LDP11 Landscape Sensitivity and Capacity Assessment for Onshore Wind Turbine Development

4. ADRAN 3: TIRWEDD GWAELODLIN CONWY

GWAELODLIN NODWEDDION TIRLUN

4.1 Nodweddion Tirwedd Allweddol Conwy a Sir Ddinbych

Mae Conwy a Sir Ddinbych yn cynnwys cymysgedd amrywiol o dirweddau, llawer ohonynt yn cael eu gwerthfawrogi'n fawr am eu harddwch naturiol a llonyddwch sylweddol. Mae'r tirweddau hyn yn amrywio o ucheldiroedd a rhostiroedd anghysbell a gwyllt i ddyffrynnoedd cul ag ochrau serth, gorlifdiroedd afonydd llydan, iseldiroedd bugeiliol tonnog ysgafn ac arfordiroedd dramatig. Mae’r trefi arfordirol prysur ar hyd yr arfordir yn wrthgyferbyniad mawr i'r ardaloedd gwledig mewndirol. Mae’r cynlluniau topograffeg yn Atodiad 5 yn dangos tirffurf amrywiol ardal yr astudiaeth.

4.2 Nid oes asesiad cymeriad tirwedd cyson/cyfredol ar gyfer Conwy a Sir Ddinbych. Yr asesiad mwyaf diweddar yw Strategaeth Tirwedd Sir Ddinbych13. Mae hyn yn cynnwys ychydig dros hanner o ardal yr astudiaeth ac yn nodi ac yn darparu canllawiau rheoli tirwedd ar gyfer 45 o ardaloedd nodweddion tirwedd. Oherwydd nad oedd asesiad cymharol ar gyfer Conwy, ni chafodd yr ardaloedd nodweddion hyn eu hystyried fel sylfaen fapio briodol ar gyfer yr astudiaeth hon.

13 Cyngor Sir Ddinbych (2003) Strategaeth Tirwedd Sir Ddinbych

Asesiad Tirwedd Clwyd 1995 – Nodwedd Tirwedd Eang

4.3 Felly, mae'r asesiad o nodweddion tirwedd yr hen sir Clwyd wedi cael ei ddefnyddio i ddarparu'r sylfaen fapio ar gyfer yr astudiaeth hon fel a ddisgrifir yn y fethodoleg (Adran 2). Mae Ffigur 1 yn dangos Mathau Nodweddion Tirwedd Clwyd sy'n cwmpasu ardal yr astudiaeth. Mae llawer o’r mathau nodweddion hyn yn fras yn cyd-fynd â'r ardaloedd nodweddion sy'n cael eu manylu yn Strategaeth Tirwedd Sir Ddinbych.
4.4 Amcan Asesiad Tirwedd Clwyd oedd adnabod a disgrifio nodweddion a rhinweddau unigryw y tirweddau amrywiol sy'n cynnwys yr hen Sir Clwyd. Nododd yr asesiad bedwar prif fathau o dirwedd ar draws Clwyd:
  • Ardaloedd iseldir - tir fferm cyffredinol gyda gorchudd o goed helaeth a phatrwm anheddiad hanesyddol a chnewyllol.
  • Bryniau Is a Dyffrynnoedd - mosaig o fryniau isel a dyffrynnoedd cul gyda choetir helaeth.
  • Gwlad y calchfaen - amrywiaeth o dirweddau wedi’u dominyddu neu eu dylanwadu gan galchfaen.
  • Ucheldiroedd Ymylol - cyfres o dirweddau ymylol ucheldirol wedi’u dominyddu gan fryniau uchel, nifer o ddyffrynnoedd a rhostir helaeth gyda chymeriad gwledig cryf a phoblogaeth brin yn gyffredinol.

Mae llawer o'r ardal ddaearyddol a gwmpesir gan yr astudiaeth hon wedi cael ei nodi fel ucheldir ymylol.

