LDP11 Landscape Sensitivity and Capacity Assessment for Onshore Wind Turbine Development

Am gyfarwyddiadau ar sut I ddefnyddio’r system ac I wneud sylwadau, gwelwch ein canllaw cymorth.

3. RHAN 2: METHODOLEG

3.1 Mae diffiniadau o’r termau/geiriau allweddol a geirfa o'r talfyriadau a ddefnyddiwyd yn yr adroddiad hwn yn Atodiad 7 er mwyn sicrhau eglurder a thryloywder. Mae methodoleg yr adroddiad wedi’i ddangos yn y siart llif isod ac yn cael ei ddisgrifio’n fanylach yn y testun sydd i ddilyn.

Cam Un: Fframwaith Asesu

3.2 Cafodd y fethodoleg ei llywio gan y dogfennau a restrwyd yn Atodiad 1, gan gynnwys y canllawiau a ddatblygwyd i’w defnyddio yn yr Alban sy’n ymwneud yn benodol â chynlluniau datblygiadau ynni gwynt ac yn cael eu derbyn yn helaeth yng Nghymru a Lloegr. Roedd y dogfennau arferion da canlynol yn llawn gwybodaeth:
  • Topic Paper 6: Techniques and Criteria for Judging Capacity and Sensitivity (Scottish Natural Heritage and the Countryside Agency, 2006).
  • Canllawiau ar gyfer Asesiad Effaith Weledol (LVIA) a Thirwedd. Disodlwyd Sefydliad Tirwedd a Sefydliad ar gyfer Rheoli ac Asesu Amgylcheddol (Ail gyhoeddiad 2002) gan y trydydd cyhoeddiad GLVIA ym mis Ebrill 2013. Dyma safon y diwydiant ar gyfer asesu gweledol a thirwedd.

Mae Papur Testun 6 a’r GLVIA yn hyrwyddo defnyddio barn a dealltwriaeth broffesiynol o gymeriad tirwedd i gynorthwyo ar gyfer rhagdybiaethau ynglŷn â’r hyn sy’n gwneud un dirwedd yn fwy neu'n llai sensitif na thirwedd arall i fathau penodol o ddatblygiad. Yn allweddol i hyn yw dealltwriaeth o ba agweddau o’r dirwedd sy’n dueddol i’r mathau o ddatblygiad a gynigiwyd. Mae’r rhain yn cynnwys nodweddion ffisegol, canfyddiadol a phrofiad. Mae tueddiad y rhain yn cael ei asesu ar wahân yn gyntaf cyn eu cyfuno a llunio safbwynt o sensitifrwydd cyffredinol drwy asesiad cytbwys o’r holl nodweddion.

Ffynonellau Data

3.3 Hysbyswyd yr asesiad gan ddata a gasglwyd gan ffynonellau o wybodaeth gwaelodlin a restrir yn Atodiad 1, gan gynnwys mapiau, asesiadau rhinweddau tirwedd a hanesyddol perthnasol, LANDMAP, gwaith maes ac ymgynghoriadau gyda’r Grŵp Llywio.

LANDMAP

3.4 LANDMAP yw’r fethodoleg a fabwysiadwyd yn ffurfiol ar gyfer asesu tirwedd yng Nghymru ac mae wedi’i ddefnyddio’n helaeth yn yr astudiaeth hon gyda’r GLVIA. Mae LANDMAP yn adnodd tirwedd GIS Cymru gyfan lle y cofnodir cymeriad, rhinweddau a dylanwadau ar dirwedd a’u gwerthuso mewn cyfres o ddata cenedlaethol cyson. Mae LANDMAP yn cynnwys pum cyfres o ddata perthynol (haenau) – Tirwedd Daearegol, Tirwedd Cynefinoedd, Gweledol a Synhwyrol, Tirwedd Hanesyddol a Thirwedd Diwylliannol. Mae gwybodaeth ar bob un wedi’u nodi yn Methodoleg LANDMAP: Canllawiau Cymru (CCW, 2008).
3.5 Mae pob un o’r pum haen ofodol wedi’i rhannu’n unedau daearyddol arwahanol (polygonau GIS) a gyfeirir atynt fel ardaloedd agwedd. Mae pob ardal agwedd ar y map yn cael ei diffinio gan ei nodweddion a rhinweddau tirwedd adnabyddedig. Gyda phob ardal agwedd mae disgrifiad (cofnod Arolwg Casglwr) sy’n disgrifio a dogfennu cymeriad, nodweddion a rhinweddau’r dirwedd. Mae argymhellion rheoli hefyd yn cael eu darparu, ynghyd â sgôr gwerthusiad cyffredinol, yng nghyd-destun pwysigrwydd lleol i bwysigrwydd rhyngwladol.
3.6 Mae pob Arolwg Casglwr yn cofnodi gwybodaeth o safbwynt haen unigryw benodol yr LANDMAP, gyda phob haen yr LANDMAP yn cael eu cynhyrchu ar wahân ar gyfer pob un o'r pum haen. Felly pan gyfeirir at nodweddion allweddol ar draws nifer o haenau ar gyfer yr un ardal ddaearyddol, pwysleisir eu pwysigrwydd. Fodd bynnag, dim ond drwy asesu pob haen yn unigol y gellir deall pa agweddau o gymeriad a nodweddion y dirwedd sy’n sensitif.
3.7 Er bod GLVIA yn argymell y dylid defnyddio data o’r pum haen LANDMAP mewn unrhyw asesiad, nid oedd y wybodaeth ynglŷn â Thirwedd Diwylliannol yn haen Tirwedd Diwylliannol yn ddigon manwl i fod yn ddefnyddiol ar gyfer yr astudiaeth hon8.

8 Nid yw Nodyn Canllaw LANDMAP 3 yn nodi unrhyw feini prawf penodol ar gyfer Tirwedd Diwylliannol.

Diffiniad o Ardal Astudiaeth a Graddfa’r Mapio

3.8 Ardal Astudiaeth

Fel y dengys Ffigwr 3, mae’r astudiaeth yn cynnwys ardal Awdurdod Cynllunio Lleol cyfan Conwy a Sir Ddinbych, gan eithrio Parc Cenedlaethol Eryri. Mae'n cynnwys ardaloedd gyda nodweddion tirwedd penodol yn bennaf Safle Treftadaeth y Byd Traphont Ddŵr Pontcysyllte a Chamlas Llangollen, Safle Treftadaeth y Byd Castell Conwy, AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy, Arfordir Treftadaeth y Gogarth, Ardal o Harddwch Naturiol Cynwyd a Llandrillo, Tirwedd Hanesyddol Cofrestredig a Pharciau a Gerddi Cofrestredig.

3.9 Roedd yr asesiad yn ystyried materion arfordirol a morlun dim ond pan yr oeddent yn berthnasol i asesu cymeriad tirwedd a sensitifrwydd yr arfordir rhwng Traethau Lafan (i’r gogledd orllewin) a Point of Ayr (i'r gogledd ddwyrain). Nid oedd ystyried datblygiadau ynni gwynt yn y môr yn rhan o gylch gwaith yr astudiaeth.
3.10 Oherwydd uchder y tyrbinau a’u dylanwad gweledol eang, bydd unrhyw ddatblygiad yn effeithio ar y dirwedd lle y caiff ei leoli a'r tirweddau cyfagos. Felly roedd datblygiadau ynni gwynt cyfredol ac arfaethedig tu hwnt i ffiniau'r Cynghorau wedi'u cynnwys yn y waelodlin ar gyfer yr asesiad, gan ganolbwyntio ar y rhai o fewn 10km o'r ffin. Mae’r adroddiad hwn yn ymwneud yn bennaf â datblygiadau ynni gwynt bach i rai canolig, felly er dibenion yr astudiaeth hon ystyriwyd mai dyma'r pellter lle y mae posibilrwydd y bydd effaith gweledol sylweddol yn deillio o ddatblygiadau ynni gwynt bach i rai canolig.

