Strategaeth a Ffefrir

Daeth i ben ar 20 Medi 2019

Lleoedd Ffyniannus yng Nghonwy

Cyflwyniad

6.1.1 Mae'r thema Llefydd Ffyniannus yn ymdrin â chyfansoddion economaidd wrth greu lleoedd yng Nghonwy. Mae'r cyfansoddion hyn yn cyd-fynd ag adrannau Strategol eraill, sydd yn dod ynghyd i greu mannau cynaliadwy yng Nghonwy.

6.1.2 Mae'r llefydd hyn yn hyrwyddo ein lles economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol trwy ddarparu cyflogaeth gysylltiedig a datblygiad economaidd cynaliadwy. Bydd y llefydd hyn yn cael eu cynllunio a'u lleoli i hyrwyddo ffyrdd o fyw iach a mynd i'r afael â newid hinsawdd. Fe gyflawnir hyn trwy sicrhau ei bod yn hawdd cerdded a beicio; yn hygyrch ar gludiant cyhoeddus; lleihau'r defnydd o adnoddau na ellir ei adnewyddu; a defnyddio ffynonellau adnewyddadwy a charbon isel. Mae'r adran hon yn gosod y cyfeiriad strategol ar gyfer Datblygu Economaidd, Twristiaeth, Yr Economi Wledig, Isadeiledd Cludiant, Telathrebu, Ynni a Mwynau a Gwastraff.

Datblygu Economaidd

6.2.1 Amcan Strategol 7 (SO7): Cefnogi ffyniant economaidd hirdymor, arallgyfeirio ac adfywio drwy fanteisio ar sefyllfa strategol Conwy yn y cyd-destun rhanbarthol ehangach a thrwy hyrwyddo strategaeth holistig sy'n cyd-leoli twf cyflogaeth a thwf tai, a fydd yn hwyluso twf swyddi newydd o'r math iawn mewn lleoliadau cynaliadwy a hygyrch, yn cefnogi clystyrau a rhwydweithiau busnes, yn cynyddu sgiliau mewn swyddi gwerth uchel ac yn darparu'r seilwaith newydd angenrheidiol. Bydd hyn yn hwyluso lleoli busnesau newydd yng Nghonwy a thwf y busnesau presennol.

(1) Polisi Strategol SP/27Datblygu Economaidd

Er mwyn helpu i ddarparu'r twf economaidd a ragwelir ar gyfer y Sir, bydd y CDLl yn darparu rhwng 12 a 14 hectar o dir cyflogaeth ar sail rhaniad o 50% defnyddiau swyddfa B1 a defnyddiau swyddfa a 50% defnyddiau B1c/B2/B8. Bydd polisi'n seiliedig ar feini prawf yn ceisio diogelu'r safleoedd cyflogaeth dosbarth B presennol lle mae eu hangen i sicrhau cyflenwad digonol o dir cyflogaeth yn y lleoliadau iawn, yn unol â'r cyfarwyddyd yn y Dadansoddiad o Farchnad Fasnachol Conwy.

6.2.2 Ers mabwysiadu'r CDLl yn 2013, mae Sir Conwy wedi gweld cynnydd mewn cyfraddau gweithgarwch economaidd, a than hydref 2018 bu gostyngiad graddol mewn lefelau diweithdra, sydd ar y cyfan, yn adlewyrchu tueddiadau cenedlaethol yn ystod y pum mlynedd diwethaf. Cyfradd y rhai sy'n hawlio budd-dal diweithdra ar gyfer Chwefror 2019 oedd 3.1., sy'n sylweddol uwch na'r ffigyrau a welwyd dros y pedair blynedd diwethaf neu fwy. Mae'n adlewyrchu'r patrwm cenedlaethol, hynny yw, bod cyfraddau hawlwyr yn cynyddu fesul mis ers hydref 2018. Ar hyn o bryd mae'r ffigwr cenedlaethol hefyd yn sylweddol uwch na chyfraddau Cymru a'r DU (2.7% a 2.6% yn y drefn honno), o bosibl oherwydd natur dymhorol patrymau cyflogaeth sy'n seiliedig ar dwristiaeth yn y Fwrdeistref Sirol. (ffynhonnell: AOC nifer sy'n hawlio budd-dal diweithdra). Fodd bynnag, mae cyfradd defnydd tir cyflogaeth wedi aros yn isel ar gyfartaledd o 1.2 ha y flwyddyn (cyfartaledd o 5 mlynedd).

6.2.3 Er bod cyfraddau gweithgarwch economaidd yn tueddu i godi, mae cyfanswm nifer y bobl sy'n economaidd weithgar yn fwy anwadal. Caiff hyn ei effeithio gan faint y boblogaeth o oed gweithio, ar hyn o bryd amcangyfrifir bod canran y boblogaeth ym Mwrdeistref Sirol Conwy sydd rhwng 16 a 64 oed yn ddim ond 56.6%, o'i gymharu â 61.5% yng Nghymru a 62.9% drwy Brydain. Mae hyn yn arwain at gymarebau dibyniaeth uchel - hynny yw, nifer y plant/pobl hŷn ar gyfer pob unigolyn o oed gweithio. Gall cyfrannau uchel o ddibynyddion yn y boblogaeth roi straen ar yr economi ac ar strwythur cymdeithasol y gymuned. Mae strwythur y boblogaeth ym Mwrdeistref Sirol Conwy hefyd yn heneiddio ar gyfradd gyflymach na llawer o weddill Cymru a'n cymdogion dros y ffin a bydd maint y boblogaeth sydd o oed gweithio yn dechrau gostwng yn y dyfodol agos oherwydd y garfan fawr o 'bobl a anwyd yn y cyfnod wedi'r rhyfel' yn gadael y gweithlu wrth iddynt gyrraedd oedran ymddeol. Mae gan hyn oblygiadau i'r farchnad lafur a allai ddechrau gael trafferth llenwi swyddi gwag yn y dyfodol.

6.2.4 Tra bod y farchnad lafur bresennol â lefel gymharol uchel o sgiliau ac wedi'i phrisio'n gystadleuol ar gyfer busnesau, mae lefelau cymharol wan o fusnesau sy'n cychwyn ac felly rhagwelir y bydd twf cyflogaeth yn y dyfodol yn aros ar yr un lefel. Felly mae economi Conwy'n wynebu nifer o gyfleoedd a heriau yn y blynyddoedd nesaf. Fodd bynnag, mae nifer o brosiectau rhanbarthol arfaethedig fydd yn cael eu cyflwyno o fewn cyfnod y CDLlN a fydd yn cael effaith gadarnhaol ar lefelau cyflogaeth a dylai ddenu mwy o bob o oed gweithio i'r ardal, fel Lagŵn Llanw Bae Colwyn, Sefydliad Uwch Weithgynhyrchu Glannau Dyfrdwy, Parc Gwyddoniaeth Menai, Parc Eco a Chanolfan Ynni Orthios, Parc Adfer a Chanolfan Ynni Wrecsam.

6.2.5 Mae strwythur cyflogaeth ym Mwrdeistref Sirol Conwy'n wahanol i un Prydain yn gyffredinol . Mae'r sylfaen gynhyrchu wedi gostwng yn sylweddol yn ystod yr ugain mlynedd diwethaf i tua 3.5% o swyddi erbyn 2017, ac mae'n gwyro'n amlwg tuag at gyflogaeth yn y diwydiannau gwasanaeth (yn arbennig yn y sector cyhoeddus) a'r sector twristiaeth. Ym Mwrdeistref Sirol Conwy mae cyflogaeth yn y sectorau sgiliau uchel, cyflog uchel gwybodaeth a chyfathrebu, cyllid ac yswiriant, proffesiynol, gwyddonol a thechnegol a gwasanaethau gweinyddu a chefnogi busnes yn gymharol isel, gan ddod i gyfanswm o ddim ond 13% o'r holl gyflogaeth o'i gymharu â 25% drwy Brydain yn gyffredinol.

6.2.6 Mae canrannau cyflogaeth yn y sectorau sy'n gysylltiedig â thwristiaeth, manwerthu, llety a gwasanaethau bwyd, a chelfyddydau, adloniant a hamdden yn uchel - cyfanswm o tua 32% o'r holl swyddi o'i gymharu â 21% yn genedlaethol. Y sectorau hyn yw'r rhai sy'n fwyaf tebygol o gynnwys cyflogaeth dymhorol, rhan amser neu ar gyflog isel.

6.2.7 Yn ôl adroddiad STEAM 2017 amcangyfrifir bod tua 9,950 o swyddi'n cael eu darparu'n uniongyrchol gan y diwydiant twristiaeth a bod 2,350 o swyddi'n cael eu cefnogi'n anuniongyrchol gan dwristiaeth - cyfanswm o tua 12,300 o swyddi sy'n dod â £888 miliwn i'r economi bob blwyddyn.

6.2.8 Gan ddefnyddio'r Adolygiad Tir Cyflogaeth (2019) fel sylfaen dystiolaeth, mae'r Strategaeth Ddewisol hon yn ystyried Gweledigaeth Twf Economaidd Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru (NWEAB). Mae'r weledigaeth yn cynnwys cysylltiadau â Phwerdy'r Gogledd (Gogledd Orllewin Lloegr) ac Iwerddon, gan amcangyfrif y bydd 120,000 o swyddi ychwanegol yn y rhanbarth erbyn 2035, gan gynyddu Gwerth Ychwanegol Gros (GYG) i £20 biliwn. Cynllun ar wahân ond sy'n gysylltiedig â'r uchod yw 'Bargen Dwf' Gogledd Cymru sy'n gosod gweledigaeth i ranbarth Gogledd Cymru gyda'r nod o greu dros 5,000 o swyddi a denu buddsoddiad sector preifat hyd at £1 biliwn yn y rhanbarth yn ystod y 15 mlynedd nesaf. Yn benodol, mae'r fargen yn ceisio adeiladu ar gryfderau'r rhanbarth yn y sectorau digidol ac uwch weithgynhyrchu, carbon isel, hybu twf busnesau ar ffurf Busnes Rhanbarthol a hybiau Technoleg Glyfar ac Arloesedd.

6.2.9 Mae'r Adolygiad Tir Cyflogaeth wedi ystyried y newidiadau presennol a'r rhai a ragwelir yn yr amgylchedd economaidd ac yn nodi y bydd angen rhwng 12 a 21 hectar drwy Gonwy hyd at 2033. Mae hyn yn seiliedig ar nifer o senarios yn cynnwys rhagolygon y gweithlu, tueddiadau sectorau a chyfraddau defnyddio yn y gorffennol. Yn unol â'r opsiwn dewisol ar gyfer twf, dewiswyd y senario sy'n adlewyrchu tua 14 hectar gan ei fod yn ystyried rhagolygon Experian o ran twf swyddi ar gyfer yr ardal a phrosiectau twf rhanbarthol fydd yn cael eu cyflwyno yn ystod y 15 mlynedd nesaf.

6.2.10 Yn ôl y Dadansoddiad o Farchnad Fasnachol Conwy (2017) mae gan Gonwy, yn gymharol, fwy o ofod swyddfeydd (a llai o safleoedd diwydiannol) na Chynghorau eraill yng Ngogledd Cymru, a Chymru'n gyffredinol. Fodd bynnag, mae'r galw am safleoedd diwydiannol yn y Fwrdeistref Sirol yn fwy o lawer na'r cyflenwad oherwydd prinder safleoedd modern wedi'u hadeiladu'n bwrpasol rhwng 2000 a 5000 troedfedd sgwâr o ran maint.

6.2.11 Mae cefnogi'r economi gwledig yn hollbwysig, gan gydnabod yr effaith y gall gadael yr Undeb Ewropeaidd ei chael ar y galw am wahanol ddefnyddiau tir yn y wlad. Yn unol â Pholisi Cynllunio Cymru, caniateir hyblygrwydd ychwanegol i fusnesau gwledig os byddant yn ceisio ehangu eu gweithrediadau presennol. Bydd y dull yn unol â dilyniant ym mholisi EMP/3 yn cael ei gynnal i annog busnesau ymhellach i nodi safleoedd o fewn lleoliadau cynaliadwy.

6.2.12 Mae hyn yn cydnabod y bydd prosiectau datblygu a sectorau twf yng Nghonwy, a'r cylch, yn creu galw sylweddol am sgiliau. Yn yr Asesiad Anghenion Sgiliau (Papur Cefndir 20) adroddir ei bod/y bydd yn debygol y gwelir prinder o weithwyr adeiladu, peirianwyr (trydanol a mecanyddol), syrfewyr, rheolwyr prosiect ac arbenigwyr ecoleg yn gysylltiedig â phrosiectau arfaethedig yn Rhanbarth Gogledd Cymru o fewn y 15 mlynedd nesaf. Mae twristiaeth hefyd yn faes wedi'i bwysleisio ar gyfer twf o fewn Strategaeth Economaidd Conwy 2017-2027, mae'r angen am swyddi a sgiliau i gefnogi'r sector hwn yn debygol o gynyddu. I gloi, tra nad oes unrhyw dystiolaeth i awgrymu bod angen darparu sefydliad Addysg Uwch newydd yng Nghonwy, mae lle i gynnal mwy o ddeialog rhwng darparwyr AU a CBSC i ystyried cyfleoedd i fynd i'r afael â'r bwlch mewn sgiliau.

