Strategaeth a Ffefrir

Daeth i ben ar 20 Medi 2019
Am gyfarwyddiadau ar sut I ddefnyddio’r system ac I wneud sylwadau, gwelwch ein canllaw cymorth.

(1)Creu Lleoedd Cynaliadwy yng Nghonwy

Cyflwyniad

3.1.1 Caiff y CDLlN ei lunio gan bwyso a mesur yr ystyriaethau creu lleoedd strategol sy'n effeithio ar Gonwy. Mae'r adran hon o strategaeth y cynllun yn canolbwyntio ar y polisïau strategol hynny a gaiff yr effaith fwyaf ar y math o ddatblygiad a gyflawnir yn y pendraw a'i gyfraniad at ddatblygu cynaliadwy ac at les amgylcheddol, cymdeithasol, diwylliannol ac economaidd Conwy. Mae'r adran hon yn hyrwyddo polisïau integredig na ddylid eu hystyried ar eu pen eu hunain yn ystod y broses ddatblygu. Mae hyn yn cynnwys ystyried dyluniad datblygiad a'i effaith ar fywydau pob dydd yn ogystal â meddwl yn gyfannol am ymhle y gallai pobl fyw a gweithio a pha ardaloedd y dylid eu gwarchod. Yr adran hon sy'n darparu'r weledigaeth creu lleoedd strategol ac unigryw leol er mwyn sicrhau ein bod yn creu lleoedd cynaliadwy, ac fe'i hategir gan bolisïau strategol ar Greu Lleoedd Cynaliadwy, Lefelau Twf, Hierarchaeth Aneddiadau, Creu Lleoedd a Dylunio da, Hybu Lleoedd Iachach, y Gymraeg, Rheoli Adnoddau Naturiol yn Gynaliadwy, Creu Lleoedd mewn Ardaloedd Gwledig, Cynlluniau Lleoedd, Safleoedd Strategol, Seilwaith a Datblygiadau Newydd a Rheoli Ffurf Aneddiadau.

Mae'r holl Bolisïau Strategol yn yr Adran hon ar Greu Lleoedd Cynaliadwy yn gysylltiedig ag Amcan Strategol 1 (SO1). Ni chaiff yr amcan felly ei ailadrodd yn yr adran hon.

Creu Lleoedd Cynaliadwy

3.2.1 Amcan Strategol 1 (SO1): Cyfrannu at greu lleoedd cynaliadwy, cynhwysiant cymdeithasol ac at wella llesiant yn gyffredinol yng Nghonwy drwy ddarparu proses gynhwysol o greu ac adfywio lleoedd sy'n sicrhau twf i'r dyfodol a bod datblygu'n digwydd mewn lleoliadau cynaliadwy a hygyrch, sy'n ceisio hyrwyddo dyluniad da a lleoedd iachach, sy'n gwarchod yr iaith Gymraeg ac sydd wedi'i chefnogi gan y seilwaith cymdeithasol, amgylcheddol, diwylliannol ac economaidd angenrheidiol i greu mannau rhagorol.

(1)Polisi Strategol SP/1Egwyddorion Creu Lleoedd Cynaliadwy

Rhaid i bob cynnig groesawu egwyddorion creu lleoedd cynaliadwy fel cysyniad a sicrhau bod datblygiadau'n gefnogol i gyflawni datblygu cynaliadwy a lles amgylcheddol, cymdeithasol, diwylliannol ac economaidd Conwy. Lle bo'n briodol, ni chaiff cynigion datblygu ond eu caniatáu os ydynt yn gydnaws â'r egwyddorion creu lleoedd cynaliadwy:

  1. Yn Gwarchod yr Amgylchedd i'r Eithaf ac yn Cyfyngu ar yr Effeithiau ar yr Amgylchedd:
    1. Yn gwarchod ac yn gwella bioamrywiaeth, ecosystemau, trefluniau, seinweddau a thirweddau;
    2. Yn hybu seilwaith gwyrdd;
    3. Yn lleihau risgiau amgylcheddol;
    4. Yn rheoli adnoddau dŵr yn naturiol;
    5. Yn hyrwyddo aer glân ac yn lleihau llygredd;
    6. Yn hybu'r gallu i wrthsefyll newid hinsawdd; ac,
    7. Yn creu amgylcheddau arbennig ac unigryw.
  2. Yn hwyluso Amgylcheddau Hygyrch ac Iach:
    1. Yn hybu llesiant ac iechyd meddwl a chorfforol;
    2. Yn sicrhau mannau gwyrdd hygyrch ac o ansawdd da;
    3. Yn annog pobl i beidio â bod yn ddibynnol ar geir;
    4. Yn rhoi hygyrchedd i bawb;
    5. Yn darparu cymunedau diogel a chynhwysol i bawb; ac,
    6. Yn darparu mynediad i gyfleusterau a gwasanaethau allweddol i bawb.
  3. Yn Defnyddio Adnoddau yn y Ffordd Orau:
    1. Yn defnyddio adnoddau naturiol yn y ffordd orau;
    2. Yn hybu arferion rheoli gwastraff cynaliadwy;
    3. Yn rhoi blaenoriaeth i ddefnyddio tir a ddatblygwyd yn flaenorol ac adeiladau sy'n bodoli eisoes;
    4. Yn datgloi potensial, gan adfywio a denu buddsoddiadau i greu cymunedau cadarn; ac
    5. Yn hyrwyddo datblygiadau cynaliadwy a dyluniadau o ansawdd da.
  4. Yn Tyfu ein Heconomi mewn Ffordd Gynaliadwy:
    1. Yn meithrin gweithgaredd economaidd sy'n croesawu technoleg a dulliau cyfathrebu clyfar ac arloesol;
    2. Yn lleihau newid hinsawdd ac yn hybu ynni adnewyddadwy ac effeithlonrwydd; ac
    3. Yn hyrwyddo amgylcheddau economaidd byw a dynamig sy'n barod i addasu i newid.
  5. Yn Creu ac yn Cynnal Cymunedau:
    1. Yn galluogi'r Gymraeg i ffynnu;
    2. Yn sicrhau dwyseddau datblygu priodol;
    3. Yn sicrhau bod cartrefi a swyddi ar gael i fodloni anghenion cymdeithas;
    4. Yn hyrwyddo defnydd cymysg lle bo hynny'n briodol;
    5. Yn cynnig profiadau diwylliannol; ac
    6. Yn diogelu ac yn gwarchod cyfleusterau a gwasanaethau cymunedol.

3.2.2 Ystyr Datblygu Cynaliadwy yw'r broses o wella lles economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Conwy drwy weithredu, yn unol â'r egwyddor datblygu cynaliadwy, gyda'r nod o gyrraedd y nodau llesiant. Y ffordd fwyaf priodol o weithredu'r gofynion hyn drwy'r system gynllunio yw mabwysiadu dull creu lleoedd cynaliadwy.

3.2.3 Mae creu lleoedd cynaliadwy yn broses gynhwysol, sy'n cynnwys pawb sydd â buddiant proffesiynol neu bersonol yn yr amgylchedd adeiledig a'r amgylchedd naturiol, mae'n canolbwyntio ar gyflwyno datblygiadau sy'n cyfrannu at greu a gwella lleoedd cynaliadwy yng Nghonwy. Mae'r elfen creu lleoedd mewn penderfyniadau datblygu yn digwydd ar bob lefel ac mae'n cynnwys ystyriaethau ar raddfa fyd-eang, gan gynnwys newid hinsawdd, i lawr i'r lefel fwyaf lleol, megis ystyried yr effaith ar amwynder pobl ac eiddo cyfagos.

(1)3.2.4 Dylai'r system gynllunio greu lleoedd cynaliadwy sy'n atyniadol, yn gymdeithasol, yn hygyrch, yn weithgar, yn ddiogel, yn groesawgar, yn iach ac yn gyfeillgar. Dylai cynigion datblygu greu'r amodau i ddwyn pobl at ei gilydd, gan wneud iddynt fod eisiau byw, gweithio a chwarae mewn ardaloedd sydd ag ymdeimlad o le a llesiant, gan greu ffyniant i bawb. Mae Polisi SP/1 yn disgrifio'r prif ffyrdd y bydd disgwyl i gynigion datblygu ddangos eu bod yn gefnogol i sicrhau llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol gan gyfrannu felly at ddatblygu cynaliadwy yng Nghonwy.

3.2.5 Mae gweithredu yn unol â'r egwyddorion creu lleoedd cynaliadwy yn golygu bod yn rhaid i gynigion weithredu mewn ffordd sy'n ceisio sicrhau bod anghenion y presennol yn cael eu bodloni heb beryglu gallu cenedlaethau'r dyfodol i fodloni eu hanghenion hwythau. O'r herwydd, rhaid i bawb sy'n gysylltiedig â'r system gynllunio yng Nghonwy neu sy'n gweithredu fel rhan ohoni groesawu'r cysyniad o greu lleoedd cynaliadwy er mwyn creu lleoedd cynaliadwy a gwella llesiant cymunedau yng Nghonwy.

(1)3.2.6 Ni fydd pob cynnig datblygu yn gallu dangos ei fod yn gallu bodloni'r holl ganlyniadau hyn. Fodd bynnag, nid yw hyn yn golygu na ddylid eu hystyried yn y broses rheoli datblygiadau i weld a ellir gwella neu adolygu'r cynnig i hyrwyddo llesiant ehangach. Mater i ddatblygwyr yw adnabod y cyfleoedd hyn a gweithredu arnynt. Caiff cysylltiadau â dulliau a Pholisïau Strategol mwy penodol, a gaiff eu defnyddio i asesu a yw meini prawf yr SP/1 yn cael eu bodloni, eu disgrifio yn nhestun y polisi sy'n ymwneud â holl Adrannau Strategol y CDLlN. Caiff Canllaw Cynllunio Atodol (CCA) ei baratoi i roi arweiniad i ddatblygwyr i sicrhau bod cynlluniau yn gynaliadwy ac yn cydymffurfio â Pholisi SP/1.

