CDLlN Cynllun i’w archwilio gan y cyhoedd 2018-2033

Yn dod i ben ar 8 Mawrth 2026 (46 diwrnod ar ôl)

3. Materion a chymhellion blaenoriaethol ar gyfer Conwy Sylw

3.1 Dull Sylw

3.1.1 Mae’r materion a’r cymhellion blaenoriaethol a nodwyd yn yr adran hon yn cael eu cyflwyno i adlewyrchu strwythur a themâu y CDLlN. Mae’r materion blaenoriaethol yn cael eu hymchwilio ymhellach gan nodi eu goblygiadau posibl a sut y maent wedi hysbysu’r CDLlN. Maent hefyd yn ystyried materion cenedlaethol a rhanbarthol a’u goblygiadau lleol ar gyfer y CDLlN. Mae data ystadegol a ffynonellau pellach ar gyfer pob un o’r materion a chymhellion lleol wedi’u nodi yn y Papurau Cefndir a phapurau’r CDLlN cyn ei Archwilio gan y Cyhoedd. Sylw

3.1.2 Mae’r materion a’r cymhellion blaenoriaethol a nodwyd drwy broses baratoi’r CDLlN wedi hysbysu datblygiad y weledigaeth, amcanion a’r cynllun yn ei gyfanrwydd. Mae’r adran isod yn nodi’r materion a’r cymhellion blaenoriaethol. Sylw

3.2 Dewisiadau strategol a gofodol yng Nghonwy Sylw

Creu lleoedd cynaliadwy Sylw

3.2.1 Y materion a’r cymhellion blaenoriaethol yw: Sylw

  • Yn unol â’r egwyddorion cynllunio allweddol a’r canlyniadau creu lleoedd cynaliadwy mae angen sicrhau bod CDLlN Conwy’n hwyluso lleoedd cynaliadwy, cynhwysiant cymdeithasol a lles ar gyfer pawb.

3.2.2 Y goblygiadau ar gyfer y CDLlN yw: Sylw

  • Bydd angen i’r CDLlN fynd i’r afael â’r egwyddorion cynaliadwy a’r cysyniad o greu lleoedd er mwyn darparu twf a datblygiad mewn modd cynaliadwy. Dylai lefelau twf a datblygiad yn y dyfodol gael eu cyflwyno mewn lleoliadau cynaliadwy a hygyrch i adlewyrchu’r Ardaloedd Twf Rhanbarthol a nodwyd yng Nghymru’r Dyfodol 2040, yn benodol, Llandudno a Bae Colwyn. Mae’n rhaid i’r CDLlN geisio hyrwyddo dylunio da a lleoedd iachach, gan ddiogelu, hyrwyddo a gwella’r iaith Gymraeg a bod isadeiledd cymdeithasol, amgylcheddol, diwylliannol ac economaidd gofynnol i gefnogi hyn er mwyn creu lleoedd cynaliadwy a gwella lles.
  • Mae’n hanfodol bod y CDLlN yn cynllunio ar gyfer isadeiledd digonol ac effeithlon, gan gynnwys gwasanaethau megis addysg a chyfleusterau iechyd ynghyd â chludiant, cyflenwad dŵr, carthffosydd, rheoli dŵr cynaliadwy, trydan a nwy a thelathrebu sy’n allweddol ar gyfer cynaliadwyedd economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol.

Lleoedd iach, cydraddoldeb a lles Sylw

3.2.3 Y materion a’r cymhellion blaenoriaethol yw: Sylw

  • Mae angen mynd i’r afael â materion iechyd, lles a chydraddoldeb penodol fel y nodwyd yng Nghynllun Lles Conwy a Sir Ddinbych (2023-2028), gan gynnwys gwella lles, ffyniant economaidd, a goresgyn rhwystrau o ran cydraddoldeb a gwella mynediad at dai o ansawdd da.
  • Mae cyfran ychydig yn uwch o breswylwyr Conwy sy’n byw gyda salwch hir dymor cyfyngol o gymharu â chyfartaledd Cymru.
  • Mae rhai rhannau o ardal y cynllun, yn enwedig yn y cymunedau trefol, gogleddol ac arfordirol, ymysg y rhai mwyaf difreintiedig yng Nghymru, gyda lefelau isel o weithgarwch economaidd a mynediad at wasanaethau a chyfleusterau, yn enwedig ar gyfer plant, pobl ifanc a’r henoed. Ar y llaw arall, mae gan ardal wledig ddeheuol CBSC rai o’r cymunedau lleiaf difreintiedig yng Nghymru, heblaw am fynediad at wasanaethau.
  • Mae gan Fwrdeistref Sirol Conwy boblogaeth sy’n heneiddio a chyfran uwch na chyfartaledd Cymru o bobl hŷn.

3.2.4 Y goblygiadau ar gyfer y CDLlN yw: Sylw

  • Mae angen i’r CDLlN fynd i’r afael ag amddifadedd, trwy gyfrannu’n gadarnhaol at gymunedau sy’n fwy gwydn, swyddi, sgiliau, tai (gan gynnwys digartrefedd) ac anghenion grwpiau gwarchodedig.
  • Mae angen diogelu a gwella mynediad at wasanaethau a chyfleusterau gofal iechyd, lleihau anghydraddoldeb o ran iechyd a gwella iechyd a lles corfforol a meddyliol cymunedau ym Mwrdeistref Sirol Conwy. Bydd angen i’r CDLlN sicrhau ei fod yn hwyluso ac yn annog teithio llesol, hamdden corfforol, isadeiledd gwyrdd ac yn cynyddu hygyrchedd ac ansawdd darpariaeth gofod agored.
  • Mae angen lleihau tlodi ac anghydraddoldeb, mynd i’r afael ag eithrio cymdeithasol a hyrwyddo cydlyniant cymunedol, drwy wella mynediad at gyfleusterau cymunedol. Mae angen sicrhau bod y cymunedau’n agos at gyfleusterau cymunedol, gwasanaethau cyhoeddus ac amwynderau allweddol presennol.
  • Mae angen i ddatblygiadau newydd fod yn gynhwysol ac yn gyfeillgar i oed a sicrhau y gall ein preswylwyr hŷn barhau i fyw yn eu cartrefi a’u cymdogaethau eu hunain am gyfnodau hwy.

