Strategaeth a Ffefrir

Daeth i ben ar 20 Medi 2019
Am gyfarwyddiadau ar sut I ddefnyddio’r system ac I wneud sylwadau, gwelwch ein canllaw cymorth.

(3)Dull Strategol Trosfwaol

2.1 Cyflwyniad
Mabwysiadodd Conwy ei Gynllun Datblygu Lleol (CDLl) yn 2013 ac mae ar fin dod i ben yn 2021. Mae angen datblygu CDLl Newydd felly (CDLl Newydd) a fydd yn darparu fframwaith ar gyfer datblygu yng Nghonwy (ac eithrio Parc Cenedlaethol Eryri) ar gyfer y cyfnod rhwng 2018 hyd at 2033. Bydd y CDLl presennol yn dal i fod mewn grym nes i'r CDLl Newydd gael ei fabwysiadu, a rhagwelir bydd hynny yn y flwyddyn 2021.
2.2 Mae tystiolaeth yn awgrymu bydd poblogaeth Conwy yn tyfu dros y 15 mlynedd nesaf. Ynghyd â'r angen i ddarparu mwy o dai fforddiadwy a chyfrannu at ddyheadau economaidd Bargen Dwf y Gogledd, mae angen i ni gydweithio a chynllunio ar gyfer tai newydd, swyddi, cyfleusterau cymunedol a seilwaith i gefnogi'r twf hwn. Mae'n bwysig bod twf yn cael ei gynllunio'n gywir er mwyn bod o fudd i gymunedau a sicrhau datblygu cynaliadwy. Mae angen gwella ac adfywio ardaloedd yng Nghonwy er mwyn hybu eu cydnerthedd hefyd, ac mae angen gwarchod ardaloedd eraill i annog ffyrdd o fyw iach a thwristiaeth gynaliadwy. Bydd y CDLl Newydd yn cofleidio'r egwyddorion cynaliadwyedd a chysyniad creu lleoedd i gyflenwi'r twf hwn mewn ffordd gynaliadwy a bodloni ein dyletswyddau llesiant o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol 2015.
(2)2.3 Y Strategaeth a Ffefrir
Wrth fynd ati i lunio'r Strategaeth a Ffefrir cynhaliwyd ymarferion ymgysylltu cynnar gyda budd-ddeiliaid allweddol, nodwyd y prif faterion a defnyddiwyd dull blaen-lwytho i baratoi'r cynllun. Mae'r Strategaeth yn nodi Gweledigaeth, Amcanion Strategol, Strategaeth Ofodol a Pholisïau Strategol y Cyngor i lywio lefel y datblygiad a thwf a ddewisir ar gyfer Conwy yn y dyfodol hyd at 2033. Mae'r Strategaeth a Ffefrir hefyd yn cynnwys Safleoedd Strategol, wedi'u hategu gan Gynllun Seilwaith, Asesiadau Hyfywedd a Lluniadau Cysyniadol. Mae'n fwy na chynllun defnydd tir; mae ei gylch gorchwyl yn ehangach, gyda phwyslais ar greu lleoedd a chreu cymunedau cynaliadwy, ac mae'n dangos cysylltiadau gyda materion cysylltiedig fel iechyd, addysg, newid yn yr hinsawdd, seilwaith gwyrdd, teithio llesol a llesiant.

2.4 Mae'r Strategaeth a Ffefrir yn darparu'r cyd-destun strategol ar gyfer paratoi polisïau, cynigion a dyraniadau defnydd tir mwy manwl a gaiff eu cynnwys yn y pen draw yn y CDLl Newydd ar Adnau, a fydd yn cael ei baratoi ar ddechrau 2020.

(44)2.5 Dogfennau Ategol

Yn ategol i'r Strategaeth a Ffefrir, lluniwyd nifer o ddogfennau cefndir manwl sy'n sail i'r dull gweithredu a'r nod cyffredinol o hybu cymunedau cynaliadwy. Mae'r rhain yn cynnwys:

  • Gwerthusiad Cynaliadwyedd ac Asesiad Amgylcheddol Strategol

Mae'r Strategaeth a Ffefrir wedi bod yn destun Gwerthusiad Cynaliadwyedd ac Asesiad Amgylcheddol Strategol i asesu a fydd y CDLl yn cael unrhyw effeithiau sylweddol ar yr amgylchedd (cadarnhaol neu negyddol) ac i ganfod a fydd o gymorth i sicrhau datblygu cynaliadwy. Mae hefyd wedi bod yn destun Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd ac Asesiad o'r Effaith ar Gydraddoldeb.

  • Dogfennau Tystiolaeth Cefndir

Mae Dogfennau Tystiolaeth Cefndir eraill a Phapurau Pwnc hefyd yn cynnwys gwybodaeth ategol a'r rhesymeg dros y Strategaeth a Ffefrir. Mae'r rhain yn canolbwyntio'n fwy manwl ar rai o'r Materion Allweddol sy'n arbennig o arwyddocaol i'r CDLl Newydd. Mae'r 12 Papur Pwnc yn dwyn ynghyd tystiolaeth sy'n gysylltiedig â 47 Dogfen Gefndir. Mae'r rhain ar gael ar wefan y Cyngor, ac yn bwysicach, dylid eu darllen ochr yn ochr â'r Strategaeth a Ffefrir.

Cyhoeddwyd dwy ddogfen arall i gyd-fynd â'r Strategaeth a Ffefrir - y rhain yw'r Adroddiad Adolygu a'r Gofrestr o Safleoedd Ymgeisiol.

  • Yr Adroddiad Adolygu

Mae'r Adroddiad Adolygu yn ddogfen sy'n nodi pa feysydd o'r CDLl presennol y mae angen eu newid.

  • Cofrestr o Safleoedd Ymgeisiol

Mae'r Gofrestr o Safleoedd Ymgeisiol yn dangos yr holl safleoedd a gyflwynwyd i'r Awdurdod fel rhan o'i alwad am Safleoedd Ymgeisiol yn 2018. Ac eithrio'r safleoedd strategol a gynigiwyd fel rhan o'r Strategaeth a Ffefrir hon, cafodd y safleoedd hyn eu cyflwyno gan aelodau o'r cyhoedd yn awgrymu tir ar gyfer datblygu, neu ar gyfer ei warchod rhag datblygu. Nid oes penderfyniad wedi'i wneud hyd yma ar y safleoedd a gaiff eu cynnwys yn y CDLl ar Adnau.

Mae'r Gofrestr o Safleoedd Ymgeisiol yn nodi'r safleoedd hynny sy'n cyd-fynd ar hyn o bryd â'r Strategaeth a Ffefrir. Bydd cyfle i'r cyhoedd wneud sylwadau ar y safleoedd hyn fel rhan o'r ymgynghoriad cyhoeddus hwn.

2.6 Ymgysylltiad Blaenorol â Budd-ddeiliaid Allweddol a'r Gymuned

Mae'n rhaid i'r CDLl Newydd gael ei ategu a'i seilio ar ymgysylltiad buan, effeithiol ac ystyrlon â'r gymuned er mwyn deall ac ystyried amrediad eang o safbwyntiau, gyda'r nod o adeiladu consensws eang ar y strategaeth ofodol, polisïau a chynigion. Cyhoeddodd y Cyngor ddwy ddogfen CDLl allweddol, Papurau Pwnc ategol a Dogfennau Cefndir cysylltiedig ar gyfer ymgynghori â'r cyhoedd rhwng mis Tachwedd 2018 a mis Ionawr 2019 fel a ganlyn:

Papur Ymgynghori 1: Strwythur, Materion Blaenoriaeth, Gweledigaeth ac Amcanion y CDLl Newydd. Roedd y Papur hwn yn cynnig strwythur newydd ar gyfer y CDLl Newydd i ystyried Polisi Cynllunio Cymru (Argraffiad 10) a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol. Mae'n mynd ymlaen i amlinellu'r materion blaenoriaeth sy'n effeithio ar Gonwy ac yn cynnig Gweledigaeth ac Amcanion i fynd i'r afael â'r rhain.

Papur Ymgynghori 2: Twf Strategol ac Opsiynau Dosbarthiad Gofodol. Mae'r Papur hwn yn amlinellu'r opsiynau ar gyfer lefel twf strategol (faint o dai fydd eu hangen arnom a nifer y swyddi bydd y CDLl yn darparu ar eu cyfer), yr hierarchaeth aneddiadau (sut caiff yr aneddiadau eu hasesu o ran cyfleusterau a gwasanaethau, maint a phoblogaeth) a'r dosbarthiad gofodol (lle rydym yn nodi faint o dai a swyddi y cytunwyd i'w darparu.)

2.7 Cafodd y sylwadau a dderbyniwyd yn ystod yr ymgynghoriad eu hasesu a dylanwadodd llawer o'r sylwadau ar y gwaith o baratoi'r Strategaeth a Ffefrir. Cyhoeddir crynodeb o'r sylwadau a dderbyniwyd yn ystod yr ymgynghoriad mewn dogfen ar wahân.

Ffigur 1: Strwythur y CDLlN

figure%201%20cymraeg

2.8 Strwythur y CDLl Newydd

Roedd yr ymgysylltiad cyntaf â Budd-ddeiliaid Allweddol a'r Gymuned yn cynnig strwythur newydd ar gyfer CDLl Newydd (cyfeiriwch at Ffigur 1) i sicrhau ei fod yn cofleidio'r themâu allweddol ym Mholisi Cynllunio Cymru (PCC Argraffiad 10) a'r nodau llesiant sydd wedi'u cynnwys yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol 2015. Bydd pob elfen o'r Strategaeth a Ffefrir a'r CDLl Newydd yn cael eu strwythuro o amgylch y pedair thema a ganlyn. Mae'r themâu hyn yn dwyn ynghyd y cysylltiadau rhwng polisïau cynllunio i ddangos yn eglur sut mae'r adrannau unigol yn cyfrannu at greu lleoedd yng Nghonwy.

2.9 Gweithio tuag at Leoedd Cynaliadwy a Gwella Llesiant yng Nghonwy

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 (Deddf LlCD) yn gosod dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i gynnal datblygu cynaliadwy wrth baratoi Cynlluniau Datblygu Lleol. Mae Deddf LlCD yn nodi saith nod llesiant y mae'n rhaid i CDLl Newydd Conwy weithio tuag atynt. Bydd CDLl Newydd Conwy yn croesawu'r egwyddor o ddatblygu cynaliadwy a'r cysyniad o greu lleoedd i sicrhau ei fod yn gweithio tuag at Leoedd Cynaliadwy a Gwella Llesiant yng Nghonwy.

2.10 Er mwyn sicrhau bod y CDLl Newydd yn gweithio tuag at y nodau hyn, mae'n rhaid gweithredu yn unol â gyrwyr allweddol a fydd yn ei gwneud yn bosibl i wireddu nodau Deddf LlCD:

  • Mae Deddf LlCD hefyd yn disgrifio'r 'Pum Ffordd o Weithio' y mae'n rhaid i gyrff cyhoeddus ddangos eu bod wedi'u dilyn wrth gyflawni eu dyletswydd datblygu cynaliadwy ac wrth baratoi'r CDLl Newydd.
  • Mae Llywodraeth Cymru (LlC) yn nodi gyrwyr cynllunio allweddol ar ffurf 'Pum Egwyddor Gynllunio Allweddol' y dylent fod yn fan cychwyn wrth baratoi'r CDLl Newydd. Mae'r egwyddorion hyn yn cefnogi'r newid diwylliant sydd ei angen er mwyn croesawu creu lleoedd a sicrhau bod cynllunio yn hwyluso'r datblygiad cywir yn y lle cywir.
  • Dylai'r Canlyniadau Cenedlaethol Creu Lleoedd Cynaliadwy fod yn sail ar gyfer paratoi cynlluniau datblygu ac asesu cynigion datblygu. Mae'r canlyniadau yn darparu fframwaith sy'n cynnwys y ffactorau hynny a ystyrir yn ganlyniad delfrydol cynlluniau datblygu a datblygiadau unigol. Mae'r canlyniadau hyn hefyd yn fan cychwyn ar gyfer y CDLl Newydd.

Ffigur 2

figure%202%20cymraeg

Mae Atodiad 2 yn dangos ymhellach sut mae'r canlyniadau cenedlaethol creu lleoedd cynaliadwy yn berthnasol i'r 7 nod llesiant, themâu Polisi Cynllunio Cymru, Cynllun Lles Conwy a Sir Ddinbych a'r themâu a gynigir yn y Strategaeth a Ffefrir hon ar gyfer y CDLl Newydd.

2.11 Adran 1: Cyd-destun a Materion Allweddol

Mae'n rhaid i'r CDLl Newydd fod yn seiliedig ar ddealltwriaeth gadarn o rôl a swyddogaeth ardal gan gynnwys y cysylltiadau swyddogaethol ag ardaloedd y tu hwnt i ffiniau gweinyddol. Mae'r adran hon yn seiliedig ar ddealltwriaeth gadarn o'r cyd-destun cenedlaethol a rhanbarthol, a'r materion allweddol sy'n wynebu Conwy, sydd yn eu tro yn sail i Weledigaeth ac Amcanion y CDLl Newydd a gyflwynwyd yn Adran 2, y Strategaeth Ofodol yn Adran 3 a'r Themâu Strategol yn Adran 4. Wrth baratoi'r CDLl Newydd rydym wedi ceisio adolygu a diweddaru ein dealltwriaeth o'r materion perthnasol ymhellach drwy weithredu ymlaen llaw a chasglu tystiolaeth gadarn gyda chymorth budd-ddeiliaid allweddol a chymunedau.

2.12 Rhaid i'r CDLl Newydd gael y cydbwysedd cywir rhwng gwarchod yr elfennau hynny sy'n gwneud Conwy yn arbennig, a helpu i hwyluso cyfleoedd newydd ar gyfer twf ac adfywio er mwyn cyfrannu at greu lleoedd cynaliadwy a gwella llesiant.

(1)2.13 nodweddion%20gwaelodlin

(1)2.14 Cyd-destun Strategol

Cyd-destun Cenedlaethol

Er bod y CDLl yn chwarae rôl i lunio penderfyniadau a phenderfynu ar leoliad a natur datblygiadau yng Nghonwy, mae'n cael ei lunio a'i weithredu o fewn y fframwaith cenedlaethol a nodir gan ddeddfwriaeth a Pholisi Cynllunio Cymru a'r Nodiadau Cyngor Technegol ategol (TANs). Rhoddir ystyriaeth fwy manwl i'r rhain yn y Papurau Testun ategol.

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol 2015 yn gosod dyletswydd llesiant ar gyrff cyhoeddus i ddatblygu mewn ffordd gynaliadwy. Mae'n nodi saith nod llesiant i gefnogi'r ffyrdd y gallwn sicrhau datblygu cynaliadwy.

Mae Deddf yr Amgylchedd 2016 yn rhoi'r ddeddfwriaeth ar waith i gynllunio a rheoli adnoddau naturiol Cymru. Mae'n cynnwys dyletswydd ehangach mewn perthynas â bioamrywiaeth sy'n ei gwneud yn ofynnol i Awdurdodau Cyhoeddus gynnal a chofleidio bioamrywiaeth a hybu ecosystemau gwydn.

Polisi Cynllunio Cymru (Argraffiad 10) (PCC) yw dogfen bolisi Llywodraeth Cymru ar gynllunio defnydd tir yng Nghymru a dylid ei hystyried wrth lunio cynlluniau datblygu. Fe'u hategir gan Nodiadau Cyngor Technegol (TAN) a Nodiadau Cyngor Technegol Mwynau sy'n cynnwys canllawiau technegol. Mae canllawiau gweithredol hefyd wedi'u cynnwys yng Nghylchlythyrau Llywodraeth Cymru.

Pan gaiff ei gyhoeddi, bydd Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru, yn llywio penderfyniadau ar y defnydd cynaliadwy o'n moroedd.

2.15 Cyd-destun Rhanbarthol

Bargen Twf Gogledd Cymru

Paratowyd Bargen Twf Gogledd Cymru (Y Fargen Dwf) mewn partneriaeth â Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru ac mae'n ymwneud ag ardaloedd daearyddol y 6 Awdurdod Lleol yn y Gogledd. Mae Conwy yng nghalon y Fargen Dwf a byddwn yn cydweithio gyda'r holl bartneriaid i gyfuno adnoddau ym meysydd cynllunio trafnidiaeth strategol, datblygu economaidd, cyflogaeth a sgiliau a chynllunio defnydd tir strategol. Mae'r rhanbarth yn ymroddedig i gydweithio at nod cyffredin er mwyn hwyluso a chyflymu twf economaidd.

Disgwylir i'r Fargen Dwf greu bron i 5,500 o swyddi newydd a dod â buddsoddiad o £671m i'r rhanbarth dros y 15 mlynedd nesaf.

Mae cyfanswm o 16 prosiect wedi'u cynllunio gan gynnwys ynni carbon isel ac ynni niwclear; ymchwil prifysgol; gwell cysylltiadau trafnidiaeth i dyfu busnesau digidol; gwella sgiliau a chyfleoedd i gadw mwy o bobl ifanc yn yr ardal. Nod cyffredin y fargen dwf yw gwella'r hyn sydd gan y rhanbarth i'w gynnig mewn nifer o feysydd, gan gynnwys tir ac eiddo, ynni, sgiliau, trafnidiaeth a thwristiaeth antur yn ogystal â chysylltiadau digidol a thechnoleg.

Trwy lunio Adolygiad o Dir Cyflogaeth Conwy (2018) a'r Asesiad o'r Farchnad, mae'r CDLl Newydd wedi ystyried effaith bosibl y Fargen Dwf ar y Strategaeth Dwf, gan gynnwys nifer y swyddi, dyraniadau tir a seilwaith, sydd wedi'u hadlewyrchu yn BP1: 'Adroddiad Opsiynau Lefel Twf' a'r Strategaeth a Ffefrir hon.

(1)2.16 Materion Blaenoriaeth Lleol ac Amcanion i Gonwy

Cyflwynir y Materion Lleol a nodir isod i adlewyrchu Strwythur newydd y CDLl Newydd. Ystyrir materion lleol ymhellach gan nodi eu goblygiadau posibl ar gyfer y CDLl Newydd. Maent hefyd yn ystyried materion cenedlaethol a rhanbarthol a allai effeithio ar y CDLl Newydd. Mae data ystadegol a ffynonellau ychwanegol ar gyfer pob un o'r materion lleol ar gael yn y Papurau Pwnc, y Papurau Cefndir a'r Papurau Ymgynghori Budd-ddeiliaid Allweddol: Materion ac Opsiynau blaenorol. Mae'r materion blaenoriaeth a nodwyd yn llywio'r Weledigaeth a'r Amcanion a gyflwynir yn yr adrannau sy'n dilyn.

Tabl 1: Materion Blaenoriaeth ac Amcanion i Gonwy

Creu Lleoedd Cynaliadwy yng Nghonwy

Materion Blaenoriaeth

Goblygiadau ar gyfer y CDLl Newydd

Creu Lleoedd Cynaliadwy:

  • Fel yr Egwyddorion Cynllunio Allweddol a Chanlyniadau Creu Lleoedd Cynaliadwy mae angen sicrhau bod CDLl Newydd Conwy yn hwyluso lleoedd cynaliadwy, cynhwysiant cymdeithasol a llesiant i bawb.

