Strategaeth a Ffefrir

Daeth i ben ar 20 Medi 2019

Atodiad 1: Rhestr o bolisïau wedi eu cadw, eu diwygio a pholisïau newydd

7.1

Testun

Polisi

Cyfiawnhad

Creu Lleoedd Cynaliadwy yng Nghonwy

Creu Lleoedd a Dylunio Da

DP/1 Polisi Strategol - Egwyddorion Datblygu Cynaliadwy

Yn gweithredu'n effeithiol - angen gwelliannau ar gyfer arweiniad pellach ac eglurder.

DP/4 Meini Prawf Datblygu

Yn gweithredu'n effeithiol - angen gwelliannau ar gyfer arweiniad pellach ac eglurder.

DP/7 - Uwchgynllun a Gwerthusiadau Cymunedol

Yn gweithredu'n effeithiol - angen gwelliannau ar gyfer arweiniad pellach ac integreiddio gyda strategaethau eraill.

DP/8 - Uwchgynllun Adfywio Trefol Bae Colwyn

Polisi i'w adolygu gyda phwyslais ar adfywio wedi ei arwain gan ddiwylliant ar draws y sir. Bydd y polisi hwn yn cael ei symud i'r adran Adfywio a Arweinir gan Ddiwylliant.

Polisi Newydd - Cyflawni Dyluniad Da

I ddarparu rhagor o eglurder ac integreiddiad gyda pholisïau, cynlluniau ac amcanion strategol eraill.

Yr Iaith Gymraeg

CTH/5 - Yr Iaith Gymraeg

Diwygio i gynnwys y sail dystiolaeth ddiweddaraf

Rheoli Adnoddau Naturiol yn Gynaliadwy

DP/1 - Egwyddorion Datblygu Cynaliadwy

Wedi'i ddiwygio i ddarparu eglurhad pellach ac i integreiddio gyda pholisïau, cynlluniau ac amcanion strategol eraill.

DP/4 - Meini Prawf Datblygu

Wedi'i ddiwygio i ddarparu eglurhad pellach ac i integreiddio gyda pholisïau, cynlluniau ac amcanion strategol eraill.

NTE/1 - Yr Amgylchedd Naturiol

Diwygio i ymgorffori'r sylfaen dystiolaeth ddiweddaraf

Polisi Newydd - Rheoli Adnoddau Naturiol yn Gynaliadwy

I gynnwys y sail dystiolaeth a'r canllawiau cenedlaethol diweddaraf.

Polisi Newydd - Cyflawni Dyluniad Da

Wedi'i ddiwygio i ddarparu eglurhad pellach ac i integreiddio gyda pholisïau, cynlluniau ac amcanion strategol eraill.

Polisi Newydd - Seilwaith Gwyrdd

Ymgorffori'r sylfaen dystiolaeth ddiweddaraf a'r gofynion.

Rheoli Ffurf Anheddiad

DP/1 - Egwyddorion Datblygu Cynaliadwy

Wedi'i ddiwygio i ddarparu eglurhad pellach ac i integreiddio gyda pholisïau, cynlluniau ac amcanion strategol eraill.

DP/4 - Meini Prawf Datblygu

Wedi'i ddiwygio i ddarparu eglurhad pellach ac i integreiddio gyda pholisïau, cynlluniau ac amcanion strategol eraill.

NTE/1 - Yr Amgylchedd Naturiol

Diwygio i ymgorffori'r sylfaen dystiolaeth ddiweddaraf

NTE/2 - Lletemau Glas a bodloni anghenion datblygu'r gymuned

Gweithredu'n effeithiol - efallai y bydd angen mân newidiadau.
Bydd y polisi hwn yn cael ei symud i'r adran Rheoli Ffurf Aneddiadau o dan Creu Lleoedd Cynaliadwy.

Polisi Newydd - Rheoli Ffurf Aneddiadau

I gynnwys y sail dystiolaeth a'r canllawiau cenedlaethol diweddaraf.

