LDP11 Landscape Sensitivity and Capacity Assessment for Onshore Wind Turbine Development
1. Crynodeb Gweithredol
Cefndir
1 Ove Arup & Partners (2005), TAN 8 Anecs D Astudiaeth o Ardal Chwilio Strategol A- Adroddiad Terfynol Coedwig Clocaenog
Mae tabl 1.5 isod yn dangos mathau o ddatblygiad ynni gwynt (math/maint) a nodwyd mewn cydweithrediad â’r Grŵp Llywio er dibenion yr astudiaeth hon.
Tabl 1.5: Mathau o Ddatblygiad Ynni Gwynt
Mathau o Ynni Gwynt |
Allbwn Dangosol (Categori allbwn eang2) |
Meini Prawf Atodol (bodloni un neu fwy o’r meini prawf) (Penderfynu os yw’r math hwn yn berthnasol neu os yw un mwy yn berthnasol) |
Micro |
o dan 50kW |
|
Bach |
o dan 5MW |
|
Canolig |
Dros 5MW a hyd at 25MW |
|
Mawr |
Dros 25MW |
|
Enfawr |
Dros 25MW |
|
Strategol |
Dros 50MW |
|
2 Canllawiau yw’r gwerthoedd hyn yn unig. Mae effeithlonrwydd ac allbwn ynni yn newid oherwydd datblygu technoleg ac effeithlonrwydd gweithredu, felly cydnabyddir y bydd y gwerthoedd hyn yn debyg o newid.
Nod yr Astudiaeth
1.9 Nod cyffredinol yr astudiaeth yw darparu Canllawiau Cynllunio Atodol strategol a chynorthwyo’r Cyngor i asesu tirwedd ac effaith weledol datblygiadau ynni gwynt ar y tir er mwyn rheoli datblygu gyda’r diben o leihau effaith datblygiadau o’r fath ar dirwedd yn unol â pholisïau NTE/4 ac NTE/7 o’r CDLl.
Polisi NTE/4 – Y DIRWEDD A DIOGELU ARDALOEDD TIRWEDD ARBENNIG
- Dangosir Ardaloedd Tirwedd Arbennig ar y map cynigion ac maent wedi eu dynodi yn y lleoliadau canlynol:
- Y Gogarth a Phenrhyn Creuddyn
- Dyffryn Conwy
- Cefnwlad Abergele
- Dyffrynnoedd Elwy ac Aled
- Hiraethog
- Cerrigydrudion a choridor yr A5
- Er mwyn gwarchod nodweddion yr Ardaloedd Tirwedd Arbennig bydd yn rhaid i geisiadau datblygu roi sylw dyledus i gymeriad pob ardal er mwyn lleihau eu heffaith gymaint â phosibl. Dim ond os gellir dangos bod modd integreiddio’r datblygiad yn foddhaol i’r dirwedd y caniateir datblygu. Mewn achosion priodol dylid cyflwyno Asesiad Effaith Weledol a Thirwedd i gyd-fynd â’r cais cynllunio er mwyn asesu effaith weledol y datblygiad a’i effaith ar y dirwedd.
- Bydd pob cais, o fewn a’r tu allan i Ardaloedd Tirwedd Arbennig (SLAs) yn cael eu hystyried yn erbyn yr Egwyddorion Datblygu a pholisïau eraill yn y Cynllun ar gyfer diogelu’r cymeriad amgylcheddol a’r dirwedd.
Polisi NTE/7 – DATBLYGIADAU TYRBINAU GWYNT AT Y TIR
- Bydd datblygu ffermydd gwynt ar raddfa fawr neu fawr iawn (dros 25MW) wedi eu crynhoi o fewn Ardal Chwilio Strategol Clocaenog yn unol â Pholisi DP/6 a bydd yn amodol ar Asesiad Effaith Amgylcheddol. Disgwylir i gynigion:
- Ddangos mesurau ar gyfer diogelu, adfer a gwella cynefin a rhywogaethau a chydymffurfio â'r egwyddorion sydd yn Natganiad Prif Egwyddorion Cynllunio Amgylcheddol Clocaenog (SEMP);
- Sicrhau bod holl fanylion y datblygiadau atodol yn cael eu cyflwyno gyda'r cais cynllunio fel rhan annatod o'r cynllun.
