Strategaeth a Ffefrir

Daeth i ben ar 20 Medi 2019
Os ydych chi’n cael trafferth defnyddio’r system, rhowch gynnig ar ein canllaw cymorth.

Lleoedd Iach a Chymdeithasol yng Nghonwy

Cyflwyniad

4.1.1 Cyfrannir at Leoedd Cymdeithasol yng Nghonwy drwy ddarparu cymunedau cydlynol sydd wedi'u cysylltu'n dda ar gyfer holl sectorau cymdeithas. Cyflawnir hyn drwy ganiatáu i bawb gael ansawdd bywyd da drwy fyw mewn cymunedau cryf a diogel, hyrwyddo datblygiadau cynhwysol drwy wella mynediad ar wasanaethau allweddol a chyfleusterau hamdden. Bydd y dull Strategaeth a Ffefrir yn cefnogi pobl i fabwysiadu ffyrdd iach o fyw, sicrhau datblygiad cynhwysol yn gymdeithasol a chymunedau mwy cydlynol. Mae'r adran hon yn gosod y cyfarwyddyd strategol ar gyfer Cludiant, Tai, Canolfannau Manwerthu a Masnach, Cyfleusterau Cymunedol a Mannau Hamdden.

Trafnidiaeth Gynaliadwy a Hygyrchedd

4.2.1 Amcan Strategol 6 (SO6): Darparu datblygiad cynaliadwy a cheisio mynd i'r afael ag achosion newid hinsawdd trwy ymestyn y dewis o gludiant cynaliadwy i alluogi cymunedau Conwy i gael mynediad at swyddi a gwasanaethau allweddol trwy annog pobl i wneud siwrneiau byrrach a mwy egnïol ac effeithlon trwy gerdded, beicio a defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus a thrwy ddylanwadu ar leoliad, graddfa, dwysedd, cymysgedd defnydd a dyluniad datblygiadau newydd.

(1)Polisi Strategol SP/14Trafnidiaeth Gynaliadwy a Hygyrchedd

Caiff rhwydwaith Trafnidiaeth Gynaliadwy a Hygyrchedd ei hyrwyddo i gefnogi datblygu cynaliadwy, annog newid mewn ymddygiad teithio, cynyddu gweithgarwch corfforol, gwella iechyd a mynd i'r afael ag achos newid hinsawdd a llygredd yn yr aer. Mae'r Cynllun yn hyrwyddo rhwydwaith trafnidiaeth gynaliadwy, integredig, hygyrch, ddibynadwy, effeithlon a diogel i bawb, yn unol â Hierarchaeth Trafnidiaeth Gynaliadwy. Cyflawnir hyn drwy:

  1. Lleoli datblygiad yn unol â Pholisi Strategol 4 Dosbarthiad Twf a Hierarchaeth Anheddiad lle ceir mynediad hawdd drwy ddulliau teithio cynaliadwy heb yr angen am gar;
  2. Blaenoriaethu'r Hierarchaeth Trafnidiaeth Gynaliadwy ym mhob datblygiad.
  3. Creu cynlluniau sy'n canolbwyntio ar bobl, wedi'u cynllunio'n dda sy'n sicrhau hygyrchedd drwy gerdded, beicio a thrafnidiaeth gyhoeddus, trwy flaenoriaethu darpariaeth seilwaith ar y safle a, lle bo angen, lliniaru effeithiau trafnidiaeth drwy ddarparu mesurau oddi ar y safle, gan gynnwys llwybrau teithio llesol, rhwydweithiau seilwaith gwyrdd, seilwaith blaenoriaeth bysiau a chymorth ariannol ar gyfer gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus.
  4. Cyfrannu tuag at reoli rhwydwaith cynaliadwy drwy wneud y defnydd gorau o'r lleoedd sydd ar gael dros y cyfnod Cynllunio.
  5. Dylanwadu ar sut y mae pobl yn dewis teithio drwy gymryd ymagwedd sy'n seiliedig ar ddylunio tuag at gynlluniau, sy'n sicrhau bod lefel briodol o feysydd parcio wedi'u hintegreiddio mewn ffordd nad yw'n dominyddu'r datblygiad. Caiff y ddarpariaeth parcio ceir ei llywio gan y cyd-destun lleol, gan gynnwys hygyrchedd trafnidiaeth gyhoeddus, egwyddorion dylunio trefol a'r amcan o leihau dibyniaeth ar geir preifat a chefnogi'r newid moddol i gerdded, beicio a thrafnidiaeth gyhoeddus, yn ogystal â defnyddio pwyntiau gwefru Cerbydau Allyriadau Isel Iawn (ULEVs).
  6. Blaenoriaethu hierarchaeth trafnidiaeth gynaliadwy drwy hyrwyddo Teithio Llesol a Map Rhwydwaith Integredig y Cyngor. Bydd y Cynllun yn nodi, diogelu a chefnogi darpariaeth ffyrdd a rhwydweithiau teithio llesol.
  7. Cefnogi'r gwaith o gludo nwyddau ar y rheilffordd drwy ddiogelu cyfleusterau cludo nwyddau ar y rheilffyrdd a'r tir yng Nghyffordd Llandudno a Phenmaenmawr.
  8. Gweithio gyda phartneriaid i ddarparu Cynllun Trafnidiaeth Gogledd Cymru (blaenoriaethau rhanbarthol a lleol ar gyfer Conwy, yn benodol annog cyfleusterau cyfnewid, parcio a theithio, a gwella lleoedd a symudiad mewn trefi fel Abergele.

(1)4.2.2 Cyflwynodd Papur Testun 8 y materion sy'n ymwneud â Thrafnidiaeth yn Ardal Y Cynllun ac mae'r cyfnod hwn yn adeiladu ar y darn hwnnw o waith i fod yn sail i ddull strategol o weithio. Mae darparu isadeiledd trafnidiaeth gynaliadwy yn hanfodol er mwyn meithrin ffyniant, mynd i'r afael â newid hinsawdd, lleihau llygredd yn yr awyr a gwella lles cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru.

4.2.3 Y nod allweddol yw galluogi pobl i gael gafael ar swyddi a gwasanaethau trwy wneud siwrneiau byrrach, mwy effeithlon a chynaliadwy, ar droed, ar feic ac ar drafnidiaeth gyhoeddus. Trwy ddylanwadu ar leoliad, graddfa, dwysedd, cymysgedd defnyddiau a dyluniad datblygiad newydd, gall y system gynllunio wella dewis mewn trafnidiaeth a sicrhau hygyrchedd mewn ffordd sy'n cefnogi datblygiad cynaliadwy, cynyddu gweithgarwch corfforol, gwella iechyd a helpu i fynd i'r afael a'r pethau sy'n achosi newid hinsawdd a llygredd yn yr awyr trwy:

  • Galluogi mwy o ddewisiadau teithio cynaliadwy - mesurau i gynyddu lefelau cerdded, beicio a defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, lleihau dibyniaeth ar y car i deithio bob dydd;
  • Rheoli rhwydwaith - mesurau i wneud y defnydd gorau o'r capasiti sydd ar gael, gyda chefnogaeth isadeiledd newydd sydd wedi'i thargedu; a
  • Rheoli'r galw - cymhwyso strategaethau a pholisïau i leihau'r galw am deithio, yn arbennig cerbydau preifat meddiannaeth sengl.

4.2.4 Cyflawni'r Amcanion a Pholisi Strategol

Mae'n rhaid i gynlluniau defnydd tir a thrafnidiaeth fod yn integredig. Mae'n rhaid i'r system gynllunio sicrhau ei fod yn galluogi integreiddio:

  • o fewn a rhwng gwahanol fathau o drafnidiaeth;
  • rhwng mesurau trafnidiaeth a chynlluniau defnydd tir;
  • rhwng mesurau trafnidiaeth a pholisïau i ddiogelu a gwella'r amgylchedd; a
  • rhwng mesurau trafnidiaeth a pholisïau ar gyfer addysg, iechyd, cynhwysiant cymdeithasol a chreu cyfoeth.

4.2.5 Bydd y CDLlN yn nodi a chynnwys polisïau a chynigion sy'n ymwneud â datblygu isadeiledd trafnidiaeth a gwasanaethau cysylltiedig (megis cyfleusterau cyfnewidfa trafnidiaeth gyhoeddus, cyfleusterau rheilffordd a phorthladdoedd), gan gynnwys ardaloedd a ddiogelir ar gyfer isadeiledd / llwybrau trafnidiaeth y dyfodol. Caiff llwybr isadeiledd arfaethedig neu well ei ddangos yn map cynigion y CDLlN. Pan fo'r union lwybr yn anhysbys, mae'n bosibl y caiff polisi diogelu ei gymhwyso ar gyfer y darn o dir sy'n angenrheidiol ar gyfer y cynllun.

4.2.6 Materion Trafnidiaeth Strategol Allweddol

  • Mae 74% o breswylwyr Conwy sy'n gweithio yn gweithio yn y fwrdeistref sirol, mae 94% yn gweithio yng Nghymru ac mae 6% yn cymudo allan.
  • Mae lefelau traffig ar ffyrdd Conwy yn cynyddu, yn enwedig traffig tymhorol.
  • Mae lefelau teithio ar reilffyrdd a gwasanaethau bysiau wedi cynyddu o 289,620 (2006-2007) i 313,033 (2016-17)
  • Mae lefelau beicio hamdden wedi cynyddu yn ogystal â lefelau cymudo ar gefn beic.
  • Mae'r boblogaeth yng Nghonwy yn heneiddio'n gynt o'i gymharu â llawer o weddill Cymru.
  • Mae Cyd-gynllun Trafnidiaeth Gogledd Cymru yn darparu sail ar gyfer datblygu prosiectau trafnidiaeth yn yr ardal ac mae'r CDLlN yn ceisio helpu i ddod â'r prosiectau hyn ymlaen gyda chysylltiadau i ddatblygiad newydd.
  • Amlinellir dull y Seilwaith Gwyrdd yn PCC 10 a bydd yn ffurfio rhan annatod o'r broses flaengynllunio ac integreiddio safleoedd.

4.2.7 Mae'n glir bod llawer o newidiadau cyd-destunol wedi digwydd o ran dyheadau trafnidiaeth ranbarthol ers i'r CDLl presennol gael ei fabwysiadu, ond, mae'r cyfnod hwn yn caniatáu i CDLl cwbl newydd gyflwyno sylfaen dystiolaeth a strategaeth wedi'u diweddar ac mae'n gyfle i gynnwys rhanddeiliaid.

4.2.8 Beth mae'r Strategaeth a Ffefrir a'r CDLlN yn ceisio ei gyflawni?

Heb CDLl, byddai trafnidiaeth yn dal i gael ei ddatblygu o ran Cyd-gynllun Trafnidiaeth Gogledd Cymru, cynlluniau ar raddfa genedlaethol a gofynion Teithio Llesol. Mae'r Strategaeth a Ffefrir yn caniatáu ar gyfer integreiddio sylweddol a gweithio ar y cyd â therfynau amser datblygiadau a strategaethau eraill a fydd yn arwain at fuddion ehangach o ran integreiddio datblygiadau yn well, rhannu costau a defnyddio adnoddau'n fwy effeithlon.

4.2.9 Cynllunio integredig a Strategaethau Trafnidiaeth

Bydd y CDLlN yn gosod allan strategaeth gynllunio a thrafnidiaeth integredig a fydd yn dangos sut y bydd yr awdurdod yn:

  • integreiddio a chydlynu trafnidiaeth gynaliadwy a chynllunio defnydd tir;
  • hwyluso a hyrwyddo hygyrchedd i bawb;
  • lleihau'r angen i deithio;
  • lleihau dibyniaeth ar gerbydau preifat;
  • rhoi blaenoriaeth a chefnogaeth i gerdded, beicio a defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus;
  • annog mwy o bobl i ddewis Cerbydau Gollyngiadau Isel Iawn;
  • lleihau llygredd yn yr awyr sy'n gysylltiedig â thrafnidiaeth; a
  • hwyluso darpariaeth isadeiledd trafnidiaeth a'r gwelliannau a'r datblygiadau sy'n angenrheidiol i drafnidiaeth gynaliadwy.

