LDP11 Landscape Sensitivity and Capacity Assessment for Onshore Wind Turbine Development

7. ADRAN 6: CANLLAW AR GYFER DATBLYGU YNNI GWYNT O FEWN ARDALOEDD Y STRATEGAETH

7.1 Dylid darllen y nodiadau cyfarwyddyd canlynol ar y cyd â'r nodiadau cyfarwyddyd mwy penodol sydd wedi eu cynnwys o fewn y disgrifiadau ar gyfer pob ardal strategaeth. Eu bwriad yw helpu i integreiddio tyrbinau gwynt i'r dirwedd trwy benderfynu ar leoliad a dyluniad da.

Mae'r nodiadau canlynol wedi eu crynhoi o’r canllawiau a geir yn Scottish Natural Heritage (2012) Siting and Design of Small Scale Wind Turbines of between 15 and 50 metres in height.
Darperir canllaw defnyddiol hefyd yn y dogfennau canlynol. Er wedi'i anelu'n at ddatblygiadau ffermydd gwynt mwy o ran maint, mae’r canllawiau a geir yn y dogfennau hyn yn aml yn drosglwyddadwy a dylid eu hystyried wrth ddylunio a lleoli datblygiadau ar raddfa fechan:

  • Comisiwn Dylunio i Gymru (2012) Dylunio Ffermydd Gwynt yng Nghymru
  • Scottish Natural Heritage (2009) Siting and Designing Wind Farms in the Landscape

Dewis o Dyrbinau

7.2 Mae tyrbinau bach yn cynnig mwy o ddewis o ran amrywiaeth, steil, dyluniad a lliwiau na thyrbinau ar raddfa fasnachol fawr a dylid rhoi ystyriaeth ofalus wrth ddewis mewn perthynas â'r safle y lleolir y tyrbinau. Mae hyn yn arbennig o bwysig pan fydd tyrbinau eraill yn bresennol er mwyn sicrhau nad oes steiliau eraill yn yr un ardal.

Ffactorau sy'n Berthnasol i Dyrbinau

7.3 Lliw y Tyrbin

Dylid dewis tyrbin lle mae'r lliw yn helpu'r strwythur i asio i'r tirwedd. Dylid defnyddio’r un lliw ar gyfer pob elfen o'r tyrbin. Yn aml defnyddir llwyd golau iawn am ei fod yn lleihau gwelededd y tyrbinau wrth edrych arnynt yn erbyn y gorwel, a dyna sut y gwelir y rhan fwyaf o dyrbinau ar raddfa fawr. Mae tyrbinau ar raddfa llai yn fwy tebygol o gael eu gweld yn erbyn cefndir o lystyfiant ac efallai’n elwa o fod o liw gwyrdd/llwyd tywyllach. Y nod ddylai fod ym mhob achos yw lleihau'r gwelededd ac adlewyrchedd o'r tyrbinau.

7.4 Maint a Graddfa Tyrbinau

Er bod tyrbinau ar raddfa fach yn debygol o gael llai o effaith ar y tirwedd a’r olygfa na modelau masnachol mawr, mae yna dal siawns y gallent gymryd drosodd y nodweddion tirwedd cyfagos. Mae’n bwysig nodi prif nodweddion tirwedd a nodweddion gweledol y dirwedd lle lleolir y tyrbinau er mwyn dewis y maint mwyaf priodol. Mae tirweddau syml, cadarn a llorweddol yn bennaf yn well ar gyfer tyrbinau talach a grwpiau o dyrbinau mawr gan fod uchder y tyrbinau yn ymddangos yn fwy cymesur i'r dirwedd. Mae tyrbinau ar raddfa fach, grwpiau llai neu dyrbinau unigol yn dueddol o fod yn fwy addas ar gyfer tirwedd mwy cymhleth ac ar raddfa lai lle ceir nodweddion eraill fel adeiladau, coed neu wrychoedd. Rheol defnyddiol yw na ddylai tyrbinau ar y cyfan fod yn fwy na 50% yn uwch na’r adeiladau cyfagos.

