CDLlN Cynllun i’w archwilio gan y cyhoedd 2018-2033
5. Fframwaith y polisi Creu Lleoedd Sylw
5.1 Dull Sylw
5.1.1 Cyfrannir at leoedd cynaliadwy a lles gwell yn ardal CDLlN Conwy mewn modd cadarnhaol trwy fframwaith y polisi creu lleoedd. Mae fframwaith y polisi creu lleoedd yn cynnwys pedair thema strategol a gefnogir gan bolisïau creu lleoedd strategol trosfwaol a pholisïau rheoli datblygu, sy’n cydweithio i ddarparu’r fframwaith gofodol sy’n cynnwys gweledigaeth, amcanion a strategaeth twf a dosbarthu’r cynllun. Sylw
5.1.2 Mae Polisi Cynllunio Cymru yn diffinio creu lleoedd fel a ganlyn: Sylw
“Ffordd holistig o fynd ati i gynllunio a dylunio datblygiadau a lleoedd yw “creu lleoedd”, sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau positif. Mae’n tynnu ar botensial ardal i greu datblygiadau a mannau cyhoeddus o ansawdd uchel sy’n hyrwyddo ffyniant, iechyd, hapusrwydd a llesiant pobl yn eu hystyr ehangaf. Sylw
Mae “creu lleoedd” yn ystyried y cyd-destun, y swyddogaeth a’r berthynas rhwng safle’r datblygiad a’i gyffiniau, hynny yn achos datblygiadau mawr sy’n creu lleoedd newydd yn ogystal â datblygiadau bach sy’n cael eu creu mewn lle ehangach. Sylw
Ni ddylai “creu lleoedd” ychwanegu at gostau datblygiad ond rhaid wrth feddwl clyfar, amlddimensiwn ac arloesol a’i ystyried cyn gynhared yn y broses â phosib. Mae “creu lleoedd” yn ychwanegu gwerth cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol at y datblygiad gan arwain at fuddiannau sy’n fwy na’r ffisegol a chryfhau penderfyniadau cynllunio.” Sylw
5.1.3 Mae angen rhoi ystyriaeth ar y cyd i faterion creu lleoedd o’r cychwyn er mwyn sicrhau creu lleoedd mewn modd strategol ac effeithiol. Mae Fframwaith Gofodol y CDLlN yn darparu dull trosfwaol i ategu holl rannau eraill CDLlN Conwy, sydd wedi’u llunio er mwyn creu’r amodau cywir i fynd i’r afael â’r amryw ganlyniadau cymdeithasol, diwylliannol, amgylcheddol ac economaidd. Mae’r adran ganlynol yn nodi Fframwaith y Polisi Creu Lleoedd ar gyfer y pedair thema thematig: Sylw
- Thema strategol 1: dewisiadau strategol a gofodol yng Nghonwy
- Thema Strategol 2: lleoedd iach a chymdeithasol yng Nghonwy
- Thema Strategol 3: lleoedd ffyniannus yng Nghonwy
- Thema Strategol 4: lleoedd naturiol a diwylliannol yng Nghonwy
5.1.4 Fel gyda rhannau eraill o’r CDLlN, mae’r holl bolisïau yn gyflenwol o ran cefnogi cyflawni’r Nodau Lles cenedlaethol, Amcanion Lles lleol a datblygiad cynaliadwy. Felly mae cysylltiadau rhwng pob polisi a nodau lles perthnasol wedi’u nodi (gweler Atodiad 2) ac mae’r holl bolisïau wedi bod yn destun Arfarniad Cynaliadwyedd, gan gynnwys Asesiad Amgylcheddol Strategol. Sylw
5.1.5 Mae holl bolisïau'r CDLlN yn rhyng-gysylltiedig o ran eu natur ac mae angen eu darllen ochr yn ochr â’i gilydd er mwyn cael dealltwriaeth o gyfeiriad cyffredinol y CDLlN. Mae pob adran yn amlygu’r amcan(ion) perthnasol ac mae’n cynnwys polisi strategol trosfwaol, polisïau rheoli datblygu a chyfiawnhad ategol. Bwriedir i’r polisïau sicrhau bod cynigion datblygu’n darparu Fframwaith Gofodol (adrannau 2-4) y cynllun, canlyniadau economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol cadarnhaol a chyfrannu mewn modd cadarnhaol at greu lleoedd, lleoedd cynaliadwy a lles gwell yn ardal CDLlNConwy. Byddan nhw’n ffurfio sail pob penderfyniad cynllunio, ac mae dangosyddion wedi’u datblygu fel rhan o fframwaith monitro’r cynllun er mwyn dangos effeithiolrwydd y polisïau. Sylw
5.1.6 Nodwyd cyfres o bolisïau strategol yn Strategaeth a Ffefrir y CDLlN. Mae’r rhain wedi’u haddasu er mwyn rhoi ystyriaeth i sylwadau a ddaw i law, adborth gan fudd-ddeiliaid, tystiolaeth newydd, newidiadau o ran polisi cenedlaethol ac wedi’u hymestyn er mwyn darparu ar gyfer fframwaith polisi creu lleoedd mwy cynhwysfawr ar gyfer ardal cynllun Conwy. Sylw
5.2 Thema strategol 1: dewisiadau strategol a gofodol yng Nghonwy Sylw
Cyflwyniad Sylw
5.2.1 Mae’r CDLlN wedi’i ffurfio yn dilyn ystyried y materion creu lleoedd strategol sy’n effeithio ar ardal CDLlN Conwy. Mae’r adran hon o’r CDLlN yn canolbwyntio ar y polisïau creu lleoedd strategol hynny a fydd yn cael yr effaith fwyaf ar y math o ddatblygiad a gaiff ei gyflawni yn y pen draw a’i gyfraniad at ddatblygu cynaliadwy a lles amgylcheddol, cymdeithasol, diwylliannol ac economaidd Conwy. Mae’r adran hon yn hyrwyddo polisïau integredig na ddylid eu hystyried ar eu pennau eu hunain yn ystod y broses ddatblygu. Mae hyn yn cynnwys ystyried dyluniad datblygiad a’i effeithiau ar fywydau bob dydd yn ogystal â meddwl yn gyfannol am y mannau lle gall pobl fyw a gweithio a pha ardaloedd y dylid eu diogelu. Mae’r adran hon yn darparu’r weledigaeth strategol a lleol wahanol ar gyfer creu lleoedd mewn modd cynaliadwy, gan gynnwys nodi safleoedd datblygu allweddol er mwyn cyflawni’r Fframwaith Gofodol (adrannau 2-4). Mae’r adran Dewisiadau Strategol a Gofodol yn cynnwys y polisïau canlynol: Sylw
PL/1 creu lleoedd cynaliadwy
PL/2 strategaeth tai cynaliadwy
PL/3 strategaeth economaidd gynaliadwy
PL/4 dosbarthiad twf a hierarchaeth aneddiadau
PL/5 creu lleoedd a dylunio da
PL/6 hyrwyddo lleoedd iachach
PL/7 yr iaith Gymraeg
PL/8 rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy
PL/9 creu lleoedd mewn ardaloedd gwledig
PL/10 addasiadau gwledig
PL/11 Cynlluniau Creu Lleoedd a Chynlluniau Bro
PL/12 datblygiad, isadeiledd a rhwymedigaethau cynllunio newydd
PL/13 datblygiad newydd a hyfywedd
PL/14 rheoli ffurf anheddiad
PL/15 Ardal Wella’r Dwyrain
PL/16 creu lleoedd a safleoedd
PL/17 safle 157 Caeffynnon, Llanfairfechan - safle tai ac addysg defnydd cymysg
PL/18 safle 91 Pentywyn Road, Deganwy / Llanrhos - safle tai
PL/19 safle 68, safle tai Fferm Peulwys, Hen Golwyn
PL/20 safle 56, Penloyn, Llanrwst - safle tai
PL/21 safle 203, safle tai Queens Road, Llandudno
PL/22 safle 115, safle cyflogaeth ac ynni adnewyddadwy Chwarel Llanddulas
PL/23 safle 103 cyflogaeth Bryniau, Llandudno
PL/24 safle 206 Nant y Coed, Cyffordd Llandudno - safle tai
PL/25 safle 132 Dinerth Road, Llandrillo-yn-Rhos - safle tai
5.2.2 Mae pob polisi yn yr adran hon yn ymwneud â SO1. Felly nid yw’r amcan wedi’i ailadrodd trwy’r adran. Sylw
Creu lleoedd cynaliadwy Sylw
SO1: Cyfrannu at greu mannau cynaliadwy, cynhwysiant cymdeithasol a lles gwell yn gyffredinol yng Nghonwy drwy ddarparu proses creu lleoedd ac adfywio cynhwysol sy’n sicrhau bod lefelau twf yn y dyfodol a datblygiad yn digwydd mewn lleoliadau cynaliadwy a hygyrch, yn ceisio hyrwyddo dyluniad da a lleoedd mwy iach, yn diogelu’r Gymraeg a’i hanes a hybu ei defnydd ac yn cael ei gefnogi gan yr isadeiledd cymdeithasol, amgylcheddol, diwylliannol ac economaidd angenrheidiol i gynnal lleoedd gwych a chreu rhai newydd. Sylw
PL/1 creu lleoedd cynaliadwy Sylw
- Mae’n rhaid i bob cynnig datblygu (heb gynnwys ceisiadau gan ddeiliaid tai) gyfrannu at greu lleoedd deniadol, cynaliadwy o ansawdd uchel sy’n cefnogi ffyrdd o fyw actif ac iach a gwella’r gymuned maen nhw ynddi trwy ddangos:
- aliniad â’r canlyniadau creu lleoedd cynaliadwy cenedlaethol, amcanion cenedlaethol dyluniad da, Siarter Creu Lleoedd Cymru a’r egwyddorion cynllunio allweddol cenedlaethol; a,
- dull cynaliadwy o ran creu lleoedd o ran lleoliad, dyluniad,adeiladu a gweithredu’r datblygiad.
- Mae’n rhaid i bob cais cynllunio (heb gynnwys ceisiadau gan ddeiliaid tai) gael ei gefnogi trwy gyflwyno gwybodaeth dylunio a thechnegol ofynnol er mwyn dangos cydymffurfiaeth â’r meini prawf canlynol:
- Diogelu’r amgylchedd yn well a lleihau effaith amgylcheddol trwy:
- Ddiogelu a gwella bioamrywiaeth, ecosystemau, trefluniau, seinweddau a thirluniau (dylid dilyn fframwaith DECCA a dull fesul cam);
- Hyrwyddo isadeiledd gwyrdd;
- Lleihau risgiau amgylcheddol;
- Rheoli adnoddau dŵr yn naturiol;
- Hyrwyddo aer glân a lleihau llygredd;
- Hyrwyddo gwydnwch yn erbyn newid hinsawdd;
- Creu amgylcheddau arbennig a gwahanol;
- Cynnwys dulliau i sicrhau nad oes halogiad yn y safle (gan gynnwys rhywogaethau goresgynnol); a
- Mabwysiadu egwyddorion economi gylchol.
- Hwyluso amgylcheddau hygyrch ac iach trwy:
- Hyrwyddo iechyd a lles corfforol a meddyliol;
- Darparu cyswllt â mannau gwyrdd presennol hygyrch o ansawdd uchel, yn unol ag adran amgylchedd naturiol y CDLlN.
- Annog pobl i beidio dibynnu ar geir, trwy gynyddu cyfleoedd ar gyfer teithio llesol, defnyddio mwy o gludiant cyhoeddus a chysylltiadau yn y safle a thu hwnt er mwyn sicrhau mynediad effeithlon a cyfartal i bawb.
- Cynyddu cyfleoedd i ddylunio isadeiledd cerbydau trydan;
- Darparu cymunedau diogel, cynaliadwy, cynhwysol a hygyrch i bawb; a
- Darparu mynediad i wasanaethau a chyfleusterau allweddol.
- Gwneud y defnydd gorau o’r adnoddau trwy:
- Ddefnyddio adnoddau naturiol yn effeithlon;
- Hybu rheoli gwastraff cynaliadwy;
- Blaenoriaethu defnydd tir a ddatblygwyd eisoes ac adeiladau presennol;
- Datgloi potensial, adfywio a denu buddsoddiad i greu cymunedau gwydn; a
- Hybu dyluniad da o ansawdd uchel a datblygiadau cynaliadwy.
- Tyfu economi’r Sir mewn modd cynaliadwy trwy:
- Feithrin gweithgarwch economaidd sy’n croesawu technoleg a chyfathrebu deallus ac arloesol, gan gynnwys darparu isadeiledd digidol cyflym o’r cychwyn;
- Lleihau newid hinsawdd a hybu effeithlonrwydd ac ynni adnewyddadwy; a
- Hybu amgylcheddau ffyniannus a deinamig sy’n gallu addasu i newid.
- Creu a chynnal cymunedau trwy:
- Elluogi’r Gymraeg i ffynnu trwy hybu, gwella a lle bo angen, lliniaru;
- Sicrhau dwysedd datblygu priodol;
- Sicrhau bod cartrefi a swyddi ar gael i ddiwallu anghenion Conwy;
- Hybu cymysgedd o ddefnydd tir lle bo’n briodol;
- Cynnig profiadau diwylliannol;
- Sicrhau a diogelu cyfleusterau a gwasanaethau yn y gymuned yn unol ag adran cyfleusterau a gwasanaethau cymunedol y CDLlN;
- Lleihau cyfleoedd i gyflawni neu gynyddu troseddau, wrth hybu diogelwch cymunedol yn unol ag egwyddorion Diogelu drwy Ddylunio; a
- Chyfrannu’n briodol at isadeiledd lleol, ffisegol, cymdeithasol a chymunedol y mae’r datblygiad yn effeithio arno
- Diogelu’r amgylchedd yn well a lleihau effaith amgylcheddol trwy:
- Os oes amgylchiadau eithriadol sy’n golygu na all y cynnig gydymffurfio â’r meini prawf uchod, mae’n rhaid i’r ymgeisydd ddarparu cyfiawnhad cryf dros hyn.
- Mae’n rhaid i gynigion ar gyfer 10 neu fwy o unedau preswyl yn Ardal Strategaeth Datblygu’r Arfordir (CDSA) (fel a ddiffinnir yn y Fframwaith Gofodol) a’r Ganolfan Gwasanaeth Allweddol (PL/4), neu 5 neu fwy mewn rhannau eraill o’r Ardal Strategaeth Datblygu Gwledig (RDSA) (fel a ddiffinnir yn y Fframwaith Gofodol), neu 0.1 hectar o dir ar gyfer pob cynnig datblygu arall gael eu datblygu yn unol â pholisi PL/16 a pholisïau dyrannu sy’n benodol i safleoedd lle bo’n berthnasol (PL/17-25).
5.2.3 Yr hyn a olygir wrth ddatblygu cynaliadwy yw’r broses o wella lles economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol trwy weithredu, yn unol ag egwyddorion creu lleoedd cynaliadwy LlC, â’r nod o geisio cyflawni eu nodau lles a dyheadau blaenoriaethol CDLlN Conwy a fframwaith Cymru’r Dyfodol: y Cynllun Cenedlaethol 2040. Y ffordd fwyaf priodol o weithredu’r gofynion hyn trwy’r system gynllunio yw trwy fabwysiadu dull creu lleoedd cryf yn CDLlN Conwy. Sylw
5.2.4 Mae creu lleoedd cynaliadwy yn broses gynhwysol, sy’n cynnwys pawb sydd â budd proffesiynol neu bersonol yn yr amgylchedd adeiledig a naturiol, ac sy’n canolbwyntio ar ddarparu datblygiadau sy’n cyfrannu at greu a gwella lleoedd cynaliadwy yn ardal CDLlN Conwy. Mae creu lleoedd yn digwydd ar bob lefel mewn penderfyniadau datblygu ac mae’n cynnwys ystyriaethau ar raddfa fyd-eang, gan gynnwys newid hinsawdd, i’r lefel leol iawn, fel ystyried yr effaith ar amwynder eiddo cyfagos a phobl. Sylw
5.2.5 Dylai’r system gynllunio greu lleoedd cynaliadwy, sy’n ddeniadol, cymdeithasol, hygyrch, actif, diogel, croesawgar, iach a chyfeillgar. Dylai lleoedd cynaliadwy fod yn lleoedd hyfyw i fyw a gweithio ynddynt. Dylai cynigion datblygu greu’r amodau i ddod â phobl at ei gilydd, gan greu awydd i fyw, gweithio a chwarae mewn ardaloedd sydd ag ymdeimlad o le a lles, gan greu ffyniant i bawb. Mae polisi PL/1 y CDLlN yn nodi’r prif ffyrdd y disgwylir i gynigion datblygu ddangos eu bod yn darparu lles economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol ac felly’n cyfrannu at ddatblygu cynaliadwy. Sylw
5.2.6 Mae gweithredu yn unol â’r egwyddorion creu lleoedd cynaliadwy yn golygu bod yn rhaid i’r cynigion weithredu mewn ffordd sy’n ceisio sicrhau bod anghenion presennol yn cael eu diwallu heb gyfaddawdu gallu cenedlaethau’r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion eu hunain. Felly, mae’n rhaid i unrhyw un sy’n ymwneud â’r system gynllunio yn ardal y CDLlN, neu sy’n gweithredu oddi mewn iddi, groesawu cysyniad creu lleoedd cynaliadwy er mwyn cyflawni creu lleoedd cynaliadwy a gwella lles ein cymunedau. Sylw
5.2.7 Bydd gweithredu dull creu lleoedd strategol Cymru’r Dyfodol, a’i egwyddorion, yn sicrhau bod datblygu yn cyfrannu’n gadarnhaol at greu lleoedd cynaliadwy sy’n cefnogi ffyrdd o fyw actif ac iach, gyda chymdogaethau trefol sy’n gryno ac mae modd cerdded ynddynt, wedi’u trefnu o gwmpas canolfannau defnydd cymysg a chludiant cyhoeddus, ac wedi’u hintegreiddio gydag isadeiledd gwyrdd. Mae’r Cyngor yr un mor ymrwymedig i Siarter Creu Lleoedd Cymru a datblygu lleoedd o ansawdd uchel er budd cymunedau. Mae’r Siarter yn amlinellu chwe egwyddor creu lleoedd (pobl a chymuned, symudiad, parth cyhoeddus, lleoliad, cymysgedd o ddefnydd a hunaniaeth) sy’n cwmpasu’r amrywiaeth o ystyriaethau sy’n cyfrannu at sefydlu a chynnal a chadw lleoedd da. Mae’r egwyddorion hyn wedi llywio’r CDLlN ac wedi’u cynnwys ynddo. Mae polisi PL/1 yn cynnwys y meini prawf angenrheidiol i gyfrannu’n gadarnhaol at yr egwyddorion hyn, y dylid eu gweithredu ochr yn ochr ag egwyddorion dylunio da (polisi PL/5) a hybu lleoedd mwy iach (polisi PL/5). Sylw
5.2.8 Mae polisi PL/1 yn cynrychioli'r man cychwyn ar gyfer asesu pob cais cynllunio a ddaw i law’r ACLl. Mae pob un o’r meini prawf yn berthnasol i faterion manwl a gaiff sylw pellach ym mholisïau eraill y CDLlN. Caiff pob cynnig datblygu ei asesu i sicrhau y bydd yn gwneud cyfraniad cadarnhaol at gryfhau hunaniaeth leol, cyflawni cymunedau cynaliadwy, annog ffordd fwy cynaliadwy o fyw a hyrwyddo cydlyniant cymunedol ac ymgysylltiad. Sylw
5.2.9 Nod y polisi hwn yn hybu cysylltedd i bawb trwy gynyddu cyfleoedd ar gyfer teithio llesol. Gall datblygiadau wedi’u cysylltu’n dda hybu gwella iechyd a lles trwy annog pobl i fabwysiadu ffyrdd o fyw mwy iach ac actif, wrth gyfrannu at greu lleoedd cynaliadwy hefyd. Sylw
5.2.10 Mae rhwydwaith isadeiledd gwyrdd yn darparu gwerth amwynder pwysig yn ogystal â buddion iechyd a lles. Felly bydd y CDLlN yn ceisio integreiddio llwybrau teithio llesol a rhwydweithiau isadeiledd gwyrdd, lle bo’n briodol, i greu amgylcheddau o ansawdd uchel sy’n annog ffyrdd o fyw actif a hyrwyddo lles. Sylw
5.2.11 Mae ceisiadau gan ddeiliaid tai yn cael eu heithrio rhag cyflawni’r meini prawf a nodir yn y polisi hwn. Bydd manylion ac eithriadau pellach, gan gynnwys manylion amgylchiadau eithriadol ym mhwynt 3, yn cael eu darparu yn y CCA. Sylw
5.2.12 Ni fydd modd i bob cynnig datblygu ddangos eu bod yn gallu bodloni pob un o’r canlyniadau hyn. Fodd bynnag, nid yw hyn yn golygu na ddylid eu hystyried yn y broses rheoli datblygu er mwyn gweld a ellir gwella cynnig er mwyn hyrwyddo lles ehangach. Cyfrifoldeb datblygwyr yw nodi’r cyfleoedd hyn a gweithredu arnynt. Mae cysylltiadau â pholisïau a dulliau mwy penodol a ddefnyddir i asesu a gaiff meini prawf PL/1 eu bodloni wedi’u nodi yn nhestun y polisi sy’n ymwneud â phob adran strategol o’r CDLlN. Sylw
5.2.13 Mae’n rhaid i ddyraniadau safle a chynigion strategol baratoi a chyflwyno Datganiad Cydymffurfio Creu Lleoedd yn unol â pholisi PL/16, polisïau safle PL/17 i PL/25 a pholisïau creu lleoedd perthnasol eraill a nodir yn y cynllun. Argymhellir ymgysylltiad cynnar â’r ACLl wrth baratoi cynllun a’r datganiad sy’n cyd-fynd. Bydd CCA yn cael ei baratoi i nodi canllawiau i ddatblygwyr o ran sicrhau bod cynlluniau’n gynaliadwy a’u bod yn cydymffurfio â pholisi PL/1. Bydd y CCA yn cwmpasu canllawiau ychwanegol i gefnogi polisïau PL/5 a PL/6 hefyd. Sylw
Strategaeth tai cynaliadwy Sylw
PL/2 strategaeth tai cynaliadwy Sylw
- Dros gyfnod 2018 i 2033, bydd yr ACLl yn cynllunio, monitro a rheoli darpariaeth oddeutu 3,600 o gartrefi newydd (240 o gartrefi newydd bob blwyddyn ar gyfartaledd). Mae yna lwfans wrth gefn o 20%, sy’n golygu y cynllunnir ar gyfer 4,300 o gartrefi newydd drwy gwblhau datblygiadau, drwy ymrwymiadau, hap-safleoedd a dyraniadau newydd dros gyfnod y cynllun.
- Mae’n rhaid i dai newydd gael eu datblygu yn unol â’r strategaeth dosbarthu gofodol a’u dosbarthu fel a ganlyn:
- CDSA:
- Y Gorllewin: 10%
- Creuddyn: 30%
- Y Canol: 35%
- Dwyrain: 15%
- RDSA: 10%
- CDSA:
- Bydd y dull cynaliadwy yn:
- Blaenoriaethu tir a ddatblygwyd eisoes mewn lleoliadau priodol yn unol â pholisïau CDLlN eraill ac ystyriaethau materol.
- Dyrannu safleoedd preswyl mewn lleoliadau cynaliadwy yn ein hardaloedd trefol presennol a’r Ganolfan Gwasanaeth Allweddol.
- Hyrwyddo hap-safleoedd preswyl priodol o fewn ffiniau aneddiadau presennol.
- Galluogi darparu safleoedd eithriedig tai fforddiadwy.
- Ceisio lefelau priodol o gartrefi newydd yn yr aneddiadau gwledig, gyda chyfyngiadau angen lleol lle caiff hynny ei gyfiawnhau, er mwyn cefnogi cymunedau cynaliadwy a’r Gymraeg.
- Cefnogi cymunedau i ddarparu safleoedd ar gyfer cartrefi newydd fel a nodir yn eu Cynlluniau Bro.
- Darparu ar gyfer anghenion tai penodol, gan gynnwys llety sy’n briodol i bobl hŷn neu bobl ag anghenion gofal.
- Nod y cynllun yw darparu o leiaf 1,760 o dai fforddiadwy dros gyfnod y cynllun trwy:
- Ddyrannu safleoedd a arweinir gan dai fforddiadwy.
- Gosod targedau ar gyfer darparu tai fforddiadwy ar safleoedd preswyl.
- Gweithio’n rhagweithiol gyda Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig i ddarparu hap-safleoedd ar gyfer tai fforddiadwy, yn cynnwys safleoedd canol tref priodol a safleoedd eithriedig tai fforddiadwy.
5.2.14 Mae’r strategaeth tai fforddiadwy yn mynd i’r afael â’r angen a nodwyd am dai ar gyfer ardal y cynllun trwy sicrhau cyflenwad o dir ar gyfer cyfanswm o 4,300 o gartrefi newydd. Dangosir y gallu i ddarparu’r strategaeth tai fforddiadwy hon trwy daflwybr tai yn yr adran dai. Mae’r targed hwn yn unol â’r angen a nodir yn Papur Cefndir 1: Adroddiad Opsiynau Lefel Twf. Caiff ei ddylanwadu gan senario demograffig sy’n cynnwys tybiaethau mudo ar sail swyddi lleol ac o ganlyniad i’r anghenion sy’n gysylltiedig â Bargen Dwf Gogledd Cymru. Mae’n arwain at ofyniad blynyddol ychydig uwch ar gyfer anheddau na man cychwyn prif amcanestyniad Llywodraeth Cymru. Mae’n adlewyrchu’r materion blaenoriaethol a’r sylfaen dystiolaeth gefndirol, yn enwedig angen i gyfrannu at strwythur oedran mwy cytbwys, lefelau cymudo allan is, hybu cymunedau cynaliadwy, gan gynnwys y Gymraeg a darparu ar gyfer angen uchel am dai fforddiadwy. Mae’n dod â chydbwysedd cynaliadwy rhwng tai, cyfleusterau cymunedol, gwasanaethau a chyfleoedd cyflogaeth mewn ardaloedd trefol a gwledig. Sylw
5.2.15 Mae’r gofyniad o ran anheddau yn cynnwys lwfans o 8.9% o dai gwag er mwyn caniatáu ar gyfer newidiadau yn y farchnad dai ac mae’n uwch na’r cyfartaledd cenedlaethol er mwyn adlewyrchu lefelau uwch o ail gartrefi a llety gwyliau yn yr ardal leol. Mae polisi HS/10 yn darparu’r fframwaith er mwyn rheoli lefelau ail gartrefi a llety gwyliau, er mwyn galluogi gweithredu Cyfarwyddyd Erthygl 4, pe bai tystiolaeth yn dangos bod ei angen. Caiff cyflenwad tebygol tai y rhagwelir y cânt eu darparu yn ardal Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri y Fwrdeistref Sirol a chapasiti’r diwydiant adeiladu tai eu hystyried hefyd. Sylw
5.2.16 Mae’r strategaeth yn arwain adeiladu’r rhain yn y mannau cywir a sicrhau eu bod o’r math cywir i gynyddu’r cyfraniad tuag at ddarparu cymunedau cynaliadwy a thai fforddiadwy. Mae’r dosbarthiad gofodol yn canolbwyntio twf ar is-ardaloedd Creuddyn a’r Canol, lle mae’r aneddiadau mwyaf, wrth adlewyrchu cyfyngiadau ffisegol hefyd fel risg llifogydd yn is-ardal y Dwyrain. Mae’r dosbarthiad hwn yn unol â fframwaith Cymru’r Dyfodol hefyd, sy’n nodi Llandudno a Bae Colwyn fel ardaloedd twf rhanbarthol ar gyfer gogledd Cymru. Sylw
5.2.17 Mae’r tabl isod yn dangos sut mae gwahanol elfennau o ran cyflenwad yn ffurfio cyfanswm darpariaeth y cynllun a sut y byddant yn cael eu dosbarthu’n ofodol Sylw
Ffigur 12: tabl yn dangos cyflenwad tai a dosbarthiad gofodol Sylw
|
Cydrannau o gyflenwad tai |
Y Gorllewin |
Y Creuddyn |
Y Canol |
Y Dwyrain |
Gwledig |
Cyfanswm |
|
Cyfanswm a gwblhawyd (bach a mawr) |
84 |
476 |
442 |
373 |
51 |
1,426 |
|
Unedau’n cael eu hadeiladu |
42 |
167 |
100 |
66 |
- |
375 |
|
Unedau gyda chaniatâd cynllunio |
16 |
84 |
163 |
174 |
14 |
451 |
|
Dyraniadau tai newydd |
201 |
412 |
328 |
277 |
100 |
1,318 |
|
Hap-safleoedd mawr (10+) |
34 |
72 |
165 |
- |
- |
271 |
|
Hap-safleoedd bach (<10) |
41 |
124 |
166 |
46 |
81 |
458 |
|
Cyfanswm darpariaeth tai |
418 |
1,335 |
1,364 |
936 |
246 |
4,300 |
Sylwch: Mae’n bosibl na fydd y niferoedd yn symio gan eu bod wedi’u talgrynnu. Ffynhonnell: SPPS, CBSC Sylw
5.2.18 Mae’r Asesiad newydd o’r Farchnad Dai Leol 2022-37 (Papur Cefndir 09) yn nodi angen sylweddol am dai fforddiadwy ar draws pob rhan o ardal y cynllun, ac roedd yr anghenion mwyaf yn is-ardaloedd Creuddyn a’r Canol. Mae hyn yn cyd-fynd â’r ardaloedd twf mwyaf a nodwyd yn fframwaith gofodol y CDLlN, sydd hefyd yn ceisio cynyddu darpariaeth tai fforddiadwy a chyfeirio datlygiad tuag at ein haneddiadau â’r lefelau uchaf o ran angen ynghyd â hyrwyddo twf cyflogaeth. Sylw
5.2.19 Mae’r strategaeth tai cynaliadwy hon yn chwarae rôl allweddol wrth fynd i’r afael â’r diffyg hwn o ran tai fforddiadwy. Fodd bynnag, mae’n rhaid cydnabod nad y CDLlN yw’r unig ffordd o fynd i’r afael â’r angen hwn. Blaenoriaeth allweddol o strategaeth tai fforddiadwy’r CDLlN yw cynyddu darpariaeth tai fforddiadwy ar y safle. Cydnabyddir nad adeiladu cartrefi newydd yn unig yw’r ateb ar gyfer yr angen gros am dai fforddiadwy. Bydd defnyddio’r stoc tai presennol yn briodol yn rhan allweddol o ddarparu’r angen hwn a nodwyd. Mae dull cydgysylltiedig â Strategaeth Tai Lleol Conwy, sy’n gweithio ochr yn ochr â’r CDLlN, yn hanfodol ar gyfer diwallu’r angen hwn. Mae’r cynllun yn gosod isafswm targed o ddarparu 1,760 o gartrefi fforddiadwy newydd yn ystod cyfnod y cynllun, fel a nodir yn Papur Cefndir 11 Tai Fforddiadwy i Ymateb i Anghenion y Gymuned Leol. Mae’r targed hwn yn adlewyrchu’r gallu i gyflawni strategaeth tai fforddiadwy y CDLlN, ac mae’n seiliedig ar y rhagdybiaeth y bydd cymhorthdal cyhoeddus, fel y Grant Tai Cymdeithasol yn dal i fod ar gael. Mae’r tabl isod yn dangos cyfanswm darpariaeth y tai fforddiadwy ar gyfer cyfnod y cynllu Sylw
Ffigur 13: tabl yn dangos darpariaeth tai fforddiadwy (2018-33) Sylw
|
Cydrannau o gyflenwad tai |
Y Gorllewin |
Y Creuddyn |
Y Canol |
Y Dwyrain |
Gwledig |
Cyfanswm |
|
Cyfanswm a gwblhawyd (bach a mawr) |
15 |
150 |
110 |
120 |
35 |
430 |
|
Unedau’n cael eu hadeiladu |
5 |
115 |
55 |
45 |
0 |
215 |
|
Unedau gyda chaniatâd cynllunio |
20 |
20 |
120 |
130 |
15 |
300 |
|
Dyraniadau tai newydd |
85 |
210 |
230 |
110 |
50 |
680 |
|
Hap-safleoedd mawr (10+) |
15 |
35 |
35 |
0 |
0 |
85 |
|
Hap-safleoedd bach (<10) |
0 |
0 |
25 |
0 |
25 |
50 |
|
Cyfanswm darpariaeth tai |
135 |
530 |
570 |
405 |
120 |
1,760 |
Sylwch: Mae’n bosibl na fydd y niferoedd yn symio gan eu bod wedi’u talgrynn Sylw
Ffynhonnell:SPPS,CBSC
5.2.20 Felly, bydd y CDLlN yn cyfrannu’n sylweddol at ddarpariaeth tai fforddiadwy. Rhagwelir y gallai rhagor o dai fforddiadwy gael eu darparu trwy dduliau polisi CDLlN, gan gynnwys safleoedd eithriedig tai fforddiadwy ac ailddatblygu canol trefi. Bydd angen systemau eraill, sy’n dod y tu allan i gylch gwaith y CDLlN er mwyn darparu’r angen sy’n weddill am dai fforddiadwy, fel dod â chartrefi gwag yn ôl i ddefnydd, ailgyflunio stoc fforddiadwy presennol, cynlluniau prydlesu ac eiddo rhent preifat (gweler Papur Cefndir 11 am fanylion). Sylw
5.2.21 Mae’n rhaid datblygu safleoedd mewn modd cynhwysfawr i sicrhau bod yr holl ofynion o ran isadeiledd, rhwymedigaethau cynllunio a chreu lleoedd yn cael eu cyflawni, gan gynnwys unrhyw fesurau lliniaru. Ni chaiff ceisiadau tameidiog neu fratiog eu cefnogi, oni bai bod yr ymgeisydd yn gallu dangos bod modd darparu’r pecyn llawn o ofynion, ac na fydd y cynnig yn atal gweddill y safle rhag cael ei ddatblygu. Sylw
5.2.22 Mae lwfans Arian At Raid o 20% wedi’i gynnwys i ganiatáu ar gyfer dewis, hyblygrwydd ac adnewyddu’r stoc presennol ac ar gyfer achosion pan na fydd unrhyw un yn cymryd safleoedd. Pe bai darpariaeth cartrefi newydd yn bodloni’r gofyniad a nodir yn y CDLlN cyn diwedd cyfnod y cynllun, cymerir camau i reoli hyn. Caiff hyn ei lywio trwy’r Adroddiad Monitro Blynyddol a thaflwybr tai y CDLlN. Gallai camau gynnwys cyfyngu ar ddarparu safleoedd tir glas i fod yn safleoedd fforddiadwy 100%, pan fo angen yn yr rhan honno o’r farchnad dai. Ni fyddai’r dull hwn yn effeithio ar ddyraniadau CDLlN. Sylw
Strategaeth economaidd gynaliadwy Sylw
5.2.23 Mae tair prif elfen i’r strategaeth gyflogaeth gynaliadwy, sef nifer y swyddi newydd a ragwelir yn ardal y cynllun hyd at 2033, faint a math y tir sydd ei angen i ddarparu ar gyfer y swyddi hyn, a lleoliad bras lle ddylai’r tir fod. Sylw
5.2.24 Fodd bynnag, wrth gynllunio ar gyfer yr uchod, mae’r strategaeth yn cydnabod yr angen i fod yn hyblyg a darparu ar gyfer galw masnachol a busnes, lle bo’n hyfyw i wneud hynny. Mae polisi PL/3 yn cwmpasu pob un o’r materion hyn ar lefel uchel, gyda mwy o fanylder. Mae dyraniadau safle a pholisïau sy’n seiliedig ar feini prawf sy’n ymwneud â’r economi i’w gweld yn adran Datblygu Economaidd y CDLlN. Sylw
PL/3 strategaeth gyflogaeth gynaliadwy Sylw
- Er mwyn cynorthwyo â darparu twf economaidd a ragwelir ar gyfer ardal y cynllun, bydd y CDLlN yn dyrannu tir cyflogaeth i fodloni’r gofyniad am 1,500 o swyddi ychwanegol hyd at 2033. Mae’r Adolygiad Tir Cyflogaeth yn nodi bod angen amrediad o 14-20 hectar o dir cyflogaeth yn ystod y cyfnod hwn, gyda tharged rhesymegol a chyfiawn o 16.4ha sy’n cynnwys cynllun wrth gefn. Bydd y dull cynaliadwy o ran twf a amlinellir yn y CDLlN hwn yn:
- Ystyried datblygiadau cyflogaeth a gwblhawyd, ymrwymiadau a hap-safleoedd ers 2018;
- Darparu dyraniadau tai newydd sy’n dod i gyfanswm o 12.65ha;
- Darparu ar gyfer rhaniad o 65% ar gyfer defnydd B1c/B2/B8 a 35% ar gyfer defnydd B1 ar gyfer dyraniadau newydd; ac
- Adlewyrchu’r Strategaeth Dosbarthiad Gofodol, gan sicrhau y bydd 90% o dwf cyflogaeth yn y CDSA, gyda 10% yn y RDSA.
- Er mwyn sicrhau bod tir cyflogaeth wedi’i leoli yn y lleoliadau mwyaf addas a chynaliadwy bydd y CDLlN yn sicrhau:
- Bod safleoedd a ddyrennir wedi’u lleoli yn y CDSA, mewn ardaloedd o alw ochr yn ochr â choridor yr A55, neu mewn lleoliad hygyrch at yr A55;
- Bodd dull dilyniannol yn cael ei ddilyn ar gyfer cymeradwyo tir neu safleoedd eraill ar gyfer cyflogaeth, gan flaenoriaethu safleoedd cyflogaeth presennol, tir a ddatblygwyd eisoes, a safleoedd canol trefi a chanolfannau lleol; a
- Bod proses ehangu busnesau lleol yn cael eu cefnogi mewn egwyddor ar safleoedd addas.
5.2.25 Mae’r sylfaen dystiolaeth i gefnogi’r elfennau yn y polisi uchod i’w gweld mewn cyfres o bapurau cefndir CDLlN, sef; Papur Cefndir 16: Cynllunio a’r Economi Wledig o ran cefnogi estyniad busnesau gwledig ac arallgyfeirio ffermydd. Mae Papur Cefndir 17: Cyflenwad Tir Cyflogaeth yn dangos faint o dir sydd eisoes ar gael ar gyfer defnydd cyflogaeth newydd, a faint fydd angen ei ddyrannu. Mae Papur Cefndir 18: Adolygiad Tir Cyflogaeth yn nodi amcangyfrif o nifer twf swyddi gan drosi hyn i faint a math (dosbarth defnydd) o dir fydd ei angen i ddarparu ar gyfer twf swyddi. Mae Papur Cefndir 19: Dadansoddiad Marchnad Masnachol yn nodi lleoliadau bras ar gyfer lle dylai’r tir cyflogaeth newydd fod. Mae Papur Cefndir 20: Asesiad o Anghenion Sgiliau yn dod i’r casgliad nad oes angen dyrannu tir yn benodol ar gyfer addysg uwch yn ardal y cynllun. Mae Papur Cefndir 56: Hierarchaeth Fuddsoddi Tir Cyflogaeth yn nodi dull o asesu cynigion ar gyfer cyflogaeth gan ddefnyddio dull dilyniannol. Mae Papur Cefndir 61: Mae Astudiaeth Canol Trefi’n Gyntaf yn asesu'r angen am ganolbwyntiau swyddfa a'r dull o ddiogelu defnyddiau cyflogaeth heb eu dynodi yng nghanol trefi, ac mae Papur Cefndir 67: Safleoedd Cyflogaeth a Ddiogelir CDLlN Conwy yn adolygu’n drylwyr y safleoedd cyflogaeth dynodedig presennol ac yn nodi p’un a ddylent gael eu cadw, eu hymestyn neu eu dad-ddynodi. Sylw
5.2.26 Mae’r ffigyrau twf cyflogaeth wedi’u halinio’n ofodol â’r twf tai yn ôl rhaniad 90% CDSA: 10% RDSA. Mae dogfennau sail dystiolaeth y CDLlN ar gyfer yr economi h.y. Papur Cefndir 19: Dadansoddiad o Farchnad Fasnachol Conwy a Phapur Cefndir 18: Adolygiad Tir Cyflogaeth Conwy, yn awgrymu bod gweithgarwch cyflogaeth a’r galw am safleoedd wedi’u ffocysu yn y CDSA, yn bennaf ar hyd coridor yr A55, a dyma ble dylid lleoli ein dyraniadau. Mae prosesau monitro CDLlN 2007-2022 wedi dangos bod hyn yn wir, ac nid oes unrhyw ddyraniadau cyflogaeth gwledig wedi cael eu cyflwyno ar gyfer datblygiad o fewn oes y cynllun, gyda safleoedd mewn ardaloedd sydd ar hyd yr A55, megis Mochdre, Llandudno, Cyffordd Llandudno, Conwy, Bae Colwyn a Bae Cinmel yn fwy ffafriol. Mae cyfanswm o 12.65 hectar o ddyraniadau yn y CDSA yn Chwarel Llanddulas a Llandudno, fodd bynnag, ni fydd pob rhan o’r tir hwn yn cael eu cyflwyno o fewn amserlen y cynllun. Cyfeiriwch at yr amserlen yn Strategaeth Datblygu Economaidd y CDLlN hwn. Defnyddir y broses Adroddiad Monitro Blynyddol i fonitro twf yn yr ardaloedd arfordirol a’r ardaloedd gwledig er mwyn gwirio effeithiolrwydd y dyraniadau a’r polisïau sy’n seiliedig ar feini prawf. Sylw
Hierarchaeth aneddiadau Sylw
Amcan perthnasol: SO1 Sylw
PL/4 growth distribution and hierarchy of settlements Sylw
- Dros gyfnod y cynllun, bydd datblygiad yn cael ei leoli a’i ddosbarthu yn unol â’r dull strategol fel a nodir yn y fframwaith gofodol, a’r hierarchaeth aneddiadau. Caiff twf tai ei ddarparu yn unol â pholisi PL/2 a’r polisïau manwl a nodir yn Fframwaith Tai a Thai Fforddiadwy y cynllun. Caiff twf cyflogaeth ei ddarparu yn unol â pholisi PL/3 a Strategaeth Datblygu Economaidd y cynllun.
- Caniateir datblygiad mewn aneddiadau ar raddfa sy’n gymesur â rôl a swyddogaeth aneddiadau fel a nodir yn yr hierarchaeth isod:
Aneddiadau trefol: Abergele/Pensarn***, Bae Colwyn (yn cynnwys Llandrillo-yn-Rhos a Hen Golwyn)**, Conwy, Deganwy/Llanrhos, Llandudno**, Cyffordd Llandudno, Llanfairfechan, Mochdre, Penmaenmawr a Bae Penrhyn/Ochr y Penrhyn a Thowyn/Bae Cinmel***.
Canolfangwasanaethallweddol: Llanrwst
PrifBentrefiHaen1: Llanddulas, Dwygyfylchi*, Glan Conwy
Prif Bentrefi Haen 2: Betws yn Rhos, Cerrigydrudion, Dolgarrog*, Eglwysbach, Llanfair Talhaearn, Llangernyw, Llansannan, Llysfaen, Tal y Bont*/Castell a Threfriw.
Pentrefi Bach: Bryn Pydew, Glanwydden, Groes, Henryd, Llanbedr y Cennin*, Llanddoged, Llanelian, Llangwm, Llanefydd, Pentrefelin, Pentrefoelas, Rhyd y Foel, Llansan Sior, Tal y Cafn a Thyn y Groes
Pentrefannau: Bodtegwel, Bryn-y-Maen, Brymbo, Bryn Rhyd-yr-Arian, Bylchau, Capelulo*, Cefn Berain, Cefn Brith, Dinmael, Glasfryn, Groesffordd, Gwytherin, Hendre, Llanfihangel GM, Maerdy, Melin y Coed, Nebo*, Pandy Tudur, Pentrellyncymer, Pentre Isa, Pentre Tafarn-y-Fedw, Rhydlydan, Tan-y-Fron
* Aneddiadau sy’n rhannol o fewn Parc Cenedlaethol Eryri
** Ardaloedd Twf Rhanbarthol a nodwyd yng nghynllun Cymru'r Dyfodol 2040.
*** Aneddiadau Cyfyngedig sy’n dod o fewn Ardal Wella’r Dwyrain.
5.2.27 Mae’r CDLlN yn nodi ac yn gwahaniaethu rhwng cynaliadwyedd lleoedd drwy ddiffinio hierarchaeth aneddiadau. Mae hierarchaeth aneddiadau wedi’i diffinio gan roi ystyriaeth i’r egwyddorion creu lleoedd cynaliadwy, yn cynnwys swyddogaeth yr aneddiadau, isadeiledd, cynaliadwyedd, a mynediad at gyfleusterau a gwasanaethau allweddol, fel y nodir ym Mhapur Cefndir 3 - Hierarchaeth aneddiadau ac aneddiadau a rennir. Mae’r hierarchaeth yn ceisio cyflawni mwy o leoedd cynaliadwy mewn sawl ffordd. Mae’r raddfa a’r math o dwf a ddosrannir i aneddiadau yn ddibynnol ar eu rolau, swyddogaethau a safleoedd unigol o fewn yr Hierarchaeth Aneddiadau. Mae hyn er mwyn sicrhau bod y CDLlN yn cyfeirio’r rhan fwyaf o’r twf tuag at ardaloedd sydd eisoes yn elwa o isadeiledd, gwasanaethau a chyfleusterau da, neu lle mae modd darparu capasiti ychwanegol. Sylw
5.5.28 Mae dau faes strategol trosfwaol i’r Fframwaith Gofodol; y CDSA a’r RDSA. Mae’r prif leoliadau trefol ar hyd y llain arfordirol lle mae 90% o’r boblogaeth yn preswylio. Mae’r ardaloedd trefol hyn yn cynrychioli lleoliadau mwy cynaliadwy sy’n gwasanaethu’r cymunedau ehangach, gan gynnwys aneddiadau gwledig yn yr RDSA mewn rhai achosion. Mae ganddynt yr isadeiledd, cyfleusterau a gwasanaethau angenrheidiol i gefnogi twf cynaliadwy dros gyfnod y Cynllun, neu gallant ddarparu ar eu cyfer. Mae ardaloedd trefol Bae Colwyn a Llandudno wedi’u nodi fel Ardaloedd Twf Rhanbarthol yng Nghynllun Cenedlaethol Cymru’r Dyfodol 2040, lle mae lefel uchel o dwf wedi’i gynllunio. Caiff hyn ei adlewyrchu yn nosbarthiad gofodol tai (gweler polisi PL/2). Sylw
5.2.29 Mae pob anheddiad trefol yn dangos swyddogaeth cyflogaeth gref gan ystyried busnes, ac amrywiaeth nodedig o siopau a gwasanaethau cymunedol, a gaiff ei gryfhau ymhellach gan amrywiaeth o gyfleoedd teithio cynaliadwy sy’n cysylltu gydag ardaloedd cyfagos a’r rhanbarthau ehangach. Mae’r ardaloedd hyn yn cynrychioli lefelau uchel o angen o ran tai fforddiadwy hefyd, ynghyd â thir sydd ar gael ac y gellir ei gyflenwi er mwyn diwallu anghenion o’r fath fel a nodir yn y Fframwaith Tai a Thai Fforddiadwy a Strategaeth Datblygu Economaidd y CDLlN. Sylw
5.2.30 Yr unig eithriad nodedig i’r aneddiadau trefol yn y CDSA yw ardal y Dwyrain sy’n cynnwys Abergele, Pensarn, Towyn a Bae Cinmel. Mae twf y dyfodol yn gyfyngedig yn yr ardaloedd hyn oherwydd capasiti isadeiledd priffyrdd a risg llifogydd. Mae’n hanfodol nad yw’r cymunedau hyn yn dirywio, ond eu bod yn dod yn fwy gwydn yn unol â Gweledigaeth CDLlN Conwy. Felly, mae Ardal Wella’r Dwyrain wedi’i nodi i fynd i’r afael â’r materion hyn fel a nodir ym mholisi PL/15 ac fel a nodir ar y map cynigion. Sylw
5.2.31 Mae’r RDSA yn cynnwys y Ganolfan Gwasanaethau Allweddol, Prif Bentrefi Haen 1 a 2, Pentrefi Bach a Phentrefannau. Mae Canolfan Wasanaethau Allweddol Llanrwst tua 13 milltir o lain arfordirol y CDSA, ond mae’n chwarae rôl bwysig wrth wasanaethu’r aneddiadau gwledig ehangach yn yr hierarchaeth, yn enwedig o ran cyflogaeth a chyfleusterau a gwasanaethau allweddol. Sylw
5.2.32 Mae Prif Bentrefi Haen 1 a 2, Pentrefi Bach a Phentrefannau yn cyflawni swyddogaeth fwy cyfyngedig o ran manwerthu a chyfleusterau cymunedol, gan wasanaethu eu preswylwyr lleol yn bennaf. Er bod pob gwasanaeth a chyfleuster yn bwysig i’w cefnwlad, mae’r rhai sydd ar gael yn yr aneddiadau hyn yn denu o ddalgylch llai ac maent wedi’u cyfyngu’n bennaf i wasanaethu’r sylfaen boblogaeth fwy uniongyrchol. Felly, mae’r cwmpas i’r aneddiadau hyn ddarparu ar gyfer datblygiad sylweddol yn fwy cyfyngedig, ond yn dibynnu ar eu lleoliad yn yr hierarchaeth, byddant yn dal i ddarparu ar gyfer cynigion llai er mwyn diwallu anghenion cymunedol lleol. Caniateir datblygiad yn yr aneddiadau hyn ar raddfa sy’n gymesur â’u rôl a’u swyddogaeth fel a nodir yn yr hierarchaeth ac fel a ddiffinnir yn Adrannau Strategol eraill y Cynllun. Sylw
5.2.33 Mae adolygiad o ffiniau aneddiadau (Papur Cefndir 3) wedi’i gynnal i nodi’n glir y ffin rhwng aneddiadau a chefn gwlad agored, cynorthwyo i atal cyduniad aneddiadau a darparu sicrwydd o ran lle caiff datblygiad priodol ei ganiatáu. Bydd y CDLlN yn blaenoriaethu ailddefnyddio ac ailddatblygu tir a ddatblygwyd eisoes. Sonnir am Reoli Ffurf Anheddiad mewn mwy o fanylder ym mholisi PL/14. Sylw
Creu lleoedd a dyluniad da Sylw
Amcanion perthnasol: SO1 Sylw
PL/5 creu lleoedd a dyluniad da Sylw
- Er mwyn cyfrannu at greu lleoedd cynaliadwy a mynd i’r afael ag agweddau allweddol dyluniad da, mae’n rhaid i gynigion datblygu:
- Fynd i’r afael â mynediad a chynhwysiant i bawb trwy:
- Roi pobl wrth wraidd y broses ddylunio;
- Cydnabod amrywiaeth a gwahaniaeth, gan gynnwys y Gymraeg;
- Cynnig dewis lle na all un datrysiad dylunio fodloni pob defnyddiwr;
- Darparu adeiladau ac amgylchedd sy’n gyfleus a dymunol i’w defnyddio i bawb;
- Gwneud darpariaeth i ddiwallu anghenion pobl â nam ar eu synhwyrau, cof, dysgu a symudedd, pobl hŷn a phobl â phlant bach;
- Annog pobl i gwrdd a rhyngweithio â’i gilydd, helpu i fynd i’r afael â materion sy’n ymwneud ag unigrwydd ac unigedd;
- Lleihau anghydraddoldeb o ran mynediad at wasanaethau hanfodol, addysg a chyflogaeth a brofir gan bobl heb fynediad at gar; a
- Dylunio mesurau a nodweddion sy’n galluogi mynediad rhwydd at wasanaethau trwy gerdded, beicio a defnyddio cludiant cyhoeddus.
- Mynd i’r afael â chynaliadwyedd amgylcheddol trwy:
- Ddefnyddio adnoddau naturiol mewn modd effeithlon a’u diogelu;
- Gwneud y gorau o effeithlonrwydd ynni;
- Diogelu a gwella bioamrywiaeth;
- Defnyddio adnoddau eraill mewn modd effeithlon (gan gynnwys tir);
- Cynyddu symudiad cynaliadwy;
- Lleihau defnydd o adnoddau anadnewyddadwy;
- Annog datgarboneiddio;
- Atal cynhyrchu gwastraff a llygredd; a
- Chyfrannu at gymunedau gwydn trwy ddarparu ymagwedd integredig a hyblyg at ddylunio, gan gynnwys gwneud penderfyniadau cynnar ynghylch lleoliad, dwysedd, cynllun, ffurf adeiledig, y dewis o ddeunyddiau, y gallu i addasu adeiladau a thriniaeth safle.
- Ystyried cymeriad ac amwynder lleol trwy:
- Sicrhau’r ansawdd uchaf bosibl o ran dyluniad, wrth barchu a gwella gwahanolrwydd lleol, gan gynnwys y Gymraeg a chymeriad y dirwedd;
- Bod yn briodol i’w gyd-destun lleol o ran maint, graddfa, uchder, màs, triniaeth y drychiad, deunyddiau a manylion, gosodiad, ffurf, cymysgedd a dwysedd;
- Dangos rhesymeg glir sy’n sail i’r penderfyniadau a wneir am ddyluniad, ar sail dadansoddiad safle a chyd-destun, gweledigaeth gref, gofynion perfformiad ac egwyddorion dylunio ac wedi’u mynegi mewn Datganiad Dylunio a Mynediad (lle bo’r angen), Datganiad Cydymffurfiaeth Creu Lleoedd lle bo’n briodol ac yn unol â pholisïau eraill a nodir yn y Cynllun.
- Hybu ac atgyfnerthu gwahanolrwydd lleol mewn ardaloedd a gaiff eu cydnabod am eu tirwedd, treflun, cymeriad diwylliannol neu hanesyddol a gwerth penodol.
- Defnyddio tir yn effeithlon trwy fod yn rhan o ddwysedd sy’n cynyddu potensial datblygu’r tir wrth barchu potensial y datblygiad cyfagos;
- Darparu ar gyfer cymysgedd priodol o ddefnydd tir er mwyn hybu cymdogaethau cryno ac mae modd cerdded ynddynt; ac
- Atal a lleihau trosedd ac anhrefn ym mhob penderfyniad dylunio er mwyn creu amgylchedd diogel nad yw’n cyfaddawdu o ran ansawdd dylunio; a
- Sicrhau datblygiad integredig nad yw’n niweidio amwynder lleol a lle bo’n bosibl, sy’n dod â buddion i’r ardal leol.
- Mynd i’r afael â diogelwch cymunedol trwy’r broses ddylunio trwy:
- Greu amgylchedd nad yw’n cyfaddawdu o ran ansawdd dylunio; ac
- Atal a lleihau trosedd ac anhrefn.
- Mynd i’r afael â symudiad trwy;
- Ddylunio dibyniaeth nad yw’n canolbwyntio ar geir;
- Cynyddu cyfleoedd i bobl wneud dewisiadau cynaliadwy ac iach o ran teithio; a
- Fynd i’r afael â mynediad a chynhwysiant i bawb trwy:
5.2.34 Er mwyn sicrhau dyluniad da a chreu ymdeimlad effeithiol o le, mae angen dealltwriaeth o’r berthynas rhwng pob elfen o’r amgylchedd naturiol ac adeiledig. Mae dyluniad yn elfen sylfaenol wrth greu datblygiad a lleoedd cynaliadwy, sydd ar ben blaen Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015. Mae Sylw
5.2.35 Mae dyluniad da yn rhan gynhenid o broses creu lleoedd cynaliadwy, a ddiffinnir gan PCC fel: “ffordd holistig o fynd ati i gynllunio a dylunio datblygiadau a lleoedd … sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau positif”. Bydd CDLlN Conwy yn sicrhau bod datblygiad yn bodloni amcanion dyluniad da. Mae’r amcanion hyn wedi’u categoreiddio’n bum agwedd allweddol yn PCC, 12 (gweler Ffigur 14 isod) fel a nodir mewn mwy o fanylder ym mholisi PL/5. Pan fod angen Datganiadau Cydymffurfiaeth Creu Lleoedd yn unol â pholisi PL/16, dylid gweithredu polisi PL/5 o ran dyluniad wrth baratoi tystiolaeth ategol o’r fath ar gyfer cais cynllunio. Sylw
5.2.36 Mae dyluniad yn tynnu ar botensial ardal i greu datblygiadau a mannau cyhoeddus o ansawdd uchel sy’n hyrwyddo ffyniant, iechyd, hapusrwydd a llesiant pobl yn eu hystyr ehangaf. Mae’n dyluniad da yn rhan sylfaenol o greu lleoedd cynaliadwy lle mae pobl am fyw, gweithio a chymdeithasu ynddynt. Wrth gyflawni datblygiad cynaliadwy, mae CDLlN Conwy yn ceisio sicrhau bod dyluniad yn mynd tu hwnt i estheteg er mwyn cynnwys agweddau cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol datblygiad. Felly, er mwyn cyflawni dyluniad da, mae’n rhaid i gynigion datblygu ystyried sut caiff lle ei ddefnyddio, sut gall adeiladau a’r parth cyhoeddus gefnogi’r defnydd hwn a’r berthynas â’r ardal gyfagos. Caiff cynigion datblygu eu hasesu o ran eu cydweddoldeb dyluniad a chreu lleoedd. Gall dyluniad gwael gael effaith andwyol ar gymeriad a golwg ardal, yn ogystal â niweidio’r strydwedd cyfun. Caiff amryw elfennau (e.e. effaith weledol, colli golau, preifatrwydd a chyfyngiadau traffig) eu hasesu er mwyn sicrhau nad oes unrhyw effaith andwyol bosibl. bod yn gallu cynnwys gofynion newidiol y rhai sy’n byw yno. Mae creu lleoedd yn gysyniad trosfwaol sy’n ymwneud â dyluniad a chyd-destun datblygiad. Mae’n ceisio sicrhau bod y broses ddylunio, strwythur gosodiad a ffurf yn darparu datblygiad sy’n briodol i’r cyd-destun lleol ac sy’n cefnogi cymuned gynaliadwy gan greu amgylchedd y gall pobl uniaethu ag ef a’i ddefnyddio'n rhwydd wrth barchu’r amgylchedd naturiol ac adeiledig. Mae hyn yn golygu bod dyluniad cynaliadwy, a ddyfeisiwyd yn dda, o ansawdd uchel, sy’n gwella’r amgylchedd ac iechyd a lles pobl yn hanfodol. Mae’n rhaid i’r holl ddatblygiadau fod wedi’u hategu gan weithrediad dyluniad da a dull creu lleoedd cynaliadwy o ran lleoliad, dyluniad, adeiladu a gweithredu. Sylw
5.2.37 Bydd CCA yn cael ei baratoi i nodi canllawiau i ddatblygwyr o ran sicrhau bod cynlluniau’n gynaliadwy a’u bod yn cydymffurfio â pholisi PL/5. Sylw
Ffynhonnell: PCC, Llywodraeth Cymr Sylw
Hybu lleoedd mwy iach yng Nghonwy Sylw
Amcan perthnasol: SO1 Sylw
PL/6 hybu lleoedd mwy iach Sylw
- Er mwyn hybu lleoedd mwy iach yng Nghonwy, lleihau anghydraddoldebau iechyd a chyfrannu at Gynllun Llesiant Conwy a Sir Ddinbych, mae gofyn i gynigion datblygu:
- Alluogi cyfleoedd ar gyfer hamdden a gweithgareddau awyr agored yn unol â Strategaeth Mannau Hamdden y CDLlN;
- Sicrhau bod poblogaethau’n dod i lai o gysylltiad â llygredd aer a sŵn yn unol â pholisïau a nodir yn adran Rhinweddau Amgylcheddol y cynllun;
- Hyrwyddo dewisiadau teithio llesol yn unol â Strategaeth Cludiant Cynaliadwy a Hygyrchedd y cynllun, a;
- Cheisio gwelliannau amgylcheddol a ffisegol, yn enwedig yn yr amgylchedd adeiledig yn unol â pholisïau a nodwyd yn y fframwaith polisi creu lleoedd cynaliadwy.
- Dylid cyflwyno dadansoddiad safle a chyd-destun er mwyn penderfynu pa mor briodol yw’r cynnig datblygu o ran ymateb i hybu iechyd. Dylid cyflwyno Datganiad Cydymffurfiaeth Creu Lleoedd hefyd a dylai adlewyrchu gofynion y polisi hwn a pholisi PL/16 a pholisïau safle PL/17 i PL/25.
5.2.38 Mae’r amgylchedd adeiledig a naturiol yn ffactorau allweddol i iechyd a lles. Bydd y CDLlN yn chwarae rôl bwysig wrth ffurfio’r ffactorau cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol sy’n pennu iechyd ac sy’n hybu neu’n effeithio ar les, yn unol â nod Cymru Iachach. Gall y ffordd mae lleoedd yn gweithio a gweithredu gael effaith ar y dewisiadau mae pobl yn eu gwneud yn eu bywydau bob dydd, gan gynnwys eu dewisiadau o ran teithio a hamdden a pha mor hawdd allai fod i gymdeithasu gyda phobl eraill. Sylw
5.2.39 Caiff CDLlN Conwy ei gefnogi gan Asesiad o Effaith ar Iechyd (Papur Cefndir 71), sydd wedi llywio datblygiad polisi ar draws pob un o’r pedair thema strategol. Mae’r amgylchedd adeiledig a naturiol yn ffactor allweddol i iechyd a lles. Mae gan y CDLlN rôl bwysig i’w chwarae wrth ffurfio’r ffactorau cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol sy’n pennu iechyd ac sy’n hybu neu’n effeithio ar les, yn unol â nod Cymru Iachach. Sylw
5.2.40 Mae’r weledigaeth yng Nghynllun Lles Conwy a Sir Ddinbych yn ceisio sicrhau bod Conwy yn fwy cyfartal, llai difreintiedig a gwydn. Mae’r cymunedau dan anfantais a difreintiedig ym Mwrdeistref Sirol Conwy yn tueddu i weld effaith anghymesur gan broblemau iechyd. Mae cysylltiadau rhwng yr amgylchedd adeiledig a naturiol ac iechyd trwy gydol oes unigolyn, ac mae dealltwriaeth o benderfynyddion ehangach iechyd yn elfen allweddol o bolisi PL/1 a gwaith paratoi’r cynllun datblygu. Dylai’r system gynllunio nodi mesurau rhagweithiol ac ataliol i leihau anghydraddoldebau iechyd. Mae hyn yn cynnwys galluogi cyfleoedd ar gyfer gweithgareddau awyr agored a hamdden, sicrhau bod poblogaethau’n dod i lai o gysylltiad â llygredd aer a sŵn, hyrwyddo dewisiadau teithio llesol a cheisio gwelliannau amgylcheddol a ffisegol, yn enwedig yn yr amgylchedd adeiledig. Sylw
5.2.41 Mae gan CDLlN Conwy rôl bwysig i’w chwarae wrth atal salwch corfforol a meddyliol a achosir neu a waethygir gan lygredd, datgysylltu pobl o weithgareddau cymdeithasol (sy’n cyfrannu at unigrwydd), yn ogystal â hyrwyddo patrymau teithio sy’n hwyluso ffyrdd egnïol o fyw. Mae’n rhaid i’r system gynllunio ystyried effeithiau datblygiadau newydd ar gymunedau presennol a diogelu iechyd a lles yn well yn ogystal â diogelu amwynder. Bydd hyn yn cynnwys ystyried darparu asedau cymunedol ac iechyd, a mynediad atynt, fel neuaddau cymunedol, llyfrgelloedd, meddygfeydd meddygon teulu ac ysbytai. Dylid lleihau’r effaith ar iechyd ym mhob achos, yn benodol lle gallai datblygiad newydd gael effaith andwyol ar iechyd, amwynder a lles. Mewn amgylchiadau o’r fath, lle na ellir goresgyn effaith ar iechyd neu amwynder yn foddhaol, dylid gwrthod datblygu. Sylw
5.2.42 Mae’r CDLlN newydd yn ceisio datblygu a chynnal lleoedd sy’n cefnogi ffyrdd o fyw iach, actif ar draws pob grŵp oedran ac economaidd-gymdeithasol, gan gydnabod y gall buddsoddi mewn isadeiledd cerdded a beicio fod yn fesur ataliol effeithiol sy’n lleihau pwysau ariannol ar wasanaethau cyhoeddus yn y tymor hwy. Gall y ffordd y mae datblygiad wedi’i osod a’i drefnu ddylanwadu ar ymddygiad a phenderfyniadau pobl a gall liniaru’n effeithiol yn erbyn llygredd aer a sŵn. Sylw
5.2.43 Mae cynnwys ffynonellau dŵr yfed neu orsafoedd ail-lenwi ar gyfer poteli i’w hailddefnyddio mewn mannau cyhoeddus yn ffordd syml ac effeithiol o wneud lleoedd yn fwy iach a lleihau gwastraff di-angen. Gall cynllunio effeithiol ddarparu amgylchedd hamddenol a thawel yn ogystal ag amgylcheddau cyffrous a synhwyraidd, ac mae’r ddau yn gwneud cyfraniad pwysig i leoedd llwyddiannus. Sylw
5.2.44 Gall Isadeiledd Gwyrdd fod yn ffordd effeithiol o wella iechyd a lles, trwy gysylltu cartrefi, gweithleoedd a chyfleusterau cymunedol a darparu mannau gwyrdd hygyrch o ansawdd uchel. Dylid rheoli golau mewn modd sensitif ym mhob datblygiad, ac mewn mannau cyhoeddus yn enwedig. Dylid sicrhau bod poblogaethau’n dod i gyn lleied â phosibl o gysylltiad â llygredd aer. Bydd cydnawsedd defnydd tir yn ffactor allweddol wrth fynd i’r afael ag ansawdd aer a chreu seinwedd priodol sy’n ffafriol i weithgareddau a phrofiadau cymdeithasol a diwylliannol penodol, ac sy’n eu hadlewyrchu, yn enwedig mewn ardaloedd canolog prysur mewn trefi a dinasoedd. Yn yr un modd, gall darparu ardaloedd tawel a llonydd sy’n darparu noddfeydd heddychlon mewn amgylcheddau sy’n swnllyd fel arall, helpu i leihau lefelau llygredd cyffredinol a hybu lles meddyliol a chorfforol yn ardal cynllun Conwy. Sylw
5.2.45 Dylid cyflwyno dadansoddiad safle a chyd-destun i gefnogi polisi PL/6 er mwyn penderfynu pa mor briodol yw’r cynnig datblygu o ran ymateb i hybu iechyd. Dylid cyflwyno Datganiad Cydymffurfiaeth Creu Lleoedd a dylai gynnwys arfarniad o bolisi PL/6 yn unol â pholisi PL/16 a pholisïau safle PL/17 i PL/25. Bydd CCA yn cael ei baratoi i nodi canllawiau i ddatblygwyr o ran sicrhau bod cynlluniau’n gynaliadwy a’u bod yn cydymffurfio â pholisi PL/6. Sylw
Yr iaith Gymraeg Sylw
Amcanion perthnasol: SO1 Sylw
5.2.46 Mae’r Gymraeg yn rhan bwysig o wead cymdeithasol a diwylliannol Bwrdeistref Sirol Conwy. Mae 25.9% o boblogaeth Conwy yn gyffredinol yn gallu siarad Cymraeg (2021), sy’n uwch na’r cyfartaledd cenedlaethol o 17.8%. Mae amrywiadau ar draws ardal y cynllun, lle mae cyfran y siaradwyr Cymraeg mor uchel â 73% ym Mhentrefoelas, ac mor isel ag 11% yn Nhowyn a Bae Cinmel. Sylw
5.2.47 Mae Cynllun Lles Conwy a Sir Ddinbych 2023-28 yn sefydlu naw egwyddor, sy’n berthnasol i bob maes gwaith. Mae’r egwyddor iaith yn nodi: “Cefnogi a hybu’r Gymraeg ym mhopeth yr ydym yn ei wneud, integreiddio strategaethau Cymraeg partneriaid.” Mae gan y cynllun nod hefyd: “Mae ein cymunedau yn gallu cael mynediad i gefnogaeth yn eu dewis iaith. Bydd y BGC yn annog a gwella’r defnydd o’r Gymraeg mewn bywyd bob dydd.” Sylw
5.3.48 Mae gan Strategaeth Hyrwyddo’r Gymraeg y Cyngor, EinLlais Cymraeg weledigaeth ar gyfer: Sylw
“Conwy ddwyieithog lle mae pobl yn hyderus ac yn falch o’u llais Cymraeg, lle caiff Cymraeg ei siarad o fewn y teulu, y gymuned a’r gweithle a lle caiff diwylliant Cymreig ei ddathlu a lle mae pobl yn teimlo eu bod yn perthyn.” Sylw
5.2.49 Mae’r Strategaeth yn dangos sut fydd yr awdurdod yn cyfrannu at fodloni nod LlC o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 a hybu’r Gymraeg a’i defnydd yn unol â Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011. Mae’n gosod targed i gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg o 1,600 ym Mwrdeistref Sirol Conwy erbyn 2029, neu 2% fel cyfran. Mae’r CDLlN yn cyfrannu at gyrraedd y targed hwn trwy ei benderfyniadau cynllunio. Sylw
5.2.50 Mae’r CDLlN hwn yn cyfrannu tuag at y nod lles cenedlaethol o fod ag iaith Gymraeg sy’n ffynnu, trwy alluogi cymunedau cynaliadwy. Sylw
5.2.51 Mae’n rhaid i bob penderfyniad a wneir gan CBSC, gan gynnwys penderfyniadau cynllunio, fod yn unol â Safonau’r Gymraeg (2015), trwy geisio hyrwyddo cyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg ac i beidio trin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg. Mae’n rhaid i bob penderfyniad polisi ystyried effeithiau negyddol a chadarnhaol ar y Gymraeg a’i siaradwyr, a cheisio cyfleoedd i hybu a hwyluso defnyddio’r Gymraeg. Sylw
PL/7 yr iaith Gymraeg Sylw
- Bydd yr ACLl yn sicrhau bod datblygiadau newydd yn hybu a chynyddu dyfodol hirdymor y Gymraeg. Bydd datblygiad a fydd yn niweidio cymeriad a chydbwysedd ieithyddol cymuned, oherwydd ei faint, graddfa, natur neu leoliad, yn cael ei wrthod, oni bai bod modd lliniaru’r niwed hwn.
- Mae’n rhaid i bob safle, fel gofyniad lleiaf, ddarparu arwyddion dwyieithog a bod yn sensitif i dreftadaeth ieithyddol a diwylliannol yr ardal wrth enwi ffyrdd ac adeiladau. Mae’n rhaid cadw enwau Cymraeg traddodiadol ar gyfer datblygiadau ac enwau strydoedd newydd. Wrth enwi datblygiadau newydd, mae’n rhaid rhoi enwau Cymraeg a/neu enwau ac ystyron Cymraeg lleol i safleoedd er mwyn disgrifio a chrynhoi ymdeimlad unigryw y lle hwnnw a’i hanes a’i hunaniaeth.
- Mae angen asesiad o’r effaith ar y Gymraeg, sy’n nodi sut fydd y datblygiad arfaethedig yn diogelu, hyrwyddo a gwella’r Gymraeg, gan gynnwys cynllun gweithredu gyda manylion am unrhyw gamau lliniaru, ar gyfer safleoedd yn yr ardaloedd sy’n sensitif o ran y Gymraeg, fel a ddynodwyd ar y map cynigion ar gyfer y mathau ganlynol o ddatblygiad:
- Cynigion yn yr ardaloedd sy’n sensitif o ran y Gymraeg, fel a ddiffinnir ar y mapiau cynigion, ar gyfer:
- Safleoedd tai heb eu dyrannu, gydag enillion net o 10 neu fwy o anheddau yn y CDSA, neu 5 neu fwy yn yr RDSA;
- Datblygiad masnachol, hamdden, diwydiannol neu dwristiaeth ar safleoedd heb eu dyrannu,
gydag enillion net yn yr ardal ddatblygu o 1,000 metr sgwâr neu fwy; - Datblygiad a fydd yn arwain at golli cyfleuster cymunedol ym Mhrif Bentrefi Haen 2, Pentrefi Bach a Phentrefannau;
- Chwareli newydd neu estyniadau i chwareli presennol;
- Cynigion ar gyfer Tai Amlfeddiannaeth mawr; a
- Chynlluniau preswyl sy’n darparu swm sy’n is na’r nifer gofynnol o dai fforddiadwy, yn unol â pholisi HS/3 Darpariaeth Tai Fforddiadwy, oherwydd hyfywedd ariannol y cynllun.
- Cynlluniau preswyl, gydag enillion net o ran anheddau ar hap-safleoedd, a fydd yn darparu mwy na’r lefel twf a ragwelir ar gyfer yr ardal strategaeth honno, fel a ddiffinnir ym mholisïau PL/2, PL/3 a PL/4.
- Cynigion yn yr ardaloedd sy’n sensitif o ran y Gymraeg, fel a ddiffinnir ar y mapiau cynigion, ar gyfer:
5.2.52 Mae strategaeth dwf y CDLlN yn gydnaws â hyrwyddo, gwella a diogelu’r Gymraeg ar draws pob is-ardal. Mae’r dosraniad twf ar gyfer pob is-ardal yn caniatáu lefel briodol o dwf ar gyfer pob is-ardal mewn lleoliadau priodol, gan gefnogi nod cymunedau cynaliadwy. Sylw
5.2.53 Mae TAN20 yn caniatáu i ardaloedd gael eu diffinio mewn CDLl sy’n arbennig o sensitif neu arwyddocaol o ran y Gymraeg. Mae’r cynllun hwn yn nodi ardal sy’n sensitif o ran y Gymraeg, lle mae 25% neu fwy o breswylwyr yn gallu siarad Cymraeg (yn ôl Cyfrifiad 2021), fel a nodwyd gan y dystiolaeth yn Papur Cefndir 42. Er mwyn hyrwyddo a diogelu hunaniaeth diwylliannol a ieithyddol yr ardal sensitif hon a chyfrannu at dwf y Gymraeg (yn unol â strategaeth hyrwyddo’r Awdurdod a Safonau’r Gymraeg), bydd angen Asesiadau o’r Effaith ar y Gymraeg ar gyfer y datblygiad penodol a nodir yn y polisi. Mae hyn yn cynnwys datblygu ar safleoedd a ddiogelir fel a ddynodwyd ar y map cynigion. Sylw
5.2.54 Mae cyfleusterau cymunedol, gan gynnwys siopau, tai tafarn a neuaddau pentref yn bwysig o ran cynnal cymunedau ac maen nhw’n gyfle i siarad Cymraeg a’i chlywed. Maen nhw’n bwysig ar gyfer cynaliadwyedd a ffyniant cymunedau Cymraeg eu hiaith. Bydd angen cynnal Asesiad o’r Effaith ar y Gymraeg ar gyfer cynigion sy’n golygu colli’r cyfleusterau hyn mewn aneddiadau llai ym Mhrif Bentrefi Haen 2, Pentrefi Bach a Phentrefannau, fel a ddynodir ym mholisi PL/4 y CDLlN, yn yr Ardaloedd sy’n Sensitif o ran y Gymraeg. Sylw
5.2.55 Mae gofyn i ymgeiswyr sy’n cynnig chwareli newydd neu estyniad i chwarel sy’n bodoli eisoes gynnal Asesiad o’r Effaith ar y Gymraeg a nodi mesurau lliniaru fel rhan o’r broses cais cynllunio. Dylai’r asesiad ystyried effaith creu parth clustogi ar gyfer chwarel newydd hefyd, neu estyniad i chwarel sy’n bodoli eisoes, a darparu mesurau lliniaru yn unol â hynny. Mae hyn er mwyn sicrhau bod ystyriaeth lawn yn cael ei rhoi i effaith lawn y cynnig a’r parth clustogi fydd ei hangen ar gyfer chwarel, a allai effeithio ar eiddo a busnesau presennol, a bod yr effaith honno’n cael ei lliniaru. Sylw
5.2.56 Bydd angen cynnal Asesiad o’r Effaith ar y Gymraeg ar gyfer cynlluniau ar gyfer Tai Amlfeddiannaeth mawr newydd hefyd. Ni chredir bod angen Asesiad o’r Effaith ar y Gymraeg ar gyfer dosbarthiadau defnydd C4 oherwydd eu bod yn llai o ran graddfa a maint. Mae angen wedi’i nodi ar gyfer y math hwn o lety a gwelwyd bod y cyflenwad yn brin ar draws ardal y cynllun (gweler Papur Cefndir 12 i gael rhagor o fanylion). Mae angen ystyriaeth ofalus i reoli’r rhain yn briodol, gan gynnwys asesu a lliniaru unrhyw effaith bosibl ar y Gymraeg. Sylw
5.2.57 Pe bai lefel y datblygiad preswyl mewn is-ardal y CDLlN yn uwch na’r hyn a ragwelwyd ac a aseswyd fel rhan o broses paratoi’r cynllun, bydd gofyn i bob datblygiad preswyl lle mae cynnydd net o anheddau gyflwyno Asesiad o’r Effaith ar y Gymraeg, fel bod effaith gronnus y twf ychwanegol hwn yn cael ei hasesu, ac os oes angen, ei lliniaru’n briodol. Bydd datblygiadau preswyl sydd wedi’u cwblhau yn cael eu monitro trwy’r Adroddiad Monitro Blynyddol a bydd yn llywio’r gofyniad polisi hwn. Sylw
5.2.58 Mewn rhai achosion, gall hyfywedd ariannol cynllun preswyl olygu nad yw’n bosibl darparu ar gyfer y gofynion tai fforddiadwy a nodir ym mholisi HS/3. Mae’r meini prawf ar gyfer aelwydydd sy’n cofrestru ar gyfer tai fforddiadwy yn cynnwys blaenoriaeth yn y rhan fwyaf o achosion i’r rhai sydd â chysylltiad lleol dros aelwydydd o’r tu allan i’r ardal. Gallai hyn gael effaith wahanol ar y Gymraeg, ac felly mae angen asesu a lliniaru’n briodol. Sylw
5.2.59 Mae’n rhaid i Asesiadau o’r Effaith ar y Gymraeg gynnwys manylion camau lliniaru a ddarperir i liniaru, hyrwyddo a gwella’r Gymraeg mewn cynllun gweithredu, gyda dyddiadau cwblhau. Ar gyfer datblygiadau masnachol, diwydiannol neu dwristiaeth, mae’n rhaid asesu a lliniaru ar gyfer y cam adeiladu, creu cyflogaeth a gweithredu parhaus. Mae’n rhaid i gamau lliniaru fod yn gymesur â maint a graddfa’r datblygiad arfaethedig, a’r niwed a achosir i’r Gymraeg, fel mai’r nod fydd peidio â chyflawni niwed cyffredinol, ac yn unol â’r Safonau, ceisio hyrwyddo’r Gymraeg, fel nad yw’n cael ei thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg. Mae’n rhaid dewis mesurau lliniaru ar sail pa mor briodol ydynt i fynd i’r afael â’r effaith bosibl sydd wedi’i nodi yn ystod yr asesiad o effaith. Yr egwyddor yw dileu effaith negyddol ar y Gymraeg, neu lle nad yw hynny’n bosibl, ei dileu gymaint ag sy’n bosibl a lliniaru hyn gydag effaith gadarnhaol a’i hyrwyddo mewn ffyrdd eraill. Sylw
5.2.60 Bydd mesurau lliniaru gofynnol yn cael eu sicrhau trwy amod cynllunio neu gytundeb cyfreithiol er mwyn sicrhau darpariaeth. Dylai’r pecyn lliniaru terfynol a ddarperir fod yn benodol i safle ac effaith y datblygiad arfaethedig: Mae rhestr o fesurau lliniaru a awgrymir i’w gweld isod. Nid yw hon yn rhestr gyflawn. Mae’n bosibl y bydd angen mesurau lliniaru eraill, gan ddibynnu ar y cynllun arfaethedig a’i effaith. Mae rhai yn ofynion cyfreithiol, ac mae’n rhaid i bob safle eu darparu. Bydd arweiniad pellach yn cael ei ddarparu yn y Canllawiau Cynllunio Atodol a gaiff eu paratoi. Sylw
- Rhoi arwyddion dwyieithog ar safle’r datblygiad, gyda’r Gymraeg uwchben y Saesneg.
- Cyflwyno safleoedd fesul cam.
- Sicrhau bod marchnata a chyfathrebu rhanbarthol yn ddwyieithog.
- Hyrwyddo neu ddarparu gofal plant trwy gyfrwng y Gymraeg.
- Noddi, hyrwyddo a chefnogi gweithgareddau trwy gyfrwng y Gymraeg.
- Hwyluso a chefnogi cludiant rhwng y cartref ac ysgolion cyfrwng Cymraeg.
- Darparu dosbarthiadau dysgu Cymraeg i breswylwyr neu staff.
- Darparu ysgoloriaethau ar gyfer hyfforddiant cyfrwng Cymraeg mewn colegau lleol mewn meysydd cyflogaeth neu fasnach cysylltiedig.
Rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy Sylw
Amcanion perthnasol: SO1 Sylw
PL/8 rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy Sylw
Er mwyn mynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a rheoli adnoddau naturiol mewn modd cynaliadwy, mae’n rhaid i gynigion datblygu gefnogi’r trawsnewid i economi carbon isel trwy fodloni’r gofynion polisi perthnasol a nodir yn adrannau Fframwaith Cynllunio Sero Net, yr Amgylchedd Naturiol a Rhinweddau Amgylcheddol y cynllun. Rhaid i Gynllun Rheoli Deunyddiau a Gwastraff gael ei gyflwyno i gyd-fynd â’r ceisiadau cynllunio perthnasol er mwyn dangos y bydd y datblygiadau yn lleihau’r effaith amgylcheddol.
5.2.61 Mae Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 yn cyflwyno Rheoli Adnoddau Naturiol yn Gynaliadwy ac yn nodi’r fframwaith i gyflawni hyn wrth wneud penderfyniadau. Nod Rheoli Adnoddau Naturiol yn Gynaliadwy yw cynnal a gwella cadernid ecosystemau a’r manteision maent yn eu darparu. Mae integreiddio Rheoli Adnoddau Naturiol yn Gynaliadwy i mewn i’r system gynllunio ochr yn ochr ag annog dulliau sy’n seiliedig ar nodi a sicrhau canlyniadau sy’n darparu nifer o fuddion i’r ecosystem yn elfennau hanfodol o leoedd cynaliadwy yng Nghonwy. Sylw
5.2.62 Mae’n rhaid i LlC gyhoeddi a gweithredu polisi adnoddau naturiol statudol sy’n nodi eu blaenoriaethau o ran Rheoli Adnoddau Naturiol yn Gynaliadwy, ac mae gofyn i Gyfoeth Naturiol Cymru lunio Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol a pharatoi Datganiadau Ardal i lywio gweithredu sy’n seiliedig ar le. Mae’r Polisi Adnoddau Naturiol a Datganiadau Ardal yn ddarn allweddol o dystiolaeth y mae’n rhaid ei hystyried wrth baratoi cynllun datblygu. Sylw
5.2.63 Mae cwmpas cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol y system gynllunio yn eang ac mae’n dilyn dull cynhwysfawr o ran datblygu cynaliadwy, pan ddaw penderfyniadau am anghenion tymor byr a hirdymor a chostau a buddion at ei gilydd. Mae’n sicrhau canlyniadau lle gellir darparu nifer o fuddion (mwy nag un budd ecosystem) fel rhan o strategaethau creu cynlluniau neu gynigion datblygu unigol. Caiff polisi PL/8 ei ddarparu trwy weithredu polisïau cysylltiedig a nodir yn adrannau Fframwaith Cynllunio Sero Net, yr Amgylchedd Naturiol a Rhinweddau Amgylcheddol y Cynllun. Sylw
5.2.64 Bydd angen Cynllun Rheoli Deunyddiau a Gwastraff ar y cam cais cynllunio ar gyfer cynlluniau o 10 neu fwy o anheddau, neu 1000 metr sgwâr neu fwy o ddatblygiad masnachol neu ddiwydiannol. Bydd y Cynllun Rheoli Deunyddiau a Gwastraff yn sicrhau bod datblygiadau yn cael eu cyflawni yn gywir gan leihau effaith amgylcheddol trwy reolaeth gwastraff cynaliadwy yn unol â’r polisi hwn. Mewn rhai achosion, os yw’r swyddog achos cynllunio yn ystyried ei fod yn angenrheidiol, gellir gwneud cais am Gynllun Rheoli Deunyddiau a Gwastraff o dan y trothwyon hyn. Sylw
Creu lleoedd mewn ardaloedd gwledig Sylw
Amcanion perthnasol: SO1 Sylw
PL/9 creu lleoedd mewn ardaloedd gwledig Sylw
- Yn unol â fframwaith gofodol y CDLlN, PL/4 dosbarthiad twf a hierarchaeth aneddiadau a’r fframwaith polisi creu lleoedd, caiff cynigion datblygu mewn aneddiadau gwledig eu cefnogi pan fyddant yn meithrin gallu i addasu a gwydnwch eu cymunedau gwledig.
- Mae’n rhaid i gynigion daro cydbwysedd cynaliadwy rhwng diwallu anghenion economaidd, cymdeithasol, diwylliannol, amgylcheddol a hamdden cymunedau lleol ac ymwelwyr.
5.2.65 Caiff economi wledig gref ei hybu er mwyn cefnogi cymunedau gwledig cynaliadwy a ffyniannus yn ardal CDLlN Conwy. Bydd meithrin gallu i addasu a gwydnwch yn nod allweddol i aneddiadau gwledig wrth wynebu’r her sylweddol o gynnal hunaniaeth a ffyniant cymunedau. Mae’r Gymraeg yn rhan hanfodol o’r gwead cymdeithasol a diwylliannol a bydd ei lles yn y dyfodol yn dibynnu ar amrywiaeth eang o ffactorau, yn enwedig addysg, newid demograffig, gweithgareddau cymunedol a sylfaen economaidd gadarn i gynnal cymunedau a lleoedd cynaliadwy sy’n ffynnu yng Nghonwy wledig, lle mae pobl am fyw a gweithio, a gallant fyw yno’n hyfyw a theimlo’n rhan o’r gymuned. Mae gan Gonwy wledig rôl hanfodol i’w chwarae o ran y Gymraeg, gan fod dwysedd uchel o bobl yno sy’n gallu siarad Cymraeg. Mae polisi PL/7 yn nodi’r meini prawf hanfodol er mwyn sicrhau bod y cynigion datblygu yn diogelu, hyrwyddo a gwella’r Gymraeg mewn ardaloedd gwledig. Sylw
5.2.66 Mae sefydlu mentrau newydd ac ehangu busnesau newydd yn hanfodol o ran twf a chynaliadwyedd ardaloedd gwledig, gyda chefnogaeth y tai gofynnol a’r isadeiledd cymunedol angenrheidiol. Fodd bynnag, mae angen taro’r cydbwysedd gorau posibl, ac mae angen rheoli datblygiad newydd yn unol â’r polisi hwn er mwyn taro’r cydbwysedd hwn. Sylw
5.2.67 Ar gyfer y rhan fwyaf o ardaloedd gwledig, mae'r cyfleoedd i leihau'r defnydd o geir a chynyddu cerdded, beicio a defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn fwy cyfyngedig nag mewn aneddiadau trefol. Felly, bydd aneddiadau mewn ardaloedd gwledig yn canolbwyntio ar dwf ac arallgyfeirio lleol yn dibynnu ar eu cynaliadwyedd a’u safle yn yr hierarchiaeth aneddiadau (polisi PL/4). Bydd ymagwedd adeiladol tuag at gynigion datblygu amaethyddol yn cael ei fabwysiadu hefyd, yn enwedig y rhai a gynlluniwyd i ddiwallu anghenion mewn perthynas ag arferion ffermio sy’n newid, neu sy’n angenrheidiol i sicrhau cydymffurfiaeth â deddfwriaeth amgylcheddol, hylendid neu les newydd. Bydd ymagwedd gadarnhaol at drosi adeiladau gwledig (polisi PL/10) i’w hailddefnyddio i ddibenion busnes, yn ogystal â dull cadarnhaol o ran prosiectau arallgyfeirio mewn ardaloedd gwledig (polisi ED/6) yn cael eu mabwysiadu. Y nod yw cefnogi ffyniant a chynaliadwyedd hirdymor cymunedau gwledig, heb achosi niwed i’w cymeriad, a’r union reswm pam mae preswylwyr am fyw yno a pharhau i fyw yno. Sylw
5.2.68 Bydd y dull yn sicrhau bod ardaloedd gwledig yn wydn o ran effaith newid hinsawdd a’u bod yn chwarae rhan wrth leihau achosion newid hinsawdd trwy ddiogelu dalfeydd carbon ac fel ffynhonnell ynni gynaliadwy. Sylw
5.2.69 Caiff amcan y polisi hwn ei ddarparu yn unol â fframwaith gofodol y CDLlN, yr hierarchaeth aneddiadau (polisi PL/4) a’r polisïau perthnasol a nodir yn yr adran Creu Lleoedd Cynaliadwy. Sylw
Addasiadau gwledig Sylw
Amcan perthnasol: SO1 Sylw
5.2.70 Yn yr ardal wledig lle nad oes angen adeiladau ar gyfer eu defnydd gwreiddiol, sef amaethyddol yn bennaf mwyach, gallant fod yn gyfle gwerthfawr i gynnig defnydd preswyl, cyflogaeth, twristiaeth neu ddefnydd manwerthu ar raddfa fach fel modd o gefnogi’r economi wledig a’r Gymraeg a diwylliant Cymru. Sylw
5.2.71 Oherwydd eu lleoliad sensitif, mae’n rhaid rheoli datblygiadau o’r fath yn ofalus. Mae’n hanfodol bod y defnydd arfaethedig a dyluniad yn ystyried cymeriad a golwg yr adeilad presennol a’r ardal gyfagos. Yn yr un modd, mae angen sicrhau cynaliadwyedd cymunedau Cymraeg eu hiaith yn y dyfodol a gall economi leol gynaliadwy chwarae rôl bwysig yn hyn o beth er mwyn cadw pobl leol mewn gwaith ac er wyn cefnogi’r defnydd o’r Gymraeg yn y cymunedau hyn. Felly mae angen i unrhyw ddatblygiad arfaethedig hyrwyddo defnyddio’r Gymraeg a niferoedd y siaradwyr Cymraeg a’u diogelu rhag niwed. Yn ogystal, mae’r ACLl yn cydnabod bod nifer o adeiladau a strwythurau heb eu rhestru yn ardal y cynllun, a’u bod yn bwysig o ran cymeriad a hunaniaeth eu hardal leol oherwydd eu dyluniad, eu deunydd a’u cysylltiadau cymdeithasol a hanesyddol, a’u bod yn haeddu cael eu cadw trwy sicrhau defnydd iddynt yn y dyfodol. Felly mae gwelliannau o’r fath yn fwy tebygol o gael eu defnyddio gan bobl leol gan ddenu ymwelwyr, a chreu twf economaidd a chymunedau cynaliadwy eto. Sylw
PL/10 trawsnewid a newid defnydd adeiladau gwledig Sylw
- Cefnogir ceisiadau i drawsnewid ac ailddefnyddio adeiladau ag iddynt rinwedd, sydd wedi’u hadeiladu’n addas yng nghefn gwlad agored at ddibenion preswyl parhaol, defnydd cyflogaeth, llety gwyliau tymor byr a/neu siopau fferm ar raddfa fach, os yw’r canlynol yn cael eu bodloni:-
- Mae’r adeilad presennol yn strwythurol gadarn a’r adeiladwaith yn barhaol a sylweddol;
- Mae’r adeilad yn gallu cael ei drawsnewid heb ei ailadeiladu’n llwyr neu’n sylweddol, heb estyniadau anghymesur nac addasiadau oeraidd ac mae’r dyluniad arfaethedig yn cyd-fynd â’r ardal o’i gwmpas.
- Mae’r trawsnewid yn defnyddio deunydd priodol ac nid yw’n arwain at effeithiau annerbyniol ar strwythur, ffurf, cymeriad neu leoliad os yw’r adeilad o ddiddordeb hanesyddol a/neu bensaernïol;
- Gellir darparu mynediad diogel i gerddwyr a cherbydau heb niweidio cymeriad a golwg yr ardal;
- Mae’r cynnig yn ddatblygiad cynaliadwy o ran y lleoliad, lleihau carbon ac effeithlonrwydd ynni, yn unol â pholisi EN/1.
- Ni fydd unrhyw waith ategol sy’n gysylltiedig â’r trawsnewyd yn cael effaith annerbyniol neu andwyol ar gymeriad gwledig ac agored yr ardal leol.
- Ni fyddai’r datblygiad yn arwain at golli gwasanaeth neu gyfleuster cymunedol gwerthfawr mewn modd anghyfiawn, nac adeilad amaethyddol a allai fod yn ofynnol i ddiwallu anghenion amaethyddol hirdymor yr uned;
- Nid oes unrhyw effaith andwyol ar y Gymraeg, yn unol â pholisi PL/7, ac;
- Mae’r cynnig yn unol â chynllun datblygu arall a pholisïau cenedlaethol.
- Pan mai bwriad y trawsnewid arfaethedig yw diwallu anghenion menter wledig o ran annedd, caiff y datblygiad ei gefnogi yn unol â’r polisi hwn, os caiff amod deiliadaeth Annedd Menter Wledig ei weithredu.
- Ar gyfer datblygiad preswyl arfaethedig gan gynnwys llety gwyliau, dylai’r adeilad fod werth ei gadw oherwydd ei olwg, ei werth hanesyddol, pensaernïol neu dirweddol, a dylai’r cynllun trawsnewid gadw’r nodweddion pwysig a nodwyd.
- Ni chaniateir cynigion a fyddai’n arwain at annedd newydd heb gyfyngiad ar y farchnad agored trwy naill ai drawsnewid neu ddileu amod deiliadaeth (fel llety gwyliau tymor byr, Tai Fforddiadwy ar gyfer Angen Lleol (AHLN) neu Anheddau Mentrau Gwledig (AMG)) oni bai:
- Bod cyfraniad yn cael ei wneud at AHLN, wedi’i reoli trwy A106,
- Bod tystiolaeth ddigonol wedi’i darparu i gyfiawnhau dilau amod deiliadaeth (lle bo’n berthnasol); a
- Bod meini prawf ym mholisi HS/9 yn cael eu bodloni.
5.2.72 Dylai ACLl fabwysiadu dull cadarnhaol o drawsnewid adeiladau gwledig i’w hailddefnyddio i ddibenion busnes yn unol â PCC a TAN 23. Dylid nodi bod polisi ar wahân yn yr adran Datblygu Economaidd (ED/6) sy’n cynnwys meini prawf ar gyfer adeiladau newydd at ddibenion ehangu busnesau gwledig presennol ac arallgyfeirio ffermydd. Mae polisi ED/3 yn darparu canllawiau am eiddo cyflogaeth newydd yn yr ardal wledig. Gallai polisi HS/10 fod yn berthnasol. Sylw
5.2.73 Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd angen cyflwyno adroddiad strwythurol a baratowyd gan beiriannydd strwythurol cymwys gyda cheisiadau am gynlluniau trawsnewid i ddangos bod y meini prawf yn rhan 1b y polisi wedi’u bodloni. Sylw
5.2.74 Dylai datblygiadau fod ar raddfa sy’n briodol i’w lleoliad. Gallai datblygiadau cyflogaeth neu fanwerthu yng nghefn gwlad wrthdaro gydag egwyddorion datblygu cynaliadwy, gan arwain at symudiad traffig anaddas a niwed amgylcheddol posibl. Dylai datblygiadau sy’n arwain at niferoedd sylweddol o weithwyr neu ymwelwyr gael eu lleoli mewn aneddiadau neu gerllaw a dylent fod yn hygyrch ar gludiant cyhoeddus, trwy feicio neu ar droed. Mewn ardaloedd heb fynediad o’r fath, gallai datblygiad busnes ar raddfa fach fod yn briodol pan fo’n arwain at gynnydd bach yn unig o ran symudiad cerbydau. Gallai hyn olygu bod angen creu Cynllun Teithio a/neu liniaru effaith traffig yn unol â pholisi STA/1. Sylw
5.2.75 Ni chaniateir ail gartrefi oherwydd yr effaith negyddol bosibl ar gyflenwad tai mewn ardaloedd gwledig a’r diffyg budd economaidd sy’n deillio o’r cynllun. Sylw
5.2.76 Mae defnydd preswyl parhaol yn cynnwys AMG (a fydd yn troi’n AHLN os na fydd eu hangen mwyach) a thai'r farchnad agored. Ceisir cyfraniad ariannol tuag at ddarparu AHLN mewn lleoliadau cynaliadwy a phriodol ar gyfer trawsnewid eiddo gwledig yn dai'r farchnad agored ac ar gyfer ceisiadau sy’n ceisio codi cyfyngiadau deiliadaeth sy’n gysylltiedig ag AMG. Caiff defnydd tymor byr (cyfnod o hyd at 5 mlynedd) o AMG fel llety gwyliau tymor byr ei gefnogi yn amodol ar gyfiawnhad yn unol â pholisi HS/9, oherwydd mae’n diogelu defnydd a chadw AMG yn y tymor hwy. At ddibenion rhan 4 o bolisi PL/10, mae annedd newydd heb gyfyngiad ar y farchnad agored yn cyfeirio at unrhyw gynnig a fyddai’n arwain at annedd heb unrhyw gyfyngiadau deiliadaeth, boed hynny trwy drawsnewidiad newydd, neu trwy ddileu cyfyngiadau deiliadaeth o annedd bresennol. Sylw
Cynlluniau Creu Lleoedd a Chynlluniau Bro Sylw
Amcan perthnasol: SO1 Sylw
PL/11 Cynlluniau Creu Lleoedd a Chynlluniau Bro Sylw
Er mwyn hybu gweithredu ar y cyd, gwella lles a chreu lleoedd yng Nghonwy, caiff Cynlluniau Creu Lleoedd a Chynlluniau Bro eu cefnogi pan fyddant wedi’u paratoi ar y cyd â’r gymuned leol a phan fyddant wedi’u mabwysiadu fel Canllawiau Cynllunio Atodol yn unol â Chanllawiau Cydymffurfio Creu Lleoedd a Chynlluniau Bro Conwy.
5.2.77 Mae Cynlluniau Lleoedd a Chynlluniau Bro yn ddogfennau anstatudol. Gall cymunedau lleol ysgogi eu paratoi ac maent yn adnodd pwerus wrth hyrwyddo gweithredu ar y cyd i wella lles a chreu lleoedd. Dylent gefnogi darpariaeth polisïau’r CDLlN a gellir eu mabwysiadu fel canllaw cynllunio atodol. Mae’r Cyngor wedi creu Canllawiau Cymunedol Cynllun Bro a Chanllawiau Cydymffurfio ar gyfer Cynlluniau Creu Lleoedd a Chynlluniau Bro i gynorthwyo cymunedau i baratoi a mabwysiadu cynlluniau o’r fath. Sylw
5.2.78 Mae Cynlluniau Creu Lleoedd a Chynlluniau Bro yn rhoi cyfle i gymunedau ymgysylltu â’r broses o greu’r cynlluniau ar lefel leol. Maen nhw’n ymwneud â darparu canlyniadau lleol, helpu i feithrin consensws a phrynu i mewn o fewn proses ehangach cynlluniau datblygu. Gallant ychwanegu manylion bach at CDLl sydd wedi’i fabwysiadu. Gellir eu cynhyrchu gan Gynghorau Tref a Chymuned neu’r ACLl ar y cyd â chymunedau lleol. Mae’n hanfodol bod pawb sy’n cymryd rhan yn gwerthfawrogi’r adnoddau sydd eu hangen i baratoi’r Cynlluniau a bydd yn hanfodol ymgysylltu’n gynnar â phawb. Mae canllawiau Conwy yn cynorthwyo cymunedau i ddeall y materion hyn. Sylw
5.2.79 Dylai Cynlluniau Creu Lleoedd a Chynlluniau Bro gydymffurfio â’r CDLlN a gellir eu mabwysiadu fel CCA os oes digon o ‘gysylltiad polisi’ yn y cynllun. Ni allant ddyblygu na chyflwyno polisi newydd ac ni allant ddad-ddyrannu safleoedd a nodwyd yn y cynllun datblygu a fabwysiadwyd. Nid yw Cynlluniau Creu Lleoedd a Chynlluniau Bro yn rhan o’r cynllun datblygu statudol; yn hytrach, maen nhw’n ychwanegu manylion at y cynllun a fabwysiadwyd. Mae Canllawiau Cydymffurfio Conwy yn cynorthwyo cymunedau i ddeall y materion paratoi hyn. Sylw
Isadeiledd a datblygiadau newydd Sylw
Amcan perthnasol: SO1 Sylw
PL12 datblygiad, isadeiledd a rhwymedigaethau cynllunio newydd Sylw
- Mae’n rhaid i bob datblygiad wneud darpariaeth ddigonol i liniaru’r effaith gymdeithasol, economaidd, ffisegol a/neu amgylcheddol sy’n deillio o’r datblygiad. Yn unol â’r fframwaith polisi creu lleoedd ac ystyriaethau materol eraill, mae’n rhaid i ddatblygiadau wneud darpariaeth addas ar gyfer:
- y Gymraeg;
- tai fforddiadwy;
- mannau hamdden;
- cyfleusterau cymunedol;
- carbon sero net;
- budd net i fioamrywiaeth;
- teithio llesol;
- bodloni gofynion polisi fel a nodir mewn Cynlluniau Creu Lleoedd a Chynlluniau Bro a fabwysiadwyd fel CCA; ac
- unrhyw ofynion eraill ar y safle neu oddi arno sydd eu hangen o ran y datblygiad, ac sy’n bodloni’r profion perthnasol a nodir mewn canllawiau cenedlaethol.
- Caiff rhain eu rheoli naill ai trwy amod cynllunio neu rwymedigaethau cynllunio, fel y bernir sy’n fwyaf priodol gan yr ACLl.