Y boblogaeth a chreu lleoedd cynaliadwy Sylw

3.2.5 Y materion a’r cymhellion blaenoriaethol yw: Sylw

  • Mae cadw pobl ifanc yn ein hardal yn her enfawr, gan fod rhagolygon poblogaeth ar gyfer Bwrdeistref Sirol Conwy yn dangos bwlch mawr yn y strwythur oedran rhwng 18 a 40 oed. Dyma’r grŵp oedran sy’n fwyaf tebygol o fod yn economaidd a chymdeithasol symudol, yn chwilio am waith, addysg a chyfleoedd cymdeithasol eraill y tu allan i’r ardal.
  • Mae gan Fwrdeistref Sirol Conwy strwythur poblogaeth sy'n heneiddio. Mae strwythur oedran y Fwrdeistref Sirol yn sylweddol hŷn na Chymru gyda 26.2% o’r boblogaeth dros 65 oed, sy’n rhoi pwysau ar wasanaethau cyhoeddus a chymdeithasol. Erbyn canol y 2030au (cyn diwedd cyfnod y cynllun), bydd Conwy’n gweld gostyngiad yn y grwpiau hŷn (yn enwedig rhai 75+).

3.2.6 Y goblygiadau ar gyfer y CDLlN yw: Sylw

  • Bydd angen i’r CDLlN sicrhau ei fod yn hyrwyddo strwythur oedran cytbwys ac yn darparu’r tai, cyflogaeth ac isadeiledd gofynnol i annog lles economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol i bawb. Mae cadw’r boblogaeth iau yn fater allweddol ar gyfer y cynllun yn ogystal ag annog y boblogaeth iau i ddychwelyd i’r ardal.
  • Bydd angen i’r CDLlN gynllunio ar gyfer newid yn y boblogaeth ond hefyd sicrhau y cynllunnir y lefel briodol o wasanaethau cyhoeddus a chymdeithasol i gefnogi’r boblogaeth sy’n heneiddio.

Dyluniad da, yr amgylchedd adeiledig a chreu lleoedd Sylw

3.2.7 Y materion a’r cymhellion blaenoriaethol yw: Sylw

  • Mae angen gwella ansawdd dylunio i greu lleoedd gwych ar gyfer pobl ym Mwrdeistref Sirol Conwy, gan gynnwys dylunio i gael gwared â throseddu a chymdogaethau cynhwysol a hygyrch. Mae hyn yn cynnwys adlewyrchu’r gymysgedd o fathau o aneddiadau a chymeriad gwledig ardal cynllun y CDLlN.

3.2.8 Y goblygiadau ar gyfer y CDLlN yw: Sylw

  • Er mwyn cyflawni datblygu cynaliadwy yn y CDLlN, mae’n rhaid i’r dyluniad fynd y tu hwnt i estheteg a chynnwys agweddau cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol y datblygiad, gan gynnwys sut y defnyddir y gofod, sut mae adeiladau a’r parth cyhoeddus yn cefnogi’r defnydd hwn, ynghyd â’i adeiladwaith, gweithrediad, rheolaeth a’i berthynas gyda’r ardal gyfagos.
  • Mae angen i ddyluniad ymgorffori hygyrchedd ar gyfer pob grŵp oedran ac anabledd, er enghraifft, mesurau sy’n deall dementia ac yn gyfeillgar i oed.
  • Mae angen i’r CDLlN hyrwyddo pensaernïaeth a dyluniad o ansawdd uchel sy’n atgyfnerthu natur unigryw lleol ac yn meithrin ymdeimlad o le. Bydd materion dylunio a chreu lleoedd yn berthnasol i rai elfennau o’r CDLlN (e.e. polisïau'n ymwneud â dyluniad a dyraniadau safle).

Y Gymraeg a chreu lleoedd Sylw

3.2.9 Y materion a’r cymhellion blaenoriaethol yw: Sylw

  • Mae Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 yn ei gwneud yn ofynnol nad yw’r Cyngor yn trin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg. Mae hyn yn golygu hyrwyddo a hwyluso’r defnydd o’r Gymraeg mewn bywyd bob dydd. Mae’n rhaid i’r Cyngor ddilyn Safonau’r Gymraeg hefyd.
  • Mae Bwrdeistref Sirol Conwy’n cynnwys ardaloedd o gadarnleoedd y Gymraeg, lle bo cyfran uchel o breswylwyr sy’n gallu siarad Cymraeg. Mae’r ardaloedd arfordirol hefyd yn bwysig, gyda rhai ardaloedd gyda niferoedd uchel o breswylwyr sy’n gallu siarad Cymraeg.
  • Mae strategaeth hyrwyddo’r Gymraeg y Cyngor yn gosod targed i gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg o 1,600 ym Mwrdeistref Sirol Conwy erbyn 2029. Mae angen gwella a hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg ymysg y preswylwyr yn ardal CBSC, a lliniaru unrhyw effaith negyddol ar yr iaith drwy’r CDLlN.

3.2.10 Y goblygiadau ar gyfer y CDLlN yw: Sylw

  • Dylai’r CDLlN gydnabod gwerth yr iaith a chynnwys darpariaethau polisi i ddiogelu, hyrwyddo, gwella a chefnogi twf yn y defnydd o’r Gymraeg. Mae maint a lleoliad datblygiad tai, cyflogaeth a chyfleusterau cymunedol yn gallu effeithio ar y Gymraeg. Mae Papur Cefndir 42: Y Gymraeg yn nodi ardaloedd sensitif ac yn asesu effaith a’r camau lliniaru sy’n gysylltiedig â thwf y CDLlN a’r dyraniadau safle.

Rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy Sylw

3.2.11 Y materion a’r cymhellion blaenoriaethol yw: Sylw

  • Mae’r Polisi Adnoddau Naturiol a Datganiadau Ardal yn ddarnau allweddol o dystiolaeth y mae’n rhaid eu hystyried wrth baratoi cynllun datblygu.
  • Bydd angen diogelu dalfeydd carbon a’u gwella a’u hehangu lle bo modd.
  • Mae coed a phridd, yn enwedig mwd morol, yn gweithredu fel cronfeydd sylweddol o garbon, sy’n storio neu’n dal carbon atmosfferig. Gall pridd addas gronni carbon yn gynt o dan orchudd coed na mathau eraill o lystyfiant.

