Strategaeth a Ffefrir

Daeth i ben ar 20 Medi 2019

(1) Crynodeb Gweithredol

(1) 1.1 Mae Conwy yn paratoi Cynllun Datblygu Lleol Newydd (CDLl Newydd) ar gyfer y cyfnod 2018 - 2033. Gyda'n gilydd, rydym am gyfrannu mewn ffordd gadarnhaol at ddatblygu cynaliadwy drwy wella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Conwy erbyn 2033 er mwyn 'Creu Mwy o Gyfleoedd i Fyw, Gweithio ac Ymweld'

Byddwn yn cyflawni hyn drwy lunio Cynllun Datblygu Lleol Newydd (CDLl Newydd) cryno a pherthnasol sy'n cofleidio egwyddorion datblygu cynaliadwy a'r cysyniad o greu lleoedd. Trwy weithredu fel hyn byddwn yn sicrhau bod y CDLl Newydd yn ymgorffori ysbryd Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol ac yn ceisio cymryd camau cadarnhaol i greu lleoedd cynaliadwy, sicrhau cynhwysiant cymdeithasol a gwella lles pawb yng Nghonwy.
Y Strategaeth a Ffefrir yw'r cam statudol cyntaf yn y broses o lunio'r CDLl Newydd. Mae'n nodi'r dull gweithredu eang mae'r CDLl Newydd yn bwriadu ei fabwysiadu er mwyn sicrhau datblygiad cynaliadwy yng Nghonwy. Ategir y Strategaeth a Ffefrir (SaFf) gan bedair adran a gynlluniwyd er mwyn cyfrannu'n unigol i greu lleoedd a datblygu cynaliadwy yng Nghonwy:

Creu Lleoedd yng Nghonwy

Yn seiliedig ar yr Egwyddorion Cynllunio Allweddol a Chanlyniadau Creu Lleoedd Cynaliadwy Cenedlaethol yng Nghymru, bydd y cysyniad o greu lleoedd yn elfen allweddol yn Strategaeth a Ffefrir Conwy ar gyfer cyflawni nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol a gwneud penderfyniadau yng Nghonwy wrth lunio'r cynllun a rheoli datblygu i greu lleoedd cynaliadwy. Bydd creu lleoedd yng Nghonwy yn sicrhau ein bod yn cynllunio a dylunio datblygiadau a lleoedd mewn ffordd holistig gan arwain at ganlyniadau cadarnhaol mewn ardaloedd trefol a gwledig. Bydd yn tynnu ar botensial Conwy i greu datblygiadau a mannau cyhoeddus o ansawdd uchel sy'n hyrwyddo ffyniant, iechyd, hapusrwydd a lles pobl.

Creu Lleoedd Cynaliadwy

Lluniwyd y Strategaeth a Ffefrir ar ôl ystyried y materion creu lleoedd strategol sy'n effeithio ar Gonwy. Mae'r adran hon o'r SaFf yn canolbwyntio ar y polisïau strategol hynny a fydd yn cael yr effaith fwyaf ar y math o ddatblygiad a gyflawnir yn y pen draw a'i gyfraniad i ddatblygu cynaliadwy a llesiant amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd Conwy. Mae'r adran hon yn hybu polisïau integredig na ddylid eu hystyried ar eu pen eu hunain yn ystod y broses ddatblygu. Mae hyn yn cynnwys ystyried dyluniad y datblygiad a'i effeithiau ar fywyd pob dydd yn ogystal â meddwl mewn ffordd holistig ynghylch lle y gallai pobl fyw a gweithio ynddynt a pha ardaloedd y dylid eu gwarchod. Mae'r adran hon yn cyflwyno'r weledigaeth creu lleoedd strategol a lleol ar gyfer creu lleoedd cynaliadwy, ac fe'i hategir gan bolisïau strategol yn ymwneud ag Egwyddorion Creu Lleoedd Cynaliadwy, Lefelau Twf Tai, Lefelau Twf Swyddi, Dosbarthu Twf ac Hierarchaeth Setliadau, Creu Lleoedd a Dylunio Da, Hybu Lleoedd Iachach, Yr iaith Gymraeg, Rheoli Adnoddau Naturiol yn Gynaliadwy, Creu Lleoedd mewn Ardaloedd Gwledig, Cynlluniau Lle, Safleoedd Strategol, Seilwaith a Datblygiadau Newydd a Rheoli Ffurf Aneddiadau.