Lefelau Twf Tai

3.3.1 Amcan Strategol 1 (SO1):

(2)Polisi Strategol SP/2Lefelau Twf Tai

Gwneir darpariaeth gofynion tai ar gyfer oddeutu 4,300 o anheddau dros Gyfnod y Cynllun (ac 20% wrth gefn). Gwneir darpariaeth yn y Cynllun ar ôl ystyried cyfraddau cwblhau, ymrwymiadau, safleoedd ar hap a dyraniadau newydd dros Gyfnod y Cynllun.

(1)3.3.2 Ceir senario demograffig sy'n dylanwadu ar ffigur gofynion tai'r CDLl, ac mae'r senario hwn yn cynnwys rhagdybiaethau ymfudo ar sail twf swyddi yn lleol ac o ganlyniad i'r anghenion sy'n gysylltiedig â Bargen Twf y Gogledd. Mae'r senario hwn yn golygu bod y gofyn blynyddol am dai ychydig yn uwch nac amcanestyniadau Llywodraeth Cymru, ond ei fod yn adlewyrchu'r materion blaenoriaethol a'r sylfaen dystiolaeth gefndir, yn benodol yr angen i gyfrannu at strwythur oedran mwy cytbwys, lefelau cymudo allan is a gwarchod a gwella hunaniaeth y gymuned. Mae'r gofyn am dai yn cynnwys derbyn y 'corddi' a geir yn y farchnad dai sy'n cynnwys lwfans ar gyfer cartrefi gwag, ail gartrefi a lletyau gwyliau.

3.3.3 Mae'r gofyniad tir ar gyfer tai, sy'n 4,300 (290 y flwyddyn) yn seiliedig ar dwf disgwyliedig yn y boblogaeth o oddeutu 5.8% rhwng 2018 a 2033 . Mae'r lefel yn rhoi ystyriaeth i'r cyflenwad tai tebygol a allai fod ar gael yn y rhan o'r Fwrdeistref Sirol sydd o fewn ffiniau Parc Cenedlaethol Eryri (100 dros gyfnod y cynllun) a chapasiti'r diwydiant codi tai. Mae'r cyfanswm cyflenwad tai o 5,150 yn cynnwys lwfans ar gyfer 20% (850 o anheddau) wrth gefn er mwyn caniatáu ar gyfer dewis, hyblygrwydd ac adnewyddu'r stoc dai bresennol ac ar gyfer safleoedd nas defnyddir. Dangosir y gallu i fodloni'r gofyn am dai drwy daflwybr tai yn yr adran dai.

(1)3.3.4 Caiff cartrefi newydd eu datblygu ar dir a ddyrannwyd ar gyfer tai, defnydd cymysg ac a gefnogir gan y seilwaith cyfleustodau a chymunedol perthnasol. Caiff safleoedd eu lleoli yn unol â'r Hierarchaeth Aneddiadau ac mae'n gysylltiedig â rhaniad y boblogaeth, cynaliadwyedd, hygyrchedd ac anghenion cymunedau. Mae maint a dosbarthiad y tai hefyd yn rhoi sylw i'r cyfyngiadau a gydnabyddir yn nwyrain Ardal y Cynllun. Yn gyffredinol, caiff cydbwysedd bras rhwng tai, cyfleusterau cymunedol, gwasanaethau a chyfleoedd cyflogaeth mewn ardaloedd gwledig a threfol ei hybu i leihau'r angen i gymudo ymhell.

(3)3.3.5 Caiff 5 o Safleoedd Strategol Allweddol sy'n cynnwys 1,300 o gartrefi newydd a seilwaith eu cynnig fel rhan o'r aneddiadau lefel uwch. Mae i'r Safleoedd Strategol y potensial i greu galw mawr am deithio ac, o'r herwydd, fe'u cynigir mewn ardaloedd trefol sy'n bodoli eisoes ac mewn ardaloedd y gellir neu y gellid eu cyrraedd yn hawdd ar droed neu ar feic, ac sydd â darpariaeth cludiant cyhoeddus dda. Cynigir y safleoedd ar ôl canfod y gofynion, capasiti'r seilwaith a'r hyfywedd a chyflwynir hefyd ddarluniadau o'r cysyniad. Mae'n amlwg bod angen i nifer o'r Safleoedd Strategol gael eu graddol gyflwyno'n briodol er mwyn bodloni'r Rhaglen Moderneiddio Ysgolion Band 'B' ac 'C' dros Gyfnod y Cynllun.

(1)3.3.6 Wedi'u hategu gan y polisïau perthnasol yn y Cynllun, hyrwyddir tai fforddiadwy a thai'r farchnad, a'r rheini'n dai sydd wedi'u dylunio'n dda, sy'n effeithlon o ran ynni ac sydd o ansawdd da a fydd yn cyfrannu at greu lleoedd cynaliadwy. Mae'r Cynllun yn hyrwyddo safleoedd ar gyfer y dewis llawn o fathau o dai er mwyn rhoi sylw i'r anghenion a welwyd yn y cymunedau, gan gynnwys anghenion pobl hŷn a phobl ag anableddau. I'r perwyl hwn, hyrwyddir cymunedau preswyl deiliadaethau cymysg, cynaliadwy sydd â thai 'heb rwystrau', er enghraifft wedi'u hadeiladu yn unol â'r safonau Cartrefi Gydol Oes i alluogi pobl i fyw yn annibynnol ac yn ddiogel yn eu cartrefi eu hunain yn hirach, lle bo hynny'n bosibl.

3.3.7 Mae'r Cynllun hefyd yn darparu ar gyfer amrywiol safleoedd cynaliadwy a chyraeddadwy er mwyn rhoi i bob sector a math o adeiladwyr tai, gan gynnwys cwmnïau cenedlaethol, rhanbarthol, landlordiaid cymdeithasol cofrestredig, Busnesau Bach a Chanolig a'r sector hunan-adeiladu neu deilwra tai ar y pwrpas, y cyfle i gyfrannu at gyflawni'r gofyn arfaethedig am dai. Er enghraifft, mae'r Strategaeth Dai yn cynnig polisïau i helpu Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig i gyflwyno tiroedd y tu allan i ffiniau aneddiadau os yw'n helpu i gyflenwi rhagor o dai fforddiadwy.

3.3.8 Caiff y Lefel Twf Tai ei chyflawni'n unol â'r polisïau a geir yn Adran Strategol Lleoedd Iach a Chymdeithasol.

Lefelau Twf Swyddi

3.4.1 Amcan Strategol 1 (SO1):

(1)Polisi Strategol SP/3Lefelau Twf Cyflogaeth

Gwneir darpariaeth gofynion cyflogaeth ar gyfer oddeutu 1,800 o swyddi newydd yng Nghyfnod y Cynllun (gan gynnwys swyddi wrth gefn) i annog strwythur oedran mwy cytbwys, lleihau niferoedd sy'n cymudo allan, gwarchod hunaniaeth y gymuned a chyfrannu'n gadarnhaol at Fargen Twf y Gogledd. Gwneir darpariaeth yn y Cynllun ar ôl ystyried cyfraddau cwblhau, ymrwymiadau a dyraniadau newydd dros Gyfnod y Cynllun.

3.4.2 Mae gan Gonwy boblogaeth sy'n heneiddio ac mae'r boblogaeth iau yn dirywio er anfantais i greu lleoedd cynaliadwy a gwarchod hunaniaeth y gymuned. Mae'n holl bwysig bod y CDLlN yn ceisio cyfrannu at strwythur oedran mwy cytbwys, yn ceisio cadw ac annog y boblogaeth iau i ddychwelyd i'r ardal ac yn lleihau'r lefelau cymudo allan. Yn ogystal ag yn diogelu ac yn gwella'r asedau cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol, mae'n darparu ar gyfer strategaeth a fydd yn cyfrannu at leoedd cynaliadwy yng Nghonwy. Ar ôl ystyried effeithiau Bargen Twf y Gogledd dros Gyfnod y Cynllun a'r rhagolygon economaidd, mae angen i'r CDLlN ddatblygu 1,800 o swyddi yn ychwanegol rhwng 2018 a 2033, ac mae hyn yn cyfateb i oddeutu 12 - 14 hectar o dir. Yn unol â'r Adolygiad Tir Cyflogaeth mae'r gofynion swyddi yn cael eu rhannu'n wastad rhwng B1 Swyddfeydd a B1c/B2/B8 Diwydiannol a Warysau.

3.4.3 Caiff y gofynion tir a swyddi eu dosbarthu'n unol â'r Asesiad o'r Dadansoddiad o Farchnadoedd Masnachol, sy'n cefnogi'n bennaf dwf sy'n agos i goridor arfordirol y rheilffordd a'r A55. O'r 5 Safle Strategol Allweddol a gynigir, lleolir 2 yn yr aneddiadau trefol lefel uwch sy'n cynnwys oddeutu 6 hectar o dir cyflogaeth gyda'i gilydd a'r seilwaith angenrheidiol. Mae'r safle arfaethedig yn nwyrain Ardal y Cynllun yn cefnogi'r cynigion am brosiectau a welir ym Margen Twf y Gogledd. Cynigir y safleoedd ar ôl canfod y gofynion, capasiti'r seilwaith a'r hyfywedd a chyflwynir hefyd ddarluniadau o'r cysyniad.