5.2.80 Caiff cynigion ar gyfer datblygiadau yn ardal CDLlN Conwy eu cefnogi os ydynt wedi gwneud trefniadau addas ar gyfer gwella darpariaeth ar gyfer isadeiledd, gwasanaethau a chyfleusterau ar y safle ac oddi ar y safle sy’n angenrheidiol oherwydd y datblygiad, gan gynnwys ar gyfer eu cynnal a’u cadw yn y dyfodol. Sylw
5.2.81 Mae’n bwysig bod darpariaeth yn cael ei gwneud ar gyfer isadeiledd, gwasanaethau a chyfleusterau ychwanegol sy’n deillio o ddatblygiad newydd, ac ar gyfer eu cynnal a’u cadw yn y dyfodol, yn ogystal ag ar gyfer mynediad addas, parcio, draenio, dyluniad, ynni adnewyddadwy a thirlunio ar y safle. Mae pob datblygiad newydd yn cyfrannu at alw ar isadeiledd, cyfleusterau cymunedol a gwasanaethau cyhoeddus presennol. Felly bydd disgwyl i ddatblygwyr gyfrannu at y gwelliannau angenrheidiol neu ddarpariaeth newydd i ddiwallu anghenion sy’n deillio o’u datblygiadau. Ni ddylid datblygu cyn i’r isadeiledd gofynnol fod yn ei le. Caniateir datblygiad dim ond pan fydd cytundeb rhwng y partïon perthnasol o ran y cyllid a gweithredu darpariaeth gofynnol ar y safle ac oddi ar y safle, fel a nodir yn y CCA Rhwymedigaethau Cynllunio. Fodd bynnag, mae’n amlwg bod rhai safleoedd yn profi cyfyngiadau sylweddol a allai gael effaith ar allu i ddarparu safle yn ariannol. Yn yr achosion hyn, defnyddir rhywfaint o hyblygrwydd yn unol â pholisi PL/13 a HS/3. Sylw
5.2.82 Pan fo hyfywedd ariannol yn cyfyngu ar lefel y rhwymedigaethau y gellir eu ceisio, dilynir y systemau blaenoriaeth a nodir yn y CCA Rhwymedigaethau Cynllunio. Sylw
Rhwymedigaethau cynllunio a hyfywedd Sylw
Amcan perthnasol: SO1 Sylw
PL/13 datblygiad newydd a hyfywedd Sylw
- Ni chaiff cynigion datblygu eu cefnogi pan nad yw’r ymgeisydd yn bodloni’r gofynion a nodir ym mholisi PL/12, oni bai bod amgylchiadau eithriadol wedi’u cyfiawnhau. Pan nad yw’r ACLl yn fodlon bod yr ymgeisydd wedi gwneud ymdrechion rhesymol i fodloni gofynion polisi cynllunio, neu pan fyddai’r rhwymedigaethau cynllunio llai yn golygu y byddai’r datblygiad yn cael effaith annerbyniol, bydd y cynnig y cael ei wrthod.
- Mewn amgylchiadau eithriadol, bydd yr ACLl yn derbyn Asesiadau Hyfywedd Ariannol (AHA) ar gyfer safleoedd nad yw ymgeiswyr yn ystyried eu bod yn hyfyw ar gyfer datblygu. Ni chaiff AHA eu hystyried oni bai bod yr ymgeisydd wedi dangos y canlynol yn ddigonol i fodloni’r ACLl (gyda thystiolaeth lle bo’n briodol):
- Bod y safle neu ddatblygiad yn cynrychioli amgylchiad eithriadol dilys, gyda hyfywedd ariannol mwy heriol na safleoedd tebyg yn yr ardal;
- Bod pris prynu neu werth defnydd presennol y safle arfaethedig yn cynrychioli ei ddefnydd a’i gyflwr presennol; a
- Bod camau rhesymol wedi’u cymryd i fodloni gofynion polisi cynllunio, gan gynnwys ystyried cynlluniau amgen (e.e. defnydd amgen neu gyfuniad o dai).
Ar ôl ystyried yr holl dystiolaeth a ddarparwyd gan yr ymgeisydd, os bydd yr ACLl yn cytuno nad yw’r datblygiad yn ariannol hyfyw er mwyn bodloni gofynion polisi cynllunio o ran rhwymedigaethau cynllunio, mae’n bosibl y derbynnir gostyngiad.
5.2.83 Disgwylir i bob datblygiad wneud darpariaeth resymol tuag at fodloni’r isadeiledd a’r cyfleusterau gofynnol ar gyfer y datblygiad hwnnw. Mae’r cyfrifoldeb ar ddatblygwyr, ymgeiswyr a pherchnogion tir i roi ystyriaeth ddyledus i ofynion polisi cynllunio a chostau datblygu eraill (gan gynnwys costau anarferol), wrth drafod gwerth safleoedd. Sylw
5.2.84 Mae’n bwysig bod datblygwyr yn deall hyfywedd ariannol eu prosiect o’r dechrau, a’u bod yn cynnwys hyn wrth ddylunio datblygiadau. Wrth i gais datblygu symud ymlaen a’r amgylchiadau newid (er enghraifft, prisiau tai, costau adeiladu), argymhellir bod datblygwyr yn edrych ar eu hasesiad hyfywedd eto i sicrhau ei fod yn ddilys o hyd a bod y datblygiad yn gallu bodloni’r holl gostau datblygu gan gynnwys costau rhwymedigaethau cynllunio. Sylw
5.2.85 Mae targedau tai fforddiadwy wedi’u gosod ar ôl cynnal asesiad hyfywedd ar safleoedd, gan ystyried y costau adeiladu hysbys ym Mwrdeistref Sirol Conwy a chryfder y farchnad dai leol. Mae trothwyau wedi’u gosod mewn rhai ardaloedd, i ganiatáu ar gyfer mwy o her o ran hyfywedd safleoedd llai, yn enwedig Tir a Ddatblygwyd Eisoes. Sylw
5.2.86 Mae canllawiau cenedlaethol yn PCC yn glir mai dim ond mewn amgylchiadau eithriadol y dylid cynnal asesiadau hyfywedd. Ni fydd yr ACLl yn ystyried lleihau neu hepgor gofynion rhwymedigaethau cynllunio oni bai bod ymgeiswyr wedi dangos yn glir bod y safle yn achos eithriadol, gan arwain at gostau datblygu sy’n sylweddol uwch, a/neu werth datblygu gros sy’n sylweddol is na safleoedd tebyg eraill. Ni chaiff rhwymedigaethau cynllunio eu lleihau na’u hepgor pan fo pryderon o ran hyfywedd yn deillio oherwydd bod yr ymgeisydd wedi talu gormod am safle. Sylw
5.2.87 Gall bron iawn unrhyw safle edrych fel safle nad yw’n hyfyw trwy gynigion datblygu amhriodol. Er enghraifft, gall adeiladu rhai tai mawr ar safle gynyddu elw datblygwr ond lleihau Gwerth Gweddilliol datblygiad o’i gymharu â datblygiad tai llai, gan olygu bod datblygiad yn edrych fel un nad yw’n hyfyw o ran rhwymedigaethau cynllunio. Cyfrifoldeb yr ymgeisydd yw dylunio datblygiad hyfyw, felly bydd yr ACLl yn ei gwneud yn ofynnol i ymgeiswyr ystyried cyfuniad amgen o dai fel rhan o’r broses asesu hyfywedd. Pan fo’r ymgeisydd wedi dewis cyfuniad o dai sy’n golygu nad yw cynllun yn hyfyw, nid yw hyn yn debygol o fod yn rheswm dros leihau rhwymedigaethau cynllunio pan fyddai cynllun amgen rhesymol ar y safle yn hyfyw. Sylw
5.2.88 Mae’n rhaid i unrhyw rwymedigaethau cynllunio y mae’r ACLl yn eu ceisio fodloni’r profion perthnasol fel a nodir yn rheoliadau CIL 122 neu ganllawiau cenedlaethol (Cylchlythyr 13/97: rhwymedigaethau cynllunio), fel bo’n briodol. Un o’r profion yw bod yn rhaid i rwymedigaeth fod yn ‘angenrheidiol’. Mae hyfywedd ariannol yn ystyriaeth materol, ond nid yw’n dileu’r gofynion a nodir mewn polisi sef fod angen i ymgeiswyr fodloni gofynion rhwymedigaethau cynllunio penodol. Pan ddangoswyd nad yw datblygiad yn hyfyw er mwyn darparu rhwymedigaethau penodol, ond nad yw ei rinweddau yn fwy na’r niwed yn sgil methu â darparu rhwymedigaethau cynllunio, caiff cynigion datblygu eu gwrthod. Sylw
Rheoli ffurf anheddiad Sylw
Amcan perthnasol: SO1 Sylw
PL/14 rheoli ffurf anheddiad Sylw
Mae Lletemau Glas a ffiniau aneddiadau wedi’u nodi ar y map cynigion i ddiogelu cefn gwlad agored a thir amaethyddol. Mae’n rhaid i gynigion datblygu fodloni’r polisïau perthnasol a nodwyd yn adran Creu Lleoedd Cynaliadwy, Fframwaith Tai a Thai Fforddiadwy, Strategaeth Datblygu Economaidd ac Amgylchedd Naturiol y cynllun.
5.2.89 Mae angen diogelu tir agored ac amaethyddol rhag datblygu am y rhesymau canlynol: Sylw
- Atal cyduniad aneddiadau;
- Cynyddu mynediad i gefn gwlad ac annog hamdden er mwyn gwella iechyd;
- Rheoli ffurf trefol drwy gadw rheolaeth ar ehangiad ardaloedd trefol;
- Helpu i ddiogelu cefn gwlad rhag ymlediad aneddiadau trefol;
- Diogelu pryd a gwedd ardal drefol; a
- Helpu i adfywio trefi drwy roi anogaeth i ailddefnyddio tir diffaith a thir trefol arall.
5.2.90 Gellir cyflawni hyn trwy nodi dynodiadau Lletem Las a ffiniau aneddiadau sy’n gwahaniaethu rhwng anheddiad a chefn gwlad agored. Sylw
5.2.91 Defnyddir Lletemau Glas fel clustog rhwng ymyl yr anheddiad a dynodiadau statudol gan ddiogelu golygfeydd pwysig i mewn i’r ardal ac allan ohoni. Mae Lletemau Glas (polisi NE/5) wedi’u dangos ar y map cynigion a’u dangos yn Papur Cefndir 29/31. Mae’r polisïau cyffredinol sy’n rheoli datblygu yng nghefn gwlad yn berthnasol mewn Lletem Las ond, yn ogystal â hynny, ceir rhagdybiaeth gyffredinol yn erbyn datblygiadau sy’n amhriodol yng nghyd-destun dibenion y dynodiad. Gall Lletemau Glas gael effeithiau buddiol eraill, gan gynnwys darparu mynediad i gefn gwlad a chyfleoedd chwaraeon a hamdden. Sylw
5.2.92 Mae polisi PL/14 yn nodi’r dull strategol trosfwaol ar gyfer y cynllun. Mae’n rhaid i gynigion datblygu fodloni polisïau perthnasol y cynllun. Sylw
Ardal Wella’r Dwyrain Sylw
Amcan perthnasol: SO1 Sylw
PL/15 Ardal Wella’r Dwyrain Sylw
Mae Ardal Wella’r Dwyrain wedi’i diffinio ar y map cynigion. Caiff Cynllun ei ddatblygu a’i fabwysiadu ar gyfer yr ardal hon er mwyn hybu cymunedau cynaliadwy a gwydn.
5.2.93 Mae rhannau o is-ardal CDLlN y Dwyrain (Abergele, Pensarn, Towyn a Bae Cinmel) yn y CDSA yn hynod gyfyngedig o ganlyniad i risg llifogydd a chapasiti isadeledd priffyrdd sy’n arwain at gyfleoedd cyfyngedig i ddarparu ar gyfer twf o ran tai a chyflogaeth dros gyfnod y cynllun. Mae’r ardal yn profi darnau o amddifadedd hefyd, a gallai hyn gael ei waethygu oherwydd diffyg cyfleoedd i ddefnyddio tir i ddiwallu anghenion y gymuned dros gyfnod y cynllun. Mae’r risgiau gwydnwch hyn yn flaenoriaeth ar gyfer y cynllun, a chânt eu rheoli trwy greu Cynllun Ardal Wella’r Dwyrain gan gydweithio â’r gymuned, y sector cyhoeddus, buddsoddwyr, datblygwyr a LlC. Mae’r ardal yn destun gwelliannau i’r amddiffynfeydd rhag llifogydd ond dim ond i gynnal yr amddiffyniad mae hyn yn hytrach na helpu gyda chyfleoedd am dwf a diwallu anghenion y gymuned. Sylw
5.2.94 Caiff Cynllun Ardal Wella’r Dwyrain ei baratoi yn unol â’r polisïau sydd wedi’u cynnwys yn y CDLlN, ac os yw’n berthnasol, ei fabwysiadu fel CCA. Sylw
Creu Lleoedd a safleoedd Sylw
Amcan perthnasol: SO1 Sylw
PL/16 creu lleoedd a safleoedd Sylw
- Mae’n rhaid i bob safle sy’n cynnwys 10 neu fwy o unedau preswyl yn y CDSA a Llanrwst, neu 5 neu fwy yn y RDSA, neu 0.1 hectar o dir ar gyfer pob cynnig datblygu arall, gan gynnwys dyraniadau safle a datblygiadau defnydd cymysg, flaenoriaethu lles hirdymor pobl a chreu amgylcheddau ffyniannus, cynhwysol a chynaliadwy trwy’r broses ddylunio creu lleoedd trwy:
- Fodloni’r polisïau perthnasol a nodir yn Fframwaith Polisi Creu Lleoedd y cynllun;
- Lle bo hynny’n berthnasol, ystyried a chynnwys y materion cynllunio a godwyd gan gymunedau trwy ymgynghoriad cyn ymgeisio, a’r Adroddiad Ymgynghori Cymorth Cynllunio Cymru ar gyfer safleoedd a ddyrennir;
- Ymgysylltu’n gynnar gyda’r ACLl i baratoi Datganiad Cydymffurfio Creu Lleoedd yn unol â’r Fframwaith Polisi Creu Lleoedd. Dylai hyn gynnwys fframwaith manwl ar gyfer sut caiff y safle ei ddatblygu, gan ddangos sut mae’n darparu Fframwaith Polisi Creu Lleoedd y CDLlN, polisi sy’n benodol i’r safle (lle bo’n berthnasol) a pholisïau cysylltiedig; a,
- Blaenoriaethu dull cynhwysfawr o ran datblygu safleoedd. Ni chaiff cynigion datblygu tameidiog eu derbyn os ydynt yn effeithio ar ddarparu, hyfywedd a chynaliadwyedd y safle neu os ydynt yn arwain at fath o ddatblygiad heb ei gydlynu.
5.2.95 Mae ymgysylltu’n gynnar â’r gymuned a’r ACLl yn hanfodol er mwyn darparu lleoedd o ansawdd uchel a’r egwyddorion creu lleoedd. Ni chaiff cynigion datblygu a cheisiadau cynllunio sydd wedi’u datblygu heb ystyried y polisïau Creu Lleoedd Cynaliadwy eu cefnogi. Mae’n rhaid dilyn dull cynhwysfawr o ran datblygu wrth symud y cynnig ymlaen, gan gadw’r ystyriaethau creu lleoedd, hyfywedd a chynaliadwyedd y safle mewn cof. Ni chaiff cynigion datblygu tameidiog eu cefnogi os ydynt yn effeithio ar ddarparu, hyfywedd a chynaliadwyedd y safle. Dylid cyflwyno Datganiad Creu Lleoedd a Chydymffurfio ar gyfer dyraniadau a cheisiadau perthnasol. Caiff CCA ei baratoi i nodi gofynion Datganiad Creu Lleoedd a Chydymffurfio. Sylw
5.2.96 Mae’n rhaid i bob safle sy’n cynnwys 10 neu fwy o unedau preswyl yn y CDSA a Llanrwst, neu 5 neu fwy yn y RDSA, neu 0.1 hectar o dir ar gyfer pob cynnig datblygu arall, gan gynnwys dyraniadau safle a datblygiadau defnydd cymysg, gydymffurfio â pholisi PL/16. Y ceisiadau sy’n is na’r trothwy hwn yn gyffredinol yw’r rhai sy’n dod y tu allan i’r trothwyau hyn, fel datblygiadau tai neu estyniadau ar raddfa lai, neu newid defnydd nad yw’n cynnwys arwynebedd llawr neu arwynebedd safle mawr. Mae trothwy is ar gyfer tai yn y RDSA oherwydd sensitifrwydd cymunedau gwledig a’r angen i hybu gwydnwch a diogelu hunaniaeth. Sylw
PL/17 safle 157 Caeffynnon, Llanfairfechan - safle tai ac addysg defnydd cymysg Sylw
- Mae’r safle hwn wedi’i ddynodi ar gyfer datblygiad preswyl (145 o gartrefi), ysgol gynradd newydd, mannau hamdden a llwybrau teithio llesol. Bydd yr ysgol wedi’i lleoli i’r gogledd-ddwyrain o’r safle, gerllaw Aber Road a Ffordd Cae Ffynnon.
- Mae’n rhaid i gynigion fodloni’r gofynion canlynol o ran creu lleoedd ac isadeiledd:
- Priffyrdd – dylid darparu mynediad i’r tai trwy Ffordd Cae Ffynnon. Dylid darparu mynediad i’r ysgol gynradd trwy Aber Road. Bydd angen gwelliannau i leiniau gwelededd.
- Teithio llesol – mae’n rhaid darparu llwybrau sy’n cysylltu â’r rhwydwaith teithio llesol (oddi ar Ffordd Cae Ffynnon) a’r arosfannau bysiau agosaf (Mynwent Rhandir Hedd a Bont Newydd):
- Tai fforddiadwy – darparu tai fforddiadwy ar y safle yn unol â pholisi HS/3 a HS/4.
- Isadeiledd – darparu isadeiledd angenrheidiol a rhwymedigaethau cynllunio yn unol â PL/12 datblygiad newydd, isadeiledd a rhwymedigaethau cynllunio, PL/13 datblygiad newydd a gwelededd a pholisi man hamdden RS/2.
- Mesurau llifogydd / dŵr wyneb – mae’r safle yn rhannol o fewn Parth Llifogydd 3 ar gyfer dŵr wyneb a chyrsiau dŵr bach. Mae angen Asesiad o Ganlyniadau Llifogydd i ddangos bod y risg llifogydd hon yn cael ei rheoli trwy ddefnyddio Systemau Draenio Cynaliadwy.
- Cyflenwad dŵr a chapasiti carthffosiaeth – mae prif gyflenwad dŵr yn croesi’r safle. Bydd angen hawddfraint priodol a dylai gosodiad y safle adlewyrchu hyn.
- Cyfleustodau – mae pibell nwy capasiti uchel yn croesi’r safle. Bydd angen hawddfraint priodol. Ni chaniateir tai a’r ysgol mewn parthau penodol, fel a nodir gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch. Dylai gosodiad y safle adlewyrchu hyn.
- Tirwedd – mae’n rhaid i’r safle gael ei ddylunio’n briodol, gan gynnwys mesurau sgrinio i sicrhau bod y safle’n cyfrannu’n gadarnhaol at olygfannau yn yr ardal leol, gan gynnwys o Barc Cenedlaethol Eryri.
- Archeoleg – mae’n debygol iawn y bydd nodweddion archeolegol ar y safle. Mae safleoedd hysbys gerllaw hefyd. Bydd angen cynnal asesiad archeolegol ar gyfer y cais cynllunio.
- Amgylchedd hanesyddol – mae hwn yn safle sensitif o ran asedau hanesyddol. Felly dylai ceisiadau cynllunio sicrhau bod dyluniad, graddfa, gosodiad a deunyddiau adeiladau ac isadeiledd cysylltiedig yn lleihau’r effaith ar yr asedau hanesyddol hyn.
- Isadeiledd gwyrdd – mae’n rhaid i goetir presennol (gan gynnwys ar hyd Ffordd Cae Ffynnon, gerllaw Llannerch Road ac ar hyd Aber Road) a llinellau coed gael eu cynnal fel nodweddion anhameidiog parhaus yn y dirwedd. Mae’n rhaid cadw’r ddwy dderwen sy’n tyfu’n agored. Dylid ceisio cyfleoedd trwy ddylunio tirlunio i uno parseli ar wahân o goetir hynafol â choetir brodorol a/neu blannu gwrychoedd. Bydd angen llain glustogi (parth gwahardd adeiladu) o 15 metr ar gyfer y parseli o Goetir Hynafol.
- Y Gymraeg – mae’n rhaid i fesurau lliniaru gael eu darparu, yn unol â pholisi PL/7.
5.2.97 Mae dyrannu’r safle hwn yn Llanfairfechan yn rhoi cyfle i ddiwallu’r angen o ran tai ar gyfer is-ardal y Gorllewin, wrth ddatrys problemau o ran capasiti a phroblemau eraill mewn cyfleusterau ysgol gynradd leol. Ymgynghorwyd â budd-ddeiliaid allweddol a chyrff statudol am y safle hwn ac mae’r materion a godwyd wedi’u hadlewyrchu yn y polisi creu lleoedd hwn sy’n benodol i’r safle. Sylw
5.2.98 Mae angen sylweddol wedi’i nodi am dai fforddiadwy yn Llanfairfechan ei hun ac is-ardal ehangach y Gorllewin. Mae’r Asesiad o’r Farchnad Dai Leol (2022-37) yn rhagweld y bydd yr angen hwn yn parhau trwy gydol cyfnod y cynllun a thu hwnt. Mae’n rhaid darparu unedau o dai fforddiadwy ar y safle i ddiwallu’r angen hwn a nodwyd yn lleol. Dylai’r cymysgedd o dai a gynigir adlewyrchu’r angen lleol a nodwyd yn Llanfairfechan ac is-ardal y Gorllewin. Argymhellir ymgysylltu’n gynnar â Gwasanaethau Tai CBSC er mwyn sicrhau bod y gofyniad polisi hwn yn cael ei fodloni. Sylw
5.2.99 Dangosodd ymgynghoriad â Gwasanaethau Addysg CBSC fod pryderon o ran capasisi mewn ysgolion cynradd lleol. Er mwyn datrys hyn, mae’r Cyngor wedi nodi ardal Llanfairfechan fel blaenoriaeth yn ei Raglen Amlinellol Strategol 9 mlynedd, Cymunedau Dysgu Cynaliadwy. Caiff y rhaglen hon ei hadolygu bob 3 blynedd. Pe bai Gwasanaethau Addysg CBSC yn cadarnhau nad oes angen y tir mwyach ar gyfer ysgol gynradd newydd, gall y tir ddod ymlaen yn unol â pholisïau eraill CDLlN. Sylw
5.2.100 Er mwyn sicrhau bod darpariaeth gofal iechyd yn gallu darparu ar gyfer y tai newydd, bydd angen rhoi ystyriaeth ofalus i’r mesurau lliniaru a amlinellir yn natganiad tir cyffredin BIPBC/CBSC. Mae mesurau o’r fath yn cynnwys creu gwasanaethau clwstwr, hybu ffyrdd o fyw mwy iach, gofal o bell a thechnoleg a chyfraniadau ariannol Adran 106 lle bo’n briodol. Cyfeiriwch at Bapur Cefndir 44 Newid yn y Boblogaeth, Tai a’r Effaith ar Iechyd/Gofal Sylfaenol. Sylw
5.2.101 Bydd angen datganiad Creu Lleoedd sy’n nodi sut mae’r cynllun arfaethedig yn cydymffurfio â pholisi ac adlewyrchu blaenoriaethau’r gymuned, fel a nodwyd yn yr adroddiad ymgysylltu â’r gymuned. Sylw
5.2.102 Bydd angen asesiad priffyrdd ac mae’n rhaid iddo gynnwys yr effaith ar gyffyrdd cefnffordd yr A55. Dylid darparu llwybrau teithio llesol o ansawdd da, diogel a chwbl hygyrch trwy ganol y safle, gan gysylltu’r ysgol a’r ardaloedd preswyl â chanolfan fanwerthu Llanfairfechan, cludiant cyhoeddus ac amwynderau lleol allweddol eraill. Sylw
5.2.103 Mae Papur Cefndir 28: Asesiad Mannau Hamdden yn nodi diffygion o ran caeau chwarae, chwaraeon awyr agored, mannau chwarae ffurfiol a darpariaeth awyr agored arall yn Llanfairfechan. Er na ddisgwylir i’r dyraniad safle hwn oresgyn y diffygion hyn, mae’n hanfodol bod y safle yn darparu ar gyfer anghenion mannau hamdden preswylwyr sy’n byw yno. Ni ystyrir ei bod yn briodol cynnwys y coetir presennol fel mannau hamdden ffurfiol neu fannau chwarae i blant, fel bod y fflora ar y ddaear yn cael eu diogelu a bod cyn lleied o amhariad ag sy’n bosibl. Fodd bynnag, gallant ddarparu gwelliannau o ran bioamrywiaeth a dylent gael eu cynnwys yn nghynllun ehangach y safle, a’u cynnwys mewn amserlen rheoli cadwraeth bositif hirdymor. Caiff hyn ei reoli trwy amodau cynllunio neu gytundeb cyfreithiol. Sylw
5.2.104 Bydd angen cynnal asesiad ecolegol rhagarweiniol ac arolwg rhywogaethau a ddiogelir gan gynnwys, ond heb eu cyfyngu i, weithgarwch ystlumod, adar gaeafu a moch daear yng nghyfnod y cais cynllunio. Mae clwydydd Ystlumod Pedol Lleiaf ac Ystlumod Hirglust (Rywogaethau a Warchodir gan Ewrop) wedi’u cadarnhau ar y safle. Sylw
5.2.105 Mae Llanfairfechan wedi’i nodi fel Ardal sy’n Sensitif o ran y Gymraeg yn y CDLlN (polisi PL/7). Mae mesurau lliniaru’n cael eu hawgrymu ym Mhapur Cefndir 74: Asesiad o’r Effaith ar y Gymraeg a bydd angen eu darparu fel rhan o ddatblygiad y safle. Bydd y mesurau hyn yn cael eu sicrhau drwy amod cynllunio neu gytundeb cyfreithiol. Sylw
5.2.106 Mae ASIDOHL wedi’i baratoi ar gyfer y safle, sy’n dod i’r casgliad na fyddai unrhyw effaith sylweddol ar y Dirwedd Hanesyddol Gofrestredig. Sylw
PL/18 safle 91 Pentywyn Road, Deganwy / Llanrhos - safle tai Sylw
- Mae’r safle hwn wedi’i ddynodi ar gyfer datblygiad preswyl (140 o gartrefi), mannau hamdden a llwybrau teithio llesol.
- Mae’n rhaid i gynigion fodloni’r gofynion canlynol o ran creu lleoedd ac isadeiledd:
- Priffyrdd – dylid darparu mynediad i gerbydau a gwaith adeiladu trwy Pentywyn Road.
- Sero net – bydd angen Strategaeth Ynni er mwyn llywio’r cais cynllunio i ddangos mesurau tuag at gyflawni carbon sero net yn unol â pholisi EN/1-7.
- Teithio Llesol – mae’n rhaid darparu llwybrau sy’n cysylltu â’r rhwydwaith hawliau tramwy (oddi ar Pentywyn Road a thrwy Bryn Lupus Road) a’r arosfannau bysiau agosaf ac mae’n rhaid eu gwella yn unol â PL/1, PL/5 ac adran Cludiant Cynaliadwy a Strategaeth Hygyrchedd y fframwaith creu lleoedd.
- Tai fforddiadwy – darparu tai fforddiadwy ar y safle yn unol â pholisi HS/3 a HS/4.
- Isadeiledd – darparu isadeiledd angenrheidiol a rhwymedigaethau cynllunio yn unol â pholisïau PL/12, PL/13, CFS/2 a RS/2.
- Cyflenwad dŵr a charthffosiaeth – bydd angen Asesiad Modelu Hydrolig i lywio’r cais cynllunio.
-
Mesurau llifogydd / dŵr wyneb – wedi’u rheoli trwy ddefnyddio cynllun Systemau Draenio Cynaliadwy cymeradwy.
-
Tirwedd a choed – dylai coed presennol gael eu cadw a dylai’r safle gael ei ddylunio’n briodol, gan gynnwys mesurau sgrinio i sicrhau bod y safle’n cyfrannu’n gadarnhaol at olygfannau yn yr ardal leol. Bydd angen plannu coed newydd yn unol â pholisi NE/6.
- Archeoleg – mae’n debygol iawn y bydd nodweddion archeolegol ar y safle. Mae safleoedd hysbys gerllaw hefyd. Bydd angen cynnal asesiad archeolegol ar gyfer y cais cynllunio.
- Amgylchedd hanesyddol – mae hwn yn safle sensitif o ran asedau hanesyddol. Felly dylai ceisiadau cynllunio sicrhau bod dyluniad, graddfa, gosodiad a deunyddiau adeiladau ac isadeiledd cysylltiedig yn lleihau’r effaith ar yr asedau hanesyddol hyn.
- Isadeiledd Gwyrdd – Bydd angen datganiad IG ar y cam ymgeisio i ddangos sut mae asedau IG wedi’u cadw a’u gwella gan ychwanegu aml-swyddogaeth gan gynnwys gerddi cymunedol, man agored, coetir a theithio llesol.
5.2.107 Mae dyrannu’r safle hwn yn Llanrhos yn rhoi cyfle i gyfrannu at ddiwallu’r angen o ran tai ar gyfer is-ardal Creuddyn. Ymgynghorwyd â budd-ddeiliaid allweddol a chyrff statudol am y safle hwn ac mae’r materion a godwyd wedi’u hadlewyrchu yn y polisi creu lleoedd hwn sy’n benodol i’r safle. Sylw
5.2.108 Mae angen sylweddol wedi’i nodi am dai fforddiadwy yng Nghyffordd Llandudno ei hun ac is-ardal ehangach Creuddyn. Mae’r Asesiad o’r Farchnad Dai Leol (2022-37) yn rhagweld y bydd yr angen hwn yn parhau trwy gydol cyfnod y cynllun a thu hwnt. Mae’n rhaid darparu unedau o dai fforddiadwy ar y safle i ddiwallu’r angen hwn a nodwyd yn lleol. Dylai’r cymysgedd o dai a gynigir adlewyrchu’r angen lleol a nodwyd yng Nghyffordd Llandudno ac is-ardal Creuddyn. Argymhellir ymgysylltu’n gynnar â Gwasanaethau Tai CBSC er mwyn sicrhau bod y gofyniad polisi hwn yn cael ei fodloni (cymysgedd tai HS/7). Sylw
5.2.109 Bydd angen Cynllun Creu Lleoedd a datganiad cydymffurfio Creu Lleoedd fel a nodir ym mholisi PL/16, sy’n nodi sut mae’r cynllun arfaethedig yn cydymffurfio â pholisi, yn gynaliadwy, ac adlewyrchu blaenoriaethau’r gymuned, fel a nodwyd yn yr adroddiad ymgysylltu â’r gymuned. Sylw
5.2.110 Mae angen Asesiad Modelu Hydrolig ar gyfer y safle. Mae gan Waith Trin Dŵr Gwastraff Ganol gapasiti i dderbyn y safle hwn. Sylw
5.2.111 Dangosodd ymgynghoriad â Gwasanaethau Addysg CBSC fod pryderon o ran capasisi mewn ysgolion cynradd lleol. Er mwyn datrys hyn, mae’r ACLl wedi nodi y ceisir cyfraniadau yn unol â pholisi PL/12. Sylw
5.2.112 Bydd angen Asesiad Trafnidiaeth ac mae’n rhaid iddo gynnwys yr effaith ar gyffyrdd cefnffordd cyfagos. Dylid darparu llwybrau teithio llesol o ansawdd da, diogel a chwbl hygyrch trwy’r safle, gan gysylltu’r hawl tramwy gydag amwynderau lleol allweddol eraill. Sylw
5.2.113 Mae Papur Cefndir 28: Asesiad Mannau Hamdden yn nodi diffygion o ran caeau chwarae, chwaraeon awyr agored, mannau chwarae ffurfiol, darpariaeth awyr agored arall a pharciau a gerddi yn Neganwy / Llanrhos. Er na ddisgwylir i’r dyraniad safle hwn oresgyn y diffygion hyn, mae’n hanfodol bod y safle yn darparu ar gyfer anghenion mannau hamdden preswylwyr sy’n byw yno. Caiff hyn ei reoli trwy amodau cynllunio neu gytundeb cyfreithiol. Sylw
5.2.114 Bydd angen cynnal asesiad ecolegol rhagarweiniol ac arolwg rhywogaethau a ddiogelir wrth lunio’r cais cynllunio. Sylw
5.2.115 Mae Llanrhos wedi’i nodi fel Ardal sy’n Sensitif o ran y Gymraeg yn y CDLlN (polisi PL/7). Mae mesurau lliniaru’n cael eu hawgrymu ym Mhapur Cefndir 74: Asesiad o’r Effaith ar y Gymraeg a bydd angen eu darparu fel rhan o ddatblygiad y safle. Bydd y mesurau hyn yn cael eu sicrhau drwy amod cynllunio neu gytundeb cyfreithiol. Sylw
5.2.116 Mae angen Datganiad Isadeiledd Gwyrdd a Datganiad Bioamrywiaeth ar gyfer pob cynnig datblygu. Dylai datblygiad strategol asesu’r safle, gan gynnwys setiau data sydd ar gael, er mwyn sefydlu gwelliant yn y safle, yn unol â chanllawiau ym Mhapur Cefndir 47 a pholisïau NE/7, NE/8 ac EQ/1. Sylw
PL/19 safle 68, safle tai Fferm Peulwys, Hen Golwyn Sylw
- Mae’r safle hwn wedi’i ddynodi ar gyfer datblygiad preswyl (250 o gartrefi yn ystod cyfnod y CDLlN hwn), mannau hamdden a llwybrau teithio llesol.
- Mae’n rhaid i gynigion fodloni’r gofynion canlynol o ran creu lleoedd ac isadeiledd:
- Priffyrdd – dylid darparu mynediad ar gyfer y datblygiad trwy Peulwys Lane ac ar Llanelian Road. Mae’n bosibl y bydd angen lledaenu’r ffordd a gwneud gwelliannau o ran lleiniau gwelededd hefyd. Bydd angen Asesiad Trafnidiaeth er mwyn rhoi ystyriaeth i’r rhwydwaith priffyrdd ehangach a’r effaith ar deithio llesol.
- Sero net – bydd angen Strategaeth Ynni er mwyn llywio’r cais cynllunio i ddangos mesurau tuag at gyflawni carbon sero net yn unol â pholisi EN/1-7.
- Teithio Llesol – mae’n rhaid darparu llwybrau sy’n cysylltu â’r rhwydwaith hawliau tramwy (oddi ar Peulwys Lane / Llanelian Road) a’r arosfannau bysiau agosaf ac mae’n rhaid eu gwella yn unol â pholisi PL/1, PL/5 ac adran Cludiant Cynaliadwy a Strategaeth Hygyrchedd y fframwaith creu lleoedd.
- Tai fforddiadwy – darparu tai fforddiadwy ar y safle yn unol â pholisi HS/3 a HS/4.
- Isadeiledd – darparu isadeiledd angenrheidiol a rhwymedigaethau cynllunio yn unol â pholisïau PL/12, PL/13, CFS/2 a RS/2.
- Mesurau llifogydd / dŵr wyneb – Mae risg isel iawn i’r safle hwn brofi llifogydd o ddŵr afonol, dŵr llanwol, dŵr wyneb a llifogydd o gyrsiau dŵr bach a dŵr daear. Nid oes angen Asesiad o Ganlyniadau Llifogydd ar gyfer y safle hwn oherwydd y risg isel iawn o lifogydd o bob ffynhonnell. Dylid rheoli unrhyw ddŵr wyneb ffo ar y safle trwy ddefnyddio Systemau Draenio Cynaliadwy.
- Cyfleustodau – gellir darparu cyflenwad dŵr i’r safle a bydd angen Asesiad Modelu Hydrolig yn y cam cais cynllunio er mwyn asesu unrhyw uwchraddio angenrheidiol i’r system garthffosiaeth. Mae pibellau nwy yn yr ardal ond nid oes yr un fel pe baent yn croesi’r safle.
- Tirwedd a choed – dylai coed presennol gael eu cadw a dylai’r safle gael ei ddylunio’n briodol, gan gynnwys mesurau sgrinio i sicrhau bod y safle’n cyfrannu’n gadarnhaol at olygfannau yn yr ardal leol. Bydd angen plannu coed newydd yn unol â pholisi NE/6.
- Archeoleg – mae’n bosibl y bydd nodweddion archeolegol ar y safle. Mae safle hanesyddol hysbys gerllaw. Bydd angen cynnal asesiad archeolegol wrth wneud y cais cynllunio.
- Amgylchedd hanesyddol – Mae Peulwys, sy’n adeiladrhestredig gradd II yn agos at safle’r datblygiad. Felly dylai ceisiadau cynllunio sicrhau bod dyluniad, graddfa, gosodiad a deunyddiau adeiladau ac isadeiledd cysylltiedig yn lleihau’r effaith ar yr ased hanesyddol hwn.
- Isadeiledd Gwyrdd – Bydd angen datganiad IG ar y cam ymgeisio i ddangos sut mae asedau IG wedi’u cadw a’u gwella gan ychwanegu aml-swyddogaeth gan gynnwys gerddi cymunedol, man agored, coetir a theithio llesol. Mae’n rhaid i goed a gwrychoedd presennol gael eu cadw fel nodweddion yn y dirwedd ac i wella cysylltedd cynefinoedd.
- Y Gymraeg – mae’n rhaid i fesurau lliniaru gael eu darparu.
5.2.117 Mae dyrannu’r safle hwn ym Mae Colwyn yn rhoi cyfle i gyfrannu at ddiwallu’r angen o ran tai ar gyfer is-ardal y Canol. Ymgynghorwyd â budd-ddeiliaid allweddol a chyrff statudol am y safle hwn ac mae’r materion a godwyd wedi’u hadlewyrchu yn y polisi creu lleoedd hwn sy’n benodol i’r safle. Sylw
5.2.118 Mae angen sylweddol wedi’i nodi am dai fforddiadwy yn Hen Golwyn ac is-ardal ehangach y Canol. Mae’r Asesiad o’r Farchnad Dai Leol (2022-37) yn rhagweld y bydd yr angen hwn yn parhau trwy gydol cyfnod y cynllun a thu hwnt. Mae’n rhaid darparu unedau o dai fforddiadwy ar y safle i ddiwallu’r angen hwn a nodwyd yn lleol. Dylai’r cymysgedd tai terfynol a gynigir adlewyrchu’r angen a nodwyd yn lleol ac argymhellir gwaith ymgysylltu cynnar gyda Gwasanaethau Tai CBSC er mwyn sicrhau bod y gofyniad polisi hwn yn cael ei fodloni. Sylw
5.2.119 Mae gwaith ymgynghori â Gwasanaethau Addysg CBSC yn dangos bod rhywfaint o gapasiti ar gael yn Ysgol Sŵn y Don ac Ysgol T Gwynn Jones ac nid oes unrhyw broblemau o ran capasiti ysgolion uwchradd. Caiff tir yn Ysgol Sŵn y Don ei ddiogelu ar gyfer unrhyw estyniad yn y dyfodol pe bai angen. Sylw
5.2.120 Bydd angen datganiad Creu Lleoedd sy’n nodi sut mae’r cynllun arfaethedig yn cydymffurfio â pholisi ac adlewyrchu blaenoriaethau’r gymuned, fel a nodwyd yn yr adroddiad ymgysylltu â’r gymuned. Sylw
5.2.121 O ran iechyd, mae problemau o ran capasiti ar hyn o bryd ym meddygfa’r ddalgylch, Cadwgan yn Hen Golwyn. Er mwyn sicrhau bod darpariaeth gofal iechyd yn gallu darparu ar gyfer y tai newydd, bydd angen rhoi ystyriaeth ofalus i’r mesurau lliniaru a amlinellir yn natganiad tir cyffredin BIPBC/CBSC. Mae mesurau o’r fath yn cynnwys creu gwasanaethau clwstwr, hybu ffyrdd o fyw mwy iach, gofal o bell a thechnoleg a chyfraniadau ariannol Adran 106 lle bo’n briodol. Cyfeiriwch at Bapur Cefndir 44: Newid yn y Boblogaeth - Tai ac Effaith Iechyd/Gofal Sylfaenol. Sylw
5.2.122 Bydd angen cynnal asesiad priffyrdd ac mae’n rhaid cynnwys yr effaith ar y rhwydwaith priffyrdd lleol a ‘chylchfan Marine’ (Llanelian Road / Ffordd Abergele) yn benodol. Dylid darparu llwybrau teithio llesol o ansawdd da, diogel a chwbl hygyrch trwy ganol y safle, gan gysylltu’r ardaloedd preswyl â chanolfan fanwerthu Hen Golwyn, cludiant cyhoeddus ac amwynderau lleol allweddol eraill. Sylw
5.2.123 Mae llwybrau teithio llesol yn allweddol wrth gefnogi cerdded a beicio er mwyn galluogi pobl i gynyddu lefelau gweithgarwch corfforol a buddion cysylltiedig i’w hiechyd a’u lles, gan gynnwys lleihau straen a lefelau gordewdra a gwella iechyd cyffredinol. Dylai’r llwybrau fod ar wahân i draffig, dylent fod wedi’u goleuo’n dda a dylid sicrhau gwyliadwriaeth naturiol i sicrhau diogelwch. Dylai llwybrau gysylltu â chyfleusterau presennol er mwyn hybu iechyd a lles trwy gynyddu lefelau gweithgarwch corfforol a chyfleoedd cymdeithasol. Sylw
5.2.124 Mae Papur Cefndir 28: Asesiad Mannau Hamdden yn nodi diffygion o ran caeau chwarae, chwaraeon awyr agored, mannau chwarae ffurfiol a darpariaeth awyr agored yn Hen Golwyn. Er na ddisgwylir i’r dyraniad safle hwn oresgyn y diffygion hyn, mae’n hanfodol bod y safle yn darparu ar gyfer anghenion mannau hamdden preswylwyr sy’n byw yno. Ni ystyrir ei bod yn briodol cynnwys y coetir presennol fel mannau hamdden ffurfiol neu fannau chwarae i blant, fel bod y fflora ar y ddaear yn cael eu diogelu a bod cyn lleied o amhariad ag sy’n bosibl. Fodd bynnag, gallant ddarparu gwelliannau o ran bioamrywiaeth a dylent gael eu cynnwys yn nghynllun ehangach y safle, a’u cynnwys mewn amserlen rheoli cadwraeth bositif hirdymor. Caiff hyn ei reoli trwy amodau cynllunio neu gytundeb cyfreithiol. Sylw
5.3.125 O ran bioamrywiaeth, mae asesiad cychwynnol yn dangos mai glaswelltir sydd wedi’i wella yw’r safle yn bennaf ac nad oes llawer o werth iddo. Mae llawer o’r gwrychoedd sy’n ffinio â’r caeau yn cynnwys coed aeddfed ac mae’r rhain o werth bioamrywiaeth uchel iawn a dylid eu cadw a’u cynnwys yn y cynllun arfaethedig o’r dechrau. Dylai’r llinellau gwrych gael eu cryfhau i ddarparu coridorau ecolegol ar hyd y safle. Sylw
5.2.126 Mae angen Datganiad Isadeiledd Gwyrdd a Datganiad Bioamrywiaeth ar gyfer pob cynnig datblygu. Dylai datblygiad strategol asesu’r safle, gan gynnwys setiau data sydd ar gael, er mwyn sefydlu gwelliant yn y safle, yn unol â chanllawiau yn Phapur Cefndir 47 a pholisïau NE/7, NE/8 ac EQ/1. Sylw
5.2.127 Mae mesurau lliniaru ar gyfer y Gymraeg yn cael eu hawgrymu ym Mhapur Cefndir 42: Asesiad o’r Effaith ar y Gymraeg a bydd angen eu darparu fel rhan o ddatblygiad y safle. Bydd y mesurau hyn yn cael eu sicrhau drwy amod cynllunio neu gytundeb cyfreithiol. Sylw
PL/20 safle 56, Penloyn, Llanrwst - safle tai Sylw
- Mae’r safle hwn wedi’i ddynodi ar gyfer datblygiad preswyl (100 o gartrefi), mannau hamdden a llwybrau teithio llesol.
- Mae’n rhaid i gynigion fodloni’r gofynion canlynol o ran creu lleoedd ac isadeiledd:
- Priffyrdd – Dylid darparu mynediad i gerbydau yn uniongyrchol o’r A470, Bydd angen gwelliannau i leiniau gwelededd.
- Teithio Llesol – Mae’n rhaid darparu llwybrau sy’n cysylltu â’r llwybr teithio llesol presennol ar hyd coridor yr A470. Mae’n rhaid i’r datblygiad ddarparu ar gyfer cysylltiadau teithio llesol yn y dyfodol hefyd gan gynnwys i’r de-ddwyrain o’r safle.
- Tai fforddiadwy – darparu tai fforddiadwy ar y safle yn unol â pholisi HS/3 a HS/4.
- Isadeiledd – darparu isadeiledd angenrheidiol a rhwymedigaethau cynllunio yn unol â PL/12 datblygiad newydd, isadeiledd a rhwymedigaethau cynllunio, PL/13 datblygiad newydd a hyfywedd, CFS/2 rhandiroedd newydd a phresennol a pholisi mannau hamdden RS/2.
- Mesurau llifogydd / dŵr wyneb – mae’r safle yn rhannol o fewn Parth Llifogydd 3 ar gyfer dŵr wyneb a chyrsiau dŵr bach. Mae angen Asesiad o Ganlyniadau Llifogydd i ddangos bod y risg llifogydd hon yn cael ei rheoli trwy ddefnyddio Systemau Draenio Cynaliadwy.
- Cyflenwad dŵr a chapasiti carthffosiaeth – mae prif gyflenwad dŵr yn croesi’r safle. Bydd angen hawddfraint priodol a dylai gosodiad y safle adlewyrchu hyn.
- Tirwedd – mae’n rhaid i’r safle gael ei ddylunio’n briodol, gan gynnwys mesurau sgrinio i sicrhau bod y safle’n cyfrannu’n gadarnhaol at olygfannau yn yr ardal leol, gan gynnwys o Barc Cenedlaethol Eryri.
- Amgylchedd hanesyddol ac archeoleg – mae’r safle hwn yn agos iawn at leoliad hanfodol parc a gerddi hanesyddol rhestredig Gradd II Plas Madoc a’r strwythurau rhestredig Gradd II yng ngorsaf Gogledd Llanrwst. Bydd angen cynnal asesiad archeolegol ac astudiaeth o’r effaith ar dreftadaeth yn y cam cais cynllunio er mwyn llywio’r datblygiad. Dylai ceisiadau cynllunio sicrhau bod dyluniad, graddfa, gosodiad a deunyddiau adeiladau ac isadeiledd cysylltiedig yn lleihau’r effaith ar yr asedau hanesyddol hyn.
- Isadeiledd Gwyrdd – mae’n rhaid cadw coed presennol ar y safle. Mae’n rhaid i wrychoedd gael eu cadw fel nodweddion anhameidiog parhaus yn y dirwedd, a bydd angen cyn lleied â phosibl o fylchau i ganiatáu mynediad trwy’r safle.
- Y Gymraeg – mae’n rhaid i fesurau lliniaru gael eu darparu, yn unol â pholisi PL/7.
5.2.128 Mae dyrannu’r safle hwn yn Llanrwst yn rhoi cyfle i gyfrannu at ddiwallu’r angen o ran tai ar gyfer yr RDSA. Ymgynghorwyd â budd-ddeiliaid allweddol a chyrff statudol am y safle hwn ac mae’r materion a godwyd wedi’u hadlewyrchu yn y polisi creu lleoedd hwn sy’n benodol i’r safle. Sylw
5.2.129 Mae angen sylweddol wedi’i nodi am dai fforddiadwy yn Llanrwst, sef y prif ganolfan boblogaeth yn yr ardal wledig fel a nodir yn yr Asesiad o’r Farchnad Dai Leol a strategaeth ofodol y CDLlN. Mae’r Asesiad o’r Farchnad Dai Leol (2022-37) yn rhagweld y bydd yr angen hwn yn parhau trwy gydol cyfnod y cynllun a thu hwnt. Mae’n rhaid darparu unedau o dai fforddiadwy ar y safle i ddiwallu’r angen hwn a nodwyd yn lleol. Dylai’r cymysgedd o dai a gynigir adlewyrchu’r angen lleol a nodwyd yn Llanrwst a’r RDSA. Argymhellir ymgysylltu’n gynnar â Gwasanaethau Tai CBSC er mwyn sicrhau bod y gofyniad polisi hwn yn cael ei fodloni. Sylw
5.2.130 Dangosodd ymgynghoriad â Gwasanaethau Addysg CBSC fod pryderon o ran capasiti yn Ysgol Bro Gwydir er bod hyn yn bennaf oherwydd bod disgyblion o’r tu allan i’r dalgylch yn mynychu’r ysgol gynradd. Yn y tymor byr, gellir datrys hyn trwy gludiant i ysgolion gerllaw sydd â chapasiti (e.e. Ysgol Llanddoged, Ysgol Dyffryn yr Enfys) a chaiff disgyblion o’r dalgylch eu blaenoriaethu ar gyfer presenoldeb yn yr ysgol yn y tymor hwy. Sylw
5.2.131 Bydd angen datganiad Creu Lleoedd sy’n nodi sut mae’r cynllun arfaethedig yn cydymffurfio â pholisi ac adlewyrchu blaenoriaethau’r gymuned, fel a nodwyd yn yr adroddiad ymgysylltu â’r gymuned. Sylw
5.2.132 Bydd angen asesiad priffyrdd ac mae’n rhaid iddo gynnwys yr effaith ar gyffordd cefnffordd yr A470. Dylid darparu llwybrau teithio llesol o ansawdd da, diogel a chwbl hygyrch trwy ganol y safle, gan gynnig cyfleoedd i gysylltu â llwybrau teithio llesol y dyfodol, ac â llwybrau presennol ar yr A470, gan gysylltu’r ardal breswyl â chanolfan fanwerthu Llanrwst, cludiant cyhoeddus ac amwynderau lleol allweddol eraill. Sylw
5.2.133 Mae Papur Cefndir 28: Asesiad Mannau Hamdden yn nodi diffygion o ran chwaraeon awyr agored, mannau chwarae ffurfiol, darpariaeth awyr agored arall, parciau a gerddi a mannau gwyrdd amwynder yn Llanrwst. Er na ddisgwylir i’r dyraniad safle hwn oresgyn y diffygion hyn, mae’n hanfodol bod y safle yn darparu ar gyfer anghenion mannau hamdden preswylwyr sy’n byw yno. Sylw
5.2.134 Bydd angen cynnal asesiad ecolegol rhagarweiniol ac arolwg rhywogaethau a ddiogelir gan gynnwys, ond heb eu cyfyngu i, weithgarwch ystlumod, adar gaeafu a moch daear. Sylw
5.2.135 Mae Llanrwst wedi’i nodi fel Ardal sy’n Sensitif o ran y Gymraeg yn y CDLlN (polisi PL/7). Mae mesurau lliniaru ar gyfer y Gymraeg yn cael eu hawgrymu ym Mhapur Cefndir 42: Asesiad o’r Effaith ar y Gymraeg a bydd angen eu darparu fel rhan o ddatblygiad y safle. Bydd y mesurau hyn yn cael eu sicrhau drwy amod cynllunio neu gytundeb cyfreithiol. Sylw
PL/21 safle 203 Queens Road, Llandudno - safle tai Sylw
- Mae’r safle hwn wedi’i ddynodi ar gyfer datblygiad preswyl (70 o gartrefi), mannau hamdden a llwybrau teithio llesol.
- Mae’n rhaid i gynigion fodloni’r gofynion canlynol o ran creu lleoedd ac isadeiledd:
- Priffyrdd – Dylid darparu mynediad i gerbydau a gwaith adeiladu trwy Queen’s Road.
- -Sero net – Bydd angen Strategaeth Ynni er mwyn llywio’r cais cynllunio i ddangos mesurau tuag at gyflawni carbon sero net yn unol â pholisi EN/1-7.
- Teithio Llesol – mae’n rhaid darparu llwybrau sy’n cysylltu â’r rhwydwaith hawliau tramwy (oddi ar Queen’s Road a chysylltiadau teithio llesol gwell ar draws cyffordd Wormhout Way/Conwy Road) a’r arosfannau bysiau agosaf ac mae’n rhaid eu gwella yn unol â PL/1 Creu Lleoedd Cynaliadwy, PL/5 Creu Lleoedd a Dylunio Da ac adran Cludiant Cynaliadwy a Strategaeth Hygyrchedd y fframwaith creu lleoedd.
- Tai fforddiadwy – darparu tai fforddiadwy ar y safle yn unol â pholisi HS/3 a HS/4.
- Isadeiledd – darparu isadeiledd angenrheidiol a rhwymedigaethau cynllunio yn unol â PL/12 datblygiad newydd, isadeiledd a rhwymedigaethau cynllunio, PL/13 datblygiad newydd a gwelededd a pholisi man hamdden RS/2.
- Mesurau llifogydd / dŵr wyneb – wedi’u rheoli trwy ddefnyddio cynllun Systemau Draenio Cynaliadwy cymeradwy.
- Tirwedd a choed – dylai coed presennol gael eu cadw a dylai’r safle gael ei ddylunio’n briodol, gan gynnwys mesurau sgrinio i sicrhau bod y safle’n cyfrannu’n gadarnhaol at olygfannau yn yr ardal leol. Bydd angen plannu coed newydd yn unol â pholisi NE/6.
- Archeoleg – mae’n debygol iawn y bydd nodweddion archeolegol ar y safle. Mae safleoedd hysbys gerllaw hefyd. Bydd angen cynnal asesiad archeolegol ar gyfer y cais cynllunio.
- Amgylchedd hanesyddol – mae hwn yn safle sensitif o ran asedau hanesyddol. Felly dylai ceisiadau cynllunio sicrhau bod dyluniad, graddfa, gosodiad a deunyddiau adeiladau ac isadeiledd cysylltiedig yn lleihau’r effaith ar yr asedau hanesyddol hyn.
- Isadeiledd Gwyrdd – Bydd angen datganiad IG ar y cam ymgeisio i ddangos sut mae asedau IG wedi’u cadw a’u gwella gan ychwanegu aml-swyddogaeth gan gynnwys gerddi cymunedol, man agored, coetir a theithio llesol. Mae’n rhaid i goed a gwrychoedd presennol gael eu cadw fel nodweddion yn y dirwedd ac i wella cysylltedd cynefinoedd.
- Y Gymraeg – mae’n rhaid i fesurau lliniaru gael eu darparu.
5.2.136 Mae dyrannu’r safle hwn yn Llandudno yn rhoi cyfle i gyfrannu at ddiwallu’r angen o ran tai ar gyfer y dref ac is-ardal ehangach Creuddyn. Ymgynghorwyd â budd-ddeiliaid allweddol a chyrff statudol am y safle hwn ac mae’r materion a godwyd Sylw
5.2.137 Mae angen sylweddol wedi’i nodi am dai fforddiadwy yng Nghyffordd Llandudno ei hun ac is-ardal ehangach Creuddyn. Mae’r Asesiad o’r Farchnad Dai Leol (2022-37) yn rhagweld y bydd yr angen hwn yn parhau trwy gydol cyfnod y cynllun a thu hwnt. Mae’n rhaid darparu unedau o dai fforddiadwy ar y safle i ddiwallu’r angen hwn a nodwyd yn lleol. Dylai’r cymysgedd o dai a gynigir adlewyrchu’r angen lleol a nodwyd yng Nghyffordd Llandudno ac is-ardal Creuddyn. Argymhellir ymgysylltu’n gynnar â Gwasanaethau Tai CBSC er mwyn sicrhau bod y gofyniad polisi hwn yn cael ei fodloni (polisi HS/7). Sylw
5.2.138 Bydd angen Cynllun Creu Lleoedd a datganiad cydymffurfio Creu Lleoedd fel a nodir ym mholisi PL/16, sy’n nodi sut mae’r cynllun arfaethedig yn cydymffurfio â pholisi, yn gynaliadwy, ac adlewyrchu blaenoriaethau’r gymuned, fel a nodwyd yn yr adroddiad ymgysylltu â’r gymuned. Sylw
5.2.139 Bydd angen Asesiad Trafnidiaeth ac mae’n rhaid iddo gynnwys yr effaith ar gyffyrdd cyfagos a mynediad fferm. Dylid darparu llwybrau teithio llesol o ansawdd da, diogel a chwbl hygyrch trwy’r safle, gan gysylltu’r hawliau tramwy gydag amwynderau lleol allweddol eraill. Sylw
5.2.140 Mae Papur Cefndir 28: Asesiad Mannau Hamdden yn nodi diffygion o ran caeau chwarae, chwaraeon awyr agored, mannau chwarae ffurfiol, darpariaeth awyr agored arall a pharciau a gerddi yn Llandudno. Er na ddisgwylir i’r dyraniad safle hwn oresgyn y diffygion hyn, mae’n hanfodol bod y safle yn darparu ar gyfer anghenion mannau hamdden preswylwyr sy’n byw yno. Caiff hyn ei reoli trwy amodau cynllunio neu gytundeb cyfreithiol. Sylw
5.2.141 Bydd angen cynnal asesiad ecolegol rhagarweiniol ac arolwg rhywogaethau a ddiogelir wrth lunio’r cais cynllunio. Sylw
5.2.142 Mae mesurau lliniaru ar gyfer y Gymraeg yn cael eu hawgrymu ym Mhapur Cefndir 74: Asesiad o’r Effaith ar y Gymraeg a bydd angen eu darparu fel rhan o ddatblygiad y safle. Bydd y mesurau hyn yn cael eu sicrhau drwy amod cynllunio neu gytundeb cyfreithiol. Sylw
5.2.143Mae angen Datganiad Isadeiledd Gwyrdd a Datganiad Bioamrywiaeth ar gyfer pob cynnig datblygu. Dylai datblygiad strategol asesu’r safle, gan gynnwys setiau data sydd ar gael, er mwyn sefydlu diogelu rhywogaethau a gwelliant o ran cynefinoedd a nodweddion IG yn y safle, yn unol â chanllawiau cenedlaethol a chanllawiau ym Mhapur Cefndir 47 a pholisïau NE/7, NE/8 ac EQ/1. Sylw
PL/22 safle 115 Chwarel Llanddulas - safle cyflogaeth ac ynni adnewyddadwy Sylw
- Mae Chwarel Llanddulas yn cynnwys pedwar safle sydd wedi’u dyrannu ar gyfer defnydd cyflogaeth a chynhyrchu ynni adnewyddadwy (solar) cysylltiedig. Mae’r dadansoddiad o’r defnydd tir arfaethedig fel a ganlyn:
- Ardal 1 – 0.8ha B1, B2, B8
- Ardal 2 – 4ha B1, B2, B8
- Ardal 3 – 4ha B1, B2, B8
- Ardal 4 – 18ha ar gyfer ynni adnewyddadwy (solar)
- Bydd cyflwyno ardaloedd 1 i 3 fesul cam yn unol â pholisi ED/2. Ni fydd gwaith datblygu Ardal 4 yn dechrau nes y bydd adeiladau wedi’u hadeiladu ar Ardaloedd 1, 2 a 3 i gefnogi gofynion ynni y safleoedd hyn, neu’n gynharach, pe bai cyswllt â’r grid cenedlaethol yn ddichonadwy. Bydd llwyddiant y dyraniad solar yn dibynnu ar ei hyfywedd parhaus mewn perthynas â’r datblygiad ar Ardaloedd 1, 2 a 3, ac felly mae’n amodol ar amrywioldeb o ran cyflwyno fesul cam.
- Mae’n rhaid i gynigion fodloni’r holl ofynion canlynol o ran creu lleoedd ac isadeiledd:
- Priffyrdd a Theithio Llesol – Dylid dilyn yr hierarchaeth cludiant cynaliadwy ar gyfer y dyluniad. Mae’n bosibl y bydd angen gwneud gwaith i wella’r mynediad o’r A547 i Ardal 1 oherwydd cyfuniad o gyfyngiadau ffisegol presennol a hawliau tramwy preifat ar y mynediad presennol. Felly mae’n debygol y bydd angen gwelliannau i leiniau gwelededd. Ar y cam cais cynllunio, mae angen asesiadau capasiti ar gyfer cyffyrdd 22 a 23 yr A55. Yn ogystal, mae angen Cynllun Rheoli Traffig Adeiladu cyn i unrhyw waith ddechrau ar y safle, a hefyd manylion am gysylltiadau teithio llesol yn unol â pholisi STA/6.
- Dyluniad a gosodiad – caiff dyluniad yr isadeiledd ffisegol a’r adeiladau ei arwain gan bolisïau PL/1, PL/5 a PL/11, gan ystyried hygyrchedd, diogelwch a hydreiddedd y safle. Bydd angen ystyriaeth benodol ar gyfer hyn pan fo cyflwyno fesul cam yn digwydd yn y safleoedd unigol, a’r dull fesul cam cyffredinol ar draws y safleoedd.
- Llwybrau a ffiniau – dylid ystyried yr angen am wella/darparu llwybrau cyhoeddus a ffensys ffiniau yn unol â pholisi STA/6 ac yn unol â’r adroddiad ymgysylltu â'r gymuned.
- Isadeiledd Gwyrdd – sicrhau bod nodweddion gwyrdd a glas yn cael eu cadw a’u hintegreiddio â chreu cynefinoedd, plannu coed brodorol yn unol â NE/6, a chynnwys a chysylltu darpariaeth mannau agored lle bo’n briodol, yn unol â pholisi NE/7. Mae’r gofyniad hwn yn eithrio’r pyllau yn Ardal 2 a’r lagŵn yn Ardal 3, a fyddai’n cael eu draenio cyn creu platfform datblygu.
- Gwella bioamrywiaeth – bydd effaith gyffredinol y datblygiad yn arwain at fudd net i fioamrywiaeth, yn unol â’r dull fesul cam a pholisi NE/8. Bydd cynlluniau ar gyfer cadwraeth natur a gwrthbwyso er mwyn gwella a diogelu cynefinoedd ar dir o amgylch y chwarel yn cyd-fynd â’r cynigion hefyd.
- Mesurau llifogydd / dŵr wyneb – bydd angen Asesiad o Ganlyniadau Llifogydd ar gyfer y safleoedd (Ardal 1 i 4 gan gynnwys yr ardaloedd hynny) yn unol â chanllawiau TAN15, oherwydd bod y safleoedd yn rhannol o fewn Parth Llifogydd 3 ar gyfer dŵr wyneb a chyrsiau dŵr bach. Bydd angen i’r Asesiad o Ganlyniadau Llifogydd ddangos bod y risg llifogydd o ddŵr wyneb a chyrsiau dŵr bach yn y safleoedd a’r ardal gyfagos yn cael ei rheoli trwy ddefnyddio Systemau Draenio Cynaliadwy.
- Diogelu dŵr daear – mae angen rhoi ystyriaeth ofalus i ôl-lenwi anadweithiol o ran effaith ar brif ddyfrhaen. Dylid cyfeirio at ddatganiadau Sefyllfa Gwarchod Dŵr Daear: dull Asiantaeth yr Amgylchedd o ran gwarchod dŵr daear yn ychwanegol at ystyried y rheoliadau dŵr gwastraff.
- Draenio a threiddiad – mae angen gwybodaeth ar y cam cais cynllunio er mwyn sicrhau atal unrhyw fynediad posibl i ddifwynwyr i mewn i’r ddaear yn sgil datblygiad.
- Cyflenwad dŵr a chapasiti carthffosiaeth – dim ond pan fydd y math o ddatblygiad a’r deiliad/defnyddiwr safle yn hysbys y gellir deall capasiti carthffosiaeth ar gyfer dyraniadau cyflogaeth. Pan fydd gofynion wedi’u cadarnhau trwy’r broses cais cynllunio, mae’n bosibl y bydd angen cynnal asesiadau pellach neu asesiadau modelu hydrolig er mwyn cefnogi datblygiad ar y safle hwn.
- Offer dŵr presennol – mae prif bibell dŵr a charthffos yn rhedeg ar hyd ffin ddwyreiniol Ardal 1. Lle bo angen, bydd gofyn am hawddfreintiau/mesurau lliniaru yn unol â’r ymgynghoriad â Dŵr Cymru.
- Gosod paneli solar yn Ardal 4 yn unol ag EN/11 – Bydd angen gwybodaeth benodol am leoliad, asesiadau risg ac os oes angen, cynlluniau lliniaru, i gyd-fynd ag unrhyw gais cynllunio o ran sut caiff y paneli solar eu cysylltu â’r ddaear yn Ardal 4, gydag asesiad o’r risg allai’r sylfeini ei pheri i beirianneg tirlenwi / sadrwydd y ddaear. Mae angen ceisio adolygiadau i’r trefniadau adfer cymeradwy yn y cam cais cynllunio.
- Ansawdd Aer – Dylid cynnwys mesurau ansawdd aer boddhaol ar gyfer lliniaru a/neu leihau allyriadau yn unol â pholisi EQ/3.
- Effeithlonrwydd ynni/carbon sero – dylai’r eiddo cyflogaeth yn Ardaloedd 1, 2 a 3 geisio sicrhau allyriadau carbon rheoledig gweithredol Sero Net mewn adeiladau trwy weithredu’r hierarchaeth ynni. Dylai cynigion ddangos bod yr hierarchaeth ynni wedi’i rhoi ar waith drwy gyflwyno Datganiad Ynni yn unol â pholisïau EN/1 ac EN/2.
- Diogelu Asedau Hanesyddol (Odynnau Calch Hoffman yn Ardal 1) – diogelu gweddillion Odynnau Calch Hoffman ac isadeiledd cysylltiedig fel rhan o’r cynigion datblygu ar gyfer Ardal 1. Bydd angen asesiad desg manwl ac arolwg ar droed a mapio ac arolwg adeilad hanesyddol lefel 3 yn y cam cais cynllunio.
- Asesu a diogelu Asedau Hanesyddol (strwythurau carreg hanesyddol yn Ardal 2) – bydd angen asesiad desg manwl ac arolwg ar droed a mapio ac arolwg adeilad hanesyddol lefel 3 yn y cam cais cynllunio er mwyn penderfynu ar raddfa a chyflwr unrhyw asedau hanesyddol sy’n bresennol.
- Y Gymraeg - mae angen i’r cynllun ddiogelu a hyrwyddo’r Gymraeg (fel sy’n ofynnol dan bolisi PL/7 a pholisi cynllunio cenedlaethol ar y Gymraeg). Mae mesurau lliniaru’n ofynnol.
- Rheoli Deunyddiau – Bydd angen Cynllun Rheoli Deunyddiau a Gwastraff yn y cam cais cynllunio er mwyn sicrhau bod y datblygiad yn cael ei gynnal yn gywir trwy leihau effaith amgylcheddol trwy reoli gwastraff yn gynaliadwy.
Ffynhonnell: SPPS, CBSC Sylw
5.2.144 Mae safle Chwarel Llanddulas yn cynnig llawer o botensial fel safle datblygu yn y CDLlN. Gan nad yw gweithgarwch chwarela a thirlenwi yn digwydd yn y lleoliad hwn mwyach, a gan fod y cam adfer ar y gweill, mae cwmpas i ailddatblygu ardaloedd penodol fel a ddangosir ar y map cynigion, at ddibenion cyflogaeth, gyda fferm ynni solar a fydd yn darparu ynni adnewyddadwy ar gyfer y cynllun ehangach. Bydd y datblygiad yn defnyddio ardaloedd o dir a ddatblygwyd eisoes (twll chwarel a’r hen waith brics) a bydd yn cynnwys creu platfformau i gynyddu hygyrchedd a’r ardal o dir y gellir ei ddatblygu yn nhyllau’r chwarel. Sylw
5.2.145 O ran datblygiad a gynlluniwyd ar unrhyw ardaloedd wedi’u hadfer, er enghraifft, Ardaloedd 3 a 4, bydd effaith gyffredinol y datblygiad yn cyflawni budd net o ran bioamrywiaeth, a chaiff unrhyw golledion eu gwrthbwyso ar dir sy’n gyfagos i’r chwarel ac i’r de ohoni, ar dir sydd o fewn yr un perchnogaeth. Sylw
5.2.146 Mae gwaith ymgynghori gyda chyrff statudol wedi datgelu nifer o faterion i’w hystyried, ac mae’r rhain wedi’u hystyried yn y polisi hwn. Mae materion allweddol a godwyd gan yr ymgyngoreion statudol yn cynnwys; priffyrdd a theithio llesol, isadeiledd gwyrdd, gwella bioamrywiaeth gan gynnwys yr angen i lunio arolygon ystlumod (twneli a strwythurau) arolygon eDNA ar gyfer Madfallod Dŵr Cribog, Arolygon Cynefinoedd, Adar ac Infertebratau. Cyflenwad dŵr a thriniaeth, mesurau llifogydd / dŵr wyneb a diogelu dŵr daear, asesu a diogelu asedau hanesyddol, cadwraeth a hyrwyddo’r Gymraeg, a rheoli deunyddiau ar y safle yn gyffredinol. Sylw
5.2.147 Er mwyn cael mynediad priffyrdd addas i Ardal 1, mae’n debygol y bydd angen gwelliannau i leiniau gwelededd fel a nodir yn y polisi hwn. Ar y cam cais cynllunio, bydd angen asesiadau ar gyfer cyffyrdd 22 a 23 yr A55 o ran capasiti priffyrdd. Sylw
5.2.148 Yn ystod digwyddiad ymgysylltu â’r cyhoedd, codwyd materion eraill o ran sut gellid gwella’r safle a sut mae’n gysylltiedig â phentrefi cyfagos Llysfaen a Llanddulas. Yn benodol, amlygwyd pryder bod angen llwybrau cyhoeddus gwell a ffensys ffiniau o amgylch y safle, a hefyd datblygiad ardaloedd sydd wedi’u hadfer ers hynny. Mae’r ddau fater uchod yn cael eu cwmpasu yn y polisi Creu Lleoedd hwn, gyda chyfeiriad penodol at ddiwygiadau i’r trefniadau adfer cymeradwy y mae angen eu ceisio yn y cam cais cynllunio, a chanlyniad budd net cyffredinol o ran bioamrywiaeth. Lle bo angen, defnyddir cytundebau A106 i ddiogelu gwelliannau o’r fath ar gam cais cynllunio. Sylw
5.2.149 Dim ond pan fydd y math o ddatblygiad a’r deiliad/defnyddiwr safle yn hysbys y gellir sefydlu capasiti carthffosiaeth ar gyfer dyraniadau cyflogaeth. Pan fydd gofynion wedi’u cadarnhau trwy’r broses cais cynllunio, caiff asesiadau pellach eu cynnal. Sylw
5.2.150 Gall y plotiau unigol sydd ar gael i’w datblygu gynrychioli ardal sylweddol o dir ac nid yw’r galw posibl ar asedau Dŵr Cymru ar eu cyfer yn hysbys ar hyn o bryd. Dim ond ar gyfer cyflenwadau ‘domestig’ mae rhwymedigaethau ymgymerwr dŵr a charthffosiaeth yn ymestyn. Gall fod yn angenrheidiol cynnal Asesiadau Modelu Hydrolig ar gyfer dŵr a/neu garthffosiaeth ar gost i’r datblygwr er mwyn canfod lle gallai’r datblygiad arfaethedig gysylltu â’r rhwydweithiau presennol, ac er mwyn nodi unrhyw welliannau gofynnol i’r isadeiledd. Gellir caffael isadeiledd ar gyfer prif gyflenwad dŵr a/neu garthffosiaeth ar gyfer unrhyw safle datblygu posibl trwy ddarpariaethau meddiant Deddf y Diwydiant Dŵr 1991 (fel y’i diwygiwyd). Sylw
5.2.151 Er nad ydynt wedi’u dynodi fel heneb gofrestredig ar hyn o bryd, mae Cadw yn ystyried bod gweddillion Odynnau Calch Hoffman o bwysigrwydd cenedlaethol a’u bod fwy na thebyg yn bodloni’r meini prawf ar gyfer eu dynodi fel heneb gofrestredig. Felly, gallai datblygu Ardal A gael effaith arni a’i lleoliad. Pe dyrennid yr Ardal hon, fodd bynnag, dywed Cadw y byddai cadwraeth yr odyn fel rhan o unrhyw ddatblygiad yn lliniaru ar unrhyw effaith arno. Mae Heneb wedi dweud y bydd angen gwneud rhagor o waith asesu ar ffurf asesiad desg manwl ac arolwg ar droed a mapio ac arolwg adeilad hanesyddol lefel 3. Cydnabyddir bod gweddillion yr odyn wedi’u gorchuddio â llystyfiant ar hyn o bryd a bod hyn yn amharu ar ymdrechion i gael mynediad er mwyn cynnal yr arolygon angenrheidiol o bosibl. Yn wir, gallai ymdrechion i symud y llystyfiant olygu risg o ddifrodi gweddillion yr odyn. Felly mae angen ceisio cyngor cadwraeth arbenigol cyn symud llystyfiant o’r safle i gychwyn. Bydd angen i unrhyw ddatblygiad ar Ardal 1 roi ystyriaeth i gyngor gan Cadw a Heneb – Ymddiriedolaeth Archaeoleg Cymru. Sylw
5.2.152 Yn unol â chyngor Heneb, bydd angen cynnal asesiad desg tebyg fel a amlinellir uchod ar gyfer Ardal 2, er mwyn pennu graddfa a chyflwr unrhyw asedau hanesyddol a allai fod yn y lleoliad hwn. Sylw
5.2.153 Mae mesurau lliniaru ar gyfer y Gymraeg yn cael eu hawgrymu ym Mhapur Cefndir 74: Asesiad o’r Effaith ar y Gymraeg a bydd angen eu darparu fel rhan o ddatblygiad y safle. Bydd y mesurau hyn yn cael eu sicrhau drwy amod cynllunio neu gytundeb cyfreithiol. Sylw
PL/23 safle 103 Bryniau, Llandudno - safle cyflogaeth Sylw
- Mae tir sy’n mesur 3.85 hectar, Bryniau, Llandudno, wedi’i ddyrannu ar gyfer cyflogaeth B1.
- Bydd cyflwyno’r safle hwn fesul cam yn unol â pholisi ED/2.
- Mae’n rhaid i gynigion fodloni’r holl ofynion canlynol o ran creu lleoedd ac isadeiledd:
- Priffyrdd a Theithio Llesol – dylid dilyn yr hierarchaeth cludiant cynaliadwy ar gyfer y dyluniad. Dylai prif bwynt mynediad cerbydau fod o Ffordd Conwy (B5115), o leiaf 70m o gyffordd y gylchfan a dylai ymestyn y llwybr troed o’r safle bws tua’r de i’r safle. Dylid hefyd darparu llwybr troed gyferbyn â’r safle bws tua’r gogledd wrth y safle. Dylid darparu cysylltiadau teithio llesol yn unol â pholisi STA/6.
- Dyluniad a gosodiad – caiff dyluniad yr isadeiledd ffisegol a’r adeiladau ei arwain gan bolisïau PL/1, PL/5 a PL/11, gan ystyried hygyrchedd, diogelwch a hydreiddedd y safle.
- Amgylchedd hanesyddol – mae’r ASIDOHL yn dod i’r casgliad mai mân effaith fydd datblygu’r safle hwn yn ei chael ar y dirwedd hanesyddol gofrestredig. Felly dylai ceisiadau cynllunio sicrhau bod dyluniad, graddfa, gosodiad a deunyddiau adeiladau ac isadeiledd cysylltiedig yn lleihau’r effaith ar y dirwedd hanesyddol gofrestredig.
- Archeoleg – nid oes unrhyw gyfyngiadau hysbys ar y safle, fodd bynnag, mae angen cynnal asesiad archeolegol yn y cam cais cynllunio er mwyn deall potensial cudd y safle hwn. Yn dibynnu ar ganlyniad hyn, archeolegol wedyn.
- Isadeiledd Gwyrdd – sicrhau bod nodweddion gwyrdd, gan gynnwys gwrychoedd a choed, yn cael eu cadw a’u hintegreiddio â chreu cynefinoedd, plannu coed brodorol yn unol â NE/6, a chynnwys a chysylltu darpariaeth mannau agored lle bo’n briodol, yn unol â pholisi NE/7.
- Gwella bioamrywiaeth – bydd effaith gyffredinol y datblygiad yn arwain at fudd net i fioamrywiaeth, yn unol â’r dull fesul cam a pholisi NE/8.
- Ansawdd Aer – Dylid cynnwys mesurau ansawdd aer boddhaol ar gyfer lliniaru a/neu leihau allyriadau yn unol â pholisi EQ/3.
- Effeithlonrwydd ynni/Carbon Sero – dylai cynigion ddangos bod yr hierarchaeth ynni wedi’i rhoi ar waith drwy gyflwyno Datganiad Ynni yn unol â pholisïau EN/1 ac EN/2.
- Cyflenwad dŵr a carthffosiaeth – dim ond pan fydd y math o ddatblygiad a’r deiliad/defnyddiwr safle yn hysbys y gellir deall capasiti carthffosiaeth ar gyfer dyraniadau cyflogaeth. Pan fydd gofynion wedi’u cadarnhau trwy’r broses cais cynllunio, mae’n bosibl y bydd angen cynnal asesiadau pellach neu asesiadau modelu hydrolig er mwyn cefnogi datblygiad ar y safle hwn.
- Y Gymraeg – mae’n rhaid i fesurau lliniaru gael eu darparu.
5.2.154 Mae dyrannu’r tir ym Mryniau yn rhoi cyfle i ddatblygu’r safle ar gyfer defnydd cyflogaeth B1 yn un o’r ardaloedd twf allweddol fel a nodir yn fframwaith Cymru’r Dyfodol, y Cynllun Cenedlaethol 2040. Mae gwaith ymgynghori gyda chyrff statudol wedi datgelu nifer o faterion i’w hystyried wrth ddatblygu’r safle, ac mae’r rhain wedi’u hystyried wrth lunio’r polisi creu lleoedd hwn. Mae materion allweddol a godwyd gan yr ymgyngoreion statudol yn cynnwys; priffyrdd a theithio llesol, isadeiledd gwyrdd a gwella bioamrywiaeth, lleihau effaith ar y dirwedd hanesyddol, cadwraeth a hyrwyddo’r Gymraeg, a rheoli deunyddiau ar y safle yn gyffredinol. Sylw
5.2.155 O ran mynediad i’r safle, dylai prif bwynt mynediad cerbydau fod o Ffordd Conwy (B5115), o leiaf 70m o gyffordd y gylchfan a dylai ymestyn y llwybr troed o’r safle bws tua’r de i’r safle. Dylid hefyd darparu llwybr troed gyferbyn â’r safle bws tua’r gogledd wrth y safle. Dylid darparu cysylltiadau teithio llesol yn unol â pholisi STA/6. Sylw
5.2.156 Cynhaliwyd ASIDOHL cyn i’r safle gael ei gynnwys yn y CDLlN i’w Archwilio gan y Cyhoedd. Daeth hwn i’r casgliad mai mân effaith fydd datblygu’r safle hwn yn ei chael ar y dirwedd hanesyddol gofrestredig. Felly mae’n bwysig bod ceisiadau cynllunio yn ystyried effaith ar yr amgylchedd hanesyddol, gan gynnwys archeoleg posibl, yn unol â’r polisi hwn a pholisi HE/2. Sylw
5.2.157 Dim ond pan fydd y math o ddatblygiad a’r deiliad/defnyddiwr safle yn hysbys y gellir sefydlu capasiti carthffosiaeth ar gyfer dyraniadau cyflogaeth. Pan fydd gofynion wedi’u cadarnhau trwy’r broses cais cynllunio, caiff asesiadau pellach eu cynnal. Sylw
5.2.158 Dylai nodweddion gwyrdd presennol a chynefinoedd gael eu cadw lle bo hynny'n bosibl. Mae gwrychoedd a choed aeddfed yn ffinio a chroesi’r safle ar bwyntiau penodol ac mae’r rhain yn darparu cynefin pwysig i lawer o rywogaethau. Dylai gwrychoedd a choed gael eu cadw a’u cynnwys yn y cynlluniau safle lle bynnag bo’n bosibl er mwyn cynnal y cynefin hwn. Sylw
5.2.159 Gall y plotiau unigol sydd ar gael i’w datblygu gynrychioli ardal sylweddol o dir ac nid yw’r galw posibl ar asedau Dŵr Cymru ar eu cyfer yn hysbys ar hyn o bryd. Mae rhwymedigaethau ymgymerwr dŵr a charthffosiaeth yn ymestyn i gyflenwadau 'domestig' yn unig. Gall fod yn angenrheidiol cynnal Asesiadau Modelu Hydrolig ar gyfer dŵr a/neu garthffosiaeth ar gost i’r datblygwr er mwyn canfod lle gallai’r datblygiad arfaethedig gysylltu â’r rhwydweithiau presennol, ac er mwyn nodi unrhyw welliannau gofynnol i’r isadeiledd. Gellir caffael isadeiledd ar gyfer prif gyflenwad dŵr a/neu garthffosiaeth ar gyfer unrhyw safle datblygu posibl trwy ddarpariaethau meddiant Deddf y Diwydiant Dŵr 1991 (fel y’i diwygiwyd). Sylw
5.2.160 Mae mesurau lliniaru ar gyfer y Gymraeg yn cael eu hawgrymu ym Mhapur Cefndir 42: Asesiad o’r Effaith ar y Gymraeg a bydd angen eu darparu fel rhan o ddatblygiad y safle. Bydd y mesurau hyn yn cael eu sicrhau drwy amod cynllunio neu gytundeb cyfreithiol. Sylw
PL/24 safle 206 Nant y Coed, Cyffordd Llandudno - safle tai Sylw
- Mae’r safle hwn wedi’i ddynodi ar gyfer tai fforddiadwy (50 o gartrefi) a gwaith cysylltiedig.
- Mae’n rhaid i gynigion fodloni’r gofynion canlynol o ran creu lleoedd ac isadeiledd:
- Priffyrdd – bydd angen cynnal asesiad effaith traffig. Dylid darparu mynediad ar gyfer tai trwy Ronald Avenue.
- Teithio llesol – mae’n rhaid ystyried llwybrau sy’n cysylltu â’r rhwydwaith hawliau tramwy, canolfan fanwerthu a chyfleusterau cymunedol a gwasanaethau a’u darparu yn unol â PL/1 creu lleoedd cynaliadwy, PL/5 creu lleoedd a dyluniad da ac adran Cludiant Cynaliadwy a Strategaeth Hygyrchedd y CDLlN.
- Tai fforddiadwy – dylai’r cynllun ddarparu ar gyfer 100% tai fforddiadwy.
- Isadeiledd – darparu isadeiledd angenrheidiol a rhwymedigaethau cynllunio yn unol â PL/12 datblygiad newydd, isadeiledd a rhwymedigaethau cynllunio, PL/13 datblygiad newydd a gwelededd a pholisi man hamdden RS/2.
- Cyflenwad dŵr a charthffosiaeth – bydd angen Asesiad Modelu Hydrolig i lywio’r cais cynllunio.
- Risg llifogydd – bydd angen Asesiad Risg Llifogydd (Asesiad o Ganlyniadau Llifogydd) i lywio’r cais cynllunio.
- Tirwedd – mae’n rhaid i’r safle gael ei ddylunio’n briodol, gan gynnwys mesurau sgrinio i sicrhau bod y safle’n cyfrannu’n gadarnhaol at olygfannau yn yr ardal leol.
- Isadeiledd Gwyrdd a Bioamrywiaeth – bydd angen datganiadau i lywio’r cais cynllunio.
- Y Gymraeg – mae’r safle o fewn yr Ardal sy’n Sensitif o ran y Gymraeg. Bydd angen Asesiad o’r Effaith ar y Gymraeg ar gyfer y safle ar y cam cais cynllunio yn unol â pholisi PL/7.
5.1.161 Mae dyrannu’r safle hwn yn Nant y Coed, Cyffordd Llandudno, yn rhoi cyfle i gyfrannu at ddiwallu’r angen o ran tai ar gyfer is-ardal Creuddyn, trwy ddarparu 100% tai fforddiadwy. Ymgynghorwyd â budd-ddeiliaid allweddol a chyrff statudol am y safle hwn ac mae’r materion a godwyd wedi’u hadlewyrchu yn y polisi creu lleoedd hwn sy’n benodol i’r safle. Sylw
5.2.162 Mae angen sylweddol wedi’i nodi am dai fforddiadwy yng Nghyffordd Llandudno ei hun ac is-ardal ehangach Creuddyn. Mae’r Asesiad o’r Farchnad Dai Leol (2022-37) yn rhagweld y bydd yr angen hwn yn parhau trwy gydol cyfnod y cynllun a thu hwnt. Mae’n rhaid darparu unedau o dai fforddiadwy ar y safle i ddiwallu’r angen hwn a nodwyd yn lleol. Dylai’r cymysgedd o dai a gynigir adlewyrchu’r angen lleol a nodwyd yng Nghyffordd Llandudno ac is-ardal Creuddyn. Argymhellir ymgysylltu’n gynnar â Gwasanaethau Tai CBSC er mwyn sicrhau bod y gofyniad polisi hwn yn cael ei fodloni (cymysgedd tai HS/7). Sylw
5.2.163 Bydd angen Cynllun Creu Lleoedd a datganiad cydymffurfio Creu Lleoedd fel a nodir ym mholisi PL/16, sy’n nodi sut mae’r cynllun arfaethedig yn cydymffurfio â pholisi, yn gynaliadwy, ac adlewyrchu blaenoriaethau’r gymuned. Sylw
5.2.164 Bydd angen asesiad priffyrdd ac mae’n rhaid iddo gynnwys yr effaith ar gyffyrdd cyfagos. Dylid darparu llwybrau teithio llesol o ansawdd da, diogel a chwbl hygyrch trwy’r safle ac o’i amgylch, gan gysylltu ag ysgolion gerllaw, canolfan fanwerthu, llwybrau cyhoeddus, cludiant cyhoeddus ac amwynderau lleol allweddol eraill yng Nghyffordd Llandudno. Sylw
5.2.165 Mae angen Asesiad Modelu Hydrolig ac Asesiad o Ganlyniadau Llifogydd ar gyfer y safle. Mae gan Waith Trin Dŵr Gwastraff Ganol gapasiti i dderbyn y safle hwn. Sylw
5.2.166 Mae Papur Cefndir 28: Asesiad Mannau Hamdden yn nodi diffygion o ran caeau chwarae, chwaraeon awyr agored, mannau chwarae ffurfiol, darpariaeth awyr agored arall a pharciau a gerddi yng Nghyffordd Llandudno. Er na ddisgwylir i’r dyraniad safle hwn oresgyn y diffygion hyn, mae’n hanfodol bod y safle yn darparu ar gyfer anghenion mannau hamdden preswylwyr sy’n byw yno. Caiff hyn ei reoli trwy amodau cynllunio neu gytundeb cyfreithiol. Sylw
5.2.167 Mae Cyffordd Llandudno yn yr Ardal sy’n Sensitif o ran y Gymraeg a ddynodwyd yn y CDLlN (polisi PL/7). Mae mesurau lliniaru ar gyfer y Gymraeg yn cael eu hawgrymu ym Mhapur Cefndir 42: Asesiad o’r Effaith ar y Gymraeg a bydd angen eu darparu fel rhan o ddatblygiad y safle. Bydd y mesurau hyn yn cael eu sicrhau drwy amod cynllunio neu gytundeb cyfreithiol. Sylw
5.2.168 Mae angen Datganiad Isadeiledd Gwyrdd a Datganiad Bioamrywiaeth ar gyfer pob cynnig datblygu. Dylai datblygiad strategol asesu’r safle, gan gynnwys setiau data sydd ar gael, er mwyn sefydlu gwelliant yn y safle, yn unol â chanllawiau ym Mhapur Cefndir 47 a pholisïau NE/7, NE/8 ac EQ/1. Sylw
PL/25 safle 132 Dinerth Road, Llandrillo-yn-Rhos - safle tai Sylw
- Mae’r safle hwn wedi’i ddynodi ar gyfer tai fforddiadwy 100% (50 o anheddau) a gwaith cysylltiedig.
- Mae’n rhaid i gynigion fodloni’r gofynion canlynol o ran creu lleoedd ac isadeiledd:
- Priffyrdd – bydd angen cynnal asesiad effaith traffig. Dylid darparu mynediad ar gyfer tai trwy Ronald Avenue.
- Teithio llesol – mae’n rhaid ystyried llwybrau sy’n cysylltu â’r rhwydwaith hawliau tramwy, canolfan fanwerthu a chyfleusterau cymunedol a gwasanaethau a’u darparu yn unol â PL/1 creu lleoedd cynaliadwy, PL/5 creu lleoedd a dyluniad da ac adran Cludiant Cynaliadwy a Strategaeth Hygyrchedd y CDLlN.
- Tai fforddiadwy – dylai’r cynllun ddarparu ar gyfer 100% tai fforddiadwy.
- Isadeiledd – darparu isadeiledd angenrheidiol a rhwymedigaethau cynllunio yn unol â PL/12 datblygiad newydd, isadeiledd a rhwymedigaethau cynllunio, PL/13 datblygiad newydd a gwelededd a pholisi man hamdden RS/2.
- Cyflenwad dŵr a charthffosiaeth – bydd angen Asesiad Modelu Hydrolig i lywio’r cais cynllunio.
- Risg llifogydd – bydd angen Asesiad Risg Llifogydd (Asesiad o Ganlyniadau Llifogydd) i lywio’r cais cynllunio.
- Tirwedd – mae’n rhaid i’r safle gael ei ddylunio’n briodol, gan gynnwys mesurau sgrinio i sicrhau bod y safle’n cyfrannu’n gadarnhaol at olygfannau yn yr ardal leol.
- Isadeiledd Gwyrdd a Bioamrywiaeth – bydd angen datganiadau i lywio’r cais cynllunio.
- Y Gymraeg – mae’r safle o fewn yr Ardal sy’n Sensitif o ran y Gymraeg. Bydd angen Asesiad o’r Effaith ar y Gymraeg ar gyfer y safle ar y cam cais cynllunio yn unol â pholisi PL/7.
5.2.169 Mae dyrannu’r safle hwn yn rhoi cyfle i gyfrannu at ddiwallu’r angen o ran tai ar gyfer is-ardal y Canol, trwy ddarparu 100% tai fforddiadwy. Ymgynghorwyd â budd-ddeiliaid allweddol a chyrff statudol am y safle hwn ac mae’r materion a godwyd wedi’u hadlewyrchu yn y polisi creu lleoedd hwn sy’n benodol i’r safle. Sylw
5.2.170 Mae angen sylweddol wedi’i nodi am dai fforddiadwy yn Llandrillo-yn-Rhos ei hun ac is-ardal ehangach y Canol. Mae’r Asesiad o’r Farchnad Dai Leol (2022-37) yn rhagweld y bydd yr angen hwn yn parhau trwy gydol cyfnod y cynllun a thu hwnt. Mae’n rhaid darparu unedau o dai fforddiadwy ar y safle i ddiwallu’r angen hwn a nodwyd yn lleol. Dylai’r cymysgedd o dai a gynigir adlewyrchu’r angen lleol a nodwyd yn Llandrillo-yn-Rhos ac is-ardal y Canol. Argymhellir ymgysylltu’n gynnar â Gwasanaethau Tai CBSC er mwyn sicrhau bod y gofyniad polisi yn cael ei fodloni (HS/7). Sylw
5.2.171 Bydd angen Cynllun Creu Lleoedd a datganiad cydymffurfio Creu Lleoedd fel a nodir ym mholisi PL/16, sy’n nodi sut mae’r cynllun arfaethedig yn cydymffurfio â pholisi, yn gynaliadwy, ac adlewyrchu blaenoriaethau’r gymuned. Sylw
5.2.172 Er mwyn sicrhau bod darpariaeth gofal iechyd yn gallu darparu ar gyfer y tai newydd, bydd angen rhoi ystyriaeth ofalus i’r mesurau lliniaru a amlinellir yn natganiad tir cyffredin BIPBC / CBSC. Mae mesurau o’r fath yn cynnwys creu gwasanaethau clwstwr, hybu ffyrdd o fyw mwy iach, gofal o bell a thechnoleg a chyfraniadau ariannol Adran 106 lle bo’n briodol. Cyfeiriwch at Bapur Cefndir 44: Newid yn y Boblogaeth - Tai ac Effaith Iechyd/Gofal Sylfaenol. Sylw
5.2.173 Bydd angen asesiad priffyrdd ac mae’n rhaid iddo gynnwys yr effaith ar gyffyrdd cyfagos. Dylid darparu llwybrau teithio llesol o ansawdd da, diogel a chwbl hygyrch trwy’r safle ac o’i amgylch, gan gysylltu ag ysgolion gerllaw, canolfan fanwerthu, llwybrau cyhoeddus, cludiant cyhoeddus ac amwynderau lleol allweddol eraill yn yr ardal. Sylw
5.2.174 Mae angen Asesiad Modelu Hydrolig ar gyfer y safle. Mae gan Waith Trin Dŵr Gwastraff Ganol gapasiti i dderbyn y safle hwn. Mae’n bosibl y bydd angen hawddfraint / gwyriad carthffos. Sylw
5.2.175 Mae Papur Cefndir 28: Asesiad Mannau Hamdden yn nodi diffygion o ran caeau chwarae, chwaraeon awyr agored, mannau chwarae ffurfiol, darpariaeth awyr agored arall a pharciau a gerddi yn Llandrillo-yn-Rhos. Er na ddisgwylir i’r dyraniad safle hwn oresgyn y diffygion hyn, mae’n hanfodol bod y safle yn darparu ar gyfer anghenion mannau hamdden preswylwyr sy’n byw yno. Caiff hyn ei reoli trwy amodau cynllunio neu gytundeb cyfreithiol. Sylw
5.2.176 Mae angen Datganiad Isadeiledd Gwyrdd a Datganiad Bioamrywiaeth ar gyfer pob cynnig datblygu. Dylai datblygiad strategol asesu’r safle, gan gynnwys setiau data sydd ar gael, er mwyn sefydlu gwelliant yn y safle, yn unol â chanllawiau ym Mhapur Cefndir 47 a pholisïau NE/7, NE/8 ac EQ/1. Sylw
5.2.177 Yn sgil agosrwydd y safle at yr Henebion Cofrestredig, mae angen cynnal ymgynghoriad â CADW i ganfod a oes angen Asesiad o’r Effaith ar Dreftadaeth. Mae’n bosibl bod nodweddion o ddiddordeb archeolegol hefyd ac felly argymhellir cynnal ymgynghoriad cynnar gyda Heneb hefyd. Sylw
5.2.178 Mae mesurau lliniaru ar gyfer y Gymraeg yn cael eu hawgrymu ym Mhapur Cefndir 42: Asesiad o’r Effaith ar y Gymraeg a bydd angen eu darparu fel rhan o ddatblygiad y safle. Bydd y mesurau hyn yn cael eu sicrhau drwy amod cynllunio neu gytundeb cyfreithiol. Sylw
5.3 Thema Strategol 2: lleoedd iach a chymdeithasol yng Nghonwy Sylw
Cyflwyniad Sylw
5.3.1 Mae’r thema strategol yr CDLlN yn canolbwyntio ar leoedd iach, actif a chymdeithasol fel cydrannau allweddol o greu lleoedd. Maent yn cyd-fynd â’r holl themâu a pholisïau a nodir yn y fframwaith polisi creu lleoedd. Mae lleoedd iach a chymdeithasol yn rhai sy’n hyrwyddo lles cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Conwy trwy ddarparu cymunedau cydlynus sydd wedi’u cysylltu’n dda. Mae lleoedd sy’n actif ac yn gymdeithasol yn cyfrannu tuag at saith nod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Sylw
5.3.2 Mae thema lleoedd iach a chymdeithasol CDLlN Conwy yn cynnwys tai a thai fforddiadwy, cludiant cynaliadwy a hygyrchedd, manwerthu a chanolfannau masnachol, gwasanaethau a chyfleusterau cymdeithasol a gofodau hamdden. Sylw
5.3.3 Mae’r thema hwn yn cefnogi a galluogi darpariaeth o ystod o gartrefi newydd sydd wedi'u dylunio a’u lleoli’n dda ac sy’n hygyrch i’r canolfannau manwerthu a masnachol presennol sydd wedi’u lleoli yng nghalon ein cymunedau a chyfleoedd gwaith. Mae darpariaeth tai fforddiadwy yn flaenoriaeth arwyddocaol ar gyfer y CDLlN. Rhaid i ni fynd i’r afael â digartrefedd, cynyddu tai fforddiadwy, diogelu hunaniaeth cymunedol, hyrwyddo gwytnwch ac annog strwythur oedran mwy cytbwys trwy ardal y cynllun. Mae’r fframwaith tai a thai fforddiadwy o fewn y thema strategol hwn yn rhoi polisïau mewn lle i fynd i’r afael â’r materion blaenoriaeth hyn, wedi’u cefnogi gan y polisïau ehangach a nodir yn y fframwaith polisi creu lleoedd. Sylw
5.3.4 Mae’n hyrwyddo canolfannau manwerthu a masnachol fel lleoliadau ar gyfer ystod o weithgareddau, gan gydnabod eu pwysigrwydd cymdeithasol, diwylliannol ac economaidd. Mae’n cydnabod pwysigrwydd cyfleusterau cymunedol a gofodau hamdden ar gyfer ein hiechyd, lles a safon byw ac yn diogelu a hyrwyddo’r rhain yn unol â chanlyniadau creu lleoedd cynaliadwy cenedlaethol trosfwaol. Wrth gynllunio a rheoli datblygiad yn y dyfodol, maer thema strategol hwn yn sicrhau bod cynigion cynllunio â mynediad da at swyddi ac ystod priodol o gyfleusterau cymunedol gan gynnwys hamdden, iechyd ac addysg. Sylw
5.3.5 Nod y thema hwn yw sicrhau bod datblygiad newydd wedi’i leoli a’i ddylunio mewn modd sy’n lleihau’r angen i deithio, lleihau’r ddibyniaeth ar geir preifat ac yn galluogi mynediad cynaliadwy i gyflogaeth, gwasanaethau lleol a chyfleusterau cymunedol. Cyflawnir hyn trwy integreiddio datblygiad gydag isadeiledd cludiant cynaliadwy a dylunio cynlluniau mewn modd sy’n gwneud y mwyaf o’r ddarpariaeth a defnydd o ffurfiau cynaliadwy o deithio, gan gynnwys blaenoriaethu’r rhain dros geir preifat. Sylw
5.3.6 Mae’r thema lleoedd iach a chymdeithasol yn cynnwys y polisïau canlynol: Sylw
Fframwaith tai a thai fforddiadwy Sylw
HS/1 fframwaith tai cynaliadwy
HS/2 cyflawni’r angen o ran tai
HS/3 darpariaeth tai fforddiadwy
HS/4 safleoedd a arweinir gan dai fforddiadwy
HS/5 safleoedd eithriedig tai fforddiadwy
HS/6 dwysedd tai
HS/7 cymysgedd tai
HS/8 cynlluniau anghenion tai lleol
HS/9 anheddau menter wledig
HS/10 ail gartrefi a llety gwyliau tymor byr
HS/11 amod meddiannaeth man preswylio parhaol C3
HS/12 llety a rennir
HS/13 cartrefi gofal, cartrefi nyrsio, gofal ychwanegol, byw â chymorth a thai gwarchod
HS/14 datblygiad Sipsiwn, Roma a Theithwyr
HS/15 diwallu anghenion Sipsiwn, Roma a Theithwyr
Strategaeth Cludiant Cynaliadwy a Hygyrchedd Sylw
STA/1 cludiant cynaliadwy, hygyrchedd a datgarboneiddio
STA/2 cerbydau allyriadau isel iawn
STA/3 Lliniaru effaith teithio
STA/4 Llwybrau a chynlluniau cludiant
STA/5 Canolfannau nwyddau a gwastraff cyfunol
STA/6 Teithio llesol ac isadeiledd gwyrdd
STA/7 Gwelliannau i gyfnewidfeydd a chyfleusterau cludiant cyhoeddus
STA/8 Safonau parcio
Canolfannau manwerthu a masnachol Sylw
RTC/1 manwerthu a chanol trefi yn gyntaf
RTC/2 hierarchaeth manwerthu
RTC/3 prif ardal siopa
RTC/4 ardaloedd siopa
RTC/5 parciau manwerthu a hamdden
RTC/6 dyluniad a diogelwch blaen siopau
RTC/7 datblygiad manwerthu newydd
Strategaeth cyfleusterau a gwasanaethau cymunedol Sylw
CFS/1 cyfleusterau a gwasanaethau cymunedol
CFS/2 rhandiroedd newydd a phresennol
CFS/3 claddfeydd
CFS/4 cyfleusterau cymunedol newydd
CFS/5 colli cyfleusterau cymunedol
Strategaeth mannau hamdden Sylw
RS/1 mannau hamdden
RS/2 datblygu a mannau hamdden
RS/3 diogelu mannau hamdden presennol
RS/4 mannau hamdden newydd
Fframwaith tai a thai fforddiadwy Sylw
SO2: Hyrwyddo strategaeth cyflogaeth a thwf tai gyfannol ac wedi’i chyd-leoli trwy ddarparu cartrefi newydd, gan gynnwys cartrefi fforddiadwy ac anghenion llety sipsiwn a theithwyr mewn lleoliadau cynaliadwy a hygyrch, a sicrhau bod yr amrywiaeth gywir o fathau, meintiau a deiliadaeth tai yn cael eu cyflwyno ochr yn ochr â’r isadeiledd cymunedol angenrheidiol. Sylw
5.2.7 Mae’r bennod hon yn darparu’r fframwaith polisi ar gyfer darparu ar gyfer anghenion tai a thai fforddiadwy ardal y CDLlN. Mae hefyd yn cynnwys polisïau ar gyfer rheoli ail gartrefi a lletyau gwyliau, cynlluniau tai gwledig, lletyau a rennir, cartrefi gofal a thai arbenigol eraill a sut y bydd yr ACLl yn darparu ar gyfer anghenion safleoedd cymunedau Sipsiwn, Teithwyr a Siewmyn Teithiol. Sylw
5.3.8 Mae darparu’r lefel briodol o dai sy’n diwallu anghenion poblogaeth ardal y cynllun yn fater allweddol ar gyfer nifer o’n cymunedau. Mae diffyg tai fforddiadwy i’w rhentu neu eu prynu yn un o’r heriau mwyaf y mae’r Cyngor yn eu hwynebu. Sylw
HS/1 fframwaith tai cynaliadwy Sylw
Mae’r cynllun yn cyflwyno darpariaeth ar gyfer 4,300 o dai newydd er mwyn cyflawni gofyniad tai o 3,600 (a 20% wrth gefn), lle bo o leiaf 1,760 o’r tai yn fforddiadwy. Bydd y tai cynaliadwy’n cyflawni hyn drwy:
- Ddyrannu tir ar gyfer 1,320 o gartrefi newydd fel y nodir ym Mholisi HS/2.