4.2.10 Bydd Polisi Strategol 14 yn cyfrannu at hyn yn fanylach a bydd polisi sy'n seiliedig ar feini prawf yn cael ei ddatblygu yn unol â dull gweithio Hierarchaeth Trafnidiaeth Polisi Cynllunio Cymru. Cyd-gynllun Trafnidiaeth Gogledd Cymru yw'r Cynllun Trafnidiaeth Lleol sy'n gosod allan polisïau ar gyfer hyrwyddo ac annog trafnidiaeth ddiogel ac effeithlon a gweithredu Strategaeth Drafnidiaeth Cymru yn Ardal y Cynllun. Mae angen i fframwaith cynllunio trafnidiaeth gael dull gweithredu integredig rhwng blaenoriaethau cenedlaethol, rhanbarthol a lleol. Bydd cynlluniau trafnidiaeth yn y Cyd-gynllun Trafnidiaeth Gogledd Cymru sy'n debygol o gael eu cyflwyno yn ystod cyfnod y Cynllun yn cael eu nodi yn y CDLlN.

4.2.11 Aneddiadau a thwf

Mae'r CDLlN yn categoreiddio aneddiadau yn ôl hierarchaeth sy'n adlewyrchu eu cynaliadwyedd cymharol. Oherwydd dyhead y Cynllun i leihau'r angen i deithio, yn enwedig mewn ceir modur preifat (yn arbennig rhai sy'n defnyddio tanwydd traddodiadol), a'i rôl i gyfrannu at hwyluso strategaeth drafnidiaeth integredig, mae'n ceisio cyfeirio datblygiad i leoliadau priodol sy'n ceisio cyflawni hynny. Mae'r strategaeth yn rhoi ystyriaeth i'r rhwydwaith priffyrdd a rheilffyrdd ynghyd â hygyrchedd at drafnidiaeth gyhoeddus a'r posibilrwydd o dwf aneddiadau gan adlewyrchu lefelau hygyrchedd a ystyrir fel rhan o'r CDLl a fydd yn cael ei archwilio gan y cyhoedd.

4.2.12 Mae ystyriaeth ofalus wedi cael ei rhoi i ddyrannu safleoedd strategol newydd, sy'n debygol o gynhyrchu lefelau symud sylweddol yn lleol, gan sicrhau bod darpariaethau mynediad sy'n hyrwyddo cerdded a beicio, yn ogystal â thrafnidiaeth gyhoeddus, yn cael eu cynnwys o'r dechrau a bod modd mynd i'r afael ag unrhyw oblygiadau sy'n gysylltiedig â llygredd yn yr awyr.

4.2.13 Oherwydd amrywiaeth Ardal y Cynllun, mae hygyrchedd a'r nod o leihau'r angen i deithio (a gollyngiadau CO2 cysylltiedig) yn dal i fod yn her i ran helaeth o Gonwy, yn enwedig wrth fynd i'r afael â'r angen i gynnal ardaloedd gwledig a sicrhau nad yw eu cymunedau yn dioddef effeithiau allgáu cymdeithasol. Mae'n rhaid i hyn gysylltu hefyd â derbyn yn realistig bod y car modur yn dal i fod yn gyfrwng teithio pwysig mewn ardaloedd felly. Mae'n bosibl y gellir lleihau traffig hefyd trwy strategaeth drafnidiaeth integredig sy'n cynnwys mentrau lleol i geisio datblygu cymunedau hunangynhaliol (gan gynnwys argaeledd gwasanaethau a chyfleusterau).

Ffigur 4: Hierarchaeth Trafnidiaeth

figure%204%20cymraeg

4.2.14 Trafnidiaeth gyhoeddus

Bydd y CDLlN yn hyrwyddo a hwyluso darpariaeth isadeiledd trafnidiaeth gyhoeddus o safon uchel a bydd yn gosod polisïau i wneud mwy o ddefnydd o drafnidiaeth gyhoeddus. Bydd yn nodi a hwyluso llwybrau, mesurau a chyfleusterau trafnidiaeth gyhoeddus briodol, sy'n cymryd i ystyriaeth cynigion yn y Cynllun Trafnidiaeth Lleol, a allai gynnwys gwella cyfleusterau i deithwyr ar fysiau, cynlluniau parcio a theithio, rheilffyrdd newydd (gan gynnwys trenau ysgafn), ail-agor rheilffyrdd, darparu gorsafoedd newydd a gwella gwasanaethau i deithwyr ar reilffyrdd presennol.

4.2.15 Mae'r Cynllun Trafnidiaeth Lleol yn cymryd i ystyriaeth yr angen am safleoedd cyfnewid ychwanegol a gwelliannau i gyfnewidfeydd presennol ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus, gan gynnwys mesurau i hyrwyddo diogelwch personol. Mewn ardaloedd gwledig, nodir cyfnewidfeydd ar geinciau lle mae'n bosibl trosglwyddo rhwng gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus lleol a phell. Bydd y Cyngor hefyd yn diogelu cyfnewidfeydd trafnidiaeth gyhoeddus bresennol rhag datblygiadau a fyddai'n arwain at lai o ddefnydd ohonynt.

4.2.16 Teithio Llesol

Mae Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 yn nodi mai cerdded a beicio yw'r dewis a ffefrir ar gyfer siwrneiau byrrach, yn enwedig siwrneiau bob dydd, megis i'r gweithle neu sefydliad addysgol ac yn ôl, neu er mwyn cael gafael ar gyfleusterau iechyd, hamdden neu wasanaethau neu gyfleusterau eraill. Yn unol â'r Ddeddf Teithio Llesol mae'r Cyngor wedi cynhyrchu Mapiau Rhwydwaith Integredig sy'n nodi'r llwybrau cerdded a beicio sy'n ofynnol i greu rhwydweithiau cwbl integredig er mwyn cerdded a beicio i gael gafael ar waith, addysg, gwasanaethau a chyfleusterau. Mae'r Ddeddf Teithio Llesol yn cael ei hategu gan Ganllawiau Dylunio statudol. Mae'r canllawiau yn gosod allan y safonau sy'n ddisgwyliedig o isadeiledd teithio llesol newydd a gwell yng Nghymru, gan gynnwys cyfleusterau cysylltiedig, a'r ystyriaethau wrth ddewis datrysiadau dylunio ar gyfer llwybrau a safleoedd penodol.

4.2.17 Mae'r CDLlN a'r Strategaeth a Ffefrir yn nodi a diogelu llwybrau a rhwydweithiau teithio llesol, gan gynnwys y rheiny a nodir ar y Mapiau Rhwydwaith Integredig (MRhI) sy'n ofynnol gan y Ddeddf Teithio Llesol, ac yn cefnogi'r gwaith o'u darparu. Fel rhan o'r gwaith o ddewis safleoedd datblygu yn y dyfodol, mae blaenoriaeth wedi cael ei rhoi i safleoedd y gellir eu cysylltu'n rhwydd â llwybrau teithio llesol presennol neu rwydweithiau'r dyfodol. Anelir at integreiddio datblygiadau newydd gyda rhwydweithiau teithio llesol a chyfrannu at y gwaith o'u ehangu a'u gwella. Cyflawnir hyn trwy gynnwys llwybrau a chyfleusterau wedi'u cynllunio'n dda fel rhan o'r cynlluniau a'r cyfraniadau ariannol i dalu am gysylltiadau oddi ar y safle.

4.2.18 Caiff Cynllun Teithio Llesol ei ddatblygu trwy Bapur Cefndirol. Bydd yn helpu i integreiddio darpariaeth llwybrau MLlP / MRhI ym mhroses y CDLl a datblygiad yn y dyfodol. Caiff buddion ychwanegol eu cyflawni trwy gynllunio'r Seilwaith Gwyrdd. Mae Map Llwybrau Presennol a gwybodaeth a llwybrau MRhI Teithio Llesol Cymru ar gael trwy'r dolenni isod .

4.2.19 Trafnidiaeth a'r Effeithiau Uniongyrchol ar Iechyd

Mae gan awdurdodau cynllunio rôl i'w chwarae wrth atal salwch corfforol a meddyliol a achosir neu a waethygir gan lygredd, datgysylltu pobl o weithgareddau cymdeithasol (sy'n cyfrannu at unigrwydd), yn ogystal â hyrwyddo patrymau teithio sy'n hwyluso ffyrdd egnïol o fyw. Bydd y CDLlN yn ystyried effeithiau datblygiadau newydd ar gymunedau presennol a diogelu iechyd a lles yn well yn ogystal â diogelu amwynder lleol.

4.2.20 Seilwaith Gwyrdd

Caiff hwn ei drafod yn fanylach o dan thema allweddol: 'Lleoedd Nodedig a Naturiol', er bod ganddo amcanion sy'n gysylltiedig â'r ffordd y gellir integreiddio nodau trafnidiaeth gynaliadwy a Theithio Llesol i Ardal y Cynllun gyda buddion amgylcheddol ac iechyd ehangach. Bydd hyn yn golygu gweithio ar y cyd yn unol â'r Arfarniad o Gynaliadwyedd / Asesiad Amgylcheddol Strategol, Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd, asesu tirweddau a'r angen cytbwys am dwf cynaliadwy a dosbarthiad o safleoedd tai a chyflogaeth. Caiff polisi manwl ei ddatblygu a'i gynnwys hefyd yn y CDLlN mewn perthynas â dwyn argymhellion ymlaen a amlinellwyd yn yr Asesiad Seilwaith Gwyrdd.

4.2.21 Caiff darpariaeth Cerbydau Gollyngiadau Isel Iawn (ULEVs) a phwyntiau gwefru ei annog a'i gefnogi trwy'r CDLl fel rhan o ddatblygiadau newydd. Lle darperir meysydd parcio ar gyfer datblygiadau amhreswyl newydd, bydd y CDLl yn ceisio sicrhau bod 10% o leoedd parcio yn cynnwys pwyntiau gwefru ar gyfer cerbydau ULEV. Bydd y Cyngor hefyd yn paratoi Strategaeth ULEV a fydd yn ategu uchelgeisiau ULEV yn y CDLlN.

(1)4.2.22 Cludo nwyddau

Bydd dewisiadau cludo nwyddau cynaliadwy yn cael eu diogelu a'u hyrwyddo, gan gynnwys y potensial i gludo nwyddau ar reilffyrdd, dyfrffyrdd neu biblinellau yn hytrach nag ar ffyrdd. Bydd y CDLlN yn nodi a diogelu ardaloedd ar gyfer symud nwyddau mewn modd cynaliadwy. Bydd y Cyngor yn ystyrid pa lwybrau sydd fwyaf addas i'w defnyddio i gludo nwyddau ar y ffordd ac yn cefnogi lleoli neu symud canolfannau dosbarthu a gweithredu ar safleoedd sydd â mynediad da at y llwybrau hynny. Mae'r un peth yn wir am ddatblygiadau eraill sy'n cynhyrchu symudiadau nwyddau yn aml ar ffyrdd. Lle bo hynny'n bosibl, dylid lleoli cyfleusterau newydd ger rheilffyrdd a/neu borthladdoedd er mwyn hyrwyddo trosglwyddiad moddol. Ar y cyd ag awdurdodau cyfagos, rhoddir ystyriaeth i ba mor ddichonol fyddai datblygu canolbwyntiau HGV ar hyd y prif lwybrau allweddol hefyd, lle byddai modd trosglwyddo i gerbydau LGV ar gyfer cymal olaf y siwrnai cludo nwyddau.

4.2.23 Parcio Ceir

Mae darpariaeth parcio ceir yn ddylanwad mawr ar y ffordd y mae pobl yn dewis teithio ac ar batrwm datblygiad. Gall lle a sut y mae ceir yn parcio fod yn ffactor pwysig i ansawdd rhywle.

