LDP11 Landscape Sensitivity and Capacity Assessment for Onshore Wind Turbine Development
10. ATODIAD 3
(Fersiwn Ddiwygiedig Dros Dro Mehefin 2012 – fersiwn wedi’i ddiweddaru ym mis Mawrth 2013)
2.2 Polisi Cynllunio ar gyfer Ynni Gwynt ar y Tir
2.2.1 Yng nghyd-destun datblygiadau fferm wynt mae tri math o ardaloedd wedi’u nodi fel Nodyn Cyngor Technegol (TAN) 8 ar Ynni Adnewyddadwy (2005) fel rhai a statws gwahanol (pwyntiau 1-3 isod). Fodd bynnag, dylid parhau i ddefnyddio gwybodaeth LANDMAP yn nhri chyd-destun TAN 8 isod (Llywodraeth Cynulliad Cymru 2005, Ychwanegiad D, adran 8.4) i gynorthwyo i osgoi, lleihau a chydadfer yr effeithiau.
1) Parciau Cenedlaethol ac Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE)
Mae TAN 8 yn nodi “Mae nod ymhlyg yn TAN 8 i gynnal cyfanrwydd ac ansawdd y dirwedd ym Mharciau Cenedlaethol / AHNE yng Nghymru h.y. dim newid mewn cymeriad tirwedd o ddatblygiadau ynni gwynt." Mae Datganiad Polisi Llywodraeth Cynulliad Cymru ynglŷn â Pharciau Cenedlaethol ac Awdurdodau Parciau Cenedlaethol yng Nghymru (2007) yn nodi “Yn unol â pholisi Llywodraeth Cynulliad Cymru ynglŷn â datblygiadau mawr ym Mharciau Cymru - fel y gosodwyd yn TAN 8 - ni ddylid achosi newid sylweddol i gymeriad y dirwedd o ganlyniad i ddatblygiad ynni gwynt mewn Parciau Cenedlaethol (neu AHNE). Yn unol â hyn, amcan Llywodraeth Cynulliad Cymru yw, pan fo modd, y dylid gosod ceblau trawsyriant o dan ddaear.”
2) Ardaloedd o fewn a ger yr Ardaloedd Chwilio Strategol (SSAau)
Mae Ardaloedd Chwilio Strategol (SSAau) TAN 8 yn cael eu hystyried yn lleoliadau sydd fwyaf addas ar gyfer datblygiad fferm wynt mawr (Llywodraeth Cynulliad Cymru, 2005). O fewn y SSAau mae newid tirwedd wedi’i dderbyn, a chreu ‘tirwedd fferm wynt’ yn yr ardaloedd a ddynodwyd gan Lywodraeth Cymru yn ganlyniad i gyflawni targedau ynni adnewyddadwy, ‘o fewn (a gerllaw) yr SSAau, yr amcan unplyg yw derbyn newid hinsawdd h.y. newid sylweddol yn nodweddion y dirwedd oherwydd datblygiad tyrbinau gwynt.”
Fodd bynnag, oherwydd uchder y tyrbinau, gall effaith weledol fferm wynt o fewn yr SSA, gael effaith ar nodweddion ardaloedd sydd gryn dipyn o bellter o’r SSA. Mae materion o’r fath yn codi pan fydd yr SSAau yn agos at Barciau Cenedlaethol ac AHNE. Enghraifft o hyn yw Ymholiad Hirwaun 2008, lle yr ystyriwyd fod gosod tyrbinau gwynt mawr o fewn 8km o ffin Parc Cenedlaethol yn amharu'n ormodol.
3) Ardaloedd eraill tu allan i’r SSAau.
Mae TAN 8 yn nodi “yng ngweddill Cymru, tu allan i’r SSAau, yr amcan unplyg yw cynnal nodweddion tirwedd h.y. dim newid sylweddol i nodweddion tirwedd oherwydd datblygiad tyrbin gwynt.” Er ‘y dylai’r rhan fwyaf o’r ardaloedd tu allan i’r SSAau fod heb gynlluniau pŵer gwynt mawr’, gellir cynnig cynlluniau fferm wynt ar safleoedd trefol/diwydiannol tir llwyd (hyd at 25MW), a chynlluniau cymunedol llai (fel arfer llai na 5MW) neu fel rhan o ailbweru a / neu ymestyn ffermydd gwynt cyfredol. Dylai’r LVIA gynorthwyo i benderfynu os yw’r ‘effeithiau amgylcheddol ac ar dirwedd yn dderbyniol’ (TAN 8 2.11-2.14)
2.2.2 Mae Datganiad Polisi Gweinidogol Dros Dro (MIPPS) 01/2005 yn nodi “dylai prosiectau ynni adnewyddadwy gael eu cefnogi gan awdurdodau cynllunio lleol ar yr amod bod effeithiau amgylcheddol yn cael eu hosgoi neu’u leihau” (12.8.6). Fodd bynnag mae gofyniad MIPPS yn nodi “bod angen i ddatblygwyr fod yn sensitif i amgylchiadau lleol, gan gynnwys lleoli mewn perthynas â thirffurf ac ystyriaethau cynllunio eraill”
(12.8.11) yn golygu y bydd data LANDMAP yn werthfawr er mwyn deall ac osgoi neu liniaru effaith datblygiadau.
2.2.3 Mae egwyddorion dylunio da a lleoli micro yn berthnasol ym mhob achos er mwyn lleihau effaith ar y dirwedd ac effaith weledol ffermydd gwynt. Pan fydd yr effeithiau wedi’u lleihau (yn unol â chyngor yn MIPPS) mae angen penderfynu os ydi’r effeithiau gweddilliol yn dderbyniol ar gyfer pob achos.