Adroddiad Adolygu

Daeth i ben ar 22 Rhagfyr 2017

Cyflwyniad

(1)1.1 Mae Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) Conwy sydd wedi'i fabwysiadu'n nodi blaenoriaethau'r Cyngor ar gyfer datblygu a defnyddio tir yn y Fwrdeistref Sirol a'i bolisïau i'w cyflwyno dros oes pymtheng mlynedd y cynllun rhwng 2007 a 2022. Cafodd y CDLl ei fabwysiadu ar 23 Hydref 2013 ac, yn unol â gofynion statudol, mae wedi'i fonitro'n flynyddol ar ôl hynny ac mae dau Adroddiad Monitro Blynyddol (AMB) wedi'u cyhoeddi hyd yma. Mae pob AMB yn asesu i ba raddau y mae strategaeth, polisïau a safleoedd datblygu'r CDLl yn cael eu cyflawni.

1.2 Mae bod â CDLl cyfredol yn rhan sylfaenol o'r system sy'n dilyn cynllun ac, yn unol ag Adran 69 yn Neddf 2004, rhaid i Awdurdodau Cynllunio Lleol gychwyn ar adolygiad o'u CDLl cyn pen pedair blynedd ers ei fabwysiadu; ynghynt os yw canlyniadau'r AMB yn dangos bod angen.

1.3 Nododd yr AMB ar gyfer cyfnod 2014-15 rai meysydd yn y polisi a oedd wedi methu â chyrraedd y targedau yn ystod y cyfnod monitro, a faint o dir sydd ar gael ar gyfer tai'n un o'r rhai mwyaf sylweddol. Fodd bynnag, gan mai'r AMB cyntaf yn unig oedd hwn ers mabwysiadu'r CDLl, credid bod angen mwy o wybodaeth cyn penderfynu adolygu'r CDLl. Cafodd yr ail AMB, a gyflwynwyd i Lywodraeth Cymru ym mis Hydref 2016, fod nifer o bryderon mewn perthynas â chyflwyno polisïau'r CDLl; yn benodol o ran darparu tir ar gyfer tai newydd a chyflogaeth. Roedd hyn yn cadarnhau bod rhai o'r tueddiadau a nodwyd yn yr AMB cyntaf yn parhau ac fe gynigiwyd cynnal adolygiad buan.

1.4 Yr Adroddiad Adolygu hwn yw'r cam cyntaf tuag at lunio Cynllun Datblygu Lleol Newydd (CDLlN) ar gyfer Conwy, a fydd yn mynd i'r afael â'r materion sydd wedi'u nodi hyd yma. Nid yw'r adroddiad hwn yn llunio rhestr gynhwysfawr o'r newidiadau angenrheidiol; gall y dystiolaeth a gesglir yn ystod y broses adolygu nodi mwy o ddiwygiadau y bydd angen eu cynnwys yn y CDLlN.

1.5 Bydd yr Adroddiad Adolygu hwn yn:

  • crynhoi canfyddiadau'r ddau Adroddiad Monitro Blynyddol hyd yma,
  • manylu ar y pryderon ynglŷn â chyflwyno'r polisi sydd wedi arwain at adolygu'r CDLl, gan ddadansoddi'r pynciau hyn ymhellach,
  • nodi meysydd eraill y mae'r Awdurdod Cynllunio Lleol yn credu bod angen eu hadolygu oherwydd tystiolaeth arall sydd wedi'i chasglu ers mabwysiadu'r CDLl, er eu bod wedi cyrraedd targedau'r dangosyddion,
  • nodi pa ymchwil pellach sydd ei angen i gasglu gwybodaeth ar gyfer Adolygiad y CDLl,
  • dangos sut mae dull yr Awdurdod Cynllunio Lleol o adolygu'r CDLl yn gysylltiedig â Chynllun Lles Lleol Conwy a CDLlau awdurdodau cyfagos,
  • nodi sut mae newidiadau cyd-destunol i bolisïau a chanllawiau cenedlaethol yn effeithio ar y CDLl wrth fynd ymlaen,
  • amlinellu'r dull arfaethedig o gyflawni CDLlN Conwy.
Am gyfarwyddiadau ar sut I ddefnyddio’r system ac I wneud sylwadau, gwelwch ein canllaw cymorth.
back to top Yn ôl i’r brig