Lleoedd Iach a Chymdeithasol yng Nghonwy

Trafnidiaeth Gynaliadwy a Hygyrchedd

STR / 1 - Cludiant, Datblygiad a Hygyrchedd Cynaliadwy

Adolygu'r polisi i ymgorffori'r sail dystiolaeth ddiweddaraf

STR/2 - Safonau Parcio

Gweithredu'n effeithiol - efallai y bydd angen gwneud mân newidiadau.

STR/3 - Lliniaru effaith teithio

Adolygu'r polisi i ymgorffori'r sail dystiolaeth ddiweddaraf

STR/4 - Teithio heb fodur

Adolygu'r polisi i ymgorffori'r sail dystiolaeth ddiweddaraf

STR/5 - System Drafnidiaeth Gynaliadwy Integredig

Adolygu'r polisi i ymgorffori'r sail dystiolaeth ddiweddaraf

STR/6 - Cludo nwyddau ar reilffyrdd

Adolygu'r polisi i ymgorffori'r sail dystiolaeth ddiweddaraf

Polisi Newydd - Isadeiledd trafnidiaeth

Ymgorffori'r sylfaen dystiolaeth ddiweddaraf a'r gofynion ar gyfer darparu isadeiledd a thargedau gostwng carbon.

Polisi Newydd - Teithio Llesol

Ymgorffori'r sylfaen dystiolaeth ddiweddaraf a'r gofynion ar gyfer darparu isadeiledd a thargedau gostwng carbon.

Polisi Newydd - Seilwaith Gwyrdd

Ymgorffori'r sylfaen dystiolaeth ddiweddaraf a'r gofynion.

Polisi Newydd - Cerbydau Gollyngiadau Isel Iawn

Ymgorffori'r sylfaen dystiolaeth ddiweddaraf a'r gofynion.

Tai

HOU/1 - Cwrdd â'r anghenion o ran tai

Bydd unrhyw faterion blaenorol o ran cyflawni a dosbarthu safleoedd newydd, cynaliadwy a hygyrch ar gyfer tai yn cael eu trafod yn unol â'r strategaeth a ffefrir, y cytunwyd arni, gan ymgorffori'r taflwybr tai.

HOU/2 - Tai Fforddiadwy ar gyfer Anghenion Lleol

Nid oes tai fforddiadwy digonol wedi'u darparu oherwydd y cyfraddau isel o gwblhau gwerthiannau tai ar draws y rhanbarth cyfan ac nid oherwydd problemau penodol ynghylch y polisi. Er hynny, bydd angen diwygio'r polisi hwn, yn arbennig o ran cyflawni tai fforddiadwy mewn cefn gwlad agored ac ystyried yr Astudiaeth Hyfywedd Tai Fforddiadwy, y Cyfrifiad Anghenion o Dai Fforddiadwy a'r Asesiad o'r Farchnad Dai Leol.

HOU/3 - Datblygu Tai Fesul Cam

Bydd y gyfradd gyflawni ar gyfer y farchnad agored a thai fforddiadwy ar gyfer Cyfnod y Cynllun CDLlG yn cael ei hamlinellu yn y taflwybr tai. Bydd y gyfradd gyflawni yn cael ei harchwilio'n fanwl drwy brosesau'r JHLAS, LHMA ac AMR.

HOU/4 - Dwyster Tai

Bydd datblygiadau tai y CDLlG yn parhau i wneud y defnydd gorau o dir. Bydd CBSC yn parhau i chwilio am ddwyster o 30 annedd fesul hectar (dph) ar safleoedd dynodedig a hap-safleoedd. Bydd dwyseddau uwch ac is yn cael eu hystyried ar sail safleoedd unigol.

HOU/5 - Cymysgedd Tai

Bydd y cymysgedd tai yn parhau i gael ei hysbysu gan dystiolaeth ddiweddaraf LHMH a thystiolaeth arall berthnasol.

