi’u hadeiladu o’r newydd, mae’r strategaeth yn cydnabod bod amrywiaeth o ffyrdd eraill i helpu’r aelwydydd hyn lle nad oes angen codi cartrefi newydd – er enghraifft drwy leoli teuluoedd yn y stoc tai cymdeithasol presennol, drwy ddarparu cynllun cefnogi prynwyr fel y Cynllun Cymorth Prynu, a thrwy roi cymorth ariannol i rentu yn y sector preifat (budd-dal tai). Caiff dulliau o’r fath nad ydynt yn cynnwys unrhyw waith adeiladu, eu cyflawni gan Dîm Strategaeth Tai Conwy a thrwy weithredu Strategaeth Tai Lleol Conwy. Fel y dangosir yn BP/36, nod yr ymagwedd hon yw cyflenwi’r angen o 1,875 a nodwyd, sy’n cynnwys rhaniad 50% o dai cymdeithasol a chanolraddol.


4.2.2.3 Mae’r strategaeth a gynigiwyd ar gyfer twf yn ddigonol i fodloni’r anghenion a gaiff eu creu yn sgil amcanestyniadau poblogaeth ac aelwydydd ac i sicrhau’r mwyafrif o dai newydd fforddiadwy sydd eu hangen, i raddau boddhaol. Mae’r polisi tai yn cyfleu’n glir na ellir sicrhau’r lefel o anghenion tai heb fod yn hyblyg a heb ddeall yn llwyr y materion hyfywedd sy’n gysylltiedig a datblygu tai. Mae hefyd yn cydnabod pwysigrwydd cael ymagwedd gydgysylltiedig sy’n cynnwys Strategaeth Tai Lleol Conwy er mwyn bodloni’r angen am dai cymdeithasol a chanolraddol yng Nghonwy.


4.2.2.4 I’r perwyl hwnnw, mae’r targed polisi ar gyfer lefel y tai fforddiadwy i’w darparu dros gyfnod y cynllun wedi’i seilio ar y risgiau i ddarpariaeth, y mathau o safleoedd sy’n debygol o gael eu cyflwyno dros gyfnod y Cynllun, ac ar y lefel debygol o gyllid sydd ar gael ar gyfer tai fforddiadwy, gan gynnwys cymhorthdal cyhoeddus fel y Grant Tai Cymdeithasol a lefel cyfraniad datblygwyr y byddai’n rhesymol ei ddiogelu. Cafodd y trothwy ar gyfer capasiti safleoedd a thargedau safleoedd penodol a amlinellir yn y polisi tai eu cydbwyso yn erbyn yr angen am dai fforddiadwy a hyfywedd safleoedd a’r dystiolaeth a ddangoswyd yn BP/9 – ‘Astudiaeth Hyfywedd Tai Fforddiadwy’ (AHVS). Gan ddefnyddio gwybodaeth yr AHVS, mae targed hollt wedi’i fabwysiadu i ystyried yr ardaloedd marchnad gwahanol yng Nghonwy. Yn ei ffigurau cyflenwad tai, mae’r Cynllun yn cydnabod yn llwyr na fydd modd cyflawni’r ganran ofynnol o dai fforddiadwy ar bob safle (safleoedd wedi’u dyrannu a hap-safleoedd), yn enwedig o ddatblygiadau ar safleoedd tir llwyd.. Bydd ymagwedd hyblyg o ran polisi at gyfraniadau tai fforddiadwy, drwy negodi a thrwy asesiadau hyfywedd, ynghyd â mecanweithiau eraill i fodloni anghenion yn creu sail ar gyfer targed realistig a chyraeddadwy.


4.2.2.5 Bydd y Prif Bentrefi Haen 1 yn darparu cyfuniad o dai gwerth y farchnad ac AHLN o ymrwymiadau presennol, o safleoedd wedi’u dyrannu ac o ddatblygiadau ar hap, i wireddu’r amcanion gofodol ar gyfer cyflenwi AHLN a diogelu’r amgylchedd naturiol a hanesyddol. O fewn y Prif Bentrefi Haen 2, bydd y Cyngor yn ceisio darparu 100% AHLN yn unig ar safleoedd wedi’u dyrannu a hap-safleoedd oddi mewn i derfynau’r anheddiad. Er mwyn darparu elfen o hyblygrwydd, mewn amgylchiadau eithriadol bydd modd caniatáu anheddau’r farchnad ar safleoedd wedi’u dyrannu ac ar hap-safleoedd o fewn y Prif Bentrefi Haen 2 lle bo hynny’n hanfodol er mwyn cynorthwyo darpariaeth tai fforddiadwy ar y safle, a lle cwblheir Ffurflen Asesu Hyfywedd i gefnogi hynny. Bydd cynlluniau fel hyn ar hap-safleoedd fel arfer yn llai na’r rhai a ganiateir yn yr Ardaloedd Strategaeth Datblygu Trefol (dim mwy na 10 annedd ar hap-safleoedd) a byddant yn cael eu trefnu fesul cam yn unol â darpariaeth isadeiledd. Mae modd caniatáu safleoedd eithriedig graddfa fechan (hyd at 5 annedd) ac arnynt 100% AHLN y tu allan, ond ar ymyl yr anheddiad os ydynt yn diwallu angen lleol.


4.2.2.6 Ni cheir unrhyw derfynau anheddiad ar gyfer Pentrefi Llai, ac ni wneir unrhyw ddyraniadau ar gyfer anheddau newydd. Er mwyn bodloni anghenion y gymuned, bydd y Cyngor yn ceisio darparu 100% AHLN yn unig ar hap-safleoedd oddi mewn i’r anheddiad neu lle bo annedd unigol neu stadau bychain o anheddau newydd (hyd at 5 annedd) yn cynrychioli math o fewnlenwi, ac yn cydweddu i’r anheddiad o safbwynt ffisegol a gweledol. Dylai lefel y datblygiad gynrychioli lefel y cyfleusterau a’r gwasanaethau a diogelu’r Gymraeg. Er mwyn darparu elfen o hyblygrwydd, mewn amgylchiadau eithriadol bydd modd caniatáu anheddau’r farchnad ar hap-safleoedd yn unig lle bo hynny’n hanfodol er mwyn cynorthwyo darpariaeth tai fforddiadwy ar y safle, a lle cwblheir Ffurflen Asesu Hyfywedd i gefnogi hynny. Mae modd caniatáu safleoedd eithriedig graddfa fechan (hyd at 3 annedd) ac arnynt 100% AHLN y tu allan, ond ar ymyl, cyfyngiadau’r prif anheddiad os ydynt yn diwallu angen lleol.


4.2.2.7 Caiff anghenion y pentrefannau eu diwallu drwy ddatblygiadau priodol. Mae modd caniatáu anheddau gweithiwr amaethyddol neu goedwigaeth, trawsnewidiadau i anheddau a datblygiadau AHLN unigol mewn lleoliadau priodol.


4.2.2.8 O ganlyniad i ddiffyg cymhorthdal, cynnydd yng nghostau adeiladu datblygwyr a gostyngiadau ym mhrisiau tai, mae ymagwedd y polisi yn cydnabod y bydd gwella’r ddarpariaeth AHLN yn heriol. Mae hyn yn golygu bod angen nid yn unig ymagwedd hyblyg gan y Cyngor, ond hefyd newid sylweddol cadarnhaol o du tirfeddianwyr a datblygwyr wrth negodi costau opsiwn neu brynu tir yn y dyfodol. Ni chaniateir cynigion am gyfraniadau llai o dai fforddiadwy o gynllun tai os yw hynny o ganlyniad i’r ffaith bod tir wedi cael ei brynu am bris uchel iawn. Wrth negodi i brynu tir, dylid gwneud hynny ar sail darparu tai fforddiadwy, ymrwymiadau cynllunio eraill a goresgyn cyfyngiadau ‘hysbys’. Tybir yn y polisi fod y tir wedi cael ei brynu am y pris cywir. Ni fydd gwyro oddi wrth dybiaeth y polisi a lleihau’r cyfraniad o dai fforddiadwy ond yn dderbyniol os yw asesiad hyfywedd cefnogol yn dangos bodolaeth costau datblygu ‘anhysbys’.


4.2.2.9 I gyfrannu at hyfywedd y cynlluniau yn y dyfodol, bydd y Cyngor yn rhagweithiol ac yn cynnig defnyddio ei ddaliadaeth tir ei hun a sefydlu cofrestr o safleoedd mewn perchnogaeth gyhoeddus i gyfrannu at gyflawni'r AHLN.


4.2.2.10 Mae’r cynllun yn cynnwys polisïau’n seiliedig ar feini prawf i gyfrannu at ddiwallu anghenion y safleoedd a ddynodir ar gyfer sipsiwn a theithwyr a nodir yn yr Asesiad o Anghenion Llety Sipsiwn a Theithwyr (GTANA) ac wrth asesu ceisiadau i ganiatáu tai ar gyfer yr henoed. Ceir polisïau hefyd i sicrhau bod y dwysedd a’r math cywir o dai yn cael eu hystyried ac y cyfyngir ar ddatblygu mwy o dai amlbreswyl er mwyn annog gwell safon byw. I ddiogelu cefn gwlad agored, nodir polisïau pellach i reoli trawsnewidiadau ar adeiladau gwledig mewn ardaloedd o gefn gwlad agored.


4.2.2.11 Mae’r adran hon yn cynnwys y polisïau manwl angenrheidiol, a gefnogir gan yr Adran Weithredu a Monitro, i sicrhau bod y strategaeth hon yn cael ei darparu.
 

POLISI STRATEGOL HOU/1 – DIWALLU'R ANGEN TAI

  1. Dros y cyfnod 2007 i 2022 bydd y Cyngor yn cynllunio, monitro a rheoli’r broses o ddarparu tua 6,520 o anheddau newydd (ar gyfartaledd blynyddol o 478 annedd newydd) gan gynnwys cwblhau, ymrwymiadau, safleoedd ar hap, a dyraniadau newydd a lefel wrth gefn o hyd at tua 7,170 annedd.
  1. Rhoddir blaenoriaeth i leoli datblygiad newydd yn unol â Pholisi Strategol DP/1 – ‘Egwyddorion Datblygu Cynaliadwy’ a’r hierarchaeth aneddiadau a amlinellir ym Mholisi DP/2 – ‘Dull Strategol Trosfwaol’. Bydd tua 85% (5,542 annedd) o’r datblygiadau tai wedi’u leoli yn Ardaloedd cyraeddadwy’r Strategaeth Ddatblygu Drefol, ac wedi’u dosbarthu fel yr amlinellir isod yn HOU1a:

Dyraniadau Tai

ARDAL STRATEGAETH DATBLYGU TREFOL

Anheddiad

Safle

Dyraniad Tai

Abergele

Parc Busnes Abergele

200 Annedd

Abergele

Ffordd Rhuddlan/ Fferm Tandderwen

600 Annedd

Bae Colwyn

Lawson Road

35 Annedd

Bae Colwyn

Cyfnewidfa BT

70 Annedd

Bae Colwyn

Ffarm Glyn

39 Annedd

Hen Golwyn

Ty Mawr

255 Annedd

Hen Golwyn

Ysgol y Graig

30 Annedd

Llandrillo-yn-Rhos

Dinerth Road

65 Annedd

Llandrillo-yn-Rhos

Fferm Dinerth Hall

80 Annedd

Cyffordd Llandudno

Esgyryn

120 Annedd

Cyffordd Llandudno

Clwb Cymdeithasol / Clwb Ieuenctid

40 Annedd

Cyffordd Llandudno

Woodland

75 Annedd

Llandudno

Plas yn Dre

40 Annedd

Bae Penrhyn

Plas Penrhyn

30 Annedd

Llanfairfechan

Adeilad West Coast

10 Annedd

Llanfairfechan

Yn gyfagos i Glanafon

15 Annedd

Llanfairfechan

Dexter Products

15 Annedd

Llanrwst

Bryn Hyfryd/Ffordd Tan yr Ysgol

40 Annedd

Llanrwst

Safle A i’r gogledd o Lanrwst

50 Annedd

Llanrwst

Safle E yn gyfagos i Bryn Hyfryd

50 Annedd

Llanrwst

Safle D i’r Dwyrain o Lanrwst

60 Annedd

Cyfanswm dyraniadau UDSA

1919 Annedd

Tu allan i ffiniau'r aneddiadau trefol, ni fydd datblygiadau tai pellach yn cael eu caniatáu, ac eithrio diwallu AHLN ar safleoedd eithriedig yn gyfagos i Lanrwst â Pholisïau HOU/2 – ‘Tai Fforddiadwy ar gyfer Anghenion Lleol’ a HOU/6 – ‘Safleoedd Eithriedig Gwledig i Dai Fforddiadwy ar gyfer Anghenion Lleol’. Caiff cynigion datblygu o fewn ffiniau anheddau ar safleoedd heb eu dyrannu eu hasesu yn erbyn polisïau eraill yn y Cynllun;

  1. Yn y Prif Bentrefi, bydd graddfa'r datblygiad bwriedig i’r dyfodol yn adlewyrchu maint a swyddogaeth yr anheddiad a’i berthnasau ffisegol a swyddogaethol gyda’r ardaloedd trefol. Dros gyfnod y cynllun, bydd oddeutu 15% (978 Annedd) o’r gofynion tai yn cael ei darparu yn bennaf o fewn Prif Bentrefi Haen 1 a Haen 2 a’u dosbarthu fel a ganlyn:

Dyraniadau tai

ARDAL STRATEGAETH DATBLYGU GWLEDIG

Anheddiad

Safle

Dyraniad Tai

Prif Bentrefi Haen 1

Dwygyfylchi

Oddi ar Ysguborwen Road

15 Annedd

Dwygyfylchi

I’r gogledd o Groesffordd

30 Annedd

Glan Conwy

Ffordd Top Llan

80 Annedd

Llanddulas

I’r de o’r Felin

20 Annedd

Llanddulas

Pencoed Road

20 Annedd

Llysfaen

Yn gyfagos i’r hen reithordy

30 Annedd

Llysfaen

Yn gyfagos i Ysgol Cynfran

40 Annedd

Prif Bentrefi Haen 2

Betws-yn-Rhos

Ffordd Llanelwy

10 Annedd

Betws-yn-Rhos

Minafon

10 Annedd

Cerrigydrudion

Tir yn wynebu'r B5105

20 Annedd

Dolgarrog

Tan y Ffordd

15 Annedd

Dolgarrog

Gwaith Alwminiwm

30 Annedd

Eglwysbach

Oddi ar Heol Martin

10 Annedd

Llanfairtalhaiarn

The Smithy

25 Annedd

Llangernyw

Coed Digain

25 Annedd

Llansannan

I’r gogledd o Lansannan

25 Annedd

Cyfanswm dyraniadau RDSA

405 annedd

Caniateirelfen o dai ar bris y farchnad ac AHLN yn y Prif Bentrefi Haen 1 ac anelir i sicrhau y bydd y Prif Bentrefi Haen 2 yn cynnwys 100% AHLN yn amodol ar hyfywedd. Tu allan i ffiniau aneddiadau, dim ond cynlluniau graddfa fach a gyfiawnheir (hyd at 5 annedd) yn darparu AHLN 100% ar safleoedd eithriedig ar ymyl aneddiadau, neu os yw’n rhan o Gynllun Menter Gwledig, neu Ddatblygiad Effaith Isel, a fydd yn cael ei ganiatáu yn unol â Pholisïau DP/6 – ‘Polisi aChanllawiau Cynllunio Cenedlaethol’, HOU/2 – ‘Tai Fforddiadwy ar gyfer Anghenion Lleol’ a HOU/6 – ‘Safleoedd Eithriedig Gwledig i Dai Fforddiadwy ar gyfer Angen Lleol’;

  1. Yn y Pentrefi Llai, dim ond datblygiadau cyfyngedig fydd yn cael eu caniatáu i adlewyrchu hyfywedd, cynaladwyedd a chymeriad yr aneddiadau. Dros gyfnod y cynllun, ni fydd angen unrhyw ddyraniadau tai na ffiniau aneddiadau. Dim ond cynigion am ddatblygiadau graddfa fechan sy’n anelu i sicrhau 100% AHLN fydd yn cael eu cefnogi o fewn ffiniau'r aneddiadau os yw’n rhan o ailddatblygu, trawsnewid adeiladau newydd, neu os mai dim ond tai sengl neu grwpiau bychain o stadau o anheddau newydd (hyd at 5 annedd) yn cynrychioli math o fewnlenwi ac yn ymwneud yn ffisegol ac yn weledol a’r anheddiad. Ar ymyl aneddiadau llai, dim ond cynlluniau graddfa fechan a gyfiawnheir (hyd at 3 annedd) yn darparu 100%, neu lle mae’n cynrychioli Cynllun Menter Wledigneu Datblygiad Effaith Isel, bydd yn cael ei ganiatáu yn unol â Pholisïau DP/6, HOU/2 a HOU/6;
  2. Mewn Pentrefannau ac mewn cefn gwlad agored, bydd datblygiadau tai ond yn cael eu caniatáu dan amgylchiadau eithriadol. Gellir cefnogi annedd sengl o fewn, neu ar ymyl, yr anheddiad, neu ble fod hyn yn rhan o drawsnewid adeilad nad yw’n un preswyl, mewn cefn gwlad agored, a ble mae cyfiawnhad iddo i ddiwallu AHLN neu Fenter Wledig ac/neu Datblygiad Effaith Isel fesul cais, yn unol â Pholisïau DP/6, HOU/2 a HOU/6.
  3. Nodir y safleoedd canlynol fel safleoedd wrth gefn i’w cadw wrth gefn ond y gellir eu rhyddhau ar gyfer datblygiad ar sail a reolir os nad ydyw’r safleoedd tai a ddyrannir yn y Cynllun yn cael eu cyflwyno ar gyfer datblygiad fel y disgwylir yn y cynllun:

Safleoedd wrth gefn

Anheddiad

Safle

Anheddau

Abergele

Llanfair Road

100 Annedd

Bae Colwyn

Fferm Glyn

27 Annedd

Hen Golwyn

Llysfaen Road

20 Annedd

Conwy

Henryd Road, Gyffin

10 Annedd

Llandudno

Nant y Gamar Road

60 Annedd

Bae Penrhyn

Oddi ar Derwen Lane

175 Annedd

Penmaenmawr

Conwy Road

15 Annedd

Llanfairfechan

Gorllewin Parc Penmaen

45 Annedd

Llanrwst

Safle C Gogledd Ddwyrain Llanrwst

70 Annedd

Cyfanswm wrth gefn

522 Annedd

Sail ar gyfer rhyddhau Safleoedd Wrth Gefn

Os ydyw’r Cyd-astudiaeth argaeledd tir ar gyfer tai (JHLAS) yn dangos nad ydyw’r Cyngor yn gallu cyflawni cyflenwad tir tai o bum mlynedd, bydd y Cyngor yn rhyddhau safle (neu safleoedd) o’r rhestr o safleoedd wrth gefn, er mwyn cynyddu’r cyflenwad tir tai. Bydd rhyddhau’r safleoedd wrth gefn yn seiliedig ar y meini prawf canlynol:

  1. Lleoliad y safle o fewn y Strategaeth Ofodol, gyda blaenoriaeth yn cael ei rhoi i ryddhau safle yn yr un ardal lle nodir diffyg yn y cyflenwad o dir
  2. Lleoliad y safle yn y BP21, gyda blaenoriaeth yn cael ei roi i ryddhau’r safleoedd wrth gefn sydd uchaf ar y rhestr.
  1. Bydd y Cyngor yn rhoi blaenoriaeth i dai ar dir wedi’i ddatblygu’n barod dros gyfnod y cynllun drwy ddatblygu fesul cam yn unol â Pholisi HOU/3 – ‘Datblygu Tai Fesul Cyfnod’, y Cynllun Darparu Tai Fesul Cyfnod a thabl HOU/1b. Drwy’r dull cynllunio, monitro a rheoli, bydd safleoedd wrth gefn yn cael eu gwireddu gan hynny, yn unol â’r Cynllun Monitro a’r Adroddiad Monitro Blynyddol.
  2. Bydd y Cyngor yn sicrhau fod datblygiadau tai’n gwneud y defnydd gorau a mwyaf effeithiol o dir drwy gyflawni cymysgedd eang o fathau o dai ar ddwysedd priodol, sy’n adlewyrchu gwahanol anghenion trigolion yn unol â Pholisïau HOU/4 – ‘Dwysedd Tai’ a HOU/5 – ‘Cymysgedd Tai’.
  3. Bydd y Cyngor yn delio ag anghenion sipsiwn a theithwyr yn unol â Pholisi HOU/9 – ‘Diwallu’r Angen am Safleoedd ar gyfer Sipsiwn a Theithwyr’.
  4. Bydd y Cyngor yn rheoli datblygiad fflatiau hunangynhwysol a Thai Amlbreswyl i gynorthwyo adfywio, a gwella ansawdd a’r dewis o dai, a chyfrannu at well amgylched yn unol â Pholisi HOU/10 – ‘Tai Amlbreswyl a Fflatiau Hunangynhwysol’.
  5. Bydd y Cyngor yn darparu ar gyfer anghenion tai pobl hŷn yn unol â Pholisi HOU/11 – ‘Cartrefi Gofal Preswyl a Thai Gofal Ychwanegol’.
  6. Bydd y Cyngor yn rheoli gwaith trawsnewid ar adeiladau gwledig yn unol â Pholisi HOU/12 – ‘Ailddefnyddio ac Addasu Adeiladau Gwledig Diangen ar gyfer Defnydd Preswyl’.


Tabl 3 HOU1a Hierarchaeth Aneddiadau

Cwblhau Caniatâd Ar hap Dyraniadau Tai gwag CYFANSWM %
TREFOL Abergele, Tywyn a Bae Cinmel 143 245 95 800 116 1399 21.3
Conwy, Cyffordd Llandudno a Llandudno 485 424 426 305 135 1775 27.1
Bae Colwyn, Llandrillo-yn-Rhos a Mochdre 506 245 352 574 174 1851 28.2
Llanfairfechan a Phenmaenmawr 132 53 80 40 44 349 5.3
Llanrwst 33 0 58 200 21 312 4.8
Cyfanswm Trefol 1299 967 1011 1919 490 5686 86.8
GWLEDIG Prif Bentrefi Haen 1 28 70 43 235 7 384 5.9
Prif Bentrefi Haen 2 46 0 103 170 12 331 5.0
Pentrefi Bach 16 0 33 0 6 55 0.8
Pentrefannau 6 0 31 0 4 41 0.6
Cefn Gwlad Agored 23 0 35 0 0 58 0.9
Cyfanswm Gwledig 119 70 245 405 29 868 13.2
CYFANSWM 1418 1037 1256 2324 519 6554 100
Moderneiddio Ysgol 199
CYFANSWM 6753

Wrth gefn 522
CYFANSWM TAI CYFFREDINOL 7275



Tabl 4 HOU1b- Darpariaeth Tai a Amcangyfrifir

2007 - 2012 2012 - 2017 2017 - 2022 CYFANSWM
Cwblhawyd 1418 0 0 1418
Caniatâd 0 1037 0 1037
Ar Hap 0 628 628 1256
Cartrefi Gwag 269 125 125 519
Moderneiddio Ysgolion 0 99 100 199
Dyraniadau 0 934 1390 2324
CYFANSWM 1687 2823 2243 6753

4.2.3 Anghenion Tai

4.2.3.1 Mae Llywodraeth Cymru yn gorchymyn fod pob awdurdod cynllunio lleol ym mhob rhanbarth o Gymru yn gweithio gyda’i gilydd a gyda chyfranogion priodol i gyrraedd amcangyfrifon tai is-genedlaethol Llywodraeth Cymru, neu gytuno ar eu rhagolygon rhanbarthol eu hunain. Mae awdurdodau cynllunio lleol Gogledd Cymru wedi mynd ati i gyflawni rhagolygon tai diweddaraf Llywodraeth Cymru gan roi rhan i gyfranogion allweddol. Roedd y drefn ddosrannu yn rhoi disgwyliad ar Gonwy i ystyried dewisiadau ar gyfer datblygiadau tai’n seiliedig ar ffigwr o 5,325 annedd yn ystod cyfnod y cynllun (h.y. 355 annedd y flwyddyn).


4.2.3.2 Mae BP/2 yn cynnwys gwybodaeth am yr amcanestyniadau twf a’r gofyniad tai cysylltiedig. Diweddariad yw’r papur hwn o amcanestyniadau sail 2008 a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru yn 2010. Cynhyrchwyd yr amcanestyniadau newydd ym mis Hydref 2011 gan Adran Ymchwil Gorfforaethol Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy. Yn y CDLl, defnyddir y ffigur 15 mlynedd o 6,620 fel y prif ddangosydd ar gyfer y gofyniad am anheddau newydd i’r Fwrdeistref Sirol gyfan yn y cyfnod 2007 – 2022. Gostyngir y ffigur hwn i 6,520 ar gyfer y cyfnod o 15 mlynedd o ystyried datblygiadau yn yr ardal o Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri sydd oddi mewn i derfynau Bwrdeistref Sirol Conwy. Yn BP/2 defnyddir data mwy diweddar i lunio cyfres fwy cyfredol o amcanestyniadau poblogaeth ac aelwydydd, a darperir data ar effeithiau tybiedig yr amcanestyniadau hyn ar anheddau, gan gynnwys y gofyniad posibl i’r dyfodol o ran y gymysgedd o dai. Mae’r papur hefyd yn edrych ar y tybiaethau a ddefnyddiwyd wrth lunio amcanestyniadau sail 2008 Llywodraeth Cymru o ran tueddiadau ymfudo, ac yn trafod pam bod Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi dewis defnyddio tybiaethau gwahanol i ragfynegi twf yn y dyfodol gan ystyried y cyfiawnhad i wyro oddi wrth amcanestyniadau sail 2008 LlC. Dim ond un senario ymfudo a gynhyrchwyd gan LlC (ar sail tueddiadau 5 mlynedd). Nid yw’r senario hwnnw’n ddenfyddiol iawn, yn enwedig gan mai ymfudo yw’r ffactor mwyaf anwadal sy’n cyfrannu at newid. Gan ystyried y ffactorau hyn, cyfrifwyd mai’r gofyniad am dai newydd yn ystod cyfnod y cynllun yw tua 6,520 (tua 478 annedd y flwyddyn) gyda lefel wrth gefn o hyd at 7,170 annedd.


4.2.3.3 Mae'r lefel hwn o dwf tai yn adlewyrchu'r prif newid poblogaeth naturiol, newid ym maint aelwydydd, mewnfudo net ac ar yr un pryd yn cyfrannu at fynd i’r afael â’r angen allweddol i ddarparu AHLN, diogelu'r amgylchedd naturiol ac adeiledig a darparu tai addas ar gyfer y bobl ifanc presennol ac i’r dyfodol i barhau i fyw a gweithio yn yr ardal. Ar y cyfan, mae’r twf hwn yn ganlyniad i dueddiadau’r gorffennol o ran adeiladu dros y 5 mlynedd diwethaf (gweler BP/4 – ‘Cyflenwad Tir Tai’) ac yn adlewyrchu gallu’r diwydiant adeiladu i ddarparu tai a’u gallu i ddarparu dros gyfnod y cynllun (gweler BP/31 – ‘Capasiti’r Diwydiant Adeiladu Tai’).


4.2.3.4 Caiff rhan fwyaf y gofyniad tai hwn ei ddarparu yn Ardal y Strategaeth Ddatblygu Drefol sef y lleoliad mwyaf cynaliadwy fel y dangoswyd yn BP/37 – ‘Adroddiadau Dewisiadau Dosbarthiad Twf’ a BP/8 – ‘Hierarchaeth Aneddiadau a Ffiniau Aneddiadau’.