(1)3.4.4 Caiff y Lefel twf swyddi ei chyflawni'n unol â'r polisïau a geir yn Adran Strategol Lleoedd Ffyniannus yng Nghonwy.

Dosbarthiad Twf a Hierarchaeth Aneddiadau

3.5.1 Amcan Strategol 1 (SO1)

(3)Polisi Strategol SP/4Dosbarthiad Twf a Hierarchaeth Aneddiadau

Dros Gyfnod y Cynllun, caiff datblygiadau eu lleoli yn unol â'r dull strategol a nodir yn y strategaeth dosbarthiad twf, a hierarchaeth aneddiadau. Bydd y rhan fwyaf o'r datblygiadau'n digwydd o fewn yr Ardal Strategaeth Datblygu Arfordirol, sy'n cynnwys y rhan fwyaf o rannau adeiledig yr awdurdod ac fe'i gwahanir yn bedair is-ardal. Ardal y Strategaeth Datblygu Gwledig sy'n cwmpasu'r rhan fwyaf o arwynebedd y tir yn Ardal y Cynllun er mai cyfran gymharol fechan o'r boblogaeth a geir yma.

Dylai twf cyflogaeth yn gyffredinol gael ei anelu at y Lleoliadau Cyflogaeth Dymunol Allweddol, fel y gwelir yn y diagram allweddol, er y bydd safleoedd at ddibenion cyflogaeth yn cael eu darparu ar sail anghenion busnesau, gan ddefnyddio dull dilyniannol o chwilio am safleoedd pan fydd safle newydd yn ofynnol fel y nodir yn Polisi Strategol 27: Datblygu Economaidd. Er mwyn sicrhau bod cyfran o'r twf economaidd yn digwydd yn yr ardal wledig bydd yn rhaid gweithredu mewn ffordd fwy hyblyg o safbwynt ehangu busnesau gwledig, gan alluogi iddynt dyfu heb fod angen eu symud, os yw'n briodol ac yn gynaliadwy gwneud hynny.

Caiff twf tai ei ddosbarthu i ardal pob strategaeth fel y gwelir isod.

Ardal y Strategaeth

Ardal y Strategaeth Datblygu Arfordirol

Ardal y Strategaeth Datblygu Gwledig

Is-ardal

Gorllewin

Creuddyn

Canolog

Dwyrain

Cyfran o gyfanswm y twf

10%

30%

35%

15%

10%

Dylai datblygiad newydd a gynigir mewn anheddiad fod yn briodol o'i gymharu â maint, swyddogaeth, lleoliad a chymeriad yr anheddiad presennol. Mae'r maint a'r math o ddatblygiad yr ystyrir ei fod yn addas mewn anheddiad yn seiliedig ar ei safle yn yr Hierarchaeth Aneddiadau fel y diffinnir isod:

Trefol

Abergele/Pensarn, Bae Colwyn (gan gynnwys Llandrillo-yn-Rhos a Hen Golwyn), Conwy, Deganwy/Llanrhos, Llandudno, Cyffordd Llandudno, Llanfairfechan, Mochdre, Penmaenmawr a Bae Penrhyn/ Ochr Penrhyn a Thowyn/Bae Cinmel.

Canolfan wasanaethau allweddol

Llanrwst

Prif Bentrefi Haen 1

Llanddulas, Dwygyfylchi*, Glan Conwy

Prif Bentrefi Haen 2

Betws-yn-Rhos, Cerrigydrudion, Dolgarrog*, Eglwysbach, Llanfair Talhaiarn, Llangernyw, Llansannan, Llysfaen, Tal-y-Bont*/Castell a Threfriw*

Pentrefi Bach

Bryn Pydew, Glanwydden, Groes, Henryd, Llanbedr-y-Cennin*, Llanddoged, Llanelian, Llangwm, Llannefydd, Pentrefelin, Pentrefoelas, Rhyd-y-Foel, Llan San Sior, Tal-y-Cafn a Thyn-y-Groes.

Pentrefannau

Bodtegwel, Bryn-y-Maen, Brymbo, Bryn Rhyd-y-Arian, Bylchau, Capelulo*, Cefn Berain, Cefn Brith, Dinmael, Glasfryn, Groesffordd, Gwytherin, Hendre, Llanfihangel GM, Maerdy, Melin y Coed, Nebo*, Pandy Tudur, Pentre-llyn-cymmer, Pentre Isa, Pentre Tafarn-y-Fedw, Rhydlydan, Tan-y-Fron.

* Aneddiadau sy'n rhannol o fewn Parc Cenedlaethol Eryri

Bydd aneddiadau trefol a'r Ganolfan Wasanaethau Allweddol, Llanrwst, yn holl bwysig ar gyfer cyflenwi'r tai, y gyflogaeth a'r seilwaith, y cyfleusterau a'r gwasanaethau eraill sydd eu hangen dros gyfnod y cynllun. Dewiswyd safleoedd strategol yn Llanfairfechan, Llanrhos, Hen Golwyn, Abergele a Llanrwst i helpu i ddarparu'r gofynion defnydd tir hyn. Caiff safleoedd pellach eu dyrannu yn y Cynllun i'w Archwilio gan y Cyhoedd fel sy'n ofynnol yn yr aneddiadau trefol, y Ganolfan Wasanaethau Allweddol a hefyd ym Mhrif Bentrefi Haen 1.

Mae'r dull ar gyfer cyflenwi tai yn cael ei ddisgrifio'n fanwl yn yr adran dai. Bydd yr holl ddatblygiadau preswyl sy'n fwy na'r trothwy maint isaf mewn aneddiadau trefol, y Ganolfan Wasanaethau Allweddol a Phrif Bentrefi Haen 1 yn darparu lefel ofynnol o dai fforddiadwy, yn unol â'r polisi ymrannu a hysbysir gan yr astudiaeth hyfywedd tai fforddiadwy. I roi hyblygrwydd i sicrhau mwy o gyfleoedd i gyflenwi mwy o dai fforddiadwy, caiff datblygiadau graddfa fechan sy'n cynnwys o leiaf 50% o dai fforddiadwy eu cefnogi ar safleoedd addas y tu allan ond wrth ymyl ffiniau'r anheddiad.

Mewn aneddiadau llai - Prif Bentrefi Haen 2, Pentrefi Bach a Phentrefannau - ni chaiff safleoedd tai eu dyrannu ond caiff datblygiadau graddfa fechan sy'n gymesur â maint a lefel cyfleusterau'r anheddiad eu cefnogi ar safleoedd addas os ydynt yn cynnwys mewnlenwi neu dalgrynnu. Rhaid i'r cyfryw safleoedd gael eu hysgogi gan alw lleol am dai a darparu o leiaf 50% o dai fforddiadwy ar gyfer anghenion lleol.

Fel eithriad i'r polisi hwn, caiff safleoedd i gyflenwi 100% o dai fforddiadwy eu cefnogi y tu allan i ffiniau'r aneddiadau llai, yn amodol ar yr holl faterion polisi lleol a chenedlaethol eraill ac os ceir tystiolaeth o angen lleol.

Mewn cefn gwlad agored ymaith oddi wrth aneddiadau diffiniedig, caiff unrhyw ddatblygiad ei reoli'n gaeth ac ni chaiff ond ei ganiatáu mewn amgylchiadau eithriadol. Yn achos tai, i fodloni angen a brofwyd am Annedd Menter Gwledig neu i ddarparu datblygiad Un Blaned, yn unol â'r canllaw cenedlaethol.

3.5.2 Cafodd y dosbarthiad twf a'r hierarchaeth aneddiadau a welir yma eu diffinio drwy roi ystyriaeth i'r adran yn PCC ar Greu Lleoedd Strategol, gan gynnwys ystyriaethau cynaliadwyedd a hygyrchedd, cyfleusterau lleol a'r safleoedd sydd ar gael, fel y nodir yn y Papurau Cefndir BP2: Adroddiad Dewisiadau Dosbarthiad Gofodol a BP3: Hierarchaeth Aneddiadau a Ffiniau Aneddiadau.

(1)3.5.3 Mae'r dull hwn yn canolbwyntio'r twf yn bennaf yn yr aneddiadau arfordirol trefol, hefyd yn y Ganolfan Wasanaethau Allweddol lle ceir gwell mynediad i wasanaethau lleol, cyflogaeth a chysylltiadau cludiant cynaliadwy. Caiff datblygiadau priodol eu cefnogi ar safleoedd addas ym mhob anheddiad ar draws yr awdurdod, fodd bynnag, byddant yn amodol ar angen ac ystyriaethau polisi perthnasol eraill. Caiff y dull gweithredu ei ddisgrifio'n fanylach yn yr adrannau tai a chyflogaeth yn y Strategaeth a Ffefrir.