HOU/6 - Safleoedd Eithriedig ar gyfer Tai Fforddiadwy ar gyfer Angen Lleol

Ystyrir bod y gyfradd ddiddordeb mewn Safleoedd Eithriedig Tai Fforddiadwy yn araf oherwydd argaeledd cyllid a materion hyfywedd. Bydd angen newidiadau i'r polisi er mwyn rhoi mwy o hyblygrwydd, mewn ymgynghoriad â Strategaeth Dai CBSC, ac ystyried mentrau newydd megis Hunanadeiladu Cymru, er mwyn gwella darpariaeth safleoedd o'r fath.

HOU/7 - Safleoedd y mae'r Cyngor a'r Llywodraeth yn berchen arnynt yn ardal y cynllun

Bydd CBSC yn parhau i geisio lefelau uwch o AHLN ar safleoedd y mae'r Cyngor a'r Llywodraeth yn berchen arnynt, hyd yn oed hyd at 100% yn amodol ar hyfywedd ac angen, a hefyd ystyried mentrau newydd megis Hunanadeiladu Cymru ar gyfer darparu safleoedd o'r fath. Bydd blaenlwytho safleoedd o'r fath a gwelliannau i broses adneuo'r Cyngor hefyd yn helpu'r ddarpariaeth.

HOU/8 - Cofrestru Tirddaliadaethau

Nid yw'r polisi hwn yn ofynnol mwyach a bydd yn cael ei ddileu.

HOU/9 - Cyflawni'r angen am safleoedd ar gyfer Sipsiwn a Theithwyr

Mae gofynion y polisi hwn yn parhau, yn unol â chanfyddiadau diweddaraf GTAA. Bydd Safle Dros Dro ar gyfer Sipsiwn a Theithwyr yn cael ei dyrannu yng ngham y Cynllun Adneuo. Ystyrir bod y polisi yn dderbyniol yn gyffredinol, yn amodol ar fân-ddiwygiadau.

HOU/10 - Tai Amlfeddiannaeth a fflatiau hunangynhwysol

Mae'r polisi hwn yn rhy gyfyngol yn awr a chaiff ei ddiwygio i ystyried newidiadau i'r Gorchymyn Dosbarthiadau Defnydd, gofynion trwyddedu newydd, yr angen am fusnesau HMO bach (LHMA) a phenderfyniadau apêl diweddar.

HOU/11 - Cartrefi gofal preswyl a thai gofal ychwanegol

Bydd angen addasu'r polisi hwn ar sail meini prawf er mwyn adlewyrchu'r angen a'r ddarpariaeth tai ar gyfer pobl hŷn a thai arbenigol fel y'i nodwyd yn yr LHMA a thystiolaeth gefndir arall.

HOU/12 - Ail-ddefnyddio ac addasu adeiladau gwledig gwag ar gyfer defnydd preswyl

Mae penderfyniadau apêl diweddar wedi dangos yr angen i adolygu'r meini prawf polisi, yn arbennig mewn cysylltiad â'r AHLN. Rhoddir ystyriaeth i uno polisïau EMP/6 a HOU/12 er mwyn darparu un set o feini prawf ar gyfer pob addasiad gwledig.

Polisi Newydd - Safleoedd ar gyfer tai hunanadeiladu

Gyda chyflwyniad cynllun Hunanadeiladu Cymru newydd Llywodraeth Cymru, rhoddir ystyriaeth i bolisi penodol i gynnwys tai hunanadeiladu neu eu cynnwys o fewn polisi tai presennol.

Polisi Newydd - Anheddau Mentrau Gwledig

Bydd angen polisi newydd ar sail meini prawf yn benodol ar gyfer Anheddau Mentrau Gwledig er mwyn asesu a rheoli angen, daliadaeth, maint eithriadol ac ati, yn unol â TAN2 a TAN6.

Canolfannau Manwerthu a Masnachol

CFS/1 - Cyfleusterau a Gwasanaethau Cymunedol

Ailenwi i Manwerthu gan ei fod bellach yn faes testun unigol yn y CDLl Newydd. Bydd cyfeiriadau at gyfleusterau cymunedol yn cael eu dileu.
Bydd y polisi yn cael ei ddiweddaru i adlewyrchu newidiadau i'r polisïau manwerthu isod.