Strategaeth Cefn Gwlad Conwy 1998-2003 – Nodwedd Tirwedd Eang

4.5 Amlinellodd Strategaeth Cefn Gwlad Conwy a gynhyrchwyd yn 1998 amcanion y Cyngor ar gyfer rheoli cefn gwlad Conwy. Mae'r strategaeth yn cyfeirio at Asesiad Tirwedd Clwyd a hefyd yn isrannu’r sir yn bedwar math nodwedd tirwedd bras, fel a ganlyn:
  • Iseldiroedd Arfordir
  • Dyffrynnoedd
  • Gwlad y calchfaen
  • Ucheldiroedd

Sylfaen Fapio ar gyfer Astudiaeth Sensitifrwydd a Chynhwysedd Tirwedd Conwy a Sir Ddinbych

4.6 Mae Ffigur 2 yn nodi y sylfaen fapio ar gyfer yr astudiaeth hon, ynghyd â'r pedwar math eang o nodweddion tirwedd sy'n cynnwys ardal yr astudiaeth fel y trafodwyd uchod. Mae'r mathau nodweddion tirwedd bras hyn yn gyfuniad o'r rhai a nodwyd yn Asesiad Tirwedd Clwyd a Strategaeth Cefn Gwlad Conwy.

Tirweddau Gwarchodedig

4.7 Mae Polisi Cynllunio Cymru yn nodi'r targedau ar gyfer datblygu ynni adnewyddadwy tra hefyd yn pennu amcanion y Llywodraeth ar gyfer gwarchod a gwella'r dreftadaeth naturiol (fel yr amlinellir yn Adran 1 ac Atodiad 2).
4.8 Mae tirweddau Conwy a Sir Ddinbych yn cael eu gwarchod gan gyfran sylweddol o ddynodiadau tirwedd cysylltiedig statudol ac anstatudol.

Mae ardal yr astudiaeth wedi'i ffinio gan ddau o dirweddau cenedlaethol pwysig; Parc Cenedlaethol Eryri i'r gorllewin a'r de; ac AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy i'r dwyrain (y rhan fwyaf ohono wedi’i gynnwys o fewn ardal yr astudiaeth).

Mae'r dynodiadau tirwedd ynghyd â threftadaeth ddiwylliannol a chyfyngiadau amgylcheddol eraill yn cael eu dangos ar Ffigur 3 ac mae’r dynodiadau allweddol sy'n gysylltiedig â nodweddion tirwedd a gwerth yn cael eu hamlinellu isod.

4.9 Mae Safle Treftadaeth y Byd Castell Conwy (Cestyll a Waliau Tref y Brenin Edward yng Ngwynedd) wedi ei leoli i'r gogledd o Sir Conwy ar lan orllewinol yr afon Conwy. Mae dogfennaeth helaeth a manwl, cyfoes, technegol, cymdeithasol, ac economaidd y castell, a pharhad y dref gaerog gerllaw yng Nghonwy, yn ei gwneud yn un o’r prif gyfeiriadau at hanes canoloesol14.

14 http://whc.unesco.org/en/decisions/1540

4.10 Nid oes unrhyw ganllawiau manwl ynghylch lleoli datblygiad ynni gwynt arfaethedig mewn perthynas â’r Safle Treftadaeth y Byd hwn neu ei leoliad hanfodol, fodd bynnag mae Rhan 2 Cynllun Rheoli Safle Treftadaeth y Byd Cestyll a Muriau Trefi Edward I yng Ngwynedd15, yn trafod pwysigrwydd golygfeydd arwyddocaol/ hanesyddol i ac o bob heneb yn Safle Treftadaeth y Byd, gan nodi y byddai datblygiad amhriodol rwystro neu’n ymyrryd â'r golygfeydd hyn, sydd yn gyffredinol yn ymestyn y tu hwnt i'r ardaloedd o leoliad hanfodol. Mae hyn yn arbennig o berthnasol i ddatblygiadau ynni gwynt arfaethedig.