Lleoedd Ffyniannus yng Nghonwy

Mae'r Strategaeth a Ffefrir yn hybu economi ffyniannus yng Nghonwy drwy ddarparu cyflogaeth a datblygiad economaidd â chysylltiadau da mewn lleoliadau cynaliadwy a hygyrch. Bydd y lleoedd hyn yn cael eu dylunio a'u lleoli i hyrwyddo ffordd o fyw iach ac i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd drwy eu gwneud yn lleoedd hawdd i gerdded a beicio iddynt ac o'u hamgylch ac yn hawdd eu cyrraedd ar drafnidiaeth gyhoeddus, a thrwy ddefnyddio ynni adnewyddadwy ac o ffynonellau carbon isel. Mae'r adran hon yn nodi'r cyfeiriad strategol ar gyfer Datblygu Economaidd, Twristiaeth, Yr Economi Wledig, Seilwaith Trafnidiaeth, Telegyfathrebu, Ynni a Mwynau a Gwastraff.

Lleoedd Iach a Chymdeithasol yng Nghonwy

Byddwn yn cyfrannu at Leoedd Cymdeithasol yng Nghonwy drwy ddarparu cymunedau cydlynus â chysylltiadau da ar gyfer pob sector o'r gymuned. Cyflawnir hyn drwy alluogi pawb i gael bywyd da drwy fyw mewn cymunedau cryf a diogel, hyrwyddo datblygiadau cynhwysol a gwella mynediad i wasanaethau allweddol a chyfleusterau hamdden. Bydd dull gweithredu'r Strategaeth a Ffefrir yn cynorthwyo pobl i fabwysiadu ffyrdd o fyw iach, gan sicrhau datblygiad sy'n gynhwysol yn gymdeithasol a chymunedau sy'n fwy cydlynol. Mae'r adran hon yn nodi'r cyfeiriad strategol ar gyfer Trafnidiaeth, Tai, Canolfannau Manwerthu a Masnachol, Cyfleusterau Cymunedol a Mannau Hamdden.

Lleoedd Naturiol a Diwylliannol yng Nghonwy

Lleoedd Naturiol a Diwylliannol yng Nghonwy yw'r rhai sy'n gwerthfawrogi ansawdd tirweddau ac amgylchedd hanesyddol Conwy, yn diogelu asedau economaidd at y dyfodol mewn ymateb i'r heriau a ddaw yn sgil newid yn yr hinsawdd ac wrth hyrwyddo atebion carbon isel, gwarchod tirweddau a chynefinoedd, galluogi cyfleoedd ar gyfer cysylltu gyda'r amgylchedd naturiol ac annog ffyrdd o fyw iachach gyda'r fantais o wella lles corfforol a meddyliol, elfennau sy'n cael eu hannog yng Nghynllun Llesiant Conwy a Sir Ddinbych. Mae'r adran hon yn nodi'r cyfeiriad strategol ar gyfer Tirwedd, Ardaloedd Arfordirol, Amgylchedd Hanesyddol, Adfywio a arweinir gan Ddiwylliant, Seilwaith Gwyrdd, Bioamrywiaeth, Dŵr, Aer, Seinwedd a Golau, a Llifogydd.

Gyda'i gilydd mae'r pedwar maes pwnc strategol hyn yn helpu i gyfrannu'n gadarnhaol at hyrwyddo ffyniant i bawb yng Nghonwy. Caiff hyn ei wireddu yn y lle cyntaf drwy Weledigaeth, Amcanion a Strategaeth Twf arfaethedig y Strategaeth a Ffefrir hon.

Gweledigaeth ac Amcanion

Mae'r Strategaeth a Ffefrir yn nodi'r materion sydd wedi'u hadnabod fel rhai hanfodol bwysig i Gonwy hyd at 2033 er mwyn ymgynghori yn eu cylch. Mewn ymateb i'r rhain mae'n cynnig Gweledigaeth ar gyfer y math o leoedd byddem yn dymuno ei weld yng Nghonwy yn 2033 a'r Amcanion i wireddu hyn.