6.2.13 Darparu'r Nod a'r Polisi Strategol

Yn Adolygiad Tir Cyflogaeth Conwy (ELR) 2019 ac Adroddiad Gyrwyr Economaidd Rhanbarthol ceir nifer o senarios ar gyfer twf economaidd hyd at 2033. Dewiswyd yr ail o'r senarios hyn yn yr ELR dan y teitl 'Policy On' (hefyd Opsiwn Twf 4 yn y Papur Opsiynau Twf) fel yr opsiwn dewisol. Mae'n casglu y byddai angen i Gonwy ddarparu ar gyfer tua 1800 o swyddi ychwanegol yn ystod cyfnod y CDLlN sy'n gyfystyr â thua 12-14 hectar o dir cyflogaeth ar gyfer defnyddiau dosbarth B. Mae'r senario hwn yn ystyried effaith gyrwyr rhanbarthol ar gyfer twf fel Lagŵn Llanw Bae Colwyn, Sefydliad Uwch Weithgynhyrchu Glannau Dyfrdwy, Parc Gwyddoniaeth, Parc Eco a Chanolfan Ynni Orthios, Parc Adfer a Chanolfan Ynni Wrecsam ac mae'n ystyried safleoedd wrth gefn. Mae'r ELR yn datgan, yn seiliedig ar sicrhau swyddi yn y diwydiannau hyn a'r cydbwysedd presennol o ran cyflenwad tir cyflogaeth, dylai dyraniadau a chyflenwad a danddefnyddir gael ei rannu 50% ar gyfer B1 gofod swyddfa a 50% ar gyfer defnydd B1c/B2/B8 Diwydiannol a Warysau. Yn ôl yr Asesiad o Farchnad Fasnachol Conwy, yn ddelfrydol, dylai tir cyflogaeth newydd gael ei leoli ar hyd y prif lwybr A55 traws-Ewropeaidd, a Mochdre, Cyffordd Llandudno, Conwy a Bae Cinmel fel lleoliadau poblogaidd. Mae Strategaeth Economaidd Conwy hefyd yn hybu'r defnydd o ganol trefi, er enghraifft Bae Colwyn a Llandudno fel prif ardaloedd ar gyfer twf cyflogaeth.

6.2.14 O ran faint o gyflenwad tai sydd yng Nghonwy, crynhowyd y canlyniadau o'r Cyflenwad o Dir Cyflogaeth yn Nhabl 8 isod:

Tabl 8: Cyflenwad o Dir Cyflogaeth

Tir Cyflogaeth a Ddiogelwyd NYS*

(Ha)

Safleoedd newydd/Safleoedd â chaniatâd cynllunio a cholli safleoedd i ddefnyddiau eraill

(Hectar Net)

Stoc Wag Bresennol (Ha)

Dyraniadau CDLl heb eu datblygu (Ha)

Cyfanswm (ha)

0.5

2.86

1.1

13.46

17.92

Llai dad-ddyraniadau **

(4.6)

13.32

Twf a dargedir o'r ELR

14

Swm y tir newydd sydd ei angen ar gyfer cyflogaeth yn y CDLlN

0.68

*Ac eithrio Tir Llwyd, Bae Cinmel.
** Mae'r ffigwr hwn yn seiliedig ar asesiad ansoddol rhagarweiniol o ddyraniadau CDLlN heb eu datblygu presennol. Cynhelir asesiad manylach fel rhan o'r ymarferiad asesu safleoedd wrth lunio'r CDLlN Adnau drafft.

(1) 6.2.15 Ar hyn o bryd yn nhermau meintiol mae 17.92 hectar o gyflenwad tir cyflogaeth sy'n cynnwys tir gwag dynodedig, caniatâd newydd, colledion, dyraniadau CDLl heb eu datblygu ac unedau gwag ar barciau busnes presennol. Fodd bynnag o ystyried asesiad ansoddol cychwynnol, mae hyn yn lleihau i 13.32 hectar sy'n golygu y bydd 0.68 hectar o dir newydd yn cael ei ddyrannu yn y CDLlN Adnau i ganiatáu dewis safle a math yn unol â'r Dadansoddiad o'r Farchnad Fasnachol. Cynhelir asesiad ansoddol manylach wrth i'r gwaith o asesu safleoedd ar gyfer y Cynllun Adnau gael ei wneud, a allai arwain at lai o gyflenwad tir a mwy o angen am dir ar gyfer dyraniadau newydd. Ar hyn o bryd mae Tir Llwyd wedi'i ddiogelu yn y CDLl ar gyfer defnydd cyflogaeth, ond o ystyried y cyfyngiadau sylweddol o ran risg llifogydd nid yw'r tir sydd ar ôl yn Nhir Llwyd wedi'i gynnwys fel cyflenwad.

6.2.16 Diogelir safleoedd cyflogaeth B1, B2, B8 dynodedig a phresennol (yn amodol ar feini prawf) rhag defnyddiau eraill oni bai y gellir dangos nad oedd galw mwyach am y defnydd presennol. Yn wir bydd defnydd mwy deallus o ofod swyddfa'n cael ei eirioli os nad oes galw mwyach am y stoc ar gyfer defnydd B1 traddodiadol yn unol â Dadansoddiad o Farchnad Fasnachol Conwy. Tra bod angen diogelu tir cyflogaeth B1, B2, B8 lle y bo angen, cydnabyddir hefyd y gall defnyddiau eraill fel clinigau D1, gwasanaethau ariannol A2 a rhai defnyddiau hamdden sui generis fod â photensial i greu cyflogaeth, lle ystyrir nad oes angen defnydd dosbarth B mwyach, gallai defnyddiau eraill fod yn dderbyniol yn amodol ar bolisi'n seiliedig ar feini prawf.

6.2.17

Safle Cyflogaeth / Defnydd Cymysg Strategol - De Ddwyrain Abergele

Dyrennir tua 8.8 hectar o dir ar gyfer amrywiol gyflogaeth, manwerthu, man agored ac ysgol ar dir yn Ne Orllewin Abergele.

Dyrannwyd De Ddwyrain Abergele o fewn CDLl Conwy 2007 -2022 fel safle defnydd cymysg. Cydnabyddir elfen gyflogaeth y safle hwn yn rhanbarthol fel safle cyflogaeth strategol gan Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru yn eu dogfen dan y teitl 'Y Weledigaeth Dwf ar gyfer Economi Gogledd Cymru'. Ar hyn o bryd mae swyddogion yn trafod gyda datblygwyr a pherchnogion tir i baratoi cynllun meistr ar gyfer y parseli o dir mwyaf gogleddol. Cedwir tua 4.7 hectar o dir ar gyfer defnyddiau cyflogaeth yn y lleoliad hwn.

6.2.18

Safleoedd Cyflogaeth

Bydd dewis o safleoedd cyflogaeth yn cael eu darparu o fewn yr ardal drefol ar hyd yr arfordir i sicrhau canran y twf a nodir yn y Cynllun. Mabwysiadir dull yn unol â dilyniant wrth ystyried safleoedd cyflogaeth newydd heb eu dyrannu neu eu diogelu yn y CDLlN i sicrhau bod datblygiadau'n cael eu cyfeirio i'r lleoliadau mwyaf priodol.

Bydd y CDLlN yn dyrannu safleoedd o fewn yr ardal drefol ar hyd yr arfordir i ddiwallu'r angen am dwf hyd at 2033. Bydd y safleoedd hyn yn cynnwys rhai o'r dyraniadau CDLl presennol (lle cynhaliwyd asesiad ansoddol ac yr ystyrir eu bod yn addas i'w cyflwyno i'r CDLlN) a dyraniadau newydd.

Twristiaeth

6.3.1 Amcan Strategol 8 (SO8): Annog a chefnogi darpariaeth twristiaeth gynaliadwy lle mae'n cyfrannu at ffyniant a datblygiad economaidd, cadwraeth, arallgyfeirio gwledig, adfywio a chynhwysiant cymdeithasol, wrth gydnabod anghenion ymwelwyr, busnesau, cymunedau lleol a'r angen i ddiogelu amgylcheddau hanesyddol a naturiol.

(1) Polisi Strategol SP/28Twristiaeth

Bydd ceisiadau ar gyfer datblygu Twristiaeth yn cael eu cefnogi cyn belled â'u bod mewn lleoliad priodol, yn cyfrannu at amrywiaeth a safon llety ac atyniadau, ac yn parchu ac yn gwarchod amgylchedd naturiol ac adeiledig cymunedau cyfagos.

6.3.2 Mae'r polisi strategol hwn yn gosod y fframwaith ar gyfer y dull polisi o fewn y CDLlN sy'n ddigon hyblyg ac ymatebol i alw'r farchnad dwristiaeth hyd ar 2033, gan geisio gwarchod cymunedau, tirwedd a threflun Conwy hefyd. Mae'r polisi strategol yn darparu'r cyd-destun trosfwaol gyda pholisïau manwl wedi eu paratoi ar gyfer cam y Cynllun Adneuo.

6.3.3 Cyflawni'r Amcan a'r Polisi Strategol

Mae twristiaeth yn elfen hanfodol o economi Conwy, yn cefnogi mwy na 12,000 o swyddi cyfwerth â llawn amser un ai yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol, gan ddod a mwy na £800 miliwn o refeniw i economi'r Sir yn flynyddol ac atynnu 9.5 miliwn o ymwelwyr yn 2017 (data STEAM 2017).

6.3.4 Mae amrywiaeth eang o weithgareddau, cyfleusterau a mathau o ddatblygiadau yn y Sir ac mae'n hanfodol i ffyniant economaidd a chreu swyddi mewn sawl rhan o Gonwy. Gall twristiaeth fod yn gatalydd ar gyfer adfywio, gwella'r amgylchedd adeiledig a diogelu'r amgylchedd. Felly, mae'r Strategaeth a Ffefrir yn annog datblygiad twristiaeth lle mae'n cyfrannu tuag at ddatblygiad economaidd, cadwraeth, arallgyfeirio gwledig, adfywio trefol a chynhwysiad cymdeithasol, wrth gydnabod anghenion ymwelwyr ac anghenion cymunedau lleol. Yn fwy diweddar mae Conwy wedi gweld twf mewn busnesau twristiaeth antur ac awyr agored sydd ar agor gydol y flwyddyn, sydd wedi golygu mwy o alw am amrywiaeth o lety gwyliau.

6.3.5 Yn unol â Pholisi Cynllunio Cymru 10, bydd y CDLlN yn darparu fframwaith ar gyfer cynnal a datblygu cyfleusterau twristiaeth o ansawdd da, sydd wedi eu lleoli a'u dylunio yn dda. Bydd yn ystyried maint a dosbarthiad cyffredinol atyniadau twristiaeth cyfredol ac arfaethedig ac yn caniatáu darparu datblygiadau sy'n ategu ei gilydd fel llety a mynediad mewn ffyrdd sy'n cyfyngu ar effeithiau amgylcheddol negyddol.

6.3.6 Mae'r Strategaeth a Ffefrir hon yn dilyn dyheadau Gweledigaeth Twf Economi Gogledd Cymru (Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru - 2016) o safbwynt twristiaeth, ac yn ceisio manteisio ar enw da'r ardal fel lle gyda safon byw gwych a chyrchfan twristiaeth antur fyd-enwog.

6.3.7 Mae Astudiaeth Twristiaeth Llandudno (2019) yn darparu adroddiad cynhwysfawr a dadansoddiad o sut mae twristiaeth yn effeithio ar brif gyrchfan Llandudno ac yn darparu data allweddol i helpu i ddatblygu llwybr o ran nifer a phatrymau ymwelwyr dros y blynyddoedd nesaf. Yn ogystal mae'r adroddiad hwn yn ceisio galluogi'r holl fudd-ddeiliaid yn y dref i ddeall deinameg allweddol economi twristiaeth y dref a darparu amrywiaeth o opsiynau posib er mwyn helpu i ddatblygu'r cynnig twristiaeth yn Llandudno yn unol â dyheadau budd-ddeiliaid allweddol, trigolion, ymwelwyr, a'r Cyngor. Bydd ffocws hefyd yn cael ei roi ar y ddarpariaeth i dwristiaid yn ystod tymor y gaeaf.

6.3.8 Bydd angen i'r CDLlN sicrhau bod modd ateb y galw a ragwelir drwy ddyrannu tir ac / neu bolisïau rheoli priodol. Mewn cyd-destun Sirol, mae Cynllun Rheoli Cyrchfan Conwy ac Arolwg Stoc Gwelyau Conwy yn darparu tystiolaeth i ddeall mwy am faterion galw a chyflenwad, yn clustnodi blaenoriaethau ac yn asesu lefel gyfredol pob math o stoc a deiliadaeth llety gwyliau Conwy, a data tripiau. Mae'r papur Parthau Llety Gwyliau Cynradd (HAZs) hwn yn dadansoddi'r polisïau a'r ddarpariaeth bresennol ar gyfer llety gwyliau yng nghanolfan dwristiaeth Llandudno. Caiff darpariaeth llety gwyliau yn yr Ardaloedd Llety Gwyliau Cynradd ei adolygu yn unol â'r polisïau sydd wedi'u sefydlu a thystiolaeth newydd a bydd canlyniadau'r arolwg yn llywio unrhyw newidiadau arfaethedig i'r ardaloedd hyn.

