Adroddiad Adolygu

Daeth i ben ar 22 Rhagfyr 2017
Am gyfarwyddiadau ar sut I ddefnyddio’r system ac I wneud sylwadau, gwelwch ein canllaw cymorth.

Cyflwyniad i'r Polisïau

5.01 Pwrpas y broses fonitro yw mynd ati i adolygu a yw polisïau'r CDLl yn cael eu cyflwyno ac a yw strategaeth y cynllun yn cael ei chyflawni.Mae angen adolygu lefel y boblogaeth a'r twf yn nifer y teuluoedd y bydd y CDLl yn darparu ar eu cyfer o fewn cyfnod y cynllun diwygiedig.Mae angen ailystyried y lefel dwf y cynllunnir ar ei chyfer er mwyn sicrhau bod digon o ddatblygiadau ac, yn benodol, tai a datblygiadau economaidd yn cael eu darparu er mwyn diwallu'r angen a ddisgwylir ymysg y boblogaeth dros gyfnod y cynllun diwygiedig.

5.02 Felly, bydd CBSC yn ymgymryd ag adolygiad o holl bolisïau'r CDLl ar sail canfyddiadau adroddiadau monitro blynyddol blaenorol a thystiolaeth o unrhyw newidiadau cyd-destunol sylweddol, fel newidiadau yn y cyd-destun lleol a/neu newidiadau i bolisïau neu ddeddfwriaeth cenedlaethol. Mae crynodeb yn nodi a yw polisi'n gweithredu'n effeithiol ac a oes angen newidiadau yn rhan o'r adolygiad o'r cynllun wedi'i ddarparu yn Atodiad 4. Mae polisïau sy'n cael eu heffeithio'n sylweddol gan newidiadau cyd-destunol ac sy'n debygol o fod angen mwy o ddiwygiadau'n cael eu trafod yn fwy manwl isod o dan benawdau perthnasol eu pynciau.

Egwyddorion Datblygu

5.1.1 Mae pennod Egwyddorion Datblygu'r CDLl yn nodi nifer o bolisïau y mae'n rhaid i ddatblygwyr gadw atynt. Mae'r rhain yn cynnwys polisïau strategol sy'n ymwneud â'r strategaeth ofodol gyffredinol, sy'n debygol o newid fel rhan o adolygiad y CDLl. Bydd yn rhaid i'r newidiadau a wneir i'r polisïau hyn adlewyrchu'r dystiolaeth ddiweddaraf sydd ar gael ar adeg archwilio'r CDLl newydd. Mae polisi ED/2 yn nodi dosbarthiad gofodol datblygiadau, hierarchaeth aneddiadau a gofynion tai fforddiadwy. Ceir rhagor o fanylion am y materion hyn ym mhennod 4 ac o dan yr adran dai yn yr adroddiad adolygu hwn.

5.1.2 Mae polisïau ED/3 ac ED/4 yn darparu nifer o feini prawf ar gyfer rheoli datblygu a ddefnyddir i asesu cynigion. Mae'r rhain yn ymdrin ag ystod o faterion, gan gynnwys dylunio, mynediad, bioamrywiaeth, diogelwch a pherygl llifogydd. Er nad yw'n debygol y bydd nodau cyffredinol y polisïau hyn yn newid yn sylweddol, fel rhan o'r adolygiad mae'n bosibl y bydd angen diwygio rhai pethau gan fod blaenoriaethau datblygu yn newid a materion newydd yn codi sydd angen ystyriaeth.

(4)5.1.3 Mae'r gwaith o baratoi atodlen ffioedd Ardoll Seilwaith Cymunedol Conwy ar y gweill, ond mae'r Ardoll Seilwaith Cymunedol yn destun adolygiad cenedlaethol yng Nghymru. Mae'n bosibl y bydd angen diwygio polisi ED/5 i adlewyrchu darparu rhywfaint o seilwaith drwy Ardoll Seilwaith Cymunedol yn y dyfodol. Bydd gofynion seilwaith safleoedd penodol yn parhau i gael eu bodloni drwy'r mecanweithiau presennol.

5.1.4 Ers mabwysiadu'r CDLl, mae'r gefnogaeth ar gyfer Cynlluniau Lleoedd wedi cynyddu ar lefel genedlaethol yn sgil y Ddeddf Gynllunio a'r newidiadau i lawlyfr CDLlau. Mae Cynllun Lleoedd arloesol Abergele yn mynd rhagddo dan y fframwaith cenedlaethol newydd. Bydd angen adolygu polisi ED/7 i sicrhau bod y polisi ac unrhyw gynllun lleoedd yn y dyfodol yn cyd-fynd â'r canllawiau cenedlaethol newydd.

5.1.5 Lluniwyd Prif Gynllun Bae Colwyn yn wreiddiol yn 2009/10 yn dilyn comisiwn ymgynghoriaeth dan arweiniad DPP Shape, gydag Arc 4, Keppie Massie a Martin Stockley Associates. Drwy gydol y broses o greu'r prif gynllun, yr her oedd ailddyfeisio Bae Colwyn fel tref ar gyfer yr 21ain ganrif gyda ffocws newydd ar ei rôl fel tref glan môr a man deniadol i fyw, ymweld â buddsoddi ynddo. Ers dechrau'r prosiect mae Rhaglen Bywyd y Bae wedi llwyddo i gwblhau nifer o brosiectau ym Mae Colwyn, ac mae yna nifer o brosiectau ar y gweill.

5.1.6 Yn 2014, yn unol â chais y Cyngor, cynhaliodd Nathaniel Lichfield a'i Bartneriaid arolwg o Ganllaw Cynllunio Atodol drafft y prif gynllun, gan edrych ar ei berthynas â pholisïau cynllunio lleol a chenedlaethol. Arweiniodd yr ymarfer hwn at lunio cyfres o argymhellion ar sut y dylid diwygio'r canllaw cynllunio atodol sy'n cefnogi polisi ED/8 y CDLl i adlewyrchu cysylltiadau polisi o'r fath. Yn ystod y cyfnod hwn hefyd, ystyriwyd y dylid ailystyried y dewisiadau canol tref a nodir yn y prif gynllun, i sicrhau dichonoldeb ac i adlewyrchu nifer o ddatblygiadau a newidiadau sylweddol ers llunio'r prif gynllun yn wreiddiol.

5.1.7 I grynhoi, mae'r gwaith o adolygu elfen ganol tref y prif gynllun yn mynd rhagddo ac mae canlyniadau'r gwaith hwn yn debygol o arwain at adolygu polisi ED/8, gyda goblygiadau posibl i fap cynigion y CDLl o ran dynodiadau/dyraniadau yng nghanol tref Bae Colwyn.

Tai

(5)5.2.1 Mae'r Strategaeth CDLl yn ceisio darparu tua 6,520 o anheddau newydd gan gynnwys rhai wedi'u cwblhau, ymrwymiadau, safleoedd annisgwyl a dyraniadau newydd dros gyfnod y Cynllun. Mae'r targed hwn yn cyfateb i gyfradd adeiladu o 435 annedd newydd y flwyddyn, sy'n eithriadol o uchelgeisiol o gymharu â chyfraddau adeiladu'r gorffennol yng Nghonwy, fel y dangosir yn y graff isod.

gofnydiad%20cdli%20a%20gwir%20ddarpariaeth%20tai%202007-2017

(4)5.2.2 Mae Cydastudiaeth Argaeledd Tir ar gyfer Tai (JHLAS) 2017 yn awgrymu bod 3114 o anheddau wedi'u darparu. Er bod hyn yn cynrychioli nifer fawr o anheddau, mae'r lefel hon yn sylweddol is na'r gofynion CDLl. Does prin dim amheuaeth bod y dirywiad economaidd wedi cael effaith sylweddol ar ddarpariaeth anheddau dros y blynyddoedd diweddar.

5.2.3 Mae 9fed Rhifyn Polisi Cynllunio Cymru (2016) yn glir bod rhaid i awdurdodau cynllunio lleol sicrhau bod digon o dir ar gael mewn gwirionedd neu yn dod i law i ddarparu cyflenwad 5 mlynedd o dir ar gyfer tai (paragraff 9.2.3). Nid yw CBSC wedi cyflawni cyflenwad tir 5 mlynedd ers 2009/10 ac mae'r JHLAS diweddaraf wedi cyfrifo cyflenwad tir tai 3.1 mlynedd yn 2017 (Tabl 5.1).

(3)5.2.4 Mae Nodyn Cyngor Technegol (TAN) 1: Astudiaeth Argaeledd Tir Tai ar y Cyd (Ionawr 2015) yn nodi lle mae gan Awdurdod Cynllunio Lleol ddiffyg mewn cyflenwad tir tai, dylid rhoi ystyriaeth i'r rhesymau dros y diffyg. Fel y nodwyd uchod, mae'r dirywiad economaidd wedi cael effaith sylweddol ar ddarpariaeth dyraniadau tai ac ystyrir mai hyn yw'r prif reswm dros beidio cyflawni cyflenwad tir 5 mlynedd ers 2009/10. Er hyn, mae angen adolygu'r holl ddyraniadau tai sydd heb eu datblygu yn y CDLl i sicrhau bod datblygiad ar y safleoedd hyn yn ddichonadwy ac y gellir darparu'r dyraniadau. Gall hyn arwain at dynnu rhai dyraniadau tai penodol o'r CDLl a dyrannu safleoedd newydd i ddiwallu anghenion tai lleol hyd at 2031. Bydd 'galwad am safleoedd' ffurfiol, yn gwahodd unrhyw un i gyflwyno safleoedd ar gyfer eu datblygu, yn ffurfio rhan o'r broses hon. Er mwyn darparu ar gyfer newidiadau sydd eu hangen i ddyraniadau, bydd ffiniau setliad yn cael eu hadolygu fel bo angen.

(4)5.2.5 Mae'n bwysig nodi os yw'r ffigwr cyflenwad tir tai yn is na'r gofyniad 5 mlynedd, bod TAN1 6.2 yn nodi y dylid rhoi pwysiad sylweddol i'r angen i gynyddu'r cyflenwad wrth ymdrin â cheisiadau cynllunio am dai, ar yr amod bod y datblygiad fel arall yn cydymffurfio â'r cynllun datblygu a pholisïau cenedlaethol. Oherwydd bod gan CBSC ond cyflenwad tir tai 3.1 mlynedd, bydd pwysau sylweddol wedi'i roi i unrhyw ddatblygiad tai hapfasnachol sy'n diwallu'r meini prawf a nodwyd, fel yn y penderfyniad apêl diweddar ar gyfer datblygiad preswyl ym Mwlch Sychnant, Conwy (cyf cynllunio 0/41960). Felly, mae'n bosibl i'r sefyllfa hon danseilio'r agwedd a arweinir gan y cynllun sy'n darparu sicrwydd i ddatblygwyr a'r cyhoedd am y math o ddatblygiad a ganiateir mewn lleoliad penodol.

Tabl 5.1

A

Cyfanswm gofyniad y CDLl (1/4/2007 - 31/3/2022)

6520

B

Cyflawniadau 1/4/2007-31/3/2017

2507

C

Darpariaeth Tai Gwag 1/4/2007 - 31/3/2017

607

D

Cyfanswm y Cyflawniadau 1/4/2007- 31/3/2017 (B + C)

3114

E

Gofyniad gweddilliol (A-D)

3406

F

Blynyddoedd o'r CDLl sy'n weddill

5

G

Gofyniad Blynyddol Gweddilliol (E/F)

681

H

Safleoedd Cyd-astudiaeth Argaeledd Tir ar gyfer Tai (gan gynnwys safleoedd wrth gefn)

1749

I

Cyfraniad safleoedd bach

271

J

Cyfraniad Tai Gwag

125

K

Cyfanswm Cyflenwad Tir 5 mlynedd (H + I + J)

2145

L

Cyflenwad tir mewn blynyddoedd ( K/ G)

3.1

Tai Fforddiadwy

5.2.6 Diffyg Tai Fforddiadwy ar gyfer Anghenion Lleol (AHLN) yw un o'r materion blaenoriaeth mwyaf brys ar gyfer Conwy a nifer o Awdurdodau Lleol eraill yng Nghymru. Mae Nodyn Cyngor Technegol LlC (TAN) 2: 'Cynllunio a Thai Fforddiadwy' yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol gynnwys targed tai fforddiadwy yn eu cynlluniau datblygu a nodi sut y bydd y targed hwn yn cael ei gyflawni gan ddefnyddio agweddau polisi a nodwyd. Mae Asesiadau Marchnad Tai Lleol (LHMA) yn darparu'r sylfaen dystiolaeth ar gyfer polisïau i ddarparu tai marchnad a thai fforddiadwy.