15 http://cadw.wales.gov.uk/historicenvironment/protection/worldheritage/cstlsedward1/?lang=en

Parciau Cenedlaethol

4.11 Er ei fod wedi’i eithrio o ardal yr astudiaeth, mae gan Gonwy a Sir Ddinbych rannau o'u ffiniau sy'n ffinio â Pharc Cenedlaethol Eryri. Y Parc yw'r mwyaf o'r tri Pharc Cenedlaethol yng Nghymru ac mae'n denu miloedd o ymwelwyr bob blwyddyn. Fe'i gweinyddir gan ei Awdurdod Parc Cenedlaethol ei hun sydd â'r nod o:
  • Warchod a gwella harddwch naturiol, bywyd gwyllt a threftadaeth ddiwylliannol yr ardal.
  • Hyrwyddo cyfleoedd i ddeall a mwynhau ei nodweddion arbennig.
  • Meithrin lles economaidd a chymdeithasol ei chymunedau.

Tir Mynediad Agored

4.12 Ym mis Mai 2005 daeth Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy (CROW) i rym, gan nodi'n glir dir mynediad agored (cefn gwlad agored a/ neu dir comin) yng Nghymru. Mae un rhan o bob pump o Gymru wedi'i fapio fel 'tir mynediad' lle mae gan y cyhoedd hawl i fynediad ar droed16. Mae cyfran fawr o dir yng Nghonwy a Sir Ddinbych wedi’i fapio fel Tir Mynediad Agored lle mae gan y cyhoedd hawl i gael mynediad at gefn gwlad a'i fwynhau.

Mae'n cael ei gydnabod y gall datblygiad ynni gwynt ddigwydd mewn tir agored ac ar dir comin. Fodd bynnag, byddai pob tyrbin gwynt yn cael ei ystyried fel adeilad, felly byddai'r tyrbin a'r tir a ddatblygwyd yn union o'i gwmpas yn dir eithriedig o dan Atodlen 1 o Ddeddf CRoW. Yn dibynnu ar ba mor agos yw'r tyrbinau, efallai y bydd y cyhoedd yn gallu cerdded rhwng y tyrbinau.

16 http://www.ccgc.gov.uk/enjoying-the-country/open-access-land.aspx

Tirweddau Hanesyddol Cofrestredig (Cymru)

4.13 Mae'r Gofrestr Tirweddau Hanesyddol yn ceisio helpu cynllunwyr a datblygwyr i gyflwyno newidiadau a datblygiadau newydd mewn ffyrdd a fydd yn achosi'r niwed lleiaf i gymeriad hanesyddol y tir. Nid yw cael ei gynnwys ar y Gofrestr yn rhoi amddiffyniad statudol - ond mae'n helpu i dynnu sylw at bwysigrwydd treftadaeth ddiwylliannol rhai rhannau o'r dirwedd.

Mae Conwy a Sir Ddinbych yn cynnwys clwstwr o Dirweddau Hanesyddol Cofrestredig:

  • Pen Isaf Dyffryn Conwy (Dyffryn Conwy Isaf) - 'Tirwedd â thopograffeg amrywiol, sy'n pontio dyffryn Conwy isaf a'r ucheldir cyfagos ar lethrau gogledd ddwyreiniol y Carneddau yng ngogledd Eryri, lle ceir tystiolaeth greiriol helaeth wedi’i chadw'n dda o ddefnydd tir, cyfathrebu ac amddiffyn o'r cyfnod cynhanesyddol ymlaen'.
  • Creuddyn a Chonwy (Creuddyn a Chonwy) - 'Mae'r tirwedd arfordirol hon yn bennaf, yn cynnwys y Gogarth a Thrwyn y Fuwch a rhan isaf Moryd Conwy a'i chefnwlad yng ngogledd Eryri, yn cynnwys tystiolaeth o ddefnydd tir amrywiol iawn ac anheddiad o ddechrau'r cyfnod cynhanesyddol hyd at y presennol'.
  • Gogledd Arllechwedd (Gogledd Arllechwedd) - 'Ardal ranedig, gydag ucheldir gan fwyaf, a leolir ar lethrau gogleddol y Carneddau yng ngogledd Eryri, lle ceir tystiolaeth greiriol dda o ddefnydd tir cylchol ac anheddiad o'r cyfnod cynhanesyddol hyd at gyfnodau canoloesol a diweddarach'.
  • Pen Isaf Dyffryn Elwy (Pen Isaf Dyffryn Elwy) - 'Ceunant a rhan o ddyffryn afon gul gydag ochrau serth i'r gorllewin o Ddyffryn Clwyd, gyda grŵp o ogofâu yn cynnwys gwaddodion daearegol ac archeolegol Cwaternaidd o bwys rhyngwladol, gan gynnwys tystiolaeth ar gyfer, ac olion dynol yn perthyn i, y breswyliaeth gynharaf yng Nghymru, chwarter miliwn o flynyddoedd yn ôl'.
  • Mynydd Hiraethog (Mynydd Hiraethog) - 'Tirwedd rhostir ar lethrau gweledol drawiadol ac eang sy'n cynnwys y rhan ganolog a gorllewinol o Fynydd Hiraethog a leolir rhwng y prif ddyffrynnoedd afonydd Clwyd a Chonwy yng Ngogledd Cymru. Mae'r ardal yn cynrychioli goroesiad mawr, ac yng Nghymru, mwy a mwy prin, o raddau di-dor o rostir grug, sy’n cael ei reoli a'i gynnal yn fwriadol fel rhostir grugieir ac ystâd saethu yn gynnar yn yr 20fed ganrif, gyda’r rhan fwyaf yn gorwedd dros dystiolaeth archeolegol o gyfnodau olynol o ddefnydd tir o'r cyfnodau 'cynhanesyddol, canoloesol a diweddarach’.

Parciau a Gerddi Cofrestredig

4.14 Mae nifer fawr o Barciau a Gerddi Cofrestredig o Ddiddordeb Hanesyddol Arbennig yng Nghymru i'w cael oddi fewn ardal yr astudiaeth. Er nad yw wedi’i ddiogelu gan ddynodiad statudol, maent o werth cenedlaethol gan eu bod yn ffurfio rhan bwysig ac annatod o wead hanesyddol a diwylliannol Cymru.

Arfordir Treftadaeth

4.15 Mae'r ardal o amgylch y Gogarth ger Llandudno o werth cenedlaethol ac fel y cyfryw wedi’i 'ddiffinio' fel Arfordir Treftadaeth a weinyddir gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) (Cyngor Cefn Gwlad Cymru gynt). Mae'r darn 4 milltir hwn o arfordir yn lapio o amgylch Trwyn y Gogarth, sy'n diffinio glan ddwyreiniol Bae Conwy. Nod y 'diffiniad' anstatudol hwn yw gwarchod harddwch naturiol yr arfordir a gwella hygyrchedd ar gyfer ymwelwyr.

Ardaloedd o Harddwch Eithriadol

4.16 Mae AoHE Cynwyd a Llandrillo (AoHE Mynyddoedd y Berwyn gynt a ddiwygiwyd Mawrth 2013) yn ddynodiad anstatudol a gynlluniwyd i ddiogelu Mynyddoedd y Berwyn, i gydnabod ei werth tirwedd pwysig cenedlaethol.

Ardaloedd Tirlun Arbennig Conwy

4.17 Mae nifer o ardaloedd o fewn Conwy wedi’u dynodi fel Ardaloedd Tirwedd Arbennig (ATA) o fewn y CDLl adnau diwygiedig:
  • ATA 1 - Y Gogarth a Phenrhyn Creuddyn
  • ATA 2 - Rhyd y Foel i Abergele
  • ATA 3 - Dyffrynnoedd Elwy ac Aled
  • ATA 4 - Hiraethog
  • ATA 5 - Cerrigydrudion a choridor yr A5
  • ATA 6 - Dyffryn Conwy

Pwrpas y dynodiad rhanbarthol hwn yw sicrhau nad yw cymeriad yr ardaloedd hyn yn cael ei newid gan ffurfiau amhriodol o ddatblygu, ac y cedwir y nodweddion sy'n cyfrannu at yr arbenigrwydd lleol.