6.3.9 Mewn ardaloedd gwledig, mae datblygiadau sy'n ymwneud â thwristiaeth yn hanfodol o safbwynt darparu economi iach ac amrywiol ac mae angen ei ystyried yn ofalus yn y CDLlN. Bydd angen i ddatblygiadau twristiaeth mewn ardaloedd gwledig fod yn sensitif eu natur ac o faint cywir i'r amgylchedd lleol.

(1) 6.3.10 Yn yr ardaloedd lle ceir perygl o lifogydd sef Pensarn, Towyn a Bae Cinmel, sydd â niferoedd uchel o lety mewn meysydd carafannau, bydd ystyriaeth yn cael ei roi i warchod a gwella safleoedd o'r fath er mwyn cynnal lefelau stoc gwelyau a chynorthwyo'r economi leol.

6.3.11 Yr ardaloedd allweddol sydd angen mynd i'r afael a nhw yw:

Twristiaeth Antur

Bydd amcanion a pholisïau'r CDLlN yn parhau i gefnogi datblygiad ac addasiad amrywiaeth o atyniadau twristiaeth, mewn lleoliadau priodol, er mwyn cael amrywiaeth eang o weithgareddau yn yr ardaloedd gwledig a threfol fel ei gilydd.

6.3.12 Mae Twristiaeth Antur yn farchnad sy'n tyfu, gydag atyniadau newydd o fewn ac yn agos i Sir Conwy. Mae'r Awdurdod wedi cefnogi cynigion twristiaeth newydd fel Parc Snowdonia (Surf Snowdonia gynt) yn Nolgarrog. Mae Llywodraeth Cymru am hyrwyddo Cymru fel prif gyrchfan twristiaeth antur y byd, roedd 2016 yn Flwyddyn Antur ac mae themâu canlynol wedi eu cyhoeddi i hyrwyddo cryfderau mwyaf Cymru a sicrhau bod gweithgareddau, digwyddiadau ac atyniadau yn tynnu ar elfennau cryfaf y cynnig twristiaeth Cymreig. Mae atyniadau twristiaeth antur cyffrous newydd a chyfredol sydd o fewn neu yn agos at Gonwy yn cynnwys:

  • Canolfan Gweithgareddau Awyr Agored Plas y Brenin
  • Adventure Parc Snowdonia, Dolgarrog
  • Bounce Below a Zip World, Blaenau Ffestiniog
  • Zip World, Bethesda
  • Zip World Fforest, Betws y Coed
  • Canolfan Beiciau Mynydd Antur Stiniog, Blaenau Ffestiniog

6.3.13 Mae Gogledd-Orllewin Cymru wedi gweld twf sylweddol mewn twristiaeth gweithgareddau dros y blynyddoedd diwethaf ac mae'n cael ei weld fel maes twf sylweddol posib o fewn Conwy. Yn ogystal â hynny mae twristiaeth antur yn cynnig cyfle gwych i ddatblygu cynnyrch twristiaeth drwy gydol y flwyddyn nad yw'n cael ei effeithio lawer gan newidiadau yn y tywydd.

6.3.14

Arallgyfeirio Busnesau Gwledig

Bydd y CDLlN yn cynnwys polisi priodol i gefnogi datblygiad llety amgen o faint bach, bach ei effaith, sy'n gysylltiedig â gwir arallgyfeirio ar ffermydd. Byddai'n rhaid i ddatblygiadau newydd fod mewn lleoliadau addas a pheidio cael effaith negyddol ar y tirlun. Bydd polisi penodol yn sicrhau bod arallgyfeirio busnesau gwledig a ffermydd yn briodol, yn cynorthwyo i gadw'r fenter ac o fantais i'r economi wledig.

Mae'r Awdurdod yn cydnabod y bydd angen i rai busnesau amaethyddol arallgyfeirio er mwyn darparu incwm ychwanegol. Weithiau mae hyn yn golygu trawsnewid adeiladau cyfredol nad ydynt yn cael eu defnyddio i lety gwyliau hunan arlwyo tymor byr ac mae polisïau cyfredol yn cefnogi trawsnewid adeiladau amaethyddol penodol, lle bo'n briodol. Prif nod y polisïau yw darparu rhyw ffurf o fudd economaidd a pheidio caniatáu meddiannaeth ail gartrefi.

6.3.15 Mae Conwy wedi derbyn nifer cynyddol o ymholiadau a cheisiadau ar gyfer safleoedd gwersylla neu garafannau newydd ar ffermydd cyfredol. Bydd yr Awdurdod yn ystyried y mathau hyn o ddatblygiad ac yn cynnwys polisi priodol yn seiliedig ar feini prawf i gefnogi datblygiad llety amgen bach ei effaith, o faint bach, yn gysylltiedig â gwir arallgyfeirio ar ffermydd. Byddai'n rhaid i ddatblygiadau newydd fod mewn lleoliadau addas a pheidio cael effaith negyddol ar y tirlun.

6.3.16

Ffurfiau amgen o lety i dwristiaid

Gyda mathau newydd o lety 'glampio' bach eu maint yn dod yn gynyddol boblogaidd bydd polisïau CDLlN yn seiliedig ar feini prawf yn sicrhau bod pob math o lety gwyliau yn cael eu cynnwys a'u lleoli, eu hasesu, a'u rheoli'n briodol.

Ers i'r CDLl gael ei fabwysiadu bu cynnydd yn y mathau o lety hunanarlwyo / dros dro ar y farchnad. Y mathau o lety a welwyd yw podiau, iyrts, tipis a phebyll pren, y'i gelwir gyda'i gilydd yn 'glampio'. Mae'r Awdurdod yn debygol o brofi cynnydd mewn ceisiadau cynllunio ar gyfer y mathau hyn o lety nad ydynt yn draddodiadol.

6.3.17 Gall y math 'bach ei effaith' hwn o lety fod yn fwy derbyniol yn esthetaidd na ffurfiau 'traddodiadol' o lety fel carafanau statig. Felly, bydd angen addasu polisïau cyfredol y CDLl er mwyn sicrhau fod pob math o lety gwyliau yn cael eu cynnwys a'u hasesu'n briodol.

6.3.18

Creu darpariaeth gyda'r nos ac yn y gaeaf i ymwelwyr

Er mwyn cynyddu'r farchnad gydol y flwyddyn bydd amcanion a pholisïau'r CDLlN yn parhau i gefnogi datblygiad ac addasiad amrywiaeth o atyniadau a chyfleusterau twristiaeth er mwyn gwella'r ddarpariaeth twristiaeth gaeaf drwy'r Sir.

Mae'r economi gyda'r nos a chynnig deniadol i ymwelwyr yn ystod y gaeaf yn hanfodol i sefydlu Sir Conwy fel cyrchfan drwy gydol y flwyddyn. Mae data STEAM1 yn dangos bod niferoedd yr ymwelwyr ar draws y sir yn gostwng yn sylweddol o fis Tachwedd hyd at fis Chwefror. Nid yw hyn yn golygu nad yw pobl yn mynd ar eu gwyliau yn ystod misoedd y gaeaf, ond eu bod yn dewis mynd i rywle arall. Tra bo Llandudno yn gyrchfan gwyliau allweddol, rhaid buddsoddi ar draws Conwy er mwyn sicrhau profiad cyson i ymwelwyr. Yn greiddiol i atynnu mwy o ymwelwyr drwy'r misoedd hyn fydd rhaglenni i fuddsoddi mewn digwyddiadau i ymwelwyr ar yr adeg hon o'r flwyddyn a datblygu / buddsoddi mewn atyniadau y gellir eu mwynhau drwy'r gaeaf. Byddai hyn yn annog mwy o lety i fod ar gael ar yr adeg hon, gan gyfrannu tuag at y dyhead cyffredinol o wella'r amrywiaeth i dwristiaid a chreu amgylchedd ar gyfer swyddi llawn amser o safon.

6.3.19

Llety Gwyliau

Bydd llety gwyliau, yn enwedig o fewn y trefi arfordirol, yn cael eu rheoli a'u diogelu yn ofalus er mwyn sicrhau cyflenwad digonol ac amrywiaeth o lety safonol drwy gydol y flwyddyn i fodloni galw'r farchnad dwristiaeth.

Mae cyrchfan lwyddiannus i dwristiaid yn dibynnu yn helaeth ar safon, lefel a math y llety sydd ar gael o fewn yr ardal honno. Mae darparu a gwarchod llety safonol yn un o brif flaenoriaethau Conwy. Mae angen sicrhau bod digon o lety safonol, o ran nifer ac o ran amrywiaeth, yn yr ardaloedd cywir er mwyn bodloni gofynion newidiol y farchnad, caniatáu twf a chefnogi economi twristiaeth ffyniannus. Yn ogystal, cydnabuwyd hefyd y byddai amrywiaeth fwy eang o lety â gwasanaeth yn rhoi mwy o ddewis i'r ymwelwyr ac yn apelio i'r farchnad gwyliau byr, sy'n cynyddu.

6.3.20

Twristiaeth Ddiwylliannol

Bydd polisïau'r CDLlN yn parhau i gefnogi a datblygu'r rhanbarth ymhellach fel lle gall twristiaeth ddiwylliannol ffynnu, codi safonau ac annog sgiliau a gyrfaoedd.

Mae Cynllun Rheoli Cyrchfan Conwy yn nodi treftadaeth fel un o'r sectorau twristiaeth sy'n cynyddu gyflymaf yng Nghymru a'r DU gyda mwy na hanner yr 20 atyniad mwyaf poblogaidd yng Nghymru yn safleoedd hanesyddol. Mae Llywodraeth Cymru yn rheoli prosiect i ddatblygu twristiaeth treftadaeth yng Nghymru, a fydd yn helpu i wneud y mwyaf o werth economaidd treftadaeth drwy godi niferoedd, hyd, a gwerth ymweliadau â Chymru. Mae Cadw yn gweithio gyda chymunedau, partneriaid treftadaeth a'r sector twristiaeth ar draws Cymru i wella profiadau i ymwelwyr a rhoi amrywiaeth mwy integredig o weithgareddau twristiaeth treftadaeth at ei gilydd drwy ddatblygu pecynnau teithiau, llwybrau a gweithgareddau treftadaeth.

6.3.21 Mae treftadaeth ddiwylliannol Conwy yn gyfoethog ac amrywiol ac yn cynnwys enghreifftiau fel Safle Treftadaeth Y Byd Castell Conwy sy'n rhan hanfodol o brosiect Cymru gyfan fel ased pwysig yn gymdeithasol, economaidd, a hanesyddol.

Yr Economi Wledig

6.4.1 Amcan Strategol 9 (SO9): Hyrwyddo a chefnogi cymunedau cynaliadwy a ffyniannus trwy sefydlu menter newydd, ehangu busnes presennol a thrwy fabwysiadu dull adeiladol o ran amaethyddiaeth a newid arferion ffermio.

(1) Polisi Strategol SP/29Yr Economi Wledig

Bydd polisi sy'n seiliedig ar feini prawf yn sicrhau y caiff datblygiadau newydd o ran cyflogaeth wledig eu llywio at fannau addas drwy ddefnyddio dull dilyniannol o weithredu, ac yn rhoi hyblygrwydd i alluogi busnesau gwledig presennol i ehangu.

6.4.2 Mae angen i bolisïau'r Cynllun Datblygu Lleol ynghylch yr economi wledig fod yn ymatebol i newidiadau yn yr hinsawdd economaidd ehangach yn y Deyrnas Gyfunol ac Ewrop. Wrth ddadansoddi ceisiadau cynllunio ers mabwysiadu Cynllun Datblygu Lleol Conwy (2007-2022), gwelir fod datblygiadau yn yr ardaloedd gwledig yn dueddol o fod ym maes twristiaeth (llety gwyliau a meysydd gwersylla/carafanau), er y bu nifer o geisiadau ar gyfer cynhyrchu bwyd a datblygiadau amaethyddol, tyrbinau gwynt ac anheddau ar y farchnad. Bu hefyd nifer o ymholiadau ynglŷn ag ehangu busnesau gwledig oedd eisoes wedi'u sefydlu.

6.4.3 Gan edrych i'r dyfodol wedi ymadael â'r Undeb Ewropeaidd, gallai rhai o'r newidiadau allweddol mewn ardaloedd gwledig gynnwys mwy o arallgyfeirio gan fusnesau bach ac ehangu safleoedd busnes, ac efallai y bydd mwy o angen am anheddau mentrau gwledig er mwyn cynnal cynhyrchiant ar raddfa uwch yn ogystal â microfusnesau newydd. Gallai hefyd fod mwy o angen am gyfleusterau prosesu ar gyfer cynnyrch amaethyddol, gan gynnwys da byw, a pharhau â'r tueddiad at weithio gartref.