5.2.7 Yn unol â chanfyddiadau Astudiaeth Hyfywdra Tai Fforddiadwy ac amcanion blaenoriaeth yr Conwy i gyfrannu at ddarparu tai fforddiadwy, mae polisi HOU/ 2 yn ceisio cael cyfraniad hyfyw o bob datblygiad tai o wahanol ganrannau o fewn yr Ardal Strategaeth Datblygu Trefol a Phrif Bentrefi Haen 1. Yn y Prif Bentrefi Haen 2, Pentrefi Bychain a Phentrefannau, dylid ond datblygu i ddiwallu angen lleol a nodwyd am dai fforddiadwy. Mewn rhai amgylchiadau, yn dibynnu ar hyfywdra, efallai y caniateir tai marchnad lle bo angen i ddarparu'r datblygiad tai fforddiadwy.

(5)5.2.8 Mae gwir ddarpariaeth y tai fforddiadwy ar y rhan fwyaf o safleoedd wedi bod islaw'r lefelau a nodwyd gan bolisi HOU/2. Mae hyn oherwydd sawl rheswm, gydag amgylchiadau'n amrywio ar safleoedd unigol. I fynd i'r afael â hyn, bydd angen adolygu'r polisi trwy brofion hyfywdra pellach, a bydd y galwad am safleoedd yn cynnwys asesiad hyfywdra llym ar gam cynnar i leihau'r posibilrwydd bod rhwymedigaethau cynllunio yn cael eu lleihau oherwydd gwerthoedd tir uchel neu gostau annormal. Hefyd, bydd angen adolygu'r agwedd at ofynion tai fforddiadwy ar gyfer trawsnewidiadau; yn enwedig yn y cefn gwlad agored lle mae penderfyniad apêl wedi'i nodi bwlch yn y polisi CDLl yn ymwneud â diffyg gofyniad tai fforddiadwy penodol.

(4)5.2.9 Mae cyfanswm o 277 uned tai fforddiadwy wedi'u darparu trwy'r system gynllunio ers mabwysiadu'r CDLl yn 2013. Dylid nodi bod CBSC hefyd yn darparu tai fforddiadwy trwy fecanweithiau eraill gan gynnwys trwy arian grant, gan ailddefnyddio cartrefi gwag a gweithio gyda phartneriaid tai, Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig, ayyb.

5.2.10 Rhagwelir y bydd y CCA Tai Fforddiadwy a fabwysiadwyd yn ddiweddar yn cynorthwyo wrth ddarparu tai fforddiadwy, ac yn darparu arweiniad angenrheidiol ar gyfer y meysydd a ganlyn:

  1. Diffinio Tai Fforddiadwy a Fforddiadwyedd
  2. Angen O Ran Tai
  3. Darpariaeth Tai Fforddiadwy
  4. Safleoedd Eithriadau
  5. Anheddau Mentrau Gwledig (AMG)
  6. Dyluniad
  7. Dwysedd a Chymysgedd Tai
  8. Cymhwyster
  9. Hyfywedd a Darpariaeth

(4)5.2.11 Roedd yr Asesiad o'r Farchnad Dai Leol (2016-2021) yn dangos cyfanswm angen tai fforddiadwy blynyddol o 199 annedd o'i gymharu â gofyniad blynyddol o 123 annedd fel y nodwyd yn yr Asesiad o'r Farchnad Dai Leol 2013. Ond, bydd y lefel derfynol o Dai Fforddiadwy yn amodol ar y broses Adolygu CDLl ar ôl ystyried y rhagamcanion poblogaeth/anheddau newydd, dewisiadau strategaeth twf a thystiolaeth berthnasol.

Tai Amlfeddiannaeth

5.2.12 Mae Polisi HOU/10 - 'Tai Amfeddiannaeth a Fflatiau Hunangynhwysol' yn nodi y bydd pob cais i greu Tai Amfeddiannaeth yn cael eu gwrthwynebu. Roedd y safiad hwn yn seiliedig ar broblemau hanesyddol yng Nghonwy, yn enwedig ym Mae Colwyn, lle mae Tai Amlfeddianaeth yn aml wedi darparu amgylchedd byw cymharol wael a phrin iawn yn gwneud cyfraniad cadarnhaol i ansawdd tai ardal.

5.2.13 Mae'r adeilad y gellir ei ddisgrifio fel Tŷ Amlfeddianaeth wedi ehangu ers mabwysiadu'r polisi. Mae rŵan yn cynnwys blociau o fflatiau hunangynhwysol a thai wedi'u trawsnewid. Ers Mawrth 2017, mae gofynion newydd i berchnogion eiddo geisio caniatâd i newid defnydd o 'annedd' i 'dŷ amlfeddiannaeth bychan' (sy'n cael eu gosod i 3-5 person nad ydynt yn perthyn), yn ymestyn cwmpas y cais polisi i drefniadau tai wedi'u rhannu. Ni fyddai wedi bod yn bosibl rhagweld y newidiadau hyn pan fabwysiadwyd y polisi.

5.2.14 Ers mabwysiadu'r Polisi, mae newidiadau sylweddol i reoliad llety rhent sector preifat wedi dod i rym gan ganiatáu ar gyfer safonau eiddo corfforol gwael, materion cymdeithasol ac amgylcheddol, i'w datrys yn uniongyrchol.

5.2.15 Mae Asesiad o'r Farchnad Dai Leol 2016-2021 Conwy yn nodi;

'Mae Tai Amlfeddianaeth yn cynnwys ystod eang o fathau o dai, yn bennaf yn y sector rhentu preifat, gan gynnwys fflat un ystafell a mathau eraill o lety gyda chyfleusterau a rennir. Maent yn aml yn gartref i bersonau sengl ar incwm isel a gallant gynnwys grwpiau diamddiffyn a dan anfantais. Mae Tai Amlfeddianaeth wedi'u rheoli a'u cynnal yn dda yn ddewis daliadaeth pwysig ar gyfer aelwydydd ar incwm isel, yn enwedig personau sengl dan 35 oed sydd fel arfer ond yn gymwys am fudd-dal tai ar gyfradd llety a rennir.'

5.2.16 Mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl i ddarparwyr tai cymdeithasol ddatblygu tai a rennir ac mae Conwy wedi sefydlu gweithgor tai a rennir i ddatblygu cyfleoedd yn y Fwrdeistref. Mae'r gwaith llwybr cadarnhaol pobl ifanc sy'n cael ei wneud rhwng Tai a Gofal Cymdeithasol wedi tanlinellu'r angen am dai fforddiadwy a rennir. Mae'r polisi presennol yn cyfyngu ar ddatblygiad cynlluniau tai fforddiadwy, cymdeithasol a rennir a thai â chefnogaeth ac yn cyfyngu ar allu'r Cyngor i ymateb i flaenoriaethau cymdeithasol, amgylcheddol a blaenoriaethau tai strategol.

5.2.17 Oherwydd yr angen a nodwyd, ystyrir effaith Diwygio'r Gyfundrefn Les, lefelau Lwfans Tai Lleol, newidiadau mewn canllawiau a phenderfyniadau apêl diweddar, credir bod angen asesiad pellach o HOU/10 fel rhan o'r broses Adolygu CDLl.

Safleoedd Sipsiwn a Theithwyr

(1)5.2.18 Polisi HOU/9: Cafodd 'diwallu angen Sipsiwn a Theithwyr am safleoedd' y CDLl presennol ei ategu gan yr Asesiad Anghenion Llety Sipsiwn a Theithwyr 2013 (GTANA) sy'n nodi'r angen am 3 llain breswyl yn Nghonwy erbyn 2016 (y rhagwelir fydd yn tyfu 3% bob blwyddyn) a safle teithio ar gyfer hyd at 7 carafán ar ffin y Sir gyda Chyngor Sir Ddinbych, lle gall y ddau awdurdod gydweithredu wrth ddarparu er mwyn gwneud y gorau o'r defnydd.

5.2.19 Mae CBSC rŵan wedi datblygu safle preswyl 4 llain ar gyrion tref Conwy gyda chymorth arian grant LlC, ac mae pedwar teulu rŵan ar y safle.

5.2.20 Mae'r GTANA diweddaraf (Ionawr 2017) yn nodi'r angen am un llain breswyl ychwanegol a'r un anghenion teithio â'r GTANA blaenorol (7 llain).

5.2.21 Mewn perthynas a'r llain breswyl ychwanegol, dylid nodi y bydd yn heriol i ddarparu llain bellach ar safle tref Conwy oherwydd diffyg tir sydd ar gael. Mae CBSC a LlC hefyd yn cydnabod na fydd safle un llain yn cynrychioli gwerth am arian.

5.2.22 Mae gan yr heddlu bwerau ar wahân dan adrannau Deddf Gorchymyn Cyhoeddus 1994 i orchymyn i dresmaswyr a theithwyr i adael tir a chael gwared ar unrhyw gerbyd ac eiddo o'r tir lle ceir llain addas ar safle carafanau mewn man arall yn yr awdurdod lleol. Felly, os crëir safle tramwy yn Sir Ddinbych yn unig, yna ni fyddai modd symud pobl o wersylloedd diawdurdod yn Sir Conwy yno. Oherwydd hyn, ystyriwyd y byddai safle ar y cyd yn annigonol.

5.2.23 Mae CBSC rŵan wedi dechrau ar y broses 'galw am safleoedd' ar gyfer dod o hyd i safle addas a'i ddatblygu, gyda chymorth arian grant LlC. Yn amodol ar gytundeb pellach y Cabinet, bydd y safle a ffefrir yn cael ei ddatblygu drwy gyflwyno cais cynllunio ffurfiol a/neu drwy broses adolygu ffurfiol y Cynllun Datblygu Lleol.

Cyflogaeth

5.3 Y problemau:

Nifer fach yn manteisio ar dir cyflogaeth

(3)5.3.1 Mae Polisïau EMP/1 ac EMP/2 y CDLl yn nodi bod angen cyfanswm o 39.5 hectar o dir cyflogaeth swyddfa a diwydiannol B1, B2 a B8 (gan gynnwys safleoedd wedi'u cwblhau, ymrwymo, dyraniadau a safleoedd wrth gefn) dros gyfnod y Cynllun yn Ardal y Strategaeth Datblygu Trefol ac Ardal y Strategaeth Datblygu Gwledig.