Bydd angen i'r CDLl Newydd gofleidio'r egwyddorion cynaliadwyedd a'r cysyniad creu lleoedd i gyflenwi twf a datblygu mewn ffordd gynaliadwy. Dylai lefelau twf a datblygu'r dyfodol ddigwydd mewn lleoliadau cynaliadwy a hygyrch, gan geisio hyrwyddo dylunio da a lleoedd iachach, amddiffyn yr iaith Gymraeg, a dylid cefnogi hyn gan y seilwaith cymdeithasol, amgylcheddol, diwylliannol ac economaidd angenrheidiol i greu lleoedd gwych.

Mae'n hanfodol bod y CDLl Newydd yn cynllunio ar gyfer seilwaith digonol ac effeithlon, gan gynnwys gwasanaethau fel cyfleusterau addysg ac iechyd ynghyd â thrafnidiaeth, cyflenwad dŵr, carthffosydd, rheoli gwastraff yn gynaliadwy, trydan a nwy a thelegyfathrebu sy'n hanfodol i gynaliadwyedd economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol

Lleoedd Iach, Cydraddoldeb a Lles:

  • Mae angen mynd i'r afael â'r materion iechyd a lles penodol a nodwyd yng Nghynllun Llesiant Conwy a Sir Ddinbych, gan gynnwys iechyd corfforol a meddwl, lles cymdeithasol a diogelwch y gymuned. Ar y cyfan, mae preswylwyr CBSC yn perfformio ychydig yn well na chyfartaledd Cymru o ran dangosyddion iechyd fel gordewdra, salwch meddwl a'r defnydd o alcohol. Fodd bynnag, mae cysondeb yr ymarfer corff ac achosion derbyn i'r ysbyty am resymau sy'n ymwneud yn benodol ag alcohol gryn dipyn yn waeth nag yng ngweddill Cymru.
  • Mae rhai rhannau o ardal CBSC, yn enwedig cymunedau trefol Arfordirol y Gogledd, ymhlith yr ardaloedd gwaethaf o ran amddifadedd yng Nghymru, gyda lefelau isel o weithgarwch economaidd a diffyg mynediad at gyfleusterau a gwasanaethau, yn enwedig i blant, pobl ifanc a phobl hŷn. Ar y llaw arall, yn ardal wledig ddeheuol CBSC mae rhai o'r cymunedau lle ceir y lefelau amddifadedd isaf yng Nghymru.

Mae angen amddiffyn a gwella mynediad at wasanaethau a chyfleusterau gofal iechyd, lleihau anghydraddoldebau iechyd a gwella lles corfforol a meddyliol cymunedau yng Nghonwy. Bydd angen i'r CDLl Newydd sicrhau ei fod yn hwyluso ac yn annog teithio llesol, ymarfer corff, seilwaith gwyrdd ac yn gwella hygyrchedd ac ansawdd y ddarpariaeth mannau agored.

Mae angen lleihau tlodi ac anghydraddoldeb, mynd i'r afael ag allgau cymdeithasol a hybu cydlyniad cymunedol, gan gynnwys gwella mynediad at gyfleusterau cymunedol. Mae angen sicrhau bod y cymunedau yn agos at gyfleusterau cymunedol, gwasanaethau cyhoeddus ac amwynderau allweddol sydd eisoes yn bodoli.

Dylunio Da, yr Amgylchedd Adeiledig a Chreu Lleoedd:

  • Mae angen gwella ansawdd dylunio i greu lleoedd gwych i bobl yng Nghonwy, ac mae hyn yn bwysig o ystyried y gymysgedd o aneddiadau a'r ffaith bod ardal CBSC yn un wledig yn bennaf.

I gyflawni datblygu cynaliadwy yn y CDLl Newydd, rhaid i ystyriaethau dylunio fynd y tu hwnt i estheteg a chynnwys yr agweddau cymdeithasol, economaidd a diwylliannol ar y datblygiad, gan gynnwys sut defnyddir gofod, sut mae adeiladau a'r maes cyhoeddus yn cefnogi hyn, yn ogystal â'i adeiladwaith, gweithrediad, rheolaeth, a'i berthynas â'r ardal amgylchynol.

Mae angen i'r CDLl Newydd hybu pensaernïaeth a dylunio o ansawdd uchel sy'n cryfhau cymeriad lleol unigryw ac yn meithrin ymdeimlad o le. Bydd materion dylunio a chreu lleoedd yn berthnasol i rai elfennau o'r CDLl Newydd (e.e. polisïau yn gysylltiedig â dylunio a dynodiadau safle).

Yr iaith Gymraeg:

  • Mae strategaeth yr iaith Gymraeg CBSC yn ymrwymo'r cyngor i drin y Gymraeg a'r Saesneg yn gyfartal wrth gynnal busnes cyhoeddus. Yn ychwanegol at hyn mae CBSC yn ymroddedig i helpu i godi proffil y Gymraeg a diwylliant Cymru ymhlith preswylwyr a gweithwyr. Mae angen diogelu a chefnogi'r defnydd cynyddol o'r Gymraeg ymhlith y boblogaeth sy'n byw yn ardal CBSC.

Dylai'r CDLl Newydd gydnabod gwerth iaith a chynnwys darpariaethau polisi i gefnogi twf yn y defnydd o'r iaith Gymraeg. Gall graddfa a lleoliad datblygiadau tai, cyflogaeth a chyfleusterau cymunedol oll effeithio ar yr iaith Gymraeg.

Poblogaeth a Chreu Lleoedd Cynaliadwy:

  • Mae cadw ein pobl ifanc yn ein hardal yn fater o bwys, gan fod y rhagolygon poblogaeth ar gyfer Bwrdeistref Sirol Conwy yn dangos bwlch mawr yn y strwythur oedran rhwng tua 18 a 40 oed. Dyma'r grŵp oedran sy'n fwyaf tebygol o fod yn symudol yn economaidd a chymdeithasol, o fod yn chwilio am waith, addysg a chyfleoedd cymdeithasol eraill y tu allan i'r ardal.
  • Mae gan Gonwy boblogaeth sy'n heneiddio. Mae strwythur oedran y Fwrdeistref Sirol yn hŷn o lawer na strwythur oedran Cymru ac mae 27.2% o'r boblogaeth yn 65 oed a throsodd, sy'n rhoi pwysau ar wasanaethau cyhoeddus a chymdeithasol. Erbyn canol y 2030au (cyn diwedd Oes y Cynllun), bydd Conwy yn gweld gostyngiad yn y grwpiau oedran hŷn (yn enwedig dros 75 oed).

Bydd angen i'r CDLl Newydd sicrhau ei fod yn hybu strwythur oedran cytbwys ac yn darparu'r tai, cyflogaeth a seilwaith angenrheidiol i annog llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol i bawb. Mae cadw'r boblogaeth ifanc yn fater hollbwysig i'r cynllun yn ogystal ag annog y boblogaeth iau i ddychwelyd i'r ardal.

Bydd angen i'r CDLl Newydd gynllunio ar gyfer newidiadau yn y boblogaeth gan sicrhau hefyd ei fod yn cynllunio ar gyfer y lefel briodol o wasanaethau cyhoeddus a chymdeithasol i gynnal poblogaeth sy'n heneiddio.

Rheoli Adnoddau Naturiol yn Gynaliadwy:

  • Mae'r Polisi Adnoddau Naturiol a'r Datganiadau Ardal yn ddarnau o dystiolaeth allweddol y mae'n rhaid eu hystyried wrth baratoi'r cynllun datblygu.

Bydd angen i'r CDLl nodi sut:

  • mae'n cyfrannu at wella cydnerthedd ecosystemau a rhwydweithiau ecolegol;
  • mae'n atal a gwrthdroi colli bioamrywiaeth;
  • mae'n cynnal a gwella seilwaith gwyrdd ar sail ceisio buddion ac atebion lluosog i'n hecosystemau;
  • mae'n sicrhau dewisiadau cydnerth o ran lleoliadau ar gyfer seilwaith a datblygu adeiledig, gan roi ystyriaeth i gyflenwadau dŵr, ansawdd dŵr a, lle bynnag y bo'n bosibl, lleihau llygredd aer a sŵn a pheryglon amgylcheddol, fel y rhai sy'n cael eu hachosi gan berygl llifogydd, newidiadau i'r arfordir, halogiad tir ac ansefydlogi;
  • mae'n cymryd camau i symud tuag at economi fwy cylchol yng Nghymru; ac
  • mae'n hwyluso'r symudiad tuag at ddatgarboneiddio'r economi.

Creu Lleoedd mewn Ardaloedd Gwledig:

  • Fel ardal wledig yn bennaf, mae cefn gwlad Conwy yn adnodd dynamig ac amlbwrpas. Rhaid ei warchod a, lle bo'n bosibl, ei wella er budd ei werth ecolegol, daearegol, ffisiograffig, hanesyddol, archeolegol, diwylliannol ac amaethyddol a'i dirwedd ac adnoddau naturiol.

Mae angen i'r CDLl Newydd warchod y nodweddion hyn gan eu cydbwyso yn erbyn anghenion economaidd, cymdeithasol a hamdden cymunedau lleol ac ymwelwyr. Mewn ardaloedd gwledig dylai'r rhan fwyaf o ddatblygiadau newydd gael eu lleoli mewn aneddiadau sy'n weddol hygyrch heb orfod teithio mewn ceir o'u cymharu â'r ardal wledig yn gyffredinol. Bydd angen i'r CDLl Newydd ystyried y materion hyn wrth fwrw ymlaen â'r Weledigaeth, Amcanion a Strategaeth Twf.

Tir a Ddatblygwyd Eisoes, Tir â Chyfyngiadau a Chreu Lleoedd Cynaliadwy:

  • Mae diffyg capasiti tir a ddatblygwyd eisoes i gynnal twf dros Gyfnod y Cynllun, ac mae hyn yn rhoi pwysau ar yr angen am diroedd maes glas. Hefyd, mae rhai aneddiadau ar hyd coridor yr arfordir yn gyfyngedig iawn, yn bennaf oherwydd y dopograffeg i'r de, y perygl o lifogydd i'r gogledd a chapasiti'r priffyrdd, sy'n effeithio ar allu'r cymunedau hynny i hwyluso twf, adfywio a chreu lleoedd cynaliadwy.

Mae angen i'r CDLl Newydd sicrhau bod lefelau twf a datblygu yn y dyfodol yn digwydd mewn lleoliadau cynaliadwy a hygyrch, eu bod yn ceisio hyrwyddo dylunio da a lleoedd iachach, yn amddiffyn yr iaith Gymraeg a'u bod wedi'u cefnogi gan y seilwaith cymdeithasol, amgylcheddol, diwylliannol ac economaidd angenrheidiol. Wrth ddatblygu'r strategaeth ofodol ar gyfer y CDLl Newydd, mae angen blaenoriaethu'r defnydd o dir addas a chynaliadwy a ddatblygwyd eisoes a/neu dir na ddefnyddiwyd eisoes neu safleoedd sy'n cael eu tanddefnyddio ar gyfer pob math o ddatblygiadau mewn aneddiadau presennol. Os nad oes tir a ddatblygwyd eisoes ar gael, dylid rhoi ystyriaeth i safleoedd maes glas addas a chynaliadwy mewn aneddiadau neu ar eu cyrion.

Yr yr ardaloedd hynny lle mae llawer o gyfyngiadau (e.e. perygl llifogydd), bydd angen i'r CDLl Newydd sicrhau ei fod yn cyfrannu at gymunedau cydnerth drwy raglenni adfywio a gwella.

Rheoli Ffurf Aneddiadau:

  • Ar hyn o bryd mae gan Gonwy nifer o Letemau Glas a gynlluniwyd i warchod rhag ymledu trefol.

Bydd angen i'r CDLl Newydd warchod rhag ymledu trefol a datblygu amhriodol drwy adolygu'r Lletemau Glas.

Safleoedd Strategol:

  • Dylid nodi safleoedd strategol yn y Strategaeth a Ffefrir ynghyd â lluniadau cysyniadol, asesiadau o'r gallu i'w cyflawni ac asesiad hyfywedd

Gan adlewyrchu eu cyfraniad i ofynion twf Conwy ar gyfer y dyfodol ac fel elfennau allweddol o Fargen Dwf y Gogledd, nodwyd Pum Safle Strategol fel rhai sy'n gwneud cyfraniad pwysig i'r ddarpariaeth gyffredinol ar gyfer twf yn ystod Cyfnod y Cynllun.

Cynlluniau Lle:

  • Mae Cynlluniau Lle yn ddewisol ac anstatudol. Gellir eu paratoi gan y gymuned leol ac maent yn adnodd grymus i hyrwyddo cydweithio i wella llesiant a chreu lleoedd.
  • Dylai Cynlluniau Lle gefnogi'r gwaith o ddarparu polisïau'r CDLl a byddant yn cael eu mabwysiadu fel canllawiau cynllunio atodol.

Bydd angen i'r CDLl Newydd nodi'r polisïau a ddefnyddir ar gyfer Cynlluniau Lle er mwyn rhoi cymorth i gymunedau.

Lleoedd Iach a Chymdeithasol yng Nghonwy

Trafnidiaeth a Hygyrchedd:

  • Dylai'r system gynllunio alluogi pobl i gael mynediad at swyddi a gwasanaethau drwy gymryd teithiau byrrach, mwy effeithlon a chynaliadwy drwy gerdded, beicio a defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus. Mae mynediad at drafnidiaeth gynaliadwy yn allweddol i gefnogi cymunedau iach sydd â chysylltiadau da.
  • Disgrifir llwybrau teithio llesol yn ardal CBSC fel rhai gwael lle mae diffyg buddsoddiad.
  • Fel ardal wledig yn bennaf, mae rhai cymunedau yn ei chael yn anodd osgoi defnyddio eu ceir yn hytrach na dulliau teithio cynaliadwy.
  • Mae rhai cymunedau, yn enwedig ar hyd coridor yr arfordir, yn wynebu problemau capasiti ar y priffyrdd.
  • Mae'r Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol presennol yn nodi prosiectau blaenoriaeth ar gyfer Ardal Conwy.
  • Mae Rhwydwaith y Ffyrdd Craidd yn cysylltu ardal CBSC gyda Bwrdeistrefi Sirol cyfagos ac ardaloedd consortia trafnidiaeth rhanbarthol. Mae'r ffyrdd canlynol yn ardal CBSC yn rhan o'r Rhwydwaith Ffyrdd Craidd: yr A55 (llwybr Arfordir y Gogledd) a'r A470 (llwybr y Canolbarth). Mae'r ddwy brif ffordd graidd yn cysylltu'r boblogaeth leol gyda'r prif aneddiadau, gan gysylltu â rhwydweithiau ffyrdd dosbarth B a'r holl ffyrdd heb eu dosbarthu a'u rhifo yn ardal CBSC.

Bydd angen i'r CDLl Newydd ddylanwadu ar y lleoliad, graddfa, dwysedd, cymysgedd o ddefnydd a dyluniad datblygiadau newydd i sicrhau eu bod yn gwella dewisiadau trafnidiaeth ac yn sicrhau hygyrchedd mewn ffordd sy'n cefnogi datblygu cynaliadwy, yn arwain at ragor o weithgarwch corfforol, yn gwella iechyd ac yn helpu i fynd i'r afael ag achosion newid yn yr hinsawdd a llygredd aer.

Bydd angen i'r CDLl Newydd:

Alluogi Mwy o Ddewisiadau o ran Teithio Cynaliadwy - mesurau i annog mwy o gerdded, beicio a thrafnidiaeth gyhoeddus, a lleihau dibyniaeth ar y car i deithio bob dydd;

Rheoli'r Rhwydwaith - mesurau i wneud y defnydd gorau o'r capasiti sydd ar gael, gan gefnogi hyn â seilwaith newydd wedi'i dargedu; a

Rheoli Galw - defnyddio strategaethau a pholisïau i leihau'r galw am deithio, yn benodol teithiau gan unigolion mewn ceir preifat.

Tai, Tai Fforddiadwy ac Anghenion Sipsiwn a Theithwyr:

  • Mae disgwyl i boblogaeth Conwy gynyddu tua 5.6% a mudo fydd yn bennaf gyfrifol am y newid hwn.
  • Erbyn 2033 bydd aelwydydd yn llai a bydd mwy o aelwydydd nag sydd ar hyn o bryd. Oherwydd hyn, bydd angen rhagor o dai.
  • Mae poblogaeth Conwy yn heneiddio.
  • Mae'r ffaith bod y boblogaeth iau yn gadael Conwy yn broblem fawr.
  • Awgryma tystiolaeth bresennol y bydd ar Gonwy angen tua 120 o unedau tai fforddiadwy bob blwyddyn, neu 1800 hyd at 2033
  • Ar hyn o bryd, mae gan Gonwy gyflenwad tir o lai na phum mlynedd ar gyfer tai, sef 3.1 blynedd. Yn hanesyddol mae'r gyfradd adeiladu flynyddol wedi bod tua 250 uned y flwyddyn.
  • Bydd yr angen i ddarparu ar gyfer Sipsiwn a Theithwyr yn parhau. Mae'r Asesiad presennol o Anghenion Sipsiwn a Theithwyr yn dod i'r casgliad bod angen Safle Teithiol yn cynnwys 7 llain.

Bydd y materion allweddol hyn yn arwain at yr angen i ddarparu tai ychwanegol a seilwaith cysylltiedig dros gyfnod y CDLl Newydd.

Mae goblygiadau hefyd o ran math, cymysgedd a maint y tai sydd eu hangen i ystyried aelwydydd llai a thai wedi'u haddasu ar gyfer yr henoed.

Mae angen i'r CDLl Newydd annog strwythur oedran sy'n fwy cytbwys a rhoi sylw i'r broblem allfudo ymysg y boblogaeth iau drwy gyflogaeth, tai, addysg, cyfleusterau cymunedol a gwasanaethau.

Mae angen ystyried anghenion tai fforddiadwy yn erbyn dulliau cyflenwi eraill, yn hytrach nag adeiladu tai newydd (e.e. tai gwag, y farchnad rhentu breifat). Mae hyfywedd yn ystyriaeth allweddol yn y CDLl Newydd wrth benderfynu ar lefel y tai fforddiadwy y gofynnir amdano mewn datblygiadau tai.

Mae angen i'r CDLl Newydd roi ar waith y mecanweithiau i sicrhau ei fod yn cadw cyflenwad tir ar gyfer tai o bum mlynedd drwy ystyried tystiolaeth ymlaen llaw, cynyddu nifer y safleoedd wrth gefn a dad-ddyrannu tiroedd na ellir eu sicrhau.

Bydd angen i'r CDLl Newydd sicrhau ei fod yn darparu ar gyfer yr angen presennol am Safle Teithiol yn cynnwys 7 Llain yng Nghynllun yr Ardal ac yn rhoi polisïau perthnasol ar waith i sicrhau unrhyw angen yn y dyfodol.