6.4.4 Cyflawni'r Amcan a'r Polisi Strategol

I gefnogi datblygiad yr economi wledig, mabwysiadir dull hyblyg o ran y polisïau ar ehangu mentrau gwledig. Wedi neilltuo safleoedd cyflogaeth mewn ardaloedd gwledig yn y Cynllun Datblygu Lleol blaenorol (a heb gael cais i ddatblygu dim un ohonynt), bydd y Cynllun Datblygu Lleol Newydd yn hytrach yn cynnwys polisi sy'n seiliedig ar feini prawf, ac felly bydd yno fwy o hyblygrwydd ar gyfer datblygu economaidd mewn ardaloedd gwledig. Disgwylir hefyd y gellir cynnal y dull hyblyg a dilyniannol a fydd yn galluogi busnesau i fwrw eu golygon y tu hwnt i ffiniau aneddiadau pan nad oes tir addas oddi mewn iddynt.

Isadeiledd Trafnidiaeth

6.5.1 Amcan Strategol 6 (SO6): Darparu datblygu cynaliadwy a cheisio mynd i'r afael ag achosion newid yn yr hinsawdd drwy ehangu'r dewis o drafnidiaeth gynaliadwy er mwyn rhoi mynediad at swyddi a gwasanaethau allweddol i gymunedau Conwy, drwy hybu rhwydwaith o lwybrau byrrach, mwy llesol ac effeithlon ar gyfer cerdded, beicio a defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus a thrwy ddylanwadu ar leoliad, maint, dwysedd, cymysgedd defnyddiau a dyluniad datblygiadau newydd.

Polisi Strategol SP/30Isadeiledd Trafnidiaeth

Hwyluso'r gwaith o ddarparu, datgarboneiddio a gwella isadeiledd trafnidiaeth gynaliadwy mewn ffordd sy'n lleihau'r angen i deithio, yn arbennig mewn cerbydau preifat, ac sy'n hwyluso a chynyddu dewisiadau teithio llesol. Bydd prosiectau trafnidiaeth yn cydweddu â'r Arweiniad ar Arfarnu Trafnidiaeth Cymru (WelTAG) a Chyd-gynllun Trafnidiaeth Gogledd Cymru gan wella cysylltiadau o fewn a rhwng gwahanol fathau o gludiant, addysg, iechyd, cyflogaeth a defnyddiau cymdeithasol.

6.5.2 Isadeiledd Trafnidiaeth

Mae darparu isadeiledd trafnidiaeth gynaliadwy yn hanfodol er mwyn meithrin ffyniant, mynd i'r afael â newid hinsawdd, lleihau llygredd yn yr awyr a gwella lles cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Dylai awdurdodau cynllunio gefnogi gwelliannau angenrheidiol i'r isadeiledd trafnidiaeth, lle gellir arddangos bod mesurau tebyg yn gydnaws â pholisi Llywodraeth Cymru i annog a chynyddu lefelau defnyddio trafnidiaeth gynaliadwy a lleihau ein dibyniaeth ar geir preifat ar gyfer siwrneiau dyddiol.

6.5.3 Ni ddylai isadeiledd trafnidiaeth gynhyrchu galw sylweddol am symudiadau ychwanegol mewn ceir na chyfrannu at flerdwf trefol neu wahanu cymdogaethau. Bydd disgwyl i'r gwaith o gynllunio a dylunio cynlluniau isadeiledd trafnidiaeth ystyried anghenion defnyddwyr trafnidiaeth llesol a chynaliadwy cyn anghenion defnyddwyr ceir preifat, gan gymryd i ystyriaeth hierarchaeth trafnidiaeth gynaliadwy.

6.5.4 Bydd y Cynllun Datblygu Lleol Newydd (CDLlN) yn cynnwys polisïau a chynigion sy'n ymwneud â datblygu isadeiledd trafnidiaeth a gwasanaethau cysylltiedig (megis cyfnewidfeydd trafnidiaeth gyhoeddus a chyfleusterau rheilffordd), gan gynnwys ardaloedd a ddiogelir ar gyfer isadeiledd / llwybrau trafnidiaeth y dyfodol. Lle bo hynny'n bosibl, caiff llwybr yr isadeiledd arfaethedig newydd neu well ei ddangos yn y cynllun datblygu. Pan fo'r union lwybr yn anhysbys, caiff polisi diogelu ei gymhwyso ar gyfer y darn o dir sy'n angenrheidiol ar gyfer y cynllun. Cedwir malltod mor isel ag sy'n bosibl trwy gynnwys cynlluniau sy'n debygol o ddechrau yn ystod cyfnod y Cynllun yn unig mewn cynlluniau datblygu. Ar ôl i gynlluniau datblygu gael eu paratoi neu eu diwygio, dylid adolygu cynigion trafnidiaeth presennol er mwyn cael gwared ar unrhyw gynigion sydd wedi cael eu diogelu yn y gorffennol, ond sydd bellach wedi cael eu rhoi heibio, neu unrhyw rai sy'n annhebygol o ddechrau yn ystod cyfnod y Cynllun.

6.5.5 Gwneir ymdrech ofalus i leihau effeithiau andwyol isadeiledd trafnidiaeth newydd neu well ar yr amgylchedd naturiol, hanesyddol ac adeiledig ac ar gymunedau lleol, gan gynnwys iechyd y cyhoedd o ganlyniad i wahanu cymunedol a llygredd yn yr awyr.

6.5.6 Seilwaith Gwyrdd

Caiff hyn ei drafod yn fanylach o dan thema allweddol 'Lleoedd Nodedig a Naturiol', er bod ganddo amcanion sy'n gysylltiedig â'r ffordd y gellir integreiddio nodau trafnidiaeth gynaliadwy a Theithio Llesol i Ardal y Cynllun gyda buddion amgylcheddol ac iechyd ehangach.

6.5.7 Bydd mesurau Seilwaith Gwyrdd i liniaru effeithiau negyddol ac i wella ansawdd yr amgylchedd a chysylltedd yn cael eu hystyried yn gynnar. Disgwylir i gynlluniau llwybrau newydd wneud y defnydd gorau o dirffurfiau presennol a nodweddion tirweddol eraill er mwyn gostwng sŵn ac effeithiau gweledol, yn amodol ar ddiogelwch ac ystyriaethau amgylcheddol eraill. Os nad oes unrhyw lwybrau neu opsiynau amgen ymarferol ar gael, dylai cynlluniau isadeiledd trafnidiaeth ddarparu mesurau lliniaru i ostwng effeithiau negyddol a gwella'r rhai positif a achosir wrth adeiladu a gweithredu'r cynlluniau hyn, gan gynnwys dod i gysylltiad â llai o lygredd yn yr awyr.

6.5.8 Asesu prosiectau trafnidiaeth

Wrth asesu prosiectau trafnidiaeth, dylai awdurdodau cynllunio roi ystyriaeth i'r Arweiniad ar Arfarnu Trafnidiaeth Cymru (WelTAG) Mae WelTAG yn gosod allan proses a lwyfannir ac a arweinir gan dystiolaeth i ddadansoddi problemau trafnidiaeth ac i ddatblygu ac arfarnu opsiynau trafnidiaeth yn erbyn sbectrwm eang o bolisïau ac ystyriaethau amgylcheddol, cymdeithasol, economaidd a thechnegol. Mae'r broses wrthrychol hon yn arbennig o bwysig wrth gynllunio prosiectau isadeiledd trafnidiaeth strategol a thrafnidiaeth sy'n gysylltiedig â datblygiadau mawr, gan ei bod yn helpu i sicrhau bod ystyriaeth yn cael ei roi i ystod lawn o effeithiau opsiynau trafnidiaeth. Mae hyn yn helpu i nodi datrysiadau sy'n cynyddu cyfraniadau at nodau lles ac yn caniatáu i ddatrysiadau a mesurau lliniaru gael eu nodi a'u datblygu cyn i benderfyniadau gael eu gwneud ynglŷn â p'un a ddylid parhau â chynlluniau. Mae'r broses WelTAG hefyd yn ffordd o sicrhau bod datrysiadau yn briodol er mwyn mynd i'r afael â phroblemau trafnidiaeth a nodir ac i osgoi dewis opsiynau moddol mewn ffordd a bennir o flaen llaw heb dystiolaeth ategol.

6.5.9

Trafnidiaeth gyhoeddus

Bydd y CDLlN yn hyrwyddo a hwyluso darpariaeth isadeiledd trafnidiaeth gyhoeddus o safon uchel a bydd yn gosod polisïau i wneud mwy o ddefnydd o drafnidiaeth gyhoeddus. Bydd yn nodi a hwyluso llwybrau, mesurau a chyfleusterau trafnidiaeth gyhoeddus priodol, gan gymryd i ystyriaeth cynigion yn y Cynllun Trafnidiaeth Lleol, a allai gynnwys gwella cyfleusterau i deithwyr ar fysiau, cynlluniau parcio a theithio, rheilffyrdd newydd (gan gynnwys trenau ysgafn), ail-agor rheilffyrdd, darparu gorsafoedd newydd a gwella gwasanaethau i deithwyr ar reilffyrdd presennol.

Mae'r Cynllun Trafnidiaeth Lleol yn cymryd i ystyriaeth yr angen am safleoedd cyfnewid ychwanegol a gwelliannau i gyfnewidfeydd presennol ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus, gan gynnwys mesurau i hyrwyddo diogelwch personol. Mewn ardaloedd gwledig, nodir cyfnewidfeydd ar geinciau lle mae'n bosibl trosglwyddo rhwng gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus lleol a phell. Bydd y Cyngor hefyd yn diogelu cyfnewidfeydd trafnidiaeth gyhoeddus bresennol rhag datblygiadau a fyddai'n arwain at lai o ddefnydd ohonynt.

6.5.10 Ar y cyd â Thrafnidiaeth Cymru a Network Rail a lle bo hynny'n bosibl, bydd rheilffyrdd segur neu gilffyrdd segur neu nas defnyddir yn cael eu diogelu rhag datblygiadau a allai gael effaith andwyol ar y gallu i'w hailddefnyddio fel rheilffyrdd eto yn y dyfodol. Bydd unrhyw gais cynllunio neu bolisi cynllun datblygu arfaethedig sydd gerllaw hen reilffordd, neu sy'n effeithio'n uniongyrchol ar hen reilffordd, yn ystyried yr effaith ar y posibilrwydd o'u hailddefnyddio fel rheilffyrdd yn y dyfodol. Fel mesur dros dro, efallai y byddai'n briodol defnyddio aliniadau rheilffyrdd segur fel coridorau agored, er enghraifft fel llwybrau cerdded a beicio yn unol ag Asesiadau Seilwaith Gwyrdd.

6.5.11 Rhwydwaith Ffyrdd Strategol

Mae cefnffyrdd yng Nghonwy yn chwarae rôl genedlaethol a rhyngwladol o ran darparu rhwydwaith o ffyrdd o safon uchel sy'n cludo traffig am bellter hir rhwng canolbwyntiau mawr. Bydd y Cyngor yn ceisio lleihau'r angen i ddefnyddio cefnffyrdd a llwybrau trwodd eraill ar gyfer siwrneiau byr a lleol. Yn unrhyw leoliad, gellir cynorthwyo llif y traffig a diogelwch trwy ddylunio cyffyrdd yn dda. Bydd nifer y mynediadau a ganiateir yn dibynnu ar y math o ffordd a'i natur. Yn yr un modd, dylai'r math o fynediad a ddarperir adlewyrchu'r math o ffordd a maint a chymeriad y traffig sy'n debygol o ddefnyddio'r mynediad a'r ffordd.

6.5.12 Mae'r strategaeth yn nodi'r prif rwydwaith ffyrdd, gan gynnwys cefnffyrdd ac mae'n nodi'r rhwydwaith craidd ar wahân. Caiff y llwybrau hyn eu nodi ar y map cyfyngiadau fel coridorau symudiad lle byddai datblygiad a fyddai'n peryglu'r rôl strategol hon neu'n cael effaith andwyol ar yr amgylchedd neu iechyd, amwynder neu les pobl, yn cael ei wrthod.

6.5.13 Bydd y CDLlN yn cynnwys yr holl gynigion ar gyfer ffyrdd newydd a gwelliannau mawr i'r prif rwydwaith ffyrdd dros gyfnod y Cynllun, ac yn gosod allan y polisi eang ar flaenoriaethau o ran gwelliannau bach. Ar gyfer cynlluniau ffyrdd lleol, fel arfer dylai gweithdrefnau'r cynllun datblygu ddarparu modd o archwilio'r angen am y llwybr a'i aliniad.

6.5.14 Dylai'r broses o ddylunio cynlluniau ffyrdd newydd a chynlluniau gwella ffyrdd gymryd i ystyriaeth yr hierarchaeth trafnidiaeth, lle rhoddir ystyriaeth i drafnidiaeth lesol a chynaliadwy cyn cerbydau modur preifat. Bydd hyn yn helpu i leihau gwahanu cymunedol a achosir gan gynllun a'i effeithiau ar ddiogelwch, cyfleustod ac amwynder llwybrau ar gyfer siwrneiau cerdded, beicio a thrafnidiaeth gyhoeddus.