(1)5.3.2 Mae nifer o bryderon yn dod i'r amlwg o ran gweithredu'r Strategaeth Economaidd, mae rhai yn ymwneud â manteision ar dir cyflogaeth o ran caniatâd newydd a chwblhau. Ymddengys bod y perfformiad yn erbyn dangosyddion yn yr AMR yn dangos bod yna ddiffyg galw am dir cyflogaeth newydd (dosbarth B) yng Nghonwy, a thra gallai'r hinsawdd economaidd gyffredinol fod yn ffactor cyffredinol, gall hefyd fod yn arwydd nad yw nifer, lleoliad na chyflenwad y tir cyflogaeth yn cyfateb i'r galw. Nodwyd hefyd bod nifer o geisiadau yn cael eu gwneud ar gyfer defnyddio safleoedd a ddyrannwyd ac a ddiogelwyd B1, B2 a B8 ar gyfer defnydd arall fel cyfleusterau iechyd, ysgolion a champfeydd yn hytrach na defnydd dosbarth B. Mae archwiliad pellach o weithgarwch economaidd ers mabwysiadu'r CDLl wedi'i ddadansoddi ymhellach isod:

5.3.3 Mae dangosydd monitro MI/026 yn mesur datblygiad tir cyflogaeth yn Ardal y Strategaeth Datblygu Trefol. Y targed yw datblygu 3 hectar o dir cyflogaeth erbyn 2022 gyda cherrig milltir wedi'u gosod rhyngddynt. Yn ystod cyfnod 2007-2012 mae tua 8.4 hectar o arwynebedd llawr masnachol B1, B2 a B8 sydd gyfwerth â 11.7 hectar gros o dir cyflogaeth wedi'i gwblhau yn Ardal y Strategaeth Datblygu Trefol. Hwn yw'r ffigur gwaelodlin gyda'r disgwyliad y caiff 3 hectar pellach ei ddatblygu erbyn 2022. Wrth edrych ar AMR 2016, dim ond tua 2,500 metr sgwâr (0.3 hectar gros) ychwanegol sydd wedi'i adeiladu ers mabwysiadu'r CDLl. Digwyddodd y datblygiad hwn ar Barc Busnes Gogledd Cymru, Abergele yn ystod 2015, ac roedd ar gyfer canolfan ofal (dosbarth defnydd Sui Generis) yn hytrach na defnydd dosbarth B.

5.3.4 Yn ogystal, mae caniatâd diweddar yn Ardal y Strategaeth Datblygu Trefol yn cynnwys;

  • Esgyryn, Narrow Lane, Cyffordd Llandudno - 0.2 hectar (tua 750 metr sgwâr) o ofod swyddfa B1 yn creu hyd at 80 o swyddi
  • Hen Safle Gwaith Brics, Cyffordd Llandudno - rhoddwyd cymeradwyaeth ar gyfer archfarchnad fanwerthu 8,700 metr sgwâr, gorsaf betrol a bwytai (x4 = tua 1400 metr sgwâr) gan greu tua 250 o swyddi.

5.3.5 O ran datblygiad yn nangosydd monitro Ardal y Strategaeth Drefol MI/027, y targed yw 3 hectar o ddatblygiad erbyn 2022, gyda gwaelodlin o 0 hectar ers 2007. Ers mabwysiadu'r CDLl, nid oes datblygiad masnachol wedi'i gwblhau ar safleoedd a ddyrannwyd yn Ardal y Strategaeth Datblygu Trefol, er bod 1,500 metr sgwâr o ddefnydd dosbarth B1 yn Nhŷ Gwyn, Llanrwst yn cael ei adeiladu ar hyn o bryd.

(1)5.3.6 Er gwaethaf datblygiadau fel y rhai a nodir uchod, y casgliad yn AMR 2016 yw bod y perfformiad yn erbyn y dangosyddion monitro yn is na'r hyn a ddisgwylir o ran defnydd B1, B2 a B8. Mae'n bosibl bod hyn yn adlewyrchu amodau economaidd cyffredinol, ond mae methiant i gyrraedd y targedau CDLl yn awgrymu bod angen rhagor o waith i ddeall a yw sŵn a lleoliad cyflenwad y tir cyflogaeth yn gallu bodloni galw presennol a galw yn y dyfodol.

(1)5.3.7 Mae Polisi EMP/3 yn bolisi sy'n seiliedig ar feini prawf sy'n cefnogi datblygiad cyflogaeth ar safleoedd na ddyrannwyd lle mae'r meini prawf yn cael eu bodloni. Mae natur y polisi hwn yn unol â chanllawiau cynllunio cenedlaethol newydd sy'n golygu bod angen i CDLl gynnwys hyblygrwydd (para 4.7.1, TAN 23), fodd bynnag bydd angen i'r meini prawf oddi mewn gael eu hadolygu i sicrhau eu bod yn unol â pholisïau eraill y CDLl a allai fod yn destun newid.

5.3.8 Mae Polisi EMP/4 sy'n seiliedig ar feini prawf, ar ddiogelu wedi'i nodi sawl tro wrth ddelio gyda cheisiadau cynllunio ers mabwysiadu'r CDLl. Oherwydd newidiadau i ganllawiau polisi cynllunio cenedlaethol, bydd angen adolygu EMP/4. Mae rhagor o fanylion ar EMP/4 yn Adran 5.2.2.

(1)5.3.9 Mae ardaloedd gwella cyflogaeth swyddfa a diwydiannol wedi'u cwmpasu dan bolisi EMP/5. Mae cefnogaeth ar gyfer gwneud ardaloedd sy'n llai sensitif yn amgylcheddol (fel y safleoedd tir llwyd a restrir yn y polisi) yn fwy deniadol ar gyfer darpar fuddsoddwyr yn hytrach na dilyn trywydd tir maes glas, er enghraifft (para 2.1.14, TAN 23). Fodd bynnag bydd angen adolygu'r rhestr o safleoedd cyflogaeth ynddynt i sicrhau eu bod yn unol â pholisïau eraill y CDLl a allai fod yn destun newid.

(1)5.3.10 Mae EMP/6 yn ymdrin ag ailddefnyddio ac addasu adeiladau segur yng nghefn gwlad. Mae meini prawf yn y canllawiau cenedlaethol para 3.2 TAN 23 sy'n cwmpasu hyn hefyd. Felly dylid adolygu'r polisi i sicrhau nad yw'n ailadrodd neu'n gwrthdaro gyda pholisi cynllunio cenedlaethol.

Newidiadau i Ganllawiau Polisi Cynllunio Cenedlaethol Pennod 7 a TAN 23 - Tachwedd 2014

5.3.11 Ers mabwysiadu CDLl Conwy yn Hydref 2013, mae Polisi Cynllunio Cymru a Nodyn Cyngor Technegol (TAN) 23 - Datblygu Economaidd wedi eu diwygio / cynhyrchu ac mae goblygiadau o ran y penderfyniadau cynllunio sy'n cael eu gwneud. Mae Polisi Cynllunio Cymru ym mharagraff 7.5.1 yn nodi y dylai Cynlluniau Datblygu:

  • ddarparu targedau ar ddarparu tir ar gyfer defnydd cyflogaeth (Dosbarthiadau B1-B8), gan ddangos newid net mewn tir/gofod llawr i swyddfeydd a diwydiant/ystordai ar wahân, ac amddiffyn y safleoedd hyn rhag datblygu amhriodol;
  • cynnwys polisïau yn ymwneud â datblygu yn y dyfodol ar safleoedd cyflogaeth presennol i'w hamddiffyn rhag datblygu amhriodol:
  • annog adfywio ac ailddefnyddio safleoedd sydd dal yn addas a lle mae eu hangen ar gyfer cyflogaeth;
  • rheoli rhyddhau safleoedd cyflogaeth nad oes eu hangen i ddefnyddiau eraill;

5.3.12 Mae Polisi Cynllunio Cymru pennod 7 hefyd yn argymell creu Adolygiadau Tir Cyflogaeth a'r angen i gynnal adolygiadau o'r fath yn unol â'r canllawiau ymarfer a gyhoeddwyd (Awst 2015).

5.3.13 Er bod TAN 23 yn cydnabod y gall gweithgarwch economaidd ddeillio o'r sector cyhoeddus, preifat neu wirfoddol a chynnwys defnydd y tu hwnt i'r dosbarth B traddodiadol megis manwerthu, twristiaeth a hamdden; mae'n pwysleisio bod y defnydd manwerthu, twristiaeth a hamdden yn destun ystod o bolisïau eraill. O ganlyniad mae'r TAN yn ymdrin â defnydd Dosbarth B gan eu bod yn destun dull traddodiadol ond cynaliadwy o gynllunio. Mae'r TAN yn hyrwyddo ystyriaeth ofalus wrth ryddhau safleoedd cyflogaeth traddodiadol i ddefnydd amgen gan yn aml byddant yn gwneud cyfraniad dilys i'r economi leol ac yn anodd eu disodli ar ôl eu colli.

5.3.14 Mae TAN 23 hefyd yn rhoi arweiniad ar gynigion datblygu economaidd.Mae paragraff 4.6.8 yn nodi "Mae'r defnydd traddodiadol ar gyfer cyflogaeth yn tueddu i greu gwerthoedd tir is na nifer o ddefnyddiau tir eraill, yn arbennig tai a manwerthu, o ganlyniad, mae unrhyw dir a gollir i'r defnyddiau hyn yn gyffredinol yn anodd i'w ddisodli. Dylai awdurdodau cynllunio osgoi rhyddhau safleoedd ar gyfer defnyddiau eraill lle mae tystiolaeth gref o angen tebygol yn y dyfodol ar gyfer B1-B8. Mewn rhai ardaloedd, gellir bod angen ardaloedd cyflogaeth hŷn sydd o gost is, yn arbennig ar gyfer cwmnïau bach a newydd na allant fforddio safleoedd mwy newydd a mwy mawreddog. Gall colli ardaloedd fel hyn achosi niwed i economïau lleol a dylid osgoi hynny."

5.3.15 Mae meini prawf sydd wedi'u gynnwys ym mharagraff 4.6.9 hefyd yn effeithio ar bolisi CDLl presennol.

"Ni ddylid rhyddhau safleoedd cyflogaeth presennol ar gyfer defnyddiau eraill dim ond os yw un neu fwy o'r canlynol yn wir:

  • mae tebygrwydd isel y byddant yn cael eu hail-feddiannu ar gyfer eu defnydd gwreiddiol;
  • mae'r farchnad benodol y mae'r safle yn rhan ohoni yn cael ei gorgyflenwi;
  • mae'r defnydd cyflogaeth presennol yn cael effaith annerbyniol ac andwyol ar harddwch yr ardal neu'r amgylchedd;
  • nid yw'r ailddatblygiad arfaethedig yn cyfaddawdu yn ddiangen safleoedd cyflogaeth cyfagos sydd i'w cadw;
  • mae blaenoriaethau eraill, fel yr angen am dai, yn bwysicach nag ystyriaethau economaidd sydd â ffocws mwy cul; a/neu
  • mae tir sy'n cyfateb o ran ansawdd neu o ansawdd gwell yn cael ei ddarparu mewn man arall, hyd yn oed os nad yw hwn o fewn ffin yr awdurdod cynllunio lleol."

(1)5.3.16 Mae'r newidiadau i Bolisi Cynllunio Cenedlaethol ar Ddatblygu Economaidd yn golygu bod rhai polisïau'r CDLl, yn enwedig EMP/4 ar ddiogelu, angen eu hadolygu i sicrhau eu bod yn unol â pholisi cenedlaethol. Gallai'r angen i gynnal Adolygiad o Dir Cyflogaeth olygu y gallai sylfaen dystiolaeth wedi'i diweddaru anghytuno â pholisi wedi'i fabwysiadu a'r Strategaeth Economaidd.

Amcanestyniadau Poblogaeth a Strategaeth Cynnydd Tai

5.3.17 Mae amcanestyniadau poblogaeth diwygiedig wedi'u rhyddhau gan Lywodraeth Cymru a fydd yn dylanwadu ar y strategaeth ar gyfer darpariaeth tir cyflogaeth a chynnydd tai. Mae hyn yn cael ei nodi yn adran Strategaeth yr Adroddiad Adolygiad hwn.

Strategaeth Economaidd Leol

5.3.18 Mae Strategaeth Economaidd Conwy 2017 - 2027 wedi'i fabwysiadu'n ddiweddar (Chwefror 2017). Mae'r Strategaeth yn ystyried mentrau a ellir eu cynnal i alluogi busnesau yn y sir i dyfu, arallgyfeirio, uwchsgilio a chystadlu ym marchnadoedd y DU a marchnadoedd byd-eang. Mae'n nodi cyfleoedd strategol a fyddai'n creu swyddi newydd a gwella ansawdd swyddi presennol yn yr economi leol, gan symud o gyflogaeth dymhorol i gyflogaeth ar hyd y flwyddyn. Felly mae'n bwysig bod strategaeth y CDLl yn unol â'r gyrwyr a'r sylfaen dystiolaeth sydd wedi'u cynnwys yn y strategaeth hon wrth symud ymlaen at 2027.

