Strategaeth a Ffefrir

Daeth i ben ar 20 Medi 2019

Lleoedd Naturiol a Diwylliannol yng Nghonwy

Cyflwyniad

5.1.1 Mae'r adran hon yn ymdrin ag agweddau Naturiol a Diwylliannol wrth greu lleoedd yng Nghonwy. Mae'r rhain yn gwerthfawrogi ansawdd tirluniau ac amgylchedd hanesyddol Conwy, yn diogelu asedau economaidd at y dyfodol wrth ymateb i heriau yn sgil newid hinsawdd ac wrth hyrwyddo datrysiadau carbon isel, amddiffyn tirluniau a chynefinoedd, galluogi cyfleoedd i gysylltu gyda'r amgylchedd naturiol ac annog ffyrdd o fyw yn iach gyda'r fantais o wella lles meddyliol a chorfforol, a'r elfennau ohonynt sy'n cael eu hannog yng nghynllun llesiant Conwy a Sir Ddinbych. Mae'r adran hon yn gosod y cyfeiriad strategol ar gyfer Tirlunio, Ardaloedd Arfordirol Amgylchedd Hanesyddol, Adfywio drwy Ddiwylliant, Seilwaith Gwyrdd, Bioamrywiaeth, Dŵr, Aer, Seinwedd a Golau a Llifogydd.

Y Dirwedd

5.2.1 Amcan Strategol 12 (SO12): Gwarchod a chadw asedau naturiol, diwylliannol a threftadaeth ansawdd uchel Conwy.

Polisi Strategol SP/19Y Dirwedd

Er mwyn cyflawni'r cyfrifoldebau a rhwymedigaethau rhyngwladol ar gyfer tirweddau, bydd y CDLlN yn gwarchod safleoedd a ddynodwyd yn statudol a thirweddau o werth gan sicrhau bod rhinweddau arbennig yn cael eu gwarchod, eu rheoli a'u gwella. Bydd hyn yn cynnwys cyflwyno cyfleoedd a gynigir gan dirweddau ar gyfer twristiaeth, gweithgareddau hamdden awyr agored, cyflogaeth leol, ynni adnewyddadwy ac iechyd a llesiant corfforol a meddyliol, gan sicrhau manteision lluosog o ran llesiant i bobl a chymunedau.

5.2.2 Gwerthfawrogir holl dirweddau Conwy am eu bod yn gwneud cyfraniad hollbwysig at greu naws am le, a bydd y Cyngor yn gwarchod ac yn gwella eu nodweddion arbennig. Ar yr un pryd, bydd yn rhoi sylw dyladwy i'w budd cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol, yn ogystal â'r modd y maent yn cyfrannu at greu lleoedd sy'n cael eu gwerthfawrogi. Ystyriwyd y dirwedd o'r cychwyn cyntaf wrth greu'r CDLlN a'i bolisïau a fydd yn cael eu defnyddio i asesu datblygiadau yn y dyfodol. Mae hyn yn allweddol er mwyn cynnal a gwella eu rhinweddau arbennig, ac er mwyn sicrhau'r budd mwyaf o ran llesiant i genedlaethau'r presennol a'r dyfodol. Bydd hyn hefyd yn allweddol er mwyn sicrhau dull effeithiol ac integredig o reoli adnoddau naturiol dros oes y cynllun a thu hwnt.

5.2.3 Ceir llawer o bwysau ar yr amgylchedd yng Nghonwy, ac nid yw'r holl bwysau hynny o ganlyniad i'r system gynllunio, nac ychwaith o fewn rheolaeth y system honno. Fodd bynnag, mae'r ffactorau allweddol hynny sy'n cyfrannu at newid y dirwedd y gall y system gynllunio ddylanwadu arnynt yn cynnwys ehangiad aneddiadau, datblygiadau masnachol, diwydiannol, ynni a chwarela, datblygiadau carafanau a chabanau gwyliau, gwelliannau ffordd a datblygiadau graddfa fawr yn gysylltiedig â hamdden, gan gynnwys unrhyw fesurau lliniarol cysylltiedig sy'n deillio o gynhyrchu ynni mewn modd adnewyddadwy, rheoli adnoddau dŵr a thrwy gynllunio i ehangu coetiroedd. Bydd angen cynnal asesiad proffesiynol o dirweddau allweddol er mwyn sicrhau bod safleoedd a ddynodwyd yn statudol ac Ardaloedd Tirwedd Arbennig (ATAoedd) a nodweddion tirweddol eraill pwysig yn cael eu gwarchod.

5.2.4 Byddwn yn parhau i gydweithio ac ymgysylltu ag awdurdodau cynllunio cyfagos, Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), Cadw a'r trydydd sector i fanteisio ar ystod eang o arbenigedd a thystiolaeth. Bydd hyn o gymorth i sicrhau:

  • Bod Conwy yn cyfrannu at gyflawni cyfrifoldebau a rhwymedigaethau rhyngwladol ar gyfer tirweddau;
  • Trefniadau priodol i warchod a rheoli safleoedd a ddynodwyd yn statudol;
  • Bod gwerth pob tirwedd yn cael ei warchod o ran ei chymeriad unigryw a'i nodweddion arbennig; a
  • Ystyriaeth o gyfleoedd am dwristiaeth, gweithgareddau hamdden awyr agored, cyflogaeth leol, ynni adnewyddadwy ac iechyd a llesiant corfforol a meddyliol a gynigir gan dirweddau, a bod y manteision lluosog o ran llesiant i bobl a chymunedau yn cael eu sicrhau.

5.2.5 Os na ellir osgoi effeithiau andwyol ar gymeriad y dirwedd, bydd angen gwrthod caniatâd cynllunio.

5.2.6 LANDMAP

Mae LANDMAP yn adnodd gwybodaeth, methodoleg, a gwaelodlin monitro pwysig ar gyfer tirweddau Cymru, a gall helpu i lywio gwaith cynllunio ar gyfer rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy mewn ardal. Mae LANDMAP yn disgrifio ac yn gwerthuso agweddau ffisegol, ecolegol, gweledol, diwylliannol a hanesyddol ar dirweddau Cymru, ac yn sail i ddull cenedlaethol cyson â sicrwydd ansawdd o asesu tirweddau. Gall asesiadau LANDMAP helpu i lywio asesiadau seilwaith gwyrdd, canllawiau cynllunio atodol ar asesu cymeriad tirwedd, ardaloedd o dirwedd arbennig, natur unigryw leol, dylunio, ac astudiaethau o sensitifrwydd tirweddau. Fe'i defnyddiwyd i lywio a dynodi'r Ardaloedd Tirwedd Arbennig (ATAoedd) cyfredol, a fydd hefyd yn cael eu diwygio a'u cynnwys yn y CDLlN.

5.2.7 Bydd Conwy yn parhau i ddefnyddio LANDMAP wrth baratoi cynlluniau ac asesiadau Tirwedd sydd eu hangen er mwyn llywio'r CDLlN, CCAau pellach a'r broses rheoli datblygu.

Ardaloedd Arfordirol

5.3.1 Amcan Strategol 13 (SO13): Cefnogi cyfleoedd twf, adfywio a datblygu mewn Ardaloedd Arfordirol, gan fod yn ymwybodol ar yr un pryd o'r heriau sy'n deillio o bwysau naturiol, ac ymateb i'r heriau hynny.

(1) Polisi Strategol SP/20Ardaloedd Arfordirol a Chynlluniau Morol

Bydd y CDLlN a'r Cynllun Morol gyda'i gilydd yn cefnogi cydweithio a phenderfyniadau integredig ar draws rhyngwynebau a ffiniau morol a daearol.

5.3.2 Mae'r Cynllun Morol yn nodi cyfleoedd i ddatblygu moroedd Cymru mewn modd cynaliadwy, drwy lywio datblygiadau newydd a phenderfyniadau cysylltiedig ar y glannau ac ar y môr.

5.3.3 Y prif egwyddorion cynllunio ar gyfer ardaloedd arfordirol, sy'n adlewyrchu egwyddorion y Rheolaeth Integredig ar Barthau Arfordirol, yw cefnogi datblygiadau trefol a gwledig gan fod yn ymwybodol o'r heriau sy'n deillio o'r ymadwaith deinamig rhwng pwysau naturiol a phwysau datblygu mewn ardaloedd arfordirol, ac ymateb mewn modd priodol i hynny. I'r perwyl hwn, mae angen i'r CDLlN fod yn gydnerth o safbwynt ecolegol a ffisegol, a bod â'r gallu i ymaddasu i gyd-fynd â gofynion cymdeithasol ac economaidd. O roi sylw i'r ystyriaethau hyn gellir sicrhau bod y CDLlN a'r Cynllun Morol yn gydategol.