Graddfa Mapio

3.11 Fel arfer mae astudiaethau sensitifrwydd a chynhwysedd tirwedd yn seiliedig ar asesiadau cymeriad tirwedd lleol cyfredol sy’n rhannu’r dirwedd yn fathau o gymeriad tirwedd neu’n ardaloedd cymeriad tirwedd; ardaloedd cymeriad tirwedd yn ddelfrydol (gwelwch Atodiad 7 ar gyfer diffiniadau). Yna mae’r rhain yn cael eu hadolygu ac mae nodweddion allweddol pob ardal cymeriad tirwedd sy’n gallu bod yn sensitif i unrhyw ddatblygiad (meini prawf sensitifrwydd allweddol) yn cael eu nodi. Er y gall y meini prawf sensitifrwydd allweddol amrywio gan ddibynnu ar natur y datblygiad sy’n cael ei ystyried, mae'r ymagwedd fethodolegol tuag at yr astudiaethau’n debyg. Yn yr achos hwn, nid oedd Asesiad Cymeriad Tirwedd cyfredol ar gyfer Conwy a Sir Ddinbych9. Ar ôl ystyried gyda’r Grŵp Llywio, ystyriwyd mai Asesiad Tirwedd Clwyd 1995 oedd y waelodlin fwyaf priodol ar gyfer yr astudiaeth hon, oherwydd y rhesymau canlynol:
  • Mae Asesiad Tirwedd Clwyd yn cynnwys y rhan fwyaf o’r ardal astudiaeth (tua 85%).
  • Er ei fod wedi’i gynhyrchu 18 mlynedd yn ôl mae’r mathau o gymeriad tirwedd yn Asesiad Tirwedd Clwyd yn agos iawn at yr ardaloedd cymeriad tirwedd o’r Strategaeth Tirwedd Sir Ddinbych a wnaed yn ddiweddarach (cynhyrchwyd yn 2003), sy’n seiliedig ar ddadansoddiad data o bum haen LANDMAP.
  • Mae LANDMAP yn defnyddio Asesiad Tirwedd Clwyd 1995 fel prif ffynhonnell ddata.
  • Roedd y mathau o gymeriad tirwedd yn cael eu hystyried yn raddfa addas i'w defnyddio fel unedau adrodd ar gyfer yr astudiaeth.

Mae Asesiad Tirwedd Clwyd yn torri rhan fwyaf o dirwedd ardal yr astudiaeth yn 27 ardal cymeriad tirwedd. Er dibenion yr adroddiad hwn, cafodd yr ardaloedd cymeriad tirwedd eu rhannu’n ardaloedd daearyddol ac fe’i cyfeirir atynt fel unedau tirwedd (gwelwch Atodiad 7 ar gyfer diffiniadau). Mae’r term unedau tirwedd wedi ei ddefnyddio er diben yr adroddiad hwn gan nad yw’r ardaloedd wedi eu cydnabod yn ffurfiol fel ardaloedd cymeriad tirwedd.

Rhannwyd 15% o'r ardal astudiaeth nad oedd wedi’i gynnwys yn Asesiad Tirwedd Clwyd i dair uned tirwedd, yn seiliedig ar Ardaloedd Tirwedd Arbennig fel y disgrifiwyd ym Mhapur Cefndir Diwygiedig Conwy 27 (Awst 2012). Cefnogodd y Grŵp Llywio'r ymagwedd hon.

9 Er y gellid defnyddio ffiniau Ardal Agwedd Gweledol a Synhwyrol fel unedau adrodd ar gyfer sensitifrwydd, ystyriwyd nad oedd graddfa’r rhain (>300 dros yr ardal astudiaeth), yn rhy fanwl ar gyfer yr astudiaeth strategol hon.

3.12 Mae Ffigwr 5 yn dangos y 42 uned o dirwedd a ddyfeisiwyd. Oherwydd nad oedd cynllun Asesiad Tirwedd Clwyd ar gael mewn GIS neu ffurf ddigidol arall, sganiwyd y cynllun papur gwreiddiol a’i ddigideiddio i ffurf GIS ac yna ei osod ar sylfaen 1:50,000 OS ar gyfer yr ardal.

Meini Prawf Sensitifrwydd Tirwedd a Gwelededd

3.13 Un cam allweddol ym mhroses yr astudiaeth oedd canfod a deall agweddau o dirwedd sy’n fwy tebygol o gael eu heffeithio gan ddatblygiad ynni gwynt gan mai’r nodweddion hyn sy’n diffinio faint o ddatblygiad y gellir ei gynnwys yn yr ardal neu beidio.

3.14 Mae'r meini prawf a ddiffinnir yn Nhabl 1.3 a Tabl 1.4 yn seiliedig ar arferion da cyfredol ac fe'u cytunwyd gyda'r Grŵp Llywio. Maent yn cynnwys meini prawf yn ymwneud â chymeriad tirwedd a harddwch ynghyd ag agweddau esthetig, canfyddiadol, er enghraifft ansawdd golygfa, pellenigrwydd a llonyddwch. Maent hefyd yn cynnwys meini prawf yn ymwneud a gwerth tirwedd10, fel y diffiniwyd gan bresenoldeb unrhyw benodiadau tirwedd neu dirwedd heb eu penodi sydd wedi’u gwerthuso gan LANDMAP fel Eithriadol neu Uchel11. Mae’n bwysig pwysleisio efallai y gall tirwedd sy'n cael ei werthfawrogi'n fawr gan gymdeithasau dderbyn datblygiad ynni gwynt yn y lleoliad cywir - os yw'n cyd-fynd â chymeriad y dirwedd ac nad yw'n cyfaddawdu'r rheswm pam y rhoddir gwerth ar y dirwedd ac yn yr achos o dirwedd ddynodedig, nid yw'n cyfaddawdu pwrpas y dynodiad. Ar y llaw arall gall tirwedd sydd heb ei ddynodi fod yn hynod sensitif i ddatblygiad ynni gwynt os oes ganddo nodweddion penodol sy’n hynod sensitif i ddatblygiad ynni gwynt.

10 Er nad yw’r maen prawf mor llym â’r hyn a ddiffinnir ym Mhapur Testun 6, mae tirweddau dynodedig yn hynod agored i niwed newid o ran datblygiad ynni gwynt, felly roedd angen eu cynnwys yn yr asesiad o sensitifrwydd.

11 Mae TAN 8 yn nodi er mwyn canfod gwerth tirwedd ardal, dylid mapio gwybodaeth cyfredol ynglŷn â gwerth tirwedd o LANDMAP. Gall casgliad o sgorau gwerthuso Eithriadol ac Uchel mewn ardal benodol fod yn sylweddol. Fodd bynnag nid yw’n golygu gwaharddiad penodol yn erbyn datblygiad; dylid barnu’r wybodaeth gwaelodlin lle y cafwyd y gwerthusiad er mwyn gallu llunio penderfyniad o asesiad sensitifrwydd yn seiliedig ar werth.

3.15 Mae Tabl 1.4 yn nodi cyfres ddata LANDMAP a ddefnyddiwyd i gynorthwyo asesu sensitifrwydd pob maen prawf a sut y defnyddiwyd y rhain i nodi sensitifrwydd is neu uwch. Ategwyd at hyn gyda gwybodaeth o waith asesu cyfredol (Gweler Atodiad 6).

3.16 Aseswyd sensitifrwydd pob uned o dirwedd yn yr ardal astudiaeth yn erbyn pob maen prawf sensitifrwydd a’u graddio gan ddefnyddio graddfa sensitifrwydd tri phwynt, uwch, canolig neu is fel y disgrifiwyd yn Nhabl 1.2 isod.

Tabl 1.2: Diffiniad o Sensitifrwydd

Diffiniad

Uwch

Ardaloedd ble y mae nodweddion tirwedd allweddol yn agored i niwed ac yn debygol o gael eu heffeithio gan ddatblygiad ynni gwynt. Ni fyddai’r dirwedd yn gallu derbyn datblygiad ynni gwynt heb effaith sylweddol ar ei gymeriad.

