Adroddiad Adolygu

Daeth i ben ar 22 Rhagfyr 2017
Am gyfarwyddiadau ar sut I ddefnyddio’r system ac I wneud sylwadau, gwelwch ein canllaw cymorth.

Gweledigaeth ac Amcanion

3.1 Mae gweledigaeth y CDLl yn nodi'r sefyllfa yr ydym am weld Conwy ynddi yn y dyfodol ac mae'n hanfodol ei bod yn parhau'n berthnasol i anghenion ac uchelgeisiau lleol dros gyfnod y CDLl diwygiedig. Datblygwyd gweledigaeth y CDLl drwy bartneriaeth ac roedd ystod o gynlluniau a strategaethau'n cyfrannu gwybodaeth ati. Roedd y ddwy brif strategaeth a ddarparodd wybodaeth ar gyfer Gweledigaeth y CDLl wedi'u crynhoi yn - Strategaeth Gymunedol 'Un Conwy' a Chynllun Corfforaethol Conwy, ond nid yw'r ddwy ddogfen yn gyfredol bellach. Bydd Cynllun Corfforaethol Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy (a fydd yn cynnwys y datganiad lles) wedi'i gymeradwyo'n ffurfiol erbyn 19 Hydref 2017. Yn dilyn hynny, bydd Cynllun Lles Bwrdd Gwasanaeth Cyhoeddus Conwy a Sir Ddinbych yn cael ei gymeradwyo erbyn 31 Mawrth 2018. Bydd y strategaethau hyn yn ffurfio sail dystiolaeth a fydd, yn ei thro, yn darparu gwybodaeth ar gyfer adolygiad o weledigaeth ac amcanion y CDLl.

3.2 Gweledigaeth fabwysiedig y CDLl yw:

"Erbyn 2022, bydd cymunedau Conwy'n fwy cynaliadwy, yn cynnig gwell ansawdd bywyd ac yn cael eu cefnogi gan strwythur oedran sy'n fwy cytbwys.

Bydd anghenion datblygu o ganlyniad i newidiadau yn y boblogaeth yn y dyfodol a lleihau lefelau all-gymudo wedi'u diwallu. Bydd anghenion yr ardal mewn perthynas â thai'n cael eu diwallu'n well, a bydd yn haws cael tai fforddiadwy ar gyfer angen lleol. Bydd ein cymunedau wedi'u haddysgu a bydd ganddynt sgiliau a chyfleoedd gwell i gael swyddi o ansawdd uwch a chyflogau uwch, yn enwedig yn y diwydiannau gwerth uwch a'r sectorau twristiaeth trwy gydol y flwyddyn, a fydd yn golygu bod Sir Conwy'n fwy llewyrchus a ffyniannus. Trwy hyrwyddo Ardal Strategaeth Datblygu Trefol, bydd aneddiadau cynaliadwy a hygyrch y llain arfordirol drefol, sef Abergele, Bae Colwyn, Conwy, Llandudno a Chyffordd Llandudno, wedi datblygu i fod yn ganolbwynt economaidd, cymdeithasol a diwylliannol Ardal y Cynllun. Bydd y canolbwyntiau strategol a'r ardaloedd adfywio ar hyd y coridor ffyrdd a rheilffyrdd allweddol yn gryfach o ganlyniad i hynny. Trwy Ardal Strategaeth Datblygu Gwledig, bydd cymeriad arbennig yr ardaloedd gwledig fel lleoedd i fyw a gweithio ynddynt wedi'i feithrin drwy ddarparu swyddi a gwasanaethau sy'n hygyrch yn lleol. O fewn y cymunedau hyn, bydd gwaith datblygu wedi cefnogi a chynnal lles tymor hir y Gymraeg.

Bydd pobl Conwy'n teimlo'n fwy diogel ac iach, o ganlyniad i ddatblygiadau ansawdd uwch, hygyrch, sydd wedi'u dylunio'n dda, yn defnyddio ynni'n effeithiol ac sy'n diogelu ac yn gwella'r amgylchedd naturiol ac adeiledig. Bydd mannau hamdden a mannau agored hanfodol wedi'u diogelu a'u gwella a bydd Lletemau Glas ac Ardaloedd Tirwedd Arbennig wedi meithrin hunaniaeth i gymunedau ac aneddiadau.

Bydd rhwydwaith cludiant cyhoeddus, cerdded a beicio gwell ar waith a bydd cyfnewidfa cludiant cyhoeddus gynaliadwy wedi'i chwblhau yn Llandudno a Bae Colwyn. Bydd cyflenwad o agregau ar gyfer y tymor hir a bydd cynhyrchu ynni a lleihau gwastraff yn cael eu hyrwyddo."

(1)3.3 Ystyrir bod gweledigaeth y CDLl yn dal i fod yn lled-berthnasol, ond mae angen mwy o waith i ddeall a ddylid gwneud unrhyw newidiadau neu ychwanegu ati yn sgil sail o dystiolaeth allweddol fel amcangyfrif o'r boblogaeth, tir sydd ar gael ar gyfer tai, cyfleoedd ar gyfer datblygiadau economaidd a chynlluniau strategol newydd sydd ar ddod fel Cynllun Corfforaethol Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a'r Cynllun Lles.

3.4 Lluniwyd nifer o amcanion gofodol fel ffordd o gyflawni'r weledigaeth a mynd i'r afael â materion sydd wedi'u blaenoriaethu o fewn ardal y cynllun. Mae'r 16 o amcanion strategol, sy'n cwmpasu materion cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol, yn gyffredinol, yn dal yn briodol ac yn cydgyfrannu at gyflawni'r rhan fwyaf o ddeilliannau blaenoriaethau'r CDLl. Fodd bynnag, ystyrir bod angen adolygiad o ganlyniad i nifer o newidiadau i'r sail dystiolaeth a'r ddeddfwriaeth ers mabwysiadu'r CDLl. Gan ddibynnu ar ganlyniad hynny, efallai y bydd angen diwygio rhywfaint i sicrhau bod yr amcanion yn fwy penodol ac yn cydnabod blaenoriaethau lleol a nodau lles allweddol.

Am gyfarwyddiadau ar sut I ddefnyddio’r system ac I wneud sylwadau, gwelwch ein canllaw cymorth.
back to top Yn ôl i’r brig