Adroddiad Adolygu

Daeth i ben ar 22 Rhagfyr 2017
Am gyfarwyddiadau ar sut I ddefnyddio’r system ac I wneud sylwadau, gwelwch ein canllaw cymorth.

Strategaeth CDLI

4.1 Mae strategaeth ofodol y CDLl fel y'i hamlinellir yn Adran 3 a pholisi CD/2 y CDLl, yn dosbarthu twf preswyl a chyflogaeth yn ôl hierarchaeth setliadau a'r dosbarthiad twf gofodol dewisol. Mae Papurau Cefndir BP/08: Hierarchaeth Aneddiadau ac Asesiad Ffiniau Aneddiadau BP/37- Adroddiad ar yr Opsiynau Dosbarthu Twf, yn disgrifio'r dystiolaeth a'r cyfiawnhad dros y strategaeth a ddewiswyd.

4.2 Mae'r CDLl yn berthnasol i bob rhan o Fwrdeistref Sirol Conwy sydd y tu allan i Barc Cenedlaethol Eryri. Mae'r ymdriniaeth strategol drosfwaol yn nodi dosbarthiad perthnasol twf preswyl ac economaidd rhwng ardaloedd trefol (ASDdD) a gwledig (ASDdW) y strategaeth ddatblygu. Clustnodir 85% o dwf i'r ASDdD (yr ardal arfordirol adeiledig a Llanrwst) a 15% i'r ASDdW sy'n weddill. O fewn yr ASDdD, dosberthir twf ymhellach yn unol â'r Strategaeth Hybrid fel yr eglurir yn BP/37 ac a ddangosir yn Siart 4.1 isod.

siart%204 1

Cyflenwad

4.3 Mae elfen breswyl y twf hwn yn cynnwys sawl gwahanol ffynhonnell er mwy cyrraedd targed y CDLl o 6520, gan gynnwys tai a gwblhawyd ers dechrau cyfnod y CDLl yn 2007, safleoedd wedi'u hymrwymo a'u clustnodi, hap-ddatblygiadau a thai gwag. Mae Tabl 4.1 yn dangos y cyflenwad tai fel y'i rhagwelwyd pan fabwysiadwyd CDLl 2013 ac mae Tabl 4.2 yn dangos y cyflenwad tai yn seiliedig ar Gydastudiaeth Tir ar Gyfer Tai 2017. Mae'n bwysig nodi fod tabl 2013 yn cymryd fod yr holl safleoedd a glustnodwyd yn y cyflenwad tir dros y 9 mlynedd ddilynol, ond yn nhabl 4.2 yr unig safleoedd sydd wedi'u cynnwys yn y golofn 'clustnodwyd' yw'r rhai hynny sydd yn y cyflenwad 5 mlynedd ond nad ydynt eto wedi cael caniatâd cynllunio. Mae unrhyw safleoedd a glustnodwyd ac y cafwyd caniatâd cynllunio ar eu cyfer (ar wahân i'r unedau hynny sydd wedi'u cwblhau) wedi'u cynnwys yn y golofn 'caniatawyd'.