4.2.24 Caiff darpariaeth parcio ceir ei arwain gan ddyluniad yn y CDLlN i'w archwilio gan y cyhoedd, a bydd yn sicrhau bod lle priodol i barcio ceir yn cael ei integreiddio mewn ffordd na fydd yn ennill lle blaenllaw ar y datblygiad. Dylai darpariaeth parcio ceir gael ei llywio gan y cyd-destun lleol, gan gynnwys hygyrchedd trafnidiaeth gyhoeddus, egwyddorion dylunio trefol a'r amcan o leihau dibyniaeth ar geir preifat a chefnogi'r newid moddol i gerdded, beicio a thrafnidiaeth gyhoeddus. Bydd y CDLlN i'w archwilio gan y cyhoedd yn darparu polisi sy'n cefnogi cynlluniau i gadw lefelau parcio yn isel, enwedig parcio oddi ar y stryd, pan gaiff ei ddylunio'n dda. Rhaid cydnabod anghenion pobl anabl a rhaid darparu digon o lefydd parcio ar eu cyfer.

4.2.25 Bydd y Ddogfen i'w harchwilio gan y cyhoedd yn gofyn am ddyluniad parcio ceir o safon uchel, na fydd yn caniatáu i gerbydau ennill lle blaenllaw ar y stryd neu beri anghyfleustra i bobl sy'n cerdded a beicio. Dylai llefydd parcio ceir fod yng nghanol eiddo cyfagos er mwyn darparu gwyliadwriaeth naturiol.

(1)4.2.26 Dyraniadau Teithio Llesol

Bydd Llwybrau Teithio Llesol fel y dangosir ar y MLlP / MRhI a'r Cynllun Trafnidiaeth Lleol yn cael eu dyrannu a'u datblygu. Mae'r rhain yn cynnwys:

  • Ffordd gyswllt o McDonalds i Belgrano
  • Gwella'r lôn fysiau wrth oleuadau traffig Bae Cinmel
  • Gwella mynediad rheilffordd Cyffordd Llandudno gan gynnwys cyswllt pont
  • Ffordd Gors, Ffordd Towyn a Gwelliannau Teithio Llesol
  • A547 gwelliannau teithio llesol rhwng Ffordd Borth Cross a Rhuddlan (cydweithio â CSDd)
  • A470 cysylltiadau teithio llesol rhwng Llanrwst a Betws-y-Coed (cydweithio ag Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri).

MAp 7: Brosiectau Strategol Arfaethedig

map%207%20cymraeg

Tai

4.3.1 Amcan Strategol 2 (SO2): Hybu strategaeth cyflogaeth a thwf tai holistaidd a chyd-leoledig drwy ddarparu cartrefi newydd, gan gynnwys cartrefi fforddiadwy ac anghenion llety ar gyfer sipsiwn a theithwyr mewn lleoliadau cynaliadwy a hygyrch, a sicrhau bod yr amrediad cywir o ran mathau, meintiau a daliadaethau tai yn cael ei ddarparu ochr yn ochr â'r seilwaith cymunedol angenrheidiol.

(3)Polisi Strategol SP/15Tai

  1. Yn ystod cyfnod y cynllun 2018 - 2033 bydd y Cynllun Datblygu Lleol Gwledig (CDLlG) yn darparu ar gyfer twf yr economi a'r gofyniad tai yn y dyfodol drwy ddarparu tua 4300 (+20% wrth gefn) o gartrefi newydd i ddiwallu angen a nodwyd.
  2. Mae Safleoedd Strategol wedi'u nodi yn y lleoliadau canlynol ar gyfer datblygiadau preswyl a defnydd cymysg;
  • Llanrhos
  • Llanfairfechan
  • Hen Golwyn
  • Llanrwst

Bydd safleoedd pellach yn cael eu dynodi yn y cynllun adneuo i ddiwallu cyfanswm y gofyniad tai.

  1. Bydd y Cynllun Datblygu Lleol Gwledig yn ceisio sicrhau'r nifer fwyaf bosibl o Dai Fforddiadwy (1,800 o dai fforddiadwy dros Gyfnod y Cynllun gydag oddeutu 1000 yn dai newydd fforddiadwy ac 800 arall yn sgil mecanweithiau polisi a mentrau'r Cyngor) drwy ddefnyddio polisi rhanedig yn seiliedig ar ardaloedd y farchnad dai, a dull gweithredu hyblyg o gefnogi Tai Fforddiadwy mewn aneddiadau llai, wedi'i gysylltu i dystiolaeth o angen a chynaliadwyedd pentrefi fel y'u nodwyd yn yr hierarchaeth aneddiadau.
  2. Bydd tir yn cael ei ddyrannu i ddiwallu'r angen a nodwyd ar gyfer llety ar gyfer Sipsiwn a Theithwyr. Bydd polisi sy'n seiliedig ar feini prawf ar gyfer asesu safleoedd ychwanegol, yn amodol ar angen, yn cael ei gynnwys hefyd.
  3. Bydd y CDLlN i'w Archwilio gan y Cyhoedd yn cynnwys polisïau pellach sy'n ymwneud ag addasiadau gwledig, anheddau mentrau gwledig a safleoedd Hunanadeiladu Cymru.

(1)4.3.2 Cyflawni'r Amcan a'r Polisi Strategol

Roedd y CDLl presennol yn defnyddio cyfnod o dwf eithriadol o uchel i gynllunio ar gyfer y dyfodol er gwaethaf effaith glir y dirwasgiad dilynol ar brisiau tai a chwblhau yng Nghonwy. Roedd hyn yn darged afrealistig, o ystyried cyflwr y farchnad dai yng Ngogledd Cymru ac, felly, mae CBSC wedi methu cyflawni'r targed tai bob blwyddyn, mae'r gofyniad blynyddol ar gyfer tai ar gyfer gweddill cyfnod y CDLlC yn cynyddu, sy'n wir i nifer o Awdurdodau Cynllunio Lleol eraill yng Nghymru.

4.3.3 Drwy greu lleoedd egnïol a chymdeithasol yng Nghonwy, bydd y CDLlG yn alinio gyda Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol 2015, Canlyniadau Cenedlaethol Creu Lleoedd Cynaliadwy, Arfarniad o Gynaliadwyedd (SA)/Asesiad Amgylcheddol Strategol (SEA), effeithiau ar Gydraddoldeb a'r Iaith Gymraeg. Yn ogystal, bydd y CDLlG yn ystyried goblygiadau'r amcanestyniadau diweddaraf ar gyfer poblogaeth ac aelwydydd, Asesiad y Farchnad Lafur Leol a'r effeithiau ar dwf swyddi sy'n gysylltiedig ag Adolygiad Tir Cyflogaeth Conwy a'r ysgogwyr economaidd rhanbarthol sy'n cael eu hyrwyddo ym Margen Twf Gogledd Cymru wrth bennu lefelau cynaliadwy o dwf tai a chyflogaeth.

4.3.4 Darparu tai, ar gyfer y farchnad agored a thai fforddiadwy, yw'r prif fater tai ers i Gynllun Datblygu Lleol Conwy gael ei fabwysiadu, wrth i lefelau adeiladu tai blynyddol fethu cyflawni'r targedau'n gyson. Pwysleisiwyd hyn yn adroddiadau'r Gyd-astudiaeth argaeledd tir ar gyfer tai (JHLAS) a'r Adroddiad Monitro Blynyddol (AMR) dros nifer o flynyddoedd ac mae wedi'i achosi gan nifer o ffactorau gan gynnwys yr economi genedlaethol a ffactorau lleol megis cael gwared ar dir, cyflawni/hyfywedd safle a chapasiti adeiladu tai. Mae ffactorau o'r fath wedi golygu bod gan Gonwy ffigur o 3.1 blwyddyn o gyflenwad tir ar gyfer tai.

(1)4.3.5 Mae llawer o drefi arfordirol Conwy wedi'u cyfyngu gan ardaloedd lle ceir perygl o lifogydd, a nodwyd ym Mapiau Cyngor Datblygu TAN15: 'Datblygu a Pherygl o Lifogydd' y mae datblygiadau newydd, bregus iawn, megis tai, wedi'u cyfyngu ynddynt. Er bod yr egwyddor a'r agwedd ragofalus at ddatblygu mewn ardaloedd lle ceir perygl o lifogydd yn hollbwysig, mae Polisi Cynllunio Cymru (PPW) 10 yn cynnwys perygl o lifogydd yn ei ddiffiniad o 'ddad-beryglu datblygiadau' a cheir cydnabyddiaeth bellach o rôl amddiffynfeydd llifogydd naturiol. Byddai atgyfnerthu'r polisi dad-beryglu datblygiadau yn galluogi i safleoedd addas heb gyfyngiadau technegol gael eu cyflwyno gan greu buddiannau adfywio mewn ardaloedd a oedd wedi'u gwahardd yn flaenorol a galluogi cymunedau o'r fath i dyfu'n naturiol.

4.3.6 Er mwyn cynorthwyo a hysbysu'r Opsiynau Dosbarthu Twf fe gomisiynodd CBSC astudiaeth i edrych ar 'Botensial Datblygu yn Nwyrain y Fwrdeistref Sirol' er mwyn asesu'r perygl o lifogydd a'r posibilrwydd o ddarparu atebion dylunio arloesol a fyddai'n sicrhau twf tai yn Nwyrain y Fwrdeistref Sirol. Mae'r astudiaeth yn datgan bod datblygiadau bregus mewn ardaloedd y gwyddys eu bod yn agored i lifogydd yn annhebygol o gael eu cyflwyno heb waith sylweddol ar amddiffynfeydd llifogydd. Felly, mae'n annhebygol y byddai unrhyw Asesiad o Ganlyniadau Llifogydd yn dangos y byddai dechrau llifogydd, wrth ystyried newid yn yr hinsawdd, a thorri'r amddiffynfeydd o bosibl, yn cydymffurfio â TAN15.

4.3.7 Y meysydd strategol allweddol i'w trafod yw:

Twf Tai
Bydd y CDLlG yn darparu ar gyfer twf yr economi a'r gofyniad tai yn y dyfodol drwy ddarparu tua 4,300 (+20% wrth gefn = tua 5,150) o dai newydd i ddiwallu angen a nodwyd.

4.3.8 Mae strategaeth dwf CDLlG Conwy yn gyson â PPW10, Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, Cynllun Llesiant Conwy a Sir Ddinbych a'r dystiolaeth gefndir a'r adroddiad Gwerthuso Cynaliadwyedd, sydd wedi nodi'r materion blaenoriaeth, yr uchelgeisiau a'r amcanion y bydd y Cynllun yn gweithio atynt.

4.3.9 Yn ogystal, cadarnhaodd Gweinidog Llywodraeth Cymru bod yn rhaid i Awdurdodau Cynllunio Lleol ddarparu lefel o dai sy'n seiliedig ar yr holl ffynonellau tystiolaeth yn hytrach nac amcanestyniadau aelwydydd Llywodraeth Cymru yn unig. Felly, mae'n ofynnol i'r Cyngor bennu ffigur sy'n seiliedig ar dystiolaeth sy'n dod i law a materion ac ystyriaethau perthnasol amrywiol. Er enghraifft, mae angen i'r opsiynau twf ystyried sut y gallant gyfrannu'n gynaliadwy at gyflawni'r gofyniad swyddi a'r anghenion tai fforddiadwy a nodwyd. Yn ogystal, mae angen ystyried yr opsiynau twf yn erbyn yr hyn a gyflawnwyd yn y gorffennol a chapasiti cyffredinol y diwydiant adeiladu i gyflawni twf.

4.3.10 Mae'r Adroddiad Opsiynau Lefel Twf (BP/01 - 2018) yn archwilio tueddiadau demograffeg Conwy ac yn nodi'r opsiynau ar gyfer twf a sut y gallai'r rhain effeithio ar gyfansymiau a strwythurau'r boblogaeth a gofynion o ran tir ar gyfer tai a chyflogaeth. Craffwyd ar nifer o ffactorau yn yr Adroddiad, gan gynnwys proffil demograffaidd, twf economaidd, cyfraddau cwblhau tai yn y gorffennol ac uchelgeisiau'r Cyngor ar gyfer y CDLlG.

