LDP11 Landscape Sensitivity and Capacity Assessment for Onshore Wind Turbine Development

2. RHAN 1: CEFNDIR

2.1 Comisiynwyd yr astudiaeth hon gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy (CBSC) a Chyngor Sir Ddinbych (CSDd) – (y ‘Cynghorau'). Ei diben yw darparu asesiad yn seiliedig ar dystiolaeth o sensitifrwydd a chynhwysedd tirweddau Conwy a Sir Ddinbych i gynnwys datblygiad ynni gwynt o feintiau gwahanol (gan ganolbwyntio ar rai llai), gyda’r bwriad o hysbysu datblygu Canllawiau Cynllunio Atodol strategol a chynorthwyo’r Cynghorau i asesu tirwedd ac effeithiau gweledol datblygiad ynni gwynt ar gyfer dibenion rheoli datblygu. Gofynion allweddol briff yr astudiaeth oedd tryloywder, eglurder a symlrwydd perthynol, gan ganolbwyntio ar ddatblygiadau llai. Er dibenion y CCA hwn, yr ardal dan sylw yw Bwrdeistref Sirol Conwy.
2.2 Mae gan Gyngor Bwrdeistref Conwy nifer o ardaloedd ucheldir gwledig sydd â digonedd o adnodd ynni gwynt. Mae hyn yn cynnwys Coedwig Clocaenog sydd wedi’i ddynodi’n un o’r saith Ardal Chwilio Strategol (SSA) yng Nghymru (TAN 8) gyda tharged cynhwysedd dangosol o 140 megawat (MW) (tua 50 tyrbin gwynt modern o 100m o uchder)3. Ymagwedd Llywodraeth Cymru yw cyfyngu datblygu ffermydd gwynt mawr i’r SSAau, sydd wedi’u hasesu’n annibynnol i fod yn ardaloedd sy’n fwyaf addas ar gyfer datblygiad ynni gwynt. Fodd bynnag, nid yw polisi cynllunio Llywodraeth Cymru yn pennu cyfyngiadau gofodol ar gyfer datblygiad ynni gwynt dan 25MW sy’n addas i bob rhan o Gymru yn amodol ar asesiad o effeithiau lleol. Yn wyneb nifer cynyddol o geisiadau cynllunio, ceisiadau barn Asesiad o Effaith Amgylcheddol ac ymholiadau cyn cyflwyno cais i’r Cynghorau ar gyfer datblygiadau tyrbinau gwynt unigol a grwpiau ohonynt o feintiau amrywiol, comisiynwyd yr astudiaeth hon er mwyn arwain y datblygiadau i'r lleoliadau addas a sicrhau bod nodweddion a rhinweddau allweddol tirweddau'r ardal yn cael eu diogelu.

3 Ove Arup & Partners (2005), TAN 8 Anecs D Astudiaeth o Ardal Chwilio Strategol A – Adroddiad Terfynol Coedwig Clocaenog

2.3 Mae tyrbinau gwynt yn strwythurau tal, sydd fel arfer yn cael eu lleoli mewn ardaloedd agored neu uchel. Mae hyn yn cynyddu potensial ar gyfer effeithiau helaeth ar dirwedd a gwelededd, sy’n cael ei waethygu gan y cydadwaith gweledol cymhleth rhwng gwahanol amodau golau a maint a ffurfwedd grwpiau o dyrbinau.
2.4 Mae symudiad y llafnau’n denu'r llygaid ac mewn amodau golau penodol gellir gweld tyrbinau'n symud o bellter.
2.5 Mae pa mor dderbyniol yw tyrbinau gwynt ar y dirwedd yn bwnc emosiynol ac yn un sydd angen cyfaddawdu yn aml. Er y cydnabyddir yn gyffredinol y dylid diogelu agweddau mwyaf gwerthfawr treftadaeth naturiol, gellir defnyddio rhai o’r tirweddau sydd â llai o werth i gynnwys datblygiad ynni gwynt, ond mewn dull wedi’i reoli er mwyn lleihau’r effeithiau andwyol.
2.6 Mae’r astudiaeth hon yn ystyried y prif ffactorau sy’n effeithio ar sensitifrwydd tirwedd Conwy ar gyfer datblygiad ynni gwynt ac yn disgrifio sut y cyfunir y rhain i nodi amrywiadau gofodol mewn sensitifrwydd perthynol4. Mae yna’n darparu cyfarwyddyd ynglŷn â lle y gellir lleoli datblygiad ynni gwynt ac yn nodi maint addas y datblygiad, yn seiliedig ar drothwyon uchafswm cynhwysedd5.