- Sicrhau bod yr effaith gynyddol bosibl ar gymunedau o’u cwmpas, ar y dirwedd a’r amgylchedd yn cael eu hystyried yn dderbyniol. Gwrthodir fferm wynt os ystyrir ei bod yn cael effaith gynyddol annerbyniol.
- Dangos na fydd y datblygiad yn arwain at lefelau sŵn neu gryndod cysgodion a fyddai'n niweidiol i amwynder preswyl yr ardal o gwmpas.
- Bydd datblygu ffermydd gwynt ar raddfa ganolig sy’n fwy na 5MW ac yn is na 25MW y tu allan i Ardal Chwilio Strategol Clocaenog ond yn cael eu cymeradwyo mewn amgylchiadau arbennig yng nghyd-destun y canlynol:
- Eu bod yn dderbyniol yn nhermau polisïau eraill y Cynllun Datblygu Lleol,
- Bod yr effaith gynyddol bosibl ar gymunedau o’u cwmpas, ar y dirwedd a’r amgylchedd yn cael eu hystyried yn dderbyniol. Gwrthodir fferm wynt os ystyrir ei bod yn cael effaith gynyddol annerbyniol.
- Na fydd y datblygiad yn creu lefelau sŵn neu gysgodion symudol a fyddai’n annerbyniol o niweidiol i amwynder preswylwyr cyfagos neu ddefnyddwyr hawl tramwy neu gyfleusterau neu ardaloedd hamdden eraill,
- Dylai Asesiad Effaith Amgylcheddol boddhaol gynnig mesurau ar gyfer diogelu, adfer a gwella cynefin a bioamrywiaeth;
- Lle bo’n bosibl, bod tyrbinau wedi eu lleoli ddim llai na 500 metr o annedd lle mae pobl yn byw neu adeilad arall sy’n sensitif i sŵn;
- Bydd cynlluniau tyrbin gwynt ar raddfa ganolig neu fwy yn cael eu gwrthod o fewn SLAs.
- Ystyrir amgylchiadau eithriadol lle mae angen holl bwysig neu broblem capasiti nad ellir eu hateb o fewn yr Ardal Chwilio Strategol
- Bydd datblygu tyrbin gwynt ar raddfa fach a micro (5MW a llai) ond yn cael ei gefnogi os:
- Yw’r raddfa’n gymesur yn nhermau’r prif ynni a gynhyrchir i gyflenwi’r adeilad(au) y mae’n cynhyrchu’n uniongyrchol ar ei gyfer;
- Nad yw’n cyfaddawdu ar allu’r Ardal Chwilio Strategol i gyrraedd y targed a ragwelir o ran cynhyrchu ynni;
- Bod meini prawf 2 a) – f) yn cael eu cyflawni a lle y bo’n briodol bod Asesiad Effaith Amgylcheddol boddhaol wedi ei gyflwyno.
- O fewn SLAs ni chaniateir tyrbinau gwynt oni bai eu bod yn cynhyrchu ynni ar gyfer annedd neu glwstwr o anheddau ar raddfa micro.
Amcanion yr Astudiaeth
- Darparu asesiad strategol o sensitifrwydd perthynol tirwedd Conwy a Sir Ddinbych i ddatblygiad ynni gwynt gan ddefnyddio meini prawf gweledol a thirwedd benodol sy'n cynnwys agweddau ffisegol a chanfyddiadol ynghyd ag ystyried gwerth tirwedd.
- Nodi sensitifrwydd tirwedd, gwelededd a chanfyddiad allweddol gwahanol ardaloedd o dirwedd.
