Adroddiad Adolygu

Daeth i ben ar 22 Rhagfyr 2017
Am gyfarwyddiadau ar sut I ddefnyddio’r system ac I wneud sylwadau, gwelwch ein canllaw cymorth.

Casgliad

(4)8.1 Er bod sawl rhan o'r CDLl a'r CCAau yn gweithredu'n effeithiol, am nifer o resymau, gan gynnwys ffactorau allanol, nid yw elfennau penodol o'r Strategaeth Ofodol sy'n tanategu'r CDLl yn cael eu darparu. Er bod yr amodau economaidd yn gwella, mae ansicrwydd o hyd ynghylch pryd ac a fydd cyfraddau darparu yn cyrraedd y lefel angenrheidiol i fodloni gofynion y strategaeth. Felly mae angen ailystyried cyfraddau a strategaethau twf er mwyn llunio strategaeth briodol i ddarparu twf realistig a chynaliadwy drwy gydol cyfnod y cynllun diwygiedig.

8.2 Mae'n rhaid i'r broses adolygu ystyried deddfwriaethau sylfaenol ychwanegol fel Deddf Cynllunio (Cymru) 2015 a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, ynghyd â newidiadau i'r gyfundrefn les, lefelau twf posibl a diwygiadau i bolisi cynllunio cenedlaethol; gan gynnwys newidiadau pellach sy'n dod i'r amlwg yn ystod yr adolygiad. Hefyd, cyflwynodd Deddf Cynllunio (Cymru) 2015 hierarchaeth newydd o gynlluniau datblygu, gan gynnwys Fframwaith Datblygu Cenedlaethol a Chynlluniau Datblygu Strategol, a fydd â goblygiadau sylweddol ar gynnwys a swyddogaeth unrhyw CDLl newydd.

8.3 Mae'r adroddiad adolygu yn amlinellu'r angen am gynnal arolwg o strategaeth y CDLl. O ganlyniad bydd y cynllun yn destun adolygiad llawn a bydd CDLl newydd yn cael ei baratoi. Er bod sawl rhan arall o'r CDLl yn gweithredu'n effeithiol, bydd newidiadau cyd-destunol ac sy'n seiliedig ar dystiolaeth, penderfyniadau apeliadau a deddfwriaethau, polisïau a chanllawiau newydd yn gofyn am adolygu polisïau a dyraniadau penodol yn y cynllun.

Am gyfarwyddiadau ar sut I ddefnyddio’r system ac I wneud sylwadau, gwelwch ein canllaw cymorth.
back to top Yn ôl i’r brig