- Darparu 680 o dai fforddiadwy newydd ar ddyraniadau safle yn unol â pholisi HS/3.
- Gwneud y mwyaf o dai fforddiadwy ar yr holl safleoedd drwy bolisi HS/4 safleoedd dan arweiniad tai fforddiadwy.
- Cefnogi darpariaeth tai fforddiadwy ychwanegol ar safleoedd priodol y tu hwnt i ffiniau anheddiad yn unol â pholisi HS/5.
- Sicrhau bod cartrefi newydd yn cael eu darparu gyda’r dwysedd priodol, sy’n gwneud y defnydd gorau o dir, fel y nodir ym mholisi HS/6.
- Darparu cymysgedd priodol o dai ar safleoedd, i ddiwallu anghenion a nodwyd yn lleol, yn unol â pholisi HS/7.
- Darparu tai i ddiwallu’r anghenion lleol mewn rhai ardaloedd, dan arweiniad polisi HS/8 cynlluniau anghenion tai lleol.
- Cefnogi ceisiadau ar gyfer Anheddau Menter Wledig newydd, a darparu meini prawf ar gyfer diddymu amodau meddiant presennol, yn unol â pholisi HS/9.
- Rheoli lefelau’r ail gartrefi a llety gwyliau byr dymor mewn ardaloedd dynodedig, yn unol â pholisi HS/10.
- Cyfyngu cartrefi newydd i breswylfa barhaol C3 yn unig mewn datblygiadau sydd wedi’u hamlinellu ym mholisi HS/11.
- Cefnogi darpariaeth llety a rennir newydd yn amodol ar y meini prawf a osodwyd ym mholisi HS/12.
- Cefnogi darpariaeth cartrefi gofal, cynlluniau gofal ychwanegol, byw â chymorth a thai gwarchod newydd lle bo’r angen a diogelu’r cartrefi presennol drwy bolisi HS/13.
- Bydd trawsnewid adeiladau gwledig yn dai newydd yn cael ei gefnogi'n unol â pholisi PL/10.
- Mynd i’r afael ag anghenion sipsiwn a theithwyr yn unol â pholisi HS/14 a pholisi HS/15.
5.3.9 Mae hygyrchedd a fforddiadwyedd tai yn ffactor allweddol i sicrhau cynaliadwyedd hirdymor ein cymunedau ac er mwyn cyflawni’r strategaeth dwf yn y CDLlN. Mae maint cyfartalog aelwydydd yn ardal y cynllun yn gostwng. Gall newidiadau o ran oedran a strwythur cymdeithasol poblogaeth Bwrdeistref Sirol Conwy fygwth lles cymunedau a’r Gymraeg a hyfywedd ysgolion, busnesau, gwasanaethau a chyfleusterau lleol. Felly, er mwyn sicrhau dyfodol yr ardal, mae’n allweddol bod anghenion y boblogaeth a ragwelir a’r newidiadau o ran aelwydydd yn cael eu diogelu a bod strwythur sy’n fwy cytbwys o ran oedran yn cael ei hyrwyddo drwy ddatblygu tai hygyrch ac sydd wedi’u dylunio’n dda gyda’r meintiau, mathau a deiliadaeth gywir. Sylw
HS/2 cyflawni’r angen o ran tai Sylw
Rhoddir blaenoriaeth ar gyfer datblygiad preswyl newydd yn Ardal Strategaeth Datblygu Arfordirol (90%) a’r Ganolfan Wasanaethau Allweddol.Mae datblygiadau’n cael eu llywio at yr aneddiadau mwy yn unol â PL/4 dosbarthiad twf a hierarchaeth aneddiadau.
Mae’r safleoedd canlynol wedi’u dyrannu at ddefnydd preswyl:
|
Safle |
Cyfanswm yr unedau yng nghyfnod y cynllun |
Unedau fforddiadwy yng nghyfnod y cynllun |
Terfynau amser o ran cyflawni |
Unedau y tu hwnt i gyfnod y cynllun |
|
Y Gorllewin Safle 157 Caeffynnon, Llanfairfechan |
145 |
73 |
Blwyddyn 11-15 |
0 |
|
Y Creuddyn Safle 91 Pentywyn Road, Deganwy / Llanrhos |
140 |
70 |
Blwyddyn 11-15 |
0 |
|
Safle 206 Nant y Coed, Cyffordd Llandudno |
50 |
50 |
Blwyddyn 6-10 |
0 |
|
Safle 203 Queens Road, Llandudno |
70 |
35 |
Blwyddyn 11-15 |
0 |
|
Y Canol Safle 68 Fferm Peulwys, Hen Golwyn |
250 |
150 |
Blwyddyn 11-15 |
50 |
|
Safle 132 Dinerth Road, Llandrillo-yn-Rhos |
50 |
50 |
Blwyddyn 6-10 |
0 |
|
Gwledig Safle 56 Penloyn, Llanrwst |
100 |
50 |
Blwyddyn 11-15 |
0 |
- Mae’r safleoedd CDLl blaenorol canlynol wedi’u hail-ddyrannu, ond disgwylir iddynt dderbyn caniatâd cynllunio cyn mabwysiadu’r CDLlN:
|
Safle |
Cyfanswm yr unedau yng nghyfnod y cynllun |
Unedau fforddiadwy yng nghyfnod y cynllun |
Terfynau amser o ran cyflawni |
Unedau y tu hwnt i gyfnod y cynllun |
|
Y Gorllewin Safle 86 Parc Penmaen, Llanfairfechan |
55 |
11 |
Blwyddyn 6-10 |
0 |
|
Y Creuddyn Safle 210 Lôn Derwen, Bae Penrhyn |
152 |
53 |
Blwyddyn 6-10 |
0 |
|
Y Canol Safle 41 Heol Dirion, Bae Colwyn |
28 |
28 |
Blwyddyn 6-10 |
0 |
|
Y Dwyrain Safle 113 Fferm Tandderwen, Abergele |
277 |
110 |
Blwyddyn 6-10 Blwyddyn 11-15 |
0 |
- Ni chaniateir unrhyw ddatblygiad preswyl y tu hwnt i ffiniau anheddiad, heblaw am safleoedd eithriedig tai fforddiadwy yn unol â pholisi HS/5, trawsnewidiadau gwledig yn unol â pholisi PL/10, Anheddau Menter Wledig yn unol â pholisi HS/9 a Datblygiad Un Blaned yn unol â’r canllawiau cenedlaethol.
- Caniateir lefel gynaliadwy o ddatblygiadau preswyl yn Ardal y Strategaeth Datblygu Gwledig (10%). Bydd y mwyafrif o hyn yn cael ei ddarparu yn y Safle Strategol yn Llanrwst, y Ganolfan Wasanaethau Allweddol. Er mwyn cefnogi anghenion tai aneddiadau gwledig eraill, caniateir safleoedd sy’n darparu isafswm o 50% o dai fforddiadwy ar safleoedd addas o fewn Prif Bentrefi Haen 2, Pentrefi Bach a Phentrefannau yn amodol ar y meini prawf canlynol:
- Mae’n rhaid i safleoedd o’r fath fod o fewn ffin yr anheddiad lle bo’n berthnasol neu mewn lleoliad da mewn perthynas â’r anheddiad presennol, gan fewnlenwi neu derfynu.
- Mae’n rhaid darparu unedau o dai fforddiadwy ar y safle i ddiwallu angen a nodwyd yn lleol. Ni chaniateir darpariaeth oddi ar y safle na symiau gohiriedig. Pan fydd gofyniad yn arwain at annedd fforddiadwy rhannol, bydd yn cael ei dalgrynnu i’r annedd fforddiadwy llawn agosaf i’w ddarparu ar y safle. Ni chaniateir anheddau marchnad agored sengl, oni bai bod deiliadaeth wedi’i chyfyngu ar gyfer anghenion lleol, yn unol â pholisi HS/8 cynlluniau anghenion tai lleol.
- Nid oes effaith annerbyniol ar gymeriad lleol yr ardal; a
- Caniateir safleoedd gydag uchafswm o 5 annedd marchnad agored mewn Pentrefi Bach a 2 annedd marchnad agored mewn Pentrefannau yn y cynlluniau, lle bo anheddau marchnad agored yn cynrychioli uchafswm o 50% o gyfanswm yr unedau sy’n rhan o’r cynllun.
5.3.10 Mae’r strategaeth tai cynaliadwy yn cefnogi twf yn y lleoliad cywir. Disgwylir i’r mwyafrif gael eu cyflawni yn Ardal y Strategaeth Datblygu Arfordirol, gan adlewyrchu’r hierarchaeth aneddiadau. Mae angen lefel briodol o dai newydd yn Ardal y Strategaeth Datblygu Arfordirol, sy’n cefnogi aneddiadau llai a’r Gymraeg ac yn diogelu rhag gor-ddatblygu. Sylw
5.3.11 Mae’r strategaeth tai cynaliadwy’n blaenoriaethu datblygiad ar Dir a Ddatblygwyd yn Flaenorol ond nid oes modd darparu’r holl dai newydd sydd eu hangen ar dir a ddatblygwyd yn flaenorol yn unig. Mae colli rhywfaint o safleoedd tir glas a lletemau glas yn ofynnol i sicrhau bod modd cyflawni’r CDLlN. Mae hyn yn adlewyrchu canfyddiadau Asesiad Lletem Las Papur Cefndir 29/31. Sylw
5.3.12 Mae’n rhaid i’r CDLlN ddyrannu tir i ddarparu’r lefel o dai newydd a nodwyd yn y strategaeth tai cynaliadwy. Bydd y rhain yn cael eu cyflwyno mewn camau priodol fel y nodwyd yn y taflwybr tai. Mae anheddau sydd wedi’u hadeiladu ers dechrau cyfnod y CDLlN hwn, ymrwymiadau presennol a lwfans ar hap hefyd wedi’u cyfrif. Mae taflwybr tai ar gael yn Atodiad 1. Mae manylion pellach ynglŷn â’r ymrwymiadau sydd wedi’u cynnwys a thybiaethau ar hap ar gael ym Mhapur Cefndir 7 Cyflenwad Tir ar gyfer Tai. Sylw
5.3.13 Mae rhai dyraniadau CDLl (2007-22) ar y gweill ar hyn o bryd ar gyfer datblygu ac mae ceisiadau cynllunio wedi’u cyflwyno. Gan nad oes caniatâd wedi’i roi eto, nid yw’r niferoedd tai ar y safleoedd hyn yn ffurfio rhan o’r ffigur ymrwymiadau yng nghyflenwad tai y CDLlN. Mae egwyddor datblygu preswyl wedi’i gytuno o’r blaen oherwydd eu statws presennol fel dyraniadau CDLl felly mae’n rhesymol tybio y byddant yn cael eu cyflwyno ar gyfer datblygu a’u bod yn debygol o gael caniatâd cyn mabwysiadu’r CDLlN. Er mwyn sicrhau nad yw’r safleoedd hyn sydd ar y gweill yn cael eu methu allan o gyflenwad tai y CDLlN, maent wedi’u hail-ddyrannu yma fel safleoedd tai ar y gweill. Os nad yw'r safleoedd hyn sydd ar y gweill wedi derbyn caniatâd cynllunio erbyn Archwiliad Cyhoeddus y CDLlN, ni fyddant yn cael eu cynnwys yn y cynllun fel safleoedd ar y gweill a ddyrannwyd, nac yn cael eu cyfrif fel ymrwymiadau. Sylw
5.3.14 Ar gyfer aneddiadau llai (Prif Bentrefi Haen 2, Pentrefi Bach a Phentrefannau), mae nifer y tai marchnad i’w cyflawni ar gynllun preswyl cymysg wedi’u cyfyngu yn y polisi i ddiogelu’r Gymraeg, cymeriad a natur wledig yr aneddiadau hyn, ond gan gefnogi lefel gynaliadwy o dwf tai. Dylai bod nifer y tai fforddiadwy newydd yn y cynlluniau yn diwallu angen lleol a nodwyd. Mae’n rhaid darparu tai fforddiadwy ar y safle i gefnogi cynaliadwyedd yr anheddiad gwledig. Ni fydd symiau gohiriedig yn dderbyniol yn yr aneddiadau hyn. Dylid cymryd gofal i sicrhau nad oes unrhyw effaith annerbyniol ar gymeriad lleol yr anheddiad ac nad yw’r safle’n cael ei or-ddatblygu. Dylai’r ymgeisydd weithio’n rhagweithiol gyda Gwasanaethau Tai CBSC, Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig a grwpiau cymunedol lleol i nodi’r angen lleol am dai fforddiadwy. Efallai y bydd angen arolwg tai gwledig neu debyg mewn rhai amgylchiadau er mwyn deall anghenion tai fforddiadwy’r ardal leol. Oni chanfyddir bod angen am dai fforddiadwy ni chaniateir swm gohiriedig yn ei le. Er mwyn atal datblygu di-angen mewn ardaloedd gwledig ac er mwyn diogelu a gwella cymeriad lleol a chefnwlad y Gymraeg, ni chaniateir cynlluniau marchnad agored, lle nad oes cyfyngiad deiliadaeth yn unol â pholisi HS/8 cynlluniau anghenion tai lleol. Sylw
HS/3 darpariaeth tai fforddiadwy Sylw
- Bydd tai fforddiadwy’n cael eu ceisio o ddatblygiadau preswyl sydd heb eu dyrannu o fewn ffiniau anheddiad yr aneddiadau trefol, Brif Bentrefi Haen 1 a’r Ganolfan Wasanaethau Allweddol lle bo buddion net o anheddau o’r cynllun, yn unol â’r canrannau targed canlynol:
ArdalstrategaethyGorllewin:
Llanfairfechan, Penmaenmawr, Dwygyfylchi: 30%
ArdalstrategaethyCreuddyn:
Llandudno, Bae Penrhyn: 40%
Conwy, Deganwy, Cyffordd Llandudno, Glan Conwy: 35%
ArdalstrategaethGanolog:
Llandrillo-yn-rhos, Mochdre, Bae Colwyn, Hen Golwyn: 30%
ArdalstrategaethyDwyrain:
Llanddulas, Abergele: 20%
Pensarn, Towyn, Bae Cinmel: 0%
Ardal strategaeth wledig:
Llanrwst: 40%
- Ni fydd yn ofynnol i’r cynlluniau canlynol ddarparu tai fforddiadwy ar y safle na chyfraniadau oddi ar y safle. Datblygiadau o fewn ffiniau anheddiad ardal y Strategaeth Datblygu Arfordirol a’r Ganolfan Wasanaethau Allweddol sy’n cynnwys colli annedd, gyda buddion net o 4 annedd neu lai;
- Abergele a Llanddulas: pob datblygiad safle bychan (1-4 annedd); ac
- Yn y Gorllewin, Bae Colwyn, Hen Golwyn a Mochdre: datblygiad safleoedd bychain (1-4 annedd) sy'n golygu dymchwel neu drawsnewid adeilad sylweddol a pharhaol presennol.
- Dylai bod darpariaeth tai fforddiadwy ar y safle ar gyfer pob cynllun, lle bo’r gofyniad yn golygu un annedd cyfan neu fwy. Efallai y bydd darpariaeth oddi ar y safle neu gyfraniadau ariannol yn briodol mewn sefyllfaoedd eithriadol, er enghraifft oherwydd natur y safle neu’r cynllun arfaethedig.
5.3.15 Bydd darparu tai fforddiadwy ar safleoedd preswyl yn gwneud cyfraniad allweddol tuag at ddiwallu’r lefel uchel o dai fforddiadwy sydd eu hangen yn ardal y cynllun yn awr ac yn y dyfodol agos. Dylai’r cynigion adlewyrchu deiliadaeth a maint y tai fforddiadwy sydd eu hangen yn yr ardal, fel y nodir yn y Prosbectws Tai Lleol, yr Asesiad o’r Farchnad Dai Leol a chofrestrau tai fforddiadwy lleol er mwyn darparu cymunedau cymysg ac addas. Sylw
5.3.16 Tystiolaethir y targedau safleoedd tai fforddiadwy hyn drwy asesiad hyfywedd cadarn (Papur Cefndir 10) a byddant yn cael eu lleihau os nodir yn glir bod amgylchiadau eithriadol penodol i’r safle sy’n cyfiawnhau’r angen am asesiad hyfywedd wrth gyflwyno cais. Mae’n rhaid i’r ymgeisydd gyflwyno’r holl wybodaeth, tystiolaeth a chyfiawnhad fel rhan o’r broses ymgeisio ar sail llyfr agored. Argymhellir ymgysylltiad cynnar gyda’r Awdurdod Cynllunio Lleol. Onid yw’r Cyngor yn gallu dod i gytundeb â’r ymgeisydd bydd y Cyngor yn comisiynu asesiad annibynnol. Bydd gofyn i’r ymgeisydd ysgwyddo’r costau sy’n gysylltiedig â hyn. Sylw
5.3.17 Pan fydd y targed gofynnol ar gyfer tai fforddiadwy’n arwain at ran o eiddo, bydd hyn yn ofynnol fel swm gohiriedig, neu fe all y datblygwr dalgrynnu i fyny i’r annedd gyfan agosaf. Sylw
5.3.18 Mae gofyn i’r holl dai fforddiadwy gael eu hintegreiddio’n llawn o fewn y datblygiad. Bydd tai fforddiadwy’n destun cytundeb cyfreithiol neu amod cynllunio i reoli deiliadaeth am byth. Pan ddarperir tai’r farchnad agored ar y safle, mae’n rhaid i’r cytundeb cyfreithiol sicrhau darpariaeth brydlon y tai fforddiadwy i ddiwallu anghenion y gymuned leol. Sylw
5.3.19 Dim ond mewn amgylchiadau eithriadol y gellir ystyried darpariaeth tai fforddiadwy oddi ar y safle. Bydd gofyn i gynlluniau ddarparu o leiaf yr un nifer o dai fforddiadwy sy’n ofynnol yn sgil cyfuno dau gynllun. Dylai’r cynlluniau ddarparu buddion cymunedol ychwanegol ar gyfer y gymuned lle y lleolir y cynllun marchnad agored. Bydd y cynlluniau’n cael eu cysylltu drwy gytundeb cyfreithiol i sicrhau darpariaeth y tai fforddiadwy. O fewn Ardal yStrategaeth Datblygu Arfordirol, dylid darparu’r cynllun oddi ar y safle mewn aneddiadau trefol neu Brif Bentrefi Haen 1 o fewn yr un Ardal Marchnad Dai, fel y diffinnir yn yr Asesiad o’r Farchnad Dai Leol, â’r cynllun arfaethedig gwreiddiol. O fewn Ardal y Strategaeth Datblygu Gwledig, dylai bod unrhyw gynlluniau oddi ar y safle yn cael eu darparu o fewn ardal yr un Cyngor Cymuned neu Gyngor Tref neu un cyfagos. Bydd angen i bob cynllun ddarparu tai fforddiadwy ar gyfer angen a nodwyd yn yr anheddiad a diwallu anghenion blaenoriaethol a nodwyd yn Strategaeth Tai CBSC lle bo’n berthnasol. Sylw
5.3.20 Mae tystiolaeth hyfywedd yn dangos bod rhai mathau o ddatblygiadau yn annhebygol o fod yn ariannol hyfyw i ddiwallu’r targedau Tai Fforddiadwy a osodwyd yn rhan 1 HS/3 darpariaeth tai fforddiadwy. Mae’r rhain yn cynnwys datblygiadau bychain, lle bo dymchwel strwythurau presennol yn ofynnol oherwydd y costau ychwanegol sy’n gysylltiedig â hyn, cynlluniau bychain sy’n cynnwys colli annedd oherwydd gwerthoedd defnydd presennol uwch, a safleoedd mewn ardaloedd marchnad gwannach ym Mwrdeistref Sirol Conwy. Am y rheswm hwn mae eithriadau ar gyfer gofynion Tai Fforddiadwy wedi’u nodi yn rhan 2 y polisi hwn. Mae disgwyl i ddatblygiadau preswyl o bob math a maint, nad ydynt yn diwallu’r eithriadau yn y polisi, ddiwallu’r gofynion Tai Fforddiadwy. Bydd cynigion sy’n rhannu safle yn sawl cais cynllunio neu gamau gan arwain at osgoi gofynion Tai Fforddiadwy yn cael eu hystyried yn nhermau’r polisi fel un safle. Sylw
5.3.21 At ddibenion rhan 2 (c) y polisi hwn, mae ‘dymchwel neu drawsnewid adeilad presennol’ yn ymwneud ag adeiladau parhaol, sylweddol (brics neu gerrig fel arfer) sy’n cymryd rhan sylweddol o’r safle i’w ailddatblygu’n unig. Mae hyn yn sgil y costau sy’n gysylltiedig â thrawsnewid neu ddymchwel adeiladau ac ailddatblygu’r safle. Fel arfer ni fyddai adeiladau bach, dros dro neu ysgafn, fel adeiladau allanol, tai gwydr, siediau neu garejis yn berthnasol yn y dehongliad o’r polisi, gan na fyddent yn ychwanegu’n sylweddol at gostau datblygu’r safle. Sylw
Gweler polisi HS/2 cyflawni’r angen o ran tai i weld ymagwedd polisi ar gyfer gofynion tai fforddiadwy mewn Prif Bentrefi Haen 2, Pentrefi Bach a Phentrefannau.
HS/4 safleoedd a arweinir gan dai fforddiadwy Sylw
- Mae’n rhaid i bob safle mawr o fewn ffiniau anheddiad yr aneddiadau trefol, Prif Bentrefi Haen 1 a Chanolfan Wasanaethau Allweddol, fel y diffinnir ym mholisi PL/4 dosbarthu twf a hierarchaeth aneddiadau, fod yn safleoedd a arweinir gan dai fforddiadwy, lle bo o leiaf 50% o’r tai newydd ar y safle yn rhai fforddiadwy.
- Efallai y bydd lefelau is yn dderbyniol o dan yr amgylchiadau canlynol:
- lle y nodir bod yr angen am dai fforddiadwy yn Ardal y Farchnad Dai yn llai na nifer y tai fforddiadwy arfaethedig; neu
- lle nad oes cymhorthdal ar gael i lenwi’r bwlch ariannol i ddarparu mwy na chyfraniadau’r datblygwr a osodwyd ym mholisi HS/3; neu
- Pan fo lefelau uwch o dai fforddiadwy yn y datblygiad arfaethedig yn golygu y byddai’r cymysgedd tai yn yr ardal yn arwain at gymunedau anghynaladwy.
- Bydd y Cyngor yn ceisio cyflawni lefelau uwch o dai fforddiadwy ar safleoedd y Cyngor a safleoedd sy’n eiddo cyhoeddus.
5.3.22 Mae’r Asesiad o’r Farchnad Dai Leol a chofrestrau tai fforddiadwy yn dangos nifer sylweddol o aelwydydd sydd angen tai fforddiadwy ar draws yr holl ardaloedd yn y Fwrdeistref Sirol. Ni ellir darparu’r rhain oll o fewn y stoc bresennol, ac felly mae angen tai fforddiadwy newydd. Mae’r Prosbectws Tai Lleol a’r Asesiad o’r Farchnad Dai Leol 2022-37 yn cefnogi’r ymagwedd hon ac yn nodi y bydd angen lefelau uchel o dai fforddiadwy drwy gydol cyfnod y cynllun. Pe byddai hyn yn newid, a bod yr angen am dai fforddiadwy’n cael ei ddiwallu mewn Ardal Marchnad Dai, neu fod modd diwallu’r angen a nodwyd drwy’r stoc dai bresennol, mae modd ystyried lefelau is o dai fforddiadwy. Sylw
5.3.23 Mae gwneud y mwyaf o dai fforddiadwy ar safleoedd yn rhan allweddol o gyflwyno cymunedau cynaliadwy. Mae nifer o aelwydydd lleol yn cael eu prisio allan o’r farchnad dai, gan arwain at symud i rywle arall i gael tŷ. Mae darparu tai fforddiadwy felly’n rhan allweddol o gyflawni gweledigaeth y CDLlN a chydbwyso strwythur y boblogaeth leol drwy gadw pobl ifanc. Gallai hyn yn ei dro arwain at fuddion o safbwynt y Gymraeg, lle bo siaradwyr Cymraeg lleol yn gallu parhau i fyw yn eu cymunedau lleol. Sylw
5.3.24 Mae ymagwedd y polisi’n berthnasol i safleoedd mawr, gyda 10 neu fwy o anheddau. Mae’n gofyn am gyfraniadau gan ddatblygwyr tuag at lefelau tai fforddiadwy fel y nodir ym mholisi HS/3. Rhagwelir y bydd angen cymhorthdal i lenwi’r bwlch cyllid er mwyn cynyddu’r ddarpariaeth i 50%. Dylai’r ymgeisydd ystyried pob opsiwn ar gyfer hyn, a bydd angen ymagwedd ragweithiol gyda’r Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig a Strategaeth Tai CBSC. Onid oes cyllid ychwanegol ar gael, bydd gofyn i’r ymgeisydd dystiolaethu hyn fel rhan o’r cais. Ceisir safbwyntiau Strategaeth Tai CBSC i gadarnhau nad oes cymhorthdal ar gael. Yn yr amgylchiadau hyn, fe fydd lefelau is o ddarpariaeth fforddiadwy’n dderbyniol, ond mae’n rhaid i’r cynnig ddiwallu gofynion polisi HS/3 darpariaeth tai fforddiadwy. Sylw
5.3.25 Mae’r Prosbectws Tai Lleol wedi’i ddiweddaru i adlewyrchu’r ymagwedd hon ac i gefnogi darpariaeth, gan sicrhau bod safleoedd sy’n derbyn cymhorthdal gan CBSC yn alinio â gweledigaeth, amcanion a strategaeth dwf y CDLlN. Sylw
5.3.26 Ni ddylai’r cynigion arwain at gymunedau anghynaladwy, oherwydd eu bod, er enghraifft, yn creu cymysgedd tai anghytbwys yn yr ardal. Yn yr amgylchiadau hyn, mae’n rhaid darparu gofynion y polisi yn yr ardal, yn unol â pholisi HS/3 darpariaeth tai fforddiadwy. Sylw
HS/5 safleoedd eithriedig tai fforddiadwy Sylw
- Bydd safleoedd ar gyfer 100% o dai fforddiadwy ar gyfer anghenion lleol yn cael eu caniatáu ger terfynau’r anheddiad fel eithriad i’r polisïau tai, yn amodol ar y meini prawf canlynol:
- Bod lleoliad y safle’r cais yn estyniad rhesymol i’r anheddiad ac yn integreiddio’n gadarnhaol â’r gymuned leol;
- Mae’r safle’n hygyrch gydag ystod o ddewisiadau cludiant, gan gynnwys cysylltiadau â rhwydweithiau Teithio Llesol, yn unol â pholisi STA/6 teithio llesol ac isadeiledd gwyrdd;
- Mae’r cynllun o faint priodol, yn gymesur â maint yr anheddiad ac yn cyd-fynd â chymeriad yr anheddiad a’r tirlun lleol yn unol â pholisïau PL/1 a PL/5;
- Mae’r cymysgedd o dai arfaethedig yn darparu cymunedau cynaliadwy a byddai’n diwallu’r angen am dai fforddiadwy a nodwyd ar gyfer y Cyngor Tref neu Gymuned hwnnw. Bydd Cynghorau Tref a Chymuned cyfagos yn cael eu hystyried yn briodol mewn rhai amgylchiadau;
- Nid oes safleoedd amgen o fewn ffiniau’r anheddiad ar gael i’w datblygu a allai ddiwallu’r angen a nodwyd; a
- Nid yw’r safle o fewn Lletem Las ddynodedig, fel y diffinnir yn y map cynigion a pholisi NE/5 Lletemau Glas.
- Mae trothwy safle o 10 annedd yn berthnasol mewn Prif Bentrefi Haen 2 a Phentrefi Bach. Mae trothwy safle o 5 annedd yn berthnasol mewn Pentrefannau. Efallai y bydd safleoedd sy’n uwch na’r trothwy’n cael eu caniatáu yn amodol ar y meini prawf ychwanegol canlynol:
- Mae tystiolaeth o’r angen am dai fforddiadwy yn uwch na 10 ar gyfer yr anheddiad lle mae’r safle arfaethedig a byddai’r anheddau newydd yn diwallu’r angen a nodwyd;
- Mae maint mwy’r safle yn golygu bod y datblygiad yn ariannol hyfyw ac fel arall ni fyddai’n ariannol hyfyw.
5.3.27 Mae angen sylweddol am ddarpariaeth tai fforddiadwy ar draws ardal y cynllun, fel y nodwyd yn yr Asesiad o’r Farchnad Dai Leol 2022-37. Er y ffefrir bod yr angen yn cael ei ddiwallu o fewn cyfyngiadau anheddiad neu ffiniau anheddiad penodol, nid yw hyn yn bosibl bob tro. O dan yr amgylchiadau hyn, efallai y bydd safleoedd eithriedig i ddiwallu angen lleol a nodwyd yn ddewis amgen derbyniol. Sylw
5.3.28 Pan fydd ffin anheddiad, dylai safle’r cynnig fod wrth ymyl y ffin. Bydd angen ystyriaeth ofalus i sicrhau bod unrhyw saflearfaethedig yn estyniad rhesymol i’r anheddiad, ac nad yw’n arwain at ddatblygiad hirgul, datblygiadau tameidiog neu’n ymledu’n annerbyniol i gefn gwlad agored neu Letem Las ddynodedig (lle bo’n berthnasol). Ni chaniateir cynigion sy’n arwain at grynodiad ar wahân o dai fforddiadwy. Dylai’r cynigion adlewyrchu’r cymeriad lleol a dylid eu dylunio’n briodol. Bydd angen i safleoedd arfaethedig fod yn hygyrch i wasanaethau a chyfleusterau lleol a darparu Llwybrau Teithio Llesol i wella cysylltedd. Mae’r effaith ar gyfleusterau cymunedol wedi’i asesu fel rhan o sylfaen dystiolaeth y CDLlN. Bydd angen mesurau lliniaru a chyfleusterau newydd yn unol â pholisi PL/12, PL/13 a CFS/1. Sylw
5.3.29 Dylai’r cynllun gysylltu a diwallu angen a nodwyd am dai fforddiadwy ar gyfer y Cyngor Tref neu Gymuned, yn unol â pholisi HS/7. Efallai y byddai’n dderbyniol diwallu angen am dai fforddiadwy ar gyfer Cyngor Tref neu Gymuned cyfagos, onid oes safleoedd priodol ar gael yno. Bydd angen i’r ymgeisydd ddangos a thystiolaethu fel rhan o’r cais cynllunio nad oes safleoedd ar gael y mae modd eu darparu i ddiwallu’r angen a nodwyd yn llawn o fewn ffin yr anheddiad lle y nodir yr angen, gan gynnwys dyraniadau’r CDLlN. Sylw
5.3.30 At ddibenion y polisi hwn, mae lleol yn cael ei ddiffinio fel aelwyd sydd â chysylltiad gyda’r Cyngor Tref neu Gymuned lle y lleolir y safle, neu Gyngor Tref a Chymuned cyfagos. Cysylltiad yw: Sylw
- Wedi byw yn yr ardal dan sylw am gyfnod o 5 mlynedd. Gallai hyn fod ar unrhyw adeg yn eu bywydau;
- Â chyflogaeth yn yr ardal berthnasol;
- Â chyfrifoldebau gofalu ar gyfer aelodau o’r teulu sy’n byw yn yr ardal; a / neu
- Angen gofal / cefnogaeth gan aelodau o’r teulu sy’n byw yn yr ardal.
5.3.31 Gellir cymhwyso hyblygrwydd, er enghraifft, pan fydd aelwydydd yn cael eu hystyried fel rhai ag angen blaenoriaethol ar gyfer tai fforddiadwy, ond nad oes ganddynt gysylltiad lleol. Bydd meddiannaeth yr anheddau hyn yn cael eu diogelu ar gyfer defnydd fforddiadwy am byth. Bydd hyn yn cynnwys mecanwaith rhaeadru i ehangu’r diffiniad o leol i sicrhau meddiannaeth yn y dyfodol. Sylw
5.3.32 Mae’n bwysig bod cynigion yn cyfrannu tuag at gymunedau cymysg a chynaliadwy drwy ddarparu cymysgedd briodol o ran y mathau o dai, meintiau a deiliadaeth. Mae’n rhaid i’r cynnig integreiddio’n dda gyda’r gymuned leol bresennol i ddiogelu cymeriad ac ymdeimlad penodol o le. Sylw
5.3.33 Mae’r polisi’n darparu hyblygrwydd ar gyfer darparu safleoedd y tu hwnt i’r trothwyon yn yr aneddiadau gwledig, lle bo’r angen dewis cyntaf a nodwyd ar gyfer yr anheddiad yn uwch neu lle bo safle mwy’n cynorthwyo’n sylweddol gyda hyfywedd ariannol y cynllun a heb yr effaith yma, ni fyddai modd cyflawni’r cynllun. Bydd angen i’r ymgeisydd ddarparu gwybodaeth hyfywedd manwl i dystiolaethu hyn. Sylw
5.3.34 Ni chaniateir anheddau marchnad agored neu angen lleol ar y safleoedd hyn. Sylw
HS/6 dwysedd tai Sylw
- Dylai’r datblygiad preswyl wneud y defnydd gorau o dir, gan gynnwys datblygu ar ddwysedd priodol yn unol â’r polisi cenedlaethol. Mae’n rhaid cymhwyso egwyddorion dyluniad da a chreu lleoedd er mwyn darparu dwyseddau uwch, heb gyfaddawdu dyluniad neu ansawdd y cynllun a’r llety byw.
- Ceisir dwyseddau uwch mewn ardaloedd trefol, y Ganolfan Wasanaethau Allweddol a Phrif Bentrefi Haen 1 lle bo’n cynrychioli defnydd cynaliadwy o dir, yn darparu datblygiad defnydd cymysg, neu yn agos at ganolbwyntiau a safleoedd cludiant cyhoeddus, lle nad yw’n arwain at effaith weledol annerbyniol. Ni chefnogir cynlluniau dwysedd uwch sy'n arwain at werth gweddilliol negyddol a darpariaeth tai fforddiadwy is.
- Efallai y bydd dwyseddau is yn dderbyniol lle:
- bo unrhyw effaith annerbyniol ar gymeriad ac ymddangosiad yr ardal leol yn unol â pholisi PL/5 a HE/1 lle bo’n berthnasol, o ganlyniad i ddwyseddau uwch yn cael ei oresgyn;
- mae cyfyngiadau safle neu isadeiledd yn effeithio ar gynllun y safle gan olygu nad oes modd darparu dwyseddau uwch;
- mae gofyniad y gellir ei dystiolaethu i gyflawni budd net ar gyfer bioamrywiaeth yn unol â pholisi NE/8, targed plannu coed yn unol â pholisi NE/6, neu ddal a storio neu gynhyrchu ynni adnewyddadwy ar y safle yn unol â pholisi EN/1 ac EN/9, Systemau Draenio Cynaliadwy neu fuddion cymunedol eraill, na ellir eu diwallu heb leihau dwysedd datblygiad,
- mae’n ofynnol i hwyluso darpariaeth anghenion tai fforddiadwy penodol a nodwyd yn ardal y farchnad dai;
- mae cynllun dwysedd is yn cael effaith gadarnhaol ar ddichonoldeb cyffredinol, sy’n arwain at fwy o ddarpariaeth tai fforddiadwy.
5.3.35 Mae adeiladu gyda dwyseddau uwch yn galluogi’r defnydd gorau o safleoedd datblygu ac yn gwneud y mwyaf o botensial datblygu a lefel y tai fforddiadwy ar safleoedd. Mae hefyd yn gymorth i ddiogelu cefn gwlad rhag datblygiadau amhriodol. Gall datblygiadau mawr a dwys gefnogi mwy o bobl sydd efallai eu hangen i gefnogi cyfleusterau a gwasanaethau lleol. Sylw
5.3.36 Ni ddylai dwyseddau uwch sydd wedi’u dylunio’n dda gyfaddawdu ansawdd datblygiadau newydd. Ni ddylid cyfaddawdu gofynion polisi eraill o ran gofod digonol, Systemau Draenio Cynaliadwy, cymysgedd tai priodol ac eraill. Mae’n ofynnol bod pob datblygiad yn dangos buddion net ar gyfer bioamrywiaeth yn unol â’r canllawiau cenedlaethol. Sylw
5.3.37 Mae anghenion tai penodol wedi’u nodi yn yr asesiad o’r farchnad dai leol a’r cofrestrau tai. Gall y mathau o lety sy’n ofynnol olygu bod dwyseddau is yn ofynnol i ddiwallu’r math penodol o anghenion o ran tai. Mae’n rhaid i ymgeiswyr weithio gyda Strategaeth Tai a Gofal Cymdeithasol CBSC i sicrhau bod y cynllun yn diwallu anghenion penodol a nodwyd ar gyfer ardal y farchnad dai, i sicrhau bod modd cyfiawnhau’r dwysedd is. Sylw
5.3.38 Gyda dwysedd hynod uchel (50dph+) gall hyfywedd ariannol ddechrau gostwng wrth i ddwysedd gynyddu. Pan fyddai datblygiad dwysedd uwch yn amharu ar hyfywedd darpariaeth tai fforddiadwy, dylai dylunio’r datblygiad i wneud y mwyaf o ddarpariaeth tai fforddiadwy fod yn flaenoriaeth, oherwydd y galw uchel am lety fforddiadwy ar draws holl ardaloedd y cynllun. Sylw
HS/7 cymysgedd tai Sylw
- Dylai cynigion datblygiadau tai adlewyrchu’r angen am dai fforddiadwy lleol a nodwyd o ran deiliadaeth, maint tai ac anghenion tai penodol fel y nodwyd yn yr Asesiad o’r Farchnad Dai Leol, cofrestrau tai fforddiadwy a’r Prosbectws Tai Lleol.
- Dylai cynigion datblygu ddarparu cymysgedd priodol o fathau o dai i gefnogi darpariaeth cymunedau cynaliadwy.
- Bydd cynigion ar gyfer llety arbenigol, megis llety ar gyfer yr henoed neu lety sy’n darparu gofal yn cael eu cefnogi, yn amodol ar dystiolaeth o’r angen.
- Ni chefnogir cymysgedd arfaethedig o anheddau neu fathau o anheddau sy’n arwain at werth gweddillol negyddol a llai o dai fforddiadwy.
5.3.39 Mae darparu cymysgedd priodol o dai yn rhan allweddol o gymunedau cynaliadwy. Fel y nodwyd yn PCC mae’n ddymunol o safbwynt cynllunio bod datblygiadau tai newydd mewn ardaloedd trefol a gwledig yn cynnwys cymysgedd rhesymol a chydbwysedd o ran mathau a meintiau o dai fforddiadwy i ddarparu ar gyfer yr ystod o anghenion tai a chyfrannu at ddatblygu cymunedau cynaliadwy. Dylai bod yr holl ddatblygiadau tai yn ardal y cynllun yn gynhwysol ac yn diwallu amrywiaeth o anghenion preswylwyr o ran meintiau aelwydydd ac anghenion tai er mwyn creu cymunedau cymysg. Felly mae angen i’r holl ddatblygiadau tai ddarparu amrywiaeth cytbwys o fathau o dai a meintiau i adlewyrchu anghenion a nodwyd yn y gymuned. Ni chefnogir cynlluniau sy’n llawn gormodedd o ddeiliadaeth sengl neu faint annedd. Sylw
5.3.40 Mae Polisi Cynllunio Cymru hefyd yn nodi ei bod yn bwysig fod gan awdurdodau werthfawrogiad o’r galw am anheddau o wahanol feintiau a mathau o dai fforddiadwy mewn perthynas â chyflenwad, fel eu bod yn derbyn y wybodaeth briodol o ran penderfynu ar y cymysgedd priodol o anheddau ar gyfer datblygiadau newydd. Mae’r Asesiad o’r Farchnad Dai Leol a’r cofrestrau tai fforddiadwy’n darparu’r dystiolaeth hon a byddant yn hysbysu trafodaethau er mwyn sicrhau bod cymysgedd priodol o ran y mathau o dai i ddiwallu anghenion y gymuned ar yr holl safleoedd preswyl arfaethedig. Sylw
5.3.41 Mae’r Asesiad o’r Farchnad Dai Leol a’r cofrestrau tai fforddiadwy’n darparu mwy o fanylion ar gyfer anghenion tai fforddiadwy arbenigol ac wedi’u haddasu. Lle bo angen wedi’i nodi’n lleol, efallai y bydd angen darpariaeth ar y safle fel rhan o’r ddarpariaeth tai fforddiadwy, yn amodol ar faterion penodol i’r safle megis lleoliad a / neu dopograffeg. Sylw
5.3.42 Mae gan Fwrdeistref Sirol Conwy boblogaeth sy’n heneiddio a chyfran uwch o bobl hŷn o gymharu â chyfartaledd Cymru. Mae’r rhagamcanion poblogaeth yn dangos bod y duedd hon yn debygol o barhau. Bydd angen cymysgedd o dai sy’n cefnogi’r henoed, drwy ddarparu byngalos a mathau eraill o dai hygyrch. Sylw
5.3.43 Bydd llety arbenigol i ddiwallu anghenion yr ardal leol, drwy ddarparu cefnogaeth benodol ar gyfer pobl hŷn neu lety gofal neu lety â chymorth arall yn cael ei gefnogi lle bo’r Asesiad o’r Farchnad Dai Leol neu dystiolaeth arall yn awgrymu bod angen am y math yma o lety. Efallai y bydd polisi HS/13 y CDLlN, cartrefi gofal, cartrefi nyrsio, gofal ychwanegol, byw â chymorth a thai gwarchod yn berthnasol hefyd. Sylw
5.3.44 Gall rhai cymysgeddau o dai gael effaith negyddol ar hyfywedd ariannol y cynlluniau. Gall hyn yn ei dro effeithio ar y gallu i ddarparu tai fforddiadwy, y mae galw sylweddol amdano. Felly ni fydd cynlluniau lle bo’r cymysgedd o dai yn cael effaith negyddol ar hyfywedd ariannol y cynllun yn cael eu caniatáu oni bai eu bod i ddiwallu angen penodol am dai fforddiadwy (er enghraifft, eiddo wedi’i addasu gyda gofod llawr mwy). Sylw
HS/8 cynlluniau anghenion tai lleol Sylw
Bydd cynlluniau ar gyfer anheddau marchnad leol sengl mewn Prif Bentrefi Haen 2, Pentrefi Bach a Phentrefannau yn y Strategaeth Datblygu Gwledig fel y diffinnir ym mholisi PL/4 dosbarthu twf a hierarchaeth aneddiadau yn cael eu caniatáu pan fo’r meini prawf canlynol wedi’u diwallu:
- Mae’n rhaid lleoli’r safle o fewn cyfyngiadau’r anheddiad a lle bo cynigion yn cynrychioli math o fewnlenwi neu’n ymwneud â’r anheddiad yn ffisegol neu weledol; a
- Mae’n rhaid cadarnhau deiliadaeth yr annedd newydd am byth ar gyfer pobl gyda chysylltiad lleol fel eu prif fan preswylio neu eu hunig fan preswylio.
5.3.45 Ychydig o anheddau newydd sydd wedi’u hadeiladu mewn rhai cymunedau gwledig yn ardal y CDLlN. Mae anheddau eraill yn cael eu defnyddio fel llety gwyliau neu ail gartrefi. Mae marchnad dai gyfyngedig, gyda chyfyngiadau o ran cyflenwad newydd yn golygu bod rhai preswylwyr lleol methu â pharhau i fyw yn eu cymuned leol. Mae’r preswylwyr hyn yn allweddol er mwyn cynnal a gwella cymunedau gwledig lleol ac yn gysylltiedig â nodau’r Gymraeg yn y CDLlN a strategaeth hyrwyddo’r Gymraeg gan y Cyngor a strategaeth genedlaethol Cymraeg 2050 Llywodraeth Cymru. Bydd angen tystiolaeth fel rhan o gais cynllunio i ddangos nad yw’r ymgeisydd neu’r preswylydd yn gallu diwallu eu hanghenion tai o’r stoc o dai yn lleol a chynlluniau sydd wedi derbyn caniatâd cynllunio ond heb eu hadeiladu eto. Sylw
5.3.46 Er mwyn hyrwyddo cymunedau gwledig cynaliadwy, gwneir darpariaeth ar gyfer pobl gyda chysylltiad lleol i ddiwallu eu hanghenion tai’n haws, pan nad ydynt yn gymwys ar gyfer tai fforddiadwy, ac nad ydynt yn gallu diwallu eu hanghenion tai ar y farchnad agored. Bydd angen darparu tystiolaeth o hyn fel rhan o’r broses ymgeisio. Sylw
5.3.47 Mae’n rhaid lleoli safleoedd y cynigion o fewn ffin anheddiad lle bo’n berthnasol, neu o fewn terfynau’r anheddiad lle nad oes ffin benodol. Dylai’r safle gysylltu’n dda â’r anheddiad presennol, gan gynrychioli mewnlenwi neu ddatblygu safle nad yw’n cael ei ystyried fel lleoliad y tu allan i ardal adeiledig, lle bo polisi HS/5 safleoedd eithriedig tai fforddiadwy’n berthnasol. Dylai bod dyluniad y cynnig yn cyd-fynd â chymeriad ac edrychiad lleol. Sylw
5.3.48 At ddibenion y polisi hwn, mae ‘lleol’ yn cael ei ddiffinio fel person sydd â chysylltiad gyda’r Cyngor Cymuned lle y lleolir y safle, neu Gyngor Cymuned cyfagos. Mae cysylltiad yn cael ei ddiffinio fel rhywun sydd: Sylw
- Wedi byw yn yr ardal dan sylw am gyfnod o 5 mlynedd. Gallai hyn fod ar unrhyw adeg yn eu bywydau;
- Â chyflogaeth yn yr ardal berthnasol;
- Â chyfrifoldebau gofalu ar gyfer aelodau o’r teulu sy’n byw yn yr ardal; a / neu
- Angen gofal / cefnogaeth gan aelodau o’r teulu sy’n byw yn yr ardal.
5.3.49 Bydd angen rheoli meddiannaeth unrhyw anheddau sy’n cael eu darparu ar gyfer anghenion y farchnad leol ar gyfer y meddiannydd cychwynnol a’r meddianwyr dilynol. Y dull a ffefrir yw drwy gytundeb cyfreithiol, a fydd yn cynnwys mecanwaith rhaeadru i ehangu cymhwysedd y meddianwyr. Bydd angen tystiolaeth fel rhan o’r cais cynllunio i ddangos fod gan y meddiannydd bwriedig gysylltiad lleol ac nad oedd modd iddynt ddiwallu eu hanghenion lleol drwy’r farchnad agored neu dai fforddiadwy. Sylw
5.3.50 Ni fydd cynigion i dynnu anheddau sydd wedi’u cyfyngu i feddiannaeth anghenion lleol yn unig yn yr ardaloedd hyn yn cael ei ganiatáu. Bydd diweddaru’r cyfyngiad i adlewyrchu’r polisi hwn a’r ymagwedd newydd yn cael ei gefnogi. Sylw
5.3.51 Oherwydd y cynnydd yn nifer yr anheddau sy’n cael eu defnyddio fel ail-gartrefi neu lety gwyliau, bydd cyfyngiad ychwanegol ar yr anheddau hyn i atal meddiannaeth fel ail gartref neu lety gwyliau. Mae’n rhaid iddynt gael eu defnyddio fel defnydd C3 yn unig, yn unol â pholisi HS/10. Sylw
HS/9 anheddau menter wledig Sylw
- Bydd Anheddau Menter Wledig newydd yn cael eu cefnogi’n unol â’r polisi cenedlaethol ac ystyriaethau materol eraill. Dylid ystyried defnyddio adeiladau presennol sy’n addas i’w trawsnewid yn unol â pholisi PL/10 trawsnewid gwledig a thystiolaethu nad ydynt yn ddichonadwy cyn y cynigir unrhyw gynlluniau ar gyfer adeiladau newydd.
- Bydd cynigion i dynnu cyfyngiadau meddiannaeth gweithwyr amaethyddol / coedwigaeth yn cael eu cefnogi; yn amodol ar gymhwyso amod Anheddau Menter Wledig (fel y diffinnir yn y polisi cynllunio cenedlaethol).
- Lle y gellir tystiolaethu nad oes galw presennol am Anheddau Menter Wledig yn yr ardal, bydd cynigion ar gyfer defnydd dros dro o’r Anheddau Menter Wledig fel llety gwyliau byr dymor C6 (am hyd at 5 mlynedd) yn cael eu cefnogi.
- Mae’n rhaid i gynigion i dynnu amod Anheddau Menter Wledig:
- Ddangos yn glir drwy farchnata priodol am bris sy’n adlewyrchu gwerth yr annedd fel Annedd Menter Wledig, nad oes galw am yr eiddo ar gyfer Annedd Menter Wledig neu Dŷ Fforddiadwy (yn unol â Chanllawiau Ymarfer Anheddau Menter Wledig) a,
- Darparu Tai Fforddiadwy ar gyfer Angen Lleol drwy swm gohiriedig yn unol â’r gostyngiadau tai fforddiadwy lleol.
5.3.52 Mae gan ein busnesau gwledig rôl allweddol yn yr economi leol a’r gymuned. Mae’r CDLlN yn ceisio cefnogi’r rhai sydd angen llety i staff ar y safle drwy ddarparu Anheddau Menter Wledig. Rhoddir ffafriaeth i adeiladau presennol dros adeiladau newydd, yn unol â’r canllawiau cynllunio cenedlaethol i wneud defnydd o dir sydd wedi’i ddatblygu eisoes ac i osgoi unrhyw effaith negyddol posibl ar y tirlun lleol. Bydd amod meddiannaeth Anheddau Menter Wledig yn cael ei gymhwyso i’r cynigion hyn, i sicrhau eu meddiannaeth ar gyfer tenantiaid yn y dyfodol. Sylw
5.3.53 Fe fydd amgylchiadau mentrau gwledig yn amrywio dros amser. Gall newidiadau i strwythur teuluol, galw’r farchnad, gofynion llafur ac arian effeithio ar yr angen am anheddau mewn mentrau gwledig. Bydd tynnu hen gyfyngiadau meddiannaeth gweithwyr amaethyddol neu goedwigaeth i’w disodli gydag amod Anheddau Menter Wledig yn ehangu’r ystod o feddianwyr posibl os nad oes angen y tai ar gyfer eu diben gwreiddiol mwyach. Mae amod Anheddau Menter Wledig yn darparu hyblygrwydd o ran defnydd, a dylid gwneud pob ymdrech i ganfod defnydd amgen addas yn hytrach na chaniatáu i Anheddau Menter Wledig ddod yn anheddau marchnad agored. Sylw
5.3.54 Mewn rhai amgylchiadau, bydd newidiadau i strwythur busnes neu deulu yn golygu nad oes angen Annedd Menter Wledig yn fyrdymor yn yr ardal, ond mae’n debyg y bydd ei angen eto yn y dyfodol. Yn yr achos hwn, byddai’n amhriodol ac yn ddi-angen ceisio tynnu’r cyfyngiad meddiannaeth neu hysbysebu’r eiddo i’w werthu. Dylid ceisio meddianwyr cymwys i ddechrau drwy hysbysebu’r eiddo i’w rentu am 6 mis. Oni cheir tenantiaid addas (naill ai i’w ddefnyddio fel Annedd Menter Wledig neu Dŷ Fforddiadwy ar gyfer Angen Lleol), cefnogir y defnydd fel llety gwyliau C6. Mae hyn yn caniatáu hyblygrwydd ar gyfer busnesau gwledig, gan atal annedd rhag aros yn wag ac yn gymorth i osgoi diddymu cyfyngiad meddiannaeth Anheddau Menter Wledig. Mae defnydd byr dymor o 5 mlynedd ar gyfer llety gwyliau yn galluogi ail-asesu anghenion llety ac ariannol y fenter ar ôl y cyfnod hwn. Sylw
5.3.55 Lle bo modd dangos yn glir nad oes angen Anheddau Menter Wledig mwyach naill ai ar gyfer ei ddiben gwreiddiol, neu ar gyfer meddianwyr cymwys yn unol ag amod Anheddau Menter Wledig, gellir tynnu’r cyfyngiad o ran meddiannaeth, yn amodol ar dalu swm gohiriedig ar gyfer Tai Fforddiadwy ar gyfer Angen Lleol. Er mwyn dangos hyn, mae’n rhaid i’r ymgeiswyr hysbysebu bod yr eiddo ar werth a / neu i’w osod yn unol â TAN6 a Chanllawiau Ymarfer Anheddau Menter Wledig am bris (pan fydd ar werth) sy’n unol â’r gostyngiadau a argymhellir oddi ar bris y farchnad agored. Mae’n rhaid i’r marchnata ddangos yn eglur y gellir meddiannu’r tŷ naill ai fel Annedd Menter Wledig neu Dŷ Fforddiadwy ar gyfer Angen Lleol. Os yw tystiolaeth marchnata’n dangos na fu modd canfod meddianwyr addas i brynu neu rentu’r tŷ, gellir tynnu’r amod o ran meddiannaeth yn unol â chanllawiau Anheddau Menter Wledig. Bydd hyn yn destun taliad ar gyfer swm gohiriedig, sy’n gyfwerth â’r gostyngiad a gymhwysir ar gyfer eiddo Adran 106 ar gyfer ardal y farchnad dai. Sylw
5.3.56 Gan y gall Anheddau Menter Wledig ddarparu Tai Fforddiadwy ar gyfer Angen Lleol o fewn yr amodau, mae talu’r swm gohiriedig yn sicrhau bod yr eiddo yn parhau i gefnogi Tai Fforddiadwy ar gyfer Angen Lleol hyd yn oed os yw’r amod o ran meddiannaeth yn cael ei dynnu. Yn ogystal â hyn, mae’r swm gohiriedig yn tynnu’r cymhelliant ariannol ar gyfer y perchennog i dynnu’r amod o ran meddiannaeth, gan gynorthwyo i gadw Anheddau Menter Wledig ar gyfer meddianwyr cymwys yn y dyfodol. Mae Tai CBSC yn cyhoeddi gostyngiadau tai fforddiadwy lleol ar gyfer pob ardal marchnad dai yn flynyddol. Mae’r rhain yn cael eu cyfrifo gan ddefnyddio canolrif prisiau tai a data incwm aelwydydd. Bydd y swm gohiriedig sy’n ofynnol yn unol â’r gostyngiadau hyn. Sylw
HS/9 ail gartrefi a llety gwyliau tymor byr Sylw
- Mewn ardaloedd dynodedig, bydd caniatâd cynllunio ar gyfer ail gartrefi newydd (C5) neu lety gwyliau tymor byr (C6) yn cael eu caniatáu os nad ydynt yn arwain at fwy na 15% o eiddo Dosbarth C mewn defnydd fel defnydd 5, C6 neu C5/C6 cymysg o fewn:
- Ardal y Cyngor Tref a Chymuned;
- Ardal ddynodedig Cyfarwyddyd Erthygl 4, neu
- 50 metr o radiws o’r safle arfaethedig.
- Bydd cynigion ar gyfer trosi adeilad gwledig i ddefnydd C6, a fyddai y tu hwnt i’r trothwyon a nodwyd uchod, yn cael eu caniatáu’n unol â pholisi ED/6, HS/9 a PL/10 os yw hynny’n berthnasol.
- Mae’n rhaid i unrhyw newidiadau i ddefnydd C6, gan gynnwys defnydd rhannol, gydymffurfio â’r meini prawf canlynol:
- Darperir ardaloedd dynodedig ar gyfer storio sbwriel a beiciau;
- Gellir darparu gofodau parcio digonol a, lle bo’n briodol, cyfleusterau gwefru, yn unol â pholisi STA/1;
- Dim effaith andwyol ar amwynderau cyfagos o ganlyniad i sŵn, golau neu edrych drosodd yn unol â pholisïau PL/1, PL/5, EQ/3 ac EQ/4;
- Ni fyddai’r cynnig yn arwain at annedd Dosbarth C3 wedi’i fewnosod rhwng dau lety gwyliau Dosbarth C6.
- Er mwyn egluro dosbarth defnydd cyfreithlon, bydd unrhyw annedd marchnad agored lleol ac anheddau marchnad anghenion lleol a ganiateir pan fydd Cyfarwyddyd Erthygl 4 yn atal meddiannaeth fel ail gartref (C5) neu lety gwyliau (C6) yn berthnasol, yn derbyn amodau i sicrhau meddiannaeth ar gyfer defnydd C3 yn unig.
5.3.57 Mae twristiaeth yn rhan bwysig o’r economi leol. Mae’r ardal yn boblogaidd ar gyfer ail gartrefi a llety gwyliau byr dymor. Er bod buddion i’r defnydd hyn, gall gor-grynodiad, fodd bynnag, arwain at ystod o broblemau, megis cyfyngu’r farchnad dai leol a nifer yr eiddo sydd ar werth neu ar gael i’w rhentu’n hirdymor. Mewn ardaloedd sy’n fwy trefol, gall crynodiad lleol bychan arwain at faterion sy’n effeithio ar amwynder cymdogion sy’n deillio o’r sŵn, diffyg lle parcio a diffyg storfa briodol ar gyfer sbwriel. Gall anheddau sy’n wag am rannau o’r flwyddyn effeithio ar hyfywedd busnesau lleol, pan fydd llai o gwsmeriaid. Gall effeithio ar gyfleusterau cymunedol eraill hefyd. Gall gael effaith negyddol ar gymeriad yr ardal gan fod llai o breswylwyr lleol parhaol ac anheddau gwag ar adegau. Nid yw’r effeithiau hyn yn cydweddu â chreu cymunedau cymysg a chynaliadwy. Sylw
5.3.58 Mae data a gasglwyd ac a ddadansoddwyd ym Mhapur Cefndir 52 yn dangos efallai y bydd yn ofynnol cyflwyno ardaloedd penodol lle byddai angen caniatâd cynllunio i newid o fan preswylio parhaol C3 i ail gartrefi C5 neu lety gwyliau C6. Mae’r polisi hwn yn berthnasol i’r ardaloedd dynodedig hyn yn unig a bydd yn berthnasol i newid defnydd o ddefnydd preswyl a masnachol presennol ac unrhyw ddatblygiadau adeiladau newydd. Mae Papur Cefndir 52 hefyd yn ystyried beth yw’r trothwy priodol lle byddai caniatâd cynllunio’n cael ei wrthod, ac yn hysbysu’r trothwy o 15% a nodwyd yn y polisi. Sylw
5.3.59 Mae’r polisi’n nodi trothwy, lle byddai crynodiad pellach o’r defnyddiau hyn yn cael effaith annerbyniol ar gymeriad ardal ac ar gyflenwad tai parhaol. Yr eithriad i hyn yw ardaloedd gwledig, lle bo caniatáu trawsnewid i ddefnydd C6 fel rhan o fusnes presennol yn unig yn gallu cael effaith cadarnhaol ar yr economi wledig. Bydd polisi PL/10 trawsnewid gwledig hefyd yn berthnasol. Sylw
5.3.60 Er mwyn asesu a yw’r trothwy o 15% wedi’i gyrraedd, bydd yr Awdurdod Cynllunio Lleol yn asesu crynodiad yr ail gartrefi a’r llety gwyliau byr dymor (fel y diffiniwyd yn nhermau cynllunio defnydd tir). I gyfrifo’r canran, byddwn yn cyfrif yr holl ddefnydd C3 (tai annedd), C5 (tai annedd a ddefnyddir at ddefnydd heblaw fel prif fan preswylio neu’r unig fan preswylio) a C6 (llety gwyliau byr dymor) mewn ardal Cyfarwyddyd Erthygl 4, cyngor tref a chymuned neu radiws o 50 metr o’r ardal. Lle bo’n berthnasol, bydd y pwynt radiws yn cael ei fesur o bwynt canolog ar flaen stryd yr eiddo. Mae’r Cyngor yn cofrestru ail gartrefi a llety gwyliau a bydd hanes cynllunio’r ardal yn sylfaen ar gyfer y cyfrifiad. Os yw ar gael yn y dyfodol, bydd cofnodion trwyddedu llety gwyliau hefyd yn cael eu defnyddio. Sylw
5.3.61 Mae meini prawf ychwanegol yn berthnasol i ddefnydd llety gwyliau C6 i reoli’r effaith leol posibl o grynodiad y defnydd hwn. Mae’n rhaid darparu gofodau parcio. Mewn amgylchiadau eithriadol, gellir cymhwyso rhywfaint o hyblygrwydd, pe byddai’r cynnig yn dangos na fyddai unrhyw effaith negyddol ar ddarpariaethau parcio’n lleol. Sylw
HS/11 amod meddiannaeth man preswylio parhaol C3 Sylw
Bydd y datblygiadau preswyl canlynol yn cael eu cyfyngu i ddefnydd man preswylio parhaol C3 yn unig:
- Anheddau marchnad agored sy’n fflatiau neu’n randai ar gynlluniau o 5 ac uwch yn Ardal y Strategaeth Datblygu Arfordirol a’r Ganolfan Wasanaethau Allweddol;
- Pob annedd marchnad agored newydd drwy adeilad newydd neu newid defnydd / trosi yny Prif Bentrefi Haen 2, Pentrefi Bach, Pentrefannau a chefn gwlad agored yn Ardal y Strategaeth Datblygu Gwledig;
- Pob annedd marchnad agored mewn ardaloedd dynodedig yn unol â pholisi HS/10; a,
- Phob annedd marchnad at anghenion lleol yn unol â pholisi HS/8.
5.3.62 Mae meintiau aelwydydd yn llai na’r cyfartaledd ac mae cyfran uwch o aelwydydd person sengl ar draws y Fwrdeistref Sirol o gymharu â Chymru. Mae fflatiau a rhandai fel arfer yn eiddo llai. Mae dadansoddiad o’r cynlluniau lleol ar gyfer fflatiau a rhandai yn dangos bod lefelau uchel iawn o ddefnydd C5 ail gartrefi a C6 llety gwyliau. Felly, credir ei bod yn ofynnol diogelu unrhyw stoc newydd o’r mathau hyn o eiddo i ddiwallu anghenion y gymuned leol. Bydd cynlluniau ar gyfer fflatiau neu randai newydd lle bo cynnydd net o 5 neu fwy o anheddau newydd yn cael eu cyfyngu i ddefnydd C3 yn unig. Sylw
5.3.63 Hefyd, mae Papur Cefndir 69 wedi dangos bod gan aneddiadau llai yn ein cymunedau gwledig bwysau gwahanol o ran tai o gymharu â’n hardaloedd sy’n fwy trefol. Am y rheswm hwn, bydd holl anheddau marchnad agored ac anghenion lleol newydd neu drosi eiddo at y defnyddiau hyn yn y Prif Bentrefi Haen 2, Pentrefi Bach, Pentrefannau a chefn gwlad agored yn Ardal y Strategaeth Datblygu Gwledig yn cael eu cyfyngu i ddefnydd C3 yn unig. Bydd cyfyngu i ddefnydd C3 yn unig hefyd yn cael ei gymhwyso i geisiadau i dynnu cyfyngiadau meddiannaeth, megis Anheddau Menter Wledig, gweithwyr amaethyddol ac ati i anheddau marchnad agored heb gyfyngiad. Fe fydd hyn yn cynyddu argaeledd y stoc o dai lleol, gan arwain at gymunedau cynaliadwy a diogelu ein cefnwlad Gymreig. Sylw
5.3.64 Er mwyn cefnogi polisi HS/10 y CDLlN, bydd unrhyw gartref newydd mewn ardal lle bo Cyfarwyddyd Erthygl 4 yn atal newid defnydd o C3 i C5 neu C6 hefyd yn cael ei gyfyngu i ddefnydd C3 yn unig. Ni ystyrir ei bod yn ofynnol cyfyngu anheddau eraill i feddiannaeth C3 yn unig, fel y nodir yn y dystiolaeth ym Mhapur Cefndir 52. Sylw
5.3.65 Bydd meddiannaeth C3 yn cael ei sicrhau drwy amod cynllunio neu gytundeb cyfreithiol. Sylw
HS/12 llety a rennir Sylw
Bydd cynigion i newid defnydd / trawsnewid annedd neu eiddo nad yw’n eiddo preswyl i Dŷ Amlfeddiannaeth yn cael ei ganiatáu os bodlonir yr holl amodau canlynol yn unig:
- Nad yw’n golygu y bydd mwy na 10% o’r holl eiddo preswyl ac eiddo masnachol llawr gwaelod o fewn 50 metr o radiws i’r cynnig yn dai amlfeddiannaeth (wedi’i dalgrynnu i’r rhif cyfan agosaf).
- Na fyddai’r datblygiad yn arwain at ‘ryngosod’ annedd Dosbarth C3 rhwng dau Dŷ Amlfeddiannaeth oni bai y darperir tystiolaeth benodol i ddangos bod yr eiddo C3 yn y canol:
- Wedi’i farchnata’n aflwyddiannus am bris rhesymol am gyfnod o chwe mis o leiaf ar gyfer ei ddefnydd presennol; neu,
- Nad yw’n hyfyw ei ddychwelyd i ddefnydd C3; neu,
- Nad yw’n addas i barhau fel dosbarth eiddo C3: neu,
- Ei fod eisoes yn destun aflonyddwch sŵn oherwydd defnydd eiddo cyfagos o safbwynt cynllunio a fyddai’n tanseilio ei amwynder.
- Bod yr eiddo’n addas ar gyfer ei ddefnyddio fel Tŷ Amlfeddiannaeth, drwy ddarparu gofod amwynder preifat digonol, ardaloedd dynodedig ar gyfer storio sbwriel ac ystafelloedd o feintiau priodol.
- Ni fyddai unrhyw effaith andwyol annerbyniol o ganlyniad i niwsans sŵn, preifatrwydd nac aflonyddwch cyffredinol.
- Gellir cael mynediad a gwasanaethu’r safle’n briodol a gellir darparu mannau parcio ceir a storio beiciau digonol neu gellir dangos na fyddai’r Tŷ Amlfeddiannaeth arfaethedig yn cael effaith andwyol ar ddarpariaethau parcio lleol.
5.3.66 Mae’r polisi hwn yn nodi’r amgylchiadau lle byddai’r Cyngor yn caniatáu trawsnewid adeiladau presennol i Dai Amlfeddiannaeth o ansawdd uchel, fel y diffinnir yn nhermau cynllunio. Mae’r polisi’n gymwys i newid defnydd o ddefnyddiau preswyl a masnachol presennol ledled ardal y cynllun a hefyd yn gymwys ar gyfer unrhyw gynigion datblygu adeiladau newydd ar gyfer Tai Amlfeddiannaeth. Sylw
5.3.67 Mae trawsnewid adeiladau i Dai Amlfeddiannaeth a rennir yn cyfrannu tuag at ddarparu dewisiadau tai cynaliadwy ar gyfer yr ardal ac yn gymorth i ddiwallu’r angen a nodwyd yn yr Asesiad o’r Farchnad Dai Leol yng Nghonwy ar gyfer unedau llety preswyl llai / a rennir. Gall llety a rennir ddarparu datrysiad buddiol i rai nad ydynt yn gymwys ar gyfer tai fforddiadwy ond nad ydynt yn gallu defnyddio’r farchnad breifat ac sydd efallai yn anfodlon cytuno ar denantiaeth breifat am gyfnod hir gyda phobl nad ydynt yn eu hadnabod. Mae tystiolaeth yn awgrymu bod yr angen yn debygol o barhau drwy gydol cyfnod y CDLlN. Sylw
5.3.68 Mae Tai Amlfeddiannaeth a rennir hefyd yn ffordd bwerus o fynd i’r afael â’r unigedd cronig y mae rhai yn ei wynebu, yn enwedig os ydynt yn symud i ardal newydd ac yn byw ar eu pennau eu hunain. Mae Tai Amlfeddiannaeth yn aml yn cael eu hail-enwi’n gynlluniau cyd-fyw ac er bod rhai yn targedu pobl iau, gellir eu targedu at bobl yn hwyrach yn eu bywydau sy’n dymuno byw mewn eiddo llai ac a fyddai’n croesawu’r cyfuniad o lety preifat a bod yn rhan o gymuned. Sylw
5.3.69 Yn eu hanfod, mae adeiladau sy’n cael eu defnyddio ar gyfer llety a rennir yn cael eu defnyddio’n fwy dwys. O ystyried hyn, mae’n well eu lleoli mewn ardaloedd gyda hygyrchedd cludiant cyhoeddus da sy’n agos at siopau a gwasanaethau lleol. Yn ogystal â hynny, mae’r ddarpariaeth addas o lety preswyl uwchben eiddo masnachol o fewn canolfannau manwerthu dynodedig hefyd yn gallu gwneud defnydd mwy effeithlon o adeilad(au) a gwella prysurdeb a hyfywedd y canolfannau hynny, yn enwedig yng nghanol trefi Llandudno a Bae Colwyn. Sylw
5.3.70 Er bod y Cyngor yn cydnabod rôl bwysig tai o’r fath er mwyn diwallu anghenion tai, mae hefyd yn cydnabod pryderon gan nifer o breswylwyr presennol bod crynodiad o’r math hwn o dai yn gallu cael effaith andwyol ar gymeriad ac amwynder ardal. Er enghraifft, gall nifer uchel o fflatiau arwain at broblemau megis diffyg gofodau parcio ar y stryd a phroblemau storio biniau. Hefyd, mae ardaloedd gyda llawer o fflatiau yn aml yn gysylltiedig â lefelau isel o berchen-feddianwyr sydd mewn rhai amgylchiadau yn gallu arwain at lefelau is o ran cynnal a chadw a materion diraddio amgylcheddol cysylltiol (gan amharu ar welliant amgylcheddol ac amcanion adfywio). At hynny, gall effaith gronnus trawsnewid anheddau mwy yn llety a rennir gael effaith andwyol ar greu cymunedau cymysg a chytbwys drwy leihau nifer y cartrefi teuluol sydd ar gael o fewn ardal. Credir bod y polisi hwn yn ofynnol i atal gor-grynodiad o ddefnydd o’r fath a sicrhau bod datblygu yn diwallu anghenion a nodwyd. Sylw
5.3.71 Am y rheswm hwn, mae’r polisi’n nodi trothwy, lle yr ystyrir bod unrhyw Dai Amlfeddiannaeth a rennir sy’n rhagori ar y trothwy’n grynodiad niweidiol. Mae’r trothwy’n seiliedig ar dystiolaeth, yn sgil ystyriaeth materion gan gynnwys darpariaeth Tai Amlfeddiannaeth ar hyn o bryd, y galw tebygol yn y dyfodol a thystiolaeth arall. Bydd yr ymagwedd hon yn caniatáu lefel briodol o Dai Amlfeddiannaeth a rennir ar draws ardal y cynllun. Sylw
5.3.72 Er mwyn asesu a chyrhaeddwyd y trothwy o 10%, bydd yr Awdurdod Cynllunio Lleol yn asesu’r crynodiad o Dai Amlfeddiannaeth a rennir (fel y diffinnir yn nhermau cynllunio defnydd tir), o fewn radiws o 50m o eiddo’r cais. Bydd y pwynt radiws yn cael ei fesur o bwynt canolog ar flaen stryd yr eiddo. Er mwyn cyfrifo’r canran, bydd yr holl ddefnydd C3 (anheddau), C4 (Tai Amlfeddiannaeth Bychain) a Thai Amlfeddiannaeth mawr yn ardal y radiws yn cael eu cyfrif. Pe bai nifer yr eiddo gyda’r defnydd hwn yn is na 10, bydd yr holl eiddo llawr gwaelod ar wahân o unrhyw ddosbarth defnydd yn cael eu cynnwys yn y cyfrifiad. Bydd cofrestr Tai Amlfeddiannaeth cofrestredig y Cyngor a hanes cynllunio’r ardal yn sylfaen ar gyfer y cyfrifiad. Sylw
5.3.73 Os cyflwynir cais i newid defnydd eiddo o Dŷ Amlfeddiannaeth bach, i un mawr, neu i gynyddu maint Tŷ Amlfeddiannaeth mawr, bydd angen caniatâd, ond ni fydd y polisi hwn yn berthnasol gan na fyddai unrhyw newid i’r cyfanswm yn ardal y radiws. Bydd polisïau eraill yn y cynllun yn berthnasol a bydd y cais yn cael ei asesu ar ei rinweddau. Sylw
5.3.74 Efallai y bydd amgylchiadau penodol lle y bydd buddion o ragori ar y trothwy o 10%. Er enghraifft, os yw’r Tŷ Amlfeddiannaeth yn darparu llety i staff gofal iechyd, twristiaeth neu sectorau cyflogaeth sy’n ei chael yn anodd recriwtio oherwydd bod diffyg dewis o ran tai. Yn yr achosion hyn, efallai y gellir rhoi caniatâd, pe byddai’r ymgeisydd yn gallu dangos tystiolaeth gadarn i gyfiawnhau gwyro o’r trothwy. Sylw
5.3.75 Efallai y bydd yn ofynnol atodi amodau cynllunio ar gyfer mesurau insiwleiddio rhag sŵn. Bydd hyn yn cael ei ystyried fesul cais. Sylw
5.3.76 Dylai’r cynigion gydymffurfio â holl feini prawf polisi’r CDLlN, ac nid yr elfen radiws o 50 metr yn unig. Sylw
5.3.77 Ni fydd cynigion sy’n arwain at amodau byw cyfyng, neu ddiffyg gofod amwynder preifat yn cael eu cymeradwyo. Bydd rhagor o ganllawiau ar y materion hyn yn y CCA os oes angen. Sylw
5.3.78 Dylai cynigion ar gyfer Tai Amlfeddiannaeth gynnwys cynllun rheoli. Gall rheolaeth effeithiol ar gyfer Tai Amlfeddiannaeth leihau’r effaith ar amwynder yr eiddo cyfagos yn sylweddol a gwella ansawdd byw ar gyfer y preswylwyr. Gallai cynllun rheoli fynd i’r afael â materion sy’n ymwneud â chasgliadau gwastraff ac ailgylchu, rheoli ardaloedd cymunedol (mewnol ac allanol), gwiriadau iechyd a diogelwch priodol a rheoli sŵn eithafol. Sylw
5.3.79 Mae twristiaeth, a darparu llety â gwasanaeth, yn sector cyflogaeth pwysig yn ardal y cynllun, yn enwedig yn Llandudno. Mae’r Cyngor o’r farn ei fod yn allweddol cadw lefelau priodol o lety â gwasanaeth o fewn Llandudno i gadw ei gymeriad unigryw, hyfywedd a thwf parhaus tuag at dwristiaeth drwy gydol y flwyddyn. Felly, o fewn y Parth Llety Gwyliau dynodedig, fel y diffinnir yn y map cynigion, ni chaniateir colli llety gwyliau â gwasanaeth yn unol â pholisi TO/3 a’r map cynigion ac ni chaniateir Tai Amlfeddiannaeth o fewn y Parth Llety Gwyliau, Sylw
5.3.80 Bydd angen i gynigion ar gyfer Tai Amlfeddiannaeth mawr gyflwyno asesiad o’r effaith ar y Gymraeg os yw safle’r cynnig o fewn ardal sy’n sensitif o ran y Gymraeg, fel y diffinnir yn y map cynigion a pholisi PL/7. Sylw
Chartrefi gofal, cartrefi nyrsio, gofal ychwanegol, byw â chymorth a thai gwarchod Sylw
HS/13 cartrefi gofal, cartrefi nyrsio, gofal ychwanegol, byw â chymorth a thai gwarchod Sylw
- O fewn Ardal y Cynllun, cefnogir cynigion ar gyfer cartrefi gofal preswyl, cartrefi nyrsio, gofal ychwanegol, byw â chymorth a chynlluniau tai gwarchod newydd, neu ddisodli hen rai neu estyniadau i’r rhain, ar yr amod bod y meini prawf canlynol yn cael eu diwallu:
- Bydd y cynnig yn diwallu’r math o ofal sydd ei angen yn is-ardal y CDLlN ac ni fydd yn arwain ar or-ddarpariaeth;
- Rhoddir blaenoriaeth i breswylwyr sy’n byw ym Mwrdeistref Sirol Conwy ar gyfer meddiannaeth yn y lle cyntaf, ac yna rhai â chysylltiad lleol gyda’r ardal wedi hynny, cyn yr ystyrir preswylwyr heb gysylltiad lleol.
- Bydd angen i gynigion ar gyfer cartrefi gofal a chartrefi nyrsio newydd ddiwallu’r gofynion canlynol hefyd:
- Mae’r cartref gofal neu gartref nyrsio newydd wedi’i leoli un ai o fewn ffiniau aneddiadau sydd wedi’u dynodi yn Ardal y Strategaeth Datblygu Arfordirol, Prif Ganolfan Wasanaeth, Prif Bentref Haen 1 neu Haen 2;
- Mae’n rhaid i gynigion ar gyfer safleoedd newydd y tu allan i ffin anheddiad ddangos nad oedd modd ei ddarparu o fewn ffin yr anheddiad;
- Mae’r safle arfaethedig yn gynaliadwy hygyrch i’r gymuned leol y bydd yn ei wasanaethu, ar gludiant cyhoeddus, drwy gerdded a beicio; a,
- Mae’r defnydd newydd yn gyd-naws â defnydd yr adeiladau cyfagos.
- Bydd cynigion sy’n arwain at golli cartref gofal, cartref nyrsio, gofal ychwanegol, byw â chymorth neu gynlluniau tai gwarchod yn cael eu gwrthod, oni bai y gellir dangos:
- Nad oes galw parhaus sylweddol am y math o ofal a gynigir. Bydd angen tystiolaeth;
- Nid yw’r adeilad yn addas i’r defnydd hwn mwyach ac nid oes modd ei drawsnewid i fod yn addas.
5.3.81 Mae gan Fwrdeistref Sirol Conwy boblogaeth sy’n heneiddio a chyfran uwch na’r cyfartaledd o bobl hŷn. Gyda hyn, daw mwy o alw am ofal cymdeithasol a chartrefi gofal. Mae anghenion gofal cymdeithasol y Fwrdeistref Sirol yn cael eu hystyried ym Mhapur Cefndir 66 y CDLlN ac Adroddiad Sefydlogrwydd Marchnad Gogledd Cymru a Gofal Cymdeithasol (2022) a diweddariad 2023. Mae’r math o ofal a ddarperir gan gartrefi gofal yn amrywio ac mae diffyg rhai mathau o anghenion gofal yn y Fwrdeistref Sirol. Mae diffyg hefyd yn ardaloedd gwledig y Fwrdeistref Sirol a phryderon o ran y ddarpariaeth sydd ar gael yn y Gymraeg, ac mae hawliau ym Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 ynghyd â dyletswydd ar yr awdurdod i hwyluso’r defnydd o’r Gymraeg mewn bywyd bob dydd. Mae rhesymau iechyd a lles penodol sydd hefyd yn gysylltiedig â’r defnydd o’r Gymraeg. Mae hyn yn hynod bwysig ar gyfer pobl sy’n byw gyda chyflyrau megis Dementia, er enghraifft, gan y gallant golli unrhyw ieithoedd y maent wedi’u dysgu fel rhan o’r cyflwr. Mae mynediad at ofal drwy gyfrwng y Gymraeg felly’n allweddol ar gyfer eu lles. Mae’r ymagwedd polisi newydd yma’n cefnogi darpariaeth cartrefi gofal newydd mewn modd a reolir yn ein hardaloedd gwledig, gan arwain at fuddion ar gyfer y Gymraeg a’r gymuned leol i ddiwallu eu hanghenion gofal. Sylw
5.2.82 Mae diffyg eiddo byw â chymorth ac mae anawsterau o ran canfod darpariaeth ar gyfer preswylwyr lleol sydd eu hangen. Ychydig o leoliadau sydd mewn ardaloedd gwledig. Byddai darpariaeth newydd yma’n cyfrannu tuag at gymunedau cynaliadwy ac yn cefnogi’r Gymraeg drwy ddarparu swyddi a lleoliadau ar gyfer siaradwyr Cymraeg lleol. Mae galw hefyd am leoliadau cartrefi gofal plant, ac ar adeg ysgrifennu, mae preswylwyr lleol yn cael eu lleoli y tu allan i’r Sir, oherwydd diffyg darpariaeth yn agosach at y cartref. Mae hyn yn gallu arwain at ganlyniadau negyddol ar gyfer lles y plentyn dan sylw, gan eu bod yn cael eu tynnu o’u rhwydweithiau cymdeithasol cadarnhaol gyda’r teulu a’r ysgol. Gall diffyg sefydlogrwydd lleoliad (lle bo plant a phobl ifanc yn cael eu symud ymlaen ar ôl cyfnodau byr) gael effaith andwyol ar gyfer plant a phobl ifanc hefyd. Sylw
5.3.83 Mae mwyafrif y cartrefi gofal ym Mwrdeistref Sirol Conwy’n eiddo preifat ac nid ydynt wedi’u cyfyngu mewn unrhyw ffordd i flaenoriaethu preswylwyr lleol. Am y rhesymau hyn, mae’n bwysig bod cynigion ar gyfer cartrefi gofal newydd (ar gyfer yr henoed a phlant) yn diwallu angen a nodwyd yn is-ardal y CDLlN ac yn cynnig lleoliadau ar gyfer preswylwyr lleol fel blaenoriaeth. Sylw
5.3.84 At ddibenion y polisi hwn, diffinnir ‘lleol’ fel rhywun sydd â chysylltiad â’r Fwrdeistref Sirol. Mae cysylltiad yn cael ei ddiffinio fel rhywun sydd: Sylw
- Wedi byw yma am y 12 mis blaenorol;
- Wedi byw yn y Fwrdeistref Sirol am gyfnod o 2 flynedd. Gallai hyn fod ar unrhyw adeg yn eu bywydau; neu
- Bod aelodau’r teulu’n byw yn y Fwrdeistref Sirol.
5.3.85 Er mwyn hwyluso diwallu’r gofynion hyn, bydd angen i ddarparwyr gysylltu a gweithio’n rhagweithiol gyda Gofal Cymdeithasol a Gwasanaethau Tai CBSC i nodi preswylwyr cymwys. Oni chanfyddir person sy’n diwallu’r meini prawf hyn, yna gellir ehangu’r feddiannaeth i awdurdodau lleol cyfagos. Oni chanfyddir preswylydd sy’n diwallu’r meini prawf hyn, ar ôl 28 diwrnod, gall y darparwr ganfod meddiannydd heb gysylltiad lleol. Bydd y meini prawf cymhwyso yn berthnasol i feddianwyr cyntaf a phob meddiannydd dilynol. Sylw
5.3.86 Mae rhai cartrefi gofal mewn adeiladau, sydd heb eu gosod mewn ffordd y gellir ei addasu’n hawdd i ddarparu gofod priodol a hygyrchedd i ddiwallu anghenion gofal y preswylwyr, Bydd cynigion i ddarparu estyniad, ailffurfweddu neu ddisodli cartrefi gofal presennol yn cael eu cefnogi yn amodol ar ofynion polisi eraill y CDLlN, lle nad oes modd iddynt ddiwallu anghenion gofal eu preswylwyr. Lle nad yw hyn yn bosibl, neu fod angen darpariaeth newydd, bydd cartrefi gofal newydd o fewn neu’n gysylltiedig â ffiniau aneddiadau’n cael eu cefnogi yn amodol ar ddiwallu gofynion polisi eraill. Bydd angen i gynigion ddangos eu bod wedi ystyried y dull dilyniannol, ac wedi diystyru safleoedd eraill sydd ar gael o fewn yr ardal ganolog, yn agos at yr ardal ganolog, safleoedd sydd y tu allan i’r ardal ganolog ond o fewn y ffin anheddiad, ac yna safleoedd sy’n agos at y ffin anheddiad. Sylw
5.3.87 Fel rhan o’r broses o wneud penderfyniadau, bydd safbwyntiau Gofal Cymdeithasol a Gwasanaethau Tai CBSC a / neu’r bwrdd iechyd lleol yn cael eu hystyried o ran yr angen am y datblygiad. Mewn ardaloedd lle y credir bod lefel ddigonol o gyfleusterau gofal, bydd cynigion yn cael eu gwrthod. Mae hyn er mwyn atal rhoi pwysau gormodol ar Ofal Cymdeithasol CBSC a sicrhau y defnydd gorau o dir yn ein haneddiadau. Sylw
5.3.88 Dylai bod datblygiadau o faint priodol, gan adlewyrchu’r ardal gyfagos. Dylai cartrefi gofal mawr, sy’n debygol o arwain at niferoedd sylweddol o weithwyr ac ymwelwyr gael eu lleoli yn yr aneddiadau trefol mwy er mwyn iddynt gefnogi dewisiadau cludiant cynaliadwy hefyd. Bydd cynigion ar gyfer cartrefi gofal mewn aneddiadau llai, yn cael eu caniatáu os ydynt yn adlewyrchu maint ac anghenion yr ardal honno ac yn cael eu gwasanaethu gan ystod o ddewisiadau cludiant. Sylw
5.3.89 Mae cartrefi gofal sy’n cau ym Mwrdeistref Sirol Conwy’n bryder a nodwyd yn Adroddiad Sefydlogrwydd y Farchnad. Pan fyddai cynnig yn arwain at golli cartref gofal, dylai ymgeiswyr ddangos nad oes galw am y cartref gofal mwyach drwy farchnata am chwe mis ar gyfradd rhesymol y farchnad. Bydd angen i ymgeiswyr ddangos nad yw’n ymarferol nac yn ariannol hyfyw gwneud y newidiadau gofynnol er mwyn i’r cartref gofal fod yn addas. Mae hyn er mwyn diogelu stoc y cartrefi gofal presennol sydd gennym yn yr ardal, ac atal eu colli i ddefnydd tir arall. Sylw
Sipsiwn, Teithwyr a Siewmyn Teithiol Sylw
5.3.90 Mae’r Cyngor wedi ymrwymo i sicrhau cyfle cyfartal i bawb yn y gymuned. Mae llety yn fater allweddol sy’n adlewyrchu bywyd pawb ar draws y Fwrdeistref Sirol, gan gynnwys cymunedau Sipsiwn, Teithwyr a Siewmyn Teithiol. Felly, yn ogystal â darparu tai ‘brics a morter’, mae’r CDLlN yn cydnabod anghenion llety penodol Sipsiwn, Teithwyr a Siewmyn Teithiol fel rhan o ymagwedd gyfannol i ddarparu cymunedau cynaliadwy, cydlynol ac sydd wedi’u cysylltu’n dda. Mae’r CDLlN yn ceisio sicrhau y bydd gan Sipsiwn, Teithwyr a Siewmyn Teithiol fynediad cyfartal at lety sy’n briodol i ddiwylliant. Sylw
HS/14 Llety i Sipsiwn, Teithwyr a Siewmyn Teithiol Sylw
- Bydd cynigion ar gyfer safleoedd newydd ar gyfer Sipsiwn, Teithwyr a Siewmyn Teithiol, ac estyniadau i safleoedd awdurdodedig presennol, yn cael eu caniatáu o fewn ffiniau anheddiad neu yn cysylltu â ffiniau anheddiad os:
- Yw’r isadeiledd ffisegol, cludiant a chymdeithasol gofynnol yn hygyrch neu’n hawdd ei ddarparu;
- Mae’r safle wedi’i ddylunio yn unol â chanllawiau cenedlaethol priodol a Chylchlythyrau os yw’n cael ei gyflwyno gan gorff cyhoeddus;
- Mae maint y cynnig yn briodol gan roi ystyriaeth i’r ardal o amgylch y safle a’i leoliad, gan sicrhau ei fod yn gymesur â’r cymunedau lleol;
- Ni fydd y datblygiad yn cael unrhyw effaith andwyol sylweddol ar amwynder pobl; ac
- Yn achos safle tramwy neu deithiol, mae mynediad da i’r A55 o’r safle.
- Bydd cynigion ar gyfer safleoedd Sipsiwn, Teithwyr a Siewmyn Teithiol yng nghefn gwlad, oddi wrth yr aneddiadau presennol, yn cael eu caniatáu lle:
- Bo diffyg lleoliadau cynaliadwy addas ar gyfer safleoedd o fewn ffiniau anheddiad presennol neu’n agos atynt;
- Yw’r isadeiledd ffisegol, cludiant a chymdeithasol gofynnol yn hygyrch neu’n hawdd ei ddarparu;
- Bod maint y cynnig yn briodol gan roi ystyriaeth i’r ardal o amgylch y safle a’i leoliad, gan sicrhau ei fod yn gymesur â’r cymunedau lleol;
- Ni fyddai unrhyw werth hamdden, amwynder neu dreftadaeth naturiol bwysig yn cael ei golli.
5.3.91 Bydd polisi HS/14 yn berthnasol i gynigion sy’n cael eu cyflwyno i ddiwallu’r angen a nodwyd yn Asesiad Llety Sipsiwn a Theithwyr ac unrhyw angen ychwanegol sy’n codi yn ystod cyfnod y cynllun. Mae LlC yn ei gwneud yn ofynnol bod y CDLlN yn cynnwys polisi manwl sy’n seiliedig ar feini prawf er mwyn diwallu unrhyw anghenion o ran safleoedd ar gyfer Sipsiwn, Teithwyr neu Siewmyn Teithiol yn y dyfodol neu unrhyw anghenion annisgwyl dros gyfnod y cynllun. Mae Polisi HS/14 yn darparu dull teg, rhesymol, realistig ac effeithiol o benderfynu ar geisiadau cynllunio er mwyn galluogi darparu safleoedd priodol mewn lleoliadau cynaliadwy. Sylw
5.3.92 Mae’n rhaid i gynigion safle fod yn unol â’r cyngor yng Nghylchlythyr 005/2018 Llywodraeth Cymru: Cynllunio ar gyfer Safleoedd Sipsiwn, Teithwyr a Siewmyn Teithiol a fydd yn ystyriaethau materol fel bo'n briodol i benderfynu ar unrhyw geisiadau cynllunio. Hefyd, dylai bod safleoedd sy’n cael eu datblygu gan gorff cyhoeddus, megis awdurdod lleol, yn cael eu dylunio’n unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru: Dylunio Safleoedd Sipsiwn a Theithwyr. Sylw
5.3.93 Mae’n rhaid i gynigion ddangos eu bod o safon a dyluniad priodol i ganiatáu i breswylwyr y safle gael mynediad at gyfleusterau priodol a byw mewn cymunedau diogel, cydlynol a chynaliadwy. Ni chaniateir i’r datblygiad gael unrhyw effaith andwyol sylweddol ar amwynder pobl. Lle y cynigir defnydd busnes, bydd gofyn i’r safle allu darparu defnydd busnes sy’n seiliedig yn y cartref heb amharu ar amwynder, edrychiad, cymeriad ac amgylchedd yr ardal neu ar gyfer y meddianwyr cyfagos. Gall hyn gynnwys darparu cyfleusterau a gofod digonol ar gyfer gweithgareddau o’r fath. Sylw
5.3.94 Bydd gofyn i gynigion ddangos drwy leoliad, cynllun a mynediad y safle, na fyddai unrhyw amhariaeth o safbwynt diogelwch cerddwyr a’r briffordd. At hynny, mae’n rhaid i gynigion ddangos bod y safle’n gallu darparu cyfleusterau isadeiledd ffisegol o safon ddigonol a mynediad at wasanaethau, gan gynnwys cyflenwad dŵr digonol, pŵer, draeniau, gwaredu gwastraff a gwaredu carthion i sicrhau na fydd datblygiad y safle yn peri risg i iechyd dynol a lles y preswylwyr. Dylai’r safle sicrhau hygyrchedd digonol, gan gynnwys drwy gerdded a beicio, i isadeiledd cymdeithasol gofynnol gan gynnwys addysg ac iechyd. Dylid lleoli safleoedd ar gyfer cynlluniau tramwy newydd mewn lleoliad cynaliadwy, lle bo cysylltiadau da gyda’r A55 oherwydd natur y defnydd dros dro. Rhoddir ystyriaeth i ffactorau amgylcheddol gan gynnwys perygl llifogydd, sefydlogrwydd y tir, halogi tir ac agosrwydd gosodiadau peryglus er mwyn sicrhau bod y safle’n addas i’w ddatblygu. Sylw
5.3.95 Bydd cynigion y tu allan neu yn agos at ffin yr anheddiad, neu derfynau’r anheddiad lle nad oes ffin, yn cael eu caniatáu pan fydd yr holl feini prawf yn y polisi wedi’u diwallu’n ddigonol. Sylw
5.3.96 Bydd unrhyw ofynion llety ar gyfer Sipsiwn, Teithwyr a Siewmyn Teithiol yn y dyfodol, a’r defnydd o leiniau’n cael ei fonitro’n agos, gan ddefnyddio Fframwaith Monitro’r CDLlN a’r Adroddiad Monitro Blynyddol. Yn unol â Deddf Tai (Cymru) 2014, bydd y Cyngor hefyd yn cynnal Asesiad Llety Sipsiwn a Theithwyr bob pum mlynedd. Bydd cynlluniau i ddiwallu unrhyw angen newydd sy’n codi a nodwyd o fewn Asesiad Llety Sipsiwn a Theithwyr wedi’i ddiweddaru yn cael eu hasesu yn erbyn polisi HS/14. Sylw
HS/15 darpariaeth llety ar gyfer Sipsiwn, Teithwyr a Siewmyn Teithiol Sylw
- Mae’r safle awdurdod lleol canlynol wedi’i ddyrannu, fel y nodir ar y map cynigion, i ddiwallu’r angen a nodwyd ar gyfer llety i Sipsiwn, Teithwyr a Siewmyn Teithiol:
- Lôn Gefn Bangor, Conwy (estyniad preswyl parhaol o 2 lain).
5.3.97 Mae Polisi Cynllunio Cymru’n ei gwneud yn ofynnol i’r Cyngor asesu anghenion llety teuluoedd Sipsiwn, Teithwyr a Siewmyn Teithiol a sicrhau bod polisïau ar gyfer darparu safleoedd priodol yn y CDLlN. Mae’r sefyllfa’n cael ei chadarnhau drwy Gylchlythyr 005/2018, sy’n arwain agweddau cynllunio ar gyfer nodi safleoedd cynaliadwy ar gyfer y teuluoedd hyn. Mae Deddf Tai (Cymru) 2014 hefyd yn cyflwyno dyletswydd gyfreithiol ar y Cyngor i sicrhau bod anghenion llety Sipsiwn, Teithwyr a Siewmyn Teithiol yn cael eu hasesu’n gywir a bod yr angen a nodwyd ar gyfer lleiniau ychwanegol yn cael ei ddiwallu. Sylw
5.3.98 I ddiwallu’r ddyletswydd hon, cynhyrchodd y Cyngor Asesiad Llety Sipsiwn a Theithwyr yn 2021, a gwblhawyd yn 2022. Mae’r Asesiad yn ymdrin â chyfnod y CDLlN 2018-2033 ac yn nodi’r lleiniau ychwanegol sydd eu hangen ar gyfer Sipsiwn, Teithwyr a Siewmyn Teithiol yn y Fwrdeistref Sirol ar gyfer 5 mlynedd gyntaf y CDLlN hyd at 2026 a thu hwnt i 2033. Sylw
Darpariaeth ar gyfer Sipsiwn a Theithwyr Sylw
5.3.99 Am y pum mlynedd gyntaf yng nghyfnod yr Asesiad Llety, nodwyd angen am 1 llain barhaol ychwanegol yn safle Lôn Gefn Bangor ar gyfer Sipsiwn a Theithwyr. Yn dilyn ymgynghori pellach gyda theuluoedd Sipsiwn a Theithwyr presennol yn y safle parhaol presennol, nodwyd llain sengl arall ar ôl mabwysiadu’r Asesiad Llety, gan gynyddu’r angen i 2 lain parhaol ychwanegol hyd at 2026. Mae’r asesiad yn nodi nad oes unrhyw anghenion pellach y tu hwnt i’r cyfnod hyd at 2033. Sylw
Darpariaeth ar gyfer Siewmyn Teithiol Sylw
5.3.100 Yn seiliedig ar y dystiolaeth a gyflwynwyd yn yr Asesiad Llety Sipsiwn a Theithwyr, y ddarpariaeth lleiniau ychwanegol a amcangyfrifwyd ar gyfer Siewmyn Teithiol ym Mwrdeistref Sirol Conwy hyd at 2026 yw 7 llain. Yr angen ar gyfer gweddill cyfnod y CDLlN hyd at 2033 yw 1 llain arall, gan gynyddu’r cyfanswm i 8 llain. Cymeradwywyd a datblygwyd cynllun ar gyfer 8 o leiniau ar gyfer siewmyn teithiol yn 2022. Felly, nid oes unrhyw anghenion pellach dros gyfnod oes y CDLlN hyd at 2033. Sylw
Darpariaeth safleoedd tramwy Sylw
5.3.101 Mae’r Asesiad Llety Sipsiwn a Theithwyr yn argymell nad oes angen i’r ACLl ddarparu safle tramwy ym Mwrdeistref Sirol Conwy ar hyn o bryd, oherwydd nifer isel y gwersylloedd anawdurdodedig a natur tymor byr y gwersylloedd hyn. Sylw
5.3.102 Mae’r tabl isod yn nodi’n glir y gwahanol gategorïau o angen dros gyfnod y CDLlN. Sylw
Ffigur 16: tabl yn dangos anghenion llety Sipsiwn, Teithwyr a Siewmyn Teithiol ym Mwrdeistref Sirol Conwy (2018-33) Sylw
|
Math a lleoliad yr angen |
Hyd at 2026 |
2026 - 2033 |
Cyfanswm yr anghenion |
Dyraniadsy’n ofynnol yn y CDLlN |
|
Preswyl parhaol ar gyfer Sipsiwn a Theithwyr (Lôn Gefn Bangor, Conwy) |
2 lain |
0 llain |
2 lain |
Oes - estyniad i Lôn Gefn Bangor, Conwy |
|
Preswyl Parhaol ar gyfer Siewmyn Teithiol (Fferm Gors, Gors Road, Bae Cinmel) |
7 llain |
1 llain |
8 llain |
Na - rhoddwyd caniatâd cynllunio (0/49403) a datblygwyd y safle yn 2022. |
|
Safle tramwy |
0 llain |
0 llain |
0 llain |
Dim angen gweithredu. |
|
Cyfanswmyr anghenion |
9 llain |
1 llain |
10 llain |
2lain (preswyl parhaol ar gyfer Sipsiwn a Theithwyr) |
Ffynhonnell: Asesiad Llety Sipsiwn a Theithwyr Conwy 2022 Sylw
5.3.103 Yn seiliedig ar y dystiolaeth o’r anghenion, mae’r Cyngor wedi gwneud darpariaeth benodol ar y safle i gyflwyno 2 lain ychwanegol yn y safle preswyl parhaol ar Lôn Gefn Bangor fel y nodwyd ym mholisi HS/15 ac y dyrannwyd ar fap cynigion y CDLlN. Mae proses ddethol y safle i ddarparu’r lleiniau a nodwyd yn seiliedig ar y canllawiau a nodwyd yng Nghylchlythyr 005/2018 ac fel y nodwyd ym Mhapur Cefndir 14: Astudiaeth ddichonoldeb opsiynau safleoedd sipsiwn a theithwyr (2025). Mae dyraniad y safle hefyd wedi’i hysbysu gan, ac wedi bod yn destun ymgynghoriad agos gydag aelodau perthnasol cymuned y Sipsiwn, Teithwyr a Siewmyn Teithiol. Sylw
Strategaeth Cludiant Cynaliadwy a Hygyrchedd Sylw
SO6: darparu datblygiad cynaliadwy a cheisio mynd i’r afael ag achosion newid hinsawdd trwy ymestyn y dewis o gludiant cynaliadwy i alluogi cymunedau Conwy i gael mynediad at swyddi a gwasanaethau allweddol trwy annog pobl i wneud siwrneiau byrrach a mwy egnïol ac effeithlon trwy gerdded, beicio a defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus a thrwy ddylanwadu ar leoliad, graddfa, dwysedd, cymysgedd defnydd a dyluniad datblygiadau newydd. Sylw
5.3.104 Mae’r bennod hon yn cefnogi Fframwaith Polisi Creu Lleoedd y CDLlN ac yn nodi sut yr eir i’r afael â thargedau Llywodraeth Cymru o allyriadau sero net erbyn 2050 ynghyd â theithio llesol, isadeiledd gwyrdd a chludo nwyddau ar lefel leol yng Nghonwy. Mae Pwyllgor Newid Hinsawdd y DU wedi cynnig llwybr lleihau carbon sy’n golygu bod yn rhaid haneru allyriadau cludiant wyneb yn fras rhwng 2020 a 2030. Sylw
5.3.105 Mae angen: Sylw
- Annog newid i ddulliau teithio llesol a microsymudedd;
- Annog newid i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus / rhannu trafnidiaeth;
- Rheoli’r galw i annog newid oddi wrth deithio ar ffyrdd; a
- Chefnogi’r newid mewn ymddygiad sy’n ofynnol i newid dulliau teithio.
5.3.106 Mae allyriadau carbon trafnidiaeth yn dibynnu’n uniongyrchol ar nifer y cilometrau a deithir mewn cerbyd a’r allyriadau a gynhyrchir fesul cilometr gan gerbyd. Felly, er mwyn cyflawni datgarboneiddio, mae’n rhaid i’r mesurau a gyflwynir: Sylw
- Leihau pellter teithio cerbydau; a / neu
- Lleihau’r allyriadau sy’n cael eu cynhyrchu ar y cilometrau teithio mewn cerbydau sy’n weddill, a fydd yn dibynnu ar newidiadau mewn math o danwydd / ynni, dyluniad y cerbyd a ffactorau megis cyflymder gyrru.