- Darparu canllawiau eang ar yr ardaloedd o dirwedd lle y mae datblygiad ynni gwynt o wahanol faint yn dderbyniol a’r ardaloedd o dirwedd lle mae’r datblygiad yn debygol o achosi effaith andwyol ar y dirwedd ac yn weledol.
- Darparu sylwadau ar effeithiau cronnus a thraws ffiniol posibl datblygiad ynni gwynt.
Methodoleg:
Gwerthuso Unedau Tirwedd a’u Sensitifrwydd ar gyfer Datblygiad Ynni Gwynt
Canfuwyd cyfanswm o 42 uned tirwedd yng Nghonwy a Sir Ddinbych; mae’r rhain yn fras yn adlewyrchu ardaloedd cymeriad gwahanol y dirwedd ond nid ydynt wedi eu cydnabod yn ffurfiol fel ardaloedd cymeriad tirwedd.
- Adolygwyd a dadansoddwyd 21 haen LANDMAP.
- Adolygwyd astudiaethau desg gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i’r canlynol: Asesiad Tirwedd Clwyd; Strategaeth Tirwedd Sir Ddinbych; Morlun Cymru; Tirwedd Hanesyddol Cadw; gwybodaeth Safle Treftadaeth y Byd; a llawer mwy.
- Gwnaed ymweliadau safle i gefnogi a safoni’r canfyddiadau.
Mae canfyddiadau cyffredinol yr asesiadau sensitifrwydd wedi’u nodi’n Rhan 4 a’u crynhoi yn Nhabl 4.1 isod.
Tabl 4.1: Crynodeb o Sensitifrwydd
Gwerthusiad o Asesiadau Ardaloedd Strategaeth Tirwedd a Chynhwysedd
1.18 Yna gwnaed dyfarniad ar sensitifrwydd cyffredinol pob un o’r ardaloedd strategaeth hyn yn seiliedig ar asesiad o'u hunedau tirwedd cyfansoddol. Mae datganiad o sensitifrwydd cyffredinol yr ardal strategaeth mewn perthynas â datblygiad ynni gwynt wedi’i gyflwyno ym mhob gwerthusiad strategaeth tirwedd, ynghyd â chyfiawnhad o’r asesiad. Mae’r cyfiawnhad hwn yn cynnwys rhestr o nodweddion treftadaeth gweledol a diwylliannol y dirwedd a rhinweddau sy’n dueddol i ddatblygiad ynni gwynt. Mae’r asesiadau sensitifrwydd cyffredinol ar gyfer ardaloedd strategaeth tirwedd wedi’u nodi’n Rhan 5 a’u crynhoi yn Nhabl 5.1 isod.
Tabl 5.1: Crynodeb o Ardaloedd Strategaeth a Sensitifrwydd Cyffredinol
Canllawiau ar gyfer Datblygiad Ynni Gwynt o fewn Ardaloedd Strategaeth
Casgliad
- Pa fathau o dirwedd sydd yng Nghonwy?
- Pam fod y tirweddau hyn yn sensitif (neu ddim yn sensitif) ar gyfer datblygiadau ynni gwynt?
- Pa mor sensitif yw'r tirweddau hyn ar gyfer datblygiadau ynni gwynt?
- Pa fathau o ynni gwynt y gellid eu cynnwys heb gyfaddawdu cyfanrwydd a gwerth y dirwedd?
- Sut y gellir dylunio/cynnwys datblygiad ynni gwynt i leihau effaith andwyol ar y dirwedd a gwelededd?
Sut i ddefnyddio’r adroddiad hwn
Sensitifrwydd Lleoliad Datblygiad
- Adolygu Unedau Tirwedd Ffigwr 5
- Ym mha uned o dirwedd y mae’r datblygiad arfaethedig wedi’i leoli ynddo?
- Adolygu gwerthusiadau sensitifrwydd uned tirwedd a Dynodiadau Tirwedd a Threftadaeth Diwylliannol Ffigwr 3 / cyfyngiadau gan ystyried disgrifiadau o ryngwelededd ac adolygu unedau tirwedd cyfagos pan fo cysylltiadau cryf wedi'u nodi.