Canolfannau Manwerthu a Masnachol:

  • Mae'r Gyd-astudiaeth Manwerthu (Conwy a Sir Ddinbych) yn dod i'r casgliad bod angen canolfan fanwerthu a chymhariaeth fawr newydd rhwng Bae Colwyn a gweddill ardal ddwyreiniol y Fwrdeistref Sirol.
  • Daeth Gwiriadau Iechyd Canol Trefi Conwy i'r casgliad bod rhai trefi yn y Fwrdeistref Sirol yn iach a heb lawer o siopau gwag, ond bod eraill wedi dirywio dros y blynyddoedd diwethaf oherwydd y pwyslais presennol ar bolisi manwerthu A1 a'r ffaith bod rhai siopau penodol wedi cau (e.e. banciau'r stryd fawr).
  • Cafodd yr angen canlynol ar gyfer cyfleusterau manwerthu cyfleustra ei nodi:
    • Dwyrain Conwy: 35,000 troedfedd sgwâr
    • Canol Conwy: 20,000 troedfedd sgwâr
    • Gorllewin Conwy: Dim angen
    • Gogledd Conwy: 5,000 troedfedd sgwâr
    • De Conwy: 15,000 troedfedd sgwâr
  • Nodwyd yr angen canlynol ar gyfer manwerthu cymharol:
    • Llandudno: Dim angen
    • Bae Colwyn: 25,000 troedfedd sgwâr

Dylai'r CDLl Newydd sefydlu strategaeth glir ar gyfer datblygu manwerthu, wedi'i chefnogi gan bolisïau, er mwyn creu canolfannau manwerthu a masnachol bywiog, deniadol a hyfyw.

Drwy'r CDLl Newydd, mae angen sicrhau strategaethau manwerthu priodol i gefnogi'r anghenion, y pwysau a'r cyfleoedd manwerthu hyn. Mewn rhai sefyllfaoedd, gallai fod angen gweithredu'n rhagweithiol i nodi lleoliadau lle gall canolfannau masnachol a manwerthu ehangu. Dro arall, efallai y bydd angen nodi mesurau i adfywio canolfannau neu reoli newid mewn pwysigrwydd cymharol canolfan wrth i ganolfannau eraill, a'u pwrpas, ehangu.

Cyfleusterau Cymunedol:

Mae cyfleusterau cymunedol yn cyfrannu at yr ymdeimlad o le, sy'n bwysig i iechyd, lles ac amwynder cymunedau lleol ac mae eu bodolaeth yn aml yn elfen allweddol i greu cymunedau hyfyw a chynaliadwy. Gallant gynnwys ysgolion, cyfleusterau diwylliannol, gwasanaethau iechyd, llyfrgelloedd, rhandiroedd ac addoldai.

Mae mynediad at wasanaethau yn yr ardaloedd gwledig yn broblem benodol ac mae'r 9 Ardal Gynnyrch Ehangach Haen Is (LSOA) ymhlith y 10% mwyaf difreintiedig yn genedlaethol o ran mynediad at wasanaethau.

Mae rhai ysgolion yn llawn neu byddant yn cael eu llenwi yn dibynnu ar dai newydd a chynnydd yn y boblogaeth yn y dyfodol.

Mae angen rhandiroedd a thir ar gyfer claddu pobl dros gyfnod y CDLl Newydd.

Dylai'r CDLl Newydd nodi darpariaeth ddigonol ar gyfer seilwaith cymunedol i fodloni angen y boblogaeth bresennol ac yn y dyfodol.

Ardaloedd Hamdden:

Mae ardaloedd hamdden yn hanfodol i'n hiechyd, lles ac amwynder a gallant gyfrannu at seilwaith gwyrdd ardal. Maent yn darparu lle i wneud gweithgarwch corfforol a chwaraeon a lle i ymlacio, yn aml ym mhresenoldeb natur, ac maent yn cyfrannu at ansawdd ein bywydau.

Bydd rhwydweithiau o ardaloedd gwyrdd a hamdden hygyrch, o ansawdd uchel, hefyd yn hyrwyddo cadwraeth natur, bioamrywiaeth ac yn rhoi cyfle i breswylwyr ac ymwelwyr fwynhau a chymryd rhan mewn pob math o weithgareddau corfforol er mwyn hybu lles corfforol a meddyliol.

Mae Asesiad Mannau Hamdden Agored Conwy hefyd yn nodi bod diffyg ardaloedd o'r fath mewn rhai ardaloedd yn y Fwrdeistref Sirol.

Mae angen nodi, rheoli, ehangu a gwella rhwydwaith Seilwaith Gwyrdd y Fwrdeistref Sirol, gan gynnwys y mannau agored cyhoeddus a chydnabod eu pwysigrwydd i ddarparu manteision amgylcheddol, economaidd-gymdeithasol, ac iechyd, a nodir fel materion allweddol yng Nghynllun Lles Conwy a Sir Ddinbych.

Bydd angen i'r CDLl Newydd annog lles corfforol a meddyliol drwy ddarparu a gwarchod mannau gwyrdd hygyrch, o ansawdd a rhwydweithiau ardaloedd hamdden.

Lleoedd Ffyniannus yng Nghonwy

Datblygu Economaidd:

Mae'r Adolygiad o Dir Cyflogaeth Conwy (ELR) yn dod i'r casgliad y bydd gweithlu Conwy, sef nifer y bobl oedran gwaith sy'n economaidd weithgar, yn cynyddu erbyn 2033. Ar y sail hon, mae'n bosibl bydd angen rhwng 12.46 ac 13.33 hectar o dir busnes (crynswth) dros gyfnod y CDLl Newydd.

Mae angen sicrhau bod safleoedd cyflogaeth lleol yn cael eu diogelu a bod dyraniadau yn cael eu cyflwyno i gefnogi cyflogaeth yn y cymunedau.

Mae all-lif net o 4,784 o breswylwyr sy'n cymudo o Gonwy i weithio mewn ardaloedd eraill. Mae cymhareb dwysedd swyddi Conwy, sef 0.72, yn is na chyfartaledd Cymru 0.74 a'r awdurdodau cyfagos (0.78 yn Sir Ddinbych ac 0.85 yng Ngwynedd). Gallai ail-gydbwyso'r defnydd tir yn y Sir i sicrhau bod rhagor o swyddi (a swyddi o ansawdd gwell) yn cael eu darparu helpu i newid y duedd hon ac 'adennill' cymudwyr, gan leihau cyfraddau all-gymudo net.

Mae Conwy yn rhan o Fargen Twf y Gogledd a fydd yn creu cyfleoedd gwaith, ac a fydd hefyd yn effeithio ar ofynion cyflogaeth, tai a seilwaith.

Dylid nodi safleoedd cyflogaeth strategol ar raddfa ranbarthol drwy gytuno ymhlith yr awdurdodau lleol pa safleoedd sy'n gwasanaethu'r ardal gyfan orau.

Yn ôl yr Arolwg o Dir Cyflogaeth dylid rhannu'r dyraniadau tir cyflogaeth fel a ganlyn: 50% B1 Busnes a 50% ar gyfer B2/B8 Diwydiannol a Warysau.

Mae Asesiad Conwy o'r Farchnad Eiddo yn nodi y dylai tir cyflogaeth newydd gael ei leoli ar hyd llwybr Traws-Ewropeaidd allweddol yr A55.

Mae Strategaeth Economaidd Conwy hefyd yn hyrwyddo'r defnydd o ganolfannau trefi fel ardaloedd allweddol ar gyfer twf cyflogaeth.

Mae angen rhoi cymorth i ddatblygu rhwydweithiau a chlystyrau busnes yn enwedig mewn perthynas â mentrau yn seiliedig ar arloesedd a thechnoleg.

Bydd angen i'r CDLl Newydd gefnogi ffyniant economaidd hirdymor, arallgyfeirio ac adfywio, drwy fanteisio ar safle strategol Conwy ym margen dwf y rhanbarth yn ehangach a thrwy hyrwyddo strategaeth holistig ar gyfer cyd-leoli twf cyflogaeth a thai.

Dylai'r CDLl Newydd gyfeirio datblygiad economaidd a buddsoddiad i'r lleoliadau mwyaf effeithlon a chynaliadwy.

Dylai'r CDLl Newydd helpu i ddarparu tir digonol i ateb anghenion y farchnad gyflogaeth ar lefel strategol a lleol. Dylid gwarchod safleoedd cyflogaeth presennol a'r rhai a ddynodwyd drwy'r CDLl Newydd.

Dylai'r CDLl Newydd geisio:

  • cydlynu datblygu drwy bob math o ddarpariaeth seilwaith fel trafnidiaeth a chyfleustodau
  • cydlynu swyddi a gwasanaethau gyda thai a seilwaith trafnidiaeth gynaliadwy, i leihau'r angen am deithio, a'r ddibyniaeth ar deithio mewn ceir;
  • sicrhau adfywiad ffisegol a chyfleoedd cyflogaeth i gymunedau difreintiedig
  • rhoi cymorth i rwydweithiau a chlystyrau busnes lle bo hynny'n briodol.
  • mae angen seilwaith trafnidiaeth, amgylcheddol a thelegyfathrebu cysylltiedig i gynnal y rhwydweithiau a'r clystyrau hyn a, lle bydd angen gwelliannau, dylid eu cynnwys yn y cynllun datblygu

Dylai'r CDLl Newydd hefyd ystyried yn ffafriol unrhyw gynigion i gynhyrchu ynni adnewyddadwy neu garbon isel a gynlluniwyd i wasanaethu clystyrau, fel systemau gwresogi ardal a dulliau hynod effeithlon o adfer ynni o wastraff, neu ddarparu rhwydwaith integredig o ailgylchu neu gasglu gwastraff.

Twristiaeth:

Gall twristiaeth fod yn gatalydd ar gyfer adfywio, gwella'r amgylchedd adeiledig a gwarchod yr amgylchedd.

Mae twristiaeth yn dod yn fwyfwy pwysig i'n heconomi a chefnogir y sector gan Gynllun Rheoli Cyrchfan Conwy (2019 - 2029)

Mae twristiaeth yn chwarae rhan bwysig iawn yn economi Conwy a dylai'r CDLl Newydd gefnogi'r diwydiant mewn ffordd gynaliadwy. Yn hanesyddol, mae twristiaeth yng Nghonwy wedi cael ei chefnogi gan asedau naturiol a hanesyddol gwych, yn ogystal â'i leoliad strategol ger yr arfordir a Pharc Cenedlaethol Eryri.

Yn fwy diweddar gwelwyd twf mewn busnesau twristiaeth antur ac awyr agored cynaliadwy drwy'r flwyddyn.

Mae Conwy wedi gweld galw am wahanol fathau o lety gwyliau i'r math mwy traddodiadol.

Bydd angen i ddatblygiadau twristiaeth mewn ardaloedd gwledig fod yn gydnaws â natur a graddfa'r amgylchedd lleol.

Mae gan Gonwy lawer iawn o feysydd carafanau traddodiadol, ac mae llawer o'r rhain yn yr ardal sydd mewn perygl o ddioddef llifogydd yn nwyrain y Fwrdeistref Sirol.

Dylai'r CDLl Newydd annog twristiaeth lle mae'n cyfrannu at ddatblygu economaidd, cadwraeth, arallgyfeirio gwledig, adfywio trefol a chynhwysiant cymdeithasol, gan gydnabod anghenion ymwelwyr a chymunedau lleol ar yr un pryd.

Hefyd, dylai'r CDLl Newydd barhau i gefnogi llwyddiant parhaus twf twristiaeth yng Nghonwy, drwy annog datblygu priodol sy'n gysylltiedig â thwristiaeth, sy'n gydnaws â natur a graddfa'r amgylchedd lleol.

Bydd angen sicrhau twristiaeth gynaliadwy er mwyn ceisio denu twristiaeth drwy'r flwyddyn yn hytrach nag yn dymhorol yn unig.

Economi Wledig Conwy:

Mae economi wledig gref yn hanfodol i gynnal cymunedau gwledig cynaliadwy a bywiog. Mae sefydlu mentrau newydd ac ehangu busnesau presennol yn hanfodol i dwf a sefydlogrwydd ardaloedd gwledig, wedi eu cefnogi gan y seilwaith cymunedol a thai angenrheidiol.

Mae aneddiadau gwledig Conwy yn cyfrif am tua 15% o boblogaeth y Fwrdeistref Sirol. Mae'r rhan fwyaf o'r aneddiadau gryn bellter o'r canolfannau mwy trefol, ac felly bydd angen i'r CDLl Newydd ystyried datblygu economaidd a'r seilwaith angenrheidiol ar eu cyfer.

Gall Brexit effeithio ar ein cymunedau gwledig ac mae'n bosibl bydd angen iddynt arallgyfeirio ymhellach.

Dylai'r CDLl Newydd hyrwyddo a chynnal cymunedau cynaliadwy a bywiog drwy sefydlu mentrau newydd, ehangu busnesau presennol a mabwysiadu dull adeiladol tuag at amaeth ac arferion ffermio newydd.

Bydd angen i'r CDLl Newydd fabwysiadu dull adeiladol tuag at gynigion datblygu amaethyddol, yn enwedig y rheini sy'n cael eu dyfeisio i ateb anghenion arferion ffermio newydd neu sydd eu hangen er mwyn cydymffurfio â deddfwriaeth newydd yn ymwneud â'r amgylchedd, hylendid neu les. Hefyd, dylai'r CDLl Newydd fabwysiadu dull cadarnhaol gyda cheisiadau i drosi adeiladau gwledig ar gyfer busnes.

Yn ogystal, bydd angen i'r CDLl Newydd fabwysiadu agwedd gadarnhaol at brosiectau arallgyfeirio mewn ardaloedd gwledig. Gall arallgyfeirio gryfhau'r economi wledig a dod â chyflogaeth ychwanegol a ffyniant i gymunedau

Dylai'r CDLl Newydd ddynodi safleoedd gwledig newydd ar gyfer datblygu economaidd mewn cynlluniau datblygu lle bo hynny'n briodol.

Er y dylid parhau i warchod cefn gwlad agored lle bynnag y bo hynny'n bosibl, dylid cefnogi ehangu busnesau presennol yng nghefn gwlad agored yn y CDLl Newydd cyn belled nad oes effeithiau annerbyniol.

Seilwaith Trafnidiaeth:

Mae darparu seilwaith trafnidiaeth yn hanfodol er mwyn adeiladu ffyniant, mynd i'r afael â'r newid yn yr hinsawdd, lleihau llygredd yn yr aer a gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Conwy.

Mae angen hwyluso'r broses o gyflwyno a gwella seilwaith trafnidiaeth di-garbon mewn ffordd sy'n lleihau'r angen i deithio, yn enwedig mewn cerbydau preifat, ac sy'n hwyluso a chynyddu'r defnydd o ddulliau teithio llesol a chynaliadwy

Disgrifir llwybrau teithio llesol yn ardal CBSC fel rhai gwael y mae angen buddsoddi ynddynt.

Mae'r Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol yn nodi prosiectau trafnidiaeth sy'n flaenoriaeth yng Nghonwy

Mae gan Gonwy amryw o orsafoedd trên trefol ar hyd prif linell y Gogledd gyda chysylltiadau i nifer o drefi mawr eraill. Hefyd, mae rheilffordd Dyffryn Conwy yn rhedeg o orsaf Llandudno, gan gysylltu â nifer o bentrefi gwledig. Mae'r gwasanaeth bws ar hyd coridor yr arfordir yn eithaf da yn gyffredinol ond gall fod angen gwasanaethau ychwanegol mewn rhai ardaloedd i gynnal twf. Mae gwasanaeth da i Lanrwst yn bwydo'r ardal wledig, ond mae'n gyfyngedig ar ôl hynny o ran gwasanaethu'r aneddiadau gwledig ehangach.

Mae nifer o gyfnewidfeydd trafnidiaeth gynaliadwy ar y gweill ar gyfer yr ardal.

Mae amryw o gilffyrdd rheilffyrdd mawr yn yr ardal

Dylai'r CDLl Newydd gefnogi'r gwelliannau angenrheidiol i'r seilwaith trafnidiaeth, lle gellir dangos eu bod yn arwain at fwy o ddefnydd o drafnidiaeth gynaliadwy ac yn lleihau dibyniaeth ar geir preifat ar gyfer teithiau dyddiol.

Dylai'r CDLl Newydd leoli twf yn yr ardaloedd lle mae'r seilwaith angenrheidiol ar gael neu mae wedi'i gynllunio er mwyn creu lleoedd cynaliadwy a lleihau'r angen i ddefnyddio ceir. Dylai'r CDLl Newydd hefyd nodi lle mae angen trafnidiaeth gyhoeddus a chyfnewidfeydd ychwanegol a dylid eu gwarchod i gefnogi datblygiadau newydd.

Dylai'r CDLl Newydd gynnwys yr holl gynigion ar gyfer ffyrdd newydd a gwelliannau mawr i'r brif rwydwaith ffyrdd yn ystod oes y cynllun, a nodi'r polisïau cyffredinol ar flaenoriaethau ar gyfer mân welliannau.

Telegyfathrebu:

Mae seilwaith gyfathrebu electronig fforddiadwy a diogel yn hanfodol i bobl a busnesau.

Mae diffygion yn y system delegyfathrebu symudol yn rhai ardaloedd o Gonwy ac nid oes gan rai ardaloedd fynediad at fand eang ar linellau sefydlog.

Dylai'r CDLl Newydd roi cymorth i'r seilwaith telegyfathrebu mewn lleoliadau priodol. Dylai nodi polisïau ar gyfer datblygu telegyfathrebu, gan gynnwys polisïau ar sail meini prawf i arwain datblygiadau i leoliadau addas.

Dylai'r CDLl Newydd geisio cefnogi cynigion ar gyfer seilwaith band eang newydd neu welliannau i rwydweithiau neu gyfarpar presennol. Dylai polisïau hefyd sicrhau bod seilwaith band eang yn ofyniad hanfodol mewn cynigion datblygu newydd.

Ynni a Newid yn yr Hinsawdd:

Mae gwaith ymchwil i'r newid yn yr hinsawdd yn darogan cynnydd yn amlder a difrifoldeb ein glawiad. Felly, mae llifogydd o afonydd, carthffosydd a dŵr wyneb yn debygol o waethygu ar draws ardal CBSC yn y dyfodol. Disgwylir i ardal CBSC hefyd wynebu mwy o lifogydd llanw wrth i lefel y môr godi.

Yn 2015 cynhyrchodd CBSC 2.7% o'r ynni carbon isel ar gyfer Cymru. Fodd bynnag, mae lle i wella ar hyn drwy gynhyrchu mwy o ynni adnewyddadwy yn y dyfodol.

Mae Adolygiad Ynni Adnewyddadwy Conwy hefyd yn nodi cynigion strategol ar gyfer ynni gwynt a solar y bydd angen i'r CDLl Newydd eu hystyried.

Mae Strategaeth Economaidd Conwy yn hyrwyddo cynnydd mewn cynlluniau ynni adnewyddadwy a dyhead i gyflwyno Morlyn Ynni Llanw ar hyd arfordir y Gogledd, a fyddai'n creu ardal fwy cydnerth yn erbyn llifogydd, adfywio a chynhyrchu ar gyfer twristiaeth a hamdden yn ogystal â chynhyrchu ynni adnewyddadwy.

Yn y tymor hir gallwn ddisgwyl symudiad parhaus i ffwrdd o gynhyrchu tanwyddau ffosil i gyfeiriad ffynonellau ynni mwy cynaliadwy.