4.2.3.5 Mae’r Awdurdod yn cynnig y dylid cyflawni'r gofyniad hwn am 6,520 o dai, mewn datblygiadau fesul cyfnod trwy gydol cyfnod y cynllun, gan ei rannu i dri chyfnod (o fis Ebrill i fis Mawrth) fel y dangosir yn nhabl HOU1b, yr Adran Gyflwyno a Monitro, a BP/30 – ‘Cynllun Datblygu Fesul Cyfnod’ a BP/4 – ‘Cyflenwad Tir ar gyfer Tai’.


4.2.3.6 Felly, mae angen dyrannu digon o dir yn y CDLl i ganiatáu ar gyfer tua 6,520 o anheddau dros gyfnod y cynllun, gan gynnwys cyfraniad o’r rhai sydd eisoes wedi’u hadeiladu ers 2007, ymrwymiadau presennol a ffynonellau cyflenwad safleoedd ar hap (gweler BP/4). Cyflenwad tir wrth gefn pellach o safleoedd addas y gellir eu darparu gan roi cyfanswm o 650 o anheddau sydd wedi’u cynnwys yn y cynllun (6,520 + 650 = 7,170 Annedd).Bydd safleoedd wrth gefn yn cael eu gwireddu yn ôl trefn blaenoriaeth fel yr amlinellir ym Mholisi HOU/1’, lle nad ydyw’r Cyngor yn gallu gwireddu cyflenwad tir tai pum mlynedd.


4.2.3.7 Yn unol â pholisi cynllunio cenedlaethol, ffafrir datblygiadau mewn lleoliadau cyraeddadwy ar dir a ddatblygwyd yn flaenorol (PDL) dros safleoedd tir glas. Wrth ddarparu anghenion tai yng Nghonwy, ni fydd yn ymarferol i ddarparu'r gofyniad anheddau llawn ar PDL, felly bydd rhaid colli rhywfaint o safleoedd tir glas a lletemau glas i sicrhau bod modd darparu'r cynllun. O fewn y CDLl hwn, nodir safleoedd tai strategol (safleoedd gyda dros 100 o anheddau) a safleoedd anstrategol (safleoedd dan 100 o anheddau) ar y Map Cynigion ac maent wedi’u hamlinellu yn adran Gweithredu a Monitro’r Cynllun Darparu Tai Fesul Cyfnod.

4.2.4 Ffynonellau Cyflenwad Tai

4.2.4.1 Bydd CDLl Conwy yn dyrannu safleoedd lle gellir darparu 10 neu fwy o anheddau ar gyfer tai. Fel y dangosir yng Nghyd-astudiaeth Argaeledd Tir Tai 2012, mae Conwy eisoes wedi darparu 1,418 o gartrefi newydd rhwng 2007 a 2012. Bydd yr ymrwymiadau sy’n weddill (rhai gyda chaniatâd cynllunio presennol ond heb eu hadeiladu eto) a safleoedd ar hap a ragwelir (datblygiadau sy’n debyg o gael eu cyflwyno ar safleoedd heb eu dyrannu) yn rhoi cyfanswm o 2,293 o gartrefi (gweler BP/4 – ‘ Cyflenwad Tir Tai’), sy’n debyg o gael eu hadeiladu dros gyfnod y cynllun. Mae’r ffigwr hwn yn cynnwys rhoi defnydd unwaith eto i amcangyfrif o519 o gartrefi gwag dros gyfnod y cynllun a datblygu safleoedd gyda chyfanswm o199 o anheddau ar gael yn sgil y Rhaglen Foderneiddio Ysgolion. Bydd y Cyngor yn ystyried cyflwyno rhybudd cwblhau i leihau'r ansicrwydd hwnnw a sicrhau bod anghenion cymunedau Conwy’n cael eu diwallu.


4.2.4.2 Gan ystyried pob un o’r ffynonellau hyn o gyflenwad tai, dyrennir tir yn y Cynllun i ganiatáu ar gyfer tua 2,324 o dai a 522 pellachwrth gefn fel y dangosir isod:
 

Tabl 5: Ffynonellau Cyflenwad Tai

Ffynhonnell y Cyflenwad Tir Glas Tir Llwyd Cyfanswm
Pob Cwblhad Net 01/04/07 – 31/03/12 362 1056 1418
Ymrwymiadau ar 01/04/12 176 556 732
Safleoedd ymrwymedig pellach ers 01/04/12 180 54 234
Ar Hap 64 1192 1256
Cartrefi Gwag 519 519
Moderneiddio Ysgolion Cynradd 199 199
Is Gyfanswm 4358
Dyraniad 1744 580 2324
Wrth Gefn 562
Gofyniad Tir Cyffredinol 7244


 

4.2.5 Dosbarthu twf tai newydd yn eang

4.2.5.1 Ceir tystiolaeth i gefnogi dosbarthiad twf yn BP/37 – ‘Adroddiad Opsiynau Dosbarthiad Twf’. Felrhan o’r broses o ymchwilio ble gallai tir ar gyfer tai fod ar gael i ddiwallu anghenion tai'r dyfodol, rydym wedi cynnal prawf cynaladwyedd ar bob anheddiad yn ardal y Cynllun i asesu eu gallu i ddarparu tai ac wrth ffurfio'r Hierarchaeth Aneddiadau (gweler BP/8 – ‘Hierarchaeth Aneddiadau a Ffiniau Aneddiadau’). Fel y nodir yn y Strategaeth hon (adran 3) ac yn BP/37, bwriedircael datblygiad ar raddfa uwch yn Ardal y Strategaeth Ddatblygu Drefol i adlewyrchu cynaladwyedd yr ardal o safbwynt cyfleusterau digonol a gallu’r amgylchedd lleol i ymdopi. Mae gan y lleoliadau hyn ystod gref o gyfleusterau cymunedol gyda mynediad da i swyddi newydd a phresennol, gwasanaethau allweddol ac isadeiledd. Amlinellir y targed datblygiadau tai i bob haen o anheddiad rhwng 2007 a 2022 yn nhabl HOU1a.

4.2.6 Tai newydd yng Nghefn Gwlad

4.2.6.1 Bydd rheolaeth gaeth ar ddatblygiadau tai mewn cefn gwlad agored oni bai bod modd ei gyfiawnhau’n llawn drwy gyfeirio at dystiolaeth ategol gadarn. Un o’r amgylchiadau prin y gellir cyfiawnhau datblygiadau preswyl unigol newydd mewn cefn gwlad agored yw pan bod angen y llety i alluogi gweithwyr mentrau gwledig i fyw yn, neu’n agos at, eu man gwaith. Yn unol â Pholisi DP/6, mae anheddau mentrau gwledig yn cynnwys:

  • Annedd newydd ar gyfer menter wledig sefydledig (gan gynnwys ffermydd) lle mae angen ymarferol am weithiwr llawn amser a bod yr achos busnes yn profi fod cyflogaeth yn debygol o barhau i fod yn gynaliadwy’n ariannol.
  • Ail annedd ar fferm sefydledig sy’n gynaliadwy’n ariannol, hwyluso trosglwyddiad y busnes fferm i ffermwr ieuengach.
  • Ail annedd ar fferm sefydledig sy’n gynaliadwy’n ariannol, lle mae angen ymarferol am 0.5 neu fwy o weithwyr llawn amser ychwanegol ac o leiaf 50% o gyflog Gweithiwr Safonol Gradd 2, fel y diffinnir yn fersiwn diweddaraf y gorchymyn cyflogau amaethyddol, ar gael drwy’r busnes fferm.
  • Annedd newydd ar gyfer menter wledig newydd lle mae angen ymarferol am weithiwr llawn amser.


4.2.6.2 Mae menter wledig yn cynnwys busnes yn ymwneud â’r tir gan gynnwys amaeth, coedwigaeth a gweithgareddau eraill sy’n derbyn eu mewnbwn pennaf o’r safle, fel prosesu cynhyrchion amaethyddol, coedwigaeth a mwynau yn ogystal â gweithgareddau rheoli tir a gwasanaethau ategol (gan gynnwys contractio amaethyddol), twristiaeth a mentrau hamdden.


4.2.6.3 Bydd anheddau parhaol newydd ond yn cael eu caniatáu i gefnogi mentrau gwledig sefydledig cyn belled fod y profion ymarferoldeb, amser ac ariannol gofynnol yn cael eu diwallu yn unol â Pholisi PD/6 a’u harddangos drwy Werthusiad Annedd Menter Wledig.


4.2.6.4 Yn gyffredinol, bydd ffafriaeth yn cael ei roi i ailddefnyddio neu ddisodli adeiladau presennol dros rai sy’n cynnig adeiladu annedd newydd er mwyn osgoi datblygiad pellach mewn cefn gwlad. Os oes bwriad i godi adeiladau newydd dylid eu lleoli a’u dylunio i leihau eu heffaith ar gefn gwlad, a’u grwpio o amgylch y datblygiad presennol os yw hynny’n bosibl gan ddiwallu Egwyddorion Datblygu a pholisïau eraill cysylltiedig yn y Cynllun. Ni fyddai cyfiawnhad dros godi adeilad pellach os yw annedd presennol sy’n gwasanaethu’r uned, neu wedi’i gysylltu yn agos ag o, naill ai wedi’i werthu’n ddiweddar neu ei wahanu ohono mewn unrhyw ffordd.

4.2.7 Ail Anheddau ar Ffermydd Sefydledig

4.2.7.1 Mae’r Cynllun yn annog pobl ieuengach i gynnal eu busnesau fferm a hyrwyddo arallgyfeirio ar ffermydd sefydledig. I gefnogi’r amcan polisi hwn efallai y bydd yn briodol i ganiatáu anheddau ar ffermydd sefydledig sydd wedi cyflawni'r profion ariannol ac ymarferol fel yr amlinellir ym Mholisi DP/6. Y ddau eithriad i’r polisi yw:

  • Os oes trefniadau sicr a chyfreithiol rwymol mewn grym sy’n dangos fod rheolaeth y busnes fferm wedi’i drosglwyddo i unigolyn sy’n ieuengach na’r unigolyn sy’n gyfrifol am reoli ar hyn o bryd, neu, fod trosglwyddo rheolaeth yn amodol yn unig ar roi caniatâd cynllunio i’r annedd. Dylid profi bod gan yr unigolyn ieuengach rheolaeth fwyafrifol dros y busnes fferm ac yn gyfrifol am wneud penderfyniadau ar gyfer y busnes fferm; neu,
  • Fod angen ymarferol presennol am 0.5 neu fwy o weithiwr llawn amser ychwanegol a bod yr unigolyn hwnnw yn derbyn o leiaf 50% o gyflog Gweithiwr Safon Gradd 2, (fel y’i diffinnir yn fersiwn ddiweddaraf y Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol), o’r busnes fferm.

4.2.8 Aneddiadau newydd ar Fentrau Newydd

4.2.8.1 Yn unol â Pholisi DP/6, caniateir annedd newydd os oes modd dangos tystiolaeth i brofi ei fod yn hanfodol i gefnogi menter wledig newydd. Bydd yn hanfodol i geisiadau ddangos tystiolaeth glir o fwriad cadarn a’r gallu i ddatblygu'r fenter wledig dan sylw, fod angen sefydlu’r fenter newydd yn y lleoliad bwriedig a’i fod yn diwallu'r profion ymarferol, amser ac ariannol. Dylid ategu’r mathau hyn o dystiolaeth drwy gyflwyno Gwerthusiad Annedd Menter Wledig wrth wneud cais yn unol â Pholisi DP/6.

4.2.9 Datblygiad Un Planed

4.2.9.1 Datblygiad Un Planed yw datblygiad sydd, drwy ei effaith isel, naill ai’n gwella neu nad yw’n dirywio ansawdd yr amgylchedd yn sylweddol. Gallai Datblygiad Un Planed fod yn ddatblygiad cynaliadwy enghreifftiol a ddylai gyflawni ôl troed ecolegol o 2.4 hectar byd eang fesul unigolyn i ddechrau neu lai o safbwynt traul. Dylent hefyd fod yn ddi-garbon o ran eu dulliau hadeiladu a’u defnydd.


4.2.9.2 Gall Datblygiadau Un Planed fod ar sawl ffurf. Gallant naill ai fod yn gartrefi unigol, cymunedau cydweithredol neu aneddiadau mwy. Gellir eu lleoli o fewn neu’n agos at aneddiadau presennol, neu mewn cefn gwlad agored. Os yw Datblygiadau Un Planed yn cynnwys aelodau o fwy nag un teulu, dylid rheoli'r cynnig drwy ymddiriedolaeth, grŵp cydweithredol neu fecanwaith tebyg arall y byddai gan y preswylwyr gysylltiad ynddo. Dylai Datblygiadau Un Planed ar y tir mewn cefn gwlad agored ddarparu ar gyfer anghenion isafswm y preswylwyr o safbwynt incwm, bwyd, ynni a chymathiad gwastraff, dros gyfnod o amser rhesymol (dim mwy na 5 mlynedd). Os na ellir arddangos hyn, byddwn yn ystyried eu bod yn groes i bolisïau sy’n ceisio rheoli datblygu mewn cefn gwlad agored fel yr amlinellir yn y cynllun hwn.


4.2.9.3 Mae angen tystiolaeth gadarn i gefnogi ceisiadau cynllunio am Ddatblygiadau Un Planed ar y tir mewn cefn gwlad agored. Yn unol â Pholisi DP/6 rhaid i geisiadau cynllunio ar gyfer y math hwn o ddatblygiad gynnwys cynllun rheoli. Dylai’r cynllun rheoli amlinellu amcanion y cynnig, yr amserlen ar gyfer datblygu ar y safle a therfynau amser ar gyfer adolygu. Dylid ei ddefnyddio fel sail ar gyfer cytundeb cyfreithiol yn ymwneud â phreswyliad ar y safle pe bai caniatâd cynllunio’n cael ei roi. Dylai’r cynllun rheoli gynnwys cynllun busnes a gwella, dadansoddiad Ôl Troed Ecolegol y datblygiad, dadansoddiad Carbon o’r datblygiad, asesiad bioamrywiaeth a thirlun, asesiad effaith i nodi effeithiau posibl ar y gymuned sy’n eu croesawu, ac Asesiad Cludiant a chynllun teithio i ddangos anghenion cludiant y preswylwyr a chynnig atebion teithio cynaliadwy.