Datblygiadau Ynni Gwynt Gweithredol a gyda Chaniatâd

4.18 Mae Ffigur 4 a Tabl A4.1 cysylltiedig (o fewn Atodiad 4) yn nodi ac yn dangos y waelodlin datblygiadau ynni gwynt ar gyfer yr astudiaeth hon ar ddiwedd mis Mawrth 2013. Dangosir datblygiadau ynni gwynt gweithredol a rhai â chaniatâd o fewn ardal yr astudiaeth, gan gynnwys y parth clustogi 10 km. Darparwyd y data a ddefnyddir i lunio'r tabl a Ffigur 4, gan y Cynghorau ac awdurdodau cyfagos.

Mae tabl A4.2 (o fewn Atodiad 4) hefyd yn cynnwys gwybodaeth am ddatblygiadau ynni gwynt ar y môr presennol ac arfaethedig.

Mae Atodiad 4 hefyd yn cynnwys Tabl A4.3 (Cynigion Datblygu Ynni Gwynt Eraill) a Ffigur A4.1 sy'n cynrychioli holl ddatblygiadau ynni gwynt gweithredol ac sydd â chaniatâd ynghyd â'r holl geisiadau eraill ar gyfer datblygiadau ynni gwynt (gan gynnwys y rhai a wrthodwyd) o fewn ardal yr astudiaeth ar ddiwedd mis Mawrth 2013.

4.19 Mae'r datblygiadau ynni gwynt gweithredol yn cael eu hystyried fel rhan o'r gwaelodlin ar gyfer yr asesiadau sensitifrwydd yr unedau tirwedd; fodd bynnag, at ddibenion y gwerthusiadau o'r ardaloedd strategaeth tirwedd, tybiwyd bod bob datblygiad ynni gwynt â chaniatâd wedi cael eu hadeiladu ac fel y cyfryw wedi cael eu hystyried yn y gwaelodlin, ynghyd â datblygiadau gweithredol.
4.20 Roedd y crynodiadau uchaf o ddatblygiadau ynni gwynt o fewn ardal yr astudiaeth yn ac o gwmpas TAN 8 SSA A. Mae tair ardal nodedig o ddatblygiadau ynni gwynt y tu allan i’r SSA A; mae’r rhain fel a ganlyn:
  • Y cyntaf yw ardal fach i'r de o Gerrigydrudion (gweler Ffigur 4 ac Atodiad 4, cyfeiriadau datblygu ynni gwynt E3, E5, E7, E8 ac E29
  • Mae’r ail ardal yn ac o amgylch fferm wynt Moel Moelogan i'r dwyrain o Lanrwst (gweler Ffigur 4 ac Atodiad 4, cyfeiriadau datblygu ynni gwynt E4, E6, E15, E22 ac E23)
  • Mae’r drydedd ardal ychydig tu allan i ardal yr astudiaeth o fewn y parth clustogi 10 km yng Ngwynedd. Dyma ddatblygiad Braich Ddu (gweler Ffigur 4 ac Atodiad 4, cyfeirnod ddatblygu ynni gwynt E62).
4.21 Mewn rhai ardaloedd (yn arbennig yr SSA A), mae presenoldeb datblygiadau ynni gwynt presennol i rai graddau yn lleihau sensitifrwydd y dirwedd i'r math penodol hwnnw o ddatblygiad. Mae hyn oherwydd bod y math hwn o ddatblygiad modern eisoes yn rhan o'r dirwedd yn yr ardaloedd penodol hynny. Fodd bynnag, nid yw presenoldeb datblygiadau ynni gwynt presennol yn awgrymu yn awtomatig bod posibilrwydd pellach ar gyfer mwy o'r math hwn o ddatblygiadau.
4.22 Argymhellir bod y Cyngor yn cadw cofrestr 'fyw' o geisiadau datblygu ynni gwynt a chaniatadau yn y dyfodol; tebyg i'r tabl yn Atodiad 4 a Ffigur A4.1. Bydd yr wybodaeth hon yn amhrisiadwy wrth gynorthwyo'r broses o wneud penderfyniadau ynghylch ceisiadau ar gyfer datblygiadau ynni gwynt newydd wrth ystyried y galluoedd dangosol a nodwyd pob un o'r ardaloedd strategaeth tirwedd.