CFS/2 - Hierarchaeth Manwerthu

Diweddarwyd hyn ym Mhapur Cefndir 26. Cynigir Hierarchaeth Fanwerthu newydd, sy'n adlewyrchu'n well lefel y gwasanaethau a chyfleusterau sydd ar gael ym mhob canolfan a dalgylch tebygol y siopwyr.

CFS / 3 - Prif Ardaloedd Siopa

Mae polisi cenedlaethol yn nodi y dylai defnyddiau siop A1 barhau i fod yn sail i'r ardaloedd hyn. Mae angen adolygu'r ffiniau er mwyn sicrhau bod crynhoad y defnydd hwn yn cael ei warchod a bydd yn cael ei newid os bydd angen. Bydd y gwaith hwn yn dilyn ar y cam Archwilio gan y cyhoedd.

CFS/4 - Ardaloedd siopa

Mae polisi cenedlaethol wedi ei ddiweddaru i annog hyblygrwydd defnydd yn yr ardaloedd penodedig hyn.
Mae Papur Cefndirol 25 Gwiriadau Iechyd Canolfannau Manwerthu wedi nodi bod lefelau rhai defnyddiau yn anghytbwys mewn rhai canolfannau manwerthu. Mae angen newid y polisi CCA er mwyn gwahanu'r defnyddiau nad ydynt yn A1 sy'n achosi effaith negyddol.
Mae angen adolygu'r ffiniau er mwyn sicrhau bod digon o ddefnyddiau A yn yr ardal a warchodir. Bydd y rhain yn cael eu newid os oes angen. Bydd y gwaith hwn yn dilyn ar y cam Archwilio gan y cyhoedd.

CFS / 5 - Parciau Manwerthu

Mae angen diwygiadau i roi eglurhad dros y safbwynt polisi ar geisiadau am ddefnyddiau A3 a diwygio'r nwyddau y gellir eu gwerthu, a fydd yn diogelu canol tref Llandudno.
Gallai Parc Hamdden Cyffordd Llandudno gael ei ychwanegu i'r polisi i ddiogelu ei swyddogaeth Hamdden.

Polisi Newydd - Safle a Neilltuwyd

Mae angen manwerthu wedi ei nodi ym Mhapur Cefndirol 24. Bydd angen dyrannu safleoedd i fodloni'r angen hwn.

Polisi Newydd - Dynodiad hamdden

Dynodiad i ddiogelu swyddogaeth hamdden Parc Hamdden Cyffordd Llandudno
Gellid cynnwys hyn fel isadran i'r polisi ynghylch Parc Llandudno a Mostyn Champneys.

Polisi Newydd - Polisi i gefnogi adfywio a Chynlluniau Lleoedd.

Mae Bae Colwyn wedi ei ddynodi fel ardal adfywio Mae'n bosib y bydd angen newidiadau manwerthu o ganlyniad i hyn. Mae'n bosib y gall rhain gael eu hymgorffori i'r polisïau uchod, neu efallai y bydd angen ei bolisi ei hun.
Mae Cynlluniau Lleoedd yn rhan o'r polisi cynllunio cenedlaethol. Bydd angen ystyried effeithiau manwerthu a chaniatáu ar eu cyfer yn y CDLlN, un ai drwy'r polisïau uchod neu ei bolisi ei hun.

Polisi Newydd - Polisi ar lywio cynigion ar safleoedd heb eu dyrannu

Mae hwn yn ofyniad newydd mewn polisi cynllunio cenedlaethol.

Polisi Newydd - Polisi ar gyfer unedau prydau parod poeth ger ysgolion

Mae gordewdra ymysg plant yn broblem ar draws Cymru. Gall annog bwyta'n iach ymhlith plant ysgol a chyfyngu ar eu mynediad i fwydydd llai iach helpu cyflawni amcanion cenedlaethol a lleol ar gyfer iechyd a lles.

Cyfleusterau Cymunedol

CFS/1 - Cyfleusterau a Gwasanaethau Cymunedol

Dileu cyfeiriadau at fanwerthu a mannau agored gan eu bod bellach yn benodau unigol.
Diwygio i gael gwared ar safleoedd sydd wedi'u darparu.
Adolygu i gynnwys y sail dystiolaeth ddiweddaraf, yn cynnwys unrhyw ddyraniad newydd sy'n ofynnol ac yn adlewyrchu'r newid yn y polisi cenedlaethol.