Gyrwyr Twf Rhanbarthol

(3)5.3.19 Gan roi ystyriaeth i ystyriaethau rhanbarthol newydd, roedd AMR 2016 yn amlygu'r effeithiau ar ofynion tir posibl o ganlyniad i Orsaf Bŵer Niwclear Wylfa B o ran y posibilrwydd o gyflogaeth newydd, tai a lleoliadau cludiant strategol. Bydd y gofyniad a nodwyd yn Neddf Cynllunio 2015 i ystyried paratoi Cynllun Strategol rhanbarthol Coridor yr A55 hefyd yn dylanwadu ar yr elfen hon. Yn benodol, mae Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru yn bwrw ymlaen â Gweledigaeth Twf Economaidd a fyddai'n gofyn cymorth statudol drwy'r CDLl, lle nad yw hyn yn wir ar hyn o bryd mewn gwahanol ardaloedd. Bydd angen rhoi ystyriaeth i unrhyw dystiolaeth ranbarthol arall, megis y Cynllun Cludiant Rhanbarthol, yn ystod yr adolygiad CDLl hefyd.

Adolygiad o Dir Cyflogaeth Conwy sy'n dod i'r amlwg

5.3.20 Gan ymateb i'r holl ffactorau hyn, mae Adolygiad Tir Cyflogaeth ar gyfer Conwy wedi dechrau a bydd yn sylfaen dystiolaeth sylweddol wrth benderfynu ar gyfeiriad Strategaeth Economaidd y CDLl yn y dyfodol a chyflenwad, lleoliad a math y tir cyflogaeth yn y dyfodol. Bydd yr Adolygiad o Dir Cyflogaeth yn hanfodol wrth sefydlu'r gyrwyr twf rhanbarthol fel a nodwyd yn y paragraff olaf a'u goblygiadau ar strategaeth cyflogaeth Conwy a faint o dir cyflogaeth sydd ei angen at 2031.

Twristiaeth

5.4.1 Mae rhanbarth Gogledd Cymru wedi'i gydnabod fel pedwaredd cyrchfan dwristiaeth orau'r byd gan Lonely Planet ac mae Sir Conwy wrth galon y cynnig hwnnw i dwristiaid. Mae tref Conwy'n enwog yn rhyngwladol am ei threftadaeth o safon fyd-eang ac mae Llandudno wedi'i henwi'n dref lan môr orau'r DU a'r bedwaredd gyrchfan orau yn y DU gan TripAdvisor. Mae'r sir yn dod yn enwog drwy'r byd fel canolfan ragoriaeth ar gyfer anturiaethau adrenalin wrth i Surf Snowdonia, Go Below a Zip World Fforest arwain y ffordd. Mae digwyddiadau mawr wedi denu cynulleidfaoedd newydd i'r sir ac wedi gwneud cyfraniadau economaidd sylweddol. Y peth allweddol rŵan yw adeiladu ar y llwyddiant hwnnw a gwella ansawdd swyddi sy'n gysylltiedig â'r diwydiant twristiaeth.

5.4.2 Polisi Cynllunio Cymru (Argraffiad 9);
'Mae twristiaeth yn hanfodol i ffyniant economaidd a chreu swyddi mewn sawl man yng Nghymru. Mae'n ffynhonnell bwysig, a chynyddol, o gyflogaeth a buddsoddiad yn seiliedig ar amrywiaeth ddiwylliannol ac amgylcheddol y wlad. Gall twristiaeth fod yn sbardun i ddiogelu, adfywio a gwella'r amgylchedd mewn ardaloedd gwledig a threfol fel ei gilydd.'

5.4.3 Mae strategaeth 'Partneriaeth ar gyfer Twf 2013-2020' Llywodraeth Cymru'n nodi dull a arweinir gan gynnyrch i ddatblygu a marchnata twristiaeth yng Nghymru. Mae hyn yn golygu gweithio gyda chynnyrch a digwyddiadau eiconig, safon uchel sy'n dwyn enw da. Mae'n anffodus, er bod Lywodraeth Cymru'n cydnabod bod twristiaeth yn hanfodol i economi Cymru, bod Nodyn Cyngor Technegol (NCT) 13: Twristiaeth, a gyhoeddwyd yn 1997, wedi dyddio'n arw.

5.4.4 Mae 'Strategaeth Twf Economaidd 2017-2027' Sir Conwy'n ceisio gwneud Conwy'n gyrchfan dwristiaeth gwirioneddol ryngwladol, bywiog a deniadol drwy gydol y flwyddyn ym mhob agwedd o brofiad ymwelwyr. Mae angen datblygu economi gyda'r nos i ategu mwy o dwf yn y farchnad twristiaeth fusnes, sy'n cyfrannu tuag at wariant mawr gan ymwelwyr.

5.4.5 Mae 'cynllun Rheoli Cyrchfan Conwy 2015 -2018' yn nodi dull sy'n debyg i brosiect er mwyn darparu a marchnata twristiaeth yng Nghymru. Mae'r cynllun yn canolbwyntio ar westai a chyfleusterau o well ansawdd, gyda mwy o atyniadau, gweithgareddau a phrofiadau diwylliannol drwy gydol y flwyddyn sy'n arloesol, yn anaml ac yn unigryw.

(1)5.4.6 Nid oes pryderon ynglŷn â gweithredu'r amcanion strategol. Ystyrir bod y polisïau'n cynorthwyo i gyflawni'r amcanion strategol i atgyfnerthu ac arallgyfeirio'r economi wledig lle bo hyn yn cyd-fynd â buddion yr economi leol, y gymuned a'r amgylchedd. Maent hefyd yn cynorthwyo twristiaeth drwy ddiogelu a gwella atyniadau a llety twristiaeth arfordirol a gwledig a manteisio ymhellach ar y potensial i ddatblygu, atgyfnerthu ac annog diwydiant twristiaeth drwy gydol y flwyddyn lle bo datblygiadau'n cydymffurfio â'r polisïau eraill yn y CDLl.

Datblygiadau Twristiaeth a Hamdden Cynaliadwy Newydd

(1)5.4.7 Ffurfiwyd Polisi TOU/2 'Datblygiadau Twristiaeth a Hamdden Cynaliadwy Newydd' ar gyfer datblygiadau twristiaeth mawr, yn enwedig o ran ychwanegu llety i safleoedd hamdden. Yn gyffredinol, mae'n gweithio'n dda ac mae wedi'i ddefnyddio i hyrwyddo ac amddiffyn safleoedd nad ydynt yn cydymffurfio. Er hynny, Bydd angen mân ddiwygiadau wrth ei adolygu i wneud y polisi'n fwy eglur.

Parthau Llety Gwyliau

5.4.8 Mae polisïau o fewn y Cynllun Datblygu Lleol yn cefnogi gwella llety â gwasanaeth sy'n bod eisoes ac fe fyddant yn cefnogi adeiladu llety newydd i dwristiaid. Mae'r Cynllun Datblygu Lleol yn cydnabod pwysigrwydd cynnal ystod dda o lety gwyliau i ymwelwyr.

(1)5.4.9 Roedd y Parth Llety Gwyliau (polisi TOU/3) yn rhyw fath o sefyllfa a etifeddwyd, ac fe gafodd ei ddiweddaru a'i ddiwygio yn unol â'r gwaith arolygu diweddaraf. Fodd bynnag, dylanwadau'r farchnad a fydd yn rheoli yn y pen draw ac, yn y gorffennol, mae nifer fechan o'r eiddo yn yr ardal wedi cau ac wedi'u gosod ar y farchnad am wahanol resymau. Mae benthycwyr hefyd yn ffafrio eiddo'r farchnad agored yn hytrach na rhai economaidd. Fodd bynnag, mae cynnydd mewn masnach sy'n gysylltiedig â thwristiaeth yng Nghonwy ar hyn o bryd ac mae'n bwysig sicrhau bod gofynion y diwydiant twristiaeth yn cael eu bodloni. Bydd CBSC yn asesu'r gofynion hyn yn llawn yn rhan o strategaeth twf twristiaeth er mwyn darparu tystiolaeth ddigonol ar sail gwybodaeth drylwyr. Ystyrir bod angen diwygiad wrth adolygu er mwyn sicrhau bod angen yn cael ei ddiwallu gan hefyd ganiatáu rhywfaint o hyblygrwydd yn y polisi.

Safleoedd Cabannau, Carafanau a Gwersylla

(2)5.4.10 Mae Polisi TOU/4 'Safleoedd Cabannau, Carafanau a Gwersylla' yn ymwneud ag ardaloedd arfordirol yn unig i ganiatáu gwella safleoedd a hyrwyddo dwyseddau is yn hytrach na gwelliannau amgylcheddol neu amwynder. Yn yr ardaloedd gwledig, mae angen newid y polisi rhywfaint er mwyn mynd i'r afael â'r safleoedd sefydlog mawr presennol rhag gor-ddatblygu ar diroedd sensitif. Mae hefyd angen gwella'r cyfeiriadau at boblogrwydd cynyddol 'gwersylla amgen' (iwrtiau, podiau, cytiau bugeiliaid, ac ati). Bydd angen diwygio/asesu yn ystod yr adolygiad.

Antur a Thwristiaeth Gydol y Flwyddyn

5.4.11 Mae Twristiaeth Antur yn farchnad sy'n tyfu ac mae atyniadau newydd yn agor yng Ngogledd Cymru ac atyniadau presennol yn ehangu i ddarparu ar gyfer y math newydd hwn o dwristiaeth. Mae Llywodraeth Cymru'n dymuno hyrwyddo Cymru fel y wlad orau yn y byd ar gyfer twristiaeth antur yn dilyn Blwyddyn Antur 2016. Penderfynwyd ar themâu eraill ar gyfer 2017 a 2018 i hyrwyddo cryfderau mwyaf Cymru ac i ganolbwyntio gweithgareddau, digwyddiadau ac atyniadau ar nodweddion gorau'r cynnig twristiaeth sydd gan Gymru. Mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi'n gyson mewn cynnyrch twristiaeth antur yn y blynyddoedd diwethaf. Mae nifer o'r atyniadau hyn yn cael eu gwasanaethu gan gyfleusterau a llety sydd yng Nghonwy.

5.4.12 Mae'r economi gyda'r nos a chynnig deniadol i ymwelwyr yn ystod y gaeaf yn hanfodol i sefydlu Sir Conwy fel cyrchfan drwy gydol y flwyddyn. Mae Venue Cymru'n denu ystod eang o gynadleddau ac archebion busnes drwy gydol y flwyddyn. Er mwyn tyfu'r farchnad hon a sicrhau bod cymaint â phosib' yn aros dros nos yn sgil yr archebion hyn, mae angen i Landudno gynnig mwy i ymwelwyr ei wneud gyda'r nos, gan gynnwys gwell cynnig o ran caffis/bwytai. Mae data'n dangos bod niferoedd yr ymwelwyr ar draws y sir yn gostwng yn sylweddol o fis Tachwedd hyd at fis Chwefror. Byddai buddsoddi mewn digwyddiadau atyniadol yn ystod y cyfnod hwn a datblygu atyniadau y gellir eu mwynhau drwy gydol y gaeaf yn cynyddu nifer yr ymwelwyr, gan gyfrannu tuag at yr economi dwristiaeth gyffredinol a chreu lle i fwy o swyddi llawn-amser o safon.

5.4.13 Yn rhan o adolygiad y CDLl, ac wrth ystyried uchelgeisiau Strategaeth Twf Economaidd Conwy a sbardunau eraill ar gyfer twf, bydd CBSC yn paratoi strategaeth twf twristiaeth yn gysylltiedig â pholisïau/dynodiadau ar gyfer twf twristiaeth/hamdden e.e. twristiaeth gwerth uwch drwy gydol y flwyddyn yn y sectorau hamdden/ gweithgareddau/antur, ac ati.

