Adroddiad Adolygu

Daeth i ben ar 22 Rhagfyr 2017

Cynlluniau ar y Cyd

(4) 7.1 Mae Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 yn caniatáu i ddau neu fwy o awdurdodau cynllunio lleol baratoi gynlluniau datblygu ar y cyd os ydynt yn dymuno gwneud hynny. At hyn, mae Deddf Cynllunio (Cymru) 2015 yn rhoi pŵer i weinidogion Cymru gyfarwyddo awdurdodau lleol i gynhyrchu cynlluniau datblygu ar y cyd. Ymhellach i hyn, mae rhoi ystyriaeth i gynlluniau ar y cyd hefyd wedi ei gynnwys yn 'Llawlyfr Cynllun Datblygu Lleol ' (Rhifyn 2, Awst 2015)' Llywodraeth Cymru ac ym Mhapur Gwyn 'Diwygio'r Llywodraeth Leol: Cadernid ac Adnewyddiad (Ionawr 2017)'.

7.2 O ystyried y newidiadau cyd-destunol a deddfwriaethol hyn, mae angen ystyried cydweithio a pharatoi cynlluniau gydag awdurdodau lleol cyfagos. Mae Conwy wedi ymchwilio i nifer o ddewisiadau posibl ar gyfer CDLl ar y cyd, y cam cyntaf oedd canfod ar ba gam o'r broses baratoi yr oedd awdurdodau lleol cyfagos arno ym mis Awst 2017.

7.3 Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri ar hyn o bryd ar y cam Cynllun Adneuo yn dilyn cymeradwyaeth gan Lywodraeth Cymru i ymgymryd ag adolygiad dethol. Oherwydd amseriad paratoi'r cynllun nid yw'n bosibl llunio cynllun ar y cyd gydag Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri. Er gwaethaf hyn, mae Conwy yn parhau i weithio'n agos iawn gyda'r Parc, yn arbennig wrth lunio polisïau priodol a dyrannu tir o fewn yr ardaloedd a rennir.

7.4 Cyngor Sir Ddinbych yw'r unig awdurdod sy'n cynnig cyfle i lunio cynllun ar y cyd, o ystyried amseriad dechrau cam adolygu'r CDLl (Mehefin 2017), y ffiniau a rennir a'r materion trawsffiniol. Fodd bynnag, mae'r ddau awdurdod cynllunio lleol hefyd yn gyrff annibynnol a hunanlywodraethol. Mae gan y ddau gyfeiriad strategol i fynd i'r afael â heriau, materion a chyfleoedd penodol, fel y nodir yn eu rhaglenni a'u cynlluniau corfforaethol a lles. Gan fod cydymffurfio â dogfennau bwrdeistref sirol yn ofyniad ac yn 'brawf o gadernid' wrth baratoi CDLlau, nid yw'r Adolygiad o'r CDLl yn debygol o fod yn fyr nac yn integredig.

7.5 Yn ogystal, mae anawsterau cynllunio ar y cyd hefyd yn codi o ganlyniad i baratoi cynlluniau a pholisïau cenedlaethol a rhanbarthol. Mae'r Fframwaith Datblygu Cenedlaethol yn dal yn cael ei ddatblygu ac mae datblygiad Cynllun Datblygu Strategol yr A55 yn dal yn aros am benderfyniad rhanbarthol. Er gwaethaf yr ansicrwydd cenedlaethol a rhanbarthol hyn, mae Conwy yn credu y byddai cynnal adolygiad o'r CDLl rŵan yn debygol o effeithio ar eu cynnydd. Er enghraifft, bydd CDLl Conwy yn destun adolygiad yn y dyfodol, ar adeg y gallai adlewyrchu newidiadau mewn canllawiau rhanbarthol a chenedlaethol.

(4) 7.6 Mae Conwy eisoes wedi dweud bod yna frys mawr i adolygu CDLl Conwy, yn bennaf oherwydd effaith y newidiadau i Nodyn Cyngor Technegol 1 'Cydastudiaethau Argaeledd Tir Ar Gyfer Tai' a'r diffyg cyflenwad pum mlynedd o dir ar gyfer tai. Byddai paratoi cynllun ar y cyd rŵan yn arwain at oedi pellach, yn gwaethygu'r diffyg pum mlynedd ac yn rhoi pwysau ychwanegol ar ardaloedd tir glas mewn perthynas â datblygiadau hapfasnachol.

7.7 O ystyried yr ansicrwydd hwn a'r heriau a nodwyd uchod, a'r faith bod y dystiolaeth yn yr adroddiad hwn yn cefnogi adolygiad llawn o Gynllun Datblygu Lleol Conwy, ni ystyrir bod CDLl ar y cyd yn ddewis addas ar hyn o bryd. Fodd bynnag, mae'r ddau dîm cynllunio strategol wedi datblygu perthynas waith eang sy'n cynnwys paratoi sylfaen dystiolaeth ar y cyd a dod i ddeall effeithiau a threfniadau lliniaru trawsffiniol. Bydd y berthynas yma'n parhau ac yn datblygu ymhellach yn y dyfodol.

Am gyfarwyddiadau ar sut I ddefnyddio’r system ac I wneud sylwadau, gwelwch ein canllaw cymorth.
back to top Yn ôl i’r brig