(1) 5.3.4 Bydd y CDLlN yn rhoi disgrifiad clir o arwyddocâd yr arfordir i'r ardal, ac yn cymhwyso polisïau penodol a fydd yn adlewyrchu nodweddion y morlinau, gan gynnwys y rhyngberthnasoedd rhwng nodweddion yr ardaloedd arfordirol o safbwynt ffisegol, biolegol a defnydd tir, ac effeithiau'r newid yn yr hinsawdd. Mae hyn yn cynnwys ystyried yr effeithiau posibl yn gysylltiedig â chynnydd graddol mewn risgiau arfordirol dros amser, ynghyd ag unrhyw fudd yn sgil newid graddol yn y defnydd o dir. Bydd hyn yn golygu clustnodi ardaloedd sydd yn debygol o fod yn addas i'w datblygu, ynghyd â'r ardaloedd y ceir cyfyngiadau sylweddol arnynt ac a ystyrir yn anaddas i'w datblygu. Gall ardaloedd y ceir cyfyngiadau arnynt, neu a ystyrir yn anaddas i'w datblygu gynnwys yr ardaloedd hynny lle:

  • mae angen cyfyngu ar ddatblygiad er mwyn gwarchod neu wella'r amgylchedd naturiol a hanesyddol;
  • bydd angen rhoi ystyriaeth ofalus i amhariad gweledol a rhyngwelededd rhwng y tir a'r môr;
  • bo'n rhaid cadw at bolisïau penodol yn ardaloedd yr Arfordir Treftadaeth;
  • dylid gwarchod mynediad at lwybrau'r arfordir; a
  • gallai risgiau fodoli yn sgil erydiad, llifogydd neu dir ansefydlog.

5.3.5 Mewn ardaloedd eraill, gellid bod modd gwireddu potensial economaidd yr arfordir mewn modd cynaliadwy. Bydd Datganiadau Ardal a chynlluniau eraill lleol ar gyfer ardaloedd arfordirol yn darparu gwybodaeth berthnasol er mwyn llywio'r CDLlN.

5.3.6 Mae Ardal Cymeriad Morol 02 Bae Colwyn a Gwastadeddau'r Rhyl ac ACM 03 Traeth Coch a Baeau Conwy yn berthnasol i Ardal y Cynllun, ac fe'u cydnabyddir yn yr Asesiad Seilwaith Gwyrdd.

Gellir gweld yr ACMoedd yma ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru

https://cdn.naturalresources.wales/evidence-and-data/maps/marine-character-areas/?lang=cy

(1) 5.3.7 Datblygu ar yr Arfordir

Mae Conwy eisoes yn cynnwys lefel uchel o ddatblygiad, seilwaith a phoblogaeth mewn ardaloedd lle ceir risg o lifogydd. Ni ddylid cynnig datblygiadau newydd mewn lleoliadau arfordirol fel arfer, onid oes angen iddynt fod ar yr arfordir. Yn arbennig, anaml y bydd ardaloedd heb eu datblygu ar yr arfordir, yn enwedig yr ardaloedd hynny lle ceir risg o lifogydd, yn cael eu hystyried fel y lleoliad mwyaf priodol ar gyfer datblygiad. Pan fydd angen lleoliad arfordirol ar gyfer datblygiad newydd, ardaloedd arfordirol wedi'u datblygu fydd yr opsiwn gorau fel arfer, ar yr amod bod materion yn gysylltiedig â newid arfordirol wedi'u hystyried. Bydd materion o'r fath yn cynnwys risgiau erydu, llifogydd, tir ansefydlog a'r dulliau a ffafrir er mwyn ymdrin â'r risgiau hynny, a'r effeithiau ar fioamrywiaeth a chydnerthedd ecolegol.

5.3.8 Cyn y gellir rhoi caniatâd ar gyfer datblygiadau parhaol a hirdymor, gan gynnwys rhai o bwysigrwydd rhanbarthol neu genedlaethol, bydd yn hanfodol dangos bod angen lleoliad arfordirol yn seiliedig ar nodweddion y morlin dan sylw. Lle ystyrir bod cyfiawnhad dros ddatblygu, dylid dylunio'r datblygiad i fod yn gydnerth rhag effeithiau'r newid hinsawdd hyd ddiwedd ei oes, ac fel nad yw'n achosi cynnydd graddol, ac annerbyniol, o ran risg.

5.3.9 Newid Arfordirol

Fel rhan o'r gwaith o ddeall nodweddion arfordiroedd, dylid cydnabod bod lefel y môr yn codi, ymchwydd storm, gweithrediad tonnau a newidiadau mewn morffoleg arfordirol a chyflenwad gwaddodion yn gallu arwain at effeithiau uniongyrchol ac anuniongyrchol ar yr arfordir ac ar afonydd llanwol. Mae effeithiau'r newid hinsawdd yn creu mwy o ansicrwydd fyth. Er y gall morffoleg yr arfordir fod yn nodwedd warchodol rhag lefel y môr yn codi, ymchwydd storm a gweithrediad tonnau, gall adeiladu amddiffynfeydd arfordirol ddylanwadu ar y cyflenwad gwaddodion drwy drosglwyddo'r risg o erydu i rywle arall. Dylid osgoi'r posibilrwydd hwn, o gofio bod erydu a'r risg o lifogydd yn debygol o waethygu oherwydd newid hinsawdd. Nid yw'n briodol bod datblygiad mewn un lleoliad yn ychwanegu'n annerbyniol at effeithiau newid ffisegol i'r arfordir mewn lleoliad arall.

5.3.10 Caiff Cynlluniau Rheoli Traethlin eu datblygu gan awdurdodau lleol mewn partneriaeth ag ystod o randdeiliaid, ac maent yn sefydlu fframweithiau polisi lleol hirdymor er mwyn lleoli risg arfordirol. Bydd y blaenoriaethau ynddynt yn llywio ac yn dylanwadu ar y CDLlN. Pan bennir na fydd amddiffynfeydd arfordirol yn cael eu cynnal mwyach, dylai cynlluniau datblygu gynnwys polisïau clir a phenodol i reoli datblygiad mewn ardaloedd o'r fath, yn cynnwys ble maent yn teimlo y byddai datblygiad yn anaddas neu y dylid ystyried nodweddion penodol.

5.3.11 Bydd CRhTau yn dylanwadu ar y penderfyniad ynghylch a ellir cyfiawnhau'r datblygiad ei hun, neu sut y dylid ei ddylunio. Bydd rhai darnau o'r arfordir yn destun polisïau ymyrryd gweithredol mewn CRhTau i amddiffyn y llinell a bydd amserlenni clir ar waith yn llywodraethu'r polisïau hyn. Ni fydd gan ardaloedd eraill, sydd eisoes wedi cael eu datblygu o bosibl, ymyriadau gweithredol sy'n gysylltiedig ag amddiffyn neu efallai fod ail-alinio rheoledig wedi'i nodi fel yr ymateb mwyaf priodol i lifogydd.

5.3.12 Bydd sicrhau bod modd addasu i newid, yn cynnwys newid yn yr hinsawdd, yn ystyriaeth allweddol a dylid nodi mesurau i leihau gwendidau a chwilio am gyfleoedd i feithrin cydnerthedd mewn cymunedau, yn enwedig wrth baratoi cynlluniau datblygu. Dylid rhoi ystyriaeth ofalus i natur defnyddiau newydd a allai fod yn addas mewn ardaloedd sy'n destun newid, gan gynnwys effeithiau, neu gyfleoedd, yn sgil newidiadau graddol mewn ardal. Dylid creu cysylltiadau hefyd â strategaethau ar gyfer darparu seilwaith gwyrdd a chynlluniau draenio cynaliadwy yn ogystal â chynlluniau llesiant ehangach i sicrhau cydnerthedd cymdeithasol ac economaidd aneddiadau ac sy'n diogelu eu gallu i ymaddasu i newid dros yr hirdymor.

Newid Arfordirol

Bydd fframwaith y Cynlluniau Rheoli Traethlin (CRhTau) ar gyfer rheoli risg arfordirol, a'i flaenoriaethau, yn llywio ac yn dylanwadu ar y CDLlN. Pan bennir na fydd amddiffynfeydd arfordirol yn cael eu cynnal mwyach, dylai cynlluniau datblygu gynnwys polisïau clir a phenodol i reoli datblygiad mewn ardaloedd o'r fath, yn cynnwys ble maent yn teimlo y byddai datblygiad yn anaddas neu y dylid ystyried nodweddion penodol.

Yr Amgylchedd Hanesyddol

5.4.1 Amcan Strategol 12 (SO12): Gwarchod a chadw asedau naturiol, diwylliannol a threftadaeth ansawdd uchel Conwy.

Polisi Strategol SP/21yr Amgylchedd Hanesyddol

Bydd asedau treftadaeth nodedig Conwy, a restrir isod (a - g) yn cael eu diogelu a phan fo'n briodol, eu rheoli a'u gwella.