Cyfleusterau Cymunedol

Manwerthu

(1)5.5.1 Adolygwyd pennod 10 Polisi Cynllunio Cymru a TAN4 ym mis Tachwedd 2016. Mae amcanion allweddol manwerthu yn debyg i'r rhai blaenorol, ond mae rhai gofynion polisi newydd y dylid eu cynnwys mewn polisïau CDLl. Bydd angen adolygu'r rhain er mwyn asesu os yw'r polisïau Egwyddorion Datblygu a Gwasanaethau a Chyfleusterau Cymunedol yn darparu manylion addas er mwyn asesu ceisiadau cynllunio. Mae polisi cenedlaethol yn annog cymysgedd o ddefnydd yng nghanol trefi ac yn awgrymu y gellir mabwysiadu dull hyblyg ar gyfer newid defnydd. Efallai y bydd angen adolygu'r trothwyon a nodir mewn monitro CDLl a CCA CDLl23 Newid Defnydd yng Nghanol Trefi a Chymdogaethau er mwyn adlewyrchu hyn.

5.5.2 Cyhoeddodd CBSC Astudiaethau Capasiti Manwerthu ym mis Ebrill 2013. Daethpwyd i'r casgliad fod angen datblygiad manwerthu newydd yn y Fwrdeistref Sirol er mwyn cwrdd gofynion tan 2022:

  • Ardal arfordirol: Gofod llawr cyfleustra 75,000 troedfedd sgwâr
  • Llanrwst: Gofod llawr cyfleustra 18,000 troedfedd sgwâr
  • Bae Colwyn: 40-50,000 troedfedd sgwâr o ofod llawr cymharol a chynyddu effeithlonrwydd y gofod llawr cyfredol o 5%, 30-40,000 troedfedd sgwâr o ofod llawr cymharol a chynyddu effeithlonrwydd y gofod llawr cyfredol o 10%, neu dim gofod llawr cymharol a dim ond cynyddu effeithiolrwydd y gofod llawr cyfredol.
  • Llandudno: 15,000 troedfedd sgwâr o ofod llawr cymharol a chynyddu effeithlonrwydd y gofod llawr cyfredol neu dim gofod llawr cymharol a dim ond cynyddu effeithiolrwydd y gofod llawr cyfredol.

5.5.3 Mae'r gofyn o ran gofod llawr cymharol angenrheidiol yn Llandudno wedi ei ddiwallu gan gais TK Maxx a'r datblygiad ym Mharc Manwerthu Mostyn Champneys. Mae cais am gynnig archfarchnad yng Nghyffordd Llandudno wedi ei gymeradwyo, sy'n cwrdd y rhan fwyaf o'r gofod llawr cyfleustra arfordirol a nodwyd. Bydd angen monitro cynnydd datblygu'r safle hwn er mwyn sicrhau fod yr angen a nodwyd o ran manwerthu yn cael ei gwrdd. Rhoddir ystyriaeth i ddynodi'r safle ehangach er mwyn gwarchod ei ddefnydd manwerthu a hamdden.

5.5.4 Bydd ffigyrau'r boblogaeth a adolygwyd yn dilyn Cyfrifiad 2011 a diweddariad i amcanestyniadau poblogaeth a chartrefi yn effeithio ar yr angen a'r galw o ran manwerthu. Cafodd y rhain eu cyhoeddi wedi'r Astudiaeth Adwerthu diwethaf (2013). Bydd angen cydnabod arferion manwerthu fel y cynnydd mewn siopa ar y we.

5.5.5 Bydd angen astudiaeth manwerthu gyfredol er mwyn asesu'r newidiadau o ran manwerthu a'r galw o ganlyniad i ffigurau sylfaenol y boblogaeth sydd wedi'u diweddaru ac amcanestyniadau, y Strategaeth Economaidd newydd ar gyfer y rhanbarth, diweddariad i'r polisi cynllunio manwerthu cenedlaethol a newidiadau ym mhatrymau siopa pobl. Os darganfyddir angen, efallai y bydd angen dyraniad.

5.5.6 Amlygodd yr Adroddiad Monitro Blynyddol rai pryderon yn y dangosyddion gwirio iechyd manwerthu (nodwyd fel rhai oren). Ystyrir fod polisïau CDLl yn gweithredu'n effeithiol, ond gellir asesu iechyd canol trefi ymhellach mewn Astudiaeth Manwerthu wedi'i ddiweddaru. Mae'n bosib y bydd angen adolygu polisïau er mwyn gwella egni, hyfywedd ac atyniad y canolfannau siopa. Mae polisi cenedlaethol newydd yn ceisio sicrhau cymysgedd o ddefnydd mewn ardaloedd manwerthu eilaidd. Mae angen adolygu'r targed o ddefnydd nad yw'n A1 yn y monitro, er mwyn adlewyrchu hyn.

Mannau Agored

(1)5.5.7 Mae'r Asesiad Mannau Agored yn cael ei ddiweddaru ar hyn o bryd. Mae'n asesu meintiau a hygyrchedd y safleoedd mannau agored cyfredol ar lefel anheddiad yn Ardal Y Cynllun yn y Fwrdeistref Sirol. Mae'n debygol y bydd yn nodi diffyg o ran rhai mathau o fannau agored, sy'n effeithio ar iechyd a lles. Efallai y bydd angen dyrannu er mwyn mynd i'r afael â'r diffyg hwn.

5.5.8 Mae Meysydd Chwarae Cymru wedi cyhoeddi canllawiau newydd sy'n manylu ar safonau a argymhellwyd ar gyfer mannau agored yng Nghymru. Mae'r rhain yn amrywio o'r rhai blaenorol ar gyfer rhai teipoleg. Mae TAN16 yn nodi mai'r safonau hyn yw'r man cychwyn ar gyfer gosod safonau mewn unrhyw CDLl. Bydd angen adolygu polisi CDLl CFS/11 er mwyn adlewyrchu'r diweddariad hwn. Yn ogystal, mae'r Cyngor yn bwrw rhagddo gyda mabwysiadu'r Ardoll Seilwaith Cymunedol, ond rydym yn aros am adolygiad cenedlaethol yng Nghymru. Efallai y bydd darpariaeth mannau agored mawr yn cael ei ddarparu drwy'r Ardoll Seilwaith Cymunedol. Bydd angen adolygu CFS/11 er mwyn adlewyrchu hyn.

Cyfleusterau Gwledig

5.5.9 Mae monitro yn nodi fod polisi CFS/6 yn gwarchod cyfleusterau cymunedol fel y bwriedir. Mae'r rhain yn hanfodol ar gyfer ein cymunedau gwledig felly cynigir y newidiadau lleiaf posib i'r polisi er mwyn sicrhau fod cyfleusterau'n dal i gael eu gwarchod. Bydd yr arolwg cyfleusterau gwledig yn cael ei ddiweddaru i hysbysu'r polisi hwn.

Rhandiroedd

5.5.10 Mae caniatâd cynllunio wedi ei roi ar gyfer y safle tai a rhandiroedd yn Dwygyfylchi. Mae gwaith adeiladu wedi cychwyn. Bydd y rhandiroedd yn cael eu darparu fel gardd gymunedol, sy'n dal i gwrdd gofynion. Ceisiwyd cyfraniad ariannol am resymau hyfywedd yn Esgyryn, Cyffordd Llandudno.

5.5.11 Mae Meysydd Chwarae Cymru wedi argymell safon newydd ar gyfer cyflawni rhandiroedd a gerddi cymunedol. Mae angen sail tystiolaeth wedi ei ddiweddaru er mwyn asesu os yw'r rhandiroedd eraill yn cwrdd yr angen a nodwyd, neu os oes angen safleoedd pellach. Mae angen diweddaru CFS/10 er mwyn adlewyrchu hyn.

Claddfeydd

5.5.12 Nid yw'r safleoedd a neilltuwyd wedi eu cyflenwi eto. Mae angen sail tystiolaeth wedi ei ddiweddaru er mwyn asesu os oes angen safleoedd newydd a neilltuwyd er mwyn cwrdd yr angen.

Addysg

5.5.13 Mae Prosiect Moderneiddio Ysgolion Cynradd yn mynd rhagddo. Mae un cais am ysgol newydd yng Nghyffordd Llandudno wedi ei gyflwyno a'i gymeradwyo yn ystod y cyfnod cynllunio hyd yn hyn. Gallai'r sail tystiolaeth a'r cynigion moderneiddio olygu fod angen y safleoedd a neilltuwyd. Efallai y caiff ceisiadau am estyn neu ailddatblygu safleoedd ysgol cyfredol eu cyflwyno.

Iechyd

5.5.14 Mae newidiadau i strwythur poblogaeth a datblygiadau preswyl newydd yn effeithio ar y lefel o safleoedd gofal sylfaenol a darpariaeth gofal iechyd arall sydd eu hangen. Mae angen adolygu'r sail tystiolaeth er mwyn sicrhau y gall y ddarpariaeth gwasanaeth gadw i fyny gyda'r newid yn y galw. Mae'n bosib y bydd angen dyraniadau er mwyn sicrhau fod angen yn cael ei gwrdd.

Cyfleusterau Cymunedol Eraill

5.5.15 Bydd sail tystiolaeth ar gyfer cyfleusterau cymunedol eraill yn cael ei adolygu a'i ddiweddaru ble bo'r angen. Mae hyn yn cynnwys hamdden, ieuenctid a llyfrgelloedd.

Yr Amgylchedd Naturiol

(2)5.6.1 Mae adran Amgylchedd Naturiol y Cynllun Datblygu Lleol yn eang ac yn cynnwys polisïau ar ynni adnewyddadwy, dŵr a pherygl o lifogydd, ansawdd aer a bioamrywiaeth, sy'n gyffredinol wedi cael ymateb da ac wedi'u hwyluso. Er bod y rhan fwyaf o'r polisïau'n bodloni'r targedau Monitro Blynyddol, mae rhai newidiadau sylweddol wedi'u rhagweld drwy'r broses Adolygu.

5.6.2 Mae CBSC yn ymroddedig i ddiogelu a chadw ei dreftadaeth naturiol a'i asedau diwylliannol ar gyfer ei werth ei hun, yn ogystal â'r modd y mae'n denu twristiaid i'r ardal. Wrth fabwysiadu Cynllun Datblygu Lleol Conwy, roedd yr Awdurdod hefyd wedi paratoi canllaw cynllunio atodol ar y cyd ar Gapasiti Tirwedd o ran Ardaloedd Cymeriad datblygu tyrbinau gwynt. Mae'r canllaw ychwanegol hwn wedi atgyfnerthu polisïau presennol ac wedi nodi a helpu i ddiogelu'r tirweddau mwyaf sensitif a diamddiffyn.

Newidiadau i Bolisi Cynllunio Cenedlaethol

5.6.3 Diwygiwyd Polisi Cynllunio Cymru yn Nhachwedd 2016. Mae Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 yn nodi'r dull i helpu Cymru leihau ei allyriadau carbon. Mae'n gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i sicrhau bod allyriadau net yn 2050 o leiaf 80% yn is na'r waelodlin a osodwyd yn y ddeddfwriaeth. Bydd hyn yn cael ei gyflawni drwy osod targedau dros dro ar gyfer 2020, 2030 a 2040 a chyllidebau carbon 5 mlynedd hyd at 2050. Mae canllaw ar leihau carbon a Chynlluniau Datblygu Lleol yn rhannol gysylltiedig â'r rôl ac mae gofynion yr Asesiadau Ynni Adnewyddadwy'n cael eu trafod isod.

5.6.4 Mae Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 hefyd yn cyflwyno Datganiadau Ardal mewn dull newydd i liniaru a rheoli tirwedd lle bydd angen rheoli datblygiad yn ofalus yn unol â chanllaw cenedlaethol ac unrhyw ddynodiadau lleol yn y dyfodol. Mae Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru 2015 yn dal yn y cam drafft cychwynnol ond yn debygol o symud ymlaen drwy 2017-18.