3.2.12 Y goblygiadau ar gyfer y CDLlN yw: Sylw

  • Bydd angen i’r CDLlN sicrhau bod yr holl ddatblygiadau yn ardal y cynllun a'i swyddogaethau'n gynaliadwy, gan ystyried yn llawn goblygiadau lleihau'r defnydd o adnoddau a mynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd, tra hefyd yn diogelu a gwella bioamrywiaeth.
  • Dylai’r CDLlN nodi sut:
    • mae’n cyfrannu at wella gwydnwch ecosystemau a rhwydweithiau ecolegol;
    • atal a gwrthdroi colled bioamrywiaeth;
    • cynnal a gwella isadeiledd gwyrdd yn seiliedig ar geisio buddion a datrysiadau ecosystem amryfal;
    • sicrhau dewisiadau lleoliad gwydn ar gyfer isadeiledd a datblygiad adeiledig, gan ystyried cyflenwadau dŵr, ansawdd dŵr a lleihau llygredd aer a sŵn a risgiau amgylcheddol lle bo modd, megis y rhai sy’n achosi risg llifogydd, newid arfordirol, halogi tir ac ansefydlogrwydd;
    • cymryd camau i symud tuag at economi gylchol, a;
    • hwyluso symud tuag at ddatgarboneiddio’r economi.

Creu lleoedd mewn ardaloedd gwledig Sylw

3.2.13 Y materion a’r cymhellion blaenoriaethol yw: Sylw

  • Fel ardal wledig gan fwyaf, mae cefn gwlad Bwrdeistref Sirol Conwy yn adnodd dynamig ac aml-bwrpas. Mae’n rhaid ei warchod a, lle bo modd, ei wella er mwyn ei werth ecolegol, daearegol, ffisiograffig, hanesyddol, archeolegol, diwylliannol, ieithyddol ac amaethyddol ac er mwyn ei adnoddau tirwedd a naturiol.
  • Mae ardaloedd gwledig ym Mwrdeistref Sirol Conwy’n wynebu heriau o ran cyflenwad tai cyfyngedig, llai o gyfleoedd cyflogaeth, gan arwain at ddiboblogi mewn rhai pentrefi.
  • Y cymunedau gwledig yw cadarnleoedd y Gymraeg. Mae galluogi’r cymunedau hyn i ffynnu yn allweddol o ran dyfodol yr iaith yn yr ardaloedd hyn.

3.2.14 Y goblygiadau ar gyfer y CDLlN yw: Sylw

  • Mae angen i’r CDLlN warchod y priodoleddau hyn yn erbyn anghenion economaidd, cymdeithasol a hamdden cymunedau lleol ac ymwelwyr. Mewn ardaloedd gwledig dylid lleoli’r mwyafrif o’r datblygiadau newydd mewn aneddiadau sydd â hygyrchedd eithaf da heb ddefnyddio ceir o gymharu â’r ardal wledig yn ei chyfanrwydd.
  • Bydd angen i’r CDLlN ystyried y materion hyn wrth ddatblygu’r weledigaeth, yr amcanion a’r strategaeth dwf.

Tir wedi’i ddatblygu’n flaenorol, tir a gyfyngir a chreu lleoedd cynaliadwy Sylw

3.2.15 Y materion a’r cymhellion blaenoriaethol yw: Sylw

  • Mae diffyg capasiti tir wedi’i ddatblygu’n flaenorol i sicrhau twf dros gyfnod y cynllun, sy’n rhoi pwysau ar y galw am dir glas. Mae rhai aneddiadau ar hyd y coridor arfordirol hefyd wedi’u cyfyngu’n sylweddol, yn bennaf oherwydd y topograffeg tua’r de, perygl llifogydd tua’r gogledd a chapasiti priffyrdd, sy’n effeithio ar allu’r cymunedau i hwyluso twf, adfywio a chreu lleoedd cynaliadwy.

3.2.16 Y goblygiadau ar gyfer y CDLlN yw: Sylw

  • Mae angen i’r CDLlN sicrhau bod lefelau twf a datblygu yn y dyfodol yn cael ei gyflawni mewn lleoliadau cynaliadwy a hygyrch, yn ceisio hyrwyddo dylunio da a lleoedd iachach, yn diogelu’r Gymraeg ac yn cael ei gefnogi gan yr isadeiledd cymdeithasol, amgylcheddol, diwylliannol ac economaidd gofynnol. Wrth ddatblygu strategaeth ofodol ar gyfer y CDLlN, mae angen blaenoriaethu’r egwyddor ‘canol y dref yn gyntaf’ a defnydd addas a chynaliadwy o dir a ddatblygwyd yn flaenorol a / neu safleoedd nas defnyddir yn llawn ar gyfer pob math o ddatblygiad o fewn aneddiadau presennol fel blaenoriaeth. Lle nad oes tir a ddatblygwyd yn flaenorol ar gael, dylid ystyried safleoedd tir glas addas a chynaliadwy o fewn neu ar gyrion aneddiadau.
  • A gyfer yr ardaloedd lle bo cyfyngiadau sylweddol (e.e. perygl llifogydd), bydd angen i’r CDLlN sicrhau ei fod yn cyfrannu at gymunedau gwydn drwy raglenni gwella ac adfywio.

Rheoli ffurf anheddiad Sylw

3.2.17 Y materion a’r cymhellion blaenoriaethol yw: Sylw

  • Mae gan Gonwy nifer o Letemau Glas ar hyn o bryd a ffiniau anheddiad sydd wedi’u dylunio i ddiogelu ffurf drefol a chefn gwlad agored.

3.2.18 Y goblygiadau ar gyfer y CDLlN yw: Sylw

  • Bydd angen i’r CDLlN ddiogelu rhag blerdwf trefol a datblygu amhriodol drwy adolygu ffiniau Lletemau Glas ac anheddiad.

Dyraniadau Safle Sylw

3.2.19 Y materion a’r cymhellion blaenoriaethol yw: Sylw

  • Mae dyraniadau safle a nodir yn y CDLlN yn cael eu cefnogi gan asesiadau gallu i gyflawni, asesiadau hyfywedd a pholisïau creu lleoedd penodol i safle.

3.2.20 Y goblygiadau ar gyfer y CDLlN yw: Sylw

  • Wrth adlewyrchu ar eu cyfraniad at ofynion twf ardal CDLlN Conwy yn y dyfodol, ac fel elfennau allweddol o Gymru’r Dyfodol 2040 a Bargen Dwf Gogledd Cymru, mae dyraniadau safle wedi’u nodi fel eu bod yn gwneud cyfraniad pwysig at ddarpariaeth gyffredinol ar gyfer twf yn ystod cyfnod y cynllun. Mae’r safleoedd hyn yn cael eu cynnig yn bennaf yn yr Ardal Dwf Ranbarthol a nodwyd yng Nghymru’r Dyfodol 2040 a lleoliadau cynaliadwy eraill, mewn ardaloedd o angen a lleoliadau lle y darperir yr isadeiledd neu y gellir darparu’r isadeiledd dros gyfnod y cynllun.