4.2.10 Tai Fforddiadwy ar gyfer Anghenion Lleol

Polisi HOU/2 – TAI FFORDDIADWY AR GYFER ANGHENION LLEOL

  1. Bydd y Cyngor yn gorchymyn darparu AHLN mewn datblygiadau tai newydd fel y nodir yn yr Asesiad Marchnad Dai Leol a Chofrestrau Tai Fforddiadwy a Chamau Cyntaf Conwy. Arweinir darpariaeth yr AHLN gan Dabl HOU2a, y C Cynllun Darparu Tai Fesul Cyfnod a’r hierarchaeth ganlynol:
  • Rhoi blaenoriaeth uchel i ddarpariaeth AHLN drwy drafod gyda datblygwyr i gynnwys AHLN ar y safle ym mhob datblygiad tai o fewn ffiniau aneddiadau Ardal Strategaeth Datblygiad Trefol a Phrif Bentrefi Haen 1, yn unol â’r dosbarthiad canlynol:

Llandudno a Bae Penrhyn, Llandrillo-yn-Rhos - 35%
Conwy, Cyffordd Llandudno, Glan Conwy, Llanrwst - 30%
Llanfairfechan, Penmaenmawr, Bae Colwyn, Dwygyfylchi, Llanddulas a Llysfaen - 20%
Abergele, Towyn a Bae Cinmel - 10%

  • Gall darpariaeth is fod yn dderbyniol lle gellir dangos a chefnogi’n glir gyda thystiolaeth a gyflwynir, gan gynnwys Ffurflen Asesu Hyfywedd wedi’i llenwi. Bydd darpariaeth oddi ar y safle neu daliadau gohiriedig yn dderbyniol ar gyfer cynigion datblygu yn cynnwys 3 annedd neu lai, a gall fod yn dderbyniol ar gyfer cynigion yn cynnwys 4 annedd neu fwy, ar yr amod bod digon o gyfiawnhad. Disgwylir darparu’r unedau AHLN heb gymhorthdal.
  • Ar ymylon yr Ardaloedd Strategaeth Datblygu Trefol, ni chaniateir datblygu y tu allan i ffiniau’r anheddiad, ac eithrio safleoedd sy’n darparu AHLN 100% sy’n agos at Lanrwst.
  • Bydd safleoedd ar hap ym Mhrif Bentrefi Haen 1 yn adlewyrchu’r lefelau o angen ac nid yn cynnwys mwy na 10 annedd
  • Mewn Prif Bentrefi Haen 2, bydd y Cyngor yn ceisio sicrhau 100% AHLN ar safleoedd a ddyrannwyd, a safleoedd ar hap oddi mewn i derfynau’r anheddiad. Mewn amgylchiadau eithriadol, bydd modd caniatáu anheddau’r farchnad ar safleoedd a ddyrannwyd a rhai ar hap os yw hynny’n hanfodol er mwyn cynorthwyo darpariaeth tai fforddiadwy ar y safle, ac os oes Ffurflen Asesu Hyfywedd wedi’i chwblhau i gefnogi hynny. Bydd safleoedd ar hap yn adlewyrchu lefelau angen, ac ni fyddant yn cynnwys mwy na 10 annedd.
  • Tu allan i ffiniau aneddiadau Prif Bentrefi Haen 1 a Haen 2, fel eithriad, bydd AHLN 100% ar raddfa fechan yn dderbyniol ar ymyl aneddiadau hyd at 5 annedd, gan roi’r flaenoriaeth gyntaf i Dir a Ddatblygwyd yn Flaenorol, i annog creu cymunedau cynaliadwy yn unol â Pholisïau DP/2 – ‘Dull Strategol Trosfwaol’, a HOU/6 – ‘Safleoedd Eithriedig i Dai Fforddiadwy ar gyfer Anghenion Lleol’.
  • Yn y Pentrefi Llai, bydd y Cyngor yn ceisio sicrhau 100% AHLN yn unig drwy ddatblygiadau unigol a graddfa fechan oddi mewn i gyfyngiadau’r anheddiad, a lle bydd cynigion yn cynrychioli math o fewnlenwi ac yn cydweddu i’r anheddiad o safbwynt ffisegol a gweledol. Mewn amgylchiadau eithriadol, bydd modd caniatáu anheddau’r farchnad ar hap-safleoedd o’r fath, os yw hynny’n hanfodol er mwyn cynorthwyo darpariaeth tai fforddiadwy ar y safle ac os cwblhawyd Ffurflen Asesu Hyfywedd i gefnogi hynny. Bydd hap-safleoedd yn adlewyrchu lefelau angen a chymeriad yr anheddiad, ac ni fyddant yn cynnwys mwy na 5 annedd.
  • Ar ymylon Pentrefi Llai, dim ond cynllun graddfa fechan (hyd at 3 annedd) y gellir ei gyfiawnhau sy’n darparu 100% AHLN, neu Gynllun Menter Wledig neu Ddatblygiad Bach ei Effaith, a ganiateir yn unol â Pholisïau DP/6 a HOU/6.
  • Mewn Pentrefannau, bydd datblygiadau ond yn cael eu caniatáu dan amgylchiadau eithriadol i ddarparu annedd AHLN unigol a gyfiawnheir mewn lleoliad derbyniol a chynaliadwy yn unol â Pholisi HOU/6.
  • Mewn cefn gwlad agored, bydd AHLN yn cael eu harwain yn unol â Pholisi DP/6.
  1. Bydd gofyn i bob datblygiad ddarparu cymysgedd priodol o safbwynt mathau o dai a meintiau tai AHLN mewn datblygiad, a bennir gan yr amgylchiadau lleol wrth gyflwyno cynnig datblygu yn unol â Pholisi HOU/4.
  2. Dylid integreiddio unedau AHLN yn llawn o fewn datblygiad a dylai fod yn amhosibl gwahaniaethu rhyngddynt a thai nad ydynt yn fforddiadwy yn unol â Pholisi DP/3.
  3. Bydd y Cyngor yn ceisio cyflawni lefel uwch o AHLN ar safleoedd mae’r Cyngor yn berchen arnynt yn unol â Pholisi HOU/7.
  4. Bydd y Gwasanaeth Polisi Cynllunio Strategol yn ceisio sefydlu cofrestr ar draws y Ardal y Cynllun gyfan o ddaliadau tir mewn perchnogaeth gyhoeddus ar gyfer AHLN, yn unol â Pholisi HOU/8.


Tabl 6: HOU/2a: Darpariaeth Tai Fforddiadwy

Ffynhonnell Cyflenwad Tai Fforddiadwy Ardal y Strategaeth Ddatblygu Drefol (UDSA) Ardal y Strategaeth Ddatblygu Wledig (RDSA)
Sicrhawyd drwy ddatblygiadau a gwblhawyd 1/4/2007 – 31/3/12 202 12
Ymrwymiadau ar 1/4/2012 184 27
Safleoedd ymrwymedig pellach ers 1/4/2012 28 0
Sicrhawyd drwy hap safleoedd yn cynnwys cyflenwad a gynhyrchwyd gan annedd Menter Wledig a safleoedd Eithriad AHLN. 241 211
Sicrhawyd drwy hap safleoedd (moderneiddio ysgolion) 10% o’r 199 annedd a amcangyfrifir gyda rhaniad o 85% yn yr UDSA a 15% yn yr RDSA) 17 3
Sicrhawyd o Ddyraniadau yn ceisio lefelau o UDSA yn unol â Pholisi HOU/2 293 225
CYFLENWAD YN ARDAL Y STRATEGAETH 2007 – 2022 1064 478
CYFANSWM Y CYFLENWAD 1542

4.2.11 Diwallu'r Angen am dai Fforddiadwy yng Nghonwy

Asesiad o’r Farchnad Dai Leol

4.2.11.1 Prinder Tai Fforddiadwy ar gyfer Anghenion Lleol (AHLN) yw un o’r materion blaenoriaeth pwysicaf sy’n wynebu’r Ardal y Cynllun. Mae’r awdurdod wedi bod yn gweithio ar y cyd gydag Awdurdodau Tai a Chynllunio Parc Cenedlaethol Eryri, Ynys Môn, Gwynedd a Sir Ddinbych i ddatblygu gwell cyd-ddealltwriaeth o’r farchnad dai drwy gynnal Asesiad o’r Farchnad Dai Leol (LHMA), gan gydnabod nad yw ardaloedd marchnad dai yn cydymffurfio â ffiniau gweinyddol. Roedd LHMA Cam 1 (gweler BP/7) yn darparu arweiniad da i lefel gyffredinol ar draws Sir Conwy. Mae asesiad diwygiedig pellach o’r gofynion am dai fforddiadwy wedi cael ei lunio, fel y nodir yn BP/36 – ‘Cyfrifiad Anghenion Tai Fforddiadwy’. Mae’r cyfrifiad anghenion tai fforddiadwy a gyflwynir yn BP/36 yn defnyddio’r fethodoleg a argymhellir yng Nghanllaw Asesu Marchnadoedd Tai Lleol Llywodraeth Cymru (Mawrth 2006) ac yn cynrychioli diweddariad rhannol o adroddiad llinell sylfaen yr Asesiad Marchnad Dai Lleol a gynhyrchwyd ar gyfer Gogledd Orllewin Cymru yn 2008. Mae’r cyfrifiad diwygiedig ar gyfer anghenion tai fforddiadwy yn edrych ar yr angen cyfredol am dai fforddiadwy a’r angen posibl am dai fforddiadwy yn y dyfodol, ac yn cyfrifo amcangyfrif blynyddol o nifer yr aelwydydd a fydd angen cymorth i gael mynediad at dai fforddiadwy yn ychwanegol at yr aelwydydd sydd eisoes yn derbyn cymorth. Mae’r cyfrifiad diwygiedig yn rhoi amcangyfrif blynyddol o 125 o’r aelwydydd ac arnynt angen tai fforddiadwy yn Ardal y Cynllun (oddeutu 61 angen cymdeithasol a 64 angen canolraddol bob blwyddyn), gan gasglu mai 1,875 yw cyfanswm cyffredinol yr angen am dai fforddiadwy.Mae hyn yn cynrychioli gostyngiad yng nghyfanswm y gofyniad am dai fforddiadwy a oedd yn seiliedig ar asesiadau’r gorffennol. Canlyniad y ffaith bod data sylfaen cyfredol o ansawdd gwell ar gael, ac adolygiad o’r dull cyfrifo, yw hyn yn hytrach nag adlewyrchiad o gynnydd yn y cyflenwad o dai fforddiadwy neu ostyngiad aruthrol yn nifer yr aelwydydd ac arnynt angen.


4.2.11.2 Nid y ffigur angen tai fforddiadwy ‘sylfaenol’ o 1,875 yw cyfanswm y tai y mae angen eu hadeiladu o’r newydd ar gyfer y CDLl. Yn hytrach, mae’n cynrychioli cyfanswm yr ‘aelwydydd’ mewn angen. Mae ‘angen tai cymdeithasol’ (915 erbyn 2022) yn cynnwys pobl sy’n bodloni meini prawf penodol iawn ynghylch angen o ran tai ac sy’n gymwys i dderbyn cymorth tai rhent cymdeithasol. Darperir ar gyfer yr elfen hon o angen yn bennaf drwy fecanweithiau eraill, er enghraifft drwy leoli o fewn y stoc tai cymdeithasol presennol; drwy ddarparu cynlluniau fel y Cynllun Cymorth Prynu; a thrwy roi cefnogaeth ariannol i rentu yn y sector preifat (budd-dal tai). Cydnabyddir yn y Cynllun y bydd y tai cymdeithasol sydd eu hangen yn cael eu darparu drwy’r dulliau amgen hyn yn hytrach na thrwy ddatblygiadau adeiladu newydd. Rhoddir cefnogaeth a thystiolaeth bellach i ddarparu ar gyfer angen cymdeithasol yn Strategaeth Tai Lleol Conwy a weithredir gan y Dîm Strategaeth Tai Conwy drwy ymagwedd partneriaeth.


4.2.11.3 Mae ‘angen tai canolraddol’ yn cynnwys y rhai nad ydynt yn perthyn i’r categori angen cymdeithasol ond y mae angen cymorth arnynt o hyd i rentu neu brynu ar y farchnad agored. Fel y nodir yn BP/36, mae ar 64 o aelwydydd (960 erbyn 2022 a dalgrynir i 1,000) angen tai canolraddol, a darperir hyn drwy gyflenwad o anheddau wedi’u hadeiladu o’r newydd a nodir yn nhabl HOU/2a uchod. Mae Tabl 6 yn darparu lefel y cyflenwad fforddiadwy, wedi’i chyfrifo yn seiliedig ar y cyflenwad tai yn Nhabl 4, gyda darpariaeth AHLN ar sail y polisi rhaniad yn HOU/2. Mae hyn yn cyfrifo’r lefelau uchaf o AHLN sy’n debygol o gael eu cyflawni o'r ffynonellau a nodwyd o gyflenwad tai; 1,542 o unedau. Yn ymarferol, mae lefel is yn debygol o gael ei chyflwyno, oherwydd yr hyblygrwydd o fewn y Polisi ar sail ystyriaethau hyfywedd. Er hynny, bydd lefel yr AHLN o orgyflenwi sy'n cael ei ddarparu yn y sefyllfa hon yn sicrhau y bydd y gofyniad adeiladau newydd o 1000 uned AHLN yn cael eu bodloni dros Gyfnod y Cynllun, gyda bron i hanner y ffigur hwn eisoes naill ai’n gyflawn neu'n ymroddedig. Y cynlluniau ar raddfa fechan ar safleoedd tir llwyd a gyflwynir dros Gyfnod y Cynllun yw’r rhai sydd fwyaf tebygol o fod yn llai hyfyw ar gyfer darpariaeth AHLN oherwydd gwerthoedd defnydd presennol uwch a mwy o gostau datblygu. Ar y llaw arall, bydd safleoedd mawr a maes glas yn enwedig a neilltuwyd, yn darparu lefelau uwch o AHLN, gyda hyfywedd ariannol yn cael ei gymryd i ystyriaeth ar sail safle wrth safle.Fodd bynnag, tybiaeth y polisi yw bod y tir wedi cael ei brynu am y pris cywir, gan ystyried gofynion ymrwymiadau a chyfyngiadau cynllunio. Ni dderbynnir ceisiadau sy’n ceisio cynnig llai o dai fforddiadwy o ganlyniad i’r ffaith bod tir wedi cael ei brynu am bris uchel iawn. Dim ond costau datblygu newydd ‘anhysbys’ fydd yn cael eu hystyried drwy lenwi Ffurflen Asesu Hyfywedd Tai Fforddiadwy sy’n dangos materion hyfywedd. Ar sail lefel y ddarpariaeth o dai fforddiadwy a nodir ym Mholisi HOU/2 gellir sicrhau’r angen cyffredinol i adeiladu 1000 o anheddau o’r newydd drwy lefel twf y Cynllun.