4.3.11 Bydd y lefel arfaethedig o dwf tai yn tua 4300 o dai (+ 20% wrth gefn = 5150). Gan ystyried hap-safleoedd a'r cyflenwad presennol o safleoedd sydd wedi'u clustnodi ar gyfer tai, rydym yn edrych ar tua 2550 o anheddau newydd ar safleoedd dynodedig. Yn nhermau Tai Fforddiadwy, bydd hyn yn gyfwerth â thua 1,800 o dai fforddiadwy newydd yn ystod cyfnod y Cynllun, yn cynnwys adeiladau newydd, systemau polisi a mentrau'r Cyngor.

Tabl 5: Y cyflenwad tai ar gyfer CDLlN Conwy
(Y sefyllfa ar 1af Ebrill 2018, cyfeiriwch at BP07: Cyflenwad Tir ar gyfer Tai am fanylion pellach).
Nodwch: Caiff y ffigyrau eu talgrynnu er mwyn peidio â chreu'r argraff o fanwl gywirdeb nad yw'n bodoli mewn gwirionedd. Caiff y niferoedd eu hadio cyn eu talgrynnu, felly mae'n bosibl nad yw'r ffigurau unigol mewn tablau yn adio i gyfansymiau'r colofnau neu'r rhesi.

Hap-safleoedd

Dyraniadau

Ardal Strategaeth

Is-ardal

Ymrwymiadau

Bach

Mawr

Strategol

Anstrategol

CYFANSWM

Ardal Strategaeth Datblygu Arfordirol

Gorllewin

50

100

50

400

50

600

Creuddyn

200

350

150

250

550

1,550

Canolog

250

400

250

450

450

1,800

Dwyrain

300

100

150

0

150

700

Cyfanswm

800

950

600

1,100

1,200

4,650

Ardal Strategaeth Datblygu Gwledig

50

250

0

200

50

500

CYFANSWM

850

1,200

600

1,300

1,250

5,150

(2)4.3.12 Mae tystiolaeth yn dangos bod allfudo ymhlith y boblogaeth ar ddechrau oedran gweithio yng Nghonwy yn cyflwyno problem o ran cadw ei phoblogaeth o oedolion ifanc. O ganlyniad, mae angen sicrhau bod y CDLlG yn ceisio cyflawni anghenion tai poblogaeth sy'n heneiddio, ond ei fod yn sicrhau'r un pryd bod cartrefi newydd ar gael i geisio cadw'r boblogaeth iau. Bydd y mathau o dai (gan gynnwys tai a addaswyd), eu meintiau a'u daliadaeth sydd wedi'u nodi yn y LHMA yn cael eu harchwilio a'u hyrwyddo drwy'r Cynllun.

4.3.13 Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y CDLlG yn cynnwys cyflenwad digonol o dir ar gyfer tir er mwyn cyflawni'r gofynion tai a ragwelir yn ystod Cyfnod y Cynllun, fodd bynnag, os bydd y cyflenwad tir yn gostwng islaw'r trothwy 5 mlynedd, bydd y CDLl yn cyflwyno dull o gynyddu'r cyflenwad tir ar gyfer tai.

4.3.14

Safleoedd sydd wedi'u Dyrannu ar gyfer Tir

Mae Safleoedd Strategol wedi'u nodi yn y lleoliadau canlynol ar gyfer datblygiadau preswyl a defnydd cymysg;

  • Llanrhos
  • Llanfairfechan
  • Hen Golwyn
  • Llanrwst
Bydd safleoedd pellach yn cael eu dyrannu yn y cynllun Adneuo er mwyn cyflawni'r gofyniad cyfanswm tai.

Bydd y datblygiadau preswyl yn canolbwyntio ar ardal(oedd) twf strategol Llanrhos, Hen Golwyn, Llanfairfechan a Llanrwst fel Canolfannau Gwasanaethau Allweddol, gyda datblygiadau pellach wedi'u dosbarthu o amgylch Ardal y Cynllun yn unol â'r Strategaeth Twf a'r Hierarchaeth Aneddiadau. Bydd y Cynllun hefyd yn dyrannu safleoedd pellach ym Mhrif Bentrefi Haen 1 er mwyn diwallu'r angen tai a nodwyd.

4.3.15 Mae'r opsiwn hierarchaeth aneddiadau yn adlewyrchu dull gweithredu Cynllun Gofodol Cymru, ynghyd â hygyrchedd a chynaliadwyedd lleoliadau gwledig i ardaloedd trefol presennol, yn arbennig y rhai sy'n agos at goridor yr A55. Er nad oes gan yr aneddiadau hyn gyfres lawn o gyfleusterau eu hunain o bosibl, mae eu lleoliad agos at aneddiadau allweddol ac eilaidd yn galluogi cydberthnasau sylweddol o ran gwasanaethau. Mae'r dull yn adlewyrchu cyfyngiadau dwyrain y Sir ac yn hyrwyddo Hierarchaeth Aneddiadau newydd a fyddai, o bosibl, yn meddu ar y capasiti angenrheidiol a'r seilwaith i allu cyfrannu at ddatblygu cynaliadwy. Ystyrir bod Llanrwst yn unigryw yn y sir am ei bod yn Ganolfan Gwasanaethau Allweddol sy'n brif dref i nifer o bentrefi cyfagos, o fewn a'r tu allan i Ardal y Cynllun.

4.3.16 Y lefel gyflawni flynyddol gyfartalog, a nodwyd yn yr Astudiaethau Tir sydd ar gael ar gyfer Tai yng Nghonwy, yn y 5 mlynedd ddiwethaf yw 244 o gartrefi, gyda'r nifer fwyaf o dai newydd a ddarparwyd yn 320 yn 2017-18. Cafodd lefelau uwch eu cyflawni yn y blynyddoedd cyn y dirwasgiad, a ddangosir yn y diagram isod. Mae'r lefel dwf a ddefnyddiwyd yn y CDLlG yn ystyried capasiti'r diwydiant adeiladu tai i gyflawni ac mae'n unol â BP14: Capasiti'r Diwydiant Adeiladu Tai a thueddiadau adeiladu hanesyddol.

graph%201%20cymraeg

(1)4.3.17 Mae CDLl presennol Conwy yn cynnwys safleoedd sydd wedi'u dyrannu, ac mae ansicrwydd ynglŷn â phryd y byddant ar gael, ac mewn rhai achosion a fyddant yn gallu eu cyflawni yn realistig yn ystod Cyfnod y Cynllun. Mae'r rhesymau dros yr ansicrwydd hwn yn amrywiol, a gallant gynnwys:

  • Bwriadau tirfeddianwyr;
  • Tir y mae'r cyhoedd yn berchen arno (gan gynnwys awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru) lle nad oes strategaeth gwaredu ar ei gyfer neu y bydd y gwarediad yn debygol o fod y tu hwnt i gyfnod pum mlynedd;
  • Safleoedd sydd wedi'u 'trosglwyddo ymlaen' o Gynlluniau Datblygu Unedol;
  • Safleoedd sydd wedi'u cynnwys ar gyfer eu rôl adfywiol ehangach, ond sy'n debygol o fod yn gymhleth a chostus yn nhermau eu cyflwyno.

4.3.18 Felly, yn unol â PPW, gallai unrhyw ddyraniadau tai presennol sydd wedi profi problemau cyflenwadwyedd gael eu heithrio o'r CDLlG a gallai safleoedd mwy priodol gael eu hystyried.

(1)4.3.19 Mae darparu safleoedd, ac yn benodol hyfywedd safleoedd, wedi bod yn broblem genedlaethol, fel y dangoswyd yn Astudiaeth Hydredol o Hyfywedd y Broses Gynllunio (2017) Llywodraeth Cymru a PPW10. Er mwyn mynd i'r afael â hyn, bydd CBSC yn ei gwneud yn ofynnol i hyrwyddwyr / tirfeddianwyr safleoedd gyflwyno gwerthusiadau hyfywedd sy'n seiliedig ar fethodoleg a gofynion a nodwyd gan yr Awdurdod Cynllunio Lleol fel rhan o broses asesu darpar safle fesul camau o'r CDLlG. Mae Papur Cefndir 06 - 'Asesiad Cyflawni Safle' yn cynnwys asesiad llawn o'r holl 'ddarpar safleoedd' a gyflwynwyd, er mwyn nodi'r safleoedd mwyaf addas a chyflawnadwy i'w cynnwys yn y CDLlG.

4.3.20 Mae llwyddiant dull polisi'r CDLlG at ddarparu tai fforddiadwy yn gofyn am hyblygrwydd gan yr Awdurdod Cynllunio Lleol yn ogystal â mwy o ymwybyddiaeth gan dirfeddianwyr a datblygwyr wrth drafod prynu tir neu gostau opsiynau yn y dyfodol. Mae'r CDLlG yn cynnwys rhagdybiaeth polisi bod y tir wedi'i brynu ar y pris cywir, gan ystyried yr holl gostau datblygu, gan gynnwys gofynion polisi. Dim ond mewn amgylchiadau eithriadol y gellir gwyro oddi wrth y polisïau a byddai hyn yn amodol ar gyflwyno tystiolaeth hyfyw mewn dull llyfr agored.

4.3.21 Bydd newidiadau diweddar i'r Canllaw Costau Derbyniol gan Lywodraeth Cymru yn effeithio ar hyfywedd ac felly ar ddarparu tai fforddiadwy yn y dyfodol. Mae'r Canllaw wedi cynyddu ar gyfer pob uned, ac mae wedi'i rannu gyda gwerth uwch ar gyfer safleoedd o 10 safle a llai o anheddau, o gymharu â safleoedd mwy. Dylai'r newid hwn weithio i wella hyfywedd ariannol ar safleoedd, gan alluogi datblygwyr preifat i adeiladu anheddau mwy fforddiadwy ar safleoedd tai, ac annog tirfeddianwyr i gyflwyno safleoedd ar gyfer tai fforddiadwy.

(1)4.3.22 I'r gwrthwyneb, mae newidiadau i Reoliadau Adeiladu Rhan M wedi cynyddu costau adeiladu, ac yn ei gwneud yn ofynnol i bob annedd newydd, gan gynnwys addasiadau, gynnwys system chwistrellu. Bydd cyflwyniad systemau draenio cynaliadwy gorfodol yn ddiweddar ar gyfer gwaredu dŵr wyneb hefyd yn cynyddu costau datblygu.

(1)4.3.23 Mae'r ystyriaethau uchod yn berthnasol i bob datblygiad yn genedlaethol, fodd bynnag, bydd angen ystyried effeithiau'r newidiadau hyn ar hyfywedd a darparu tai ar lefel leol. Mae'r Astudiaeth Hyfywedd Tai Fforddiadwy yn ystyried y materion hyn, a materion eraill perthnasol o ran hyfywedd.

(2)4.3.24

Tai Fforddiadwy

O fewn ffiniau aneddiadau trefol, bydd yn ofynnol i Brif Bentrefi a Chanolfannau Gwasanaethau Allweddol Haen 1, bydd yn rhaid i bob datblygiad preswyl sy'n darparu elw net o 3 annedd neu fwy gyfrannu at dai fforddiadwy.

Fel arfer mae'n well darparu tai fforddiadwy ar y safle, ond mae'n bosibl na fydd hyn bob amser yn bosibl neu'n briodol. Ar gyfer safleoedd gyda 3-5 annedd, derbynnir swm gohiriedig yn lle tai fforddiadwy ar y safle. Ar gyfer safleoedd gyda 6-9 annedd, gallai swm gohiriedig fod yn dderbyniol yn amodol ar gyfiawnhad digonol. Disgwylir i dai fforddiadwy gael eu darparu ar bob safle o 10 annedd neu fwy, ac eithrio mewn amgylchiadau eithriadol o ganlyniad i hyfywedd, neu pan fydd Strategaeth Tai CBSC yn galw am swm gohiriedig yn lle tai fforddiadwy ar y safle.