Sylw ar Effeithiau Gweledol Cronnus Posibl

4.23 Gall effeithiau gweledol cronnus ddigwydd o ganlyniad i ddatblygiadau ynni gwynt pellach y gellir eu gweld mewn trefn ar hyd llwybrau sensitif, neu, pan fydd derbynnydd yn gallu gweld dau neu fwy o ddatblygiadau ynni gwynt o unrhyw un safbwynt. Gan ystyried pob un o'r datblygiadau ynni gwynt gweithredol a gyda chaniatâd o fewn ardal yr astudiaeth mae yna nifer o dderbynyddion allweddol gyda’r effeithiau cronnus posibl wedi eu nodi, fel a ganlyn:
  • Effeithiau ar olygfeydd eiddo preswyl sydd eisoes â golygfeydd o ddatblygiadau ynni gwynt (yn arbennig yn ne ardal yr astudiaeth o amgylch SSA A)
  • Effeithiau ar olygfeydd o Barc Cenedlaethol Eryri
  • Effeithiau ar olygfeydd o AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy
  • Effeithiau ar olygfeydd o lwybr cenedlaethol Llwybr Clawdd Offa
  • Effeithiau ar olygfeydd o hawliau tramwy cyhoeddus sy’n cael eu hyrwyddo megis Llwybr Clwyd a Llwybr Beicio Dyserth
  • Effeithiau ar olygfeydd o lwybr hanesyddol yr A5
  • Effeithiau ar olygfeydd o'r A5 a Rheilffordd Arfordir Cymru
  • Effeithiau ar olygfeydd o Dirweddau Hanesyddol Rhestredig, Parciau a Gerddi, Safleoedd Treftadaeth y Byd, ac ardaloedd eraill o bwysigrwydd treftadaeth ddiwydiannol.

Mae cyfeiriadau ynghylch effeithiau gweledol cronnus posibl a chanllawiau ar sut i osgoi'r rhain wedi’u gwneud, lle bo'n berthnasol, o fewn yr asesiadau ardal strategaeth tirwedd.

Sylw ar Effeithiau Tirwedd Cronnus Posibl

4.24 Gall effeithiau cronnus ar y dirwedd effeithio naill ai ar y ffabrig corfforol neu gymeriad y dirwedd, neu unrhyw werthoedd arbennig ynghlwm wrtho17. Mae yna lawer iawn o dirweddau dynodedig a gwerthfawr iawn o fewn ardal yr astudiaeth ac o’i hamgylch. Felly mae potensial i ddatblygiadau ynni gwynt ychwanegol achosi effeithiau tirwedd cronnus ar y tirweddau hyn. Mae’r prif faterion yn ymwneud ag effeithiau cronnus ar y dirwedd yn gysylltiedig â'r dynodiadau allweddol/ tirweddau a werthfawrogir canlynol:
  • Parc Cenedlaethol Eryri a'i leoliad
  • AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy a'i leoliad (gan gynnwys Safle Treftadaeth y Byd Traphont Ddŵr a Chamlas Pontcysyllte a'i leoliad hanfodol)
  • AHE Cynwyd a Llandrillo a'i leoliad
  • Ardaloedd Tirwedd Arbennig Conwy
  • Tirweddau Hanesyddol Cofrestredig (Cymru)18

Mae cyfeiriadau ynghylch effeithiau tirwedd cronnus posibl a chanllawiau ar sut i osgoi'r rhain wedi’u gwneud, lle bo'n berthnasol, o fewn yr asesiadau ardal strategaeth tirwedd.

17 Diffiniad wedi’i gymryd o SNH (2012) Assessing the cumulative impact of onshore wind energy development, Inverness: Scottish Natural Heritage

18 Heb ei ddynodi ond yn cael ei gydnabod fel bod o werth cenedlaethol

Am gyfarwyddiadau ar sut I ddefnyddio’r system ac I wneud sylwadau, gwelwch ein canllaw cymorth.
back to top Yn ôl i’r brig