Tabl 4.1: Cyflenwad Tai CDLl 2013

Cwblhau

Caniatâd

Ar hap

Dyraniadau

Tai gwag

CYFANSWM

%

TREFOL

Abergele, Tywyn a Bae Cinmel

143

245

95

800

116

1399

21.3%

Conwy, Cyffordd Llandudno a Llandudno

485

424

426

305

135

1775

27.1%

Bae Colwyn, Llandrillo-yn-Rhos a Mochdre

506

245

352

574

174

1851

28.2%

Llanfairfechan a Phenmaenmawr

132

53

80

40

44

349

5.3%

Llanrwst

33

0

58

200

21

312

4.8%

Cyfanswm Trefol

1299

967

1011

1919

490

5686

86.8%

GWLEDIG

Prif Bentrefi Haen 1

28

70

43

235

8

384

5.9%

Prif Bentrefi Haen 2

46

0

103

170

12

331

5.1%

Pentrefi Bach

16

0

33

0

6

55

0.8%

Pentrefannau

6

0

31

0

4

41

0.6%

Cefn Gwlad Agored

23

0

35

0

0

58

0.9%

Cyfanswm Gwledig

119

70

245

405

30

869

13.2%

CYFANSWM

1418

1037

1256

2324

520

6555

100.0%

Moderneiddio Ysgol

199

CYFANSWM

6754

Wrth gefn

522

CYFANSWM TAI CYFFREDINOL

7276

Tabl 4.2: Cyflenwad Tai CDLl 2017

Cwblhau

Caniatâd

Ar hap

Dyraniadau

Tai gwag

CYFANSWM

%

TREFOL

Abergele, Tywyn a Bae Cinmel

280

243

25

266

128

942

18.3

Conwy, Cyffordd Llandudno a Llandudno

1130

148

93

85

132

1588

30.9

Bae Colwyn, Llandrillo-yn-Rhos a Mochdre

650

289

69

215

317

1540

29.9

Llanfairfechan a Phenmaenmawr

178

35

15

0

48

276

5.4

Llanrwst

50

0

17

30

27

124

2.4

Cyfanswm Trefol

2288

715

219

596

653

4471

86.9

GWLEDIG

Prif Bentrefi Haen 1

84

91

8

165

27

375

7.3

Prif Bentrefi Haen 2

54

0

8

67

21

150

2.9

Pentrefi Bach

22

0

6

0

7

35

0.7

Pentrefannau

11

0

5

0

3

19

0.4

Cefn Gwlad Agored

48

0

25

0

21

94

1.8

Cyfanswm Gwledig

219

91

52

232

79

673

13.1

CYFANSWM

2507

806

271

828

732

5144

100

Moderneiddio Ysgol

199

CYFANSWM TAI CYFFREDINOL

5343

(4)4.4 Ymysg y newidiadau allweddol i'r cyflenwad tai ers 2013 mae'r cynnydd anorfod mewn datblygiadau wedi'u cwblhau oherwydd nifer yr anheddau a adeiladwyd yn y cyfamser. Un o'r newidiadau sy'n peri'r mwyaf o bryder yw'r gostyngiad arwyddocaol mewn safleoedd ar-hap. Mae hyn yn cynnwys nifer yr anheddau a ragwelir fydd yn cael eu hadeiladu ar safleoedd bychan (<10) hyd ddiwedd cyfnod y Cynllun ac mae'n seiliedig ar ddata cwblhau blaenorol. Byddai gostyngiad o oddeutu hanner i'w ddisgwyl, gan fod erbyn hyn lai o flynyddoedd ar ôl tan 2022, fodd bynnag mae'r ffigwr wedi cwympo o 1256 i 271. Mae'r rhagamcaniadau hyn yn adlewyrchu'r gostyngiad a welwyd yn nifer yr anheddau a gwblhawyd ar safleoedd bychan ers argyfwng economaidd 2007-8. Mae manylion tai a gwblhawyd ar safleoedd bach a mawr wedi'u rhestru yn Atodiad 2 adroddiadau JHLAS a gyhoeddwyd.1

1 Ar gael drwy ddilyn www.conwy.gov.uk/catt

Adolygiad o'r Strategaeth Ofodol

4.5 O ran y Strategaeth Ofodol, mae'r cyflenwad tai yn cyd-fynd yn fras a'r opsiwn dewisol, er bod y twf o 13.1% a ragwelwyd yn yr ASDdD ychydig yn wannach na'r targed o 15% a bennwyd yn y strategaeth. Yn yr ASDdD mae twf yn ardaloedd Conwy, Llandudno, Cyffordd Llandudno, Bae Colwyn, Llanfairfechan a Phenmaenmawr wedi bod yn gryf o ran y gyfran dwf ddisgwyliedig ond nid yw'r sefyllfa gystal yn Abergele, Towyn a Bae Cinmel. Fodd bynnag mewn telerau absoliwt, mae pob ardal yn is na'r lefel sy'n angenrheidiol i ddiwallu'r targedau tai perthnasol, sydd wedi arwain at ddiffyg cyflenwad tir ar gyfer tai.

4.6 Mae datblygu ar gyfer cyflogaeth wedi bod yn araf ledled ardal yr Awdurdod, ond yn arbennig yn yr ardal wledig. Yn ôl Adroddiad Monitro 2016 yr Awdurdod, datblygwyd 11.7ha o dir ar gyfer cyflogaeth yn yr ASDdD ers dechrau cyfnod y CDLl, ond ni ddatblygwyd unrhyw dir ar gyfer cyflogaeth yn yr ASDdW.