CFS/9 - Diogelu Rhandiroedd

Gweithredu'n effeithiol - efallai y bydd angen gwneud mân newidiadau.

CFS/10- Rhandiroedd Newydd

Diwygio i gael gwared ar safleoedd sydd wedi'u darparu. Adolygu i gynnwys y sail dystiolaeth ddiweddaraf yn cynnwys dyrannu safleoedd newydd lle bo'r angen.

CFS/14 - Dyraniadau Tir Claddu Newydd

Adolygu i gynnwys y sail dystiolaeth ddiweddaraf, yn cynnwys unrhyw ddyraniad newydd sy'n ofynnol.

CFS/15 - Cyfleusterau Addysgol

Adolygu i gynnwys y sail dystiolaeth ddiweddaraf, yn cynnwys unrhyw ddyraniad newydd sy'n ofynnol.

Polisi Newydd - Polisi i ddyrannu cyfleusterau iechyd newydd

Efallai y bydd angen safleoedd gofal iechyd sylfaenol neu eilaidd newydd, neu estyniadau i rai presennol i ddiwallu anghenion poblogaeth sy'n tyfu ac yn heneiddio.

Mannau Hamdden

CFS/1 - Cyfleusterau a Gwasanaethau Cymunedol

Bydd angen dileu cyfeiriad at gyfleusterau manwerthu a chymunedol gan fod mannau hamdden bellach yn feysydd testun ar wahân.
Bydd y polisi yn cael ei ddiweddaru i adlewyrchu newidiadau i'r polisïau mannau hamdden isod.

CFS/11 - Datblygu a mannau agored

Bydd hyn yn cael ei ddiweddaru i adlewyrchu safonau Meysydd Chwarae Cymru newydd. Gall trothwyon ar gyfer darparu ar safleoedd newid.

CFS/12 - Diogelu Mannau Agored Presennol

Dim ond mân newidiadau sydd angen eu gwneud i'r polisi hwn.

CFS/13 - Dyraniadau Mannau Agored Newydd

Bydd hyn yn cael ei adolygu unwaith fod yr Asesiad Mannau Hamdden yn gyflawn. Efallai y bydd angen dyraniadau newydd.

Polisi Newydd - Polisi i osgoi neu ddatrys gwrthdaro rhwng gwahanol weithgareddau.

Mae hwn yn ofyniad newydd mewn polisi cynllunio cenedlaethol. Bydd yr Asesiad Mannau Hamdden yn asesu a oes angen polisi yn ymwneud â'r mater.

Polisi Newydd - Defnydd o dir a ddatblygwyd yn flaenorol neu dir segur a chyrff dŵr at ddibenion chwaraeon a hamdden

Mae hwn yn ofyniad newydd mewn polisi cynllunio cenedlaethol. Bydd angen Asesiad Mannau Hamdden i asesu a oes unrhyw safleoedd priodol i'w cynnwys.

Lleoedd Naturiol a Diwylliannol yng Nghonwy

Y Dirwedd

NTE/1 - Yr Amgylchedd Naturiol

Diwygio i ymgorffori'r sylfaen dystiolaeth ddiweddaraf

NTE/4 - Y Dirwedd a Diogelu Ardaloedd Tirwedd Arbennig

Yn gweithredu'n effeithiol - efallai y bydd angen mân newidiadau. effectively - minor amendments may be required.

Ardaloedd Arfordirol

NTE/5 - Yr Ardal Arfordirol

Yn gweithredu'n effeithiol - efallai y bydd angen mân newidiadau. effectively - minor amendments may be required.