7.5 Gosodiad y Tyrbin

Er bod lle i gyflwyno grŵp bach o dyrbinau fel delwedd weledol gydlynol, gallai hyn fod yn anodd lle mae elfennau adeiledig eraill fel adeiladau, polion pren a mastiau yn bresennol sy’n golygu bod siawns o wrthdaro gweledol. Os yn bosib, fe ddylai gosodiad y tyrbin gyd-fynd â phatrymau tirwedd presennol, boed yn derfynau caeau, adeiladau neu batrymau llystyfiant.
Ym mhob achos, fe ddylai gosodiad y tyrbinau barchu’r tirffurf sylfaenol.

7.6 Microleoli

Yn fwy aml na dim mae microleoli tyrbinau yn digwydd yn ystod y cyfnod adeiladu oherwydd amgylchiadau na ellir eu rhagweld, fel cyflwr y ddaear. Gall hyn effeithio ar y cysyniad dylunio gwreiddiol, yn enwedig y berthynas gyda nodweddion fertigol cyfagos fel coed a mastiau. Byddai’n well pe bai datblygwyr yn cynnal arolwg o’r tir cyn gwneud cais cynllunio er mwyn lleihau'r gofyniad am ficroleoli yn ystod y broses adeiladu.

7.7 Isadeiledd Ategol

Dylid lleihau’r effeithiau gweledol ar unrhyw ddatblygiadau atodol, yn ogystal â’r gwrthdaro gweledol rhwng tyrbinau a strwythurau ategol trwy:

  • Leoli a dylunio offer a seilwaith ategol mewn modd sensitif (ee defnyddio tirffurf lleol, deunyddiau priodol lleol, arddull pensaernïol a lliwiau er mwyn eu integreiddio’n llwyddiannus yn yr amgylchedd).
  • Defnyddio tyrbinau gyda trawsnewidwyr annatod.
  • Lleoli tyrbinau mor agos â phosib at y man defnyddio neu gysylltiad grid er mwyn osgoi llinellau neu geblau hir yn rhedeg uwchben (mwy perthnasol i ddatblygiadau ffermydd gwynt ar raddfa fawr).
  • Defnyddio traciau presennol fel nad oes angen torri coed a difa gwrychoedd, a allai gael effaith andwyol ar y dirwedd. Rhaid i draciau newydd ddilyn nodweddion tirwedd presennol megis terfynau caeau a choetir.
  • Lleihau gweithrediadau torri a llenwi.
  • Dylunio ffensys neu waliau i gyd-fynd â'r sefyllfa leol, tra'n cynnal y sicrwydd sydd ei angen.
  • Dewis lleoliadau ar gyfer plannu coed a llwyni newydd i ddarparu cysgod yn y tymor hir.

Ffactorau sy'n Berthnasol i Leoliad

7.8 Nodwedd Tirwedd

Mae'r astudiaeth sensitifrwydd a chynhwysedd yn darparu sail i adnabod nodweddion tirwedd allweddol y safle a'r ardal ehangach. Mae hefyd yn nodi sensitifrwydd y dirwedd i dyrbinau ac unrhyw nodweddion arbennig y dylid eu diogelu. Fodd bynnag, dyma astudiaeth strategol ac ym mhob achos rhaid i geisiadau tyrbin (ar raddfa fawr neu fach) gael eu hystyried yn ôl eu rhinweddau unigol ac mae angen dadansoddiad manwl i lwyr werthfawrogi natur y datblygiad, y safle a'r ardal o'i amgylch.
Effeithiau ar nodweddion y dirwedd yn debygol o fod yn gysylltiedig â:

  • Maint y tirwedd - boed yn fach neu'n fawr ac os yw'r tyrbinau arfaethedig o raddfa briodol neu beidio.
  • Dylanwadu ar lonyddwch y dirwedd - tyrbinau yn creu symudiad, mae cyfanswm y symudiad yn dibynnu ar y model penodol.
  • Patrwm anheddu – dylid lleoli tyrbinau yn ofalus mewn perthynas ag adeiladau sy’n bodoli eisoes.
  • Topograffeg – os na fydd tyrbinau’n cael eu lleoli’n ofalus yna gallent gymryd drosodd yr ardal os yw’r tirffurf ar raddfa fechan neu gymhleth.
  • Gorwelion - gall tyrbinau effeithio symlrwydd y nenlinell neu gribau hyd yn oed os ydynt wedi eu lleoli o dan nodweddion o'r fath.
7.9 Ardaloedd o Naws Gwyllt