4 Sensitifrwydd Perthynol – mae sensitifrwydd pob ‘uned tirwedd’ daearyddol penodol yn cael eu hasesu yn unol â gwaelodlin ardal astudiaeth gyffredinol.

5 Mae uchafswm cynhwysedd yn cyfeirio at faint y gellir tirwedd gynnwys datblygiad ynni gwynt heb effaith andwyol sylweddol ar gymeriad, ansawdd, gwerth, harddwch tirwedd, gan gynnwys effeithiau gweledol andwyol.

2.7 Datblygwyd y dull asesu gyda Grŵp Llywio’r Prosiect, sy’n cynnwys cynrychiolwyr o'r ddau Gyngor a chynrychiolwyr o Gyfoeth Naturiol Cymru6. Astudiaeth strategol yw hon ac nid yw’n rhagnodol ar lefel safleoedd unigol. Nid yw’n disodli’r anghenraid i Gynghorau asesu ceisiadau cynllunio unigol nac yn disodli asesiadau o dirwedd leol benodol ac asesiadau o effaith gweledol fel rhan o Asesiad o Effaith Amgylcheddol ffurfiol.

6 Cyngor Cefn Gwlad Cymru’n flaenorol

2.8 Nid yw’r astudiaeth hon yn werthusiad cronnus o ddatblygiadau ynni gwynt ac mae’n gyfyngol i rinweddau tirwedd a harddwch. Nid yw’n ystyried treftadaeth naturiol a diwylliannol eraill (heblaw pan fyddant yn ymwneud â nodweddion tirwedd a harddwch, gan gynnwys lleoliad), ffactorau technegol megis cyflymder gwynt, cynhwysedd y grid neu gyfyngiadau hedfan neu alw am ddatblygiad ynni gwynt. Mae’r astudiaeth yn canolbwyntio ar ddatblygiadau ynni gwynt llai ac nid yw’n ystyried cynhwysedd gweddilliol SSA A TAN 8.

Fframwaith Cynllunio a Pholisi

2.9 Cyd-destun Polisi Cenedlaethol

Polisi Cynllunio Cymru (PCC) (2012) Rhifyn 5
Mae Polisïau Cynllunio Defnydd Tir Llywodraeth Cymru a osodwyd ym Mholisi Cynllunio Cymru (PCC) yn nodi amcanion y Llywodraeth o ran cadwraeth a gwella treftadaeth naturiol, yn bennaf gwarchod cynefinoedd brodorol, coed a choetiroedd a thirweddau gyda dynodiadau statudol. Mae system wybodaeth LANDMAP wedi’i arnodi fel adnodd pwysig i’w ddefnyddio ar gyfer asesiad tirwedd. Mae pob math o ynni adnewyddadwy'n cael eu hyrwyddo os ydynt yn dderbyniol yn amgylcheddol a chymdeithasol.

2.10 Mae'r polisïau perthnasol wedi’u darparu yn Atodiad 2 ac mae darnau o’r PPC yn ymwneud ag ynni adnewyddadwy wedi’i gynnwys isod fel a ganlyn:

Mae’r DU yn ddarostyngedig i ofynion Cyfarwyddiaeth Ynni Adnewyddadwy’r UE. Mae’r rhain yn cynnwys targed y DU o 15% o ynni adnewyddadwy erbyn 2020. Mae Llywodraeth Cymru’n ymroddedig i chwarae eu rhan o ddarparu’r rhaglen ynni sy’n cyfrannu at leihau allyriadau carbon fel rhan o’r ymagwedd i ddelio â newid hinsawdd. Mae Datganiad Polisi Ynni Llywodraeth Cymru (2010) yn nodi potensial ynni adnewyddadwy cynaliadwy ar gyfer amrywiaeth o dechnolegau gwahanol ynghyd â sefydlu eu hymroddiad i effeithlonrwydd ynni. Mae’n egluro’r nod erbyn 2050, ar yr hwyraf, o fod mewn sefyllfa lle y mae bron holl anghenion ynni lleol yn gallu cael eu diwallu drwy gynhyrchu trydan carbon isel. Yr ymagwedd yw lleihau defnydd ynni a gwella effeithlonrwydd ynni i ddechrau a gwneud y gorau o gyfleoedd i greu ynni adnewyddadwy a charbon isel o bob maint ledled Cymru. Mae hyn yn rhan o ymdrech cydunol i ymdrin â newid hinsawdd yng Nghymru.

Dylai polisi cynllunio ar bob lefel hwyluso darparu Datganiad Polisi Ynni cyffredinol Llywodraeth Cymru, a thargedau'r DU ac Ewrop ar gyfer ynni adnewyddadwy. Mae Cyfarwyddiaeth Ynni Adnewyddadwy yn cynnwys ymrwymiadau penodol i ddarparu canllawiau i hwyluso ystyriaeth effeithiol o ffynonellau ynni adnewyddadwy. Yn y cyd-destun hwn dylai’r awdurdodau cynllunio lleol a’r datblygwyr roi ystyriaeth lawn o ran y canllawiau yn Nodyn Cyngor Technegol 8: Cynllunio ar gyfer Ynni Adnewyddadwy, Nodyn Cyngor Technegol 22: Adeiladau Cynaliadwy a Chynllunio ar gyfer Ynni Adnewyddadwy – Pecyn gwaith ar gyfer y Cynllunwyr 7.

7 Polisi Cynllunio Cymru (Rhifyn 5, Tachwedd 2012)

Nodiadau Cyngor Technegol:

2.11 Mae Polisi Cynllunio Cymru’n cael ei gefnogi gan gyfres o Nodiadau Cyngor Technegol (TAN) gan gynnwys TAN 8: Ynni Adnewyddadwy sy'n dynodi saith SSA ledled Cymru y gellir lleoli'r ffermydd gwynt mwyaf ynddynt (>25MW) ac yn gosod targed uchafswm cynhwysedd ar gyfer pob un. Mae TAN 8 yn nodi ardaloedd lle y mae’n debyg y bydd y cynigion yn cael eu cefnogi, ardaloedd y dylid eu gwarchod yn sylweddol rhag datblygiad ynni gwynt, a’r ymagwedd ar gyfer ardaloedd eraill.
2.12 Nid yw polisi cynllunio Llywodraeth Cymru yn pennu cyfyngiadau gofodol ar gyfer datblygiad ynni gwynt dan 25MW a datblygiadau llai dan 5MW, mae datblygiadau o’r fath yn addas i bob rhan o Gymru yn amodol ar asesiad o effeithiau lleol. Mae TAN 8 yn nodi y dylai'r rhan fwyaf o'r ardaloedd tu allan i'r SSAau aros heb gynlluniau pŵer gwynt mawr er efallai y gellir ystyried cynlluniau fferm wynt hyd at 25MW ar safleoedd tir llwyd ac ar gyfer cynlluniau fferm wynt bach cymunedol a domestig llai na 5MW mewn mannau eraill.

Mae’n cael ei gydnabod yn gyffredinol bod rhagdybiaeth ar gyfer newid tirwedd mawr o fewn ond na ddylid caniatáu newid sylweddol y tu allan i'r SSAau.

2.13 Mae Nodyn Canllaw Gwybodaeth 3 LANDMAP, (defnyddio LANDMAP ar gyfer Asesiad o Effaith Tyrbinau Gwynt ar y Tir ar Dirwedd a Gwelededd) yn cyfeirio'n ôl at TAN 8 ac yn darparu gwybodaeth fanwl ynglŷn â'r SSAau a datblygiad ynni gwynt gyda'r bwriad o osgoi, lleihau a gwneud yn iawn am effeithiau andwyol. Mae testun perthnasol o’r nodyn canllawiau hwn wedi’i gynnwys yn Nhabl 1.1 isod.