Dylid darparu tai fforddiadwy ar y safle yn unol â dull polisi rhanedig a fydd wedi'i ddisgrifio yn y Cynllun Adneuo, ac a fydd yn seiliedig ar yr asesiad hyfywedd sy'n gysylltiedig â'r amrywiaethau yn y farchnad dai ar draws yr awdurdod.

Dim ond mewn amgylchiadau eithriadol y caniateir lefelau is o dai fforddiadwy. Gallai eithriadau o'r fath gynnwys achosion pan fydd costau datblygu tir yn sylweddol uwch na safleoedd eraill, gan ganiatáu ar gyfer gwerth tir is hyd yn oed, neu pan fydd costau ychwanegol, anhysbys a sylweddol o annormal yn cael eu datgelu yn ystod y datblygiad.

Ar safleoedd addas y tu allan ond ger ffiniau annedd aneddiadau trefol, Prif Bentrefi a Chanolfannau Gwasanaethau Allweddol Haen 1, caniateir datblygiadau preswyl ar raddfa fach, yn amodol ar isafswm darpariaeth o 50% o dai fforddiadwy, ac uchafswm maint safle o 20 annedd.

I gefnogi'r ddarpariaeth tai fforddiadwy, caniateir safleoedd bychain sy'n darparu isafswm o 50% uned o dai fforddiadwy ar safleoedd addas o fewn Prif Bentrefi, Pentrefi Bychain a Phentrefannau Haen 2. Mae'n rhaid i safleoedd o'r fath fod wedi'u lleoli'n dda mewn cysylltiad â'r anheddiad presennol, gan gynnwys mewnlenwad neu dalgrynnu. Dylai'r safleoedd ddarparu dim mwy na 1 annedd mewn Prif Bentrefi Haen 2; 10 annedd mewn Pentrefi Bychain a 5 annedd mewn Pentrefannau. Dylai'r tai fforddiadwy a gynigir fel rhan o gynllun o'r fath gael eu darparu er mwyn cyflawni angen lleol gyda thystiolaeth o'r angen am dai fforddiadwy yn yr aneddiad. Mae'n rhaid i'r tai fforddiadwy fod yn ddarostyngedig i gytundeb cyfreithiol o ran rheoli daliadaeth am byth. Pan fydd tai'r farchnad agored yn cael eu darparu ar y safle, mae'n rhaid i'r cytundeb cyfreithiol sicrhau bod tai fforddiadwy'n cael eu darparu'n amserol.

Gellir caniatáu unedau marchnad agored sengl mewn amgylchiadau eithriadol ar leiniau mewnlenwi mewn Prif Bentrefi Haen 2, Mân Bentrefi a Phentrefannau, ac oherwydd eu maint neu gyfyngiadau safle-benodol nid oes modd darparu mwy nag un annedd, ac ni fyddai'n hyfyw i'w ddatblygu fel annedd fforddiadwy sengl. Rhaid iddynt fod yn addas i'w datblygu fel arall yn unol â pholisïau lleol a chenedlaethol a bydd caniatâd yn amodol ar swm cymudol yn gyfnewid am dai fforddiadwy ar y safle.

Fel eithriad i'r polisi tai, caniateir safleoedd llai ar gyfer 100% o dai fforddiadwy y tu allan i, ond gerllaw Pentrefi, Pentrefi Bychain a Phentrefannau Haen 2. Mae'n rhaid i safleoedd o'r fath adlewyrchu math a daliadaeth y tai fforddiadwy sydd eu hangen yn yr ardal leol a chydymffurfio â holl bolisïau eraill y CDLl.

Mae darparu tai fforddiadwy yn broblem gymhleth gyda nifer o elfennau sy'n effeithio ar ddarparu adeiladau newydd y tu hwnt i ddylanwad yr awdurdod cynllunio lleol. Hyd yn oed o fewn y system gynllunio, cyfyngedig yw pwerau awdurdodau cynllunio lleol. Fodd bynnag, mae tystiolaeth y CDLlG yn nodi angen am tua 1800 o gartrefi fforddiadwy yn ystod Cyfnod y Cynllun (tua 120 y flwyddyn). Mae'r Cynllun yn cynnig darparu oddeutu 1000 o dai newydd fforddiadwy ac 800 arall yn sgil mecanweithiau polisi a mentrau'r Cyngor fel y nodir yn nhabl 6 (gweler isod):

Tabl 6: Cyflenwad Tai Fforddiadwy CDLlG Conwy

Ardaloedd Strategol y CDLlG

Canrannau Tai Fforddiadwy

Ymrwymiadau

Hap-safleoedd

Dyraniadau

CYFANSWM

Bach

Mawr

Strategol

Anstrategol

Gorllewin

20%

0

20

10

80

10

120

Creuddyn

30%

66

105

45

75

165

456

Canol

20%

8

80

50

90

90

318

Dwyrain

15% (Abergele)

16

15

22

0

22

75

CYFANSWM YR ARFORDIR

90

220

127

245

287

969

Gwledig

20% yn Llanrwst a chanran uwch mewn ardaloedd gwledig eraill yn unol â'r polisi)

0

100

0

40

10

150

NIFER Y TAI NEWYDD

90

320

127

285

297

1119

TAI YN SGIL MECANWEITHIAU POLISI A MENTRAU'R CYNGOR

681

PRIF GYFANSWM

1800

4.3.25 Mae'r gofyniad tai fforddiadwy ar gyfer Conwy yn seiliedig ar y dystiolaeth ym Mhapurau Cefndir 10: Astudiaeth Hyfywedd Tai Fforddiadwy a BP11: Cyfrifiad o'r Angen am Dai Fforddiadwy ac Asesiad y Farchnad Dai Leol (LHMA). Mae'r Cyfrifiad o'r Angen am Dai Fforddiadwy yn ystyried y cyfrifiad anghenion tai fforddiadwy a nodir yn Asesiad y Cyngor o'r Farchnad Dai Leol 2017-22 a'r canlyniadau posibl o fabwysiadu methodoleg newydd Llywodraeth Cymru ar gyfer cyfrifo'r angen am dai.

4.3.26 Bydd gofyniad tai fforddiadwy rhaniad canrannol, fel y'i hysbysir gan yr Astudiaeth Hyfywedd Tai Fforddiadwy, yn cael ei gynnwys yn y CDLlG, a fydd yn ystyried yr amrywiaeth ym mhrisiau tai ar draws Ardal y Cynllun, ystyriaethau hyfywedd a chanllawiau PPW. Mae'r Astudiaeth yn cynghori ar dargedau cyflawnadwy a hyfyw a throthwyon ar gyfer tai fforddiadwy, sy'n adlewyrchu'n llwyr argaeledd yr amrediad o gyllid ar gyfer tai fforddiadwy ac sy'n adlewyrchu anghenion seilwaith blaenoriaeth. Mae'r Astudiaeth hefyd yn asesu opsiynau posibl eraill ar gyfer cynyddu'r lefelau o dai fforddiadwy a fydd yn hysbysu polisïau diweddarach.

Is-Farchnad

Targed

Conwy a Dyffryn Conwy

30%

Llandudno, Bae Penrhyn, Llandrillo a Llandrillo-yn-Rhos

30%

De, Dwyrain a Gorllewin yr Ardal Wledig

20%

Bae Colwyn a Hen Golwyn

20%

Penmaenmawr a Llanfairfechan

20%

Abergele

15%

Towyn a Bae Cinmel

0%

(1)4.3.27 Cydnabyddir nad yw'r gofyniad o ran yr angen am dai fforddiadwy yn ddibynnol ar adeiladu cartrefi newydd yn unig. Yn ogystal â darparu tai fforddiadwy newydd, mae yna nifer o ffyrdd eraill o helpu'r aelwydydd hynny nad oes angen adeiladau newydd arnynt - er enghraifft drwy eu lleoli o fewn y stoc tai cymdeithasol presennol; darparu cynlluniau prynu â chymorth fel y rhai sy'n cael eu darparu drwy'r gofrestr Camau Cyntaf; trosi neu addasu'r stoc bresennol er mwyn cyflawni anghenion tenantiaid yn well a thrwy gymorth ariannol i rentu o fewn y sector preifat (budd-dal tai). Nid yw hyn yn negyddu'r angen i ddarparu nifer sylweddol uwch o opsiynau tai fforddiadwy ond mae'n awgrymu y bydd angen defnyddio dulliau gwahanol i adeiladu tai newydd ar gyfer daliadaethau cymdeithasol a chanolraddol er mwyn cyflawni'r angen hwn.

4.3.28 Mae'r polisi yn amlinellu'r ddarpariaeth dai yn y Prif Bentrefi, Pentrefi Llai a Phentrefannau Haen 2. Mae'r dull yn cynnig polisi hyblyg i ganiatáu datblygiadau preswyl ar safleoedd bach addas o fewn aneddiadau a/neu mewn aneddiadau gwledig cyfagos. Dylai cynigion ar gyfer datblygiadau gael eu llywio gan dai fforddiadwy, er mwyn cyflawni angen lleol a nodwyd. Caniateir i unedau'r farchnad gefnogi'r gwaith o ddarparu'r safle, ond mae'n rhaid i anghenion tai fforddiadwy lleol ffurfio o leiaf 50% o'r tai sy'n cael eu hadeiladu ar y safle ac mae'n rhaid sicrhau bod prosesau cadarn ar waith i sicrhau bod unedau tai fforddiadwy yn cael eu darparu'n amserol a'u cynnal wedi hynny.

4.3.29 Er bod PPW10 yn datgan nad yw safleoedd eithrio tai fforddiadwy yn briodol ar gyfer marchnad dai mae hefyd yn nodi bod angen ystyried darparu safleoedd eithrio tai fforddiadwy er mwyn helpu i nodi gofynion a sicrhau hyfywedd y gymuned leol. Mae'n amlwg yng Nghonwy, heb ddull hyblyg o ganiatáu elfen o unedau'r farchnad agored ar safleoedd o fewn neu ger Prif Bentrefi, Pentrefi Llai a Phentrefannau Haen 2, y bydd yn annhebygol i safleoedd o'r fath gael eu cyflwyno am na fyddant yn hyfyw, a fydd yn arwain at beidio cyflawni angen a nodwyd.

(1)4.3.30 Bydd Ardal Strategaeth Datblygu Gwledig y CDLlG yn hybu economi wledig gynaliadwy ac yn ceisio cyfrannu at gyflawni Angen Lleol Tai Fforddiadwy (AHLN) yn y prif bentrefi, pentrefi llai a phentrefannau. Ardaloedd â gwerth isel yn y farchnad ac anawsterau yn sicrhau cyllid ar gyfer tai fforddiadwy yw dau o'r materion sydd wedi cyfyngu ar ddarparu tai gwledig. Rhagwelir y bydd polisïau tai newydd a gwell yn cynorthwyo gyda'r anghenion tai gwledig ac yn diogelu'r cymeriad naturiol ac adeiledig yr un pryd.

(2)4.3.31

Darpariaeth ar gyfer Sipsiwn a Theithwyr

Bydd tir yn cael ei ddyrannu i gyflawni'r angen a nodwyd ar gyfer llety Sipsiwn a Theithwyr.

Bydd angen polisi ar sail meini prawf ar gyfer asesu safleoedd ychwanegol, yn amodol ar angen.

Mae angen i Gonwy sicrhau bod prosesau priodol ar waith i ddarparu ar gyfer unrhyw angen a nodir ar gyfer sipsiwn a theithwyr. Mae'r angen preswyl presennol ar gyfer Sipsiwn a Theithwyr yng Nghonwy wedi'u cyflawni drwy adeiladu safle parhaol ar gyrion tref Conwy. Mae Asesiad Llety Sipsiwn a Theithwyr (GTAA) Conwy (2017-2022) yn datgan y dylai'r CDLlG hyrwyddo tir i ddarparu safle dros dro ar gyfer 7 llain. Mae'n ofynnol i Awdurdodau Cynllunio ddyrannu safleoedd addas i gyflawni angen a nodwyd yn ystod cam adneuo'r CDLlG (h.y. Ionawr 2020). Mae CBSC wedi cynnal 'galwad am safleoedd' a byddai'r Cynllun Adneuo yn cynnwys safle dros dro penodol ar gyfer Sipsiwn a Theithwyr; yn ogystal bydd polisi ar sail meini prawf yn cefnogi'r ddarpariaeth o safleoedd eraill i gyflawni angen newydd sy'n dod i'r amlwg, y gellir ei nodi mewn Asesiadau o Anghenion Llety Sipsiwn a Theithwyr yn y dyfodol.