Dylai'r CDLl Newydd geisio cyflwyno polisïau perthnasol er mwyn:

  • lleihau faint o ynni rydym yn ei ddefnyddio yng Nghonwy;
  • lleihau ein dibyniaeth ar ynni a gynhyrchir gan danwyddau ffosil;
  • rheoli'n weithredol y broses o symud i economi carbon isel; a
  • lliniaru effeithiau newid yn yr hinsawdd yn unol â'r hierarchaeth ynni ar gyfer cynllunio.

Dylai'r CDLl Newydd sicrhau cymysgedd priodol o ynni sy'n cynnig y manteision gorau i economi a chymunedau Conwy ond yn lleihau unrhyw effeithiau amgylcheddol a chymdeithasol negyddol. Dylai gydnabod yn llawn y manteision a gyflwynir gan ynni adnewyddadwy ac ynni carbon isel fel rhan o'r ymrwymiad cyffredinol i fynd i'r afael â'r newid yn yr hinsawdd ac i wella diogelwch ynni. Dylai gefnogi defnydd isel o ynni adnewyddadwy, a mynediad at y grid mewn datblygiadau.

Dylai'r CDLl Newydd ystyried yr adnodd ynni adnewyddadwy yng Nghonwy wrth lunio targed ynni adnewyddadwy sy'n seiliedig ar dystiolaeth gadarn, briodol.

Dylai polisïau'r CDLl Newydd sicrhau bod egwyddorion adeiladu dylunio cynaliadwy yn rhan hanfodol o ddylunio datblygiad newydd. Hefyd, dylai'r CDLl Newydd asesu safleoedd strategol drwy gynnal asesiad hyfywedd economaidd i nodi cyfleoedd i fynnu safonau adeiladu mwy cynaliadwy.

Dylai'r CDLl Newydd, lle bo hynny'n berthnasol, ddarparu polisïau i esbonio lle mae datblygiadau ynni gwynt mawr yn debygol o gael eu caniatáu yn yr Ardaloedd Chwilio Strategol.

Mwynau:

Mae'r ddarpariaeth ar gyfer agregau ym mhob awdurdod lleol yn cael ei arwain gan y Datganiad Technegol Rhanbarthol (RTS) ar gyfer agregau, sef un o ofynion paragraff 50 Nodyn Technegol Mwynau 1. Mae'r datganiad hwn yn cael ei adolygu ar hyn o bryd a disgwylir iddo gael ei gyhoeddi ar ddechrau 2020.

Bydd y Datganiad Technegol Rhanbarthol yn gwneud argymhellion ar gyfer unrhyw ddosraniad angenrheidiol i sicrhau cyflenwad digonol o greigiau wedi'u malu a thywod ac agredau graean, gan gynnwys isafswm y ddarpariaeth genedlaethol o 7 mlynedd o dywod a graean a 10 mlynedd ar gyfer creigiau wedi'u malu.

Nid yw amseriad cyhoeddi'r Datganiad Technegol Rhanbarthol yn cyd-fynd ag amserlen adolygu'r CDLl, fodd bynnag, ar y cam hwn mae banc tir sylweddol wedi'i ganiatáu o greigiau wedi'u malu wrth gefn yng Nghonwy a rhagwelir y bydd yn para am holl gyfnod adolygu'r CDLl a'r cyfnod gofynnol ar gyfer banc tir, sef 10 mlynedd. O'r herwydd, ystyrir ei fod yn annhebygol y byddai unrhyw ofyniad sylweddol i wneud darpariaeth ychwanegol.

Hefyd, mae diffyg adnoddau tywod a graean anghyfyngedig sy'n hyfyw yn fasnachol yn golygu bod unrhyw ddarpariaeth y mae Conwy'n debygol o fod ei angen ar gyfer tywod a graean yn fwy tebygol o ddod o ddosraniad yn Sir Gwynedd.

Bydd angen i adolygiadau o'r CDLl yn y dyfodol roi ystyriaeth i ganlyniad y Datganiad Technegol Rhanbarthol (ar ôl iddo gael ei gyhoeddi.)

Gwastraff:

Cyhoeddwyd nifer o adroddiadau monitro rhanbarthol sy'n dangos bod cyfraddau casglu gwastraff y Sir wedi gostwng yn raddol ers 2008 a bod cyfraddau ailgylchu wedi cynyddu'n gyffredinol.

Mae'r gofyniad i lunio Cynlluniau Gwastraff Rhanbarthol wedi cael ei ddileu, er bod yn rhaid parhau â gwaith monitro i sicrhau bod gan ranbarthau gapasiti gwaredu ac adfer digonol.

Y prif gasgliad hyd yma yw nad oes angen capasiti gwaredu ychwanegol yn y rhanbarth ac y dylid rhoi ystyriaeth ofalus i unrhyw alw am gapasiti trin gwastraff gweddilliol yn y rhanbarth i sicrhau na fyddai'r cyfleuster yn arwain at orddarpariaeth.

Er bod polisïau a chanllawiau cenedlaethol wedi newid mewn perthynas â gwastraff, mae polisïau'r CDLl presennol MWS/6 ac MWS/7 wedi bod yn ddigon hyblyg i sicrhau seilwaith gwastraff.

Mae'r syniad o ddefnyddio tir cyflogaeth ar gyfer gwastraff yn ddichonadwy ond dylid ei addasu i gynnwys dull sy'n seiliedig ar feini prawf er mwyn sicrhau mai cyfleusterau priodol yn unig a gaiff eu lleoli ar ddyraniadau tir cyflogaeth.

Bydd rhai safleoedd nad ydynt yn rhai strategol yn cael eu nodi ar gyfer rheoli gwastraff yn amodol ar angen lleol.

Lleoedd Naturiol a Diwylliannol yng Nghonwy

Tirweddau:

Mae gan Gonwy dirweddau cyfoethog ac amrywiol. Mae Conwy wedi dynodi 6 Ardal Tirwedd Arbennig ar lefel leol.

Parc Cenedlaethol Eryri. Wedi'i ddynodi yn Barc Cenedlaethol yn 1951, Parc Cenedlaethol Eryri yw'r parc mwyaf a'r cyntaf i gael ei ddynodi yng Nghymru. Mae'n ymestyn dros 213,200 hectar. Mae Parc Cenedlaethol Eryri yn cynnwys rhannau o Wynedd a rhannau o ardal CBSC, gan gynnwys aneddiadau sydd yn y ddwy Sir.

Bydd angen i'r CDLl Newydd ystyried tirweddau ar ddechrau'r broses o lunio strategaethau a pholisïau

Bydd angen i'r CDLl Newydd gadw a gwella asedau naturiol o ansawdd uchel Conwy.

Ardaloedd Arfordirol:

Mae 85% o'r boblogaeth yn byw ar hyd arfordir Conwy ac mae'r holl ardaloedd trefol mwyaf poblog ar hyd coridor yr A55.

Mae lefel uchel o bwysau datblygu yn yr ardal ac mae angen adfywio ardaloedd fel Pensarn, Tywyn a Bae Cinmel, lle mae'r perygl o lifogydd yn her sylweddol. Mae Astudiaeth Potensial Datblygu yn cael ei chynnal yn yr ardaloedd hyn i benderfynu a ellir cynnal twf.

Bydd angen i'r CDLl Newydd sefydlu'r glir beth y mae'r arfordir yn ei olygu i Gonwy a datblygu neu ddefnyddio polisïau penodol sy'n adlewyrchu nodweddion yr arfordir. Drwy wneud hyn, dylai'r CDLl Newydd gydnabod y cyswllt a'r berthynas rhwng nodweddion ffisegol, biolegol a defnydd tir yr ardaloedd arfordirol a'u heffeithiau ar newid yn yr hinsawdd.

Amgylchedd Hanesyddol:

Mae asedau hanesyddol yn chwarae rôl bwysig mewn twristiaeth, buddsoddi a chymunedau ac mae angen eu gwarchod a'u gwella drwy'r CDLl Newydd.

Mae Castell Conwy wedi'i ddynodi'n Safle Treftadaeth y Byd. Ym marn UNESCO, Castell Conwy yw "un o'r enghreifftiau mwyaf godidog yn Ewrop o bensaernïaeth filwrol diwedd yr 13eg ganrif a dechrau'r 14eg ganrif yn Ewrop".

Mae ardal CBSC yn cynnwys 162 o Henebion Cofrestredig, 1735 o Adeiladau Rhestredig y mae 29 o'r rhain yn adeiladau Gradd I, 1610 yn Gradd 2 a 96 yn Gradd 2*, a 24 o Ardaloedd Cadwraeth. Rhaid i'r CDLl Newydd gefnogi ymdrechion i warchod a gwella ein holl asedau treftadaeth dynodedig cenedlaethol, gan gynnwys eu gosodiad.

Mae'r asedau treftadaeth a nodwyd yn elwa ar warchodaeth statudol a rhaid ystyried hyn yng nghyswllt polisïau, cynigion a chanllawiau'r CDLl Newydd.

Rhaid i'r CDLl Newydd warchod a gwella asedau diwylliannol a threftadaeth ansawdd uchel Conwy.

Dylid gwarchod, amddiffyn a hyrwyddo eu cyfraniad i ardal CBSC ac yn enwedig tref Conwy (tref treftadaeth y byd) er mwyn annog twristiaeth yn yr ardal.

Adfywio drwy Ddiwylliant:

Mae'r Polisi Cynllunio Cenedlaethol yn nodi pwysigrwydd cynnal nodweddion unigryw ac arbennig sy'n rhoi ymdeimlad o hunaniaeth i le, yn ogystal â bod yn annhebyg i unrhyw le arall.

Ar hyn o bryd, mae nifer o fentrau a phrosiectau adfywio parhaus ac arfaethedig ar gyfer y dyfodol agos ar draws y sir a fydd yn cael effaith gadarnhaol ar wella a chynnal asedau diwylliannol Conwy.

Bydd angen i'r CDLl Newydd gynnig cefnogaeth i'r fath fentrau pan maent yn berthnasol i gynlluniau defnydd tir ac yn cyd-fynd ag amcanion/polisïau eraill yn y cynllun.

Seilwaith Gwyrdd:

Mae Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, yn sbardun cryf i ddarparu seilwaith gwyrdd aml-weithredol.

Mae Asesiad Seilwaith Gwyrdd Conwy ar y gweill i oleuo'r gwaith o gynhyrchu CDLl Newydd ac i ddatblygu dull cadarn o lunio cynigion i wella bioamrywiaeth, cynyddu gwydnwch ecolegol a gwella canlyniadau lles, a bydd yn adnabod cyfleoedd strategol allweddol lle gallai adfer, cynnal, creu neu gysylltu nodweddion gwyrdd a'u swyddogaethau ddarparu'r manteision gorau yng Nghonwy.

Dylai'r CDLl Newydd warchod a gwella asedau a rhwydweithiau seilwaith gwyrdd.

Rhaid i'r CDLl Newydd gydymffurfio â Dyletswydd Adran 6 mewn perthynas ag Amrywiaeth, Graddau, Cyflwr, Cysylltiadau a Gallu i Addasu i Newid.

Bioamrywiaeth:

Dylid rhoi ystyriaeth i wybodaeth yn Natganiadau Ardal Cyfoeth Naturiol Cymru a chofnodion rhywogaethau o Ganolfannau Cofnodion Amgylcheddol Lleol. Hyd yma nid yw Cyfoeth Naturiol Cymru wedi paratoi'r Datganiadau Ardal ar gyfer Gogledd Orllewin Cymru.

Mae Conwy yn cynnwys 3 Ardal Gwarchodaeth Arbennig (AGA), 8 Ardal Cadwraeth Arbennig ac un Safle Ramsar.

Mae gan Sir Conwy 43 Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) a 6 Gwarchodfa Natur Genedlaethol (GNC). Rhaid i unrhyw CDLl Newydd gefnogi'r gwaith o reoli safleoedd gyda dynodiadau cenedlaethol yn unol â'r amcanion cadwraeth a ddiffiniwyd ar eu cyfer.

Mae gan Sir Conwy dros 40 o Ardaloedd Bioamrywiaeth ar dir y mae'r Cyngor yn berchen arno neu yn ei reoli, ac 11 Gwarchodfa Natur Leol.

Bydd angen i'r CDLl sicrhau ei fod yn gweithredu fesul cam wrth warchod a gwella bioamrywiaeth ac adeiladu rhwydweithiau ecolegol gwydn drwy sicrhau bod unrhyw effeithiau niweidiol i'r amgylchedd yn cael eu lleihau a'u lliniaru.

Dŵr, Aer, Seinwedd a Golau:

Aer a Seinwedd:

Mae aer glân a seinwedd priodol yn cyfrannu at brofiad cadarnhaol o le, yn ogystal â bod yn angenrheidiol ar gyfer iechyd, amwynder a lles y cyhoedd.

Yn ôl y data diweddaraf, nid yw safonau ansawdd yr aer yn ardal CBSC mewn perygl o fynd dros y safonau a nodir yn Amcanion Ansawdd Aer yr Undeb Ewropeaidd ac nid oes angen unrhyw asesiadau manwl na chynlluniau rheoli ar lefel Cyngor ar gyfer unrhyw lygredd.

Golau

Mae angen cydbwyso darparu goleuadau i gadw pobl ac eiddo'n ddiogel er mwyn helpu i atal troseddu, a gallu cynnal gweithgareddau fel chwaraeon a hamdden â'r angen i warchod yr amgylchedd naturiol a hanesyddol gan gynnwys bywyd gwyllt; cadw ein hawyr yn dywyll lle bo hynny'n briodol; atal golau tanbaid a pharchu amwynder defnyddiau tir cyfagos ynghyd â lleihau'r allyriadau carbon sy'n gysylltiedig â goleuadau.

Dylai'r CDLl Newydd sicrhau ei fod yn cynnwys polisïau i atal effaith a gwneud y mwyaf o'i gyfle i gyfrannu at greu Cymru iachach drwy geisio lleihau faint y mae pobl yn dod i gysylltiad ar gyfartaledd â llygredd aer a sŵn, ochr yn ochr â mesurau i fynd i'r afael ag ardaloedd o lygredd uchel. Drwy wneud hyn bydd yr egwyddor 'cyfrwng newid' yn ystyriaeth berthnasol.

Dylai'r CDLl Newydd hefyd nodi ardaloedd o bwysigrwydd diwylliannol neu hanesyddol, y dylid rhoi ystyriaeth arbennig iddynt o ran seinwedd lle gallai fod angen gwneud hyn i ddiogelu bywiogrwydd neu i ddarparu amgylchedd heddychlon ac adferol mewn ardaloedd adeiledig prysur.

Bydd yn anhepgor i'r CDLl Newydd adnabod synergedd rhwng mapio seilwaith gwyrdd a'r effaith gymedroli y gallai gwarchod neu ddarparu seilwaith gwyrdd ei chael ar gynnal ansawdd aer da a seinwedd priodol, gan gynnwys rôl mannau gwyrdd tawel.

(6)2.17 Adran 2: Gweledigaeth ac Amcanion

Gweledigaeth y CDLl

Mae angen i'r CDLl Newydd fod yn seiliedig ar weledigaeth, amcanion a strategaeth hirdymor a chryno. Er mwyn cyflawni hyn, datblygwyd Gweledigaeth glir ar sail consensws yn dilyn ymgynghori gyda budd-ddeiliaid allweddol a'r gymuned. Datblygwyd gweledigaeth y CDLl Newydd gan roi ystyriaeth i nodau a negeseuon allweddol Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol 2015, Cynllun Lles Conwy a Sir Ddinbych (2017), Cynllun Corfforaethol Conwy ac elfennau o Gynllun Gofodol Cymru (WSP) a thystiolaeth gadarn. Cafodd ei mireinio ymhellach yn ystod y broses Gwerthusiad Cynaliadwyedd/Asesiad Amgylcheddol Strategol sy'n parhau. Yn bwysig iawn, mae'n adlewyrchu'r materion ac yn amlinellu strategaeth ar gyfer sut bwriedir i'r Cynllun Ardal ddatblygu, newid neu aros yr un fath hyd at 2033.

Erbyn 2033, bydd Sir Conwy yn cynnig gwell cyfleoedd i fyw, gweithio ac ymweld â hi. Bydd ansawdd bywyd da yn cael ei gynnig i bawb, gan gefnogi amrywiaeth pobl a lleoedd Sir Conwy. Bydd pwysigrwydd yr iaith Gymraeg mewn sawl cymuned yn cael ei werthfawrogi a'i gryfhau. Bydd pobl hŷn Sir Conwy yn cael eu hannog i fyw bywydau gweithgar, iach a llawn wrth heneiddio. Bydd gwell addysg, cyflogaeth a chyfleoedd cymdeithasol ar gael i annog pobl ifanc i aros yn Sir Conwy a dychwelyd yma a chynnal twf. Darperir dewis ehangach o lety wedi'i ddylunio'n dda ar draws Sir Conwy, yn seiliedig ar yr angen lleol am dai fforddiadwy a thai marchnad agored.

Bydd pwyslais newydd ar greu lleoedd a mentrau sy'n arwain adfywio yn sicrhau bod datblygu o ansawdd uchel a dyluniad da yn cefnogi'r gwaith o greu lleoedd iachach a mwy bywiog gan adlewyrchu safle Sir Conwy ym Margen Twf y Gogledd.

Byddwn yn gwella cryfder economaidd canolfannau cyflogaeth Sir Conwy, a adeiladwyd o amgylch y cysylltiadau trafnidiaeth strategol ar draws y sir. Bydd gan Sir Conwy rwydwaith ffyniannus o drefi a phentrefi, ac economi wledig hyfyw sy'n gwarchod a gwella'r amgylchedd naturiol. Bydd rhagor o fuddsoddiad mewnol, seilwaith, a darpariaeth teithio llesol yn cael ei annog i gynnal datblygiad cynaliadwy lle bydd yn gydnaws â'r angen i liniaru achosion ac effeithiau newid yn yr hinsawdd. Bydd treftadaeth naturiol a diwylliannol gyfoethog Sir Conwy yn cael ei gwarchod a'i hybu; gan gydnabod ei phwysigrwydd i les pobl a bywyd gwyllt, ac i'r economi dwristiaeth.

2.18 Gwireddu'r Weledigaeth

Er mwyn sicrhau cysondeb, cafodd y Weledigaeth a'r Amcanion eu hystyried yn erbyn nodau Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, Cynllun Lles Conwy a Sir Ddinbych a dogfennau allweddol eraill fel Bargen Dwf y Gogledd. Caiff y weledigaeth hon i Gonwy ei chyflawni drwy weithio ar y cyd gyda'r holl fudd-ddeiliaid sy'n gysylltiedig yn y maes cynllunio gan ddilyn y pum ffordd o weithio (cydweithredu, atal, integreiddio, hirdymor a chynnwys) mewn ymdrech i sicrhau lleoedd cynaliadwy. Bydd ymdrechion i greu lleoedd ac adfywio yn canolbwyntio felly ar sicrhau atebion ar sail lleoedd i'r heriau cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol sy'n wynebu'r ardal. Caiff y weledigaeth ei rhoi ar waith felly drwy fynd i'r afael â'r amcanion a nodir yn yr adran nesaf, ac yna drwy weithredu polisïau a chynigion cysylltiedig.