Creu Lleoedd a Dylunio Da

3.6.1 Amcan Strategol 1 (SO1)

(1)Polisi Strategol SP/5Creu Lleoedd a Dylunio Da

  1. Er mwyn cyfrannu at Greu Lleoedd Cynaliadwy a rhoi sylw i'r 5 elfen allweddol mewn Dylunio Da, dylai cynigion datblygu, lle bo'n briodol:
    1. Gyflawni Polisi Strategol 1: Egwyddorion Creu Lleoedd Cynaliadwy
    2. Rhoi sylw i 'Fynediad a Chynhwysiant' i bawb drwy wneud darpariaeth i fodloni anghenion pobl sydd â nam ar y synhwyrau, ar y cof, ar symudedd ac ar eu dysgu, pobl hŷn a phobl sydd â phlant ifanc;
    3. Rhoi sylw i 'Gynaliadwyedd Amgylcheddol' drwy geisio bod mor ynni-effeithlon â phosibl a defnyddio adnoddau eraill (gan gynnwys tir) mor effeithlon â phosibl, hybu symudiad cynaliadwy, defnyddio llai ar adnoddau nad ydynt o ffynonellau adnewyddadwy, annog datgarboneiddio ac atal gwastraff a llygredd rhag cael eu cynhyrchu;
    4. Rhoi sylw i 'Gymeriad' drwy ystyried patrwm, ffurf, maint ac edrychiad datblygiad arfaethedig a'i berthynas â'i amgylchfyd. Dylid ceisio rhesymeg glir y tu ôl i'r penderfyniadau dylunio a wnaed, ar sail dadansoddiad o'r safle a'r cyd-destun, gweledigaeth gref, gofynion perfformiad ac egwyddorion dylunio, gydol y broses ddatblygu a dylai'r rhain gael eu mynegi, pan fo'n briodol, mewn datganiad dylunio a mynediad.
    5. Rhoi sylw i 'Ddiogelwch Cymunedol' drwy gyfrwng y broses ddylunio drwy atal a lleihau troseddu ac anhrefn; a
    6. Rhoi sylw i 'Symudiad' drwy ddylunio mewn ffordd sy'n annog pobl i beidio â bod yn ddibynnol ar geir a darparu cynifer â phosibl o gyfleoedd i bobl wneud dewisiadau cynaliadwy a dewis dulliau teithio llesol.
  2. Dylid defnyddio'r dadansoddiad o'r safle a'r cyd-destun i bennu priodoldeb cynnig datblygu o ran fel y mae'n ymateb i'w amgylchfyd.

3.6.2 Er mwyn creu dyluniad da a chreu ymdeimlad o le yn effeithiol rhaid cael dealltwriaeth o'r berthynas rhwng pob elfen o'r amgylchedd naturiol a'r amgylchedd adeiledig. Mae dylunio yn un o'r cydrannau sylfaenol wrth greu datblygiad cynaliadwy, ac mae gan hynny ynddo'i hun le blaenllaw yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol 2015.

3.6.3 Mae dylunio da yn elfen sylfaenol mewn creu lleoedd cynaliadwy lle mae pobl eisiau byw, gweithio a chymdeithasu. Mae mwy i ddylunio na dim ond pensaernïaeth adeilad, mae'r berthynas rhwng holl elfennau'r amgylchedd naturiol a'r amgylchedd adeiledig, a rhwng pobl a lleoedd, hefyd yn bwysig. Er mwyn gallu creu lleoedd cynaliadwy yng Nghonwy, rhaid i ddylunio fynd y tu hwnt i estheteg a chynnwys yr agweddau cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol ar y datblygiad, gan gynnwys sut caiff gofod ei ddefnyddio, sut mae adeiladau a thir y cyhoedd yn cefnogi'r defnydd hwn, yn ogystal â'r ffordd y'i hadeiladwyd, y ffordd mae'n cael ei ddefnyddio, ei reoli a'i berthynas â'r ardal gyfagos.

3.6.4 Mae dylunio yn broses gynhwysol, sy'n gallu codi dyheadau'r cyhoedd, atgyfnerthu balchder dinesig a chreu ymdeimlad o le a helpu i siapio ei ddyfodol. Bydd Conwy yn ceisio sicrhau bod datblygiadau'n bodloni amcanion dylunio da. Caiff yr amcanion hyn eu categoreiddio mewn pum elfen allweddol yn PCC, 10. (gweler Ffigur:1): Nod y polisi hwn yw sicrhau bod cynigion datblygu yn gallu cael canlyniadau economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol positif ac yn gallu lleihau'r canlyniadau niweidiol. Bydd hwn, ochr yn ochr â pholisïau manylach a gaiff eu llunio yn y CDLlN i'w Archwilio gan y Cyhoedd, yn sylfaenol i'r holl benderfyniadau cynllunio, a chaiff dangosyddion eu datblygu fel rhan o fframwaith monitro'r Cynllun i ddangos effeithiolrwydd y polisïau.

Ffigur 3: Effennau Dylunio Da

figure%203%20cymraeg

Hyrwyddo Lleoedd Iachach

3.7.1 Amcan Strategol 1 (SO1)

Polisi Strategol SP/6Hyrwyddo Lleoedd Iachach yng Nghonwy

Er mwyn hyrwyddo lleoedd iachach yng Nghonwy, lleihau anghydraddoldebau iechyd a chyfrannu at Gynllun Llesiant Conwy a Sir Ddinbych, mae gofyn i gynigion datblygu:

  1. Alluogi cyfleoedd ar gyfer hamdden a gweithgareddau awyr agored yn unol â Pholisi Strategol 18: Mannau Hamdden
  2. Sicrhau bod poblogaethau'n dod i lai o gysylltiad â llygredd aer a sŵn yn unol â Pholisi Strategol 25: Dŵr, Aer, Seinwedd a Golau
  3. Hyrwyddo dewisiadau teithio llesol yn unol â Pholisi Strategol 14: Cludiant Cynaliadwy a Hygyrchedd; a
  4. Ceisio gwelliannau amgylcheddol a ffisegol, yn enwedig yn yr amgylchedd adeiledig yn unol â Pholisi Strategol 5: Creu Lleoedd a Dyluniad Da.

3.7.2 Mae'r amgylchedd adeiledig a naturiol yn un o'r penderfynyddion iechyd a llesiant allweddol yng Nghonwy. Bydd gan y CDLlN ran bwysig i'w chwarae i siapio'r ffactorau cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol sy'n pennu iechyd ac sy'n hybu neu'n effeithio ar lesiant yn unol â'r nod Cymru Iachach. Mae'r ffordd y mae lleoedd yn gweithio ac yn gweithredu yn gallu cael effaith ar y dewisiadau a wna pobl yn eu bywydau bob dydd, gan gynnwys eu dewisiadau hamdden a theithio a pha mor hawdd fyddai cymdeithasu ag eraill.

3.7.3 Mae problemau iechyd yn tueddu i effeithio'n anghymesur ar gymunedau difreintiedig a dan anfantais. Ceir cysylltiadau rhwng yr amgylchedd adeiledig a'r amgylchedd naturiol ac iechyd gydol oes unigolyn, ac mae dealltwriaeth o'r penderfynyddion iechyd ehangach yn un o gydrannau allweddol y CDLlN. Mae SP/6 yn nodi'r mesurau rhagweithiol ac ataliol strategol i leihau anghydraddoldebau iechyd, a chaiff y rhain eu trafod ymhellach drwy adrannau perthnasol y CDLlN.

3.7.4 Mae gan Gonwy ran i'w chwarae i atal salwch corfforol a meddyliol a achosir fel y nodir yng Nghynllun Llesiant Conwy a Sir Ddinbych, neu a waethygir gan lygredd, datgysylltiad pobl oddi wrth weithgareddau cymdeithasol (sy'n cyfrannu at unigedd) yn ogystal ag i hyrwyddo patrymau teithio sy'n hwyluso ffyrdd o fyw llesol. Rhaid i gynigion datblygu roi ystyriaeth i effeithiau datblygiad newydd ar y cymunedau sy'n bodoli eisoes a sicrhau eu bod yn gwarchod iechyd a llesiant i'r eithaf ac yn diogelu amwynderau. Bydd hyn yn cynnwys ystyried y ddarpariaeth asedau cymunedol ac iechyd, a mynediad iddynt, megis neuaddau bro, llyfrgelloedd, meddygfeydd ac ysbytai. Dylid cyfyngu ar yr effeithiau ar iechyd ym mhob achos, yn enwedig os gallai datblygiad newydd gael effaith niweidiol ar iechyd, amwynder a llesiant. Mewn amgylchiadau o'r fath, os na all yr effeithiau ar iechyd neu amwynderau eu goresgyn yn foddhaol, dylid gwrthod datblygiad lle bo'n briodol.

3.7.5 Dylai'r CDLlN ddatblygu a chynnal lleoedd sy'n annog ffyrdd iach, gweithgar o fyw ar draws pob oedran a grŵp cymdeithasol-economaidd, gan gydnabod y gall buddsoddi mewn seilwaith cerdded a beicio fod yn fesur ataliol effeithiol sy'n ysgafnu'r baich ariannol ar wasanaethau cyhoeddus yn y tymor hwy. Gall y ffordd y caiff datblygiad ei osod allan a'i drefnu ddylanwadu ar ymddygiad a phenderfyniadau pobl a gall fod yn ddull effeithiol o leddfu llygredd aer a sŵn. Gall cynllunio effeithiol ddarparu amgylchfyd tawel, llonydd yn ogystal ag amgylcheddau cyffrous a synhwyraidd, mae'r ddau yn gwneud cyfraniad pwysig i leoedd llwyddiannus yng Nghonwy.

3.7.6 Gall seilwaith gwyrdd fod yn ffordd effeithiol o wella iechyd a llesiant, drwy gyplysu anheddau, gweithleoedd a chyfleusterau cymunedol a drwy ddarparu mannau gwyrdd hygyrch, o ansawdd da. Ym mhob datblygiad ac mewn mannau cyhoeddus yn enwedig, dylid ymdrin yn sensitif â golau, a dylid cyfyngu cymaint ag sy'n rhesymol bosibl ar lygredd yn yr awyr. Bydd yr ystyriaeth a yw defnyddiau tir yn cydweddu yn ffactor allweddol i roi sylw i ansawdd aer, felly hefyd greu seinweddau sy'n ffafriol i, ac yn adlewyrchu, gweithgareddau a phrofiadau cymdeithasol a diwylliannol penodol, yn enwedig mewn ardaloedd canolog prysur yn yr Ardal Strategaeth Datblygu Arfordirol (CDSA). Yn yr un modd, gall darparu mannau tawel, llonydd sy'n noddfa heddychlon mewn amgylcheddau swnllyd helpu i leihau lefelau llygredd cyffredinol a hybu llesiant corfforol a meddyliol yng Nghonwy.