  1. Ardaloedd Cadwraeth
  2. Safle Treftadaeth y Byd yn Nhref Conwy
  3. Parciau, Gerddi a Thirweddau Hanesyddol
  4. Adeiladau Rhestredig
  5. Henebion Cofrestredig
  6. Safleoedd o Bwysigrwydd Archeolegol
  7. Asedau Hanesyddol o Bwysigrwydd Lleol

Wrth ystyried datblygiadau ar gyfer galluogi cynlluniau a datblygiadau sy'n effeithio ar leoliad ased treftadaeth, bydd penderfyniadau'n cael eu llywio gan ganllawiau cenedlaethol.

5.4.2 Mae gan asedau hanesyddol swyddogaeth bwysig ar gyfer twristiaeth, buddsoddiad a chymunedau ac mae angen eu diogelu a lle y bo'n briodol, eu gwella drwy'r Cynllun Datblygu Lleol Gwledig (CDLlG). Mae'r amgylchedd hanesyddol yn ganolbwynt i ddiwylliant a chymeriad Conwy, yn adrodd ein hanes drwy adeiladau, strwythurau, parciau, gerddi a thirweddau a chyfrannu at ein hymdeimlad o le a'n hunaniaeth. Mae'n gwella ansawdd ein bywydau, ein llesiant yn gyffredinol ac mae'n ychwanegu at hynodrwydd rhanbarthol lleol ac mae'n ased economaidd a chymdeithasol pwysig y dylid ei ddiogelu i genedlaethau'r dyfodol ei brofi a'i fwynhau.

5.4.3 Mae papur o'r enw 'Pwysigrwydd Treftadaeth/Heritage Counts' a gyhoeddwyd gan y Grŵp Amgylchedd Hanesyddol yn mesur effaith a dylanwad y sector treftadaeth yng Nghymru. Amcangyfrifir bod y sector treftadaeth yn cynhyrchu £963 miliwn i economi Cymru bob blwyddyn ac mae'n cefnogi mwy na 40,500 o swyddi.

5.4.4 Yn ogystal, mae llawer o bobl yng Nghymru'n cael eu cyflogi mewn swyddi sy'n bodoli'n anuniongyrchol i'r sector treftadaeth - er enghraifft, y nifer fawr o bobl sy'n gweithio mewn gwestai a bwytai sy'n darparu ar gyfer ymwelwyr i Gymru sy'n ymweld yn bennaf i gael profiad o dreftadaeth. Mae'r papur hefyd yn cyfeirio at y ffaith bod 43% o swyddi'r diwydiant adeiladu yng Nghymru (26,340 o bobl) ym maes cadwraeth, atgyweirio a chynnal a chadw adeiladau traddodiadol sydd wedi'u hadeiladu cyn 1919. Mae Pwysigrwydd Treftadaeth/Heritage Counts yn rhoi gwerth treftadaeth mewn termau mesuradwy ac yn dangos pa mor werthfawr yw'r amgylchedd hanesyddol i'r economi a'r sectorau twristiaeth ac addysg.

5.4.5 Yn ardal awdurdod cynllunio lleol Conwy mae 162 o Henebion Cofrestredig, 1735 o Adeiladau Rhestredig, y mae 29 ohonynt wedi'u rhestru fe adeiladau Gradd I, 1610 fel Gradd 2 a 96 fel Gradd 2*, a 24 Ardal Gadwraeth. Bydd y CDLlG yn cefnogi ymdrechion i warchod a gwella pob ased treftadaeth sydd wedi'u dynodi'n genedlaethol, ac yn ystyried effaith datblygiad o fewn eu lleoliadau. Mae'r asedau treftadaeth a nodwyd yn elwa ar ddiogelwch statudol, ac mae'n rhaid ystyried hyn o fewn polisïau, cynigion a chanllawiau yn y CDLlG.

5.4.6 Mae Castell Conwy wedi'i ddynodi fel Safle Treftadaeth y Byd. Mae UNESCO o'r farn bod Castell Conwy yn "un o'r enghreifftiau gorau o bensaernïaeth filwrol o ddiwedd y 13eg ganrif a dechrau'r 14eg ganrif yn Ewrop." Mae Cadw wedi cynhyrchu Cynllun Rheoli Safle Treftadaeth y Byd sydd wedi'i gymeradwyo fel Canllaw Cynllunio Atodol gan Gyngor Conwy a bydd yn cael ei gyflwyno fel rhan o'r Adolygiad CDLl hwn.

(1) 5.4.7 Mae ardal CBSC yn cynnwys amrediad o asedau treftadaeth dynodedig, ac mae angen gwarchod pob un ohonynt yn briodol rhag effeithiau ar eu hintegredd a'u lleoliad. Dylid gwarchod a diogelu eu cyfraniad i ardal CBSC ac yn arbennig Tref Conwy (tref sydd wedi'i lleoli o fewn safle treftadaeth y byd) a lle y bo'n briodol, eu gwella i annog twristiaeth yn yr ardal.

5.4.8 Mae statud a chanllawiau cynllunio cenedlaethol wedi newid yn sylweddol ers mabwysiadu'r CDLl blaenorol gyda chyflwyniad Deddf Amgylchedd (Cymru) 2016. Er enghraifft, mae gofyniad i wneud defnydd o Gofnodion Amgylchedd Hanesyddol, cynnal Asesiad o'r Effaith ar Dreftadaeth ar gyfer datblygiadau sy'n galw am Ganiatâd Ardal Gadwraeth neu Adeilad Rhestredig a chynhyrchu datganiadau i gyd-fynd â cheisiadau o'r fath. Gallai hyn fod yn berthnasol hefyd pan fydd cynigion datblygu yn cael effaith ar leoliad ased treftadaeth. Mae Asedau Hanesyddol o Ddiddordeb Lleol Arbennig neu Adeiladau a Strwythurau O Ddiddordeb Lleol (BSLl) fel y cyfeirir atynt yn CDLl Conwy (2007-2022) yn faes arall sy'n newydd i'r canllawiau cenedlaethol, yn ogystal â'r polisi ar sail meini prawf ar Alluogi Datblygiad. Bydd yr ychwanegiadau diweddaraf hyn i'r polisi cenedlaethol yn cael effaith ar bolisïau blaenorol y CDLl CTh/3 a CTh/4 a fydd yn cael eu trafod yn y polisi strategol a'r CDLlG Adneuo.

5.4.9 Cyflawni'r Polisi Gwrthrychol a Strategol

Cynhyrchwyd y Canllaw Cynllunio Atodol o dan CDG blaenorol Conwy (2007-2022) i lywio'r sawl sy'n gwneud penderfyniadau a phartïon eraill â diddordeb ar y pwnc o ddatblygu mewn Ardaloedd Cadwraeth yn gyffredinol a Chynlluniau Rheoli Ardal Gadwraeth sy'n gysylltiedig â lleoliadau penodol, er enghraifft Llandudno, Tref Conwy, Bae Colwyn a Llaneilian. Bydd y dull hwn yn parhau ar ôl mabwysiadu'r CDLlG gyda'r cynlluniau rheoli presennol yn cael eu diweddaru ac mae cynlluniau rheoli'n cael eu cynhyrchu ar gyfer yr ardaloedd cadwraeth eraill sy'n weddill.

5.4.10 Mae UNESCO (Sefydliad Addysg, Gwyddoniaeth a Diwylliant y Cenhedloedd Unedig) yn ei gwneud yn ofynnol i Gynllun Rheoli gael ei baratoi i lywio datblygiad Safleoedd Treftadaeth y Byd sy'n cyfaddawdu cestyll a waliau Edward I yng Nghonwy, Caernarfon, Harlech a Biwmares. Mae Cynllun Rheoli wedi'i baratoi sy'n cynnwys clustogfa benodedig y bwriedir iddi ddiogelu lleoliad Safle Treftadaeth y Byd Conwy. Mabwysiadwyd hyn gan CBSC fel Canllaw Cynllunio Atodol ym mis Ebrill 2018. Bwriedir i fap cynigion y CDLlG gynnwys y ffiniau diwygiedig ar gyfer y glustogfa, fel y'i dangosir yn y Canllaw Cynllunio Atodol a fabwysiadwyd ym mis Ebrill 2018 (CDLl 2007-2022).

5.4.11 Yn nhermau galluogi cynlluniau, dim ond cyfeiriad at adeiladau sy'n cyd-fynd â chanllawiau polisi cynllunio cenedlaethol a geir yn y CDLl (2007-2022), dylai gwmpasu asedau treftadaeth yn gyffredinol. Ni fydd y CDLlG Adneuo yn ceisio ailadrodd y meini prawf a nodir ym Mholisi Cynllunio Cymru ar Alluogi Datblygiadau, ond oherwydd natur gymhleth cynlluniau galluogi, bydd y Canllawiau Cynllunio Atodol yn cael eu diweddaru yn unol â'r Polisi Strategol i gynorthwyo ymgeiswyr i ddehongli polisi ar lefel leol.