(7)2.19 Amcanion y CDLl

Mae polisi Llywodraeth Cymru yn awgrymu y dylai CDLl ddangos yn glir beth yw prif amcanion y cynllun, ynghyd â chyfeiriad cyffredinol unrhyw newid. Defnyddiwyd amcanion strategol y CDLl a fabwysiadwyd eisoes fel man cychwyn ar gyfer nodi amcanion strategol ar gyfer y CDLl Newydd.

2.20 Mae amcanion strategol y CDLl Newydd nid yn unig yn llawn dyhead ac yn uchelgeisiol ond mae modd eu darparu o fewn cyd-destun cynllunio gofodol. Maent yn ymateb i faterion allweddol y Cynllun ac yn eu cyflawni, gan gynnig llwyfan ar gyfer gwireddu'r weledigaeth. Fel yn achos y fersiwn drafft, cafodd y weledigaeth ei mireinio ymhellach yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus anffurfiol ar ddiwedd 2018 a thrwy'r broses Gwerthusiad Cynaliadwyedd/Asesiad Amgylcheddol Strategol sy'n parhau. Unwaith yn rhagor, mae'r amcanion wedi'u grwpio o amgylch strwythur arfaethedig newydd y CDLl sy'n adlewyrchu nodau Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, y Pum Egwyddor Gynllunio Allweddol, Canlyniadau Cynaliadwy a Pholisi Cynllunio Cymru.

Tabl 2: Amcanion Strategol

Creu Lleoedd Cynaliadwy yng Nghonwy

Mater Blaenoriaeth

Amcan

Creu Lleoedd Cynaliadwy

Lleoedd Iach, Cydraddoldeb a Llesiant

Dylunio Da, yr Amgylchedd Adeiledig a Chreu Lleoedd

Yr Iaith Gymraeg

Rheoli Adnoddau Naturiol yn Gynaliadwy

Creu Lleoedd mewn Ardaloedd Gwledig

Rheoli Ffurf Aneddiadau

Tir a Ddatblygwyd Eisoes, Tir â Chyfyngiadau a Chreu Lleoedd Cynaliadwy

Cynlluniau Lle

Amcan Strategol 1 (SO1): Cyfrannu at greu lleoedd cynaliadwy, cynhwysiant cymdeithasol ac at wella lles yn gyffredinol yng Nghonwy drwy ddarparu proses gynhwysol o greu ac adfywio lleoedd sy'n sicrhau twf yn y dyfodol a bod datblygu'n digwydd mewn lleoliadau cynaliadwy a hygyrch, sy'n ceisio hyrwyddo dyluniad da a lleoedd iachach, sy'n gwarchod yr iaith Gymraeg ac sydd wedi'i chefnogi gan y seilwaith cymdeithasol, amgylcheddol, diwylliannol ac economaidd angenrheidiol i greu lleoedd rhagorol.

Amcanion Cysylltiedig: Pob amcan

Lleoedd Iach a Chymdeithasol yng Nghonwy

Tai, Tai Fforddiadwy a Sipsiwn a Theithwyr

Amcan Strategol 2 (SO2): Hyrwyddo strategaeth holistig ar gyfer cyd-leoli twf tai a chyflogaeth drwy ddarparu cartrefi newydd, gan gynnwys tai fforddiadwy a safleoedd ar gyfer sipsiwn a theithwyr, mewn lleoliadau cynaliadwy a hygyrch, a sicrhau bod y mathau a'r amrediad cywir o dai o ran math, maint a deiliadaeth yn cael eu datblygu ochr yn ochr â'r seilwaith cymunedol angenrheidiol.

Amcanion Cysylltiedig: SO1, 2, 3, 4, 5, 6, 7, 9, 10, 11, 12, 13, 14 ac 15

Canolfannau Manwerthu a Masnachol

Amcan Strategol 3 (SO3): Darparu canolfannau tref a masnachol deniadol a hyfyw yng Nghonwy drwy ail-ddiffinio eu rôl ac annog amrywiaeth o weithgareddau a defnyddiau.

Amcanion Cysylltiedig: SO1, 2, 6, 7, 8, 9, 13 ac 14.

Cyfleusterau Cymunedol

Amcan Strategol 4 (SO4): Cyfrannu at naws lle ac at iechyd, lles ac amwynder cymunedau lleol drwy sicrhau bod gan y boblogaeth bresennol, a'r boblogaeth yn y dyfodol, fynediad at gymysgedd cynaliadwy o gyfleusterau cymunedol.

Amcanion Cysylltiedig: SO1, 2, 3, 4, 5, 6, 7, 9, 13 ac 14

Mannau Hamdden

Amcan Strategol 5 (SO5): Annog lles meddwl a chorfforol drwy ddarparu a diogelu rhwydweithiau o ardaloedd hamdden a mannau gwyrdd hygyrch o ansawdd uchel.

Amcanion Cysylltiedig: SO1, 2, 4, 6, 8, 12, 13, 14 ac 15.

Trafnidiaeth a Hygyrchedd

Amcan Strategol 6 (SO6): Darparu datblygu cynaliadwy a cheisio mynd i'r afael ag achosion newid yn yr hinsawdd drwy ehangu'r dewis o drafnidiaeth gynaliadwy er mwyn rhoi mynediad at swyddi a gwasanaethau allweddol i gymunedau Conwy, drwy hybu rhwydwaith o lwybrau byrrach, mwy llesol ac effeithlon ar gyfer cerdded, beicio a defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus a thrwy ddylanwadu ar leoliad, maint, dwysedd, cymysgedd defnyddiau a dyluniad datblygiadau newydd.

Amcanion Cysylltiedig: Pob amcan

Lleoedd Ffyniannus yng Nghonwy

Datblygu Economaidd

Seilwaith Trafnidiaeth

Telegyfathrebu

Amcan Strategol 7 (SO7): Cefnogi ffyniant economaidd hirdymor, arallgyfeirio ac adfywio drwy fanteisio ar sefyllfa strategol Conwy yn y cyd-destun rhanbarthol ehangach a thrwy hyrwyddo strategaeth holistig sy'n cyd-leoli twf cyflogaeth a thwf tai, a fydd yn hwyluso twf swyddi newydd o'r math iawn mewn lleoliadau cynaliadwy a hygyrch, yn cefnogi clystyrau a rhwydweithiau busnes, yn cynyddu sgiliau mewn swyddi gwerth uchel ac yn darparu'r seilwaith newydd angenrheidiol. Bydd hyn yn hwyluso lleoli busnesau newydd yng Nghonwy a thwf y busnesau presennol.

Amcanion Cysylltiedig: SO1, 2, 3, 6, 7, 8, 9, 10, 11, 12 ac 13

Twristiaeth

Amcan Strategol 8 (S08): Annog a chefnogi twristiaeth gynaliadwy lle mae'n cyfrannu at ffyniant a datblygiad yr economi ac at gadwraeth, arallgyfeirio gwledig, adfywio a chynhwysiant cymdeithasol, ond yn cydnabod anghenion ymwelwyr, busnesau a chymunedau lleol a bod angen gwarchod yr amgylchedd hanesyddol a naturiol.

Amcanion Cysylltiedig: SO1, 2, 3, 4, 5, 6, 7, 9, 12, 13 ac 15.

Economi Wledig Conwy

Amcan Strategol 9 (S09): Hyrwyddo a chefnogi cymunedau gwledig cynaliadwy a bywiog drwy sefydlu mentrau newydd, ehangu busnesau presennol a mabwysiadu dull adeiladol tuag at amaeth ac arferion ffermio newydd.

Amcanion Strategol: Pob amcan

Ynni a Newid yn yr Hinsawdd

Amcan Strategol 10 (S010): Sicrhau cymysgedd priodol o ynni, gan gynnwys hyrwyddo Morlyn Ynni Llanw, sy'n cynnig manteision i economi a chymunedau Conwy ond yn lleihau unrhyw effeithiau amgylcheddol a chymdeithasol negyddol.

Amcanion Strategol: SO1, 2, 3, 6, 7, 8, 9, 11 ac 13

Mwynau a Gwastraff

Amcan Strategol 11 (SO11): Cyfrannu at weithredu'r economi gylchol, rheoli gwastraff gan effeithio cyn lleied â phosibl ar yr amgylchedd a sicrhau y gwneir defnydd cynaliadwy o adnoddau naturiol, gan gynnwys ar gyfer cynhyrchu ynni a darparu cyflenwad digonol o fwynau a deunyddiau ar gyfer adeiladu.

Amcanion Strategol Cysylltiedig: SO1, 2, 6, 7, 9, 10 ac 15.

Lleoedd Naturiol a Diwylliannol yng Nghonwy

Tirweddau

Amgylchedd Hanesyddol

Amcan Strategol 12 (SO12): Gwarchod a chadw asedau naturiol, diwylliannol a threftadaeth ansawdd uchel Conwy.

Amcanion Cysylltiedig: Pob amcan

Ardaloedd Arfordirol

Amcan Strategol 13 (SO13): Cefnogi cyfleoedd twf, adfywio a datblygu mewn Ardaloedd Arfordirol ond, ar yr un pryd, bod yn ymwybodol ac ymatebol i'r heriau sy'n dod oddi wrth bwysau naturiol.

Amcanion Cysylltiedig: Pob amcan

Seilwaith Gwyrdd

Bioamrywiaeth

Amcan Strategol 14 (SO14): Gwarchod a gwella bioamrywiaeth a chreu rhwydweithiau ecolegol gwydn.

Amcanion Cysylltiedig: SO1, 2, 3, 4, 5, 7, 8, 9, 12, 13 ac 15.

Dŵr, Aer, Seinwedd a Golau

Amcan Strategol 15 (SO15): Lleihau faint y mae pobl a phethau'n dod i gysylltiad â llygredd aer a sŵn, cydbwyso darparu datblygu a goleuadau i gadw pobl ac eiddo'n ddiogel â'r angen i warchod a gwella'r amgylchedd dŵr ac adnoddau dŵr, gan gynnwys dŵr wyneb a dŵr daear o ran eu hansawdd a faint sydd ohonynt.

Amcan Cysylltiedig: Pob amcan

(1)2.21 Adran 3: Y Strategaeth Newydd ar gyfer Conwy

Mae'r Strategaeth newydd hon yn nodi sut y bydd yn cyflenwi'r Weledigaeth, yr Amcanion Strategol ac yn mynd i'r afael â'r materion allweddol sy'n effeithio Conwy. Mae'r adran nesaf o'r Strategaeth a Ffefrir yn nodi'r Polisïau Strategol a ddefnyddir i gefnogi a hyrwyddo cyflenwi'r Strategaeth newydd.

2.22 Mae'r Strategaeth newydd yn ganlyniad gwaith helaeth i feithrin consensws ynghyd ag ymgysylltu blaenorol â rhanddeiliaid. Mae'n rhaid i'r Strategaeth ystyried sylfaen dystiolaeth allweddol a nodi faint o dwf a fynnir o ran cyflogaeth a thai hyd at 2033, ynghyd ag yn lle y dylid lleoli'r twf hwn, ac fe'i cefnogir gan hierarchaeth aneddiadau.

** Nodyn i'r Darllenydd** Mae'r Strategaeth newydd a gyflwynir yn yr adran hon yn ganlyniad gwaith helaeth i feithrin consensws ynghyd ag ymgysylltu blaenorol â rhanddeiliaid. Fel rhan o'r ymgynghoriad ar Opsiynau Strategol ddiwedd 2018, bu'r Cyngor yn gweithio gyda rhanddeiliaid allweddol ar y materion a'r opsiynau sy'n llywio'r strategaeth newydd hon, gan gynnwys opsiynau ar gyfer twf, opsiynau o ran dosbarthiad gofodol a hierarchaeth aneddiadau.
Cefnogir yr ymgynghoriad hwn hefyd gan sylfaen dystiolaeth yn ffurf 47 Papur Cefndir (PC) a 12 o Bapurau Testun (PT) sy'n seiliedig ar bynciau penodol, sydd wedi llywio ymgynghori blaenorol a hefyd wedi llywio'r ymagwedd ar gyfer y strategaeth newydd (cyfeiriwch at Atodiad ? am restr lawn o bapurau ymgynghori allweddol.)
Mae'r holl bapurau ymgynghori blaenorol a thystiolaeth newydd ar gael fel rhan o'r Ymgynghoriad am y Strategaeth a Ffefrir hon www.conwy.gov.uk/cdlln. Nid bwriad yr adran hon yw ailadrodd y prif bwyntiau trafod yn y papurau ar y materion a'r opsiynau a'r dogfennau sy'n darparu'r sylfaen dystiolaeth. Anogir darllenwyr i ddarllen y dogfennau allweddol hyn ochr yn ochr â'r Strategaeth a Ffefrir hon.

2.23 Y Strategaeth Newydd

Mae'r Strategaeth newydd yn hyrwyddo lleoedd cynaliadwy hyd at 2033. Wrth gynllunio ar gyfer lleoedd cynaliadwy yng Nghonwy, mae'r Strategaeth a Ffefrir hon yn ceisio adlewyrchu a choleddu egwyddorion Datblygu Cynaliadwy, ynghyd â chysyniad creu lleoedd a gwreiddio'r dyletswyddau a nodir drwy Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol 2015. Mae'r Strategaeth Newydd yn cynnwys y canlynol:

  • Lefel Dwf - Faint o dai a swyddi a gynllunnir hyd at 2033.
  • Strategaeth Dosbarthiad Gofodol - Yn nodi yn lle y bydd y Lefel Dwf newydd yn cael ei lleoli mewn modd cynaliadwy.
  • Egwyddorion Creu Lleoedd Cynaliadwy - Trafodir yr Egwyddorion Datblygu Cynaliadwy a Chreu Lleoedd allweddol y dylid eu dilyn i gyflawni'r amcan o leoedd cynaliadwy yng Nghonwy.
  • Elfennau Allweddol y Strategaeth - Trafodir Elfennau Allweddol y Strategaeth sydd i'w dilyn i sicrhau cyflawni'r Strategaeth Newydd a'i bod yn cydymffurfio.

2.24 Mae'r Strategaeth yn annog twf yn seiliedig ar ddealltwriaeth glir o'r newidiadau o ran poblogaeth ac aelwydydd dros Gyfnod y Cynllun a'r angen i hyrwyddo strwythur oedran mwy cytbwys, gan leihau allgymudo, ynghyd â darparu ar gyfer anghenion lleol sy'n gysylltiedig â Bargen Dwf Gogledd Cymru a chynyddu nifer y tai fforddiadwy ar draws Ardal y Cynllun.

2.25 Mae dosbarthiad y twf yn adlewyrchu nifer o ffactorau allweddol, gan gynnwys cynaliadwyedd aneddiadau a'u poblogaeth, hygyrchedd, capasiti o ran isadeiledd, a'r angen i fynd i'r afael â newid hinsawdd, diogelu'r Iaith Gymraeg a chreu cymunedau iachach i bawb. Dylanwadir ar y Strategaeth hefyd gan faterion lefel uchel o ran cyfyngiadau ac argaeledd tir sy'n gysylltiedig â Dwyrain y Fwrdeistref Sirol. Ar yr un pryd, mae'r Strategaeth newydd arfaethedig yn dangos sut y gellir ei chyflawni drwy ystyried yr hyn a gyflawnwyd yn y gorffennol a sut y bydd yn cael ei chyflawni hyd at 2033.

2.26 Er mwyn creu lleoedd cynaliadwy, mae'r Strategaeth yn derbyn bod rhaid iddi gynllunio ar gyfer strwythur oedran mwy cytbwys. Mae gan hyn ei heriau gan fod y boblogaeth iau yn lleihau ac mae'r boblogaeth hŷn yn cynyddu er anfantais o ran creu lleoedd cynaliadwy yng Nghonwy. Mae'n rhaid iddi sicrhau cydbwysedd drwy ddarparu'r lefel iawn o dwf o ran tai a chyflogaeth, ynghyd â'r isadeiledd a fynnir yn gymuned i annog y boblogaeth iau i aros a dychwelyd i'r ardal, ond hefyd er mwyn i'r boblogaeth hŷn fyw bywydau iach ac egnïol.

2.27 Mae'r Strategaeth newydd yn cyd-fynd â Nodau Llesiant, Egwyddorion Cynllunio Allweddol a Chanlyniadau Creu Lleoedd Cynaliadwy Cenedlaethol , gan gynnwys lleihau'r angen i deithio a chynyddu hygyrchedd drwy ddulliau eraill ar wahân i'r car preifat. Hyrwyddir cydbwysedd eang a hyblygrwydd rhwng cyfleoedd o ran tai a chyflogaeth mewn ardaloedd trefol a gwledig er mwyn lleihau'r angen i gymudo'n bell. Mae'r Strategaeth yn mabwysiadu ymagwedd sydd â'r nod o leoli prif gynhyrchwyr yr angen i deithio, fel tai, cyflogaeth, manwerthu, hamdden ac adloniant a chyfleusterau cymunedol (gan gynnwys llyfrgelloedd, ysgolion, meddygfeydd ac ysbytai), o fewn ardaloedd trefol presennol neu mewn lleoliadau eraill sy'n hawdd eu cyrraedd, neu y byddai'n bosibl eu cyrraedd ar droed neu ar feic, neu sydd â gwasanaethau cludiant cyhoeddus da. Lle bynnag y bo modd, mae'r Strategaeth yn ceisio lleoli datblygiadau dwysedd uwch ger pwyntiau cludiant cyhoeddus neu gyfnewidfeydd lle mae gan yr isadeiledd cludiant y capasiti i ddarparu ar gyfer cynnydd mewn defnydd ac sy'n cyd-fynd â chynnal iechyd, amwynder a lles pobl.

(17)2.28 Twf Cyflawnadwy a Chynaliadwy

Bydd y CDLlN yn darparu ar gyfer y lefel dwf a ganlyn dros Gyfnod y Cynllun o 2018-2033. Mae'r twf a gynigir ychydig yn uwch na senarios amcanestyniadau Llywodraeth Cymru. Fodd bynnag, mae'r twf arfaethedig yn adlewyrchu newidiadau o ran poblogaeth ac aelwydydd , rhagolygon cyflogaeth ar lefel leol a rhanbarthol ac anghenion tai fforddiadwy , sy'n arwain at yr angen am y lefelau twf a ganlyn. Mae'r fethodoleg ar gyfer y senario twf hwn yn wahanol i'r fethodoleg amcanestyniadau traddodiadol a ddefnyddir i asesu opsiynau amgen2. Cyfrifir yr effeithiau o ran poblogaeth, aelwydydd ac anheddau yn defnyddio methodoleg ôl-iteriad ('backward iteration methodology') sy'n addasu elfennau o newid o ran poblogaeth (lefelau ymfudo yn bennaf ymhlith y boblogaeth o oedran gweithio a'u dibynyddion) i gyfateb twf o ran swyddi gyda lefelau twf o ran poblogaeth.

4,300 o Gartrefi newydd
a
1,800 o Swyddi newydd

2.29 Twf o ran Cartrefi a'u Math

Hyrwyddir lefel holistaidd o dwf o ran tai a chyflogaeth. Bydd y CDLlN yn darparu'r cyfle i gyflenwi 4,300 o gartrefi dros Gyfnod y Cynllun. Mae hyn yn cyfateb i 290 o gartrefi y flwyddyn o 2018 i 2033.