Canolig

Ardaloedd ble y gallai datblygiad ynni gwynt achosi effeithiau andwyol ar nodweddion tirwedd allweddol. Er efallai y gallai’r dirwedd dderbyn ychydig o ddatblygiad os yw wedi’i leoli a'i ddylunio’n sensitif, gallai gyflwyno nodweddion anaddas newydd neu newid cymeriad.

Is

Tirweddau nad ydynt yn ddiamddiffyn i newid, ar ôl ystyried eu cymeriad a gwelededd cyffredinol, a gallant gynnwys ychydig o ddatblygiad ynni gwynt heb effaith andwyol sylweddol.

3.17 Yna gwerthuswyd asesiad cyffredinol sensitifrwydd pob uned o dirwedd a rhoddwyd gradd sensitifrwydd gan ddefnyddio graddfa sensitifrwydd pum pwynt, isel, canolig, canolig-uchel, uchel ac uchel iawn. Roedd y broses hon yn cynnwys ymagwedd gytbwys, gan ystyried yr holl feini prawf a aseswyd gan ganolbwyntio’n bennaf ar ymatebolrwydd nodweddion tirwedd allweddol pob uned i ddatblygiadau ynni gwynt. Mae’r holl werthusiadau hyn yn cynrychioli barn dau bensaer tirwedd cymwys a phrofiadol, yn seiliedig ar astudiaethau desg ac arolygon maes. Nid yw’r gwerthusiadau cyffredinol o sensitifrwydd yn seiliedig ar unrhyw fformiwla fathemategol (er enghraifft – gosod sgôr a chyfrif y sgorau is, canolig ac uwch a chyfrifo cyfartaledd y rhain) mae cydnabyddiaeth hefyd fod sensitifrwydd yn amrywio'n lleol o fewn unedau o dirwedd a bod y gwerthusiad cyffredinol yn cynrychioli sensitifrwydd cyffredinol ar draws uned tirwedd i adlewyrchu natur strategol yr astudiaeth hon.

Tabl 1.3: Meini Prawf ar gyfer Asesu Sensitifrwydd Tirwedd a Gwelededd i Ddatblygiad Ynni Gwynt

Meini Prawf Tirwedd

Graddfa:Hon yw un o’r nodweddion pwysicaf sy’n effeithio ar ble y gellir lleoli’r tyrbinau a hefyd yn dylanwadu ar faint derbyniol y datblygiad. Mae tirwedd helaeth mawr yn llai sensitif i ddatblygiadau ynni gwynt mawr na'r tirweddau bychain. Gall gwahaniaeth uchder mawr rhwng gwaelod dyffrynnoedd a phen y bryniau gynorthwyo i leihau sensitifrwydd drwy leihau maint canfyddiadol y tyrbinau. Yn y ddwy sefyllfa mae’n rhaid cymryd gofal i sicrhau nad yw graddfa'r tirffurf yn cael ei leihau gan faint y tyrbinau.

Tirffurf: Mae tirffurf sy’n esmwyth, rheolaidd ac amgrwm, neu’n wastad ac yn unffurf yn llai tebygol o fod yn sensitif i ddatblygiad ynni gwynt na’r tirffurfiau amrywiol cymhleth gyda nodweddion tir nodedig lle y gallai tyrbinau gwynt gweladwy gael effaith andwyol ar edrychiad a phrofiad o’r tirffurf. Gall tirffurfiau cymhleth ddarparu cyfleoedd i guddio tyrbinau ond rhaid cymryd gofal i beidio â dominyddu tirffurfiau cymhleth.

Patrwm Gorchudd Tir: Nid yw’r maen prawf hwn yn ymwneud â sensitifrwydd perthynol penodol math o orchudd tir, ond gydag argraff patrwm gorchudd tir. Mae tirweddau moel gyda llinellau lliflin a gorchudd tir cyson yn debygol o fod yn llai sensitif i ddatblygiad ynni gwynt. Gallai ardaloedd o goedwigoedd masnachol a ffermio dwys achosi sensitifrwydd is hefyd. Mae tirweddau cymhleth sy’n cynnwys amrywiaeth neu frithwaith o nodweddion neu rinweddau tirwedd sensitif megis coed a choetiroedd, patrymau caeau afreolaidd neu wrychoedd yn fwy tebygol o fod yn agored i newid oherwydd datblygiad ynni gwynt. Mae gorchudd coed neu goetir yn cynnig y posibilrwydd o guddio tyrbinau bychain mewn sefyllfaoedd penodol (yn bennaf mewn cyfuniad gyda thirffurf tonnog) er rhaid cymryd gofal i beidio â chaniatáu i dyrbinau dynnu sylw oddi ar nodweddion nodedig neu ddominyddu’n lleol ar y nodweddion hyn megis bryncyn coed, hen goed nodweddiadol neu goed rhodfa.

Amgylchedd Adeiledig: Mae’r maen prawf hwn yn ymwneud â phresenoldeb strwythurau adeiledig ac ymyrraeth ddynol yn bresennol ar y dirwedd. Efallai y bydd presenoldeb strwythurau modern megis tyrbinau gwynt, cludiant, gwasanaeth neu isadeiledd cyfathrebu neu ddatblygiad diwydiannol yn lleihau sensitifrwydd tirwedd i ddatblygiad ynni gwynt, ynghyd â dylanwad gweledol chwarel neu dirlenwi. Gall presenoldeb adeiladau ac ymyrraeth ddynol mewn ardaloedd sefydlog dwys cyfoes ddangos bod llai o sensitifrwydd i gyflwyno tyrbinau gwynt. Fodd bynnag, yn yr holl achosion hyn rhaid cymryd gofal i osgoi gwrthdaro gweledol pellach a newid cronnol drwy gyflwyno strwythurau fertigol ychwanegol. Mewn ardaloedd o anheddiad mae'n rhaid cael cydbwysedd rhwng effaith weledol ac effaith ar gymeriad tirwedd. Mae ardaloedd sydd â llai o anheddiad a / neu nodweddion o gymeriad adeiledig sefydlog, traddodiadol neu hanesyddol, gan gynnwys strwythurau hanesyddol sy’n debygol o fod yn fwy sensitif i ddatblygiad ynni gwynt.

Meini Prawf Gweledol

Gorwelion a Lleoliadau: Mae tirweddau gyda chribyn neu orwelion nodedig yn debygol o fod yn fwy sensitif i ddatblygiad ynni gwynt yn hytrach na gorwelion sy’n llai amlwg neu sydd wedi'u heffeithio gan strwythurau cyfoes cyfredol megis adeileddau trydan neu gyfathrebu. Mae presenoldeb nodweddion tirwedd nodedig neu hanesyddol megis cofadail pen bryn, meindwr eglwys neu bentrefi brodorol yn cynyddu sensitifrwydd.

Symudiad: Gall tyrbinau dynnu sylw’r llygaid drwy gyflwyno symudiad i’r dirwedd. Mae tirweddau sydd eisoes wedi’u heffeithio gan symudiad felly’n fwy tebygol o fod yn llai sensitif, tra y bydd tirweddau sy’n cael eu gwerthfawrogi am eu llonyddwch yn fwy sensitif.

Gwelededd, Golygfeydd Allweddol: Mae’r maen prawf hwn yn ymwneud â golygfeydd a derbynyddion gweledol sy’n dylanwadu ar y sensitifrwydd gweledol. Mae’r tebygolrwydd y bydd tyrbinau’n hynod weladwy ar y dirwedd yn dibynnu ar faint y datblygiad a’r tirffurf lle y lleolir y datblygiad ac ar gyfleoedd i guddio oherwydd gorchuddion tir yn enwedig adeiladau, coed a choetiroedd. Mae tirweddau sy'n cynnwys golygfeydd cyfyngedig mewnol ac allanol yn debygol o fod yn llai sensitif na thirweddau agored gyda golygfeydd mewnol ac allanol helaeth. Mae argaeledd golygfeydd o’r tirweddau hyn o ardaloedd cyfagos hefyd yn dylanwadu ar sensitifrwydd. Mae tirweddau sy’n cynnwys llwybrau i dwristiaid, llwybrau cenedlaethol neu ranbarthol a lleoliadau ymwelwyr cydnabyddedig eraill yn fwy sensitif i ddatblygiad ynni gwynt. Yn yr un modd, mae agosrwydd at anheddiad sy’n cynyddu’r posibilrwydd o effaith andwyol ar harddwch yn gallu cynyddu sensitifrwydd ardal.