Cynlluniau Creu Lleoedd a Chynlluniau Bro Sylw

3.2.21 Y materion a’r cymhellion blaenoriaethol yw: Sylw

  • Mae Cynlluniau Creu Lleoedd a Chynlluniau Bro yn ddogfennau anstatudol, dewisol. Gall cymunedau lleol ysgogi eu paratoi ac maent yn adnodd pwerus wrth hyrwyddo gweithredu ar y cyd i wella lles a chreu lleoedd.
  • Dylai Cynlluniau Creu Lleoedd a Chynlluniau Bro gefnogi darpariaeth polisïau y CDLlN ac maent yn cael eu mabwysiadu fel canllaw cynllunio atodol (CCA).

3.2.22 Y goblygiadau ar gyfer y CDLlN yw: Sylw

  • Bydd angen i’r CDLlN osod y dull polisi ar gyfer Cynlluniau Bro er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth a chynorthwyo cymunedau. Bydd angen i’r CDLlN nodi pwysigrwydd Cynlluniau Bro fel rhan o weithredu creu lleoedd ac wrth ddarparu lleoedd cynaliadwy a lles gwell.

3.3 Lleoedd iach a chymdeithasol yng Nghonwy Sylw

Tai, tai fforddiadwy ac anghenion Sipsiwn a Theithwyr Sylw

3.3.1 Y materion a’r cymhellion blaenoriaethol yw: Sylw

  • Mae disgwyl i boblogaeth Bwrdeistref Sirol Conwy gynyddu o oddeutu 4.2% dros gyfnod y cynllun.
  • Erbyn 2033, bydd aelwydydd yn llai a bydd mwy o aelwydydd na’r hyn a geir ar hyn o bryd, a bydd hyn yn arwain at y galw am dai ychwanegol.
  • Mae strwythur poblogaeth Bwrdeistref Sirol Conwy’n heneiddio; bydd angen stoc o dai addasadwy a chymdogaethau sy’n gyfeillgar i oed.
  • Mae Bwrdeistref Sirol Conwy’n profi problemau difrifol gyda’r boblogaeth iau yn symud o’r sir.
  • Mae’r dystiolaeth bresennol yn awgrymu fod gan Fwrdeistref Sirol Conwy angen am 364 o unedau tai fforddiadwy y flwyddyn neu 3,630 hyd at 2033. Nid oes yn rhaid i’r cyfan fod yn adeiladau newydd. Mae swyddogaeth allweddol ar gyfer y stoc bresennol o dai.
  • Bydd galw parhaus am leiniau ar gyfer Sipsiwn, Teithwyr a Siewmyn Teithiol. Mae’r Asesiad o Anghenion Sipsiwn a Theithwyr (2022) yn nodi bod angen 2 lain ychwanegol ar gyfer sipsiwn a theithwyr yn y safle preswyl presennol yng Nghonwy.

3.3.2 Y goblygiadau ar gyfer y CDLlN yw: Sylw

  • Mae’r materion allweddol hyn yn arwain at y galw am dai ychwanegol ac isadeiledd cysylltiol dros gyfnod y CDLlN.
  • Mae goblygiadau hefyd o ran y math, cymysgedd a maint y tai sy’n ofynnol er mwyn ystyried yr aelwydydd llai a thai addasadwy ar gyfer yr henoed.
  • Mae angen i’r CDLlN annog strwythur oedran sy’n fwy cytbwys a mynd i’r afael â’r boblogaeth iau sy’n gadael yr ardal drwy dai, cyflogaeth, addysg, cyfleusterau cymunedol a gwasanaethau.
  • Mae’n rhaid ystyried yr angen am dai fforddiadwy newydd ochr yn ochr â dulliau eraill o ddiwallu’r angen am dai fforddiadwy (e.e. cynyddu trosiant y stoc presennol, tai gwag, marchnad rhentu preifat). Mae hyfywedd yn ystyriaeth allweddol yn y CDLlN wrth bennu lefel y tai fforddiadwy a geisir mewn datblygiadau tai.
  • Mae angen i’r CDLlN sicrhau ei fod yn gosod mecanweithiau i ddiwallu’r anghenion tai yn y CDLlN yn unol â’r trywydd drwy flaenlwytho tystiolaeth, cynyddu’r lwfans at raid a dad-ddyrannu tir na ellir ei gyflawni.
  • Bydd angen i’r CDLlN sicrhau ei fod yn cynnwys yr angen presennol am 2 lain preswyl yn y safle presennol yng Nghonwy ac yn cyflwyno polisïau sy’n seiliedig ar feini prawf i reoli unrhyw angen pellach sy’n codi.

Cludiant a hygyrchedd Sylw

3.3.3 Y materion a’r cymhellion blaenoriaethol yw: Sylw

  • Dylai bod y system gynllunio’n galluogi pobl i gael gafael ar swyddi a gwasanaethau trwy wneud siwrneiau byrrach, mwy effeithlon a chynaliadwy, ar droed, ar feic ac ar drafnidiaeth gyhoeddus. Mae mynediad at gludiant cynaliadwy’n allweddol er mwyn cefnogi cymunedau iach sydd wedi’u cysylltu’n dda.
  • Mae llwybrau teithio llesol o fewn ardal cynllun CBSC wedi’u disgrifio fel rhai gwael gyda diffyg buddsoddiad.
  • Gan fod yr ardal yn wledig gan fwyaf, mae rhai cymunedau yn cael trafferth osgoi defnyddio ceir yn hytrach na defnyddio dulliau teithio cynaliadwy.
  • Mewn rhai cymunedau, yn enwedig ar hyd y coridor arfordirol ceir materion o ran capasiti’r briffordd e.e. Abergele.
  • Mae’r Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol presennol yn nodi prosiectau blaenoriaeth ar gyfer ardal Bwrdeistref Sirol Conwy.
  • Mae’r Rhwydwaith Ffyrdd Craidd yn cysylltu Bwrdeistref Sirol Conwy gyda’r Bwrdeistrefi Sirol cyfagos ac ardaloedd consortiwm cludiant rhanbarthol. Mae’r ffyrdd canlynol yn rhan o’r Rhwydwaith Ffyrdd Craidd yn y Fwrdeistref Sirol: Yr A55 (llwybr arfordirol y gogledd) a’r A470 (llwybr canolog). Mae’r ddwy brif ffordd yn cysylltu ardaloedd o boblogaethau lleol a phrif aneddiadau, gan uno gyda rhwydweithiau ffyrdd B a’r holl lwybrau dosbarthedig anrhifedig o fewn y Fwrdeistref Sirol.