Strategaeth Ofodol

Mae'n rhaid i'r Cyngor ystyried ac asesu nifer o opsiynau realistig ar gyfer dosbarthiad gofodol datblygiad ar draws Ardal y Cynllun. Ar ôl ystyried yr opsiynau hyn, mae'r Strategaeth a Ffefrir yn nodi lefel y twf newydd sydd ei angen erbyn 2033 a dosbarthiad gofodol y twf drwy nodi lleoedd cynaliadwy allweddol, safleoedd strategol a gofynion seilwaith hanfodol.

Twf Newydd 2018 - 2033

Mae'r twf newydd a gynigir yn Strategaeth a Ffefrir Conwy yn seiliedig ar dystiolaeth a'r angen i gydbwyso nifer o ffactorau allweddol. Mae'n ystyried y newidiadau disgwyliedig o ran poblogaeth ac aelwydydd hyd at 2033, ac yn cynllunio ar gyfer y gofynion cyflogaeth, tai a seilwaith cysylltiedig fydd eu hangen o ganlyniad i yrwyr economaidd lleol a rhanbarthol a'r angen am dai fforddiadwy. Mae hefyd yn adlewyrchu capasiti'r diwydiant datblygu ac amcanion strategol eraill y mae'n rhaid i'r CDLl Newydd fynd i'r afael â nhw. Trwy gydbwyso'r ffactorau twf allweddol hyn mae Strategaeth a Ffefrir Conwy yn cynnig lle ar gyfer 1,800 o swyddi newydd a 4,300 o gartrefi erbyn 2033. Mae hefyd yn nodi cynllun uchelgeisiol i gyflenwi anghenion 1800 o dai fforddiadwy dros gyfnod y cynllun, gydag oddeutu 1000 ohonynt yn dai fforddiadwy newydd ac 800 yn sgil mecanweithiau polisi a mentrau'r Cyngor.

Dosbarthiad Gofodol Twf

Un elfen hanfodol wrth greu lleoedd cynaliadwy yng Nghonwy yw penderfynu ar leoliad datblygu. Mae'r Strategaeth a Ffefrir hon yn gosod sylfaen ar gyfer lleoli twf ac mae'n adnabod ardaloedd strategaeth datblygu allweddol a safleoedd strategol ar gyfer datblygu newydd, wedi'u cefnogi gan y seilwaith gofynnol o ran cymunedau a chyfleustodau hyd at 2033. Ar ôl nodi a deall anghenion ardaloedd trefol a gwledig presennol a'u nodweddion allweddol, mae'r Strategaeth a Ffefrir yn bwriadu canolbwyntio twf yn y ddwy ardal strategaeth, Ardal Strategaeth Datblygu Arfordirol (ASDA) a'r Ardal Datblygu Strategaeth Gwledig (ADSG).

Ardal Strategaeth Datblygu Arfordirol (ASDA)

Mae'r rhan fwyaf o boblogaeth Conwy yn byw ar hyd y coridor arfordirol trefol ar hyd llwybrau trafnidiaeth strategol ffordd ddeuol yr A55 a'r rheilffordd. Mae'r lleoliadau trefol hyn yn cynnig y cyfle gorau i leoli twf, bodloni anghenion y gymuned, hybu teithio llesol, cymunedau iachach, mynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd ac yn y pen draw, cydymffurfio â'r Egwyddorion Cynllunio Allweddol a Chanlyniadau Cenedlaethol Creu Lleoedd Cynaliadwy yng Nghymru. Fodd bynnag, mae'r ardaloedd hyn hefyd yn wynebu problemau yn ymwneud â chapasiti cymunedol a seilwaith (e.e. ysgolion, meddygfeydd a chyflenwad cyfleustodau), y cynllunnir ar eu cyfer yn y Strategaeth a Ffefrir hon er mwyn sicrhau y caiff cymunedau cynaliadwy eu creu.

At hynny, mewn ardaloedd trefol fel Abergele, Pensarn, Tywyn a Bae Cinmel, mae cyfyngiadau sylweddol, fel perygl llifogydd a seilwaith priffyrdd, yn effeithio ar eu gallu i ganiatáu twf ac adfywio. Mae'r Strategaeth a Ffefrir hon yn hybu Ardal Adfywio a Buddsoddi Dwyreiniol (AABD) fel rhan o'r Strategaeth a Ffefrir er mwyn atal yr ardaloedd bregus hyn rhag dirywio ymhellach a sicrhau bod y cynllun yn cyfrannu at greu cymunedau gwydn.