4.2.11.4 Bydd Canllaw Cynllunio Atodol Tai Fforddiadwy yn cael ei baratoi i roi canllaw pellach ynglŷn â sut y bydd Polisi HOU/2 yn cael ei weithredu. Bydd yn cynnwys gwybodaeth am ddiffinio fforddiadwyedd a chymhwysedd, mathau a meintiau o dai fforddiadwy ar gyfer angen lleol, hyfywedd ariannol a defnyddio hyblygrwydd gyda’r gofynion.

4.2.12 Astudiaethau Galluogwyr Tai Gwledig

4.2.12.1 Mae canllawiau Llywodraeth Cymru ar gyflawni Asesiadau Marchnadoedd Tai Lleol yn nodi yng nghyd-destun aneddiadau gwledig fod arolwg atodol ar lefel cymunedol yn ddull ymarferol o fynd ati i asesu anghenion tai mewn ardaloedd gwledig gan y gall anghenion tai fod yn rhai lleol iawn mewn ardaloedd gwledig. Er mwyn gwella'r wybodaeth am anghenion tai lleol a helpu darparu tai fforddiadwy yng Nghonwy, mae'r Awdurdod yn ariannu Galluogwyr Tai Gwledig yn rhannol. Swyddogaeth y Galluogwyr Tai Gwledig yw gweithredu fel broceriaid annibynnol, diduedd sy’n gweithio ar ran cymunedau lleol i gynorthwyo eu cymunedau i benderfynu ar atebion wedi eu teilwra i ddiwallu anghenion tai lleol a ddynodwyd a helpu cymunedau i gyflawni arolygon anghenion tai.

4.2.13 Hyfywedd

4.2.13.1 Yn unol â Nodyn Cyngor Technegol 2 Llywodraeth Cymru (TAN2) sy’n pwysleisio pwysigrwydd targedau polisi ar brofi hyfywedd, mae’r Cyngor wedi paratoi tystiolaeth ar hyfywedd ariannp; datblygiad tai drwy bennu targedau tai fforddiadwy y gellir eu darparu a thrwys asesu trothwy priodol a ddylai sbarduno cyfraniadau tai fforddiadwy.


4.2.13.2 Drwy ganlyniadau’r sail dystiolaeth hyfywedd ariannol, o fewn Ardal Strategaeth Datblygu Trefol a Phrif Bentrefi Haen 1, mae’r Cyngor yn bwriadu cynnig targed tai fforddiadwy hollt fesul ardal marchnad dai, yn amrywio o 35% yn Llandudno, Bae Penrhyn Bay a Llandrillo-yn-Rhos, i 10% yn Abergele, Tywyn a Bae Cinmel. Bydd y Cyngor yn ceisio cyflawni darpariaeth AHLN 100% o fewn Prif Bentrefi Haen 2 a Phentrefi Bach; fodd bynnag, gellir caniatau anheddau marchnad mewn amgylchiadau eithriadol ar safleoedd a ddyrennir ac ar hap, lle mae’n hanfodol cynorthwyo gyda darpariaeth ar y safle dai fforddiadwy, a gyda chefnogaeth Ffurflen Asesu Hyfywedd wedi’i llenwi. Yn y Pentrefannau, unedau AHLN 100% a ganiateir mewn amgylchiadau eithriadol.


4.2.13.3 Tybir fod costau prynu tir yn cael eu trefnu yn seiliedig ar dderbyn goblygiadau cynllunio fel y nodir yn y Cynllun a rhwystrau sy’n wyddys. Dylai’r ymgeiswyr gwblhau ffurflen Asesiad Hyfywedd Tai Fforddiadwy sydd ar gael ar wefan y cyngor, neu fel y manylir yng Ngoblygiadau Cynllunio’r CCY, lle y bydd materion hyfywedd newydd yn dod i’r amlwg gan effeithio ar y gallu i gyflawni’r cynllun.


4.2.13.4 Bydd y Cyngor yn monitro darpariaeth yn agos drwy’r Adroddiad Monitro Blynyddol (AMR) pe bai newid sylweddol yn y farchnad.

4.2.14 Targed Tai Fforddiadwy yng Nghonwy

4.2.14.1 Rhaid i darged tai fforddiadwy’r CDLl fod yn seiliedig ar asesiad realistig o’r hyn sy’n debyg o gael ei gyflawni yn y Ardal y Cynllun. Mae’r AHVS yn darparu targed hyfyw ar gyfer darparu tai fforddiadwy a’r lefelau trothwy y dylid ceisio eu sicrhau.


4.2.14.2 Caiff y cyfraniad at y targed tai fforddiadwy ei ddarparu drwy ddatblygiadau a gwblhawyd ers 2007, ymrwymiadau (y rhai gyda chaniatâd cynllunio), a’r dyraniadau ar hap a newydd. Gwneir cyfraniad pellach at y ffynhonnell hon o gyflenwad tai fforddiadwy posibl hefyd drwy weithredu'r Strategaeth Cartrefi Gwag, adeiladu o’r newydd ar safleoedd eithriedig (gweler Polisi HOU/6) a thrawsnewid mewn cefn gwlad agored i greu anheddau gweithwyr amaethyddol. Mae Tabl HOU2a yn rhoi manylion dosbarthiad y ffynonellau hyn o gyflenwad a’r targed darparu cyffredinol dros gyfnod y cynllun. Bydd gweithrediad y targedau hyn a’r cyflenwad o dai fforddiadwy yn elfennau monitro allweddol yn yr AMR. Fodd bynnag, yr hyn sy’n glir o brofi hyfywedd safle mewn amrywiaeth o ardaloedd marchnad yw nad oes modd defnyddio targed sengl AHLN ar gyfer bob safle, a bod y dull hollt a drafodir ym Mholisi HOU/2 yn addas ac yn caniatau datblygiad hyfyw ariannol o AHLN ar safleoedd drwy Ardal y Cynllun. Mae dull ceidwadol i amcangyfrif AHLN yn dangos bod y gofyniad adeiladau newydd AHLN o 1,000 annedd yn gallu cael eu darparu ar y sail hon, gan ystyried hyblygrwydd y polisi yn destun prawf hyfywedd.


4.2.14.3 Mae lefel cymharol uchel o eiddo gwag tymor hir yn parhau i fodoli yng Nghonwy fel y manylir yn Strategaeth Cartrefi Gwag y Cyngor. O ganlyniad i ymdrechion presennol ac ymrwymiad Swyddog Cartrefi Gwag llawn amser yng Nghonwy, rhagwelir y bydd defnydd preswyl yn cael ei wneud o 519 o anheddau gwag unwaith eto dros gyfnod y Cynllun ac mewn nifer o achosion byddant yn sicrhau manteision adfywio ehangach. Caiff rhywfaint o’r diffyg tai fforddiadwy a nodwyd yng Nghonwy ei ddiwallu drwy roi defnydd newydd i eiddo gwag. Paratowyd Protocol Symiau Gohiriedig sy’n amlinellu y gellir defnyddio taliadau symiau gohiriedig i ariannu'r gwaith i wneud defnydd o gartrefi gwag unwaith eto. Mae’n bwysig fod Conwy’n gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau eraill i helpu rhoi defnydd preswyl parhaol unwaith eto i eiddo gwag tymor hir fel tai fforddiadwy ar gyfer anghenion lleol. Mae polisïau tai'r CDLl yn cysylltu â Strategaethau Eiddo Gwag Awdurdodau Gwynedd a Pharc Cenedlaethol Eryri drwy hwyluso’r broses o roi defnydd unwaith eto i gartrefi sydd wedi bod yn wag dros y tymor hir a thrawsnewid adeiladau gwag priodol eraill i ddefnydd preswyl parhaol, gan gynnwys AHLN.


4.2.14.4 Gellir gweld fod canran o’r tai fforddiadwy sydd eu hangen gan y Cynllun Datblygu Gwledig yn seiliedig ar yr AHVS. Er bod darparu hyn yn mynd i fod yn heriol, mae’n cynrychioli ymateb priodol i angen sydd wedi’i hen sefydlu ac yn flaenoriaeth gymunedol o bwys sydd wedi ei mynegi’n glir drwy gydol y gwaith o baratoi’r CDLl. Y flaenoriaeth wrth ddarparu'r cyfraniad hwn fydd darparu tai fforddiadwy ar y safle. Bydd darpariaeth oddi ar y safle neu daliadau gohiriedig yn dderbyniol ar gyfer cynigion datblygu sy’n cynnwys 3 neu lai o anheddau, a gallant fod yn dderbyniol ar gyfer cynigion sy’n cynnwys 4 neu fwy o anheddau cyn belled fod cyfiawnhad digonol yn cael ei roi. Disgwylir i’r unedau tai fforddiadwy gael eu darparu heb gymhorthdal. I gynorthwyo datblygwyr, mae Ffurflen Asesu Oddi ar y Safle’n cefnogi Ymrwymiadau Cynllunio'r SPG y dylid eu cwblhau fel rhan o’r cais cynllunio os gofynnir am gyfraniad oddi ar y safle.

4.2.15 Hierarchaeth Aneddiadau a Ddarpariaeth Tai Fforddiadwy.

4.2.15.1 Mae ffiniau aneddiadau wedi’u darparu ar gyfer pob anheddiad yn Ardal y Strategaeth Ddatblygu Drefol ac yn y Prif Bentrefi Haen 1 a 2. Mae gan yr aneddiadau hyn well ddarpariaeth o wasanaethau a chyfleoedd cyflogaeth i gefnogi tai newydd. Ystyrir hefyd fod ganddynt y gallu i ymdopi a datblygiad heb niweidio sefyllfa'r iaith Gymraeg. Yn y Prif Bentrefi a Phentrefannau, nid oes terfynau anheddiad wedi’u nodi.


4.2.15.2 Bydd y Prif Bentrefi Haen 1 yn darparu cyfuniad o dai gwerth y farchnad a thai AHLN o ymrwymiadau presennol, ar safleoedd wedi’u dyrannu ac o ddatblygiadau ar hap. O fewn y Pentrefi Haen 2, bydd y Cyngor yn ceisio darparu 100% AHLN yn unig ar safleoedd wedi’u dyrannu a safleoedd ar hap oddi mewn i derfynau’r anheddiad. Mewn amgylchiadau eithriadol, caniateir anheddau’r farchnad mewn Pentrefi Haen 2 oddi mewn i derfynau’r anheddiad ar safleoedd wedi’u dyrannu a safleoedd ar hap os yw hynny’n hanfodol er mwyn cynorthwyo darpariaeth tai fforddiadwy, a lle cwblheir Ffurflen Asesu Hyfywedd i gefnogi hynny. Bydd cynlluniau fel hyn ar hap-safleoedd fel arfer yn llai na’r rhai a ganiateir yn yr Ardaloedd Strategaeth Datblygu Trefol (dim mwy na 10 annedd ar hap-safleoedd). Mae modd caniatáu safleoedd eithriedig graddfa fechan (hyd at 5 annedd) ac arnynt 100% AHLN y tu allan, ond ar ymyl yr anheddiad os ydynt yn diwallu angen lleol.


4.2.15.3 Nid oes gan Bentrefi Llai derfynau anheddiad, ac ni wneir unrhyw ddyraniadau ar gyfer anheddau newydd. I ddiwallu anghenion y gymuned, bydd y Cyngor yn ceisio darparu 100% AHLN yn unig ar hap-safleoedd o fewn yr anheddiad neu lle bydd annedd unigol neu stadau ac ynddynt grwpiau bychain o anheddau newydd (hyd at 5 annedd) yn cynrychioli math o fewnlenwi ac yn cydweddu i’r Pentref Llai o safbwynt ffisegol a gweledol. Dylai lefel y datblygu gyfateb â lefel y cyfleusterau a’r gwasanaethau a diogelu’r Gymraeg. Mewn amgylchiadau eithriadol, er mwyn cynnwys elfen o hyblygrwydd, bydd modd caniatáu anheddau’r farchnad ar safleoedd wedi’u dyrannu a safleoedd ar hap yn unig lle bo hynny’n hanfodol er mwyn cynorthwyo darpariaeth tai fforddiadwy, a lle cwblheir Ffurflen Asesu Hyfywedd i gefnogi hynny. Bydd modd caniatáu safleoedd eithriedig graddfa fechan ac arnynt 100% AHLN (hyd at 3 annedd) y tu allan, ond ar ymyl, cyfyngiadau’r prif anheddiad, os ydynt yn diwallu angen lleol. Bydd y Canllaw Cynllunio Atodol ar Dai Fforddiadwy yn rhoi arweiniad pellach ynghylch safleoedd a ddosberthir yn safleoedd sydd oddi mewn i’r anheddiad a safleoedd eithriedig.


4.2.15.4 Caiff anghenion y Pentrefannau eu diwallu drwy ddatblygu priodol. Bydd modd caniatáu anheddau gweithwyr amaethyddol neu goedwigaeth, gwaith trawsnewid i aneddiadau a datblygiadau AHLN unigol mewn lleoliadau priodol.