3.3.4 Y goblygiadau ar gyfer y CDLlN yw: Sylw

  • Bydd angen i’r CDLlN ddylanwadu ar leoliad, graddfa, dwysedd, cymysgedd defnyddiau a dyluniad datblygiad newydd i sicrhau ei fod yn gwella’r dewis mewn trafnidiaeth a sicrhau hygyrchedd mewn ffordd sy’n cefnogi datblygiad cynaliadwy, cynyddu gweithgarwch corfforol, gwella iechyd a helpu i fynd i’r afael â’r pethau sy'n achosi newid hinsawdd a llygredd yn yr awyr.
  • Bydd angen i’r CDLlN ymdrin â’r canlynol:
    • Galluogi mwy o ddewisiadau teithio cynaliadwy – mesurau i gynyddu lefelau cerdded, beicio a defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, lleihau dibyniaeth ar y car i deithio bob dydd;
    • Rheoli rhwydwaith – mesurau i wneud y defnydd gorau o’r capasiti sydd ar gael, gyda chefnogaeth isadeiledd newydd wedi’i dargedu; a
    • Rheoli’r galw – cymhwyso strategaethau a pholisïau i leihau’r galw am deithio, yn arbennig cerbydau preifat meddiannaeth sengl.

Canolfannau manwerthu a chanol trefi Sylw

3.3.5 Y materion a’r cymhellion blaenoriaethol yw: Sylw

  • Mae rhagamcanion Papur Cefndir 61: Astudiaeth Canol Trefi’n Gyntaf yn awgrymu, ar ôl pwyso a mesur, nad oes angen canfod safle ar gyfer datblygiad manwerthu neu fwyd/diod mawr newydd. Dylai bod y stoc bresennol o eiddo yn gallu darparu lle ar gyfer y rhan fwyaf neu’r holl dwf yn y dyfodol ac felly rhagwelir mai datblygiadau bach fydd yn dwyn ffrwyth.
  • Mae gwiriadau iechyd canol trefi yn nodi bod rhai trefi o fewn y Fwrdeistref Sirol yn iach gyda lefelau eiddo gwag isel, tra bo eraill wedi profi dirywiad dros y blynyddoedd diwethaf oherwydd bod siopau canol tref penodol wedi cau (e.e. banciau’r stryd fawr) ac effaith pandemig Covid 19 a’r newid mewn patrymau siopa.

3.3.6 Y goblygiadau ar gyfer y CDLlN yw: Sylw

  • Dylai’r CDLlN sefydlu strategaeth glir ar gyfer datblygu manwerthu, wedi ei gefnogi gan bolisïau, i gyflawni canolfannau manwerthu a chanol trefi bywiog, atyniadol a hyfyw.
  • Bydd angen i’r CDLlN sicrhau bod anghenion, pwysau a chyfleoedd manwerthu’n cael eu cefnogi gan strategaethau manwerthu priodol. Mewn rhai sefyllfaoedd, efallai y bydd angen cymryd camau rhagweithiol i nodi lleoliadau ar gyfer ehangu canolfannau manwerthu a chanol trefi. Mewn eraill efallai y bydd angen nodi mesurau i adfywio canolfannau neu i reoli newid ym mhwysigrwydd cymharol canolfan wrth i rolau canolfannau eraill ehangu.

Cyfleusterau a gwasanaethau cymunedol Sylw

3.3.7 Y materion a’r cymhellion blaenoriaethol yw: Sylw

  • Mae cyfleusterau cymunedol yn cyfrannu at yr ymdeimlad o le sy’n bwysig ar gyfer iechyd, lles ac amwynder cymunedau lleol a’r Gymraeg a dylid eu diogelu. Yn aml mae’r cyfleusterau’n elfennau allweddol i greu cymunedau hyfyw a chynaliadwy. Gallant gynnwys ysgolion, cyfleusterau diwylliannol, gwasanaethau iechyd, llyfrgelloedd, rhandiroedd a mannau addoli.
  • Mae mynediad at wasanaethau o fewn yr ardaloedd gwledig yn broblem benodol gyda’r 9 Ardal Cynnyrch Ehangach Haen Is o fewn y 10% mwyaf difreintiedig o ran mynediad at wasanaethau’n genedlaethol.
  • Mae rhai ysgolion yn llawn neu mae’n bosibl y byddent yn llenwi yn dibynnu ar gartrefi newydd a chynnydd yn y boblogaeth yn y dyfodol.
  • Mae angen rhandiroedd newydd dros gyfnod y CDLlN.

3.3.8 Y goblygiadau ar gyfer y CDLlN yw: Sylw

  • Dylai’r CDLlN gefnogi a nodi darpariaeth briodol ddigonol ar gyfer isadeiledd cymunedol i ddiwallu anghenion y boblogaeth bresennol ac yn y dyfodol, o fewn y CDSA a RDSA.

Mannau hamdden Sylw

3.3.9 Y materion a’r cymhellion blaenoriaethol yw: Sylw

  • Mae mannau hamdden yn allweddol ar gyfer ein hiechyd, lles ac amwynder ac yn cyfrannu at isadeiledd gwyrdd. Maent yn darparu gofodau chwarae, ar gyfer chwaraeon, gweithgarwch corfforol iach a lle i ymlacio, yn aml ym mhresenoldeb natur, ac yn cyfrannu at ein hansawdd bywyd.
  • Bydd rhwydweithiau o ofodau gwyrdd hygyrch a darpariaeth gofod hamdden o ansawdd da yn hyrwyddo cadwraeth natur, bioamrywiaeth ac yn darparu cyfleoedd i breswylwyr ac ymwelwyr i gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau chwarae, corfforol er mwyn hyrwyddo lles corfforol a meddyliol.
  • Mae Papur Cefndir 28: Asesiad Gofodau Hamdden hefyd yn nodi ardaloedd o ddiffyg mewn rhai ardaloedd o’r Fwrdeistref Sirol.
  • Mae angen nodi, rheoli, ehangu a gwella rhwydwaith isadeiledd gwyrdd y Fwrdeistref Sirol, gan gynnwys ardaloedd o fannau agored cyhoeddus a chydnabod ei bwysigrwydd o ran sicrhau manteision amgylcheddol, economaidd-gymdeithasol ac iechyd lleol, sydd wedi’u fel materion allweddol yng Nghynllun Lles Conwy a Sir Ddinbych.