5.3.107 Mae gan waith cynllunio defnydd tir lleol y potensial o leihau allyriadau carbon trafnidiaeth drwy gynyddu’r cyfle i bobl gael mynediad at wasanaethau, gweithgareddau, a chyfleoedd heb ddefnyddio car drwy wella mynediad mewn dwy ffordd: Sylw
- Cynyddu mynediad yn lleol, drwy gynllunio lleoliadau gweithgareddau gan ddefnyddio egwyddorion cymdogaethau 20 munud, gan leihau hyd a nifer y teithiau sy’n cael eu cyflawni (wrth i bobl gyfuno dibenion mewn teithiau unigol) a chynyddu’r tebygolrwydd o gerdded a beicio drwy leihau hyd teithiau;
- Chynyddu mynediad at drafnidiaeth gyhoeddus, drwy gynllunio datblygiad sy’n seiliedig ar gludiant, o amgylch canolbwyntiau trafnidiaeth gyhoeddus.
5.3.108 Mae Cyllideb Carbon Sero Net Cymru 2 (CB2) yn canolbwyntio ar ail gyllideb carbon Cymru (2021-2025), a thu hwnt i ddechrau gosod sylfeini ar gyfer Cyllideb Carbon 3 a tharged 2030. Bydd diwallu Cyllideb Carbon 2 a rhoi Cymru ar y trywydd cywir i ddarparu allyriadau sero net erbyn 2050 yn gofyn am gamau gweithredu mewn tri maes ar gyfer cludiant teithwyr a nwyddau: Sylw
- Lleihau’r galw a newid dull - sut y gallai ymddygiad a newidiadau cymdeithasol leihau neu newid y galw am deithio.
- Y dewisiadau technolegol sydd ar gael a’r nifer sy’n defnyddio cludiant heb allyriadau neu allyriadau isel.
- Gwelliannau i effeithiolrwydd a mathau o danwydd mewn cerbydau confensiynol.
5.3.109 Mewn cysylltiad â CB2, mae Llwybr Newydd - Strategaeth Cludiant Cymru yn cynllunio ar gyfer cysylltedd ffisegol a digidol gwell, mwy o wasanaethau lleol, mwy o weithio o gartref ac o bell a mwy o deithio llesol, i leihau’r angen i bobl ddefnyddio eu ceir yn ddyddiol. Mae’n nodi’r tair prif flaenoriaeth ar gyfer y pum mlynedd nesaf: Sylw
- Dod â gwasanaethau at bobl er mwyn lleihau’r angen i deithio: cynllunio ar gyfer y dyfodol i gael gwell cysylltedd ffisegol a digidol, mwy o wasanaethau lleol, mwy o weithio o gartref ac o bell a mwy o deithio llesol, i leihau’r angen i bobl ddefnyddio eu ceir yn ddyddiol.
- Galluogi symud pobl a nwyddau’n hawdd o ddrws i ddrws gyda gwasanaethau cludiant ac isadeiledd hygyrch, cynaliadwy ac effeithiol: ceisio cyflawni newid o ddefnyddio ceir preifat i fwy o ddulliau cludiant cynaliadwy ar gyfer y mwyafrif o deithiau. Buddsoddi mewn gwasanaethau ac isadeiledd cludiant cynaliadwy, carbon isel, hygyrch ac effeithlon sy’n galluogi mwy o bobl i gerdded, beicio a defnyddio cludiant cyhoeddus a cherbydau allyriadau isel.
- Annog pobl i wneud y newid i ddefnyddio cludiant sy’n fwy cynaliadwy: annog pobl i newid eu hymddygiad teithio a defnyddio cludiant cynaliadwy carbon isel, trwy sicrhau bod cludiant cynaliadwy’n fwy deniadol ac yn fwy fforddiadwy, a thrwy fabwysiadu mesurau arloesol sy’n ei gwneud yn haws eu defnyddio.
5.3.110 Mae’r Strategaeth yn nodi’r sut y dylai cludiant gyfrannu at uchelgeisiau hirdymor ehangach LlC (dros yr 20 mlynedd nesaf) ac at y pedwar nod yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015: Sylw
- “Er lles pobl a chymunedau: system gludiant y mae gan bawb yr hyder i’w defnyddio, sy’n cyfrannu at Gymru sy’n fwy cyfartal ac yn iachach.”
- “Er lles yr amgylchedd: system gludiant sy’n cyflawni gostyngiad sylweddol mewn allyriadau nwyon tŷ gwydr, yn cynnal bioamrywiaeth a hybu gwytnwch ecosystemau, a lleihau gwastraff.”
- “Er lles yr economi a lleoedd yng Nghymru: system gludiant sy’n cyfrannu at gyflawni ein huchelgeisiau economaidd ehangach ac yn cynorthwyo cymunedau lleol, yn cefnogi cadwyn gyflenwi fwy cynaliadwy, yn defnyddio’r dulliau dyfeisgar diweddaraf ac yn sicrhau bod cludiant yn fforddiadwy.”
- “Er lles diwylliant a’r Gymraeg: system gludiant sy’n cefnogi’r Gymraeg, yn galluogi mwy o bobl i ddefnyddio cludiant cynaliadwy i gyrraedd gweithgareddau celfyddydol, chwaraeon a diwylliannol, ac yn diogelu a gwella’r amgylchedd hanesyddol.”
5.3.111 Mae hierarchaeth cludiant cynaliadwy (gweler ffigur 17 isod) yn blaenoriaethu cerdded, beicio a chludiant cyhoeddus a cherbydau sy’n hynod isel o ran allyriadau dros gerbydau modur preifat ac yn rhan o Lwybr Newydd - Strategaeth Cludiant Cymru a PCC. Sylw
Ffynhonnell: Polisi Cynllunio Cymru, Llywodraeth Cymru Sylw
5.3.112 Mae mesurau newid yn annog newid dulliau teithio ar hyd yr hierarchaeth cludiant cynaliadwy, i ddefnyddio dulliau sy’n fwy effeithlon, yn defnyddio llai o ynni a llai o allyriadau ar gyfer y mwyafrif o deithiau. Fel arfer mae hyn yn golygu newid o deithio mewn car i gludiant cyhoeddus a dulliau teithio llesol fel cerdded a beicio ac mae angen buddsoddi mewn gwasanaethau ac isadeiledd cludiant cynaliadwy, isel o ran carbon, hygyrch ac effeithlon sy’n galluogi mwy o bobl i gerdded, beicio a defnyddio cludiant cyhoeddus a cherbydau allyriadau isel. Mae technolegau cludiant hefyd wedi datblygu’n sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf, gyda cherbydau allyriadau isel iawn (ULEV) a biodanwydd a fydd yn cael effaith drawsnewidiol ar ddatgarboneiddio cludiant. Mae Llwybr Newydd, ochr yn ochr â’r polisïau a’r prosiectau cludiant cysylltiedig, wedi cyfrannu’n uniongyrchol at strategaeth ofodol, canlyniadau a pholisïau Cymru’r Dyfodol 2040. Sylw
Cynlluniau Datblygu Strategol a Chynlluniau Datblygu Lleol Sylw
5.3.113 Mae Cymru’r Dyfodol 2040 yn cyfrannu at haen genedlaethol o’r cynllun datblygu. Mae Cynlluniau Datblygu Strategol yn ymdrin â materion ar lefel ranbarthol ac is-ranbarthol a Chynlluniau Datblygu Lleol yn ystyried materion ar lefel leol. Sylw
5.3.114 Mae’n rhaid i Gynlluniau Datblygu Strategol, sydd heb eu paratoi mewn unrhyw ranbarth eto, gydymffurfio â Chymru’r Dyfodol. Yn yr un modd, rhaid i Gynlluniau Datblygu Lleol gydymffurfio â Dyfodol Cymru a'r Cynllun Datblygu Strategol ar gyfer yr ardaloedd y maent yn eu cwmpasu. Mae’n rhaid diweddaru CDLlau a Strategol i sicrhau eu bod yn cydweithio’n effeithiol gyda Chymru’r Dyfodol. Mae’n rhaid i benderfyniadau cynllunio ar bob lefel o’r system gynllunio yng Nghymru gael eu cyflawni yn unol â’r cynllun datblygu yn ei gyfanrwydd. Sylw
5.3.115 Ni all CDLlN Conwy fynd i’r afael â phob mater cludiant gan ei fod yn cynnwys polisïau a chynigion sy’n ymwneud â datblygu a defnydd tir yn unig. Cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw goruchwylio’r system gludiant ehangach ar lefel genedlaethol, gyda Taith ar lefel ranbarthol a’r Cyngor ar lefel leol. Er hynny, mae’n rhaid i strategaeth, polisïau a chynigion cyffredinol y CDLlN fod yn unol â chynlluniau, rhaglenni a strategaethau’r cyrff hyn ynghyd â gweithredwyr cludiant fel cwmnïau bysiau a rheilffyrdd. Sylw
Canllawiau rhanbarthol Sylw
- Cynllun Datblygu Strategol (yn cael ei baratoi)
- Cynllun Cludiant Rhanbarthol Gogledd Cymru (yn cael ei baratoi ar y cyd)
- Cynllun Gweithredu a Strategaeth Ynni Gogledd Cymru
5.3.116 Cynhyrchodd Uchelgais Gogledd Cymru’r strategaeth ynni rhanbarthol, ym mis Tachwedd 2021, gyda chefnogaeth a chyfraniad gan LlC, a budd-ddeiliaid rhanbarthol. Yr amcan cyffredinol yw datblygu llwybr strategol sy'n nodi ymyraethau allweddol i gyflawni uchelgeisiau'r rhanbarth ar gyfer datgarboneiddio ei system ynni, sicrhau bod y rhanbarth yn elwa o'r cyfnod pontio, a gosod y llwybr datgarboneiddio posibl a fydd yn rhoi’r rhanbarth ar y trywydd cywir i gyflawni system ynni sero net erbyn 2050. Sylw
Canllawiau lleol Sylw
- Cynllun Teithio Llesol a map
- Cynllun Gwella Hawliau Tramwy Conwy 2019-2029
- Cynllun Ynni Ardal Leol ac ymyraethau cysylltiol.
- Asesiad Isadeiledd Gwyrdd
5.3.117 Materion cludiant allweddol ar gyfer Conwy: Sylw
- Mae angen brys i gefnogi isadeiledd, technoleg a sgiliau sy’n blaenoriaethu datgarboneiddio’r sector cludiant modur;
- Gallu’r gefnffordd strategol a rheilffyrdd i ddarparu’r cysylltedd uniongyrchol gofynnol, ar gyfer pobl a nwyddau, o fewn Conwy a Gogledd Cymru, i’r porthladdoedd ac i’r rhwydwaith ehangach i gefnogi’r economi, swyddi, twristiaeth a lleoedd cynaliadwy;
- Diffyg gwydnwch y rhwydwaith ffyrdd a rheilffyrdd ar gyfer digwyddiadau sydd wedi’u cynllunio a heb eu cynllunio gan gynnwys tywydd eithafol yn enwedig perygl llifogydd;
- Cyfle i hyrwyddo ac ehangu llwybrau Teithio Llesol diogel gan integreiddio Isadeiledd Gwyrdd drwy ardal y Cynllun;
- Diffyg dewisiadau amgen dichonadwy a fforddiadwy yn hytrach na defnyddio car i gael mynediad at safleoedd cyflogaeth allweddol a gwasanaethau eraill; a
- Bod angen cysylltiadau cludiant da i/o rwydwaith y gefnffordd i ardaloedd gwledig er mwyn cynorthwyo i gynnal hyfywedd busnesau lleol a chefnogi’r Gymraeg, addysg a chyfleusterau iechyd, manwerthu a diwylliant.
5.3.118 Mae Conwy’n cynnwys llwybrau trwodd allweddol gan gynnwys rheilffordd arfordirol Gogledd Cymru sy’n cysylltu Caergybi gyda Chaer ac wedi’i lleoli ochr yn ochr â chefnffordd Ewropeaidd yr A55 drwy Gonwy. Mae Llwybr Beicio Cenedlaethol 5 yn dilyn yr arfordir o’r gorllewin i’r dwyrain gan gysylltu Caergybi a Chaer. Yna’n fewndirol mae’r A470 a’r A5 yn darparu cysylltiadau ffordd allweddol a rheilffordd Dyffryn Conwy’n cysylltu Cyffordd Llandudno gyda Llanrwst a thu hwnt, y tu allan i ardal y Cynllun, gyda Betws-y-coed a Blaenau Ffestiniog. Sylw
5.3.119 Felly, mae mwyafrif y cyfleusterau a’r gwasanaethau allweddol ar hyd y llwybrau hyn a dylid lleoli datblygiadau newydd mor agos â phosibl at y llwybrau presennol hyn. Ond, mae angen gwella’r llwybrau Teithio Llesol i leihau’r defnydd o deithiau modur yn enwedig teithiau unigolyn sengl. Nododd COVID-19 sawl mater o ran sut yr ydym yn gweithio a siopa, ynghyd â gweld cynnydd mewn teithio llesol a’r angen amdano er budd iechyd, lles a’r amgylchedd. Sylw
5.3.120 Gyda Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013, mae Llywodraeth Cymru wedi gosod Cymru ar lwybr i gynorthwyo i drawsnewid y wlad i fod yn ‘genedl teithio llesol’. Rydym yn wynebu heriau mawr o ran sicrhau lles corfforol a meddyliol ein cenedl, yn awr, ac ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Mae’r Ddeddf yn ceisio sicrhau mai teithio llesol yw’r dewis mwyaf deniadol ar gyfer y mwyafrif o deithiau byr. Y bwriad yw galluogi mwy o bobl i ddewis teithio llesol, gan olygu y gall mwy o bobl fwynhau buddion teithio llesol. Mae LlC eisiau annog pobl i adael eu ceir gartref a defnyddio’r dewisiadau teithio llesol lle bo’n addas gwneud hynny. Mae’r pandemig hefyd wedi dangos bod patrymau cymudo wedi newid a bod mwy o bobl yn gallu ac yn dewis gweithio o gartref. Mae cynyddu lefelau cerdded a beicio yn cynnig dull syml o gyflawni buddion amryfal ar gyfer pobl Conwy a’r ymwelwyr. Mewn sawl sefyllfa mae angen blaenoriaethu teithio llesol yn hytrach na’r dewisiadau mewn moduron, yn enwedig teithio sy’n seiliedig ar garbon. Sylw
5.3.121 Mae angen datblygiad newydd i fynd i'r afael â'r goblygiadau trafnidiaeth sy'n deillio o ddatblygiadau mwy. Efallai y bydd gofyn i ddatblygiadau mawr baratoi Asesiadau Cludiant i ddangos sut y bydd y nifer o deithiau a gynhyrchir yn cael eu cyflawni a sut y cyflawnir hygyrchedd i ac o’r safle mewn pob math o gludiant. Ar gyfer cynigion nad ydynt yn gynigion preswyl sy’n debygol o olygu goblygiadau cludiant sylweddol, mae’r Llywodraeth yn ei gwneud yn ofynnol i gyflwyno cynlluniau teithio; gyda’r diben o hyrwyddo dulliau cludiant sy’n fwy cynaliadwy mewn perthynas â gweithgareddau datblygiad penodol (er enghraifft; annog gostyngiad mewn defnydd o geir a mwy o ddefnydd o gludiant cyhoeddus, cerdded a beicio drwy’r Isadeiledd Gwyrdd). Sylw
5.3.122 Bydd manylion penodol ac effaith mesurau lleihau carbon cludiant yn amrywio rhwng y gwahanol ddatblygiadau. Hefyd, ni ellir rhagweld effaith ymyraethau ar gyfran y dull teithio a milltiredd yn fanwl ar gam cynnar. Bydd hyn yn dibynnu ar ddewisiadau ymddygiad y preswylwyr, gweithwyr, cyflogwyr ac ymwelwyr sy’n gysylltiedig â’r datblygiad ac a weithredir mesurau tebyg ar draws y dref a’r rhanbarth teithio lleol. Dylai datblygiad newydd geisio symud oddi wrth y defnydd o geir preifat tuag at ddulliau cludiant sy’n fwy cynaliadwy ar gyfer y mwyafrif o deithiau. Bydd disgwyl i ddatblygiad ddangos gwasanaethau cludiant heb garbon neu garbon isel, sy’n hygyrch, effeithlon a chynaliadwy, isadeiledd teithio llesol sy’n gysylltiedig â chanolfannau cludiant cyhoeddus, a chyfleusterau gwefru cerbydau allyriadau isel. Sylw
5.3.123 Mae rhagor o wybodaeth i’w gweld yn Papur Cefndir 65: Cyflawni Di-garbon Net mewn Adeiladau. Sylw
5.3.124 Mae modd gwerthuso’r buddion i gymdeithas ynghyd â dal a storio carbon gan ddefnyddio ymagwedd Gwasanaethau Cyfalaf Naturiol ac Ecosystem Sylw
STA/1 cludiant cynaliadwy, gygyrchedd a datgarboneiddio Sylw
- Bydd yr ACLl yn cefnogi cynigion datblygu sy’n lleihau’r angen i deithio mewn ceir preifat, ac yn gwneud y mwyaf o gyfleoedd ar gyfer cerdded, beicio a chludiant cyhoeddus yn unol â pholisïau STA/6 a STA/7. Dylai’r cynigion greu lleoedd a strydoedd lle bo traffig a gweithgareddau eraill wedi’u hintegreiddio a lle bo adeiladau, gofodau a hygyrchedd yn llunio dyluniad, gan ymgorffori egwyddorion cymdogaethau 20 munud yn unol â’r Fframwaith Polisi Creu Lleoedd.
- Mae’n rhaid i brif ddatblygiadau ddangos sut y maent wedi cymhwyso Hierarchaeth Cludiant Cynaliadwy drwy baratoi Cynllun Cludiant ar gyfer y datblygiad a ddylai hyrwyddo yn y drefn flaenoriaeth:
- Llwybrau cerdded, beicio neu deithio ar sgwter o ansawdd uchel a hygyrch o fewn y datblygiad a chysylltedd gyda chyrchfannau allweddol y tu allan i’r datblygiad megis canolfannau iechyd, ysgolion, ardaloedd manwerthu a chyflogaeth a llwybrau Teithio Llesol eraill yn unol â pholisi STA/6;
- Rhwydwaith cludiant cyhoeddus (neu a rennir) o ansawdd da o fewn y datblygiad newydd drwy ddarparu llwybrau teithio llesol clir, diogel a deniadol i safleoedd bws yn y datblygiad ac addasiadau i’r gwasanaethau cludiant cyhoeddus i wasanaethu’r datblygiad yn unol â pholisi STA/4, STA/6 a STA/7.
- Creu canolbwynt ar gyfer cludiant a gwasanaethau eraill (canolfannau symudedd), gan gysylltu pobl gyda gwahanol fathau o gludiant cyhoeddus ac a rennir ynghyd â gweithredu fel pwyntiau dosbarthu cyfunol ar gyfer parseli neu nwyddau lle bo’n briodol yn unol â STA/5;
- Creu amgylchedd traffig isel (gyda therfynau cyflymder isel a chyfyngiadau ar symudiadau traffig) er mwyn cyflawni’r newid dull oddi wrth y defnydd o gerbydau preifat.
- Rheoli’r galw am geir preifat neu gerbydau ffyrdd trwy gyfyngu nifer y lleoedd parcio sydd ar gael yn gyffredinol a chreu gofodau parcio blaenoriaeth ar gyfer cerbydau clwb ceir a cherbydau â mwy o bobl ynddynt mewn safleoedd cyflogaeth, a;
- Darparu isadeiledd gwefru priodol i gefnogi’r defnydd o gerbydau trydan yn unol â STA/2 ochr yn ochr â chefnogi cyflwyno clybiau ceir trydan i ddarparu mynediad fforddiadwy at gerbydau trydan pan fo’r angen.
- Dylai pob datblygiad cludiant mawr newydd ymgymryd â gwerthusiad i sicrhau cysylltiad band eang o ansawdd uchel a darparu canolfannau digidol i leihau cymudo a mynediad at weithgareddau / cyfleoedd eraill ar-lein. Dylai bod pob datblygiad mawr yn cael ei gefnogi gan gynllun newid ymddygiad trwy ddarparu ysgogiad ac anogaeth i bobl drwy, er enghraifft, y defnydd o apiau ffôn symudol i annog mathau penodol o ymddygiad teithio gyda gwobrau digidol.
- Bydd gofyn i ddatblygiadau mawr newydd gyfrifo’r allyriadau carbon gweithredol a chorfforedig sy’n gysylltiedig â datblygu cludiant a dangos sut y lleihawyd y rhain. Bydd y rhain yn cael eu cynnwys mewn Datganiad Lleihau Carbon sy’n cyd-fynd â chais cynllunio yn unol â pholisi EN/6.
5.3.125 Bydd yr ACLl yn ceisio gwella hygyrchedd a hyrwyddo newid yn yr ymddygiad teithio gan weithio gyda datblygwyr a darparwyr gwasanaeth; gan gynnwys isadeiledd ac iechyd. I fynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd a sicrhau fod pob cymuned yn elwa o gludiant cynaliadwy, rhoddir sylw penodol i wella isadeiledd teithio llesol mewn ardaloedd difreintiedig ac ardaloedd sy’n cael eu tanwasanaethu. Bydd hefyd yn cefnogi isadeiledd newydd lle bo’n cynorthwyo i gyflawni sero net ac yn cydymffurfio â’r polisïau eraill yn y cynllun. Cyflawnir hyn drwy weithio i sicrhau bod datblygiad yn cyfrannu at y gostyngiad o 80% mewn allyriadau cludiant wyneb sy’n ofynnol erbyn 2030, fel rhan o’r llwybr at sero net erbyn 2050. Sylw
5.3.126 Bydd yr ACLl yn diogelu tir a llwybrau Teithio Llesol i hyrwyddo cymunedau hygyrch sy’n annog dulliau teithio cynaliadwy integredig yn unol â pholisïau STA/6 Teithio Llesol ac Isadeiledd Gwyrdd, STA/7 gwelliannau i gyfnewidfeydd a chyfleusterau cludiant cyhoeddus, a pholisi STA/4. Bydd yr ACLl yn parhau i hyrwyddo dulliau cynaliadwy a chefnogi gwelliannau i wasanaethau cludiant cyhoeddus. Sylw
5.3.127 Ceisir gwelliannau i reilffyrdd a safleoedd bws i gynorthwyo fel cyfnewidfeydd rhwng y dulliau teithio a hyrwyddo ymddygiad teithio cynaliadwy yn enwedig o ran cysylltu Metro Gogledd Cymru gyda gwasanaethau lleol. Bydd datblygiadau yn cyfrannu tuag at welliannau lle bo’r angen yn unol â pholisïau PL/1 to PL/25. Bydd llwybrau gwella a nodwyd yn y Map Cludiant Rhanbarthol a Theithio Llesol ar gyfer Conwy yn cael eu diogelu a’u gwella ynghyd â’r llwybrau lleol a nodwyd yn yr Asesiad Isadeiledd Gwyrdd. Sylw
5.3.128 Mae’r polisïau creu lleoedd hyn yn pwysleisio bod effeithlonrwydd, cysylltedd, amrywiaeth a chynhwysiant cysylltiadau cludiant yn elfennau allweddol o greu lle llwyddiannus ac mae rhwydwaith cludiant effeithlon yn hanfodol i gefnogi twf economaidd. Mae’r ‘rhwydwaith cludiant’ yn cyfeirio at y cysylltiadau a’r gwasanaethau sy’n helpu pobl i symud ar draws y Sir, gan gynnwys priffyrdd, cludiant cyhoeddus, llwybrau cerdded a beicio, Hawliau Tramwy Cyhoeddus gan gynnwys llwybrau ceffyl. Sylw
5.3.129 Mae hygyrchedd da yn golygu y gall cymunedau ddiwallu eu hanghenion (er enghraifft: siopa, addysg, hamdden a chyflogaeth) yn hawdd a heb fod angen car. Dylid annog pobl i beidio â theithio ar eu pennau eu hunain mewn cerbydau nad ydynt yn gerbydau allyriadau isel iawn. Gellir gwella hygyrchedd drwy leoli datblygiadau mewn lleoliadau priodol a thrwy wella cludiant cyhoeddus, cyfleusterau cerdded a beicio a gwasanaethau. Bydd anghenion datblygu y gymuned yn cael eu diwallu drwy leoli mwyafrif y datblygiadau mewn lleoliadau hygyrch, yn bennaf ar hyd coridor yr A55 a’r Rhwydwaith Rheilffyrdd lle bo cysylltiadau allweddol i gludiant rheolaidd. Gallai darparu hygyrchedd da newid ymddygiad teithio tuag at ddulliau sy’n fwy cynaliadwy, ond, mae cynllunio teithiau, addysg a rheoli’r galw yn elfennau allweddol o’r strategaeth gludiant yn gyffredinol. Mae gwella hygyrchedd a lleihau’r ddibyniaeth ar geir yn cynorthwyo i wella cydraddoldeb, iechyd, lleihau tagfeydd ac ymateb i heriau newid hinsawdd a chynaliadwyedd amgylcheddol. Er mwyn gwella’r cynnig o ddulliau teithio cynaliadwy, iechyd y gymuned a’r amgylchedd, bydd y Cyngor yn cefnogi, mewn egwyddor, cyfleusterau cyfnewidfeydd a chanolfannau dosbarthu lleol yn y dyfodol. Sylw
5.3.130 Ar gyfer teithiau eithaf byr mae cerdded a beicio yn ddulliau hynod ddymunol o gludiant cynaliadwy sy’n cefnogi ffordd o fyw iach. Mae data’r cyfrifiad (2021) yn dangos bod 58% o breswylwyr Conwy sy’n weithgar yn economaidd yn defnyddio eu ceir i deithio i’r gwaith a thra bod 8% o breswylwyr yn cerdded i’w gweithle, dim ond 1.1% sy’n beicio. Sylw
5.3.131 Yn anffodus, bydd rhwystrau yn atal cerdded a beicio i rai ardaloedd oherwydd bod priffyrdd a chylchfannau yn peri rhwystr i gerddwyr a beicwyr. Mae cerdded yn rhan o bron bob taith, ac mae pobl yn llai tebygol o gerdded i siop leol neu safle bws os yw’r amgylchedd i gerddwyr yn wael neu’n ymddangos yn beryglus. Mae rhai ffyrdd, strydoedd a chyffyrdd wedi’u dylunio fel bod cerdded a beicio yn amharu ar lif y traffig. Bydd gwelliannau i’r dewisiadau cerdded a beicio a’u diogelwch yn cael eu targedu yn yr holl aneddiadau, yn bennaf lle bo angen mynediad at gyflogaeth a manwerthu, yn Llandudno, Cyffordd Llandudno, Bae Colwyn ac Abergele ac at ddibenion hamdden a thwristiaeth drwy gydol ardal y cynllun. Rhai enghreifftiau fyddai gweithredu Rhaglen Gwella Llwybr Arfordir Cymru a Chynllun Gwella Hawliau Tramwy Conwy.Bydd angen i’r holl ddatblygiadau mawr newydd ddarparu cyfleusterau cerdded a beicio o ansawdd a chyfrannu tuag at welliannau IG cynaliadwy yn y gymuned gyfagos fel y bo’n briodol. Sylw
5.3.132 Mae cerdded a beicio yn hynod bwysig mewn canol trefi lle bo nifer o bobl yn siopa, gweithio, byw a chwarae yn agos at ei gilydd. Gall y canol trefi hyn dderbyn niferoedd helaeth o gerddwyr a beicwyr heb achosi’r un problemau o ran tagfeydd, sŵn a llygredd â’r hyn a geir gyda nifer eithaf bychan o gerbydau modur. Er mwyn annog y defnydd o ddulliau teithio cynaliadwy, ceisir cyfraniadau tuag at welliannau o ran iechyd a diogelu’r amgylchedd. Sylw
5.3.133 Mae’r CDLlN, felly, yn ceisio cyflwyno gwelliannau sylweddol i gludiant cynaliadwy i wella’r dewisiadau cerdded a beicio a’u diogelwch a gwella cysylltiadau gyda dulliau cludiant cynaliadwy eraill yn Ardal y Cynllun a thu hwnt. Er mwyn cyflawni hyn, bydd y Cyngor yn gweithio gyda phartneriaid i sicrhau cyfraniadau datblygwyr a cheisio cyllid i gyflwyno gwelliannau ar gyfer beicio a cherdded, lle bo’r angen. Mae cwblhau Llwybr Beicio Cenedlaethol 5 yn Llandudno ar y gweill hefyd. Sylw
5.3.134 Yn unol â Deddf Cludiant Cymru 2006, mae’n ofynnol bod consortiwm Taith, sef partneriaeth yr Awdurdodau Lleol sydd â chyfrifoldebau cludiant yng Ngogledd Cymru, yn cynhyrchu Cynllun Cludiant Rhanbarthol yn unol â gofynion Llywodraeth Cymru. Mae’r Cynllun Cludiant Rhanbarthol yn strategaeth ar gyfer nodi a darparu gwelliannau ar gyfer ein system gludiant dros y 25 mlynedd nesaf. Mae Cynllun Cludiant Rhanbarthol Gogledd Cymru wedi’i gynhyrchu a daeth i rym ym mis Ebrill 2010. Sylw
Cymdogaethau 20 munud ac amgylcheddau traffig isel Sylw
5.3.135 Cymdogaethau 20 munud yw ardaloedd sy’n darparu ar gyfer mwyafrif anghenion dyddiol y preswylwyr o fewn 20 munud o gerdded neu ar feic. Mae’r nodweddion allweddol yn cynnwys cyfleusterau siopa ac iechyd lleol, addysg, mannau gwyrdd, tai fforddiadwy ac amrywiol, strydoedd diogel, teithio llesol a chludiant cyhoeddus, a chyflogaeth. Mae’r cysyniad wedi datblygu fel elfen bwysig o adfer gwyrdd ar ôl COVID, a gydnabyddir gan gyrff fel Cymdeithas Cynllunio Gwlad a Thref, Sustrans a’r Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol. Sylw
5.3.136 Mae creu cymdogaethau 20 munud ac amgylcheddau traffig isel yn cynnwys: Sylw
- Byddai sicrhau bod amgylchedd traffig isel i ddatblygiad newydd (gyda therfynau cyflymder isel a chyfyngiad ar symudiad traffig) yn ategu mesurau i gyflawni newid dull oddi wrth y defnydd o geir. Byddai hefyd yn darparu buddion ehangach gan gynnwys sicrhau nad yw ardaloedd gofodau craidd yn y datblygiad yn cael eu neilltuo i flaenoriaethu traffig a pharcio, gan gyflwyno’r potensial ar gyfer defnydd arall fel man gwyrdd neu lwybrau teithio llesol.
5.3.137 Byddai mesurau a fyddai’n cyfrannu at amgylchedd traffig isel yn cynnwys: Sylw
- Blaenoriaethu cerdded a beicio ar y llwybrau yn y datblygiad fel eu bod wedi’u dylunio ar gyfer cerddwyr yn bennaf. Byddai terfynau cyflymder, dyluniad a chyfyngiadau yn golygu mai dim ond ar gyflymder isel iawn y caniateir mynediad i gerbydau i’r adeiladau;
- Gosod y lleoedd parcio oddi wrth y tai a’r adeiladau, gan ganiatáu gollwng / mynediad ar gyflymder isel fel bo’r angen ar gyfer anghenion hygyrchedd.
- Gwerthu gofodau parcio ar wahân i’r tai a’r gofodau masnachol fel nad yw’n fesur diofyn bod ganddynt ofodau parcio. Gallai codi tâl am barcio gynnwys cost prynu ymlaen llaw a ffi flynyddol barhaus, gyda’r potensial i brynu trwyddedau ar gyfer parcio i ymwelwyr.
Cerbydau trydan a cherbydau allyriadau isel iawn neu sero Sylw
5.3.138 Mae’n hanfodol bod pwyntiau gwefru ar gyfer cerbydau trydan yn cael eu hymgorffori mewn datblygiadau newydd o’r cam dylunio. Mae hyn yn sicrhau bod pwyntiau gwefru’n cael eu lleoli mewn lleoliad cyfleus ac yn llai drud ac yn achosi llai o aflonyddwch na’u gosod yn ddiweddarach. Mae rhwydwaith ansawdd uchel o bwyntiau gwefru mewn cartrefi a lleoedd y mae pobl yn parcio’n aml yn hanfodol er mwyn cynyddu’r defnydd o gerbydau trydan. Sylw
5.3.139 O 1 Ebrill 2019, daeth hawliau datblygu a ganiateir i rym yng Nghymru i ganiatáu gosod isadeiledd gwefru oddi ar y stryd, gyda rhai meini prawf eithriedig. Mae modd i awdurdodau lleol osod isadeiledd ar y stryd hefyd heb fod angen caniatâd cynllunio. Sylw
Targedau Sylw
5.3.140 Gosodwyd targedau ar gyfer datblygiad newydd yn seiliedig ar darged CBSC i gyflawni Carbon Sero Net a’r newidiadau cyflym sydd eu hangen yn y sector cludiant i ddatgarboneiddio’n ddigonol i gyfrannu at ddiwallu’r targed hwnnw. Mae modd ystyried mesurau i leihau allyriadau carbon cludiant mewn tri chategori: Sylw
- Osgoi (lleihau’r galw am ynni) - lleihau galw cludiant am ynni drwy leihau nifer a / neu hyd y teithiau;
- Newid (gostyngiad mewn defnydd o ynni) - achos y galw i newid o ddulliau llai effeithlon i ddulliau cludiant sy’n fwy effeithlon o ran ynni ac allyriadau (h.y. symud o geir preifat i gludiant cyhoeddus neu gerdded/ beicio neu gludo nwyddau ar y ffordd i gludo nwyddau ar reilffyrdd); a
- Gwella / Tanwydd (lleihau’r defnydd o ynni) - gwella perfformiad effeithlonrwydd / allyriadau’r fflyd sy’n weddill drwy welliannau effeithlonrwydd a / neu newid ffynhonnell ynni (trydaneiddio).
5.3.141 Er mwyn cyflawni targed Sero Net a rheoli’r galw ar y rhwydwaith ynni, bydd angen i fesurau ar gyfer datblygiadau newydd leihau teithiau mewn cerbydau (er mwyn mynd i’r afael â thagfeydd a’r galw am ynni) a sicrhau y cyflawnir unrhyw deithiau mewn cerbydau sy’n weddill gyda cherbydau sydd ddim yn gollwng unrhyw allyriadau drwy beipen fwg (er mwyn mynd i’r afael â llygredd carbon a llygredd aer lleol). Sylw
5.3.142 Mae’r mesurau sy’n berthnasol i gefnogi’r newid yn cynnwys: Sylw
- Datblygu isadeiledd gwefru / tanwydd yn gyflym
- Cynyddu’r defnydd mewn cerbydau fflyd.
- Mae’r system cludiant yn y dyfodol yn debygol o fod angen hyd at 110 o gyfarpar gwefru cyflym iawn a 1,630 o gyfarpar gwefru cyflym erbyn 2025, a hyd at 150 o gyfarpar gwefru cyflym iawn a 2,000 o gyfarpar gwefru cyflym erbyn 2030.
STA/2 Isadeiledd a cherbydau allyriadau isel iawn neu heb allyriadau Sylw
- Dylai unrhyw ddatblygiadau tai mawr neu ddatblygiadau mawr nad ydynt yn rhai preswyl gynnal gwerthusiad o’r anghenion ar gyfer isadeiledd EV a ragwelir ar gyfer y dyfodol i hysbysu cais cynllunio gyda gwybodaeth o’r Strategaeth Ynni. Mae angen i’r gwerthusiad ystyried y nifer a’r mathau o bwyntiau gwefru priodol ar lefel adeilad unigol ac yn y datblygiad ehangach ac
effaith mesurau o’r fath ar y grid trydan lleol. Dylai fod gan isafswm o 10% o ofodau parcio gyfleusterau gwefru cerbydau trydan. - Bydd yr ACLl yn cefnogi darparu isadeiledd ar gyfer cerbydau heb allyriadau/ cerbydau allyriadau isel iawn lle bo’r cynigion yn cydymffurfio â pholisïau eraill y CDLlN a’r Cynllun Ynni Lleol. Mae’n rhaid darparu isadeiledd digonol ar gyfer datblygiad.
- Bydd gofyn i ddatblygiad ddarparu nifer priodol o bwyntiau gwefru gyda gofodau parcio, gan gynnwys cymysgedd o gyfleusterau gwefru araf a chyflym neu gyflym iawn (y rhai cyflym iawn i gefnogi cerbydau clybiau ceir yn benodol) sy’n addas ar gyfer yr holl fathau perthnasol o geir.
- Lle bo modd dylai’r darpariaethau gwefru integreiddio cyfleusterau gwefru gyda chynhyrchu trydan adnewyddadwy yn lleol, yn unol â pholisi EN/4 ac EN/8 a sicrhau y gwneir y mwyaf o botensial batris i ddarparu cyfleusterau storio.
5.3.143 Mae costau ôl-osod pwyntiau gwefru cerbydau trydan yn uwch na’u gosod yn ystod y gwaith adeiladu cychwynnol, felly mae posibilrwydd y bydd costau os nad yw pwyntiau gwefru’n cael eu gosod. Sylw
5.3.144 Bydd y Cynllun Ynni Lleol yn, lle bo modd, nodi safleoedd ar gyfer storio batris a gorsafoedd llenwi hydrogen ac yn cynnal asesiad o’r lleoliadau gorau i osod pwyntiau gwefru cerbydau trydan cyhoeddus, a pha fathau o bwyntiau gwefru fyddai’r rhai mwyaf addas (e.e. cyfleusterau gwefru araf neu gyflym iawn). Yn gyffredinol, bydd addasrwydd mathau o bwyntiau gwefru yn dibynnu ar eu lleoliad, a pha weithgareddau a gefnogir yn yr ardal gyfagos (e.e. efallai y bydd isadeiledd pwyntiau gwefru araf yn fwy addas ar gyfer canolfannau siopa na’r rhai a leolir mewn meysydd parcio arhosiad byr, gan fod ‘amser preswylio’ perchnogion y cerbydau yn debygol o fod yn hirach). Dylai’r asesiadau hyn ystyried cyfleusterau gwefru Cerbydau Trydan ar asedau sy’n eiddo i’r Cyngor (e.e. meysydd parcio sy’n eiddo i’r Cyngor) ond dylent hefyd ystyried prif leoliadau eraill, yn enwedig rhai o dan berchnogaeth y sector cyhoeddus (e.e. gorsafoedd rheilffyrdd, ysbytai a chyfleusterau addysg). Dylid annog ymgysylltu gyda phartneriaid strategol posibl, er mwyn gwireddu’r cyfleoedd posibl ar gyfer isadeiledd gwefru cerbydau trydan. Sylw
5.4.145 Mae darpariaeth weithredol yn cael ei diffinio fel soced sy’n barod i’w ddefnyddio ac wedi’i gysylltu gyda’r system cyflenwad trydan. Diffinnir darpariaeth oddefol fel y rhwydwaith o geblau a chyflenwadau pŵer sy’n ofynnol er mwyn gallu ychwanegu soced yn hawdd yn y dyfodol. Sylw
Lliniaru effaith teithio Sylw
5.3.146 Mae’n bwysig bod yr holl ddatblygiadau’n lliniaru’r effaith ar gludiant a’r amgylchedd. Bydd gofyn i gynigion ‘datblygu mawr’ neu gynigion datblygu gyda ‘goblygiadau cludiant sylweddol’, fel y nodwyd yn TAN18, gynhyrchu Asesiad Cludiant a Chynllun Teithio. Dylid cyflwyno Datganiad Cludiant ochr yn ochr â’r holl gynigion datblygu eraill er mwyn galluogi’r ymgeisydd i ddangos i’r Cyngor eu bod wedi ystyried effaith cludiant y cynnig ac wedi ystyried sut i liniaru’r effaith. Bydd lefel y manylion yn y Datganiad Cludiant yn amrywio yn dibynnu ar faint a chymhlethdod y cais yn unol â’r canllawiau cenedlaethol. Sylw
5.3.147 Ystyriaeth gynllunio allweddol yw sicrhau bod cynigion datblygu yn cyflawni cysylltiad addas gyda’r briffordd a’r rhwydwaith teithio llesol sy’n ddiogel ar gyfer cerddwyr, beicwyr, gyrwyr a defnyddwyr ffyrdd eraill. Hefyd mae’n bwysig sicrhau nad yw diogelwch ar y ffordd yn cael ei beryglu drwy ganiatáu cynigion a fyddai’n cynhyrchu lefelau traffig sydd y tu hwnt i gapasiti y rhwydwaith ffyrdd cyfagos. Sylw
STA/3 Lliniaru effaith teithio Sylw
- Bydd gofyn i ddatblygiadau newydd fynd i’r afael a lliniaru effeithiau negyddol teithio megis allyriadau carbon (yn unol ag EN/6), sŵn, effaith ar amwynder, gan gynnwys cysylltiad gyda llwybr Teithio Llesol, lles ac effaith amgylcheddol yn unol â pholisïau NE/7, NE/8 a STA/6. Bydd hyn naill ai yn waith ar y safle neu oddi ar y safle neu gyfraniadau i sicrhau bod gwaith hanfodol yn cael ei gyflawni.
- Lle y bydd datblygiad arfaethedig yn debygol o achosi goblygiadau cludiant, cymdeithasol neu amgylcheddol sylweddol, bydd y Cyngor yn gofyn i ddatblygwyr gyflwyno Asesiad Teithio, Cynllun Teithio a / neu Archwiliad Llwybr Teithio Llesol gyda chais cynllunio yn unol â chanllawiau cenedlaethol. Efallai y bydd angen Archwiliad Diogelwch Ffyrdd a Datganiad Dull Adeiladu hefyd.
- Pan fydd yr ACLl yn credu y bydd datblygiad arfaethedig yn peri goblygiadau sylweddol ar y rhwydwaith cludiant mewn ardal ehangach, bydd gofyn am gyfraniadau ariannol a / neu waith oddi ar y safle i wella’r isadeiledd cludiant, yn benodol i gefnogi cludiant cyhoeddus, Teithio Llesol ac Isadeiledd Gwyrdd, yn unol â’r polisïau Creu Lleoedd Cynaliadwy.
- Efallai y bydd yr ACLl yn gofyn i ddatblygwyr gyflwyno Datganiad Cludiant ar gyfer cynigion datblygu eraill lle bo angen deall effaith y cynnig ar draffig.
- Bydd Datganiad Rheoli Carbon ar gyfer y broses adeiladu, unrhyw isadeiledd cludiant ac adeiladau cysylltiol yn ofynnol yn unol â pholisi STA/1, EN/1 ac EN/6. Bydd y broses yn golygu bod modd nodi’r elfennau sy’n cynhyrchu’r mwyaf o ran allyriadau carbon, gan alluogi’r dylunydd i ganolbwyntio ar feysydd lle y gellir cyflwyno ymyraethau lliniaru carbon mwy.
5.3.148 Mae’n bwysig bod yr holl ddatblygiadau’n lliniaru ei effaith ar gludiant. Bydd gofyn i gynigion ‘datblygu mawr’ neu gynigion datblygu gyda ‘goblygiadau cludiant sylweddol’, fel y nodwyd yn TAN18, gynhyrchu Asesiad Cludiant a Chynllun Teithio (fel y nodir ym Mholisi STA/1). Dylid cyflwyno Datganiad Cludiant ochr yn ochr â’r holl gynigion datblygu eraill er mwyn galluogi’r ymgeisydd i ddangos i’r Cyngor eu bod wedi ystyried effaith cludiant y cynnig ac wedi ystyried sut i liniaru’r effaith. Bydd lefel y manylion yn y Datganiad Cludiant yn amrywio yn dibynnu ar faint a chymhlethdod y cais yn unol â’r canllawiau cenedlaethol a pholisi’r CDLlN. Sylw
5.3.149 Ystyriaeth gynllunio allweddol yw sicrhau bod cynigion datblygu yn cyflawni cysylltiad addas gyda’r briffordd sy’n ddiogel ar gyfer cerddwyr, beicwyr, gyrwyr a defnyddwyr ffyrdd eraill. Hefyd mae’n bwysig sicrhau nad yw diogelwch ar y ffordd yn cael ei beryglu drwy ganiatáu cynigion a fyddai’n cynhyrchu lefelau traffig sydd y tu hwnt i gapasiti y rhwydwaith ffyrdd cyfagos. Sylw
Llwybrau a chynlluniau cludiant Sylw
5.3.150 Mae argaeledd a’r defnydd o gludiant cyhoeddus yn elfen hollbwysig wrth benderfynu ar bolisïau cynllunio sydd wedi’u dylunio i leihau’r angen i deithio mewn car. I’r perwyl hwn, mae’r polisi cenedlaethol yn ei gwneud yn ofynnol bod awdurdodau cynllunio lleol yn archwilio’r potensial, a nodi unrhyw gynigion, ar gyfer gwella cludiant cyhoeddus ar reilffordd, gan gynnwys ailagor rheilffyrdd. Gallai llwybrau o’r fath ddarparu llwybrau cerdded a beicio fel mesur dros dro cyn cyflwyno’r gwasanaethau rheilffordd. Sylw
5.3.151 Mae’n rhaid gwneud ymdrech ofalus i leihau effeithiau andwyol isadeiledd cludiant newydd neu well ar yr amgylchedd naturiol, hanesyddol ac adeiledig ac ar gymunedau lleol, gan gynnwys iechyd y cyhoedd o ganlyniad i wahanu cymunedol a llygredd yn yr awyr. Dylid ystyried mesurau isadeiledd gwyrdd i liniaru effeithiau negyddol ac i wella ansawdd yr amgylchedd a chysylltedd yn gynnar. Sylw
STA/4 Llwybrau a chynlluniau cludiant Sylw
- Mae’n rhaid cefnogi datblygiad gydag isadeiledd priodol, cysylltiadau cludiant cyhoeddus a chyfleusterau perthnasol, gwasanaethau digidol a gofynion eraill sy’n ofynnol fel rhan o’r cynnig. Bydd gofyn i gynigion ddangos bod:
- Y ddarpariaeth bresennol wedi’i diogelu a bod y capasiti’n ddigonol i gefnogi’r datblygiad arfaethedig; neu
- Lle bo diffyg darpariaeth neu gapasiti sy’n gysylltiedig â’r cynnig yn uniongyrchol
- , bydd angen isadeiledd, cyfleusterau neu fesurau newydd neu well i gefnogi’r datblygiad.
- Bydd gofyn i lwybrau a chynlluniau fod yn hygyrch a diwallu’r polisïau perthnasol a’r safonau rheoleiddio ar gydraddoldeb, mynediad, hawliau dynol a’r Gymraeg, a cheisio diddymu rhwystrau corfforol, agweddol, amgylcheddol, systemig, ieithyddol ac economaidd sy’n atal pobl rhag defnyddio gwasanaethau ac isadeiledd cludiant cynaliadwy.
- Lle bo’r angen, ceisir rhwymedigaethau cynllunio i sicrhau yr eir i’r afael ag unrhyw effeithiau negyddol yn sgil y datblygiad er mwyn gwneud y datblygiad yn un derbyniol, a fydd yn cynnwys mynd i’r afael ag unrhyw ddiffygion a nodir o ran darpariaeth a / neu gapasiti sy’n gysylltiedig â’r cynnig yn uniongyrchol. Efallai y bydd angen amrywiaeth o isadeiledd, gan roi ystyriaeth i natur, maint, lleoliad a hyfywedd ariannol y datblygiad arfaethedig. Mae’n rhaid darparu isadeiledd newydd a / neu well, neu unrhyw fesurau priodol eraill, yn brydlon ac mewn modd cydlynol er mwyn diwallu anghenion y cymunedau presennol ac a gynllunnir cyn, neu wrth ddechrau, camau perthnasol y datblygiad (p’un bynnag sydd fwyaf priodol).
- Bydd yr ACLl yn cefnogi newid dull i gerdded / teithio ar olwynion, beicio a mathau eraill o ficro-symudedd (megis beiciau trydan) sy’n ofyniad craidd ar gyfer datgarboneiddio cludiant. Mae’r mesurau hefyd yn gwella; iechyd, ansawdd aer, gwelliannau’r parth cyhoeddus a gwella isadeiledd gwyrdd.
- Bydd yr ACLl yn ceisio cyflawni gwelliannau a chynnydd i leihau allyriadau carbon corfforedig dros amser i gyflawni gostyngiad o 100% erbyn 2050 ar gyfer yr holl isadeiledd cludiant newydd. Bydd gofyn i gynlluniau cludiant gyfrifo ynni a gostyngiad carbon yn unol ag EN/1 ac EN/6. Bydd gofyn gwrthbwyso unrhyw allyriadau sy’n weddill yn unol â pholisi EN/7
5.3.152 Bydd yr ACLl yn paratoi Strategaeth Gwrthbwyso Carbon a chronfa fel mecanwaith i ddarparu hyblygrwydd i liniaru oddi ar y safle. Sylw
5.3.153 Bydd newid i ddulliau llesol yn debygol o fod fwyaf effeithiol lle bo rhwydwaith integredig o ansawdd uchel sy’n darparu’r llinellau teithio dymunol, er enghraifft; cysylltu ardaloedd preswyl gyda chyrchfannau gan gynnwys prif strydoedd a chanolfannau lleol, canolfannau cyflogaeth a gofal iechyd. Mae canolbwyntiau trafnidiaeth gyhoeddus yn gyrchfannau pwysig eraill, sydd o gymorth i annog newid dull ar siwrneiau hwy lle bo modd cerdded neu feicio ar y dechrau neu’r diwedd i’r rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus ac oddi yno. Sylw
5.3.154 Er mwyn denu pobl dylai’r rhwydwaith cerdded a beicio ddilyn arferion da ar gyfer safonau dylunio gan eu cynnal a’u cadw’n dda. Credir y dylid gwahanu llwybrau beicio lle bo modd. Mewn rhai achosion, byddai modd cyflawni hyn drwy gael gwared â lleoedd parcio ar y stryd (gan gysylltu â mesurau rheoli’r galw, a ddisgrifir ymhellach isod). Mewn mannau eraill, efallai y bydd angen adeiladu llwybrau beicio newydd o ansawdd uchel neu ailddyrannu gofod ffyrdd presennol ar gyfer dulliau teithio llesol. Mae angen dylunio ailddyraniad gofod yn ofalus i sicrhau nad yw’n arwain at fwy o allyriadau carbon gan draffig yn sgil tagfeydd ychwanegol. Sylw
5.3.155 Lle nad oes modd gwahanu, mae gostwng terfynau cyflymder a mesurau lleddfu traffig yn gymorth i ddarparu amgylchedd addas a diogel ar gyfer beicio a theithio ar sgwter ac yn golygu nad oes angen llawer o waith adeiladu (a chostau cysylltiol a charbon corfforedig). Sylw
5.3.156 Mae darparu cyfleusterau o ansawdd ac sy’n blaenoriaethu cerddwyr a beicwyr ar gyffyrdd a chroesfannau hefyd yn elfen bwysig o rwydwaith o ansawdd uchel, ynghyd ag arwyddion a chynllun clir i ddangos y ffordd. Sylw
5.3.57 Bydd gofyn am welliannau pellach, i gysylltu, neu ehangu’r mesurau isadeiledd blaenoriaeth bws lle bo’r rhain yn angenrheidiol er mwyn darparu dewisiadau teithio cynaliadwy a mynd i’r afael ag effaith unrhyw ddatblygiad newydd. Sylw
Canolfannau nwyddau a gwastraff cyfunol Sylw
5.3.158 Mae gofyn i’r CDLlN nodi a, lle bo’n briodol, diogelu’r llwybrau sy’n ofynnol ar gyfer symud nwyddau’n gynaliadwy a diogelu’r isadeiledd cludiant presennol rhag cael eu llechfeddiannu gan fathau eraill o ddatblygiad. Sylw
5.3.159 Mae canolfannau nwyddau a gwastraff cyfunol yn gweithio drwy gasglu nwyddau sydd i fynd i gyrchfan trefol i un canolbwynt a chyfuno’r danfoniadau i nifer llai o lwythi mwy er mwyn lliniaru tagfeydd a’r effaith ar ansawdd aer na’r hyn a geir gan nifer o deithiau llai gan HGV. Mae hefyd yn lleihau nifer y cynwysyddion nwyddau gwag neu rannol wag ar y rhwydwaith. Sylw
5.3.160 Mae’r datrysiadau cyfunol hyn yn aml yn cael eu defnyddio yn y diwydiant adeiladu ac yn gweithio drwy rannu buddion datrysiad y ‘filltir olaf’ rhwng gwahanol gwmnïau nwyddau a gwastraff a / neu ddarparwyr deunyddiau. Mae’r cerbydau sy’n teithio rhwng y canolfannau cyfunol ac unrhyw gyrchfan trefol / terfynol yn Gerbydau Allyriadau Isel Iawn gan leihau’r effaith ar ansawdd aer ymhellach. Sylw
STA/5 Canolfannau nwyddau a gwastraff cyfunol Sylw
- Mae’r Cyngor yn cefnogi datblygiad mewn egwyddor sy’n lleihau teithiau dosbarthu i leihau’r defnydd o danwydd / ynni ac allyriadau drwy annog y defnydd o ganolfannau cyfunol / dosbarthu a defnyddio dulliau amgen ar gyfer cam olaf y danfoniadau megis beic trydan ar gyfer nwyddau a cherbydau bach carbon isel iawn.
- Mae tir ger y rheilffordd yng Nghyffordd Llandudno a Phenmaenmawr wedi’i ddiogelu ar gyfer llwythi rheilffyrdd ac wedi’i ddynodi ar y map cynigion. Dylid diogelu hen reilffyrdd a hen gilffyrdd rheilffordd, mewn cydweithrediad â Thrafnidiaeth Cymru a Network Rail, rhag datblygiadau a fyddai’n atal eu defnyddio yn y dyfodol ar gyfer cludo nwyddau neu deithio llesol.
- Bydd mentrau cludo nwyddau ar y ffyrdd yn cael eu cefnogi pan fyddant yn darparu buddion lleihau carbon a thagfeydd. Bydd cynlluniau’n defnyddio Cerbydau Allyriadau Isel Iawn ac yn ymgorffori isadeiledd gwefru yn unol â STA/2 ynghyd â gwneud y mwyaf o gynhyrchu ynni adnewyddadwy a storio ar neu ger y safle.
- Dylid ystyried mesurau isadeiledd gwyrdd i liniaru effeithiau negyddol ac i wella ansawdd yr amgylchedd a chysylltedd ar gam cynnar ar gyfer unrhyw nwyddau a storfeydd yn unol â pholisïau NE/7 a NE/8.
- Cefnogir datblygiadau newydd ar gyfer cyfuno gwastraff a nwyddau mewn egwyddor ar yr amod eu bod yn cydymffurfio â pholisïau eraill yn y CDLl ac ystyriaethau cynllunio sylweddol.
- Bydd disgwyl i ddatblygiad newydd fod yn garbon niwtral neu’n cyflawni hynny fesul cam i ddiwallu targedau sero net yn unol â pholisi EN/1 ac EN/6.
5.3.161 Ers sawl blwyddyn, roedd cludo nwyddau ar y rheilffordd wedi bod yn gostwng, yn bennaf yn sgil cystadleuaeth cludiant ffyrdd. Ond yn ddiweddar, bu cynnydd yn y defnydd o’r rheilffordd yn genedlaethol i gludo nwyddau ond nid yw hyn wedi digwydd yn lleol. Mae nifer o’r cyfleusterau cludo nwyddau ar y rheilffyrdd yn Ardal y Cynllun naill ai wedi’u tynnu neu eu hailddatblygu heblaw am y cyfleusterau sy’n weddill yng Nghyffordd Llandudno a Phenmaenmawr. Mae’r cyfleusterau hyn yn cynnwys: Sylw
- cilffyrdd wrth ymyl Gorsaf Reilffordd Cyffordd Llandudno,
- terfynell cludo nwyddau rheilffyrdd yng Nghyffordd Llandudno, a
- cyfleuster llwytho balast ym Mhenmaenmawr. Nid yw terfynell cludo nwyddau rheilffyrdd yn cael ei defnyddio ar hyn o bryd, ac mae rhan o’r safle wedi derbyn caniatâd cynllunio dros dro ar gyfer storio.
5.3.162 Mae’r ACLl yn cefnogi trosglwyddo’r nwyddau o’r ffyrdd i’r rheilffordd ac yn credu bod potensial ar gyfer cludo nwyddau ar y rheilffyrdd. Mae’r cyfleoedd i greu cyfleusterau amgen i gludo nwyddau ar y rheilffyrdd yn Ardal y Cynllun yn brin iawn. Comisiynodd Cyd Fwrdd Cludiant Gogledd Cymru (TAITH) astudiaeth strategol i’r potensial ar gyfer cludo nwyddau ar y rheilffyrdd yng Ngogledd Cymru mewn cydweithrediad â datblygiad y Cynllun Cludiant Rhanbarthol. Daeth yr astudiaeth i’r casgliad bod potensial yng Nghyffordd Llandudno er mwyn symud nwyddau archfarchnad ar y rheilffordd, a symud gwastraff ar y rheilffordd fel rhan o fenter ehangach Gogledd Cymru. Mae TAITH yn cefnogi cadw cyfleusterau cludo nwyddau rheilffyrdd ac mae’r Cyngor o blaid diogelu cyfleusterau o’r fath yn y Sir, tra bo posibilrwydd o ddefnyddio’r cyfleusterau hyn at ddibenion cludo nwyddau ar y rheilffyrdd. Sylw
5.3.163 Mae canolfannau cydgrynhoi nwyddau yn gweithio drwy gasglu nwyddau sydd i fynd i gyrchfan drefol i un canolbwynt a chyfuno’r danfoniadau i nifer llai o lwythi mwy neu lwythi mewn cerbydau allyriadau isel iawn er mwyn lliniaru tagfeydd ac allyriadau. Sylw
5.3.164 Ar gyfer ardaloedd preswyl, mae canolfannau dosbarthu yn gweithio’n debyg, gan ddarparu man gollwng unigol ar gyfer parseli yn yr ardal er mwyn iddynt gael eu casglu neu eu danfon gan fan drydan neu e-feic cargo. Sylw
Teithio llesol ac isadeiledd gwyrdd Sylw
5.3.165 Mae teithio llesol ac isadeiledd gwyrdd yn mynd yn law yn llaw o ran buddion ar gyfer iechyd pobl a bioamrywiaeth tra’n gwella ein rhwydwaith teithio llesol. Sylw
5.3.166 Amcan Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 yw “hyrwyddo a darparu isadeiledd gwell ar gyfer cerdded a beicio. Trwy gysylltu ardaloedd allweddol fel gweithleoedd, ysgolion, canolfannau hamdden, iechyd a gwasanaethau cyhoeddus, canol trefi a chymdogaethau lleol gyda llwybrau Teithio Llesol, mae’r Ddeddf yn ceisio lleihau’r ddibyniaeth ar geir preifat ar gyfer teithiau bob dydd”. (Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013). Sylw
5.3.167 Mae gan y system gynllunio rôl bwysig o ran darparu rhwydweithiau teithio llesol, lleihau tagfeydd a chreu strydoedd anheddol. Mae isadeiledd gwyrdd yn aml yn mynd law yn llaw â rhwydweithiau Teithio Llesol ond hefyd gall ddarparu ar gyfer cysylltedd cynefinoedd a lliniaru llifogydd. Sylw
5.3.168 Mae’r Cyngor yn ceisio gwella’r Rhwydwaith Teithio Llesol presennol a gwneud y mwyaf o botensial y Sir ar gyfer llwybrau eraill, drwy sicrhau bod datblygiadau’n cynnwys nodweddion dylunio, cysylltiadau a chyfleusterau sy’n ei gwneud yn hawdd ac yn ddiogel i bobl gerdded a beicio ar gyfer teithiau bob dydd yn lle teithio mewn ceir. Bydd annog ‘Teithio Llesol’ yn gymorth i leihau’r defnydd o geir, yn cefnogi agenda Iechyd a Lles Conwy ac yn galluogi’r Cyngor i gyflawni ei ddyletswydd gyfreithiol o dan Ddeddf Teithio Llesol (Cymru) i ddatblygu, gwella a chynnal rhwydweithiau cerdded a beicio lleol. Mae safonau arferion da yn cynnwys Safonau Dylunio Deddf Teithio Llesol a chanllawiau perthnasol eraill sy’n darparu arweiniad ar gyfer datblygwyr er mwyn sicrhau bod egwyddorion dylunio allweddol yn cael eu defnyddio i ddarparu Teithio Llesol. Sylw
STA/6 teithio llesol ac isadeiledd gwyrdd Sylw
- Lle bo’n briodol, mae’n rhaid i ddatblygiad gymryd cyfleoedd i wella teithio llesol ac isadeiledd gwyrdd trwy ymgorffori o fewn y safle, a / neu wneud cyfraniadau ariannol tuag at ddarpariaeth oddi ar y safle, ynghyd â’r mesurau canlynol fel y bo’n briodol:
- Datganiad isadeiledd gwyrdd yn nodi cynllun y safle a’r dyluniad; llwybrau cerdded a beicio hydraidd, amlwg, uniongyrchol, cyfleus, deniadol a diogel sy’n cysylltu’r datblygiad arfaethedig gyda: aneddiadau cyfagos; lleoliadau cludiant cyhoeddus; hawliau tramwy cyhoeddus, cyfleusterau cymunedol; ardaloedd masnachol a chyflogaeth; cyfleusterau twristiaeth; a chyfleoedd hamdden yn unol â pholisi NE/8;
- yn cynnwys dyluniad addasadwy, cynaliadwy ac o ansawdd uchel sy’n gwneud cyfraniad cadarnhaol at hynodrwydd y cymunedau ac yn darparu rhwydweithiau hydraidd ac amlwg o lwybrau beicio a cherdded diogel, cyfleus a deniadol gan ddiwallu gofynion a nodau’r Asesiad Isadeiledd Gwyrdd;
- gwella cysylltiadau ac estyniadau i’r Rhwydwaith Beicio Strategol
- ymgorffori mesurau i ostwng cyflymder cerbydau a blaenoriaethu cerddwyr a beicwyr;
- gwella bioamrywiaeth ac ansawdd cynefin yn unol â pholisi NE/7, NE/8 a NE/9.
- darparu cyfleusterau newydd gan gynnwys arwyddion, lleoliadau parcio beic / sgwter trydan diogel a, lle bo’r angen, cyfleusterau cawod a newid; ac
- yn cynnwys Parthau Di-geir, lle bo’n briodol.
- Ni chaniateir i ddatblygiadau gael effaith andwyol sylweddol ar Hawliau Tramwy Cyhoeddus na llwybrau presennol a nodwyd ym Map Rhwydwaith Integredig Conwy Deddf Teithio Llesol (Cymru) (2013) a dylid eu dylunio i gynorthwyo i gyflawni Cynllun Teithio Llesol y Cyngor. Efallai y ceisir cyfraniadau lle bo gwelliannau oddi ar y safle’n ofynnol o ganlyniad i’r datblygiad. Bydd llwybrau newydd a gwelliannau’n cael eu cefnogi yn:
- Tref Conwy - gwelliannau i’r bont bresennol i groesi Afon Conwy.
- Bae Colwyn - isadeiledd gwyrdd canol y dref a gwella’r cysylltiadau rhwng canol y dref a glan y môr.
- Bae Cinmel - Cysylltiad Parc Hanes dros yr Afon Clwyd a’r hen bont reilffordd yn cysylltu Green Avenue gyda Sir Ddinbych.
- Glan Conwy i Gyffordd Llandudno
- Cynllun Teithio Llesol Dyffryn Conwy o Gyffordd Llandudno i Fetws-y-coed gan gysylltu â
- gorsaf Dolgarrog.
- Ymyraethau Isadeiledd Gwyrdd a Theithio Llesol Canol Trefi a nodwyd ym Mhapur Cefndir 58.
5.3.169 Yn ogystal â darparu rhwydwaith o ansawdd uchel, mae’r mesurau ategol sy’n annog y defnydd o deithio llesol yn cynnwys: Sylw
- Darparu cyfleusterau ategol mewn ardaloedd preswyl a masnachol ac mewn cyrchfannau beicio, gan gynnwys cyfleusterau storio beic, newid a gwefru beiciau trydan, gan gynnwys man storio beiciau diogel ar gyfer pob aelwyd neu ganolbwynt cludiant neu fasnachol; a
- Chynlluniau llogi beiciau, e-feiciau ac e-sgwteri. Mae’r rhain yn darparu cyfleoedd ar gyfer teithiau cysylltu un ffordd a’r gallu i feicio neu deithio ar sgwter heb gyfrifoldeb a chost perchnogaeth, cynnal a chadw a storio.
5.3.170 Dylid darllen y polisi gyda pholisïau'r CDLlN sy’n ymwneud â chreu lleoedd, adfywio a phrif gynlluniau i sicrhau bod datblygiadau’n rhoi blaenoriaeth i gerdded a beicio yn eu dyluniad a’u cynlluniau. Bydd dyluniad o ansawdd uchel yn allweddol i sicrhau bod cerdded a beicio’n cael ei ystyried yn ddull teithio deniadol, hyfyw a chyfleus. Mae Ardaloedd Datblygu Strategol yn cynnig cyfle gwerthfawr i integreiddio mesurau Teithio Llesol a gwella cysylltedd gyda’r rhwydwaith presennol fel y nodwyd yn y Map Rhwydwaith Teithio Llesol (fel y’u diweddarwyd). Sylw
5.3.171 Mae Llwybr 5 y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol yn croesi drwy’r Sir. Gwnaed ychwanegiadau ac fe gefnogir gwelliannau. Ond, mae nifer o gysylltiadau a gwelliannau y bydd y Cyngor yn eu ceisio. Mae’r rhain i’w gweld yn yr Atodiadau ac yn cynnwys gweithredu pontydd troed newydd neu wella cysylltiadau Teithio Llesol fel y rhestrir yn y polisi uchod. Sylw
5.3.172 Yn ogystal â buddion tramwy bydd y polisi hefyd yn gymorth i annog marchogaeth, cerdded a beicio er budd hamdden, ond y brif nod yw sicrhau rhwydwaith strategol ledled y Sir o lwybrau cysylltiedig, cyfleus a diogel ar gyfer cymudwyr, ac nid llwythi o lwybrau hamdden heb eu cysylltu. Sylw
5.3.173 Bydd Llwybr Arfordir Cymru sy’n croesi’r Sir yn cael ei ddiogelu rhag datblygiadau ar hyd y llwybr. Ceisir cysylltiadau ystyrlon gyda llwybr yr arfordir o ardaloedd aneddiadau a thu hwnt er mwyn gwella cysylltedd gyda’r tirlun arfordirol. Anogir cysylltiadau gyda llwybrau mynediad eraill, gan gynnwys y Rhwydwaith Beicio, i ychwanegu at gysylltedd Llwybr yr Arfordir. Mae’n rhaid i gynigion ar gyfer cysylltiadau ychwanegol gyda Llwybr yr Arfordir sicrhau nad oes effaith andwyol i Lwybr Arfordir Cymru, gan gynnwys o safbwynt cymeriad, diogelwch a chyfleustra. Mae’n rhaid lliniaru’n llwyr yn erbyn unrhyw faterion a ragwelir neu gyflwyno mesurau gwella cyn datblygu unrhyw gysylltiadau. Sylw
5.3.174 Mae llwybrau ceffyl hefyd yn cyfrannu at gysylltedd o fewn y Sir, nid yn unig i hwyluso marchogaeth, ond mae amrywiaeth o ddefnyddwyr, gan gynnwys cerddwyr a beicwyr, yn eu mwynhau a’u defnyddio. Ni ddylai unrhyw ddatblygiad beryglu’r llwybrau ceffyl presennol, ac, fel ar gyfer unrhyw lwybr Teithio Llesol presennol arall, mae’n rhaid ceisio hwyluso cysylltiadau sy’n addas i leoliad y llwybr ceffyl presennol. Sylw
5.3.175 Mae angen i ddatblygiad gydymffurfio â Chanllaw Dylunio - Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 ac ymgorffori Map Llwybr Teithio Llesol Presennol Conwy a’r Map Rhwydwaith Integredig yn eu datblygiadau arfaethedig. Drwy wneud hynny, dylai datblygwyr gydnabod ac ystyried anghenion cerddwyr, beicwyr a defnyddwyr diamddiffyn o gamau cyntaf y cynllun. Dylai bod hyn yn cynnwys yr holl ddefnyddwyr, gan gynnwys pobl ddall / nam ar eu golwg, defnyddwyr sgwteri symudedd / cadeiriau olwyn / pramiau, plant ac oedolion. Dylai bod llwybrau Teithio Llesol yn dilyn llinellau naturiol, uniongyrchol, yn ddeniadol, ac annog eu defnydd drwy gyflwyno cerdded a beicio fel dewis amgen i deithio mewn car. Sylw
Gwelliannau i gyfnewidfeydd a chyfleusterau cludiant cyhoeddus Sylw
5.3.176 Bydd y CDLlN yn hyrwyddo a hwyluso darpariaeth isadeiledd cludiant cyhoeddus o safon uchel a bydd yn gosod polisïau i gynyddu’r defnydd o gludiant cyhoeddus. Bydd yn nodi a hwyluso llwybrau, mesurau a chyfleusterau cludiant cyhoeddus priodol, gan gymryd i ystyriaeth cynigion yn y Cynllun Cludiant Lleol, a allai gynnwys gwella cyfleusterau i deithwyr ar fysiau, cynlluniau parcio a theithio, rheilffyrdd newydd (gan gynnwys trenau ysgafn), ail-agor rheilffyrdd, darparu gorsafoedd newydd a gwella gwasanaethau i deithwyr ar reilffyrdd presennol. Sylw
5.3.177 Mae cyfnewidfeydd cludiant yn caniatáu trosglwyddo dulliau teithio i naill ai bws, rheilffordd neu mewn amgylchiadau cyfyngedig, cludiant ar y dŵr. Mae darparu cyfnewidfa sy’n gyfleus ac effeithlon rhwng y dulliau teithio’n allweddol er mwyn sicrhau bod dewisiadau teithio cynaliadwy’n fwy deniadol ac ymarferol. Mae’r polisi’n darparu ar gyfer pob math o gyfnewidfeydd cludiant a allai gynorthwyo i gyflawni’r newid o ddefnyddio ceir preifat, gan gynnwys anogaeth i ddefnyddio gwasanaethau rheilffyrdd lleol. Mae’n cefnogi rhwydwaith sefydlog a chydlynol o wasanaethau bws sydd wedi’u hintegreiddio gyda mathau eraill o gludiant cyhoeddus sy’n ddibynadwy, fforddiadwy, hyblyg, hawdd eu defnyddio, carbon isel ac yn annog mwy o bobl i ddefnyddio’r bws yn lle eu ceir. Sylw
5.3.178 Mae newid siwrneiau i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus effeithlon a mathau eraill o drafnidiaeth a rennir, yn hytrach na defnyddio ceir sy’n cynnwys y gyrrwr yn unig neu ychydig o bobl, yn elfen bwysig arall o leihau allyriadau trafnidiaeth. Sylw
5.3.179 Bydd y newid i gludiant cyhoeddus yn fwy tebygol lle bo darpariaeth gwasanaeth dibynadwy, o ansawdd uchel a fforddiadwy gan ddarparu cysylltiadau rhwng lleoliadau allweddol. Sylw
5.3.180 Mae canolfannau a phwyntiau symudedd yn darparu canolbwynt ar gyfer dewisiadau trafnidiaeth a gwasanaethau eraill, gan gysylltu cymunedau gyda gwahanol fathau o drafnidiaeth gyhoeddus neu drafnidiaeth a rennir ynghyd â gweithredu fel pwyntiau dosbarthu cyfunol ar gyfer parseli neu lwythi. Maent wedi’u diffinio drwy’r canlynol: Sylw
- Cydleoli dulliau symudedd cyhoeddus ac a rennir.
- Ailddylunio gofod i leihau gofodau parcio ceir preifat a gwella’r parth cyhoeddus cyfagos.
- Brandio clir sy’n nodi bod y gofod yn ganolfan symudedd a gwybodaeth a chynllun dangos y ffordd i ddangos y cysylltiadau i’r rhwydwaith trafnidiaeth ehangach.
5.3.181 Mae angen cysylltiadau o ansawdd da rhwng y gwasanaethau, o ran cysylltiadau ffisegol ond mae alinio amserlenni bysiau a rheilffyrdd yn bwysig hefyd er mwyn annog pobl i newid dull teithio. Gall datblygu canolfannau symudedd neu gyfnewidfeydd hybu integreiddio drwy ddarparu ffocws penodol a deniadol ar gyfer mynediad a chysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus ac a rennir, sy’n canolbwyntio ar orsaf reilffordd neu safle bws presennol lle bo modd a darparu gwybodaeth hygyrch ar ddewisiadau teithio ynghyd â mynediad at wasanaethau a chyfleoedd eraill (fel siopau, canolbwyntiau digidol a mannau dosbarthu pecynnau). Sylw
5.3.182 Gallai mesurau i wella amgylchedd y safleoedd a gorsafoedd ac ar gerbydau gynorthwyo i gynyddu’r defnydd. Sylw
5.3.183 Fel arfer mae trafnidiaeth sy’n seiliedig ar alw yn gwasanaethu llwybrau ac amserlen benodol ond yn cael eu cynnal os yw’r teithwyr yn archebu lle ymlaen llaw a dim ond y rhannau o’r daith y gofynnwyd amdanynt fydd yn cael eu gwasanaethu. Mae modd archebu drwy ganolfan ganolog, naill ai ar-lein neu dros y ffôn, ac yn aml mae technoleg telemateg fflyd ar gael sy’n galluogi’r sawl sy’n anfon y cerbyd neu’r cwsmer i gael gwybod union leoliad ac amseroedd y cerbyd. Gallai trafnidiaeth seiliedig ar alw weithio ‘am yn ôl’ o amser dechrau sifft, amserlen trenau neu bwynt terfyn penodol arall, a dylunio’r llwybr i wneud y mwyaf o’r defnydd gan gwsmeriaid. Os yw wedi’i ddylunio’n dda, gall trafnidiaeth seiliedig ar alw ddarparu gwasanaeth effeithlon a hyblyg. Ond, mae angen osgoi rhai risgiau megis llai o welededd ar gyfer y gwasanaeth (gan nad yw’n mynd i safleoedd bysiau penodol ar adegau penodol), gan leihau’r gwelededd o bosibl. Sylw
5.3.184 Mae mathau eraill o drafnidiaeth a rennir fel rhannu ceir, clybiau ceir, a thrafnidiaeth seiliedig ar alw o gymorth i ddarparu dewisiadau amgen yn lle defnydd o geir preifat ar lwybrau sydd heb ddigon o alw i gynnal gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus. Sylw
5.3.185 Mae modd annog newid dull teithio drwy fesurau sy’n seiliedig ar dechnoleg fel darparu Symudedd fel Gwasanaeth, sy’n bosibl drwy gynyddu argaeledd data a thechnoleg ffôn symudol. Mae fframweithiau Symudedd fel Gwasanaeth sydd wedi’u dylunio’n dda yn integreiddio trafnidiaeth gyhoeddus a dulliau trafnidiaeth a rennir ac yn darparu dulliau hawdd o dalu, mynediad hawdd at wybodaeth ddibynadwy a gwell integreiddiad rhwng y gwasanaethau. Mae’r system yn ei gwneud yn haws cynllunio a thalu am deithiau fel taith sengl o’r dechrau i’r diwedd, gan wneud y dewis a’r newid dull teithio yn fwy deniadol. Sylw
5.3.186 Mae rhaglenni Symudedd fel Gwasanaeth yn uno gwybodaeth ar draws ystod eang o ddulliau a gwasanaethau trafnidiaeth, er enghraifft mewn ap ar ffôn clyfar. Maent yn darparu nodweddion fel cynllunio siwrnai o’r dechrau i’r diwedd, galluogi prynu tocyn sawl dull teithio, ac ennill a gwario gwobrau. Mae pob system yn darparu fframwaith unedig er mwyn defnyddio dull teithio a rennir ochr yn ochr â thrafnidiaeth gyhoeddus ar amserlen, gan leihau’r cymhlethdod a’r gost, a gwneud y dewisiadau yn fwy deniadol a hygyrch i’r defnyddwyr. Sylw
5.3.187 Bydd Symudedd fel Gwasanaeth yn cyfuno gwahanol wasanaethau i lunio taith gyfan o ddrws i ddrws, gan gynnwys gwasanaeth i archebu gwasanaeth microsymudedd, tacsis a thocynnau ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus. Sylw
5.3.188 Mae Symudedd fel Gwasanaeth fel arfer yn cynnwys naill ai tanysgrifiad misol unigol, a fydd yna’n cynnwys yr holl gostau trafnidiaeth a archebir o fewn y mis, neu system ‘talu wrth fynd’. Sylw
Mesurau rheoli’r galw Sylw
5.3.189 Mae rheoli’r galw am gerbydau ffyrdd yn rhan bwysig o ddatgarboneiddio drwy ailgydbwyso’r costau a chyfleustra dulliau teithio ar y ffordd â dulliau cynaliadwy. Y canlyniad yw lleihau’r flaenoriaeth a roddir i gyfleustra defnyddio cerbydau ffyrdd yn hytrach na’r amcanion eraill. Mae ffafrio cerbydau ffyrdd wedi’i ymgorffori yn nyluniad trafnidiaeth a threfol dros sawl degawd. Mae’r dylanwad hirdymor wedi arwain at y sefyllfa bresennol lle bo lefelau uchel yn defnyddio cerbydau ffyrdd ac maent yn cymryd lle blaenllaw mewn ardaloedd trefol, er bod eu heffeithiau negyddol yn cael eu cydnabod yn eang. Mae’r effeithiau ehangach yn cynnwys y rhai ar ansawdd aer, sŵn, parth cyhoeddus, a chydraddoldeb mynediad at gyfleusterau. Sylw
- Cynyddu costau parcio. Nid ar chwarae bach y gwneir penderfyniadau o ran codi tâl. Ond ar lefel genedlaethol, mae cynyddu prisiau a chymhellion yn fecanwaith i:
- Lleihau’r gofodau parcio sydd ar gael ac adleoli i leoliadau sy’n llai canolog, gan olygu bod modd defnyddio ardaloedd yng nghanol trefi at ddibenion eraill.
- Ehangu’r ardaloedd lle codir tâl am barcio
- Mesuraugostegutraffig,gangynnwysparthau20myaa chymdogaethau traffig isel sy’n lleihau manteision amser defnydd o geir ac yn atal cerbydau nwyddau.
- Codi tâl ar ddefnyddwyr ffyrdd / ardoll eco, gan olygu bod defnyddwyr ffordd yn talu am y difrod amgylcheddol a chosir gan bob cilometr a deithir, yn hytrach na bod y gymdeithas ehangach yn derbyn y costau fel y gwneir yn awr.
- Creu canolfannau cyfuno nwyddau.
- Efallai y bydd gyrru effeithlon a rheoli rhwydwaith yn golygu y bydd angen cynyddu capasiti’r ffyrdd ychydig er mwyn lliniaru tagfeydd penodol neu i ddarparu cysylltiadau i ddatblygiadau newydd sydd wedi’u dylunio’n dda i leihau pellter teithio ac annog teithio aml-ddull.
- Gostwng terfyn cyflymder mewn ardaloedd allweddol.
STA/7 Gwelliannau i gyfnewidfeydd a chyfleusterau cludiant cyhoeddus Sylw
- Mae’r ACLl yn hyrwyddo a bydd yn hwyluso’r ddarpariaeth, datgarboneiddio, a hygyrchedd; yn enwedig i ddiwallu anghenion pobl anabl, i wella a chysylltu isadeiledd cludiant cyhoeddus a gwasanaeth digidol. Mae’r CDLlN yn dynodi ac yn diogelu llwybrau, mesurau a chyfleusterau cludiant cyhoeddus priodol.
- Mae’r CDLlN yn cefnogi mewn egwyddor gwella cyfleusterau ar gyfer teithwyr bws, cynlluniau parcio a theithio, rheilffyrdd newydd, gan gynnwys rheilffyrdd ysgafn, darparu gorsafoedd newydd, a gwella gwasanaethau i deithwyr ar y llwybrau presennol. Bydd hyn yn cynnwys darparu llwybrau teithio llesol clir, hygyrch, diogel, uniongyrchol a deniadol i gysylltu canolbwyntiau yn y datblygiad a gwella gwasanaethau cludiant cyhoeddus i wasanaethu’r datblygiad.
- Lle bo’r angen, bydd gofyn i ddatblygwyr ddarparu gwelliannau priodol i gyfleusterau cyfnewidfa fysiau neu reilffyrdd presennol, a darparu cysylltiadau cyfleus o ansawdd uchel i gyfnewidfeydd perthnasol er mwyn denu defnyddwyr a lleihau nifer y teithiau mewn ceir.
- Dylai canolfannau a phwyntiau symudedd ddarparu canolbwynt ar gyfer dewisiadau cludiant a gwasanaethau eraill, gan gysylltu pobl gyda gwahanol fathau o gludiant cyhoeddus ac a rennir ynghyd â gweithredu fel pwyntiau dosbarthu cyfunol ar gyfer parseli neu nwyddau.
- Bydd yr ACLl yn ceisio sicrhau fod gan yr holl wasanaethau cludiant cyhoeddus a brynir ar gyfer datblygiad newydd y potensial beidio â chynhyrchu allyriadau drwy beipen fwg (trydan neu hydrogen).
- Dylai Datganiad Isadeiledd Gwyrdd gefnogi cynnig datblygu ac amlinellu gwelliannau bioamrywiaeth ac isadeiledd gwyrdd, gan gynnwys drwy ddarparu er enghraifft, Systemau Draenio Cynaliadwy, toeau gwyrdd a’r defnydd o swbstrad y bydd disgwyl eu cynnwys ym mhob cynllun cyfnewidfeydd cludiant yn unol â pholisi NE/7, EQ/2 ac EQ/4
5.3.190 Bydd yr ACLl yn cefnogi a hyrwyddo rhwydwaith sefydlog a chydlynol o wasanaethau bws sydd wedi’u hintegreiddio gyda mathau eraill o gludiant cyhoeddus sy’n ddibynadwy, fforddiadwy, hyblyg, hygyrch, hawdd eu defnyddio, carbon isel ac yn annog mwy o bobl i ddefnyddio cludiant cyhoeddus yn lle ceir preifat. Sylw
5.3.191 Gall datblygu canolfannau symudedd neu gyfnewidfeydd hybu integreiddio drwy ddarparu ffocws penodol a deniadol ar gyfer mynediad a chysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus ac a rennir, sy’n canolbwyntio ar orsaf reilffordd neu safle bws presennol lle bo modd a darparu gwybodaeth hygyrch ar ddewisiadau teithio ynghyd â mynediad at wasanaethau a chyfleoedd eraill (fel siopau, canolbwyntiau digidol a mannau dosbarthu pecynnau). Sylw
5.3.192 Dylai canolfannau a phwyntiau symudedd ddarparu: Sylw
- Cydleoli dulliau symudedd cyhoeddus ac a rennir.
- Ailddylunio gofod i leihau gofodau parcio ceir preifat a gwella’r parth cyhoeddus cyfagos.
- Brandio clir sy’n nodi bod y gofod yn ganolfan symudedd a gwybodaeth a chynllun dangos y ffordd i ddangos y cysylltiadau i’r rhwydwaith trafnidiaeth ehangach.
STA/8 Safonau parcio Sylw
- Mae’n rhaid i gynigion gynnwys darpariaeth briodol, yn unol â’r CCA Safonau Parcio diwygiedig a’r canllawiau cenedlaethol, ac ystyried y gofynion ar gyfer beiciau, ceir, Cerbydau Heb Allyriadau ac Allyriadau Isel Iawn, sgwteri trydan, beiciau modur a cherbydau gwasanaeth. Mewn amgylchiadau lle na ellir darparu digon o leoedd parcio ar y safle, neu nad yw’n cael ei ystyried yn briodol, bydd gofyn i ddatblygwyr ddarparu cyfraniad ariannol a/neu welliant ar gyfer mesurau cludiant a chyfleusterau amgen lle bo hynny’n briodol.
- Ar safleoedd cyflogaeth, dylid rheoli’r galw am gerbydau ffordd trwy gyfyngu nifer y lleoedd parcio sydd ar gael yn gyffredinol a chreu gofodau parcio blaenoriaeth ar gyfer cerbydau a rennir/ cerbydau â mwy o bobl ynddynt a Cherbydau Allyriadau Isel Iawn.
- Ceisir darpariaeth ar gyfer mannau parcio beiciau diogel ac mewn lleoliad cyfleus a chyfleusterau cysylltiol ym mhob cynllun datblygu priodol, gan gynnwys preswyl, busnes a manwerthu yn ogystal ag unrhyw gyfnewidfeydd cludiant arfaethedig. Dylai’r cynigion gynnwys cyfleusterau parcio beiciau gan gynnwys storio, newid a gwefru beiciau trydan, gan gynnwys storfa feiciau diogel. Mewn cynlluniau mwy, dylid sefydlu cynlluniau llogi beiciau, beiciau trydan a sgwteri trydan. Mae’r rhain yn darparu cyfleoedd ar gyfer teithiau cysylltu un ffordd a’r gallu i feicio neu deithio ar sgwter trydan heb gyfrifoldeb a chost perchnogaeth, cynnal a chadw a storio.
- Ni chaniateir cynigion ar feysydd parcio a fyddai’n lleihau darpariaethau parcio lle byddai colli cyfleusterau parcio yn:
- Peryglu diogelwch ar y briffordd;
- Cael effaith andwyol ar hygyrchedd a / neu lif y traffig;
- Yn lleihau’r darpariaethau parcio ar gyfer preswylwyr, busnesau neu ymwelwyr yn sylweddol yn absenoldeb unrhyw gyfleoedd parcio amgen priodol.
- Dylai ardaloedd parcio ceir newydd gynnwys isadeiledd ar gyfer pwyntiau gwefru Cerbydau Allyriadau Isel Iawn gan gynnwys cymysgedd o gyfarpar gwefru araf a chyflym (y rhai cyflym i gefnogi cerbydau clwb ceir yn benodol) sy’n addas ar gyfer pob math penodol o gerbydau yn unol â Pholisi STA/2. Lle bo modd dylid integreiddio’r cyfleusterau gwefru gyda chyfleusterau cynhyrchu trydan adnewyddadwy yn lleol, yn unol â Pholisi EN/4 ac EN/8 a sicrhau y gwneir y mwyaf o botensial batris i ddarparu cyfleusterau storio.
- Bydd disgwyl i welliannau bioamrywiaeth ac isadeiledd gwyrdd, gan gynnwys drwy ddarparu Systemau Draenio Cynaliadwy, gael eu hymgorffori yn yr holl gynlluniau parcio yn unol â pholisi NE/7, EQ/2 ac EQ/4.
5.3.193 Gall argaeledd lleoedd parcio gael effaith sylweddol ar y cludiant a ddewisir gan bobl. Yn unol â hynny, mae polisi’r Llywodraeth yn ceisio cyfyngu lefelau parcio sy’n gysylltiedig â datblygiad newydd er mwyn gwneud llai o ddefnydd o geir preifat a hyrwyddo mathau mwy cynaliadwy o gludiant. Gall meysydd parcio hefyd ddefnyddio llawer iawn o le a, gan hynny, maent yn effeithio ar ymddangosiad datblygiad a defnydd effeithlon o dir. Mae adran 4 TAN18 yn nodi ‘gall rheolaethau ar barcio, codi tâl a therfynau ar ddarpariaeth neu amser fod yn briodol pan fyddant yn ategu polisïau defnydd tir, yn cyfrannu at leihau tagfeydd ac yn diogelu amwynderau’. Pwrpas y polisi a'r CCA hwn yw rheoli'r galw am fathau penodol o barcio, er mwyn hyrwyddo nodau amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd y cynllun. Lle mae cyfleoedd yn codi, er enghraifft ar safleoedd defnydd cymysg, anogir parcio ceir a rennir a rhaglenni rhannu ceir i leihau'r ddarpariaeth. Bydd yr ACLl yn adolygu ei safonau parcio yng ngoleuni’r Cynllun Cludiant Rhanbarthol ac wrth iddo gael ei ddiweddaru. Sylw
Hawliau Tramwy Cyhoeddus a llwybrau hamdden Sylw
5.3.194 Mae’r Cyngor wedi ymrwymo i’w ddyletswydd statudol i ddiogelu rhwydwaith Hawliau Tramwy Cyhoeddus y Sir at ddibenion mynediad cyhoeddus a hamdden. At hynny mae nifer o’r Hawliau Tramwy Cyhoeddus yn nodweddion hanesyddol yn eu hawl eu hunain ac yn rhan o’r rhwydwaith Isadeiledd Gwyrdd sy’n cefnogi nifer o ecosystemau drwy gysylltu cynefinoedd. Nid yw cymeradwyo caniatâd cynllunio yn rhoi caniatâd i addasu Hawl Tramwy Cyhoeddus. Mae’n rhaid cael gorchymyn i’w wyro neu ei atal ac mae’n rhaid cyflwyno cais ar wahân i’r Cyngor ar gyfer unrhyw addasiad. Mae’n rhaid cadarnhau gorchymyn gwyro cyn dechrau’r gwaith datblygu. Lle bo’r angen, defnyddir amodau cynllunio i sicrhau nad yw datblygiad yn dechrau cyn gwneud trefniadau i ddarparu llwybr amgen addas. Os yw gwyro Hawl Tramwy Cyhoeddus yn ofynnol er mwyn galluogi datblygiad, mae’n rhaid nodi llwybr amgen a’i ymgorffori yn y cais cynllunio. Sylw
5.3.195 Yn ogystal â chyfrifoldebau statudol ar gyfer rhwydwaith Hawliau Tramwy Cyhoeddus, mae’r polisi’n ceisio hwyluso llwybrau mynediad cyhoeddus newydd a gwell oddi ar y ffordd. Bydd unrhyw ddatblygiad a fyddai’n rhwystro a / neu yn cael effaith andwyol annerbyniol ar fwynhad llwybr presennol neu lwybr newydd arfaethedig yn cael ei wrthod, oni bai y cadarnheir ac y cytunir ar lwybr amgen derbyniol cyn dechrau’r gwaith ar y datblygiad. Mae hyn yn unol â Chynllun Mynediad i Gefn Gwlad y Cyngor. Mae hefyd yn cefnogi nodau i hyrwyddo mynediad hamdden i ofodau gwyrdd trefol ac yng nghefn gwlad. Sylw
Strategaeth manwerthu a chanol trefi yn gyntaf Sylw
Amcan strategol 3 (SO3) canolfannau manwerthu a masnachol: cyflawni canolfannau tref a masnachol ffyniannus, deniadol a hyfyw yng Nghonwy drwy ailddiffinio eu rôl a thrwy annog amrywiaeth o weithgareddau a defnydd. Sylw
5.3.196 Mae Polisi Cynllunio Cymru yn nodi y dylai awdurdodau cynllunio lleol ddatblygu strategaeth a pholisïau clir ar gyfer datblygiad manwerthu drwy eu cynlluniau datblygu, sy'n ceisio cyflawni canolfannau manwerthu a masnachol bywiog, deniadol a hyfyw. Dylent osod fframwaith ar gyfer dyfodol canolfannau manwerthu a masnachol yn eu hardal sy’n hybu sector manwerthu llwyddiannus gan gefnogi cymunedau presennol. Mae'r canllawiau'n amlinellu'r amcanion canlynol ar gyfer canolfannau manwerthu a masnachol: Sylw
- Hyrwyddo canolfannau manwerthu a masnachol trefol a gwledig hyfyw fel y lleoliadau mwyaf cynaliadwy i fyw, gweithio, siopa, cymdeithasu a chynnal busnesau;
- Cynnal a gwella bywiogrwydd, hyfywedd ac apêl canolfannau manwerthu a masnachol; a
- Gwella mynediad at, ac o fewn, canolfannau manwerthu a masnachu drwy bob math o gludiant, yn enwedig cerdded, beicio a chludiant cyhoeddus.
5.3.197 Dylai defnyddiau Manwerthu A1 (siopau) barhau i fod yn sail i ganolfannau manwerthu a masnachol, ond dylai polisïau lleol annog amrywiaeth yn y canolfannau, gan gynnwys gwasanaethau ariannol a phroffesiynol (A2), bwyd a diod (A3), swyddfeydd (B1), gwestai (C1), sefydliadau addysgol ac amhreswyl eraill (D1), hamdden (D2) a defnyddiau sui generis penodol eraill fel theatrau a thai golchi. Dylid annog datblygiadau defnydd cymysg. Mae cyfleusterau hamdden a chymdeithasol hefyd yn briodol os caiff amwynder cyfagos ei ddiogelu'n briodol. Sylw
RTC/1 manwerthu a chanol trefi yn gyntaf Sylw
Bydd canolfannau manwerthu a masnachol yn ardal CDLl newydd Conwy yn ganolbwyntiau gweithgarwch cymdeithasol ac economaidd ac yn bwynt ffocws i amrywiaeth o gyfleusterau a gwasanaethau sy’n cefnogi anghenion cymunedau lleol. Bydd hyn yn cael ei annog a'i ddiogelu trwy:
- Sefydlu hierarchaeth ar gyfer canolfannau manwerthu a fydd yn arwain lleoliad datblygiad manwerthu newydd, polisi RTC/2.
- Dynodi ffiniau Prif Ardal Siopa a Pharthau Siopa mewn canolfannau manwerthu mwy, polisïau RTC/3 a RTC/4 i ddiogelu eu hiechyd manwerthu.
- Diogelu swyddogaeth manwerthu penodol Parc Llandudno a Pharciau Manwerthu Mostyn Champneys a swyddogaeth hamdden Parc Hamdden Cyffordd Llandudno, polisi RTC/5 i amddiffyn canol trefi.
- Annog ffryntiadau strydoedd siopa o ansawdd uchel a diogelwch blaen siopau, polisi RTC/6.
- Darparu polisïau sy'n seiliedig ar feini prawf ar gyfer cynigion manwerthu newydd y tu allan i'r canolfannau manwerthu ac ar gyfer newidiadau defnydd yng nghanol trefi, polisi RTC/7.
5.3.198 Mae canolfannau manwerthu yn ganolfannau gweithgarwch cymdeithasol ac economaidd. Maent yn cynnwys ystod eang o wasanaethau a defnyddiau, gan gynnwys siopa, hamdden, cyflogaeth, addysg, hunaniaeth ddinesig a chyfleoedd ar gyfer rhyngweithio cymdeithasol. Mae'r rhain yn cefnogi anghenion y gymuned leol, ac yn achos y canolfannau mwy, y gymuned ehangach hefyd. Dylid ystyried hefyd ddefnyddio mannau cymdeithasol i hwyluso a hyrwyddo'r defnydd o'r Gymraeg yn unol â strategaeth iaith y Cyngor. Sylw
5.3.199 Mae Polisi Cynllunio Cymru yn ei gwneud yn ofynnol i ACLl sefydlu hierarchaeth canolfannau manwerthu a masnachol. Nodir y canolfannau manwerthu yn ardal CDLl Conwy isod, fel y'u llywiwyd gan Bapur Cefndir 26: Hierarchaeth Fanwerthu. Maent wedi'u categoreiddio yn ôl canllawiau yn Polisi Cynllunio Cymru a TAN4: Datblygiad Manwerthu a Masnachol yn seiliedig ar lefel y cyfleusterau a'r gwasanaethau a ddarparant, dalgylchoedd eu cynnig manwerthu a maint y boblogaeth sy'n siopa yno. Sylw
RTC/2 hierarchaeth fanwerthu Sylw
- Mae'r CDLl newydd yn sefydlu hierarchaeth fanwerthu ar gyfer canolfannau siopa yn ardal CDLl newydd Conwy yn unol â chanllawiau cynllunio cenedlaethol. Mae'r hierarchaeth fanwerthu ganlynol wedi'i sefydlu ac fe'i darlunir yn Ffigur 18 isod:
- Canolfan Siopa Is-Ranbarthol: Llandudno
- CanolTrefi: Abergele, Bae Colwyn, Conwy a Llanrwst.
- CanolfannauLleol: Craig y Don, Deganwy, Bae Cinmel, Llanfairfechan, Cyffordd Llandudno, Hen Golwyn, Penmaenmawr, Llandrillo-yn-Rhos, West End (Bae Colwyn)
- Bydd cynigion ar gyfer datblygiad manwerthu yn cael eu hystyried yn unol â'r hierarchaeth hon. Llandudno, fel Canolfan Siopa Is-ranbarthol yw'r lleoliad a ffefrir ar gyfer datblygiad manwerthu newydd, ac yna'r Canolfannau Trefi dynodedig ac yna'r Canolfannau Lleol. Bydd unrhyw gynigion manwerthu y tu allan i'r canolfannau hyn yn cael eu hasesu yn unol â pholisi RTC/7 a chanllawiau cynllunio cenedlaethol.
Ffynhonnell:SPPS,CBSC Sylw
5.3.200 Mae nodi hierarchaeth canolfannau manwerthu yn y CDLl Newydd yn ofynnol gan Bolisi Cynllunio Cymru ac mae'n bwysig o ran: Sylw
- Sicrhau bod bywiogrwydd a hyfywedd canolfannau tref a lleol yn cael ei gynnal a’i wella fel eu bod yn ganolbwynt pwysig i’r gymuned, drwy ddefnyddio’r prawf asesu effaith
- Annog defnyddiau manwerthu a phrif ddefnyddiau canol tref mewn lleoliadau priodol sy’n hygyrch a chynaliadwy, drwy ddefnyddio dull dilyniannol i ddewis safleoedd; a
- Nodi rôl hyfyw a strategaeth ar gyfer pob canol tref.
5.3.201 Bydd angen i ddatblygiadau newydd yn y canolfannau manwerthu (gan gynnwys adeiladau newydd, ailddatblygiadau, estyniadau a newid defnydd) fod yn gydnaws â graddfa a swyddogaeth y ganolfan honno, a rhoi sylw i safle'r ganolfan yn yr hierarchaeth. Bydd angen i gynigion ar gyfer defnyddiau sy'n briodol ar gyfer canol tref, fel y'u diffinnir ym Mholisi Cynllunio Cymru, fabwysiadu dull dilyniannol o ddatblygu, gan roi blaenoriaeth i safleoedd yng nghanol y Canolfannau Is-ranbarthol a Chanol Trefi, ac yna safleoedd ar ymyl y ganolfan, y tu allan i'r ganolfan ac yna'r Canolfannau Lleol. Sylw
5.3.202 Llandudno yw'r ganolfan fanwerthu fwyaf yn ardal y CDLlN ac mae'n denu nifer fawr o siopwyr ac ymwelwyr, gan gynnwys o'r tu allan i'r Fwrdeistref Sirol. Bydd rôl is-ranbarthol Llandudno yn cael ei diogelu a'i gwella i sicrhau ei bod yn parhau i fod yn lle cynaliadwy i fyw, gweithio ac ymweld ag ef, trwy ddenu manwerthu newydd a defnyddiau canol tref eraill i'r ardal hon. Sylw
5.3.203 Mae rhagamcanion Papur Cefndir 61: Astudiaeth Canol Trefi yn Gyntaf yn darparu asesiad meintiol o'r cwmpas ar gyfer arwynebedd llawr manwerthu a bwyd/diod newydd yn ardal y cynllun hyd at 2033. Mae'r rhagamcanion yn cysylltu â'r rhai ym Mhapur Cefndir 1 ac yn mabwysiadu rhagolygon diweddaraf Experian ar gyfer twf poblogaeth, gwariant cyfartalog fesul person, ffurfiau arbennig o fasnachu a chyfraddau twf dwysedd gwerthiant. Ystyriaeth arall yw goblygiadau hirdymor posibl pandemig COVID-19. Sylw
5.3.204 Mae Papur Cefndir 61 yn dangos bod diffyg gwariant nwyddau cymhariaeth yn cael ei ragweld ym mhob blwyddyn hyd at 2033, sy'n awgrymu gorgyflenwad o ofod llawr manwerthu, gan arwain at ragamcanion gofod llawr negyddol. Mae’r gweddill mewn gwariant hyd at 2033 yn dangos bod yna gapasiti ar gyfer gofod llawr nwyddau cyfleustra ychwanegol mewn rhai lleoliadau yn ardal y cynllun, ond mewn mannau eraill rhagwelir y bydd gormod o ofod llawr. Yn gyffredinol, mae'r capasiti ar gyfer gofod llawr nwyddau cyfleustra ar draws y Sir yn isel ar 509 m2 hyd at 2033. Sylw
5.3.205 Ar ôl pwyso a mesur, mae’r amcanestyniadau hyn yn awgrymu nad oes angen canfod safle ar gyfer datblygiad manwerthu neu fwyd/diod mawr newydd. Dylai bod y stoc bresennol o eiddo yn gallu darparu lle ar gyfer y rhan fwyaf neu’r holl dwf yn y dyfodol ac felly rhagwelir mai datblygiadau bach fydd yn dwyn ffrwyth. Felly, ystyrir y bydd capasiti yn y canolfannau manwerthu presennol a'r dull hyblyg a amlinellir ym mholisi RTC/7 yn mynd i'r afael ag unrhyw angen manwerthu dros gyfnod y cynllun. Sylw
RTC/3 Prif Ardal Siopa Sylw
Mae Prif Ardaloedd Siopa wedi'u dynodi yn Llandudno fel y dangosir ar y map cynnig. Bydd newid defnydd llawr gwaelod eiddo yn yr ardaloedd hyn o siopau Dosbarth A1 i unrhyw ddefnydd arall yn cael ei ganiatáu yn unig dim ond lle;
- Gellir dangos nad oes angen yr adeilad ar y llawr gwaelod ar gyfer defnydd Siop Dosbarth A1 mwyach i unrhyw ddefnydd arall, a bod cadw'r eiddo hwnnw wedi'i archwilio'n llawn, heb lwyddiant, trwy dystiolaeth farchnata ar gyfradd farchnad resymol a realistig am o leiaf 6 mis; a,
- Nid yw'r newid defnydd arfaethedig yn cael effaith annerbyniol ar y swyddogaeth fanwerthu a bywiogrwydd, atyniad a hyfywedd y Prif Ardal Siopa ddynodedig.