Polisi Newydd - Newid Arfordirol a'r CRhT

Diwygio i ymgorffori'r sylfaen dystiolaeth a'r canllawiau cenedlaethol diweddaraf

Polisi Newydd - Diwygio i ymgorffori'r sylfaen dystiolaeth a'r canllawiau cenedlaethol diweddaraf

Ymgorffori'r sylfaen dystiolaeth a'r canllawiau cenedlaethol diweddaraf

Yr Amgylchedd Hanesyddol

CTH/1 - Treftadaeth Ddiwylliannol

Ei adolygu i ymgorffori'r sail dystiolaeth ddiweddaraf (gweler polisi strategol newydd).

CTH/2 - Datblygiad sy'n Effeithio ar Asedau Treftadaeth

Ei adolygu i ymgorffori'r sail dystiolaeth ddiweddaraf (gweler polisi strategol trosfwaol newydd).

CTH/3 - Adeiladau a Strwythurau o Bwysigrwydd Lleol

Tynnu - mae'r polisi'n cael ei drafod gan ganllawiau cenedlaethol a'r polisi strategol trosfwaol

CTH/4 - Galluogi Datblygu

Tynnu - mae'r polisi'n cael ei drafod gan ganllawiau cenedlaethol a'r polisi strategol trosfwaol

Adfywio Drwy Ddiwylliant

Polisi Newydd - Adfywio Drwy Ddiwylliant

I adnabod y cysylltiadau rhwng mentrau adfywio diwylliannol a'u pwysigrwydd wrth greu lle.

Seilwaith Gwyrdd

NTE/2 - Lletemau Glas a bodloni anghenion datblygu'r gymuned

Gweithredu'n effeithiol - efallai y bydd angen mân newidiadau.
Bydd y polisi hwn yn cael ei symud i'r adran Rheoli Ffurf Aneddiadau o dan Creu Lleoedd Cynaliadwy.

Seilwaith Gwyrdd

Ymgorffori'r sylfaen dystiolaeth a'r canllawiau cenedlaethol diweddaraf

Bioamrywiaeth

NTE/3 - Bioamrywiaeth

Yn gweithredu'n effeithiol - angen diwygiadau er mwyn rhoi arweiniad ac eglurhad pellach.

Polisi Newydd - Gwarchod a Rheoli Safleoedd Dynodedig

Diwygio i ymgorffori'r sylfaen dystiolaeth a'r canllawiau cenedlaethol diweddaraf

Water

NTE/8 - Systemau draenio Cynaliadwy

Angen newidiadau i adlewyrchu newidiadau diweddar i'r canllawiau cenedlaethol.

NTE/9 - Draenio Dŵr Budr

Yn gweithredu'n effeithiol - efallai y bydd angen mân newidiadau

NTE/10 - Arbed Dŵr

Yn gweithredu'n effeithiol - newidiadau i adlewyrchu canllawiau cenedlaethol

Yr Aer, Seinwedd a Goleuni

Polisi Newydd - Ansawdd Aer

Ymgorffori'r sylfaen dystiolaeth a'r canllawiau cenedlaethol diweddaraf

Polisi Newydd - Seinwedd a Goleuni

Ymgorffori'r sylfaen dystiolaeth a'r canllawiau cenedlaethol diweddaraf

Llifogydd

DP/1 - Egwyddorion Datblygu Cynaliadwy

Adolygu i ddarparu eglurder ac integreiddiad pellach gyda pholisïau, cynlluniau ac amcanion strategol eraill.

DP/4 Meini Prawf Datblygu

Adolygu i ddarparu eglurder ac integreiddiad pellach gyda pholisïau, cynlluniau ac amcanion strategol eraill.

NTE/1 - Yr Amgylchedd Naturiol

Adolygu'r polisi i ymgorffori'r sail dystiolaeth ddiweddaraf

NTE/2 - Lletemau Glas a diwallu anghenion datblygu'r gymuned

Gweithredu'n effeithiol - efallai y bydd angen gwneud mân newidiadau.

Polisi Newydd - Rheoli Perygl Llifogydd

Cynnwys y sail tystiolaeth a'r canllawiau cenedlaethol diweddaraf, yn ogystal â mwy o eglurder.