3.3.10 Y goblygiadau ar gyfer y CDLlN yw: Sylw

  • Bydd angen i’r CDLlN annog lles corfforol a meddyliol trwy ddarparu a diogelu mannau gwyrdd hygyrch o ansawdd da, ardaloedd chwarae plant a rhwydweithiau mannau hamdden.

3.4 Lleoedd ffyniannus yng Nghonwy Sylw

Datblygu economaidd Sylw

3.4.1 Y materion a’r cymhellion blaenoriaethol yw: Sylw

  • Daw ELR Conwy (Papur Cefndir 18) i’r casgliad y bydd y gweithlu ym Mwrdeistref Sirol Conwy, hynny yw nifer yr unigolion o oedran gweithio sy’n economaidd weithgar, yn cynyddu erbyn 2033. Ar y sail hon, efallai y byddai angen rhwng 14 a 20 hectar o dir busnes (gros) dros gyfnod y CDLlN.
  • Mae angen sicrhau bod safleoedd cyflogaeth lleol yn cael eu diogelu a bod dyraniadau’n cael eu cyflwyno i gefnogi cyflogaeth mewn cymunedau.
  • Mae yna all-lif net o 4,300 o drigolion sy’n teithio allan o Fwrdeistref Sirol Conwy i weithio mewn ardaloedd eraill. Byddai ail gydbwyso'r defnydd tir yn y Fwrdeistref Sirol i sicrhau bod mwy (a gwell ansawdd) o swyddi yn cael eu darparu yn gallu helpu i wrth-droi’r tueddiad hwn a dal allgymudwyr yn ôl, gan leihau cyfraddau allgymudo net.
  • Mae gan Fwrdeistref Sirol Conwy gyfradd dwysedd swyddi is o 0.72 o’i gymharu â chyfartaledd Cymru o 0.74 ac awdurdodau cyfagos (0.78 yn Sir Ddinbych a 0.85 yng Ngwynedd).
  • Mae Bwrdeistref Sirol Conwy wedi’i leoli o fewn ardal Bargen Dwf Gogledd Cymru, a fydd yn creu cyfleoedd swyddi. Bydd hefyd yn arwain at oblygiadau o ran gofynion cyflogaeth, tai ac isadeiledd.
  • Nododd Cymru’r Dyfodol - Y Cynllun Cenedlaethol 2040 bwysigrwydd yr economi sylfaenol. Ym Mwrdeistref Sirol Conwy, mae hyn yn cynnwys y sectorau canlynol; iechyd a gofal cymdeithasol, manwerthu, tai cymdeithasol, adfywio a thwristiaeth.
  • Mae’r ELR yn nodi y dylid rhannu dyraniadau tir cyflogaeth fel 35% B1 Busnes a 65% B1c/B2/B8 Diwydiannol a Warysau.
  • Mae Asesiad o’r Farchnad Eiddo yng Nghonwy’n nodi y dylid dyrannu tir cyflogaeth newydd yn agos at lwybr traws-Ewropeaidd allweddol yr A55.
  • Mae Strategaeth Economaidd Conwy hefyd yn hyrwyddo’r defnydd o ganol trefi dinesig fel ardaloedd allweddol ar gyfer twf cyflogaeth.
  • Mae Cynllun Lles Conwy a Sir Ddinbych 2023-2028 yn ceisio darparu economi sy’n ffynnu, gyda chefnogaeth gweithlu medrus sy’n addas ar gyfer y dyfodol.
  • Mae angen cefnogi datblygiad rhwydweithiau a chlystyrau busnes, yn enwedig mentrau sy’n seiliedig ar ddyfeisgarwch a thechnoleg.

3.4.2 Y goblygiadau ar gyfer y CDLlN yw: Sylw

  • Bydd angen i’r CDLlN gefnogi ffyniant economaidd hirdymor, arallgyfeirio ac adfywio, drwy fanteisio ar sefyllfa strategol Bwrdeistref Sirol Conwy o fewn y fargen dwf ranbarthol ehangach a thrwy hyrwyddo strategaeth twf tai a chyflogaeth gyfannol wedi’i chyd-leoli.
  • Dylai’r CDLlN gyfeirio datblygu economaidd a buddsoddiad i’r lleoliadau mwyaf effeithlon a chynaliadwy.
  • Dylai’r CDLlN gefnogi darpariaeth tir digonol i ddiwallu anghenion y farchnad gyflogaeth. Dylid diogelu safleoedd cyflogaeth presennol a safleoedd newydd sy’n cael eu dyrannu drwy’r CDLlN.
  • Dylai’r CDLlN geisio:
    • Cydlynu datblygiad gyda phob math o ddarpariaeth isadeiledd megis cludiant a chyfleustodau
    • Alinio swyddi a gwasanaethau ag isadeiledd tai a chludiant cynaliadwy, i leihau'r angen am deithio, a dibyniaeth ar deithio mewn car
    • Darparu adfywio corfforol a chyfleoedd cyflogaeth i gymunedau difreintiedig
    • Cefnogi rhwydweithiau a chlystyrau busnes lle bo’n
    • briodol.
    • Mae angen cysylltiadau isadeiledd cludiant,
    • amgylcheddol a thelathrebu i gefnogi’r rhwydweithiau a’r clystyrau hyn a, lle bo gwelliannau’n ofynnol, dylid cynnwys y rhain yn y cynllun datblygu.
    • Dylai’r CDLlN edrych yn ffafriol ar unrhyw gynigion cynhyrchu ynni carbon isel ac adnewyddadwy sydd wedi’u dylunio i wasanaethu clystyrau, megis systemau gwresogi rhanbarth ac adennill ynni hynod effeithlon o wastraff, neu ddarparu rhwydwaith integredig o gasgliadau gwastraff neu ailgylchu.