5.3.206 Nid yn unig y mae siopa yn cyfrannu at fywiogrwydd, atyniad a hyfywedd canol trefi, ond mae'n darparu manteision i'r economi leol a gall ategu amcanion hamdden a thwristiaeth y cynllun hwn. Felly mae'n hanfodol amddiffyn craidd manwerthu a ffryntiadau siopau prif ganolfannau siopa a gwrthwynebu datblygiadau sy'n niweidio neu'n tanseilio'r swyddogaeth hon. Sylw
5.3.207 Mae Polisi Cynllunio Cymru yn annog cymysgedd o ddefnyddiau i ddarparu canolfannau manwerthu bywiog, hyfyw a deniadol, gan mai dim ond rhan o'r hyn sy'n sicrhau bywiogrwydd canolfan yw defnyddiau A1. Sylw
5.3.208 Gall defnyddiau hamdden ac adloniant a bwyd a diod fod o fudd i ganolfannau manwerthu a masnachol. Rhaid rhoi sylw gofalus i ddiogelu amwynder wrth gyfrannu at economi gyda'r nos. Mae Polisi Cynllunio Cymru yn annog cynlluniau defnydd cymysg, sydd wedi'u cynllunio mewn ffordd briodol. Mae hefyd yn annog economi gyda'r nos ac economi nos bywiog a hyfyw, a phrofiadau a mannau diwylliannol, sydd â'r potensial i gyfrannu'n gadarnhaol at adfywio canolfan. Sylw
5.3.209 Dywed TAN4, y dylid cydnabod y rôl y gall defnyddiau preswyl ei chwarae wrth gefnogi canolfannau hefyd, ac er nad yw defnydd preswyl yn debygol o fod yn briodol ar lefel y llawr gwaelod mewn prif ardaloedd oherwydd effeithiau negyddol ffryntiadau gwag, gall defnydd o'r fath ar loriau uchaf ychwanegu at fywiogrwydd a hyfywedd canolfannau, gan gynyddu nifer yr ymwelwyr a chyfrannu at economïau dydd a gyda'r nos canolfan. Sylw
5.3.210 Er ei bod yn angenrheidiol amddiffyn y swyddogaeth fanwerthu o fewn canol trefi, mae hefyd yn bwysig ystyried sut y gellid osgoi neu leihau cyfraddau eiddo gwag hirdymor. Mewn achosion o'r fath, lle gofynnir am newid defnydd o A1, byddai angen i'r ymgeisydd ddarparu tystiolaeth o farchnata'r safle am gyfnod o 6 mis ar gyfradd resymol ar y farchnad i ddangos nad oes galw mwyach am ddefnydd dosbarth A1 yn y lleoliad hwnnw. Sylw
5.3.211 Bydd angen i'r ACLl fod yn fodlon hefyd y bydd y defnydd newydd arfaethedig yn cydymffurfio â maen prawf b) ac yn cydbwyso'r angen i leihau nifer yr unedau gwag wrth amddiffyn cyfanrwydd y brif ardal siopa. Yn benodol, rhaid cymryd gofal arbennig i atal clystyru defnyddiau a allai fod yn niweidiol i atyniad y ganolfan. Sylw
5.3.212 Bydd Polisi RTC/3 yn destun monitro ac adolygu blynyddol i atal gor-grynhoi defnyddiau sy'n niweidiol i'r ganolfan. Bydd lefel gyffredinol yr unedau gwag a chymysgedd y defnyddiau o fewn canolfannau yn cael eu monitro'n flynyddol i benderfynu a oes angen addasu maen prawf y polisi o 6 mis i 12 mis. Sylw
Parthau Siopa RTC/4 Sylw
- Mae Parthau Siopa wedi'u dynodi ar y map cynigion yn Llandudno, Bae Colwyn, Abergele, Conwy a Llanrwst. Mae'r rhain yn Ganolfannau Trefi dynodedig ym mholisi RTC/22.
- Dim ond lle mae'r newid defnydd arfaethedig yn cynnal neu'n gwella bywiogrwydd, atyniad a hyfywedd canol y dref ac yn cydymffurfio â'r polisïau creu lleoedd y caniateir newidiadau i ddefnydd yr eiddo ar y llawr gwaelod yn yr ardaloedd hyn o Siopau Dosbarth A1 i ddefnyddiau eraill.
5.3.213 O fewn y Parthau Siopa dynodedig, mae rhagdybiaeth o blaid cadw defnyddiau dosbarth A1, ond cydnabyddir y gall defnyddiau eraill, yn enwedig defnyddiau dosbarth A3 (megis caffis/bwytai), masnachol, hamdden a defnyddiau'r sector gwasanaeth fod yn dderbyniol lle mae hyn yn gwella bywiogrwydd, atyniad a hyfywedd y canolfannau. Mae Polisi Cynllunio Cymru yn nodi y dylai polisïau cynllunio annog amrywiaeth o ddefnyddiau priodol mewn canolfannau. Felly, dylid rhoi sylw arbennig i osgoi clystyru rhai defnyddiau lle mae'r rhain yn niweidiol i atyniad y ganolfan megis ffryntiadau siopau gwag yn ystod y dydd, problemau amwynder, ac ati. Sylw
5.3.214 Ar gyfer newidiadau defnydd i A3, bydd angen i'r ACLl fod yn fodlon na fydd y cynnig yn cael effaith andwyol ar atyniad y ganolfan yn deillio o or-grynodiad o ddefnyddiau A3, a/neu'n achosi effaith andwyol annerbyniol ar amwynder preswyl, diogelwch y cyhoedd, sŵn a throseddu. Bydd tystiolaeth berthnasol a gyflenwir gan adrannau eraill y Cyngor a chyrff allanol megis yr Heddlu hefyd yn cael ei hystyried lle mae hyn yn ffurfio ystyriaeth gynllunio berthnasol. Sylw
5.3.215 Mae Papur Cefndir/61: Astudiaeth Canol Trefi yn Gyntaf yn amlinellu argymhellion penodol i ganolfannau, gan gynnwys newidiadau i Brif Ardaloedd Siopa a Pharthau Siopa er mwyn caniatáu mwy o hyblygrwydd ar gyfer defnyddiau amgen i leihau'r cyfraddau gwag uchel mewn rhai canolfannau. O fewn canol trefi, gyda'u cysylltiadau trafnidiaeth da, gall datblygiad preswyl chwarae rhan bwysig, ar safleoedd addas, i gynyddu nifer y bobl sy'n byw yng nghanol y trefi ac yn cefnogi eu gwasanaethau a chyfleusterau. Sylw
RTC/5 parciau manwerthu a hamdden Sylw
- Mae'r parciau manwerthu a hamdden canlynol, fel y'u nodir ar y map cynigion, wedi'u diogelu ar gyfer eu defnyddiau a'u fformatau penodol:
- Parc Manwerthu Mostyn Champneys, Llandudno
- Parc Manwerthu Parc Llandudno
- Parc Hamdden Cyffordd Llandudno
- Bydd cynigion yn y safleoedd hyn, gan gynnwys newid defnydd, estyniadau, uno neu is-rannu unedau presennol, lloriau lledlawr neu amrywio/cael gwared ar amodau cynllunio presennol yn cael eu caniatáu yn unig lle:
- Gellir dangos bod angen ychwanegol am y cynnig na ellir ei ddarparu o fewn y Ganolfan Siopa Is-ranbarthol neu'r Canol Trefi dynodedig presennol, fel y'u diffinnir ym mholisi RTC/2; ac,
- Ni fyddai'r cynnig, naill ai'n unigol neu'n gronnus gyda'r datblygiadau cydsyniol presennol a/neu'r datblygiad arfaethedig mewn ceisiadau cynllunio eraill, yn cael effaith annerbyniol ar y swyddogaeth fanwerthu a bywiogrwydd, atyniad a hyfywedd canol trefi, y Prif Ardaloedd Siopa a'r Parthau Siopa (lle cânt eu nodi).
5.3.216 Mae Parc Manwerthu Mostyn Champneys a Pharc Llandudno wedi'u lleoli ar gyrion canol tref Llandudno ac yn cyflawni swyddogaethau manwerthu gwahanol i'r rhai a geir fel arfer yng nghanol trefi. Mae Parciau Manwerthu Mostyn Champneys a Pharc Llandudno yn cynnwys siopau manwerthu maint mawr yn bennaf gyda lle parcio ceir cysylltiedig. Bydd y parciau manwerthu hyn yn cael eu diogelu i gadw eu cymeriad maint mawr ac i ategu’r Prif Ardal Siopa hanesyddol a Pharth Siopa Llandudno. Sylw
5.3.217 Yng nghyd-destun Parc Manwerthu Mostyn Champneys, mae’r manwerthu yn canolbwyntio ar werthu nwyddau swmpus a nwyddau mewn swmp, tra bod Parc Llandudno yn cynnwys manwerthwyr maint mawr sy'n gwerthu nwyddau nad ydynt yn swmpus. Fel y nodwyd yn PCC, ni ddylai graddfa, math a lleoliad datblygiadau manwerthu o'r fath danseilio bywiogrwydd, atyniad a hyfywedd canol trefi. Hefyd, mae cytundebau cyfreithiol ac amodau cynllunio ar waith i gyfyngu ar newid defnydd ac israniad unedau yn y lleoliadau hyn. Sylw
5.3.218 Mae Parc Hamdden Cyffordd Llandudno yn gyfleuster hamdden ac adloniant sefydledig sy'n cynnwys sinema aml-sgrin a siopau bwyd cysylltiedig a lle parcio. Mae Polisi Cynllunio Cymru yn tynnu sylw at y ffaith y gall y defnyddiau hamdden hyn fod o fudd i ganolfannau manwerthu a masnachol Sylw
RTC/6 cynllun blaen siopau a diogelwch Sylw
- Bydd yr ACLl yn caniatáu cynigion ar gyfer blaenau siopau newydd neu addasiadau i flaenau siopau presennol dim ond os ydynt yn gydnaws â'r adeilad a'i amgylchoedd.
- Ni chaniateir ceisiadau i osod caeadau rholio solet neu dyllog ar flaenau siopau, neu ar eiddo eraill mewn ffryntiadau strydoedd siopa.
- Dim ond lle mae'r rhwyllau wedi'u hintegreiddio i ddyluniad blaen y siop heb effaith weledol andwyol, ac yn gydnaws â gweddill drychiad yr adeilad a golygfa'r stryd, y bydd yr ACLl yn cefnogi ceisiadau ar gyfer rhwyllau rholio allanol a rhwyllau symudadwy ar flaenau siopau ac eiddo masnachol.
5.3.219 Mae blaenau siopau yn hanfodol wrth ffurfio cymeriad ac ymddangosiad ffryntiadau siopau. Mae'r ACLl yn rhoi pwyslais sylweddol ar flaenau siopau sydd wedi'u cynllunio'n addas ac yn hygyrch, nid yn unig i gadw cymeriad adeiladau, ond hefyd i gadw atyniad cyffredinol strydoedd ac i gynnal eu hyfywedd masnachol. Gall datblygiadau amhriodol gael effaith andwyol ddifrifol nid yn unig ar yr adeilad ond hefyd ar olygfa'r stryd, a photensial masnachu'r stryd. Sylw
5.3.220 Mae cwsmeriaid a busnesau fel ei gilydd yn elwa os caiff amgylchedd y stryd ei wella gan flaenau siopau sydd wedi'u cynllunio'n dda, yn hygyrch ac wedi'u cynnal a'u cadw'n dda. Mewn pentrefi bydd yn bwysig parchu cymeriad presennol y stryd a'r pentref, tra mewn canolfannau siopa mwy o fewn yr aneddiadau trefol a'r Ganolfan Wasanaeth Allweddol, bydd y pwyslais ar greu a chynnal amgylchedd bywiog o ansawdd. Dylid cydnabod y gall llawer o flaenau siopau fod yn adeiladau rhestredig ac wedi'u lleoli o fewn Ardaloedd Cadwraeth dynodedig. Yn unol â strategaeth Gymraeg y Cyngor, dylid ystyried defnyddio arwyddion dwyieithog, yn enwedig mewn Ardaloedd o Sensitifrwydd Ieithyddol y CDLl, fel Llanrwst. Sylw
5.3.221 Dylid darparu lle bo modd ar gyfer mynediad hawdd i bobl ag anableddau yn ogystal â phramiau a chadeiriau gwthio. Dylai drysau a mynedfeydd fod yn lefel a/neu gyda ramp ac yn ddigon llydan i gael mynediad. Lle mae adeilad wedi'i restru, bydd cynigion yn cael eu barnu ar eu rhinweddau eu hunain, gan efallai na fydd yn bosibl creu mynediad llawn lefel heb effeithio'n andwyol ar gymeriad yr adeilad neu'r ffabrig hanesyddol sydd wedi goroesi. Mae cyngor mewn perthynas â mynediad cynhwysol wedi'i gynnwys yn Rhan M o'r Rheoliadau Adeiladu. Bydd Canllawiau Cynllunio Atodol hefyd yn cael eu drafftio i gefnogi'r polisi hwn. Sylw
RTC/7 datblygiad manwerthu newydd Sylw
Dim ond y tu allan i'r Canolfannau Is-ranbarthol, Tref a Lleol dynodedig y caniateir datblygiad manwerthu newydd, lle:
- Mae angen profedig am yr arwynebedd llawr arfaethedig;
- Ni ellir darparu ar gyfer yr angen yn foddhaol o fewn neu gerllaw'r Canolfannau Is-ranbarthol, Tref a Lleol dynodedig;
- Ni fyddai'r cynnig yn achosi niwed annerbyniol i fywiogrwydd, atyniad na hyfywedd y Canolfannau Is-ranbarthol, Tref a Lleol;
- Mae'r cynnig mewn lleoliad cynaliadwy a byddai'n hygyrch i'r gymuned leol y bwriedir iddi ei gwasanaethu ar drafnidiaeth gyhoeddus, ar droed a beic yn unol â pholisïau STA ar drafnidiaeth gyhoeddus a theithio llesol.
5.3.222 Lle nad oes unrhyw safleoedd manwerthu wedi'u dyrannu, mae Polisi Cynllunio Cymru yn nodi, er mwyn caniatáu hyblygrwydd, y dylid cynnwys polisi sy'n seiliedig ar feini prawf mewn cynlluniau datblygu y gellir asesu cynigion yn eu herbyn. Mae'r dull hwn yn caniatáu ar gyfer unrhyw newidiadau i'r angen manwerthu sy'n deillio o newidiadau annisgwyl yn y farchnad fanwerthu ond mae hefyd yn amddiffyn yr hierarchaeth fanwerthu ddynodedig (polisi RTC/2). Sylw
5.3.223 Rhaid i geisiadau datblygu manwerthu ddarparu tystiolaeth o angen meintiol neu ansoddol i gefnogi'r cynnig ar ffurf Prawf Anghenion Manwerthu, yn unol â chanllawiau cynllunio cenedlaethol. Sylw
5.3.224 Mae Polisi Cynllunio Cymru yn cydnabod mai canolfannau manwerthu a masnachol yw'r canolbwynt ar gyfer siopa, hamdden a thwristiaeth, gwasanaethau lleol a chyfleoedd busnes/cyflogaeth. Mae'r dull 'canol trefi yn gyntaf' hwn yn sicrhau mai canolfannau manwerthu a masnachol ddylai fod y lleoliad dewis cyntaf ar gyfer amrywiaeth eang o ddatblygiadau. Mae cydleoli'r defnyddiau hyn a'u lefelau uchel o hygyrchedd trwy ystod o opsiynau trafnidiaeth yn eu gwneud yn lleoliadau cynaliadwy. Sylw
5.3.225 Mae’r prawf dilyniannol, fel y manylir ym Mholisi Cynllunio Cymru a TAN4 yn anelu at gyfarwyddo datblygiadau manwerthu at ganolfannau presennol lle bynnag y bo’n bosibl, neu i ymyl canolfannau o’r fath, os nad oes safleoedd o fewn y canolfannau ar gael. Dim ond lle mae angen am ofod llawr manwerthu ychwanegol wedi’i ddangos, ac nad oes unrhyw leoliadau mewn canolfannau dynodedig, neu’n gyfagos atynt, yn gallu diwallu’r angen hwnnw, y dylai lleoliadau tu allan i’r canol gael ystyriaeth. Sylw
5.3.226 Mae canllawiau cynllunio cenedlaethol hefyd yn nodi bod yn rhaid i’r datblygwr ddarparu Asesiad o’r Effaith ar Fanwerthu ar gyfer ceisiadau manwerthu o arwynebedd llawr gros arfaethedig o 2,500 m2 neu fwy, ar gyfer datblygiad ar ymyl neu du allan i'r canol, sy'n bodloni'r angen manwerthu a'r profion dull dilyniannol. Gall cynigion sy'n cyflwyno arwynebedd llawr manwerthu ychwanegol, gan gynnwys ailddatblygu, estyniadau, lloriau lledlawr, israniad, a newidiadau defnydd hefyd fod yn berthnasol i'r polisi hwn. Sylw
Strategaeth cyfleusterau a gwasanaethau cymunedol Sylw
SO4: Cyfrannu at synnwyr o le ac iechyd, lles ac amwynder cyffredinol cymunedau lleol drwy sicrhau bod gan y grwpiau poblogaeth presennol a rhai’r dyfodol fynediad at gymysgedd cynaliadwy o gyfleusterau cymunedol. Sylw
5.3.227 Mae cyfleusterau a gwasanaethau cymunedol yn allweddol i greu lleoedd hyfyw a chynaliadwy a chefnogi'r iaith a'r diwylliant Cymraeg drwy hwyluso a hyrwyddo'r defnydd o'r Gymraeg. Mae’r rhain yn cynnwys ysgolion, cyfleusterau diwylliannol, gwasanaethau iechyd, llyfrgelloedd, rhandiroedd, mannau claddu, canolfannau hamdden, adeiladau cymunedol a lleoedd addoli. Gallant fod ym mherchnogaeth y cyhoedd, preifat a'r trydydd sector. Sylw
5.3.228 Mae Polisi Cynllunio Cymru yn ei gwneud yn ofynnol i gynlluniau datblygu fod ag ymagwedd strategol a hirdymor tuag at ddarparu cyfleusterau cymunedol, gan sicrhau fod gofynion y gymuned yn parhau i gael eu diwallu. Mae amcanestyniadau poblogaeth yn dangos fod gan Fwrdeistref Sirol Conwy strwythur poblogaeth sy'n heneiddio. Bydd y CDLlN yn cefnogi cyfleusterau cymunedol i ddiwallu eu hanghenion ac anghenion eraill sy'n byw'n lleol. Hefyd bydd angen i adeiladu tai newydd sicrhau fod anghenion y preswylwyr newydd o ran cyfleusterau cymunedol penodol yn cael eu diwallu. Sylw
CFS/1 cyfleusterau a gwasanaethau cymunedol Sylw
Er mwyn cyfrannu at iechyd, lles ac amwynder cymunedau lleol, bydd yr ACLl yn:
- Gwella a diogelu cyfleusterau a gwasanaethau cymunedol.
- Dyrannu tir ar gyfer rhandiroedd a darparu polisïau sy'n seiliedig ar feini prawf i ddiwallu'r angen a nodwyd a chynigion ategol yn amodol ar feini prawf penodol ym mholisi CFS/2 rhandiroedd newydd a phresennol.
- Dyrannu a chefnogi'r defnydd o dir priodol ar gyfer claddfeydd i ddiwallu angen a nodwyd ym mholisi CFS/3 claddfeydd.
- Dyrannu a diogelu tir ar gyfer safleoedd ysgolion newydd. Bydd cynigion cyfleusterau cymunedol newydd yn cael eu cefnogi i ddiwallu'r angen a nodwyd yn amodol ar feini prawf penodol ym mholisïau CFS/4 cyfleusterau cymunedol newydd.
- Diogelu cyfleusterau gwledig rhag defnyddiau eraill yn unol â pholisi CFS/5 colli cyfleusterau cymunedol.
5.3.229 Mae cyfleusterau a gwasanaethau cymunedol yn cyfrannu at ymdeimlad o le sy'n bwysig i addysg, iechyd a gofal cymdeithasol, lles, yr iaith a'r diwylliant Cymraeg ac amwynder cymunedau lleol ac mae eu bodolaeth yn aml yn elfen allweddol wrth greu lleoedd hyfyw a chynaliadwy. Mae mynediad i'r cyfleusterau hyn, yn enwedig yn yr ardaloedd gwledig, yn rhoi cyfle i fod yn rhan o fywyd cymunedol gan helpu i greu ymdeimlad o berthyn, sy'n cyfrannu at fyw cydlynol. Mae cefnogi cyfleusterau cymunedol presennol a rhai newydd yn ffactor allweddol mewn creu lleoedd bywiog, cymdeithasol a chynaliadwy. Mae cyfleoedd i ddefnyddio'r Gymraeg mewn lleoliadau cymdeithasol o fewn y gymuned rydych chi'n byw ynddi yn hynod bwysig ac mae darparu'r seilwaith cefnogol i hyn ddigwydd yn hanfodol o ran cynllunio. Sylw
CFS/2 rhandiroedd newydd a phresennol Sylw
- Mae tir wedi ei ddyrannu i ddiwallu angen a nodwyd am randiroedd o fewn y lleoliadau safle canlynol:
- Safle Llanrhos 91
- Safle Hen Golwyn 68
- Safle Llanrwst 56
- Bydd cynigion ar gyfer rhandiroedd newydd y tu allan i'r safleoedd a ddyrannwyd neu estyniadau i safleoedd presennol yn cael eu cefnogi ar safleoedd addas a hygyrch mewn cymunedau lle mae angen a nodwyd.
- Ni roddir caniatâd cynllunio ar gyfer datblygiad sy'n arwain at golli safleoedd rhandiroedd presennol neu a ddyrannwyd, ac eithrio:
- Lle bo'n addas, gwneir darpariaeth amgen yn y gymuned leol sydd o leiaf yn gyfwerth o ran maint, hygyrchedd ac ansawdd â'r hyn a fydd yn cael ei golli;
- Lle gellir dangos nad oes angen cymunedol hirdymor am y rhandiroedd mwyach; neu,
- Lle mae budd economaidd, cymdeithasol neu ddiwylliannol sy'n drech na hynny i'r gymuned leol.
5.3.230 Mae rhandiroedd a mannau tyfu cymunedol yn adnodd cymunedol pwysig, sydd ag ystod eang o fuddion cadarnhaol. Fel yr amlinellwyd ym Mholisi Cynllunio Cymru, mae'r rhain yn amrywio o effeithiau amgylcheddol, iechyd, cymdeithasol ac economaidd. Gall mannau tyfu cymunedol fod yn fodd o ddod â grwpiau cynhyrchu bwyd, defnyddwyr a chymunedol ynghyd i weithio gyda'i gilydd, gyda'r amcan cyffredinol o sicrhau bod bwyd a dyfir yn lleol a bwyd dros ben ar gael i gymunedau lleol. Gallant gyfrannu tuag at synnwyr o le a chymuned, gallant helpu i adfywio cymuned a mannau agored, cyfrannu tuag at gynhyrchu bwyd, darparu cynefin ar gyfer bywyd gwyllt ac mae ganddynt fanteision i iechyd a lles. Sylw
5.3.231 Mae gan Awdurdodau Lleol ddyletswydd statudol i ddarparu tir ar gyfer rhandiroedd i fodloni’r galw a nodir yn lleol. Mae Polisi Cynllunio Cymru yn nodi y dylai tir gael ei ddyrannu ar gyfer rhandiroedd ac mae Papur Cefndir 30: Adroddiad Galw a Chyflenwad Safleoedd Rhandiroedd yn nodi fod nifer sylweddol o breswylwyr Conwy ar y rhestr aros am randir ymhob ardal yn y Fwrdeistref Sirol. Sylw
5.3.232 Gall rhagor o safleoedd rhandiroedd ddod ar gael yn ystod cyfnod y CDLlN. Bydd addasrwydd y safleoedd hyn yn cael eu hasesu ar y pryd. Mae’n rhaid i'r safleoedd fod yn hygyrch i bawb, gyda chyflwr tir priodol ar gyfer defnyddio rhandiroedd. Sylw
5.3.233 Gall y Cyngor gymryd cyfrifoldeb am reoli unrhyw safleoedd rhandiroedd yn y dyfodol, ar yr amod nad oes unrhyw gostau beichus yn y dyfodol i'r Cyngor a bod mynediad llawn, di-rwystr yn cael ei ddarparu. Os na ellir cytuno ar hyn, gall y Cyngor gynorthwyo gyda rheoli'r safle a dod o hyd i denantiaid priodol. Sylw
5.3.234 Mae gan randiroedd statudol amddiffyniad cyfreithiol ac mae’n rhaid i Weinidogion Cymru gydsynio i'w gwaredu. Mae Polisi Cynllunio Cymru yn nodi y dylid cadw a diogelu rhandiroedd, yn enwedig os ydynt yn rhan bwysig o’r seilwaith gwyrdd neu os oes ganddynt werth cymunedol. Sylw
5.3.235 Ni roddir caniatâd cynllunio ar gyfer ailddatblygu rhandiroedd dim ond oherwydd nad ydynt yn cael eu defnyddio a'u hesgeuluso. Sylw
5.3.236 Dim ond os dangoswyd nad oes angen y rhandiroedd, lle darperir darpariaeth amgen well neu o'r un ansawdd neu lle mae'r golled yn darparu buddion economaidd, cymdeithasol neu ddiwylliannol sylweddol i'r gymuned leol y caniateir datblygiad a fyddai'n cael gwared ar randiroedd o ddefnydd yn gyfan gwbl. Gall hyn gynnwys darparu lefel foddhaol o dai fforddiadwy, cyfleusterau cymunedol neu gyfleusterau hamdden eraill, seilwaith cadwraeth natur/gwyrdd neu ddefnydd economaidd-gymdeithasol arall er budd yr ardal leol. Sylw
CFS/3 Claddfeydd Sylw
Caiff cynigion ar gyfer claddfeydd newydd neu estyniadau/gwelliannau i gladdfeydd presennol eu cefnogi ar safleoedd sy'n addas i'r amgylchedd ac yn hygyrch yn amodol ar fod yn unol â'r polisïau creu lleoedd a chanllawiau cynllunio cenedlaethol.
5.3.237 Er mwyn diwallu'r angen am gapasiti claddu yn ardal y CDLl Newydd, mae'r ACLl wedi ymgymryd â gwaith i nodi lleoliadau addas ar gyfer estyniadau i fynwentydd presennol, neu diroedd claddu newydd. Sylw
5.3.238 Mae mynwentydd ac amlosgfeydd ill dau yn ddarostyngedig i reoliadau diogelu'r amgylchedd llym sydd wedi'u cynnwys yn Neddf Amlosgfeydd (1902) a gwelliannau a deddfwriaeth amgylcheddol arall. Dylid dilyn canllawiau eraill wrth gynllunio a gweinyddu cyfleusterau claddu, gan gynnwys canllawiau Cyfoeth Naturiol Cymru. Sylw
5.3.239 Mae mynwentydd ac eglwysi wedi'u nodi fel teipolegau mannau agored yn TAN 16 Chwaraeon, Hamdden a Mannau Agored ac ym Mhapur Cefndir 28 Asesiad Mannau Hamdden gan y gallant fod yn hafanau o fannau gwyrdd a thawelwch mewn ardaloedd sydd fel arall yn adeiledig. Er bod yn rhaid i unrhyw ddefnydd ar gyfer hamdden fod yn amlwg yn is-gysylltiedig â'u prif swyddogaeth fel mannau claddu, ac yn gydnaws â nhw, maent yn un agwedd ar y parth cyhoeddus a all ddarparu lleoedd ar gyfer cerdded neu fyfyrio'n dawel. Gallant hefyd wasanaethu fel cynefin gwerthfawr i goed a fflora a ffawna eraill ac fel rhan o'r rhwydwaith seilwaith gwyrdd. Sylw
5.3.240 Mae gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy 12 mynwent i gyd, ac mae gan 6 ohonynt le claddu ac amlosgi ar gael. Mae estyniad newydd ei adeiladu ym Mynwent Llanrhos yn darparu tua 10 mlynedd o le claddu. Mae claddfeydd dolydd hefyd dan ystyriaeth gan Wasanaeth yr Amgylchedd, Ffyrdd a Chyfleusterau'r Cyngor. Mae'r dull polisi cadarnhaol a rhagweithiol yn cefnogi defnyddio safleoedd sy'n briodol yn amgylcheddol ac yn hygyrch ar gyfer defnyddiau o'r fath lle mae angen. Sylw
5.3.241 Ystyrir y bydd yr adolygiadau mawr o'r CDLl bob pedair blynedd yn galluogi adolygu'r sefyllfa tir claddu gan ganiatáu i unrhyw ddiffygion sylweddol posibl tua diwedd cyfnod y CDLl gael eu datrys lle bo angen. Sylw
CFS/4 cyfleusterau cymunedol newydd Sylw
- Mae tir wedi'i ddyrannu neu ei ddiogelu fel y nodir ar y mapiau cynigion at ddibenion cyfleusterau ysgol newydd neu estynedig yn y lleoliadau canlynol;
- Dyraniad yn safle 157 Llanfairfechan (gweler polisi PL/17); a,
- Tir wedi'i ddiogelu ger Ysgol Sŵn y Don, Hen Golwyn.
- Cefnogir cynigion ar gyfer adeiladu cyfleusterau cymunedol newydd neu welliannau i rai presennol yn amodol ar gydymffurfio â'r holl feini prawf asesu canlynol:
- Byddai'n hygyrch i'r gymuned leol y bwriedir iddi ei gwasanaethu ar drafnidiaeth gyhoeddus, ar droed a beic yn unol â pholisïau STA ar drafnidiaeth gyhoeddus a theithio llesol;
- Mae o fewn, neu'n uniongyrchol gysylltiedig â ffin anheddiad neu gymuned leol wedi'i diffinio;
- Ni fyddai'n niweidio amwynder eiddo preswyl cyfagos yn ormodol;
- Ni fyddai'n tynnu oddi ar gymeriad ac ymddangosiad yr ardal;
- Ni fydd yn arwain at broblemau parcio neu draffig annerbyniol; a,
- Mae wedi'i gynllunio gyda hyblygrwydd ac addasrwydd priodol i ddarparu ar gyfer defnyddiau cymunedol ychwanegol heb beryglu ei brif ddefnydd bwriadedig.
5.4.242 Mae cyfleusterau cymunedol yn allweddol i greu lleoedd hyfyw a chynaliadwy a chefnogi'r iaith a'r diwylliant Cymraeg. Gall cyfleusterau o'r fath gynnwys ysgolion, gwasanaethau diwylliannol ac iechyd, llyfrgelloedd, canolfannau hamdden, adeiladau cymunedol a mannau addoli. Sylw
5.3.243 Ar hyn o bryd mae'r Cyngor yn gweithio mewn partneriaeth tuag at gyflawni Rhaglen Amlinellol Strategol (SOP) 9 mlynedd y Gwasanaeth Addysg gan nodi meysydd/prosiectau yr hoffent eu datblygu fel rhan o'u Rhaglen Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu. Mae hyn yn dilyn Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif lle sicrhawyd bandiau penodol o gyllid a chyflwynwyd ysgolion newydd yn llwyddiannus. Sylw
5.3.244 Mae'r Rhaglen Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu yn rhaglen buddsoddi cyfalaf mawr, hirdymor a strategol. Ei nod yw creu cymunedau addysgol sy'n addas ar gyfer yr 21ain ganrif yng Nghymru. Sylw
5.3.245 BBydd capasiti ysgolion newydd ac estyniadau i ysgolion presennol a gynigir o dan y SOP yn adlewyrchu unrhyw dwf newydd mewn disgyblion ysgol a achosir gan y CDLlN. Bydd tir ar safle CDLlN Llanfairfechan yn cael ei ddyrannu ar gyfer ysgol newydd a bydd tir gerllaw Ysgol Sŵn y Don yn cael ei ddiogelu ar gyfer ehangu yn y dyfodol os oes angen. Os bydd unrhyw newidiadau i'r rhaglen ysgolion a phrosiectau yn y dyfodol yn ystod cyfnod y cynllun, bydd polisi creu lleoedd PL/17 Llanfairfechan hefyd yn berthnasol. Sylw
5.3.246 Bydd yr effaith bosibl ar gapasiti ysgolion CBSC a achosir gan unrhyw newid yn nifer y plant y bydd Strategaeth a safleoedd y CDLlN yn arwain ato yn cael ei monitro. Bydd rhwymedigaethau cynllunio ar gyfer safle ysgol newydd neu estyniad i ysgol bresennol yn cael eu ceisio o ddatblygiad preswyl newydd lle ystyrir ei fod yn angenrheidiol i liniaru'r effaith ar gapasiti ysgolion, yn unol â pholisi PL/12. Sylw
5.3.247 Mae'n debygol y bydd angen safleoedd ysgol pellach yn ystod cyfnod y cynllun i gyflawni'r SOP a datblygiadau eraill o gyfleusterau addysgol a all ddod ymlaen ar wahân i'r Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy. Er mwyn sicrhau y gellir cyflawni'r prosiectau hyn, mae polisi sy'n seiliedig ar feini prawf wedi'i gynnwys yn y CDLlN. Bydd y polisi hwn yn arwain datblygiad safleoedd ysgolion ac yn sicrhau eu bod wedi'u cynllunio'n dda ac wedi'u lleoli yn y safleoedd mwyaf priodol a chynaliadwy. Sylw
5.3.248 O ran darpariaeth iechyd yn y sir, mae Bwrdeistref Sirol Conwy wedi'i rhannu'n ddwy ardal Clwstwr Gofal Sylfaenol: Dwyrain Conwy a Gorllewin Conwy. Mae 20 o feddygfeydd yn y Fwrdeistref Sirol (yn cynnwys canghennau) ac mae 116,864 o gleifion wedi cofrestru â nhw. Sylw
5.3.249 Bydd angen i safleoedd gofal iechyd cynradd ac eilaidd allu cydweddu â’r boblogaeth newidiol dros gyfnod y CDLlN. Mae ein poblogaeth yn heneiddio, sy'n rhoi pwysau gwahanol ar y gwasanaethau iechyd a gofal iechyd. Bydd y twf yn y boblogaeth a gynigir yn y CDLlN a'r effaith bosib ar gapasiti corfforol safleoedd gofal iechyd cynradd ac eilaidd yn cael ei asesu. Lle bo'r angen bydd camau i liniaru hynny wrth ddyrannu safleoedd preswyl. Papur Cefndir 44: Newid yn y Boblogaeth, Tai a’r Effaith ar Iechyd/Gofal Sylfaenol Sylw
5.3.250 Mae'r polisi hwn yn mabwysiadu dull cadarnhaol at unrhyw gynigion am gyfleusterau gofal iechyd newydd neu estyniadau i rai presennol. Bydd ar geisiadau am safleoedd newydd angen dangos eu bod wedi defnyddio’r dull canol trefi’n gyntaf yn unol â pholisïau cynllunio cenedlaethol. Sylw
5.3.251 Y lliniaru arfaethedig dros gyfnod y CDLlN yw ceisio cyfraniadau ariannol gan rai datblygiadau a, lle bo cyfiawnhad, yn unol â pholisi PL/12. Bydd hyn yn cael ei ddefnyddio i gynyddu capasiti ffisegol mewn cyfleusterau iechyd ac addysg presennol. Dylid nodi yma bod rhai cyfleusterau iechyd yn wynebu anawsterau oherwydd recriwtio a/neu faterion rheoli o bosibl. Dim ond ar gyfer mesurau lliniaru ffisegol yn unig y gellir defnyddio cyfraniadau Adran 106 ac felly mae ymdrin ag unrhyw broblemau staffio y tu allan i gylch gwaith y CDLlN. Sylw
CFS/5 colli cyfleusterau cymunedol Sylw
Yn yr Ardal Strategaeth Datblygu Gwledig, byddai colli siopau, swyddfeydd post, neuaddau, tai tafarn mewn cymdogaeth neu bentref a chyfleusterau cymunedol eraill (neu rannau ohonynt) yn cael ei ganiatáu yn unig dim ond lle:
- byddai'r gymuned leol yn parhau i gael ei gwasanaethu gan gyfleusterau cyfatebol eraill o fewn yr yn pentref neu gymdogaeth; neu
- mae'r cyfleuster wedi bod yn wag neu heb ei ddefnyddio am o leiaf blwyddyn ac mae ymdrechion dilys i farchnata'r cyfleuster ar gyfer defnydd cymunedol cyfatebol, am o leiaf blwyddyn, wedi bod yn aflwyddiannus.
5.3.252 Mae cyfleusterau cymunedol yn yr ardaloedd gwledig yn rhan hanfodol o gynaliadwyedd a lles cymunedau lleol. Mae cyfleusterau o'r fath hefyd yn bwysig os yw'r iaith a'r diwylliant Cymraeg am oroesi a ffynnu mewn cymunedau Cymraeg eu hiaith ac Ardaloedd a ddynodwyd o Sensitifrwydd Ieithyddol y CDLlN (polisi PL/7). Mae iaith fywiog yn gysylltiedig ag economi ffyniannus. Yn unol â strategaeth hyrwyddo'r iaith Gymraeg CBSC fel sy'n ofynnol gan Safonau'r Iaith Gymraeg, mae gan yr awdurdod cynllunio ddyletswydd i hyrwyddo a hwyluso'r defnydd o'r Gymraeg ym mywyd beunyddiol pobl sy'n byw yn yr ardal. Er mwyn i gymunedau fod yn gynaliadwy, mae angen iddynt gynnwys neu gael mynediad at ystod o gyfleusterau a gwasanaethau cymunedol fel siopau, tafarndai, neuaddau pentref ac ati. Mae hyn yn annog pobl i barhau i fyw'n lleol a gwario arian yn eu hardal ac adeiladu cymuned leol gynaliadwy. Mae'r polisi hwn yn ceisio amddiffyn a chadw cyfleusterau cymunedol lle bo modd a chaniatáu creu cyfleusterau newydd mewn lleoliadau priodol a chynaliadwy. Sylw
5.3.253 Cyfleusterau cymunedol yw'r rhai sydd o fudd a gwerth i'r gymuned leol, yn darparu lleoliad ar gyfer swyddogaethau cymdeithasol a chyfarfodydd ac yn elwa'r economi leol. Sylw
5.3.254 O ran marchnata cyfleusterau cymunedol, bydd yn rhaid i ymgeiswyr ddarparu tystiolaeth ategol bod y cyfleuster wedi cael ei farchnata'n weithredol am o leiaf blwyddyn am bris realistig, yn seiliedig ar werth marchnad priodol, sy'n adlewyrchu'r defnydd presennol. Sylw
Strategaeth mannau hamdden Sylw
SO5: Annog lles corfforol a meddyliol trwy ddarparu a diogelu mannau gwyrdd hygyrch o ansawdd da a rhwydweithiau mannau hamdden. Sylw
5.3.255 Mae Polisi Cynllunio Cymru yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau cynllunio ddarparu fframwaith ar gyfer cyfleusterau chwaraeon a hamdden o ansawdd da, mewn lleoliad da. Dylid datblygu polisïau clir ar gyfer darparu, diogelu a gwella cyfleusterau chwaraeon, hamdden a hamdden, sy'n gosod safonau ar gyfer darpariaeth, gan nodi diffygion lleol, y gellir eu diwallu drwy'r broses gynllunio. Sylw
5.3.256 Mae mannau hamdden yn chwarae rhan ddeuol drwy ddarparu lle ar gyfer chwarae, chwaraeon, gweithgaredd corfforol iach a lle i ymlacio. Maent hefyd yn rhan o'r rhwydwaith o fannau gwyrdd hygyrch o ansawdd uchel, sy'n chwarae rhan mewn cadwraeth natur, amwynder gweledol a bioamrywiaeth. Mae treulio amser mewn mannau gwyrdd yn bwysig i blant, pobl ifanc ac oedolion fel ei gilydd, gan ddarparu cyfleoedd i chwarae, ymarfer corff ac ymlacio mewn mannau naturiol. Dylid ystyried gofod hamdden fel pob man agored o werth cyhoeddus, gan gynnwys nid yn unig tir, ond hefyd ardaloedd dŵr fel afonydd, llynnoedd a chronfeydd dŵr sy'n cynnig cyfleoedd pwysig ar gyfer chwarae, chwaraeon, hamdden a thwristiaeth, a gallant hefyd weithredu fel amwynder gweledol, a gallant fod o bwys cadwraeth, diwylliannol a bioamrywiaeth. Sylw
5.3.257 Dylai'r holl fuddion a amlinellir uchod hefyd fod o fudd i'r iaith Gymraeg oherwydd bod y mannau hyn yn helpu i wneud lleoedd deniadol ac o ansawdd da i fyw a gweithio ynddynt ac felly eu mwynhau ac aros ynddynt. Mae cyfleoedd i ddod â phobl ynghyd hefyd yn darparu cyfleoedd i ddefnyddio'r Gymraeg ac ymarfer y Gymraeg, fel dysgwyr y Gymraeg. Mae'r rhain hefyd yn darparu cyfleoedd pontio’r cenedlaethau i bobl gyfarfod a defnyddio'r Gymraeg ym mywyd beunyddiol sydd yn ei dro yn helpu i gyflawni amcanion strategaeth hyrwyddo'r Gymraeg y Cyngor. Sylw
5.3.258 Mae Polisi Cynllunio Cymru yn nodi y dylai mannau agored a chaeau chwarae ffurfiol ac anffurfiol gael eu diogelu rhag datblygiad. Mae hyn yn berthnasol i dir preifat a thir cyhoeddus. Sylw
5.3.259 Mae Papur Cefndir 28: Asesiad Mannau Hamdden wedi asesu'n llawn faint o ddarpariaeth mannau agored cyhoeddus ffurfiol ac anffurfiol o fewn ardal y CDLlN ac yn cymharu'r ddarpariaeth hon â'r safonau meincnod a gymeradwywyd gan ganllawiau Meysydd Chwarae Cymru. Sylw
RS/1 mannau hamdden Sylw
Ar gyfer diogelu, darparu a gwella mannau hamdden yn ardal y CDLlN, mae'r canlynol yn berthnasol:
- Bydd gofyn i ddatblygiadau preswyl newydd ddarparu ar gyfer mannau hamdden yn unol â pholisi RS/2 datblygu a mannau hamdden.
- Ni chaniateir cynigion datblygu sy'n arwain at golled anghyfiawn o gyfleusterau cymunedol a hamdden fel yr amlinellir ym mholisi RS/3 diogelu mannau hamdden presennol.
- Caniateir cynigion newydd sy'n darparu a/neu'n gwella, neu'n ymestyn mannau a/neu gyfleusterau hamdden yn amodol ar ystyriaethau cynllunio manwl ym mholisi RS/4 mannau hamdden newydd.
5.3.260 Mae PCC a TAN 16: Chwaraeon, Hamdden a Mannau Agored yn ei gwneud yn ofynnol i’r Cynllun Datblygu Lleol Newydd i gefnogi datblygiad chwaraeon a hamdden a ffurfiau eraill o fannau agored cyhoeddus. Maent yn darparu ystod eang o weithgareddau hamdden, yn darparu lle i ymlacio a chyfrannu tuag at ansawdd bywyd. Maent yn annog gweithgarwch corfforol sy’n cyfrannu tuag at sicrhau Cymru iachach (nod tri yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol). Sylw
5.3.261 Mae Polisi Cynllunio Cymru yn ei gwneud yn ofynnol fod rhwydwaith seilwaith gwyrdd yn cael ei nodi, ei reoli a'i ehangu mewn cynlluniau datblygu. Mae mannau hamdden yn rhan o’r isadeiledd hwn. Mae'n bwysig bod y CDLlN yn cydnabod pwysigrwydd seilwaith gwyrdd wrth gyflawni manteision amgylcheddol, economaidd-gymdeithasol ac iechyd lleol, a nodwyd fel materion allweddol yng Nghynllun Lles Conwy a Sir Ddinbych a pholisïau STA. Sylw
5.3.262 Mae PCC a TAN16 yn dweud y dylid sefydlu safonau a dylid nodi a diwallu diffygion lleol drwy safonau'r CDLlN. Sylw
RS/2 datblygu a mannau hamdden Sylw
- Rhaid i ddatblygiadau tai newydd gydag enillion net o 5 neu fwy o anheddau gynnwys mannau hamdden o fewn cynllun y safle datblygu ar gyfer anghenion a mwynhad eu trigolion yn unol â'r safonau canlynol ar gyfer mannau agored a chymhareb gyfrannol o 3.55 hectar fesul 1,000 o'r boblogaeth:
|
Teipoleg |
Canllaw maint (hectar fesul 1,000 o'r boblogaeth) |
Diffiniad |
|
Caeau chwarae |
1.2ha |
Meysydd chwaraeon gan gynnwys pêl-droed, rygbi, hoci, lacrosse, criced a phêl-droed Americanaidd |
|
Chwaraeon awyr agored eraill |
0.4ha |
Cyrtiau a lawntiau sy'n cynnwys arwynebau naturiol neu artiffisial, gan gynnwys cyrtiau tenis, lawntiau bowlio, traciau athletau ac ardaloedd chwaraeon awyr agored eraill |
|
Ardaloedd chwarae gydag offer/dynodedig |
0.3ha |
Ardal Leol ar gyfer Chwarae (LAP), Ardal Leol wedi'i Thirweddu ar gyfer Chwarae (LLAP) ac Ardaloedd â Chyfarpar Lleol ar gyfer Chwarae (LEAP) wedi'u hanelu at blant a all chwarae'n annibynnol, yn ogystal ag Ardaloedd Chwarae â Chyfarpar Cymdogaeth (NEAP) |
|
Chwarae Anffurfiol |
0.3ha |
Ardaloedd gemau aml-ddefnydd pob tywydd (MUGA) gan gynnwys parciau sglefrfyrddio |
|
Parciau a gerddi |
0.8ha |
Mannau gwyrdd gan gynnwys parciau trefol, parciau gwledig, parciau coedwig a gerddi ffurfiol |
|
Man gwyrdd amwynder |
0.6ha |
Mannau hamdden anffurfiol, sgwariau cyhoeddus, mannau gwyrdd cymunedol mewn tai ac o'u cwmpas, grîn pentrefi |
- Mewn amgylchiadau eithriadol a chyfiawn, rhoddir ystyriaeth i ddarparu swm cymudo fel dewis arall yn lle darpariaeth ar y safle, neu ran ohoni, yn unol â'r safonau hyn ar gyfer mannau agored a'r Canllawiau Cynllunio Atodol.
5.3.263 Bydd yn ofynnol i ddatblygiadau preswyl ddarparu ar gyfer mannau hamdden yn seiliedig ar Bapur Cefndir 28, TAN16 a'r safonau a argymhellir gan ganllawiau Meysydd Chwarae Cymru. Yn y rhan fwyaf o achosion mae angen i ddatblygiadau tai ymgorffori mannau chwarae ac amwynder mewn cynllun, neu lle nad yw hynny’n ymarferol, dylid gwneud cyfraniad ariannol wedi’i sicrhau drwy ymrwymiad cynllunio o dan Adran 106 y Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990. Sylw
5.3.264 Mae tystiolaeth hyfywedd ariannol wedi dangos bod hyfywedd llawer o safleoedd llai yn heriol (Papur Cefndir 10). Mae hyn wedi arwain at osod trothwyon ar gyfer ceisio cyfraniadau tai fforddiadwy mewn rhai amgylchiadau (polisi HS/3). Oherwydd bod tai fforddiadwy yn cael blaenoriaeth uwch, ni fyddai'r ACLl yn gyffredinol yn ceisio cyfraniadau ar gyfer mannau hamdden o safleoedd nad oes gofyn iddynt gyfrannu at ddarpariaeth tai fforddiadwy. Yn ogystal, mae cyfyngiadau cronni ASC yn cyfyngu ar allu'r ACLl i geisio a gwario rhai cyfraniadau A106 o lawer o safleoedd bach. Am y rhesymau hyn ac oni bai bod ystyriaethau perthnasol yn awgrymu fel arall, ni cheisir cyfraniadau ariannol tuag at fannau hamdden o ddatblygiadau sydd ag enillion net o lai na 5 annedd. Sylw
5.3.265 Bydd darpariaeth teipoleg ar y safle a/neu oddi ar y safle yn cael ei hasesu yn seiliedig ar nifer yr anheddau a gynigir, gyda disgwyl i ddatblygiadau mwy (200 o anheddau neu fwy) ddarparu'r holl le chwaraeon awyr agored a chwarae plant ar y safle. Ar gyfer safleoedd llai (llai na 200) efallai y byddai'n briodol cael cymysgedd o ddarpariaeth ar y safle a chyfraniad ariannol at fannau hamdden oddi ar y safle. Disgwylir i bob datblygiad o 5 annedd neu fwy ddarparu mannau gwyrdd amwynder ar y safle. Disgwylir i ddatblygiadau o 30 neu fwy o anheddau ddarparu lleoedd chwarae i blant ar y safle. Gellir dod o hyd i fanylion pellach am ddarparu lle hamdden a symiau cymudo yn y Canllawiau Cynllunio Atodol ar Rwymedigaethau Cynllunio a Phapur Cefndir 28: Asesiad Gofod Hamdden. Sylw
5.3.266 Mae canllawiau Meysydd Chwarae Cymru hefyd yn argymell safon o 2.0 hectar i bob 1,000 o’r boblogaeth ar gyfer man gwyrdd naturiol a rhannol naturiol. Mae Papur Cefndir 28 yn nodi bod lefelau digonol o'r deipoleg hon yn ardal y Cynllun Datblygu Lleol Newydd, ac felly, ni fydd angen darpariaeth ychwanegol fel arfer. Sylw
5.3.267 Ymdrinnir â darparu rhandiroedd, sydd hefyd yn deipoleg o ofod hamdden yn TAN16, o dan bolisi CFS/2 y Cynllun Datblygu Lleol Newydd. Sylw
5.3.268 I sicrhau darpariaeth ar y safle neu welliannau i fannau hamdden oddi ar y safle, fe all yr ACLl ddefnyddio'r mesurau canlynol: Sylw
- Rhwymedigaethau cynllunio drwy Gytundebau Adran 106;
- Ardoll Seilwaith Cymunedol; a/neu
- Amodau Cynllunio.
5.3.269 Bydd hyfywedd ariannol yn ystyriaeth gynllunio a bydd y datblygwr yn gyfrifol am gynnal a chadw unrhyw fannau hamdden newydd am byth. Sylw
RS/3 diogelu mannau hamdden presennol Sylw
- Bydd safleoedd hamdden presennol yn cael eu diogelu. Dim ond lle mae'r cynnig yn dangos manteision cymunedol sylweddol yn deillio o'r cynnig y caniateir cynigion ar gyfer datblygu'r safleoedd hyn at ddibenion nad ydynt yn ymwneud â hamdden.
- Mewn cymunedau lle mae prinder amlwg o fannau hamdden, rhaid gwneud darpariaeth addas, amgen yn y gymuned leol sydd o leiaf yn gyfwerth o ran maint, hygyrchedd, swyddogaeth ac ansawdd â'r hyn a gollir.
- Cefnogir cynigion sy'n cynnwys ailddatblygu rhan fach o'r mannau hamdden presennol yn unig, lle mae'n gwella ac yn cadw'r ddarpariaeth yn y tymor hwy.
5.3.270 Mae Polisi Cynllunio Cymru yn nodi y dylai mannau gwyrdd agored ffurfiol ac anffurfiol gael eu diogelu rhag datblygiad. Ni fydd datblygu'r safleoedd hyn i ddefnydd arall yn cael ei ganiatáu, oni bai fod yna nifer gormodol o’r math hwnnw o fan hamdden yn y gymuned leol. Bwriad hyn yw i ddiogelu eu rôl mewn cyfrannu tuag at yr amgylchedd naturiol ac iechyd a lles. Fe allai parciau a gerddi fod yn cael eu diogelu ymhellach os ydynt yn ased hanesyddol ac wedi eu rhestru. Sylw
5.3.271 Lle mae gormod o ddarpariaeth mewn cymuned leol, gellir cefnogi colledion lle mae datblygwr hefyd yn dangos sut y bydd y cynnig yn dod â manteision sylweddol i'r gymuned honno megis darparu lefel foddhaol o dai fforddiadwy, cyfleusterau cymunedol, seilwaith cadwraeth natur/gwyrdd, cyfleusterau hamdden neu fanteision economaidd-gymdeithasol eraill a allai fod yn briodol. Sylw
5.3.272 Gellir caniatáu datblygu safle gofod hamdden ar gyfer defnyddiau eraill hefyd mewn amgylchiadau eithriadol eraill. Er enghraifft, os gellir darparu darpariaeth amgen o fudd cymunedol cyfatebol yn yr un gymuned, sydd o'r un ansawdd ac yn adlewyrchu'r amseroedd teithio a argymhellir a sefydlwyd yng nghanllawiau Meysydd Chwarae Cymru, neu ddatblygu rhan fach o'r gofod hamdden lle mae'n sicrhau dyfodol y gofod hamdden hwnnw, a bod y cyfleusterau'n cael eu gwella. Sylw
5.3.273 Ni roddir caniatâd cynllunio ar gyfer ailddatblygu gofod hamdden dim ond oherwydd nad ydynt yn cael eu defnyddio a chael eu hesgeuluso'n fwriadol neu eu ffensio i ffwrdd o ddefnydd cyhoeddus. Sylw
RS/4 mannau hamdden newydd Sylw
Bydd cynigion ar gyfer mannau hamdden newydd, hygyrch a chynhwysol neu estyniadau a/neu welliannau i'r mannau hamdden presennol yn cael eu cefnogi, yn amodol ar gydymffurfio â safonau'r Cyngor ar gyfer mannau agored, canllawiau Meysydd Chwarae Cymru a chanllawiau cynllunio cenedlaethol.
5.3.274 Dylid annog defnydd lluosog o ofod a chyfleusterau hamdden lle bo'n briodol, er mwyn cynyddu eu defnydd effeithiol. Dylid ystyried defnyddio tir a llwybrau segur fel parciau, parciau llinol neu lwybrau gwyrdd a darparu llwybrau beicio a llwybrau troed diogel a deniadol. Ni ddylai hyn fod er anfantais i ddefnyddwyr cyfagos, bywyd gwyllt nac amddiffynfeydd rhag llifogydd. Sylw
5.3.275 Dylai mannau hamdden hefyd fod yn hygyrch trwy ystod o opsiynau teithio cynaliadwy, gan gynnwys trafnidiaeth gyhoeddus, llwybrau cerdded a beicio yn unol â pholisïau Ardaloedd Teithio Cynaliadwy ar drafnidiaeth gyhoeddus a theithio llesol. Sylw
5.3.276 Ym mhob achos, dylai mannau hamdden gael arwyddion dwyieithog lle mae'r Gymraeg uwchlaw'r Saesneg. Rhaid i enwau ar gyfer y safleoedd hefyd ystyried ymdeimlad o le a chymeriad yr ardal a rhaid manteisio ar bob cyfle i ddefnyddio enwau Cymraeg lle bo'n bosibl ac yn briodol. Er enghraifft, defnyddio enwau Cymraeg sy'n dynodi'r ardaloedd - e.e. enwau'r tir fferm y cafodd y datblygiad ei adeiladu arno, enwau'r mynyddoedd a'r afonydd yn y Gymraeg, a chyfeiriad at hanes a threftadaeth y safleoedd sy'n siarad Cymraeg er mwyn hyrwyddo ymdeimlad unigryw o le a pherthyn. Sylw
5.4 Thema Strategol 3: lleoedd ffyniannus yng Nghonwy Sylw
Cyflwyniad Sylw
5.4.1 Mae'r thema lleoedd ffyniannus yn ymdrin â chyfansoddion economaidd wrth greu lleoedd yn ardal CDLlN Conwy. Mae’r cydrannau hyn yn cyd-fynd â’r holl themâu a pholisïau a nodir yn y fframwaith polisi creu lleoedd. Gyda’i gilydd, mae’r pedair thema yn dod ynghyd i gyfrannu tuag at y canlyniadau creu lleoedd cynaliadwy cenedlaethol. Sylw
5.4.2 Mae’r thema lleoedd ffyniannus CDLlN Conwy yn cynnwys datblygiad economaidd, twristiaeth, fframwaith cynllunio sero net a mwynau a gwastraff. Sylw
5.4.3 Mae lleoedd ffyniannus yng Nghonwy yn rhai sy’n hyrwyddo ein lles economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol trwy ddarparu cyflogaeth gysylltiedig a datblygiad economaidd cynaliadwy. Mae’r lleoedd hyn yn cael eu dylunio a’u lleoli i hyrwyddo ffyrdd o fyw iach a mynd i’r afael â newid hinsawdd yng Nghonwy. Fe gyflawnir hyn trwy sicrhau ei bod yn hawdd cerdded a beicio; yn hygyrch ar gludiant cyhoeddus; lleihau’r defnydd o adnoddau na ellir ei adnewyddu; a defnyddio ffynonellau adnewyddadwy a charbon isel. Mae lleoedd sy’n ffyniannus yn cyfrannu tuag at saith nod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol sy’n cynnwys: Sylw
5.4.4 Mae’r thema lleoedd ffyniannus yn cynnwys y polisïau canlynol: Sylw
Strategaeth datblygu economaidd Sylw
ED/1 datblygu economaidd
ED/2 dyraniadau cyflogaeth
ED/3 datblygiadau B1, B2 a B8 newydd ar safleoedd heb eu dyrannu.
ED/4 diogelu safleoedd swyddfa a diwydiannol B1, B2 a B8
ED/5 ardaloedd gwella cyflogaeth swyddfeydd a diwydiannol
ED/6 arallgyfeirio ffermydd ac ehangu busnesau mewn ardaloedd gwledig
ED/7 telathrebu
ED/8 clystyrau busnes.
Strategaeth Twristiaeth Sylw
TO/1 twristiaeth
TO/2 atyniadau hamdden a thwristiaeth cynaliadwy newydd
TO/3 lletyau gwyliau Llandudno
TO/4 safleoedd cabannau, carafanau sefydlog a charafanau teithiol
TO/5 llety gwyliau effaith isel
Fframwaith cynllunio sero net Sylw
EN/1 fframwaith cynllunio sero net
EN/2 cyflawni sero net mewn datblygiadau newydd
EN/3 adeiladau ynni effeithlon
EN/4 ffynonellau ynni di-garbon neu garbon isel a thechnoleg di-garbon parod
EN/5 allyriadau carbon heb eu rheoleiddio a charbon ymgorfforedig mewn adeiladau
EN/6 asesiad allyriadau nwyon tŷ gwydr ar gyfer datblygiadau newydd
EN/7 gwrthbwyso a dal a storio carbon
EN/8 cysylltu â’r grid a storio ynni
EN/9 cynhyrchu ynni lleol a chynllun ynni ardal leol (LAEP)
EN/10 grid clyfar a rhwydweithiau gwresogi ac oeri ardal
EN/11 datblygiad solar a gwynt ar y tir a rhwydweithiau gwresogi ac oeri ardal
EN/12 isadeiledd ar y tir sydd wedi’i gysylltu ag ynni adnewyddadwy ar y tir
Mwynau a Gwastraff Sylw
MW/1 mwynau a gwastraff
MW/2 echdynnu mwynau
MW/3 diogelu creigiau caled ac adnoddau tywod a graean
MW/4 parthau clustogi chwarel
MW/5 cynigion ar gyfer rheoli gwastraff
MW/6 defnydd o dir diwydiannol ar gyfer cyfleusterau rheoli gwastraff
MW/7 parth clustogi tirlenwi
Strategaeth datblygu economaidd Sylw
SO7: cefnogi ffyniant economaidd, arallgyfeirio ac adfywio yn hirdymor drwy fanteisio ar safle strategol Conwy yng nghyd-destun y rhanbarth ehangach a hyrwyddo strategaeth gyfannol ar gyfer twf cyflogaeth a thai, a fydd yn hwyluso twf swyddi newydd o’r mathau iawn mewn mannau hygyrch a chynaliadwy, cefnogi rhwydweithiau a chlystyrau busnes, hybu sgiliau ar gyfer swyddi â chyflogau da a darparu’r isadeiledd newydd angenrheidiol, a bydd hynny at ei gilydd yn galluogi busnesau newydd i sefydlu yng Nghonwy a’r busnesau presennol i dyfu. Sylw
SO9:hyrwyddo a chefnogi economïau gwledig cynaliadwy a ffyniannus trwy sefydlu menter newydd, ehangu busnes presennol a thrwy fabwysiadu dull adeiladol o ran amaethyddiaeth a newid arferion ffermio. Sylw
5.4.5 Mae’r bennod hon yn darparu’r fframwaith polisi ar gyfer cyflawni’r strategaeth defnydd tir economaidd yn ardal y CDLlN. Mae’n cynnwys polisïau sy’n trosi lefelau twf swyddi a chyflenwad tir cyflogaeth presennol yn ddyraniadau tir cyflogaeth, yn caniatáu ar gyfer datblygiadau cyflogaeth newydd mewn lleoliadau addas eraill, diogelu safleoedd cyflogaeth allweddol presennol ac yn darparu hyblygrwydd ar gyfer ehangu ac arallgyfeirio busnesau yn yr ardal wledig. Sylw
5.4.6 Mae strwythur cyflogaeth ym Mwrdeistref Sirol Conwy’n wahanol i Brydain Fawr ar y cyfan. Crebachodd y sail cynhyrchu’n sylweddol yn y tair degawd ddiwethaf nes gostwng i 4.3% o’r holl swyddi erbyn 2020, a chyflogir cyfran helaeth o’r boblogaeth yn y diwydiannau gwasanaethau (yn enwedig yn y sector cyhoeddus) a’r sector twristiaeth. Mae’r nifer o bobl a gyflogir mewn sectorau a nodweddir gan sgiliau a chyflogau uchel fel gwybodaeth a chyfathrebu, cyllid ac yswiriant, gwasanaethau proffesiynol, gwyddonol a thechnegol a gwasanaethau gweinyddu a chymorth busnes yn gymharol isel ym Mwrdeistref Sirol Conwy, lle mae’r gyfran o’r swyddi hynny yng nghyfanswm yr holl swyddi’n 13% o gymharu â 25% ym Mhrydain yn gyffredinol. Sylw
5.4.7 Mae cyfran uchel o’r swyddi mewn sectorau sy’n dibynnu ar dwristiaeth fel manwerthu, llety a bwyd yn ogystal â’r celfyddydau, adloniant a hamdden – 32% o’r holl swyddi o gymharu ag 21% yn genedlaethol. Y sectorau hynny sydd fwyaf tebygol o gynnig gwaith rhan amser neu dymhorol a chyflogau isel. Sylw
5.4.8 Amcangyfrifir ar sail ffigyrau STEAM 2022 bod y diwydiant twristiaeth yn darparu 9,520 o swyddi’n uniongyrchol ac yn cynnal 2,350 o swyddi eraill yn anuniongyrchol – cyfanswm o tua 11,870 o swyddi, sef bron i chwarter yr holl swyddi ym Mwrdeistref Sirol Conwy. Daw twristiaeth â thua £1,097 miliwn y flwyddyn i’r economi leol. Sylw
5.4.9 Bydd Bargen Dwf Gogledd Cymru’n effeithio ar ddyheadau economaidd, y ddarpariaeth a’r canlyniadau yn y rhanbarth. Mae’r Fargen yn cynnal pump o raglenni: Bwyd-amaeth a Thwristiaeth, Cysylltiadau Digidol, Dyfeisgarwch ym maes Gweithgynhyrchu Uchel ei Werth, Tir ac Eiddo ac Ynni Carbon Isel, a’i nod yw denu buddsoddiadau gwerth mwy na £1 biliwn i ogledd Cymru i greu 4,000 o swyddi newydd a rhoi hwb o £2.4 biliwn i’r Gwerth Ychwanegol Gros. Disgwylir y daw hynny â buddion economaidd cadarnhaol i Gonwy a bwriedir gweithredu o leiaf un o brosiectau’r Fargen Dwf yn y Sir. Sylw
5.4.10 Mae Cymru’r Dyfodol: y Cynllun Cenedlaethol 2040 yn cyfleu cefnogaeth gref LlC i ddatblygu’r economi sylfaenol yng ngogledd Cymru. Mae’n esbonio bod yr economi sylfaenol “yn cynrychioli'r rhannau hynny o'r economi sy'n annatod i lesiant lleoedd, cymunedau a phobl, ac sy'n diwallu anghenion beunyddiol pobl.” Yng Nghonwy, mae’r economi sylfaenol yn cynnwys y sectorau iechyd a gofal cymdeithasol, manwerthu, tai cymdeithasol, adfywio a thwristiaeth. Lluniwyd y polisïau yn y bennod economaidd hon, felly, nid yn unig i ddiogelu tir dosbarth B ond hefyd i ddiwallu anghenion yr economi sylfaenol er mwyn hwyluso creu swyddi newydd mewn sectorau traddodiadol nad ydynt yn perthyn i ddosbarth B a tharo cydbwysedd rhwng hynny a’r angen i ddiogelu tir dosbarth B. Dylid nodi bod adrannau eraill o’r CDLlN hwn yn canolbwyntio’n benodol ar dwristiaeth a manwerthu, a dylid cyfeirio at y rheiny hefyd wrth ystyried materion cynllunio defnydd tir. Sylw
5.4.11 Wrth gasglu’r sail tystiolaeth ynghyd, bu Adolygiad Tir Cyflogaeth Conwy’n ystyried y newidiadau cyfredol yn yr hinsawdd economaidd a’r hyn y rhagwelir a fydd yn newid yn y dyfodol, ac mae’n nodi y bydd angen rhwng 14 ac 20 o hectarau ledled Conwy hyd 2033. Mae hynny’n seiliedig ar amryw sefyllfaoedd posib a rhagolygon ynghylch y farchnad lafur, tueddiadau mewn sectorau a chyfraddau cyfranogi yn y gorffennol. Yn unol â’r dewis a ffefrir ar gyfer twf, detholwyd y sefyllfa o fod angen 16 o hectarau, gan fod hynny’n ystyried rhagolygon Experian o’r twf mewn swyddi yn yr ardal a’r prosiectau twf rhanbarthol a weithredir hyd 2033 (gweler Papur Cefndir 18 – Adolygiad Tir Cyflogaeth). Sylw
5.4.12 Mae Papur Cefndir 19: Dadansoddiad o Farchnad Fasnachol Conwy, yn nodi bod gan Gonwy fwy o ofod swyddfa (a llai o ofod diwydiannol) na Chynghorau eraill yn y Gogledd a thrwy Gymru gyfan yn ôl eu maint. Mae’r galw am safleoedd diwydiannol yn y Fwrdeistref Sirol yn fwy na’r hyn y gellir ei gyflenwi oherwydd prinder safleoedd diwydiannol pwrpasol rhwng 2,000 troedfedd2 a 5,000 troedfedd2. Yn ystod cyfnod y Cynllun hwn, mae angen creu unedau diwydiannol newydd ar hyd cyntedd yr A55 a chreu gwell amrywiaeth o swyddfeydd fel y gall busnesau ehangu orfod gadael y Fwrdeistref Sirol. Sylw
5.4.13 Mae’n hollbwysig cynnal yr economi wledig, gan gydnabod effeithiau posib ymadael â’r Undeb Ewropeaidd a’r pandemig Covid-19 ar y galw am wahanol fathau o dir yng nghefn gwlad. Yn unol â Pholisi Cynllunio Cymru, rhoddir mwy o hyblygrwydd i fusnesau gwledig sy’n bwriadu ehangu eu gweithrediadau presennol. Cedwir at y dull dilyniannol ym mholisi ED/3 er mwyn dal i annog busnesau i glustnodi safleoedd mewn mannau cynaliadwy. Mae cydnabod a chefnogi’r Gymraeg ym mhob ardal yn y sir, ac yn arbennig yr ardaloedd sensitif dynodedig, yn bwysig iawn er mwyn creu economïau iach gan ganiatáu i’r Gymraeg ffynnu. Mae Polisi ED/1 yn croesgyfeirio polisi PL/7 (Polisi Iaith Gymraeg) i sicrhau bod datblygiadau yn hyrwyddo ac yn gwarchod y Gymraeg trwy gynnal asesiadau effaith a darparu mesurau lliniaru yn ôl yr angen. Sylw
5.4.14 Cydnabyddir y bydd prosiectau datblygu a sectorau twf ym Mwrdeistref Sirol Conwy a’r cyffiniau’n creu galw sylweddol am sgiliau penodol. Yn yr Asesiad Anghenion Sgiliau (Papur Cefndir 20), sonnir fod yno/y bydd yn debygol o fod prinder gweithwyr adeiladu, peirianwyr (trydanol a mecanyddol), syrfewyr, rheolwyr prosiectau ac arbenigwyr mewn ecoleg ar gyfer y prosiectau sydd ar y gweill yng Ngogledd Cymru yn y pymtheg mlynedd nesaf. Rhagwelir twf ym maes twristiaeth hefyd yn Strategaeth Economaidd Conwy 2017-2027, a bydd mwy o angen am swyddi a sgiliau i gynnal y sector hwnnw yn ôl pob tebyg. I grynhoi, felly, er nad yw’r dystiolaeth yn awgrymu fod angen creu sefydliad addysg uwch newydd yng Nghonwy, gallai fod mwy o drafod rhwng darparwyr addysg uwch a’r Cyngor ynglŷn â chyfleoedd i fynd i’r afael â bylchau mewn sgiliau. Sylw
ED/1 datblygu economaidd Sylw
Mae’n bwysig iawn bodloni anghenion cyflogaeth y Sir o safbwynt defnyddio tir a hynny sydd wrth wraidd y strategaeth twf ar sail cyflogaeth yn y CDLlN. I gynorthwyo wrth gyflawni’r twf a ragwelir yn y Sir, pennwyd gofyn am 16.4 o hectarau o dir cyflogaeth wedi’i rannu’n 35% ar gyfer defnydd B1a/b a 65% ar gyfer B1c/B2/B8. Cyflawnir y strategaeth twf ar sail cyflogaeth yn y dulliau canlynol:
- Yn ogystal â’r cyflenwad presennol o dir cyflogaeth, neilltuwyd 12.65 o hectarau o dir cyflogaeth yn Ardal Strategaeth Datblygu’r Arfordir fel y nodir ar y map cynigion (yn unol â pholisi ED/2).
- Caniatáu datblygiadau newydd B1 (Busnes), B2 (Diwydiannol Cyffredinol) a B8 (Storio a Dosbarthu) neu gymysgedd o’r rheiny ar dir heb ei neilltuo, yn unol â’r dull dilyniannol o sicrhau y defnyddir safleoedd mewn canol trefi a thir a ddatblygwyd eisoes yn hytrach na safleoedd tir glas (yn unol â pholisi ED/3).
- Bydd y Cyngor yn ceisio diogelu safleoedd cyflogaeth dosbarth B presennol a’r rhai a neilltuir er mwyn sicrhau y cyflenwir digon o dir cyflogaeth yn y mannau iawn (yn unol â pholisi ED/4).
- Nodi’r safleoedd cyflogaeth hynny a fyddai’n elwa ar wella eu hamwynderau ym Mholisi ED/5 ac ar y map cynigion. Bydd yn rhaid i gynigion ar gyfer datblygu’r safleoedd hynny ddangos bod modd iddynt wella’r amwynderau sydd yno.
- Caniatáu, mewn egwyddor, trosi adeiladau gwledig at ddibenion busnes, yn unol â Pholisi PL/10.
- Cefnogi, mewn egwyddor, arallgyfeirio ar ffermydd ac ehangu busnesau gwledig presennol y tu allan i ffiniau aneddiadau (yn unol â pholisi ED/6).
- Cydnabod a hyrwyddo’r Gymraeg wrth ystyried cynigion datblygu at ddefnydd cyflogaeth (yn unol â pholisi PL/7)
- Cefnogi, mewn egwyddor, darparu isadeiledd band eang cyflym ledled Conwy yn ogystal â chysylltiadau telathrebu dibynadwy (yn unol â pholisi ED/7).
- Cefnogi, mewn egwyddor, datblygu Clystyrau Busnes yn y Sir sydd o fudd i’r economi a’r gymuned leol (yn unol â pholisi ED/8).
5.4.15 Darparodd Papur Cefndir 18: Adolygiad Tir Cyflogaeth Conwy ystod o senarios ar gyfer twf economaidd hyd at 2033. Detholwyd yr ail un o’r sefyllfaoedd hynny, ‘Experian’, fel y dewis a ffefrir ar y sail resymegol a bennir yn Atodiad 1 i Bapur Cefndir 18. Mae’n dod i’r casgliad y byddai angen i Gonwy greu lle ar gyfer 1,500 o swyddi ychwanegol yn ystod cyfnod y Cynllun Datblygu Lleol newydd, sy’n galw am oddeutu 16 o hectarau o dir cyflogaeth yn nosbarth defnydd B, ac mae hynny’n cymryd i ystyriaeth y sbardunau twf fel Bargen Dwf Gogledd Cymru a thueddiadau mewn sectorau. Mae’r Adolygiad Tir Cyflogaeth yn datgan, ar sail nifer y swyddi arfaethedig yn y diwydiannau hyn a’r modd y dosrennir y cyflenwad presennol o dir cyflogaeth, y dylid rhannu’r dyraniadau a’r cyflenwad o dir a danddefnyddir yn 35% ar gyfer swyddfeydd B1a/b a 65% ar gyfer Diwydiant a Warysau B1c/B2/B8. Dengys Dadansoddiad Marchnad Fasnachol Conwy bod y mannau delfrydol ar gyfer tir cyflogaeth newydd ar hyd cyntedd yr A55, a bod Mochdre, Cyffordd Llandudno, Conwy a Bae Cinmel yn ardaloedd poblogaidd ar hyn o bryd. Sylw
5.4.16 O ran faint o gyflenwad tir sydd yng Nghonwy, mae canlyniadau o Bapur Cefndir 17: Cyflenwad Tir Cyflogaeth wedi cael eu crynhoi yn ffigur 19 isod: Sylw
Ffigur 19: tabl yn dangos cyflenwad tir cyflogaeth yng Nghonwy Ebrill 2024 Sylw
| Cyflenwad tir | Maint mewn hectarau |
| Cyflenwad tir cyflogaeth presennol o bob ffynhonnell (lleiniau heb eu datblygu, unedau gwag) | 24.6 |
| Cyfanswm yr addasiadau ansoddol i’w didynnu o’r cyflenwad | (19.13) |
| Cyfanswm y cyflenwad fel y’i haddaswyd | 5.47 |
| Ychwanegu datblygiadau a gwblhawyd (net) / ymrwymwyd iddynt sydd heb eu cynnwys uchod | 3.79 |
| Cyfanswm cyflenwad tir Ebrill 2024 | 9.26 |
| CYFANSWM Y TIR SYDD EI ANGEN YN ÔL FERSIWN ADNEUO’R CYNLLUN DATBLYGU LLEOL NEWYDD (targed yr Adolygiad Tir Cyflogaeth o dwf o 16.4ha a didynnu cyfanswm y cyflenwad o 9.26ha) | 7.14 |
Ffynhonnell: PapurCefndir17: Cyflenwad Tir Cyflogaeth Sylw
5.4.17 Ceir cyflenwad o tua 9 o hectarau o dir cyflogaeth ar hyn o bryd, sy’n cynnwys tir a ddynodwyd sy’n sefyll yn wag, datblygiadau newydd a ganiatawyd ac unedau gwag ar barciau busnes presennol. Golyga hynny fod angen dyrannu tua 7-8 o hectarau o dir newydd yn y Cynllun Datblygu Lleol Newydd. Sylw
5.4.18 Mae’r CDLlN cyfredol yn diogelu Tir Llwyd at ddibenion cyflogaeth, ond gan ystyried y cyfyngiadau arwyddocaol oherwydd peryglon llifogydd, nid yw’r cyflenwad yn cynnwys y tir sy’n weddill yn Nhir Llwyd sydd heb ei ddatblygu. Nid yw hynny’n golygu na fydd yno unrhyw ddatblygiad yn Nhir Llwyd, fodd bynnag, a chaiff ceisiadau unigol eu hystyried yn ôl eu rhinweddau. Sylw
5.4.19 Diogelir safleoedd cyflogaeth B1, B2 a B8 presennol a’r rhai a ddynodir (yn amodol ar fodloni’r meini prawf) rhag eu troi at ddibenion eraill, oni bai fod modd dangos nad oes galw am ei ddefnydd presennol mwyach. Hyrwyddir dulliau doethach o ddefnyddio gofod swyddfa presennol os nad oes galw mwyach am ddefnyddio’r stoc at ddibenion traddodiadol B1, yn unol â Dadansoddiad Marchnad Fasnachol Conwy (Papur Cefndir 19). Er bod angen diogelu tir cyflogaeth B1, B2 a B8 lle mae galw amdano, cydnabyddir hefyd y gall dulliau defnyddio eraill gynhyrchu cyflogaeth hefyd, fel clinigau D1, gwasanaethau ariannol A2 a rhai mathau penodol o ddibenion hamdden a sui generis. Os bernir nad oes galw am ddibenion dosbarth B mwyach, gallai dulliau defnyddio eraill fod yn dderbyniol yn ôl yr egwyddor canol trefi’n gyntaf ac ar sail unrhyw brofion dilyniannol sydd eu hangen a’r meini prawf ym Mholisi ED/4. Sylw
ED/2 dyraniadau cyflogaeth Sylw
Dyrennir 12.65 o hectarau o dir ar gyfer cymysgedd o gyflogaeth B1, B2 a B8 yn Ardal Strategaeth Datblygu’r Arfordir ar y safleoedd canlynol a nodir ar y Map Cynigion:
- Chwarel Llanddulas (Ardaloedd 1, 2 a 3)
- Tir ger Bryniau, rhwng Wormhout Way a Ffordd Conwy, Llandudno
5.4.20 Mae swm y tir a ddyrannwyd yn gyson â’r cyfanswm o 16.4ha sydd ei angen yn ôl yr Adolygiad Tir Cyflogaeth, gan ystyried y cyflenwad presennol ar ffurf safleoedd gwag/wedi’u diogelu fel y nodir yn y tabl isod. Dylid cydnabod na chaiff yr holl dir ei ddatblygu yn ystod cyfnod y Cynllun, ac felly mae’r targed o 16.4ha yn fymryn o orgyflenwad o’r hyn sydd ei angen. Daw cynlluniau i ddatblygu rhywfaint o’r tir yn Chwarel ar waith tua diwedd cyfnod y Cynllun a rhagwelir y bydd datblygu’r tir hwnnw’n parhau ar ôl 2033. Gwneir gwaith monitro blynyddol i gael deall faint o dir a ddatblygir o gymharu â’r cyfanswm sy’n ofynnol, gan ystyried y rhaniad yn ôl dosbarthiadau defnydd. Sylw
5.4.21 Er mwyn atal datblygiadau amhriodol ar y safleoedd hyn, fe’u cedwir y tu hwnt i ffiniau’r aneddiadau ac fe’i diogelir ar gyfer y dibenion cyflogaeth priodol a nodir yn y tabl isod: Sylw
Ffigur 20: manylion ac amseriad dyraniadau cyflogaeth Sylw
|
Rhifysafle |
Enw’rsaflea’i leoliad |
Dosbart h defnydd |
Camau Datblygu |
Maint mewn hectarau |
|
115 (1) |
Chwarel Llanddulas, Ardal 1 |
B1/B2/B 8 |
2027-2029 |
0.8* |
|
115 (2) |
Chwarel Llanddulas, Ardal 2 |
B1/B2/B 8 |
2028-2032 |
4* |
|
115 (3) |
Chwarel Llanddulas, Ardal 3 |
B1/B2/B 8 |
O 2032 ymlaen |
4* |
|
103 |
Tir ger Bryniau, rhwng Wormhout Way a Ffordd Conwy, Llandudno |
B1 |
2028-2033 a thu hwnt |
3.85 |
|
Cyfanswm |
Pobsafle |
B1/B2/B 8 |
2027-2033 a thu hwnt |
12.65 |
Ffynhonnell: PapurCefndir17: Cyflenwad Tir Cyflogaeth Sylw
*Sylwer mai’r maint yw arwynebedd y tir y gellir ei ddatblygu gan ystyried y llwyfannau datblygu / ail-broffilio tir. Sylw
5.4.22 Ni chaniateir newid defnydd o ddosbarth B uchod ond os nad yw’r newid hwnnw’n cael effaith andwyol ar y strategaeth gyflogaeth gyffredinol, yn unol â’r maen prawf yn rhan 1 o Bolisi ED/4. Detholwyd y safleoedd yn Chwarel Llanddulas (Ardaloedd 1, 2 a 3) i’w dyrannu ar sail proses drylwyr i asesu’r safle, gan gynnwys ymgynghoriad statudol (ac anstatudol). Gan fod y safleoedd hyn eisoes wedi’u datblygu i raddau helaeth a’u bod yn gorwedd mewn ardaloedd trefol, yn agos at gyntedd yr A55 ac wrth ymyl yr A547, maent wedi perfformio’n dda o’u barnu yn ôl yr egwyddorion yn yr asesiad o’r farchnad fasnachol. Sylw
5.4.23 Mae Ardal 1 yn Chwarel Llanddulas ar oleddf ac mae’n cynnwys adfeilion yr isadeiledd ar gyfer echdynnu mwynau o Chwarel Llanddulas yn y gorffennol. Mae Ardaloedd 2 a 3 yn cynnwys hen dyllau chwarel a’r rhan helaeth ohonynt heb eu hadfer. Yn Ardal 2 ceir llwyfannau grisiog â rampiau rhyngddynt ac mae yno lyn bach yn Ardal 3. Er bod rhannau o Ardaloedd 1, 2 a 3 eisoes yn addas ar gyfer nifer gyfyngedig o ddatblygiadau adeiladu, byddai gofyn am waith paratoadol trylwyr i greu llwyfan ddigonol ar gyfer datblygiadau helaeth. Gallai hynny gynnwys draenio’r llyn bach yn Ardal 3, creu llwyfannau datblygu yn Ardaloedd 2 a 3 ac ail-broffilio rhywfaint o’r tir yn Ardal 1. Ceir ychwaneg o wybodaeth am ddatblygu’r safle hwn yn yr adran o’r Cynllun hwn o’r enw Creu Lleoedd – Dewisiadau Strategol a Gofodol yng Nghonwy. Sylw
5.4.24 Tir yn Bryniau, Llandudno - Mae’r safle hwn wedi’i leoli ar ymyl ddeheuol Llandudno, ar dir sydd wedi’i leoli i’r de o Queen’s Road. Yn mesur tua 3.85ha, mae’r safle ar hyn o bryd yn cynnwys glaswelltir a gwrychoedd, gyda choed ar hyd y ffiniau gogleddol, deheuol a dwyreiniol. Mae seilwaith presennol o amgylch y safle cyfan, sef Conway Road (B5115) i’r gorllewin a Wormhout Way (A470) i’r dwyrain, gyda’r ddwy ffordd yn cydgyfarfod ar gylchffordd tua’r gogledd. Mae Mynwent Llanrhos yn union i’r de. O ystyried ei leoliad o fewn Tirwedd Hanesyddol Cofrestredig Creuddyn a Chonwy, mae’r safle’n addas ar gyfer datblygiad defnydd swyddfa dosbarth B1 yn hytrach na defnydd diwydiannol. Ceir ychwaneg o wybodaeth am ddatblygu’r safle hwn yn yr adran o’r Cynllun hwn o’r enw Creu Lleoedd – Dewisiadau Strategol a Gofodol yng Nghonwy. Sylw
ED/3 datblygiadau B1, B2 a B8 newydd ar safleoedd heb eu dyrannu Sylw
- Cefnogir datblygu safleoedd newydd B1 (Busnes), B2 (Diwydiannol Cyffredinol), B8 (Storio a Dosbarthu) neu gymysgedd o’r defnyddiau hynny ar safleoedd cyflogaeth heb eu dyrannu ar sail ddilyniannol fel y nodir yn y Dull Dilyniannol isod ac yn amodol ar fodloni’r meini prawf canlynol:
- Bod y cais yn briodol o ran ei raddfa a natur ei leoliad
- Na fyddai’r datblygiad arfaethedig yn cael effaith andwyol annerbyniol ar breswylwyr yr eiddo cyfagos neu’r amgylchedd
- Bod y datblygiad arfaethedig yn hygyrch a bod hynny’n gynaliadwy.
- Dylai ymgeiswyr ddangos eu bod wedi dilyn dull dilyniannol wrth gyflwyno ceisiadau cynllunio ar gyfer datblygiadau newydd dosbarth B. Mae’r drefn flaenoriaeth fel a ganlyn:
- Blaenoriaeth 1 – Safleoedd cyflogaeth ac adeiladau presennol, gan gynnwys safleoedd wedi’u diogelu / i’w gwella ac ar gyfer defnydd swyddfa B1, dylid ymchwilio yn gyntaf oll i dir a ddatblygwyd eisoes ynghanol trefi ac mewn canolfannau lleol, yn unol â’r dull ‘canol trefi yn gyntaf’.
- Blaenoriaeth 2 – Tir a ddatblygwyd eisoes mewn rhannau eraill o Ardal Strategaeth Datblygu’r Arfordir, Canolfan Wasanaeth Allweddol, Prif Bentrefi yn Haen 2 a Phentrefi Bach, gan gynnwys safleoedd mewnlenwi a therfynu. Mewn cefn gwlad agored, ystyrir ceisiadau i ailddatblygu tir a ddatblygwyd eisoes yn unol â Pholisi PL/10, trosi adeiladau gwledig.
- Blaenoriaeth 3 – Tir glas o fewn ffiniau aneddiadau Ardal Strategaeth Datblygu’r Arfordir, canolfannau gwasanaeth allweddol a Phrif Bentrefi yn Haen 2, gan gynnwys safleoedd mewnlenwi a therfynu.
- Blaenoriaeth 4 – Tir glas sy’n ymestyn aneddiadau y tu hwnt i’w ffiniau yn Ardal Strategaeth Datblygu’r Arfordir, canolfannau gwasanaeth allweddol a Phrif Bentrefi yn Haen 2.
- Blaenoriaeth 5 – Tir glas mewn Pentrefi Bach, gan gynnwys safleoedd mewnlenwi a therfynu.
- Asesir ceisiadau gan fusnesau lleol presennol sydd angen adeiladau newydd a thir i ehangu yn unol â pholisi ED/6.
5.4.25 Yn ogystal â’r cyflenwad presennol o dir cyflogaeth a’r hyn a ddyrannwyd, bydd yr awdurdod cynllunio hefyd yn ystyried ceisiadau ar gyfer swyddfeydd a datblygiadau economaidd diwydiannol ar safleoedd heb eu dyrannu. Asesir ceisiadau felly ar sail dull sy’n cyfeirio gweithgarwch datblygu economaidd i’r mannau mwyaf priodol yn ôl y canllawiau a’r argymhellion mewn polisïau cynllunio cenedlaethol Dengys Ffigur 21 y mathau o dir y rhoddir blaenoriaeth iddynt ar gyfer datblygiadau cyflogaeth newydd: Sylw
Ffigur21 : tabl yn dangos dull dilyniannol ar gyfer datblygiadau newydd B1 (Busnes), B2 (Diwydiannol Cyffredinol), B8 (Storioa Dosbarthu) neu gymysgedd o’r rheiny Sylw
|
Hierarchaeth cynaladwyedd |
Ardal Strategaeth Datblygu’r Arfordir (CDSA) |
Canolfan Gwasanaeth Allweddol |
Gwledig: PrifBentrefi Haen 2 |
Gwledig: MânBentrefi |
|
Safleoedd cyflogaeth presennol |
1 |
1 |
1 |
Amherthnasol |
|
Safleoedd Cyflogaeth wedi’u dyrannu / dynodi / diogelu |
1 |
1 |
Amherthnasol |
Amherthnasol |
|
Tir a Ddatblygwyd Eisoes Trefol/Lleol |
1 |
1 |
1 |
Amherthnasol |
|
Tir Arall a Ddatblygwyd Eisoes |
2 |
2 |
2 |
2 |
|
Tir glas: o fewn aneddiadau |
3 |
3 |
3 |
5 |
|
Tir glas: safleoedd mewnlenwi / terfynu |
3 |
3 |
3 |
5 |
|
Tir glas: estyniadau aneddiadau |
4 |
4 |
4 |
Gweler polisïau PL/10 ac ED/6 |
Ffynhonnell: Papur Cefndir 56: Hierarchaeth Buddsoddiadau Tir Cyflogaeth Sylw
5.4.26 Dengys Ffigur 21 y math o dir neu safle ymhob ardal yn yr hierarchaeth aneddiadau a fyddai’n ddilyniannol ffafriol yn nhrefn blaenoriaeth. Er enghraifft, byddai cais cynllunio ar gyfer uned ddiwydiannol yn Ardal Strategaeth Datblygu’r Arfordir yn ddilyniannol ffafriol ar unrhyw un o’r safleoedd cyflogaeth presennol a safleoedd wedi’u dyrannu, eu dynodi neu’u diogelu. Cymerid safleoedd mewn canol trefi i ystyriaeth hefyd, ond cydnabyddir nad yw pob math o ddiwydiant yn addas i’w lleoli ynghanol tref. Bydd angen i unrhyw geisiadau ar gyfer swyddfeydd yn Ardal Strategaeth Datblygu’r Arfordir ystyried yr egwyddor o ddatblygu mewn canol tref yn gyntaf fel rhan o’r asesiad dilyniannol. Mae’n bwysig nodi nad yw’r polisi hwn yn gorfodi cynigion addas ar gyfer cyflogaeth yng nghefn gwlad tuag Ardal Strategaeth Datblygu’r Arfordir. Pe cyflwynid cais cynllunio ar gyfer defnydd dosbarth B mewn Prif Bentref yn Haen 2, er enghraifft, rhoddid blaenoriaeth i safleoedd cyflogaeth presennol neu dir a ddatblygwyd eisoes yn yr ardal wledig fel dewis cyntaf. Ni fyddai disgwyl i’r ymgeisydd gynnal asesiad dilyniannol o safleoedd mewn mannau sy’n uwch yn yr hierarchaeth aneddiadau, oni bai fod yno bryderon na fyddai’r datblygiad arfaethedig yn bodloni rhannau a, b neu c o’r polisi hwn. Sylw
5.4.27 Os na chynigir tir neu safle dilyniannol ffafriol fel rhan o’r cais, bydd yn ofynnol i’r ymgeisydd gyflwyno datganiad ategol i egluro pam fod angen datblygu rhyw safle neu ardal benodol i fodloni anghenion y busnes mewn achos felly. Ar safleoedd tir glas, mae’n ofynnol cyflwyno tystiolaeth ategol i ddangos nad oes safleoedd arall wedi’i dyrannu na thir a ddatblygwyd eisoes y gellid eu defnyddio yn lle tir glas. Llunnir Canllawiau Cynllunio Atodol i gynorthwyo ymgeiswyr a phenderfynwyr â’r polisi hwn. Bydd angen i rai datblygiadau gael eu cefnogi gan Asesiadau o’r Effaith ar y Gymraeg a/neu fesurau lliniaru priodol (gweler polisi PL/7). Sylw
5.4.28 Daeth Astudiaeth Canol Trefi yn Gyntaf Conwy (Papur Cefndir 61) i’r casgliad bod y galw cyfredol am swyddfeydd yn gymharol fach mewn canol trefi ledled y Sir, a bod y galw sydd yno’n dod yn bennaf o gwmnïau presennol sy’n dymuno symud i swyddfeydd gwell. Bernir bod y rhan helaeth o’r adeiladau presennol mewn canol trefi yn anaddas i’w defnyddio fel swyddfeydd, ac felly dylid bod yn bragmatig wrth ymdrin â busnesau newydd sy’n chwilio am safleoedd a diogelu’r safleoedd hynny a ddefnyddir fel swyddfeydd ar hyn o bryd. Gallai cynlluniau grant i wella adeiladwaith, golwg a defnyddioldeb adeiladau mewn canol trefi gynorthwyo i wella eu hansawdd a’u hapêl i ddarpar fusnesau. Mae’r polisi nesaf yn y bennod hon (ED/4) yn ymdrin â diogelu safleoedd a ddefnyddir er cyflogaeth. Sylw
5.4.29 Ystyrir ceisiadau am gyfleusterau rheoli gwastraff yn ôl eu rhinweddau penodol yn unol â pholisïau ED/3, MW/5 ac MW/6. Ni chefnogir ceisiadau a fyddai’n cael effaith andwyol arwyddocaol ar amgylchedd ac amwynder yr ardal os nad oes modd lliniaru ar hynny. Sylw
ED/4 diogelu safleoedd swyddfa a diwydiannol B1, B2 a B8 Sylw
- Cedwir safleoedd cyflogaeth a ddiogelir a safleoedd cyflogaeth a ddyrannwyd (fel y’u dynodir ar y map cynigion) at ddibenion B1, B2 ac B8 a dulliau defnyddio gweithredol sy’n cynhyrchu cyflogaeth yn unig. Ni chaniateir datblygiadau ar safleoedd fel hyn a fyddai’n arwain at golli defnyddiau B1, B2, B8 neu gymysgedd o ddefnyddiau Dosbarth B, neu leiniau gwag sydd wedi’u dyrannu neu’u dynodi ar gyfer tir cyflogaeth o fewn ffiniau’r safle, oni fodlonir y meini prawf canlynol:
- Bod tystiolaeth yn dangos diffyg galw am unrhyw ddefnyddiau cyflogaeth B1, B2, B8 yng nghyffiniau’r safle; ac
- Bod y defnydd arfaethedig yn gyfystyr â defnydd gweithredol cynhyrchu cyflogaeth ar y safle; ac
- Nad yw’r defnydd arfaethedig yn cyfyngu ar ddefnyddio tir cyfagos er cyflogaeth a’i fod yn bodloni’r meini prawf yn y polisïau perthnasol a geir yn yr adran o’r cynllun hwn o’r enw Creu Lleoedd – Dewisiadau Strategol a Gofodol yng Nghonwy, a’r canllawiau cenedlaethol ynghylch datblygiadau manwerthu a masnachol.
- Caniateir ceisiadau sy’n arwain at golli tir cyflogaeth B1, B2, B8 presennol neu adeiladau nad ydynt yn rhan o safle cyflogaeth sydd wedi’i diogelu neu’i dyrannu os ydynt yn bodloni meini prawf y canllawiau cenedlaethol.
5.4.30 Cydnabyddir y dylai’r system gynllunio ddiogelu defnyddiau cyflogaeth y mae angen amdanynt yn y presennol a’r dyfodol hyd y gellir rhagweld. Mae NCT 23 yn datgan: “Dylai awdurdodau cynllunio osgoi rhyddhau safleoedd ar gyfer defnyddiau eraill os oes tystiolaeth gadarn o angen tebygol yn y dyfodol am B1-B8.” Mae’r safleoedd hynny sydd wedi’u dynodi a’u diogelu’n safleoedd cyflogaeth sydd eisoes wedi’u sefydlu ac mae llawer ohonynt yn gorwedd yn y mannau mwyaf apelgar er cyflogaeth y mae galw cyffredinol mawr amdanynt at ddibenion busnes. Sylw
5.4.31 Bydd yno ragdybiaeth o blaid cadw’r safleoedd hynny’n ddosbarth B a bydd yn ofynnol i’r ymgeisydd ddangos, drwy gynnal ymarfer marchnata, nad oes angen y safle mwyach at ddibenion dosbarth B. Mae Maen Prawf 1 b) yn cyfeirio at ‘ddibenion gweithredol sy’n cynhyrchu cyflogaeth’. Mae dibenion gweithredol sy’n cynhyrchu cyflogaeth yn golygu darparu cyflogaeth barhaus ar safle’r cais. Mae safleoedd a ddefnyddir fel hyn wedi’u cynnwys yn nharged y CDLlN i greu 1,500 o swyddi newydd erbyn 2033, ar sail y dystiolaeth o’r Adolygiad Tir Cyflogaeth, ac felly byddai’n ddoeth caniatáu newid defnydd mewn achosion lle nad oes angen mwyach am y dibenion gwreiddiol dosbarth B. Sylw
5.4.32 Gall dibenion gweithredol sy’n cynhyrchu cyflogaeth gynnwys, ymysg pethau eraill, cyflogaeth sui generis nad yw’n cyfrif fel dosbarth B fel llogi peiriannau, gwerthu cerbydau a rheoli gwastraff, yn ogystal â chanolfannau iechyd a gofal, gwestai a champfeydd. Ni fyddai dibenion gweithredol sy’n cynhyrchu cyflogaeth yn cynnwys pethau fel datblygiadau tai, a fyddai’n creu cyflogaeth ar gyfer eu hadeiladu ond heb ddarparu cyflogaeth barhaus. Dylid sicrhau bod y dull newydd o ddefnyddio’r safle’n gydnaws â’r busnesau cyfagos sydd eisoes yn bod, yn unol â maen prawf 1 c), a bod y profion dilyniannol priodol wedi’u cynnal a’u bodloni yn gyntaf oll, os mai canol tref fyddai’r lle gorau ar gyfer y defnydd dan sylw. Sylw
5.4.33 Mae’r canllawiau cenedlaethol yn datgan bod blaenoriaethau eraill, gan gynnwys yr angen am dai, yn fwy blaenllaw ac yn medru bod yn drech nag ystyriaethau economaidd cul. Er bod yr angen am dai yn ystyriaeth berthnasol, ceir rhagdybiaeth o blaid cadw safleoedd cyflogaeth a ddiogelwyd yn unol ag ED/4 er mwyn dal i ddiwalllu’r angen am dir cyflogaeth yng Nghonwy, ac felly mae defnyddio tir ar safleoedd sydd wedi’u dynodi a’u diogelu y tu hwnt i gwmpas rhan 1 o Bolisi ED/4 a bernir bod hynny’n wyriad. Sylw
5.4.34 Ceir agwedd fwy hyblyg at newid defnydd safleoedd cyflogaeth dosbarth B nad ydynt wedi’u dynodi a’u diogelu, ac ystyrir ceisiadau felly’n unol â’r canllawiau cenedlaethol. Sylw
5.4.35 Yn ôl y dystiolaeth o Astudiaeth Canol Trefi yn Gyntaf Conwy, fodd bynnag, dylid cadw golwg fanwl ar y sefyllfa ym Mae Colwyn gyda’r nod o gynnal a chryfhau’r clwstwr o swyddfeydd ar hyd Wynnstay Road a’r cyffiniau. Yn yr un modd, dylid cadw golwg fanwl ar y sefyllfa yn Llandudno gyda’r nod o gynnal a chryfhau’r clwstwr o swyddfeydd o gwmpas Trinity Square drwy annog datblygiadau i drosi adeiladau’n swyddfeydd yn yr ardal honno. Dylid dal i ystyried ceisiadau i drosi adeiladau’n swyddfeydd y tu allan i’r ardaloedd hynny, ac ynghanol trefi eraill, yn ôl eu rhinweddau unigol. Sylw
5.4.36 Yn rhinwedd rhan 1 o Bolisi ED/4, caiff swm y tir cyflogaeth dynodedig a gaiff ei ennill a’i golli ei fonitro fel rhan o broses Adroddiad Monitro Blynyddol y CDLlN a bydd canlyniadau hynny’n sail ar gyfer penderfyniadau cynllunio a allai arwain at golli tir ac adeiladau dosbarth B. Llunnir Canllawiau Cynllunio Atodol i egluro’r polisi hwn ymhellach. Sylw
ED/5 ardaloedd gwella cyflogaeth swyddfeydd a diwydiannol Sylw
Bydd yr ACLl yn hyrwyddo ac yn annog gwella’r safleoedd cyflogaeth Swyddfeydd a Diwydiannol B1, B2 a B8 canlynol, fel y nodir ar y Map Cynigion:
- Builder Street/Council Street, Llandudno;
- Arch Motors, Llandudno;
- Ffordd Glan y Môr a Vale Road, Cyffordd Llandudno;
- I'r dwyrain o Dre Marl (1), Cyffordd Llandudno;
- Tre Marl (1), Cyffordd Llandudno;
- Ffordd Bron y Nant, Mochdre;
- Ffordd Glan y Wern, Ffordd Conwy, Mochdre;
- f) Ystâd Fasnachu Pensarn, Pensarn, Abergele;
- ff) Gogledd Iard yr Orsaf, Llanrwst;
- Parc Busnes Tir Llwyd, Bae Cinmel.
5.4.37 Mae’r Cyngor yn cydnabod ei bod yn gynaliadwy gwneud gwell defnydd o’r hyn sydd gennym eisoes drwy wella ac adnewyddu. Mae yno nifer o ardaloedd diwydiannol wedi’u sefydlu ar sail datblygiadau ad hoc yn y gorffennol. Er bod polisi ED/4 yn cydnabod bod safleoedd diwydiannol presennol yn ardaloedd pwysig sydd wedi’u diogelu, mae llawer o’r ardaloedd dan sylw ar ôl yr oes ac yn anaddas ar gyfer prosesau cyfoes, yn enwedig o ran eu naws a’u hansawdd, gan gynnwys hagrwch eu golwg, adeiladau hen ffasiwn ac anaddas a hygyrchedd ac isadeiledd annigonol, sy’n cyfyngu ar eu budd o safbwynt cyflogaeth leol. Mae’r safleoedd y mae’r polisi’n berthnasol iddynt yn cynnig cyfleoedd i gyflawni buddion posib fel gwella amwynderau, tirlunio a gwella adeiladau ac isadeiledd. Er mwyn bod yn effeithiol, mae’n rhaid cyflawni cynlluniau felly fel rhan o becyn ehangach, cynhwysfawr sy’n cynnwys marchnata/arwyddion, delwedd yr ystâd, hygyrchedd/cludiant cyhoeddus a’r posibilrwydd o ad-drefnu ac ail-ddatblygu rhan o’r safle. Nid yw hynny’n rhestru’r holl ystyriaethau, a gall cyfleoedd godi i gyflawni gwelliannau mewn meysydd cyflogaeth eraill hefyd. Sylw
ED/6 arallgyfeirio ffermydd ac ehangu busnesau mewn ardaloedd gwledig Sylw
- Caniateir arallgyfeirio ffermydd acehangu busnesau gwledig presennol y tu allan i ffiniau aneddiadau o fewn cwrtil y safle presennol, yn amodol ar fodloni’r meini prawf (a-ch) isod. Os nad oes digon o dir ar gael o fewn cwrtil y safle, caniateir ehangu ar dir addas cyfagos i safle presennol y busnes neu yn y cyffiniau, yn amodol ar gydymffurfio â meini prawf (a-d) isod:
- Defnyddir adeiladau presennol neu dir a ddatblygwyd yn flaenorol yn hytrach na thir glas.