Yr Iaith Gymraeg

3.8.1 Amcan Strategol 1 (SO1)

(4)Polisi Strategol SP/7Yr Iaith Gymraeg

Bydd y defnydd o'r Gymraeg yng Nghonwy yn cael ei gefnogi a'i annog drwy'r CDLlN, drwy gefnogi'r ddarpariaeth o gyflogaeth leol a datblygiadau preswyl yn gymesur ag anghenion y cymunedau lleol.

Bydd asesiad effaith y Gymraeg yn cael ei gyflawni a fydd yn amlygu pa gamau lliniaru, os oes rhai, fydd eu hangen i rwystro niwed posibl i'r defnydd o'r Gymraeg all gael ei achosi gan gynigion datblygu. Bydd ardaloedd sy'n sensitif i iaith yn cael eu diffinio, a bydd polisi yn seiliedig ar feini prawf yn cael ei gynnwys yn y Cynllun i'w Archwilio gan y Cyhoedd, er mwyn canfod datblygiadau anrhagweladwy a fydd angen asesiad effaith yn ystod y cam ymgeisio.

(1)3.8.2 Mae'r Gymraeg yn rhan allweddol o gyfansoddiad cymdeithasol a diwylliannol Conwy, gyda dros 27% o'r boblogaeth yn gallu siarad Cymraeg . Yng nghyfrifiad 2011, canfuwyd bod amrywiaeth sylweddol yn nefnydd y Gymraeg ar draws Conwy, o dros 70% o'r boblogaeth yn ward Uwchaled yn ne-ddwyrain gwledig y sir, i lai na 12% yn ardaloedd arfordirol dwyreiniol Pensarn, Towyn a Bae Cinmel.

3.8.3 Mae'r Gymraeg yn ystyriaeth berthnasol wrth benderfynu ar geisiadau cynllunio, fodd bynnag mae NCT20 yn ei gwneud yn glir bod effaith datblygiad ar y Gymraeg yn fater y dylid ei asesu yn ystod y cam cynllunio datblygiad; dim ond mewn amgylchiadau eithriadol y bydd angen i geisiadau cynllunio unigol gyflwyno asesiad effaith.

3.8.4 Felly, mae asesiad effaith lefel uchel yn cael ei gyflawni er mwyn ystyried y dull strategol a nodir yn y Strategaeth a Ffefrir, a sut gellir defnyddio'r CDLlN i gefnogi'r defnydd o'r Gymraeg. Gall hyn fod drwy annog datblygiad o'r math a'r lleoliad cywir er mwyn cryfhau cymunedau sy'n siarad Cymraeg, a chael rhai datblygiadau er mwyn lliniaru yn erbyn niwed posibl a achosir gan ddatblygiad.

3.8.5 Ac ystyried yr ansicrwydd ynglŷn â'r economi oherwydd bod Prydain yn gadael yr UE, mae'n holl bwysig i'r Cynllun roi digon o hyblygrwydd i ymateb i amgylchiadau newidiol. Caiff yr hyblygrwydd hwn ei greu yn rhannol drwy bolisïau ar sail meini prawf a fydd yn galluogi i geisiadau ar safleoedd y tu allan i ddyraniadau gael eu hystyried.

Rheoli Adnoddau Naturiol yn Gynaliadwy

3.9.1 Amcan Strategol 1 (SO1)

(1)Polisi Strategol SP/8Rheoli Adnoddau Naturiol yn Gynaliadwy

Er mwyn cynnal a gwella gwytnwch ecosystemau a'r manteision a roddant i greu lleoedd cynaliadwy, bydd y Cyngor yn sefydlu fframwaith i sicrhau y cyfrennir yn bositif at yr egwyddorion Rheoli Adnoddau Naturiol yn Gynaliadwy, y Polisi Adnoddau Naturiol, yr 'Adroddiad ar Gyflwr Adnoddau Naturiol' a 'Datganiadau Ardal'.

3.9.2 Caiff egwyddorion Rheoli Adnoddau Naturiol yn Gynaliadwy (SMNR) eu cyflwyno drwy Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 ac mae'n cyflwyno fframwaith i gyflawni'r rhain wrth wneud penderfyniadau. Nod egwyddorion SMNR yw cynnal a gwella gwytnwch ecosystemau a'r manteision a roddant. Mae trosi egwyddorion SMNR i'r system gynllunio yn rhan annatod o gydrannau hanfodol lleoedd cynaliadwy yng Nghonwy ac fe'u cyflawnir drwy annog dulliau sy'n seiliedig ar ganfod a sicrhau canlyniadau sy'n esgor ar lu o fanteision i'n hecosystemau.

(1)3.9.3 Rhaid i Lywodraeth Cymru gyhoeddi a gweithredu Polisi Adnoddau Naturiol statudol sy'n datgan ei blaenoriaethau o safbwynt SMNR, tra bod gofyn i Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) lunio 'Adroddiad ar Gyflwr Adnoddau Naturiol' a pharatoi 'Datganiadau Ardal' i'w hysbysu sut i weithredu mewn gwahanol leoedd. Mae'r Polisi Adnoddau Naturiol a'r Datganiadau Ardal yn ddarnau allweddol o dystiolaeth y mae'n rhaid rhoi ystyriaeth iddynt wrth baratoi cynllun datblygu. Hyd yma ni chyhoeddwyd y Datganiad Ardal ar gyfer Conwy.

3.9.4 Mae'r system gynllunio yn delio â chwmpas cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol eang ac mae'n gweithredu mewn ffordd hollgynhwysol o safbwynt datblygu cynaliadwy lle mae penderfyniadau ar anghenion tymor byr a thymor hir a chost a manteision yn dod ynghyd. Mae'n sicrhau canlyniadau sy'n gallu darparu llu o fanteision (mwy nag un budd i'r ecosystem) fel rhan o strategaethau gwneud cynlluniau neu gynigion datblygu unigol. Caiff y Polisi Strategol ei gyflawni ymhellach drwy bolisïau a welir yn yr Adran Lleoedd Naturiol a Diwylliannol.

Creu Lleoedd mewn Ardaloedd Gwledig

3.10.1 Amcan Strategol 1 (SO1)

(1)Polisi Strategol SP/9Creu Lleoedd mewn Ardaloedd Gwledig

Yn unol â'r Hierarchaeth Aneddiadau, caiff cynigion datblygu mewn aneddiadau gwledig eu cefnogi os ydynt yn meithrin natur hyblyg a gwydn cymunedau gwledig Conwy ac os ydynt yn sicrhau cydbwysedd cynaliadwy rhwng bodloni anghenion economaidd, cymdeithasol a hamdden cymunedau lleol ac ymwelwyr â'r angen i warchod a, lle bo'n bosibl, gwella'r amgylchedd naturiol a diwylliannol.

3.10.2 Caiff economi wledig gadarn ei hyrwyddo i annog cymunedau gwledig cynaliadwy a bywiog yng Nghonwy. Bydd meithrin y gallu i addasu a gwytnwch yn un o'r nodau allweddol i aneddiadau gwledig wrth wynebu'r cryn her o warchod hunaniaeth a ffyniant cymunedau.

3.10.3 Mae sefydlu mentrau newydd ac ehangu busnesau sy'n bodoli eisoes yn hanfodol i dwf a sefydlogrwydd ardaloedd gwledig, a rhaid cefnogi hynny â'r seilwaith cymunedol angenrheidiol a'r tai sy'n ofynnol. Mae angen cyflawni hyn heb anghofio'r angen i warchod a, lle bo'n bosibl, gwella'r amgylchedd naturiol a diwylliannol.

3.10.4 Ar gyfer y rhan fwyaf o'r ardaloedd gwledig yn Ardal Strategaeth Datblygu Gwledig (RDSA) Conwy, mae'r cyfleoedd i ddefnyddio llai ar geir a cherdded, seiclo a defnyddio cludiant cyhoeddus mwy yn fwy cyfyngedig nag yn y CDSA. Felly, bydd aneddiadau yn yr RDSA yn canolbwyntio ar dwf lleol ac amrywiaeth yn ddibynnol ar eu cynaliadwyedd a'u safle yn yr Hierarchaeth Aneddiadau. Caiff dull gweithredu adeiladol ei fabwysiadu wrth ddelio â chynigion datblygu amaethyddol hefyd, yn enwedig y rheini sydd â'r nod o fodloni anghenion arferion ffermio newidiol neu'r rheini sy'n angenrheidiol er mwyn cydymffurfio â deddfwriaeth amgylcheddol, hylendid neu les newydd. Gweithredir yn bositif o safbwynt addasu adeiladau gwledig i'w hailddefnyddio ar gyfer busnes, felly hefyd o safbwynt prosiectau arallgyfeirio mewn ardaloedd gwledig.

3.10.5 Bydd y dull hwn yn sicrhau bod cefn gwlad yn gallu gwrthsefyll effeithiau newid hinsawdd a'i fod yn chwarae rhan i leihau achosion newid hinsawdd drwy warchod dalfeydd carbon ac fel ffynhonnell ynni cynaliadwy.

Cynlluniau Lleoedd

3.11.1 Amcan Strategol 1 (SO1)

Polisi Strategol SP/10Cynlluniau Lleoedd

Er mwyn hybu cydweithrediad, gwella llesiant a chreu lleoedd, caiff Cynlluniau Lleoedd eu cefnogi os ydynt yn cyflawni Polisïau'r CDLlN, os cânt eu paratoi ar gais y gymuned leol a'u mabwysiadu fel canllaw cynllunio atodol.