6.5.15 Porthladdoedd, Marinas a Dyfrffyrdd Mewndirol

Mae gan Conwy nifer fach o harbwrs, marinas a dyfrffyrdd mewndirol, sy'n gwneud y lleoliad yn un deniadol ar gyfer busnesau ac ymwelwyr. Mae dociau chwareli hefyd yn caniatáu ar gyfer cludo nwyddau. Mae cefnogi a buddsoddi yn y cyfleusterau hyn yn creu potensial i roi hwb i'r economi yn uniongyrchol, trwy wneud mwy o ddefnydd o'r cyfleusterau, ac yn anuniongyrchol trwy'r cyfleoedd a ddarperir i sectorau eraill (cenedlaethol a rhyngwladol) o ganlyniad i well isadeiledd trafnidiaeth forol.

6.5.16 Yng ngweledigaeth Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru (CMCC), mae porthladdoedd, harbwrs, marinas a dyfrffyrdd mewndirol yn gallu cynllunio eu gweithrediadau nawr ac yn y dyfodol, gan gynnwys opsiynau i ymestyn ac arallgyfeirio. Mae'n rhaid i awdurdodau cynllunio ystyried goblygiadau o ran defnydd tir i'r Cynllun Morol.

6.5.17 Trafnidiaeth a'r Effeithiau Uniongyrchol ar Iechyd

Mae gan awdurdodau cynllunio rôl i'w chwarae wrth atal salwch corfforol a meddyliol a achosir neu a waethygir gan lygredd, datgysylltu pobl o weithgareddau cymdeithasol (sy'n cyfrannu at unigrwydd), yn ogystal â hyrwyddo patrymau teithio sy'n hwyluso ffyrdd egnïol o fyw. Bydd y CDLlN yn ystyried effeithiau datblygu isadeiledd newydd ar gymunedau presennol a diogelu iechyd a lles yn well yn ogystal â gwarchod amwynder lleol.

Telathrebu

6.6.1 Amcan Strategol 7 (SO7): Cefnogi ffyniant economaidd hirdymor, arallgyfeirio ac adfywio drwy fanteisio ar sefyllfa strategol Conwy yn y cyd-destun rhanbarthol ehangach a thrwy hyrwyddo strategaeth holistig sy'n cyd-leoli twf cyflogaeth a thwf tai, a fydd yn hwyluso twf swyddi newydd o'r math iawn mewn lleoliadau cynaliadwy a hygyrch, yn cefnogi clystyrau a rhwydweithiau busnes, yn cynyddu sgiliau mewn swyddi gwerth uchel ac yn darparu'r seilwaith newydd angenrheidiol. Bydd hyn yn hwyluso lleoli busnesau newydd yng Nghonwy a thwf y busnesau presennol.

Polisi Strategol SP/31Clystyrau Busnes a Thelathrebu

Bydd darpariaeth isadeiledd i gefnogi telathrebu yn cael ei ystyried yn ystod un o gamau cyntaf y broses o ddatblygu dyraniadau'r Cynllun Datblygu Lleol. Bydd y cyngor yn cysylltu â darparwyr telathrebu i bennu a oes angen gwella neu newid isadeiledd neu beidio, a sut i fynd ati i integreiddio hyn â datblygiadau newydd. Er mwyn gwella cyfleoedd rhwydweithio a chyfathrebu ymhellach, bydd clystyrau busnes ar safleoedd cyflogaeth presennol sydd o fudd i'r economi a'r gymuned leol yn derbyn cefnogaeth mewn egwyddor.

6.6.2 Mae'r Cynllun Datblygu Lleol Newydd yn cydnabod bod telathrebu gan gynnwys rhwydweithiau ffonau symudol a band eang yn wasanaeth hanfodol ac y dylid eu cynllunio ynghyd â datblygiadau o'r cychwyn cyntaf, gan gymryd i ystyriaeth y gofynion a'r blaenoriaethau a nodwyd yn Strategaeth Cysylltedd Digidol Gogledd Cymru. Mae gosod band eang cyflym iawn yn fater pwysig mewn ardaloedd gwledig, sy'n dibynnu ar wasanaethau o'r fath ar gyfer anghenion busnes yn ogystal ag anghenion cymdeithasol. Felly, cefnogir darpariaeth isadeiledd telathrebu megis cyfarpar band eang a ffonau symudol mewn lleoliadau priodol.

6.6.3 Darparu Polisi Strategol ac Amcanion

Cydnabyddir mai'r dull mwyaf cost effeithiol a'r dull lleiaf aflonyddgar o sefydlu isadeiledd band eang yw cyn dechrau datblygu. Drwy weithio ochr yn ochr â'r diwydiant telathrebu, bydd y Cyngor yn nodi pa leoliadau fydd yn gallu cynnig y gefnogaeth orau i'r isadeiledd, lle mae diffygion ar hyn o bryd yn ogystal â chynlluniau ar gyfer gwelliannau i'r dyfodol. Defnyddir y wybodaeth i lywio a chynllunio datblygiadau i'r dyfodol yn y Cynllun Datblygu Lleol Newydd. Byddwn yn datblygu polisi yn seiliedig ar feini prawf ar gyfer asesu ceisiadau am gyfarpar ffonau symudol, i sicrhau y caiff ei ddarparu mewn lleoliadau priodol.

6.6.4 Mae'n rhaid cefnogi datblygiad rhwydweithiau busnes a chlystyrau yn arbennig mewn perthynas â mentrau arloesol sy'n seiliedig ar dechnoleg. Argymhellir y dull hwn ym Mholisi Cynllunio Cymru 10, ac mae galw cynyddol ar y Cyngor am fusnesau sy'n ffurfio clystyrau i fanteisio ar y buddion cyffredin a geir drwy gyd-leoli, rhwydweithio a gallu cynnig gwasanaethau ar y cyd i gwsmeriaid/cleientiaid. Enghreifftiau o hyn yw dosbarthu bwyd yn Llanrwst, cyflenwyr adeiladwyr ym Mae Cinmel a Mochdre a labordai / cwmnïau fferyllol yng Nghonwy.

Ynni

6.7.1 Amcan Strategol 10 (SO10): Sicrhau cymysgedd priodol o ynni, gan gynnwys hyrwyddo Morlyn Ynni Llanw, sy'n cynnig manteision i economi a chymunedau Conwy ond yn lleihau unrhyw effeithiau amgylcheddol a chymdeithasol negyddol.

(2) Polisi Strategol SP/32Ynni

Hyrwyddo cymysgedd o ffynonellau cynhyrchu ynni, dulliau storio ynni a dyluniad adeiladau sy'n cyflawni twf glân ac yn cyfrannu at ddatgarboneiddio yn ogystal â bod yn wydn yn wyneb newid hinsawdd.

6.7.2 Cefndir

Mae'r system gynllunio yn chware rôl allweddol o ran cyflenwi twf glân a datgarboneiddio ynni, yn ogystal â bod yn hanfodol i feithrin gwydnwch yn wyneb effeithiau newid hinsawdd. Mae'r trawsnewid i economi carbon isel nid yn unig yn dod â chyfleoedd ar gyfer twf glân a swyddi o safon, ond mae ganddo hefyd fuddion ehangach o ran lleoedd gwell i fyw a gweithio ynddynt, gydag aer a dŵr glân a gwell canlyniadau o ran iechyd.

6.7.3 Cyflwynodd Papur Testun 9 y materion mewn perthynas ag Ynni Adnewyddadwy o fewn Ardal y Cynllun ac mae'r cam hwn yn adeiladu ar y darn hwnnw o waith i lywio newid a'r ymagwedd strategol. Mae angen parhau i ddatgarboneiddio'r sector cynhyrchu ynni ar draws Cymru er mwyn cefnogi'r trawsnewid i economi carbon isel ac i helpu i liniaru newid hinsawdd. Ar yr un pryd, mae angen cymysgedd o ffynonellau cynhyrchu ynni i sicrhau cyflenwad diogel yn barhaus, ac i oresgyn materion o ran natur ysbeidiol technolegau gwynt a'r haul.

6.7.4 Mae'r hinsawdd newidiol a'r effeithiau a ragwelir ar gyfer Cymru gan Raglen Effeithiau Hinsawdd y DU (UKCIP) yn cyflwyno heriau difrifol i'r system gynllunio. Wrth fynd i'r afael â hwy, mae Polisi Cynllunio Cymru (PCC) yn amlinellu cyfres o amcanion y dylid eu hystyried yn ystod paratoi cynllun datblygu. Mae gan Awdurdodau Lleol amryw rolau allweddol i'w chwarae sy'n gallu hwyluso defnyddio a chynhyrchu ynni adnewyddadwy a charbon isel a di-garbon. Mae'r rhain yn cynnwys:

  • Paratoi polisïau cynllunio a dyrannu tir mewn Cynlluniau Datblygu Lleol (CDLl).
  • Rheoli Datblygu - gwneud penderfyniadau ar geisiadau cynllunio a gyflwynir i'r Awdurdod Cynllunio Lleol (ACLl) ar gyfer datblygu, yn ogystal â pharatoi Asesiadau o'r Effaith ar yr Ardal Leol.
  • Corfforaethol - gweithredu ar lefel y Cyngor cyfan i gyflawni economi carbon isel.
  • Arweinyddiaeth - gyrru ymlaen gweithredu ehangach yn y gymuned a chyfathrebu'r angen i gynyddu'r defnydd o ynni adnewyddadwy.

(1) 6.7.5 Cyflawni'r Amcanion a Pholisi Strategol

Mae Deddf yr Amgylchedd yn gosod targed cyfreithiol ar gyfer cyflawni gostyngiad o o leiaf 80% mewn allyriadau nwyon tŷ gwydr erbyn 2050. Mae'r Ddeddf hefyd yn gofyn am gyfres o dargedau dros dro (ar gyfer 2020, 2030 a 2040) a chyllidebau carbon cysylltiedig ar gyfer sectorau allweddol. Bydd y cyllidebau'n gosod terfynau ar gyfanswm yr allyriadau nwyon tŷ gwydr a ollyngwyd yng Nghymru dros gyfnod o 5 mlynedd fel cam tuag at darged 2050, ac i sicrhau bod cynnydd yn cael ei wneud.

6.7.6 Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod y targedau a ganlyn ar gyfer cynhyrchu ynni adnewyddadwy:

  • I Gymru gynhyrchu 70% o'r trydan a ddefnyddir ganddi o ynni adnewyddadwy erbyn 2030;
  • I un Gigawat o gapasiti trydan adnewyddadwy yng Nghymru gael ei berchnogi'n lleol erbyn 2030; ac
  • Erbyn 2020, i brosiectau ynni adnewyddadwy gael o leiaf elfen o berchnogaeth leol.

6.7.7 Gofynion allweddol:

  • Integreiddio datblygiad gyda'r ddarpariaeth o isadeiledd rhwydwaith grid trydan ychwanegol;
  • Storio cymaint o ynni ag y bo modd;
  • Hwyluso integreiddio egwyddorion dylunio adeiladau cynaliadwy mewn datblygiadau newydd;
  • Lleoli datblygiadau newydd yn y lleoedd gorau bosibl i ganiatáu defnyddio adnoddau'n effeithlon;
  • Cynhyrchu cymaint o ynni adnewyddadwy a charbon isel ag y bo modd;
  • Defnyddio ffynonellau ynni lleol cymaint ag y bo modd, fel rhwydweithiau gwresogi ardal (DHN);
  • Lleihau effaith dulliau cynhyrchu ynni eraill o ran carbon, cymaint ag y bo modd a
  • Symud i ffwrdd o echdynnu mwynau ar gyfer ynni, y mae effaith eu llosgi'n ddwys o ran carbon.

6.7.8 Bydd y CDLlN yn nodi polisïau, cynigion a chanllawiau i gefnogi'r trosglwyddiad i economi carbon isel. Bydd y canllawiau'n ymateb i'r effeithiau a ragwelir o ran newid hinsawdd ac yn caniatáu i gymunedau a busnesau yn Ardal y Cynllun addasu i'r hinsawdd sy'n newid.

6.7.9 Sut y gwneir hyn?

Mae PCC yn nodi canllawiau ar ddewis safleoedd er mwyn cyflawni cynaliadwyedd. Mae'r posibiliadau o ran safleoedd strategol yn cyfrannu at gyflenwi adeiladau cynaliadwy (gan gynnwys rhai di-garbon) yn ffurfio rhan o'r cam hwn o'r broses CDLl. Gellir lleoli datblygiadau newydd er mwyn gwneud y gorau o gyfleoedd i gyflawni safonau cynaliadwy uwch o ran adeiladau. Mae hyn, er enghraifft, yn cynnwys lleoli safleoedd ar gyfer mathau penodol o ddefnydd gyda'i gilydd er mwyn gwneud cynlluniau gwresogi cymunedol yn fwy hyfyw drwy ddarparu llwyth gwres digonol. Fodd bynnag, roedd Asesiad Ynni Adnewyddadwy (AYA) Conwy yn dangos ychydig iawn o gyfleoedd ar gyfer lleoli tai presennol neu newydd yn ddigon agos i lwythi angor presennol. Bydd Conwy'n ymgysylltu â datblygwyr, tirfeddianwyr a'r gymuned i ganfod a thrafod y cyfleoedd ar gyfer cyflawni safonau uwch o ran adeiladu cynaliadwy ar safleoedd strategol. Rhan bwysig o hyn fydd ystyried p'un a yw gofynion lleol yn hyfyw ac ni fydd yn gweithredu fel rhwystr afresymol i ddatblygu neu dwf sydd wedi'i gynllunio, gan gynnwys cyflenwi tai fforddiadwy a rhwymedigaethau cynllunio eraill.