- Mae graddfa’r datblygiad yn briodol i’r hyn y’i defnyddir ar ei gyfer.
- Mae’n rhaid bod y datblygiad yn ystyriol o’r gosodiad, y tirlun a’r amgylchedd adeiledig o’i amgylch o ran dyluniad a gwneuthuriad unrhyw strwythur neu arwyneb newydd.
- Mae’n rhaid bod y datblygiad yn cydymffurfio â’r polisïau perthnasol yn yr adrannau o’r Cynllun hwn o’r enw Creu Lleoedd
- Dewisiadau Strategol a Gofodol yng Nghonwy ac Yr Amgylchedd Naturiol, gan roi sylw’n benodol i amwynderau, sŵn, traffig, nodweddion y dirwedd, asedau hanesyddol, llifogydd, y Gymraeg a lletemau glas.
- Archwiliad dilyniannol o’r adeiladau presennol a’r tir o fewn cwrtil y busnes presennol sy’n dangos pam nad yw’n ymarferol datblygu/ail-ddatblygu’r tir ac adeiladau dan sylw.
- Os yw’r datblygiad yn cynnwys llety i dwristiaid neu elfen hamdden neu fanwerthu, mae’n rhaid bodloni gofynion polisïau cynllunio lleol a chenedlaethol ynglŷn â’r defnyddiau hynny. Lle bo’n briodol yn achos trosi adeiladau gwledig, mae’n rhaid hefyd bodloni gofynion polisi PL/10.
5.4.38 Mae arallgyfeirio ar ffermydd yn cael ei gydnabod mewn canllawiau cynllunio cenedlaethol fel ffordd bwysig o gryfhau’r economi wledig, gan ddod â chyflogaeth a ffyniant ychwanegol i gymunedau gwledig. Felly bydd cynlluniau arallgyfeirio ffermydd yn cael eu cefnogi mewn egwyddor yn amodol ar y meini prawf ym mholisi ED/6, polisïau perthnasol eraill y CDLlN a chanllawiau cynllunio cenedlaethol Nodyn Cyngor Technegol (TAN) 6. Nid yw pob busnes yn yr ardal wledig yn gysylltiedig â ffermio, felly, er mwyn diogelu a chynnal yr economi wledig, caniateir, mewn egwyddor, i fusnesau presennol mewn ardaloedd gwledig y tu hwnt i ffiniau aneddiadau ehangu’n ffisegol ar yr amod y bodlonir nifer o feini prawf. Mae’r dull polisi hwn yn ategu strategaeth y CDLlN, sy’n datgan y cyflenwir tua 10% o dir cyflogaeth y Sir mewn ardaloedd gwledig. Sylw
5.4.39 Bydd yn ofynnol i ymgeiswyr ddangos sut mae eu cynigion yn bodloni’r meini prawf angenrheidiol a bennir yn y polisi hwn. Yn gyntaf oll, mae’n bwysig ystyried a oes unrhyw strwythurau ac adeiladau a fyddai’n addas i’w trosi o fewn cwrtil safle presennol y busnes. Os oes rhai, bydd Polisi PL/10 yn berthnasol. Os nad oes unrhyw strwythurau addas i’w trosi, y dewis dilyniannol nesaf yw tir a ddatblygwyd eisoes / tir o fewn cwrtil safle presennol y busnes, ac wedyn tir cyfagos i safle presennol y busnes neu yn y cyffiniau. Diffinnir bod ‘yn y cyffiniau’ o fewn radiws o 150 metr o brif safle presennol y busnes. Sylw
5.4.40 Felly, yn achos datblygiadau mewn cefn gwlad agored, mae’n bwysig bod yr hyn a gynigir o raddfa briodol ac yn addas ei wneuthuriad a’i ddyluniad. Bydd yn ofynnol ystyried dynodiadau eraill mewn rhai achosion, gan gynnwys Ardaloedd Tirwedd Arbennig, Tirweddau Hanesyddol, gosodiad Adeiladau Rhestredig a Lletemau Glas, ymysg eraill. Os cyflwynir cais mewn ardal ddynodedig felly, bydd arno angen cydymffurfio â’r polisïau a chanllawiau perthnasol yn ogystal â bodloni’r meini prawf yn y polisi hwn. Sylw
5.4.41 Mae'r polisi hwn yn ceisio annog ffermydd a busnesau sydd eisoes yn ardal y cynllun i aros ac ehangu. Mae hynny’n cynnig potensial i gael effaith gadarnhaol a chreu cyfleoedd i siaradwyr Cymraeg a thrigolion lleol fel ei gilydd aros mewn gwaith neu ddal i gyflogi pobl yn y sir. Dylai hynny helpu i gynnal nifer a chanran y siaradwyr Cymraeg yn yr ardal. Mae hyn yn arbennig o bwysig yn yr ASDG, sy’n ardal Gymraeg sensitif ddynodedig, fel y’i diffinnir ym mholisi PL/7. Sylw
5.4.42 Bydd angen i’r datblygiad gydymffurfio â pholisïau perthnasol eraill y CDLlN, yn enwedig y rhai sy’n berthnasol i dwristiaeth, hamdden, manwerthu, creu lleoedd, a’r amgylchedd naturiol a hanesyddol. Sylw
ED/7 isadeiledd telathrebu Sylw
Caniateir ceisiadau ar gyfer isadeiledd telathrebu a thechnoleg ddigidol ar yr amod:
- Bod y datblygiad yn rhan o gynllun i ddatblygu rhwydwaith ehangach ac / neu’n cyfrannu at gynnal a gwella gwasanaethau a chyflawni amcanion y CDLlN;
- Na fyddai unrhyw effaith andwyol sylweddol ar gynefinoedd, bioamrywiaeth, yr amgylchedd hanesyddol, cymeriad y dirwedd, amwynder gweledol, strydlun nac amwynder trigolion cyfagos; a
- Bod y cais yn cynnwys tystiolaeth o gydymffurfio â chanllawiau’r Llywodraeth ynglŷn ag effeithiau isadeiledd telathrebu ar iechyd.
5.4.43 Mae’r Cynllun Datblygu Lleol Newydd yn cydnabod fod telathrebu, gan gynnwys rhwydweithiau band eang a ffonau symudol, yn wasanaeth hanfodol y dylid cynllunio ar ei gyfer o’r cychwyn cyntaf gydag unrhyw ddatblygiad, gan ystyried gofynion a blaenoriaethau Strategaeth Cysylltedd Digidol Gogledd Cymru. Mae gosod band eang cyflym iawn yn hanfodol bwysig mewn ardaloedd gwledig, sy’n dibynnu ar wasanaethau felly at ddibenion busnes a chymdeithasol. Felly, cefnogir darparu isadeiledd telathrebu fel cyfarpar band eang a ffonau symudol mewn mannau addas. Sylw
5.4.44 Dylid dilyn canllawiau Cyfoeth Naturiol Cymru ynghylch cyfarpar telathrebu a’i effaith ar y tirlun ac amwynder gweledol wrth lunio neu adolygu ceisiadau cynllunio ar gyfer cyfarpar telathrebu newydd. Sylw
ED/8 clystyrau busnes Sylw
Er mwyn dal i wella cyfleoedd i gyfathrebu a rhwydweithio, rhoddir ystyriaeth i ffurfio clystyrau o fusnesau ar safleoedd cyflogaeth presennol neu rai sydd wedi’u dyrannu, os ydynt yn cyfrannu’n gadarnhaol at y gymuned a’r economi leol.
5.4.45 Mae angen cefnogi datblygiad rhwydweithiau a chlystyrau busnes, yn enwedig mentrau sy’n seiliedig ar ddyfeisgarwch a thechnoleg. Hyrwyddir yr agwedd honno ym Mholisi Cynllunio Cymru 12 ac mae’r Cyngor yn gweld galw cynyddol i fusnesau ffurfio clystyrau er mwyn elwa ar y manteision o gydleoli, rhwydweithio a chynnig amryw wasanaethau i gwsmeriaid/cleientiaid yn yr un man. Mae’r gwerthwyr nwyddau adeiladu ym Mae Cinmel a Mochdre a’r cwmnïau / labordai fferyllol yng Nghonwy yn enghreifftiau o hyn. Hefyd, fel y soniwyd yn y testun ategol ar gyfer Polisi ED/4 ac Astudiaeth Canol Trefi yn Gyntaf Conwy, ceir clystyrau o swyddfeydd mewn ardaloedd fel Wynnstay Road ym Mae Colwyn a Trinity Square yn Llandudno, a dylid cynnal a chryfhau’r clystyrau hynny lle bo modd. Sylw
Strategaeth Twristiaeth Sylw
SO8: annog a chefnogi darpariaeth twristiaeth gynaliadwy lle mae’n cyfrannu at ffyniant a datblygiad economaidd, cadwraeth, arallgyfeirio gwledig, adfywio a chynhwysiant cymdeithasol, wrth gydnabod anghenion ymwelwyr, busnesau, cymunedau lleol a’r angen i ddiogelu amgylcheddau hanesyddol a naturiol. Sylw
5.4.46 Mae'r polisi strategol hwn yn gosod y fframwaith ar gyfer y dull polisi o fewn y CDLlN sy'n ddigon ymatebol a hyblyg i alw'r farchnad dwristiaeth hyd at 2033, gan geisio amddiffyn cymunedau, tirwedd a threfwedd y Fwrdeistref Sirol hefyd. Sylw
5.4.47 Mae twristiaeth yn elfen allweddol o'r economi leol, gan gefnogi dros 12,000 o swyddi cyfwerth ag amser llawn naill ai'n uniongyrchol neu'n anuniongyrchol, gan ddod â mwy na £800m o refeniw i economi'r Sir yn flynyddol a denu bron i 10 miliwn o ymwelwyr yn 2022 (data STEAM 2023). Sylw
5.4.48 Mae'r Sir yn ymfalchïo yn ystod eang o weithgareddau, cyfleusterau a mathau o ddatblygiad ac mae'n hanfodol i ffyniant economaidd a chreu swyddi mewn sawl rhan o Fwrdeistref Sirol Conwy. Gall twristiaeth fod yn gatalydd ar gyfer adfywio, gwella'r amgylchedd adeiledig a diogelu'r amgylchedd. Felly, mae'r cynllun yn annog datblygu twristiaeth lle mae'n cyfrannu at ddatblygiad economaidd, cadwraeth, arallgyfeirio gwledig, adfywio trefol a chynhwysiant cymdeithasol, gan gydnabod anghenion ymwelwyr ac anghenion cymunedau lleol. Yn fwy diweddar, mae Bwrdeistref Sirol Conwy wedi gweld twf mewn busnes twristiaeth awyr agored ac antur cynaliadwy drwy gydol y flwyddyn gan arwain at alw mwy am amrywiaeth o lety gwyliau. Sylw
5.4.49 Yn unol â Pholisi Cynllunio Cymru, mae'r CDLlN yn darparu fframwaith ar gyfer cynnal a datblygu cyfleusterau twristiaeth o ansawdd da, wedi'u cynllunio'n dda ac sydd wedi'u lleoli'n dda. Bydd yn ystyried maint a dosbarthiad eang atyniadau presennol ac arfaethedig i dwristiaid a dylent sicrhau bod modd darparu datblygiadau cyflenwol megis llety a mynediad mewn ffyrdd sy’n cyfyngu ar yr effeithiau amgylcheddol negyddol. Sylw
5.4.50 Mae'r CDLlN yn dilyn dyheadau Gweledigaeth Twf ar gyfer economi Gogledd Cymru (Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru – 2016), mewn perthynas â thwristiaeth, ac yn ceisio manteisio ar enw da'r rhanbarth fel lle sydd ag ansawdd bywyd gwych ac fel cyrchfan twristiaeth antur byd-enwog. Sylw
5.4.51 Yn ogystal, bydd twristiaeth ddiwylliannol, sy'n hyrwyddo ac yn datblygu profiadau sy'n arddangos yr iaith, diwylliant a threftadaeth Cymru, hefyd yn cael ei hannog. Gall hyn gynnwys digwyddiadau diwylliannol, hyrwyddo busnesau lleol a chreu cyfleoedd addysgol i ymwelwyr. Mae diwylliant a threftadaeth Gymreig gref Conwy yn ffactor twristiaeth pwysig gydag arolygon diweddar yn awgrymu bod yr iaith Gymraeg yn cyfoethogi profiadau cwsmeriaid ac yn ychwanegu gwerth at fusnesau. Mae atyniadau a digwyddiadau ymwelwyr wedi'u hanelu at siaradwyr Cymraeg sy'n dod o rannau eraill o'r wlad a'r rhai nad ydynt yn siarad Cymraeg sy'n mwynhau'r iaith a'r dimensiwn diwylliannol oherwydd ei fod yn darparu ymdeimlad unigryw o le a phrofiad gwyliau. Sylw
TO/1 twristiaeth Sylw
Bydd yr ACLl yn hyrwyddo economi dwristiaeth gynaliadwy drwy;
- Cefnogi, mewn egwyddor, cynigion ar gyfer atyniadau twristaidd newydd a phresennol yn unol â pholisi TO/2 atyniadau twristiaeth a hamdden cynaliadwy newydd (heb fod yn llety).
- Diogelu lefel o ddosbarthiadau defnydd Gwesty C1 o fewn Llandudno fel yr amlinellir ym mholisi TO/3 Llety gwyliau Llandudno.
- Rheoli safleoedd carafanau newydd a phresennol o dan Bolisi TO/4 safleoedd cabannau, carafannau sefydlog a charafannau theithiol.
- Cefnogi, lle bo'n briodol, safleoedd llety gwyliau newydd, effaith isel yn unol â pholisi TO/5 llety gwyliau effaith isel.
5.4.52 Mae Astudiaeth Twristiaeth Llandudno (2019) a Phapur Cefndir 21: Parthau Llety Gwyliau (HAZs) yn darparu adroddiadau a dadansoddiadau cynhwysfawr ar sut mae twristiaeth yn effeithio ar brif gyrchfan Llandudno ac yn darparu data allweddol i helpu i ddatblygu trywydd niferoedd a thueddiadau ymwelwyr dros y blynyddoedd nesaf. Yn ogystal, mae'r adroddiadau hyn yn ceisio galluogi pob budd-ddeiliad yn y dref i ddeall dynameg allweddol ei heconomi dwristiaeth a darparu ystod o opsiynau posibl i helpu i ddatblygu'r cynnig twristiaeth yn Llandudno yn unol â dyheadau budd-ddeiliaid allweddol, trigolion, ymwelwyr a'r Cyngor. Bydd ffocws hefyd yn cael ei roi ar y cynnig twristiaeth yn ystod tymor y gaeaf trwy ymgyrchoedd marchnata a hyrwyddo gweithgareddau ac atyniadau y tu allan i'r tymor, er mwyn sicrhau manteision drwy gydol y flwyddyn. Sylw
5.4.53 Bydd angen i'r CDLlN ddarparu ar gyfer y galw a ragwelir trwy ddynodiadau tir a/neu bolisïau rheoli priodol. Ar draws y Sir, mae Cynllun Rheoli Cyrchfan Conwy ac Arolwg Stoc Gwelyau Conwy yn darparu tystiolaeth i ddeall materion cyflenwad a galw ymhellach, nodi blaenoriaethau ac asesu lefel bresennol pob math o stoc llety gwyliau Conwy, data meddiannaeth a theithiau. Mae Papur Cefndir/21: yn dadansoddi’r polisïau a darpariaeth bresennol ar gyfer llety gwyliau yng nghanolfan dwristiaeth Llandudno. Adolygwyd y ddarpariaeth o lety gwyliau yn y Parthau Llety Gwyliau yn unol â pholisïau sefydledig a thystiolaeth newydd gyda'r canlyniadau'n llywio unrhyw newidiadau i'r parthau hyn. Sylw
5.4.54 Mewn ardaloedd gwledig, mae datblygiad sy'n gysylltiedig â thwristiaeth yn hanfodol wrth ddarparu ar gyfer economi iach ac amrywiol ac mae angen ystyriaeth ofalus yn y CDLlN. Bydd angen i ddatblygiad twristiaeth mewn ardaloedd gwledig fod yn sensitif o ran natur a graddfa i'r amgylchedd, cymeriad a diwylliant lleol, gan gynnwys yr iaith Gymraeg. Bydd angen i unrhyw gynigion o'r fath ystyried yr effaith ar ddefnyddio'r Gymraeg yn yr ardaloedd hynny oherwydd bydd cynyddu poblogaeth y rhai nad ydynt yn siarad Cymraeg, hyd yn oed am gyfnodau tymhorol yn ystod y flwyddyn, o bosibl yn lleihau canran y siaradwyr Cymraeg yn y gymuned honno yn gyffredinol. Mae dwysedd siaradwyr Cymraeg yn hanfodol i ddefnyddio'r Gymraeg o ddydd i ddydd. Mae gan fentrau mewn ardaloedd gwledig hefyd y potensial i integreiddio arallgyfeirio busnes â thwristiaeth a bydd y Cynllun yn cefnogi cynlluniau addas mewn lleoliadau priodol, sy'n cydymffurfio â chanllawiau lleol a chenedlaethol. Sylw
5.4.55 Yn ardaloedd perygl llifogydd Pensarn, Towyn a Bae Cinmel, sydd â lefelau uchel o lety mewn parciau carafanau, rhoddir ystyriaeth i ddiogelu a gwella safleoedd o'r fath i gynnal lefelau stoc gwelyau sy'n gysylltiedig â thwristiaeth a chynorthwyo'r economi leol gan fod yn ymwybodol o'r problemau perygl llifogydd yn yr ardal. Sylw
TO/2 atyniadau twristiaeth a hamdden cynaliadwy newydd (heblaw llety) Sylw
Cefnogir atyniadau twristaidd cynaliadwy newydd, o ansawdd da, wedi'u lleoli a'u cynllunio'n dda, a gwella atyniadau presennol ar yr amod bod yr holl feini prawf canlynol yn cael eu bodloni:
- Mae’r cais yn cynnig darparu cyrchfan dwristiaeth o ansawdd da gydol y flwyddyn, gan gynnwys amrywiaeth o gyfleusterau twristiaeth a gweithgareddau hamdden;
- Mae’r cais yn briodol o ran ei raddfa a’i natur i’w leoliad ac wedi’i ddylunio’n effeithlon o ran adnoddau;
- Cefnogir y cais gan dystiolaeth sy’n dangos y byddai’r ardal leol yn elwa o ran nifer y swyddi a’u hamrywiaeth;
- Mae’r cais yn cynnig mynediad hygyrch a chynaliadwy, ac yn annog pobl i ddefnyddio cludiant heblaw am geir yn unol â pholisïau Ardaloedd Teithio Cynaliadwy;
- Mae'r cynnig yn mabwysiadu dull dilyniannol ac yn defnyddio unrhyw adeiladau addas sy'n bodoli eisoes yn hytrach nag adeiladau newydd a thir a ddatblygwyd yn flaenorol yn hytrach na safleoedd maes glas, lle bo'n briodol;
- Ni fyddai gan y cynnig effaith andwyol annerbyniol ar feddianwyr eiddo cyfagos;
- Mae'r cynnig yn cefnogi amcanion adfywio'r Cyngor ar gyfer Bwrdeistref Sirol Conwy ac yn cyd-fynd â'r polisïau creu lleoedd a pholisïau cysylltiedig eraill yn y cynllun;
- Ni fyddai’r cynnig â golwg ymwthiol yn y tirlun ac mae’r cais yn cynnwys cynllun tirweddu manwl, a lle bod hynny’n briodol, Asesiad Tirwedd ac Effaith Weledol yn unol â pholisi NE/1.
5.4.56 Er mwyn osgoi unrhyw amheuaeth, mae polisi TO/2 yn ymwneud â chynigion ar gyfer atyniad neu gyfleuster twristaidd ac nid ag unrhyw fath o lety sy'n gysylltiedig â thwristiaid. Sylw
5.4.57 Mae'r galw am ystod eang o gyfleusterau twristiaeth drwy gydol y flwyddyn yn effeithio ar dymhoroldeb. Mae gweithrediad gwahanol fusnesau twristiaeth ar wahanol adegau yn gofyn am ddull mwy hyblyg. Bydd yr ACLl yn cefnogi datblygu ac addasu ystod o atyniadau neu gyfleusterau twristiaeth cynaliadwy i ddarparu ar gyfer y galw newidiol hwn lle bo'n briodol. Mewn achosion o'r fath, bydd angen cynllun busnes proffesiynol, wedi'i baratoi gan ymgynghorydd/syrfëwr cymwys ac annibynnol, i gefnogi cais cynllunio o dan y polisi, gan ddangos hyfywedd y cynllun a'r manteision cyflogaeth, gan gynnwys datblygu sgiliau. Sylw
5.4.58 Yr aneddiadau trefol o fewn yr Ardal Strategaeth Datblygu Arfordirol (CDSA) yw'r lleoliadau dewisol ar gyfer datblygiadau newydd er mwyn sicrhau bod cyfleusterau newydd yn hygyrch i ymwelwyr a bod yr atyniad wedi'i leoli lle gall ymwelwyr gael mynediad at ystod o wasanaethau trwy ddewis o ddulliau teithio. O fewn yr Ardal Strategaeth Datblygu Gwledig (RDSA), dylai cynigion edrych yn gyntaf ar Lanrwst, fel y Ganolfan Wasanaethu Allweddol, ac yna ar ailddefnyddio adeiladau presennol ac estyniadau i fusnesau presennol er mwyn amddiffyn cefn gwlad rhag datblygiad amhriodol, yn unol â pholisïau eraill y Cynllun Datblygu Lleol Newydd a chanllawiau cynllunio cenedlaethol. Fodd bynnag, gellid caniatáu atyniadau adeiladau newydd mewn rhai ardaloedd o gefn gwlad agored os nad oes unrhyw safleoedd neu adeiladau sy'n well yn ddilyniannol ac mae'r cynnig ar raddfa briodol i'r ardal. Bydd hyn yn galluogi datblygiad penodol a allai helpu i ymestyn tymor twristiaeth, darparu budd i'r gymuned leol a hyrwyddo cysylltiadau gwell â Pharc Cenedlaethol Eryri. Fodd bynnag, rhaid i ddatblygiadau o'r fath ystyried yr ardal o ran yr effaith ar y boblogaeth leol a'r iaith Gymraeg. Mae asedau'r amgylchedd naturiol ac adeiledig yn ffactorau allweddol wrth ddenu twristiaid i'r ardal ac mae angen eu rheoli a'u diogelu'n effeithiol. Gall pwysau ymwelwyr yn arbennig arwain at bryderon mewn lleoliadau sy'n sensitif yn amgylcheddol ac yn ddiwylliannol. Sylw
TO/3 Llety Gwyliau Llandudno Sylw
- O fewn Parth Llety Gwyliau Llandudno, fel y'i diffinnir yn y map cynigion, gwrthodir caniatâd cynllunio lle byddai'r datblygiad arfaethedig yn arwain at golli llety neu eiddo sy'n dod o fewn y dosbarth defnydd C1 (Gwestai).
- Mewn mannau eraill yn Llandudno, dim ond lle mae'r datblygiad yn cydymffurfio â'r holl feini prawf canlynol y cefnogir cynigion a fyddai'n arwain at golli llety neu eiddo sy'n dod o fewn y dosbarth defnydd C1 (Gwestai):
- Mae tystiolaeth gefnogol wedi'i darparu i ddangos nad oes unrhyw opsiynau dichonadwy ar gyfer parhau i weithredu'r defnydd C1 (Gwestai), gan ystyried ymdrechion y gorffennol i greu a chynnal busnes hyfyw a’r rhagolygon ar gyfer cyfleoedd yn y dyfodol;
- Mae tystiolaeth farchnata wedi’i darparu dros y ddwy flynedd ddiwethaf i ddangos nad oes unrhyw obaith rhesymol y caiff yr adeilad neu'r busnes ei werthu neu ei brydlesu o dan amodau marchnad teg ac am bris marchnad rhesymol ar gyfer parhau i ddefnyddio C1 (Gwestai);
- Ni fydd y newid defnydd i ffwrdd o ddefnydd C1 (Gwestai) yn creu effaith annerbyniol ar amwynder defnyddiau cyfagos, yn enwedig lle mae eiddo wedi'i leoli gerllaw neu yng nghyffiniau defnyddiau C1 (Gwestai) eraill; a,
- Ni fydd y cynnig yn cael effaith annerbyniol ar gymeriad yr ardal o’i amgylch.
5.4.59 Mae cyrchfan dwristiaeth lwyddiannus yn ddibynnol iawn ar ansawdd, lefel a math y llety sydd ar gael yn yr ardal honno. Mae darparu a diogelu llety o safon yn un o flaenoriaethau allweddol yr ACLl. Mae angen sicrhau bod cyflenwad ac ystod ddigonol o lety o safon yn yr ardaloedd cywir, i ddiwallu anghenion cyfnewidiol y farchnad, darparu ar gyfer twf a chefnogi economi twristiaeth ffyniannus. At hynny, cydnabyddir hefyd y byddai ystod ehangach o lety â gwasanaeth yn caniatáu mwy o ddewis i'r ymwelydd ac yn apelio at y farchnad seibiannau byr sy'n tyfu. Sylw
5.4.60 Pwysleisir pwysigrwydd twristiaeth i lawer o rannau o Gymru ym Mholisi Cynllunio Cymru. Mae gan dwristiaeth rôl uniongyrchol ac anuniongyrchol sylweddol yn lles cymdeithasol ac economaidd trigolion, busnesau ac ymwelwyr Bwrdeistref Sirol Conwy. Yn Llandudno, ystyrir bod cynnal lefel briodol o westai a thai llety yn hanfodol, yn enwedig o ystyried amcanion y Cyngor i Fwrdeistref Sirol Conwy barhau i fod yn gyrchfan dwristaidd gystadleuol o ansawdd uchel ac i yrru cynnig drwy gydol y flwyddyn. Sylw
5.4.61 Mae Papur Cefndir/21: Parth Llety Gwyliau wedi asesu'r cynnig llety gwyliau â gwasanaeth yn Llandudno yn llawn ac wedi adolygu polisi blaenorol y CDLl (2007-22). Cynhyrchwyd y Papur Cefndir mewn ymgynghoriad â budd-ddeiliaid y sector cyhoeddus a'r sector preifat gan arwain at y safbwynt a gymerwyd ym mholisi TO/3. Sylw
5.4.62 Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, mae arosiadau mewn llety â gwasanaeth wedi lleihau'n raddol ac mae arosiadau mewn mathau eraill o lety wedi cynyddu'n sylweddol. Mae nifer o newidiadau rheoleiddiol yn digwydd sy'n arwain at ansicrwydd ynghylch a fydd y duedd hon yn parhau neu'n gwrthdroi. Mae'n bwysig i Landudno gynnig cymysgedd priodol o fathau o lety i ddiwallu gofynion amrywiol gwesteion. Mae'r polisi'n ceisio hwyluso lefel briodol o ddiogelwch a rhyddhau defnyddiau dim ond lle gellir cyfiawnhau colli llety. Sylw
5.4.63 Mae’r polisi'n darparu fframwaith cadarnhaol ar gyfer cynigion sy'n creu neu'n gwella ansawdd a maint llety â gwasanaeth yn y dref. Sylw
5.4.64 Mae'r Parth Llety Gwyliau ar y map cynigion yn ymgorffori ardaloedd o Landudno lle mae angen amddiffyn gwestai a thai llety. Mae gan y lleoliadau hyn asedau arbennig i ddenu ymwelwyr, e.e. ar lan y môr, ac wedi’u cydleoli â busnesau tebyg sy’n cefnogi ei gilydd, yn uniongyrchol ac yn anuniongyrchol. Ni fydd unrhyw golledion i ddefnyddiau eraill yn dderbyniol yn yr ardaloedd hyn. Sylw
5.4.65 Mae'r polisi'n cydnabod, mewn rhai amgylchiadau eithriadol, efallai na fydd parhau i'w ddefnyddio fel gwestai neu dai llety yn hyfyw. Y tu allan i'r Parth Llety Gwyliau, mae dull sy'n seiliedig ar feini prawf yn rhoi arf i'r ACLl i atal swyddogaeth dwristaidd y dref rhag cael ei thanseilio. Wedi hynny, gall yr ACLl ryddhau gweithrediadau gwirioneddol anhyfyw ar gyfer defnyddiau amgen sy’n cyd-fynd ag amcanion ehangach y CDLlN. Bydd colli eiddo mwy yn cael effaith anghymesur o fwy na cholli eiddo llai gyda llai o leoedd gwely. Sylw
5.4.66 Bydd angen tystiolaeth gadarn a chyfoes i ddangos bod y meini prawf a restrir yn y polisi uchod wedi'u bodloni. Bydd CCA yn cael ei baratoi i roi manylion y dystiolaeth y bydd angen i ymgeiswyr ei chyflwyno fel rhan o gais am golled gwestai a thai llety. Sylw
5.4.67 Bydd yr ACLl yn parhau i fonitro'r newid cyffredinol yn stoc gwelyau llety â gwasanaeth i sicrhau nad yw cyfanswm y stoc gwelyau sydd ar gael yn tanseilio rôl Llandudno fel y brif gyrchfan dwristiaeth ym Mwrdeistref Sirol Conwy. Bydd yn adolygu effeithiolrwydd y polisi a newidiadau ehangach i'r diwydiant a'r rheoleiddio fel rhan o'r broses AMR ac Adolygiad y Cynllun Datblygu Lleol Newydd. Sylw
TO/4 safleoedd cabannau, carafannau sefydlog a theithiol Sylw
- Ni chaniateir safleoedd cabannau, carafannau sefydlog a theithiol newydd yn ardal y cynllun.
- Dim ond ar yr amod bod y datblygiad yn bodloni'r holl feini prawf canlynol y caniateir cynigion ar gyfer gwella neu ymestyn safleoedd presennol:
- Nid yw'n cynyddu nifer yr unedau llety ar y safle;
- Gellir caniatáu estyniadau bach i ardal safle i hwyluso lleihau dwysedd, gwelliannau amgylcheddol, tirwedd ac amwynder;
- Yn hyrwyddo llety, cyfleuster a dyluniad gwyliau o ansawdd da;
- Yn cyd-fynd â'r polisïau creu lleoedd a pholisïau cysylltiedig eraill yn y Cynllun;
- Bydd yr ACLl yn caniatáu ymestyn y tymor gwyliau ar gyfer safleoedd carafanau a chabannau presennol ar yr amod bod y meini prawf canlynol yn cael eu bodloni:
- mae'r safle'n addas ar gyfer defnydd estynedig o'r fath;
- ni fyddai'r tymor estynedig yn cynyddu canlyniadau digwyddiad llifogydd eithafol, a
- bydd y datblygiad yn cael ei ddefnyddio at ddibenion llety gwyliau yn unig.
5.4.68 Er mwyn osgoi amheuaeth, mae polisi TO/4 yn ymwneud â'r llety carafanau sefydlog a theithiol confensiynol mewn blwch plastig neu fetel (unedau sengl neu ddeuol). Mae Polisi TO/5 yn rheoli mathau eraill o lety gwyliau a all ddod o fewn y diffiniad carafanau megis podiau a chytiau bugeiliaid. Sylw
5.4.69 Mae safleoedd cabannau, carafanau sefydlog a theithiol yn gynnig pwysig o lety gwyliau, a all fod yn hanfodol i lwyddiant yr economi dwristiaeth. Fodd bynnag, mae safleoedd o'r fath yn aml yn cael eu hystyried yn ymwthiol yn weledol, sy'n arbennig o amlwg ym mhrif ardaloedd gwyliau Towyn a Bae Cinmel a rhannau o Ddyffryn Conwy, lle mae cyfres o safleoedd wedi uno neu wedi dod yn fawr ac yn rhy amlwg yn y dirwedd. Yn yr un modd, mae dwysáu safleoedd yn y gorffennol wedi effeithio'n weledol ar nifer fach o leoliadau gwledig. Mewn rhai ardaloedd gellir ystyried bod effaith gronnus safleoedd presennol yn ymwthiol yn weledol ac yn drech yn y dirwedd. Mae'r rhain wedi lleihau dwysedd siaradwyr Cymraeg mewn ardaloedd o Sir Conwy ac wedi lleihau'r tebygolrwydd o glywed y Gymraeg ar y strydoedd o ddydd i ddydd, i ymwelwyr a thrigolion fel ei gilydd. Sylw
5.4.70 Caniateir disodli carafanau sefydlog gyda llety o ansawdd uwch fel cabanau coetir lle mae'n gwella'r effaith ar y dirwedd. Fodd bynnag, fel gyda phob datblygiad, dim ond ar ôl dangos na fydd unrhyw effaith andwyol ar gyfanrwydd yr amgylchedd naturiol a bod y manteision bioamrywiaeth arfaethedig wedi'u cynnwys y caniateir cynigion ar gyfer unrhyw lety. Sylw
TO/5 llety gwyliau effaith isel Sylw
Dim ond fel math o arallgyfeirio fferm neu lety ategol i atyniad twristaidd sefydledig y caniateir llety gwyliau ar raddfa fach, effaith isel.
5.4.71 Mae mathau eraill o lety gwersylla fel podiau, iwrtiau, pebyll a chytiau bugeiliaid wedi dod yn fwy poblogaidd yn ystod y blynyddoedd diwethaf gydag ymwelwyr yn chwilio am fath gwahanol o brofiad. Mae'r mathau hyn o lety effaith isel yn gyffredinol yn llai ymwthiol yn y dirwedd na'r carafanau sefydlog a theithiol mwy traddodiadol. Bydd caniatáu cynigion gwersylla amgen, i gefnogi cynllun arallgyfeirio fferm dilys neu lety ategol i gefnogi atyniad twristaidd presennol a sefydledig, yn osgoi amlhau safleoedd o'r fath ar draws y Sir ac yn arwain at ystod ehangach o gynnig twristaidd yn ardal y cynllun a all fod o fudd i dwristiaeth leol, economi wledig a'r iaith Gymraeg. Ym mhob achos, rhaid i'r prif ddefnydd fod y busnes fferm neu'r atyniad twristaidd gyda'r llety yn gwbl ategol ac nid yn cael ei weithredu fel uned gynllunio ar wahân, heb gysylltiad. Sylw
5.4.72 Rhaid lleoli safleoedd o'r fath yn sensitif ac ni ddylai datblygiad fod ar draul ansawdd amgylcheddol nac effaith ar y dirwedd. Yn aml, gall cynlluniau sydd wedi'u cynllunio'n dda warchod neu wella bioamrywiaeth ac ansawdd y dirwedd ond cydnabyddir y gall fod effeithiau negyddol ar gefn gwlad y mae'n rhaid eu hosgoi. Sylw
5.4.73 Lle cyflwynir cynnig arallgyfeirio fferm, byddai Cynllun Fferm, sy'n dangos sut y bydd y cynnig yn cefnogi gweithrediad y fferm, sydd o fath a graddfa sy'n adlewyrchu natur yr arallgyfeirio ac yn amlinellu unrhyw effeithiau amgylcheddol, yn helpu i gefnogi'r cais. Bydd yr ACLl yn ystyried defnyddio amodau cynllunio neu gytundeb cyfreithiol i sicrhau bod y cynnig arallgyfeirio wedi'i glymu am byth i'r prif weithgaredd amaethyddol. Sylw
Fframwaith cynllunio sero net Sylw
5.4.74 Mae’r bennod hon yn ymdrin â chynhyrchu a dosbarthu ynni adnewyddadwy a charbon isel yn ardal CDLlN Conwy, a sut bydd disgwyl i ddatblygiadau fodloni’r gofynion i gyflawni carbon sero net erbyn 2050. Sylw
5.4.75 Ym mis Mawrth 2021 cymeradwyodd LlC darged sero net (o leiaf 100% o ostyngiad mewn allyriadau nwyon tŷ gwydr) ar gyfer 2050. Mae sero net yn golygu cydbwyso’r allyriadau nwyon tŷ gwydr a gynhyrchir drwy gael gwared ar yr un faint o’r atmosffer. Mae gan Gymru hefyd dargedau dros dro ar gyfer 2030 (gostyngiad o 63%) a 2040 (gostyngiad o 85%) a chyfres o gyllidebau carbon 5 mlynedd. Mae cyllideb garbon yn cynrychioli cyfanswm yr allyriadau tŷ gwydr a ellir eu rhyddhau yn ystod cyfnod cytunedig o bum mlynedd. Sylw
5.4.76 Mae tynged cenedlaethau’r dyfodol yn dibynnu ar ein gallu i gymryd camau radical i fynd i’r afael â newid hinsawdd a gostwng allyriadau nwyon tŷ gwydr yn sylweddol. Mae effeithiau byd-eang y cynnydd mewn tymheredd a thywydd garw yn cael effaith negyddol sylweddol ar gymunedau ar hyd a lled Conwy, yn arbennig ardaloedd sydd mewn perygl o lifogydd. Felly mae’n rhaid i ni weithredu ar lefel leol, genedlaethol a rhyngwladol i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr o law dyn, gan ganolbwyntio ar symud oddi wrth danwydd ffosil i gynhyrchu’r ynni sydd arnom ni ei angen ar gyfer adeiladau, cludiant a diwydiannau. Sylw
5.4.77 Mae gan y system gynllunio rôl allweddol mewn perthynas â lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr, drwy gyflawni twf glân a datgarboneiddio ynni, yn ogystal â rôl hollbwysig o ran helpu i ddarparu sicrwydd ynni. Yn ogystal â thwf glân a swyddi o ansawdd, mae’r newid i economi carbon isel yn cynnwys buddion ehangach o ran gwella llefydd byw a gweithio, aer a dŵr glân a gwella canlyniadau iechyd. Sylw
5.4.78 Blaenoriaethau’r ACLl yw: Sylw
- Lleihau’r ynni carbon uchel a ddefnyddir gennym yng Nghonwy
- Lleihau ein dibyniaeth ar ynni a gynhyrchir o danwyddau ffosil
- Rheoli a hybu’r newid i economi carbon isel
5.4.79 Wrth wneud hyn bydd yr ACLl yn ceisio: Sylw
- Integreiddio egwyddorion adeiladu cynaliadwy mewn datblygiadau newydd
- Gwneud y gorau o gyfleodd i gynhyrchu ynni adnewyddadwy a charbon isel
- Cefnogi ymyriadau’r Cynllun Ynni Ardal Leol, yn cynnwys cerbydau trydan a’r defnydd o ffynonellau ynni lleol, fel rhwydweithiau gwresogi ardal a chynhyrchu lleol
- Storio mwy o ynni
- Gwneud y gorau o leoliadau datblygiadau newydd er mwyn defnyddio adnoddau yn effeithlon, yn arbennig cludiant ac ynni
- Lleihau effeithiau carbon yn sgil prosesau cynhyrchu ynni eraill, fel ynni o wastraff
5.4.80 Bydd cynigion i ddefnyddio, dosbarthu a datblygu capasiti ynni adnewyddadwy newydd a storio ynni, yn cynnwys gosodiadau ffotofoltäig mawr ar y llawr ac ynni gwynt ar y tir annibynnol, yn cael eu hannog ar dir addas yn ardal CDLlN Conwy. Byddwn yn cymryd dull cadarnhaol ar gyfer ynni adnewyddadwy a chynlluniau ynni carbon isel, yn enwedig cynlluniau wedi’u harwain gan gymunedau neu sy’n diwallu eu hanghenion, ac sydd wedi’u nodi yn y Cynllun Ynni Ardal Leol (CYAL). Sylw
5.4.81 Caiff cynigion ar gyfer datblygiadau di-garbon, carbon cadarnhaol ac allyriadau isel eu cefnogi’n gryf, ar yr amod bod yr holl ystyriaethau perthnasol eraill yn dderbyniol. Mae’r ACLl yn gofyn i ddatblygiadau newydd gynnwys nodweddion dylunio sy’n helpu i gyflawni gostyngiadau radical mewn allyriadau nwyon tŷ gwydr, yn enwedig allyriadau CO2, i helpu i leihau effeithiau newid hinsawdd a chyrraedd targedau sero net. Bydd hyn yn cael ei gyflawni yn defnyddio’r polisïau isod, oni bai bod polisi neu ddeddfwriaeth genedlaethol yn eu trechu. Sylw
5.4.82 Mae hwn yn faes sy’n newid yn gyflym, a disgwylir diweddariadau yn dilyn adolygiadau. Sylw
Ynni adnewyddadwy a chyflawni sero net mewn datblygiadau newydd Sylw
EN/1 ynni adnewyddadwy a chyflawni sero net mewn datblygiadau newydd Sylw
- Mae’n rhaid i gynigion ar gyfer datblygiadau o 10 annedd neu fwy neu 1,000m2 fynd i’r afael ag allyriadau carbon drwy gymhwyso’r hierarchaeth ynni yn ddilyniannol a cheisio cyflawni allyriadau sero net gweithredol, gan ddangos hynny mewn Adroddiad Strategaeth Ynni fel a ganlyn:
- Lleihau’r galw am ynni: dylid cynllunio datblygiadau i leihau’r galw am ynni (gwresogi, oeri, dŵr poeth, goleuadau a phŵer a ddefnyddir), gan leihau allyriadau carbon. Mae hyn yn cynnwys:
- cynnwys technoleg sy’n galluogi preswylwyr i fyw mewn ffyrdd sy’n lleihau’r galw am ynni.
- Gwneud y gorau o effeithlonrwydd ynni.
- Trydaneiddio’r galw sy’n weddill ar gyfer gwresogi: dylid osgoi defnyddio nwy, olew neu danwydd tebyg i wresogi adeiladau newydd.
- Cynhyrchu pŵer di-garbon neu garbon isel: i gwrdd â’r galw sy’n weddill am ynni, yn cynnwys y galw cynyddol am drydan yn sgil cam (ii), dylai datblygiadau gynnwys neu ddefnyddio ffynonellau ynni di-garbon neu garbon isel. Mae hyn yn golygu manteisio ar ffynonellau ynni adnewyddadwy o fewn y datblygiad (yn arbennig systemau paneli solar ffotofoltäig) gan
- Neilltuo o leiaf 40% o’r gofod to ar gyfer paneli solar; ac
- Asesu’r posibilrwydd o ddefnyddio ffynonellau ynni adnewyddadwy neu garbon isel mawr oddi ar y safle, fel rhwydweithiau gwresogi neu ffynonellau cynhyrchu ynni adnewyddadwy mawr lleol, drwy gysylltiad uniongyrchol i’r datblygiad.
- Gwrthbwyso Carbon: bydd yn rhaid i ddatblygiadau mawr newydd sy’n arwain at allyriadau carbon gweithredol gweddilliol ar ôl cymryd y camau uchod fodloni gofynion gwrthbwyso carbon i ostwng cyfanswm yr allyriadau carbon gweithredol i sero net yn unol â pholisi EN/7.
5.4.83 Bydd yn rhaid i ddatblygiadau (fel y diffinnir uchod) wneud y gorau o gyfraniad ynni adnewyddadwy neu dechnoleg ynni carbon isel i gwrdd â galw’r cynnig am ynni, yn enwedig ar gyfer datblygiadau sy’n defnyddio llawer iawn o ynni. Bydd datblygiadau preswyl ar safleoedd lle ceir lle i 10 o gartrefi neu fwy, a datblygiadau amhreswyl gydag arwynebedd o 1,000m2 neu fwy, yn gorfod cyflwyno Adroddiad Strategaeth Ynni cynhwysfawr i benderfynu ar ddichonolrwydd cynnwys gosodiadau carbon isel neu ynni adnewyddadwy yn y cynllun a/neu gysylltu â thechnoleg ynni adnewyddadwy neu garbon isel a rhwydweithiau gwresogi ardal. Sylw
5.4.84 1.1.8 O 2030 ymlaen bydd yn rhaid i bob datblygiad arfaethedig arall gynnwys ‘Strategaeth Ynni’ sy’n ymchwilio i’r posibilrwydd o gynnwys cyfarpar di-garbon a charbon isel ar y safle a chysylltu â ffynonellau ynni adnewyddadwy presennol. Dylid hefyd edrych ar gyfleoedd i gysylltu â rhwydweithiau gwresogi ardal ac, os yn briodol, rhannu ynni adnewyddadwy gyda’r cyhoedd. Bydd yn rhaid i’r Strategaeth Ynni nodi sut bydd y cynnig yn cyfrannu at gynhyrchu mwy o ynni o ffynonellau adnewyddadwy neu garbon isel. Sylw
5.4.85 Mae rhai technolegau micro-gynhyrchu yn ddatblygiadau a ganiateir dan y Gorchymyn Datblygu Cyffredinol a Ganiateir. Cyn tybio bod unrhyw ddatblygiad yn un a ganiateir, dylid cyfeirio at Ran 40 (gosod cyfarpar micro-gynhyrchu domestig) a Rhan 43 (gosod cyfarpar micro-gynhyrchu annomestig) i gael canllawiau pellach. Efallai y bydd ar ddatblygwyr eisiau cwblhau ffurflen Cyngor Cyn Gwneud Cais i gael eglurhad pellach o ficro-gynhyrchu. Sylw
5.4.86 Mae technoleg cynhyrchu ynni adnewyddadwy yn cynnwys: systemau ffotofoltäig, dŵr poeth solar, pympiau gwres o’r aer, pympiau gwres o’r ddaear, tyrbinau gwynt, ynni dŵr a boeleri biomas. Bydd technoleg carbon isel a gyflwynir fel dewis amgen i dechnoleg cynhyrchu ynni adnewyddadwy, fel gwres a phŵer cyfunedig, yn cael ei hystyried fesul achos. Bydd y dechnoleg a ddewisir ei gosod yn ystyried cyfyngiadau’r safle, fel cysgod, ansawdd aer a nodweddion sensitif fel y dirwedd a’r amgylchedd hanesyddol. Dylid defnyddio cyfrifianellau cydnabyddedig i gyfrifo ynni, fel y Weithdrefn Asesu Safonol neu’r dull Marc Ansawdd Cartref ar gyfer adeiladau preswyl, neu’r Model Ynni Adeilad Symlach (SBEM) ar gyfer adeiladau amhreswyl. Dylai’r cyfrifiadau gynnwys yr holl allyriadau rheoledig, fel gwresogi sefydlog, goleuadau, dŵr poeth ac awyru. Sylw
5.4.87 Ystyrir bod allyriadau anrheoleiddiedig o offer fel nwyddau gwyn y tu allan i gwmpas yr ACLl. Dylid dangos bod y datblygiad yn cydymffurfio â’r polisi hwn drwy ddarparu Strategaeth Ynni ar y cam dylunio, a fydd yn cael sylw pellach yn ystod y cam adeiladu i gadarnhau bod y rhagfynegiadau yn dal yn ddilys ac i helpu i osgoi ‘bwlch perfformiad’. Dylai’r ddwy ddogfen gynnwys digon o wybodaeth i ddangos sut mae’r datblygwr wedi cadw at yr hierarchaeth ynni a sut bydd yn cyrraedd y targed lleihau ynni ‘gwneuthuriad yn gyntaf’ o 10% (pob datblygiad) a’r targed ynni adnewyddadwy o 15% (datblygiadau fel y diffinnir yn EN/1 yn unig). Dylai lefel y manylion gyd-fynd â maint y datblygiad. Sylw
5.4.88 Gall cynlluniau ynni adnewyddadwy mawr ddod â budd cymdeithasol ac economaidd uniongyrchol i gymunedau ar draws y sir. Gall prosiectau perchnogaeth leol, yn gyfan gwbl neu’n rhannol, sicrhau bod y buddion hynny’n cronni dros y tymor hir, gan gynhyrchu cronfeydd i ddatblygu cyfleusterau cymunedol a helpu i fynd i’r afael â thlodi tanwydd. Sylw
5.4.89 Gall prosiectau ynni adnewyddadwy hefyd ddarparu buddion amgylcheddol, fel cyfrannu at rwydweithiau ecolegol cadarn, adfer mawndiroedd diraddiedig ac adfer glaswelltiroedd lled-naturiol ar dir ôl-amaethyddol. Dylai’r datblygiad ddangos ystyriaeth weithredol o sut bydd y buddion hyn yn cael eu gwireddu yn y cynigion ynni adnewyddadwy. Gyda phob prosiect, dylai darpariaethau ar gyfer mynediad i’r safle at ddibenion adeiladu a chynnal a chadw’r cynllun gydnabod ac ymateb i’r amgylchedd o’u cwmpas. Mae tynnu isadeiledd yn ofalus yn syth ar ôl i’w ddefnydd ddod i ben, a defnyddio’r safle’n briodol wedi hynny, hefyd yn sicrhau bod y buddion amgylcheddol yn cael eu gwireddu. Sylw
Cyflawni carbon sero net mewn datblygiadau newydd Sylw
5.4.90 I gyflawni adeiladau newydd sero net yn ardal cynllun Conwy, mae’n rhaid rhoi amrywiaeth o bolisïau lleol ar waith sy’n gofyn am leihau allyriadau CO2 yn fwy na’r hynny a nodir yn y rheoliadau presennol ar gyfer allyriadau gweithredol rheoledig yn ogystal â mynd i’r afael ag allyriadau gweithredol anrheoleiddiedig. Ochr yn ochr â hyn, mae angen gwrthbwyso carbon i bontio’r bwlch rhwng y safonau deddfwriaethol isaf a’r targedau estynedig ar gyfer gostwng allyriadau carbon. Sylw
5.4.91 Felly mae CBSC yn cyflwyno targedau lleihau allyriadau CO2 sy’n mynd gam ymhellach na’r Rheoliadau Adeiladu presennol ar gyfer datblygiadau sylweddol (fel y diffinnir ym mholisi EN/1) ac wedi gosod amserlen ar gyfer eu cyflwyno a’u rhoi ar waith ynghyd â threfniadau ar gyfer gwrthbwyso carbon (polisi EN/7). Sylw
Ar ôl 2030 (yn amodol ar Adroddiad Monitro Blynyddol a diwygio Rheoliadau Adeiladu): Sylw
5.4.92 Dylai pob adeilad domestig anelu i fod yn weithredol ddi-garbon, wedi’i ddangos drwy Strategaeth Ynni. Effaith gyfartalog adeiladau annomestig newydd yn un carbon net cadarnhaol. Dylai effaith net adeiladau annomestig newydd a godir o 2035 ymlaen arwain at gynhyrchu mwy o bŵer thermol neu drydanol nag sydd ei angen ar yr adeilad, fel bod modd ei ddefnyddio i wrthbwyso Conwy ehangach lle na fydd hi’n dechnegol bosibl i gyrraedd targedau tebyg. Sylw
Carbon ymgorfforedig Sylw
5.4.93 Mae’r broses o asesu ynni ymgorfforedig yn cynnwys mesur neu amcangyfrif cyfanswm yr ynni a ddefnyddir yn ystod oes cynnyrch. Fe all hyn gynnwys: nwy, olew, trydan ac ati, ond fe all hefyd gynnwys nodweddion nad ydynt mor hawdd i’w mesur fel defnydd dŵr ac effaith ecolegol. Mae’r broses fesur yn cynnwys asesu dulliau cynhyrchu perthnasol, a all gynnwys: Sylw
- echdynnu;
- gweithgynhyrchu (yn cynnwys ynni i weithgynhyrchu cyfalaf: cyfarpar;
- gwresogi a goleuadau mewn ffactrïoedd/gweithfeydd ac ati);
- cludiant;
- adeiladu;
- cynnal a chadw;
- gwaredu.
5.4.94 Gallwn ddiogelu adnoddau naturiol mewn sawl ffordd, gan gynnwys: Sylw
- osgoi defnyddio deunyddiau prin (anadnewyddadwy);
- creu llai o wastraff;
- defnyddio llai, ond peidio â gor-nodi gofynion perfformiad, drwy ddylunio isadeiledd pwysau isaf;
- defnyddio deunyddiau wedi’u hadfer yn hytrach na rhai newydd; a,
- defnyddio deunyddiau adnewyddadwy (cnydau, pren, cerrig), yn enwedig rhai lleol.
5.4.95 Bydd arweiniad pellach yn cael ei ddarparu yn y Canllawiau Cynllunio Atodol. Sylw
Cyflawni adeiladau carbon sero net Sylw
EN/2 darparu adeiladau carbon sero net - rheoli datblygu Sylw
- Dylai pob cynnig datblygiad newydd ar gyfer o leiaf 10 annedd neu 1,000m2 gyflawni allyriadau carbon rheoledig gweithredol sero net mewn adeiladau drwy roi’r hierarchaeth ynni ar waith. Dylai cynigion ddangos bod yr hierarchaeth ynni wedi’i rhoi ar waith drwy gyflwyno Strategaeth Ynni sy’n nodi:
- Ar gyfer adeiladau preswyl newydd, bod gostyngiad o 45% neu fwy wedi’i gyflawni o ran allyriadau rheoledig drwy fesurau ar y safle, o gymharu â’r gyfradd allyriadau sylfaenol a nodir yn Rhan L Rheoliadau Adeiladu 2022.
- Ar gyfer adeiladau amhreswyl newydd, bod gostyngiad o 16% neu fwy wedi’i gyflawni o ran allyriadau rheoledig drwy fesurau ar y safle, o gymharu â’r gyfradd allyriadau sylfaenol a nodir yn Rhan L Rheoliadau Adeiladu 2022.
- Mae’n rhaid i bob adeilad newydd:
- ddangos bod yr hierarchaeth ynni wedi’i defnyddio drwy gydymffurfio â’r darpariaethau polisi ar effeithlonrwydd ynni (polisi EN/3) ac ynni adnewyddadwy (polisi EN/4);
- darparu isadeiledd gwefru cerbydau trydan yn unol â pholisi STA/2; a,
- gwrthbwyso’r allyriadau carbon sy’n weddill (dros gyfnod o 30 o flynyddoedd) i sero yn unol â pholisïau EN/6 ac EN/7.
- Os nad yw’n bosib neu’n ymarferol cydymffurfio â hyn yn llawn, mae’n rhaid i’r cynigion leihau allyriadau carbon cymaint â phosibl, a dangos hynny mewn Strategaeth Ynni. Os ceir cyfyngiadau o’r fath, disgwylir i gynigion gynnwys gwneuthuriad ynni effeithlon a systemau gwresogi carbon isel (dim nwy) cyn symud ymlaen i gynhyrchu trydan adnewyddadwy neu wrthbwyso carbon.
- Gall y cynigion hefyd, ar lefel wirfoddol, leihau rhai neu’r holl allyriadau carbon anrheoleiddiedig i’r fath raddau sy’n bosibl ac yn ymarferol a chyflwyno gwybodaeth o’r fath fel rhan o Strategaeth Ynni sy’n dangos sut mae datblygiad (preswyl ac amhreswyl) wedi’i gynllunio i leihau’r defnydd o ynni gan ystyried:
- allyriadau CO2 gwaelodlin blynyddol a chostau ynni;
- gwelliannau CO2 yn sgil gwneuthuriad ynni effeithlon yr adeilad;
- gwelliannau CO2 yn sgil ffactorau gwresogi, awyru a goleuadau;
- gwelliannau CO2 yn sgil technoleg carbon isel ac ynni adnewyddadwy;
- dadansoddiad o gyfraniad a chost pob mesur gwella arfaethedig;
- y gost i’r meddianwyr;
- gwerth y taliad gwrthbwyso a fydd yn cael ei wneud i’r gronfa gwrthbwyso carbon, a gaiff ei sicrhau drwy gytundeb cyfreithiol neu amod i wneud iawn am unrhyw ddiffyg wrth gyflawni carbon sero net, os oes angen.
5.4.96 Mae safonau perfformiad ynni gofynnol adeiladau wedi’u nodi yn Rhan L Rheoliadau Adeiladu LlC. Ceir amryw o safonau DU a rhyngwladol gwirfoddol sy’n gosod targedau uwch, a ddefnyddir yn aml yng Nghymru a gweddill y DU, ochr yn ochr â’r gofynion diwygiedig ar gyfer adeiladau domestig ac annomestig. Sylw
5.4.97 Nid yw’r holl allyriadau sy’n gysylltiedig ag adeiladau yn cael eu crybwyll yn y Rheoliadau Adeiladu nac yn y rhan fwyaf o’r cynlluniau gwirfoddol. Mae Rheoliadau Adeiladu diwygiedig Llywodraeth Cymru, BREEAM a HQM yn edrych ar allyriadau CO2 sy’n dod o ddefnyddio gwasanaethau a nwyddau sy’n sownd h.y. systemau gwresogi, oeri, awyru, dŵr poeth a goleuadau. Cyfeirir at y rhain fel allyriadau CO2 ‘rheoledig’. Mae allyriadau CO2 ‘anrheoleiddiedig’ yn rhai sy’n digwydd wrth ddefnyddio nwyddau eraill (rhai trydanol fel arfer e.e. oergelloedd, systemau adloniant y cartref) a bydd yn rhaid mynd i’r afael â rhain ymhob adeilad sero net. Dim ond y safon Passivhaus sy’n mynd i’r afael ag allyriadau rheoledig ac anrheoleiddiedig. Sylw
5.4.98 Yn ogystal, nid yw allyriadau ymgorfforedig sy’n gysylltiedig â chynhyrchu, gweithgynhyrchu, adeiladu, cynnal a chadw, atgyweirio a dymchwel adeiladau wedi’u cynnwys yn y rheoliadau na’r safonau presennol. Er bod y diwygiadau i Reoliadau Adeiladu Cymru 2022 yn welliant, nid ydynt yn cyd-fynd yn union â gofynion adeiladu sero net. Cyn i Reoliadau Adeiladu ddarparu adeiladau sero net mi fydd hi’n bwysig sicrhau bod pob datblygiad newydd yn manteisio ar bob cyfle i osod technoleg carbon isel neu di-garbon – ac os nad ydynt yn gallu gwneud hynny o’r cychwyn cyntaf, eu bod yn gwneud hynny yn y dyfodol. Sylw
5.4.99 Mae’r cyfleoedd allweddol yn debygol o gynnwys: Sylw
- Sicrhau bod adeiladau yn cyrraedd safon uchel o effeithlonrwydd gwneuthuriad, yn cynnwys insiwleiddio ac aerglosrwydd – bydd cyrraedd sero net yn dibynnu ar leihau’r galw am ynni a newid tuag at ddefnyddio technoleg wedi’i phweru gan drydan adnewyddadwy, yn cynnwys pympiau gwres a systemau adfer gwres. Mae angen safon uchel o effeithlonrwydd gwneuthuriad i sicrhau bod y dechnoleg hon yn gweithredu’n hynod effeithlon. Ymhellach i hynny, o ystyried bod trydan yn danwydd drutach na nwy naturiol, mae angen lleihau’r galw i sicrhau bod y newid hwn yn lleihau’r cynnydd mewn biliau ynni ble bo’n bosibl.
- Gellir newid systemau gwresogi tymheredd isel gyda systemau pympiau gwres o'r aer yn hawdd – yn y dyfodol mae’r ffurf fwyaf carbon effeithlon o wresogi yn debygol o gynnwys pympiau gwres, sydd fwyaf effeithlon pan ddefnyddir hwy gyda systemau gwresogi tymheredd isel. Gall gosod rheiddiaduron a phibwaith sy’n gytûn â systemau gwresogi tymheredd isel leihau costau ôl-osod pwmp gwres (oherwydd bod modd cadw’r rheiddiaduron a’r pibwaith) ac, yn y cyfamser, gwella perfformiad boeler nwy. Er enghraifft, byddai hyn yn debygol o olygu gosod system wresogi o dan y llawr neu nodi rheiddiaduron mwy na’r rheiny a ddefnyddir fel rheol ar gyfer boeler nwy traddodiadol.
- Manteisio ar gyfleoedd i gynhyrchu ynni adnewyddadwy – mae’r trydan a gynhyrchir gan PV yn dibynnu ar sawl ffactor, yn cynnwys arbelydriad solar blynyddol, cyfeiriad y paneli, gogwydd ac effeithlonrwydd. Felly, mae dyluniad a geometreg yr adeilad, a chynllun a gogwydd y paneli solar yn gyffredinol, yn ffactorau pwysig sy’n penderfynu faint o PV a ellir ei osod.
- Gwneud lle ar gyfer pympiau gwres o'r aer a storfa fatris – mae’n rhaid gosod pympiau gwres o'r aer mewn lle hygyrch tu allan wrth ymyl yr eiddo, yn ddelfrydol yn yr awyr agored (h.y. nid mewn sied neu adeilad tebyg). Hefyd, dylai cynllun adeiladau newydd gynnwys lle ar gyfer systemau batri, gwrthdroyddion a chaledwedd cysylltiedig arall (ond cydnabyddir y bydd y gofynion o ran lle yn newid dros amser yn sgil gwelliannau technolegol). Bydd y defnydd cynyddol o systemau gwresogi trydanol, cerbydau trydan, storfa fatris a chynhyrchu ynni adnewyddadwy ar y safle yn rhoi galw sylweddol ar yr isadeiledd pŵer presennol ymhellach i fyny, a fydd o bosibl yn gofyn am atgyfnerthu’r grid lleol (e.e. cynyddu capasiti is-orsafoedd a cheblau ymhellach i fyny).
- Caniatáu mynediad ar gyfer cynnal a chadw a newid systemau gwresogi/oeri a gwasanaethau eraill – mae’r broblem yn fwy tebygol o godi mewn adeiladau amhreswyl sydd ag ystafelloedd cyfarpar pwrpasol a systemau awyru. Mae’n bwysig sicrhau bod y cynllun yn caniatáu mynediad i holl wasanaethau’r adeilad (e.e. dimensiynau drysau a chyfleusterau lifft sy’n caniatáu mynediad i ystafelloedd cyfarpar ar y llawr isaf neu ar y to). Gall cynllunio i hwyluso gwaith cynnal a chadw hefyd helpu i leihau’r deunyddiau sydd eu hangen i gynnal a chadw adeilad yn ystod ei oes a hwyluso datgarboneiddio, gan gyd-fynd ag egwyddorion dylunio Economi Gylchol.
5.4.100 Mae canllawiau pellach ar gael ym Mhapur Cefndir/65: Cyflawni Di-garbon Net mewn Adeiladau. Sylw
Adeiladau Ynni Effeithlon Sylw
EN/3 adeiladau ynni effeithlon - rheoli datblygu Sylw
- Disgwylir i bob cynnig newydd ar gyfer o leiaf 10 annedd neu 1,000m2 ddangos bod cyrraedd y targedau a nodir ym mholisi EN/2 yn ganlyniad i leihau’r defnydd o ynni yn y lle cyntaf a gwella perfformiad ynni adeilad drwy fesurau ynni effeithlon yn ail (effeithlonrwydd gwneuthuriad, gwasanaethau effeithlon a chyflenwad ynni effeithlon) cyn ystyried trydaneiddio gwresogi a chynhyrchu ynni adnewyddadwy.
- Os yw’r datblygwr wedi dangos nad yw’n hyfyw neu’n bosibl cydymffurfio'n llwyr oherwydd y math o ddatblygiad a’i gynllun, mae’n rhaid i gynigion ddangos, drwy Strategaeth Ynni, bod gostyngiadau carbon drwy fesurau ynni effeithlon wedi’u cynnwys gorau posibl.
- Ni chaniateir gwresogi unrhyw ddatblygiad newydd yn defnyddio tanwydd ffosil. Mae’n rhaid i gynigion datblygu ddangos:
- Defnyddio system wresogi drydanol sy’n addas ar gyfer y safle. Bydd y rhain fel rheol yn bympiau gwres o’r aer ond, mewn achosion eraill, fe allan nhw fod yn ffurfiau addas eraill ar wres wedi’i drydaneiddio;
- Pympiau gwres o faint digonol neu system wresogi heb danwydd ffosil ar gyfer y gofyniad gwresogi, a digon o le ar y llawr gwaelod ar gyfer y cyfarpar angenrheidiol.
- Drwy Strategaeth Ynni, mae’n rhaid i gynigion ddangos i ba raddau maent yn gallu cydymffurfio â’r polisi hwn.
5.4.101 Mae’r polisi hwn yn ychwanegu allyriadau carbon ymgorfforedig at bolisi EN/2 ac yn gofyn i adeiladau newydd (domestig ac annomestig) gyflawni allyriadau gweithredol rheoledig ac anrheoleiddiedig ac allyriadau carbon ymgorfforedig sero net, ochr yn ochr â chronfa gwrthbwyso carbon. Sylw
5.4.102 Mae allyriadau carbon ymgorfforedig, neu’r allyriadau carbon sy’n gysylltiedig â deunyddiau adeiladu, yn gallu cynrychioli 50% o gyfanswm allyriadau gweithredol adeiladau ac mae’r ganran honno yn parhau i gynyddu wrth i’r grid trydan gael ei ddatgarboneiddio a’r allyriadau gweithredol leihau oherwydd gwelliannau effeithlonrwydd. Felly mae’n bwysig bod yr allyriadau hyn yn cael eu hystyried mewn datblygiadau; ac maent yn cael eu cydnabod fwyfwy mewn isadeiledd gyda rheoliadau mewn sectorau penodol. Sylw
5.4.103 Disgwylir i bob datblygiad newydd, fel y nodir yn EN/1 uchod, ddangos bod cyrraedd y targedau a nodir ym mholisi rheoli EN/2 yn ganlyniad i leihau’r defnydd o ynni yn y lle cyntaf a gwella perfformiad ynni adeilad drwy fesurau ynni effeithlon yn ail (effeithlonrwydd gwneuthuriad, gwasanaethau effeithlon a chyflenwad ynni effeithlon) cyn ystyried trydaneiddio gwresogi a chynhyrchu ynni adnewyddadwy. Yna ystyried trydaneiddio a chynhyrchu ynni adnewyddadwy. Sylw
5.4.104 Os nad yw’n bosibl cydymffurfio'n llwyr ar ôl ystyried y math o ddatblygiad a’i gynllun, mae’n rhaid i gynigion ddangos, drwy Strategaeth Ynni, bod gostyngiadau carbon drwy fesurau ynni effeithlon wedi’u hystyried a’u cynnwys gorau posibl. Sylw
Carbon sero net wrth addasu adeiladau ac ôl-osod Sylw
5.4.105 Dylai pob datblygiad ddangos ystyriaeth i adeiladu a dylunio cynaliadwy yn unol â’r targedau sero net. Sylw
5.4.106 Yn ogystal, dylai pob datblygiad ystyried trydaneiddio gwres. Dylid archwilio hyn drwy Strategaeth Ynni sy’n nodi opsiynau carbon isel i gefnogi’r cynigion datblygu. Bydd datblygiadau sy’n arwain at welliannau sylweddol mewn effeithlonrwydd ynni, effeithlonrwydd gwneuthuriad a gostyngiadau mewn allyriadau carbon yn gryfach oherwydd y nodweddion hynny. Sylw
5.4.107 Mae gwaith ôl-osod mesurau ynni effeithlon a’r defnydd priodol o fesurau ynni adnewyddadwy bach mewn adeiladau hanesyddol, yn cynnwys adeiladau rhestredig, adeiladau rhestredig lleol a’r rheiny mewn ardaloedd cadwraeth, yn cael ei annog, ar yr amod bod nodweddion arbennig yr asedau treftadaeth yn cael eu diogelu mewn ffordd sy’n briodol i’w harwyddocâd yn unol â pholisi HE/1. Sylw
5.4.108 Nod y dull hwn yw lleihau allyriadau carbon sy’n deillio o ddatblygiad newydd i gefnogi’r gwaith o gyrraedd targedau lleihau carbon lleol a chenedlaethol. Amcangyfrif bod adeiladau presennol (preswyl a masnachol) yn gyfrifol am oddeutu 40% o allyriadau carbon Bwrdeistref Sirol Conwy. Felly mae gwaith ôl-osod mewn adeiladau presennol yn gyfle da i leihau allyriadau carbon ar draws ardal y CDLlN. Ni fydd bob tro yn bosibl ôl-osod adeiladau i’r un lefel effeithlonrwydd gwneuthuriad ag adeiladau newydd. Felly mae’r dull yn darparu cam cadarnhaol i leihau allyriadau adeiladau presennol, drwy gyflenwad ynni carbon isel, mesurau ynni effeithlon ac ynni adnewyddadwy bach, gan gydnabod yr angen i drin asedau hanesyddol mewn ffordd sensitif. Sylw
5.4.109 Ar gyfer ynni gwresogi adeiladau presennol, dylid defnyddio galw cyfartalog o 40kWh/m2 fel targed ar gyfer cynigion sy’n cynnwys addasiadau, estyniadau a newid defnydd. Mae gan LETI ganllawiau manwl ar gyfer adeiladau presennol yn eu Climate Retrofit Guide: https://www.leti.uk/retrofit ac mae gan BREEAM safonau technegol ar gyfer ôl-osodiadau yn https://bregroup.com/products/breeam/breeam-technical-standards/breeam-refurbishment-and-fit-out/. Sylw
5.4.110 Mae canllawiau pellach ar gael ym Mhapur Cefndir BP/65: Cyflawni Di-garbon Net mewn Adeiladau. Sylw
Ffynonellau ynni di-garbon neu garbon isel a thechnoleg di-garbon parod Sylw
EN/4 ffynonellau ynni di-garbon neu garbon isel a thechnoleg di-garbon parod Sylw
- Mae’n rhaid i bob cynnig am adeilad newydd ddangos, drwy ddadansoddiad safle a, ble bo’n briodol, drwy Strategaeth Ynni:
- sut mae’r cynllun, gogwydd a màs wedi’u dylunio i wneud y mwyaf o’r cyfleoedd ar gyfer ynni adnewyddadwy ar y safle a thechnolegau carbon isel; a,
- Darparu technolegau ynni adnewyddadwy a charbon isel ychwanegol ar y safle, gan gynnwys storfa batri os oes angen. Ar gyfer pob cynnig newydd fel y diffinnir yn EN/1 ble mae cysylltiad uniongyrchol oddi ar y grid i’r datblygiad sydd â chapasiti, gellir darparu’r ynni adnewyddadwy ychwanegol drwy gynhyrchu ynni carbon isel neu adnewyddadwy oddi ar y safle neu ddefnyddio rhwydwaith gwresogi. Os yw ymgeiswyr yn dangos nad oes modd cydymffurfio’n llawn, mae’n rhaid i gynigion ddangos, mewn Strategaeth Ynni, bod:
- technolegau adnewyddadwy, di-garbon a charbon isel wedi’u darparu hyd y bo modd; a bod
- technolegau ‘di-garbon parod’ (mewn cyferbyniad â thechnoleg sy’n ddi-garbon / carbon isel yn syth bin) wedi’u cynnwys.
- Bydd cynigion sy’n cynnwys technoleg wresogi ar y safle sy’n honni bod yn ‘ddi-garbon parod’ (o gymharu â thechnoleg sy’n ddi-garbon / carbon isel yn syth bin) yn cael eu cymeradwyo pan fo’r dechnoleg honno eisoes ar gael a’r newid i fod yn ddi-garbon yn seiliedig ar amcanestyniadau presennol realistig o’r cyfnod amser y bydd ei garbon yn cael ei ddileu. Ni fydd cynigion gyda thechnoleg wresogi ‘di-garbon parod’ sy’n dibynnu ar welliannau technolegol yn y dyfodol gan ddefnyddio tanwydd ffosil ar y safle yn y cyfamser, yn cael eu cymeradwyo.
5.4.111 Mae canllawiau pellach ar gael ym Mhapur Cefndir/65: Cyflawni Di-garbon Net mewn Adeiladau. Sylw
5.4.112 Bydd yr ACLl, datblygwyr a darparwyr isadeiledd grid yn ymrwymo i broses o ymgysylltu cynnar sy’n caniatáu cynllunio grid trydan clyfar integredig yn ardal CDLlN Conwy ac yn sicrhau bod modelau technegol, ariannol a rheoli yn cael eu datblygu i oresgyn rhwystrau. Sylw
5.4.113 Lle mae datblygiadau newydd yn edrych ar gyrraedd targedau carbon yn defnyddio ynni adnewyddadwy a gynhyrchir oddi ar y safle, bydd yr ACLl, datblygwyr a darparwyr isadeiledd grid yn cydweithio i gynnwys y generaduron ynni adnewyddadwy yn y rhwydwaith trydan integredig. Sylw
5.4.114 Fel rhan o baratoadau cais cynllunio ar gyfer datblygiad newydd, fel y diffinnir yn EN/1, mae’n rhaid i ddatblygwyr: Sylw
- Ymrwymo i drafodaethau cynnar gyda darparwyr isadeiledd grid i nodi anghenion isadeiledd y datblygiad newydd a sicrhau bod y rhain yn cael sylw yn y cynlluniau, rhwydweithiau ynni a’r cysylltiadau yn barod ar gyfer gwasanaethu’r datblygiad arfaethedig
- Dangos y bydd capasiti isadeiledd grid digonol, o’r feddiannaeth gyntaf hyd at gwblhau’r datblygiad, i sicrhau nad yw’r datblygiad yn arwain at broblemau o ran capasiti na dibynadwyedd yn yr ardal gyfagos
- Paratoi strategaeth cyflwyno a darparu isadeiledd ynni cam wrth gam ar gyfer safleoedd datblygu trefol newydd. Mae’n rhaid i’r strategaeth hon amlinellu cynigion ar gyfer:
- Gosod mesuryddion clyfar;
- Lleihau’r galw am ynni yn ystod cyfnodau prysur a hyrwyddo storio ynni tymor byr;
- Ystyried gridiau clyfar a gridiau bach llai os yn ymarferol;
- Beth sydd angen ei ddarparu, erbyn pryd a phwy fydd yn ei ariannu a’i ddarparu
Allyriadau carbon heb eu rheoleiddio a charbon ymgorfforedig mewn adeiladau Sylw
EN/5 allyriadau carbon heb eu rheoleiddio a charbon ymgorfforedig mewn adeiladau Sylw
- Mae’n rhaid i gynigion newydd ar gyfer o leiaf 10 annedd neu 1,000m2 gyfrifo allyriadau carbon anrheoleiddiedig a charbon ymgorfforedig ar gyfer adeiladau newydd ar wahân.
- Ar gyfer allyriadau anrheoleiddiedig:
- Mae’n rhaid i gynigion gyfrifo allyriadau anrheoleiddiedig adeiladau newydd a dangos bod gostyngiad wedi’i gyflawni o gymharu â’r manylebau dylunio arfer gorau ar adeg paratoi’r cynigon.
- Os yw datblygwr yn wynebu diffyg yn y gostyngiadau sydd eu hangen o ran allyriadau rheoledig ym mholisi EN/2 ond yn gallu dangos dull da o leihau allyriadau anrheoleiddiedig ar y safle, gall yr Awdurdod Cynllunio Lleol ystyried y gostyngiadau hyn yn gyfnewid am ostyngiad yn yr allyriadau rheoledig drwy gyfrifo arbedion ar y safle net cyn unrhyw gyfraniadau ariannol.
- Mae’n rhaid i gynigion ddangos i ba raddau maent yn gallu cydymffurfio â’r polisi hwn drwy’r Datganiad Lleihau Carbon, fel y nodir ym mholisi EN/6 – asesiad allyriadau nwyon tŷ gwydr ar gyfer datblygiad newydd.
- Mae’n rhaid i ddatblygwyr fonitro ac adrodd ar ddefnydd ynni gweithredol anrheoleiddiedig a/neu allyriadau CO2, er mwyn cadarnhau bod y lefel ofynnol o welliant wedi’i chyflawni.
- Ar gyfer allyriadau carbon ymgorfforedig:
- bydd y gostyngiadau a gyflawnir yn cael eu harwain gan y targedau canlynol: gostyngiad o 65% erbyn 2030 a 100% erbyn 2050.
- Mae’n rhaid i gynigion gyfrifo allyriadau carbon ymgorfforedig ar gyfer adeiladau newydd a dangos bod gostyngiad wedi’i gyflawni o gymharu â’r manylebau dylunio arfer gorau ar adeg paratoi’r cynigon.
- Mae’n rhaid i gynigion ddangos i ba raddau maent yn gallu cydymffurfio â’r polisi hwn drwy’r Datganiad Lleihau Carbon, fel y nodir ym mholisi EN/6 – asesiad allyriadau nwyon tŷ gwydr ar gyfer datblygiad newydd.
5.4.115 Nod y polisi hwn yw lleihau allyriadau sy’n gysylltiedig â defnydd ynni anrheoleiddiedig adeiladau ac allyriadau wedi’u hymgorffori yn y gwaith adeiladu. Efallai y bydd gostyngiad mewn allyriadau anrheoleiddiedig i fynd i’r afael â diffyg yn y gostyngiad mewn allyriadau rheoledig yn cael ei ystyried fel rhan o fesurau gwrthbwyso. Ond gan na chynigir bod allyriadau ymgorfforedig yn cael eu cynnwys mewn mesurau gwrthbwyso, ni fyddai unrhyw fecanwaith ffurfiol i ddarparu ar gyfer unrhyw ddiffyg. Gellir mabwysiadu targedau carbon ymgorfforedig LETI fel canllaw. Bydd arweiniad pellach yn cael ei ddarparu yn y Canllawiau Cynllunio Atodol. Sylw
5.4.116 Bydd gwneud maen prawf 5 yn amod yn helpu i fonitro perfformiad adeilad a hysbysu’r Adroddiad Monitro Blynyddol. Sylw
Asesiad allyriadau nwyon tŷ gwydr ar gyfer datblygiadau newydd Sylw
EN/6 asesiad allyriadau nwyon tŷ gwydr ar gyfer datblygiadau newydd Sylw
- Bydd angen i bob cynnig newydd yn cynnwys o leiaf 10 annedd neu 1,000m2 baratoi asesiad carbon oes gyfan i leihau’r holl allyriadau nwyon tŷ gwydr a nodir ar bob cam o’r datblygiad arfaethedig. Mae’n rhaid i’r asesiad gynnwys allyriadau o adeiladau (yn cynnwys gwybodaeth berthnasol o’r Strategaeth Ynni sydd ei hangen dan bolisi EN/1), cludiant ac allyriadau defnydd tir, a sicrhau bod allyriadau yn cael eu lleihau yn unol â darpariaethau polisi perthnasol y CDLlN.
- Bydd yn rhaid i ddatblygwyr gyfrifo allyriadau carbon ymgorfforedig, carbon adeiladu a gweithredol oes gyfan sy’n gysylltiedig â’u cynigion datblygu yn defnyddio methodoleg a gydnabyddir yn genedlaethol, yn ogystal â dangos y camau a gymerwyd i leihau cylch bywyd carbon yr adeilad.
- Ochr yn ochr â lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr, dylai datblygwyr gynnwys cyfleoedd yn y datblygiad arfaethedig i gynnwys atebion technegol ar sail natur i ddal neu wrthbwyso’r allyriadau sy’n weddill yn unol â pholisïau gwrthbwyso carbon a storio carbon y CDLlN.
- Dylid cyflwyno’r holl wybodaeth mewn Datganiad Lleihau Nwyon Tŷ Gwydr fel rhan o’r cais cynllunio.
5.4.117 Bydd y polisïau perthnasol i adeiladau newydd wedi’u nodi yn y CDLlN hyd nes bydd diwygiadau pellach i Reoliadau Adeiladu neu ddeddfwriaeth newydd sy’n gosod gofynion llymach ac wedyn bydd angen cadw at y rheiny fel rhan o geisiadau cynllunio hyd nes bydd polisïau'r CDLlN wedi’u diwygio. Sylw
Gwrthbwyso carbon Sylw
5.4.118 Bydd CBSC yn sefydlu Cronfa Gwrthbwyso Carbon i ddatblygwyr gyfrannu ati yn lle cyflawni gostyngiadau CO2 pan nad oes modd cyflawni datblygiad carbon sero net ar y safle. Defnyddir y gronfa hon i ddarparu prosiectau arbed carbon fel gosodiadau carbon isel a di-garbon mawr a/neu osodiadau ar isadeiledd presennol (e.e. paneli solar ar feysydd parcio) yn ogystal â phrosiectau storio carbon fel plannu coed ac adfer mawndiroedd. Sylw
5.4.119 Bydd y gronfa ond yn cael ei defnyddio pan fydd datblygwr wedi dangos fod gostyngiadau carbon ar y safle wedi’u cyflawni hyd y gellir ac mai gwrthbwyso carbon yw’r unig ddewis ar gael i fwrw ymlaen â datblygiad angenrheidiol. Byddai’n ateb olaf ac yn fesur dros dro, ond yn bwysicach bydd yr arian a gesglir yn caniatáu hyblygrwydd i gwrdd â thargedau mwy uchelgeisiol yn y tymor byr a’r tymor canolig, hyd nes bydd y gyfundrefn reoleiddio, economeg datblygu a’r diwydiant datblygu yn darparu datblygiadau sero net gwirioneddol neu garbon cadarnhaol ar safleoedd. Sylw
5.4.120 Yn draddodiadol mae cronfeydd gwrthbwyso carbon wedi’u sefydlu fel rhan o bolisïau cynllunio sydd angen gostyngiad uwch mewn allyriadau carbon na’r hynny a nodir yn y Rheoliadau Adeiladu. Mae’r gronfa wrthbwyso yn talu am brosiectau arbed carbon mewn llefydd eraill, sy’n gwneud iawn am fethiant datblygiadau i gyflawni arbedion carbon. Sylw
5.4.121 Cyfeiriwch at Bapur Cefndir/62: Nodyn Technegol Dal a Storio Carbon, Papur Cefndir 64: Nodyn Technegol Cludiant ac Ynni a Phapur Cefndir/65: Cyflawni Adeiladau Di-garbon Net am ragor o arweiniad. Sylw
EN/7 gwrthbwyso carbon Sylw
- Os nad yw cynigion newydd ar gyfer o leiaf 10 annedd neu 1,000m2 yn gallu dangos eu bod yn ddatblygiadau carbon sero net o ran allyriadau rheoledig, bydd yn rhaid i’r datblygwr fynd i’r afael ag allyriadau carbon gweddilliol drwy:
- storio carbon ar y safle;
- Defnyddio cynllun gwrthbwyso lleol oddi ar y safle, sydd wedi’i gymeradwyo gan yr ACLl neu, os nad yw hynny’n bosibl;
- Gwneud cyfraniad ariannol i gronfa gwrthbwyso carbon yr ACLl.
- Bydd prosiectau gwrthbwyso a ariennir drwy’r gronfa gwrthbwyso carbon yn cael eu ffurfioli gan y Cyngor ac fe allan nhw gynnwys: cynhyrchu ynni adnewyddadwy, gwaith ôl-osod mewn adeiladau a phlannu coed ar raddfa fawr. Bydd y prosiectau yn cael eu darparu yn ardal y cynllun. Bydd swm y carbon i’w wrthbwyso yn cael ei gyfrifo yn defnyddio’r Weithdrefn Asesu Safonol ddiweddaraf ac yn ymestyn dros 30 mlynedd o fywyd adeilad.
5.4.122 Mae’r polisi yn opsiwn ar gyfer gwrthbwyso fel ateb olaf ar ôl archwilio pob opsiwn arall ar y safle. Sylw
5.4.123 Mae’n rhaid i gynlluniau gwrthbwyso lleol amgen oddi ar y safle fod o fewn ardal y cynllun ac wedi’u cymeradwyo, gan gyrraedd safonau cenedlaethol a safonau diwydiant perthnasol. Os yw’n gynllun storio carbon ar sail natur, yna mae’n rhaid iddo gael ei gefnogi gan fenter Cod Carbon Coetir y llywodraeth neu debyg. Sylw
5.4.124 Bydd yr ACLl yn paratoi ac yn cynnal CCA sy’n nodi sut y bydd cyfraniadau at y Gronfa Gwrthbwyso Carbon yn cael eu defnyddio i alluogi carbon sero net, a sut bydd yr ACLl yn defnyddio ei ddisgresiwn wrth asesu derbynioldeb unrhyw ateb gwrthbwyso carbon amgen oddi ar y safle a gynigir gan ddatblygwyr. Sylw
5.4.125 Bydd cyfraniadau at y gronfa wrthbwyso yn cael eu gwneud drwy gytundebau adran 106 a bydd yn rhaid eu gwneud cyn i’r adeiladau newydd gael eu meddiannu. Sylw
5.4.126 Bydd swm y carbon i’w wrthbwyso yn cael ei gyfrifo yn defnyddio’r Weithdrefn Asesu Safonol ddiweddaraf ac yn ymestyn dros 30 mlynedd o fywyd adeilad. Sylw
5.4.127 Bydd y pris gwrthbwyso carbon yn cyd-fynd â gwerthoedd carbon diweddaraf Llywodraeth y DU, sy’n cynrychioli’r gwerth ariannol y mae cymdeithas yn ei roi ar un dunnell o garbon deuocsid a'i gyfatebol (£/tCO2e). Yn 2023, mae gwerth canolog carbon yn £252/ tCO2e. Disgwylir i werth carbon gynyddu’n raddol i £260/ tCO2e yn 2025 ac yna i £280/ tCO2e yn 2030, £326/ tCO2e yn 2040, £351 yn 2045 a £378/ tCO2e yn 2050. Sylw
5.4.128 Bydd cyllid a geir drwy’r polisi hwn yn cael ei ddiogelu a’i weinyddu mewn ffordd dryloyw gan y Cyngor i ddarparu amrywiaeth o brosiectau sy’n cyflawni arbedion carbon mesuradwy mor lleol â phosibl, ar yr un gost gyfartalog y dunnell. Bydd perfformiad y gronfa yn cael sylw yn yr Adroddiad Monitro a fydd yn cyfeirio at faint o arian sydd wedi’i wario, y mathau o brosiectau a ariannwyd a’r CO2 sydd wedi’i arbed. Sylw
5.4.129 Cyfeiriwch at Bapurau Cefndir 62: Nodyn Technegol Dal a Storio Carbon, Papur Cefndir 64: Nodyn Technegol Cludiant ac Ynni a Phapur Cefndir 65: Cyflawni Adeiladau Di-garbon Net am ragor o arweiniad. Sylw
Datblygiadau ynni adnewyddadwy a charbon isel Sylw
5.4.130 Dan amgylchiadau penodol, bydd angen isadeiledd rhwydwaith grid trydan ychwanegol i gefnogi’r meysydd allweddol a nodir yn y canllawiau cenedlaethol a’r CDLlN. Sylw
5.4.131 Mae’r ACLl a’r diwydiant ynni, yn cynnwys y Grid Cenedlaethol a gweithredwyr y rhwydwaith dosbarthu, yn ymgysylltu gyda’i gilydd i sicrhau bod y CDLlN wedi ystyried materion isadeiledd grid a bod y Cynllun Ynni Ardal Leol (CYAL), y CDLlN a’r canllawiau cenedlaethol yn amlygu ardaloedd sydd angen buddsoddiad a chynnydd yn y capasiti. Gall hyn hefyd sicrhau bod cynlluniau buddsoddi ar gyfer trawsyrru a dosbarthu yn cyd-fynd â’r potensial a nodwyd ar gyfer ynni adnewyddadwy a charbon isel. Sylw
5.4.132 Yn ychwanegol, mae modelu’r CYAL yn awgrymu defnyddio storfa fatris rhwng 150 a 250GWh gyda chysylltiad â’r grid cenedlaethol o hyd at 160MW. Byddai’r capasiti hwn yn cynnwys cyfuniad o storfa hirdymor yn cynnwys batris sefydlog ar lefel grid er mwyn uchafu’r defnydd o gynhyrchiant gwynt hynod gyfnewidiol a’r adnoddau solar helaeth yn ystod misoedd yr haf; a batris tymor byrrach i wneud defnydd o systemau ffotofoltäig ar doeau a thariffau ynni amrywiol i ddiwallu galwadau ynni dyddiol. Sylw
Cysylltu â’r Grid a Storio Ynni Adnewyddadw Sylw
EN/8 cysylltu â’r grid a storio ynni adnewyddadwy Sylw
- Bydd gan yr ACLl ddull cadarnhaol tuag at isadeiledd grid a storio ynni, a bydd yn ceisio hwyluso hynny mewn ffordd sydd ei hangen i gefnogi potensial yr ardal i gynhyrchu ynni adnewyddadwy a charbon isel, yn enwedig ardaloedd sydd wedi’u nodi ar gyfer datblygiad ac ymyriadau o’r fath yn y CYAL. Bydd datblygiadau grid priodol yn cael eu cefnogi, pa un ai yw’r datblygiadau sy’n cysylltu yn ardal y cynllun ai peidio. Bydd datblygiadau yn cael eu cefnogi yn amodol ar y canlynol:
- eu bod yn dderbyniol o safbwynt polisïau eraill y CDLlN;
- bod effeithiau cronnol posibl ar gymunedau, tirlun a’r amgylchedd cyfagos yn cael eu hystyried yn dderbyniol. Lle ystyrir bod datblygiad yn cael effaith gronnol annerbyniol, bydd yn cael ei wrthod. Bydd cysylltiadau is-wyneb yn cael eu ffafrio;
- na fydd y datblygiad yn cynhyrchu lefelau sŵn na chysgodion symudol a fyddai’n annerbyniol o niweidiol i’r amwynder a gaiff ei fwynhau gan drigolion cyfagos neu ddefnyddwyr hawliau tramwy cyhoeddus a chyfleusterau neu ardaloedd hamdden eraill;
- Bod Asesiad o'r Effaith Amgylcheddol boddhaol yn cael ei ddarparu sy’n cynnig mesurau ar gyfer diogelu, adfer a gwella cynefin a bioamrywiaeth yn unol â pholisi NE/1; a,
- Bod y datblygiad yn hwyluso cysylltu ynni adnewyddadwy a charbon isel gyda datblygiadau mawr newydd neu wella capasiti’r grid.
Cynhyrchu Ynni Lleol a Chynllun Ynni Ardal Leol Sylw
5.4.133 Bydd y ACLl yn cynllunio’n gadarnhaol ar gyfer defnyddio trydan a gwres a gynhyrchir yn lleol i helpu i gyrraedd y targed cenedlaethol o un Gigawatt erbyn 2030. Sylw
5.4.134 Dylai cynigion ar gyfer pob math o ynni adnewyddadwy a charbon isel a’r isadeiledd cysylltiedig, ar eu pen eu hunain, yn gronnus neu ar y cyd â datblygiad presennol sydd yn yr arfaeth neu wedi’i gymeradwyo, gydymffurfio â’r holl bolisïau perthnasol eraill yn y cynllun. Sylw
5.4.135 Mae cynigion ar gyfer datblygiadau mawr (10MW+) yn Ddatblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol ac yn cael eu hystyried gan Weinidogion Cymru. Sylw
EN/9 cynhyrchu ynni’n lleol a’r cynllun ynni ardal leol Sylw
Bydd datblygiadau dan 10MW yn cael eu hystyried gan yr ACLl yn unol â’r meini prawf canlynol:
- Cefnogir datblygiadau cynhyrchu ynni adnewyddadwy lleol sy’n:
- dderbyniol o safbwynt polisïau eraill y CDLlN;
- hwyluso cyd-leoli datblygiadau i alluogi defnyddio cyfleoedd gwres lleol;
- hwyluso cysylltu ynni adnewyddadwy a charbon isel gyda datblygiadau newydd a defnyddwyr llawer o ynni;
- gwneud y mwyaf o wastraff gwres;
- hyrwyddo cynlluniau gwresogi ardal neu gynlluniau gwres a phŵer cyfunedig;
- yn cynnwys elfen gytunedig o berchnogaeth leol a budd cymuned;
- cynnwys Asesiad o Effaith Amgylcheddol ac Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd derbyniol;
- ddim yn cael effaith niweidiol ar y canlynol:
- Cymeriad a nodweddion y lleoliad arfaethedig – boed hynny yn sgil lleoliad, dyluniad, cynllun, math o osodiad a’r deunyddiau a ddefnyddir;
- Amwynder cyhoeddus neu hygyrchedd yr ardal i’r cyhoedd; neu
- Radar, gweithrediadau awyrennau neu delathrebu;
- Dangos y gostyngiad mewn carbon mewn Strategaeth Ynni gyda chamau lliniaru digonol;
- Camau lliniaru derbyniol i leihau effaith y cynnig a’i isadeiledd cysylltiedig. O ran cynigion solar, mae’n rhaid iddyn nhw liniaru unrhyw effaith yn sgil fflachiau a disgleirio;
- Bydd cynigion hefyd yn cynnwys darpariaeth ar gyfer adfer ac ôl-ofal y tir er mwyn ei ailddefnyddio mewn ffordd fuddiol. Bydd hyn yn cael ei gytuno arno gyda’r Awdurdod Cynllunio Lleol cyn i’r gwaith adeiladu ddechrau.
5.4.136 Cafod CYAL Conwy (Papur Cefndir 55) a’r adroddiad technegol ategol eu cyhoeddi fis Ionawr 2021 i nodi sut beth fydd system ynni ddi-garbon erbyn 2050 ac i ddisgrifio’r camau gweithredu allweddol y dylai CBSC eu cymryd rŵan i gefnogi’r daith hon. Roedd y CYAL yn gynllun peilot ar gyfer rhanbarth Gogledd Cymru ac yn seiliedig ar fethodoleg 2020 Ofgem. Sylw
5.4.137 Mae canlyniadau’r ymarfer modelu a gynhaliwyd yn nodi’r angen am ddefnydd sylweddol o asedau cynhyrchu ynni adnewyddadwy technegol ymarferol yn yr ardal leol: Sylw
- Oddeutu 760MW o PV ar y tir a rhwng 50 a 95MW o PV ar doeau. Byddai’r systemau ffotofoltäig hyn ar y tir yn gorchuddio oddeutu 760 hectar – sef 1,000 o gaeau pêl-droed, sy’n llai na 0.1% o gyfanswm ardal y fwrdeistref sirol. Byddai defnyddio maint cyfwerth o systemau ffotofoltäig ar doeau’n golygu bod yn rhaid eu gosod ar 12,500 i 23,750 o doeau, sef tua 22% a 41% o holl anheddau Bwrdeistref Sirol Conwy.
- Rhwng 150 a 250GWh o storfa fatris gyda chysylltiad i’r grid cenedlaethol o hyd at 160MW. Byddai’r capasiti hwn yn cynnwys cyfuniad o storfa hirdymor yn cynnwys batris sefydlog ar lefel grid er mwyn uchafu’r defnydd o gynhyrchiant gwynt hynod gyfnewidiol a’r adnoddau solar helaeth yn ystod misoedd yr haf; a batris tymor byrrach i wneud defnydd o systemau ffotofoltäig ar doeau a thariffau ynni amrywiol i ddiwallu galwadau ynni dyddiol.
- Rhwng 40 a 61MW o wynt ar y tir (61MW yn oddeutu 24 o dyrbinau)
- Mae’n debygol iawn hefyd y bydd angen uwchraddio rhwydweithiau trydan a storio.
5.4.138 Mae’r CYAL yn nodi saith maes ymyriad o flaenoriaeth ac yn cydnabod y bydd rôl y Cyngor ymhob un ohonynt yn wahanol iawn. Bydd rhai ymyriadau’n galw am gamau gweithredu gan y Cyngor o ran y ffordd y bydd rhaglenni’n cael eu cyflawni, tra bydd ymyriadau eraill yn cynnwys y Cyngor yn rôl yr hwylusydd ar gyfer newid sy’n cael ei yrru gan y farchnad. Mae’r adroddiad yn cynnig camau gweithredu manylach ar gyfer pob ymyriad uchaf ei blaenoriaeth. Sylw
5.4.139 Mae perchnogaeth leol yn ffocws allweddol yn y CYAL a, lle bo hynny’n bosibl, dylai’r camau gweithredu a gymerir ddylanwadu ar y cynnydd mewn ffordd sy’n sicrhau’r manteision lleol gorau bosibl. Sylw
5.4.140 Gall y broses gynllunio hefyd roi cyfleoedd go iawn i gymunedau lleol weithredu ar newid hinsawdd – drwy annog datblygiadau cymunedol a chymryd rhan mewn cynlluniau creu lleoedd lleol a chymdogaeth. Sylw
5.4.141 Mae’r manteision cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd (yn cynnwys creu swyddi) sy’n gysylltiedig ag unrhyw ddatblygiad yn bethau y dylid eu cynnwys a’u hystyried yn y broses o wneud penderfyniadau. Fodd bynnag, mae’n rhaid i geisiadau cynllunio fod yn seiliedig ar asesiad o effaith y datblygiad arfaethedig, waeth pwy yw’r ymgeisydd. Sylw
Morlyn llanw Sylw
5.4.142 Mae prosiect cynhyrchu morlyn llanw 1GW yn Strategaeth Ynni Rhanbarthol Gogledd Cymru 2035 yn cael ei gefnogi mewn egwyddor, gyda’r lleoliad arfaethedig ar y glannau oddi ar arfordir Bwrdeistref Sirol Conwy. Sylw
5.4.143 Mae morlyn llanw yn orsaf bŵer sy’n cynhyrchu trydan o’r llanw a’r trai naturiol. Mae morlynnoedd llanw yn gweithio’n debyg iawn i argaeau llanw drwy ddal cyfaint mawr o ddŵr tu ôl i adeiledd sydd wedyn yn cael ei ryddhau i yrru tyrbinau wedi’u codi ar yr arglawdd a chynhyrchu trydan. Yn wahanol i argae, lle mae’r isadeiledd yn pontio aber afon mewn llinell syth, mae morlyn llanw yn cau ardal o’r arfordir gyda llanw uchel tu ôl i forglawdd, gydag ôl-troed wedi’i gynllunio’n ofalus ar gyfer y lleoliad. Sylw
5.4.144 Mewn ardaloedd sy’n agored i lifogydd ac erydu arfordirol, fwyfwy oherwydd newid hinsawdd, gall morlynnoedd llanw fod yn rhwystr ychwanegol rhag difrod a thonau ac ymchwydd yn y llanw yn ystod stormydd sy’n bygwth cymunedau ac isadeiledd arfordirol. Mae’r prif bwyntiau i’w nodi yn cynnwys: Sylw
- Canran poblogaeth Bwrdeistref Sirol Conwy sy’n byw o fewn ardal perygl llifogydd fel y diffinnir yn TAN15
- Mae morlynnoedd llanw wedi’u cynllunio i ddygymod â chynnydd yn lefel y môr
- Gall buddsoddiad cyfalaf preifat mewn morlynnoedd llanw ddisodli gwariant cyhoeddus ar lifogydd a rheoli perygl arfordirol
- Gall hyblygrwydd yng nghylch gweithredu morlyn llanw helpu i reoli digwyddiadau tywydd yn well
- Nodau economaidd a lles
5.4.145 Er nad yw’r morlyn llanw yn debygol o ddwyn ffrwyth yn ystod cyfnod y cynllun, mae CBSC yn cefnogi’r ymarferion rhagarweiniol sydd eu hangen i ddatblygu’r cynllun, yn cynnwys Memorandwm o Ddealltwriaeth gyda budd-ddeiliaid y prosiect. Mae’r CYAL yn awgrymu y gall y morlyn llanw ddarparu 1GW o ynni i Gonwy. Sylw
Grid clyfar a rhwydweithiau gwresogi ac oeri ardal Sylw
5.4.146 Dylai awdurdodau cynllunio nodi cyfleoedd ar gyfer rhwydweithiau gwresogi ardal a chynllunio’n gadarnhaol ar gyfer eu gweithredu. Dylai datblygiadau defnydd cymysg ar raddfa fawr, ble bynnag y bo hynny’n ymarferol, fod â rhwydwaith gwresogi o ffynhonnell adnewyddadwy / carbon isel neu wastraff gwres. Dylai ceisiadau cynllunio ar gyfer datblygiadau o’r fath baratoi Strategaeth Ynni i weld ai rhwydwaith gwresogi yw’r opsiwn gorau ar gyfer cyflenwad ynni ac, ar gyfer prosiectau dichonadwy, cynllun ar gyfer ei weithredu. Sylw
5.4.147 Bydd yr ACLl, datblygwyr a darparwyr isadeiledd grid yn ymrwymo i broses o ymgysylltu cynnar sy’n caniatáu cynllunio grid trydan clyfar integredig yn ardal CDLlN Conwy ac yn sicrhau bod modelau technegol, ariannol a rheoli yn cael eu datblygu i oresgyn rhwystrau. Sylw
EN/10 grid clyfar a rhwydweithiau gwresogi ac oeri ardal Sylw
- Lle mae datblygiadau newydd fel y diffinnir ym mholisi EN/1 yn cael eu cynnig, mae’n rhaid i ddatblygwyr ymgysylltu â’r ACLl a gweithredwyr y rhwydwaith i sefydlu cynhyrchiad ynni adnewyddadwy yn y rhwydwaith trydan.
- Mae’n rhaid i ddatblygwyr:
- Ymrwymo i drafodaethau cynnar gyda darparwyr isadeiledd grid i nodi anghenion isadeiledd y datblygiad newydd a sicrhau bod y rhain yn cael sylw yn y cynlluniau, rhwydweithiau ynni a’r cysylltiadau yn barod ar gyfer gwasanaethu’r datblygiad arfaethedig;
- Dangos y bydd capasiti isadeiledd grid digonol, o’r feddiannaeth gyntaf hyd at gwblhau’r datblygiad, i sicrhau nad yw’r datblygiad yn arwain at broblemau o ran capasiti na dibynadwyedd yn yr ardal gyfagos;
- Paratoi strategaeth cyflwyno a darparu isadeiledd ynni cam wrth gam ar gyfer safleoedd datblygu trefol newydd. Mae’n rhaid i’r strategaeth hon amlinellu cynigion ar gyfer:
- Gosod mesuryddion clyfar
- Lleihau’r galw am ynni yn ystod cyfnodau prysur a hyrwyddo storio ynni tymor byr
- Ystyried gridiau clyfar a gridiau bach llai os yn ymarferol
- Beth sydd angen ei ddarparu, erbyn pryd a phwy fydd yn ei ariannu a’i ddarparu
- Dylid edrych ar ddarpariaeth benodol yn y lleoliadau canlynol:
- Tir Llwyd, Bae Cinmel
- Parc Masnach Mochdre
- Parc Eirias – clwstwr y Ganolfan Hamdden / Ysgol
- Safleoedd wedi'u dyrannu ar gyfer 100 neu fwy o anheddau
- Dylai cynigion gynnwys Strategaeth Ynni yn unol â pholisi EN/1 ac uwchgynllun i weld ai rhwydwaith gwresogi ardal yw’r opsiwn mwyaf ynni effeithlon ac, ar gyfer prosiectau dichonadwy, cynllun ar gyfer ei weithredu.