Tabl 1.1: Dyfyniadau o Nodyn Canllaw Gwybodaeth 3 LANDMAP

Ardaloedd o fewn a ger yr Ardaloedd Chwilio Strategol (SSAau)

Mae Ardaloedd Chwilio Strategol (SSAau) TAN 8 yn cael eu hystyried yn lleoliadau sydd fwyaf addas ar gyfer datblygiad fferm wynt mawr (Llywodraeth Cymru, 2005). O fewn y SSAau mae newid tirwedd wedi’i dderbyn, a chreu ‘tirwedd fferm wynt’ yn yr ardaloedd a ddynodwyd gan Lywodraeth Cymru yn ganlyniad i gyflawni targedau ynni adnewyddadwy, ‘o fewn (a gerllaw) yr SSAau, yr amcan unplyg yw derbyn newid hinsawdd h.y. newid sylweddol yn nodweddion y dirwedd oherwydd datblygiad tyrbinau gwynt.” Fodd bynnag, oherwydd uchder y tyrbinau, gall effaith weledol fferm wynt o fewn yr SSA, gael effaith ar nodweddion ardaloedd sydd gryn dipyn o bellter o’r SSA. Mae materion o’r fath yn codi pan fydd yr SSAau yn agos at Barciau Cenedlaethol ac AHNE. Enghraifft o hyn yw Ymholiad Hirwaun 2008, lle yr ystyriwyd fod gosod tyrbinau gwynt mawr o fewn 8km o ffin Parc Cenedlaethol yn amharu'n ormodol.

Ardaloedd eraill tu allan i’r SSAau.

Mae TAN 8 yn nodi “yng ngweddill Cymru, tu allan i’r SSAau, yr amcan unplyg yw cynnal nodweddion tirwedd h.y. dim newid sylweddol i nodweddion tirwedd oherwydd datblygiad tyrbin gwynt.” Er ‘y dylai’r rhan fwyaf o’r ardaloedd tu allan i’r SSAau fod heb gynlluniau pŵer gwynt mawr’, gellir cynnig cynlluniau fferm wynt ar safleoedd trefol/diwydiannol tir llwyd (hyd at 25MW), a chynlluniau cymunedol llai (fel arfer llai na 5MW) neu fel rhan o ailbweru a / neu ymestyn ffermydd gwynt cyfredol. Dylai’r LVIA gynorthwyo i benderfynu os yw’r ‘effeithiau amgylcheddol ac ar dirwedd yn dderbyniol’ (TAN8 2.11-2.14).

2.14 TAN 12: Dylunio, yn ei gwneud yn ofynnol i Awdurdodau Cynllunio lleol werthuso cymeriad tirwedd, gan gynnwys y rhinweddau gweledol a synhwyrol ac yn pwysleisio bod angen ystyried cymeriad tirwedd wrth ddatblygu fframwaith gynllunio cadarn a chydlynol. Bwriad hyn yw cynorthwyo i sicrhau fod datblygiadau gan gynnwys datblygiad ynni gwynt wedi’u lleoli mewn ardaloedd sy’n gallu eu cynnwys orau gan gynorthwyo i gyfyngu’r effeithiau andwyol a chynnal amrywiaeth o dirwedd. Mae TAN 12 yn cefnogi’r defnydd o LANDMAP i hysbysu a chanfod lle ffefrir datblygu o ran tirwedd.