(1)4.7 Mewn sawl rhan o'r Fwrdeistref Sirol mae'r risg o lifogydd lleol yn effeithio ar ddatblygu, fodd bynnag mewn rhai mannau mae goblygiadau hyn o ran y strategaeth ehangach yn fwy difrifol. Yn ardal Abergele, Towyn a Bae Cinmel, cafodd ardaloedd eang o dir (rhai ohonynt eisoes wedi'u dynodi fel mannau y gellid eu clustnodi ar gyfer eu datblygu yn CDLl cyhoeddus 2009) eu diystyru fel tir ar gyfer ei ddatblygu yn dilyn cyngor diweddaredig gan Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru (Cyfoeth Naturiol Cymru bellach). Mae safle cyflogaeth (Tir Llwyd) hefyd wedi'i effeithio a hynny ar ôl iddo gael ei ddatblygu'n rhannol a seilwaith sylweddol wedi'i osod ond heb fawr ddim gobaith y bydd caniatâd datblygu'n cael ei roi.

4.8 Roedd yr asesiad blaenorol o hierarchaeth a ffiniau aneddiadau (BP/8) yn seiliedig ar feini prawf cynaladwyedd a oedd yn ddibynnol ar gyfleusterau cymunedol pob anheddiad a'u mynediad at gludiant. Mae Polisi CFS/6 - "Diogelu Cyfleusterau Cymunedol y tu allan i'r Ganolfan Is-ranbarthol a Chanol Trefi" wedi ymdrechu i ddefnyddio'r system gynllunio er mwyn cynorthwyo i ddiogelu cyfleusterau cymunedol ac nid yw'r sbardun mewn perthynas â'r polisi hwn wedi'i gyrraedd yn AMR 2016. Serch hynny effeithiwyd ar rai aneddiadau oherwydd colli siopau a thafarndai, cau ysgolion a newid llwybrau bysiau.

Gofynion Tai y CDLl

(7)4.9 Nid oedd rhagamcanion poblogaeth Llywodraeth Cymru (seiliedig ar y flwyddyn 2009) yr oedd targedau twf y CDLl wedi'u seilio arnynt yn ystyried effeithiau'r argyfwng economaidd byd-eang. Defnyddiwyd cyfnod o dwf eithriadol o uchel fel sail ar gyfer y rhagamcanion a arweiniodd at y targed arfaethedig o 6520 annedd, er gwaethaf y ffaith fod effaith y dirwasgiad dilynol ar brisiau tai a'r nifer o dai a gwblhawyd yng Nghonwy yn amlwg. Roedd hwn yn darged afrealistig o ystyried cyflwr y farchnad dai yng Ngogledd Cymru. Gyda phob blwyddyn y mae CBSC wedi methu â chyrraedd y targed tai, mae'r gofyniad blynyddol ar gyfer gweddill cyfnod y CDLl yn cynyddu. Gwaethygwyd y sefyllfa hon yn 2015 yn sgil newidiadau i TAN1 a oedd yn dileu'r dull o gyfrifo cyflenwad tir yn seiliedig ar gyfraddau adeiladu'r gorffennol, a oedd tan hynny wedi rhoi darlun eithaf clir o gyfrifiadau cyflenwadau tir, tra bo'r dull wedi hynny yn '.......dynodi diffyg neu warged nad yw'n bodoli'n ymarferol'.

(3)4.10 Ym mis Chwefror 2014, bedwar mis ar ôl mabwysiadu'r CDLl, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ragamcanion aelwydydd diwygiedig yn seiliedig ar gyfrifiad 2011. Fel y rhagwelwyd, roedd y rhain yn nodi gofyniad tai sylweddol is, fodd bynnag mae wedi'i wneud yn glir drwy lythyr gan y Gweinidog (Ebrill 2014) a newidiadau i Bolisi Cynllunio Cymru (9.2) y dylai awdurdodau cynllunio lleol leihau'r pwyslais a roddir ar ragamcanion tai Llywodraeth Cymru wrth bennu gofynion tai'r CDLl gan ei bod yn angenrheidiol hefyd rhoi sylw i sawl ystyriaeth berthnasol arall.

Casgliad

(9)4.11 Fel y nodir uchod, mae sawl mater arwyddocaol wedi effeithio ar weithrediad strategaeth y CDLl ers ei mabwysiadu. Mae'n amlwg y bydd angen i'r Adolygiad o'r CDLl ailystyried graddfa a dosbarthiad y twf arfaethedig. Bydd angen asesu capasiti aneddiadau i amsugno cyflogaeth a datblygiadau preswyl ychwanegol yng ngoleuni'r dystiolaeth a fydd yn cael ei chasglu drwy'r Adolygiad.

Am gyfarwyddiadau ar sut I ddefnyddio’r system ac I wneud sylwadau, gwelwch ein canllaw cymorth.
back to top Yn ôl i’r brig