5.4.148 Mae rhwydweithiau gwresogi ardal yn ddull o ddarparu gwresogi a dŵr poeth i sawl adeilad o ffynhonnell wresogi ganolog ac, yn arbennig mewn ardaloedd trefol, yn ffordd effeithiol iawn o ddarparu gwres carbon isel. Mae’r CYAL wedi asesu rhwydweithiau gwres fel ffynhonnell bosibl o wres yng Nghonwy ond oherwydd nifer cyfyngedig o ardaloedd galw uchel dwys a dim ffynonellau gwres mawr canfuwyd na fyddai hyn yn ymarferol ar y pryd. Sylw
5.4.149 Disgwylir i ddatblygiadau sy’n defnyddio llawer iawn o ynni hwyluso datblygiad a/neu gysylltiad i rwydweithiau gwresogi ac awyru ardal arfaethedig. Mae datblygiadau sy’n defnyddio llawer iawn o ynni yn cynnwys defnydd trydan cynyddol ar gyfer cynhyrchu diwydiannol, galw cynyddol am aerdymheru, trydaneiddio cludiant, twf canolfannau data a datblygiadau a arweinir gan Ddeallusrwydd Artiffisial. Sylw
5.4.150 Pan fo llwybr rhwydwaith gwresogi ac awyru ardal yn croesi unrhyw ran o safle datblygu, bydd yn rhaid i’r datblygiad ddarparu’r isadeiledd angenrheidiol i ddanfon rhan o’r rhwydwaith, neu neilltuo’r tir sydd ei angen ar gyfer y rhwydwaith i’w weithredu yn y dyfodol. Sylw
5.4.151 Mae rhwydweithiau gwresogi (neu rwydweithiau gwresogi ardal) yn cyflenwi gwres o ffynhonnell ganolog i gwsmeriaid drwy rwydwaith o bibellau dan ddaear sy’n cludo dŵr poeth. Mae rhwydweithiau gwresogi yn amrywio o ran maint, o un adeilad i ddinas gyfan, ac yn gallu cael eu cyflenwi gan amrywiaeth o ffynonellau, yn cynnwys: Sylw
- Gorsafoedd pŵer
- Cyfleusterau ynni o wastraff
- Prosesau diwydiannol
- Boeleri biomas a bionwy a gweithfeydd gwres a gwres a phŵer cyfunedig
- Unedau gwres a phŵer cyfunedig sy’n rhedeg ar nwy
- Celloedd tanwydd
- Pympiau gwres
- Ffynonellau geothermol
- Boeleri trydan a hyd yn oed aráe solar thermol
5.4.152 Mae’r Cyngor yn cydnabod ei gyfrifoldeb i gyfrannu at gynhyrchu ynni o ffynonellau ynni adnewyddadwy neu garbon isel yn y sir. Mae’r ffynonellau ynni adnewyddadwy posibl yn y sir wedi cael eu hasesu yn y Cynllun Ynni Lleol. Mae yna botensial i fabwysiadu amrywiaeth o dechnolegau ar raddfeydd gwahanol, o ddomestig i fasnachol, ar draws y sir. Mae hyn yn amrywio o niferoedd bach o dyrbinau gwynt ar raddfa gymunedol, a all ddarparu chwarter yr holl arbedion carbon o ynni adnewyddadwy, i niferoedd mawr o osodiadau llai ar y safle fel paneli ffotofoltäig i gynhyrchu trydan domestig a dŵr poeth, a phympiau gwres. Sylw
5.4.153 Mae’r Cyngor wedi ymrwymo i gyflawni’r canlyniadau a nodir yn Ynni Cymru: Newid Carbon Isel a’r Cynllun Ynni Lleol. Y blaenoriaethau yw: Sylw
- lleihau’r ynni rydym ni’n ei ddefnyddio yng Nghymru
- lleihau ein dibyniaeth ar ynni a gynhyrchir o danwyddau ffosil
- rheoli a hybu’r trawsnewidiad i economi carbon isel yn frwd
Datblygiadau ynni gwynt a solar ar y tir Sylw
5.4.154 Mae LlC wedi ymrwymo i ddarparu rhaglen ynni i leihau allyriadau carbon. Bydd yr ardaloedd wedi’u rhag-asesu a nodir yng Nghymru’r Dyfodol yn gweld y ffocws mwyaf ar ddatblygiadau ynni gwynt ar y tir. Y tu allan i’r ardaloedd hyn, mae’n bosibl y bydd datblygiadau ynni gwynt a solar ar y tir ar raddfa fawr yn briodol. Penderfynir ar geisiadau ar sail teilyngdod pob cais yn unigol, a chyfrifoldeb yr ymgeisydd yw dangos na fydd cynnig yn cael effaith annerbyniol ar yr ardal o’i gwmpas a materion polisi eraill. Sylw
5.4.155 Nid yw datblygiadau ynni gwynt na solar mawr yn dderbyniol o fewn Parc Cenedlaethol Eryri. Mae’n rhaid i gynigion sy’n agos at ffin y parc ddangos na fydd y datblygiad yn tanseilio’r amcanion sy’n tanategu pwrpas y dynodiad. Sylw
5.4.156 Mae’n rhaid darparu mynediad addas i’r safle at ddibenion adeiladu a chynnal a chadw. Mae’n rhaid cael cynllunio yn eu lle ar gyfer datgarboneiddio offer ac adfer y safle. Sylw
5.4.157 Mae polisïau cenedlaethol hefyd yn annog cynlluniau ynni gwynt cymunedol llai, fel rheol dan 10MW, yn ogystal â ffurfiau eraill ar ynni adnewyddadwy, fel biomas, geothermol a gwres a phŵer cyfunedig pan fo’u heffeithiau yn dderbyniol. Bydd prosiectau ynni adnewyddadwy arunig sy’n ystyriol o gymeriad y dirwedd a’r amwynder lleol hefyd yn cael cefnogaeth. Sylw
5.4.158 Mae Polisi EN/11 wedi’i ddylunio i hyrwyddo datblygiadau gwynt a solar yn y llefydd cywir, ar y raddfa gywir ac yng nghyd-destun targedau Llywodraeth Cymru. Mae cynigion ar gyfer datblygiadau mawr (10MW+) yn Ddatblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol ac yn cael eu hystyried gan Weinidogion Cymru, a’r ACLl yn ymgynghorai. Sylw
EN/11 datblygiadau ynni gwynt a solar ar y tir Sylw
- Bydd datblygiadau ynni gwynt mawr neu fawr iawn (dros 10MW) yn cael eu hannog o fewn yr ardaloedd wedi’u rhag-asesu fel y nodir yn ‘Cymru’r Dyfodol’ yn unol â chanllawiau cenedlaethol ac yn amodol ar Asesiad o Effaith Amgylcheddol ac Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd boddhaol. Bydd disgwyl i gynigion:
- Nodi mesurau i ddiogelu, adfer a gwella cynefinoedd a rhywogaethau o fewn ac yn ymyl y safle ble bo angen;
- Sicrhau bod holl fanylion datblygiad atodol cysylltiol yn cael eu cyflwyno gyda’r Cais Cynllunio fel rhan ganolog o’r cynllun;
- Sicrhau bod yr effeithiau cronnol posibl ar gymunedau, tirlun a’r amgylchedd cyfagos yn dderbyniol. Lle ystyrir bod datblygiad fferm wynt yn cael effaith gronnol annerbyniol, bydd yn cael ei wrthod;
- Dangos na fydd y datblygiad yn arwain at lefelau sŵn neu gysgodion symudol a fyddai’n niweidiol i amwynder preswyl yr ardal gyfagos;
- Darparu elfen o berchnogaeth leol;
- Cytuno ar gynllun datgomisiynu, yn cynnwys oes y datblygiad, tynnu’r holl isadeiledd unwaith y bo’r defnydd yn dod i ben ac adfer defnydd y tir yn briodol ar gyfer yr ôl-ddefnydd;
- Darparu System Goleuadau Canfod Awyrennau i ddarparu golau yn ôl y galw i leihau llygredd golau ac amddiffyn ardaloedd Awyr Dywyll (polisi EQ/4);
- Bydd datblygiadau ynni gwynt mawr neu fawr iawn (dros 10MW) yn cael eu hannog o fewn yr ardaloedd wedi’u rhag-asesu fel y nodir yn ‘Cymru’r Dyfodol’ yn unol â chanllawiau cenedlaethol ac yn amodol ar Asesiad o Effaith Amgylcheddol ac Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd boddhaol. Bydd disgwyl i gynigion:
- Nodi mesurau i ddiogelu, adfer a gwella cynefinoedd a rhywogaethau o fewn ac yn ymyl y safle ble bo angen;
- Sicrhau bod holl fanylion datblygiad atodol cysylltiol yn cael eu cyflwyno gyda’r Cais Cynllunio fel rhan ganolog o’r cynllun;
- Sicrhau bod yr effeithiau cronnol posibl ar gymunedau, tirlun a’r amgylchedd cyfagos yn dderbyniol. Lle ystyrir bod datblygiad fferm wynt yn cael effaith gronnol annerbyniol, bydd yn cael ei wrthod;
- Dangos na fydd y datblygiad yn arwain at lefelau sŵn neu gysgodion symudol a fyddai’n niweidiol i amwynder preswyl yr ardal gyfagos;
- Darparu elfen o berchnogaeth leol;
- Cytuno ar gynllun datgomisiynu, yn cynnwys oes y datblygiad, tynnu’r holl isadeiledd unwaith y bo’r defnydd yn dod i ben ac adfer defnydd y tir yn briodol ar gyfer yr ôl-ddefnydd;
- Darparu System Goleuadau Canfod Awyrennau i ddarparu golau yn ôl y galw i leihau llygredd golau ac amddiffyn ardaloedd Awyr Dywyll (polisi EQ/4);
- Dangos na fyddai’r gwaith adeiladu a gweithredu yn cael effaith andwyol annerbyniol ar systemau radar a systemau rheoli traffig awyr; gweithredu cyfleusterau amddiffyn; telegyfathrebu na’r rhwydwaith cludiant;
- Oni chytunir yn wahanol, bydd y tyrbinau yn lliw llwyd golau.
- Bydd datblygiadau ffermydd gwynt a phaneli solar canolig rhwng 1MW a 10MW ddim ond yn cael eu cefnogi mewn egwyddor o fewn yr Ardaloedd Chwilio Lleol, yn amodol ar fodloni maen prawf ym mhwynt uchod a’r canlynol:
- Eu bod yn dderbyniol o safbwynt polisïau eraill y CDLlN;
- Bod Asesiad o'r Effaith Amgylcheddol boddhaol yn cael ei ddarparu sy’n cynnig mesurau ar gyfer diogelu, adfer a gwella cynefin a bioamrywiaeth;
- Na fydd perygl afresymol i, neu effaith weledol andwyol ar, gymunedau cyfagos, anheddau unigol neu adeilad arall sy’n sensitif i sŵn;
- Na fydd unrhyw effaith andwyol annerbyniol ar safleoedd dynodedig ar gyfer cadwraeth natur, rhywogaethau a ddiogelir nac asedau treftadaeth a ddiogelir a, lle bo’n briodol, dylai cynigion sicrhau bod y safleoedd hyn yn cael eu gwarchod neu eu gwella;
- Na fydd yna unrhyw effaith annerbyniol ar y dirwedd nac effeithiau gweledol, gan gynnwys ar leoliad Parc Cenedlaethol Eryri a Thirwedd Ddynodedig Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy a, lle bo’n briodol, dylai cynigion sicrhau bod eu lleoliadau’n cael eu gwella;
- Na fyddai yna unrhyw effeithiau andwyol annerbyniol o adeiladu neu weithredu’r datblygiad, drwy: gysgodion symudol; sŵn; golau’n adlewyrchu neu belydrau a disgleirdeb; ansawdd yr aer, aflonyddwch electromagnetig;
- Na fydd unrhyw effaith annerbyniol ar lifogydd na chyrsiau dŵr yn unol â chanllawiau cenedlaethol;
- Bod egwyddorion yr economi gylchol wedi’u dilyn yn unol â pholisïau Creu Lleoedd, gan gynnwys ystyried effaith carbon y deunyddiau sydd yn cael eu defnyddio neu a gaiff eu cynhyrchu; ac
- Archwilio storfa fatris fel rhan o’r datblygiad.
- Bydd datblygiadau ynni gwynt a solat (hyd at 1MW) yn cael eu cefnogi ar yr amod:
- Nad ydynt yn peryglu gallu'r ardal wedi’i rhag-asesu i gyrraedd y targed cynhyrchu ynni a ragwelir;
- Bod meini prawf 1 a 2 uchod yn cael eu bodloni; ac,
- O fewn Ardal Tirwedd Arbennig bydd ffafriaeth i ddatblygiadau gwynt a solar wasanaethu annedd neu glwstwr o anheddau ar raddfa fach.
Effeithiau cronnus Sylw
5.4.159 Mae’r rhain yn effeithiau cyfunol o ganlyniad i ddatblygiad gan ystyried datblygiadau presennol ac arfaethedig eraill. Wrth asesu effeithiau cronnus gweledol ac ar y dirwedd, bydd graddfa a phatrwm y tyrbinau neu’r paneli solar, yn cynnwys datblygiadau cysylltiedig, yn ystyriaethau perthnasol. Bydd yn rhaid hefyd ystyried arwyddocâd y dirwedd a’r golygfeydd, agosrwydd a rhyng-welediad, a sensitifrwydd derbynyddion gweledol. Mae’n bosibl y bydd effeithiau amgylcheddol a/neu gymdeithasol cronnus hefyd. Sylw
Buddion cymunedol Sylw
5.4.160 Mae Cymru’r Dyfodol a TAN8 yn cyfeirio at fudd cymunedol ac fe all hynny gyfrannu at wella canlyniadau cymunedol yr effaith ar y dirwedd ac unrhyw effaith ar ansawdd bywyd. Mae hyn yn destun trafod gyda datblygwyr ond nid yw’n ofyniad gorfodol nac yn ystyriaeth berthnasol wrth benderfynu ar deilyngdod cynllunio ac ni ddylid ei ystyried fel ffordd i oresgyn gwrthwynebiadau cynllunio sylfaenol i ddatblygiad penodol. Does dim hawl lleoli datblygiad fferm wynt mewn lleoliad penodol nac elwa ar ddatblygwr sy’n gwneud hynny, ond gellir ystyried budd cymunedol fel ffordd i: Sylw
- Hyrwyddo perthynas dda rhwng cymdogion
- Cynnig iawndal am wrth-fuddion cymunedol
- Rhannu’r buddion gyda chymunedau
5.4.161 Mae sawl categori o fuddion cymunedol (e.e. buddion cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol, ecolegol neu addysgol) a gellir eu gwneud mewn ffyrdd gwahanol hefyd, fel: Sylw
- Cronfeydd cymunedol: symiau rheolaidd neu untro i gronfa gymunedol a gytunir arnynt ar y cam ymgeisio neu cyn hynny
- Buddion mewn da: gwelliannau i isadeiledd, amgylcheddol, addysg neu gyfleusterau a gytunir gyda’r Awdurdod Cynllunio Lleol a’r gymuned ar y cam ymgeisio neu cyn hynny
- Perchnogaeth leol: cynigir cyfranddaliadau mewn prosiect neu gwmni gweithredu i drigolion lleol, naill ai’n defnyddio eu buddsoddiad eu hunain, rhannu elw neu gynlluniau rhanberchnogaeth i glymu buddion cymunedol i berfformiad fferm wynt
- Contractio a rheoli lleol: defnyddio gweithwyr lleol ar gyfer adeiladu a gweithredu’r fferm wynt
5.4.162 Bydd yr Awdurdod Cynllunio Lleol yn ceisio trafod buddion cymunedol mewn perthynas â datblygiadau ynni adnewyddadwy mawr fel ffordd i wrthbwyso neu wneud iawn am effeithiau cymunedol. Sylw
5.4.163 Mae angen ystyried effaith ffermydd gwynt ar gymunedau, yn cynnwys effeithiau cronnus, wrth benderfynu ar gynigion, yn cynnwys y rheiny mewn ardaloedd wedi’u rhag-asesu. Mae ffocws Asesiadau o Effaith Amgylcheddol yn tueddu i ganolbwyntio ar effeithiau amgylcheddol, yn enwedig ar dirwedd, cynefinoedd a rhywogaethau yn ogystal â’r effeithiau ar gymunedau dynol. Er mwyn penderfynu a oes effaith annerbyniol ar bobl a chymunedau ai peidio (yn cynnwys newidiadau esthetig ac eraill i’r amgylchedd), dylai datblygwyr ystyried effaith cynigion ar y boblogaeth leol, yn cynnwys asesu’r effaith ar yr economi, ac iechyd a lles. Dylai hyn gynnwys ymgynghori gyda chymunedau a effeithir arnynt a nodi mesurau i liniaru, adfer a/neu wneud iawn am yr effeithiau negyddol. Sylw
5.4.164 Pan ganiateir isadeiledd ynni adnewyddadwy a chysylltiedig o fewn parthau craig galed/tywod a gro a ddiogelir, bydd hynny am gyfanswm o 25 mlynedd oni chytunir yn wahanol gyda’r Awdurdod Cynllunio Lleol a’r tîm Cynllunio Mwynau a Gwastraff Rhanbarthol. Os oes angen adnoddau daearegol yn y dyfodol ni roddir caniatâd pellach ar gyfer ynni adnewyddadwy yn yr ardal honno er mwyn caniatáu echdynnu adnoddau yn dilyn diwedd y caniatâd ynni adnewyddadwy ac adfer y safle. Sylw
5.4.165 Lliw tyrbinau: mae’n bwysig dewis lliw a fydd yn cyd-fynd ag amrywiaeth o gefndiroedd a welir o wahanol lefydd ac ymhob tywydd. Os yw lliw darnau’r tyrbin yn wahanol gall greu delwedd fwy cymhleth gyda gwelededd y gwahanol rannau yn amrywio. Mae llwyd golau fel rheol yn darparu’r cydbwysedd grau rhwng lleihau gwelededd ac effeithiau gweledol tyrbin wrth edrych arno yn erbyn yr awyr. Ar gyfer grwpiau o ffermydd gwynt ne estyniadau i fferm wynt, dylai lliw’r tyrbinau fod yn gyson. Ar y cyfan, bydd llwyd golau yn edrych yn well yn erbyn cefndiroedd gwahanol, beth bynnag y tywydd. Sylw
5.4.166 Goleuadau: Mewn rhai lleoliadau efallai y bydd angen goleuo tyrbinau gwynt am resymau hedfan sifil neu filwrol. Gall goleuadau ar frig y tyrbin fod yn amhriodol mewn ardaloedd gwledig heb lawer o olau. Felly mae angen dylunio’r goleuadau er mwyn lleihau’r effaith ar y dirwedd a’r effeithiau gweledol, gan fodloni gofynion iechyd a diogelwch a mordwyo hefyd. Gall System Goleuadau Canfod Awyrennau ddarparu golau yn ôl y galw i leihau llygredd golau ac amddiffyn ardaloedd Awyr Dywyll. Sylw
Isadeiledd ar y tir sydd wedi’i gysylltu ag ynni adnewyddadwy ar y môr Sylw
EN/12 isadeiledd ar y tir sydd wedi’i gysylltu ag ynni adnewyddadwy ar y tir Sylw
- Bydd datblygu cysylltiadau i ffermydd gwynt ar y môr a phrosiectau ynni adnewyddadwy eraill oddi ar yr arfordir, yn cynnwys llinellau trawsyrru newydd i gludo pŵer sy’n tarddu o’r môr i’r man sydd ei angen yn ardal y cynllun, yn cael eu cefnogi mewn egwyddor os ydynt yn cydymffurfio â pholisïau cenedlaethol a pholisïau eraill y CDLlN.
- Wrth asesu cynigion o’r fath bydd sensitifrwydd lleoliadau arfordirol, yn ogystal ag effeithiau amgylcheddol a chymunedol posibl ar ardaloedd cyfagos, yn golygu y bydd yn rhaid ystyried pwyntiau cysylltu ar y tir gorau posibl fel rhan o gynllun cyffredinol y rhwydwaith trawsyrru ar y môr. Mae pwyntiau cysylltu ar y tir gorau posibl ar gyfer trawsyrru ar y môr yn rhai y mae’n rhaid iddynt geisio lleihau effeithiau amgylcheddol ac eraill ar y tir ac yn yr amgylchedd morol, yn cynnwys cymunedau, gan gadw at egwyddorion dylunio da, osgoi a lliniaru ym mholisi NE/1.
- Dylid darparu Datganiad Lleihau Carbon i asesu pwyntiau gorau posibl i osgoi effeithiau negyddol ar ddalfeydd carbon, a defnydd perthnasol, yn unol â pholisïau EN/1 ac NE/2.
5.4.167 Mae dros 80% o boblogaeth Bwrdeistref Sirol Conwy yn byw o fewn 2km i’r arfordir. Mae’r amgylchedd morol yn darparu cyfoeth o fuddion sy’n gysylltiedig â thwristiaeth, diwylliant, hinsawdd, ynni, cludiant, chwaraeon a hamdden. Sylw
5.4.168 Mae’r gwaith ar y tir ar gyfer datblygiadau ynni adnewyddadwy ar y môr yn gofyn am ymarferion cwmpasu ac asesiadau dilynol sylweddol cyn ymgeisio, a chynghorir cynnal trafodaethau cyn gwneud cais. Sylw
Mwynau a Gwastraff Sylw
SO11: mwynau a gwastraff: cyfrannu at weithrediad yr economi gylchol, rheoli gwastraff gydag effaith amgylcheddol lleiaf posibl a sicrhau defnydd cynaliadwy o adnoddau naturiol, gan gynnwys ar gyfer cynhyrchu ynni a darparu cyflenwad digonol o fwynau a deunydd ar gyfer adeiladu. Sylw
5.4.169 Mae’r bennod hon yn darparu’r fframwaith polisi ar gyfer defnyddio a diogelu cronfeydd mwynau yn ardal y CDLlN, ac ymagwedd yn seiliedig ar feini prawf ar gyfer cynigion sy’n ymwneud â lleoliad cyfleusterau rheoli gwastraff, a allai yn rhinwedd eu cymeriad gweithredol, fod yn addas ar safleoedd diwydiannol presennol, neu ar safleoedd y tu hwnt i ffiniau anheddiad lle bo’n briodol. Sylw
5.4.170 Mae’r ACLl yn cydnabod bod angen ymagwedd strategol er mwyn sicrhau cyflenwad hir dymor o agregau. Defnyddiwyd ail adolygiad (2020) Datganiad Technegol Rhanbarthol Gogledd Cymru, fel canllaw ar gyfer y CDLlN ar faterion o’r fath, sy’n nodi nad oes angen dyrannu tir ar gyfer creigiau caled yn ardal cynllun Conwy ar hyn o bryd, oni bai bod amgylchiadau technegol neu amgylcheddol penodol a fyddai’n cyfiawnhau dyraniad. Mae’r ACLl o’r farn nad oes amgylchiadau i gyfiawnhau dyraniad yn ardal y cynllun. Ynghyd â’r chwareli creigiau caled presennol, mae’r CDLlN yn diogelu adnoddau sylweddol o greigiau caled, tywod a graean. Sylw
5.4.171 Mae llawer o yrwyr newid o ran sut rydym yn rheoli ein gwastraff yn well. Mae’r rhain yn cynnwys diwallu amcanion y Strategaeth Wastraff Genedlaethol ‘Tuag at Ddyfodol Di-wastraff’ a Chynllun Sector Casgliadau, Isadeiledd a Marchnadoedd, y mae’r ddau ohonynt yn cyflwyno newid o ran rheoli gwastraff. Hefyd, mae datblygiadau technolegol a chyflwyno polisïau ac arferion yn golygu nad yw nifer o’r cyfleusterau rheoli gwastraff cyfoes yn edrych yn wahanol i unrhyw adeilad diwydiannol arall o’r tu allan, ac maent yn cyflawni prosesau diwydiannol neu weithgareddau cynhyrchu ynni sy’n debyg i nifer o wahanol brosesau diwydiannol modern o ran eu gweithrediad a’u heffaith. Sylw
5.4.172 Tasg yr ACLl yw sicrhau bod digon o dir o fewn lleoliadau addas ar gael ar gyfer cyfleusterau rhanbarthol (lle bo’r angen) a chyfleusterau lleol. Ni ddylai cynigion safle gael effaith andwyol ar uniondeb safleoedd Ewropeaidd ac ni ddylent wrthdaro â pholisïau eraill y Cynllun. Dylai cyfleusterau gwastraff, fel yr amlinellir yn TAN21: Gwastraff, dilynwch yr egwyddor agosrwydd (h.y. dylai lleoliad y cyfleuster fod mor agos â phosibl at ffynhonnell y gwastraff). Sylw
MW/1 mwynau a gwastraff Sylw
Bydd yr ACLl yn sicrhau darpariaeth ddigonol o adnoddau mwynol a chyfleusterau rheoli gwastraff, gan ddiogelu’r amgylchedd naturiol ac adeiledig drwy:
- Ddiogelu cronfeydd wrth gefn a ganiateir o greigiau caled ym Mhenmaenmawr, Raynes (Llysfaen) a Llansan Sior ac adnoddau ychwanegol o greigiau caled a chyfleusterau pen rheilffordd a glanfeydd cysylltiol fel y nodir yn y map cynigion yn unol â pholisïau MW/2, MW/3 a STA/5;
- Caniatáu echdynnu mwynau agregau yn y dyfodol dim ond pan fydd angen cynnal stoc o gronfeydd wrth gefn yn unol â pholisi MW/2;
- Gwarchod adnoddau tywod a graean fel y nodir ar y map cynigion yn unol â pholisi MW/3;
- Dynodi parthau clustogi o amgylch chwareli i ddiogelu amwynder a sicrhau nad yw gweithrediadau mwynol yn cael eu cyfyngu’n ddiangen gan ddefnyddwyr tir eraill yn unol â pholisi MW/4;
- Diwallu’r galw ychwanegol yn y dyfodol am gyfleusterau rheoli gwastraff newydd, gan gydnabod bod angen cymell rheoli gwastraff ar hyd yr hierarchaeth wastraff yn unol â pholisi MW/5;
- Ystyried addasrwydd tir diwydiannol presennol a/neu dir a ddiogelir ar gyfer cludo nwyddau ar reilffyrdd i ddarparu ar gyfer cyfleusterau rheoli gwastraff newydd sy'n ategu defnyddiau cyfagos yn unol â pholisïau MW/6, STA/5 ac ED/3;
- Dynodi parth clustogi tirlenwi o amgylch safle tirlenwi Llanddulas i sicrhau mai dim ond datblygiadau priodol a ganiateir yn y lleoliad hwn yn unol â pholisi MW/7.
5.4.173 Mae ail adolygiad (2020) Datganiad Technegol Rhanbarthol Gogledd Cymru, yn dod i’r casgliad nad oes angen dyrannu tir ar gyfer creigiau caled yn ardal cynllun Conwy ar hyn o bryd, oni bai bod amgylchiadau technegol neu amgylcheddol penodol a fyddai’n cyfiawnhau dyraniad. Mae’r Cyngor o’r farn nad oes amgylchiadau i gyfiawnhau dyraniad yn ardal y cynllun. Sylw
5.4.174 Ynghyd â’r chwareli creigiau caled presennol, mae’r CDLlN yn diogelu adnoddau creigiau caled ychwanegol sylweddol, tywod a graean. Hefyd, cynigir parthau clustogi o amgylch chwareli i ddiogelu amwynder preswylwyr a defnyddwyr tir sensitif eraill, ac i sicrhau y gall gweithredwyr mwynau gyflawni eu gweithgareddau arferol heb gael eu cyfyngu gan bresenoldeb gormodol defnyddwyr tir sensitif. Sylw
5.4.175 Mae newid sylweddol yn y modd y rheolir gwastraff a'r modd yr ailgylchir, ail-ddefnyddir ac y gostyngir y defnydd o adnoddau. Mae targedau ailgylchu yn dal i gael eu diwygio ac mae digwyddiadau byd-eang yn rhoi cyfle i ddatblygu economi gylchol i gadw adnoddau y gellir eu hailgylchu neu eu hailddefnyddio o fewn economi Cymru. Bu symudiad sylfaenol oddi wrth dirlenwi a gwaredu yn unol â’r hierarchaeth wastraff ac egwyddorion datblygu cynaliadwy, ac mae angen polisïau i barhau i hyrwyddo a hwyluso hyn. Sylw
MW/2 echdynnu mwynau Sylw
- Bydd y chwareli presennol ym Mhenmaenmawr, Raynes (Llysfaen) a Llansan Sior yn darparu cyfraniad Ardal y Cynllun tuag at gyflenwad rhanbarthol o greigiau caled.
- Caniateir ceisiadau i echdynnu mwynau agregau mewn lleoliadau eraill yn y dyfodol, gan gynnwys estyniadau i chwareli presennol o fewn Ardal y Cynllun, os bydd angen cynnal stoc cronfeydd wrth gefn a ganiateir yn unig, gan roi ystyriaeth i’r gofynion a nodwyd yn y canlynol;
- Ail Adolygiad y Datganiad Technegol Rhanbarthol (ac adolygiadau dilynol yng nghyfnod y cynllun),
- Ffigyrau Gweithgor Agregau Rhanbarthol Gogledd Cymru, neu os nad oes ffigwr o’r fath yn bodoli, yr angen a dystiolaethir gan y diwydiant dan sylw.
5.4.176 Ceir y polisi cenedlaethol ar gyfer mwynau ym Mholisi Cynllunio Cymru 12 a Nodyn Cyngor Technegol Mwynau 1: Agregau (MTAN1). Mae Datganiad Technegol Rhanbarthol Gogledd Cymru yn darparu canllawiau ar gyfer CDLl ar gyflenwad hir dymor o agregau. Sylw
5.4.177 Mae gan ardal CDLlN Conwy dair chwarel weithredol, ac maent oll yn cynhyrchu deunydd adeiladu (a elwir yn ‘agregau’). Mae Chwarel Penmaenmawr yn cynhyrchu craig igneaidd, sy’n addas fel balast rheilffordd ac ar gyfer defnyddiau eraill. Mae Chwarel Raynes ger Llysfaen a Chwarel Llansan Sior ger Abergele yn cynhyrchu calchfaen, a ddefnyddir, er enghraifft, ar gyfer concrid gweithgynhyrchu. Mae Chwarel Raynes a Llansan Sior wedi’u cyfyngu’n ffisegol o ran estyniadau pellach, ond mae gan y tair chwarel ganiatâd cynllunio sy’n parhau y tu hwnt i gyfnod y Cynllun. Sylw
5.4.178 Yn ogystal â’r chwareli gweithredol, mae gan Chwarel Llanddulas adnoddau calchfaen o ansawdd uchel. Mae mwyafrif y chwarel yn cynnwys safle tirlenwi, tra bo cytundeb cyfreithiol yn gwahardd chwarela ar gyfer defnydd agregau cyffredinol. Sylw
5.4.179 Mae ail adolygiad Datganiad Technegol Rhanbarthol Gogledd Cymru, yn argymell nad oes angen dyrannu tir ar gyfer creigiau caled yn ardal cynllun Conwy ar hyn o bryd, oni bai bod amgylchiadau technegol neu amgylcheddol penodol a fyddai’n cyfiawnhau dyraniad. Mae’r Cyngor o’r farn nad oes cyfiawnhad ar hyn o bryd ar gyfer dyrannu yn Ardal y Cynllun. Ond, er mwyn caniatáu rhywfaint o hyblygrwydd ar gyfer unrhyw newid mewn amgylchiadau dros gyfnod y Cynllun, efallai y gellir caniatáu echdynnu adnoddau agregau yn y dyfodol lle bo angen cynnal y cronfeydd wrth gefn a ganiateir. Fe fydd hyn yn cael ei asesu yn erbyn ffigyrau gan Weithgor Agregau Rhanbarthol Gogledd Cymru a’r MPPW a MTAN1. Cydnabyddir mewn rhai amgylchiadau na fydd ffigyrau o’r fath yn bodoli; felly, dylai’r cynigion roi ystyriaeth i’r galw a nodir yn y diwydiant dan sylw. Yn unol â Pholisi PL/7, bydd angen cyflwyno Asesiadau o’r Effaith ar y Gymraeg gyda’r ceisiadau am chwareli newydd neu estyniadau i’r chwareli presennol. Gweler polisi PL/7 a chanllawiau cynllunio cenedlaethol ar y Gymraeg i gael rhagor o wybodaeth. Sylw
5.4.180 Mae dyddodion tywodfaen gyda defnydd posibl ar gyfer cerrig ffyrdd PSV (gwerth cerrig caboledig) uchel yn ardal y cynllun. Hyd yma, ni fu pwysau i echdynnu’r deunydd yn ardal y cynllun ac mae MTAN1 yn nodi De Cymru fel y prif bosibilrwydd ar gyfer echdynnu. Felly nid oes dyraniad yn y CDLlN, ond, efallai y byddai modd cyfiawnhau cynigion i echdynnu’r deunydd lle bo’r cynnig yn ceisio diwallu manyleb benodol nas diwellir yn ardal y cynllun ar hyn o bryd. Sylw
5.4.181 Mae PCC yn cefnogi datblygiad pyllau benthyg, ar gyfer prosiectau adeiladu penodol, mewn lleoliadau priodol. Mae hefyd yn cydnabod bod angen i chwareli bach ddarparu cerrig dimensiwn lleol nodedig, lle byddai’r rhain yn cynnal cymeriad yr amgylchedd adeiledig lleol. Felly mae pyllau benthyg a chwareli cerrig dimensiwn bach y tu hwnt i gwmpas Polisi MW/2. Sylw
5.4.182 Mae MTAN1 hefyd yn cynnwys canllawiau ar fynd i’r afael ag effeithiau penodol megis sŵn, llwch a blastio, adfer a’r defnydd o ddeunyddiau eilaidd, megis gwastraff dymchwel. Mae MTAN1 hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau cynllunio asesu ac adolygu’r tebygolrwydd o echdynnu yn y dyfodol o safleoedd sy’n anweithredol ers peth amser ac sydd heb eu defnyddio ers 10 mlynedd. Nid oes safleoedd gyda chronfeydd wrth gefn a ganiateir ar hyn o bryd yn ardal cynllun Conwy sydd wedi bod yn anweithredol am y cyfnod hwn. Os bydd cyfnod anweithredol y safle’n fwy na 10 mlynedd, a bod yr awdurdod cynllunio o’r farn y bydd yn annhebygol o gael ei ddefnyddio eto, bydd yn ystyried cyflwyno gorchymyn gwahardd. Diben y gorchymyn gwahardd yw sefydlu heb amheuaeth bod y datblygiad mwynau wedi dod i ben ac na all ailddechrau heb dderbyn caniatâd cynllunio newydd, ac er mwyn sicrhau adferiad y tir. Sylw
MW/3 diogelu creigiau caled ac adnoddau tywod a graean Sylw
- Mae’r adnoddau canlynol a’r cyfleusterau cysylltiol wedi’u cynnwys o fewn dynodiad Diogelu Creigiau Caled ac Adnoddau Tywod a Graean:
- Y cronfeydd wrth gefn a ganiateir yn Chwarel Penmaenmawr, gan gynnwys ardaloedd prosesu, pen rheilffordd a chysylltiad cludo;
- Y cronfeydd wrth gefn a ganiateir yn Chwarel Raynes, gan gynnwys ardaloedd prosesu, ardaloedd y lanfa a’r cysylltiad cludo;
- Y cronfeydd wrth gefn a ganiateir yn Chwarel Llansan Sior, gan gynnwys yr ardaloedd prosesu;
- Creigiau caled ychwanegol a nodir ar y map cynigion;
- Adnoddau tywod a graean fel y nodwyd ar y map cynigion.
- Pen rheilffordd, a chyfleusterau glanfa presennol a / neu ychwanegol fel y nodir ar y map cynigion.
- Ni roddir caniatâd cynllunio ar gyfer unrhyw ddatblygiad o fewn ardal a ddiogelwyd am ei chreigiau caled, tywod neu raean, lle byddai hynny’n amharu’n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol ar y gallu i gloddio’r adnoddau hynny o’r ddaear yn y tymor hir, neu’n cael effaith andwyol ar gyfleusterau ar gyfer cludo mwynau, oni bai:
- y gellir dangos fod yr angen am y datblygiad yn drech na’r angen i ddiogelu’r adnodd mwynol;
- bod y datblygiad ar raddfa fach ac felly ni fyddai’n cael effaith arwyddocaol ar y gallu i gloddio’r mwyn dan sylw o’r ddaear neu;
- Lle caiff y mwyn ei gloddio o’r ddaear cyn dechrau’r datblygiad.
- Mewn achosion lle nad yw ansawdd a dyfnder y creigiau caled a ddiogelir neu’r adnoddau tywod a graean wedi’i brofi, a / neu fod cyfyngiadau cysylltiol eraill (amgylcheddol / isadeiledd), efallai y bydd mathau eraill o ddatblygiad a allai fod yn gyson â’r dull diogelu ar yr amod bod yr ymgeisydd yn cyflwyno tystiolaeth, megis sampl tyllau turio, gan ddangos na fyddai’n effeithio ar unrhyw greigiau caled neu adnoddau tywod a graean a fyddai’n fasnachol hyfyw.
5.4.183 Mae Datganiad Technegol Rhanbarthol Gogledd Cymru yn argymell polisi diogelu penodol ar gyfer ardal cynllun Conwy. Mae’r polisi hwn yn gweithredu’r argymhelliad, ac yn diogelu adnoddau mwynol a chyfleusterau cludo a phrosesu cysylltiol i sicrhau eu bod ar gael o hyd. Nid yw tywod a graean yn cael ei gynhyrchu yn Ardal y Cynllun ar hyn o bryd; ond, mae data gan Arolwg Daearegol Prydain wedi nodi adnoddau mewn lleoliadau amrywiol ar draws ardal y cynllun. Papur Cefndir 37: mae ‘mwynau’ yn darparu cyfiawnhad ar gyfer y dull diogelu. Pwysleisir nad yw’r polisi’n sefydlu rhagdybiaeth o blaid cymeradwyo caniatâd cynllunio, ond yn hytrach yr ystyrir presenoldeb y mwynau wrth asesu a oes modd cyflawni datblygiad amgen. Sylw
5.4.184 Felly bydd angen i gynigion datblygu sy’n effeithio ar adnoddau mwynol ddangos, drwy archwiliad priodol, na fydd yr adnodd yn cael ei sterileiddio, neu ddangos na fydd y datblygiad arfaethedig yn amharu ar echdynnu yn y dyfodol. Pan fydd angen pennaf ar gyfer datblygiad, a fyddai fel arall yn sterileiddio adnoddau, bydd amod yn rhan o’r caniatâd cynllunio yn gofyn am echdynnu’r adnodd cyn dechrau’r datblygiad oni bai bod y datblygwr yn dangos nad yw’n ymarferol neu’n dderbyniol o safbwynt amgylcheddol. Sylw
5.4.185 Byddai rhai mathau o ddatblygiad lle na cheir unrhyw effaith neu y byddai’r effaith yn fach iawn ar yr adnodd a ddiogelir, naill ai oherwydd eu bod yn ymwneud â defnydd dros dro am gyfnod cyfyngedig, neu am eu bod yn cynnwys lefel eithaf isel o ran buddsoddiad cyfalaf (fel traciau fferm), neu oherwydd bod datblygiad presennol yn yr un lleoliad sy’n cyflwyno cyfyngiad cyfwerth neu fwy ar y potensial o echdynnu mwynau. Sylw
5.4.186 Mae’r rhain yn cynnwys: Sylw
- datblygiad deiliad tŷ sy’n ategol at fwynhad annedd bresennol;
- datblygiad tai mewnlenwi bychan rhwng anheddau presennol;
- disodli anheddau, lle bo’r annedd bresennol yn cynnal hawl defnydd preswyl;
- adeiladau amaethyddol newydd (gan gynnwys pyllau slyri ac ati) ac estyniadau i adeiladau amaethyddol presennol o fewn iard fferm bresennol, neu lle byddai adeilad amaethyddol newydd yn disodli adeilad amaethyddol presennol ar yr un safle;
- traciau mynediad amaethyddol;
- cynigion ar gyfer defnydd tir dros dro (e.e. safleoedd carafanau, cyfleusterau compostio, ynni adnewyddadwy), lle bo amod yn nodi dyddiad terfyn penodol ar gyfer y defnydd hwnnw, a lle byddai unrhyw ddatblygiad gweithredol cysylltiol yn cael ei dynnu ar ôl terfyn y defnydd hwnnw.
MW/4 parthau clustogi chwarel Sylw
Bydd rhagdybiaeth yn erbyn datblygiad amhriodol o fewn parthau clustogi chwarel.
5.4.187 Mae dau ddiben ar gyfer parthau clustogi. Un ohonynt yw diogelu amwynder preswylwyr a defnyddwyr tir sensitif eraill, a’r llall yw sicrhau y gall gweithredwyr mwynau gyflawni eu gweithgareddau arferol heb gael eu cyfyngu gan bresenoldeb gormodol defnyddwyr tir sensitif. Yn y polisi hwn, mae ‘datblygiad amhriodol’ yn cynnwys gwaith mwynau (o fewn y parth clustogi) a defnydd tir y gellir effeithio arnynt (mae hyn yn cynnwys yr holl geisiadau am ddatblygiadau preswyl (heblaw deiliad tŷ), cyflogaeth a thwristiaeth a chyfleusterau cymunedol. Dylid tynnu sylw Swyddog Iechyd yr Amgylchedd y Cyngor, Cyfoeth Naturiol Cymru a gweithredwyr y chwareli at y mathau hyn o geisiadau am ddatblygiad yn y parthau clustogi hyn. Sylw
5.4.188 Bydd cynigion a fyddai’n arwain at amhariad sylweddol i amwynder neu ddiogelwch, neu a fyddai’n cyfyngu gweithrediad safle’r chwarel, yn cael eu gwrthod. Yn achos creigiau caled, mae MTAN1 yn argymell y dylai Parthau Clustogi fod oddeutu 200m o amgylch pob ardal weithredol; ar gyfer tywod a graean, y pellter a argymhellir yw 100m. Yn ardal cynllun Conwy, nid yw’n bosibl cyflawni’r pellteroedd hyn bob amser oherwydd agosrwydd ffiniau anheddiad presennol. Dangosir maint y Parthau Clustogi o amgylch y cronfeydd wrth gefn a ganiateir ar y map Cynigion. Sylw
MW/5 cynigion ar gyfer rheoli gwastraff Sylw
Bydd cynigion ar gyfer rheoli gwastraff, gan gynnwys addasiadau ac estyniadau i gyfleusterau presennol, yn cael eu caniatáu o dan yr amodau canlynol yn unig:
- Pan fydd y cynnig yn diwallu angen a nodwyd yn Adroddiadau Monitro Gwastraff Gogledd Cymru, neu angen sy’n codi ar lefel leol;
- Na ellir diwallu’r angen drwy gyfleusterau rheoli gwastraff eraill sy’n bodoli eisoes neu sydd wedi’u cymeradwyo neu fod y gweithgaredd a gynigir yn anaddas yn y lleoliadau hyn;
- Lle bo modd, mae’r cynnig yn adennill gwerth o’r gwastraff.
5.4.189 Sgil-gynhyrchion gwastraff – mae nifer o adroddiadau monitro rhanbarthol wedi eu cyhoeddi sy’n dangos fod sgil-gynhyrchion gwastraff a gasglwyd gan yr awdurdod lleol yn y Sir wedi dirywio ar y cyfan ers 2008 ac mae cyfraddau ailgylchu wedi codi ar y cyfan wrth i awdurdodau lleol Gogledd Cymru gwrdd â thargedau cenedlaethol a osodir gan Lywodraeth Cymru. Mae Llywodraeth Cymru yn canolbwyntio’n gynyddol ar wella cyfraddau ailgylchu’r sector diwydiannol a masnachol. Y prif gasgliad hyd yma yw nad oes angen ychwanegol am allu gwaredu gwastraff gweddilliol terfynol yn y rhanbarth ac y dylid ystyried unrhyw ofyniad pellach am allu trin gwastraff gweddillol yn ofalus i sicrhau na fyddai’r cyfleuster yn arwain at orddarpariaeth. Sylw
5.4.190 Cyfleusterau gwastraff rhanbarthol – mae nifer o gyfleusterau ar draws Cymru wedi cael eu datblygu mewn ymateb i hyn, gan gynnwys Parc Adfer yn Sir y Fflint, sy’n safle ynni o wastraff penodol ar gyfer trin gwastraff bwrdeistrefol gweddillol a'r cyfleuster Treulio Anaerobig yn Rhuallt, Sir Ddinbych, sy’n derbyn gwastraff bwyd y cartref, sy’n uniongyrchol berthnasol i Gonwy. Mae’r ddau gyfleuster wedi cael eu caffael i reoli gwastraff a gesglir gan Gyngor Conwy. Mae gan Parc Adfer hefyd allu i reoli rhywfaint o wastraff masnachol a diwydiannol, er y byddai'r swm y gellid ei reoli yn dibynnu ar ofynion yr Awdurdodau Partner. Mae hyn yn lleihau’r angen am ddewisiadau gwaredu terfynol ac yn cwrdd â'r gofynion ar gyfer cyfleusterau isadeiledd ar gyfer gwaredu a thrin gwastraff fel yr amlinellir yn y Cynllun Sector Casgliadau, isadeiledd a Marchnadoedd. Sylw
5.4.191 Safleoeddgwastrafflleol- mae tir o fewn chwarel Llanddulas a’r safle tirlenwi yn cael eu defnyddio at ddefnydd rheoli gwastraff penodol ar hyn o bryd. Oherwydd lefel uchel o sgrinio gweledol a chyfyngiadau o fewn twll y chwarel, a phresenoldeb parthau clustogi, mae’r safle wedi bod yn addas i drosglwyddo / storio gyda Chasgliadau Gwastraff Gwyrdd Conwy’n cael eu hailgylchu yn y lleoliad hwn. Felly gellir pennu bod rhai ardaloedd penodol o fewn safle’r chwarel yn addas ar gyfer defnydd rheoli gwastraff yn unol â pholisïau MW/5, ED/3 neu MW/6. Hefyd gweler polisïau PL/22 ac ED/2 i gael rhagor o wybodaeth. Sylw
5.4.192 Bydd angen safleoedd addas ar gyfer cyfleusterau prosesu a thrin ar gyfer ailgylchu deunyddiau gwastraff ynghyd ag ystod amrywiol o weithgareddau rheoli gwastraff ar gyfer sortio, gwahanu, ailgylchu, ailddefnyddio, prosesu a thrin gwastraff. Mae cyfran sylweddol o’r rhain yn addas i’w lleoli o fewn safleoedd cyflogaeth dynodedig presennol, a chynhelir ymagwedd bolisi hyblyg yn unol â pholisi ED/3, ED/4, MW/5 ac MW/6. Dylid dilyn y meini prawf ym mholisi PL/5 - creu lleoedd a dylunio da i sicrhau nad yw cyfleusterau rheoli gwastraff yn peryglu defnydd presennol cyfagos. Hefyd, bydd angen i rai datblygiadau gael eu cefnogi gan Asesiadau o’r Effaith ar y Gymraeg a / neu fesurau lliniaru priodol (yn unol â pholisi PL/7 a chanllawiau cynllunio cenedlaethol). Sylw
5.4.193 Mae Llywodraeth Cymru yn rhoi pwyslais cynyddol ar yr Economi Gylchol ac mae angen newidiadau i gynnal gwerth adnoddau diwedd oes yng Nghymru sy’n gallu cynnig manteision economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a chludiant, a boed hyn i hwyluso ailgylchu ac adfer rhwydd ar adnoddau diwedd defnydd, i gynllunio dyfodol heb wastraff a gwneud y defnydd mwyaf cynaliadwy posibl o adnoddau ym mhob datblygiad, neu ddarparu lleoliadau addas i gynorthwyo ailgylchu a chynlluniau ailbrosesu, bydd angen i bolisïau hyrwyddo’r amcanion hyn. Sylw
MW/6 defnydd o dir diwydiannol ar gyfer cyfleusterau rheoli gwastraff Sylw
- Bydd cynigion ar gyfer cyfleusterau rheoli gwastraff fel arfer yn cael eu cymeradwyo ar safleoedd diwydiannol presennol ac ar safleoedd sydd wedi’u diogelu o dan bolisi STA/5.
- Lle nad yw safleoedd diwydiannol presennol ar gael neu eu bod yn anaddas, gellir caniatáu cynigion ar gyfer rheoli gwastraff y tu hwnt i ffiniau anheddiad yn unol â Pholisi ED/3 - ‘datblygiad swyddfa a diwydiannol B1, B2 a B8 newydd ar safleoedd sydd heb eu dyrannu’.
- Mewn amgylchiadau eithriadol, lle gellir dangos bod gan gynnig ofynion technegol neu ofodol penodol sy’n gwrthdaro â gofynion polisi ED/3, y gellir caniatáu cynigion am gyfleusterau rheoli gwastraff y tu allan i ffiniau anheddiad nad ydynt yn cyd-fynd â pholisi ED/3.
5.4.194 Mae Adroddiad Monitro Gwastraff Gogledd Cymru 2018 yn darparu asesiad o’r cyfleusterau a’r galw am y gwahanol sectorau gwastraff. Yn flaenorol, roedd y cynlluniau gwastraff rhanbarthol yn argymell bod pob Awdurdod Cynllunio Lleol yn asesu’r tir diwydiannol sydd ar gael o ran ei addasrwydd ar gyfer gweithrediadau rheoli gwastraff ac i wneud darpariaeth lle bo’r angen. Gan nad oes unrhyw angen mesuradwy am safleoedd gwastraff ychwanegol newydd yng Nghonwy, bydd cynigion ar gyfer cyfleusterau rheoli gwastraff sy’n cael eu cyflwyno yn ystod cyfnod y cynllun yn cael eu hystyried mewn lleoliadau o’r fath, ar eu rhinweddau unigol. Sylw
5.4.195 Mae safleoedd eraill yn ardal y cynllun a allai fod yn addas ar gyfer defnydd rheoli gwastraff, gan gynnwys tir a ddiogelwyd ar gyfer Llwythi Rheilffyrdd yng Nghyffordd Llandudno. Mae gan y safle hwn botensial i gynnal cyfleusterau rheoli gwastraff megis trosglwyddo gwastraff. Mae Polisi STA/5 a’i destun ategol yn annog defnydd ategol megis trosglwyddo gwastraff o’r ffordd i’r rheilffordd. Sylw
5.4.196 Ni fydd pob cyfleuster rheoli gwastraff yn addas ar safleoedd cyflogaeth yn ardal y cynllun, boed oherwydd eu gofynion gofodol, yr effaith ar ddefnydd cyfagos neu ofynion technegol. Er enghraifft, gallai ailgylchu gwastraff, tirlenwi, compostio a threulio anaerobig fod yn fwy priodol y tu hwnt i ffiniau anheddiad, a / neu fel rhan o gynlluniau arallgyfeirio ffermydd. Felly mae’r polisi’n caniatáu, mewn amgylchiadau eithriadol, cynigion ar gyfer cyfleusterau rheoli gwastraff y tu hwnt i ffiniau anheddiad. Bydd cynigion o’r fath yn cael eu profi’n drylwyr i sicrhau ei bod yn ofynnol eu gosod y tu hwnt i ffiniau anheddiad, gan ddilyn yr ymagwedd ddilyniannol a amlinellwyd yn y polisi uchod. Dylid dangos bod angen ar gyfer y cynnig yn unol â Pholisi MW/5 ac nad oes safleoedd amgen addas ar gael. Mae’r polisi’n rhoi hyblygrwydd i ymdrin â cheisiadau o’r fath ar sail eu rhinweddau eu hunain. Sylw
MW/7 parth clustogi tirlenwi Sylw
Bydd rhagdybiaeth yn erbyn datblygiad amhriodol o fewn parth clustogi tirlenwi.
5.4.197 Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn argymell y dylai datblygiadau fod o leiaf 250 metr i ffwrdd o safleoedd tirlenwi. Y perygl mwyaf o ran datblygu ger safleoedd tirlenwi yw bod nwyon tirlenwi yn symud ac yn teithio drwy greigiau gwaelodol ac yn mynd mewn i eiddo o dan y ddaear. Gallai problemau godi o bryd i’w gilydd o ran arogl, llwch, sŵn a phlâu. Mae’r parth clustogi tirlenwi’n ddynodiad ar wahân i’r safle tirlenwi ac mae dau ddiben iddo. Un ohonynt yw diogelu amwynder preswylwyr a defnyddwyr tir sensitif eraill (o ganlyniad, ni chaniateir tirlenwi ychwanegol o fewn y parth clustogi); a’r llall yw sicrhau y gall gweithredwyr tirlenwi gyflawni eu gweithgareddau arferol, gan gynnwys adfer heb gael eu cyfyngu gan bresenoldeb gormodol defnyddwyr tir sensitif. Sylw
5.4.198 Felly dynodwyd parth clustogi 250 metr o amgylch y safle tirlenwi i sicrhau mai dim ond datblygiadau priodol a leolir yn yr ardal hon. Dylid tynnu sylw Swyddog Iechyd yr Amgylchedd Conwy a Chyfoeth Naturiol Cymru at yr holl geisiadau a allai fod yn ddatblygiadau sensitif e.e. preswyl (heblaw deiliad tŷ), cyflogaeth, datblygu twristiaeth a chyfleusterau cymunedol o fewn parth clustogi. Bydd cynigion a fyddai’n arwain at amhariad sylweddol i amwynder neu ddiogelwch, neu a fyddai’n cyfyngu gweithrediad y safle tirlenwi, yn cael eu gwrthod. Er bod y polisi yn nodi bod rhagdybiaeth yn erbyn datblygiad amhriodol yn y parth clustogi, mae’n bwysig nodi y disgwylir i waith adfer tirlenwi llawn ddigwydd yn ystod cyfnod y cynllun. Os gellir dangos bod gweithgarwch tirlenwi wedi dod i ben yn llwyr, ac nad oes unrhyw gyfyngiadau eraill sy’n ymwneud â thirlenwi/adfer, efallai bydd yn bosibl caniatáu i ddatblygu (yn amodol ar bolisi lleol arall a chanllawiau cynllunio cenedlaethol) ddod ymlaen o fewn y parth clustogi 250 metr. Sylw
5.5. Thema Strategol 4: lleoedd naturiol a diwylliannol yng Nghonwy Sylw
Cyflwyniad Sylw
5.5.1 Mae’r thema naturiol a diwylliannol yn cynnwys cydrannau amgylcheddol a diwylliannol creu lleoedd. Mae’r cydrannau hyn yn cyd-fynd â’r themâu a pholisïau a nodir yn y fframwaith polisi creu lleoedd. Sylw
5.5.2 Mae thema lleoedd naturiol a diwylliannol CDLlN Conwy yn cynnwys yr amgylchedd naturiol, nodweddion amgylcheddol ac adrannau amgylcheddol hanesyddol ac yn cyfrannu’n gadarnhaol tuag at saith nod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Sylw
5.5.3 Mae’r thema lleoedd naturiol a diwylliannol yn cynnwys y polisïau canlynol: Sylw
Yr amgylchedd naturiol Sylw
NE/1 yr amgylchedd naturiol
NE/2 newid yn yr hinsawdd a gwydnwch ecosystemau
NE/3 tirluniau dynodedig
NE/4 diogelu ardal tirwedd arbennig
NE/5 Lletemau Glas
NE/6 coed, tirlunio a gwaith rheoli
NE/7 rhwydwaith isadeiledd gwyrdd
NE/8 bioamrywiaeth
NE/9 gwarchod a rheoli safleoedd dynodedig
NE/10 Cynlluniau rheoli’r parth arfordirol, newid arfordirol a’r traethlin
NE/11 ardaloedd arfordirol a chynlluniau morol
Rhinweddau amgylcheddol Sylw
EQ/1 rhinweddau amgylcheddol
EQ/2 cadwraeth dŵr a draenio cynaliadwy
EQ/3 ansawdd aer, seinwedd a rheoli golau
EQ/4 Awyr Dywyll a golau sensitif
EQ/5 rheoli perygl llifogydd a datblygiad
Amgylchedd hanesyddol Sylw
HE/1 amgylchedd hanesyddo
HE/2 datblygiadau yn effeithio ar asedau hanesyddol
HE/3 asedau hanesyddol o ddiddordeb lleol arbennig
HE/4 adfywio drwy ddiwylliant
Yr amgylchedd naturiol Sylw
SO14: gwarchod a gwella bioamrywiaeth ac adeiladu rhwydweithiau ecolegol cryf. Sylw
5.5.4 Mae’r adran hon yn amlinellu’r elfennau amgylchedd naturiol sy’n gysylltiedig â chreu lleoedd. Bydd hyn yn ei dro yn helpu i ddiogelu asedau naturiol ac economaidd ar gyfer y dyfodol mewn ymateb i’r heriau a gyflwynir gan newid yn yr hinsawdd. Bydd yn hyrwyddo cyfleoedd carbon isel, gwarchod a gwella tirweddau a chynefinoedd, tra’n galluogi cyfleoedd i gysylltu â’r amgylchedd naturiol ac annog ffyrdd iachach o fyw. Yn seiliedig ar y canlyniadau creu lleoedd cynaliadwy cenedlaethol, mae’n rhaid ystyried y polisi amgylchedd naturiol ochr yn ochr â pholisïau eraill o fewn y Fframwaith Polisi Creu Lleoedd wrth ystyried cynigion ac wrth ddylunio a datblygu cynigion unigol a gwneud penderfyniadau mewn perthynas â cheisiadau cynllunio. Sylw
5.5.5 Mae Polisi NE/1 yn nodi uchelgais trosfwaol yr adran, sy'n ymdrin â'r amgylchedd naturiol, tirweddau, bioamrywiaeth, ardaloedd arfordirol ac isadeiledd gwyrdd. Sylw
NE/1 yr amgylchedd naturiol Sylw
Mae'r ACLl wedi ymrwymo i warchod a gwella'r amgylchedd naturiol, gwytnwch ecosystemau, tirweddau ac asedau cynefinoedd o fewn Ardal y Cynllun. Bydd hyn yn cael ei gyflawni drwy:
- Sicrhau na fydd lleoliad datblygiadau newydd ar safleoedd a neilltuwyd a hap-safleoedd o fewn ardal y cynllun yn cael unrhyw effaith andwyol ar berygl llifogydd neu wydnwch hinsawdd, y parth arfordirol a’r Cynllun Rheoli Traethlin, Tirweddau Dynodedig, Ardaloedd Tirwedd Arbennig, Lletemau Glas a rhywogaethau a warchodir, yn unol â pholisïau PL/1 a PL/5.
- Sefydlu targedau plannu coed a rheoli tirwedd o fewn datblygiadau newydd yn unol ag NE/6 i gynyddu gorchudd canopi, dal a storio carbon, a diogelu a gwella bioamrywiaeth; a
- Cheisio gwella darpariaeth Isadeiledd Gwyrdd a gwella a diogelu bioamrywiaeth yn unol â pholisi NE/7, NE/8 ac NE/9.
Newid hinsawdd a gwydnwch ecosystemau Sylw
NE/2 newid yn yr hinsawdd a gwydnwch ecosystemau Sylw
Er mwyn lliniaru effeithiau newid yn yr hinsawdd, addasu i’w effeithiau a sicrhau gwydnwch ecosystemau, disgwylir i gynigion am ddatblygiadau gyflawni’r canlynol:
- Lleihau a gwrthbwyso allyriadau carbon yn unol â pholisïau EN/1-EN/7, targedau cenedlaethol ac osgoi deunyddiau ynni uchel wedi’u gosod;
- Diogelu, gwella a chynyddu storfeydd carbon, yn enwedig mawndiroedd, llaid afonol, pridd, coetiroedd hynafol a choed;
- Addasu i oblygiadau newid hinsawdd ar lefel dylunio strategol a manwl gan gynnwys datgarboneiddio, a hyrwyddo egwyddorion economi gylchol a'r Fframwaith Adeiladu gyda Natur;
- Gwella ynni, effeithlonrwydd adnoddau a chynyddu'r cyflenwad o ynni adnewyddadwy a charbon isel, yn unol â pholisïau EN/1 ac EN/5;
- Osgoi perygl llifogydd drwy leoli addas, dylunio gyda Systemau Draenio Cynaliadwy ac Isadeiledd Gwyrdd, asesu goblygiadau cynigion datblygu mewn ardaloedd sy'n agored i lifogydd ac atal datblygiad sy'n cynyddu'r perygl llifogydd yn unol â pholisi EQ/5; a
- Cynnal a sicrhau gwydnwch ecolegol hirdymor, tra'n darparu gwelliant yn unol â pholisi NE/8, y Cynllun Adfer Natur a chanllawiau cenedlaethol.
5.5.6 Un o swyddogaethau craidd y cynllun yw sicrhau bod holl ddatblygiadau'r Sir a'i swyddogaethau'n gynaliadwy, gan ystyried yn llawn oblygiadau lleihau'r defnydd o adnoddau a mynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd, tra hefyd yn diogelu bioamrywiaeth bresennol a’i wella. Mae’r polisi trosfwaol hwn yn darparu fframwaith ar gyfer twf cynaliadwy drwy hyrwyddo datblygiadau sy’n lliniaru achosion newid hinsawdd ac sy’n gallu addasu i’r effeithiau tebygol. Mae’r dull hirdymor hwn yn rhan o ymrwymiad yr ACLl i wireddu’r amcanion economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol a nodir yn y Fframwaith Gofodol a’r Fframwaith Polisi Creu Lleoedd. Sylw
5.5.7 Yn y lle cyntaf, cyflawnir gostyngiad mewn allyriadau carbon drwy reoli'r galw am ynni sy'n gysylltiedig â datblygiad, drwy wneud y mwyaf o effeithlonrwydd ynni. Yn ail, dylid ymgorffori ffynonellau cynaliadwy o ynni, heb ddibynnu ar danwydd ffosil. Sylw
5.5.8 Mae dalfeydd carbon yn fodd o wrthbwyso allyriadau carbon drwy ddulliau naturiol. Mae coed a phridd, yn enwedig mwd morol, yn gweithredu fel cronfeydd sylweddol o garbon, sy’n storio neu’n dal carbon atmosfferig. Gall pridd addas gronni carbon yn gynt o dan orchudd coed na mathau eraill o lystyfiant. Bydd y carbon hwn sydd wedi'i storio fel arfer yn cael ei ollwng fel nwy tŷ gwydr os caiff coed eu tynnu neu eu difrodi, neu os caiff pridd ei symud, ei orchuddio neu ei aflonyddu (gan gywasgiad neu halogiad) yn ystod y broses adeiladu. Sylw
5.5.9 Mae mannau agored, coed a phridd y Sir yn chwarae rhan hanfodol wrth liniaru effeithiau newid hinsawdd a’r argyfwng bioamrywiaeth/natur ar lefel leol. Dywed y polisi y dylid cadw, gwarchod unrhyw gynefinoedd a rhywogaethau blaenoriaeth Adran 7 sy'n bresennol, yn ogystal â gwella eu cyflwr, maint a chysylltedd ar draws ardal y cais, a chysylltu â nodweddion naturiol o fewn y dirwedd ehangach. Dylid cadw a gwarchod coed, a dylai datblygwyr gadw tir gyda phridd ar gyfer plannu coed, llwyni a phlanhigion lluosflwydd newydd lle bynnag y bo modd. Dylid nodi cynlluniau cadarn ar gyfer cadw tirweddau meddal am byth. Mae pridd â llystyfiant agored yn amsugno glaw a dŵr ffo; lle na all coed a llwyni gael eu hamgylchynu gan bridd agored, dylid defnyddio palmentydd/wynebau athraidd, a dylid cadw ardaloedd nad oes eu hangen at ddefnydd cerddwyr neu gerbydau ar gyfer tirweddau meddal. Sylw
5.5.10 Er mwyn addasu i oblygiadau newid yn yr hinsawdd, bydd angen i adeiladau a gofodau gael eu dylunio fel eu bod yn gallu ymdopi â'r amrediad tymheredd uwch tebygol, llifogydd mwy cyson a difrifol a mwy o ddigwyddiadau o dywydd eithafol. Sylw
5.5.11 Dylid dylunio adeiladau ac isadeiledd cysylltiedig i fod yn hyblyg, nid yn unig i newid yn yr hinsawdd, ond hefyd i ddarparu ar gyfer amrywiaeth o ddefnyddiau dros eu hoes. Dylen nhw ddarparu cynefin ar gyfer rhywogaethau â Blaenoriaeth e.e. integreiddio briciau ystlumod/adar/gwenyn ar agweddau priodol yn adeiledd yr adeilad a thoeau/waliau gwyrdd llawn rhywogaethau. Bydd trin y dirwedd yn fater hollbwysig, gyda choed yn darparu amddiffyniad drwy gysgodi ac oeri gweithredol. Bydd angen coed i oeri yn arbennig yng nghanol trefi a mannau a rennir y mae pobl yn eu defnyddio ar gyfer hamdden. Sylw
Tirluniau dynodedig Sylw
NE/3 tirluniau dynodedig Sylw
- Dylai datblygiad fod yn briodol ac yn sensitif o ran integreiddio, lleoliad, graddfa a dyluniad i nodweddion a rhinweddau'r dirwedd. Mae hyn yn cynnwys: topograffeg; patrwm a nodweddion datblygu; rhinweddau hanesyddol ac ecolegol; golygfeydd agored a llonyddwch. Dylid rhoi ystyriaeth i LANDMAP ac asesiad digonol lle yr effeithir ar Dirweddau Hanesyddol Cofrestredig, a thir gerllaw tirwedd a ddiogelir.
- Ni chaniateir datblygiad sy’n arwain at effaith andwyol sylweddol ar gyfanrwydd safleoedd lle mae eu tirwedd o bwysigrwydd rhyngwladol neu genedlaethol, oni bai eu bod yn bodloni’r amgylchiadau (eithriadol) a nodir yn y deddfwriaethau perthnasol neu’r polisi neu’r canllawiau cynllunio cenedlaethol fel arall.
- Rhaid lliniaru neu wella datblygiad a fyddai'n effeithio'n andwyol ar safleoedd tirwedd dynodedig lleol neu bwysigrwydd cadwraeth naturiol, er mwyn cynnal rhinweddau'r dynodiadau presennol. Lle na ellir lliniaru niwed yn ddigonol, ni chaniateir y datblygiad oni bai y bodlonir yr holl feini prawf canlynol:
- Mae tystiolaeth ddigonol wedi'i chyflwyno i ddangos angen hollbwysig i gyflawni'r datblygiad yn y lleoliad o ddewis;
- Mae tystiolaeth ddigonol wedi'i chyflwyno i ddangos nad oes lleoliad na ffurf/dyluniad arall boddhaol o ddatblygiad a fyddai'n osgoi niwed i'r safleoedd a ddynodwyd yn lleol o bwysigrwydd tirwedd neu gadwraeth naturiol;
- Mae mesurau lliniaru digonol wedi'u cynnwys yn y cynnig datblygu i leihau'r effaith andwyol ar y dirwedd.
5.5.12 Nod y polisi hwn yw ceisio sicrhau bod safleoedd dynodedig yn cael eu diogelu rhag datblygiadau niweidiol, a bod yr ACLl yn cyflawni ei rwymedigaeth i gynnal a gwella bioamrywiaeth a gwydnwch ecosystemau. Sylw
5.5.13 Mae holl dirweddau Bwrdeistref Sirol Conwy yn cael eu gwerthfawrogi am eu cyfraniad cynhenid i ymdeimlad o le, yn ogystal â lles bioamrywiaeth, iechyd pobl ac ardaloedd hamdden cynaliadwy. Bydd yr ACLl yn gwarchod ac yn gwella eu nodweddion arbennig, tra’n rhoi sylw dyledus i’r buddion cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol y maent yn eu darparu, wrth greu lleoedd gwerthfawr. Sylw
5.5.14 Mae llawer o bwysau ar yr amgylchedd ym Mwrdeistref Sirol Conwy ac nid yw’r cyfan o ganlyniad nac o fewn rheolaeth y system gynllunio. Fodd bynnag, mae’r ffactorau allweddol sy’n cyfrannu at newid tirwedd y gall y system gynllunio ddylanwadu arnynt yn cynnwys: ehangu aneddiadau, ffactorau masnachol, diwydiannol, ynni adnewyddadwy, datblygiadau chwarelyddol, datblygiadau twristiaeth megis datblygu carafanau a phorthdai a datblygiadau hamdden mawr. Yn ogystal ag unrhyw fesurau lliniaru cysylltiedig sy'n deillio o gynhyrchu ynni adnewyddadwy, gwrthbwyso carbon, rheoli adnoddau dŵr a'r cynllun i ehangu coetir. Yn aml bydd angen asesiadau tirwedd proffesiynol i sicrhau bod y safleoedd a ddynodwyd yn statudol, yr Ardaloedd Tirwedd Arbennig a’r nodweddion tirwedd a daearegol pwysig eraill yn cael eu diogelu. Sylw
5.5.15 Ni roddir caniatâd cynllunio lle nad oes modd osgoi’r effeithiau niweidiol ar gymeriad y tirlun. Sylw
5.5.16 Mae LANDMAP yn adnodd gwybodaeth, methodoleg, a sylfaen monitro pwysig ar gyfer tirweddau Cymru, a all helpu i lywio gwaith cynllunio ar gyfer rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy mewn ardal. Mae LANDMAP yn disgrifio ac yn gwerthuso agweddau ffisegol, ecolegol, gweledol, diwylliannol a hanesyddol ar dirweddau Cymru, ac yn darparu sail ar gyfer dull cenedlaethol cyson, gyda sicrwydd ansawdd, o asesu tirwedd. Gall asesiadau LANDMAP helpu i lywio Asesiadau Isadeiledd Gwyrdd, penderfyniadau rheoli datblygu, asesiad cymeriad tirwedd, hynodrwydd lleol, dyluniad, ac astudiaethau sensitifrwydd tirwedd. Fe'i defnyddiwyd i hysbysu a dynodi Ardaloedd Tirwedd Arbennig sydd wedi'u cynnwys yn y CDLl. Bydd Conwy yn parhau i dynnu ar LANDMAP wrth baratoi cynlluniau Tirwedd ac asesiadau sydd eu hangen i lywio'r broses rheoli datblygu. Sylw
5.5.17 Bydd yr ACLl yn gweithio gyda budd-ddeiliaid eraill i sicrhau bod yr holl dirweddau a ddynodwyd oherwydd eu cymeriad unigryw a'u rhinweddau arbennig yn cael eu hamddiffyn. Bydd y cyfleoedd y mae tirweddau'n eu darparu ar gyfer twristiaeth, hamdden awyr agored, cyflogaeth leol, ynni adnewyddadwy a lles yn cael eu hystyried. Dylai hyn ddod â llawer o fuddion lles i bobl a chymunedau, diwylliant yn ogystal â gwydnwch ecosystemau. Sylw
5.5.18 Argymhellir ymgysylltu’n gynnar â CNC ar unrhyw gynigion a allai effeithio ar safleoedd rhyngwladol/cenedlaethol ac unrhyw rywogaethau a warchodir. Efallai y bydd CNC hefyd yn gallu darparu cyngor priodol ar amcanion cadwraeth, a data cefndir ar gyfer safleoedd dynodedig statudol a rhywogaethau a warchodir. Yn unol â'r Rheoliadau Cynefinoedd ac mewn ymgynghoriad â CNC, bydd angen cynnal asesiadau lefel prosiect lle mae potensial am effeithiau sylweddol ar safleoedd Ewropeaidd. Ni fydd unrhyw brosiect datblygu a allai gael effaith sylweddol ar gyfanrwydd safle Ewropeaidd yn cael ei gefnogi. Sylw
5.5.19 Lle cynigir datblygiad sy’n debygol o gael effaith sylweddol ar y dirwedd neu’r dirwedd hanesyddol, mae’n debygol y byddai’n rhaid cyflawni Asesiad Tirwedd ac Effaith Weledol, Asesiadau o Arwyddocâd Effaith Datblygu ar y Dirwedd Hanesyddol. Sylw
5.5.20 Efallai y bydd angen amodau a/neu rwymedigaethau cynllunio priodol i sicrhau mesurau diogelu, monitro, lliniaru neu ddigolledu addas, yn ogystal â gwaith rheoli hirdymor. Lle y bo’n bosibl, bydd yr ACLl yn annog ac yn cefnogi cytundebau cydweithredol rhwng defnyddwyr hamdden a rheoleiddwyr i leihau effeithiau aflonyddwch hamdden ar safleoedd a rhywogaethau Ewropeaidd drwy weithredu polisïau’r CDLlN. Sylw
5.5.21 Mae nifer o lefelau o ran dynodiadau tirwedd: Sylw
- Rhyngwladol, cenedlaethol, rhanbarthol, lleol (pwysigrwydd / arwyddocâd);
- Statudol ac anstatudol; a
- Dibenion/meini prawf dynodi h.y. golygfaol; bioamrywiaeth / cynefin naturiol; diwylliannol, ac ati.
5.5.22 Gellir dynodi tirweddau at wahanol ddibenion/meini prawf ac efallai y bydd angen gwahanol fathau o offer asesu (er enghraifft: Asesiad Tirwedd ac Effaith Weledol (LVIA), Asesiad o Effaith ar Dreftadaeth, arolwg ecolegol, arolwg rhywogaethau a warchodir, Asesiadau o Arwyddocâd Effaith Datblygu ar y Dirwedd Hanesyddol ac ati). Sylw
Diogelu Ardaloedd Tirwedd Arbennig Sylw
NE/4 diogelu Ardaloedd Tirwedd Arbennig Sylw
- Bydd pwys sylweddol yn cael ei roi ar warchod, gwella a rheoli cymeriad, ymddangosiad ac ansawdd yr Ardaloedd Tirwedd Arbennig dynodedig a’u lleoliad wrth asesu a chydbwyso cynigion datblygu o fewn neu gerllaw’r Ardaloedd Tirwedd Arbennig, fel y dangosir ar y Map Cynigion ac a restrir isod:
- Y Gogarth a Phenrhyn y Creuddyn
- Dyffryn Conwy
- Cefn gwlad Abergele
- Dyffrynnoedd Elwy ac Aled
- Mynydd Hiraethog
- Cerrigydrudion a choridor yr A5
- Er mwyn gwarchod rhinweddau’r Ardaloedd Tirwedd Arbennig neu eu lleoliad, bydd cynigion datblygu yn rhoi ystyriaeth arbennig i gadw neu wella cymeriad, ymddangosiad ac ansawdd pob Ardal Tirwedd Arbennig. Ni fydd datblygiad sy’n methu integreiddio yn foddhaol i’r Ardaloedd Tirwedd Arbennig neu ddiogelu eu lleoliad yn cael ei ganiatáu. Mewn achosion priodol bydd yr ACLl yn gofyn am gyflwyno Asesiad Tirwedd ac Effaith Weledol i ddangos effaith y cynigion datblygu y tu mewn neu’r tu allan i’r Ardaloedd Tirwedd Arbennig.
5.5.23 O fewn yr Ardaloedd Tirwedd Arbennig, bydd datblygiad ond yn cael ei ganiatáu lle nad oes unrhyw effaith andwyol sylweddol, gan gynnwys effaith gronnus, ar gymeriad ac ansawdd y dirwedd. Dylai'r datblygiad anelu at warchod a gwella'r nodweddion y dynodwyd yr Ardal Tirwedd Arbennig ar eu cyfer. Lle bo'n briodol, bydd angen Asesiad o Effaith ar y Dirwedd er mwyn ystyried effaith y datblygiad. Mewn amgylchiadau eithriadol lle mae datblygiad yn angenrheidiol ac a allai arwain at effaith sylweddol ar y dirwedd, bydd angen cynllun tirlunio hefyd a dylid darparu mesurau lliniaru a gwella priodol. Sylw
5.5.24 Mae cymeriad gweledol y tirweddau, y morluniau a'r trefluniau yn ardal y cynllun, a’r modd y caiff aneddiadau eu gwahanu, o fewn a thu allan i ardaloedd dynodedig, yn cael ei werthfawrogi'n fawr gan drigolion ac ymwelwyr. Rhoddir blaenoriaeth uchel i warchod, cadw a gwella cymeriad y dirwedd hon. Dylai datblygiadau newydd fod wedi’u dylunio’n dda, gan helpu i gynnal a/neu greu tirweddau a threfweddau ag ymdeimlad cryf o le a hunaniaeth leol. Sylw
5.5.25 Pwrpas y dynodiadau yw sicrhau nad yw cymeriad lleol yr ardaloedd yn cael ei newid gan fathau amhriodol o ddatblygiad a bod nodweddion sy'n cyfrannu at hynodrwydd lleol yn cael eu cadw. Gwrthwynebir datblygiad sydd wedi'i ddylunio neu ei leoli'n wael. Dylai'r dyluniad a'r deunyddiau a ddefnyddir wrth adeiladu roi sylw i'r werin leol, a dylai lleoliad a ffurf y datblygiad integreiddio gyda'r dirwedd mewn modd sy'n gyson â datblygiad sy'n bodoli eisoes. Sylw
5.5.26 Mae LANDMAP, a baratowyd gan CNC, wedi cael ei ddefnyddio i nodi a disgrifio Ardaloedd Tirwedd Arbennig nodedig ledled Ardal y Cynllun. Mae'n ymgorffori manylion a gwerthoedd ar gynefin, tirwedd hanesyddol, daearegol a diwylliannol. Dylid defnyddio'r wybodaeth hon, ynghyd ag astudiaethau eraill sy'n darparu rhan o'r sylfaen dystiolaeth am y dirwedd a chymeriad trefi a phentrefi yn Ardal y Cynllun, i sicrhau bod cynigion datblygu yn adlewyrchu hynodrwydd, rhinweddau a sensitifrwydd yr ardal. Sylw
5.5.27 Nid bennir tir sydd y tu allan i'r Ardaloedd Tirwedd Arbennig yn addas i'w ddatblygu ar unwaith, gan fod ystyriaethau a dynodiadau eraill a allai fod yn berthnasol. Gall LANDMAP fod yn berthnasol o hyd hefyd, yn dibynnu ar y cwmpas haenau, gan fod y rhan fwyaf o Ardal y Cynllun wedi'i gorchuddio gan o leiaf un haen o werth uchel. Mae'n debygol y bydd angen Datganiad Cymeriad Tirwedd ar gyfer pob datblygiad y tu allan i ffiniau aneddiadau a thu allan i'r Ardaloedd Tirwedd Arbennig, fel y diffinnir ar y mapiau cynigion, a phob datblygiad mawr. Sylw
5.5.28 Gellir ymgorffori Datganiad Cymeriad Tirwedd yn y Datganiad Dylunio a Mynediad, lle bo angen, neu gall ffurfio dogfen ar wahân. Bydd CCA Amgylchedd Naturiol yn cael ei gynhyrchu i roi canllawiau pellach ar gwblhau Datganiad Cymeriad Tirwedd. Sylw
5.5.29 Dylai integreiddio datblygiad o fewn y dirwedd hefyd ystyried elfennau tirwedd, megis cynefinoedd; clostiroedd naturiol a/neu o waith dyn neu nodweddion megis waliau, coed neu wrychoedd sy'n cyfrannu at gymeriad y dirwedd a dylid eu cadw. Ni chaniateir datblygiad sy'n methu integreiddio'n sensitif ac allan o’r ffordd i'r dirwedd, ac a fyddai'n niweidiol i gymeriad y dirwedd. Mewn rhai achosion, gall y datblygiad arfaethedig elwa o gael ei dirlunio, mewn modd sy'n gydnaws â'r ardal leol, er mwyn lleihau ei effaith. Sylw
Lletemau Glas Sylw
NE/5 Lletemau Glas Sylw
- Mae Lletemau Glas wedi’u dynodi rhwng yr aneddiadau canlynol:
- Dwygyfylchi a Phenmaenmawr
- Deganwy, Cyffordd Llandudno a Llanrhos
- Llandudno a Craigside
- Bae Penrhyn a Llandrillo-yn-Rhos
- Mochdre a Bae Colwyn
- Cyffordd Llandudno a Mochdre, a Glan Conwy
- Bryn-y-maen a Bae Colwyn
- Llanelian a Hen Golwyn
- Rhwng Coed Coch a Peulwys Lane
- Hen Golwyn a Llysfaen
- Rhyd-y-foel, Llanddulas ac Abergele
- Towyn a Phensarn
- O fewn y Lletemau Glas dynodedig, dim ond os yw’n cynnal natur agored a chymeriad y dirwedd y bydd datblygiad yn cael ei ganiatáu, oni bai fod y cynnig yn cynnwys datblygu priodol o fewn y Lletem Las fel y nodwyd yn y Polisi Cynllunio Cenedlaethol a’r canllawiau, ac yn ddibynnol ar gydymffurfio gyda’r polisïau Creu Lleoedd Cynaliadwy sydd wedi eu dylunio i ddiogelu’r amgylchedd a chymeriad y dirwedd.
5.5.30 Mae Lletemau Glas wedi'u dynodi mewn rhannau o gefn gwlad i ddarparu clustogfeydd rhwng aneddiadau, i atal aneddiadau rhag cyfuno yn ogystal ag ymlediad aneddiadau trefol annerbyniol mewn ardaloedd sydd dan bwysau i ddatblygu. Mae Lletemau Glas yn gweithio ar y cyd â ffiniau aneddiadau i gyflawni’r dibenion a ganlyn yn unol â’r canllawiau a’r polisi cynllunio cenedlaethol: Sylw
- rheoli ffurf adeiledig ac ymylon aneddiadau yn strategol;
- helpu i ddiogelu cefn gwlad rhag ymlediad aneddiadau trefol;
- diogelu pryd a gwedd yr ardal drefol; a
- helpu i adfywio trefi drwy roi anogaeth i ailddefnyddio tir diffaith a thir trefol arall.
5.5.31 Mae PCC yn darparu canllawiau penodol ar ystyried ceisiadau cynllunio o fewn ardaloedd sydd wedi’u dynodi’n Lletemau Glas. Mae'n pwysleisio pwysigrwydd cynnal natur agored y tir, yn rhagdybio yn erbyn datblygiad sy'n amhriodol i bwrpas y dynodiad Lletem Las ac yn amlinellu'r amgylchiadau eithriadol iawn pan allai datblygiad fod yn dderbyniol. Mae’r rhain yn cynnwys datblygiad at y dibenion canlynol: Sylw
- Anghenion mentrau gwledig sydd wedi eu cyfiawnhau;
- Cyfleusterau hanfodol ar gyfer chwaraeon a hamdden awyr agored, mynwentydd, a defnyddiau tir eraill sydd yn cynnal natur agored y Lletem Las ac nad ydynt yn gwrthdaro â dibenion cynnwys tir ynddi;
- Estyniadau, addasiadau neu amnewidiadau cyfyngedig i anheddau presennol; ac
- Arallgyfeirio ar raddfa fach o fewn clwstwr o adeiladau fferm lle gwneir hynny fel rhan o fusnes y fferm.
5.5.32 Er mwyn bod yn dderbyniol, dylai estyniad i annedd bresennol neu annedd newydd yn ei lle mewn Lletem Las fod o raddfa briodol, fel na fydd yn cael effaith andwyol sylweddol ar natur agored y tir. Gall defnyddiau eraill o dir a mathau o ddatblygiad a all fod yn dderbyniol gynnwys cloddio am fwynau, gweithrediadau peirianyddol neu brosiectau cludiant lleol. Sylw
5.5.33 Pan fyddant wedi'u lleoli yn y Lletem Las, gall rhai prosiectau ynni adnewyddadwy beryglu natur agored a chymeriad y tir a chânt eu hystyried yn ddatblygiad amhriodol o fewn y Lletemau Glas. Er mwyn i brosiectau ynni adnewyddadwy fod yn dderbyniol o fewn y Lletemau Glas, bydd angen i ddatblygwyr ddangos y byddai’r angen pennaf a’r buddion o gynhyrchu ynni adnewyddadwy yn drech na’r niwed y byddai’r datblygiad yn ei achosi i’r polisi o warchod cymeriad ac edrychiad tirwedd agored y Lletemau Glas. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ym Mhapur Cefndir 29/31. Sylw
Coed, tirlunio a gwaith rheoli Sylw
NE/6 coed, tirlunio a gwaith rheoli Sylw
- Bydd cynigion datblygu yn cyd-fynd ag amcanion gwarchod natur ardal y cynllun a bydd yn cynnwys manylion fel rhan o ddatganiad Isadeiledd Gwyrdd i ddangos ble maent yn:
- Gwneud y mwyaf o orchudd llystyfiant yn y safle arfaethedig i wella’r modd o ddal a storio carbon, yn unol â pholisi EN/7, drwy ymgorffori llystyfiant presennol a llystyfiant wedi’i blannu/hau yn y dyluniad ar ddwy lefel:
- Plannu ar raddfa stryd: Ymgorffori llystyfiant ar y safle ac oddi arno gyda strydoedd coediog, waliau gwyrdd, gwrychoedd brodorol, planhigion mewn gerddi blaen a chefn.
- Cronfeydd trefol: Ardaloedd presennol mwy a/neu ardaloedd wedi’u plannu/hau a neilltuwyd o fewn yr ardal ddatblygu, i’w defnyddio fel gwarchodfeydd natur a/neu ofod cymunedol. Gallai hyn gynnwys ardaloedd o goetir, dolydd, neu fannau tyfu bwyd cymunedol, a bydd yn dibynnu ar y rhywogaethau dan sylw.
- Cadw a gwella cynefinoedd naturiol presennol, nodweddion cadwraeth natur a diddordeb daearegol. Eu diogelu yn ystod gwaith adeiladu a, lle bo angen, darparu cynllun rheoli dros 30 mlynedd, gan gynnwys amserlen waith flynyddol. Disgwylir i hyn gael ei gyflwyno fel rhan o gais cynllunio. Dylai’r rhain amlinellu amcanion clir, darparu asesiad cyflwr sylfaenol a dangos y gwaith cynnal a chadw, monitro ac amserlenni ar gyfer cynnal y cynllun cymeradwy, yn unol ag NE/7 ac NE/8:
- Ymgorffori llystyfiant brodorol priodol mewn unrhyw gynllun tirlunio neu blannu, ac eithrio lle gall gofynion arbennig o ran pwrpas neu leoliad gyfiawnhau fel arall;
- Sicrhau bod bywyd gwyllt a’r tirwedd yn cael eu hamddiffyn a’u gwella drwy ddyluniad adeiladau priodol (gan ymgorffori’r Fframwaith Adeiladu â Natur), gosodiadau’r safle, osgoi defnyddio mawn neu aflonyddwch, tirlunio, trin ffiniau sy’n gyfeillgar i fywyd gwyllt, a deunyddiau;
- Lle bo hynny’n briodol, sicrhau bod gwaith cynnal a chadw parhaus yn cael ei wneud ar fuddiannau gwarchod natur a gedwir neu a grëwyd gan gynnwys rheoli ac osgoi Rhywogaethau Ymledol ac Estron (INNS), defnyddio mawn, a lleihau aflonyddwch a mewnforio pridd;
- Lle bo’n briodol, ymgorffori toeau gwyrdd (lle nad ydynt yn cael eu defnyddio fel arall ar gyfer gosodiadau ffotofoltäig neu osodiadau ynni adnewyddadwy eraill) a waliau gwyrdd, i gymedroli tymheredd yr adeilad er mwyn osgoi’r angen am systemau gwresogi a/neu oeri mecanyddol;
- Bydd angen plannu coed yn unol â’r tabl isod, yn amodol ar asesiad hyfywedd:
- Gwneud y mwyaf o orchudd llystyfiant yn y safle arfaethedig i wella’r modd o ddal a storio carbon, yn unol â pholisi EN/7, drwy ymgorffori llystyfiant presennol a llystyfiant wedi’i blannu/hau yn y dyluniad ar ddwy lefel:
|
Plannu coed |
Fesul annedd newydd |
Fesul arwynebedd llawr masnachol 100 metr sgwâr newydd |
Fesul arwynebedd llawr diwydiannol 100 metr sgwâr newydd |
|
Gofyniad plannu coed cyffredinol |
3 coeden neu orchudd o 10% o arwynebedd y safle |
2 goeden neu orchudd o 20% o arwynebedd y safle |
2 goeden neu orchudd o 20% o arwynebedd y safle |
|
Gofyniad plannu coed ar strydoedd |
0.2 |
0.1 |
0.1 |
- Lle bo angen, bydd Datganiad Ynni yn archwilio cyfleoedd dal a storio carbon i wneud y mwyaf o ddarpariaeth ar y safle. Rhaid dal a storio unrhyw allyriadau gweddilliol oddi ar y safle, naill ai gan y datblygwr neu drwy’r Cyngor i gyflawni targedau sero net yn unol â pholisi EN/7 ac NE/8.
5.5.34 Mae LlC wedi gosod targed i gynyddu gorchudd coetir yng Nghymru o leiaf 2,000 hectar y flwyddyn o 2020. Papur Cefndir 54: Gorchudd Coed yng Nghonwy a Phapur Cefndir 47: Asesiad Isadeiledd Gwyrdd yn dangos y gallai gorchudd canopi gynyddu 40% o bosibl yng Nghonwy. Fodd bynnag, amlygir y byddai’r ffigwr realistig yn debygol o fod yn is. Mae Coed Cadw yn argymell y dylai pob awdurdod lleol ymrwymo i darged gorchudd canopi coed o 30% o leiaf ar gyfer tir datblygu newydd. Sylw
5.5.35 Mae safonau plannu coed yn darparu mecanwaith effeithiol, ond nid yn gyfyngedig, i sicrhau bod datblygiadau newydd yn cyfrannu at yr isadeiledd gwyrdd. Mae mabwysiadu safonau plannu coed hefyd yn ei gwneud yn bosibl i gasglu taliadau symiau gohiriedig, yn lle plannu coed, lle nad yw amgylchiadau’n caniatáu i’r gofynion plannu coed gael eu bodloni ar y safle. Bydd hyn yn ategu cyllid cyfun yr ACLl ar gyfer plannu coed. Sylw
5.5.36 Dylid meddwl yn ofalus am y rhywogaeth a ddewisir, yn ogystal â’r cynnwys pridd / organig gan fod cyfraddau dal a storio carbon yn amrywio. Mae angen ystyried sut y caiff llystyfiant ei reoli'n barhaus, oherwydd gall llystyfiant sydd angen ymyrraeth aml gynhyrchu mwy o allyriadau nag y mae'n ei ddal a’i storio. Dylid datblygu cynlluniau rheoli tir sero net manwl, gydag archwiliadau parhaus er mwyn sicrhau bod gwaith symud disgwyliedig yn digwydd. Sylw
5.5.37 Mae pridd hefyd yn storfa garbon bwysig a dylid osgoi tarfu arno. Dylid gwarchod priddoedd presennol lle bo modd yn ystod y gwaith adeiladu a gweithredu'r datblygiad, er mwyn atal allyriadau a gwneud y mwyaf o'r cyfle i'w symud. Sylw
5.5.38 Unwaith y bydd y cyfleoedd gorau i ddal a storio carbon wedi'u sicrhau ar y safle, byddai angen i unrhyw allyriadau gweddilliol gael eu dal a’u storio oddi ar y safle, naill ai gan y datblygwr neu gan yr ACLl i gyrraedd targedau sero net. Sylw
5.5.39 Bydd CBSC a/neu gorff cyfrifol a ganiateir gan y Cyngor yn cynyddu budd bioamrywiaeth a dal a storio carbon ar dir y Cyngor a thir trydydd parti dan reolaeth (e.e. drwy blannu coed, adfer a chreu cynefinoedd a rheoli carbon pridd) i wrthbwyso’r allyriadau gweddilliol o ddatblygiad newydd. Gallai hyn gynnwys mannau gwyrdd fel gwarchodfeydd natur, parciau a gerddi, rhannau llinellol ac isadeiledd gwyrdd fel ymylon a mannau gwyrdd ar hyd ffyrdd; a ‘gwyrddni’ isadeiledd llwyd mewn lleoliadau trefol. Sylw
5.5.40 Bydd CBSC hefyd yn ystyried sicrhau dal a storio carbon drwy blannu coed drwy gynlluniau gwrthbwyso achrededig y DU. Byddai hyn yn cynnwys prynu credydau carbon, tystysgrif y gellir ei masnachu sy'n gwarantu dal a storio tunnell o garbon deuocsid neu Nwyon Tŷ Gwydr eraill. Gellid sefydlu partneriaeth â chynlluniau fel y rhai a redir gan y Cod Carbon Coetiroedd (WCC) a Choed Cadw. Sylw
5.5.41 Rhoddwyd llawer o ffocws yn flaenorol ar allu amgylcheddau daearol fel coedwigoedd a mawndiroedd i ddal a storio carbon. Fodd bynnag, mae gallu storio carbon cynefinoedd arfordirol a'r cefnfor yn cael ei gydnabod fwyfwy. Fel rhan o’r ymdrechion i wrthbwyso a dal a storio carbon, bydd CBSC hefyd yn ystyried cadw ac adfer ecosystemau carbon glas i gynnal a gwella eu gallu i ddal a storio CO2 yn yr hirdymor. Sylw
5.5.42 Yn ogystal â dal a storio carbon o'r atmosffer drwy symud tir, gellir gwrthbwyso allyriadau CO2 drwy ddefnyddio technolegau ynni Carbon Isel a Di-garbon ar y safle neu oddi ar y safle. Cyfeiriwch at Nodyn Technegol Dal a Storio Carbon Papur Cefndir 62. Sylw
5.5.43 Bydd yr ACLl yn gwarchod coed, gwrychoedd, grwpiau o goed ac ardaloedd o goetir lle mae ganddynt werth ecolegol, yn cysylltu cynefinoedd, cyfrannu at gymeriad neu amwynder ardal benodol, neu’n darparu swyddogaeth isadeiledd gwyrdd buddiol. Lle bo hynny’n briodol, ac yn unol â Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990, bydd Gorchmynion Diogelu Coed yn cael eu cyflwyno i warchod coed amwynder pwysig rhag cael eu torri a rhag niwed. Sylw
5.5.44 Mae coetiroedd hynafol a choetiroedd lled-naturiol a choed hynafol a threftadaeth unigol yn adnoddau naturiol unigryw, ac mae ganddynt werth tirwedd, bioamrywiaeth a diwylliant sylweddol. Bydd coed a choetiroedd o'r fath yn cael eu hamddiffyn rhag datblygiad a fyddai'n arwain at eu colli neu ddirywiad, oni bai bod buddiannau cyhoeddus sylweddol, wedi'u diffinio'n glir. Bydd yr amddiffyniad hwn yn atal gweithrediadau a allai fod yn niweidiol a fyddai’n arwain at eu colli'n ddiangen. Yn achos safle a gofnodwyd ar y Rhestr Coetiroedd Hynafol, bydd awdurdodau yn ystyried cyngor CNC neu Goed Cymru. Mae'r asedau hyn wedi'u mapio yn yr Asesiad Isadeiledd Gwyrdd, gweler Papur Cefndir 47. Sylw
Rhwydwaith Isadeiledd Gwyrdd Sylw
NE/7 rhwydwaith isadeiledd gwyrdd Sylw
- Mae angen cyflwyno Datganiad Isadeiledd Gwyrdd ar gyfer pob cais cynllunio i fynd i’r afael â’r materion Isadeiledd Gwyrdd canlynol yn y datblygiad arfaethedig:
- Mae'r gosodiad a'r dyluniad yn parchu lleoliad asedau Isadeiledd Gwyrdd presennol ac yn cefnogi ac yn gwella'r swyddogaethau a'r buddion a ddarperir ganddynt;
- Mae’r datblygiad yn cadw, yn creu ac yn gwella’r rhwydwaith Isadeiledd Gwyrdd ar y safle ac o’i amgylch drwy ddarparu neu wella cysylltiadau swyddogaethol neu goridorau rhwng gwahanol asedau Isadeiledd Gwyrdd;
- Mae'r datblygiad yn darparu Isadeiledd Gwyrdd newydd a/neu'n cyflwyno defnydd aml-swyddogaeth o fannau gwyrdd neu gysylltiadau/coridorau presennol; mewn ymateb i asesiad o angen safle benodol a chyfle ar gyfer Isadeiledd Gwyrdd;
- Lle bo’n briodol, mae gorchudd canopi coed o fewn y safle o leiaf cymaint â chyfartaledd Bwrdeistref Sirol Conwy o ran coed mewn trefi, gan ystyried cadw’r coed presennol a thwf canopi’r coed i’w plannu yn y dyfodol fel rhan o’r dirwedd ar gyfer y safle, yn unol â pholisi NE/2, NE/6, NE/8 a Phapur Cefndir 54;
- Mae’r datblygiad yn defnyddio asedau isadeiledd gwyrdd i wella’r gallu i wrthsefyll llifogydd, a darperir cynllun adnoddau hirdymor ar gyfer rheoli ac adnewyddu asedau Isadeiledd Gwyrdd yn gylchol; a
- Dangosir cynnydd net mewn bioamrywiaeth ar y safle a/neu'r dirwedd ehangach, gan ddefnyddio'r dull “hierarchaeth liniaru” fesul cam yn unol â chanllawiau cenedlaethol a pholisi NE/8;
- Mewn achosion lle nad oes modd osgoi colli isadeiledd gwyrdd, bydd yn rhaid i gynlluniau datblygu ddarparu mesurau lliniaru a digolledu yn lle’r asedau hynny, sy’n bodloni gofynion yr ACLl.
- Bydd cynigion a nodir ym Mhapur Cefndir 47 Asesiad Isadeiledd Gwyrdd a Phapur Cefndir 58 Isadeiledd Gwyrdd, Trawsnewid Trefi yn cael eu cefnogi mewn egwyddor.
5.5.45 Isadeiledd gwyrdd yw rhwydwaith o nodweddion naturiol a lled-naturiol, mannau gwyrdd, afonydd a llynnoedd sydd ar wasgar rhwng lleoedd ac yn creu cysylltiadau rhyngddynt. Gall elfennau cydrannol isadeiledd gwyrdd weithredu ar wahanol raddfeydd. Ar raddfa’r dirwedd, gall isadeiledd gwyrdd gynnwys ecosystemau cyfan megis gwlyptiroedd, dyfrffyrdd a mynyddoedd. Ar raddfa leol, gallai gynnwys parciau, caeau, hawliau tramwy cyhoeddus, rhandiroedd, mynwentydd a gerddi. Ar raddfeydd llai, gall ymyriadau trefol unigol megis coed stryd, gwrychoedd, ymylon ffyrdd, a thoeau/waliau gwyrdd oll gyfrannu at rwydweithiau isadeiledd gwyrdd. Sylw
5.5.46 Mae Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 yn rhoi cyd-destun ar gyfer darparu isadeiledd gwyrdd aml-swyddogaeth. Gall ei ddarpariaeth wneud cyfraniad sylweddol at reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy, ac yn arbennig at gynnal a gwella bioamrywiaeth a gwydnwch ecosystemau o ran yr amrywiaeth rhwng ac o fewn ecosystemau, a maint, cyflwr a chysylltedd ecosystemau a’u gallu i addasu. Mae hyn yn golygu bod datblygu isadeiledd gwyrdd yn ffordd bwysig i awdurdodau lleol gyflawni eu dyletswydd Adran 6. Sylw
5.5.47 Mae ystod eang o gyfraniadau pwysig eraill y gall isadeiledd gwyrdd eu gwneud, gan gynnwys manteision i iechyd a lles, twristiaeth a hamdden a gwell mynediad i ddefnyddwyr nad ydynt yn gyrru. Sylw
5.5.48 Bydd Conwy yn darparu dull strategol a rhagweithiol o ymdrin ag isadeiledd gwyrdd a bioamrywiaeth gan ddefnyddio’r Asesiad Isadeiledd Gwyrdd sy’n tynnu o’r sylfaen dystiolaeth a ddarperir gan Ddatganiadau Ardal ac Asesiadau o Les. Caiff ei integreiddio i gynlluniau datblygu er mwyn sicrhau bod cyfleoedd yn cael eu hystyried yn gynnar ac yn gydlynol i lywio datblygiad a dyluniad newydd, a strategaethau cysylltiedig y cynllun. Sylw
5.5.49 Bydd yr Asesiad Isadeiledd Gwyrdd yn cael ei ddefnyddio i ddatblygu dull cadarn o wella bioamrywiaeth, cynyddu gwydnwch a chysylltedd ecolegol a gwella canlyniadau o ran lles. Dylai nodi cyfleoedd strategol allweddol lle byddai adfer, cynnal a chadw, creu neu gysylltu nodweddion a swyddogaethau gwyrdd yn cyflawni’r manteision mwyaf arwyddocaol. Sylw
5.5.50 Mae'r Asesiad Isadeiledd Gwyrdd wedi nodi bod angen cadw neu wella rhai nodweddion y safleoedd strategol. Mae haenau mapio’r Isadeiledd Gwyrdd ar gael ar fap cynigion y CDLlN. Sylw
5.5.51 Bydd yr Asesiad Isadeiledd Gwyrdd hefyd yn cael ei ystyried yn gynnar mewn cynigion datblygu, ac yn helpu wrth roi prosiectau ar waith. Bydd y CDLlN yn sicrhau bod nodweddion y dirwedd sydd o bwysigrwydd mawr i fioamrywiaeth yn cael eu rheoli’n briodol er mwyn ategu a gwella cydlyniad ecolegol rhwydwaith Natura 2000. Sylw
5.5.52 Mae'r cynllun yn cynnwys polisïau eraill sy'n gysylltiedig ag isadeiledd gwyrdd, sy'n cynnwys polisïau sy'n ymwneud â diogelu mannau gwyrdd ac yn darparu gwasanaethau ecosystem penodol. Mae’r rhain yn cynnwys polisïau ar greu lleoedd ac amddiffyn mannau agored, darparu mannau agored newydd, gwydnwch ecosystemau, teithio llesol, sŵn, llygredd aer, golau a dŵr, diogelu adnoddau dŵr a pherygl llifogydd. Dylid rhoi ystyriaeth i holl bolisïau Creu Lleoedd. Sylw
5.5.53 Nid yw'r cynllun yn ceisio dynodi pob ardal yr ystyrir ei bod yn darparu gwasanaethau ecosystem gwerthfawr. Felly, bydd rhai mannau gwyrdd pwysig o fewn y Sir yn cael eu gwarchod drwy'r polisi hwn yn unig. Gall ardaloedd o’r fath gynnwys mannau gwyrdd preifat a chyhoeddus o werth amwynderol, ac yn hollbwysig o ran creu lleoedd, mannau gwyrdd trefol sy’n diogelu hunaniaeth cymdogaethau unigol o fewn aneddiadau mawr. Mae’r polisi hwn yn ceisio gwarchod mannau gwyrdd o’r fath, lle gellir dangos gwerth y safle penodol yn ddigonol, o ran darpariaeth gwasanaethau’r ecosystem a’i gyfraniad at y rhwydwaith isadeiledd gwyrdd. Sylw
5.5.54 Dylid ystyried isadeiledd gwyrdd fel un adnodd i'w ddiogelu, ei wella a'i reoli er mwyn darparu ystod eang o fanteision amgylcheddol, economaidd ac o ran ansawdd bywyd i'r gymuned. I'r perwyl hwn, disgwylir i gynigion datblygu gadw a gwella'r isadeiledd gwyrdd presennol. Bydd cynlluniau o'r fath o faint, math a safon briodol i sicrhau na fydd unrhyw dorri cynefinoedd na cholli cysylltedd. Mewn rhai achosion, efallai y bydd angen creu Isadeiledd Gwyrdd newydd a chreu cysylltiadau â’r rhwydwaith Isadeiledd Gwyrdd presennol. Sylw
5.5.55 Dylid cynllunio cynigion datblygu i ystyried yr holl wasanaethau ecosystemau sydd ar gael ar yr un pryd, a byddant yn cael eu hasesu mewn perthynas â hynny. Er enghraifft, gall man gwyrdd trefol ddarparu man chwarae i blant, ond gall hefyd ddarparu cynefin ecolegol pwysig a chyfrannu at ddraenio trefol a rheoli llifogydd. Sylw
5.5.56 Bydd cytundebau Adran 106 yn cael eu defnyddio i sicrhau tir a chyllid hirdymor (30 mlynedd fel arfer) ar gyfer gweithredu asedau a gwelliannau mannau gwyrdd newydd. Mae gwasanaethau ecosystem isadeiledd gwyrdd yn cynnwys: Sylw
- Lliniaru ac addasu i effeithiau newid yn yr hinsawdd;
- Diogelu a gwella bioamrywiaeth;
- Cyfleoedd ar gyfer cysylltu â natur;
- Darparu llwybrau teithio llesol, llwybrau ceffylau a gwella Hawliau Tramwy Cyhoeddus;
- Gwella iechyd a lles;
- Annog chwaraeon, gweithgareddau hamdden egnïol a goddefol;
- Gwella’r treflun, ansawdd y dirwedd ac amwynder gweledol;
- Atal llifogydd, storio dŵr glaw ac arafu cyfraddau llif dŵr;
- Dal a storio carbon;
- Cynhyrchu bwyd, twf cymunedol;
- Cynorthwyo ag adfywio economaidd;
- Darparu cyfleoedd i warchod a gwella asedau hanesyddol a chynyddu lefelau dehongli;
- Gwella ansawdd aer, llonyddwch, cynnal awyr dywyll a defnyddio cyn lleied o olau â phosibl.