6.7.10 Mae'r CDLlN yn categoreiddio anheddau mewn hierarchaeth sy'n adlewyrchu eu cynaliadwyedd cymharol. Mae dyhead y Cynllun o leihau'r angen i deithio, yn enwedig yn defnyddio car modur preifat, ynghyd â'i rôl o ran cyfrannu at hwyluso strategaeth cludiant integredig yn ceisio cyfeirio datblygiadau i leoliadau priodol sy'n gweithredu i gyflawni hyn.

6.7.11 Cysylltiad Grid

Mewn sawl achos, ni fydd gallu a chapasiti datblygiad YA arfaethedig i gysylltu â'r grid dosbarthu trydan yn ystyriaeth o ran cynllunio. Fodd bynnag, o ystyried pwysigrwydd allforio trydan i'r grid mewn sawl achos, argymhellir y dylai datblygwyr gynnal trafodaethau cychwynnol gyda'r Gweithredwr Rhwydwaith Dosbarthu (GRhD) yn gynnar yn natblygiad y prosiect. Dylai'r trafodaethau hyn geisio canfod llwybrau ar gyfer isadeiledd cysylltiad grid sy'n osgoi ardaloedd tra sensitif o ran tirwedd, ecoleg ac archeoleg. Rhoir ffafriaeth i gysylltiadau o dan wyneb y tir.

6.7.12 Ni fydd hyn yn fater i'w ystyried mewn amgylchiadau lle nad oes bwriad i gysylltu'r dechnoleg â'r grid dosbarthu trydan. Mae enghreifftiau o hyn yn cynnwys defnyddio'r trydan a gynhyrchir yn uniongyrchol gan y busnes neu aelwyd, neu ddefnyddio datrysiadau o ran storio, fel batris, a fydd yn cael eu hystyried mewn egwyddor.

6.7.13 Mae'r angen i fynd i'r afael â newid hinsawdd yn cynrychioli her sylfaenol os bydd datblygiadau cynaliadwy a'r rhwymedigaethau o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol 2015 am gael eu cyflawni.

6.7.14 Y Rhwydwaith Grid Trydan a Storio Ynni

Mae angen rhwydwaith grid trydan effeithiol i gyflawni uchelgeisiau Llywodraeth Cymru o ran trydan adnewyddadwy a charbon isel. Mabwysiadir ymagwedd integredig tuag at gynllunio ar gyfer datblygiadau ynni ac isadeiledd ychwanegol o ran y rhwydwaith y grid trydan. Mewn rhai amgylchiadau, bydd angen isadeiledd ychwanegol o ran y rhwydwaith grid trydan i gefnogi'r Ardaloedd Chwilio Strategol ac ardaloedd eraill a nodir mewn cynlluniau datblygu. Bydd CBSC yn cynllunio mewn modd cadarnhaol ac yn hwyluso'r isadeiledd a fynnir o ran y grid i gefnogi posibiliadau o ran ynni carbon isel ar gyfer yr ardal. Bydd cynlluniau priodol ar gyfer datblygu'r grid yn cael eu hystyried mewn egwyddor, p'un a fydd y datblygiadau sydd i'w cysylltu wedi'u lleoli o fewn Ardal y Cynllun ai peidio.

Cysylltiad Grid a storio YA

Bydd cynlluniau o ran cysylltiadau grid, gwelliannau a storio yn cael eu cefnogi mewn egwyddor yn lle maent yn osgoi ardaloedd tra sensitif o ran tirwedd, ecoleg ac archeoleg. Rhoir ffafriaeth i gysylltiadau o dan wyneb y tir.

6.7.15 Ymrwymo Ardaloedd Lleol a Budd Cymunedol

Efallai y bydd ar grwpiau cymunedol, a sefydliadau sy'n ceisio hyrwyddo prosiectau ynni adnewyddadwy, angen cymorth arbennig i lywio eu ffordd drwy'r system gynllunio. Bydd CBSC yn cynorthwyo drwy hwyluso'r broses wrth ddelio â'r prosiectau hyn.

6.7.16 Mae grwpiau cymunedol yng Nghonwy ar hyn o bryd yn gymwys i ymgeisio i Gronfa Gymunedol Gwynt y Môr o Fferm Wynt ar y Môr GYM sy'n cynnig cyfanswm o £19 miliwn ar gyfer cymunedau yng Nghonwy, Sir Ddinbych a Sir y Fflint. Bydd manteision rhan CBSC mewn prosiectau ynni adnewyddadwy yn y dyfodol yn cael ei archwilio er mwyn mynd i'r afael â materion o ran amddifadedd o fewn ardal CBSC, drwy ragor o gyfleoedd ariannu fel y mae datblygiadau newydd yn dod yn eu blaenau.

(1) 6.7.17 Targedau Ynni Adnewyddadwy

Mae gan y system gynllunio rôl weithredol i helpu i sicrhau bod targedau lleihau carbon yn cael eu cyflawni, yn nhermau capasiti i gynhyrchu ynni adnewyddadwy newydd ac ar gyfer hyrwyddo mesurau effeithlonrwydd ynni mewn adeiladau newydd.

(1) 6.7.18 Er mwyn cynorthwyo i gyflawni'r targedau hyn, bydd CBSC yn cymryd ymagwedd weithredol, arweinyddol ar y lefel leol a rhanbarthol, drwy ganfod targedau heriol ond cyflawnadwy ar gyfer ynni adnewyddadwy mewn cynlluniau datblygu.

6.7.19 Mae CBSC wedi ystyried yr adnodd ynni adnewyddadwy sydd ar gael yn Ardal y Cynllun drwy'r AYA, a bydd targedau ynni adnewyddadwy yn seiliedig ar hyn a sylfaen dystiolaeth ychwanegol. Datblygir targedau drwy'r CDLlN Adnau, ond fe'u defnyddir fel offeryn i wneud y gorau o'r adnoddau sydd ar gael. Fodd bynnag, mae gan gynlluniau ariannu ychwanegol a chysylltiadau grid rolau allweddol i'w chwarae.

6.7.20 Mae'r strategaeth yn ceisio sicrhau:

  • Bydd capasiti ychwanegol o fewn yr Ardal Chwilio Strategol o hyd at 30MW yn ychwanegol yn cael ei gefnogi o fewn Cyfnod y Cynllun ac yn cael ei adolygu.
  • Bydd tir yng Ngofer yn cael ei ddyrannu ar gyfer aráe paneli solar 4MW PV.
  • Bydd datblygiadau a berchnogir yn lleol a rhai cymunedol yn cael eu cefnogi yn lle maent yn cydymffurfio â pholisïau cenedlaethol a lleol eraill. Erbyn 2020, bwriedir y bydd gan brosiectau ynni adnewyddadwy newydd o leiaf elfen o berchnogaeth leol.
  • Cefnogir cynlluniau i wella'r grid.
  • Bydd 70% o'r trydan a ddefnyddir yng Nghonwy yn dod o ynni adnewyddadwy erbyn 2030.

6.7.21 Mae'r Hierarchaeth Ynni yn gofyn i bob datblygiad newydd liniaru'r hyn sy'n achosi newid hinsawdd drwy leihau'r galw am ynni, a chynyddu effeithlonrwydd ynni drwy leoliadau a dyluniad datblygiadau newydd.

Ffigur 5: PCC10 Hierarchaeth Ynni

figure%205%20cymraeg

(1) 6.7.22 Adeiladau Cynaliadwy

Dylai egwyddorion dylunio adeiladau cynaliadwy fod yn rhan annatod o ddyluniad datblygiadau newydd. Dylai cynigion ar gyfer datblygu:

  • liniaru achosion newid hinsawdd drwy leihau allyriadau carbon a nwyon tŷ gwydr eraill sy'n gysylltiedig â lleoliad, dyluniad, adeiladu, defnydd a dymchwel datblygiad yn y diwedd; a
  • chynnwys nodweddion sy'n darparu modd effeithiol o addasu i'r newid yn yr hinsawdd a gwydnwch yn erbyn ei effeithiau presennol a'r rhai a ragwelir i'r dyfodol.

6.7.23 Rhoir cefnogaeth mewn egwyddor i ddatblygiadau newydd sy'n perfformio ar lefel uchel iawn o ran ynni, yn cefnogi datgarboneiddio, ac yn mynd i'r afael ag effeithiau newid hinsawdd ar hyn o bryd ac i'r dyfodol drwy ymgorffori mesurau lliniaru ac addasu effeithiol.

6.7.24 Trydan a ULEVau
Bydd hyn yn cael ei drafod yn fanylach yn y Strategaeth a Ffefrir ar gyfer Cludiant.

Cerbydau Allyriadau Isel Iawn

Bydd y ddarpariaeth o Gerbydau Allyriadau Isel Iawn/'Ultra Low Emission Vehicles' (ULEVaus) a phwyntiau trydanu yn cael ei hannog a'i chefnogi drwy'r CDLl fel rhan o ddatblygiadau newydd. Lle darperir mannau parcio ar gyfer datblygiadau amhreswyl, bydd y CDLl yn ceisio sicrhau bod gan o leiaf 10% o fannau parcio leoedd i gael pwyntiau trydanu ULEV. Bydd y Cyngor hefyd yn paratoi Strategaeth ULEV a fydd yn ategu dyheadau'r CDLlN o ran yr uchelgais ar gyfer ULEVau.

6.7.25 Cynhyrchu Ynni yn Lleol

O ran trydan a gwres a gynhyrchir yn lleol i helpu i gyflawni'r targed cenedlaethol o un Gigawat erbyn 2030, cefnogir hyn mewn egwyddor, yn enwedig lle mae cynigion:

  • yn hwyluso cydleoli datblygiadau mawr i alluogi defnyddio cyfleoedd lleol o ran gwres;
  • hwyluso cysylltu ynni adnewyddadwy a charbon isel gyda datblygiadau newydd mawr a rhai sy'n defnyddio llawer o ynni;
  • defnyddio cymaint o wres gwastraff ag y bo modd;
  • hyrwyddo systemau gwresogi ardal;
  • hyrwyddo cynlluniau Gwres a Phŵer Cyfunol.

Cynhyrchu Ynni yn Lleol

Mewn egwyddor, bydd y CDLlN yn cefnogi cyfleoedd a ganfuwyd ar gyfer cynlluniau gwresogi ardal, cynlluniau cynhyrchu ynni adnewyddadwy a charbon isel, ynghyd â chydleoli cynigion newydd a dyraniadau tir gyda datblygiadau, cyflenwyr gwres a defnyddwyr gwres presennol.

6.7.26 Polisïau Lleoliadol ar gyfer Datblygu Ynni Adnewyddadwy a Charbon Isel

Bydd datblygiad ynni adnewyddadwy a charbon isel yn cael ei gefnogi mewn egwyddor. Mae'r Cyngor wedi asesu'r cyfleoedd ar gyfer ynni adnewyddadwy a charbon isel yn yr ardal, a bydd yn defnyddio'r dystiolaeth hon i sefydlu polisïau gofodol yn y CDLlN a fydd yn nodi'r lleoliadau mwyaf priodol ar gyfer datblygu. Bydd rhagdybiaeth o blaid datblygu mewn mannau a nodwyd, gan gynnwys derbyn newidiadau o ran tirwedd, gyda pholisïau sy'n seiliedig ar feini prawf yn nodi materion lleoliadol manwl sydd i'w hystyried ar adeg cyflwyno cais cynllunio.

6.7.27 Datblygiadau Ynni Gwynt ar Raddfa Fawr

Mae Llywodraeth Cymru wedi nodi Ardaloedd Chwilio Strategol (AChS'au) sydd, ar sail ymchwil empirig sylweddol, yn cael eu hystyried fel y lleoliadau mwyaf priodol ar gyfer datblygiadau ffermydd gwynt ar y tir ar raddfa fawr (dros 25MW). O fewn AChS'au ac yn union wrth eu hymyl, bydd yn cael ei dderbyn yn anorfod y bydd newid sylweddol yng nghymeriad y dirwedd o ganlyniad i ddatblygiad tyrbinau gwynt. Tra bo'r effaith gronnol yn ystyriaeth berthnasol, bydd yn cael ei hystyried ochr yn ochr â'r angen i gyflawni dyheadau Llywodraeth Cymru ar gyfer ynni yng Nghymru, a bydd rhaid cyfiawnhau unrhyw gasgliadau yn llawn yng nghyswllt unrhyw benderfyniadau a wneir. Bydd angen i ddatblygwyr fod yn sensitif i amgylchiadau lleol, gan gynnwys lleoliad a dyluniad mewn perthynas â thirffurf lleol, agosrwydd at aneddiadau, perchnogaeth leol ac ystyriaethau eraill o ran cynllunio.

6.7.28 Yn gyffredinol, ni fydd datblygu ffermydd gwynt mawr neu gynlluniau ynni adnewyddadwy neu garbon isel eraill ar raddfa fawr yn briodol mewn ardaloedd a safleoedd a chanddynt ddynodiad rhyngwladol neu genedlaethol.