5.4.12 Cynhaliwyd arolwg o adeiladau rhestredig yn 2016 a oedd yn nodi'r adeiladau rhestredig sydd mewn perygl. Bydd y rhestr "Mewn Perygl" yn darparu'r sail ar gyfer creu cynllun gweithredu. Rhoddir blaenoriaeth i adeiladau yn seiliedig ar y drefn y gellir cymryd camau gweithredu effeithiol a graddau'r camau gweithredu sydd eu hangen. Rhoddir ystyriaeth i sgorau risg, gradd adeilad, cyfraddau dirywiad, cynlluniau a fydd yn creu budd cymunedol, lleoliad, anheddau gwag mewn ardaloedd sydd wedi'u targedu i'w hadnewyddu, arwyddocâd eiddo a'i gyfraniad i'r treflun a pha mor rhwydd fydd cyflawni canlyniad cadarnhaol. Mae Cadw wedi cynhyrchu cyfres o nodiadau canllaw sy'n darparu cyngor defnyddiol i berchenogion a'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau, er enghraifft, 'Rheoli Newid i Adeiladau Rhestredig' a 'Rheoli Adeiladau Rhestredig mewn Perygl yng Nghymru.'

(1) 5.4.13 Mae henebion rhestredig yn safleoedd archeolegol o bwysigrwydd cenedlaethol sy'n cael eu diogelu gan Ddeddf Henebion ac Ardaloedd Archeolegol 1979. Mae 155 heneb restredig yn ardal gynllunio Conwy ac mae rhestr o'r rhain ar gael ar Archwilio. Effaith rhestru yw bod cynigion i ddifrodi, dymchwel, symud, atgyweirio, newid, ychwanegu at, boddi neu orchuddio heneb restredig yn galw am ganiatâd heneb restredig, yn ychwanegol at y gofyniad caniatâd cynllunio.

5.4.14 Bydd cofrestr o Asedau Hanesyddol o Bwysigrwydd Lleol yn cael ei llunio a'i chynnal. Bydd Canllaw Cynllunio Atodol yn cael ei gynhyrchu, a fydd yn cynnwys meini prawf manwl ar gyfer asesu a chynnwys asedau o'r fath ar y gofrestr.

5.4.15 O ran datblygiad sy'n cael effaith ar leoliad asedau treftadaeth, dylid dilyn canllaw a gynhyrchwyd gan Cadw o'r enw 'Lleoliad Asedau Hanesyddol yng Nghymru', yn unol â'r Polisi Strategol.

Adfywio drwy Ddiwylliant

5.5.1 Amcan Strategol 1 (SO1): Cyfrannu at greu lleoedd cynaliadwy, cynhwysiant cymdeithasol ac at wella lles yn gyffredinol yng Nghonwy drwy ddarparu proses gynhwysol o greu ac adfywio lleoedd sy'n sicrhau twf yn y dyfodol a bod datblygu'n digwydd mewn lleoliadau cynaliadwy a hygyrch, sy'n ceisio hyrwyddo dyluniad da a lleoedd iachach, sy'n gwarchod yr iaith Gymraeg ac sydd wedi'i chefnogi gan y seilwaith cymdeithasol, amgylcheddol, diwylliannol ac economaidd angenrheidiol i greu lleoedd rhagorol.

Polisi Strategol SP/22Adfywio drwy Ddiwylliant

Bydd cynigion sy'n codi o, neu'n cyd-fynd â, mentrau adfywio sy'n ceisio cadw, gwella a chefnogi asedau diwylliannol a hunaniaeth lle yn cael eu cefnogi mewn egwyddor.

5.5.2 Mae'r Polisi Cynllunio Cenedlaethol yn nodi pwysigrwydd cynnal nodweddion unigryw ac arbennig sy'n rhoi ymdeimlad o hunaniaeth i le, yn ogystal â bod yn annhebyg i unrhyw le arall. Dylid nodi a gwerthfawrogi asedau diwylliannol o'r fath ac ymdeimlad o le pan ddaw i gynllunio defnydd tir. Yn wir, bodolaeth y nodweddion hyn sydd yn aml yn 'ychwanegu gwerth' at ardal ac yn ei gwneud yn lle deniadol a diddorol i fyw, gweithio ac ymweld. Gyda hyn mewn golwg, dylid cefnogi cynigion adfywio sydd yn benodol yn ceisio cefnogi a gwella asedau diwylliannol a meithrin ymdeimlad o le mewn egwyddor.

5.5.3 Cyflawni'r Amcan a Pholisi Strategol

Mae sawl menter strategol yn seiliedig ar ddiwylliant ar waith ar draws Sir Conwy a bydd rhai ohonynt yn effeithio ar faterion yn ymwneud â chynllunio defnydd tir. Enghraifft o brosiect a gwblhawyd yn ddiweddar yw CET Bae Colwyn (Cynllun Etifeddiaeth Trefwedd) sydd wedi chwarae rhan bwysig wrth wella amgylchedd adeiledig canol tref Bae Colwyn. Mae rhai cynlluniau eraill yn cynnwys y prosiect Lleoedd Gwych, 'Dychmygu Bae Colwyn', a fydd yn gweithio i sicrhau safle Bae Colwyn fel canolbwynt diwylliannol ar gyfer y sir, Cynllun Buddsoddi Canol Tref Bae Colwyn sy'n canolbwyntio ar fesurau a fydd yn cynorthwyo ag adfywio canol tref Bae Colwyn, y prosiect 'Lleoedd Coll' a ddarperir gan y Cwmni Buddiannau Cymunedol, Culture Action Llandudno, sy'n ceisio adfywio a datblygu lleoedd ac adeiladau diffaith i hwyluso rhaglenni diwylliannol, prosiectau parhau yn gysylltiedig â Venue Cymru, sefydlu Canolfan Ddiwylliant newydd yn Nhref Conwy a chreu Fforwm Treftadaeth Wledig.

5.5.4 Mae'r Cyngor wrthi'n llunio briff ar gyfer Strategaeth Ddiwylliannol ar draws y sir a fydd yn ehangu mynediad at ddiwylliant a'i fanteision hysbys ar draws y sir gyfan. Bydd y briff yn canolbwyntio ar ardaloedd penodol i gryfhau eu hunaniaeth, yn cynnwys Tref Conwy - Safle Treftadaeth y Byd UNESCO a lleoliad y Ganolfan Ddiwylliant newydd ddatblygedig ym Mae Colwyn - lleoliad y ganolfan newydd ar gyfer y diwydiant creadigol a Chynllun Lleoedd Gwych Cronfa Dreftadaeth y Loteri, Llanrwst - canolfan wledig ar gyfer y sir a phorth i Barc Cenedlaethol Eryri a Llandudno- twristiaeth arfordirol a chanolfan fanwerthu.

5.5.5 Bydd y Cyngor yn ceisio cefnogi datblygiadau sy'n rhan o'r mentrau hyn a mentrau adfywio eraill yn gysylltiedig â defnydd tir a chydymffurfio â pholisïau eraill yn y CDLlN.

(1) Seilwaith Gwyrdd

5.6.1 Amcan Strategol 6 (SO6): Darparu datblygu cynaliadwy a cheisio mynd i'r afael ag achosion newid yn yr hinsawdd drwy ehangu'r dewis o drafnidiaeth gynaliadwy er mwyn rhoi mynediad at swyddi a gwasanaethau allweddol i gymunedau Conwy, drwy hybu rhwydwaith o lwybrau byrrach, mwy llesol ac effeithlon ar gyfer cerdded, beicio a defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus a thrwy ddylanwadu ar leoliad, maint, dwysedd, cymysgedd defnyddiau a dyluniad datblygiadau newydd.

(1) Polisi Strategol SP/23Seilwaith Gwyrdd

Bydd Conwy yn cynnig dull strategol a rhagweithiol o ymdrin â seilwaith gwyrdd a bioamrywiaeth drwy lunio Asesiad Seilwaith Gwyrdd ac Asesiadau Llesiant drwy ddefnyddio setiau data sy'n bodoli eisoes, a'r wybodaeth orau sydd ar gael, i ddatblygu adnodd tystiolaeth integredig ar ffurf map. Bydd gwneud hynny'n hwyluso dull rhagweithiol ac yn galluogi'r cyfraniad mwyaf posib at nodau llesiant, teithio egnïol a bioamrywiaeth.

