Adroddiad Adolygu

Daeth i ben ar 22 Rhagfyr 2017
Os ydych chi’n cael trafferth defnyddio’r system, rhowch gynnig ar ein canllaw cymorth.

Cefndir

2.1 Mae Rheoliadau Llywodraeth Cymru, Llawlyfr y CDLl a Chanllawiau Cynllunio Cymru yn amlinellu'r broses ar gyfer paratoi a monitro parhaus CDLl. Yn ychwanegol at Adroddiadau Monitro Blynyddol (AMR), dylai Awdurdod gynnal adolygiad mwy trylwyr o'i CDLl o leiaf unwaith pob 4 blynedd yn dilyn mabwysiadu, o bosibl yn gynharach yn amodol ar ganfyddiadau AMR. Rhaid i gynhyrchu CDLl wedi'i ddiwygio neu un newydd gael ei ragflaenu gan adroddiad Adolygu CDLl sy'n nodi'r rhesymau a thystiolaeth am gynnig newidiadau i'r Cynllun. Gallai rhesymau o'r fath gynnwys polisi neu ddeddfwriaeth genedlaethol, cyd-destun lleol a phryderon posibl o ganfyddiadau'r AMR o ran effeithiolrwydd polisi, cyfraddau cynnydd a gweithredu. Mae'r Adroddiad Adolygiad hwn yn amlygu graddau'r newidiadau gofynnol i'r CDLl a'r weithdrefn y mae angen ei dilyn.

2.2 Cafodd Cynllun Datblygu Lleol Conwy 2007 - 2022 ei fabwysiadu ym mis Hydref 2013, ac felly byddai angen i'r Cyngor ddechrau cynnal yr adolygiad yn 2017. Roedd y dangosyddion yn yr ail AMR (Hydref 2016) yn dangos bod heriau a nodwyd yn yr AMR cyntaf yn parhau ac yn cynyddu. Mae'r diffyg o ran y cyflenwad o dir sydd ar gael ar gyfer tai wedi cynyddu ac mae darpariaeth tir cyflogaeth yn yr ardaloedd trefol a gwledig yn sylweddol is na'r targed.

2.3 Daeth Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 i rym ar 1 Ebrill 2016. Mae'n ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus fel CBSC ystyried nid yn unig anghenion presennol cymunedau lleol ond hefyd sut gallai eu penderfyniadau effeithio ar bobl yn y dyfodol. Mae dyletswydd statudol ar CBSC i weithredu egwyddorion datblygu cynaliadwy ym mhob proses gwneud penderfyniadau. Felly, bydd pob elfen sydd wedi'i chynnwys yn y CDLl newydd yn destun asesiad o effaith ar les ac, os oes angen, yn destun diwygiadau yn unol ag argymhellion a ddaeth o'r asesiad.

2.4 Mae Llywodraeth Cymru yn ystyried y dylai elfennau strategol CDLl, fel tai, cyflogaeth, cludiant, darpariaeth sipsiwn a theithwyr, mwynau a gwastraff gael eu codi ar gyfer trafodaeth a chasgliadau mewn Cynllun Datblygu Strategol ar gyfer y rhanbarth. Caiff ei ddadlau y bydd hyn yn arwain at ddull cyson, effeithiol ac effeithlon, sy'n adlewyrchu blaenoriaethau strategol, gyda phenderfyniadau allweddol yn cael eu gwneud unwaith yn hytrach na sawl tro. Mae LlC hefyd yn credu y dylid paratoi Cynlluniau Datblygu Strategol mewn ardaloedd lle mae materion o arwyddocâd mwy na lleol ac felly nodi'r canolbwynt ar gyfer tri Chynllun Datblygu Strategol ar draws Cymru gan gynnwys Coridor yr A55 yng Ngogledd Cymru.

2.5 Yn y dyfodol bydd gofyn i CDLl gydymffurfio â'r Cynllun Datblygu Strategol perthnasol. Pan fo Cynllun Datblygu Strategol yn cynnwys ardal CDLl, dylid rhesymoli'r CDLl fel ei fod yn canolbwyntio ar faterion lleol yn unig, yn enwedig dyraniadau sy'n benodol i safle, yn unol â graddfa a lleoliad twf a nodir yn y Cynllun Datblygu Strategol. Bydd materion fel lefel gyffredinol tai, cyflogaeth, darpariaeth manwerthu a safleoedd strategol eisoes wedi'u trin yn y Cynllun Datblygu Strategol ac nid oes angen eu hailadrodd.

2.6 Mae'n debygol iawn y bydd yr adolygiad o'r CDLl yn rhagflaenu paratoi unrhyw Gynllun Datblygu Strategol ar gyfer coridor yr A55 ond byddai'n cael goblygiadau sylweddol o bosibl ar gyfer swyddogaeth a chynnwys Cynllun Datblygu Lleol newydd Conwy.

Os ydych chi’n cael trafferth defnyddio’r system, rhowch gynnig ar ein canllaw cymorth.
back to top Yn ôl i’r brig