(1) 6.7.29 Mae'r CDLlN yn cefnogi rhagor o ddatblygiadau ynni gwynt ar raddfa fawr o fewn y AChS presennol. Mae cysylltiad grid a chymhellion ariannol yn parhau i fod yn ffactorau cyfyngol o ran datblygiadau, a phe bai angen meini prawf ar gyfer micro-leoli ar gyfer tir y tu allan i'r lleoliadau a ffefrir, yna bydd safleoedd yn cael eu hasesu yn ôl eu rhinweddau eu hunain.

Datblygiadau tyrbinau gwynt ar raddfa fawr

Bydd datblygiadau tyrbinau gwynt ar raddfa fawr, gyda tharged o ran capasiti o 30MW o fewn Cyfnod y Cynllun, yn cael eu cefnogi o fewn yr AChS presennol fel y dangosir ar y map cynigion.

(2) 6.7.30 Cynhyrchu Ynni ar y Môr

Ar 1 Ebrill 2012, o dan Ddeddf Lleoliaeth 2011, daeth yr Arolygiaeth Gynllunio i fod yr asiantaeth sy'n gyfrifol am weithredu'r broses gynllunio ar gyfer prosiectau seilwaith o arwyddocâd cenedlaethol (NSIP). Mae datblygiadau NSIP yn rhai ar raddfa fawr fel arfer, fel harbyrau, gorsafoedd cynhyrchu pŵer (gan gynnwys ffermydd gwynt), a llinellau trawsyrru trydan, sy'n gofyn am ganiatâd o'r enw 'caniatâd datblygu' o dan weithdrefnau a lywodraethir gan Ddeddf Cynllunio 2008 (ac a ddiwygiwyd gan Ddeddf Lleoliaeth 2011). Mae Deddf 2008 yn nodi'r trothwyon yr ystyrir bod rhai mathau o ddatblygiadau isadeiledd o arwyddocâd cenedlaethol uwch ben iddynt ac sydd angen caniatâd ar gyfer datblygu.

(2) 6.7.31 Cefnogir prosiect cynhyrchu ynni morlyn llanw ar gyfer ardal y glannau oddi ar arfordir Conwy a allai ymestyn i ardal awdurdod cyfagos. Mae gwaith cwmpasu a dichonoldeb cynnar yn mynd rhagddo. Gallai'r prosiect hwn hefyd fod â buddion ehangach o ran amddiffyn yr arfordir, sydd hefyd yn cynnwys diogelu'r gymuned a nodau o ran iechyd a lles.

(1) 6.7.32 O ran y gwaith ar y tir ar gyfer datblygiad ynni adnewyddadwy ar y môr, bydd angen gwneud gwaith sylweddol yn ffurf ymarferion cwmpasu ac asesu cymalog a gwaith arall cyn ymgeisio. Dylai datganiadau amgylcheddol gynnwys effeithiau a mesurau lliniaru. Mae angen ystyried y budd i'r gymuned a pherchnogaeth o'r cychwyn cyntaf.

6.7.33 Rheoli Datblygu ac Ynni Adnewyddadwy a Charbon Isel

Wrth benderfynu ceisiadau ar gyfer yr ystod o dechnolegau ynni adnewyddadwy a charbon isel, bydd CBSC yn ystyried:

  • y cyfraniad a wneir gan gynnig o ran cyflawni targedau Cymru, y DU ac Ewrop;
  • y cyfraniad tuag at leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr; a
  • buddion a chyfleoedd amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd ehangach datblygiadau ynni adnewyddadwy a charbon isel.

6.7.34 Bydd CBSC yn rhoi pwyslais sylweddol ar dargedau Llywodraeth Cymru i gynyddu cynhyrchu ynni adnewyddadwy a charbon isel, fel rhan o'r ymagwedd gyffredinol tuag at fynd i'r afael â newid hinsawdd a chynyddu diogelwch o ran ynni. Mewn amgylchiadau lle mae dynodiadau tirwedd, bioamrywiaeth a hanesyddol ac adeiladau gwarchodedig yn cael eu hystyried yn y broses benderfynu, dim ond yr effeithiau uniongyrchol diwrthdro ar safleoedd ac adeiladau a'u lleoliadau (lle bo'n briodol) sydd o dan warchodaeth statudol a fydd yn cael eu hystyried. Ym mhob achos, dylid rhoi cryn bwyslais ar yr angen i gynhyrchu mwy o ynni o ffynonellau adnewyddadwy a charbon isel, er mwyn i Gymru gyflawni ei thargedau o ran carbon ac ynni adnewyddadwy.

6.7.35 Bydd y CDLlN yn nodi ac yn gofyn am ddulliau addas o osgoi, lliniaru neu ddigolledu o ganlyniad i effeithiau datblygu ynni adnewyddadwy a charbon isel. O ran adeiladu, gweithredu, datgomisiynu, adfer ac ôl-ofal cynigion dylid ystyried:

  • yr angen i leihau effeithiau ar gymunedau lleol, fel y rheiny gan sŵn a llygredd aer er enghraifft, i ddiogelu ansawdd bywyd cenedlaethau presennol a rhai'r dyfodol;
  • yr effaith ar yr amgylchedd naturiol a hanesyddol;
  • yr effaith gronnol;
  • capasiti'r rhwydwaith trafnidiaeth, a'r effaith arno;
  • materion cysylltiad grid lle cynigir datblygiadau ynni adnewyddadwy (trydan); ac
  • effeithiau newid hinsawdd ar leoliad, dyluniad, adeiladu a gweithredu datblygiad ynni carbon isel ac adnewyddadwy. Wrth wneud hyn, dylid ystyried p'un a yw mesurau i addasu i effeithiau newid hinsawdd yn arwain at ragor o effeithiau.

6.7.36 Asesiad Ynni Adnewyddadwy

Mae'r AYA yn cynnwys asesiad strategol lefel uchel o'r potensial ar gyfer gwahanol raddfeydd o gynhyrchu ynni adnewyddadwy a charbon isel a di-garbon mewn gwahanol leoliadau.

6.7.37 Mae'r AYA hwn yn ffurfio sylfaen dystiolaeth sy'n llywio'r CDLlN. Mae hyn yn galluogi gwneud penderfyniadau yn seiliedig ar bolisïau sy'n cefnogi ac yn hwyluso defnyddio systemau ynni adnewyddadwy a charbon isel a di-garbon. Mae'r AYA yn cynnwys asesiad strategol lefel uchel o'r potensial ar gyfer gwahanol raddfeydd o gynhyrchu ynni adnewyddadwy a charbon isel a di-garbon mewn gwahanol leoliadau. Cyflwynir y polisïau hyn drwy'r CDLlN.

6.7.38 Mae CBSC wedi cynnal Asesiad Ynni Adnewyddadwy sy'n ffurfio sylfaen dystiolaeth ar gyfer datblygu polisïau ynni adnewyddadwy a charbon isel. Mae CBSC wedi:

  • ystyried y cyfraniad y gall Ardal y Cynllun ei wneud tuag at leihau allyriadau carbon a chynyddu cynhyrchu ynni adnewyddadwy a charbon isel;
  • cydnabod y bydd dulliau o ddefnyddio technolegau ynni adnewyddadwy a charbon isel yn amrywio;
  • canfod potensial hygyrch a chyflawnadwy o ran ffynonellau ynni adnewyddadwy ar gyfer Ardal y Cynllun, gan gynnwys gwres, ac wedi ystyried defnydd tebygol yr adnodd hwn dros gyfnod y cynllun;
  • asesu effeithiau cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol sy'n codi o ddatblygiad ynni adnewyddadwy a charbon isel;
  • ystyried effaith gronnol datblygiadau ynni adnewyddadwy a charbon isel a'u hisadeiledd cysylltiedig, gan gynnwys cysylltiadau grid;
  • ymgysylltu â'r diwydiant datblygu ynni adnewyddadwy a Gwasanaeth Ynni LlC er mwyn ystyried cyflawnadwyedd cynlluniau; ac
  • wedi ystyried blaenoriaethau lleol a strategol o ran ynni adnewyddadwy.

6.7.39 Bydd y CDLlN yn:

  • nodi meini prawf ar gyfer penderfynu ceisiadau ar gyfer safleoedd yn seiliedig ar y capasiti sydd wedi'i osod ynddynt; ac
  • yn ystyried materion sy'n gysylltiedig â chysylltiad grid a'r rhwydwaith trafnidiaeth.

6.7.40 Beth mae'r Strategaeth a Ffefrir a'r CDLlN yn ceisio ei gyflawni?
Yn achos dim CDLl, byddai gwaith datblygu yn parhau o ran YA a'r rhwydwaith yn nhermau cynlluniau ar raddfa genedlaethol a gofynion Rheoliadau Adeiladu. Mae'r Strategaeth a Ffefrir yn caniatáu ar gyfer cryn integreiddio â datblygiadau eraill, a hynny o ganlyniad i'r CDLl. Yn y diwedd, bydd gwell integreiddio â chynlluniau eraill a chydweithio ar amserlenni a nodau a rennir o fudd ehangach o ran cyflawni gwell integreiddio yng nghyswllt datblygu, rhannu costau a defnyddio adnoddau mewn modd mwy effeithlon.

Dyraniad Strategol

Dyrannir tir a berchnogir gan y Cyngor yng Ngofer ar gyfer aráe paneli solar 4MW PV.

Dyraniad Strategol

Mae Ardal Chwilio Strategol wedi'i dynodi'n unol â chanllawiau cenedlaethol fel y dangosir ar Map 9.

Map 9: Map Ynni Adnewyddadwy Strategol

map%209

Mwynau a Gwastraff

6.8.1 Amcan Strategol 11 (SO11): Cyfrannu at weithredu'r economi gylchol, rheoli gwastraff gan effeithio cyn lleied â phosibl ar yr amgylchedd a sicrhau y gwneir defnydd cynaliadwy o adnoddau naturiol, gan gynnwys ar gyfer cynhyrchu ynni a darparu cyflenwad digonol o fwynau a deunyddiau ar gyfer adeiladu.

(4) Polisi Strategol SP/33Mwynau

Bydd y Cyngor yn rheoli'r adnoddau mwynol mewn modd cynaliadwy a fydd yn cefnogi'r economi adeiladu, a hefyd yn diogelu'r amgylchedd naturiol ac adeiledig drwy:

  1. Sicrhau fod digon o ddarpariaeth o adnoddau a ganiateir o agregau i gwrdd ag anghenion cyflenwi lleol a rhanbarthol drwy gydol oes y Cynllun.
  2. Nodi ardaloedd ar gyfer gweithio gyda cherrig caled yn y dyfodol, gan gynnwys estyniadau posibl mewn chwareli presennol, a chynnig sicrwydd hirdymor angenrheidiol i atal sterileiddio yn ddiangen adnoddau y gallai fod eu hangen yn ystod a'r tu hwnt i Gyfnod y Cynllun.
  3. Annog defnydd effeithlon a phriodol o fwynau o ansawdd uchel a chefnogi cynigion ar gyfer ail-ddefnyddio ac ailgylchu deunyddiau addas fel dull amgen yn hytrach na defnyddio agregau a sicrheir drwy ddulliau cynradd.
  4. Dynodi clustogfeydd o amgylch chwareli i ddiogelu amwynder a sicrhau nad yw gweithrediadau mwynau yn cael eu cyfyngu'n ddiangen gan ddefnyddwyr tir eraill.
  5. Diogelu tir a graean ac adnoddau carreg galed fel y nodir ar y map cynigion ac mewn adnoddau wrth gefn presennol a ganiateir o garreg galed yn Chwareli Penmaenmawr, Raynes (Llysfaen) a Llansan Siôr.
  6. Sicrhau bod gweithfeydd mwynau yn cael eu hadfer yn briodol ar y cyfle cyntaf er mwyn gwella buddion amgylcheddol, amwynder a chymunedol.

(2) 6.8.2 Mwynau

Mae mwynau yn adnodd y mae pen draw iddo y gellir ond gweithio arno lle maent yn bodoli. Bydd polisïau yn cael eu datblygu i sicrhau fod y Sir yn darparu adnoddau mwynol mewn lleoliadau cynaliadwy i ddiwallu anghenion y gymdeithas i hyrwyddo a chefnogi twf economaidd, tai ac isadeiledd mewn modd sy'n diogelu'r amwynder a'r buddsoddiad, sy'n diwallu'r amcanion lles a amlinellir gan Lywodraeth Cymru, a sicrhau bod adnoddau mwynol gwerthfawr yn cael eu diogelu er mwyn eu defnyddio gan genedlaethau'r dyfodol.