2.30 Mae'r Strategaeth newydd yn sicrhau bod digon o gyfle'n bodoli i wneud y gorau o ddarpariaeth fforddiadwy i gefnogi anghenion tai mewn ardaloedd gwledig a threfol, wrth ddarparu sylfaen gref ar gyfer darparu lefel gyflawnadwy o dai'r farchnad agored. Darperir cyfleoedd i gydbwyso demograffeg y Sir drwy gadw oedolion ifanc a'u hymfudiad i mewn i'r Sir, lleihau allgymudo, a mynd i'r afael â rhai o'r materion o ran poblogaeth sy'n heneiddio.

(4)2.31 Bydd y Strategaeth newydd yn cynllunio ar gyfer y math a'r cyfuniad iawn o dai i ddarparu ar gyfer aelwydydd llai a rhai sydd wedi'u haddasu ar gyfer pobl hŷn. Mae Asesiad Marchnad Dai Leol Conwy yn awgrymu y dylai 35% o'r cyflenwad tai gynnwys eiddo 1a 2 ystafell wely, gyda 35% yn eiddo 3 ystafell wely a 30% yn eiddo 4 a 5 ystafell wely. Bydd elfen o hyblygrwydd i'r cyfuniad hwn i ddarparu ar gyfer nodweddion lleol a newidiol aneddiadau.

(1)2.32 Cartrefi a Hyblygrwydd

Y gofyniad tai sylfaenol ar gyfer Conwy yw 4,300, sydd hefyd yn adlewyrchu'r cyflenwad posibl o 100 o gartrefi y gellir ei ddarparu o fewn Parc Cenedlaethol Eryri dros Gyfnod y Cynllun. Ychwanegir lefel hyblygrwydd o 20% (850) sy'n cyfateb i gyflenwi 5,150 o gartrefi newydd.

(2)2.33 Tai Fforddiadwy

Cynllunnir targed uchelgeisiol ond cyflawnadwy i gyflenwi 1800 (120 y flwyddyn) o gartrefi fforddiadwy ar gyfer y cyfnod hyd at 2033, gan gynnwys oddeutu 1000 o dai newydd fforddiadwy ac 800 arall yn sgil mecanweithiau polisi a mentrau'r Cyngor. Mae'r targed hwn yn ganlyniad ymgymryd ag asesiad o anghenion tai fforddiadwy y gymuned ynghyd â llunio Asesiad Hyfywedd Fai Fforddiadwy . Cyflawnir y targed drwy gyfuniad o fecanweithiau, gan gynnwys dyraniadau tir, polisïau a mentrau'r Cyngor. Mae Asesiad Marchnad Dai Leol Conwy yn awgrymu y dylai'r cyflenwad o dai fforddiadwy ar safleoedd ddarparu ar gyfer 50% o Dai Cymdeithasol a 50% o Dai Cost Isel o ran Perchnogaeth. Gweithredir y cyfuniad hwn gydag elfen o hyblygrwydd i ddarparu ar gyfer nodweddion lleol a newidiol aneddiadau.

(1)2.34 Twf Swyddi a'u Math

O ran creu lleoedd cynaliadwy, cyfrannu at strwythur oedran mwy cytbwys a lleihau lefelau allgymudo anghynaliadwy, cynllunnir ar gyfer lefel dwf o 1800 o swyddi yn y cyfnod hyd at 2033, sy'n awgrymu'r angen am 12 - 14 hectar o dir cyflogaeth ar gyfer swyddi newydd dros Gyfnod y Cynllun. Mae hyn yn adlewyrchu'r amcanion o ran twf a chreu swyddi sy'n debygol o gael eu darparu yng Nghonwy drwy Fargen Dwf Gogledd Cymru. Bydd y Strategaeth newydd yn cynllunio ar gyfer tir i ddarparu ar gyfer 50% o'r 1800 o swyddi i ddiwallu anghenion Busnesau B1 a 50% ar gyfer Warysau Diwydiannol B2/B8.

(8)2.35 Strategaeth Dosbarthiad Gofodol

Er mwyn sicrhau cyflawni Gweledigaeth ac Amcanion y Cynllun, mae'r Strategaeth Dosbarthiad Gofodol yn arwain lleoliad y twf a'r ddarpariaeth o wasanaethau ac isadeiledd tuag at y lleoedd mwyaf hygyrch a chynaliadwy a nodir yn yr Hierarchaeth Aneddiadau. Ar ôl nodi a deall anghenion a chynaliadwyedd ardaloedd trefol a gwledig presennol a nodir o fewn yr Hierarchaeth Aneddiadau, mae'r Strategaeth a Ffefrir yn cynnig canolbwyntio 90% o'r twf o fewn Ardal Strategaeth Datblygu Arfordirol (CDSA) a 10% o fewn yr Ardal Strategaeth Datblygu Gwledig (RDSA). Mae hyn yn fwy neu lai'n cyd-fynd â rhaniad presennol y boblogaeth yng Nghonwy ac mae iddo'r manteision o ddiwallu anghenion a chyflawni cyfleoedd mewn cymunedau trefol a gwledig.

2.36 Ardal Strategaeth Datblygu Arfordirol (CDSA)

Mae'r Ardal Strategaeth Datblygu Arfordirol (CDSA) yn cynnig y cyfle gorau i leoli twf, diwallu anghenion y gymuned, hybu teithio llesol, cymunedau iachach, mynd i'r afael â newid hinsawdd ac, yn y diwedd, cydymffurfio ag Egwyddorion Creu Lleoedd Cynaliadwy ac Elfennau Allweddol y Strategaeth. Mae'n cynnwys pedair ardal strategol ar draws y coridor arfordirol, sy'n cynnwys y prif aneddiadau trefol, Prif Bentrefi Haen 1 a nifer o aneddiadau bychain eraill o fewn yr Hierarchaeth Aneddiadau (gweler Tabl 3). Tra na fydd y Pentrefi Haen 1 yn darparu ar gyfer yr un lefel o dwf â'r aneddiadau trefol, fe'u cynhwyswyd oherwydd eu hygyrchedd a'u cysylltiad â'r ardaloedd trefol a llwybrau cludiant strategol. Fel y cyfryw, mae'r CDSA yn cyfeirio tua 90% o'r datblygiadau newydd, yn bennaf, o fewn neu'n gyfagos i'r aneddiadau trefol o fewn y pedair Ardal Strategol, sef ardaloedd y Gorllewin, y Creuddyn, a'r Canol ac i lefel is, o fewn y Dwyrain (gweler Map 1). Mae'r lleoliadau hyn yn hygyrch i wasanaethau allweddol, wedi'u cysylltu'n agos ag ardaloedd cyflogaeth presennol, yn cael eu cefnogi gan rwydwaith ffyrdd, rheilffyrdd a chludiant cyhoeddus ardderchog, ac yn ffurfio'r ardaloedd amlycaf sydd angen tai'r farchnad agored a thai fforddiadwy.

Map 1: Diagram Allweddol y CDLlN

map%201%20cymraeg

(1)2.37 Bydd angen cael ymagwedd gytbwys ac wedi'i haddasu tuag at ddosbarthu twf o fewn y pedwar ardal strategol er mwyn sicrhau bod y lefel uchel o gyfyngiadau ar gyfer y perygl o lifogydd sy'n gysylltiedig â'r Dwyrain yn cael eu ffactorio'n llawn. Fel y cyfryw, bydd y twf na ellir darparu ar ei gyfer o fewn y Dwyrain yn cael ei ddosbarthu'n gymesur ar draws gweddill yr ardaloedd strategol a ystyrir i fod y lleoliadau mwyaf cynaliadwy. I ddarparu ar gyfer twf, bydd y ffiniau anheddiad a'r lletemau glas yn cael eu hadolygu a'u diwygio. Ni chaniateir datblygu y tu allan i'r ffiniau aneddiadau yn aneddiadau trefol a Phentrefi Haen 1 y CDSA, ac eithrio mewn amgylchiadau eithriadol i gefnogi newidiadau o ran gofynion cyflogaeth ac i gynorthwyo Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (LCC) i gyflwyno lefelau uwch o dai fforddiadwy, hyd at uchafswm o 20 o unedau.

2.38 Ardal Strategaeth Datblygu Arfordirol: Y Gorllewin

Lleolir yr ardal strategol hon yng nghyrion pellaf Ardal Cynllun y CDLlN, wedi'i gwahanu'n ffisegol o ardal Creuddyn gan bentir Penmaenbach, ac mae Parc Cenedlaethol Eryri yn ffinio â hi tua'r de. Llanfairfechan a Phenmaenmawr yw'r ddau anheddiad trefol o fewn yr ardal strategaeth hon, ac at ei gilydd, maent yn hunangynhwysol gyda lefel dda o gyfleusterau a gwasanaethau (cyfeiriwch at Fap 2). Er mwyn adlewyrchu'r lefelau poblogaeth, gwasanaethau a chyfleusterau, hygyrchedd da a'r effeithiau mewn perthynas â'r dosbarthiad twf wedi'i addasu o'r Dwyrain, lleolir 10% o'r twf o ran tai (marchnad agored a fforddiadwy) o fewn Ardal Strategol y Gorllewin, gan gynnwys safleoedd a gwblhawyd, caniatadau, datblygiadau ar hap a dyraniadau newydd. O ganlyniad i dopograffi ac argaeledd tir ym Mhenmaenmawr, lleolir y mwyafrif o gartrefi newydd o fewn Llanfairfechan, sy'n arbennig o hygyrch i'r rhwydwaith rheilffyrdd a ffyrdd strategol a'r aneddiadau trefol lefel uwch ehangach. Yn seiliedig ar gasgliadau'r Adroddiad Dadansoddi Marchnad Masnachol ni fydd unrhyw ddyraniadau cyflogaeth newydd yn cael eu lleoli o fewn Ardal Strategol y Gorllewin. Mae Llanfairfechan yn profi materion o ran capasiti ysgolion cynradd ar hyn o bryd, ac mae ysgol Band B newydd wedi'i chynllunio rhwng 2019 a 2024. I sicrhau bod modd cyflawni twf a thai newydd, cynigir safle strategol defnydd cymysg yn Llanfairfechan sy'n cynnwys 400 o gartrefi newydd, tai fforddiadwy, ysgol gynradd newydd a man hamdden. Bydd angen rhoi gwelliannau ar waith i wella'r parth cerddwyr o'r ardaloedd preswyl ehangach a'r llwybrau teithio llesol i gefnogi cynaliadwyedd y safle a'r ardal strategol.

2.39 Lleolir Pentref Haen 1 Dwygyfylchi o fewn Ardal Strategol y Gorllewin, fel y mae Pentrefan Capelulo. Fe'u lleolir i'r dwyrain o aneddiadau trefol Llanfairfechan a Phenmaenmawr ac mae ganddynt fynediad da i'r aneddiadau trefol drwy'r rhwydwaith cludiant strategol a chludiant cyhoeddus. Bydd lefel y twf o fewn yr aneddiadau hyn yn cyd-fynd â'r hierarchaeth aneddiadau ac yn adlewyrchu ystod bresennol y cyfleusterau a'r gwasanaethau a'r rheiny a gynllunnir dros Gyfnod y Cynllun.

map%202%20cymraeg

(1)2.40 Ardal Strategaeth Datblygu Arfordirol: Y Creuddyn

Llandudno, Cyffordd Llandudno a Chonwy yw'r prif aneddiadau trefol o fewn yr ardal hon, sy'n perfformio rôl ddiwylliannol, gymdeithasol ac economaidd bwysig ar gyfer Ardal y Cynllun. Fe'u lleolir yn strategol gyda chysylltiadau ardderchog i'r rhwydwaith ffyrdd, rheilffyrdd a chludiant cyhoeddus. Dros Gyfnod y Cynllun, rhagwelir y lleolir tua 30% o'r twf o ran tai (marchnad agored a fforddiadwy) o fewn Ardal Strategol y Creuddyn sy'n cynnwys safleoedd a gwblhawyd, caniatadau, datblygiadau ar hap a dyraniadau newydd. I sicrhau y cyflawnir yr anghenion a nodir yng nghasgliadau Adroddiad Dadansoddiad Marchnad Masnachol Conwy, bydd yr ardal hefyd yn darparu ar gyfer tua 30% o'r tir cyflogaeth sy'n cynnwys safleoedd a gwblhawyd, caniatadau a dyraniadau newydd. Er yn ardal allweddol ar gyfer twf, mae cyfyngiad ar argaeledd tir o ganlyniad i faterion ffisegol, hanesyddol ac amgylcheddol. Felly cynigir safle strategol defnydd cymysg yn Llanrhos, rhwng aneddiadau trefol Cyffordd Llandudno a Llandudno, sy'n cynnwys 250 o gartrefi newydd (gan gynnwys tai fforddiadwy), 1 hectar o B1 (swyddfeydd) i hyrwyddo defnyddiau cyflogaeth clwstwr, ysgol gynradd newydd, rhandiroedd a man hamdden. Cydnabyddir yr ardal hefyd fel un sydd angen gwelliannau o ran cludiant cyhoeddus, teithio llesol ac isadeiledd gwyrdd, a hyrwyddir drwy Frîff Datblygu cynhwysfawr. Bydd y safle strategol yn cael ei ddatblygu'n raddol o 2024 ymlaen i sicrhau ei fod yn cysylltu â Rhaglen Foderneiddio Ysgolion 'Band C'. Cefnogir y safle strategol gan hygyrchedd ardderchog i'r A470 a'r A55 a ffyrdd amgen i mewn i'r aneddiadau trefol lefel uwch.

2.41 Ni fydd Canol Tref Llandudno yn darparu ar gyfer unrhyw safle manwerthu cyfleustra mawr neu gymharol hyd at 2022 , ond bydd yn cael ei warchod a, lle'n bosibl, ei wella i sicrhau cymysgedd cytbwys o ddefnyddiau sy'n cynnal y gweithgaredd drwy'r dydd a gyda'r nos. Bydd y gwasanaethau a gynigir o ran twristiaeth a llety o fewn Llandudno yn cael eu gwarchod, eu gwella a'u harallgyfeirio ymhellach ar gyfer twristiaeth drwy'r flwyddyn. Bydd Llandudno yn cydnabod y newidiadau o ran arferion siopa, yn enwedig y cynnig cymharol.

2.42 Mae Cyffordd Llandudno yn gweithredu fel hyb economaidd allweddol yng nghanol Gogledd Cymru gyda chysylltiadau ardderchog o ran ffyrdd, rheilffyrdd a chludiant cyhoeddus. Bydd y cynnig o ran cyflogaeth yn cael ei ddiogelu a'i hybu drwy raglenni gwella.

Map 3: Ardal Strategaeth: Creuddyn

map%203%20cymraeg

2.43 Bydd Conwy'n gweld ychydig iawn o dwf o ran tai a chyflogaeth oherwydd ei ansawdd amgylcheddol a hanesyddol. O fewn Canol Tref Conwy, rhoir ymagwedd gytbwys ar waith i sicrhau bod anghenion y gymuned yn cael eu diwallu, ond bod yr asedau hanesyddol ac amgylcheddol yn cael eu gwarchod a'u gwella ar yr un pryd er mwyn gwneud cyfraniad cadarnhaol tuag at dwristiaeth.

2.44 Bydd aneddiadau eraill o fewn Ardal y Creuddyn hefyd yn cefnogi rhyw lefel o dwf, sy'n gymesur â'u lefel o fewn yr hierarchaeth aneddiadau (Tabl 3). Lleolir Pentref Haen 1 Glan Conwy i'r de o Ardal Strategol y Creuddyn ar hyd yr A470. Fe'i lleolir i'r de o aneddiadau trefol Cyffordd Llandudno gyda mynediad da i'r aneddiadau trefol drwy'r rhwydwaith cludiant strategol a chludiant cyhoeddus. Bydd lefel y twf o fewn Glan Conwy yn adlewyrchu'r ystod bresennol o gyfleusterau a gwasanaethau a'r rheiny a gynllunnir dros Gyfnod y Cynllun.

2.45 Ardal Strategaeth Datblygu Arfordirol: Y Canol

Dros Gyfnod y Cynllun, rhagwelir y lleolir tua 35% o'r twf o ran tai (marchnad agored a fforddiadwy) o fewn Ardal Strategol y Canol sy'n cynnwys safleoedd a gwblhawyd, caniatadau a dyraniadau newydd. I sicrhau y cyflawnir yr anghenion a nodir yng nghasgliadau Adroddiad Dadansoddiad Marchnad Masnachol Conwy, bydd yr ardal hefyd yn darparu ar gyfer tua 10% o'r tir cyflogaeth sy'n cynnwys safleoedd a gwblhawyd, caniatadau a dyraniadau newydd.

2.46 Mae Bae Colwyn yn gwasanaethu anghenion preswyl, manwerthu ac economaidd y dalgylch o'i amgylch ac mae'n parhau i weld buddsoddiad a gwelliannau sylweddol i ganol y dref a ffryntiad y traeth. Fe'i lleolir ar hyd y rhwydwaith rheilffyrdd a ffyrdd strategol ac fe'i gwasanaethir yn effeithiol gan ddulliau cludiant cyhoeddus ac amgen. I barhau â'r buddsoddiad, bydd yr ardal yn cael ei hadfywio ymhellach dros Gyfnod y Cynllun, ond yn cael ei gwella drwy ddyrannu safle strategol i'r de o Hen Golwyn, sy'n cynnwys 450 o gartrefi newydd a mannau hamdden. Bydd y safle strategol yn cael ei ddatblygu'n raddol o 2024 ymlaen ac yn cael ei gefnogi gan welliannau o ran priffyrdd, gwell gwasanaethau cludiant cyhoeddus a chysylltiadau teithio llesol. Mae'n bosibl y bydd gwelliannau i'r ysgolion cynradd ac uwchradd cyfagos hefyd yn gofyn am ailddatblygu i ddarparu ar gyfer twf yn ystod Rhaglen Foderneiddio Ysgolion Band C o 2024 ymlaen, o ganlyniad i dwf tai. Bydd y safle hefyd yn cynnwys meddygfa ychwanegol. Hefyd, hyrwyddir safleoedd manwerthu cyfleustra a chymharol ym Mae Colwyn i ddiwallu anghenion Astudiaeth Manwerthu Conwy.

2.47 Lleolir Pentref Haen 2 Llysfaen o fewn y CDSA hefyd oherwydd ei berthynas â Hen Golwyn, tra bo cysylltiad agos iawn rhwng Pentrefan Bryn y Maen â Bae Colwyn Uchaf. Fodd bynnag, mae cynaliadwyedd yr aneddiadau hyn yn cael ei gyfyngu gan y cysylltiadau strategol â'r prif ffyrdd a'r rhwydwaith cludiant cyhoeddus. Bydd yr ymagwedd o ran polisi at yr aneddiadau hyn dros Gyfnod y Cynllun yn cael ei llywio gan eu lleoliad yn yr hierarchaeth aneddiadau, gyda lefel y twf yn adlewyrchu anghenion lleol a'r ystod bresennol o gyfleusterau a gwasanaethau a gynigir ganddynt.

Map 4: Ardal Strategaeth: Canolog

map%204%20cymraeg

(2)2.48 Ardal Strategaeth Datblygu Arfordirol: Y Dwyrain

Mae Ardal Strategol y Dwyrain yn cynnwys aneddiadau trefol Abergele, Pensarn, Towyn a Bae Cinmel, a Phentref Haen 1 Llanddulas, fel y prif ganolfannau preswyl ac economaidd. Mae'r ardal yn gwasanaethu anghenion gwasanaeth hanfodol y dalgylchoedd o amgylch.