Lleoedd Ffyniannus yng Nghonwy

Datblygu Economaidd

EMP/1 - Diwallu Anghenion Cyflogaeth Swyddfa a Diwydiannol B1, B2 a B8

Adolygu'r polisi i ymgorffori'r sail dystiolaeth ddiweddaraf (gweler polisi strategol newydd)

EMP/2 - Dyrannu Safleoedd Datblygu Cyflogaeth Swyddfa a Diwydiannol B1, B2 a B8

Adolygu'r polisi i ymgorffori'r sail dystiolaeth ddiweddaraf

EMP/3 - Datblygiadau swyddfa a diwydiannol B1, B2 a B8 newydd ar safleoedd heb eu dyrannu

Bydd angen gwneud mân newidiadau yn y cynllun i'w archwilio gan y cyhoedd

EMP/4 - Diogelu Safleoedd Swyddfa a Diwydiannol B1, B2 a B8

Adolygu'r polisi i ymgorffori'r sail dystiolaeth ddiweddaraf

EMP/5 Ardaloedd Gwella Cyflogaeth Diwydiannol a Swyddfeydd

Cadw

EMP6 - Ailddefnyddio ac Addasu Adeiladau Gwledig Segur ar gyfer Defnydd Preswyl

Adolygu'r polisi i ymgorffori'r sail dystiolaeth ddiweddaraf

Twristiaeth

TOU/1 - Twristiaeth gynaliadwy

Newidiadau i adlewyrchu diwygiadau Polisi eraill ac ychwanegiadau polisi newydd.

TOU/2 - Datblygiadau hamdden a thwristiaeth gynaliadwy newydd

Mae angen mwy o eglurder i gefnogi darpariaeth 'atyniadau twristiaeth' yn bennaf. Bydd angen ail eirio'r polisi hwn ac egluro mai ategol yn unig y dylai'r elfen lety fod, ac yn gymesur â'r atyniad. Dileu cyfeiriad at safle'r hen waith Aliminiwm yn Nolgarrog sef Parc Antur Eryri bellach.

TOU/3 - Parth Llety Gwyliau

Mae ceisiadau diweddar yn nodi y gallai fod angen elfen o hyblygrwydd o safbwynt Parthau Llety Gwyliau Efallai system dwy haen i warchod y stoc llety 'cynradd' (h.y. Promenâd Llandudno) rhag defnyddiau amgen a chaniatáu dull mwy hyblyg o safbwynt yr ardaloedd stoc eilaidd - yn ddibynnol ar sail dystiolaeth gref, gan gynnwys Arolwg Stoc Gwelyau Conwy, asesiad Parthau Llety Gwyliau ac yn ddibynnol ar feini prawf llym.

TOU/4 - Safleoedd cabannau, carafanau a gwersylla

Bydd angen gwneud newidiadau i'r polisi hwn er mwyn egluro dull gweithredu CBSC a beth a olygir drwy gyfeirio at 'garafannau statig', rheoli faint o gynnydd a wneir i safleoedd sydd eisoes yn fawr, ystyried ffurfiau cyfoes o lety bach ei effaith a gwahanu hen safleoedd a safleoedd newydd. Hefyd, posibilrwydd o bolisi ar wahân ar gyfer safleoedd carafanau a gwersylla.

Polisi Newydd - Safleoedd Twristiaeth Antur

Ble bo'n briodol cefnogi egwyddor safleoedd newydd a safleoedd sy'n ehangu gyda Pholisi TOU/2 diwygiedig.

Polisi Newydd - Ffurfiau amgen o lety i dwristiaid

Ystyried ffurfiau cyfoes isel eu heffaith o lety gwyliau fel iyrts, cytiau, podiau ac ati.

Polisi Newydd - Arallgyfeirio gwledig

Mae nifer o geisiadau wedi eu dyfarnu i gefnogi busnesau gwledig cyfredol i arallgyfeirio a darparu llety gwyliau amgen. Polisi newydd posib yn benodol i fynd i'r afael ac egluro'r mater hwn.

