LDP11 Landscape Sensitivity and Capacity Assessment for Onshore Wind Turbine Development

Am gyfarwyddiadau ar sut I ddefnyddio’r system ac I wneud sylwadau, gwelwch ein canllaw cymorth.

14. ATODIAD 7

Geirfa a Diffiniadau

14.1 Geirfa

Mae Tabl A7.1 isod yn darparu geirfa o’r talfyriadau a ddefnyddiwyd yn y canllaw. I ddilyn hynny mae diffiniadau o eiriau allweddol a ddefnyddiwyd yn yr adroddiad hwn er eglurder.

Tabl A7.1: Tabl Geirfa

AOHE Ardal o Harddwch Eithriadol
USO Uwchlaw’r Seilnod Ordnans
AHNE Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol
CDC Comisiwn Dylunio Cymru
GLVIA Canllawiau ar gyfer Asesiad Effaith Weledol a Thirwedd22
kW kilowat
LCA Ardal Cymeriad Tirwedd
LCT Math o Gymeriad Tirwedd
CDLl Cynllun Datblygu Lleol
LSA Ardal Strategaeth Tirwedd
UT Uned Tirwedd
MW Megawat
CNC Cyfoeth Naturiol Cymru (Cyngor Cefn Gwlad Cymru yn flaenorol)
PCC Polisi Cynllunio Cymru
ATA Ardal Tirwedd Arbennig
SNH Treftadaeth Naturiol yr Alban
CCA Canllawiau Cynllunio Atodol
SSA Ardal Chwilio Strategol
SSA A Ardal Chwilio Strategol A (Coedwig Clocaenog)
TAN Nodyn Cyngor Technegol
PGD Parth Gwelededd Damcaniaethol

22 Canllawiau ar gyfer Asesu Effaith Tirwedd a Gweledol argraffiad 2 (GLVIA) (The Landscape Institute and the Institute for Environmental Management and Assessment 2002) wedi’i ddisodli gan drydydd argraffiad y GLVIA ym mis Ebrill 2013.

14.2 Diffiniadau

Ar gyfer yr astudiaeth hon, mae’r diffiniadau canlynol yn deillio o (neu’n seiliedig ar) y canllawiau y cyfeiriwyd atynt yng Ngham Un y Fethodoleg (Adran 2):

Tirwedd yw ardal fel y’i canfyddir gan bobl, sydd â chymeriad o ganlyniad i weithredoedd a rhyngweithrediad naturiol a /neu ffactorau dynol23. Mae GLVIA yn nodi nad yw’r term nid yn unig yn golygu tirweddau sy’n cael eu cydnabod fel rhai arbennig neu werthfawr ond hefyd y tirweddau cyffredin lle mae pobl yn byw a gweithio, ac yn treulio eu hamser hamdden. Mae hyn yn cynnwys tirweddau gwledig, morol a threfol.

Mae Sensitifrwydd Tirwedd yn ymwneud â chymeriad tirwedd a pha mor agored ydyw i newid. Mae tirweddau sy’n hynod sensitif mewn risg y bydd addasiad sylweddol i’w nodweddion allweddol, gan arwain at gymeriad tirwedd gwahanol. Mae sensitifrwydd yn amrywio gan ddibynnu ar y math o ddatblygiad a gynigir (yn yr achos hwn ynni gwynt) ac elfennau, nodweddion, a chymeriad unigol y dirwedd.

Mae Mathau o Gymeriad Tirwedd yn fathau arbennig o dirwedd sy’n eithaf unffurf. Maent o natur generic o ran eu bod i’w gweld mewn ardaloedd gwahanol ar draws y wlad, ond ym mha le bynnag y gwelwch maent yn rhannu’r un cyfuniadau o ecoleg, topograffeg, patrymau draenio, llystyfiant a phatrwm defnydd tir ac ymgartrefu hanesyddol24.

Mae Ardaloedd Cymeriad Tirwedd yn ardaloedd unigryw sy’n ardaloedd daearyddol annibynnol o fath arbennig o dirwedd25.

Mae Unedau Tirwedd wedi eu cynllunio ar gyfer diben yr adroddiad hwn yn lle asesiad cymeriad tir cyson ar draws ardal yr astudiaeth. Mae’r unedau tirwedd yn seiliedig ar ardaloedd daearyddol annibynnol o’r mathau o dirweddau a nodwyd yn Asesiad Tirwedd Clwyd a gynhaliwyd yn 1995 ac maent yn fras yn adlewyrchu ardaloedd cymeriad gwahanol y dirwedd. Nid yw’r ardaloedd hyn yn cael eu cydnabod yn ffurfiol fel ardaloedd cymeriad tirwedd, ac felly defnyddir y term unedau tirwedd.