Cyd-destun Polisi Lleol

2.15 Cynllun Datblygu Lleol Conwy 2007 - 2022

Mae’r Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) cynnwys rhan o Fwrdeistref Sirol Conwy sydd tu allan i Barc Cenedlaethol Eryri (a elwir yn Ardal y Cynllun). Mae Ardal y Cynllun yn cynnwys tirweddau amrywiol o ansawdd uchel yn amrywio o weundir agored Hiraethog (Mynydd Hiraethog) i ofodau sylweddol lleol o gwmpas y trefi a’r pentrefi. Mae arfordir Conwy’n cael ei ystyried fel man sy’n allweddol o ran denu ymwelwyr i’r ardal. Prif amcan y CCA hwn yw hysbysu asesiad o effaith a chynhwysedd tirwedd (fel y diweddarwyd) wrth weithredu polisïau NTE/4 ac NTE/7 o’r CDLl. Mae Polisi NTE/4 yn delio ag Ardaloedd Tirwedd Arbennig ac mae NTE/7 yn delio gyda datblygiad tyrbinau gwynt Ar y tir. Mae dogfennau CCA pellach yn cael eu paratoi i gynnwys y pynciau ehangach ynglŷn â datblygiad Tyrbinau Gwynt ar y tir, Tirwedd, Bioamrywiaeth a Dylunio a fydd hefyd yn effeithio ar ac yn hysbysu cynigion datblygu tyrbinau gwynt ar y tir. Mae'r Cyngor hefyd yn paratoi canllawiau ar Fanteision Cymunedol o ddatblygiadau ffermydd gwynt yn ardal y Cynllun.

2.16 Ynghyd â’r CDLl mae cyfres o bapurau cefndir sy’n egluro sut y lluniwyd rhai polisïau penodol. Mae dau o'r rhain yn berthnasol i'r astudiaeth hon:

Papur Cefndir Diwygiedig 27 – Ardaloedd Tirwedd Arbennig, Awst 2012 (Conwy’n unig)
Mae’r papur cefndir hwn yn egluro sut y defnyddiwyd LANDMAP i ganfod a dynodi nifer o Ardaloedd Tirwedd Arbennig o fewn Ardal y Cynllun. Mae’r rhain wedi’u dangos ar Map Cynigion y CDLl ac yn cynnwys:

SLA1 – Y Gogarth a Phenrhyn Creuddyn
SLA2 – Rhyd y Foel i Abergele
SLA3 – Dyffrynnoedd Elwy ac Aled
SLA4 – Hiraethog
SLA5 – Cerrigydrudion a choridor yr A5
SLA6 – Dyffryn Conwy

Caniateir datblygu yn yr SLA os gellir dangos fod y cynigion yn integreiddio'n foddhaol gyda’r dirwedd leol.

Asesiad Tirwedd Clwyd 1995 – Data Hanesyddol Defnyddiol (Conwy a Sir Ddinbych)

2.17 Mae asesiad tirwedd yr hen sir Clwyd yn cynnwys Conwy a Sir Ddinbych. Roedd yn seiliedig ar Asesiad Cymeriad Tirwedd Sir Warwick sydd wedi’i ddogfennu yn adroddiad CCW, ‘Assessment and conservation of landscape character: The Warwickshire Landscapes Project Approach’ (CCP332,1991); mae hwn yn parhau i fod yn ddull derbyniol ar gyfer asesu cymeriad tirwedd. Nododd yr asesiad 27 math penodol o dirweddau o fewn pedwar categori eang.

- Ardaloedd Iseldir, Bryniau a Dyffrynnoedd Is, Calchfaen Gwledig ac Ucheldiroedd Ymylol.

Cynllun Datblygu Lleol Eryri 2011-2022 (Parc Cenedlaethol Eryri)

2.18 Mae Conwy a Sir Ddinbych yn rhannu ffiniau awdurdod gydag Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri. Mae Parc Cenedlaethol Eryri wedi defnyddio LANDMAP i hysbysu canfod Ardaloedd Cymeriad Tirwedd a chanllawiau rheoli perthynol. Er mai Awdurdod y Parc Cenedlaethol sy’n penderfynu ar geisiadau cynllunio o fewn yr ardal, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a Chyngor Sir Ddinbych yw’r awdurdod cynllunio ar gyfer yr ardaloedd cyfagos. Oherwydd y gallai unrhyw ddatblygiad yn yr ardaloedd hyn effeithio ar leoliad ehangach y Parc, mae Deddf yr Amgylchedd 1995 yn rhoi dyletswydd ar Gynghorau i ystyried y pwrpas a ddynodwyd i’r Parc Cenedlaethol.