Derbynyddion Nodweddiadol: Mae’r niferoedd a’r mathau o bobl sy’n debygol o brofi newid mewn golygfa oherwydd datblygiad arfaethedig yn dylanwadu ar sensitifrwydd gweledol. Y derbynyddion mwyaf sensitif yw preswylwyr, cymunedau, unigolion sy’n cymryd rhan mewn gweithgareddau hamdden awyr agored lle mae’r dirwedd yn rhan o’r profiad, ymwelwyr i asedau treftadaeth adeiledig a naturiol sy’n canolbwyntio ar dirwedd, atyniadau harddwch a hamdden allweddol a defnyddwyr llwybrau golygfaol. Mae pob lleoliad yn creu rhai disgwyliadau penodol. Mae llwybrau cludiant fel arfer yn dderbynyddion llai sensitif, fodd bynnag mae golygfeydd sengl a dilyniannol o ffordd strategol a rheilffyrdd yn bwysig i ganfyddiad y dirwedd.

Rhyngwelededd/Cysylltiadau â Thirwedd Cyfagos: Mae unedau tirwedd sydd â rhyngwelededd cyfyngedig (golygfeydd mewnol ac allanol i dirweddau cyfagos ac ohonynt) yn debygol o fod yn llai sensitif nag unedau sydd â golygfeydd helaeth. Pan fydd tirweddau cyfagos yn ryngweladwy ac yn fwy sensitif yna mae hyn yn cynyddu sensitifrwydd uned tirwedd. Pan nad yw'r tirweddau cyfagos yn ryngweladwy neu os yw eu sensitifrwydd yn is, yna mae’n debyg y bydd y sensitifrwydd yn is. Efallai y bydd lleoliad tirweddau dynodedig yn fwy sensitif pan fydd lleoliad yn cyfrannu at ansawdd golygfaol y dirwedd dynodedig.

Golygfeydd i Dirwedd Pwysig ac ohonynt a Nodweddion Treftadaeth Diwylliannol: Mae tirweddau sy’n bwysig i’r golygfeydd i mewn ac allan ac yn lleoliad ardaloedd tirwedd dynodedig allweddol ac ardaloedd treftadaeth ddiwylliannol / canolbwynt (megis AHNE, Parciau Cenedlaethol, Safleoedd Treftadaeth y Byd, Tirweddau Hanesyddol, Parciau a Gerddi Cofrestredig, Ardaloedd o Harddwch Eithriadol, Llwybrau Cenedlaethol a Rhwydweithiau Beicio ac atyniadau ymwelwyr allweddol megis bryngaerau / cestyll / meindwr eglwys) yn debygol o fod yn fwy sensitif.

Meini Prawf Esthetig, Canfyddiadol a Phrofiad

Ansawdd a Chymeriad Golygfaol: Bydd ardaloedd o olygfeydd, cymeriad, ansawdd, tawelwch, naws am le ac amlygrwydd lleol yn fwy sensitif i ddatblygiad ynni gwynt o’u cymharu ag ardaloedd llai golygfaol. Mae hyn yn cynnwys tirwedd ddynodedig oherwydd eu harddwch naturiol (gweler isod) ond hefyd ardaloedd o dirwedd nad ydynt yn ddynodedig, gan gynnwys ardaloedd sy’n nodweddiadol yn lleol neu â chymeriad cryf.

Pellenigrwydd / Llonyddwch: Mae ardaloedd sy’n eithaf anghysbell a gyda chymeriad gwyllt a / neu lonydd ac nad oes llawer o ddatblygiadau adeiledig yn cynyddu sensitifrwydd tirwedd i ddatblygiad ynni gwynt. Gall datblygiadau tyrbinau ger ardaloedd o’r fath danseilio rhinweddau arbennig a lleoliad ardaloedd penodol, er os yw hyn yn gysylltiedig â mathau eraill o ddatblygiad ac ar yr un raddfa â’r datblygiadau hyn megis ffermydd, efallai bydd yr effaith yn llai.

Meini Prawf Gwerth

Gwerth Tirwedd:Mae’n debyg y bydd ardaloedd sy’n cael eu cydnabod yn bennaf fel Eithriadol neu Uchel yng ngwerthusiadau LANDMAP yn fwy sensitif i ddatblygiad ynni gwynt. Yn ogystal â hyn, mae tirweddau sydd wedi'u dynodi’n ffurfiol oherwydd gwerth golygfaol, dyluniad neu hamdden yn debyg o fod yn fwy sensitif i ddatblygiad ynni gwynt nag ardaloedd nad ydynt wedi'u dynodi. Mae gradd y sensitifrwydd yn dibynnu ar natur y cynnig a rhinweddau’r dirwedd sy’n cael eu nodi yn y dynodiad. Mae hierarchaeth y dynodiad yn dylanwadu ar sensitifrwydd tirwedd. Mae tirweddau dynodedig rhyngwladol a chenedlaethol megis Parciau Cenedlaethol, Safleoedd Treftadaeth y Byd ac AHNEau yn rhai hynod o sensitif, gyda dynodiadau rhanbarthol a lleol megis AHE a SLAau yn agos at hyn hefyd. Mae gwerth tirwedd yn cael ei gydnabod yn ffurfiol drwy ddynodiad, ond gellir penderfynu ar werth drwy ddogfennau cyhoeddedig megis taflenni i dwristiaid; celf a llenyddiaeth. Nid yw Arfordiroedd Treftadaeth yn cael eu gwarchod drwy ddynodiad ond ystyrir eu bod o werth cenedlaethol.

Gwerth Hanesyddol: Mae’n debyg y bydd ardaloedd sy’n cael eu cydnabod yn bennaf fel Eithriadol neu Uchel yng ngwerthusiadau LANDMAP yn fwy sensitif i ddatblygiad ynni gwynt. Mae ardaloedd sydd wedi’u dynodi oherwydd gwerth treftadol hanesyddol rhyngwladol, cenedlaethol neu ranbarthol neu ddiwylliannol megis Safleoedd Treftadaeth y Byd yn debyg o fod yn fwy sensitif i ddatblygiad ynni gwynt yn enwedig os yw cymeriad neu ganfyddiad y dirwedd lle y caent eu lleoli yn debygol o gael ei newid yn sylweddol. Nid yw Tirweddau Hanesyddol Cofrestredig a Pharciau a Gerddi Cofrestredig wedi'u diogelu drwy ddynodiad ond ystyrir eu bod o werth cenedlaethol.