5.6.5 Mae amcanion amgylchedd naturiol a monitro'n barhaus, ond mae rhai gofynion polisi a deddfwriaeth sydd angen eu cynnwys mewn polisïau Cynllun Datblygu Lleol drwy'r Adolygiad newydd. Y prif bwrpas yw diogelu a gwella'r amgylchedd naturiol lle mae'r datblygiad newydd wedi cael effaith. Fodd bynnag, ystyrir bod y meysydd pwnc angen gwahaniad i roi eglurder i ddefnyddwyr y cynllun. Nid yw TAN 5 "Natur, Cadwraeth a Chynllunio" 2009 wedi'i ddiweddaru ers ei gyhoeddi.

5.6.6 Mae Rheoliadau Gwarchod Cynefinoedd a Rhywogaethau 2010 yn cynnwys y gofyniad i gynnal Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd i asesu'r effeithiau tebygol. Cynhaliwyd Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd ar gyfer y Cynllun Datblygu Lleol mabwysiedig yn seiliedig ar y canllaw Cyfarwyddyd Cynefinoedd Ewropeaidd at y pryd, a bydd hyn yn cael ei ddiwygio yn sgil y Rheoliadau cyfredol.

Ynni adnewyddadwy

5.6.7 Mae polisi Llywodraeth Cymru ar gynllunio ar gyfer ynni adnewyddadwy wedi'i nodi ym Mholisi Cynllunio Cymru - rhifyn 9. Tachwedd 2016 (Polisi Cynllunio Cymru) a Nodyn Cyngor Technegol 8: Ynni Adnewyddadwy. Anfonodd Llywodraeth Cymru lythyr at awdurdodau cynllunio lleol yn 2015 yn amlinellu disgwyliadau'r Gweinidog Adnoddau Naturiol ar gyfer polisïau ynni mewn Cynlluniau Datblygu Lleol. Cyhoeddwyd "Canllaw ymarferol: Cynllunio ar gyfer ynni adnewyddadwy a charbon isel - llawlyfr i gynllunwyr" yn 2015, ac mae CBSC wedi bod yn gweithio ochr yn ochr ag ymgynghorwyr i gynnal Asesiad Ynni Adnewyddadwy yn ardal y Cynllun ac i gyflwyno polisïau i sicrhau bod Ynni Adnewyddadwy'n integredig o gam cynnar o'r broses gynllunio. Yn arbennig, gofyniad Llywodraeth Cymru ar gyfer polisïau gofodol i adlewyrchu dyheadau Ynni Adnewyddadwy a'i bryder nad oedd awdurdodau lleol wedi bod yn gweithredu'r gofynion hyn yn llawn yn eu Cynlluniau Datblygu Lleol.

5.6.8 Nid oedd y Cynllun Datblygu Lleol cyfredol a fabwysiadwyd wedi'i ddylanwadu gan y polisïau ynni cyfredol ym Mholisi Cynllunio Cymru gan fod y gofynion wedi'u nodi ychydig ar ôl i'r Cynllun Datblygu Lleol gael ei gyflwyno i'w adneuo. Mae Polisi Cynllunio Cymru'n datgan y dylai awdurdodau cynllunio lleol hwyluso datblygiad pob ffurf o ynni adnewyddadwy a charbon isel drwy ystyried y cyfraniad y gall eu hardal ei wneud a chreu polisïau Cynllun Datblygu Lleol sy'n galluogi bod y cyfraniad hwn yn cael ei gyflawni. Mae hefyd yn awgrymu bod penderfyniadau rheoli datblygiadau'n gyson â rhwymedigaethau newid hinsawdd rhyngwladol a chenedlaethol.

5.6.9 Mae newidiadau diweddar yn cynnwys diwygiad i'r Pecyn Offer Ynni Adnewyddadwy a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru yn 2015. Daeth Adran Ynni a Newid Hinsawdd yn rhan o'r Strategaeth Busnes, Ynni a Diwydiant yng Ngorffennaf 2016. Mae nawr yn gwneud penderfyniadau ar brosiectau Ynni Adnewyddadwy ar raddfa fawr. Mae canllaw cenedlaethol yn Ynni Cymru; Trawsnewidiad Carbon Isel 2012 (diweddarwyd yn 2016). Mae'n amlwg bod newidiadau cyd-destunol sylweddol wedi digwydd o ran ynni adnewyddadwy a charbon isel ers mabwysiadu'r Cynllun Datblygu Lleol ac mae sawl newid yn cael eu rhagweld ar gyfer y Cynllun Datblygu Lleol.

5.6.10 Cyhoeddwyd fersiwn diwygiedig o'r Pecyn Offer Ynni Adnewyddadwy gan Lywodraeth Cymru yn 2015 a disgwylir i Asesiadau Ynni Adnewyddadwy ffurfio rhan o sail dystiolaeth y Cynllun Datblygu Lleol.

5.6.11 Mae'r llythyr a grybwyllwyd o'r blaen yn egluro y dylai Asesiadau Ynni Adnewyddadwy hwyluso polisïau, meysydd chwilio a dyraniadau sy'n arwain cynlluniau ynni adnewyddadwy graddfa awdurdod lleol (5MW - 25MW) neu dechnolegau carbon isel eraill i'r lleoliadau mwyaf addas. Mae'n egluro ei fod yn hanfodol bod y system cynllunio'n nodi ac yn diogelu ardaloedd gyda photensial cynhyrchu ynni adnewyddadwy am y tymor hir.

5.6.12 Mae polisi am reoli ac asesu datblygiad tyrbinau gwynt wedi'i ddefnyddio'n dda, fodd bynnag, mae angen diwygiad drwy'r broses adolygu Cynllun Datblygu Lleol. Nid oedd modd goresgyn y mater hwn o ddiffinio 'ynni cyfatebol' ac 'ynni pennaf' fel rhan o'r Canllaw Cynllunio Atodol gan ei fod yn newid hanfod y polisi. Mae'n amlwg bod newidiadau cyd-destunol sylweddol wedi digwydd o ran ynni adnewyddadwy a charbon isel ers mabwysiadu'r Cynllun Datblygu Lleol. Bydd hwn yn fater allweddol ar gyfer Cynllun Datblygu Lleol diwygiedig a rhagwelir newidiadau polisi.

Tirwedd

5.6.13 Mae elfen Tirwedd y Cynllun Datblygu Lleol angen ei diwygio i adlewyrchu Deddf Lles Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 a Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2016. Bydd mentrau cenedlaethol eraill fel Cynllun Gweithredu Coetiroedd i Gymru, graddio tir yn Amaethyddol a diogelu mawn hefyd yn dylanwadu ar ddefnydd tir a newid polisi.

(1)5.6.14 Byddai polisi Arfordir Treftadaeth yn fuddiol gan fod yna ddynodiad heb unrhyw bolisi cysylltiedig. Byddai polisi dylunio a thirwedd hefyd yn ddefnyddiol gan ei fod angen mwy na chyswllt â DP6 i'w hyrwyddo, a byddai'n caniatáu'r Awdurdod Cynllunio Lleol i geisio dyluniad gwell pan gaiff ei herio â chynlluniau wedi'u dylunio'n wael.

Lletemau Glas

(1)5.6.15 Mae'r polisi lletem las yn seiliedig ar ganllaw cenedlaethol ac yn cael ei ystyried yn gadarn ac yn gyson o ran ei ddull. Ei fwriad yw cynnal adolygiad arall o'r meysydd hyn yn y dyfodol, lle gall rhai meysydd newid. Bydd hyn yn cael ei gynnal drwy ddiwygiadau i'r Papur Cefndir presennol.

Systemau Draenio Cynaliadwy

(1)5.6.16 Nid yw'r polisi o ran SUDS, Dŵr Budr a Chadwraeth Dŵr wedi newid ers mabwysiadu'r Cynllun Datblygu Lleol. Felly mae'n annhebygol y bydd angen unrhyw newid. Mae angen ystyried Cynlluniau Rheoli Adnoddau Dŵr a bydd y Cynllun Datblygu Lleol Diwygiedig yn cynnwys cyfeiriad at eu gofynion. Mae'n ofynnol i gwmnïau dŵr baratoi Cynlluniau Rheoli Adnoddau Dŵr sy'n edrych ymlaen 25 mlynedd neu fwy ac yn sicrhau cyflenwad dŵr digonol i'r cyhoedd, a chynnal digon o ddŵr yn yr amgylchedd. Mae'r Cynlluniau Rheoli Adnoddau Dŵr cyfredol yn cwmpasu'r cyfnod 2015-2040 ar gyfer ardal Conwy a Dŵr Cymru yw'r cwmni sy'n gweithredu yn ardal y Cynllun.

Treftadaeth Ddiwylliannol

5.7 Y problemau:

Perfformiad Polisi

5.7.1 Mae'r polisïau'n parhau i berfformio'n dda'n gyffredinol. Cytunwyd ar 5 CCA (gan gynnwys dau Gynllun Rheoli Ardal Gadwraeth) ers mabwysiadu'r Cynllun Cyflenwi Lleol (CDLl) sydd yn rhoi canllaw pellach i geiswyr a rhai sy'n gwneud penderfyniad wrth gyflwyno/ asesu ceisiadau. Un mater sy'n peri pryder ar gyfer y dyfodol yw cynhyrchu a mabwysiadu'r Cynlluniau Rheoli Ardal Gadwraeth sy'n weddill o fewn terfyn amser o 24 mis o ddyddiad mabwysiadu'r CDLl, gan fod y dyddiad cau ar gyfer hwn bellach wedi bod. Yn wir, ers mabwysiadu'r CDLl, mae dull y CCA hyn wedi newid lle bydd CDLl unigol i bob Ardal Gadwraeth yn cael eu cynhyrchu yn hytrach na Chynllun Rheoli 'generig' fel y cynlluniwyd i ddechrau. Mae hyn wedi arwain at flaenoriaethu Cynlluniau Rheoli ar y sail o'r angen ac amod presennol i'r Ardal Gadwraeth dan sylw, gyda Chynlluniau Rheoli Ardal Gadwraeth Conwy a Llandudno yn cael ei mabwysiadu i ddechrau, a Bae Colwyn a Llanelian yn mewn drafft wedi ei gyhoeddi ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus ar hyn o bryd. O hynny, teimlir nad yw dynodwr monitro CDLl MI/088 yn briodol bellach ar gyfer y ffrwd gwaith hon.

5.7.2 Cafodd CCA ar Adeiladu Rhestredig eu hoedi oherwydd cyhoeddiad diweddar Canllawiau Ymarfer Llywodraeth Cymru ar Adeiladau Rhestredig. Trafodir hyn ymhellach dan 5.6.3.

Newidiadau i Gyfraith Cynllunio - Deddf Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) (2016)

5.7.3 Yn genedlaethol, cafodd Deddf Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2016 Gydsyniad Brenhinol ar 21 Mawrth 2016. Mae'r Ddeddf yn ffurfio rhan o gyfres o ddeddfwriaeth, polisi a chyngor sy'n gwneud gwelliannau pwysig i'r systemau presennol sydd ar waith i warchod a rheoli'r amgylchedd hanesyddol mewn modd cynaliadwy yng Nghymru. Mae rhai o ddarpariaethau'r Ddeddf yn ei gwneud hi'n anodd i rhai hynny sy'n difrodi heneb gofrestredig yn anghyfreithlon osgoi cael eu herlyn.

5.7.4 Roedd y Ddeddf hefyd yn cyflwyno strwythurau newydd i gefnogi rheolaeth gadarnhaol o newid yn yr amgylchedd hanesyddol. Mae un o fesurau'r Ddeddf yn caniatáu perchnogion a'r awdurdodau perthnasol i drafod trefniadau ar gyfer rheolaeth well o asedau hanesyddol dros nifer o flynyddoedd.

5.7.5 Bydd y Ddeddf yn cael ei ategu gan nifer o ddogfennau polisi a chanllaw a fydd yn helpu i reoli amgylchedd hanesyddol Cymru yn gyson gydag arferion cadwraeth gyfredol. Mae ymgynghoriad cyhoeddus wedi'i gyflawni ar bennod 6 diwygiedig Polisi Cynllunio Cymru a TAN24 newydd. Mae ymgynghoriadau eraill yn mynd rhagddynt a disgwylir mwy yn ystod 2017.