Gall ardaloedd gwledig sy'n cael eu gwerthfawrogi’n arbennig am fod yn anghysbell neu’n ddiffaith gael eu heffeithio gan dyrbinau, er mae hynny’n llai tebygol o ddigwydd os bydd y tyrbinau’n cael eu lleoli’n agos at ffermydd neu adeiladau eraill sy'n bodoli eisoes. Fodd bynnag, dylid osgoi rhag erydu cynyddol o rinweddau anghysbell a diffaith arbennig.
Mae rhai lleoliadau sy'n agos at ganolfannau poblogaeth yn cael eu gwerthfawrogi fel adnodd hamdden pwysig ac mae ganddynt ymdeimlad o ddiffeithwch er eu bod yn agos at ardaloedd trefol. Dylid rhoi ystyriaeth ofalus i leoliad y tyrbinau yn yr ardaloedd hyn.

7.10 Tirweddau Gwerthfawr

Mae pob tirwedd yn werthfawr, ond mae'r adroddiad hwn yn nodi tirweddau sydd wedi eu dynodi ar gyfer nodweddion sy’n cael eu gwerthfawrogi yn rhyngwladol, cenedlaethol neu ranbarthol. Fodd bynnag, dyma astudiaeth strategol ac ym mhob achos rhaid ystyried ceisiadau tyrbin (ar raddfa fawr neu fach) ar eu rhinweddau unigol ac mae angen dadansoddiad manwl i lwyr werthfawrogi natur y datblygiad, y safle a'r ardal o'i amgylch a’r effaith ar unrhyw dirwedd ddynodedig neu dirwedd o fwy o werth.

Ffactorau Lleoli a Dyluniad

7.11 Rhaid ystyried sawl ffactor wrth ddatblygu cynigion.

Tirffurf
Mae mwy o botensial gan dyrbinau bychain i ddefnyddio tirffurf (yn aml ar y cyd gyda llystyfiant) i leihau eu heffaith weledol na’r modelau masnachol mwy.

Gan fod llygad yr arsylwyr yn tueddu i gael ei ddenu at yr awyr, dylid gosod y tyrbinau oddi wrth y gefnen a’r gorwel er mwyn lleihau eu gwelededd yn y dirwedd ehangach. Lle nad oes modd osgoi gosod ar y gorwel yna dylid ceisio cynnal cytbwysedd o nodweddion gorwelion neu ddarparu canolbwynt newydd ar orwel sydd fel arall yn ddinodwedd.

Dylid osgoi gosod tyrbinau ar gopaon neu orwelion nodweddiadol neu amlwg yn gyffredinol. Dylid dewis llethrau ochr is neu dirffurf tonnog o dan y gefnen pan fo modd.

Yn aml mae’n well bod datblygiadau ynni gwynt yn cael eu grwpio ar y rhan mwyaf gwastad o’r safle er mwyn i’r datblygiad ymddangos yn llai dryslyd wrth edrych arno o lefelau gwahanol a chyfeiriadau gwahanol.

Patrwm Tirwedd
Gellir lleoli’r tyrbinau i adlewyrchu patrymau tirwedd, er enghraifft ffiniau caeau a choetir neu ymylon arfordirol. Ar y llaw arall, rhaid gofalu i beidio â gosod tyrbinau fel eu bod yn gwrthgyferbynnu’r patrymau yn y dirwedd.

Gall grwpiau o dyrbinau effeithio ar sut y maent yn ymddangos yn y dirwedd. Er enghraifft gellir grwpio tri thyrbin sengl i ffurfio nodwedd unigol mewn tirwedd cymhleth, ond mewn tirwedd fawr, gallai tyrbin sengl gyda’r gallu i gynhyrchu'r un faint fod yn well.

Efallai y bydd nifer o dyrbinau llai yn well mewn tirweddau tir isel, ond mae nifer o ddangosyddion eraill o ran graddfa.