Mae Ardaloedd Strategaeth Tirwedd wedi eu nodi er dibenion yr adroddiad hwn yn unig er mwyn dynodi nodau tirwedd eang ac asesu cynhwysedd cyffredinol ar gyfer datblygiadau ynni gwynt. Mae’r Ardaloedd Strategaeth Tirwedd yn ardaloedd daearyddol eithaf mawr sydd wedi ffurfio yn dilyn adolygiad o asesiadau sensitifrwydd yr unedau tirwedd, gyda dadansoddiad o gymeriad tirwedd bras, rhyngwelededd, derbynyddion gweledol allweddol, topograffeg (gan gynnwys ymylon a gwahanfa ddŵr yn seiliedig ar wybodaeth LANDMAP), data Arolwg Ordnans a GIS, arsylwadau a wnaed yn ystod astudiaethau maes a thrafodaethau gyda’r Grŵp Llywio.

Mae Sensitifrwydd Gweledol yn adlewyrchu golygfeydd pobl o’r dirwedd ac yn effeithio ar newid y golygfeydd hynny. Pan newidir tirwedd, mae’n debyg y bydd yn cael ei weld gan rywun ac yn aml gan nifer o bobl. Gall hyn effeithio ar olygfeydd penodol a chael effaith ar yr olygfa gyffredinol (harddwch) y mae pobl yn ei fwynhau. Mae sensitifrwydd gweledol yn dibynnu ar natur y datblygiad arfaethedig ynghyd â natur golygfeydd penodol unigolion a harddwch. Mae hefyd yn adlewyrchu’r niferoedd a’r mathau o bobl sy'n debygol o weld y dirwedd ac i ba raddau y gallant dderbyn newid heb gael effaith negyddol ar eu golygfa.

Diffinnir Gwerth Tirwedd fel gwerth perthynol a roddir i wahanol dirweddau gan gymdeithas ac yn aml yn cael ei adlewyrchu yn y dynodiad. Os mai dyma yw’r achos mae’n bwysig deall pa agweddau o dirwedd arweiniodd at ei ddynodiad a sut yr effeithir ar y rhain gan y datblygiad posibl.

Mae Cynhwysedd Tirwedd yn ymwneud â faint o newid sy’n deillio o ddatblygiad ynni gwynt y gellir ei gynnwys heb gael effaith andwyol annerbyniol ar rinweddau neu ganfyddiad o dirwedd a heb gyfaddawdu unrhyw werthoedd sy’n rhan ohono.

Mae Graddfa Tirwedd mewn perthynas â gwerthuso unedau tirwedd yn ymwneud â pherthynas elfennau allweddol neu ofodau pob uned o dirwedd, megis coetir neu ofod agored, o fewn y dirwedd gyfan. Nid yw hyn yn cyfeirio at faint uned o dirwedd yn unig. Efallai y bydd uned o dirwedd bychan sy'n cael ei asesu yn helaeth o ran graddfa gan ei fod yn rhan fechan o gyfanrwydd megis cadwyn o fynyddoedd neu goedwig fawr. Ar y llaw arall gall tirweddau ar raddfa lai gynnwys elfennau a gofodau o faint cymunedol megis pentrefan, gofod mewn coetir, cae bychan neu unedau o goetir.

Effeithiau cronnus ‘y newidiadau ychwanegol a achoswyd gan ddatblygiad arfaethedig ynghyd â datblygiadau tebyg neu fel effaith gyfunol cyfres o ddatblygiadau gyda’i gilydd'.

Effeithiau Tirwedd Cynyddol ‘gall effeithio ar naill ai nodweddion ffisegol neu rinweddau’r dirwedd, neu unrhyw werthoedd arbennig sy’n rhan ohono’.

Gall Effeithiau Gweledol Cynyddol gael eu hachosi gan welededd cyfunol, sy'n digwydd ‘pan fydd arsylwr yn gallu gweld dau neu fwy o ddatblygiadau o un golygfan’ a / neu effeithiau dilynol sy’n ‘digwydd pan fydd yn rhaid i arsylwr symud i olygfan arall i weld datblygiadau gwahanol.26

Diffinnir Llonyddwch fel ansawdd y tawelwch a brofir mewn llefydd sydd â nodweddion sy’n naturiol yn bennaf, heb unrhyw aflonyddwch gan nodweddion dynol.27

23 Cyngor Ewrop, 2000 fel y gosodwyd yng Nghanllawiau Asesiad Effaith Tirwedd a Gweledol argraffiad 2 (GLVIA) (The Landscape Institute and the Institute for Environmental Management and Assessment 2002) a ddisodlwyd gan drydydd argraffiad y GLVIA ym mis Ebrill 2013.

24Canllawiau Asesiad Effaith Tirwedd a Gweledol Argraffiad 3(GLVIA3) (The Landscape Institute and the Institute for Environmental Management and Assessment 2013)

25Fel y nodir yn 24 uchod.

26 Diffiniadau Effeithiau cronnus, Effeithiau Tirwedd Cynyddol ac Effeithiau Gweledol Cynyddol o SNH (2012) Assessing the cumulative impact of onshore wind energy development, Inverness: Scottish Natural Heritage

27 http://en.wiktionary.org/wiki/tranquillity

Am gyfarwyddiadau ar sut I ddefnyddio’r system ac I wneud sylwadau, gwelwch ein canllaw cymorth.
back to top Yn ôl i’r brig