Bioamrywiaeth Sylw
NE/8 bioamrywiaeth Sylw
Bydd angen i ddatblygiad warchod a gwella amrywiaeth, gwydnwch, maint, cyflwr, cysylltedd ac addasrwydd ecosystemau drwy gymhwyso egwyddorion DECCA a dull fesul cam i ddarparu budd net i fioamrywiaeth a rheolaeth hirdymor. Dylid amlinellu hyn mewn Datganiad Bioamrywiaeth sy'n cyd-fynd â'r cynnig.
Bydd cynigion sy'n gwrthdroi darnio cynefinoedd ac yn hyrwyddo creu, adfer a rheoli rhwydweithiau ecolegol, cynefinoedd a nodweddion yn cael eu pwysleisio wrth asesu a phenderfynu ar geisiadau cynllunio, yn enwedig mewn ardaloedd sy'n destun mentrau bioamrywiaeth ar raddfa tirwedd ac sy’n cael blaenoriaeth uchel o ran Isadeiledd Gwyrdd. Gellir ceisio rhwymedigaethau cynllunio i gyflawni'r amcanion bioamrywiaeth hyn lle bo'n briodol. Ni chaniateir cynigion a fyddai’n arwain at ddarnio cynefinoedd yn sylweddol neu’n effeithio’n andwyol ar statws cadwraeth rhywogaethau a warchodir a rhywogaethau â blaenoriaeth, neu at golli cysylltedd ecolegol.
Rhaid i bob cais cynllunio ddangos cadwraeth a gwelliant bioamrywiaeth, a chreu rhwydweithiau ecolegol gwydn o fewn y safle datblygu. Ll bo’n briodol, rhaid creu ac ymestyn rhwydweithiau o’r fath ar dir gerllaw’r safleoedd datblygu. Ni chaniateir datblygiad sy’n arwain at effaith andwyol sylweddol ar wydnwch cynefinoedd a/neu rywogaethau a warchodir.
5.5.57 Cynefinoedd a rhywogaethau a warchodir yw'r rhai a warchodir o dan ddeddfwriaeth Ewropeaidd a'r DU, fel y nodir yn TAN 5 Cadwraeth Natur a Chynllunio (2009). Mae'r ddeddfwriaeth yn cynnwys y Gyfarwyddeb Cynefinoedd, y Gyfarwyddeb Adar, Rheoliadau Gwarchod Cynefinoedd a Rhywogaethau 2017, Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981, Deddf Gwarchod Moch Daear 1992, Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016. Mae Adran 7 Deddf yr Amgylchedd yn rhestru’r organebau byw a’r cynefinoedd sydd o’r pwys mwyaf at ddiben cynnal a gwella bioamrywiaeth mewn perthynas â Chymru. Bydd CCA bioamrywiaeth a datblygu yn cael ei gynhyrchu i roi mwy o wybodaeth am sut y dylid gwarchod a gwella bioamrywiaeth drwy ddatblygiadau. Sylw
5.5.58 Mae PCC yn nodi bod rhaid i awdurdodau cynllunio geisio cynnal a gwella bioamrywiaeth wrth gyflawni eu swyddogaethau. Mae hyn yn golygu na ddylai datblygiad achosi unrhyw golled sylweddol o ran cynefinoedd neu boblogaethau o rywogaethau, yn lleol nac yn genedlaethol ac mae’n rhaid iddo ddarparu budd net ar gyfer bioamrywiaeth. Sylw
5.5.59 Mae Polisi Cynllunio Cymru hefyd yn tynnu sylw at gynnwys Adran 6 o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, sy’n gosod dyletswydd ar ACLlau i ddangos eu bod wedi cymryd pob cam rhesymol i gynnal a gwella bioamrywiaeth wrth gyflawni eu swyddogaethau. Pwysleisir hyn yn Cymru’r Dyfodol; Cynllun Cenedlaethol 2040, ac amcanion y polisïau adnoddau naturiol yw “cynnal a gwella gwydnwch ecosystemau a’r manteision y maent yn eu darparu”. Sylw
Bioamrywiaeth a chynefinoedd - safleoedd dynodedig Sylw
5.5.60 Mae safleoedd dynodedig statudol ym Mwrdeistref Sirol Conwy yn gwneud cyfraniad hanfodol i warchod bioamrywiaeth. Gallant hefyd fod yn bwysig wrth ddarparu cyfleoedd ar gyfer cyflawni amcanion lles ehangach. Sylw
5.5.61 Mae'r CDLlN yn ystyried arwyddocâd cymharol dynodiadau rhyngwladol, cenedlaethol a lleol wrth ystyried y pwysau sydd i'w roi ar fuddiannau cadwraeth natur. Ceir canllawiau pellach, yn enwedig mewn perthynas â safleoedd Natura 2000, yn TAN5: Cadwraeth Natur a Chynllunio. Dylid cofnodi’n glir y rhesymeg ategol dros y dynodiad ar bob lefel ac amlinelliad o nodweddion cymhwyso’r dynodiad fel rhan o’r Asesiad Isadeiledd Gwyrdd. Rhaid eu hystyried yn y CDLlN wrth ddylunio cynigion datblygu newydd ac mewn penderfyniadau rheoli datblygu yn y dyfodol. Bydd gwahaniaeth yn cael ei roi i arwyddocâd cymharol y dynodiad o fewn yr hierarchaeth, wrth ystyried y pwysau i'w roi ar fuddiannau cadwraeth natur. Sylw
Bioddiogelwch Sylw
5.5.62 Rhywogaethau Estron Goresgynnol (INNS) Planhigion, anifeiliaid, ffyngau a micro-organebau yw’r rhain, sydd wedi’u cyflwyno i rannau o’r byd lle na fyddent i’w cael yn naturiol. Maen nhw’n gallu lledaenu gan achosi difrod i'r amgylchedd, yr economi, ein hiechyd a'n ffordd o fyw. Rhywogaethau Estron Goresgynnol yw'r ail fygythiad mwyaf i fioamrywiaeth ar ôl colli a darnio cynefinoedd. Amcangyfrifwyd bod Rhywogaethau Estron Goresgynnol yn costio o leiaf £1.8 biliwn y flwyddyn i economi’r DU. Maent yn effeithio’n bennaf ar y sectorau ffermio a garddwriaethol ond gallant effeithio ar gludiant, adeiladu, hamdden, dyframaeth a chyfleustodau. Bydd angen Asesiadau Risg Bioddiogelwch ar gyfer pob cynnig lle cofnodir Rhywogaethau Estron Goresgynnol yn ardal y cais, neu lle mae risg y gallai gweithgareddau adeiladu / datblygu ledaenu’r rhywogaethau hyn i’r safle. Bydd yr asesiadau hyn yn manylu ar raglen ddileu Rhywogaethau Estron Goresgynnol ar safle'r cais, a chaiff mesurau bioddiogelwch eu cynnwys mewn Cynllun Rheoli Amgylcheddol Adeiladu (CEMP). Sylw
5.5.63 Mae Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 yn nodi’r gofyniad ar gyfer 'rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy' ynghyd â ffyrdd newydd o weithio i gyflawni hyn. Mae Rhan 1 o Ddeddf yr Amgylchedd yn nodi dull Cymru o gynllunio a rheoli adnoddau naturiol ar lefel genedlaethol a lleol, gyda phwrpas cyffredinol yn gysylltiedig ag 'egwyddorion rheoli cynaliadwy ar adnoddau naturiol' a ddiffinnir yn y Ddeddf. Mae 3 prif rhan gyfansoddol i Ran 1 Deddf yr Amgylchedd: Sylw
- Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol (SoNaRR) – Adroddiad a gynhyrchwyd gan Gyfoeth Naturiol Cymru sy’n rhoi asesiad o adnoddau naturiol a pha mor dda mae Cymru yn eu rheoli mewn ffordd gynaliadwy.
- Polisi Adnoddau Naturiol – Polisi a gynhyrchwyd gan Lywodraeth Cymru sy’n nodi'r blaenoriaethau, y risgiau a’r cyfleoedd ar gyfer rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy. Mae’r polisi yn ystyried canfyddiadau’r adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol.
- Datganiadau Ardal – Sail dystiolaeth leol a gynhyrchwyd gan Gyfoeth Naturiol Cymru sy’n helpu i weithredu’r blaenoriaethau, y risgiau a’r cyfleoedd a nodwyd yn y Polisi Cenedlaethol a sut mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn bwriadu mynd i’r afael â’r rhain (yn dechrau ddiwedd 2017 ymlaen).
5.5.64 Mae Adran 7 - Rhestrau bioamrywiaeth a dyletswydd i gymryd camau i gynnal a gwella bioamrywiaeth yn disodli’r ddyletswydd yn adran 42 o Ddeddf yr Amgylchedd Naturiol a Chymunedau Gwledig 2006. Bydd Gweinidogion Cymru yn cyhoeddi, yn adolygu ac yn diwygio rhestrau o organebau byw a mathau o gynefinoedd yng Nghymru, y maent yn ystyried eu bod o arwyddocâd allweddol i gynnal a gwella bioamrywiaeth mewn perthynas â Chymru. Sylw
5.5.65 Mae’n rhaid i Weinidogion Cymru hefyd gymryd pob cam rhesymol i gynnal a gwella’r organebau byw a mathau o gynefinoedd sydd ar unrhyw restrau a gyhoeddir o dan yr adran hon, ac annog eraill i gymryd camau o’r fath. Sylw
5.5.66 Am restr o’r organebau byw o’r pwys mwyaf at ddiben cynnal a gwella bioamrywiaeth mewn perthynas â Chymru, gweler Adran 7 Rhywogaethau a flaenorir Sylw
5.5.67 Am restr o’r cynefinoedd o’r pwys mwyaf at ddiben cynnal a gwella bioamrywiaeth mewn perthynas â Chymru, gweler Adran 7 Cynefinoedd a flaenorir Sylw
5.5.68 Wrth wraidd polisi natur yr Undeb Ewropeaidd mae creu rhwydwaith ecolegol cydlynol o ardaloedd gwarchodedig ar draws yr UE. Gelwir hyn yn ‘rhwydwaith Natura 2000’. Mae'r ardaloedd gwarchodedig hyn ar gyfer cynefinoedd a rhywogaethau yr ystyrir eu bod o arwyddocâd rhyngwladol eithriadol. Eu pwrpas yw cynnal neu adfer y cynefinoedd a’r rhywogaethau ar ‘statws cadwraeth ffafriol’ yn eu cynefin. Mae’r rhwydwaith yn cynnwys: Sylw
- Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig – wedi’u dosbarthu i warchod adar prin a diamddiffyn, a rhywogaethau mudol cyffredin;
- Ardaloedd Cadwraeth Arbennig – wedi’u dynodi oherwydd eu cyfraniad pwysig at warchod cynefinoedd naturiol a rhywogaethau’r planhigion a’r anifeiliaid y maent yn eu cynnal.
5.5.69 Yn ogystal, mae rhai rhywogaethau o blanhigion ac anifeiliaid yn cael amddiffyniad ychwanegol. Gelwir y rhain yn ‘Rhywogaethau a Warchodir gan Ewrop’. Mae gan Gymru 21 o Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig ar gyfer adar diamddiffyn, a 92 o Ardaloedd Cadwraeth Arbennig ar gyfer rhywogaethau prin eraill a chynefinoedd naturiol dan fygythiad. Gyda’i gilydd maent yn ffurfio rhwydwaith Natura 2000 yng Nghymru. Sylw
5.5.70 Cyflwynodd Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 ddyletswydd bioamrywiaeth a chadernid ecosystemau uwch (Dyletswydd Adran 6). Mae’r ddyletswydd hon yn berthnasol i awdurdodau cyhoeddus wrth ymarfer eu swyddogaethau mewn perthynas â Chymru a bydd yn helpu i wneud y mwyaf o gyfraniadau at gyflawni’r nodau lles. Sylw
5.5.71 Mae’r Cynllun Gweithredu Adfer Natur yn cefnogi’r gofyniad deddfwriaethol hwn i wrthdroi’r dirywiad mewn bioamrywiaeth, mynd i’r afael ag achosion sylfaenol colli bioamrywiaeth drwy roi natur wrth wraidd y broses o wneud penderfyniadau, a chynyddu gwydnwch ecosystemau drwy gymryd camau penodol sy’n canolbwyntio ar yr amcanion ar gyfer cynefinoedd a rhywogaethau. Mae gan y system gynllunio rôl allweddol i’w chwarae wrth helpu i wrthdroi’r dirywiad mewn bioamrywiaeth a chynyddu gwydnwch ecosystemau, ar wahanol raddfeydd, drwy sicrhau bod mecanweithiau priodol ar waith i ddiogelu rhag colled ac i sicrhau gwelliant. Sylw
5.5.72 Bydd y strategaethau, polisïau’r CDLlN a chynigion datblygu yn ystyried yr angen i: Sylw
- gefnogi cadwraeth bioamrywiaeth, yn enwedig cadwraeth bywyd gwyllt a chynefinoedd;
- sicrhau bod gweithredu yng Nghymru’n cyfrannu at gyflawni cyfrifoldebau a rhwymedigaethau rhyngwladol ar gyfer bioamrywiaeth a chynefinoedd;
- sicrhau bod safleoedd sydd wedi'u dynodi'n statudol ac anstatudol yn cael eu diogelu a'u rheoli'n briodol;
- diogelu rhywogaethau a warchodir a rhywogaethau â blaenoriaeth ac asedau bioamrywiaeth presennol rhag effeithiau sy’n effeithio’n uniongyrchol ar eu buddiannau cadwraeth natur ac sy’n peryglu gwydnwch rhwydweithiau ecolegol a’r cydrannau sy’n sail iddynt, megis dŵr a phridd, gan gynnwys mawn; a
- datblygu a gwella gwydnwch ecosystemau drwy wella eu hamrywiaeth, eu cyflwr, eu maint a’u cysylltedd o rwydweithiau ecolegol.
5.5.73 Mae’r Cyngor yn ceisio cynnal a gwella bioamrywiaeth wrth ymarfer ei swyddogaethau (Dyletswydd Bioamrywiaeth a Gwydnwch Ecosystemau o dan Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016). Mae hyn yn golygu na ddylai datblygiad achosi unrhyw golled sylweddol o ran cynefinoedd neu boblogaethau o rywogaethau, yn lleol nac yn genedlaethol ac mae’n rhaid iddo ddarparu budd net ar gyfer bioamrywiaeth. Wrth wneud hynny, rhaid i awdurdodau cynllunio hefyd ystyried hyrwyddo gwydnwch ecosystemau, yn enwedig yr agweddau canlynol: Sylw
- amrywiaeth rhwng ac o fewn ecosystemau;
- Cysylltiadau rhwng ac o fewn ecosystemau;
- Maint ecosystemau;
- Cyflwr ecosystemau, gan gynnwys eu strwythur a’u swyddogaeth; a
- Gallu'r ecosystemau i addasu.
5.5.74 Wrth gyflawni’r ddyletswydd hon, mae’r Cyngor yn ystyried: Sylw
- y rhestr o gynefinoedd a rhywogaethau o’r pwys mwyaf i Gymru, a gyhoeddwyd o dan Adran 7 Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016;
- yr Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol (SoNaRR), a gyhoeddwyd gan CNC; ac
- unrhyw Ddatganiad Ardal sy’n cynnwys y cyfan neu ran o’r ardal y mae’r awdurdod yn ymarfer ei swyddogaethau. Bydd Datganiadau Ardal yn cael eu paratoi gan CNC, a fydd hefyd yn llywio’r Asesiad Isadeiledd Gwyrdd.
Rhwydweithiau Ecolegol Gwydn Sylw
5.5.75 Mae CNC wedi cynhyrchu canllaw i Ymarferwyr i Rwydweithiau Ecolegol Gwydn, y dylid ei ddefnyddio i ddangos bod Awdurdodau Cyhoeddus yn ystyried agweddau ecosystem. Sylw
5.5.76 Mae mapiau rhwydwaith cynefinoedd yn adnodd allweddol ar gyfer deall a llywio ymyriadau i wella cysylltedd ecolegol, ac felly i helpu i adeiladu gwydnwch ecosystemau. Gellir eu defnyddio i nodi meysydd cysylltedd pwysig i'w diogelu ac ardaloedd lle mae cyfleoedd i wella cysylltedd, drwy adfer neu greu cynefinoedd er enghraifft. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn Cyfoeth Naturiol Cymru / Canllaw Ymarferwyr i Rwydweithiau Ecolegol Gwydn Sylw
Gwarchod a rheoli safleoedd dynodedig Sylw
NE/9 gwarchod a rheoli safleoedd dynodedig Sylw
Bydd effaith datblygu ar safle gwarchod natur statudol neu anstatudol yn cael ei asesu yn erbyn y polisi a’r canllawiau cenedlaethol perthnasol yn unol â’r dull fesul cam a fframwaith DECCA.
Dangosir Safleoedd o Bwysigrwydd Cadwraeth Natur, Ardaloedd Cadwraeth Natur Lleol neu Safleoedd o Ddiddordeb Daearegol ar y map cynigion. Caniateir datblygiad yn amodol ar y canlynol:
- Bod nodweddion yr ardal/safle yn cael eu cadw, a’u gwella lle y bo’n bosibl; neu
- Ni ellid lleoli'r datblygiad yn rhesymol yn rhywle arall, a dangosir nad oes dewis arall addas, ac mae angen/buddiannau'r datblygiad yn gorbwyso cadwraeth natur yr ardaloedd/safleoedd. Mae angen i geisiadau cynllunio ddarparu mesurau lliniaru a/neu ddigolledu priodol os nad oes modd osgoi'r effeithiau andwyol.
5.5.77 Mae gan y system gynllunio rôl allweddol i’w chwarae wrth helpu i wrthdroi’r dirywiad mewn bioamrywiaeth a chynyddu gwydnwch ecosystemau, ar wahanol raddfeydd, drwy sicrhau bod mecanweithiau priodol ar waith i ddiogelu rhag colled ac i sicrhau gwelliant. Dylai mynd i’r afael â chanlyniadau newid yn yr hinsawdd fod yn rhan ganolog o unrhyw fesurau i warchod bioamrywiaeth a gwydnwch ecosystemau. Sylw
5.5.78 Gall unrhyw gynnig datblygu effeithio ar safleoedd cadwraeth a rhywogaethau a warchodir, naill ai'n uniongyrchol neu'n anuniongyrchol. Mae canllawiau sy'n ymwneud â diogelu bioamrywiaeth a safleoedd cadwraeth wedi'u cynnwys ym Mholisi Cynllunio Cymru. Sylw
5.5.79 Mae'n rhaid i’r datblygiad ystyried arwyddocâd cymharol dynodiadau rhyngwladol, cenedlaethol a lleol wrth ystyried y pwysau sydd i'w roi ar fuddiannau cadwraeth natur. Ceir canllawiau pellach, yn enwedig mewn perthynas â safleoedd Natura 2000, yn TAN5: Cadwraeth Natur a Chynllunio. Sylw
5.5.80 Rhaid diogelu safleoedd sydd wedi'u dynodi'n statudol rhag difrod a dirywiad, gyda'u nodweddion pwysig yn cael eu cadw a'u gwella gan waith rheoli hirdymor priodol. Dylid cydnabod cyfraniad y safle dynodedig i rwydwaith ehangach o ecosystemau gwydn fel rhan o’r polisi a’r broses wneud penderfyniadau. Sylw
5.5.81 Dylid ymgorffori cyfleoedd i adfer rhwydweithiau o gynefinoedd i gyflwr iach, fel y nodir yn yr Asesiad Isadeiledd Gwyrdd. Rhaid nodi ymyriadau priodol i sicrhau darpariaeth yn erbyn agweddau o wydnwch, amrywiaeth, cysylltedd, graddfa, cyflwr a gallu i addasu. Sylw
5.5.82 Bydd safleoedd sydd wedi'u dynodi'n statudol wedi’u diogelu rhag difrod a dirywiad, gyda'u nodweddion pwysig yn cael eu cadw a'u gwella gan waith rheoli priodol. Bydd cyfleoedd i adfer rhwydweithiau o gynefinoedd i gyflwr iach yn cael eu nodi o ganlyniad i gynnal yr Asesiad Isadeiledd Gwyrdd, ynghyd â nodi ymyriadau priodol i sicrhau darpariaeth yn erbyn agweddau gwydnwch, amrywiaeth, cysylltedd, graddfa, cyflwr a gallu i addasu. Sylw
5.5.83 Mae cysylltedd yn ymwneud â galluogi bioamrywiaeth i ledaenu, neu fod yn gysylltiedig â chynefinoedd priodol neu ecosystemau tebyg. Mae hyn yn osgoi ‘ynysoedd’ o gynefinoedd neu boblogaethau rhag datblygu a chael eu hynysu oddi wrth eraill. Mae hefyd yn gwella gwydnwch poblogaethau a chynefinoedd i wrthsefyll effeithiau newid yn yr hinsawdd, pwysau datblygiadau a newidiadau i’r gwaith rheoli tirwedd ehangach. Gall llawer o fesurau sy'n amddiffyn, rheoli a gwella bioamrywiaeth hefyd fod yn allweddol i sicrhau mwy o gysylltedd. Sylw
5.5.84 Mae SoDdGA o bwysigrwydd cenedlaethol. Mae Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981, fel y’i diwygiwyd gan Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000, yn gosod dyletswydd ar bob corff cyhoeddus, gan gynnwys awdurdodau cynllunio, i gymryd camau rhesymol, sy’n gyson ag arfer eu swyddogaethau’n briodol, i hybu cadwraeth a gwella'r nodweddion sy’n eu gwneud yn SoDdGA. Gall SoDdGA gael eu difrodi gan ddatblygiadau o fewn neu gerllaw eu ffiniau, ac mewn rhai achosion, gan ddatblygiadau sydd gryn bellter i ffwrdd. Ceir rhagdybiaeth yn erbyn datblygiad sy’n debygol o niweidio SoDdGA a dylid adlewyrchu’r rhagdybiaeth hon yn briodol mewn polisïau CDLl a phenderfyniadau rheoli datblygu. At ddibenion cynllunio defnydd tir, bydd SoDdGA arfaethedig yn cael eu trin yn yr un modd â SoDdGA hysbys. Sylw
5.5.85 Gwarchod, Rheoli a Gwella Bioamrywiaeth a Geoamrywiaeth ar Lefel y Safle. Bydd yn ofynnol i gynigion ddangos sut y maent yn bwriadu gwarchod, rheoli neu wella buddiannau bioamrywiaeth ar safle penodol. Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd hyn yn golygu casglu a chyflwyno tystiolaeth ategol ar gyfer y cynnig. Bydd y gofynion ar gyfer y dystiolaeth hon yn amrywio yn dibynnu ar effeithiau tebygol y cynigion. Lle mae effeithiau ar fioamrywiaeth yn debygol, bydd angen cynnal Arolwg Ecolegol llawn a Chynllun Lliniaru. Lle ystyrir bod gan y cynigion botensial i effeithio ar safle Ewropeaidd, bydd angen cynnal ymarfer Sgrinio’r Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd ar y cynigion. Mae hyn er mwyn sefydlu a allai’r cynigion arwain at effaith sylweddol debygol ar y safle a’i nodweddion cysylltiedig, naill ai ar eu pen eu hunain neu mewn cyfuniad â chynlluniau neu brosiectau eraill. Os daw’r broses sgrinio i’r casgliad yr ystyrir y cynigion yn debygol o gael effaith negyddol sylweddol (naill ai ar eu pen eu hunain neu gyda’i gilydd) ar safle Ewropeaidd, a lle nad oes mesurau i osgoi’r tebygolrwydd hwnnw ar gael, bydd angen Asesiad Priodol i ganfod a fydd y cynigion yn cael effaith andwyol ar gyfanrwydd y safle Ewropeaidd. At ddibenion cynllunio defnydd tir, bydd SoDdGA arfaethedig yn cael eu trin yn yr un modd â SoDdGA hysbys. Sylw
Ardaloedd arfordirol Sylw
SO13:cefnogi twf, adfywio a chyfleoedd datblygu mewn Ardaloedd Arfordirol, wrth fod yn ymwybodol ac ymatebol i’r heriau sy’n dod o bwysau naturiol hefyd. Sylw
5.5.86 Mae’r Cynllun Morol yn nodi cyfleoedd ar gyfer datblygu moroedd Cymru yn gynaliadwy drwy lywio datblygiadau newydd a phenderfyniadau cysylltiedig ar y glannau ac ar y môr. Sylw
5.5.87 Y prif egwyddorion cynllunio ar gyfer mannau arfordirol, sy’n adlewyrchu egwyddorion Rheoli Parthau Arfordirol Integredig, yw cefnogi datblygiadau trefol a gwledig gan fod yn ymwybodol ar yr un pryd o’r heriau sy’n tarddu o’r rhyngweithio deinamig rhwng pwysau naturiol a phwysau datblygu mewn ardaloedd arfordirol, ac ymateb yn briodol iddynt. Mae hyn yn mynnu gwytnwch ecolegol a ffisegol gan y CDLlN ac mae angen iddo allu addasu i newidiadau cymdeithasol ac economaidd. Bydd cymryd y pethau hyn i ystyriaeth yn sicrhau bod y CDLlN a’r Cynllun Morol yn gydnaws. Sylw
5.5.88 Bydd y CDLlN yn nodi’n glir beth mae'r arfordir yn ei olygu i'r ardal a bydd yn cymhwyso polisïau penodol sy'n adlewyrchu nodweddion eu harfordiroedd, gan gynnwys y rhyngberthynas rhwng nodweddion ffisegol, ecolegol a defnydd tir yr ardaloedd arfordirol ac effeithiau newid hinsawdd. Mae hyn yn cynnwys ystyried yr effeithiau posibl sy’n gysylltiedig â chynnydd graddol mewn peryglon arfordirol dros amser, yn ogystal ag unrhyw newidiadau buddiol graddol mewn defnydd tir. Bydd hyn yn golygu nodi ardaloedd sy’n debygol o fod yn addas i’w datblygu, yn ogystal â’r rheiny sy’n destun cyfyngiadau arwyddocaol ac a ystyrir yn anaddas ar gyfer datblygiad. Gallai ardaloedd sy’n destun cyfyngiadau neu a ystyrir yn anaddas ar gyfer datblygiad gynnwys y rheiny lle: Sylw
- mae cadwraeth neu wella amgylchedd naturiol a hanesyddol yn golygu bod yn rhaid cyfyngu ar ddatblygu;
- bydd angen rhoi ystyriaeth ofalus i ymyrraeth weledol a gwelededd rhwng tir a môr;
- mae polisïau penodol i’w dilyn mewn ardaloedd Arfordir Treftadaeth;
- dylid gwarchod mynediad at lwybrau arfordirol; ac
- efallai y bydd perygl o erydiad, llifogydd neu ansefydlogrwydd tir, halogiad neu lygredd.
5.5.89 Bydd Datganiadau Ardal a chynlluniau lleol eraill ar gyfer ardaloedd arfordirol yn darparu gwybodaeth berthnasol i lywio'r CDLlN. Sylw
5.5.90 Ardal Cymeriad Morol 02. Bae Colwyn a Gwastadeddau’r Rhyl ac Ardal Cymeriad Morol 03. Mae Traeth Coch a Bae Conwy yn berthnasol i ardal y cynllun a dylid eu hystyried fel rhan o unrhyw ddatblygiad ar y môr a’r arfordir a allai effeithio arnyn nhw. Sylw
5.5.91 Mae’r Ardaloedd Cymeriad Morol ar gael ar wefan CNC. Sylw
Datblygiad ar yr arfordir Sylw
5.5.92 Mae gan Fwrdeistref Sirol Conwy lefel uchel o ddatblygiadau presennol, isadeiledd a phoblogaeth mewn ardaloedd sydd mewn perygl o lifogydd. Ni ddylai datblygiadau newydd gael eu cynnig mewn lleoliadau arfordirol fel arfer. Yn arbennig, anaml y bydd ardaloedd arfordirol heb eu datblygu, yn enwedig y rheiny mewn perygl o lifogydd, yn lleoliad priodol ar gyfer datblygu. Pan fydd angen lleoliad arfordirol ar ddatblygiadau newydd, fel arfer, ardaloedd arfordirol sydd eisoes wedi’u datblygu fydd yr opsiwn gorau, ar yr amod bod materion sy'n gysylltiedig â newid arfordirol wedi cael eu hystyried. Mae materion o'r fath yn cynnwys peryglon erydiad, llifogydd, newid hinsawdd, ansefydlogrwydd tir, a'r dulliau o fynd i'r afael â pheryglon o'r fath, a chyfleoedd ar gyfer bioamrywiaeth a gwytnwch ecolegol. Cyn y gellir rhoi caniatâd i ddatblygiadau parhaol a hirdymor, gan gynnwys y rheiny o bwysigrwydd rhanbarthol neu genedlaethol, bydd yn hanfodol eu bod yn dangos bod lleoliad arfordirol yn ofynnol yn seiliedig ar nodweddion yr arfordir dan sylw. Lle gellir cyfiawnhau’r datblygiad, dylid ei ddylunio fel ei fod yn wydn i effeithiau newid hinsawdd yn ystod ei oes heb arwain at gynnydd graddol annerbyniol mewn risg. Sylw
Y Parth Arfordirol Sylw
5.5.93 Ar hyd yr arfordir sydd heb ei ddatblygu, rhoddir blaenoriaeth i ddiogelu a gwella'r tirlun, y morlun, bioamrywiaeth a'r amgylchedd hanesyddol. Dim ond ar gyfer cynlluniau rheoli arfordirol angenrheidiol y caniateir datblygiad. Dylai cynigion roi ystyriaeth lawn i unrhyw gynlluniau rheoli a chynlluniau ar gyfer ardaloedd gwarchodedig. Dylai unrhyw gynlluniau rheoli arfordirol warchod, gwella a, lle bo hynny’n briodol, creu cysylltiadau cerdded â Llwybr Arfordir Cymru. Anogir darparu llwybrau Teithio Llesol ychwanegol i gysylltu cymunedau a llwybrau presennol â Llwybr Arfordir Cymru. Sylw
NE/10 y Parth Arfordirol, newid arfordirol a’r Cynllun Rheoli Traethlin. Sylw
Mae’r Parth Arfordirol wedi ei ddiffinio ar y map cynigion. Dim ond dan yr amgylchiadau isod y bydd datblygiad yn y Parth Arfordirol, y tu allan i ffiniau anheddiad, yn cael ei ganiatáu. Pan fydd datblygiad yn:
- Cyd-fynd ag amcanion y Cynllun Rheoli Traethlin drwy gydol oes y prosiect neu’r datblygiad.
- Yn gofyn am leoliad arfordirol yn benodol;
- Yn cyfrannu at gadwraeth a gwella bioamrywiaeth a gwytnwch ecosystem, fel y diffinnir yn Neddf Amgylchedd (Cymru) 2016 a gwella isadeiledd gwyrdd a llwybrau teithio llesol lle mae’n briodol yn unol â pholisïau NE/6, NE/7 a NE/8;
- Lle nad yw’n effeithio’n andwyol ar natur agored y parth na gwerth y parth o ran gwarchod byd natur;
- Lle nad yw’n tynnu oddi ar y gwerth i dwristiaeth neu gyfleusterau;
- Lle nad yw’n ymyrryd gyda phrosesau arfordirol naturiol neu’n atal swyddogaeth unrhyw strwythurau amddiffyn arfordirol presennol neu Strategaeth Rheoli Risg Llifogydd Lleol yn unol â pholisi NE/2;
- Yn cadw ac yn gwella treftadaeth ddiwylliannol cymunedau arfordirol Conwy ac yn hyrwyddo’r Gymraeg yn unol â pholisi PL/7; ac yn
- Cyfrannu at y trawsnewid tuag at gyflawni datblygiad economaidd cynaliadwy, carbon isel, gan leihau allyriadau carbon a chynyddu gwytnwch pobl, lleoedd a’r amgylchedd i wrthsefyll effeithiau newid hinsawdd.
5.5.94 Yr arfordir annatblygedig yw un o asedau mwyaf y Sir ac mae ei synergedd unigryw â’r ardal drefol yn rhoi cymeriad nodedig a rhagorol i’r Sir. Mae'r arfordir annatblygedig yn cynnwys yr ardal o dir a'r môr cyfagos yr ystyrir eu bod yn dibynnu ar ei gilydd. Mae'r ardaloedd datblygedig o gyrchfannau ymwelwyr a hamdden wedi'u heithrio. Mae Llwybr Arfordir Cymru Gyfan yn mynd drwy’r arfordir sydd heb ei ddatblygu, y mae ei harddwch naturiol yn rhan o’i atyniad golygfaol. Sylw
Cynllun Rheoli Traethlin a newid arfordirol Sylw
5.5.95 Dogfen bolisi anstatudol ar gyfer cynllunio i reoli’r gwaith o amddiffyn yr arfordir yw Cynllun Rheoli Traethlin. Mae'n ystyried mentrau cynllunio eraill sy'n bodoli a gofynion deddfwriaethol, a'i fwriad yw llywio gwaith cynllunio strategol ehangach. Nid yw'n pennu polisi ar gyfer unrhyw beth heblaw rheoli’r gwaith o amddiffyn yr arfordir. Sylw
5.5.96 Nod Cynllun Rheoli Traethlin yw darparu asesiad eang ar raddfa fawr o’r risgiau sy’n gysylltiedig ag esblygiad arfordirol, a chydbwyso’r gwaith o reoli risgiau llifogydd arfordirol ac erydu sy’n gysylltiedig â phrosesau arfordirol megis tonnau a llanw. Yna mae'n anelu at gyflwyno fframwaith polisi i fynd i'r afael â'r risgiau i bobl a'r amgylchedd datblygedig, hanesyddol a naturiol mewn modd cynaliadwy dros y 100 mlynedd nesaf. Sylw
5.5.97 Mae’r Cynllun Rheoli Traethlin yn nodi’r polisïau rheoli mwyaf cynaliadwy dros dri phrif amserlen – y presennol (0-20 mlynedd), y tymor canolig (20-50 mlynedd) a’r hirdymor (50-100 mlynedd). Mae pedwar opsiwn o ran polisi: Sylw
- Cynnal y Llinell,
- Gwella’r Llinell,
- Adlinio a Reolir,
- Dim Ymyrraeth Weithredol.
5.5.98 Yng Nghonwy, y strategaeth bresennol ar gyfer y rhan fwyaf o’n harfordir yw ‘cynnal y llinell’. Mae dau Gynllun Rheoli Traethlin ar waith yng Nghonwy – Cynllun Rheoli Traethlin Gorllewin Cymru a Chynllun Rheoli Traethlin Gogledd-orllewin Lloegr a Gogledd Cymru. Sylw
5.5.99 Fel rhan o’r nod i ddeall nodweddion morlinau, cydnabyddir y gall cynnydd yn lefel y môr, ymchwydd stormydd, effaith tonnau a newidiadau mewn morffoleg arfordirol a chyflenwad gwaddod arwain at effeithiau uniongyrchol ac anuniongyrchol ar yr arfordir ac ar afonydd llanw. Mae ansicrwydd yn gwaethygu ymhellach gan effeithiau newid hinsawdd. Er y gall morffoleg yr arfordir fod yn nodwedd amddiffynnol yn erbyn cynnydd yn lefel y môr, ymchwydd stormydd ac effaith tonnau, mae’n bosibl y gall adeiladu amddiffynfeydd arfordirol ddylanwadu ar gyflenwad gwaddod drwy drosglwyddo peryglon erydiad i rywle arall. Dylid osgoi'r posibilrwydd hwn, o ystyried bod erydiad a'r perygl o lifogydd yn debygol o gael eu gwaethygu gan newid hinsawdd. Sylw
5.5.100 Nid yw'n briodol i ddatblygiad mewn un lleoliad ychwanegu'n annerbyniol at effeithiau newid ffisegol i'r arfordir mewn lleoliad arall. Sylw
5.5.101 Caiff Cynlluniau Rheoli Traethlin eu datblygu gan awdurdodau lleol mewn partneriaeth ag amrywiaeth o fudd-ddeiliaid, ac maent yn sefydlu fframweithiau polisi lleol hirdymor ar gyfer rheoli perygl arfordirol. Bydd y blaenoriaethau sydd ynddynt yn dylanwadu ac yn llywio'r CDLlN. Lle pennir na fydd amddiffynfeydd arfordirol yn cael eu cynnal mwyach, bydd y CDLlN yn cynnwys polisïau clir a phenodol i reoli datblygiad mewn ardaloedd o’r fath, gan gynnwys lle byddai datblygiad yn anaddas neu lle dylid ystyried nodweddion penodol. Sylw
5.5.102 Bydd Cynllun Rheoli Traethlin yn dylanwadu ar p’un a ellir cyfiawnhau’r datblygiad ei hun neu sut y dylid ei ddylunio. Cwmpesir rhai ardaloedd o arfordir gan bolisïau ymyrraeth weithredol mewn CRhTau i amddiffyn y llinell, ac mae amserlenni clir ar waith i lywodraethu’r polisïau hyn. Sylw
5.5.103 Ni fydd gan ardaloedd eraill, a allai fod wedi’u datblygu eisoes, ymyraethau gweithredol sy'n gysylltiedig ag amddiffyn, neu efallai y byddant wedi rheoli rhwystr, neu wedi adlinio’r arfordir, ac wedi eu nodi fel yr ymateb priodol i lifogydd. Sylw
5.5.104 Bydd galluogi modd o addasu i newid, gan gynnwys newid yn yr hinsawdd, yn ystyriaeth allweddol a dylid nodi mesurau i leihau gwendidau a cheisio cyfleoedd i feithrin gwydnwch mewn cymunedau, yn enwedig fel rhan o’r gwaith i baratoi cynlluniau datblygu. Dylid ystyried yn ofalus natur defnyddiau newydd a allai fod yn addas mewn ardaloedd sy’n debygol o newid, gan gynnwys effeithiau, neu’r cyfleoedd a gynigir, drwy wneud newidiadau cynyddrannol mewn ardal. Dylid gwneud cysylltiadau hefyd â strategaethau ar gyfer darparu isadeiledd gwyrdd a chynlluniau draenio cynaliadwy. Dylid hefyd gwneud cysylltiadau â chynlluniau lles ehangach er mwyn sicrhau gwydnwch cymdeithasol ac economaidd aneddiadau a’u gallu i addasu i newid yn yr hirdymor. Sylw
Ardaloedd arfordirol a chynlluniau morol Sylw
NE/11 ardaloedd arfordirol a Chynlluniau Morol Sylw
Dylai cynigion datblygu arfordirol fodloni amcanion a pholisïau Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru, Cymru’r Dyfodol, PCC a hefyd dylai gyflawni’r canlynol:
- Cymryd rhan yn gynnar yn y broses gynllunio ar draws a rhwng budd-ddeiliaid a darparu Datganiadau Cynllunio Morol lle bo angen, yn unol â chanllawiau cenedlaethol;
- Cefnogi cynaliadwyedd, bywiogrwydd ac ansawdd bywyd cymunedau arfordirol drwy gymhwyso sawl polisi cynllun sy'n integreiddio amcanion amgylcheddol, diwylliannol, cymdeithasol ac economaidd;
- Gwarchod a gwella treftadaeth ddiwylliannol cymunedau arfordirol a hyrwyddo’r Gymraeg yn unol â pholisi PL/7;
- Darparu’r isadeiledd, y cyfleusterau a’r gwasanaethau sy’n angenrheidiol i gefnogi datblygiad sy’n hygyrch i gynnal cymunedau, ac sy’n cynnig cysylltedd carbon isel a budd etifeddol;
- Cyfrannu at ffyniant lleol a datblygiad economaidd cynaliadwy hirdymor drwy greu cyfleoedd cyflogaeth lleol o ansawdd uchel, gan ystyried y gofynion tebygol ar gyfer hyfforddiant, a gweithio gyda sefydliadau hyfforddi cenedlaethol a llywodraethol;
- Cyfrannu at drawsnewid tuag at gyflawni datblygiad economaidd cynaliadwy, carbon isel; lleihau allyriadau carbon a chynyddu gwydnwch pobl, lleoedd a chynefinoedd i effeithiau newid yn yr hinsawdd yn unol â pholisïau N/E2 a PL/8;
- Seilio tystiolaeth a gwella gwerth cadwraeth, bioamrywiaeth a gwydnwch ecosystemau, fel y’u diffinnir yn Neddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 a pholisi NE/8.
5.5.105 Cyhoeddodd LlC gynllun morol cyntaf Cymru ym mis Tachwedd 2019. Mae’n nodi polisi cenedlaethol ar gyfer yr 20 mlynedd nesaf ar gyfer defnyddio rhanbarthau cynllun morol Cymru ar y glannau ac ar y môr. Mae wedi’i baratoi a’i fabwysiadu o dan Ddeddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009. Nodir bod ardal Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru ac ardal y CDLl yn gorgyffwrdd, gyda’r Cynllun Morol yn cael dylanwad hyd at lanw mawr cymedrig. Dylai ymgeiswyr ddefnyddio Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru a deunydd ategol i lunio cynigion a cheisiadau am drwyddedau, a dylai awdurdodau cyhoeddus ac eraill lywio penderfyniadau a deall polisi Llywodraeth Cymru ar gyfer datblygu cynaliadwy yn ardal y cynllun. Sylw
5.5.106 Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru yw’r cyntaf o’i fath i Gymru ac mae’n cynrychioli cychwyn proses o lunio ein moroedd i gefnogi amcanion economaidd, cymdeithasol, diwylliannol ac amgylcheddol. Bydd cynllunio morol yn llywio datblygiad cynaliadwy ein hardal forol drwy nodi sut y caiff cynigion eu hystyried gan y rhai sy’n gwneud penderfyniadau. Mae’r Cynllun Morol wedi llywio’r gwaith o baratoi Dyfodol Cymru a, lle y bo’n berthnasol, mae’n llywio Cynlluniau Datblygu Strategol a Lleol a phenderfyniadau cynllunio. Mae'r amserlenni ar gyfer cynhyrchu'r Cynllun Morol a Chymru'r Dyfodol wedi gorgyffwrdd, gan alluogi’r gwaith o gynhyrchu'r ddau gynllun i fod yn gysylltiedig. Mae Cymru’r Dyfodol a’r Cynllun Morol yn cydweithio i ddarparu fframwaith ar gyfer rheoli newid o amgylch ein harfordir. Mae cydlynu rhwng cynllunio ar y môr a’r tir yn bwysig i gynnal a hwyluso datblygiad busnesau harbwr a marina a mentrau cysylltiedig; cymunedau arfordirol; cyfleoedd twristiaeth; cynhyrchu ynni; a morluniau. Sylw
5.5.107 Mae Datganiad Ardal y Gogledd Orllewin a’r Datganiad Ardal Forol yn berthnasol i ardal y CDLlN. Sylw
5.5.108 Mae Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru yn cynghori y dylai awdurdodau cyhoeddus ddefnyddio dull cymesur, yn seiliedig ar risg, wrth gymhwyso polisïau cynllunio morol perthnasol wrth wneud penderfyniadau. Sylw
Rhinweddau amgylcheddol Sylw
SO15: lleihau dod i gysylltiad â llygredd aer a sŵn, cydbwyso darpariaeth datblygiad a golau i wella diogelwch, a gwarchod a gwella amgylchedd y dŵr ac adnoddau dŵr gan gynnwys faint o ddŵr wyneb a dŵr daear sydd, a’i ansawdd. Sylw
5.5.109 Mae’r adran strategol hon yn cydnabod cyfraniad rhinweddau amgylcheddol ardal CDLlN Conwy tuag at gyflawni dull creu lleoedd cynaliadwy a gwella lles a gwytnwch. Mae’r adran hon yn ymwneud â chadwraeth dŵr a draenio cynaliadwy, ansawdd aer, rheoli golau a seinwedd a rheoli risg llifogydd. Sylw
EQ/1 safon amgylcheddol Sylw
Mae'r ACLl wedi ymrwymo i warchod a gwella ansawdd yr amgylchedd, ansawdd ecosystemau a gwydnwch, tra'n gwarchod tirweddau, cynefinoedd ac asedau diwylliannol o fewn ardal y cynllun. Bydd hyn yn cael ei gyflawni drwy:
- Cynnal cyflenwad ac ansawdd dŵr a helpu i ddarparu isadeiledd effeithlon yn unol â pholisi EQ/2;
- Sicrhau ymyriadau cadwraeth dŵr a, lle bo'n briodol, cynlluniau Systemau Draenio Cynaliadwy integredig yn unol â pholisi EQ/2 a chanllawiau cenedlaethol;
- Caniatáu cynlluniau sy'n cynnal ansawdd aer a sain ac sy'n darparu cyn lleied â phosibl o oleuadau sensitif yn unol ag EQ/3 a chanllawiau arfer da cenedlaethol;
- Rheoli perygl llifogydd yn unol â pholisi EQ/5 a chanllawiau cenedlaethol.
Cadwraeth dŵr a draenio cynaliadwy Sylw
EQ/2 cadwraeth dŵr a draenio cynaliadwy Sylw
- Er mwyn amddiffyn ac arbed adnoddau a chyflenwadau dŵr er budd datblygu cynaliadwy, rhoddir pwyslais ar y canlynol yn yr ymarfer asesu a chydbwyso ar gyfer penderfynu ar y ceisiadau cynllunio:
- lle bo'n briodol, ymgorffori System Draenio Cynaliadwy y dylid ei chynnwys yn gynnar yn y cam dylunio a'i gweithredu yn unol â chanllawiau cenedlaethol a'r Corff Cymeradwyo Systemau Draenio Cynaliadwy;
- lleihau a datgarboneiddio’r ynni a ddefnyddir mewn cyflenwad dŵr;
- ymgorffori cynaeafu dŵr glaw a defnyddio systemau deuol i ailgylchu dŵr yfed a dŵr llwyd, lle maent yn effeithlon o ran ynni a chost;
- gweithio gyda darparwyr gwasanaeth i gynnal ac uwchraddio isadeiledd cyflenwad dŵr;
- sicrhau nad yw’r dŵr a gyflenwir yn debygol o arwain at effeithiau niweidiol arwyddocaol i fioamrywiaeth yn enwedig safleoedd dynodedig o bwysigrwydd Ewropeaidd i gadwraeth natur;
- dylunio datblygiadau preswyl fel bod lefelau defnyddio dŵr o’r prif gyflenwad yn cyrraedd targed o 105 litr y pen neu lai bob dydd; a,
- diogelu cyrsiau dŵr trwy wella coridorau gwyrdd / clustogfeydd glannau afon yn unol â pholisi NE/7 ac NE/8.
- ni fydd cynigion datblygu a fyddai’n cael effaith niweidiol arwyddocaol ar fioamrywiaeth, pysgodfeydd, mynediad cyhoeddus neu ddefnydd hamdden o adnoddau dŵr yn cael eu caniatáu.
- Dylai draenio dŵr budr gael ei ddarparu yn unol â chanllawiau cenedlaethol ac ni ddylai beri risg annerbyniol i ansawdd neu gyfanswm dŵr daear neu ddŵr wyneb, na halogi cyrsiau dŵr lleol neu safleoedd o bwysigrwydd bioamrywiaeth.
5.5.110 Wrth i'n hinsawdd newid, rhagwelir y bydd y pwysau ar adnoddau dŵr yn cynyddu. Yn ogystal â gofyniad uniongyrchol am oes, mae gwasanaethau dŵr sydd wedi'u cynllunio'n dda yn darparu ystod o fanteision a gwasanaethau i gymdeithas. Mae’r diwydiant dŵr ei hun yn ffynhonnell swyddi gwyrdd ac mae gwasanaethau dŵr yn cefnogi’r gwaith o gynhyrchu ynni a bwyd, hamdden a thwristiaeth, ac yn cysylltu cartrefi a busnesau â rhwydweithiau’r isadeiledd y maent yn dibynnu arnynt. Yn ogystal â hyn, mae ecosystemau naturiol presennol yn chwarae rhan bwysig wrth ddarparu ansawdd dŵr a rheoli llifogydd. Fel arfer daw'r cyflenwad dŵr oddi wrth ymgymerwr dŵr, ond mewn ardaloedd anghysbell efallai mai cyflenwadau dŵr preifat yw'r unig opsiwn ymarferol. Sylw
5.5.111 Mae adnoddau ac ansawdd dŵr yn cael eu hystyried ar gam cynnar yn y broses o nodi tir i’w ddatblygu a’i ailddatblygu mewn cydweithrediad â Dŵr Cymru. Dylai diogelu adnoddau dŵr fod yn seiliedig ar sicrhau defnydd cynaliadwy yn y dyfodol. Efallai na fydd defnyddiau dwys o ddŵr yn briodol mewn ardaloedd lle mae prinder a chyfyngiadau dŵr. Bydd datblygiadau newydd yn cael eu lleoli a’u gweithredu gyda darpariaeth gynaliadwy o wasanaethau dŵr mewn golwg, gan ddefnyddio dulliau dylunio a thechnegau sy’n gwella effeithlonrwydd dŵr ac yn lleihau effeithiau andwyol ar adnoddau dŵr. Mae hyn yn cynnwys ecoleg afonydd, gwlyptiroedd a dŵr daear a thrwy hynny yn cyfrannu at wydnwch ecolegol. Sylw
Capasiti cyflenwad dŵr ac isadeiledd carthffosiaeth / draenio Sylw
5.5.112 Bydd digonolrwydd y cyflenwad dŵr ac isadeiledd carthffosiaeth yn cael ei ystyried yn llawn wrth gynnig datblygiad yn y CDLlN, fel gwasanaeth dŵr ac oherwydd yr effeithiau amgylcheddol ac amwynder sy'n arwain at ddiffyg capasiti. Mae rhan bwysig i’r system gynllunio i sicrhau bod yr isadeiledd mae cymunedau a busnesau’n dibynnu arno’n ddigonol i ddarparu ar gyfer datblygiadau arfaethedig. Mae darparwyr gwasanaethau a CNC wedi cydweithredu o ran darparu gwasanaethau, datblygu a diogelu dalgylchoedd dŵr. Sylw
Ansawdd dŵr a llifogydd dŵr wyneb Sylw
5.5.113 Mae glaw o ddwysedd uwch yn arwain at heriau i systemau draenio, gan achosi llifogydd dŵr wyneb a llygredd gwasgaredig. Mae’r berthynas rhwng y mathau amrywiol o isadeileddau draenio yn gymhleth, er enghraifft, mae rhai draeniau priffyrdd yn cludo dŵr wyneb o garthffosydd cyhoeddus a rhai isadeileddau priffyrdd yn gollwng i garthffosydd cyhoeddus. Mae deall y rôl y mae gwahanol fathau o isadeileddau yn ei chwarae yn bwysig wrth sicrhau'r dull gorau o osgoi llifogydd a llygredd gwasgaredig. Mae cydweithio effeithiol wedi digwydd rhwng awdurdodau draenio, priffyrdd a chynllunio wrth lywio'r CDLlN. Sylw
5.5.114 Mae llygredd gwasgaredig a llifogydd dŵr wyneb yn codi o ganlyniad i ddŵr ffo o arwynebau adeiledig, o fathau o ddatblygiadau a allai fod yn llygru a thrwy ollyngiadau carthffosiaeth o garthffosydd gorlawn neu o isadeiledd preifat, er enghraifft, tanciau septig. Bydd yr ACLl yn ceisio sicrhau gwell rheolaeth dros systemau draenio a dŵr wyneb er mwyn mynd i’r afael â’r materion hyn trwy: Sylw
- sicrhau bod systemau draenio cynaliadwy yn cael eu hymgorffori mewn datblygiadau gan ganiatáu i ddŵr wyneb gael ei reoli yn y ffynhonnell neu’n agos ati, gan ddarparu nifer o fanteision gan gynnwys gwella bioamrywiaeth; a
- sicrhau cysylltiad â'r garthffos mewn ardaloedd â charthffosiaeth a chael llai o systemau carthffosiaeth preifat.
- Systemau draenio cynaliadwy (SuDS) a datblygiad
5.5.115 Bydd darparu SuDS yn cael ei ystyried fel rhan annatod o ddyluniad datblygiad newydd a'i ystyried cyn gynted â phosibl wrth lunio cynigion ar gyfer datblygiad newydd. Wrth arwain datblygiadau newydd, dylai'r system gynllunio sicrhau bod mesurau'n cael eu hymgorffori ar raddfa safle unigol, yn enwedig mewn ardaloedd trefol, er mwyn sicrhau manteision cronnus dros ardal ehangach. Bydd ymdrech gydlynol o'r natur hon yn dod â manteision dros ddalgylch cyfan. Ar lefel cynllun datblygu, fodd bynnag, bydd manteision sylweddol yn gysylltiedig â datblygu dulliau cydweithredol a fydd, o dystiolaeth a gafwyd trwy asesiadau isadeiledd gwyrdd, yn integreiddio SuDS fel rhan o strategaethau twf ar gyfer ardaloedd penodol. Sylw
5.5.116 Mae datblygiadau newydd o fwy nac un annedd neu os yw’r ardal sy’n cynnwys y gwaith adeiladu yn gyfwerth â neu’n fwy na 100 metr sgwâr, angen cymeradwyaeth gan Gorff Cymeradwyo SuDS (SAB) cyn i’r gwaith adeiladu ddechrau. Rhaid i drefniadau mabwysiadu a rheoli, gan gynnwys mecanwaith cyllido ar gyfer cynnal a chadw isadeiledd SuDS a holl elfennau draenio, gael eu cytuno gan SAB fel rhan o’r cam cymeradwyo hwn. Bydd hyn yn sicrhau y bydd isadeiledd SuDS yn cael eu cynnal yn iawn ac yn gweithio’n effeithiol ar gyfer ei oes dylunio. Sylw
5.5.117 Mae cyrff dŵr trosiannol ac arfordirol wedi'u gwarchod o dan y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr gyda'r nod o gyflawni statws cyffredinol da. Rhaid i bob cais, ar wahân i geisiadau gweithgaredd risg isel Band 1, gael asesiad Cyfarwyddeb Fframwaith Dŵr i gyd-fynd ag o. Mae rhagor o wybodaeth am y cynllun grant ar gael ar ein gwefan. Sylw
Ansawdd aer, seinwedd a rheoli golau Sylw
EQ/2 cadwraeth dŵr a draenio cynaliadwy Sylw
- Caiff cynigion datblygu eu caniatáu pan nad yw unrhyw lygredd aer, sain neu olau canlyniadol yn achosi neu'n arwain at risg annerbyniol o niwed i iechyd pobl neu'r amgylchedd naturiol, gan gynnwys rhywogaethau gwarchodedig neu ar Warchodfa Awyr Dywyll Eryri, yn unig. Bydd angen i gynigion ddangos bod modd gweithredu mesurau i oresgyn unrhyw risgiau niweidiol sylweddol, gyda sylw penodol yn cael ei roi i:
- Amcanion Strategaeth Ansawdd Aer Cenedlaethol ac unrhyw Ardaloedd Rheoli Ansawdd Aer / ardaloedd blaenoriaeth cynllunio camau gweithredu sŵn neu ardaloedd lle mae derbynwyr sensitif ar hyn o bryd neu yn yr arfaeth;
- cynnal neu wella’r lefelau difrifol ar gyfer amddiffyn cynefinoedd a rhywogaethau yn y safle Ewropeaidd neu Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig yn unol â Pholisi NE/9;
- lleihau lefelau llygredd a chynnwys nodweddion tirlunio a thechnoleg sy'n lleihau gwasgariad gronynnau, golau gormodol a sŵn
Aer Sylw
5.5.118 Mae aer glân a seinwedd priodol yn cyfrannu at brofiad cadarnhaol o Gonwy ynghyd â bod yn hanfodol ar gyfer iechyd, amwynder a lles cyhoeddus. Maent yn ddangosyddion o ansawdd amgylcheddol lleol a rhinweddau annatod lle y dylid eu diogelu trwy gamau ataliol neu ragweithiol trwy'r system gynllunio. I’r gwrthwyneb, gall llygredd aer, sŵn a golau gael effeithiau negyddol ar bobl, bioamrywiaeth a gwydnwch ecosystemau a dylid eu lleihau cymaint â phosibl. Sylw
5.5.119 Nid yw amcanion ansawdd aer cenedlaethol yn cael eu hystyried yn lefelau ‘diogel’ o lygredd aer. Yn hytrach maent yn cynrychioli trothwy pragmatig lle mae'r llywodraeth yn ystyried bod y risgiau iechyd sy'n gysylltiedig â llygredd aer yn annerbyniol. Nid yw aer sydd prin yn cydymffurfio â'r amcanion hyn yn 'lân' ac mae'n dal i gario risgiau iechyd hirdymor i'r boblogaeth. Ar hyn o bryd nid oes trothwy diogel wedi'i ddiffinio ar gyfer nitrogen deuocsid a mater gronynnol, sef y llygryddion sy'n peri pryder cenedlaethol sylfaenol o safbwynt iechyd y cyhoedd, ac felly po isaf yw crynodiad y llygryddion hynny, y lleiaf yw'r risgiau o effeithiau niweidiol ar iechyd. Mae'n ddymunol cadw lefelau llygredd mor isel â phosibl. Sylw
Rheoli ansawdd aer Sylw
5.5.120 Nid oes Ardaloedd Rheoli Ansawdd Aer yn ardal CDLlN Conwy. Mae’r holl waith monitro wedi dangos, hyd yn oed wrth ymyl yr ardaloedd lle mae’r traffig ar ei lefel uchaf, bod y lefel yn cydymffurfio â’r Amcanion Ansawdd Aer Cenedlaethol. Nid oes unrhyw dargedau lleihau llygredd ar gyfer hynny, ond bydd Conwy yn parhau i ymrwymo i welliannau ansawdd aer a thargedau datgarboneiddio a osodir yn yr adran cludiant ac Ynni Adnewyddadwy a Strategaeth Gorfforaethol. Mae’r adroddiad Ansawdd Aer diweddaraf ar gael ar wefan CBSC. Sylw
Seinweddau Sylw
5.5.121 Yn gyffredinol, mae mathau o sain sy’n peri problemau yn digwydd ar ffurf llygredd sŵn a gallant effeithio ar amwynder a bod yn niweidiol i iechyd neu'n niwsans. Nod cynlluniau gweithredu ar sŵn a lunnir gan gyrff cyhoeddus yw atal a lleihau lefelau sŵn lle bo’r angen a chadw ansawdd y seinwedd lle mae'n dda. Fel arfer, mae lefelau sŵn a ddefnyddir i nodi ardaloedd blaenoriaeth sydd wedi'u cynnwys mewn cynlluniau gweithredu sŵn wedi'u gosod yn eithaf uchel er mwyn canolbwyntio adnoddau ar yr ardaloedd mwyaf llygredig a rhaid i sŵn fodloni nifer o brofion cyn iddo gael ei ystyried yn niwsans statudol. Fodd bynnag, gall lefelau sŵn is fod yn annifyr neu'n aflonyddgar hefyd ac effeithio ar amwynder ac iechyd. Felly, dylid ei ddiogelu drwy'r broses gynllunio lle bynnag y bo angen. Mae’n rhaid i’r system gynllunio amddiffyn amwynder ac nid yw’n dderbyniol dibynnu ar niwsans statudol o dan Ddeddf Diogelu’r Amgylchedd 1990 i wneud hynny. Mae mapio tawelwch ar gael ar haenau CNC yn Amgylchedd Tawelwch a Sŵn Lle Rhan I a Thawelwch a Lle. Sylw
Awyr Dywyll a golau sensitif Sylw
EQ/4 Awyr Dywyll a golau sensitif Sylw
Mae’n rhaid i gynigion datblygu sy’n cynnwys golau allanol gynnwys manylion priodol, a lle bo hynny’n gymesur, strategaeth er mwyn:
- Sicrhau bod y golau’n angenrheidiol ar gyfer y datblygiad, nad yw’n mynd dros yr isafswm gofynnol, ac nad yw’r golau’n taflu y tu hwnt i’r ardal dasg.
- diogelu’r amgylchedd naturiol a hanesyddol gan gynnwys rhywogaethau sensitif, cyrff dŵr, ecosystemau a nodweddion yr amgylchedd naturiol megis llonyddwch;
- Cadw a gwella Awyr Dywyll, yn arbennig lle gallai gael effaith ar gynefinoedd a rhywogaethau sensitif i olau, cynefin, y risg o ddarnio cynefinoedd neu gael effaith ar y dirwedd yn unol â pholisïau NE/7-9.
- Atal llewyrch a pharchu amwynder yr ardal gyfagos a defnyddiau tir a chyrff naturiol o ddŵr;
- Sicrhau bod goleuadau ar safleoedd o bwysigrwydd treftadol a diwylliannol yn briodol ar gyfer ac nad yw’n tynnu oddi ar y lleoliad yn unol â pholisi HE/1;
- osgoi effeithiau golau cronnol ac amryfal; a,
- Lleihau’r allyriadau carbon sydd ynghlwm â golau yn unol â thargedau cenedlaethol a pholisi EN/1.
5.5.122 Fel sir wledig, mae Conwy’n sensitif i lygredd golau a allai gael effaith negyddol ar lonyddwch yr amgylchedd naturiol a chymeriad a bioamrywiaeth y dirwedd. Mae awyr dywyll naturiol o ansawdd uchel mewn cyfran uchel o ardaloedd gwledig Conwy, ac mae’n agos iawn i Barc Cenedlaethol Eryri, sydd yn un o’r 18 o Warchodfeydd Awyr Dywyll Rhyngwladol. Er nad yw Parc Cenedlaethol Eryri’n dod o dan yr ardal ddatblygu yn y cynllun, fe allai gael effaith gadarnhaol a negyddol arno. Sylw
5.5.123 Mae ein tirweddau, morluniau a’n safleoedd dynodedig hefyd yn agored i lygredd golau sylweddol. Mae dros hanner y rhywogaethau hysbys yn rhai nosol ac wedi esblygu i fyw yn y tywyllwch i osgoi cystadleuaeth ac ysglyfaethwyr, a byddant yn gwneud eu gorau i osgoi mannau wedi’u goleuo. Nid goleuadau stryd a goleuadau diogelwch yn unig sy’n gallu cael effaith ar fioamrywiaeth, mae goleuadau fflyd, golau sy’n tasgu drwy ffenestri, a goleuadau ceir mewn rhai achosion hefyd yn gallu cael effaith ar fioamrywiaeth. Gall y ffynonellau hyn rwystro, diraddio a gwasgaru cynefinoedd yn ogystal â chael effaith ar rywogaethau arbennig gan achosi argyfwng cynamserol a gostyngiad mewn poblogaethau lleol. Mae creaduriaid di-asgwrn-cefn dyfrol yn hynod o ddiamddiffyn. Sylw
5.5.124 Ystyrir effaith golau ar gynigion datblygu unigol yn unol â’r polisi a’r canllawiau arfer da uchod (gweler y canllawiau arfer da cenedlaethol a’r canllawiau ILP ar oleuadau sensitif), dylai egwyddorion y rhain fod yn berthnasol i unrhyw ddatblygiad. Sylw
5.5.125 Dylai datganiad Isadeiledd Gwyrdd a Bioamrywiaeth, arolygon priodol, dadansoddiad safle a gwaith dylunio nodi materion allweddol ar y safle ac o’i amgylch a sut mae’r dull DECCA wedi cael ei ddilyn. Dylai strategaeth oleuo gynnwys mapiau cyfuchlinell lwcs sy'n nodi'n glir ardaloedd o gynefinoedd lled-naturiol a nodweddion ecolegol allweddol o fewn safleoedd ymgeisio a fydd yn cael eu cynnal yn dywyll heb unrhyw olau artiffisial. Dylai hyn gynnwys gwrychoedd, nentydd/afonydd, pyllau, dolydd, clwydi ystlumod, coetir, coed aeddfed (gan gynnwys coed trefol), glannau/traeth. Sylw
5.5.126 Dylai cynlluniau goleuadau fod yn gyfeillgar i awyr dywyll a goleuo ardaloedd gofynnol yn unig gyda lliwiau ‘cynnes’ <2700K, gan osgoi llif golau a lle bo’n bosib / briodol defnyddio amserwyr a / neu synwyryddion symudiad. Dylid defnyddio unedau diffodd llawn a fydd yn goleuo’r ardal a fwriedir yn unig heb i unrhyw olau gael ei daflu. Cynnwys amrywiaeth o opsiynau goleuo addas; dylid ystyried golau ‘Bat hat’ solar, golau stryd a bolardiau. Gallai eiddo sydd â gwedd yn wynebu coridorau tywyll, neu gynefinoedd sy’n sensitif i olau, ymgorffori ffenestri trosglwyddiad golau gweladwy (VLT), bleindiau trydan a gwydr clyfar. Dylai unrhyw oleuadau diogelwch gael eu cysgodi’n llwyr. Dylai datblygwyr gynnwys cyngor i breswylwyr ar sut i gadw a gwella parthau tywyll yn eu pecynnau prynu annedd. Sylw
5.5.127 Argymhellir gosod goleuadau stryd ar lwybrau mabwysiedig gyda llusernau LED oren (gan gynnwys sgriniau i amddiffyn cynefinoedd cyfagos rhag golau) ynghyd ag amseryddion gwanhau golau. Nid yw gosod goleuadau ar lwybrau heb eu mabwysiadu yn cael ei annog ond dylai unrhyw olau a osodir fod ar lefel is (allbwn pŵer ac uchder) gyda <2700K, gan ddefnyddio unedau gwahanol i'r rhai ar lwybrau mabwysiedig. Sylw
5.5.128 Bydd yn rhaid gosod bleindiau / caeadau ar bob ffenestr yn y to, a dylid eu cau pan fo’n dywyll er mwyn atal y golau. Fel arall, gellid defnyddio gwydr clyfar ar unrhyw ffenestri / goleuadau to neu ffenestri. Sylw
5.5.129 Dylid bod yn arbennig o ofalus mewn perthynas â chynigion goleuadau yng nghefn gwlad agored mewn safleoedd dynodedig gan fod angen diogelu llonyddwch, pellenigrwydd a chymeriad tirwedd ardaloedd gwledig Conwy. Sylw
5.5.130 Bydd yr Awdurdod Cynllunio Lleol yn mynd ati’n weithredol i fynd i’r afael â golau ymwthiol presennol lle mae’n debygol bod safle neu rywogaeth a ddiogelir yn cael ei effeithio. Sylw
5.5.131 Gweler Papur Cefndir 8 - Canllawiau cynllunio awyr dywyll. Sylw
Rheoli perygl llifogydd Sylw
EQ/5 rheoli perygl llifogydd a datblygiad Sylw
- Er mwyn osgoi’r perygl o lifogydd, ni chaniateir datblygiadau:
- Mewn ardaloedd sydd mewn perygl o lifogydd afonol, glawog, arfordirol a chronfeydd dŵr, oni bai bod modd dangos y gellir cyfiawnhau'r datblygiad yn unol â chanllawiau cenedlaethol a'i fod wedi'i gefnogi gan asesiad technegol sy'n cadarnhau bod y datblygiad newydd wedi'i ddylunio i liniaru’r bygythiad o lifogydd a’u canlyniadau; neu
- Lle byddai’n arwain at fwy o risg o lifogydd ar y safle neu rywle arall o ganlyniad i lifogydd afonol, glawog, arfordirol neu gynnydd mewn dŵr ffo ar y safle; neu
- Lle byddai’n cael effaith andwyol ar uniondeb amddiffynfeydd llifogydd afonol, glawog neu arfordirol; neu
- Lle byddai’n amharu ar fynediad i amddiffynfeydd llanwol ac afonol yn y dyfodol at ddibenion cynnal a chadw ac argyfwng; neu
- Lle nad yw’r cynnig yn ymgorffori mesurau lliniaru llifogydd sy’n ystyriol o’r amgylchedd, megis Systemau Draenio Cynaliadwy, oni bai y gellir dangos na fyddai mesurau o’r fath yn ddichonadwy.
- Dylai cynlluniau rheoli llifogydd ymgorffori mesurau i wella bioamrywiaeth yn unol â pholisi NE/8, storio carbon, a gwella cysylltiadau teithio llesol yn unol â NE/7.
5.5.132 Mae cymunedau cydlynus yn cael eu cynnal a'u creu drwy ddarparu lleoedd i bobl ryngweithio a chynnal gweithgareddau cymunedol, gan gynnwys mannau hamdden, chwarae, tyfu bwyd a chyfleoedd i gysylltu â natur. Mae llygredd neu risgiau fel llifogydd yn cael eu lliniaru neu eu hosgoi ac yn seiliedig ar wneud y gorau o gyfleoedd i gymunedau ffynnu a gwneud gweithgareddau cymdeithasol, economaidd a diwylliannol mewn amgylchedd iach, deniadol a dymunol. Sylw
5.5.133 Mae’r Cyngor yn cydnabod yr angen i addasu effeithiau newid hinsawdd. Mae'r cyfuniad o gynhesu byd-eang sydd eisoes wedi digwydd, ynghyd â chynhesu ychwanegol, fel y rhagwelir gan y dystiolaeth newid hinsawdd ddiweddaraf, yn golygu bod yna effeithiau sylweddol posibl ar gyfer Conwy a Chymru o ran ymaddasu. Mae'r heriau'n cynnwys peryglon llifogydd a newid arfordirol i gymunedau, busnesau a seilwaith; risgiau i iechyd, lles a chynhyrchiant oherwydd tymereddau uchel; risg o brinder dŵr yn y cyflenwad dŵr cyhoeddus, amaethyddiaeth, cynhyrchiad a diwydiant ynni, a risgiau i bridd, bioamrywiaeth a chynefinoedd daearol, arfordirol, morol a dŵr croyw. Sylw
5.5.134 Mae newid hinsawdd hefyd yn debygol o gael effaith arwyddocaol ar gymeriad y tirlun, adeiladau hanesyddol, arwahanrwydd ac ansawdd lleol, yn uniongyrchol trwy newid gorchudd tir, cynefinoedd sy’n mudo ac ystodau rhywogaethau ac yn anuniongyrchol trwy ddylanwadu ar benderfyniadau am ddefnydd tir. Sylw
5.5.135 Mae llifogydd yn risg bosibl i aneddiadau arfordirol a mewndirol mewn dyffrynnoedd afonydd yn ardal y cynllun. Mae lleoliadau arfordirol, gan gynnwys Towyn, Bae Cinmel a Llanfairfechan, wedi cael stormydd sydd wedi trechu amddiffynfeydd arfordirol. Sylw
5.5.136 Cymerir canllawiau drwy weithio ar y cyd â Chyfoeth Naturiol Cymru ar faterion safle penodol yn ogystal â gwybodaeth a ddarperir yn: Sylw
- Strategaeth Genedlaethol ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol yng Nghymru, LlC;
- Deddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010;
- TAN 15: datblygu, llifogydd ac erydu arfordirol 2025 a,
- Papur Cefndir 33/34 Asesiad Canlyniadau Llifogydd Strategol Conwy.
5.5.137 Mae perygl llifogydd o ffynonellau lleol yn codi o gyrsiau dŵr arferol, dŵr wyneb sy’n llifo (a elwir hefyd yn lifogydd glawog), dŵr daear a’r pwynt ble mae prif afonydd a dŵr wyneb yn cwrdd. Nodir ardaloedd sydd mewn perygl o lifogydd oherwydd dŵr wyneb sy’n llifo yn mapiau llifogydd dŵr wyneb diweddaraf Cyfoeth Naturiol Cymru. Dangosir yr ardaloedd hyn ar y Map Cyfyngiadau a Materion ac maent yn seiliedig ar y mapiau llifogydd dŵr wyneb diweddaraf gan CNC. Sylw
5.5.138 Gallai'r posibilrwydd o wrthdaro godi lle gallai effeithiau codiad a datblygiad lefel y môr, gan gynnwys gweithdrefnau rheoli'r arfordir, effeithio ar gynefinoedd rhynglanwol neu asedau hanesyddol. Dylid rhoi ystyriaeth briodol i gadw gwydnwch amgylcheddau o'r fath fel rhan o waith paratoi cynlluniau datblygu ac wrth wneud penderfyniadau cynllunio. Sylw
5.5.139 Mae dynodiadau a dylanwadau eraill yn effeithio ar sut mae perygl llifogydd a'i newidiadau rheoli yn cael eu trafod mewn penodau eraill, ac yn cynnwys: Sylw
- Gwarchod tirwedd ac Ardaloedd Tirwedd Arbennig dynodedig a nodweddion tirwedd pwysig eraill.
- Bioamrywiaeth a Rhwydweithiau Ecolegol.
- Mae Safleoedd Dynodedig, yn enwedig mewn perthynas â safleoedd Natura 2000, wedi’u cynnwys yn TAN 5: Cadwraeth Natur a Chynllunio.
- Ardaloedd Arfordirol a Newid Arfordirol.
- Dŵr a Pherygl Llifogydd.
- Isadeiledd Trafnidiaeth a Theithio Llesol.
5.5.140 Cyhoeddwyd strategaeth y Cyngor ar gyfer rheoli peryglon llifogydd lleol (o gyrsiau dŵr arferol, dŵr wyneb a dŵr daear) yng Nghynllun Rheoli Perygl Llifogydd Lleol 2013. Mae’r cynllun hwn yn cael ei ddiweddaru ar hyn o bryd. Y Cyngor yw’r Awdurdod Llifogydd Lleol Arweiniol (ALlLlA) sy’n gyfrifol am arwain y gwaith o reoli peryglon llifogydd o’r ffynonellau lleol hyn. Rhai o rolau a chyfrifoldebau ALlLlA yw asesu a chymeradwyo strategaethau draenio ar gyfer pob datblygiad newydd sy’n fwy na 100m3 neu sy’n fwy nag un eiddo trwy ei rôl fel Corff Cymeradwyo SuDS ar wahân i’r broses gynllunio. Sylw
5.5.141 Mae angen cynnal a chadw cyrsiau dŵr ac amddiffynfeydd llifogydd (gan gynnwys amddiffynfeydd llifogydd arfordirol) ac mae'n hanfodol bod mynediad ar gael i'r ardaloedd a'r adeileddau hyn bob amser. Sylw
5.5.142 Ystyrir ei bod yn fuddiol i gyrsiau dŵr aros mewn cyflwr agored at ddibenion amddiffyn rhag llifogydd ac amgylcheddol ac felly mae'r Cyngor yn gyffredinol yn gwrthwynebu agor cyrsiau dŵr mewn ceuffosydd. O dan delerau Deddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010 a Deddf Draenio Tir 1991, bydd caniatâd ar gyfer gwaith o fewn y Sir i gyrsiau dŵr cyffredin (nentydd/ffosydd naturiol a gwneuthuredig a cheuffosydd ac ati) yn cael eu cyhoeddi gan Adran Perygl Llifogydd ac Isadeiledd y Cyngor. Sylw
Amgylchedd hanesyddol Sylw
SO12: Diogelu a gwella asedau naturiol a threftadaeth ddiwylliannol Conwy sydd o ansawdd uchel. Sylw
5.5.143 Mae’r bennod hon yn darparu fframwaith polisi ar gyfer diogelu asedau hanesyddol yn ardal y CDLlN. Mae’n cynnwys polisïau sy’n cydnabod a rhestru’r gwahanol fathau o asedau hanesyddol er mwyn llunio CCA i arwain y broses ddatblygu. Mae polisi penodol ar asedau hanesyddol o ddiddordeb lleol arbennig a fydd yn cynnwys rhestr o asedau o’r fath, a pholisi’n ymwneud ag adfywio drwy ddiwylliant. Sylw
5.5.144 Mae gan asedau hanesyddol rôl bwysig o safbwynt twristiaeth, buddsoddiad a lles cymunedau. Mae angen eu diogelu a, lle bo’n briodol, eu gwella drwy’r broses gynllunio. Mae’r amgylchedd hanesyddol yn ganolog i ddiwylliant a chymeriad Sir Conwy, gan adrodd ein hanes drwy adeiladau, strwythurau, parciau, gerddi, archeoleg a thirweddau a chyfrannu at ein hymdeimlad o le a hunaniaeth. Mae’n gwella ein hansawdd bywyd, lles cyffredinol a meddyliol, ac yn ychwanegu at hynodrwydd rhanbarthol a lleol ac mae’n ased economaidd, addysgol a chymdeithasol pwysig y dylid ei warchod er mwyn i genedlaethau’r dyfodol ei fwynhau a chael profiad ohono. Mae’r Gymraeg wedi ei gwau i dirwedd, aneddiadau a bywyd bob dydd yng Nghonwy, a thra’i bod yn weladwy ar arwyddion ac enwau lleoedd ac i’w chlywed wrth i bobl siarad yr iaith, mae’r adeiladau, y cofebau a’r bensaernïaeth ynddynt eu hunain yn adrodd stori ein hanes. Sylw
5.5.145 Mae papur o’r enw ‘Treftadaeth yng Nghymru’ a gyhoeddwyd gan y Grŵp Amgylchedd Hanesyddol yn mesur effaith a dylanwad y sector treftadaeth yng Nghymru. Mae’r ffigyrau’n dangos bod rhai sy’n cael eu hysgogi gan yr amgylchedd hanesyddol i ymweld â Chymru wedi gwario £1.72bn yn 2018, gyda’r sector yn cefnogi dros 40,500 o swyddi. Ar ben hyn, mae llawer o bobl yng Nghymru’n cael eu cyflogi mewn swyddi sy’n bodoli o ganlyniad anuniongyrchol i’r sector treftadaeth – er enghraifft, pobl sy’n gweithio mewn gwestai a bwytai sy’n darparu gwasanaeth ar gyfer ymwelwyr Cymru sy’n dod yma oherwydd treftadaeth yn bennaf. Mae’r papur hefyd yn nodi bod gweithwyr adeiladu yng Nghymru yn treulio 43% o’u hamser yn gweithio ar gadwraeth, atgyweirio a chynnal a chadw adeiladau traddodiadol a adeiladwyd cyn 1919. Mae Treftadaeth yng Nghymru’n cyfleu gwerth treftadaeth wedi’i fesur ac yn dangos pa mor werthfawr yw’r amgylchedd hanesyddol i’r economi a’r sector twristiaeth ac addysg. Sylw
HE/1 amgylchedd hanesyddol Sylw
Mae’r Cyngor wedi ymrwymo i ddiogelu a, lle bo modd, gwella asedau hanesyddol a diwylliannol yn ardal y cynllun. Bydd hyn yn cael ei gyflawni drwy:
- Sicrhau nad yw lleoliad datblygiadau newydd ar safleoedd a ddyrannwyd a safleoedd ar hap yn ardal y cynllun yn cael effaith andwyol sylweddol ar asedau treftadaeth yn unol â pholisïau HE/2 a PL/1;
- Cydnabod a pharchu gwerth a chymeriad ein hasedau treftadaeth yn ardal y cynllun yn unol â’r CCA i lywio cynigion datblygu;
- Ceisio diogelu, a lle bo’n briodol, gwella ardaloedd cadwraeth, rhan Castell a Muriau Tref Conwy o Safle Treftadaeth y Byd Cestyll a Muriau Trefi’r Brenin Edward yng Ngwynedd, tirweddau hanesyddol, parciau a gerddi hanesyddol, adeiladau rhestredig a henebion cofrestredig yn unol â Pholisi HE/2;
- Nodi a diogelu Asedau Hanesyddol o Ddiddordeb Lleol Arbennig yn unol â Pholisi HE/3;
- Caniatáu i gynlluniau Galluogi Datblygu i ddiogelu a sicrhau dyfodol asedau treftadaeth dim ond pan fyddant yn cydymffurfio â’r polisi cynllunio cenedlaethol a’r canllawiau ar Alluogi Datblygu;
- Diogelu a / neu wella asedau treftadaeth drwy fentrau treftadaeth ac adfywio yn unol â pholisi HE/4.
5.5.146 Mae ardal ACLl Conwy yn cynnwys 80 o Henebion Cofrestredig, 1488 o Adeiladau Rhestredig gyda 22 ohonynt yn rhai Gradd I, 1389 yn rhai Gradd II a 77 yn rhai Gradd II*, a 25 o Ardaloedd Cadwraeth. Bydd y CDLlN yn cefnogi diogelu a gwella’r holl asedau treftadaeth sydd wedi’u dynodi’n genedlaethol, ac yn ystyried effaith datblygiad yn eu lleoliadau. Mae’r asedau treftadaeth a nodwyd yn elwa o amddiffyniad statudol ac mae’n rhaid ystyried hyn o fewn polisïau, cynigion a chanllawiau yn y CDLlN. Sylw
5.5.147 Mae Castell Conwy a Muriau’r Dref yn ffurfio rhan o Safle Treftadaeth y Byd “Cestyll a Muriau Trefi’r Brenin Edward yng Ngwynedd”. Mae UNESCO o’r farn bod Castell Conwy ymysg un o’r enghreifftiau gorau o bensaernïaeth filwrol o ddiwedd y 13eg ganrif a dechrau’r 14eg ganrif yn Ewrop. Mae Cadw wedi cynhyrchu Cynllun Rheoli Safle Treftadaeth y Byd sydd wedi’i gefnogi fel CCA gan Gyngor Conwy a bydd yn cael ei gario ymlaen fel rhan o Adolygiad y CDLlN. Sylw
5.5.148 Mae’r statud a’r canllawiau cynllunio cenedlaethol wedi newid yn sylweddol ers mabwysiadu’r CDLl blaenorol (2007-2022) gyda chyflwyno Deddf Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2016 a gyda Deddf ddiweddaraf 2023 yn dod i rym ar ddiwedd 2024. Er enghraifft, mae gofyniad bod awdurdodau lleol a chyrff cyhoeddus eraill yn gwneud defnydd o Gofnodion Amgylchedd Hanesyddol (Bydd Heneb -Ymddiriedolaeth Archeoleg Cymru yn llunio Cofnod Amgylchedd Hanesyddol statudol ar ran Gweinidogion Cymru). Hefyd mae yna angen i gyflawni Asesiadau o Effaith ar Dreftadaeth ar gyfer datblygiadau sydd angen Caniatâd Ardal Gadwraeth neu Adeilad Rhestredig, a chynhyrchu datganiadau i gyd-fynd â cheisiadau o’r fath. Gall hyn hefyd fod yn berthnasol pan fo cynigion datblygu’n effeithio ar leoliad ased treftadaeth. Mae Asedau Hanesyddol o Ddiddordeb Lleol Arbennig (Adeiladau a Strwythurau o Bwysigrwydd Lleol (BSLI) yn flaenorol fel y cyfeiriwyd atynt yn CDLl Conwy (2007-2022)) yn faes arall sy’n newydd yn y canllawiau cenedlaethol, ynghyd â pholisi’n seiliedig ar feini prawf ar Alluogi Datblygu. Er mwyn osgoi ailadrodd canllawiau cenedlaethol, nid yw’r polisi ar Alluogi Datblygu o’r CDLl blaenorol wedi’i gario ymlaen. Sylw
Datblygiad HE/2 sy'n effeithio ar asedau treftadaeth Sylw
- Bydd yr asedau treftadaeth a restrwyd isod (a-f) yn cael eu diogelu a lle bo’n briodol, yn cael eu rheoli a’u gwella.
- Ardaloedd Cadwraeth
- Safle Treftadaeth y Byd yn Nhref Conwy
- Parciau, Gerddi a Thirweddau Hanesyddol
- Adeiladau Rhestredig
- Henebion cofrestredig
- Asedau Hanesyddol o Ddiddordeb Lleol Arbennig
- Wrth ystyried cynlluniau galluogi datblygu a datblygiadau sy’n effeithio ar leoliad asedau treftadaeth, bydd penderfyniadau’n cael eu llunio yn seiliedig ar y canllawiau cenedlaethol
5.5.149 Cynhyrchwyd CCA o dan CDLl blaenorol Conwy (2007-2022) i arwain y rhai sy’n gwneud penderfyniadau a phartïon eraill â diddordeb o ran datblygu mewn Ardaloedd Cadwraeth yn gyffredinol, a Chynlluniau Rheoli Ardaloedd Cadwraeth yn ymwneud â lleoliadau penodol, er enghraifft: Llandudno, Tref Conwy, Canol Tref Bae Colwyn a Llanelian. Bydd yr ymagwedd hon yn parhau ar ôl mabwysiadu’r CDLlN gyda chynlluniau rheoli presennol yn cael eu diweddaru fel bo’r angen a chynlluniau rheoli newydd yn cael eu cynhyrchu ar gyfer gweddill yr ardaloedd cadwraeth. Sylw
5.5.150 Mae UNESCO (Sefydliad Addysgol, Gwyddonol a Diwylliannol y Cenhedloedd Unedig) yn gofyn am baratoi’r Cynllun Rheoli i lywio datblygiad Safleoedd Treftadaeth y Byd sy’n cynnwys cestyll a muriau Edward I yng Nghonwy, Caernarfon, Harlech a Biwmares. Mae Cynllun Rheoli wedi’i baratoi, sy’n cynnwys clustogfa diffiniedig a'i fwriad yw diogelu lleoliad rhan Castell a Muriau Tref Conwy o Safle Treftadaeth y Byd Cestyll a Muriau Trefi y Brenin Edward yng Ngwynedd. Mabwysiadwyd y cynllun gan y Cyngor fel CCA ym mis Ebrill 2018. Sylw
5.5.151 Bydd cynigion datblygu sydd o fewn tirweddau, parciau a gerddi hanesyddol cofrestredig yn cael eu hasesu yn erbyn polisi HE/2, y Canllaw Arferion Gorau ar ddefnyddio Cofrestr o Dirweddau o Ddiddordeb Hanesyddol yng Nghymru, Rheoli Newid mewn Parciau a Gerddi Hanesyddol Cofrestredig yng Nghymru (Cadw), a chanllawiau cynllunio cenedlaethol, lle bo’n berthnasol. Sylw
5.5.152 Nid yw’r CDLlN yn ceisio ailadrodd y meini prawf a nodwyd ym Mholisi Cynllunio Cymru ar Alluogi Datblygu, felly nid oes polisi penodol yn y cynllun hwn. Gwneir penderfyniadau yn seiliedig ar y polisi cynllunio cenedlaethol ac ategir atynt gan fanylion pellach yn Egwyddorion Cadwraeth Cadw. Sylw
5.5.153 Cynhaliwyd arolwg o’r adeiladau rhestredig yn 2016 a oedd yn nodi’r adeiladau rhestredig sydd mewn perygl. Bydd y rhestr “Mewn Perygl” yn rhoi’r sail ar gyfer llunio cynllun gweithredu. Rhoddir blaenoriaeth i adeiladau yn seiliedig ar y drefn y gellir cymryd camau effeithiol, yn ogystal â faint o gamau i'w cymryd. Bydd hyn yn cynnwys asesiad yn unol â Safonau’r Gymraeg i nodi’r holl gyfleoedd i hyrwyddo a chefnogi’r Gymraeg ar gyfer adeiladau rhestredig sydd ar agor i’r cyhoedd. Rhoddir ystyriaeth i sgoriau perygl, graddfa adeiladu, cyfraddau dirywiad, cynlluniau a roddir mantais gymunedol, lleoliad, anheddau heb eu meddiannu mewn ardaloedd a dargedir ar gyfer adnewyddu, arwyddocâd yr eiddo a’i gyfraniad at y treflun a chyflawni canlyniad cadarnhaol. Mae Cadw wedi cynhyrchu cyfres o nodiadau canllaw sy’n rhoi cyngor defnyddiol i berchnogion a rhai sy’n gwneud penderfyniadau, er enghraifft, ‘Rheoli Newid i Adeiladau Rhestredig’ a ‘Rheoli Adeiladau Rhestredig mewn Perygl yng Nghymru’. Sylw
5.5.154 Mae Henebion Cofrestredig yn safleoedd archeolegol o bwysigrwydd cenedlaethol sy’n cael eu diogelu o dan Ddeddf Henebion ac Ardaloedd Archeolegol 1979, (wedi’i disodli gan Ddeddf Amgylchedd Hanesyddol Cymru 2023). Mae 80 o Henebion Cofrestredig yn ardal gynllunio Conwy ac mae modd gweld y rhain ar adran Cof Cymru o wefan Cadw. Effaith cofrestru yw bod angen caniatâd heneb gofrestredig ar gynigion i ddifrodi, dymchwel, symud, trwsio, newid, ychwanegu, gorlifo neu orchuddio henebion cofrestredig, yn ategol at y gofyniad am ganiatâd cynllunio. Sylw
5.5.155 Dim ond cyfran fechan o gyfanswm yr adnoddau archeolegol yw henebion cofrestredig. Lle bo’n briodol, bydd y Cyngor yn ymgysylltu â Heneb: Ymddiriedolaeth Archeoleg Cymru, ac yn ystyried arwyddocâd safleoedd archeolegol a’u lleoliadau. Lle bo angen, bydd y Cyngor yn mynnu bod safleoedd ceisiadau’n cael asesiad archeolegol proffesiynol a / neu werthusiad maes cyn penderfynu a ddylid rhoi caniatâd cynllunio ai peidio. Mewn rhai achosion gallai hyn gynnwys gofyniad am asesiad a / neu werthusiad i ganfod a oes archeoleg ar safle, nid lle bo gweddillion hysbys yn unig. Gwrthodir caniatâd cynllunio os yw'r safle archeolegol o bwysigrwydd i fod yn deilwng i’w amddiffyn rhag aflonyddwch yn gyfan gwbl. Gellir diogelu a chofnodi safleoedd hefyd drwy ddefnyddio amodau a chytundebau cynllunio. Mae’r Cyngor yn annog cyfleoedd i ymgysylltu â’r gymuned o safbwynt gwaith archeolegol drwy’r broses gynllunio. Sylw
5.5.156 Ar gyfer datblygiad sy’n effeithio ar leoliad asedau treftadaeth, dylid dilyn canllawiau Cadw ‘Lleoliad Asedau Hanesyddol yng Nghymru’ yn unol â pholisi HE/2. Ar gyfer galluogi datblygu, canllawiau cenedlaethol fydd y prif bwynt cyfeirio ynghyd â dogfen Egwyddorion Cadwraeth Cadw. Sylw
5.5.157 Mae enwau lleoedd hanesyddol hefyd yn bwysig i ddeall cymeriad, hanes a tharddiad aneddiadau ac ardaloedd o dir. Dylid cyfeirio at Restr Enwau Lleoedd Hanesyddol yng Nghymru Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru wrth lunio cynigion yn ymwneud â’r amgylchedd adeiledig i sicrhau parhad gyda’r gorffennol, meithrin synnwyr o le a chynnal diwylliant ardal. Sylw
5.5.158 Bydd rhestr o Asedau Hanesyddol o Ddiddordeb Lleol Arbennig yn cael ei llunio a’i chynnal. Gweler polisi HE/3 i gael rhagor o gyngor. Sylw
HE/3 Asedau Hanesyddol o Ddiddordeb Lleol Arbennig Sylw
- Dim ond pan na fydd ymddangosiad, cymeriad a lleoliad unigryw’r ased hanesyddol yn cael ei effeithio arno’n sylweddol y caniateir cynigion datblygu sy’n effeithio asedau hanesyddol ar y Rhestr o Asedau Hanesyddol o Ddiddordeb Lleol Arbennig.
- Dim ond mewn amgylchiadau eithriadol y caniateir dymchwel Ased Hanesyddol o Ddiddordeb Lleol Arbennig neu ei ddymchwel yn rhannol, a hynny pan fydd yr holl opsiynau wedi cael eu harchwilio ar gyfer cadw’r ased.
5.5.159 Mae yna nifer o asedau hanesyddol sylweddol sydd yn ôl eu dyluniad, deunyddiau a chysylltiadau cymdeithasol a hanesyddol sy’n rhan sylfaenol o gymeriad a hunaniaeth eu hardal. Mae’r asedau y mae’r polisi hwn yn cyfeirio atynt i’w cael yn Atodiad 1 CCA Asedau Hanesyddol o Ddiddordeb Lleol Arbennig. Dylid cadw’r asedau hyn a phan yn berthnasol dylai defnydd priodol gael ei wneud i gynnal eu cymeriad hanfodol. Dylid cyflwyno Datganiadau o Effaith ar Dreftadaeth gyda cheisiadau cynllunio sy’n gymesur o ran arwyddocâd yr ased hanesyddol a graddfa’r newid a gynigir. Sylw
5.5.160 Mae rhagdybiaeth yn erbyn dymchwel Asedau Hanesyddol o Ddiddordeb Lleol Arbennig, neu eu dymchwel yn rhannol. Mae cynigion o’r fath yn cael eu hystyried yn yr un ffordd ag Adeilad Rhestredig statudol gyda’r un lefel o wybodaeth a chyfiawnhad sydd ei angen i gyd-fynd â’r cais cynllunio. Sylw
5.5.161 Mae defnyddio rheolyddion ychwanegol fel Cyfarwyddiadau Erthygl 4 yn cael eu hystyried wrth weithredu’r polisi hwn. Sylw
5.5.162 Nid yw’r polisi hwn yn caniatáu ar gyfer ‘ceisiadau rhestru’ asedau, fodd bynnag bydd y rhestr yn cael ei hadolygu ar gyfnodau y cytunir arnynt fel y nodwyd yn CCA Asedau Hanesyddol o Ddiddordeb Lleol Arbennig, i ddarparu’r cyfle i gynnwys asedau newydd. Sylw
Adfywio drwy ddiwylliant Sylw
SO1:Cyfrannu at greu mannau cynaliadwy, cynhwysiant cymdeithasol a lles gwell yn gyffredinol yng Nghonwy drwy ddarparu proses creu lleoedd ac adfywio cynhwysol sy’n sicrhau bod lefelau twf yn y dyfodol a datblygiad yn digwydd mewn lleoliadau cynaliadwy a hygyrch, yn ceisio hyrwyddo dyluniad da a lleoedd mwy iach, yn diogelu’r Gymraeg a’i hanes a hybu ei defnydd ac yn cael ei gefnogi gan yr isadeiledd cymdeithasol, amgylcheddol, diwylliannol ac economaidd angenrheidiol i gynnal lleoedd gwych a chreu rhai newydd. Sylw
5.5.163 Mae’r polisi cynllunio cenedlaethol yn nodi pwysigrwydd cynnal nodweddion unigryw ac arbennig sy’n rhoi ymdeimlad o hunaniaeth i le, yn ogystal â bod yn annhebyg i unrhyw le arall. Dylid nodi a gwerthfawrogi asedau diwylliannol o’r fath ac ymdeimlad o le pan ddaw i gynllunio defnydd tir. Yn wir, y nodweddion hyn sy’n aml yn gwneud y lle yr hyn ydyw - ei hunaniaeth, ei gymeriad, ei hanfod craidd. Mae’r nodweddion arbennig hyn hefyd yn ‘ychwanegu gwerth’ i ardal ac yn ei gwneud yn ardal ddeniadol a diddorol i fyw a gweithio ynddi, gan fod pobl yn teimlo synnwyr o berthyn. Gall nodweddion o’r fath a synnwyr o le hefyd ddenu ymwelwyr a hyrwyddo’r economi ymwelwyr. Sylw
5.5.164 Mae nifer o fentrau strategol sy’n seiliedig ar ddiwylliant ar waith ar draws Sir Conwy, a bydd rhai yn effeithio ar faterion sy’n ymwneud â chynllunio defnydd tir. Sylw
5.5.165 Gall asedau diwylliannol gynnwys y canlynol, ymysg pethau eraill; cerddoriaeth, celfyddydau, hanes, iaith a thraddodiadau sy’n ffurfio cymeriad, hunaniaeth ac arferion cymuned. O safbwynt defnydd tir, gall hyn olygu adeiladau a mannau sy’n cael eu defnyddio i feithrin y gweithgareddau hyn, er enghraifft, theatrau, orielau, a mannau coffa ac enwi llond llaw. Sylw
5.5.166 Mae Creu Conwy – Tanio’r Fflam – strategaeth ddiwylliannol ar gyfer Bwrdeistref Sirol Conwy 2021–2028 yn canolbwyntio ar y canlynol; Rhaglen (digwyddiadau, arddangosfeydd a gweithgareddau), Pobl (cynyddu gallu, cydweithio a phartneriaethau), a Lle (amgylchedd naturiol ac adeiledig, a chymunedau). Mae i’r strategaeth ymagwedd creu lleoedd ac un sy’n seiliedig ar asedau gan ddefnyddio diwylliant cyfoethog Conwy i gefnogi lles pobl yn well a chymell adnewyddiad economaidd a chymunedol gan gyd-fynd ag amcanion a nodau’r Strategaeth Twf Economaidd. Sylw
5.5.167 Mae Creu Conwy’n cael ei arwain gan bartneriaeth strategol sy’n cynnwys cyrff diwylliannol allweddol lleol a chenedlaethol. Mae Timau Tref wedi’u datblygu yn y 5 tref fwyaf (Abergele, Bae Colwyn, Conwy, Llandudno a Llanrwst), gyda chynrychiolaeth traws-sector o’r gymuned leol a’r sector diwylliannol i lywio gweithgarwch ar lawr gwlad, gan sicrhau ei fod yn canolbwyntio ar y lleoedd ac yn berthnasol ac wedi’i integreiddio â chynlluniau lle a chymunedol lleol. Mae enghreifftiau o brosiectau’n cynnwys: Gŵyl Ffotograffiaeth Ryngwladol Northern Eye, Llyfrgelloedd fel Canolbwynt Cymunedol, Cynnig Busnes Archifau Conwy, ‘Casglu’ – creu map diwylliant Conwy gan y gymuned ac Oriel Môr. Sylw
HE/4 adfywio drwy ddiwylliant Sylw
Bydd cynigion datblygu sy’n codi o, neu’n cyd-fynd â, mentrau adfywio sy’n ceisio cadw, gwella a chefnogi asedau diwylliannol a hunaniaeth lle yn cael eu cefnogi mewn egwyddor.
5.5.168 Bydd y Cyngor yn ceisio cefnogi datblygiadau sy’n rhan o Creu Conwy a mentrau adfywio eraill sydd â chysylltiad â defnydd tir ac yn cydymffurfio â pholisïau eraill yn y CDLlN. Dylai cynigion defnydd tir ddangos sut y byddant yn creu’r cydbwysedd rhwng cynnal craidd y nodweddion maent yn ceisio eu hyrwyddo heb gael effaith niweidiol arnynt. Hefyd bydd angen i gynigion gydymffurfio gyda pholisi PL/7 sy’n ymwneud â’r Gymraeg er mwyn sicrhau y manteisir ar gyfleoedd i hyrwyddo twf economaidd cynaliadwy mewn ardaloedd Cymraeg eu hiaith a hynny wrth ddiogelu dyfodol y Gymraeg. Sylw