(1)2.49 Mae Abergele wedi gweld lefelau uchel o dwf o ran tai a chyflogaeth dros flynyddoedd blaenorol, sydd yn eu tro wedi rhoi straen sylweddol ar gapasiti canol y dref o ran traffig. Bydd datblygu yn Abergele yn cael ei gyfyngu dros Gyfnod y Cynllun ar wahân i ar gyfer dod â safle strategol De Ddwyrain Abergele ymlaen ar gyfer cyflogaeth defnydd cymysg, manwerthu ac ysgol newydd. Canolbwyntir ar adfywio o fewn ardal Abergele a Phensarn a gefnogir gan ymyraethau newydd yng nghanol y dref i gynyddu capasiti ar gyfer traffig yng nghanol y dref. Mae Cynllun Cludiant Rhanbarthol Gogledd Cymru hefyd y nodi Abergele fel ardal strategol ar gyfer gwelliannau o ran capasiti canol trefi ar gyfer traffig, ac mae gwaith yn datblygu'n unol ag ymagwedd WelTAG. Ni fydd unrhyw ddyraniadau tai newydd o fewn ardal Abergele a Phensarn dros Gyfnod y Cynllun.

(5)2.50 Mae'r ardal o fewn Ardal Strategol y Dwyrain hefyd yn cynnwys aneddiadau trefol Pensarn, Towyn a Bae Cinmel. Mae'r ardaloedd hyn wedi'u cyfyngu'n sylweddol gan y perygl o lifogydd yr amddiffynnir yn ei erbyn sy'n arwain at gyfle cyfyngedig i ddarparu ar gyfer twf o ran tai a chyflogaeth dros Gyfnod y Cynllun. Fodd bynnag, mae'r ardal yn profi amddifadedd ac mae cyfleoedd i ddiwallu anghenion y gymuned yn gyfyngedig. Bydd gwelliannau'n cael eu gwneud o ran amddiffyn rhag llifogydd, ond dim ond er mwyn cynnal y sefyllfa bresennol yn hytrach nag ar gyfer cynorthwyo cyfleoedd ar gyfer twf. Mae'r cyfyngiadau hyn a'r diffyg cyfleoedd o ran datblygu yn cael eu cydnabod o fewn y Strategaeth newydd drwy hyrwyddo Ardal Adfywio a Buddsoddi y Dwyrain (AABD).

2.51 Fel y cyfryw, dros Gyfnod y Cynllun, rhagwelir y bydd tua 15% o'r twf o ran tai (marchnad agored a fforddiadwy) yn cael ei leoli o fewn Ardal Strategol y Dwyrain sy'n cynnwys safleoedd a gwblhawyd, caniatadau a hap-safleoedd yn unig. Ni fydd unrhyw ddyraniadau tai newydd yn cael eu dyrannu yn yr ardaloedd hyn, ac eithrio twf lleol o fewn Pentref Haen 1 Llanddulas, y mae llai o gyfyngiadau yno. Bydd yr angen am dwf na ellir darparu ar ei gyfer yn y Dwyrain yn cael ei rannu drwy weddill yr aneddiadau trefol cynaliadwy o fewn y CDSA. I sicrhau y cyflawnir yr anghenion a nodir yng nghasgliadau Adroddiad Dadansoddiad Marchnad Masnachol Conwy, bydd yr ardal hefyd yn darparu ar gyfer tua 50% o'r tir cyflogaeth sy'n cynnwys safleoedd a gwblhawyd, caniatadau a dyraniadau newydd. Mae hyn yn ganlyniad lefel uchel o hygyrchedd strategol, cydnabyddiaeth o fewn Bargen Dwf Gogledd Cymru a chapasiti o ran priffyrdd ar gyfer y mathau hyn o ddefnydd.

2.52 Lleolir Pentref Haen 1 Llanddulas ar hyd y rhwydwaith ffyrdd a chludiant cyhoeddus strategol, gydag Abergele wedi'i lleoli yn y dwyrain a Bae Colwyn yn y gorllewin. Bydd lefel y twf o fewn Llanddulas yn adlewyrchu ystod bresennol y cyfleusterau a'r gwasanaethau a rheiny a gynllunnir dros Gyfnod y Cynllun

Map 5: Ardal Strategaeth: Dwyrain

map%205%20cymraeg

2.53 Ardal Strategaeth Datblygu Gwledig (RDSA)

O ran y mwyafrif o ardaloedd gwledig yn RDSA Conwy, mae'r cyfleoedd ar gyfer lleihau'r defnydd o geir a chynyddu cerdded, beicio a'r defnydd o gludiant cyhoeddus yn fwy cyfyngedig nag yn y CDSA. Felly bydd aneddiadau sy'n dod o fewn y RDSA yn canolbwyntio ar dwf lleol ac arallgyfeirio, yn dibynnu ar eu cynaladwyedd a'u lleoliad o fewn yr Hierarchaeth Aneddiadau. Diffinnir Llanrwst fel Canolfan Wasanaeth Allweddol sy'n gwasanaethu llawer o gefnwlad wledig Conwy, a dyma lle y bydd datblygiadau cyflogaeth a thai yn cael eu canolbwyntio yn y RDSA.

2.54 Hyrwyddir economi wledig gref i gefnogi cymunedau gwledig cynaliadwy a bywiog. Mae sefydlu mentrau newydd ac ehangu busnesau presennol yn hanfodol i dwf a sefydlogrwydd ardaloedd gwledig, a gefnogir gan y tai a fynnir a'r isadeiledd cymunedol sy'n angenrheidiol.

2.55 Mae'r Strategaeth newydd yn canolbwyntio 10% o'r twf o ran tai yn yr aneddiadau gwledig sydd â hygyrchedd cymharol dda i ddulliau teithio nad ydynt yn defnyddio car, o gymharu â'r ardal wledig yn ei chyfanrwydd. I annog pobl i beidio â defnyddio ceir ac er mwyn gwasanaethu'r ardal wledig ehangach, lleolir 10% o'r gyflogaeth hefyd y fewn y RDSA.

2.56 Canolbwyntir y rhan fwyaf o'r twf gwledig yn Llanrwst, sy'n anheddiad sy'n cefnogi'r cymunedau gwledig ehangach yn nhermau cyflogaeth, manwerthu a gwasanaethau a chyfleusterau cymunedol. Llanrwst yw'r anheddiad mwyaf a mwyaf cynaliadwy sy'n dod o fewn y RDSA, ac a leolir rhyw 13 milltir o aneddiadau trefol Cyffordd Llandudno a Chonwy. Fe'i gwasanaethir yn bennaf gan gefnffordd yr A470, gyda'r A548 a'r B5106 hefyd yn darparu cysylltiadau ffordd lleol, tra bod Llinell Rheilffordd Dyffryn Conwy yn cysylltu â'r rhwydwaith rheilffyrdd strategol arfordirol. I annog datblygu mewn lleoliadau cynaliadwy, cynigir safle strategol yn Llanrwst sy'n cynnwys 200 o gartrefi newydd (marchnad agored a fforddiadwy) a mannau hamdden ar hyd yr A470. Bydd tir cyflogaeth gwag yn Safle Diwydiannol Tŷ Gwyn hefyd yn cael ei ddiogelu ar gyfer ei ddatblygu yn y dyfodol. Hyrwyddir manwerthu cyfleustra hefyd yn Llanrwst er mwyn diwallu'r anghenion a nodwyd.

2.57 Bydd ffin anheddiad a lletemau glas Llanrwst yn cael eu hadolygu. Caniateir datblygu y tu allan, ond ar gyrion ffin anheddiad Llanrwst, mewn amgylchiadau eithriadol i gefnogi newidiadau o ran gofynion cyflogaeth ac i gyflenwi lefelau uwch o dai fforddiadwy, hyd at 20 annedd, a lle nad oes unrhyw effeithiau annerbyniol.

2.58 Mae'r mwyafrif o'r Prif Bentrefi Haen 2, y Pentrefi Bach a'r Pentrefannau wedi'u lleoli hefyd o fewn y RDSA (Tabl 3) gyda lefelau'r twf o ran cyflogaeth a thai yn y cymunedau hyn yn gysylltiedig â'u hanghenion ar gyfer datblygiadau economaidd a phreswyl, yn seiliedig ar yr hierarchaeth aneddiadau.

Map 6: Ardal Strategaeth Datblygu Gweledig

map%206%20cymraeg

Tabl 1: Hierarchaeth Aneddiadau

Ardal Strategaeth Datblygu Arfordirol

Is-ardal

Gorllewin

Creuddyn

Canolog

Dwyrain

Trefol

Llanfairfechan, Penmaenmawr

Conwy, Cyffordd Llandudno, Deganwy/Llanrhos, Llandudno, Bae Penrhyn/Ochr Penrhyn

Llandrillo yn Rhos, Mochdre, Bae Colwyn, Hen Golwyn

Abergele/Pensarn, Tywyn, Bae Cinmel

Prif Bentrefi Haen 1

Dwygyfylchi*

Glan Conwy

Llanddulas

Prif Bentrefi Haen 2

Llysfaen

Pentrefi Bychain

Bryn Pydew, Glanwydden, Pentrefelin

Rhyd y Foel, Llan San Siôr

Pentrefannau

Capelulo*

Bryn y Maen

Bodtegwel

Ardal Strategaeth Datblygu Gwledig

Canolfan Wasanaethau Allweddol

Llanrwst

Prif Bentrefi Haen 2

Betws yn Rhos, Cerrigydrudion, Dolgarrog*, Eglwysbach, Llanfair TH, Llangernyw, Llansannan, Trefriw*, Tal y Bont*/Castell

Pentrefi Bychain

Groes, Henryd, Llanbedr y Cennin*, Llanddoged, Llanelian, Llangwm, Llannefydd, Pentrefoelas, Tal y Cafn, Tyn y Groes

Pentrefannau

Bryn Rhyd-yr-Arian, Brymbo, Bylchau, Cefn Berain, Cefn Brith, Dinmael, Glasfryn, Groesffordd, Gwytherin, Hendre, Llanfihangel GM, Maerdy, Melin y Coed, Nebo*, Pandy Tudur, Pentre Isa, Pentre Llyn Cymmer, Pentre Tafarn y Fedw, Rhydlydan, Tan y Fron

* Lleolir yr anheddiad yn rhannol o fewn Parc Cenedlaethol Eryri

(9)2.59 Hierarchaeth Aneddiadau

Aneddiadau Trefol a Chanolfannau Gwasanaeth Allweddol

Yr aneddiadau trefol o fewn y CDSA a Llanrwst yn y RDSA yw'r prif ganolbwynt ar gyfer datblygu preswyl ac economaidd dros Gyfnod y Cynllun, a bydd hynny'n parhau. Y rhain yw'r aneddiadau mwyaf gyda phoblogaeth o o leiaf 3,000, a'r aneddiadau hyn sydd a'r cysylltiadau cludiant, y cyfleusterau a'r gwasanaethau gorau i ddiwallu anghenion eu preswylwyr.

2.60 Bydd datblygiadau economaidd presennol ac arfaethedig yn yr aneddiadau hyn sy'n cefnogi swyddi lleol yn cael eu cefnogi, yn amodol ar yr holl faterion perthnasol. Nodir safleoedd strategol yn Llanfairfechan, Llanrhos, Hen Golwyn, Abergele a Llanrwst a fydd yn diwallu'r angen ar gyfer ystod o ddarpariaeth o ran cyflogaeth, preswyl, rhandiroedd, addysg a mannau agored. Er mwyn darparu cyfleoedd ar gyfer cyflenwi mwy o dai fforddiadwy ar gyfer anghenion lleol, caniateir datblygiadau bach o hyd at 20 o anheddau ar safleoedd addas y tu allan, ond yn gyfagos, i Aneddiadau Trefol a'r Ganolfan Wasanaeth Allweddol, yn amodol ar ddarparu lleiafswm o 50% ohonynt yn dai fforddiadwy.

2.61 Prif Bentrefi Haen 1

Mae'r CDLlN yn nodi tri Phrif Bentref Haen 1 sy'n llai, a gyda llai o wasanaethau a chyfleusterau lleol na'r aneddiadau trefol, felly bydd lefel y twf a gefnogir dros Gyfnod y Cynllun yn is ar gyfartaledd. Er hynny, lleolir y Pentrefi Haen 1 mewn lleoliadau cynaliadwy iawn sydd â mynediad da i gysylltiadau cludiant strategol a'r aneddiadau trefol, felly dyrannir rhai safleoedd datblygu yn y lleoliadau hyn. Bydd lefelau tai fforddiadwy ar safleoedd a ddyrannir a safleoedd ar hap o fewn ffiniau anheddiad Prif Bentrefi Haen 1 yn cael eu diffinio gan y polisi tai fforddiadwy, yn seiliedig ar asesiad hyfywedd. Er mwyn darparu cyfleoedd ar gyfer cyflenwi mwy o dai fforddiadwy, caniateir datblygiadau bach o hyd at 20 o anheddau ar safleoedd addas y tu allan, ond yn gyfagos, i Brif Bentrefi Haen 1, yn amodol ar ddarparu lleiafswm o 50% ohonynt yn dai fforddiadwy.

2.62 Prif Bentrefi Haen 2

Mae'n hanfodol i'r Prif Bentrefi Haen 2 allu cynnal eu hunain er mwyn creu lleoedd cynaliadwy. Mae'r aneddiadau hyn yn bennaf yn gwasanaethu eu poblogaeth leol, ac fel y cyfryw, hyrwyddir twf ac arallgyfeirio o'r fath er mwyn cynnal hunaniaeth gymunedol, gwarchod yr Iaith Gymraeg ac annog strwythur oedran mwy cytbwys.

(1)2.63 Ni fydd tir yn cael ei ddyrannu ar gyfer datblygiadau newydd yn y Pentrefi Haen 2. Fel arall, hyrwyddir ymagwedd hyblyg o fewn y ffiniau anheddiad. Cefnogir mentrau newydd a chynlluniau i ehangu busnesau yn y Pentrefi Haen 2. Mabwysiadir ymagwedd adeiladol hefyd tuag at gynigion ar gyfer datblygiadau amaethyddol, yn enwedig y rheiny a ddylunnir i ddiwallu anghenion arferion ffermio newidiol neu sy'n angenrheidiol er mwyn cydymffurfio â deddfwriaeth newydd o ran yr amgylchedd, hylendid neu les. Mabwysiadir ymagwedd gadarnhaol tuag at addasu adeiladau gwledig ar gyfer eu hailddefnyddio at ddibenion busnes, yn ogystal â chymryd ymagwedd gadarnhaol tuag at brosiectau arallgyfeirio mewn ardaloedd gwledig.

2.64 Wrth gydnabod y cyflenwad tai blaenorol yn yr aneddiadau gwledig hyn byddir yn fwy hyblyg. Gellir caniatáu tai marchnad agored a fforddiadwy o fewn y ffiniau anheddiad ar safleoedd ar hap a rhai a ddyrannir. Bydd hyfywedd cynlluniau tai yn pennu'r lefel briodol o dai marchnad agored a thai fforddiadwy. Yn gyffredinol, bydd cynlluniau o'r fath yn llai na'r aneddiadau lefel uwch ac yn cael eu cyfyngu i 15 o unedau a llai er mwyn gwarchod yr amgylchedd naturiol a hanesyddol. Gellir caniatáu safleoedd eithriedig ar gyfer tai fforddiadwy ynghyd â chyfleoedd cyflogaeth y tu allan, ond ar gyrion, ffiniau aneddiadau ar raddfa sy'n briodol i swyddogaeth yr anheddiad, a lle nad oes unrhyw effeithiau annerbyniol.

2.65 Mân Bentrefi

Mae Mân Bentrefi yn profi'r un materion â chymunedau gwledig eraill ond maent yn fwy hunangynhwysol na Phrif Bentrefi Haen 2. Y flaenoriaeth ar gyfer y Mân Bentrefi yw hybu bywiogrwydd, gwarchod hunaniaeth gymunedol a chreu strwythur oedran mwy cytbwys. Mae'r aneddiadau hyn yn gwasanaethu eu poblogaeth leol yn dda, ond mae ganddynt lai o wasanaethau a chyfleusterau cymunedol na'r aneddiadau gwledig ar lefel uwch, ac fel y cyfryw, dylid eu gwarchod a'u hyrwyddo.

2.66 Nid oes unrhyw ffiniau anheddiad ar gyfer Mân Bentrefi ac ni wneir unrhyw ddyraniadau ar gyfer tai'r farchnad agored neu gyflogaeth. Fel arall, cefnogir lefel briodol o ddatblygu i ddiwallu twf lleol ac arallgyfeirio. Caniateir sefydlu mentrau newydd ac ehangu busnesau presennol gyda chefnogaeth gan y tai a fynnir a'r isadeiledd cymunedol angenrheidiol sy'n briodol i gymeriad yr anheddiad. Bydd datblygiadau ar lefel is na hynny a ganiateir yn yr aneddiadau gwledig lefel uwch.

2.67 Mabwysiadir ymagwedd adeiladol tuag at gynigion ar gyfer datblygiadau amaethyddol, yn enwedig y rheiny a ddylunnir i ddiwallu arferion ffermio newidiol. Bydd adeiladau gwledig yn cael eu haddasu i'w hailddefnyddio at ddibenion busnes, yn ogystal â chymryd ymagwedd gadarnhaol tuag at brosiectau arallgyfeirio mewn Mân Bentrefi.

2.68 Byddir yn fwy hyblyg o ran datblygiadau tai i ddiwallu anghenion dros Gyfnod y Cynllun. Gellir caniatáu tai'r farchnad agored a thai fforddiadwy o fewn cyfyngiadau'r aneddiadau ar safleoedd ar hap, lle mae datblygiadau'n cynrychioli mewnlenwi neu dalgrynnu. Bydd hyfywedd cynlluniau tai yn pennu'r lefel briodol o dai'r farchnad agored a thai fforddiadwy. Yn gyffredinol, bydd cynlluniau o'r fath yn llai na'r aneddiadau gwledig lefel uwch ac wedi'u cyfyngu i 10 uned a llai i warchod yr amgylchedd naturiol a hanesyddol. Gellir caniatáu safleoedd eithriedig ar gyfer tai fforddiadwy a chyfleoedd cyflogaeth ar safleoedd sy'n gyfagos i aneddiadau ar raddfa sy'n briodol i swyddogaeth yr anheddiad, a lle nad oes unrhyw effeithiau annerbyniol.

2.69 Pentrefannau

Pentrefannau yw'r haen leiaf o aneddiadau a nodir yn y CDLlN ar gyfer Conwy ac, yn gyffredinol, maent yn cynnwys clystyrau bach iawn o 20-50 o dai. Mae cyfleusterau lleol a chysylltiadau cludiant cyhoeddus yn wael at ei gilydd, sy'n gwneud y rhain yn lleoliadau llai cynaliadwy ar gyfer cyflogaeth newydd neu ddatblygiadau preswyl. Er hynny, gan gydnabod bod cymunedau bach gwledig yn dal i allu bod angen tai newydd, caniateir datblygiadau preswyl cyfyngedig ar safleoedd ar gyfer uchafswm o 5 annedd, sy'n cael eu llywio gan yr angen lleol am dai fforddiadwy.