(1) 5.6.2 Seilwaith gwyrdd yw'r rhwydwaith o nodweddion naturiol a lled-naturiol, mannau gwyrdd a chyrff dŵr sy'n gwasgaru a chysylltu lleoedd. Gall cydrannau'r seilwaith gwyrdd weithredu ar raddfeydd gwahanol. Ar raddfa'r dirwedd, gall seilwaith gwyrdd gynnwys ecosystemau cyfan, fel gwlyptiroedd, dyfrffyrdd a chadwynau o fynyddoedd. Ar raddfa leol, gall gynnwys parciau, caeau, hawliau tramwy cyhoeddus, rhandiroedd, mynwentydd a gerddi. Ar raddfa lai, gall ymyraethau unigol mewn trefi, fel coed stryd, perthi, ymylon ffyrdd a thoeau/waliau gwyrdd oll gyfrannu at rwydweithiau seilwaith gwyrdd.

5.6.3 Mae Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 yn rhoi cyd-destun ar gyfer cyflwyno seilwaith gwyrdd amlbwrpas. Mae darparu seilwaith gwyrdd yn gallu gwneud cyfraniad sylweddol at reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy, ac yn arbennig at gynnal a gwella bioamrywiaeth a chydnerthedd ecosystemau o ran yr amrywiaeth o ecosystemau ac o fewn ecosystemau a hyd a lled, cyflwr a chysylltedd ecosystemau a'u gallu i addasu. Mae hyn yn golygu bod datblygu seilwaith gwyrdd yn ffordd bwysig i awdurdodau lleol gyflawni eu dyletswydd adran 6.

5.6.4 Bydd Conwy yn cynnig dull strategol a rhagweithiol o ymdrin â seilwaith gwyrdd a bioamrywiaeth drwy lunio Asesiad Seilwaith Gwyrdd fydd yn seiliedig ar y sylfaen dystiolaeth a ddarperir mewn Datganiadau Ardal ac Asesiadau Llesiant, ac a fydd wedi'i ymgorffori mewn cynlluniau datblygu. Drwy hynny bydd modd sicrhau ystyriaeth fuan a chydlynol o gyfleoedd i lywio strategaethau datblygu a dylunio, a strategaethau yn gysylltiedig â'r cynllun.

5.6.5 Bydd yr Asesiad Seilwaith Gwyrdd yn cael ei ddefnyddio i ddatblygu dull cadarn o wella bioamrywiaeth, cynyddu cydnerthedd ecolegol a gwella canlyniadau llesiant, ac yn nodi cyfleoedd strategol allweddol lle bydd adfer, cynnal, creu neu gysylltu nodweddion a swyddogaethau gwyrdd yn sicrhau'r manteision mwyaf sylweddol.

5.6.6 Bydd yr Asesiad Seilwaith Gwyrdd hefyd yn cael ei ystyried yn gynnar mewn cynigion datblygu, ac yn llywio'r gweithrediad prosiectau. Bydd y CDLlN yn annog rheolaeth briodol o nodweddion y dirwedd sy'n bwysig i fioamrywiaeth er mwyn ategu a gwella cydlyniant ecolegol rhwydwaith Natura 2000.

Bioamrywiaeth

5.7.1 Amcan Strategol 14 (SO14): Gwarchod a gwella bioamrywiaeth a chreu rhwydweithiau ecolegol gwydn.

(2) Polisi Strategol SP/24Bioamrywiaeth

Dylid gwyrdroi colledion bioamrywiaeth, lleihau llygredd, mynd i'r afael â risgiau amgylcheddol a gwella cydnerthedd ecosystemau'n gyffredinol. Pan gynigir datblygiad priodol, mae'n rhaid ei ddatblygu mewn ffordd integredig i sicrhau bod materion cyffredin yn cael eu hystyried a'u datrys ar ddechrau'r broses o lunio cynllun neu gynnig unigol a bod manteision lluosog fel seilwaith gwyrdd, yn cael eu sicrhau.

5.7.2 Cyflwynodd Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 ddyletswydd uwch yn ymwneud â bioamrywiaeth a chydnerthedd ecosystemau (dyletswydd adran 6). Mae'r ddyletswydd hon yn berthnasol i awdurdodau cyhoeddus wrth arfer eu swyddogaethau mewn perthynas â Chymru a bydd yn helpu i sicrhau'r cyfraniadau mwyaf posibl at gyflawni nodau llesiant.

5.7.3 Mae'r Cynllun Adfer Natur yn cefnogi'r gofyniad deddfwriaethol hwn i wrthdroi'r dirywiad mewn bioamrywiaeth, mynd i'r afael â'r achosion sydd wrth wraidd colli bioamrywiaeth drwy ganolbwyntio ar natur wrth wneud penderfyniadau a chynyddu cydnerthedd ecosystemau drwy gymryd camau penodol sy'n canolbwyntio ar yr amcanion ar gyfer cynefinoedd a rhywogaethau. Mae gan y system gynllunio rôl allweddol o ran helpu i wrthdroi'r dirywiad mewn bioamrywiaeth a chynyddu cydnerthedd ecosystemau, ar wahanol raddfeydd, drwy sicrhau bod mecanweithiau priodol ar waith i ddiogelu rhag colled a sicrhau gwelliant.

5.7.4 Bydd y strategaethau, polisïau'r CDLlN a chynigion datblygu yn ystyried yr angen i:

  • gefnogi cadwraeth bioamrywiaeth, yn enwedig cadwraeth bywyd gwyllt a chynefinoedd;
  • sicrhau bod gweithredu yng Nghymru'n cyfrannu at gyflawni cyfrifoldebau a rhwymedigaethau rhyngwladol ar gyfer bioamrywiaeth a chynefinoedd;
  • sicrhau bod safleoedd dynodedig statudol ac anstatudol yn cael eu gwarchod a'u rheoli'n briodol;
  • diogelu rhywogaethau gwarchodedig a blaenoriaeth ac asedau bioamrywiaeth sy'n bodoli'n barod rhag effeithiau sy'n effeithio'n uniongyrchol ar eu buddiannau cadwraeth natur ac yn amharu ar gydnerthedd rhwydweithiau ecolegol a'r cydrannau sy'n sail iddynt, fel dŵr a phridd, gan gynnwys mawn; a
  • datblygu a gwella cydnerthedd ecosystemau drwy wella amrywiaeth, cyflwr, maint a chysylltedd rhwydweithiau ecolegol.

(1) 5.7.5 Dyletswydd Bioamrywiaeth a Chydnerthedd Ecosystemau (Dyletswydd Adran 6)

Mae'r Cyngor yn ceisio cynnal a gwella bioamrywiaeth wrth arfer eu swyddogaethau. Mae hynny'n golygu na ddylai datblygu arwain at golled fawr i gynefinoedd na phoblogaethau o rywogaeth, yn lleol nac yn genedlaethol, a rhaid iddo esgor ar fanteision net i fioamrywiaeth. Wrth wneud, rhaid i awdurdodau cynllunio ystyried a hyrwyddo cydnerthedd ecosystemau hefyd, a'r agweddau canlynol yn arbennig:

  • amrywiaeth rhwng ac o fewn ecosystemau;
  • y cysylltiadau rhwng ac o fewn ecosystemau;
  • graddfa ecosystemau;
  • cyflwr ecosystemau (yn cynnwys eu strwythur a'u gweithrediad); a
  • gallu ecosystemau i ymaddasu.

5.7.6 Wrth gyflawni'r ddyletswydd hon, mae'r Cyngor yn rhoi sylw i'r canlynol:

  • y rhestr o gynefinoedd sydd o'r pwys mwyaf i Gymru, a gyhoeddwyd o dan adran 7 o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016;
  • yr Adroddiad o Gyflwr Adnoddau Naturiol, a gyhoeddir gan CNC;
  • unrhyw Ddatganiad Ardal sy'n cwmpasu'r cyfan neu ran o'r ardal lle mae'r awdurdod yn arfer ei swyddogaethau. Bydd Datganiadau Ardal yn cael eu llunio gan CNC a fydd hefyd yn llywio'r Asesiad Seilwaith Gwyrdd.

5.7.7 Cynnal a Gwella Bioamrywiaeth
Bydd Conwy'n dilyn dull fesul cam o gynnal a gwella bioamrywiaeth a meithrin rhwydweithiau ecolegol cydnerth drwy sicrhau bod unrhyw effeithiau andwyol ar yr amgylchedd yn cael eu hosgoi yn y lle cyntaf, yna eu lleihau a'u lliniaru, ac fel ateb olaf, eu digolledu; rhaid darparu gwelliannau lle medrir.

  • Yn gyntaf, bydd Conwy yn ceisio osgoi difrod i fioamrywiaeth a gallu'r ecosystem i weithio.
  • Os gallai fod yna effeithiau amgylcheddol andwyol, bydd angen i'r Cyngor a chyrff cydweithredol fod yn fodlon bod ystyriaeth lawn wedi'i rhoi i safleoedd amgen rhesymol a fyddai'n achosi llai o ddifrod, dim difrod neu welliant. Bydd y Cyngor yn sicrhau bod nodweddion ac elfennau o werth i fioamrywiaeth neu'r seilwaith gwyrdd yn cael eu cadw ar y safle, a'u gwella neu eu creu lle bo'n bosibl, drwy fabwysiadu arferion gorau wrth ddylunio safleoedd ac egwyddorion seilwaith gwyrdd. Bydd darparu gwybodaeth gyfoes o arolygon ecolegol yn helpu'r broses.
  • Os oes angen, bydd y Cyngor yn ceisio addasu'r cynnig datblygu drwy drafod â'r ymgeisydd.

