Adroddiad Adolygu
Arfarniad o Gynaliadwyedd
6.1 Mae angen i'r Cyngor arfarnu cynaliadwyedd ei strategaeth a pholisïau defnydd tir arfaethedig ar bob cam o broses y Cynllun Datblygu Lleol. Gwneir hyn drwy gyhoeddi Arfarniad Cynaliadwyedd sy'n cynnwys themâu allweddol yr asesiad Amgylcheddol Strategol. Cynhaliwyd Arfarniad Cynaliadwyedd o'r CDLl presennol cyn ymgynghori ac fe'i hystyriwyd gan yr Arolygydd. Mae hwn ar gael yn: www.conwy.gov.uk/cdll/bp10
6.2 Mae gofyniad cyfreithiol ar y Cyngor i gynnal Arfarniad Cynaliadwyedd o'r CDLl i sicrhau bod ystyriaethau cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd yn cael eu hystyried ar bob cam o gynhyrchu'r ddogfen. Caiff yr Arfarniad Cynaliadwyedd ei ddatblygu mewn ffordd sy'n golygu y bydd yn cydymffurfio â gofynion y Gyfarwyddeb Asesiad Amgylcheddol Strategol Ewropeaidd, gan drawsnewid y Gyfarwyddeb yn gyfraith y DU.
6.3 Prif amcanion Arfarniad Cynaliadwyedd llawn fydd rhoi sylw i'r canlynol:
- Sicrhau bod y CDLl yn ystyried polisïau, cynlluniau a rhaglenni ar raddfa ryngwladol, cenedlaethol a lleol.
- Sefydlu asesiad sylfaenol o Gonwy, gan amlinellu nodweddion amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd a chodi unrhyw faterion y bydd rhaid i'r Cynllun gyfrif amdanynt.
- Creu fframwaith cynaliadwyedd sy'n parchu cynaliadwyedd Conwy. Profi safleoedd a pholisïau fel rhan o'r CDLl yn erbyn fframwaith cynaliadwyedd Conwy i asesu effaith yr opsiynau polisi, gan gynnwys y dewis a fferrir.
- Sicrhau bod dewisiadau amgen realistig ac ystyrlon yn cael eu profi fel rhan o'r broses, gan fyfyrio ar welliannau posibl i'r CDLl
6.4 Bydd angen i'r adroddiad cwmpasu gwmpasu amrywiaeth o wybodaeth i ddangos cysonder gyda Chyfarwyddeb yr Asesiad Amgylcheddol Strategol. Mae'r Adolygiad o baratoi'r CDLl a chamau'r Arfarniad Cynaliadwyedd (gan gynnwys yr Asesiad Amgylcheddol Strategol) wedi'u hamlinellu yn Nhabl 1 isod:
Rhag-gynhyrchu'r Cynllun Lleol - Arfarniad Cynaliadwyedd Cam A: Gosod y cyd-destun ac amcanion, sefydlu'r waelodlin a phenderfynu ar y cwmpas. |
||
Cam Disodli CDLl |
Camau Arfarniad Cynaliadwyedd |
Proses Arfarniad Cynaliadwyedd |
Adroddiad Adolygiad |
A1: Nodi polisïau, cynlluniau a rhaglenni perthnasol eraill ac amcanion cynaliadwyedd. |
Dod ag amrywiaeth o wybodaeth ynghyd i roi sylw i gyfyngiadau posibl a dylanwadu ar ddewisiadau. |
A2: Casglu gwybodaeth waelodlin |
Helpu i nodi problemau cynaliadwyedd drwy greu dangosyddion sy'n seiliedig ar dystiolaeth a gasglwyd. |
|
A3: Nodi materion a phroblemau cynaliadwyedd. |
Cyfle i ddiffinio materion allweddol ar gyfer y CDLl a dod ag unrhyw anghysonderau posibl ymlaen a allai godi. |
|
A4: Datblygu fframwaith yr Arfarniad Cynaliadwyedd. |
Mae'r fframwaith yn darparu ffordd gellir arfarnu'r effeithiau cynaliadwyedd. |
|
A5: Ymgynghori ar gwmpas yr Arfarniad Cynaliadwyedd. |
Gofyn am farn gan gyrff statudol yn yr ymgynghoriad 6 wythnos. |
Mae'r cam hwn yn dod ag amrywiaeth o wybodaeth ynghyd i fynd i'r afael â chyfyngiadau posibl a dylanwadu ar ddewisiadau ar gyfer newid.
6.5 Caiff Adroddiad Cwmpasu ei baratoi i fodloni'r camau a amlinellir yng nghanllawiau'r ODPM. Caiff sylw ei roi i bob un o feysydd pwnc yr Asesiad Amgylcheddol Strategol hefyd a fydd yn ystyried y fframwaith deddfwriaethol a'r cyd-destun lleol. Caiff unrhyw faterion cynaliadwyedd nodedig sy'n codi ym mhob adran eu nodi hefyd a chaiff dangosyddion eu diffinio a fydd yn cynorthwyo i brofi cynigion yn y CDLl i ddeall effeithiau tebygol.
6.6 Beth fydd cwmpas yr Arfarniad Cynaliadwyedd?
Mae angen i'r Arfarniad Cynaliadwyedd arfarnu effeithiau cynlluniau sy'n dod i'r amlwg yn erbyn nifer o amcanion thematig sy'n gyfrifol am effeithiau amgylcheddol economaidd a chymdeithasol datblygiad. Mae Atodiad 1 Cyfarwyddeb yr Asesiad Amgylcheddol Strategol yn dosbarthu'r meysydd canlynol fel materion y dylai'r Arfarniadau Cynaliadwyedd roi sylw iddynt er mwyn bodloni gofynion y Gyfarwyddeb.
- Ansawdd Aer
- Bioamrywiaeth
- Lliniaru Newid Hinsawdd
- Cymunedau a Lles
- Economi a Chyflogaeth
- Tai
- Tirwedd a Threftadaeth Diwylliannol
- Pridd
- Cludiant a Hygyrchedd
- Gwastraff
- Dŵr (gan gynnwys Perygl o Lifogydd)
6.7 O ran cynlluniau, polisïau a rhaglenni, bu newid cyd-destunol sylweddol ers 2007 fel cyflwyno Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 a Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 er enghraifft. Mae diweddariadau wedi'u gwneud i ddogfennau polisi a chanllawiau cenedlaethol allweddol fel Polisi Cynllunio Cymru, Nodiadau Cyngor Technegol a Llawlyfr y CDLl.
6.8 Bydd yr adroddiad cwmpasu yn asesu unrhyw heriau lleol ar sail y sefyllfa bresennol, ac amlinellu'r materion tebygol a allai godi fel rhan o unrhyw gynllun yn y dyfodol. Ymgynghorir ar y ddogfen gyda rhan-ddeiliaid allweddol, gan gynnwys asiantaethau amgylcheddol ac awdurdodau cyfagos. Gwneir hyn fel rhan o ymgynghoriad o 6 wythnos o leiaf.
6.9 Mae data amgylcheddol yn cael ei ddiweddaru'n barhaus hefyd. Mae arsylwadau cychwynnol yn dangos y bydd gan CDLl diwygiedig amodau amgylcheddol a chymdeithasol tebyg ond heriau wedi'u haddasu i'w hystyried. Mae'n bosibl y bydd cwmpas i buro'r Amcan Strategol y caiff y Cynllun ei asesu yn ei erbyn yng ngoleuni'r wybodaeth wedi'i diweddaru.