Canolfannau Manwerthu a Masnachol

4.4.1 Amcan Strategol 3 (SO3): Darparu canolfannau tref a masnachol deniadol a hyfyw yng Nghonwy drwy ail-ddiffinio eu rôl ac annog amrywiaeth o weithgareddau a defnyddiau.

(2)Polisi Strategol SP/16Manwerthu

Bydd canolfannau manwerthu a masnachol yng Nghonwy yn ganolbwyntiau gweithgarwch cymdeithasol ac economaidd ac yn bwynt ffocws i amrywiaeth o wasanaethau sy'n cefnogi anghenion cymunedau lleol. Anogir hyn trwy:

  1. Sefydlu hierarchaeth ar gyfer canolfannau manwerthu a fydd yn arwain lleoliad datblygiad manwerthu newydd;
  2. Tir sydd wedi'i ddyrannu at ddefnydd manwerthu i ddiwallu anghenion a nodwyd yn Astudiaeth Manwerthu Conwy;
  3. Darparu polisïau sy'n seiliedig ar feini prawf ar gyfer cynigion manwerthu newydd ar safleoedd sydd heb eu dyrannu ac ar gyfer newidiadau i ddefnydd canol trefi;
  4. Dynodi Prif Ardal Siopa a ffiniau Parth Siopa;
  5. Annog dargadw cyfleusterau manwerthu y tu allan i'r Is-ranbarth a Chanol Trefi;
  6. Diogelu swyddogaeth manwerthu penodol Parc Llandudno a Pharciau Manwerthu Mostyn Champneys a swyddogaeth hamdden Parc Hamdden Cyffordd Llandudno
  7. Annog Strydoedd Blaen Siopau o safon uchel a Diogelwch Blaen Siopau.

4.4.2 Mae canolfannau manwerthu yn ganolfannau gweithgarwch cymdeithasol ac economaidd. Maent yn cynnwys ystod eang o wasanaethau a defnyddiau, gan gynnwys cyflogaeth, addysg, hunaniaeth ddinesig a chyfleoedd i ryngweithio'n gymdeithasol. Mae'r rhain yn cefnogi anghenion y gymuned leol ac, yn achos y canolfannau mwy, y gymuned ehangach hefyd.

(1)4.4.3 Mae paragraff 4.3.10 Polisi Cynllunio Cymru (PCC) yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau sefydlu hierarchaeth canolfannau manwerthu a masnachol. Mae'r canolfannau yn ardal y CDLlN wedi'u nodi isod. Maent wedi'u categoreiddio yn ôl y canllawiau ym mharagraff 4.3.12 PCC ac Adran 4 TAN4, yn seiliedig ar lefel y cyfleusterau a'r gwasanaethau maent yn eu darparu, dalgylchoedd eu cynnig manwerthu a lefel y boblogaeth sy'n siopa yno. Gweler Papur Cefndir 26 am ragor o fanylion.

Yr Hierarchaeth Fanwerthu

Mae'r hierarchaeth fanwerthu ganlynol wedi'i sefydlu:

Canolfan Siopa Is-ranbarthol

Llandudno

Canol Trefi

Abergele

Bae Colwyn

Conwy

Cyffordd Llandudno

Llanrwst

Canolfannau Lleol

Deganwy

Bae Cinmel

Llanfairfechan

Hen Golwyn

Penmaenmawr

Llandrillo-yn-rhos

West End (Bae Colwyn)

Dangosir yr hierarchaeth fanwerthu ar Fap 8.

Bydd cynigion ar gyfer datblygiadau manwerthu yn cael eu hystyried yn unol â'r hierarchaeth hon. Llandudno, fel Canolfan Siopa Is-ranbarthol yw'r lleoliad a ffafrir ar gyfer datblygiadau manwerthu newydd, wedi'i dilyn gan Ganol Trefi ac yna'r Canolfannau Lleol.

Bydd unrhyw gynigion manwerthu y tu allan i'r canolfannau hyn yn cael eu hasesu gan ddefnyddio polisi ar sail meini prawf.

4.4.4 Bydd angen i ddatblygiadau newydd yn y canolfannau manwerthu gyd-fynd â graddfa a swyddogaeth y ganolfan honno, a'u bod yn ystyried safle'r ganolfan yn yr hierarchaeth. Bydd angen i gynigion ar gyfer defnyddiau sy'n briodol ar gyfer canol tref, a ddiffinnir ym mharagraff 4.3.21 PCC, fabwysiadu dull datblygu dilyniannol, gan ffafrio safleoedd yng nghanol y Canolfannau Is-ranbarthol a Chanol Trefi, yna safleoedd ger canol trefi, ac yna'r Canolfannau Lleol.

4.4.5 Llandudno yw'r ganolfan fanwerthu fwyaf yn ardal y CDLlN ac mae'n denu nifer fawr o siopwyr ac ymwelwyr. Bydd rôl isranbarthol Llandudno yn cael ei diogelu a'i gwella er mwyn sicrhau ei fod yn dref gynaliadwy i fyw, gweithio ac ymweld â hi.

Cyflawni angen manwerthu

Mae Safle Strategol Abergele wedi'i glustnodi ar gyfer defnydd-cymysg gan gynnwys Manwerthu.

Bydd rhagor o safleoedd yn cael eu dyrannu yn y cam CDLlN Adneuo er mwyn cyflawni angen manwerthu a nodwyd.

4.4.6 Pe byddai'r dystiolaeth yn dangos bod angen dyraniadau, mae paragraff 4.39 PCC yn ei gwneud yn ofynnol i ystyried y ddarpariaeth fwyaf priodol o ran ffurf, graddfa a lleoliad er mwyn cyflawni'r angen hwn. Dylid ystyried gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol hefyd.

Map 8: Hierarchaeth Fanwerthu

map%208

4.4.7 Mae Astudiaeth Capasiti Manwerthu Conwy (Papur Cefndir 24) yn amlinellu'r angen am ddatblygiad manwerthu pellach yn ystod cyfnod y CDLlG. Nodir yr angen canlynol yn ôl ardal.

Cyfleustra

Cymhariaeth

Dwyrain Conwy

35,000 troedfedd sgwâr (3,252m2)

Canol Conwy

20,000 troedfedd sgwâr (1,858m2)

25,000 troedfedd sgwâr (2,323m2)

Gogledd Conwy

5,000 troedfedd sgwâr (465m2)

Gorllewin Conwy

10,000 troedfedd sgwâr (929m2)

De Conwy

15,000 troedfedd sgwâr (1,394m2)

4.4.8 Mae'r angen hwn wedi'i gyflawni yn y gorffennol drwy'r caniatâd a roddwyd ar y safle Gwaith Brics ar gyfer archfarchnad fanwerthu. Fodd bynnag, daeth y caniatâd hwn i ben ym mis Mai 2019 ac nid yw wedi'i adnewyddu. Mae'r angen a nodwyd yn ardal orllewinol y Fwrdeistref Sirol wedi'i chyflawni gan ddatblygiad y siop Lidl newydd sy'n mynd rhagddo yng Nghyffordd Llandudno yn awr.

4.4.9 Bydd angen dyraniadau mewn ardaloedd eraill er mwyn cyflawni'r angen a nodwyd. Bydd y rhain yn cael eu nodi yn y cam Adneuo. Bydd lleoliad y dyraniadau hyn yn cael eu llywio gan y dull gweithredu dilyniannol a hierarchaeth fanwerthu'r CDLlG. Bydd arwynebedd llawr arfaethedig y safleoedd hyn yn hyblyg, sy'n ofyniad ym mharagraff 4.3.22 PCC, er mwyn sicrhau y gellir darparu ar gyfer newid yn y galw a'r cyfleoedd manwerthu.

4.4.10

Cynigion manwerthu ar safleoedd heb eu dyrannu

Asesir ceisiadau ar gyfer arwynebedd llawr newydd ar gyfer manwerthu ar safleoedd heb eu dyrannu drwy bolisi ar sail meini prawf. Bydd angen i ymgeiswyr fabwysiadu dull gweithredu dilyniannol ar gyfer dewis safleoedd ac, ar gyfer ceisiadau y tu allan i ganol trefi, arddangos angen am yr arwynebedd llawr ychwanegol.

Mewn ardaloedd lle nad oes unrhyw safleoedd manwerthu wedi'u dyrannu, mae paragraff 4.3.9 PCC yn datgan, er mwyn caniatáu hyblygrwydd, dylid cynnwys polisi ar sail meini prawf mewn cynlluniau datblygu y gellir asesu cynigion yn eu herbyn. Mae'r dull gweithredu hwn yn caniatáu ar gyfer unrhyw newidiadau i angen sy'n deillio o newidiadau annisgwyl yn y farchnad fanwerthu.

4.4.11

Defnyddiau canol trefi

Bydd y ffiniau ar gyfer y Prif Ardaloedd Siopa a Pharthau Siopa yn y Ganolfan Is-ranbarthol a Chanol Trefi yn cael eu nodi yn y cam Adneuo.

Bydd cynigion i newid defnydd yn yr ardaloedd dynodedig hyn yn ddarostyngedig i bolisi ar sail meini prawf, a fydd yn sicrhau bywiogrwydd, hyfywedd ac atyniad.

Mae canllawiau ychwanegol yn debygol o fod yn berthnasol ar gyfer cynigion ar gyfer unedau tecawê bwyd poeth newydd.

Mae paragraffau 4.3.30-32 PCC yn annog cymysgedd o ddefnyddiau er mwyn cynnig canolfannau manwerthu bywiog, hyfyw ac atyniadol, oherwydd dim ond rhan o'r hyn sy'n sicrhau bywiogrwydd canolfan yw defnyddiau A1. Bydd y ffiniau ar gyfer y Prif Ardaloedd Siopa a Pharthau Siopa yn cael eu hadolygu a'u cyhoeddi ym Mhapur Cefndir 27 yng ngham y CDLlG Adneuo. Bydd y rhain yn adlewyrchu canllawiau cenedlaethol, pan fydd y prif ardaloedd yn cynnwys cyfran uchel o ddefnyddiau manwerthu A2 a chymysgedd o ddefnyddiau mewn ardaloedd eilaidd. Bydd polisïau'n cael eu cynnwys ar y cam Adneuo, a fydd yn llywio'r math o ddefnyddiau a fydd yn cael eu hystyried yn rhai derbyniol yn yr ardaloedd hyn (gan adlewyrchu'r canllaw ym mharagraffau 4.3.30-30 PCC).

(1)4.4.12 Gall defnyddiau hamdden ac adloniant a bwyd a diod fod yn fuddiol i ganolfannau manwerthu a masnachol. Mae'n rhaid rhoi ystyriaeth ofalus i ddiogelu amwynder wrth gyfrannu at economi gyda'r nos. Mae paragraff 3.3.34 PCC yn annog cynlluniau defnydd cymysg, sy'n cael eu cynllunio mewn ffordd briodol. Mae hefyd yn annog economi fywiog a hyfyw gyda'r nos ac yn y nos, a phrofiadau a mannau diwylliannol, a all gyfrannu'n gadarnhaol at adfywio canolfan (paragraffau 4.3.43-48).

4.4.13 Gallai canllawiau ychwanegol ar unedau tecawê bwyd poeth gynnwys meini prawf megis lliniaru neu ddiogelwch ar gyfer defnyddiau cyfagos, cyfyngiadau ar y nifer o unedau sy'n cael eu lleoli ger ei gilydd ac ardaloedd eithrio o amgylch ysgolion uwchradd.