4.2.16 Hyblygrwydd

4.2.16.1 Mae’r Cyngor yn disgwyl i ddatblygwyr brynu tir ar gyfer tai yn y dyfodol gan ystyried yr angen i ddarparu’r ymrwymiadau cynllunio ‘hysbys’ ac unrhyw gostau anarferol ‘hysbys’ (e.e. costau dadlygru). Bydd y newid sylweddol hwn o ran prynu tir dros amser yn cynorthwyo darpariaeth tai fforddiadwy ymhellach gan y disgwylir y bydd y gostyngiad hwn mewn gwerth tir yn gwneud safleoedd o’r fath yn ddeniadol i Gymdeithasau Tai sy’n ceisio darparu tai fforddiadwy. Er hynny, mae’n anorfod y bydd newidiadau i’r hinsawdd economaidd, materion yn benodol i safleoedd a lefel yr angen yn newid dros gyfnod y Cynllun a allai golygu nad yw safleoedd yn hyfyw neu eu bod yn fwy hyfyw i geisio sicrhau darpariaeth uwch. Felly, gweithredir agwedd hyblyg i Bolisi HOU/2 ac mae pwyntiau sbarduno wedi’u cyflwyno i’r adran Fonitro a gweithredu ar gyfer achosion lle bydd angen gweithredu i ryddhau safleoedd wrth gefn neu gyfiawnhau adolygiad o’r Cynllun.


4.2.16.2 Bydd canllaw pellach ynghylch cymhwyso hyblygrwydd i gyfraniadau tai fforddiadwy yn cael eu darparu yn yr SPG Tai Fforddiadwy.

4.2.17 Darparu Tai Fforddiadwy Oddi ar y Safle

4.2.17.1 Bydd y cyfrifoldeb ar y datblygwr i nodi’r amgylchiadau eithriadol ynghylch efallai pam na fydd angen y ddarpariaeth ar y safle, a sut y bydd eu cynnig arall yn mynd i’r afael ag angen tai fforddiadwy fel y nodir gan yr Awdurdod Lleol.

4.2.17.2 Bydd canllaw manwl ar hyblygrwydd yn cael ei ddarpari yn yr SPG Tai Fforddiadwy.

4.2.18 Datblygiadau Tai Fesul Cyfnod

Polisi HOU/3 – DATBLYGIADAU TAI FESUL CYFNOD

Caiff dyraniadau tai eu rhyddhau yn unol â’r Cynllun Fesul Cyfnod fel y nodwyd yn y Fframwaith Gweithredu a Monitro.


4.2.18.1 Yn sgil amgylchiadau lleol a chynaladwyedd, mae'r Cynllun yn gosod datblygiadau fesul cyfnod dros gyfnod y CDLl. Caiff y Camau a osodir eu cyfiawnhau gan ystyriaethau yn ymwneud ag isadeiledd ffisegol neu gymdeithasol, neu pa mor ddigonol yw gwasanaethau eraill, a allai nodi na ellir rhyddhau safle penodol ar gyfer datblygiad nes cyfnod penodol o gyfnod y cynllun (gweler BP/30 – ‘Cynllun Fesul Cyfnod’). Fel yr amlinellir yn BP/30, lle caiff cyfnodau eu cynnwys mewn CDLl dylai fod ar ffurf dangosydd eang o’r amserlen a ragwelir ar gyfer rhyddhau'r prif ardaloedd datblygu neu safleoedd a ddynodir, yn hytrach nag uchafswm rhifyddol mympwyol ar nifer y datblygiadau a ganiateir neu drefn bendant ar gyfer rhyddhau safleoedd mewn cyfnodau penodol.


4.2.18.2 Dylai cynigion i osod cyfnodau ganiatáu graddau rhesymol o ddewis a hyblygrwydd, er enghraifft i sicrhau marchnad dai effeithlon ac effeithiol. Bydd angen hyblygrwydd mewn perthynas â safleoedd na ddynodwyd yn dod i’r fei, h.y. safleoedd na ddyrannwyd yn y CDLl ar gyfer math penodol o ddatblygiad a gyfeirir atynt fel rheol fel safleoedd ar hap. Dylai polisïau gosod cyfnodau gydnabod yr angen am addasiadau posibl i amseriad rhyddhau tir i’r graddau fod ymddangosiad safleoedd na amlinellwyd yn uwch neu yn is na rhagdybiaethau’r CDLl. Os gwneir rhagdybiaethau yn y CDLl am argaeledd safleoedd ar hap yn y dyfodol bydd angen gwirio'r rhagdybiaethau drwy fonitro caniatâd cynllunio a roddir yn gyson.

4.2.19 Dwysedd Tai

Polisi HOU/4 – DWYSEDD TAI

  1. Dylai datblygiadau preswyl wneud y defnydd gorau o dir. Bydd y Cyngor yn ceisio dwysedd o 30-annedd yr hectar ar safleoedd a ddyrannir a safleoedd ar hap mawr (10 annedd a throsodd).
  2. Ceisir sicrhau dwysedd uwch o hyd at 50 annedd yr hectar os yw’n ddefnydd cynaliadwy o dir ac adeiladau ac nad yw’n arwain at effaith annerbyniol. Ni fyddwn yn annog cynlluniau dwysedd uwch sy’n sicrhau gwerth gweddillol negyddol a nifer llai o dai fforddiadwy.
  3. Gall dwysedd is sy’n llai na 30 annedd yr hectar fod yn dderbyniol mewn amgylchiadau eithriadol, lle mae amgylchedd naturiol a/ neu adeiledig yn effeithio ar osodiad y safle.


4.2.19.1 Dylai cynigion preswyl gydymffurfio â’r polisïau yn yr Egwyddorion Datblygu a CDLl9 - Canllawiau Cynllunio Atodol ‘Dylunio’ er mwyn cyflawni amgylchedd byw o ansawdd. Er mwyn i gartrefi newydd gyfrannu at ddiwallu anghenion trigolion presennol a’r dyfodol, mae’n bwysig eu bod yn cael ei dylunio i ansawdd uchel, ac yn gynaliadwy a chynhwysol ac yn creu amgylchedd deniadol sy’n gweithredu’n dda, lle mae pobl eisiau byw, sy’n diwallu eu hanghenion ac yn creu ymdeimlad o le lle gellir datblygu hunaniaeth gymunedol.


4.2.19.2 Yn unol â chanllawiau llywodraeth, anogir datblygiadau dwysedd uwch. Cefnogir yr agwedd hon gan BP/9 – ‘Astudiaeth Hyfywedd Tai Fforddiadwy’ lle dangosir fod cynyddu dwysedd i 40 annedd yr hectar (dph) yn gwella gwerthoedd gweddillol a darpariaeth tai fforddiadwy cyffredinol. Er enghraifft, yn ardaloedd gwerth is y Ardal y Cynllun, bydd cynyddu dwysedd o 30dph i 40dph yn gwneud y gwahaniaeth rhwng cael cynllun gyda gwerth gweddillol negyddol i un lle mae’r gwerth gweddillol yn bositif a thai fforddiadwy’n cael eu darparu. Mae tystiolaeth fel y dangosir yn BP/9 yn dangos fod dwysedd tai ar 50dph ac uwch yn gostwng hyfywedd cynlluniau gan arwain at lai o ddarpariaeth tai fforddiadwy. Y prif reswm dros y gostyngiad ymddangosol mewn hyfywedd yw bod cynllun 50dph ac uwch yn cynnwys cyfradd sylweddol uwch o unedau llai, a fflatiau’n benodol. Mae unedau llai, mewn lleoliad fel Conwy, fel rheol yn cael effaith negyddol ar hyfywedd cyffredinol gan nad ydynt yn cynhyrchu gormodedd sylweddol o werth gwerthiant mewn perthynas â chostau. Pan fo tai fforddiadwy’n cael eu cynnwys yn y cynlluniau hyn, gall gwerth gweddillol yn sydyn ddod yn negyddol neu’n ymylol o ran hyfywedd. Mewn termau cyffredinol fodd bynnag, mae BP/9 yn dangos y bydd gwerth gweddillol ar ei uchaf rhwng 40dph a 50dph. Mae’r Cyngor, felly, wedi ceisio sicrhau datblygiadau o ddwysedd uwch o hyd at 50dph ar nifer o safleoedd yn Ardal y Strategaeth Ddatblygu Drefol mewn lleoliadau cynaliadwy i sicrhau lefel uwch o ddarpariaeth tai fforddiadwy. Bydd yn hanfodol profi hyfywedd cynllun tai wrth iddo gyrraedd y cam cynllunio yn unol â Pholisi HOU/2 ond gallai'r Cyngor hefyd gydnabod y bydd dwyseddau is, o dan 30dph, yn angenrheidiol mewn achosion eithriadol i gyflawni dyluniad ac amwynder boddhaol. I gyd-fynd â hyn, cefnogir cynlluniau anheddau cost isel ar y farchnad a fydd yn cael eu hadeiladu am bris fforddiadwy i’r rhai mewn angen, a galluogi hynny trwy lefel y dwysedd a gynigwyd , dyluniad, gosodiad a defnyddiau, lle bo tai fforddiadwy yn cael eu darparu a’u cadw am byth. Mae’r Cynllun Darparu Tai a’r Cynllun Fesul Cam (adran 5) yn rhoi manylion y safleoedd hynny a fydd yn darparu ar gyfer dwysedd tai uwch.


4.2.19.3 Mae adeiladu ar ddwysedd canolig i uchel hefyd yn ein galluogi i wneud y defnydd gorau o safleoedd datblygu, ac yn helpu diogelu cefn gwlad rhag datblygiadau diangen. Os yw adeiladu’n digwydd ar raddfa fawr, gall ffurfiau dwys o ddatblygiad hefyd gefnogi más critigol o bobl a allai fod angen i gefnogi cyfleusterau lleol. Nid oes unrhyw reswm pan ddylai dwysedd uwch gyfyngu ar ansawdd y datblygiad newydd.

4.2.20 Cymsgedd Tai

Polisi HOU/5 – CYMYSGEDD TAI

Dylai cynigion datblygu adlewyrchu gofynion y ddaliadaeth, math o dai a meintiau tai fel y nodir yn yr Asesiad o’r Farchnad Dai Leol a Chofrestrau Tai Fforddiadwy a Chamau Cyntaf Conwy, oni bai y gellir dangos tystiolaeth fod amgylchiadau lleol anheddiad penodol neu leoliad yn awgrymu y byddai cymysgedd gwahanol o dai yn diwallu anghenion lleol yn well. Ni fyddwn yn annog cymysgedd bwriedig o anheddau sy’n arwain at werth gweddillol negyddol a llai o dai fforddiadwy.


4.2.20.1 Dylai pob datblygiad tai yng Nghonwy fod yn gymhwysol a darparu ar gyfer ystod amrywiol o feintiau cartrefi preswylwyr' ac anghenion tai i greu cymunedau cymysg. Mae angen felly i bob datblygiad tai, ddarparu ystod fwy cytbwys o fathau tai i adlewyrchu anghenion a amlinellir yn y gymuned. Cafodd y rhaniad cyfartalog o gymysgiad tai ar draws y Ardal y Cynllun ei gasglu gan ddefnyddio'r rhagolygon poblogaeth diweddaraf a amlinellir yn BP/2. Bydd yr wybodaeth hon yn cael ei hadolygu yn sgil rhagolygon yn y dyfodol ar gyfer Conwy a chwblhau'r Asesiad o Farchnad Dai Leol Conwy.


4.2.20.2 Fel y nodwyd ym Mholisi Cynllunio Cymru, mae’n ddymunol o safbwynt cynllunio bod datblygiadau tai newydd mewn ardaloedd trefol a gwledig yn cynnwys cymysgedd rhesymol a chydbwysedd o ran mathau a meintiau tai fforddiadwy i ddarparu ar gyfer ystod o anghenion tai a chyfrannu at ddatblygu cymunedau cynaliadwy. Mae Polisi Cynllunio Cymru hefyd yn nodi ynglŷn â thai fforddiadwy ei bod yn bwysig i awdurdodau werthfawrogi'r galw am wahanol feintiau a mathau o anheddau tai (h.y. canolradd a rhent cymdeithasol) mewn perthynas â chyflenwad, fel bod ganddynt y wybodaeth orau wrth drafod y cymysgedd priodol sydd angen o anheddau ar gyfer datblygiadau newydd. Bydd y Cyngor yn gweithredu'r LHMA a’r Cofrestrau Tai Fforddiadwy drwy drafod y cymysgedd priodol o fathau o dai i ddiwallu anghenion y gymuned. Mae hyn yn berthnasol yn enwedig gyda stadau tai sydd â’r potensial, oherwydd eu maint, i gyfrannu’n sylweddol at anghenion cymuned am ystod ehangach o feintiau o anheddau a mathau o anheddau. Fel gyda HOU/4, profir pob goblygiad polisi sy’n ymwneud â dwysedd a materion cymysgedd datblygiad ar lefel cynllun penodol gan ystyried hyfywedd y cynllun unol â HOU/2.

4.2.21 Safloedd Eithriedig Gwledig I Dai Fforddiadwy Ar Gyfer Anghenion Lleol

Polisi HOU/6 – SAFLEOEDD EITHRIEDIG I DAI FFORDDIADWY AR GYFER ANGHENION LLEOL

Mae’n bosibl y caniateir cynlluniau tai sy’n darparu 100% AHLN fel eithriad i amgylchiadau polisi arferol yn unol â Pholisi Strategol HOU/1 a Pholisi HOU/2 cyn belled fod y meini prawf canlynol yn cael eu diwallu:

  1. Newydd Bod yr angen cyffredinol lleol am anheddau fforddiadwy wedi’i brofi.
  2. Nad oes unrhyw safleoedd heb eu dyrannu yn dod ymlaen o fewn ffiniau datblygu neu derfynau’r anheddiad a allai ddiwallu'r angen hwn;
  3. Fod y cynnig yn gyfagos ac yn estyniad rhesymegol i’r ffin ddatblygu neu yn gyfagos i’r anheddiad presennol;
  4. Fod trefniadau diogel yn cael eu darparu i gyfyngu ar feddiannaeth tŷ/tai fforddiadwy wrth ei feddiannu/eu meddiannu am y tro cyntaf, ac am byth, i’r rhai hynny a all brofi angen cyffredinol lleol am dŷ fforddiadwy;
  5. Fod nifer, maint, math a daliadaeth yr anheddau yn cwrdd ag anghenion lleol a gyfiawnheir fel yr amlinellir yn yr arolwg anghenion tai lleol yn unol â Pholisi HOU/5;
  6. Fod yr unedau AHLN yn rhai o ansawdd uchel, wedi’u hadeiladu i Ofynion Ansawdd Datblygu Llywodraeth y Cymru – Safonau a Chanllawiau Dylunio 2005 yn unol â Pholisi HOU/2, Polisi Strategol NTE/1 – ‘Yr Amgylchedd Naturiol’ a’r Cod ar gyfer Tai Cynaliadwy;
  7. Fod y cais datblygu’n diwallu'r gofynion a amlinellir yn yr Egwyddorion Datblygu a pholisïau cysylltiedig eraill y Cynllun.