Nodweddion Canolbwynt
Mae tyrbinau yn debygol o ddod yn nodwedd canolbwynt yn y dirwedd yn enwedig pan gyflwynir dyluniadau newydd neu anghyfarwydd. Mae angen gofal i sicrhau nad ydynt yn achosi gwrthdaro gweledol neu gystadleuaeth gyda’r canolbwyntiau eraill. Felly dylid ystyried lleol tyrbinau yn ofalus er mwyn diogelu golygfeydd i’r dirwedd bwysig ac ohono a nodweddion treftadaeth ddiwylliannol a’r lleoliad ehangach.

Gall tyrbinau amlygu nodweddion a fyddai wedi’u cuddio fel arall. Er enghraifft byddai tyrbin wrth ymyl fferm yn tynnu sylw at ei bresenoldeb pan fydd y fferm ei hunan yn cael ei guddio gan adeiladau neu goed.

Golygfa
Mae maint y nodweddion yn y dirwedd yn dylanwadu ar ganfyddiad o olygfa. Er enghraifft os gwelir tyrbinau mawr o flaen y rhai llai, gall y rhai llai ymddangos ymhellach i ffwrdd nag y maent mewn gwirionedd. Ar y llaw arall, os yw’r tyrbinau llai o flaen y rhai mwy, gall y rhai mwy ymddangos ymhellach i ffwrdd.

Perthynas ag Anheddiad a’r Tirweddau Trefol
Dylid gosod y tyrbinau mewn lleoliad gofalus mewn perthynas â’r aneddiadau, adeiladau a strwythurau eraill. Mewn tirweddau anheddol gwledig, dylid lleoli’r tyrbinau ger adeiladau neu strwythurau cyfredol.

Dylid ystyried golygfeydd i’r aneddiadau neu ohonynt (gan gynnwys eiddo gwasgaredig) yn ofalus wrth leoli datblygiadau ynni gwynt. Dylid lleoli’r tyrbinau gwynt yn y lleoliad sydd leiaf amlwg yn weledol. Efallai bydd y math o dyrbin yn cael ei ddylanwadu gan ba mor agos ydyw at anheddiad - mae tyrbin gyda dau lafn yn fwy tebygol o integreiddio mewn lleoliad trefol prysur yn hytrach na lleoliad gwledig tawel.

Dylid lleoli’r tyrbinau i leihau’r effeithiau ar olygfannau cyhoeddus, ffyrdd a hawliau tramwy cyhoeddus.

Coetiroedd a choed
Er y gall coed a choetiroedd achosi tyrfedd sy’n effeithio ar effeithiolrwydd neu hirhoedledd tyrbinau, mewn rhai lleoliadau efallai y bydd cyfle i guddio tyrbinau bychain ger coed a gwrychoedd uchel. Dylid cymryd gofal i leoli’r tyrbinau fel nad ydynt yn amlwg yn weledol neu’n cystadlu gyda’r llystyfiant amlwg megis coed tir parc, coed ar fryniau, rhodfeydd ayyb.

Dylid lleoli’r tyrbinau heb orfod torri coed a choetiroedd yn enwedig pan fyddant yn nodweddion pwysig yn y dirwedd leol.

Dylid ystyried yr amrywiaeth o orchudd dail oherwydd y tymhorau pan ddefnyddir coed i guddio tyrbinau ynghyd â threfn torri coed ac ail blannu wrth ystyried coedwigaeth fasnachol.

Ystyriaethau Cynyddol

7.12 Dylid ystyried effeithiau tirwedd cynyddol a gweledol yn ofalus ar gyfer pob achos, gyda chymorth cynhyrchu Parthau o Welededd Damcaniaethol a delweddu priodol (o olygfannau os yn bosib). Dylid ystyried tyrbinau cyfredol, rhai a gymeradwywyd a’r rhai arfaethedig, yn ogystal ag unrhyw ddatblygiadau tebyg, a gall achosi effaith gynyddol gyda’i gilydd.

Dylai ystyriaethau cynyddol o ddatblygiadau tyrbin newydd gynnwys golygfeydd cydamserol, dilyniannol neu gyfunol.