5.7.8 Dylai addasiadau bioamrywiaeth a seilwaith gwyrdd roi sylw i'r materion a'r cyfleoedd a nodwyd drwy'r Asesiad Seilwaith Gwyrdd.

(2) 5.7.9 Bydd y Cyngor yn gwarchod perthi, grwpiau o goed/llwyni ac ardaloedd o goetir lle mae iddynt werth ecolegol, lle maent yn cyfrannu at gymeriad neu amwynder ardal leol arbennig, neu lle maent yn cyflawni swyddogaeth fuddiol sydd wedi'i glustnodi i'r seilwaith gwyrdd.

5.7.10 Bydd y Cyngor yn ystyried pwysigrwydd coetiroedd brodorol a choed o werth, ac yn rhoi sylw i'r CCA. Ni chaniateir cael gwared ar goetir yn barhaol oni fydd hynny'n sicrhau buddiannau cyhoeddus arwyddocaol a chlir. Lle ceir gwared ar goetir neu goed fel rhan o gynllun arfaethedig, bydd disgwyl i ddatblygwr blannu coed yn eu lle, fel y cytunir â'r Cyngor.

5.7.11 Mae coetiroedd hynafol a choetiroedd lled-naturiol a choed hynafol, aeddfed a threftadaeth unigol yn adnoddau naturiol na ellir mo'u hadfer, ac maent yn werthfawr o ran tirwedd, bioamrywiaeth a diwylliant. Caiff coed a choetiroedd eu gwarchod rhag datblygiad a fyddai'n arwain at eu colli neu eu dirywio oni bai bod buddiannau cyhoeddus arwyddocaol a chlir o wneud hynny; dylai'r mesurau gwarchod hyn atal gweithrediadau a allai achosi difrod a cholled ddiangen. Yn achos safle sydd wedi'i gofnodi ar y Rhestr Coetiroedd Hynafol, dylai awdurdodau ystyried barn CNC. Bydd yr asedau hyn wedi'u mapio yn yr Asesiad Seilwaith Gwyrdd.

5.7.12 Safleoedd Dynodedig

Mae safleoedd dynodedig statudol yng Nghonwy yn gwneud cyfraniad hanfodol at ddiogelu bioamrywiaeth ac yn gallu bod yn bwysig o ran darparu cyfleoedd i gyflawni amcanion llesiant ehangach.

5.7.13 Mae'r CDLlN yn rhoi sylw i arwyddocâd cymharol dynodiadau rhyngwladol, cenedlaethol a lleol wrth ystyried faint o bwys i'w roi ar fuddiannau gwarchod natur. Mae canllawiau pellach, yn enwedig mewn perthynas â safleoedd Natura 2000, wedi'u cynnwys yn TAN 5: Cadwraeth Natur a Chynllunio. Dylai'r rhesymau sy'n ategu'r dynodiad ar bob lefel ac amlinelliad o nodweddion cymwys y dynodiad gael eu cofnodi'n glir fel rhan o'r Asesiad Seilwaith Gwyrdd a'u hystyried yn y CDLlN wrth ddylunio cynigion datblygu newydd ac mewn penderfyniadau rheoli datblygu yn y dyfodol. Dylid gwahaniaethu rhwng arwyddocâd cymharol y dynodiad o fewn yr hierarchaeth wrth ystyried faint o bwysigrwydd i'w roi i fuddiannau cadwraeth natur.

Gwarchod a Rheoli Safleoedd Dynodedig

Bydd safleoedd â dynodiad statudol yn cael eu diogelu rhag difrod a dirywiad, gyda'u nodweddion pwysig yn cael eu gwarchod a'u gwella drwy reolaeth briodol. Bydd cyfleoedd i adfer rhwydweithiau cynefinoedd i gyflwr iach yn cael eu nodi o ganlyniad i gynnal Asesiad Seilwaith Gwyrdd, a bydd ymyriadau priodol yn cael eu nodi i sicrhau cyflawni yn erbyn yr agweddau ar gydnerthedd, amrywiaeth, cysylltedd, graddfa, cyflwr a gallu i ymaddasu.

Tabl 7: Hierarchaeth Safleoedd Dynodedig

Haen

Enw

Safleoedd a Warchodir Drwy Statud/Heb Statud

Rhyngwladol

Ardal Cadwraeth Arbennig

Statudol

Ardal Gwarchodaeth Arbennig

Statudol

Safleoedd Ramsar

Statudol

Gwarchodfa Biosffer UNESCO

Anstatudol

Cenedlaethol

Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig

Statudol

Gwarchodfa Natur Genedlaethol

Statudol

Lleol

Safleoedd o Bwys i Gadwraeth Natur

Anstatudol

Gwarchodfa Natur Leol

Anstatudol

Safleoedd Bywyd Gwyllt Lleol

Anstatudol

5.7.14 Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig

Mae Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig o bwysigrwydd cenedlaethol. Mae Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981, fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf Cefn Gwlad Hawliau Tramwy 2000, yn rhoi dyletswydd ar bob corff cyhoeddus, gan gynnwys awdurdodau cynllunio, i gymryd camau rhesymol, sy'n gyson â'r ffordd gywir o arfer eu swyddogaethau, i barhau i warchod a gwella'r nodweddion sy'n pennu bod SoDdGA o ddiddordeb arbennig. Gall SoDdGA gael ei ddifrodi gan ddatblygiadau y tu mewn i'w ffiniau neu gerllaw ac, mewn rhai achosion, gan ddatblygiadau sydd gryn bellter i ffwrdd. Ceir rhagdybiaeth yn erbyn datblygiad sy'n debygol o beri niwed i SoDdGA a dylid adlewyrchu'r rhagdybiaeth hon mewn ffordd briodol ym mholisïau'r CDLlN ac mewn penderfyniadau rheoli datblygu. At ddibenion cynllunio defnydd tir bydd SoDdGA arfaethedig yn cael ei drin yn yr un ffordd â SoDdGA dynodedig.

Dŵr, Aer, Seinwedd a Golau

5.8.1 Amcan Strategol 15 (SO15): Lleihau faint y mae pobl a phethau'n dod i gysylltiad â llygredd aer a sŵn, cydbwyso darparu datblygu a goleuadau i gadw pobl ac eiddo'n ddiogel â'r angen i warchod a gwella'r amgylchedd dŵr ac adnoddau dŵr, gan gynnwys dŵr wyneb a dŵr daear o ran eu hansawdd a faint sydd ohonynt.

(1) Polisi Strategol SP/25Dŵr, Aer, Seinwedd a Golau

Bydd yr CDLl Newydd yn lleihau amlygiad i lygredd aer a sŵn, yn cydbwyso darpariaeth datblygiad a golau i wella diogelwch ac yn gwarchod a gwella amgylchedd y dŵr ac adnoddau dŵr gan gynnwys faint o ddŵr wyneb a dŵr daear a geir, a'i ansawdd.

5.8.2 Adnabod Ansawdd Amgylcheddol Lleoedd: Dŵr a Risg Llifogydd

Yn ogystal â bod yn ofyniad hanfodol i fyw, mae gwasanaethau dŵr sydd wedi'u cynllunio'n dda yn cynnig ystod o fanteision a gwasanaethau i gymdeithas. Mae'r diwydiant dŵr ei hun yn ffynhonnell swyddi gwyrdd ac mae gwasanaethau dŵr yn cefnogi prosesau cynhyrchu ynni a bwyd, hamdden a thwristiaeth, ac yn cysylltu cartrefi a busnesau â'r rhwydweithiau seilwaith maent yn dibynnu arnynt. Yn ogystal, mae ecosystemau naturiol yn chwarae rhan bwysig i wella ansawdd dŵr a rheoli llifogydd. Ymgymerwr dŵr sydd fel arfer yn cyflenwi dŵr ond mae'n bosibl mai cyflenwadau dŵr preifat yw'r unig ddewis ymarferol mewn ardaloedd anghysbell.