4.4.14 Mae paragraff 4.3.36 PCC yn ei gwneud yn ofynnol i asesu iechyd ein canolfannau manwerthu, er mwyn i'r strategaeth fanwerthu gael ei hysbysu, a chymryd camau ymyrryd pan fydd angen. Mae Papur Cefndir 25 yn cynnwys manylion pellach. Os ystyrir bod canolfan yn dirywio, gall defnyddiau nad ydynt yn rhai A1 helpu i leihau siopau gwag a chynyddu amrywiaeth.

4.4.15

Diogelu cyfleusterau manwerthu y tu allan i Ganolfannau Is-ranbarthol a Chanol Trefi

Bydd cadw cyfleusterau manwerthu y tu allan i Ganolfannau Is-ranbarthol a Chanol Trefi yn cael ei annog. Bydd cynigion ar gyfer newid y defnydd o siopau cyfleus, swyddfeydd post, gorsafoedd petrol a thafarndai yn ddarostyngedig i bolisi ar sail meini prawf.

Mae cyfleusterau lleol a gwledig fel y rhai uchod yn chwarae rôl allweddol wrth gynnal canolfannau llai a lleihau'r angen i breswylwyr deithio er mwyn cyflawni eu hanghenion bob dydd. Maent yn cyfrannu at ymdeimlad o le, gan gael effaith gadarnhaol ar lesiant ac amwynder cymunedau lleol. Mewn pentrefi llai, maent hefyd yn chwarae rôl bwysig yn cynorthwyo'r rhai sy'n cael anhawster i deithio ymhellach ac maent yn creu canolbwynt i fywyd pentref. Bydd y Cyngor yn annog cadw cyfleusterau o'r fath, yn unol â pharagraff 4.3.41 PCC.

4.4.16

Dynodiadau parciau manwerthu a hamdden

Bydd cynigion ym mharciau manwerthu Parc Llandudno a Mostyn Champneys yn ddarostyngedig i bolisi ar sail meini prawf er mwyn diogelu eu swyddogaeth fanwerthu benodol a bywiogrwydd, hyfywedd ac atyniad canol tref Llandudno.

Bydd cynigion ym Mharc Hamdden Cyffordd Llandudno yn ddarostyngedig i bolisi ar sail meini prawf er mwyn diogelu ei swyddogaeth hamdden.

Mae parciau manwerthu Parc Llandudno a Mostyn Champneys yn cyflawni swyddogaeth fanwerthu wahanol fel arfer i ganol tref Llandudno. Ers mabwysiadu'r CDLl, bu cynigion i ddiwygio'r nwyddau sy'n cael eu gwerthu ac i gael unedau A3 ym Mostyn Champneys/ Mae angen i'r parciau manwerthu allu denu manwerthwyr, ond nid os yw'n peryglu bywiogrwydd, hyfywedd ac atyniad canol tref Llandudno.

4.4.17

Dyluniad Ffryntiadau Siopau

Bydd polisi ar sail meini prawf yn llywio cynigion ar gyfer newidiadau i neu ffryntiadau siopau newydd.

Diogelwch ffryntiad stryd siopa

Bydd polisi ar sail meini prawf yn llywio cynigion ar gyfer newidiadau i neu ddiogelwch ffryntiad stryd siopa.

Mae ffryntiad siopau yn hollbwysig er mwyn creu cymeriad ac ymddangosiad ffryntiadau siopa. Mae'r Cyngor yn cysylltu cryn bwysigrwydd i ffryntiadau siopau sydd wedi'u dylunio'n addas, nid yn unig er mwyn diogelu cymeriad adeiladau, ond hefyd er mwyn cynnal atyniad cyffredinol strydoedd a chynnal eu hyfywedd masnachol. Gall datblygiadau amhriodol gael effaith andwyol sylweddol nid yn unig ar yr adeilad ond hefyd ar y strydlun, a photensial masnachu'r stryd.

4.4.18 Mae cwsmeriaid a pherchnogion siopau yn elwa os bydd y strydlun yn cael ei wella gan ffryntiadau siopau sydd wedi'u dylunio'n dda a ffryntiau siopau sy'n cael eu cynnal a'u cadw. Mewn pentrefi bydd yn bwysig parchu cymeriad presennol y stryd a'r pentref, ac mewn canolfannau siopau mawr mewn anheddau trefol bydd y pwyslais ar greu a chynnal amgylchedd o ansawdd a hyfyw. Mae angen cydnabod y bydd llawer o ffryntiadau siopau wedi'u lleoli mewn ardaloedd cadwraeth. Gweler Adran 5.4 am fanylion.

Cyfleusterau Cymunedol

4.5.1 Amcan Strategol 4 (SO4): Cyfleusterau Cymunedol: Cyfrannu at naws lle ac at iechyd, lles ac amwynder cymunedau lleol drwy sicrhau bod gan y boblogaeth bresennol, a'r boblogaeth yn y dyfodol, fynediad at gymysgedd cynaliadwy o gyfleusterau cymunedol.

(1)Polisi Strategol SP/17Cyfleusterau Cymunedol

Er mwyn cyfrannu at iechyd, lles ac amwynder cymunedau lleol bydd y CDLl Newydd yn:

  1. Gwella ac yn diogelu cyfleusterau cymunedol;
  2. Dyrannu tir ar gyfer safleoedd ysgol newydd, a chefnogi cynigion i gwrdd ag angen canfyddadwy yn amodol ar feini prawf penodol;
  3. Diogelu cyfleusterau gwledig rhag defnyddiau eraill;
  4. Dyrannu tir ar gyfer rhandiroedd a darparu polisïau gyda meini prawf i gwrdd ag angen canfyddadwy a chefnogi cynigion yn amodol ar feini prawf penodol;
  5. Dyrannu tir ar gyfer mynwentydd a chwrdd ag angen canfyddadwy, a chefnogi cynigion yn amodol ar feini prawf penodol.

(1)4.5.2 Mae cyfleusterau cymunedol yn allweddol i greu lleoedd hyfyw a chynaliadwy. Mae'r rhain yn cynnwys ysgolion, cyfleusterau diwylliannol, gwasanaethau iechyd, llyfrgelloedd, rhandiroedd, mannau claddu, canolfannau hamdden a lleoedd addoli. Gallant fod ym mherchnogaeth y cyhoedd, preifat a'r trydydd sector.

4.5.3 Mae paragraff 4.4.2 o Bolisi Cynllunio Cymru yn ei gwneud yn ofynnol i gynlluniau datblygu fod ag ymagwedd strategol a hirdymor tuag at ddarparu cyfleusterau cymunedol, gan sicrhau fod gofynion y gymuned yn parhau i gael eu diwallu. Mae amcanestyniadau poblogaeth yn dangos fod gan Fwrdeistref Sirol Conwy boblogaeth sy'n heneiddio. Bydd y CDLlN yn cefnogi cyfleusterau cymunedol i ddiwallu eu hanghenion. Hefyd bydd angen i adeiladu tai newydd sicrhau fod anghenion y preswylwyr newydd o ran cyfleusterau cymunedol yn cael eu diwallu.

4.5.4 Mae cyfleusterau cymunedol yn cyfrannu at synnwyr o le sy'n bwysig i iechyd, lles ac amwynder cymunedau lleol ac mae eu bodolaeth yn aml yn elfen allweddol mewn creu cymunedau hyfyw a chynaliadwy. Mae mynediad i'r cyfleusterau hyn yn darparu cyfle i fod yn rhan o fywyd cymunedol gan fod o gymorth i greu synnwyr o berthyn, sy'n cyfrannu tuag at gymunedau cydlynus. Mae cefnogi cyfleusterau cymunedol presennol a rhai newydd yn ffactor allweddol mewn creu lleoedd bywiog a chymdeithasol.

4.5.5
Safleoedd ysgolion newydd a dyraniadau
Mae tir wedi ei ddyrannu i bwrpas safleoedd ysgol newydd yn y lleoliadau canlynol:
  1. Llanfairfechan
  2. Llanrhos
  3. Abergele
Gall dyraniadau eraill gael eu nodi ar gyfer eu cynnwys yn y CDLlN i'w Archwilio gan y Cyhoedd.
Bydd cynigion ar gyfer safleoedd ysgol newydd neu estyniadau i ysgolion presennol yn cael eu penderfynu yn unol â'r polisi wedi ei seilio ar feini prawf i'w gynnwys yn y CDLl Newydd i'w Archwilio gan y Cyhoedd.

Mae'r Cyngor ar hyn o bryd yn gweithio mewn partneriaeth er mwyn cyflawni Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif. Mae Band A wedi ei gwblhau ac wedi darparu ysgolion newydd. Mae Band B ar y gweill ac yn ymdrin â'r cyfnod o Ebrill 2019 i Fawrth 2024. Bydd Bandiau C a D yn dilyn. Bydd safleoedd Band B yn cael eu dyrannu lle mae angen tir. Mae tir ychwanegol yn debygol o fod ei angen yn ystod cyfnod y cynllun i ddarparu Bandiau C a D. Am y rheswm hwn bydd polisi wedi ei seilio ar feini prawf yn cael ei gynnwys.

4.5.6 Bydd capasiti ysgolion a gynigir o dan Raglen Ysgolion yr 21ain ganrif yn adlewyrchu unrhyw dwf newydd mewn disgyblion ysgol a achosir gan y CDLlN. Bydd y newid ym mhoblogaeth plant a gynigir yn y CDLlN a'r effaith bosib ar gapasiti ysgolion cynradd yn cael ei asesu. Lle bo'r angen bydd camau i liniaru hynny wrth ddyrannu safleoedd preswyl.

4.5.7

Iechyd

Bydd cynigion ar gyfer safleoedd gofal cynradd ac eilaidd newydd ac estyniadau i rai presennol yn cael eu cefnogi yn ddibynnol ar gydweddu â pholisi wedi ei seilio ar feini prawf.

Bydd angen i safleoedd gofal iechyd cynradd ac eilaidd allu cydweddu â'r boblogaeth newidiol dros gyfnod y CDLlN. Mae ein poblogaeth yn heneiddio, sy'n rhoi gwahanol bwysau ar y gwasanaeth iechyd. Bydd y twf yn y boblogaeth a gynigir yn y CDLlN a'r effaith bosib ar gapasiti safleoedd gofal iechyd cynradd ac eilaidd yn cael ei asesu. Lle bo'r angen bydd camau i liniaru hynny wrth ddyrannu safleoedd preswyl.

4.5.8

Diogelu cyfleusterau gwledig

Bydd cynigion ar gyfer newid defnydd neuaddau pentref ac eglwys yn cael eu penderfynu yn unol â pholisi wedi ei seilio ar feini prawf i'w gynnwys yn y CDLlN i'w Archwilio gan y Cyhoedd.

Gall cyfleusterau gwledig, gan gynnwys neuaddau pentref ac eglwys, ddod o dan fygythiad ar gyfer defnyddiau eraill a wynebu heriau economaidd. Mae mynediad i'r rhain yn hanfodol i gymunedau gwledig. I fynd i'r afael â hyn, bydd polisi wedi ei seilio ar feini prawf yn cael ei ddatblygu fel rhan o'r CDLlN i'w Archwilio gan y Cyhoedd. Fe ymdrinnir â chyfleusterau manwerthu o dan adran ar wahân. *Gweler Adran 4.4 Manwerthu i gael rhagor o fanylion.

4.5.9

Rhandiroedd newydd

Mae tir wedi ei ddyrannu i ddiwallu angen a nodwyd am randiroedd yn y lleoliadau canlynol:

  1. Llanfairfechan
  2. Llanrhos
  3. Hen Golwyn
  4. Llanrwst
Gall dyraniadau eraill gael eu nodi ar gyfer eu cynnwys yn y CDLlN i'w Archwilio gan y Cyhoedd.
Bydd cynigion ar gyfer rhagor o safleoedd neu ymestyn safleoedd presennol yn cael eu penderfynu yn unol â'r polisi wedi ei seilio ar feini prawf i'w gynnwys yn y CDLlN i'w Archwilio gan y Cyhoedd.