3.11.2 Dogfennau anstatudol yw Cynlluniau Lleoedd. Gallant gael eu paratoi ar gais y gymuned leol ac maent yn offer pwerus i hybu cydweithrediad i wella llesiant a'r broses creu lleoedd. Dylai Cynlluniau Lleoedd helpu i gyflawni polisïau'r CDLl ac fe'u mabwysiadir fel canllaw cynllunio atodol.

3.11.3 Mae Cynlluniau Lleoedd yn rhoi cyfle i gymunedau ymgysylltu â'r broses gwneud cynllun ar lefel leol, gydag ACLlau yn cefnogi cynlluniau Creu Lleoedd mewn cymunedau lleol. Nod Cynlluniau Lleoedd yw cyflawni canlyniadau lleol, helpu i sicrhau consensws ac ymrwymiad ym mhroses y cynllun datblygu ehangach. Gallant ychwanegu'r manylder at CDLl mabwysiedig. Gallant gael eu llunio gan Gynghorau Tref a Chymuned neu'r ACLl ar y cyd â chymunedau lleol. Mae'n holl bwysig bod yr holl bartïon dan sylw yn deall faint o adnoddau sy'n ofynnol i baratoi Cynllun Lle a bydd yn hanfodol ymgysylltu'n gynnar â'r holl bartïon.

3.11.4 Dylai Cynlluniau Lleoedd gydymffurfio â'r CDLlN a chael eu mabwysiadu fel CCA. Gallant fwydo gwybodaeth i adolygiad o CDLl, cael eu paratoi ochr yn ochr â CDLl, neu ar ôl ei fabwysiadu, cyn belled ag y ceir 'cysylltiad polisi' digonol yn y cynllun. Ni chânt ddyblygu na chyflwyno polisi newydd, ac ni chânt ychwaith ddad-ddyrannu safleoedd a enwir yn y cynllun datblygu mabwysiedig. Nid yw Cynlluniau Lleoedd yn rhan o'r cynllun datblygu statudol; yn hytrach, ychwanegu manylder at y cynllun mabwysiedig a wnânt.

3.11.5 Gall Cynlluniau Lleoedd hefyd fod yn llyw ar gyfer dosbarthu a gwario arian a godir o rwymedigaethau cynllunio a106/symiau gohiriedig a lle bo'n berthnasol, yr Ardoll Seilwaith Cymunedol. Dylid nodi yn y Cynlluniau Lleoedd pa bolisi dyrannu safle perthnasol yn y CDLlN y mae'n berthnasol iddo a/neu nodi sut maent yn ychwanegu at bolisïau cysylltiedig generig eraill, megis, dylunio, canolfannau masnachol a mannau gwyrdd. Mae'r Cyngor wedi cyhoeddi canllawiau a deunydd ategol ar ddefnyddio a pharatoi Cynlluniau Lleoedd.

Safleoedd Strategol

3.12.1 Amcan Strategol 1 (SO1)

(5)Polisi Strategol SP/11Safleoedd Strategol

I rannol fodloni'r gofynion twf i'r dyfodol, adlewyrchu tir cyfyngedig iawn yn nwyrain y Fwrdeistref Sirol a chyfrannu'n gadarnhaol at Fargen Twf y Gogledd, cynigir pump o Safleoedd Strategol Allweddol* mewn lleoliadau cynaliadwy a hygyrch, wedi'u hategu gan y seilwaith gofynnol a'u cynnig yn raddol dros Gyfnod y Cynllun.

Ardal Strategaeth Datblygu Arfordirol (CDSA):

  1. Llanfairfechan - Tai Defnydd Cymysg (400 o Gartrefi), Tai Fforddiadwy, Ysgol Gynradd, Rhandiroedd ac Ardal Hamdden. Cyflwynir y safle yn raddol rhwng 2021 a 2029
  2. Llanrhos - Tai Defnydd Cymysg (250 o Gartrefi), Tai Fforddiadwy, Ysgol Gynradd, 1 Hectar o Dir Cyflogaeth B1, Rhandiroedd ac Ardal Hamdden. Cyflwynir y safle yn raddol rhwng 2024 a 2031.
  3. Hen Golwyn - Tai Defnydd Cymysg (450 o Gartrefi), Tai Fforddiadwy, Rhandiroedd ac Ardal Hamdden. Cyflwynir y safle yn raddol rhwng 2024 a 2033.
  4. Abergele - Cyflogaeth Defnydd Cymysg (4.7 Hectar o B1, B2 a B8), Siopau Adwerthu Cyfleustra, Ardal Hamdden ac Ysgol Gynradd. Cyflwynir y safle yn raddol rhwng 2021 a 2027.

Ardal Strategaeth Datblygu Gwledig (RDSA)

  1. Canolfan Wasanaethau Allweddol Llanrwst - Tai (200 o Gartrefi), Tai Fforddiadwy, Rhandiroedd ac Ardal Hamdden. Cyflwynir y safle yn raddol rhwng 2021 a 2026.

*Mae'r holl Safleoedd Strategol Allweddol yn cael eu hategu gan Asesiad Hyfywedd, Asesiadau Safle a Darluniadau o'r Cysyniad. Bydd yr holl Safleoedd Strategol yn cael eu hategu gan Weledigaeth Creu Lleoedd, Egwyddorion Dylunio a Briffiau Datblygu.

3.12.2 I adlewyrchu eu cyfraniad i ofynion twf Conwy i'r dyfodol ac fel cydrannau allweddol o Fargen Twf y Gogledd, dewiswyd pump o Safleoedd Strategol fel rhai creiddiol i sicrhau twf yn ystod Cyfnod y Cynllun. Ategir yr holl Safleoedd Strategol Allweddol gan weledigaeth creu lleoedd, egwyddorion dylunio a briffiau datblygu wrth i'r CDLlN fwrw ymlaen drwy'r broses ar gyfer ei fabwysiadu. Cael eu henwi yn dilyn ymarferiad dechrau dwys â gwasanaethau cyhoeddus allweddol a chwmnïau cyfleustodau a wnaeth y safleoedd arfaethedig ac o'r herwydd maent yn adlewyrchu ystyriaethau ynglŷn â chapasiti a'r seilwaith newydd sy'n ofynnol dros Gyfnod y Cynllun.

(1)3.12.3 Dylai'r holl ddyraniadau a'r cynigion datblygu ystyried yr holl Bolisïau perthnasol yn y CDLlN ac, yn benodol, sut mae egwyddorion Creu Lleoedd Cynaliadwy a dylunio da yn dylanwadu ar faint a lleoliad datblygiad. Mae'n hanfodol bod cynigion yn creu lleoedd o ansawdd sydd wedi'u dylunio'n dda lle mae pobl eisiau byw, gweithio ac ymweld â nhw. Er nad yw hon yn rhestr gyflawn, bydd angen i Safleoedd Strategol Allweddol ystyried y canlynol wrth baratoi Briffiau Datblygu: Defnyddiau tir, mathau o dai a dwysedd, maint a chrynhoad, mynediad allweddol, coridorau symud a'r hierarchaeth strydoedd, trafnidiaeth / symudiad (pob math), seilwaith gwyrdd, seilwaith ffisegol, bioamrywiaeth, cyfleoedd ynni adnewyddadwy / effeithlonrwydd ynni, cyflwyno graddol a gofynion seilwaith.

3.12.4 Mae gwaith ar Asesiadau Hyfywedd yn mynd rhagddo i asesu'r cyfleoedd i fynnu safonau adeiladu cynaliadwy uwch, gan gynnwys dim carbon, ar safleoedd datblygu a bydd y gwaith hwn yn bwydo gwybodaeth i'r Cynllun i'w Archwilio gan y Cyhoedd.

(2)3.12.5 Llanfairfechan - Tai Defnydd Cymysg (400 o Gartrefi), Tai Fforddiadwy, Ysgol Gynradd, Rhandiroedd ac Ardal Hamdden, Seilwaith Gwyrdd a Chysylltiadau Teithio Llesol. Cyflwynir y safle yn raddol rhwng 2021 a 2029.

Cynigir Safle Strategol defnydd cymysg newydd yn Llanfairfechan a fydd yn cynnwys 400 o gartrefi newydd, tai fforddiadwy, ysgol gynradd newydd, rhandiroedd ac ardal hamdden. Mae'r dull dechrau dwys wedi canfod bod digon o gapasiti yn y cyflenwad dŵr a'r seilwaith carthffosiaeth/draeniau ac yn y Feddygfa. Fodd bynnag, mae angen gwella'r llwybrau teithio llesol a'r llwybrau diogel i'r ysgol o'r ardaloedd preswyl ehangach yn Llanfairfechan. Ceir cynlluniau hefyd i sefydlu Ysgol Gynradd Band B newydd rhwng 2019 a 2024. Rhoddwyd ystyriaeth i effaith y lefel dwf ac fe'i hadlewyrchir mewn ysgol o'r maint priodol.

(2)3.12.6 Llanrhos - Tai Defnydd Cymysg (250 o Gartrefi), Tai Fforddiadwy, Ysgol Gynradd, oddeutu 1 Hectar o Dir Cyflogaeth B1, Rhandiroedd ac Ardal Hamdden, Seilwaith Gwyrdd a Chysylltiadau Teithio Llesol. Cyflwynir y safle yn raddol rhwng 2024 a 2031.