2.70 Nid oes unrhyw ffiniau anheddiad yn cael eu nodi mewn Pentrefannau, ond ar safleoedd addas o fewn yr anheddiad, yn ffurf mewnlenwi neu dalgrynnu, caniateir elfen o dai'r farchnad agored i gefnogi'r cyflenwad o dai fforddiadwy. Ni fydd ymestyn aneddiadau, ar safleoedd sy'n gyfagos i'r pentrefan presennol ond yn cael ei ganiatáu mewn amgylchiadau eithriadol i ddarparu 100% o dai fforddiadwy, yn amodol ar gydymffurfio â pholisïau eraill.

2.71 Cefn Gwlad Agored

Mae cefn gwlad agored, y tu allan i unrhyw aneddiadau a gydnabyddir, yn adnodd dynamig ac amlbwrpas ac mae'n rhaid ei gadw a, lle'n bosibl, ei wella er mwyn ei werth ecolegol, daearegol, ffisiograffig, hanesyddol, archeolegol, diwylliannol ac amaethyddol ac ar gyfer ei adnoddau tirwedd a naturiol. Diffinnir Lletemau Glas ac Ardaloedd Tirwedd Arbennig i warchod yr ardaloedd hynny sy'n gwneud cyfraniad eithriadol i'r asedau tirwedd. Bydd yr angen i gadw'r nodweddion hyn yn cael ei gydbwyso yn erbyn anghenion economaidd, cymdeithasol a hamdden cymunedau lleol ac ymwelwyr. Tra dylid parhau i warchod cefn gwlad agored lle bynnag y bo modd, gellir cefnogi ehangu busnesau presennol a leolir mewn cefn gwlad agored os nad oes unrhyw effeithiau annerbyniol.

2.72 Diagram Allweddol

Mae'r Diagram Allweddol (Map 1) yn darlunio Strategaeth y CDLlN ar raddfa Cynllun Ardal eang.

2.73 Creu Lleoedd Cynaliadwy, Lles a Newid Hinsawdd

Lleoedd Cynaliadwy yw nod blaenoriaethol CDLlC Conwy. Wrth gynllunio ar gyfer lleoedd cynaliadwy yng Nghonwy, mae'r Strategaeth newydd yn coleddu egwyddorion datblygu cynaliadwy a chysyniad creu lleoedd. Dylai'r holl benderfyniadau o ran datblygu o fewn Conwy ceisio cyfrannu tuag at wneud lleoedd cynaliadwy a sicrhau gwelliant o ran lles. Dylai'r Cynllun greu lleoedd cynaliadwy sy'n ddeniadol, yn gymdeithasol, yn hygyrch, yn egnïol, yn ddiogel, yn groesawgar, yn iach ac yn gyfeillgar. Drwy weithredu yn y fath fodd, bydd yn sicrhau bod y CDLlN yn gwreiddio ysbryd Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol ac yn ceisio cymryd camau cadarnhaol i greu lleoedd cynaliadwy a gwella lles economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol cymunedau. Bydd hefyd yn allweddol o ran mynd i'r afael ag achosion ac effeithiau newid hinsawdd.

2.74 Bydd y CDLlN yn hyrwyddo Creu Lleoedd Cynaliadwy drwy'r canlynol:

Diogelu'r Amgylchedd i'r Eithaf a Lleihau'r Effaith ar yr Amgylchedd

  • Diogelu a hybu bioamrywiaeth, ecosystemau, trefluniau, seinweddau a thirweddau.
  • Hyrwyddo Isadeiledd gwyrdd.
  • Lleihau Risgiau Amgylcheddol.
  • Rheoli adnoddau dŵr yn naturiol drwy hyrwyddo rheoli dŵr mewn modd cynaliadwy (gan gynnwys sicrhau cyflenwad cynaliadwy o adnoddau dŵr ac ansawdd dŵr, hyrwyddo dulliau draenio cynaliadwy a mynd i'r afael â materion o ran llifogydd). Mae hyn yn cynnwys lleihau natur fregus cymunedau drwy sicrhau nad yw datblygiadau'n cael eu lleoli mewn ardaloedd lle ceir perygl mawr o lifogydd.
  • Hyrwyddo Aer Glân a Lleihau Llygredd.
  • Hyrwyddo Gwydnwch yn Wyneb Newid Hinsawdd.
  • Creu Amgylcheddau Arbennig ac Unigryw.

Hwyluso Amgylcheddau Hygyrch ac Iach

  • Hyrwyddo iechyd a lles corfforol a meddyliol.
  • Diogelu mannau gwyrdd hygyrch ac o safon uchel.
  • Hyrwyddo teithio llesol a chludiant cyhoeddus hygyrch a pheidio â dibynnu ar geir, drwy ddosbarthu a lleoli datblygiadau yn unol â'r fframwaith aneddiadau gyda golwg ar leihau dibyniaeth diesgus ar y car modur preifat. Bydd yn hyrwyddo dewisiadau teithio amgen cynaliadwy a 'gwyrdd' gan adeiladu ar ddatblygiadau mewn technoleg a hyrwyddo hygyrchedd i ddulliau teithio amgen.
  • Darparu hygyrchedd i bawb.
  • Darparu cymunedau diogel a chynhwysol i bawb.
  • Darparu mynediad i bawb i wasanaethau a chyfleusterau allweddol.

Gwneud y Defnydd Gorau o Adnoddau

  • Gwneud y defnydd gorau o adnoddau naturiol.
  • Hyrwyddo rheoli gwastraff mewn modd cynaliadwy.
  • Blaenoriaethu'r defnydd o dir a ddatblygwyd yn flaenorol ac adeiladau presennol.
  • Datgloi potensial, adfywio a denu buddsoddiad i greu cymunedau cryf.
  • Hyrwyddo dylunio o ansawdd da a datblygiadau cynaliadwy.

Tyfu Ein Heconomi Mewn Modd Cynaliadwy

  • Meithrin gweithgaredd economaidd sy'n coleddu technoleg a chyfathrebu clyfar ac arloesol.
  • Lleihau'r galw a'r defnydd o ynni drwy hwyluso'r cyflenwad o adeiladau a chartrefi carbon niwtral, gan gynnwys hyrwyddo'r defnydd effeithlon o adnoddau, a chyfeirio datblygiadau at dir a ddatblygwyd yn flaenorol lle bynnag y bo modd.
  • Hyrwyddo amgylcheddau economaidd bywiog a dynamig sy'n gallu addasu i newid.

Creu a Chynnal Cymunedau

  • Galluogi'r Iaith Gymraeg i ffynnu.
  • Diogelu dwyseddau priodol o ran datblygu.
  • Sicrhau bod cartrefi a swyddi ar gael i ddiwallu anghenion y gymdeithas.
  • Hyrwyddo cymysgedd o ddefnyddiau lle bo'n briodol.
  • Cynnig profiadau diwylliannol.
  • Diogelu a gwarchod cyfleusterau a gwasanaethau yn y gymuned.

(1)2.75 Elfennau Allweddol y Strategaeth

Ffurfir y Strategaeth newydd ar ôl cael ei hystyried yn erbyn nifer o Elfennau Allweddol y Strategaeth sy'n seiliedig ar y Papurau Cefndir, y Papurau Testun, ynghyd â'r Materion a'r Amcanion arfaethedig. Dylanwadwyd ar y strategaeth gan nifer o elfennau allweddol y strategaeth i sicrhau ei bod yn iawn ar gyfer Conwy:

Tabl 2: Elfen Allweddol y Strategaeth

Elfen Allweddol y Strategaeth

A yw'r Strategaeth newydd yn ystyried yr elfen hon?

Yn ystyried Strategaethau, Cynlluniau, Polisïau a Thystiolaeth Cenedlaethol, Rhanbarthol a Lleol.

Oes

Yn ystyried Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, y 5 Egwyddor Cynllunio a Chanlyniadau Cynaliadwy.

Oes

Yn ceisio creu Lleoedd Cynaliadwy ac yn coleddu creu lleoedd cynaliadwy.

Oes

Yn hyrwyddo lleoedd iach, cydraddoldeb a lles yng Nghonwy.

Oes

Yn hyrwyddo strwythur oedran mwy cytbwys ac yn ceisio lleihau allgymudo drwy gyflenwi a gwarchod y lefel iawn o gartrefi, swyddi a chyfleusterau cymunedol i gefnogi cadw a dychweliad y boblogaeth iau ac economaidd weithgar.

Oes

Byddai'n hyrwyddo strategaeth holistaidd ac yn caniatáu ar gyfer darparu cartrefi a chyflogaeth newydd yn unol â'r Hierarchaeth Aneddiadau i adlewyrchu cynaliadwyedd, hygyrchedd a nodweddion swyddogaethol aneddiadau, eu gwasanaethau a'u cyfleusterau, yn ogystal â'u gallu i ddarparu ar gyfer twf.

Oes

Yn cydnabod lefel uchel y perygl o ran llifogydd a'r cyfyngiadau o ran priffyrdd i'r Dwyrain o'r Fwrdeistref Sirol ynghyd â'r angen i hybu buddsoddiad ac adfywio i hyrwyddo cymunedau cryf.

Oes

Mae'n cefnogi ac yn darparu ar gyfer yr isadeiledd angenrheidiol o ran cyfleustodau a'r gymuned er mwyn cefnogi twf.

Oes

Mae'n ceisio darparu 4,300 (ac 20% wrth gefn) o gartrefi newydd a 1800 o dai fforddiadwy a gefnogir gan yr isadeiledd a fynnir o ran cyfleustodau a'r gymuned.

Oes

Yn ceisio cynyddu nifer unedau tai marchnad agored llai, cyfleoedd ar gyfer byw mewn cartrefi a addaswyd a rhaniad 50% yn y cyflenwad o eiddo cymdeithasol a chost isel o ran perchnogaeth, lle bo'n briodol.

Oes

Ei bod yn gyflawnadwy ac yn adlewyrchu cyfraddau adeiladu blaenorol a chapasiti'r diwydiant datblygu.

Oes

Yn hyrwyddo mwy o hyblygrwydd yn yr ardaloedd gwledig i adlewyrchu'r anhawster o ran cyflenwi cynlluniau tai, ac yn y diwedd yn darparu ar gyfer fframwaith sy'n gwarchod hunaniaeth gymunedol ac yn cefnogi twf lleol.

Oes

Yn darparu ar gyfer 1,800 o swyddi newydd i gyfrannu at dwf economaidd a chreu swyddi sy'n adlewyrchu Adolygiad Tir Cyflogaeth Conwy, Bargen Dwf ranbarthol Gogledd Cymru a'r cyflenwad o isadeiledd, wrth ddarparu hyblygrwydd ar gyfer newidiadau o ran gofynion economaidd dros Gyfnod y Cynllun.

Oes

Yn adlewyrchu Dadansoddiad Marchnad Cyflogaeth Conwy o ran y lleoliad priodol ar gyfer twf cyflogaeth newydd.

Oes

Yn cydnabod argaeledd cyfyngedig tiroedd llwyd, ond ar yr un pryd yn blaenoriaethu cyfleoedd ar safleoedd tir llwyd lle maent yn addas ac yn gyflawnadwy, cyn ystyried safleoedd tir glas.

Oes

Yn hyrwyddo lefel briodol o ddatblygu mewn aneddiadau gwledig i ddiwallu twf lleol ac arallgyfeirio.

Oes

Mewn ardaloedd gwledig, mae'n cadw nodweddion sydd wedi'u cydbwyso yn erbyn anghenion economaidd, cymdeithasol a hamdden cymunedau lleol ac ymwelwyr.

Oes

Yn mabwysiadu ymagwedd adeiladol tuag at gynigion ar gyfer datblygiadau amaethyddol, yn enwedig y rheiny a ddylunnir i ddiwallu anghenion arferion ffermio newidiol neu sy'n angenrheidiol i gyflawni cydymffurfiaeth â deddfwriaeth newydd o ran yr amgylchedd, hylendid neu les. Ymagwedd gadarnhaol tuag at addasu adeiladau gwledig i'w hailddefnyddio at ddibenion busnes, yn ogystal â mabwysiadu ymagwedd gadarnhaol tuag at brosiectau ar gyfer arallgyfeirio mewn ardaloedd gwledig.

Oes

Yn cyfrannu at gyflenwi cyfleoedd ar gyfer adfywio ffisegol a chymdeithasol ac yn darparu ar gyfer ystod amrywiol a chydlynus o aneddiadau a chymunedau.

Oes

Yn cydnabod gwerth iaith ac yn cynnwys polisïau i gefnogi twf o ran y defnydd o'r Iaith Gymraeg.

Oes

Yn gwella ansawdd dylunio i greu lleoedd gwych ar gyfer pobl yng Nghonwy.

Oes

Yn gwarchod rhag blerdwf trefol a datblygiadau amhriodol drwy adolygu'r Lletemau Glas a'r defnydd o ffiniau aneddiadau.

Oes

Yn nodi'r safleoedd Strategol Allweddol o fewn y Strategaeth a Ffefrir.

Oes

Bydd yn annog dulliau cludiant cynaliadwy amgen er mwyn hybu cerdded, beicio a chludiant cyhoeddus, lleihau dibyniaeth ar y car ar gyfer teithio bob dydd a chyfrannu at leihau'r newid yn yr hinsawdd.

Oes

Yn lleoli twf mewn ardaloedd sydd â'r isadeiledd angenrheidiol neu sydd wedi'i gynllunio i greu lleoedd cynaliadwy, a lleihau'r angen i ddefnyddio ceir. Dylai'r CDLlN hefyd nodi yn lle mae angen rhagor o gludiant cyhoeddus a chyfnewidfeydd a dylid eu gwarchod er mwyn cefnogi datblygiadau newydd.

Oes

Yn diwallu anghenion presennol Sipsiwn a Theithwyr ac yn darparu'r mecanweithiau angenrheidiol i gyflenwi ar gyfer anghenion yn y dyfodol.

Oes

Yn lleihau effaith datblygu ar yr arfordir ac yng nghefn gwlad ac yn ceisio cadw a gwella asedau treftadaeth naturiol a diwylliannol Conwy sydd o ansawdd uchel.

Oes

Yn ceisio cyflawni canolfannau tref a masnachol bywiog, deniadol a hyfyw yng Nghonwy drwy ailddiffinio eu rôl a thrwy annog amrywiaeth o weithgareddau a defnyddiau.

Oes

Fe'i cefnogir gan yr isadeiledd a fynnir o ran cyfleustodau a'r gymuned.

Oes

Yn annog twristiaeth lle mae'n cyfrannu at ddatblygu economaidd, cadwraeth, arallgyfeirio gwledig, adfywio trefol a chynhwysiant cymdeithasol, wrth gydnabod anghenion ymwelwyr a chymunedau lleol.

Oes

Yn cefnogi llwyddiant parhaus twf presennol twristiaid yng Nghonwy, drwy annog datblygiadau priodol sy'n gysylltiedig â thwristiaeth, sy'n sympathetig o ran natur a graddfa i'r amgylchedd lleol.

Oes

Yn sicrhau bod twristiaeth gynaliadwy yn cael ei hyrwyddo, sy'n ceisio darparu ar gyfer twristiaeth drwy gydol y flwyddyn yn hytrach na thymhorol.

Oes

Yn cefnogi isadeiledd telathrebu mewn lleoliadau priodol ac yn nodi polisïau ar gyfer datblygu telathrebu, gan gynnwys polisïau sy'n seiliedig ar feini prawf er mwyn arwain datblygiadau i leoliadau addas.

Oes

Yn ceisio cefnogi cynigion ar gyfer isadeiledd band eang neu welliannau i rwydweithiau neu gyfarpar presennol.

Oes

Yn cydnabod buddion ynni adnewyddadwy a charbon isel fel rhan o'r ymrwymiad cyffredinol i fynd i'r afael â newid hinsawdd a chynyddu diogelwch o ran ynni.

Oes

Yn cefnogi'r defnydd o ynni adnewyddadwy, ynni isel cynaliadwy ynghyd â mynediad i'r grid o fewn datblygiadau.

Oes

Yn ystyried ac yn cynllunio ar gyfer gwarchod a dyrannu anghenion o ran mwynau dros Gyfnod y Cynllun.

Oes

Yn hyrwyddo rheoli gwastraff mewn modd cynaliadwy.

Oes

Yn gwarchod ac yn hybu ansawdd naturiol, hanesyddol a chadwraeth adeiledig Conwy ynghyd â'i thirweddau sydd o werth uchel.

Oes

Yn sefydlu beth mae'r arfordir yn ei olygu i Gonwy ac yn datblygu polisïau penodol, sy'n adlewyrchu nodweddion y morlin. Wrth wneud hyn, bydd yn cydnabod y rhyngberthynas rhwng nodweddion ffisegol a biolegol ei hardal arfordirol ac o ran defnydd tir, ynghyd ag effeithiau newid hinsawdd.

Oes

Yn gwarchod ac yn gwella asedau a rhwydweithiau o ran isadeiledd gwyrdd.

Oes

(5)2.76 Y Polisïau Strategol ar gyfer Conwy

Mae'r pedair adran strategol ganlynol yn disgrifio'r polisïau strategol sy'n ffurfio'r fframwaith ar gyfer gweithredu a chyflawni'r Cynllun Datblygu Lleol newydd (CDLlN). Mae'r fformat a'r strwythur yn adlewyrchu'r elfennau craidd, sef datblygu cynaliadwy, creu lleoedd a'r nodau llesiant.
Adran Strategol 1: Creu Lleoedd Cynaliadwy yng Nghonwy
Adran Strategol 2: Lleoedd Iach a Chymdeithasol yng Nghonwy
Adran Strategol 3: Lleoedd Ffyniannus yng Nghonwy
Adran Strategol 4: Lleoedd Naturiol a Diwylliannol yng Nghonwy

2.77 Mae'r pedair adran strategol yn cynnwys meysydd pwnc allweddol (e.e. tai, yr economi, twristiaeth, ayb.) a'u polisïau strategol. Cynhwysir adran bellach ym mhob maes pwnc sy'n disgrifio'r 'dull o gyflawni amcanion y CDLlN', sy'n ddatganiad ar sut mae'r polisïau yn y Cynllun i'w Archwilio gan y Cyhoedd yn debygol o ddatblygu. Mae'r strwythur hwn yn caniatáu i'r Polisïau Strategol drawsgyfeirio at yr amcanion strategol a geir yn y ddogfen hon. Mae'r dystiolaeth ategol, y Papurau Cefndir a'r Papurau Testun yn ystyried ymhellach sut mae'r dull yn cydymffurfio â'r Nodau Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, y 5 Egwyddor Gynllunio Allweddol a Chanlyniadau Cenedlaethol Creu Lleoedd Cynaliadwy, a sut maent yn cyfrannu atynt.

2.78 Cydnabyddir y bydd rhyw gymaint o orgyffwrdd rhwng adrannau'r polisïau strategol a'r polisïau strategol ac o'r herwydd fe ddylent gael eu darllen ochr yn ochr â'i gilydd. I gyd-fynd â phob polisi strategol ceir testun esboniadol a dull o gyflawni'r CDLlN i'w Archwilio gan y Cyhoedd.

Am gyfarwyddiadau ar sut I ddefnyddio’r system ac I wneud sylwadau, gwelwch ein canllaw cymorth.
back to top Yn ôl i’r brig