Newidiadau i Bolisi Cynllunio Cenedlaethol - Polisi Cynllunio Cymru (PPW) Pennod 6, TAN 24, Canllawiau Ymarfer Drafft a goblygiadau'r CDLl

5.7.6 Cyhoeddwyd Argraffiad 9 Polisi Cynllunio Cymru ym mis Tachwedd 2016. Mae'r prif faterion o bennod 6 diwygiedig yn Polisi Cynllunio Cymru i gynlluniau datblygu yn ymwneud â Chofnodion Amgylchedd Hanesyddol (HER), Ardaloedd Cadwraeth, Adeiladau Rhestredig, Safleoedd Treftadaeth y Byd, gweddillion archaeolegol, asedau hanesyddol lleol a pharciau a gerddi hanesyddol. Mae TAN 24 (a gyhoeddwyd ym mis Mai 2017) a dogfennau Canllawiau Ymarfer (dal mewn drafft ar adeg yr adroddiad hwn) yn ystyriaeth ar hyn o bryd.

5.7.7 Mewn perthynas â'r problemau cyntaf a godwyd yn y Polisi Cynllunio Cymru, mae'r Polisi yn datgan bod rhaid defnyddio HER fel ffynhonnell allweddol o wybodaeth i lunio cynlluniau datblygu a chyngor ar eu defnydd, petai angen gan yr Ymddiriedolaethau Archaeolegol Cymru. Wrth gyflawni SEA a SA, asesiad o dreftadaeth ddiwylliannol (yn ôl HER) yn ofynnol mewn ymgynghoriad â Cadw. Mae Polisi Cynllunio Cymru yn nodi 'Wrth ymgymryd â'r gwerthusiad (cynaliadwyedd), mae'n rhaid defnyddio sail tystiolaeth ddiweddar, gan gynnwys y rhai hynny a ddarperir gan yr HER ar gyfer yr ardal awdurdod lleol a Chofnod Henebion Cenedlaethol." Bydd adolygiad o'r CDLl yn gofyn am y broses uchod i sicrhau bod yr holl ddata ased hanesyddol perthnasol wedi cael eu hystyried.

5.7.8 Mewn perthynas ag ardaloedd cadwraeth, adeiladau rhestredig a thirweddau hanesyddol, parciau a gerddi, mae Polisi Cynllunio Cymru yn datgan y dylai bod cynlluniau datblygu, lle mae'n briodol, yn cynnwys polisïau penodol yn lleol ar gyfer cadwraeth yr amgylchedd adeilad, gan gynnwys gwarchod neu wella ardaloedd cadwraeth adeiladau rhestredig a pharciau a gerddi hanesyddol. Gan fod y Canllawiau Ymarfer drafft ar Adeiladau Rhestredig wedi'u cyhoeddi, mae'n cael ei ystyried nad oes angen ail-wneud hyn yn y ffurf o bolisi cynllunio a CDLl. Gellir dweud yr un fath am dirweddau, parciau a gerddi oni bai bod proses adolygu yn nodi materion sy'n benodol i Gonwy.

5.7.9 Mae Polisi Cynllunio Cymru yn pwysleisio bod Safleoedd Treftadaeth y Byd wedi cael eu harsgrifio gan UNESCO oherwydd eu Gwerth Cyffredinol Eithriadol, ac mae'n rhaid i gynlluniau datblygu adlewyrchu hyn. Mae sail tystiolaeth newydd yn ymddangos yn y ffurf o Gynllun Rheoli ar gyfer y Cestyll a Muriau Tref Brenin Edward yn Safle Treftadaeth Y Byd Gwynedd, wedi'i gynhyrchu gan Cadw. Sonnir am hyn yn fwy manwl yn 5.6.4 isod.

5.7.10 Mae Polisi Cynllunio Cymru yn nodi bod gweddillion archaeolegol a'u lleoliadau, mewn amgylchiadau priodol, gweddillion archaeolegol heb ei drefnu o bwysigrwydd lleol a'u lleoliad, yn gallu cael eu hadnabod mewn cynlluniau datblygu o bwysigrwydd lleol ac yn deilwng o gadwraeth. Mae'n rhaid dweud efallai bydd awdurdodau cynllunio lleol yn datblygu canllaw cynllunio atodol i ddarparu manylion pellach ar unrhyw weddillion archeolegol penodol lleol a'u lleoliad yn cael eu cynnwys fel polisi mewn cynlluniau datblygu. Dylai ymgynghoriad gyda'r Ymddiriedolaeth Archaeolegol nodi unrhyw weddillion archaeolegol heb eu trefnu ac a fyddent yn haeddu cael eu gwarchod yn y CDLl.

5.7.11 Adnabyddir yn y Polisi Cynllunio Cymru'r dymunoldeb o asedau hanesyddol dynodedig yn lleol. Mae gan y CDLl bolisi (CTH/3) a CCA cysylltiedig eisoes mewn lle mewn perthynas â hyn. Disgwylir bod y polisi hwn a CCA yn cael ei gadw, ond gall y CCA gael mantais o adolygu er mwyn symleiddio'r broses o restru lleol.

5.7.12 Mae paragraff 6.5.30 o CCA yn gosod meini prawf i roi cynlluniau i alluogi datblygiad. Mae gan y CDLl bolisi ar hyn o bryd ar Alluogi Datblygiad (CTH/4) a CCA cysylltiedig. Bydd y rhain angen eu hadolygu i sicrhau eu bod yn unol â chanllaw cenedlaethol tra ddim yn ail-adrodd canllaw o'r fath.

Cynlluniau Rheoli Safle Treftadaeth Y Byd

5.7.13 Cyhoeddwyd ymgynghoriad ar Gynllun Rheoli newydd ar gyfer Cestyll a Muriau Tref Brenin Edward yn Safle Treftadaeth y Byd Gwynedd yn ddiweddar gan Cadw. Roedd yr argymhellion o fewn y cynllun gweithredu yn rhoi cyfrifoldeb ar awdurdodau cynllunio lleol i weithio gyda'i gilydd i gynhyrchu CCA ar y cyd wedi seilio ar gynnwys y Cynllun Rheoli Safle Treftadaeth y Byd. Felly bydd y CDLl angen mynd i'r afael ag argymhellion yn y Cynllun Rheoli a darparu mecanweithiau ar gyfer mabwysiadu'r polisi a CCA.

Yr Iaith Gymraeg - Newidiadau i Bolisi/ Deddfwriaeth

5.7.14 Er archwiliad o CDLl Conwy, mae'r polisi cynllunio cenedlaethol mewn perthynas â'r Iaith Gymraeg wedi newid, gyda chyhoeddiad o'r TAN20 newydd (Hydref 2013) a CCA diwygiedig. CCA paragraff 2.4.4 Ffigwr 4.1, adran 4.13, paragraff 9.2.2, 9.2.0. Yn ychwanegol, mae Deddf Cynllunio (Cymru) 2015 a Deddf Lles Cenedlaethau'r Dyfodol (2015) yn rhoi ystyriaeth i'r angen i ystyried yr iaith Gymraeg drwy baratoi cynllun a rheoli datblygiad.

5.7.15 Ymgynghorwyd ar TAN20 drafft newydd, a bydd yn cael ei ddiweddaru o ganlyniad i newidiadau deddfwriaethol. Bydd yr adolygiad CDLl yn ystyried pob canllaw newydd ac arfaethedig.

Yr Iaith Gymraeg - goblygiadau'r Adolygiad CDLl

(1)5.7.16 Bydd yr Adolygiad CDLl angen cynnwys Asesiad o Effaith y Gymraeg fwy manwl na'r un a gyflawnwyd cyn mabwysiadu'r Cynllun presennol. Mae hyn i alinio'r polisiau â'r gofynion CCA a TAN20 i gynnwys y gwaith hwn ac osgoi yr angen am asesiad o effaith gael ei gyflwyno gyda cheisiadau cynllunio heblaw nifer cyfyngedig o achosion.

5.7.17 Bydd angen newid Polisi CTH/5 a mapiau cynigion CDLl i adlewyrchu'r newidiadau i ganllaw cenedlaethol ac i ystyried canlyniadau'r Asesiad o Effaith y Gymraeg strategol newydd, ar ôl ei gwblhau. Gall hyn gynnwys adnabod meysydd sensitif o ran iaith; ceisiadau sylweddol o fewn yr ardaloedd hynny i ddatblygiadau nas ragwelir fel rhan o'r CDLl newydd a fabwysiadwyd y byddai'n destun asesiad o'r effaith ar yr iaith Gymraeg.

Cludiant Cynaliadwy

5.8.1 Mae newidiadau allweddol yn cynnwys Deddf Lles Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, Fframwaith Datblygu Cenedlaethol Cymru (2017), Cynllun Gweithredu Cymru ar Gerdded a Beicio (2009-2013) a Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013.

5.8.2 Adolygwyd Polisi Cynllunio Cymru ym mis Tachwedd 2016 hefyd. Mae Strategaeth a Gweledigaeth Dwf ar gyfer Economi Gogledd Cymru (2016) a Chynllun Corfforaethol Conwy hefyd wedi'u cyflwyno. Mae'r amcanion cludiant cynaliadwy allweddol yn debyg i'r rhai blaenorol, ond mae rhai gofynion polisi a deddfwriaeth newydd y mae angen eu cynnwys ym mholisïau'r CDLl.

5.8.3 Daeth y wybodaeth wrth baratoi'r CDLl mabwysiedig, yn rhannol, o Gynllun Cludiant Rhanbarthol Conwy ac mae Cynllun Cludiant ar y Cyd Gogledd Cymru hefyd yn cael ei adolygu, a fydd yn pennu rhai agweddau o adolygiad y CDLl. Bydd prosiectau sy'n gysylltiedig â datblygu o fewn y CDLl neu rai yr ystyrir bod modd eu darparu fel arall o fewn cyfnod y Cynllun hefyd wedi'u cynnwys.

5.8.4 Nid yw'r cynlluniau cludiant blaenoriaethol a nodir yng Nghynllun Cludiant ar y Cyd Gogledd Cymru'n cael eu hadlewyrchu'n llawn yn y CDLl ac felly mae angen ystyried goblygiadau cynlluniau felly ar bolisïau ac ar ddefnyddio tir er mwyn sicrhau bod modd eu cyflawni yng nghyd-destun polisi lleol.

5.8.5 Nid yw diogelu cludiant rheilffyrdd yn cael ei ddefnyddio ac ystyrir y gellid cael gwared â'r polisi.

Cynllun Teithio Llesol

5.8.6 Daeth Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 yn gyfraith yng Nghymru ar 4 Tachwedd 2013, gan ei wneud yn gyfreithiol ofynnol i awdurdodau lleol yng Nghymru wella cyfleusterau a llwybrau ar gyfer cerddwyr a beicwyr (defnyddwyr di-fodur) yn barhaus mewn aneddiadau sydd â phoblogaeth o 2,000 neu fwy o fewn ardal adeiledig. Bydd angen llunio polisi defnyddio tir i ategu, amddiffyn a gwella'r elfennau a nodir yng Nghynllun Teithio Llesol Conwy a'i Fapiau Rhwydwaith Integredig o fewn y CDLl.

Mwynau a Gwastraff

5.9 Y problemau:

Perfformiad Polisi

(1)5.9.1 Ar y cyfan, o ystyried y newidiadau i'r polisi cynllunio cenedlaethol ar gyfer rheoli gwastraff a wnaethpwyd ar ôl mabwysiadau'r CDLl, mae'r polisi strategol (MWS/1) yn denau gan nad yw'n cyfeirio at egwyddorion yr hierarchaeth gwastraff, ac mae angen mynd i'r afael â hynny. Byddai'r polisi hefyd yn fwy defnyddiol petai'n canolbwyntio mwy ar gyfleusterau gwastraff newydd. Elfen arall sydd angen ei hymhelaethu yw lleihau gwastraff a rheoli ailgylchu. Mae Polisi Cynllunio Cymru (paragraff 12.6.3) a TAN 21 yn gofyn i gynlluniau datblygu lleol chwilio am gyfleoedd i leihau, ailgylchu a storio gwastraff yn ystod cam dylunio datblygiadau. Ar hyn o bryd ceir cysylltiad rhwng Polisi DP1 a MWS/1 ond ystyrir y gall y polisi ym mhennod Mwynau a Gwastraff fynd gam ymhellach i fynd i'r afael â hyn a darparu sylfaen bolisi bellach ar gyfer y CCA ar Storio a Chasglu Gwastraff mewn Datblygiadau Newydd.