5.8.3 Datblygu a Chyflenwad Dŵr

Ystyrir adnoddau ac ansawdd dŵr yn gynnar yn y broses o nodi tir i'w ddatblygu ac ailddatblygu, gan gydweithredu â Dŵr Cymru. Dylai gwarchod adnoddau dŵr fod yn seiliedig ar sicrhau defnydd cynaliadwy yn y dyfodol. Mae'n bosibl nad yw defnyddiau sy'n defnyddio llawer o ddŵr yn briodol mewn ardaloedd lle ceir prinder a chyfyngiadau ar ddŵr. Bydd datblygiad newydd yn cael ei leoli a'i weithredu gan roi ystyriaeth i ddarparu gwasanaethau dŵr cynaliadwy, gan ddefnyddio dulliau a thechnegau dylunio sy'n gwella effeithlonrwydd dŵr ac yn lleihau effeithiau andwyol ar adnoddau dŵr, yn cynnwys ecoleg afonydd, gwlyptiroedd a dŵr daear gan gyfrannu drwy hynny at gydnerthedd ecolegol.

5.8.4 Capasiti'r Cyflenwad Dŵr a'r Seilwaith Carthffosiaeth/Draenio

Bydd digonolrwydd y cyflenwad dŵr a'r seilwaith carthffosiaeth yn cael ei ystyried y llawn wrth gynnig datblygiadau yn y CDLlN, a hynny fel gwasanaeth dŵr ac oherwydd yr effeithiau y mae diffyg capasiti yn eu cael ar yr amgylchedd ac ar amwynderau. Mae gan y system gynllunio ran bwysig i'w chwarae o ran sicrhau bod y seilwaith mae cymunedau a busnesau'n dibynnu arno yn gallu ymdopi â datblygiad arfaethedig. Buom yn cydweithio â darparwyr gwasanaeth a CNC i drafod darpariaeth gwasanaeth, datblygiad a gwarchod dalgylchoedd dŵr.

(1) 5.8.5 Ansawdd Dŵr a Llifogydd Dŵr Wyneb

Mae cynnydd mewn dwysedd glawiad yn cyflwyno heriau i systemau draenio, gan achosi llifogydd dŵr wyneb a llygredd gwasgaredig. Mae'r berthynas rhwng y gwahanol fathau o seilwaith draeniad yn gymhleth, er enghraifft, mae rhai draeniau priffordd yn cario dŵr wyneb o garthffosydd cyhoeddus ac mae peth seilwaith priffordd yn gollwng i garthffosydd cyhoeddus. Mae'n bwysig deall rôl gwahanol fathau o seilwaith wrth sicrhau'r dull gorau er mwyn osgoi llifogydd a llygredd gwasgaredig. Cafwyd cydweithio effeithiol rhwng awdurdodau draenio, priffyrdd a chynllunio wrth lywio'r Strategaeth a'r CDLlN.

5.8.6 Mae llygredd gwasgaredig a llifogydd dŵr wyneb yn digwydd o ganlyniad i ddŵr ffo o wynebau adeiledig, gan gynnwys o fathau o ddatblygiadau allai lygru, carthion sy'n gollwng o garthffosydd gorlawn a seilwaith preifat, er enghraifft, tanciau septig. Bydd y Cyngor yn ceisio sicrhau rheolaeth well ar ddraenio a dŵr wyneb er mwyn mynd i'r afael â'r materion hyn drwy:

  • sicrhau bod systemau draenio cynaliadwy yn cael eu hymgorffori mewn datblygiad fel bod modd rheoli dŵr wyneb yn ei darddiad neu gerllaw; a
  • galluogi cysylltiad â'r garthffos mewn ardaloedd â charthffosydd a thrwy leihau cynnydd yn nifer y systemau carthion preifat.

5.8.7 Systemau Draenio Cynaliadwy (SDCau) a Datblygiad

Bydd darparu SDC yn cael ei ystyried fel rhan annatod o ddyluniad datblygiad newydd a dylid ei ystyried cyn gynhared â phosibl wrth lunio cynigion ar gyfer datblygiad newydd. Wrth lywio datblygiad newydd, dylai'r system gynllunio sicrhau bod y mesurau'n cael eu hymgorffori o leiaf ar raddfa safle unigol, yn enwedig mewn ardaloedd trefol, er mwyn sicrhau manteision cronnus dros ardal ehangach. Daw cydymdrech fel hon â manteision dros y dalgylch cyfan. Ond ar lefel cynllun datblygu, daw manteision sylweddol o ddatblygu dulliau cydweithio sydd, gan ddefnyddio tystiolaeth asesiadau seilwaith gwyrdd, yn integreiddio SDC fel rhan o strategaethau twf ar gyfer ardaloedd neilltuol.

(2) 5.8.8 Mae angen cymeradwyaeth Corff Cymeradwyo SDCau (CCS) hefyd ar ddatblygiadau newydd o fwy nag un annedd neu waith adeiladu sy'n 100 metr sgwâr neu fwy, cyn y caiff y gwaith adeiladu ddechrau. Bydd angen i'r CCS gytuno ar y trefniadau mabwysiadu a rheoli, gan gynnwys y mecanwaith ariannu ar gyfer cynnal a chadw seilwaith SDC a holl elfennau'r draeniad, hynny fel rhan o'r gymeradwyaeth. Bydd hynny'n sicrhau bod seilwaith SDC yn cael ei gynnal a'i gadw'n briodol a'i fod yn gweithio'n effeithiol am ei oes.

5.8.9 Yr Aer

Mae aer glân a seinwedd briodol, yn cyfrannu at brofiad cadarnhaol o le yn ogystal â bod yn angenrheidiol ar gyfer iechyd y cyhoedd, amwynder a llesiant. Maent yn ddangosyddion ar gyfer ansawdd yr amgylchedd lleol ac yn rhan annatod o le, a dylid eu gwarchod drwy gamau gweithredu ataliol neu ragweithiol drwy'r system gynllunio. Ar y llaw arall, gall llygredd sŵn a golau gael effeithiau negyddol ar bobl, bioamrywiaeth a chydnerthedd ecosystemau a dylid eu lleihau gymaint ag y medrir.

5.8.10 Nid yw amcanion ansawdd aer cenedlaethol yn lefelau 'diogel' o lygredd aer. Yn hytrach maent yn cynrychioli trothwy pragmataidd, ac os ydynt yn cael eu croesi, mae'r llywodraeth o'r farn bod y risgiau iechyd sy'n gysylltiedig â llygredd aer yn annerbyniol. Nid yw aer sy'n cydymffurfio â'r amcanion hyn o drwch blewyn yn 'lân' ac mae'n peri risgiau iechyd hirdymor o hyd. Nid oes trothwy diogel wedi'i ddiffinio hyd yma ar gyfer nitrogen deuocsid a deunydd gronynnol, sef y llygryddion sy'n destun y pryder mwyaf yn genedlaethol o safbwynt iechyd y cyhoedd, ac felly po isaf y crynodiad o'r llygryddion hynny, po isaf y risgiau o effeithiau iechyd andwyol. Mae'n ddymunol cadw lefelau llygredd mor isel ag sy'n bosibl.

5.8.11 Nid oes unrhyw Ardaloedd Rheoli Ansawdd Aer yng Nghonwy. Mae'r holl waith monitro wedi dangos bod y lefel yn dal i gydymffurfio'n dda â'r Amcanion Ansawdd Aer Cenedlaethol, hyd yn oed yn agos at ardaloedd lle mae'r traffig ar ei brysuraf. Ni cheir unrhyw dargedau lleihau llygredd oherwydd hynny. Fodd bynnag, bydd Conwy yn parhau i ymrwymo i dargedau gwella ansawdd yr aer a datgarboneiddio a nodwyd yn yr adrannau ar Drafnidiaeth ac Ynni Adnewyddadwy. Mae'r adroddiad Ansawdd Aer diweddaraf ar gael ar wefan CBSC.

5.8.12 Seinwedd

Mae mathau problemus o sŵn yn cael eu profi fel llygredd sŵn a gallant effeithio ar amwynder a bod yn wael i iechyd neu'n niwsans. Mae cynlluniau gweithredu ar sŵn sy'n cael eu paratoi gan gyrff cyhoeddus yn ceisio atal a lleihau lefelau sŵn lle bo angen a diogelu ansawdd seinwedd lle mae'n dda. Mae'r lefelau sŵn sy'n cael eu defnyddio i nodi ardaloedd â blaenoriaeth mewn cynlluniau gweithredu ar sŵn yn cael eu gosod yn eithaf uchel gan amlaf er mwyn sicrhau bod adnoddau'n cael eu clustnodi i'r ardaloedd mwyaf llygredig a rhaid i sŵn fodloni nifer o brofion cyn iddo gael ei gyfrif fel niwsans statudol. Serch hynny, gall lefelau is o sŵn, fod yn annifyr neu'n drafferthus ac effeithio ar amwynder a dylid diogelu rhagddynt felly trwy'r broses gynllunio lle bo angen. Rhaid i'r system gynllunio ddiogelu amwynder ac nid yw'n dderbyniol dibynnu ar niwsans statudol o dan Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 i wneud hynny.