4.2.21.1 Mae polisi cenedlaethol yn caniatáu safleoedd eithriedig wrth ddiwallu anghenion tai fforddiadwy o fewn, neu’n gyfagos, at bentrefi dan amgylchiadau lle na fyddai caniatâd cynllunio’n cael ei roi fel arfer a lle dangosir fod angen lleol am dai fforddiadwy na ellir ei ddiwallu mewn unrhyw ffordd arall. Mae’r safleoedd ‘eithriedig gwledig’ hyn yn cynnig ffynhonnell fechan ond bwysig o dai fforddiadwy mewn ardaloedd gwledig ac yn cael eu hystyried fel rhai ychwanegol i’r ddarpariaeth dai i ddiwallu anghenion cyffredinol. Pennir lleoliad safleoedd eithriedig gwledig ym Mholisi HOU/2.


4.2.21.2 Caiff safleoedd a chynigion o’r fath eu hasesu ar sail angen a brofwyd, addasrwydd y safle a maint yr annedd/anheddau, yn ogystal â fforddiadwyedd a gofynion lleol. Mae’n rhaid gallu datblygu safle a ddewisir mewn modd sy’n cyfrannu’n gadarnhaol at yr ardal, a rhaid iddo hefyd fod yn fforddiadwy. Mae’n rhaid i’r dwysedd, y gosodiad, y dyluniad, y deunyddiau, y tirlunio ac ati gyfrannu’n gadarnhaol at gymeriad y pentref neu’r ardal.


4.2.21.3 Ym mhob achos mae anghenion pentref penodol yn cael ei harolygu a’u hasesu’n ofalus gan y Cyngor, Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig a Galluogwyr Tai Gwledig cyn i gynllun fynd yn ei flaen. Gweithredir rheolaeth preswyliad i sicrhau fod manteision fforddiadwyedd (a sicrheir fel arfer gan fod sail eithriadol y cynllun yn golygu fod gwerth tir yn isel) yn cael eu diogelu am byth ar gyfer preswylwyr dilynol os diwallir meini prawf y Cyngor.


4.2.21.4 Bydd safleoedd eithriedig yn cael eu hystyried os nad yw safleoedd a ddyrannwyd o fewn y ffin ddatblygu wedi dod ger bron. Rhaid cynhyrchu tystiolaeth i ddangos nad yw’r safle’n debygol o gael ei gyflwyno am beth amser neu nad yw pellach yn bosibl ei ddarparu oherwydd cyfyngiadau newydd.

4.2.22 Safloedd Dan Berchnogaeth Y Cyngor a’r Llywodraeth yn Ardal y Cynllun

Polisi HOU/7 – SAFLEOEDD DAN BERCHNOGAETH Y CYNGOR A’R LLYWODRAETH YN ARDAL Y CYNLLUN

Bydd y Cyngor yn ceisio cyflawni lefelau uwch o AHLN ar safleoedd dan berchnogaeth y Cyngor a’r Llywodraeth sydd uwchlaw'r safonau ar gyfer safleoedd preifat, os ydynt yn hyfyw, yn unol â Pholisi HOU/2 ac fel y dangosir yn Nhabl HOU2b a’r Cynllun Darparu Tai Fesul Cyfnod.


4.2.22.1 Bydd gwerthu tir dan berchnogaeth yr awdurdod lleol a’r Llywodraeth ar gyfer AHLN hefyd yn ychwanegu at y sicrwydd o ddarparu. O ganlyniad i lefel anghenion tai’r Ardal y Cynllun, a’r flaenoriaeth o ddiogelu’r amgylchedd naturiol a hanesyddol, nodir tir dan berchnogaeth y Cyngor yn y Cynllun Darparu Tai Fesul Cyfnod. Os oes modd eu darparu a’u bod yn addas i gymeriad yr ardal, bydd y Cyngor yn ceisio caniatáu ar gyfer darpariaeth AHLN uwch ar y safle na’r safonau a osodir ar gyfer safleoedd mewn perchnogaeth breifat.

4.2.23 Cofrestr Daliadaeth Tir

Polisi HOU/8 – COFRESTR DALIADAETH TIR

Bydd y Gwasanaeth Polisi Cynllunio Strategol yn ceisio sefydlu mewn partneriaeth â Gwasanaeth Tai Conwy, Parc Cenedlaethol Eryri ac asiantaethau cyhoeddus eraill, cofrestr daliadaethau tir ledled y Ardal y Cynllunmewn perchnogaeth gyhoeddus ar gyfer AHLN.


4.2.23.1 I sicrhau cymaint â phosibl o ddefnydd a gallu i ddarparu ar gyfer safleoedd eithriedig a dyraniadau posibl o 100% o AHLN yn y dyfodol, bydd y Cyngor yn mynd ati’n rhagweithiol i sefydlu cofrestr ar gyfer y Ardal y Cynllun gyfan, gyda’r Gwasanaeth Peirianneg a Dylunio, Gwasanaethau Tai, awdurdodau cyfagos lle mae materion trawsffiniol yn bodoli, a Llywodraeth Cymru. Bydd y tir yn cael ei werthuso’n rheolaidd i sicrhau fod banc tir o safleoedd a allai gael eu darparu a rhai addas ar gael i ddiwallu anghenion tai fforddiadwy'r gymuned.

4.2.24 Diwallu Anghenion Sipsiwn a Theithwyr am Safleoedd

Polisi HOU/9 – DIWALLU ANGHENION SIPSIWN A THEITHWYR AM SAFLEOEDD

  1. Os dynodir angen am safle carafán sipsiwn a theithwyr, bydd cynigion yn cael eu caniatáu cyn belled fod y meini prawf canlynol yn cael eu diwallu:
  1. Rhaid i’r safle fod yn addas ar gyfer y math hwn o ddefnydd gyda thebygrwydd rhesymol y gellir datblygu'r safle yn ystod cyfnod y cynllun;
  2. Bydd tir wedi ei ddatblygu o’r blaen, neu dir gwag, ar ymyl ardaloedd trefol yn cael eu hystyried o flaen safleoedd mewn lleoliadau gwledig. Gall safleoedd mewn lleoliadau gwledig neu led-gwledig fod yn dderbyniol, ar yr amod eu bod yn parchu graddfa’r cymunedau gerllaw ac nid yn rhoi gormod o faich ar yr isadeiledd lleol.
  3. Bydd safle wedi ei ddyrannu ar gyfer defnyddiau eraill ond yn cael ei ryddhau fel eithriad lle bod asesiad anghenion tai lleol wedi sefydlu bod angen safle i sipsiwn neu deithwyr, ac na ellir diwallu'r angen mewn unrhyw ffordd arall ac nad yw graddfa datblygiad yn uwch na lefel yr angen a ddynodwyd;
  4. Bod y safle o fewn cyrraedd i siopau, ysgolion a chyfleusterau iechyd ar gludiant cyhoeddus, ar droed neu ar feic;
  5. Bod mynediad da i’r brif rwydwaith gludiant ac na fydd y datblygiad fwriedig yn achosi tagfeydd traffig a phroblemau diogelwch ffordd;
  6. Bod y safle eisoes wedi’i sgrinio yn briodol neu fod modd ei sgrinio a’i dirlunio’n ddigonol;
  7. Y bydd gan y safle wasanaethau digonol ar y safle ar gyfer cyflenwad dŵr, ynni, draeniad, gwaredu carthffosiaeth a chyfleusterau gwaredu gwastraff;
  8. Na fyddai'r datblygiad yn niweidiol i amwynder preswylwyr cyfagos.
  1. Yn seiliedig ar yr angen yn yr Asesiad Llety Sipsiwn a Theithwyr (GTANA), bydd y Cyngor yn nodi ac yn ceisio cael caniatâd cynllunio ar gyfer safleoedd addas erbyn Medi 2014


4.2.24.1 Mae angen darpariaeth briodol i ddiwallu anghenion sipsiwn, a theithwyr. Mae angen dealltwriaeth o’r anghenion hyn os bydd llety addas yn cael ei ddarparu a bod y nifer o wersylloedd heb eu hawdurdodi a datblygiadau yn y Ardal y Cynllun yn cael eu lleihau. Mae bellach yn ofyniad statudol dan Adran 225 Deddf Tai 2004 i bob awdurdod cynllunio lleol asesu anghenion llety bob grŵp o Sipsiwn a theithwyr a mynd i’r afael ag unrhyw anghenion a ddynodir drwy'r system gynllunio. Mae’n ofynnol felly i bob awdurdod cynllunio lleol gynnwys polisïau addas yn y CDLl i’w defnyddio wrth ystyried safleoedd bwriedig i Sipsiwn a Theithwyr ac i ddyrannu safleoedd os caiff angen clir ei ddynodi.


4.2.24.2 Mae Cylchlythyr Llywodraeth Cymru 30/2007 (‘Cynllunio ar gyfer Safleoedd Carafannau Sipsiwn a Theithwyr’) yn gorchymyn fod pob awdurdod cynllunio lleol yn cynnwys darpariaeth ar gyfer safleoedd carafannau sipsiwn a theithwyr drwy ddyrannu safleoedd, lle dynodir bod angen yn bodoli, ynghyd â pholisïau’n seiliedig ar feini prawf. Er bod y canllaw’n cydnabod y gellir ystyried amrywiaeth o ffynonellau gwybodaeth wrth asesu’r angen a lefel y ddarpariaeth sydd ei hangen, mae’n pwysleisio bod yn rhaid i’r wybodaeth fod yn gadarn. Mae’r canllaw’n cydnabod bod Asesiadau Marchnad Dai Lleol (LHMAs) yn ffynhonnell allweddol o wybodaeth sy’n galluogi awdurdodau lleol i asesu lefel y ddarpariaeth o ran llety sydd ei hangen ar gyfer sipsiwn a theithwyr wrth baratoi eu CDLl.


4.2.24.3 Mae Canllaw ar wahân gan Lywodraeth Cymru ar baratoi LHMAs (Mawrth 2006) yn argymell yn gryf y dylai awdurdodau lleol weithio mewn partneriaeth ag awdurdodau cyfagos, gan fod y patrymau teithio’n debygol o groesi ffiniau awdurdodau lleol.


4.2.24.4 Ar hyn o bryd, mae’r Cyngor yn cynnal ‘Asesiad Marchnad Dai Lleol’ (LHMA) ar gyfer y gogledd orllewin mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol cyfagos a Phrifysgol Bangor. Yn rhan o’r gwaith hwn, mae ‘Asesiad Anghenion Llety Sipsiwn a Theithwyr’ (GTANA) wedi cael ei gynnal, sy’n cynnwys cyfweliadau wyneb yn wyneb â rhanddeiliaid o’r gymuned o deithwyr sipsiwn ac yn creu sail gadarnach ar gyfer asesu’r angen am lety i sipsiwn a theithwyr yn y rhanbarth dros gyfnod y CDLl. Er nad yw’r GTANA wedi cael ei gyhoeddi’n ffurfiol eto, mae’r canfyddiadau ar gael, ac yn dangos yr angen am 3 llain breswyl yng Nghonwy erbyn 2016 gydag angen wedi’i ragamcanu i dyfu o 3% y flwyddyn. Yn ogystal, mae’r GTANA wedi nodi angen tebygol am safle dros dro (i hyd at 7 o garafannau) ar y ffin gyda Sir Ddinbych, lle gall y ddau awdurdod o bosibl gyd-weithio yn y ddarpariaeth er mwyn gwneud y mwyaf o’r defnydd.


4.2.24.5 Yn sgil y canfyddiadau hyn, mae’r Cyngor wedi ehangu Polisi HOU/9 i gynnwys ymrwymiad i nodi a cheisio caniatâd cynllunio ar gyfer safleoedd o fewn terfyn amser penodol yn seiliedig ar yr angen a nodwyd. Er mwyn sicrhau bod potensial i ddarparu anghenion preswyl a thros dro, mae angen i'r Cyngor nodi safleoedd addas yng Nghonwy a gofyn am ganiatâd o fewn yr amserlen a nodwyd. Yn ogystal , fel ymarfer ar wahân , bydd y posibilrwydd o ddull ar y cyd gyda Chyngor Sir Ddinbych yn cael ei ystyried a allai nodi cyfleoedd pellach i ddarparu ar gyfer anghenion dros dro.


4.2.24.6 Wrth gynllunio i ddarparu llety i Sipsiwn a Theithwyr, mae’n bwysig bod y safle/safleoedd yn gynaliadwy a bod ganddynt fynediad da i wasanaethau a chyfleusterau allweddol ac yn cynnal ac yn gwella'r amgylchedd naturiol. Mewn perthynas â darparu safle, archwilir ffynonellau posibl Llywodraeth Cymru i gyllido ar gyfer darparu safle.