Polisi Newydd - Llety gwyliau newydd parhaol

Polisi newydd i ddarparu meini prawf ar gyfer datblygu llety gwyliau newydd ac a drawsnewidiwyd (e.e. hostel, byncws)

Yr Economi Wledig

Polisi Newydd - Yr Economi Wledig

I gynnwys y sylfaen dystiolaeth ddiweddaraf er mwyn ehangu'r busnesau gwledig presennol, yn amodol ar bolisi sy'n seiliedig ar feini prawf.

Isadeiledd Cludiant

STR / 1 - Cludiant,
Datblygiad a Hygyrchedd Cynaliadwy

Adolygu'r polisi i ymgorffori'r sail dystiolaeth ddiweddaraf

STR/3 - Mitigating Travel Impact

Adolygu'r polisi i ymgorffori'r sail dystiolaeth ddiweddaraf

STR/5 - Integrated Sustainable

Adolygu'r polisi i ymgorffori'r sail dystiolaeth ddiweddaraf

Polisi Newydd - Isadeiledd trafnidiaeth

Ymgorffori'r sylfaen dystiolaeth ddiweddaraf a'r gofynion ar gyfer darparu isadeiledd a thargedau gostwng carbon.

Polisi Newydd - Teithio Llesol

Ymgorffori'r sylfaen dystiolaeth ddiweddaraf a'r gofynion ar gyfer darparu isadeiledd a thargedau gostwng carbon.

Telathrebu

Polisi Newydd - Telathrebu a Chlystyrau Busnes

I gynnwys y sylfaen dystiolaeth ddiweddaraf i sicrhau bod darparwyr telathrebu yn cael eu cynnwys ar gam cynnar o'r broses ddatblygu ac i gefnogi'r gwaith o glystyru mathau busnes yn lleoliadol pan fo'n briodol.

Ynni

NTE/6 - Effeithlonrwydd ynni a thechnolegau adnewyddadwy mewn datblygiadau newydd

Diwygio er mwyn ymgorffori rhagor o dechnolegau

NTE/7 - Datblygu tyrbinau gwynt ar y tir

Diwygio er mwyn newid y canllawiau yng nghyswllt polisi cenedlaethol.

Polisi Newydd - Cyswllt Grid a storio YA

Ymgorffori'r sylfaen dystiolaeth ddiweddaraf a'r gofynion ar gyfer cyflenwi isadeiledd a chyflawni targedau ar gyfer lleihau carbon

Polisi Newydd - Cynhyrchu Ynni yn Lleol

Ymgorffori'r sylfaen dystiolaeth ddiweddaraf a'r gofynion ar gyfer cyflenwi isadeiledd a chyflawni targedau ar gyfer lleihau carbon.

Mwynau a Gwastraff

MWS/1 Mwynau a Gwastraff

Adolygu'r polisi i ymgorffori'r sylfaen dystiolaeth ddiweddaraf (polisi strategol newydd)

MWS/2 Mwynau

Adolygu'r polisi i gynnwys y sylfaen dystiolaeth ddiweddaraf

MWS/3 Diogelu Craig Galed ac Adnoddau Tywod a Graean

Adolygu'r polisi i gynnwys y sylfaen dystiolaeth ddiweddaraf

MWS/4 Parth Clustogi Chwarel

Adolygu'r polisi i gynnwys y sylfaen dystiolaeth ddiweddaraf

MWS/5 Cynigion ar gyfer Rheoli Gwastraff

Adolygu'r polisi i gynnwys y sylfaen dystiolaeth ddiweddaraf

MWS/6 Lleoliadau ar gyfer Cyfleusterau Rheoli Gwastraff

Adolygu'r polisi i gynnwys y sylfaen dystiolaeth ddiweddaraf

MWS/7 Defnyddio Tir Diwydiannol ar gyfer Cyfleusterau Rheoli Gwastraff

Adolygu'r polisi i gynnwys y sylfaen dystiolaeth ddiweddaraf

MWS/8 Parth Clustogi Tirlenwi

Gweithredu'n effeithiol - efallai y bydd angen gwneud mân newidiadau

Am gyfarwyddiadau ar sut I ddefnyddio’r system ac I wneud sylwadau, gwelwch ein canllaw cymorth.
back to top Yn ôl i’r brig