5.8.13 Wrth gynnig datblygiad newydd, bydd y Cyngor a datblygwyr, felly yn:

  • mynd i'r afael ag unrhyw oblygiad sy'n deillio o ganlyniad i'w gysylltiad ag ardaloedd rheoli ansawdd aer, ardaloedd blaenoriaeth cynlluniau gweithredu ar sŵn, neu ardaloedd lle ceir synwyryddion synhwyrol;
  • peidio â chreu ardaloedd lle ceir ansawdd aer gwael a llygredd sŵn;
  • ceisio ymgorffori mesurau sy'n lleihau cysylltiad cyffredinol â llygredd aer a sŵn a chreu seinweddau priodol.

5.8.14 Golau

Mae angen cydbwyso darparu golau i wella diogelwch er mwyn helpu i atal trosedd ac i alluogi gweithgareddau fel chwaraeon a hamdden i gael eu cynnal gyda'r angen i:

  • warchod yr amgylchedd naturiol a hanesyddol yn cynnwys bywyd gwyllt a nodweddion yr amgylchedd naturiol fel llonyddwch;
  • cadw awyr dywyll lle bo'n briodol;
  • atal golau llachar a pharchu amwynder y defnyddiau tir cyfagos; a
  • lleihau'r allyriadau carbon sy'n gysylltiedig â goleuadau.

5.8.15 Ceir Gwarchodfa Awyr Dywyll yn Eryri, ond nid yw'r warchodfa honno oddi mewn i Ardal y Cynllun, nac yn gyfagos â hi. Fodd bynnag drwy'r ASG, bydd Conwy yn asesu nodweddion economaidd ac amgylcheddol ardaloedd awyr dywyll yn ardal y cynllun, a bydd y CDLlN yn cyflwyno polisïau er mwyn ystyried cynigion datblygu unigol.

Llifogydd

5.9.1 Amcan Strategol 13 (SO13): Cefnogi cyfleoedd twf, adfywio a datblygu mewn Ardaloedd Arfordirol ond, ar yr un pryd, bod yn ymwybodol ac ymatebol i'r heriau sy'n dod oddi wrth bwysau naturiol.

(4) Polisi Strategol SP/26Llifogydd

Bod yn ymatebol yn fyd-eang drwy sicrhau amddiffyniad tymor hir ac addasu i berygl llifogydd yn ogystal â dileu risg yn unol â chanllawiau cenedlaethol, tra'n cyflawni nodau ehangach o ran tirwedd, cynefinoedd, ansawdd aer, bioamrywiaeth a theithio cynaliadwy. Dylai datblygiad newydd leihau, a rhaid iddo beidio â chynyddu, perygl llifogydd sy'n codi o afonydd a/neu lifogydd arfordirol ar y safle datblygu ei hun ac oddi arno.

Amddiffyn y gorlifdir sydd heb ei ddatblygu neu heb ei rwystro rhag datblygu ddylai gael blaenoriaeth, yn ogystal ag atal effeithiau cronnus datblygiad cynyddrannol.

5.9.2 Cefndir

Mae Cymunedau Cydlynus yn cael eu cynnal a'u creu drwy ddarparu lleoedd i bobl ryngweithio a chynnal gweithgareddau cymunedol, gan gynnwys mannau hamdden, chwarae, tyfu bwyd a chyfleoedd i gysylltu â natur. Mae llygredd neu beryglon fel llifogydd yn cael eu lliniaru neu eu hosgoi ac yn seiliedig ar wneud y gorau o gyfleoedd i gymunedau ffynnu a gwneud gweithgareddau cymdeithasol, economaidd a diwylliannol mewn amgylchedd iach, deniadol a dymunol.

5.9.3 Mae'r Cyngor yn cydnabod yr angen i addasu i effeithiau newid hinsawdd. Mae'r cyfuniad o gynhesu byd-eang sydd eisoes wedi digwydd, ynghyd â chynhesu ychwanegol, fel y rhagwelir gan y dystiolaeth newid hinsawdd ddiweddaraf, yn golygu bod yna effeithiau sylweddol posibl ar gyfer Conwy a Chymru o ran ymaddasu. Mae'r heriau'n cynnwys peryglon llifogydd a newid arfordirol i gymunedau, busnesau a seilwaith; peryglon i iechyd, lles a chynhyrchiant oherwydd tymereddau uchel; perygl prinder dŵr yn y cyflenwad dŵr cyhoeddus, amaethyddiaeth, cynhyrchiad a diwydiant ynni, a pheryglon i bridd, bioamrywiaeth a chynefinoedd daearol, arfordirol, morol a dŵr croyw.

5.9.4 Mae newid yn yr hinsawdd hefyd yn debygol o gael effeithiau sylweddol ar gymeriad y dirwedd, adeiladau hanesyddol, hynodrwydd ac ansawdd lleol, yn uniongyrchol drwy newid yn y tir, cynefinoedd a rhywogaethau, ac yn anuniongyrchol drwy benderfyniadau dylanwadol o ran defnydd tir.

5.9.5 Cymerir ymagwedd ar y cyd mewn perthynas â materion sy'n croesi ffiniau gweinyddol, fel cymryd ymagwedd dalgylch tuag at berygl llifogydd lle mae gan weithrediadau ar draws dalgylch oblygiadau mewn gwahanol leoliadau a gwahanol raddfeydd.

5.9.6 Gall mynd i'r afael â pherygl llifogydd fel rhan o ymagwedd integredig tuag at ddileu risg fod yn ddefnyddiol lle mae rheidrwydd cryf i gyflawni potensial adfywio ardal. Gall hyn gynnwys ystyried opsiynau adleoli o fewn Cyfnod y Cynllun a thu hwnt iddo.

(2) 5.9.7 Datblygiad ar yr Arfordir

Ni ddylid cynnig datblygiad mewn lleoliadau arfordirol fel arfer oni bai bod angen iddo fod ar yr arfordir. Yn arbennig, anaml y bydd ardaloedd arfordirol heb eu datblygu yn lleoliad priodol ar gyfer datblygu. Pan fydd angen lleoliad arfordirol ar ddatblygiadau newydd, fel arfer, ardaloedd arfordirol datblygedig fydd yr opsiwn gorau, ar yr amod bod materion sy'n gysylltiedig â newid arfordirol wedi cael eu hystyried. Mae materion o'r fath yn cynnwys peryglon erydiad, llifogydd, ansefydlogrwydd tir, a'r dulliau dewisol o fynd i'r afael â pheryglon o'r fath, ac effeithiau ar fioamrywiaeth a gwytnwch ecolegol.

5.9.8 Efallai na fydd ffurfiau datblygu dros dro yn cael effeithiau andwyol ar nodweddion arfordirol neu newid arfordirol ond eto'n cynnig cyfle i hwyluso gweithgareddau sy'n seiliedig ar dwristiaeth. Fodd bynnag, mae angen bod yn ofalus i sicrhau y gellir rheoli peryglon fel llifogydd yn dderbyniol, yn enwedig ar gyfer defnyddiau sensitif lle gall deiliaid ddisgwyl fod yn ddiogel rhag peryglon arfordirol.

5.9.9 Gallai'r posibilrwydd o wrthdaro godi lle gallai effeithiau codiad a datblygiad lefel y môr, gan gynnwys gweithdrefnau rheoli'r arfordir, effeithio ar gynefinoedd rhynglanwol neu asedau hanesyddol. Dylid rhoi ystyriaeth briodol i gadw gwydnwch amgylcheddau o'r fath fel rhan o waith paratoi cynlluniau datblygu ac wrth wneud penderfyniadau cynllunio.

5.9.10 Cymerir canllawiau drwy weithio ar y cyd â Chyfoeth Naturiol Cymru ar faterion safle penodol yn ogystal â gwybodaeth a ddarperir yn y canlynol:

  • Strategaeth Genedlaethol ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol yng Nghymru, Llywodraeth Cymru, 2011 :
  • Deddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010
  • Nodyn Cyngor Technegol 15.

5.9.11 Dynodiadau a dylanwadau eraill

Mae ffactorau eraill yn effeithio ar sut mae perygl llifogydd a'i newidiadau rheoli yn cael eu trafod mewn Penodau eraill, ac yn cynnwys:

  • Gwarchod Tirwedd ac Ardaloedd Tirwedd Arbennig dynodedig a nodweddion tirwedd pwysig eraill.
  • Bioamrywiaeth a Rhwydweithiau Ecolegol.
  • Safleoedd wedi'u Dynodi, yn arbennig mewn perthynas â safleoedd Natura 2000, wedi'u cynnwys yn Nodyn Cyngor Technegol 5: Gwarchod Natur a Chynllunio.
  • Ardaloedd Arfordirol a Newid Arfordirol
  • Dŵr a Pherygl Llifogydd
  • Isadeiledd Trafnidiaeth a Theithio Llesol
Am gyfarwyddiadau ar sut I ddefnyddio’r system ac I wneud sylwadau, gwelwch ein canllaw cymorth.
back to top Yn ôl i’r brig