Twristiaeth Sylw

3.4.3 Y materion a’r cymhellion blaenoriaethol yw: Sylw

  • Gall twristiaeth fod yn gatalydd ar gyfer adfywio, gwella'r amgylchedd adeiledig a diogelu'r amgylchedd.
  • Mae twristiaeth yn fwyfwy pwysig i’n heconomi ac mae’n cael ei gefnogi gan Gynllun Rheoli Cyrchfan Conwy (2019-2029).
  • Mae gan dwristiaeth rôl bwysig o ran economi Bwrdeistref Sirol Conwy a dylid ei gefnogi gan y CDLlN mewn modd cynaliadwy. Mae twristiaeth yn y Fwrdeistref Sirol wedi’i gefnogi’n hanesyddol gan yr asedau naturiol a hanesyddol rhagorol, ynghyd â’i leoliad strategol ger yr arfordir a Pharc Cenedlaethol Eryri.
  • Yn fwy diweddar bu twf mewn busnesau twristiaeth awyr agored ac antur cynaliadwy gydol y flwyddyn.
  • Mae Bwrdeistref Sirol Conwy wedi gweld galw am wahanol fathau o lety twristiaeth sy’n wahanol i’r hyn a geir yn draddodiadol. Mae hyn wedi arwain at lefelau uchel o lety gwyliau byrdymor mewn rhai ardaloedd.
  • Dylai datblygiad twristiaeth mewn ardaloedd gwledig fod yn ystyriol o’r amgylchedd lleol o ran natur a maint.
  • Mae gan Fwrdeistref Sirol Conwy lefelau uchel o safleoedd carafanau traddodiadol, lefel uchel ohonynt o fewn yr ardal perygl llifogydd yn nwyrain y Fwrdeistref Sirol.

3.4.4 Y goblygiadau ar gyfer y CDLlN yw: Sylw

  • Dylai’r CDLlN annog twristiaeth lle mae'n cyfrannu at ddatblygiad economaidd, cadwraeth, arallgyfeirio gwledig, adfywio trefol a chynhwysiant cymdeithasol, gan gydnabod anghenion ymwelwyr ac anghenion cymunedau lleol.
  • Hefyd, dylai'r CDLlN gefnogi llwyddiant parhaus twf twristiaeth presennol ar draws ardal y cynllun, drwy annog datblygiad priodol sy’n ymwneud â thwristiaeth, sy’n cyd-fynd o ran natur a graddfa gyda’r amgylchedd lleol.
  • Bydd angen sicrhau bod twristiaeth gynaliadwy yn cael ei hyrwyddo gan geisio sicrhau twristiaeth gydol y flwyddyn yn hytrach na thwristiaeth dymhorol.

Economi wledig Conwy Sylw

3.4.5 Y materion a’r cymhellion blaenoriaethol yw: Sylw

  • Mae economi wledig gref yn allweddol er mwyn cefnogi cymunedau gwledig cynaliadwy a ffyniannus. Mae sefydlu mentrau newydd ac ehangu busnesau newydd yn hanfodol o ran twf a sefydlogrwydd ardaloedd gwledig, gyda chefnogaeth y tai gofynnol a’r isadeiledd cymunedol angenrheidiol.
  • Mae ardaloedd gwledig Bwrdeistref Sirol Conwy’n cynnwys oddeutu 15% o boblogaeth y Fwrdeistref Sirol. Mae mwyafrif yr aneddiadau gryn bellter oddi wrth y canolfannau trefol lefel uwch, ac felly bydd angen ystyried datblygu economaidd a’r isadeiledd gofynnol yn y CDLlN.
  • Gan gydnabod y bydd effaith barhaus Brexit a’r newidiadau eraill i’r economi’n gyffredinol yn cael effaith ar ein cymunedau gwledig, gan olygu efallai y bydd angen arallgyfeirio eu cynnig busnes ymhellach er mwyn addasu.
  • Mae ardaloedd gwledig y Fwrdeistref Sirol yn rhan o gadarnleoedd y Gymraeg. Bydd cefnogi preswylwyr lleol gyda swyddi a thai priodol yn cyfrannu tuag at ddiogelu a gwella’r ardal ieithyddol bwysig hon.

3.4.6 Y goblygiadau ar gyfer y CDLlN yw: Sylw

  • Dylai’r CDLlN hyrwyddo a chefnogi cymunedau gwledig cynaliadwy a ffyniannus trwy hwyluso menter newydd, caniatáu ehangu busnes presennol a thrwy fabwysiadu dull adeiladol o ran amaethyddiaeth a newid arferion ffermio.
  • Bydd angen i’r CDLlN fabwysiadu ymagwedd adeiladol tuag at gynigion datblygu amaethyddol, yn enwedig y rhai a gynlluniwyd i ddiwallu anghenion mewn perthynas ag arferion ffermio sy’n newid, neu sy’n angenrheidiol i sicrhau cydymffurfiaeth â deddfwriaeth amgylcheddol, hylendid neu les newydd. Yn ogystal â hyn, dylai’r CDLlN fabwysiadu dull cadarnhaol o drawsnewid adeiladau gwledig i’w hailddefnyddio at ddibenion busnes.
  • Hefyd, bydd angen i’r CDLlN fabwysiadu ymagwedd gadarnhaol tuag at brosiectau arallgyfeirio mewn ardaloedd gwledig. Mae arallgyfeirio’n gallu cryfhau’r economi wledig a chyflwyno cyflogaeth a ffyniant ychwanegol i gymunedau.
  • Dylai’r CDLlN ddyrannu safleoedd gwledig newydd mewn cynlluniau datblygu ar gyfer datblygu economaidd lle bo’n briodol.
  • Er y dylid diogelu cefn gwlad agored lle bo’n bosibl, dylid cefnogi ehangu busnesau sydd eisoes wedi’u lleoli mewn cefn gwlad agored yn y CDLlN, cyn belled â nad oes unrhyw effeithiau annerbyniol.
  • Bydd angen i’r CDLlN ddynodi ardal sy’n sensitif o ran y Gymraeg ac ymagwedd polisi sy’n diogelu, hyrwyddo a gwella’r Gymraeg. Mae lefelau priodol o dai a swyddi newydd i ddiwallu’r angen lleol a nodwyd yn allweddol er mwyn i’r Gymraeg allu ffynnu.