Asesiad Morlun Cymru (Conwy a Sir Ddinbych)

2.19 Mae Asesiad Morlun Cymru’n rhannu arfordir Cymru’n 50 uned morlun rhanbarthol yn nodi cymeriad a rhinweddau pob uned. Mae hefyd yn asesu sensitifrwydd a chynhwysedd pob uned morlun i ddatblygiadau ynni adnewyddadwy yn y môr. Er bod yr adroddiad yn canolbwyntio ar ddatblygiad ynni gwynt yn y môr mae’n darparu gwybodaeth werthfawr wrth benderfynu effaith posibl datblygiadau ynni gwynt ar y tir ar gymeriad a rhinweddau morlun.

Ymagwedd yr Astudiaeth

2.20 Amcanion yr astudiaeth yw:
  • Darparu asesiad strategol o sensitifrwydd perthynol tirwedd Conwy a Sir Ddinbych ar gyfer datblygiad ynni gwynt gan ddefnyddio meini prawf gweledol a thirwedd benodol sy'n cynnwys agweddau ffisegol a chanfyddiadol ynghyd ag ystyried gwerth tirwedd.
  • Nodi sensitifrwydd tirwedd, gwelededd a chanfyddiad allweddol gwahanol ardaloedd o dirwedd.
  • Darparu canllawiau eang ar yr ardaloedd o dirwedd lle y mae datblygiad ynni gwynt o wahanol faint yn dderbyniol a’r ardaloedd o dirwedd lle mae’r datblygiad yn debygol o achosi effaith sylweddol andwyol ar y dirwedd ac yn weledol; gan ystyried cyfyngiadau cynhwysedd.
  • Darparu sylwadau ar effeithiau cronnus a thraws ffiniol posibl datblygiad ynni gwynt.

Nid oes ymagwedd ffurfiol wedi’i chymeradwyo ar gyfer asesu sensitifrwydd neu gynhwysedd tirwedd ar gyfer datblygiad ynni gwynt ar y tir. Mae’r fethodoleg a osodwyd yn Rhan 2 wedi’i datblygu o’r canllawiau cyfredol a’r ymagwedd a gymerwyd mewn astudiaethau tebyg. Mae’n seiliedig ar y rhagosodiad y dylid bod yn fwy parod i dderbyn datblygiad ynni gwynt yn yr ardaloedd llai sensitif a dylid osgoi ardaloedd sy'n cael eu gwerthfawrogi'n fawr oherwydd eu rhinweddau golygfaol, hamdden a rhinweddau heb eu datblygu megis llonyddwch a phellenigrwydd; yn enwedig ardaloedd sy’n cael eu diogelu oherwydd dynodiad rhyngwladol neu genedlaethol neu’r rhai sydd eisoes â datblygiad ynni gwynt cyfredol gyda chaniatâd sy'n cyfyngu datblygiad pellach.

Strwythur yr Adroddiad

2.21 Mae gweddill yr adroddiad wedi’i lunio fel a ganlyn:
  • Rhan 2: Methodoleg
  • Rhan 3 : Gwaelodlin tirwedd Conwy a Sir Ddinbych
  • Rhan 4: Gwerthuso Unedau Tirwedd a’u Sensitifrwydd ar gyfer Datblygiad Ynni Gwynt
  • Rhan 5: Gwerthusiad o Ardaloedd Strategaeth Tirwedd ac Asesiadau Cynhwysedd
  • Rhan 6: Canllawiau ar gyfer Datblygiad Ynni Gwynt o fewn Ardaloedd Strategaeth

Mae’r adroddiad hefyd yn cael ei gefnogi gan y ffigyrau a’r atodiadau a restrwyd yn y cynnwys.

Am gyfarwyddiadau ar sut I ddefnyddio’r system ac I wneud sylwadau, gwelwch ein canllaw cymorth.
back to top Yn ôl i’r brig