Tabl 1.4 : Ffynhonnell Ddata sy’n berthnasol i feini prawf sensitifrwydd

Nodwedd

Ffynhonnell Ddata LANDMAP (bydd ffynonellau data eraill yn cael eu defnyddio)

Rhai dangosyddion o Sensitifrwydd Is i Ddatblygiad Ynni Gwynt

Rhai dangosyddion o Sensitifrwydd Uwch i Ddatblygiad Ynni Gwynt

Meini Prawf Tirwedd

Graddfa

VS8: Maint

  • Tirweddau helaeth neu fawr

  • Tirweddau bychain
  • Systemau maes bychain

Tirffurf

VS4 : Ffurf Topograffig

  • Tirffurf syml heb nodweddion
  • Tirffurf amgrwm
  • Llwyfandir
  • Tirffurf gwastad ac unffurf

  • Bryniau garw
  • Tirffurf afreolaidd neu gymhleth
  • Dyffrynnoedd a chribau cul

Patrwm Gorchudd Tir

VS3: Gorchudd Tir

VS5: Patrwm Gorchudd Tir

  • Tir wedi’i ddatblygu, diffaith neu dir gwastraff
  • Ucheldir pori agored
  • Ucheldir gwaun
  • Coedwigoedd
  • Ffermdir Isel

  • Ucheldir caregog
  • Bryniau agored
  • Patrwm/brithwaith maes
  • Dyffrynnoedd
  • Dŵr

Amgylchedd Adeiledig

VS6: Patrwm Anheddiad

VS27: Cyflwr

  • Strwythurau cyfoes (cludiant/adeileddau cyfathrebu/gwasanaeth/tyrbinau gwynt)
  • Datblygiad diwydiannol modern
  • Isadeiledd mawr / aneddiadau modern

  • Adeileddau preswyl anghyson/dim adeileddau preswyl
  • Ardaloedd heb fawr o anheddiad/ardaloedd heb boblogaeth
  • Presenoldeb adeiladau hanesyddol/strwythurau neu anheddiad

Meini Prawf Gweledol

Gorwelion a Lleoliadau

Data topograffeg

  • Gorwelion llai amlwg
  • Nodweddion fertigol cyfredol (datblygiad modern)
  • Datblygiad adeiledig cyfredol

  • Gorwelion amlwg
  • Gorwelion nodedig
  • Gorwelion heb amhariaeth
  • Presenoldeb nodweddion nodedig/sensitif

Symudiad

VS18: Lefel o fynediad dynol

  • Mynediad cyson neu aml
  • Prysur

  • Mynediad prin neu anghyson

Gwelededd, Golygfeydd Allweddol, a Derbynyddion Nodweddiadol

VS 9 : Tir Caeedig

  • Tirweddau sy’n gyfyng, cynhwysol neu'n gaeedig gydag ychydig o olygfeydd allanol
  • Ychydig iawn o boblogaeth neu dim mynediad

  • Tirweddau sy’n agored gyda golygfeydd pellgyrhaeddol
  • Golygfeydd o lwybrau golygfaol, tirnodau adnabyddus, neu olygfeydd o leoliadau ymwelwyr
  • Eithaf poblog

Rhyngwelededd/Cysylltiadau â Thirwedd Cyfagos

  • Golygfeydd cyfyngol i'r tirwedd neu allan ohono
  • Tirweddau cyfagos o sensitifrwydd is
  • Cyfrannu ychydig iawn at dirwedd ehangach
  • Cefnlen syml mawr
  • Cysylltiad gwan gydag unedau tirwedd cyfagos

  • Golygfeydd i mewn neu allan, yn enwedig o diroedd uchel
  • Tirweddau cyfagos o sensitifrwydd uwch, yn enwedig tirweddau dynodedig rhyngwladol neu genedlaethol.
  • Cyfrannu at dirwedd ehangach
  • Cefnlen nodedig neu gymhleth
  • Tirwedd pwysig i leoliadau / dynesiad / adwyon i dirweddau dynodedig
  • Cysylltiad cryf gydag unedau tirwedd cyfagos

Golygfeydd i Dirwedd Pwysig a Nodweddion Treftadaeth Diwylliannol ac ohonynt (o du fewn a thu allan i’r uned tirwedd)

Parc Cenedlaethol, Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol, Safle Treftadaeth y Byd, Arfordir Treftadaeth, Llwybrau Cenedlaethol a Rhwydweithiau Beicio Cenedlaethol, Tirwedd Hanesyddol Cofrestredig, Parciau a Gerddi Cofrestredig, (er dibenion yr astudiaeth strategol hon ystyrir Adeiladau Rhestredig a SAMau dim ond os y caent eu gwerthfawrogi fel atyniad neu ganolbwynt i ymwelwyr)

  • Cysylltiad gwan gyda thirwedd
  • Ychydig iawn o ryngwelededd rhwng safleoedd

  • Cysylltiad cryf gyda thirwedd
  • Rhyngwelededd rhwng safleoedd

Meini Prawf Esthetig, Canfyddiadol a Phrofiad

Ansawdd a Chymeriad Golygfaol

VS46: Ansawdd Golygfaol

VS47: Cyfanrwydd

VS48: Cymeriad

Naws Am Le

  • Gwerthusiad LANDMAP isel i ganolig
  • Naws Gwan Am Le

  • Gwerthusiad LANDMAP Eithriadol neu Uchel
  • Naws cryf am le

Pellenigrwydd / Llonyddwch

VS24: Nodweddion Canfyddiadol a Synhwyrol

  • Swnllyd, bygythiol, annymunol

  • Deniadol, anghysbell, llonydd, diogel, gwyllt

Gwerth Tirwedd

Safle dynodedig/ safle gwerthfawr yn genedlaethol/ rhanbarthol neu'r lleoliad

VS50: Gwerthusiad Cyffredinol

VS49: Prinder

LH45: Gwerthusiad Cyffredinol

LH42: Cysylltedd / Cydlyniad

GL31: Prinder/ Unigrywiaeth

GL33: Gwerthusiad Cyffredinol

  • Dim safleoedd dynodedig
  • Gwerthusiad LANDMAP isel i ganolig

  • Parc Cenedlaethol, AHNE, Arfordir Treftadaeth, AHN, SLA
  • Gwerthusiad LANDMAP Eithriadol neu Uchel

Gwerth Hanesyddol

Safle neu’r lleoliad dynodedig/ safle gwerthfawr yn genedlaethol/ rhanbarthol

HL38: Prinder

HL35: Cyfanrwydd

HL40: Gwerthusiad Cyffredinol

  • Dim safleoedd dynodedig
  • Gwerthusiad LANDMAP isel i ganolig

  • Safle Treftadaeth y Byd, Tirwedd Hanesyddol Cofrestredig, Parciau a Gerddi Cofrestredig, Hen gofadail amlwg megis bryngaerau a chestyll y mae twristiaid yn ymweld â hwy’n aml.
  • Gwerthusiad LANDMAP Eithriadol neu Uchel

Cam 2 – Asesu Sensitifrwydd Tirwedd a Gwelededd

3.18 Mae’r rhan hon o’r astudiaeth yn cynnwys arolwg desg a maes, gyda’r astudiaeth maes yn cael ei chyflawni yng nghamau cynnar yr astudiaeth (cynefino) ac yn hwyrach i gynorthwyo i wirio a mireinio asesiadau sensitifrwydd desg.

Asesiad Gwaelodlin

3.19 Cam cyntaf y broses oedd:
  • Canfod a gwerthuso tirwedd cyfredol ardal yr astudiaeth, gan gynnwys y nodweddion nodedig, dynodiadau tirwedd cyfredol ac effaith datblygiadau ynni gwynt cyfredol.
  • Canfod a gwerthuso golygfeydd cyfredol a harddwch ardal astudiaeth.

Adolygwyd y gwybodaeth ganlynol fel ymarfer desg:
Mapiau Arolwg Ordnans a lluniau awyrol.

  • Tirweddau dynodedig a rhai a werthfawrogir yn genedlaethol/rhanbarthol, gan gynnwys AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy, AHE Cynwyd a Llandrillo, SLAau, Tirweddau Hanesyddol Cofrestredig, Parciau a Gerddi Cofrestredig.
  • Gwybodaeth o gyfres ddata LANDMAP (y pum Ardal Agwedd).
  • Data Map GIS Treftadaeth Naturiol ac Adeiledig
  • Asesiadau cymeriad tirwedd cyfredol.
  • Tirweddau Hanesyddol Cofrestredig, gan gynnwys Dyffryn Clwyd, Pen Isaf Dyffryn Conwy, Creuddyn a Chonwy, Gogledd Arllechwedd, Y Berwyn, Pen Isaf Dyffryn Elwy, Mynydd Hiraethog, Dyffryn Llangollen ac Eglwyseg, Comin Treffynnon a Mynydd Helygain, Safle Treftadaeth y Byd Traphont Ddŵr Pontcysyllte a Chamlas Llangollen, Parciau a Gerddi Cofrestredig a Chofebion Rhestredig amlwg.
  • Datblygiadau ynni gwynt cyfredol yn ardal yr astudiaeth.