Cynigir Safle Strategol defnydd cymysg yn Llanrhos rhwng aneddiadau trefol Cyffordd Llandudno a Llandudno a fydd yn cynnwys 250 o gartrefi newydd (gan gynnwys tai fforddiadwy), oddeutu 1 hectar o dir B1 (swyddfeydd) i hyrwyddo defnydd cyflogaeth clwstwr, ysgol gynradd newydd, rhandiroedd ac ardal hamdden. Mae'r ardal hefyd yn cael ei chydnabod fel ardal sydd angen gwell cludiant cyhoeddus, seilwaith gwyrdd a theithio llesol, a chaiff hyn ei gyflawni drwy Friff Datblygu cynhwysfawr. Caiff y Safle Strategol ei raddol gyflwyno o 2024 ymlaen i sicrhau ei fod yn cysylltu â'r Rhaglen Moderneiddio Ysgolion 'Band C'.

3.12.7 Hen Golwyn - Tai (450 o Gartrefi), Tai Fforddiadwy, Rhandiroedd ac Ardal Hamdden, Seilwaith Gwyrdd a Chysylltiadau Teithio Llesol. Cyflwynir y safle yn raddol rhwng 2024 a 2033.

Safle Strategol i'r de o Hen Golwyn a fydd yn cynnwys 450 o gartrefi newydd, rhandiroedd ac ardal hamdden. Caiff y Safle Strategol ei raddol gyflwyno o 2024 ymlaen i ystyried Effeithiau'r Ysgol Band C. Yn dilyn y dull dechrau dwys, mae'n bosibl y bydd angen gwella'r rhwydwaith priffyrdd ehangach, gwella'r gwasanaethau cludiant cyhoeddus a'r llwybrau teithio llesol ar gyfer y safle. Mae gwaith Modelu Hydrolig hefyd yn mynd rhagddo i ganfod a fydd gofyn gwneud gwaith i wella'r seilwaith carthffosiaeth/draeniau a'r cyflenwad dŵr.

3.12.8 De Ddwyrain Abergele - Cyflogaeth Defnydd Cymysg (4.7 Hectar o B1, B2 a B8), Siopau Adwerthu Cyfleustra, Ardal Hamdden ac Ysgol Gynradd, Seilwaith Gwyrdd a Chysylltiadau Teithio Llesol. Cyflwynir y safle yn raddol rhwng 2021 a 2027.

Mae De Ddwyrain Abergele yn un o'r prosiectau allwedd ym Margen Twf y Gogledd. Dyrannwyd y safle yn flaenorol yn y CDLl Mabwysiedig ac o'r herwydd rhoddwyd ystyriaeth ofalus i ailddyrannu'r Safle Strategol Allweddol at ddefnydd Cyflogaeth cymysg (4.7 Hectar o B1, B2 a B8), Siopau Adwerthu Cyfleustra, Ardal Hamdden ac Ysgol Gynradd. Un ystyriaeth bwysig cyn cyflenwi'r safle yw'r capasiti sydd ar gael yng nghanol y dref ac ar y rhwydwaith priffyrdd i ddelio â'r twf, heb orfod gwneud gwaith sylweddol i wella seilwaith y briffordd yng nghanol y dref. Mae'r dystiolaeth yn awgrymu na all goleuadau traffig canol y dref ddelio â rhagor o draffig ac y byddai twf pellach a'r traffig cysylltiedig yn niweidiol heb wneud ymyraethau yng nghanol y dref (e.e. system gylchu neu system unffordd).

3.12.9 I gael gwybodaeth ynglŷn â'r dichonoldeb, cynhaliwyd Astudiaeth o Gapasiti'r Briffordd sy'n dangos y gellir cyflenwi'r defnyddiau arfaethedig heb fod angen gwneud ymyraethau mawr yng nghanol y dref. Mae'r defnyddiau arfaethedig, drwy hybu dulliau teithio llesol a chynaliadwy, yn rhoi pwysau teithio gwahanol ar ganol y dref nag y byddai cynlluniau tai newydd, ac o'r herwydd, mae'r dystiolaeth a'r dull dechrau dwys yn awgrymu bod modd cyflenwi'r safle dros Gyfnod y Cynllun.

3.12.10 Mae'r CDLlN yn dal i hyrwyddo gwelliannau i gapasiti traffig canol y dref drwy annog ymyrraeth strategol. Mae'r dewisiadau ar gyfer gwella yn cael eu hystyried yn unol â'r broses WelTag. Fe'i cefnogir gan y Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol a bydd yn cynorthwyo ymhellach amcan y CDLlN i hybu gweithgaredd adfywio a buddsoddi yn Ardal Abergele a Phensarn.

3.12.11 Canolfan Wasanaethau Allweddol Llanrwst - Tai (200 o Gartrefi), Tai Fforddiadwy, Rhandiroedd ac Ardal Hamdden, Seilwaith Gwyrdd a Chysylltiadau Teithio Llesol. Cyflwynir y safle yn raddol rhwng 2021 a 2026.

Mae'r rhan fwyaf o'r twf gwledig yn canolbwyntio ar Ganolfan Wasanaethau Allweddol Llanrwst, sy'n anheddiad sy'n cefnogi'r cymunedau gwledig ehangach â chyflogaeth, cyfleusterau a gwasanaethau cymunedol ac adwerthu. I annog datblygiad mewn lleoliadau cynaliadwy cynigir Safle Strategol yn Llanrwst a fydd yn cynnwys 200 o gartrefi newydd (marchnad a fforddiadwy), rhandiroedd ac ardal hamdden ar hyd yr A470. Mae'r gwaith dechrau dwys yn awgrymu y ceir capasiti yn y gwasanaethau cyhoeddus a'r cyfleustodau.

Seilwaith a Datblygiad Newydd

3.13.1 Amcan Strategol 1 (SO1)

(2)Polisi Strategol SP/12Seilwaith a Datblygiad Newydd

  1. Rhaid i gynigion datblygu ariannu a/neu gyflenwi seilwaith, gwasanaethau neu gyfleusterau cymunedol newydd neu well os ydynt:
    1. yn angenrheidiol i wneud y datblygiad yn dderbyniol o ran cynllunio;
    2. yn uniongyrchol gysylltiedig â'r datblygiad; ac
    3. yn eithaf ac yn rhesymol gysylltiedig o ran maint a math o ddatblygiad.
  2. Bydd gofynion seilwaith datblygiadau yn amrywio'n fawr yn unol â'u lleoliad, y ddarpariaeth seilwaith bresennol, eu maint a'u math. Wrth ystyried anghenion cynigion datblygu mae'n bosibl y bydd y seilwaith, y gwasanaethau a'r cyfleusterau canlynol yn ofynnol:
    1. Gwaith sy'n ofynnol i sicrhau amgylchedd diogel i'r gymuned a meddianwyr y datblygiad arfaethedig i'r dyfodol:
      1. Cynlluniau traffig, trafnidiaeth a phriffyrdd (gan gynnwys cludiant cyhoeddus, teithio llesol a llwybrau diogel i'r ysgol);
      2. Yr amgylchedd naturiol ac adeiledig; a
      3. Rheoli gwastraff ac ailgylchu.
    2. Yn achos datblygiad preswyl rhaid darparu tai fforddiadwy i fodloni anghenion y gymuned leol:
      1. Tai fforddiadwy.
    3. Mesurau sy'n ofynnol i fodloni anghenion meddianwyr y datblygiad arfaethedig i'r dyfodol lle byddai methu â darparu'r rhwymedigaeth yn cael effeithiau annerbyniol ar y gymuned leol:
      1. Ardaloedd Hamdden (gan gynnwys Seilwaith Gwyrdd);
      2. Cyfleusterau Addysgol;
      3. Rhandiroedd;
      4. Llyfrgelloedd;
      5. Hamdden; ac
      6. Iechyd.
    4. Mesurau sy'n ofynnol i leddfu effaith y datblygiad arfaethedig ar y gymuned leol neu materion y cydnabyddir eu bod yn bwysig:
      1. Cyflogaeth a Hyfforddiant;
      2. Y Gymraeg;
      3. Cynlluniau Adfywio;
      4. Seilwaith Digidol;
      5. Diogelwch Cymunedol; ac
      6. Ynni isel ar garbon ac ynni adnewyddadwy.
    5. Cyfleusterau a gwasanaethau eraill y credir eu bod yn angenrheidiol

3.13.2 Mae darparu seilwaith, gwasanaethau a chyfleusterau priodol yn holl bwysig i sicrhau y cyflawnir polisïau a chynigion y Cynllun. Mae seilwaith priodol yn allweddol i hwyluso datblygiad ond mae hefyd yn anghenraid i gefnogi anghenion a galwadau parhaus datblygiad a chymunedau Conwy.

3.13.3 Bydd gofynion rhwymedigaethau cynllunio yn rhoi ystyriaeth i hyfywedd ariannol datblygiad arfaethedig. Os ceir anghydfod ynglŷn â'r effaith a gaiff y gofynion ar hyfywedd ariannol y cynllun, bydd gofyn i'r ymgeisydd dalu'r costau o gynnal gwerthusiad hyfywedd annibynnol, wedi'i gwblhau gan drydydd parti sydd wedi cymhwyso a'i gymeradwyo'n briodol.

3.13.4 Nod y Cynllun yw sicrhau bod y seilwaith, y gwasanaethau a'r cyfleusterau sy'n angenrheidiol i gefnogi'r datblygiad yn cael eu cyflawni'n amserol, cyn dechrau, neu pan ddechreuir, ar y datblygiad, neu lle bo'n briodol, yn cael eu graddol gyflwyno gydol y broses ddatblygu. Mae'r Cynllun yn annog i'r gwaith o gyflenwi'r seilwaith gael ei wneud mewn ffordd gydlynol gan effeithio cyn lleied â phosibl ar y cymunedau sy'n bodoli eisoes.