(1)5.9.2 O ran mwynau, mae Adolygiad Cyntaf y Datganiad Technegol Rhanbarthol (2014) yn cynnwys nifer o argymhellion ar gyfer pob awdurdod lleol sy'n wahanol i'r rhai a nodwyd yn Natganiad Technegol Rhanbarthol 2009 mewn rhai achosion (y drysorfa dystiolaeth a ddefnyddiwyd wrth lunio'r CDLl). Fodd bynnag, mae'r cyngor ar gyfer Conwy'n parhau'r un fath o ystyried y cronfeydd helaeth o greigiau caled sy'n parhau a dosbarthiad tywod a graean. Felly mae polisïau MWS/2, MWS/3 a MWS/4 yn dal yn berthnasol oherwydd eu bod yn adlewyrchu'r sylfaen dystiolaeth ddiweddaraf, er y gallan nhw fanteisio ar ganllaw cynllunio atodol.

5.9.3 Ysgrifennwyd Cynllun Datblygu Lleol Conwy yng nghyd-destun Adolygiad Cyntaf y Cynllun Gwastraff Rhanbarthol a pholisïau MWS/5 a MWS/6 a sefydlwyd y dangosydd monitro a lefelau sbardun gan ddefnyddio'r gofynion capasiti yn Adolygiad Cyntaf y Cynllun Gwastraff Rhanbarthol. Mae'r cyfrifiadau capasiti sydd yn Adolygiad 1af y Cynllun Gwastraff Rhanbarthol yn hen ac mae polisi cenedlaethol wedi dod yn eu lle. Mae'r polisi cenedlaethol bellach yn gofyn i gynlluniau datblygu lleol ystyried gwastraff fel rhan o adolygiad tir cyflogaeth.

5.9.4 Mae Polisi MWS/5 yn cynnwys prawf sydd angen cynigion i ddangos eu bod yn diwallu galw a nodwyd yn y Cynllun Gwastraff Rhanbarthol neu alw sy'n codi ar lefel leol. Ers dileu'r gofyniad i gynhyrchu ac ystyried Cynlluniau Gwastraff Rhanbarthol o'r polisi a'r canllawiau cenedlaethol, gallai cymhwyso'r prawf hwn yn llym arwain at gymeradwyo cynigion sy'n groes i'r polisi a/neu ganllawiau cenedlaethol. Mae'r polisi cenedlaethol a'r canllawiau diwygiedig yn ceisio atal darparu gormod o rai mathau o gyfleusterau e.e. gwaredu ac adfer. Felly, o fewn y canllawiau diwygiedig, mae'r 'angen' mewn perthynas â mathau eraill o gyfleusterau yn dod yn berthnasol pan fo cynnig y tu allan i safle a neilltuwyd, ac yn fwy tebygol o fod yn angen lleol. Argymhellir bod y polisi hwn yn cael ei ddiwygio yn ystod yr adolygiad o'r CDLl er mwyn gallu mynd i'r afael â'r anghysondeb hwn ac i sicrhau bod y prawf 'angen' yn cael ei gymhwyso yn unol â TAN 21. Felly bydd angen adolygu a diweddaru MWS/5 yn unol â'r sylfaen dystiolaeth bresennol i sicrhau bod y CDLl yn bodloni unrhyw ofynion newydd.

(1)5.9.5 Er bod polisïau a chanllawiau cenedlaethol wedi newid mewn perthynas â rheoli gwastraff, ystyrir bod polisïau MWS/6 a MWS/7 wedi bod yn ddigon hyblyg hyd yma i ddarparu seilwaith gwastraff. Fodd bynnag, o ystyried y sy'n defnyddio safleoedd a neilltuwyd a'r problemau posibl o ran darparu, efallai y byddai angen galw am safleoedd newydd / ystyried cwota o dir fel rhan o'r galw am safleoedd cyflogaeth yn ystod yr adolygiad o'r tir cyflogaeth. Mae TAN 21 hefyd yn nodi angen i gynlluniau datblygu lleol neilltuo safleoedd 'chwarel drefol' ar gyfer storio gwastraff anadweithiol.

5.9.6 O ran tirlenwi, mae yna le yn rhanbarthol a rhagwelir, oherwydd cynnydd mewn cyfraddau ailgylchu, y bydd hyn yn dal yn wir drwy gydol oes y CDLl. Mae TAN 21 yn nodi trothwy o 7 mlynedd (y lefel lle dylid cynnal capasiti gwagle) a throthwy 5 mlynedd (pan fo angen gweithredu i ddarparu cyfleuster tirlenwi yn y dyfodol). Mae'r monitro rhanbarthol yn nodi a yw'r trothwyon hyn wedi eu cyrraedd a hyd yma mae'r gwagle yn y rhanbarth ymhell o gyrraedd y trothwyon. Felly nid oes angen cynnal astudiaeth i chwilio am safleoedd tirlenwi na neilltuo rhagor o safleoedd tirlenwi, ond bydd y sefyllfa yn cael ei hadolygu'n gyson.

(1)5.9.7 Mae polisi MWS/8 yn dal yn berthnasol oherwydd y safle tirlenwi yn Llanddulas. Cafwyd ymholiad ynglŷn ag a oes angen cynnwys rhywfaint o eiriad y testun ategol yn y polisi ei hun. Bydd hyn yn cael sylw yn ystod yr adolygiad.

Newidiadau i Ganllawiau Polisi Cynllunio Cenedlaethol (Polisi Cynllunio Cymru) Pennod 12 (Chwefror 2014) Pennod 14 (Ionawr 2016) a TAN 21 (Chwefror 2014)

5.9.8 Ers mabwysiadu'r CDLl mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi Polisi Cynllunio Cymru diwygiedig sy'n cynnwys adran ddiwygiedig am wastraff ym Mhennod 12. Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi diwygio TAN 21 (Chwefror 2014) gan ddiddymu'r gofyniad i gynhyrchu Cynlluniau Gwastraff Rhanbarthol a'r angen i gynlluniau datblygu ystyried y Cynllun Gwastraff Rhanbarthol perthnasol.

5.9.9 Mae TAN 21 yn cynnwys gofyniad rhanbarthol i fonitro cynnydd a lefel y galw. Dylai'r trefniadau monitro hyn gael eu sefydlu gyda'r nod o gyhoeddi Adroddiad Monitro Cynllunio Gwastraff blynyddol i egluro'r sefyllfa ddiweddaraf mewn perthynas â'r galw am gyfleusterau gwaredu ac adfer. Mae Adroddiad Monitro Gwastraff Rhanbarthol interim (2013/14) wedi ei gynhyrchu ar gyfer gogledd Cymru yn ogystal ag adroddiad Monitro Gwastraff Rhanbarthol drafft (2014/15). Mae'r adroddiad interim yn nodi nad oes unrhyw ofyniad ychwanegol ar gyfer capasiti gwaredu o fewn y rhanbarth, fel yr adlewyrchir uchod mewn perthynas â thirlenwi. Mae'r ddau adroddiad uchod hefyd yn dod i'r casgliad y dylid asesu unrhyw gynnig ar gyfer cyfleusterau gwastraff gweddilliol yn ofalus i sicrhau na fyddai gormod o gyfleusterau yn cael eu darparu.

5.9.10 Er mwyn sefydlu pa ddangosyddion monitro a throthwyon a fyddai'n briodol, caiff gofynion isod TAN 21 eu hystyried. Mae TAN 21 yn gofyn i gynlluniau datblygu lleol:

  1. ganfod a oes angen cefnogaeth ar gyfer unrhyw raglen gaffael awdurdodau lleol;
  2. a oes angen mynd i'r afael ag unrhyw gytundeb sydd wedi ei gynnwys yn yr Adroddiad Monitro Gwastraff Rhanbarthol ar ffurf dyraniad safle; ac
  3. a oes unrhyw gyfle yn bodoli i fanteisio ar gyd-leoli a datblygu rhwydweithiau gwres.

5.9.11 O ran a), yn ystod datblygu'r CDLl rhoddwyd ystyriaeth i ofynion gofodol rhaglenni caffael yr awdurdod lleol, sef Prosiect Gwastraff Bwyd Gogledd Ddwyrain Cymru, cydweithrediad rhwng Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Chonwy i drin gwastraff bwyd, a Phrosiect Partneriaeth Trin Gwastraff Gweddilliol Gogledd Cymru, cydweithrediad rhwng Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Conwy, Gwynedd ac Ynys Môn i drin gwastraff gweddilliol. Ni nodwyd unrhyw ofynion gofodol o fewn Conwy ar gyfer Prosiect Gwastraff Bwyd Gogledd Ddwyrain Cymru na Phrosiect Partneriaeth Gwastraff Gweddilliol Gogledd Cymru. Fodd bynnag, dylid cadw llygad ar y mater hwn yn enwedig gan fod modd i ofynion cefnogi seilwaith newid. Argymhellir y dylid ymgynghori â'r Rheolwr Gwastraff i ganfod beth yw'r angen yn lleol ac a oes modd cynnwys hynny yn yr adolygiad o'r CDLl.

5.9.12 O ran pwynt b), mae'r Adroddiad Monitro Gwastraff Rhanbarthol Interim a'r Adroddiad Monitro Gwastraff Rhanbarthol Drafft yn dod i'r casgliad nad oes unrhyw angen pellach am gapasiti gwaredu yng ngogledd Cymru ac y dylid asesu unrhyw gynnig ar gyfer cyfleusterau trin gwastraff gweddilliol yn ofalus er mwyn sicrhau na fyddai'r cyfleusterau yn arwain at orddarpariaeth. Fodd bynnag, dylid adolygu'r mater hwn.

5.9.13 Wrth ystyried pwynt c), nid yw Prosiect Partneriaeth Gwastraff Gweddilliol Gogledd Cymru wedi nodi unrhyw ofyniad gofodol ar gyfer Conwy a rhoddwyd caniatâd cynllunio ar gyfer cyfleuster ar Ystâd Ddiwydiannol Glannau Dyfrdwy, lleoliad sydd hefyd yn cynnig cyfleoedd posibl ar gyfer datblygu rhwydweithiau gwres. Mae angen cydbwysedd rhwng bod â digon o gapasiti i reoli sgil-gynhyrchion gwastraff gweddilliol a bod â gorddarpariaeth, ac mae'r Cynllun Sector Casgliadau, Seilwaith a Marchnadoedd yn rhybuddio yn erbyn hyn. Felly, dylai cynigion ar gyfer cyfleusterau o'r fath gael eu profi'n drwyadl er mwyn sicrhau y byddent yn cwrdd ag angen gofynnol ac na fyddent yn arwain at orddarpariaeth. Felly, er ei bod yn bwysig cydnabod y cyfleoedd posibl a allai fodoli yn y Fwrdeistref Sirol, ystyrir nad oes angen cynnwys dyraniad penodol ar hyn o bryd.

5.9.14 O ran monitro, mae TAN 21 (paragraff 3.22) yn argymell y dylai safleoedd a ddefnyddir ar gyfer rheoli gwastraff gael eu monitro fel rhan o broses yr Adroddiad Monitro Blynyddol. Dylid hefyd ystyried elfennau eraill fel yr angen am safleoedd adfer a gwaredu fel testun adolygiad polisi, a fyddai'n cael ei sbarduno gan newid cyd-destunol sylweddol a nodir yn yr Adroddiad Monitro Cynllunio Gwastraff.

Am gyfarwyddiadau ar sut I ddefnyddio’r system ac I wneud sylwadau, gwelwch ein canllaw cymorth.
back to top Yn ôl i’r brig