4.2.25 Tai Amlbreswyl a Fflatiau Hunangynhwysol

Polisi HOU/10 – TAI AMLBRESWYL A FFLATIAU HUNANGYNHWYSOL

  1. Bydd y Cyngor yn rheoli datblygiad Tai Amlbreswyl i gynorthwyo i adfywio, gwella ansawdd a dewis tai, a chyfrannu at well amgylchedd yn Ardal y Cynllun. Bydd hyn yn cael ei gyflawni drwy wrthwynebu bob cynnig i greu Tai Amlbreswyl.
  2. Bydd rhannu eiddo preswyl yn Ardal y Strategaeth Ddatblygu Drefol i fflatiau hunangynhwysol yn cael eu caniatáu cyn belled:
  1. Nad yw’r cynllun cadwraeth a newid yn creu Tŷ Amlbreswyl;
  2. Os yw’n briodol, a bod y datblygiad yn cydymffurfio ag Egwyddorion datblygu, Safonau Parcio’r Cyngor a bod pob un o’r fflatiau hunangynhwysol wedi ei dylunio i ansawdd uchel yn unol â gofynion Ansawdd Datblygu Llywodraeth y Cymru - Safonau a Chanllawiau Dylunio 2005 sy’n cynnwys gofod a safonau Cartref Gydol Oes a safonau isafswm i’w cyflawni mewn perthynas â’r Cod Cartrefi Cynaliadwy ;
  3. Na fyddai'r lefel o weithgarwch preswyl a’r traffig a gynhyrchir yn cael effaith ddifrifol ar breifatrwydd ac amwynder preswylwyr eiddo cyfagos;
  4. Fod y Datblygiad yn cael ei gefnogi gan angen a ddynodir fel yr amlinellir yn yr Asesiad o’r Farchnad Dai Leol (Cam 2).


4.2.25.1 Mae creu fflatiau hunangynhwysol wedi cynyddu mewn poblogrwydd dros y blynyddoedd diwethaf, yn enwedig yn ardaloedd Bae Colwyn a Llandudno. Cyflawnwyd hyn drwy godi adeiladau newydd a drwy drawsnewid tai mawr neu eiddo masnachol. Gall fflatiau hunangynhwysol helpu mynd i’r afael ag anghenion y rhai sy’n aros i brynu neu rentu unedau llety bach, yn ogystal â darparu dewis tai cymharol fforddiadwy i rai sy’n dymuno prynu eu heiddo cyntaf.


4.2.25.2 Er fod creu fflatiau hunangynhwysol yn helpu diwallu angen tai, mewn rhai achosion gall eu darparu fod yn niweidiol i amwynder yr ardaloedd preswyl presennol. Er enghraifft gall niferoedd mawr o fflatiau arwain at broblemau fel diffyg llefydd parcio ar y stryd a phroblemau gyda storio biniau. Yn ogystal, mae ardaloedd gyda lefelau uchel o fflatiau yn aml yn cael eu cysylltu gyda lefelau isel o breswylwyr sy’n berchnogion a gall hyn mewn rhai achosion arwain at safonau is o ran cynnal a chadw a materion cysylltiedig yn ymwneud â dirywiad amgylcheddol (gan felly effeithio ar welliant amgylcheddol ac amcanion adfywio). Yn ogystal, gall effaith gronnus trawsnewid anheddau mwy yn fflatiau gael effaith niweidiol ar y gwaith o greu cymunedau cymysg a chytbwys drwy ostwng y nifer o gartrefi teuluol sydd ar gael mewn ardal. Ar hyn o bryd mae crynodiadau uchel o fflatiau hunangynhwysol sy’n cael effaith ar gymeriad ac ymddangosiad ardal Bae Colwyn. I wella ymddangosiad yr ardal a chynorthwyo i adfywio Bae Colwyn, yn benodol, ac ardaloedd eraill ar hyd rhimyn yr arfordir, mae angen Polisi HOU/10 i atal crynodiad rhy fawr o ddefnyddiau o’r fath a sicrhau fod datblygiadau’n diwallu anghenion dynodedig. Bydd Polisi HOU/10 hefyd yn cefnogi'r agwedd a amlinellir ym Mhrif Gynllun Ardal Bae Colwyn i wella'r tai sydd ar gael, mynd i’r afael ac eithrio cymdeithasol a lleihau amddifadedd ym Mae Colwyn.


4.2.25.3 Yn ogystal â fflatiau hunangynhwysol, mae darparu Tai Amlbreswyl (adeiladau lle mae rhai cyfleusterau’n cael eu rhannu gan nifer o bobl a fyddai fel arall yn byw’n annibynnol o’i gilydd) wedi bod yn broblem hanesyddol yng Nghonwy, yn benodol, ym Mae Colwyn. Mae Tai Amlbreswyl (HMOs) yn aml yn darparu amgylchedd byw cymharol wael ac nid ydynt yn aml yn gwneud cyfraniad positif tuag at ansawdd ardal. Er mwyn cefnogi amcanion adfywio cenedlaethol a lleol, yn ogystal â pholisïau eraill a fabwysiadir gan y Cyngor, byddwn yn gwrthwynebu’n gadarn sefydlu creu o dai amlbreswyl a phwysleisio’r angen i leihau eiddo fel hyn yng Nghonwy.


4.2.25.4 Bydd y Cyngor yn llunio Canllawiau Cynllunio Atodol (SPG) ar Fflatiau Hunangynhwysol a Thai Amlbreswyl i gefnogi’r polisi’n unol â Pholisi DP/7 – ‘Canllawiau Cynllunio Lleol’. Bydd yr SPG yn darparu canllawiau ategol i Bolisi HOU/10 gan roi manylion y diffiniadau o Fflatiau Hunangynhwysol a Thai Amlbreswyl a’r safonau dylunio gofynnol ar gyfer trawsnewid fflatiau hunangynhwysol.

4.2.26 Cartrefi Gofal Preswyl a Thai Gofal Ychwanegol

Polisi HOU/11 – CARTREFI GOFAL PRESWYL A THAI GOFAL YCHWANEGOL

O fewn Ardal y Cynllun bydd cynigion ar gyfer cartrefi gofal preswyl neu dai gofal ychwanegol ond yn cael eu caniatáu os bodlonir y meini prawf canlynol:

  1. Fod y llety gofal newydd wedi’i leoli naill ai o fewn ffiniau’r anheddiad a nodir yn Ardal y Strategaeth Ddatblygu Drefol neu mewn Prif Bentref Haen 1;
  2. Ar gyngor Gwasanaeth Cymdeithasol y Cyngor ac/neu'r Strategaeth Tai a gan ystyried graddfa'r sefydliadau preifat ac awdurdod iechyd lleol presennol na fydd y cynnig yn arwain at orddarpariaeth o lety gofal o’i gymharu ag anghenion yr ardal leol;
  3. Bod modd gwasanaethu'r llety gofal newydd yn ddigonol;
  4. Bod y llety wedi’i leoli o fewn pellter cerdded rhesymol i ganol tref neu bentref.


4.2.26.1 Mae nifer sylweddol o sefydliadau gofal preswyl yn bodoli o fewn Ardal y Cynllun, yn enwedig yn Ardal y Strategaeth Ddatblygu Drefol. Mae’r Awdurdod yn ystyried bod y ddarpariaeth bresennol yn ddigonol i ddiwallu anghenion rhesymol yr ardal leol, y dylid gwrthwynebu datblygiad pellach. Bydd agwedd o’r fath yn osgoi pwysau gormodol ar y Gwasanaethau Cymdeithasol lleol a’r tir cyfyngedig o fewn aneddiadau presennol, a allai fod ei angen i bwrpasau eraill. Cyn gwneud penderfyniad ar gais i greu neu ymestyn cartref gofal, bydd yr Awdurdod yn ystyried cyngor y Gwasanaethau Cymdeithasol ac/neu’r Strategaeth Tai i weld a oes angen am sefydliadau o’r fath.


4.2.26.2 O safbwynt datblygiad cynaliadwy, mae'r Awdurdod yn credu fod yr aneddiadau yn Ardal y Strategaeth Ddatblygu Drefol a Prif Bentrefi Haen 1 yn darparu'r lleoliadau mwyaf priodol ar gyfer cartrefi preswyl ar gyfer pobl hŷn. Mewn lleoliadau lle mae’r Awdurdod yn fodlon fod modd darparu cartref preswyl i’r henoed yn foddhaol, dylai fod wedi’i leoli o fewn pellter cerdded rhesymol i wasanaethau tref neu bentref ac mewn lleoliad a fydd yn lleihau effeithiau'r cais ar amwynder eiddo preswyl cyfagos.


4.2.26.3 Yn yr un modd, bydd yr Awdurdod yn cefnogi ailddefnyddio adeiladau mawr ar gyfer pwrpasau gofal preswyl, yn amodol ar y gofynion lleoliad a amlinellir uchod. Yn ogystal rhaid i’r awdurdod fod yn fodlon y gellir defnyddio a thrawsnewid yr adeilad heb niweidio cymeriad presennol yr ardal neu mewn modd sy’n debygol o niweidio amwynder eiddo cyfagos.


4.2.26.4 Mae tai gofal ychwanegol yn gwneud cyfraniad pwysig at ddarpariaeth fforddiadwy. Er nad ydynt wedi eu cynnwys yn yr ystadegau fel tai fforddiadwy newydd, mae rhai trigolion sy’n symud i mewn i’r cartrefi hyn yn gadael tai gwag fforddiadwy ar gyfer pobl eraill.

4.2.27 Ailddefnyddio ac Addasu Adeiladau Gwledig Diangen ar gyfer Defnydd Preswyl

Polisi HOU/12 – AILDDEFNYDDIO AC ADDASU ADEILADAU GWLEDIG DIANGEN AR GYFER DEFNYDD PRESWYL

  1. Cefnogir trawsnewid ac ailddefnyddio adeiladau teilwng o adeiladwaith addas yn yr ardal wledig ar gyfer defnydd preswyl parhaol, yn amodol ar y canlynol:-
  1. Y gellir dangos nad oes galw sylweddol ar gyfer defnydd busnes, twristiaeth, chwaraeon ac/neu hamdden i sicrhau bod yr adeilad yn cael ei gadw, a;
  2. Bod y datblygiad a gynigir yn ceisio cyfrannu at Dai Fforddiadwy ar gyfer Angen Lleol yn unol â Pholisi HOU/2, a,
  3. Bod yr adeilad presennol o adeiladwaith cadarn ac yn addas i’w drawsnewid neu fod modd sicrhau hynny heb wneud unrhyw addasiadau na gwaith ailadeiladu graddfa fawr sylweddol ar du allan yr adeilad, a;
  4. Bod yr adeilad yn werth ei gadw oherwydd ei ymddangosiad, ei werth hanesyddol, pensaernïol neu dirweddol, a bod y cynllun i drawsnewid yn cadw’r nodweddion pwysig a bennir, a;
  5. Bod modd darparu mynediad diogel i gerddwyr a cherbydau heb amharu ar gymeriad ac ymddangosiad yr ardal, a;
  6. Bod y cynnig yn cynrychioli datblygiad cynaliadwy o ran y lleoliad a’r adeiladwaith, ac;
  7. Na fydd unrhyw waith ategol yn gysylltiedig â’r trawsnewid yn cael effaith andwyol annerbyniol ar gymeriad gwledig yr ardal leol.
  1. Penderfynir ynghylch cynigion datblygu am drawsnewidiadau preswyl sy’n agwedd eilradd mewn cynllun ar gyfer defnydd busnes yn unol â Pholisi DP/6 ‘Polisi Cynllunio Cenedlaethol’.


4.2.27.1 Ni chaiff cynigion am ddatblygiadau preswyl ond eu hystyried ar ôl gwneud pob ymdrech i sicrhau adeilad gwledig teilwng o adeiladwaith addas ar gyfer defnydd economaidd yn unol â’r polisi. Dylid cyflwyno datganiad cefnogol gyda’r gais sy’n egluro pa mor helaeth fu’r marchnata ac yn cynnwys safbwynt yr asiant ynghylch hyfywedd masnachol y safle. Anogir ymgeiswyr i ddarllen yr adrannau perthnasol yn y Canllaw Cynllunio Atodol ar Drawsnewidiadau Gwledig er mwyn cael arweiniad manwl pellach ar gynnal ymarferion marchnata boddhaol a llunio datganiadau cefnogol.


4.2.27.2 Oherwydd eu lleoliad, rhaid rheoli datblygiadau o’r fath yn ofalus iawn. Mae’n hollbwysig fod y defnydd a’r dyluniad a gynigir yn ystyriol o gymeriad ac ymddangosiad yr adeilad presennol a’r ardal o’i amgylch. Mae Polisi DP/3 - ‘Hyrwyddo Ansawdd Dylunio a Lleihau Trosedd’ a’r Canllaw Cynllunio Atodol LDP9: ‘Dylunio’ hefyd yn berthnasol. Yn ogystal â hyn, mae’r Cyngor yn cydnabod bod Ardal y Cynllun yn cynnwys sawl adeilad ac adeiladwaith nad ydynt wedi’u rhestru sydd, oherwydd eu dyluniad, y deunydd a ddefnyddiwyd i’w hadeiladu, a’u cysylltiadau cymdeithasol a hanesyddol, yn rhan annatod o gymeriad a hunaniaeth eu hardal. Mae Polisi CTH/3 - ‘Adeiladau a Strwythurau o Bwysigrwydd Lleol’ a Chanllaw Cynllunio Atodol LDP8: ‘Adeiladau a Strwythurau o Bwysigrwydd Lleol’ hefyd yn bwysig.


4.2.27.3 Dylai datblygiadau weddu i’w lleoliad o ran maint, oherwydd gallai datblygiadau cyflogaeth mawr yng nghefn gwlad wrthdaro ag egwyddorion datblygu cynaliadwy, gan greu symudiadau traffig anghynaliadwy ac achosi niwed posibl i’r amgylchedd. Dylid lleoli datblygiadau sydd yn creu nifer sylweddol o gyflogeion neu ymwelwyr mewn aneddiadau neu’n agos at aneddiadau. Dylai’r datblygiadau hyn hefyd fod yn hygyrch ar gludiant cyhoeddus, drwy seiclo neu gerdded. Mewn ardaloedd heb fynediad o’r fath, gallai datblygiad busnes graddfa fach fod yn briodol os nad yw ond yn creu rhywfaint o gynnydd o ran symudiad cerbydau. Ar gyfer hyn, mae’n bosibl y bydd angen creu Cynllun Teithio ac/neu liniaru effaith traffig yn unol â Pholisi Strategol STR/1 - ‘Cludiant Cynaliadwy, Datblygu a Hygyrchedd’.

Am gyfarwyddiadau ar sut I ddefnyddio’r system ac I wneud sylwadau, gwelwch ein canllaw cymorth.
back to top Yn ôl i’r brig