LDP11 Landscape Sensitivity and Capacity Assessment for Onshore Wind Turbine Development

Am gyfarwyddiadau ar sut I ddefnyddio’r system ac I wneud sylwadau, gwelwch ein canllaw cymorth.

9. ATODIAD 2

9.1 Polisi Cynllunio Cymru

Mae’r polisïau perthnasol yn cynnwys y canlynol:

5.3.6 Yr un statws sydd i Barciau Cenedlaethol ac AHNE yn nhermau harddwch eu tirwedd a’u golygfeydd a rhaid diogelu’r ddau yn llwyr rhag datblygiadau anaddas. Mae’r statws cyfwerth hwn yn golygu bod rhaid trin Parciau Cenedlaethol ac AHNE yn yr un modd mewn polisïau cynlluniau datblygu a phenderfyniadau rheoli datblygu. Mewn Parciau Cenedlaethol ac AHNE, dylai polisïau cynlluniau datblygu a phenderfyniadau rheoli datblygu roi pwys mawr ar warchod a gwella harddwch naturiol, bywyd gwyllt a threftadaeth ddiwylliannol yr ardaloedd hyn

5.3.11 Dylai dynodiadau anstatudol, megis Ardaloedd Tirwedd Arbennig neu Safleoedd o Ddiddordeb o ran Cadwraeth Natur, gael eu seilio yn gadarn ar asesiad gwyddonol ffurfiol o werth y safle o ran cadwraeth natur, tirwedd neu ddaeareg. Gall dynodiadau anstatudol lleol ychwanegu gwerth at y broses gynllunio, yn enwedig os oes lle ynddynt i gyfranogiad gan y gymuned ac os ydynt yn adlewyrchu gwerthoedd cymunedol. Fodd bynnag, ni ddylai awdurdodau cynllunio lleol gymhwyso’r dynodiadau hyn at ardaloedd o werth sylweddol o ran cadwraeth onid oes rheswm da dros gredu nad oes modd i bolisïau cynllunio arferol eu diogelu’n briodol. Ni chaiff dynodiadau o’r fath gyfyngu’n ormodol ar ddatblygu derbyniol.

5.5.6 Mewn Parciau Cenedlaethol neu AHNE, mae ystyriaethau arbennig yn berthnasol i gynigion datblygu mawr sy’n fwy cenedlaethol29 na lleol o ran eu cymeriad. Ni ddylai datblygiadau mawr ddigwydd mewn Parciau Cenedlaethol neu Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol ac eithrio o dan amgylchiadau eithriadol. Gallai hyn godi os gwelir, ar ôl archwiliad trwyadl, bod angen cyhoeddus sy’n drech na dim arall ac y byddai gwrthod caniatâd yn niweidiol dros ben i’r economi leol a phan nad oes modd lleoli’r datblygiad mewn man arall neu ddiwallu’r angen mewn rhyw fodd arall.

5.7.2 Fel rheol, dim ond pan mae angen i ddatblygiad fod ar yr arfordir y dylid cynnig lleoliadau ar yr arfordir mewn cynlluniau datblygu. Yn benodol, anaml iawn mai arfordir sydd heb ei ddatblygu fydd y lleoliad mwyaf priodol ar gyfer datblygiad. Pan fo datblygiad newydd yn gofyn am leoliad ar yr arfordir, yr arfordir sydd wedi’i ddatblygu fydd y dewis gorau fel rheol, ar yr amod y rhoddir sylw priodol i’r perygl o erydu, llifogydd neu dir ansad.

5.7.4 Dylai polisïau geisio diogelu neu wella cymeriad a thirwedd yr arfordir sydd heb ei ddatblygu. Dylai’r polisïau cynllunio a fydd yn cael eu harfer mewn ardaloedd Arfordir Treftadaeth gael eu hymgorffori yn y cynllun datblygu. Nid yw dynodi ardal yn arfordir treftadaeth yn effeithio’n uniongyrchol ar statws yr ardal yng nghyd-destun cynllunio. Fodd bynnag, gallai’r nodweddion a gyfrannodd at ddynodi ardaloedd o’r fath fod yn bwysig wrth lunio polisïau cynllunio neu wrth wneud penderfyniadau rheoli datblygu.

6.5.24 Mae Safleoedd Treftadaeth y Byd yn ystyriaeth berthnasol i awdurdodau cynllunio lleol wrth benderfynu ar geisiadau cynllunio, ac i Lywodraeth Cymru wrth benderfynu ar achosion mewn apêl neu’r rhai sydd wedi eu galw i mewn. Dylid ystyried yn ofalus effaith y cynigion datblygu ar y safleoedd yn ogystal â’u lleoliadau.

6.5.25 Dylai awdurdodau cynllunio lleol ddiogelu parciau a gerddi a’u lleoliadau os ydynt wedi’u cynnwys yn rhan gyntaf y ‘Gofrestr o Dirweddau, Parciau a Gerddi o Ddiddordeb Hanesyddol Arbennig yng Nghymru’. Dylid ymgynghori â Cadw ar geisiadau cynllunio sy’n effeithio ar safleoedd Gradd I a Gradd II*, a dylid ymgynghori â’r Gymdeithas Hanes Gerddi ar yr holl barciau a’r gerddi sydd ar y Gofrestr. Dylai awdurdodau cynllunio lleol ystyried yr wybodaeth am dirweddau hanesyddol yn ail ran y Gofrestr wrth bwyso a mesur goblygiadau datblygiadau sydd o’r fath raddfa fel y byddent yn cael effaith fwy nag effaith leol ar ardal sydd ar y Gofrestr (gweler para 6.4.9). Gall effaith datblygiad arfaethedig ar barc neu ardd a gynhwysir ar y Gofrestr o Dirweddau, Parciau a Gerddi o Ddiddordeb Hanesyddol Arbennig yng Nghymru, neu ar leoliad y cyfryw barc neu ardd, fod yn ystyriaeth berthnasol wrth benderfynu ar gais cynllunio.

Am gyfarwyddiadau ar sut I ddefnyddio’r system ac I wneud sylwadau, gwelwch ein canllaw cymorth.
back to top Yn ôl i’r brig