- Rhestru nodweddion tirwedd allweddol sy’n sensitif i ddatblygiad ynni gwynt yn yr uned tirwedd lle y lleolir y cynnig.
Maint Datblygiad Ynni Arfaethedig
- Adolygu Tabl 1.5: Mathau o Ddatblygiad Ynni Gwynt
- Pa fath sy’n addas ar gyfer y datblygiad arfaethedig hwn?
Strategaeth a Chynhwysedd Tirwedd
- Adolygu Ardaloedd Strategaeth Tirwedd Ffigwr 6
- Ym mha ardal strategaeth tirwedd y lleolir y datblygiad ynni gwynt arfaethedig?
- Adolygu Strategaeth Tirwedd ar gyfer yr Ardal
- Beth yw’r amcan tirwedd ar gyfer yr ardal strategaeth? Beth yw ystyr yr amcan hwn? (Mae disgrifiadau manwl yn Rhan 2: Methodoleg Amcanion Tirwedd)
- Adolygu Ffigwr 4 Datblygiadau Ynni Gwynt Gweithredol a wedi’u cymeradwyo (Mawrth 2013) a'r tabl perthnasol Tabl A41: Datblygiadau Ynni Gwynt Gweithredol a wedi’u cymeradwyo (Mawrth 2013).
- Pa ddatblygiadau sydd eisoes yn bodoli yn yr ardal strategaeth?
- Ydych chi’n ymwybodol o unrhyw ddatblygiadau ynni gwynt sydd wedi’u cymeradwyo / adeiladu yn ardal strategaeth tirwedd ers Mawrth 2013?
- A oes unrhyw ddatblygiad ynni gwynt o fewn ardaloedd strategaeth cyfagos neu o fewn cylchfa'r astudiaeth all ddylanwadu ar hyfywedd y datblygiad hwn? Er mwyn ateb y cwestiwn hwn byddai’n ddefnyddiol derbyn manylion parthau o welededd damcaniaethol yn ymwneud â datblygiadau o’r fath i nodi lle y gallai effeithiau cronnol posibl godi. Efallai y bydd parthau o welededd damcaniaethol wedi’u cyflwyno fel rhan o Asesiad o Effaith Amgylcheddol neu asesiad effaith ar dirwedd a gwelededd – gwiriwch gyda’r awdurdod cynllunio.
- Adolygu Cynhwysedd Dangosol Cyffredinol yr ardal
- A oes digon o wybodaeth i gyflwyno achos sy’n arddangos fod y datblygiad arfaethedig yn bodloni cynhwysedd dangosol yr ardal?
- A oes unrhyw dystiolaeth i awgrymu y gallai’r datblygiad achosi effaith ar dirwedd neu effeithiau gweledol cronnol?
- Adolygu canllawiau ynglŷn â lleoli yn yr ardal strategaeth tirwedd
- Ystyried a nodi unrhyw ganllawiau all gael effaith ar y datblygiad arfaethedig penodol hwn.
Cynnig Cyngor
- Defnyddiwch y gwerthusiad strategaeth tirwedd, cynhwysedd dangosol cyffredinol a chanllawiau ynglŷn â lleoli tyrbinau (gan eu cefnogi drwy gyfeirio at werthusiad unedau tirwedd perthnasol a'u sensitifrwydd i ddatblygiad ynni gwynt) i roi cyngor i ymgeiswyr posibl ynglŷn â'r hyn sydd angen ei ystyried yn eu cais.
Mae’n rhaid i’r ymgeiswyr ymdrin â’r materion hyn yn y datganiad cyfiawnhau cais (boed hynny’n Ddatganiad Mynediad Dyluniad / Asesiad o Effaith ar Dirwedd a Gwelededd / Asesiad o Effaith Amgylcheddol).
Canllaw i ddefnyddio’r Adroddiad Asesiad Sensitifrwydd a Chynhwysedd Tirwedd ar gyfer Datblygiad Ynni Gwynt
1.30 Dull Cwestiwn Allweddol