6.8.3 Cyflawni'r Amcan a Pholisi Strategol

Darparu agregau - Ar gyfer mwynau, darparu agregau o fewn awdurdodau lleol unigol, mae grwpiau o awdurdodau neu grwpiau rhanbarthol yn cael eu harwain gan Ddatganiad Technegol Rhanbarthol (RTS). Mae'r datganiad technegol yn cael ei adolygu ar hyn o bryd a bydd yn cael ei gyhoeddi ar ddechrau 2020. Bydd y datganiad technegol rhanbarthol newydd yn gwneud argymhellion ar gyfer unrhyw ddosraniad angenrheidiol i sicrhau cyflenwad digonol o agregau craig wedi'i malu a thywod a graean, gan gynnwys y lleiafswm darpariaeth cenedlaethol a argymhellir sef 7 mlynedd o dywod a graean a 10 mlynedd o graig wedi'i malu fel y nodir ym Mharagraff 49 MTAN1, ar gael drwy gyfnod unrhyw CDLl, yn cydnabod argaeledd gofodol adnoddau mwynau addas ar draws ardal pob awdurdod lleol.

6.8.4 Ar hyn o bryd mae yna fanc tir sylweddol o agregau craig wedi'i malu wrth gefn yng Nghonwy a rhagwelir y bydd yn para yn ystod cyfnod y CDLl Newydd llawn ynghyd â'r banc tir 10 mlynedd, ac o ran ei hun, ystyrir ei bod yn annhebyg y bydd angen sylweddol i wneud darpariaeth ychwanegol. Fodd bynnag, rhaid nodi bod yr RTS sy'n cael ei ddatblygu yn asesu dewisiadau ar gyfer grwpiau is-ranbarthol, a bydd yn gosod dosraniadau is-ranbarthol. Efallai y bydd angen gwaith ar y cyd rhwng awdurdodau cyfagos i sicrhau y gwneir darpariaeth i sicrhau y cynhelir y cyflenwad o agregau i gwrdd â dosraniadau is-ranbarthol o fewn y grwpiad is-ranbarthol a allai ddatblygu. I'r perwyl hwn, efallai y bydd angen paratoi datganiadau tir cyffredin rhwng awdurdodau lleol i sefydlu'r egwyddor o ddarpariaeth agregau mwynol ar y cyd. Nodir y gallai'r grwpiau is-ranbarthol gynnwys Sir Ddinbych, neu Wynedd, Ynys Môn, ac ardal Parc Cenedlaethol Eryri, ac mae cyfyngiadau polisi cenedlaethol ar yr awdurdodau hyn o ran gweithfeydd mwynau o fewn y Parc Cenedlaethol ac Ardaloedd o Harddwch Eithriadol, a chyfyngiadau yn sgil lleoliad daearyddol mwynau.

6.8.5 Mae absenoldeb adnoddau tywod a graean digyfyngiad masnachol hyfyw yng Nghonwy, yn bennaf oherwydd eu bod wedi eu lleoli mewn ardaloedd lle mae perygl o lifogydd ar hyd y llain arfordirol a gwastadedd afonydd dyffryn Conwy, neu ddyddodion nentydd cul yr ucheldir, yn golygu bod unrhyw ddarpariaeth o dywod a graean y gallai fod eu hangen yng Nghonwy yn fwy tebygol o gael eu diwallu drwy ddosraniad o Wynedd. Gallai diffyg posibl agregau carreg wedi'i malu yng Ngwynedd olygu y bydd angen i Gonwy wneud darpariaeth. Rhoddir eglurhad o hyn unwaith y cyhoeddir yr RTS ac y cytunir ar unrhyw ddatganiadau tir cyffredin sydd eu hangen os bydd angen dyraniad neu ardal a ffefrir ar gyfer gweithfeydd agregau mwynol yn y dyfodol.

6.8.6 Bydd y polisi strategol yn gwneud darpariaeth i nodi ardaloedd i weithio arnynt yn y dyfodol y dylid eu gwarchod er mwyn osgoi sterileiddio adnoddau mwynol sy'n debyg o fod eu hangen yn ystod cyfnodau'r CDLl yn y dyfodol o ystyried fod yr agregau wrth gefn presennol yn asedau darfodol, ond yn cael eu cefnogi gan yr isadeiledd sydd eisoes yn bodoli ac yn elwa o fynediad at ddulliau cludiant cynaliadwy fel llongau a'r rheilffyrdd, neu fel arall yn agos at rwydwaith briffyrdd brifwythiennol Gwibffordd draws-Ewropeaidd yr A55(T).

(2) 6.8.7 Diogelu mwynau - Mae Llywodraeth Cymru yn gorchymyn fod angen diogelu tir sy'n cynnwys adnoddau i'w defnyddio gan genedlaethau'r dyfodol, ac yn rhoi sicrwydd polisi yn erbyn datblygiad a fyddai'n sterileiddio gwaith ar fwynau o'r fath heb fod angen. Mae Conwy'n cynnwys calchfaen Carbonifferaidd o ansawdd uchel yn rhedeg ar hyd y llain arfordirol o Abergele i'r Gogarth yn Llandudno, a gwenithfaen dïorit o ansawdd uchel ym Mhenmaenmawr. Bydd mwynau o fewn categorïau adnoddau 1 (Cynradd) a 2 (Eilaidd), sef yr adnoddau o'r ansawdd uchaf, yn cael eu diogelu. Nid ydym yn cynnig diogelu adnoddau categori 3 (Trydyddol) oherwydd y dosbarthiad mawr o adnoddau categori 1 a 2. Mae bodolaeth tywod a graean yn gyfyngedig iawn yng Nghonwy, ac naill ai wedi ei leoli ar y llain arfordirol tir isel a dyffryn a Moryd yr Afon Conwy, neu mewn dyffrynnoedd afonydd ynysig a phocedi o dywod rhewlifol mewn clai meini mawr a leolir yn yr ucheldiroedd. Oherwydd natur graddfa fechan neu gul llawer o'r dyddodion hyn, cynigir y dylid diogelu gwaddodion sy'n fwy na throthwy penodol o ran maint yn unig, gan, yn realistig, fod mwyafrif dyddodion o'r fath yn rhy fach o ran graddfa neu'n rhy ynysig i gyfiawnhau eu diogelu.

6.8.8

(1) Polisi Strategol SP/34Gwastraff

Bydd y Cyngor yn hwyluso rheoli cynaliadwy o ran gwastraff ac adfer adnoddau, gan gynnwys yr economi gylchol, i ddarparu buddion amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd drwy:

  1. Dyrannu tir sy'n addas ar gyfer datblygu cyfleusterau rheoli gwastraff ar gyfer defnydd rheoli gwastraff presennol ac i'r dyfodol.
  2. Hyrwyddo rheolaeth gwastraff ac adfer adnoddau yn unol â'r hierarchaeth gwastraff.
  3. Cefnogi cynigion ar gyfer cynnwys cyfleusterau rheoli gwastraff ac adennill adnoddau mewn safleoedd diwydiannol presennol a rhai a neilltuwyd sy'n addas at y defnydd bwriedig yn unol â'r asesiad addasrwydd ar sail meini prawf.
  4. Darparu ar gyfer mathau penodol o gyfleusterau rheoli ac adfer gwastraff y gallai fod angen eu lleoli'r tu allan i derfynau aneddiadau, fel tirlenwi, rhai mathau o ailgylchu a throsglwyddo, ynni o wastraff, treulwyr anaerobig a defnydd chwareli trefol.
  5. Hyrwyddo'r economi gylchol gyda phwyslais penodol ar leihau cynhyrchu gwastraff o fewn cynlluniau.
  6. Hyrwyddo rheoli gwastraff cynaliadwy mewn datblygiadau newydd i leihau cynhyrchiant gwastraff ac i gynyddu adferiad, ail-ddefnyddio ac ailgylchu'r gwastraff hynny a gynhyrchir yn ystod oes a defnydd datblygiad penodol.

Gwastraff

Mae newid sylweddol yn y modd y rheolir gwastraff a'r modd yr ailgylchir, ail-ddefnyddir ac y gostyngir y defnydd o adnoddau. Mae targedau ailgylchu yn dal i gael eu diwygio ac mae digwyddiadau byd-eang yn rhoi cyfle i ddatblygu economi gylchol i gadw adnoddau y gellir eu hailgylchu neu eu hailddefnyddio o fewn economi Cymru. Bu symudiad sylfaenol oddi wrth dirlenwi i fyny'r hierarchaeth wastraff ac mae angen polisïau i barhau i hyrwyddo hyn.

6.8.9 Cyflawni'r Amcan a'r Polisi Strategol

Sgil-gynhyrchion gwastraff - Mae nifer o adroddiadau monitro rhanbarthol wedi eu cyhoeddi ar gyfer gwastraff, sy'n dangos fod sgil-gynhyrchion gwastraff a gasglwyd gan yr awdurdodau lleol yn y Sir wedi dirywio ar y cyfan ers 2008 ac mae cyfraddau ailgylchu wedi codi ar y cyfan ac mae awdurdodau lleol Gogledd Cymru wedi cwrdd â thargedau cenedlaethol a osodir gan Lywodraeth Cymru. Mae Llywodraeth Cymru yn canolbwyntio'n gynyddol ar wella cyfraddau ailgylchu'r sector diwydiannol a masnachol. Y prif gasgliad hyd yma yw nad oes angen ychwanegol am allu gwaredu gwastraff gweddilliol terfynol yn y rhanbarth ac y dylid ystyried unrhyw ofyniad pellach am allu trin gwastraff gweddillol yn ofalus i sicrhau na fyddai'r cyfleuster yn arwain at orddarpariaeth.

6.8.10 Cyfleusterau Gwastraff Rhanbarthol - Mae nifer o gyfleusterau ar draws Cymru wedi cael eu datblygu mewn ymateb i hyn, gan gynnwys Parc Adfer yn Sir y Fflint, sy'n safle ynni o wastraff penodol ar gyfer trin gwastraff bwrdeistrefol gweddillol a'r cyfleuster Treulio Anaerobig yn Rhuallt, Sir Ddinbych, sy'n derbyn gwastraff bwyd y cartref, sy'n uniongyrchol berthnasol i Gonwy. Mae'r ddau gyfleuster wedi cael eu caffael i reoli gwastraff a gesglir gan Gyngor Conwy. Mae gan Parc Adfer hefyd allu i reoli rhywfaint o wastraff masnachol a diwydiannol, er y byddai'r swm y gellid ei reoli yn dibynnu ar ofynion yr Awdurdodau Partner. Mae hyn yn lleihau'r angen am ddewisiadau gwaredu terfynol ac yn cwrdd â'r gofynion ar gyfer cyfleusterau isadeiledd ar gyfer gwaredu a thrin gwastraff fel yr amlinellir yn y Cynllun Casgliadau, isadeiledd a Sector y Farchnad.

6.8.11 Safleoedd gwastraff lleol - Mae tir o fewn safle chwarel a thirlenwi Llanddulas yn cynnwys plot sy'n addas ar gyfer ystod o ddefnyddiau rheoli gwastraff. Dyrannwyd y safle yn CDLl presennol Conwy (2007-2022) ac mae'n cynnig y fantais o gyfleuster canolog, mewn lleoliad sy'n cynnig mynediad da i'r rwydwaith ffyrdd brifwythiennol. Yn sgil y lefel uchel o sgrinio gweledol a'i fod wedi ei gyfyngu o fewn gwagle chwarel, mae'r safle'n addas ar gyfer trosglwyddo, storio, prosesu a thrin, ac yn cynnig cwmpas ar gyfer datblygu chwarel Drefol ar gyfer gwastraff adeiladu a dymchwel. Gan fod hwn wedi ei diffinio fel safle lleol yn hytrach nac un strategol, bydd yn cael ei ddatblygu ymhellach ar y cam CDLl Newydd i'w Archwilio gan y Cyhoedd.

6.8.12 Bydd angen safleoedd addas ar gyfer cyfleusterau prosesu a thrin ar gyfer ailgylchu deunyddiau gwastraff ynghyd ag ystod amrywiol o weithgareddau rheoli gwastraff ar gyfer sortio, gwahanu, ailgylchu, ailddefnyddio, prosesu a thrin gwastraff. Mae canran sylweddol o'r rhain yn addas i'w lleoli o fewn dyraniadau tir cyflogaeth presennol, a chynhelir ymagwedd bolisi hyblyg yn unol â'r polisi cyfredol ar gyflogaeth. Dylid gweithredu'r meini prawf i sicrhau nad yw cyfleusterau rheoli gwastraff yn cyfaddawdu defnyddiau cyfagos presennol, a bydd safleoedd cyflogaeth yn cael eu nodi sy'n addas ar gyfer y defnyddiau rheoli gwastraff sy'n fwy tebyg o arwain at wrthdaro amwynder.

6.8.13 Mae Llywodraeth Cymru yn rhoi pwyslais cynyddol ar yr Economi Gylchol ac mae angen newidiadau i gynnal gwerth adnoddau diwedd oes yng Nghymru sy'n gallu cynnig manteision economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a chludiant, a boed hyn i hwyluso ailgylchu ac adfer rhwydd ar adnoddau diwedd defnydd, i gynllunio dyfodol heb wastraff a gwneud y defnydd mwyaf cynaliadwy posibl o adnoddau ym mhob datblygiad, neu ddarparu lleoliadau addas i gynorthwyo ailgylchu a chynlluniau ailbrosesu, bydd angen i bolisïau hyrwyddo'r amcanion hyn.

Am gyfarwyddiadau ar sut I ddefnyddio’r system ac I wneud sylwadau, gwelwch ein canllaw cymorth.
back to top Yn ôl i’r brig