7.13 Mewn Cyfuniad gydag Ynni Adnewyddadwy Micro

Gall grwpiau o dyrbinau micro fod yn amlwg mewn rhai lleoliadau, drwy dynnu’r llygad at y llafnau’n troi. Mae cyflymder cylchdroi yn amrywio’n sylweddol rhwng tyrbinau gyda llafnau bach neu fawr, ac os y gellir eu gweld gyda’i gilydd gallant greu annibendod ac aflonyddwch, yn hytrach na chytbwysedd. Felly dylid osgoi amrywiaeth o ddiamedr llafnau.

7.14 Mewn Cyfuniad â Datblygiadau Bychain Eraill

Gall nifer o ddatblygiadau bychain ddominyddu’r dirwedd. Ni ddylai’r tyrbinau greu annibendod gweledol gyda’r datblygiadau adeiledig cyfredol a strwythurau fertigol megis ceblau trydan foltedd uchel a mastiau cyfathrebu. Nid yw’r holl strwythurau dynol yn rhannu’r un nodweddion o ran maint, siâp neu arddull. Gall annibendod gweledol ac effaith gynyddol ddigwydd pan fydd tyrbinau wedi’u gosod yn rhy agos at strwythurau fertigol o gymeriad annhebyg megis peilonau trydan a mastiau cyfathrebu. Er mwyn osgoi hyn dylid ystyried yr egwyddorion canlynol:

  • Osgoi tyrbinau uchel anghyson, gosodiad a dyluniad anghyson rhwng datblygiadau ynni gwynt amrywiol.
  • Ystyried mathau penodol o dyrbinau mewn lleoliadau penodol. Er enghraifft, tyrbinau ar dyrau delltwaith mewn lleoliadau gwledig a thyrbinau ar dyrrau tiwb mewn lleoliadau trefol. Mae hyn yn cynorthwyo i greu amlygrwydd lleol.
  • Nodi cyfleoedd i leihau rhyngwelededd rhwng nifer o ddatblygiadau – mae tirffurf a choedwigoedd yn ddefnyddiol o ran hyn.
7.15 Mewn perthynas â Golygfannau Pwysig

Dylid gosod tyrbinau yn ofalus mewn perthynas â golygfannau pwysig. Er mwyn sicrhau perthynas ofodol gyson rhwng tyrbinau bach a mathau eraill o ddatblygiad, yn enwedig strwythurau tal megis peilonau a mastiau, pan fo modd dylid sicrhau bod y datblygiadau yn gysylltiedig â nodweddion tirwedd megis coedwigoedd, ffermydd, gorwelion a chyfuchliniau.

7.16 Mewn Cyfuniad â Thyrbinau Mwy yn yr ardal

Pan welir tyrbinau llai mewn cyfuniad â thyrbinau mawr gall greu delwedd weledol dryslyd. Gellir lleihau hyn drwy:

  • Ddefnyddio yr un math o ddyluniad tyrbin pan fydd mwy nag un maint yn weledol.
  • Defnyddio gosodiad tyrbinau gyda threfniant tebyg pan fydd mwy nag un grŵp o dyrbinau yn bresennol.
  • Osgoi sefyllfaoedd lle mae gwahaniaeth sylweddol rhwng cyflymder troi’r llafnau.
7.17 Mewn cyfuniad â thyrbinau yn y môr

Gall tyrbinau ar y tir greu annibendod gweledol a golygfa ddryslyd pan y caent eu gweld mewn cyfuniad â’r tyrbinau yn y môr. Dylid osgoi hyn pan fo modd.

7.18 Llenwi Bylchau rhwng clystyrau o Dyrbinau Gwynt

Gellir addasu canfyddiad o ardal drwy gyflwyno tyrbinau bach rhwng clystyrau o ffermydd gwynt sy’n creu cyswllt gweledol rhwng yr holl ddatblygiadau. Pan fydd dadansoddiad safle’n nodi bod bwlch gweledol yn ddymunol, dylid cynnal y bylchau rhwng y datblygiadau.

Am gyfarwyddiadau ar sut I ddefnyddio’r system ac I wneud sylwadau, gwelwch ein canllaw cymorth.
back to top Yn ôl i’r brig