3.13.5 Gallai'r cyfraniadau gynnwys y canlynol:

  1. Cyfraniadau mewn Nwyddau - Y datblygwr yn gwneud y gwaith sy'n ofynnol yn uniongyrchol.
  2. Cyfraniadau Ar y Safle / Oddi ar y Safle - Y datblygwr yn cyfrannu'n ariannol at ddarparu mesurau a fyddai'n lleddfu effeithiau niweidiol y datblygiad.
  3. Cronni Cyfraniadau - Gallai'r Cyngor geisio cronni cyfraniadau oddi wrth fwy nag un datblygwr ar draws y Fwrdeistref Sirol, er mwyn rhoi sylw i'r effeithiau ehangach ar draws datblygiadau.

3.13.6 Darpariaeth ar y safle yw'r dewis a ffafrir, yn enwedig o ran rhwymedigaethau megis tai fforddiadwy ac ardaloedd hamdden. Lle bo angen, bydd y datblygwr yn gyfrifol am gynnal y rhwymedigaeth i'r dyfodol. Ni ddylai'r datblygiad ddigwydd nes bo'r seilwaith sy'n angenrheidiol gan ei feddianwyr wedi'i sefydlu. Oni nodir yn wahanol, nid oes dim eithriadau.

3.13.7 Ardoll Seilwaith Cymunedol Conwy (CIL)

Mae'r Cyngor yn bwrw ymlaen ag Asesiad Hyfywedd sy'n rhoi ystyriaeth i rwymedigaethau cynllunio drwy'r dull A106 a'r Ardoll Seilwaith Cymunedol. Mae'r CIL yn cael ei ddal ar encil ar hyn o bryd tra bo Adolygiad Llywodraeth Cymru yn mynd rhagddo. Pe byddai'r Cyngor yn bwrw ymlaen ac yn mabwysiadu ffi CIL yn unol â chanlyniad yr Asesiad Hyfywedd, ni cheisir y rhwymedigaeth eto drwy Gytundeb Adran 106 na drwy amod cynllunio.

Rheoli Ffurf Anheddiad

3.14.1 Amcan Strategol 1 (SO1)

Polisi Strategol SP/13Rheoli Ffurf Aneddiadau

Er mwyn gwarchod tir agored rhag datblygiad, cynyddu mynediad i gefn gwlad ac annog cyfleoedd chwaraeon a hamdden dros Gyfnod y Cynllun, nodir lletemau glas mewn aneddiadau trefol a phentrefi Haen 1 yn yr Ardal Strategaeth Datblygu Arfordirol.

(1)3.14.2 Yn yr Ardal Strategaeth Datblygu Arfordirol mae angen gwarchod tir agored rhag datblygiad, cynyddu mynediad i gefn gwlad ac annog gweithgareddau hamdden er mwyn gwella iechyd. Gellir gwneud hyn drwy nodi dynodiadau Lletemau Glas. Ceir sail gadarn i'r Lletemau Glas arfaethedig ac fe'u dynodwyd i warchod y ffurf drefol lle na chredir bod ffiniau'r aneddiadau yn ddigon cadarn i warchod y tir agored.

3.14.3 Tir Amaethyddol Gorau a Mwyaf Amlbwrpas

Tir amaethyddol graddau 1, 2 a 3a o'r system Dosbarthu Tir Amaethyddol (ALC) yw'r tir gorau a mwyaf amlbwrpas, a dylid ei warchod fel adnodd nad yw'n ddi-ben-draw i'r dyfodol.

3.14.4 Wrth ystyried y chwiliad dilyniannol am safleoedd, ym mholisïau cynlluniau datblygu a phenderfyniadau rheoli datblygu dylid rhoi cryn bwysau ar ddiogelu'r cyfryw dir rhag datblygiadau, oherwydd ei bwysigrwydd arbennig. Ni ddylid ond datblygu ar dir graddau 1, 2 a 3a os oes angen tra phwysig am y datblygiad, ac os nad oes tir a ddatblygwyd yn flaenorol na thir ar raddau amaethyddol is ar gael, neu os yw'r tir gradd is sydd ar gael o werth amgylcheddol a gydnabyddir gan ddynodiad tirwedd, bywyd gwyllt, hanesyddol neu archeolegol sy'n bwysicach na'r ystyriaethau amaethyddol. Os oes angen datblygu tir ar raddau 1, 2 neu 3a, a bod dewis rhwng safleoedd ar wahanol raddau, dylid cyfeirio'r datblygiad i'r tir â'r radd isaf.

3.14.5 Lletemau Glas

Mae gan letemau glas i bob pwrpas yr un diben â Lleiniau Glas a chawsant eu defnyddio fel tir clustogi rhwng ymyl yr anheddiad a dynodiadau statudol ac i warchod golygfeydd pwysig i mewn ac allan o'r ardal. Caiff lletemau glas unwaith eto eu cynnig ac fe'u hadolygir fel rhan o broses y CDLlN. Mae'r polisïau cyffredinol sy'n rheoli datblygiadau yng nghefn gwlad yn weithredol mewn lletem las ond ceir, hefyd, dybiaeth gyffredinol yn erbyn datblygu sy'n amhriodol o safbwynt dibenion y dynodiad. Gall lletemau glas gael effeithiau llesol eraill gan gynnwys darparu mynediad i gefn gwlad a chyfleoedd chwaraeon a hamdden. Fodd bynnag, nid yw i ba raddau y mae'r defnydd o'r tir yn cyflawni'r amcanion hyn yn ffactor pwysig wrth bennu a ddylai tir gael ei gynnwys mewn lletem las.

3.14.6 Caiff ffiniau lletemau glas eu dewis yn ofalus gan ddefnyddio ffiniau a nodweddion ffisegol i gynnwys dim ond y tir hwnnw y mae'n angenrheidiol ei gadw yn agored yn y tymor hwy. I gynnal y natur agored, rhaid i ddatblygiad mewn lletem las gael ei reoli'n llym. Bydd y Cyngor yn dangos pam na fyddai polisïau rheoli datblygu a chynllunio arferol yn rhoi'r warchodaeth angenrheidiol i'r dynodiad lletem las.

3.14.7 Wrth ystyried ceisiadau am ganiatâd cynllunio mewn lletemau glas, bydd rhagdybiaeth yn erbyn datblygu amhriodol yn weithredol. Dylid rhoi pwysau sylweddol ar unrhyw effaith niweidiol y byddai datblygiad yn ei chael ar ddibenion dynodiad lletem las. Caiff polisïau eu cynnwys i amlinellu'r amgylchiadau pan fyddai datblygiad yn cael ei ganiatáu yn yr ardaloedd hyn lle bo natur agored y lletem las yn dal i gael ei chynnal.

3.14.8 Ni ddylid rhoi caniatâd cynllunio i ddatblygiad amhriodol ac eithrio mewn amgylchiadau eithriadol iawn lle bo ystyriaethau eraill yn amlwg yn bwysicach na'r niwed y byddai'r cyfryw ddatblygiad yn ei wneud i'r lletem las. Dylai polisïau lletemau glas mewn cynlluniau datblygu sicrhau na fyddai unrhyw geisiadau am ddatblygiad amhriodol yn cyd-fynd â'r cynllun. Byddai'r achosion eithriadol iawn hyn felly'n cael eu trin fel amrywiadau oddi wrth y cynllun.

(1)3.14.9 Mae codi adeiladau newydd mewn lletem las yn ddatblygiad amhriodol oni bai ei fod at y dibenion canlynol:
anghenion menter wledig y gellir eu cyfiawnhau;

  • cyfleusterau hanfodol ar gyfer chwaraeon awyr agored neu hamdden awyr agored, mynwentydd, a
  • defnyddiau tir eraill sy'n cynnal natur agored y lletem las ac nad ydynt yn gwrthdaro â diben cynnwys tir ynddi;
  • gwaith ymestyn, addasu cyfyngedig neu adnewyddu anheddau sy'n bodoli eisoes; neu
  • gynllun arallgyfeirio graddfa fechan ar fuarthau ffermydd lle caiff ei redeg fel rhan o fusnes y fferm.

3.14.10 Nid yw ailddefnyddio adeiladau mewn lletem las yn ddatblygiad amhriodol cyn belled â:

  • bod yr adeilad gwreiddiol yn sylweddol, yn barhaol ac yn addas i'w addasu heb waith adeiladu mawr;
  • na fydd y defnydd newydd yn cael effaith fwy ar natur agored y lletem las a dibenion cynnwys tir ynddi. Bydd angen rheoli'n llym y gwaith ymestyn, addasu neu unrhyw ddefnydd tir cysylltiedig ar gyfer adeiladau a ailddefnyddir; a
  • bod yr adeilad yn gweddu i'r ardal o'i amgylch.

3.14.11 Gallai rhai ffurfiau eraill ar ddatblygiad fod yn briodol yn y lletem las cyn belled â'u bod yn gwarchod ei natur agored ac nad ydynt yn gwrthdaro â dibenion cynnwys tir ynddi.

Gallai'r rhain gynnwys:

  • cloddio am fwynau;
  • cynhyrchu ynni isel ar garbon ac adnewyddadwy;
  • gweithrediadau peirianyddiaeth; a
  • chynlluniau seilwaith trafnidiaeth lleol.

(1)3.14.12 Byddai ffurfiau eraill ar ddatblygiad yn ddatblygiadau amhriodol oni bai eu bod yn cynnal natur agored lletem las ac nad ydynt yn gwrthdaro â dibenion y dynodiad.

Am gyfarwyddiadau ar sut I ddefnyddio’r system ac I wneud sylwadau, gwelwch ein canllaw cymorth.
back to top Yn ôl i’r brig