Mae canfyddiadau'r astudiaeth ddesg, oedd wedi'u mireinio yn dilyn gwaith arolwg maes, wedi'u cyflwyno yn Rhan 3. Maent yn cynnwys trosolwg o nodweddion tirwedd allweddol ardal yr astudiaeth, disgrifiad o ddatblygiadau ynni gwynt cyfredol a’u heffaith ar y dirwedd a sylwadau ar unrhyw faterion cyfredol ac effaith cronnol posibl.

Asesu Sensitifrwydd Unedau Tirwedd

3.20 Roedd angen paratoi taflenni asesu sensitifrwydd ar gyfer rhan hon yr astudiaeth ar gyfer pob uned tirwedd, fel y cyflwynwyd yn Rhan 4.

Mae nodweddion allweddol pob uned o dirwedd yn cael eu disgrifio cyn eu gwerthuso'n erbyn meini prawf sensitifrwydd a ddisgrifiwyd yn Nhabl 1.3 ac 1.4 gan ddefnyddio graddfa tri phwynt: Uwch, canolig neu is (wedi’u disgrifio yn Nhabl 1.2, Rhan 1). Amlygwyd y nodweddion yr ystyrir yn agored i niwed datblygiad. Yn olaf gwnaed penderfyniad ynglŷn â sensitifrwydd cyffredinol pob uned o dirwedd i newid yn gysylltiedig â datblygiad ynni gwynt, yn seiliedig ar raddfa sensitifrwydd manwl pum pwynt: Isel; canolig, canolig-uchel; uchel ac uchel iawn.
Mae Atodiad 6 yn cynnwys CD yn cynnwys 21 o gynlluniau sy’n cynrychioli data o LANDMAP wedi’i osod ar ardal yr astudiaeth (wedi’i restru’n Nhabl 1.4). Defnyddiwyd y wybodaeth i wneud penderfyniadau cychwynnol ynglŷn â sensitifrwydd ac yna fe’u cefnogwyd a’u safoni gydag astudiaethau desg eraill a’r ymweliadau safle.

Arolwg Maes

3.21 Ar ôl cwblhau’r asesiad drafft, cynhaliwyd arolygon maes i brofi a mireinio’r canfyddiadau a darparu'r gwybodaeth ganlynol:
  • Gwell dealltwriaeth o nodweddion cyffredinol y dirwedd gan gynnwys effeithiau datblygiadau ynni gwynt cyfredol ac unrhyw rymoedd newid y gallai fod yn eu profi.
  • Dadansoddiad o dirwedd, yn nhermau nodweddion a rhinweddau sy’n effeithio ar ei sensitifrwydd i ddatblygiad ynni gwynt, gan gynnwys rhinweddau arbennig unrhyw ddynodiadau perthnasol.
  • Gwerthfawrogiad o’r amrywiadau o fewn unedau tirwedd unigol a dealltwriaeth manwl o ansawdd golygfaol a chyflwr tirwedd.
  • Gwerthfawrogiad o natur unrhyw faterion harddwch.
  • Dealltwriaeth o raddfa ryngwelededd, rhwng yr unedau tirwedd yng Nghonwy a Sir Ddinbych a gyda thirweddau mewn ardaloedd awdurdodau cyfagos.
  • Cofnodwyd y golygfeydd pwysig i’r unedau tirwedd ac ohonynt, gan nodi nodweddion nodedig megis golygfeydd penodol, golygfeydd o dirweddau dynodedig ac ohonynt, gorwelion heb ymyriadau (tir a môr). Mae’n bwysig deall sut y mae’r tirwedd yn cael ei brofi o leoliadau penodol a gan bobl wrth iddynt deithio drwy’r ardal.
  • Dealltwriaeth o sut y gallai nodweddion unigol achosi i un tirwedd fod yn fwy sensitif nag un arall ar eu pennau eu hunain neu mewn cyfuniad o nodweddion. Roedd hyn yn gymorth i ganfod unrhyw gyfyngiadau sensitifrwydd strategol / cynhwysedd all leihau posibilrwydd gosod datblygiad ynni gwynt mewn ardaloedd tirwedd penodol.
3.22 Roedd y gwaith maes hefyd yn ystyried goblygiadau tebygol y gwahanol fathau o ddatblygiadau ynni gwynt mewn perthynas â gwahanol agweddau’r tirwedd. Mae pa mor dderbyniol yw mathau gwahanol o ddatblygiad ynni gwynt yn amrywio ar gyfer yr holl unedau o dirwedd. Mewn dyffrynnoedd cysgodol bychain er enghraifft, mae cyfyngiadau technegol clir i fathau mawr a chanolig. Yn yr un modd, bydd ardaloedd gyda sensitifrwydd tirwedd sylweddol i ddatblygiad mawr megis AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy, yn fwy addas ar gyfer tyrbinau bychain sengl.
3.23 Yn seiliedig ar ganlyniadau’r arolygon maes, mireiniwyd y gwerthusiadau drafft o unedau tirwedd a pharatowyd asesiad sensitifrwydd terfynol a’r tablau crynodeb ar gyfer pob uned o dirwedd.

Cyfuno Unedau Tirwedd i Ardaloedd Strategaeth Tirwedd

3.24 Roedd cam olaf Rhan 2 yn cynnwys cyfuno unedau tirwedd i ardaloedd strategaeth tirwedd mwy.

Hysbyswyd hyn gydag asesiadau sensitifrwydd, gyda dadansoddiad o ryngwelededd, derbynyddion gweledol allweddol, topograffeg (gan gynnwys ymylon a gwahanfa ddŵr yn seiliedig ar wybodaeth LANDMAP), data Arolwg Ordnans a GIS, rhinweddau tirwedd, arsylwadau a wnaed yn ystod astudiaethau maes a thrafodaethau gyda’r Grŵp Llywio.

3.25 Yna gwnaed dyfarniad ar sensitifrwydd cyffredinol pob un o’r ardaloedd strategol hyn yn seiliedig ar asesiad o'u hunedau tirwedd cyfansoddol. Er mwyn caniatáu llunio penderfyniad cliriach, beirniadwyd sensitifrwydd cyffredinol ardaloedd strategaeth ar raddfa pum pwynt - isel, canolig, canolig-uchel, uchel ac uchel iawn. Fel o’r blaen, mae’r lefelau hyn yn seiliedig ar safbwynt proffesiynol yn hytrach na system sgorio mathemategol neu ddadansoddiad matrics fel y trafodwyd yn flaenorol.

Cam tri – Gosod Strategaethau Tirwedd a Datblygu Canllawiau Datblygu Safle a Dylunio

3.26 Roedd cam hwn yr astudiaeth yn cymhwyso safbwynt proffesiynol i benderfynu amcanion tirwedd addas a chynhwysedd perthynol pob ardal strategaeth penodol drwy gyfuno gwerthusiad tirwedd a sensitifrwydd gweledol gyda materion rhyngwelededd ac effeithiau cronnol posibl all godi pe bai datblygiad pellach yn cael ei gymeradwyo.