Mae rhandiroedd yn adnodd cymunedol pwysig, sydd ag ystod eang o fuddion cadarnhaol. Fel yr amlinellwyd ym mharagraff 4.4.3 o Bolisi Cynllunio Cymru, mae'r rhain yn amrywio o fudd amgylcheddol, iechyd, cymdeithasol i economaidd. Gallant gyfrannu tuag at synnwyr o le a chymuned, gallant helpu i adfywio cymuned a mannau agored, cyfrannu tuag at gynhyrchu bwyd, darparu cynefin ar gyfer bywyd gwyllt ac mae ganddynt fanteision i iechyd a lles.

4.5.10 Mae gan Awdurdodau Lleol ddyletswydd statudol i ddarparu tir ar gyfer rhandiroedd i fodloni'r galw a nodir yn lleol. Mae paragraff 4.4.3 yn nodi y dylai tir gael ei ddyrannu ar gyfer rhandiroedd. Mae Papur Cefndir 30 Adroddiad Galw a Chyflenwad Safleoedd Rhandiroedd yn nodi fod nifer sylweddol o breswylwyr Conwy ar y rhestr aros am randir ymhob ardal yn y Fwrdeistref Sirol. Caiff tir ei ddyrannu i ddiwallu'r angen hwn fel rhan o'r Strategaeth a Ffafrir.

4.5.11 Gall rhagor o safleoedd rhandiroedd ddod ar gael yn ystod cyfnod y CDLlN. Bydd y safleoedd hyn yn cael eu hasesu ar y pryd ar gyfer eu haddasrwydd gan ddefnyddio polisi wedi ei seilio ar feini prawf.

4.5.12

Diogelu rhandiroedd

Bydd safleoedd rhandiroedd presennol yn cael eu diogelu. Bydd cynigion ar gyfer newid defnydd y safleoedd hyn yn cael eu penderfynu yn unol â pholisi wedi ei seilio ar feini prawf i'w gynnwys yn y CDLlN i'w Archwilio gan y Cyhoedd.

Mae paragraff 4.4.3 o Bolisi Cynllunio Cymru yn nodi y dylid cadw a diogelu rhandiroedd, yn enwedig os ydynt yn rhan bwysig o'r seilwaith gwyrdd neu os oes ganddynt werth cymunedol. Mae gan randiroedd statudol amddiffyniad cyfreithiol ac mae'n rhaid i Weinidogion Cymru gydsynio i'w gwaredu.

4.5.13

Mannau claddu newydd

Bydd tir yn cael ei ddyrannu yn y CDLlN i'w Archwilio gan y Cyhoedd i ddiwallu angen a nodwyd am fannau claddu.

Bydd cynigion ar gyfer rhagor o safleoedd neu ymestyn safleoedd presennol yn cael eu penderfynu yn unol â'r polisi wedi ei seilio ar feini prawf i'w gynnwys yn y CDLlN i'w Archwilio gan y Cyhoedd.

Mae'r sail dystiolaeth gychwynnol ar gyfer Mannau Claddu yn amlinellu fod yna angen am fannau claddu ychwanegol yn y Fwrdeistref Sirol. Bydd tir yn cael ei ddyrannu yn unol â'r sail dystiolaeth hon.

Mannau Hamdden

4.6.1 Amcan Strategol 5 (SO5): Annog lles meddwl a chorfforol drwy ddarparu a diogelu rhwydweithiau o ardaloedd hamdden a mannau gwyrdd hygyrch o ansawdd uchel.

Polisi Strategol SP/18Mannau Hamdden

Bydd angen i ddatblygiad preswyl newydd ddarparu ar gyfer mannau hamdden drwy bolisi wedi ei seilio ar feini prawf.

Mae/bydd tir yn cael ei ddyrannu ar gyfer mannau hamdden, yn unol â'r angen a nodwyd yn y sail dystiolaeth.

Bydd polisi wedi ei seilio ar feini prawf yn y Cynllun i'w Archwilio gan y Cyhoedd yn weithredol ar gyfer diogelu mannau hamdden presennol.

4.6.2 Mae mannau hamdden yn gwasanaethu rôl ddeuol, sef darparu lle ar gyfer chwarae, chwaraeon, gweithgarwch ac ymlacio, a chyfrannu'n gadarnhaol tuag at ansawdd bywyd, iechyd a lles. Maent hefyd yn hyrwyddo gwarchod natur a bioamrywiaeth ac yn cyfrannu tuag at seilwaith gwyrdd ardal.

4.6.3 Mae adran 4.5 Polisi Cynllunio Cymru yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cynllun Datblygu Lleol Newydd i gefnogi datblygiad chwaraeon a hamdden a ffurfiau eraill o fannau agored cyhoeddus. Maent yn darparu ystod eang o weithgareddau hamdden, yn darparu lle i ymlacio a chyfrannu tuag at ansawdd bywyd. Maent yn annog gweithgarwch corfforol sy'n cyfrannu tuag at sicrhau Cymru iachach (nod tri yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol).

4.6.4 Mae Polisi Cynllunio Cymru yn ei gwneud yn ofynnol fod rhwydwaith Seilwaith Gwyrdd yn cael ei nodi, ei reoli a'i ehangu mewn cynlluniau datblygu. Mae mannau hamdden yn rhan o'r seilwaith hwn. Mae'n bwysig fod y CDLlN yn cydnabod pwysigrwydd seilwaith gwyrdd o ran cyflawni budd i'r amgylchedd leol, buddion economaidd gymdeithasol ac iechyd a gaiff eu hadnabod fel materion allweddol yng Nghynllun Lles Conwy a Sir Ddinbych.

4.6.5 Mae paragraff 4.5.2 ym Mholisi Cynllunio Cymru yn nodi y dylid sefydlu safonau fel rhan o'r CDLlN. Dylid nodi diffygion lleol a'u diwallu drwy safonau'r CDLlN. Mae'r safonau isod fel canllaw yn unig a gallant fod yn uwch i adlewyrchu canfyddiadau'r Asesiad Mannau Hamdden unwaith mae wedi ei gwblhau.

4.6.6

Mannau hamdden mewn datblygiadau preswyl newydd

Bydd gofyn i ddatblygiad preswyl ddarparu ar gyfer mannau hamdden. Bydd safonau'n cael eu datblygu, wedi eu seilio ar yr Asesiad Mannau Hamdden ar gyfer eu cynnwys yn y CDLlN i'w Archwilio gan y Cyhoedd, ond byddant yn adlewyrchu'r rhai a argymhellwyd gan Meysydd Chwarae Cymru.

Caeau chwarae

1.2 hectar i bob 1,000 o'r boblogaeth

Chwaraeon awyr agored

0.4 hectar i bob 1,000 o'r boblogaeth

Ardaloedd chwarae wedi eu dynodi/yn cynnwys offer

0.25 hectar i bob 1,000 o'r boblogaeth

Darpariaeth awyr agored arall*

0.3 hectar i bob 1,000 o'r boblogaeth

Parciau a gerddi

0.8 hectar i bob 1,000 o'r boblogaeth

Man gwyrdd ar gyfer amwynder

0.6 hectar i bob 1,000 o'r boblogaeth

*Ardaloedd gemau aml ddefnydd a pharciau sglefrio

Bydd trothwy o ran nifer yr anheddau yn cael ei osod yn y CDLlN i'w Archwilio gan y Cyhoedd a fydd yn rhoi manylion pryd a pha fannau hamdden a ddylai gael eu darparu ar y safle.

Mae canllawiau Meysydd Chwarae Cymru hefyd yn argymell safon o 2.0 hectar i bob 1,000 o'r boblogaeth ar gyfer man gwyrdd naturiol a rhannol naturiol. Mae'n debygol fod lefelau digonol o'r deipoleg hon yn y Fwrdeistref Sirol ac o ganlyniad ni fydd angen darpariaeth ychwanegol fel arfer. Bydd hyn yn cael ei gadarnhau drwy Bapur Cefndir 28: Asesiad o Fannau Hamdden.

4.6.7 I sicrhau darpariaeth ar y safle neu welliannau i fannau hamdden oddi ar y safle, fe all y Cyngor ddefnyddio'r mesurau canlynol:

  • Rhwymedigaethau cynllunio drwy Gytundebau Adran 106;
  • Ardoll Seilwaith Cymunedol; a/neu,
  • Amodau cynllunio.

(1)4.6.8 Bydd hyfywedd ariannol yn ystyriaeth. Bydd y datblygwr yn gyfrifol am gynnal a chadw unrhyw fannau hamdden newydd am byth.

4.6.9

Dyraniadau mannau hamdden

Caiff tir ei ddyrannu i ddiwallu angen ychwanegol am fannau hamdden yn Safleoedd Strategol yn Llanfairfechan, Llanrhos, Hen Golwyn, Abergele a Llanrwst.

Gall dyraniadau eraill gael eu nodi ar gyfer eu cynnwys yn y CDLlN i'w Archwilio gan y Cyhoedd.

Bydd cynigion ar gyfer rhagor o safleoedd neu ymestyn safleoedd presennol yn cael eu penderfynu yn unol â'r polisi wedi ei seilio ar feini prawf i'w gynnwys yn y CDLlN i'w Archwilio gan y Cyhoedd.

Mae canfyddiadau rhagarweiniol o'r Asesiad Mannau Hamdden newydd yn nodi fod yna ddiffyg o ran rhai mathau o deipoleg yn y Fwrdeistref Sirol. I fynd i'r afael â hyn bydd tir yn cael ei ddyrannu, pan fo ar gael, yn y CDLlN i'w Archwilio gan y Cyhoedd. Bydd hyn yn cael ei gefnogi gyda llunio papur cefndir yn rhoi manylion canfyddiadau'r Asesiad Mannau Hamdden. Bydd tir mewn perchnogaeth gyhoeddus, preifat a thrydydd sector yn cael ei gynnwys yn yr Asesiad, yn unol â chyngor yng nghanllawiau Meysydd Chwarae Cymru a'r polisi cynllunio cenedlaethol.

4.6.10

Diogelu mannau hamdden

Bydd safleoedd mannau hamdden presennol yn cael eu diogelu. Bydd cynigion ar gyfer newid defnydd y safleoedd hyn yn cael eu penderfynu yn unol â pholisi wedi ei seilio ar feini prawf i'w gynnwys yn y CDLlN i'w Archwilio gan y Cyhoedd.

Mae paragraff 4.5.3 Polisi Cynllunio Cymru yn nodi y dylai mannau gwyrdd agored ffurfiol ac anffurfiol gael eu diogelu rhag datblygiad. Ni fydd datblygu'r safleoedd hyn i ddefnydd arall yn cael ei ganiatáu, oni bai fod yna nifer gormodol o'r math hwnnw o fan hamdden yn y gymuned leol. Bwriad hyn yw i ddiogelu eu rôl mewn cyfrannu tuag at yr amgylchedd naturiol ac iechyd a lles. Fe allai parciau a gerddi fod yn cael eu diogelu ymhellach os ydynt yn ased hanesyddol ac wedi eu rhestru.

4.6.11 Fe all datblygu man hamdden mewn ardaloedd o ddiffyg gael ei ganiatáu dan amgylchiadau eithriadol. Er enghraifft, os y gellir sicrhau darpariaeth arall sy'n sicrhau budd cymunedol cyfatebol yn yr un gymuned, sy'n adlewyrchu'r amseroedd teithio a argymhellir a nodir yng nghanllawiau Meysydd Chwarae Cymru. Neu fe allai datblygiad o ran fach o'r man hamdden gael ei ganiatáu, lle mae'n sicrhau dyfodol y man hamdden hwnnw, a lle mae'r cyfleusterau'n cael eu gwella gan ddarparu budd cymunedol.

Os ydych chi’n cael trafferth defnyddio’r system, rhowch gynnig ar ein canllaw cymorth.
back to top Yn ôl i’r brig