Ar ôl ystyried y materion trefol allweddol hyn, mae'r rhan fwyaf o'r twf yn canolbwyntio ar y trefi mwyaf cynaliadwy a hygyrch yn ardaloedd Canolog, Creuddyn a Gorllewinol yr ASDA.

Ardal Strategaeth Datblygu Gwledig (ASDG).

Mae cefn gwlad Conwy yn adnodd dynamig ac amlbwrpas. Yn unol â datblygu cynaliadwy a'r egwyddorion cynllunio cenedlaethol ac er mwyn cyfrannu at ganlyniadau creu lleoedd, rhaid ei warchod a'i wella, lle bo'n bosibl, er budd ei werth ecolegol, daearegol, ffisiograffig, hanesyddol, archeolegol, diwylliannol ac amaethyddol a'i dirwedd ac adnoddau naturiol. Bydd yr angen i warchod y nodweddion hyn yn cael ei gydbwyso yn erbyn anghenion economaidd, cymdeithasol a hamdden cymunedau lleol ac ymwelwyr.
Yn y rhan fwyaf o'r ardaloedd gwledig yn ASDG Conwy mae'r cyfleoedd i leihau'r defnydd o geir ac annog mwy o bobl i gerdded, beicio a defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn fwy cyfyngedig nag yn yr ASDA. Oherwydd hyn, mae'r Strategaeth a Ffefrir yn canolbwyntio twf cyfyngedig ar yr aneddiadau hynny sy'n weddol hawdd eu cyrraedd heb gar o'u cymharu â'r ardal wledig yn ei gyfanrwydd. O'r herwydd mae'r rhan fwyaf o'r twf gwledig yn canolbwyntio ar Ganolfan Wasanaeth Allweddol Llanrwst, anheddiad sy'n cynnal y cymunedau gwledig ehangach o ran cyflogaeth, manwerthu ac addysg. Er mwyn sicrhau bod y cymunedau gwledig ehangach yn cael cyfleoedd i gynnal eu hunain, bydd dull datblygu mwy hyblyg yn cael ei hyrwyddo i ddiogelu hunaniaeth gymunedol a bodloni anghenion lleol.

Safleoedd Strategol

Cyn paratoi'r Strategaeth a Ffefrir hon, cynhaliodd y Cyngor ymarferiad 'galwad am safleoedd ymgeisiol', gan roi cyfle i bob parti gyflwyno safleoedd posibl i'w cynnwys yn y CDLl Newydd. Mae'n rhaid i'r Cyngor baratoi Cofrestr o Safleoedd Ymgeisiol a'i chyhoeddi ochr yn ochr â'r ymgynghoriad hwn ar y Strategaeth a Ffefrir. Mae'r gofrestr o safleoedd ymgeisiol yn ddogfen fyw y gellir ei diweddaru hyd nes caiff y CDLl Newydd ar Adnau ei gyhoeddi ar ddechrau 2020.
Mae'r Strategaeth a Ffefrir hon yn nodi'r Safleoedd Strategol sy'n allweddol i gyflawni'r strategaeth gyffredinol, gan gynnwys asesiadau hyfywedd ategol a lluniadau cysyniadol. Diffinnir Safle Strategol fel un 6 hectar (60,000 metr sgwâr) neu fwy, a gall gynnwys defnydd penodol neu ddefnydd cymysg. Ategir Safleoedd Strategol gan weledigaeth creu lleoedd a fframweithiau cynlluniau, egwyddorion dylunio a gofynion seilwaith.

I adlewyrchu eu cyfraniad i ofynion twf Conwy yn y dyfodol ac fel elfennau allweddol o Fargen Twf Gogledd Cymru (Bargen Twf y Gogledd), clustnodwyd pum Safle Strategol fel rhai sy'n gwneud cyfraniad pwysig i'r ddarpariaeth gyffredinol ar gyfer twf yn ystod oes y Cynllun.

Am gyfarwyddiadau ar sut I ddefnyddio’r system ac I wneud sylwadau, gwelwch ein canllaw cymorth.
back to top Yn ôl i’r brig