Mathau o Ddatblygiad Ynni Gwynt

3.27 Mae cynhwysedd tirwedd ar gyfer datblygiad ynni gwynt nid yn unig yn adlewyrchu presenoldeb gwahanol nodweddion a gwerthoedd tirwedd, ond hefyd grŵp a taldra y tyrbinau mewn perthynas â maint y dirwedd. Er mwyn gwerthuso hyn, nodwyd cyfres o fathau o ddatblygiad ynni gwynt yn seiliedig ar geisiadau blaenorol datblygiadau ynni gwynt a rhagamcan o dueddiadau’r dyfodol. Roedd cyfnewidiadau diddiwedd posibl nifer y tyrbinau a thaldra yn achosi anhawster wrth geisio nodi amrywiaeth priodol o fathau gwahanol. Fodd bynnag, roedd angen sefydlu mathau priodol er mwyn gallu darparu canllawiau defnyddiol, gan gynnwys canllawiau ynglŷn â thyrbinau sengl neu mewn parau gyda llai na 60m i ben y llafn, sy’n datblygu i fod yn fwy cyffredinol mewn ceisiadau ac ymholiadau cynllunio.
3.28 Mae’r pum categori (micro, bach, canolig, mawr a mawr iawn) a nodwyd ac a gytunwyd gyda’r Grŵp Llywio wedi’u cyflwyno yn Nhabl 1.5 trosodd ac yn Ffigwr 9 o’u cymharu â thirnodau lleol adnabyddus eraill er mwyn cael syniad o'r maint.

Fel arfer bydd cynnig yn cael ei ystyried o fewn y categori sy’n cynrychioli’r math mwyaf y mae’n gymwys ar ei gyfer.

Tabl 1.5: Mathau o Ddatblygiad Ynni Gwynt

Math o Ynni Gwynt

Allbwn Dangosol

(Categori allbwn eang12)

Meini Prawf Atodol

(yn bodloni un neu fwy o’r meini prawf) (penderfynu os yw'r math hwn yn berthnasol neu yw'n gymwys ar gyfer un mwy)

Micro

o dan 50kW

Ceisiadau tyrbin sengl neu bâr o dyrbinau

Tyrbin hyd at 20m i ben y llafn

Bach

o dan 5MW

Tyrbin hyd at 3 mewn nifer

Tyrbin hyd at 50m i ben y llafn

Grŵp bychan

Canolig

Dros 5MW a hyd at 25MW

Tyrbin hyd at 9 mewn nifer

Tyrbin hyd at 80 metr i ben y llafn

Grŵp mawr

Mawr

Dros 25MW

Tyrbinau yn cynnwys 10 mewn nifer neu fwy

Tyrbin hyd at 80 metr i ben y llafn

Fferm wynt mawr

Mawr Iawn

Dros 25MW

Tyrbinau yn cynnwys 10 mewn nifer neu fwy

Tyrbinau o dros 110 metr at ben y llafn

Fferm wynt enfawr

Strategol

Dros 50MW

Mwy na 15 o dyrbinau

Tyrbinau dros 100 metr i ben y llafn

Fferm wynt strategol cenedlaethol

O fewn y CCA

Bydd ceisiadau o’r fath yn cael eu penderfynu gan Cynllunio Seilwaith Cenedlaethol trwy PINS.

12 Canllaw yw’r gwerthoedd hyn ac ni ddylid eu defnyddio fel maen prawf ar gyfer penderfynu ar fathau. Mae effeithlonrwydd ac allbwn ynni’n newid oherwydd datblygiad technoleg ac effeithlonrwydd gweithredu, felly cydnabyddir y gallai’r gwerthoedd hyn newid.

3.29 Mae ceisiadau ac ymholiadau ar gyfer prosiectau ynni gwynt bach i ganolig yn berthnasol i’r ardal astudiaeth ehangach. Yma, mae uchder y tyrbinau (yn hytrach na nifer y tyrbinau) a sut y mae hyn yn berthnasol i raddfa’r dirwedd a’r tirffurf, yn ystyriaeth allweddol ynghyd â materion lleol megis gwahanu aneddiadau, golygfeydd o ymylon aneddiadau a llwybrau. Mae ceisiadau ac ymholiadau ar gyfer datblygiadau ynni gwynt mawr ac enfawr yn ymwneud â TAN 8 SSA A yn bennaf. Mae’r mathau mawr ac enfawr wedi’u cynnwys yn Nhabl 1.5 uchod er gwybodaeth; fodd bynnag, nid yw'r rhain yn cael eu trin fel rhan o'r astudiaeth hon, gan nad yw datblygiadau o'r maint hwn yn cael eu hystyried fel rhai priodol tu allan i ardal TAN 8.
3.30 Er bod allbwn yn cael ei ddefnyddio i ddiffinio meintiau gwahanol o ddatblygiad ynni gwynt yng Nghynlluniau Datblygu Lleol y Cynghorau, mae nifer o amodau penodol (mewn perthynas â maint, diamedr y rotor neu nifer y tyrbinau), sy’n dylanwadu ar y dirwedd ac effaith weledol cynnig ac felly gall newid categori cynnig waeth beth fo’r allbwn. Mae allbynnau dangosol wedi’u cynrychioli yn Nhabl 1.5 er gwybodaeth, fodd bynnag, ni ddylid defnyddio'r wybodaeth hon i benderfynu pa fath sy'n berthnasol i ddatblygiadau ynni gwynt.

Amcan Tirwedd + Cynhwysedd Dangosol Cyffredinol = Strategaeth Tirwedd

3.31 Amcanion Tirwedd

Mae Comisiwn Dylunio Cymru yn eu dogfen yn 2012, Dylunio Ffermydd Gwynt yng Nghymru, wedi cymhwyso canllaw y ‘Scottish Natural Heritage’ i ddatblygu eu canllawiau eu hunain o ran datblygu ffermydd gwynt. Yn y ddogfen hon mae tri amcan tirwedd yn cael eu trafod mewn perthynas â datblygiadau 'fferm wynt' fel a ganlyn:

  • Gwarchod Tirwedd: ‘tirwedd heb unrhyw fferm wynt neu ffermydd gwynt yn brin yno’.
  • Cymhwysiad Tirwedd: ‘tirwedd gyda rhai ffermydd gwynt’
  • Newid Tirwedd: ‘tirwedd gyda ffermydd gwynt.’

3.32 Comisiynwyd yr asesiad o sensitifrwydd a chynhwysedd tirwedd ar gyfer datblygiad ynni gwynt hon i ganfod sensitifrwydd tirweddau Conwy a Sir Ddinbych, yn bennaf o ran datblygiad ‘ynni gwynt’ yn hytrach na datblygiad ‘fferm wynt’. Mae canllaw Comisiwn Dylunio Cymru uchod felly wedi’i addasu ychydig ac ychwanegwyd amcan ychwanegol i adlewyrchu meintiau datblygiad ynni gwynt sy’n cael eu trafod yn yr adroddiad hwn. Mae’n bwysig nodi na ddylid ystyried y rhain fel amcanion rhagnodol cadarn.

Amcan 1
Gwarchod Tirwedd Fel arfer dim datblygiad ynni gwynt neu ddatblygiadau ynni gwynt bach yn brin

Mae gwarchod tirwedd yn berthnasol i dirweddau lle mae cadwraeth adnodd a phrofiad gweledol y dirwedd wedi’u hasesu i fod yn hynod o bwysig. Mae’n ceisio cadw neu atgyfnerthu'r cymeriad a'r ansawdd cyfredol a chyfanrwydd y dirwedd.

Mae’n debyg y bydd yn anodd cynnwys unrhyw beth mwy na datblygiad ynni gwynt ‘micro’ mewn ardaloedd o’r fath. Efallai y bydd datblygiad micro yn dderbyniol pan fydd hyn yn cysylltu'n dda â’r amgylchedd adeiledig cyfredol. Er efallai y byddai datblygiad ynni gwynt llai yn briodol mewn amgylchiadau penodol o fewn ardaloedd lle mae gwarchod tirwedd yn brif amcan, bydd cyfleoedd o’r fath yn hynod gyfyngol oherwydd sensitifrwydd tirwedd a gwelededd yr ardaloedd hyn ac mae’n dibynnu ar ba mor dda y mae’r maint a’r dyluniad yn cysylltu â’r dirwedd gyfredol a chyfyngiadau gweledol.

Gyda strwythurau tal megis tyrbinau, mae’n rhaid ystyried rhyngwelededd rhwng ardaloedd strategaeth yn ofalus er mwyn osgoi effaith andwyol ar dirwedd a gwelededd oherwydd nifer o ddatblygiadau.

Pan fydd dynodiad tirwedd wedi’i osod, mae’n bwysig deall sut y gall datblygiad ynni gwynt effeithio ar y rhinweddau arbennig y dynodwyd i’r ardal.

Mae PPW (Rhifyn 5, 2012) yn ceisio cynnal cyfanrwydd ac ansawdd tirwedd o fewn Parciau Cenedlaethol, Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE), Safleoedd Cyfarwyddyd Cynefin Naturiol 2000, gwarchodfeydd natur Cenedlaethol a Safleoedd Treftadaeth y Byd. Yn yr ardaloedd hyn, ‘gwarchod tirwedd’ fydd yr amcan tirwedd mwyaf addas, gan adlewyrchu’r lefel uchel o amddiffyniad y dylid rhoi i’r ardaloedd dynodedig hyn. Gyda hynny, maent i gyd wedi’i heithrio o SSAau TAN 8.

Amcan 2
Cymhwysiad Tirwedd Fel arfer tirwedd gyda rhai datblygiadau ynni gwynt

Mae Cymhwysiad Tirwedd yn berthnasol i dirwedd lle y mae cadwraeth cymeriad tirwedd a harddwch wedi’u hasesu i fod o bwysigrwydd canolig i bwysigrwydd uchel.

Mae'r amcan hwn yn ceisio cadw cymeriad, ansawdd a chyfanrwydd tirwedd, gan y gellir derbyn rhai datblygiadau bychain i rai canolig achlysurol. Gall datblygiad o’r fath gael effaith ar dirwedd leol ond ni ddylai achosi newid cymeriad mawr.

Amcan 3
Newid Tirwedd Fel arfer tirwedd gyda datblygiadau ynni gwynt eithaf aml

Mae newid tirwedd yn berthnasol i dirweddau lle y derbynnir y gall cymeriad tirwedd dderbyn ychydig o newid o ganlyniad i ddatblygiad ynni gwynt.

Mae amcan newid tirwedd yn derbyn y gellir caniatáu datblygiadau canolig i rai mawr all gael effaith yn lleol ac ar draws ardal ehangach. Mewn ardaloedd o’r fath mae’n bwysig sicrhau nad yw’r tyrbinau yn dod yn nodwedd fawr yn y dirwedd a'u bod yn berthnasol ar gyfer maint a rhinwedd y dirwedd.

Amcan 4
Tirwedd Newydd Fel arfer tirwedd gyda chryn dipyn o ddatblygiadau ynni gwynt – tirwedd fferm wynt

O fewn (a gerllaw) SSAau, yr amcan penodol yw derbyn newid sylweddol i gymeriad y dirwedd o ganlyniad i ddatblygiad tyrbinau gwynt o fewn yr SSA. Lle y derbynnir fod yr ardal yn un lle gellir caniatáu newid cymeriad y dirwedd, mae Comisiwn Dylunio Cymru yn ystyried bod angen dilyn egwyddorion dylunio tirwedd da er mwyn sicrhau fod y datblygiad o'r maint a chymeriad cywir ar gyfer y dirwedd.

3.33 Mae pob ardal strategaeth tirwedd yn derbyn amcan tirwedd, neu mewn rhai achosion nifer o amcanion tirwedd, er mwyn cynorthwyo’r Cynghorau i wneud penderfyniad ar geisiadau newydd. Mae’r amcanion tirwedd hyn yna'n ffurfio sylfaen yr argymhellion ynglŷn â mathau o ddatblygiadau ynni gwynt all fod yn addas ar gyfer pob ardal strategaeth.

3.34 Gall perthynas neu drothwy newid tirwedd sy’n deillio o ddatblygiad amrywio gan ddibynnu ar y dirwedd a natur y datblygiad posibl. Tybir fodd bynnag bod mwy o gynhwysedd cyffredinol ar gyfer datblygiad ynni gwynt mewn ardaloedd o sensitifrwydd is lle yr ystyrir bod newid tirwedd yn fwy derbyniol. Ar y llaw arall, bydd ardaloedd o sensitifrwydd uwch, yn bennaf y rhai wedi’u dynodi, yn fwy tebygol o fod yn gyfyngol. Yn ogystal â hyn, efallai y bydd ardaloedd strategaeth mwy yn gallu cynnwys mwy o ddatblygiadau.

Cynhwysedd Dangosol Tirwedd

3.35
  • Mae cynhwysedd dangosol cyffredinol tirwedd wedi’i bennu ar gyfer pob ardal strategaeth tirwedd drwy ystyried y canlynol:
  • Sensitifrwydd tirwedd a gwelededd cyffredinol i ddatblygiad ynni gwynt sy’n penderfynu amcan yr ardal.
  • Yr amrywiaeth o brofiadau gweledol, sut y gwelir tirwedd yr ardal a sut y maent yn cyfrannu at faterion strategol a lleol.
  • Datblygiadau ynni gwynt gweithredol ac wedi’u cymeradwyo yn yr ardal strategaeth tirwedd a ger y rhain.
  • Maint pob adran weledol. Efallai y bydd modd cynnwys mwy o ddatblygiadau mewn ardal strategaeth fawr cyn cyrraedd trothwy cynhwysedd.
3.36 Er bod cynhwysedd dangosol tirwedd yn gymorth i ganfod y mathau o ddatblygiad y mae posib eu cynnwys, nid yw’n awgrymu y bydd ceisiadau cynllunio ar gyfer datblygiad ynni gwynt yn yr ardaloedd hyn yn rhai priodol. Mae elfennau eraill megis dynodiadau amgylcheddol a chyfyngiadau technegol, lleoliad penodol y safle, dyluniad a'r galw am ddatblygiad tu hwnt i gwmpas yr asesiad hwn a bydd angen eu hystyried ar gyfer pob achos unigol.

Mae’r berthynas gyffredinol rhwng sensitifrwydd tirwedd, amcanion tirwedd a chynhwysedd wedi’i ddangos isod.

Sensitifrwydd Tirwedd Amcan Tirwedd Cynhwysedd Tirwedd Trothwy
Sensitifrwydd Uwch Gwarchod Tirwedd
Cymhwysiad Tirwedd
Cynhwysedd Cyfyngedig Fel arfer dim datblygiad ynni gwynt neu ddatblygiadau ynni gwynt bychain yn brin
Fel arfer tirwedd gyda rhai datblygiadau ynni gwynt
Newid Tirwedd Fel arfer tirwedd gyda datblygiadau ynni gwynt eithaf aml
Sensitifrwydd Is Tirwedd Newydd Cynhwysedd Uchaf Fel arfer tirwedd gyda chryn dipyn o ddatblygiadau ynni gwynt, sef tirwedd fferm wynt

Canllawiau Lleoli a Dylunio mewn perthynas ag Effaith posibl Datblygiad Ynni Gwynt ar Dirwedd a Gwelededd

3.37 Mae canllaw wedi’i sefydlu ar gyfer pob ardal strategaeth er mwyn cynorthwyo i gyfeirio datblygiadau i’r lleoliadau mwyaf priodol o ran tirwedd a gwelededd. Mae’r canllawiau’n nodi’n fras pa fath(au) o ddatblygiad ynni gwynt (os oes rhai) y gellir eu hystyried yn briodol ac yn amlygu materion penodol dylunio a lleoli. Nodwyd unrhyw gyfyngiadau penodol all leihau'r posibilrwydd y gall rhai ardaloedd gynnwys datblygiad ynni gwynt ynghyd ag effeithiau cronnol a thraws ffiniol posibl y datblygiad ynni gwynt.

Mae nifer o nodiadau canllawiau cyffredinol eraill wedi’u datblygu i’w darllen ochr yn ochr â'r canllaw penodol hwn; gellir canfod y rhain yn Rhan 6.

Am gyfarwyddiadau ar sut I ddefnyddio’r system ac I wneud sylwadau, gwelwch ein canllaw cymorth.
back to top Yn ôl i’r brig