Isadeiledd cludiant a sero net Sylw

3.4.7 Y materion a’r cymhellion blaenoriaethol yw: Sylw

  • Mae darparu isadeiledd cludiant cynaliadwy yn hanfodol er mwyn meithrin ffyniant, mynd i’r afael â newid hinsawdd, lleihau llygredd yn yr awyr a gwella lles cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Bwrdeistref Sirol Conwy.
  • Mae angen hwyluso’r gwaith o ddarparu, datgarboneiddio a gwella isadeiledd trafnidiaeth gynaliadwy mewn ffordd sy’n lleihau’r angen i deithio, yn arbennig mewn cerbydau preifat, ac sy’n hwyluso ac yn gwneud mwy o ddefnydd o ddewisiadau teithio llesol a chynaliadwy.
  • Mae llwybrau teithio llesol o fewn y Fwrdeistref Sirol wedi’u disgrifio fel rhai gwael gyda diffyg buddsoddiad.
  • Mae gan Fwrdeistref Sirol Conwy sawl gorsaf reilffordd mewn trefi ar hyd prif reilffordd Gogledd Cymru gyda chysylltiadau gyda sawl cyrchfan arall. Hefyd, mae rheilffordd Dyffryn Conwy’n teithio o Landudno, gan gysylltu sawl pentref gwledig.
  • Mae’r gwasanaeth bws ar hyd y coridor arfordirol yn cael ei wasanaethu’n dda’n gyffredinol, er bod rhai ardaloedd lle efallai y bydd angen gwasanaethau ychwanegol i ddygymod â thwf. Mae gan yr ardal wledig wasanaeth da ar gyfer Llanrwst, ond mae’n gyfyngedig wedi hynny o ran cefnogi’r aneddiadau gwledig ehangach.
  • Mae nifer o gyfnewidfeydd cludiant cynaliadwy wedi’u cynllunio yn yr ardal. 
  • Ar hyn o bryd mae gan yr ardal nifer o ardaloedd seidin rheilffordd sydd angen eu diogelu.

3.4.8 Y goblygiadau ar gyfer y CDLlN yw: Sylw

  • Dylai’r CDLlN gefnogi gwelliannau angenrheidiol i'r isadeiledd cludiant, lle gellir arddangos ei fod yn cynyddu lefelau defnyddio cludiant cynaliadwy a lleihau ein dibyniaeth ar geir preifat ar gyfer siwrneiau dyddiol.
  • Dylai’r CDLlN leoli twf mewn ardaloedd sydd â’r isadeiledd gofynnol neu a gynlluniwyd i greu lleoedd cynaliadwy a lleihau’r angen i ddefnyddio ceir. Dylai’r CDLlN gefnogi cludiant cyhoeddus a chyfnewidfeydd ychwanegol pan fo’r angen.
  • Dylai’r CDLlN gefnogi’r holl gynigion (mewn egwyddor) ar gyfer ffyrdd newydd a gwelliannau mawr i’r prif rwydwaith ffyrdd dros gyfnod y cynllun, a nodi’r polisi eang ar flaenoriaethau o ran gwelliannau bach. Dylai hefyd gefnogi cysylltiadau teithio llesol newydd a cheisio gwelliannau oddi ar y safle i’r cysylltiadau teithio llesol lle bo’n briodol.

Sero net, ynni a newid hinsawdd Sylw

3.4.9 Y materion a’r cymhellion blaenoriaethol yw: Sylw

  • Mae newid hinsawdd yn rhagweld cynnydd yn nifrifoldeb ac amlder digwyddiadau glaw. Felly mae llifogydd o afonydd, carthffosydd a dŵr wyneb yn debygol o gynyddu ar draws Bwrdeistref Sirol Conwy yn y dyfodol. Mae disgwyl i’r Fwrdeistref Sirol fod yn fwyfwy diamddiffyn i lifogydd llanw wrth i lefelau’r môr gynyddu.
  • Mae Cymru’r Dyfodol 2040 yn nodi ardaloedd sydd wedi’u hasesu ar gyfer cynlluniau ynni adnewyddadwy ym Mwrdeistref Sirol Conwy.
  • Mae’r Cynllunio Ynni Lleol yn nodi llwybr i ddiwallu sero net erbyn 2050 gyda 7 ymyrraeth allweddol.
  • Mae Strategaeth Economaidd Conwy’n hyrwyddo mwy o gynlluniau ynni adnewyddadwy a dyhead i gyflwyno morlyn llanw ar hyd arfordir Gogledd Cymru, a fyddai’n arwain at well gwydnwch rhag llifogydd, cynhyrchu twristiaeth a hamdden ac adfywio yn ogystal â chynhyrchu ynni adnewyddadwy.
  • Yn yr hirdymor gallwn ddisgwyl tuedd barhaus oddi wrth gynhyrchu tanwydd ffosil tuag at ffynonellau ynni sy’n fwy cynaliadwy.
  • Mae Cynllun Lles Conwy a Sir Ddinbych (2023-2028) yn cydnabod effaith newid hinsawdd a’r angen i greu gwydnwch mewn ymateb i heriau o’r fath.

3.4.10 Y goblygiadau ar gyfer y CDLlN yw: Sylw

  • Dylai’r CDLlN osod polisi i:
    • leihau’r ynni carbon uchel a ddefnyddir gennym yn ardal CDLlN Conwy;
    • lleihau ein dibyniaeth ar ynni a gynhyrchir o danwyddau ffosil;
    • rheoli a hybu’r trawsnewidiad i economi carbon isel yn frwd;
    • lliniaru achosion newid hinsawdd yn unol â’r hierarchaeth ynni ar gyfer cynllunio.
    • Darparu gofynion defnydd tir yn y Cynllun Ynni Lleol.
  • Dylai’r CDLlN sicrhau cymysgedd priodol o ddarpariaeth ynni, sy’n sicrhau’r manteision mwyaf posibl i economi a chymunedau Bwrdeistref Sirol Conwy tra’n sicrhau fod yr effaith amgylcheddol a chymdeithasol mor isel â phosibl. Mae manteision ynni adnewyddadwy a charbon isel fel rhan o’r ymrwymiad cyffredin i fynd i’r afael â newid hinsawdd a chynyddu diogelwch ynni yn allweddol er mwyn diwallu targedau lleihau carbon. Dylai gefnogi ynni cynaliadwy adnewyddadwy, ynni isel a mynediad i’r grid o fewn datblygiadau.
  • Dylai’r CDLlN gynnwys targedau ynni adnewyddadwy, ymyraethau a gofynion defnydd tir a nodwyd yn y Cynllun Ynni Lleol.
  • Dylai polisïau'r CDLlN sicrhau bod egwyddorion dylunio adeiladau cynaliadwy yn rhan allweddol o ddyluniad datblygiad newydd. Hefyd, mae’r CDLlN wedi asesu safleoedd dynodedig drwy asesiad hyfywedd economaidd i nodi cyfleoedd i gyflawni datblygiad carbon sero net a chyflawni safonau adeiladu cynaliadwy uwch.
  • Dylai’r CDLlN nodi Ardaloedd Chwilio Lleol ar gyfer ynni gwynt a nodi sut maent yn gysylltiedig â’r Ardaloedd wedi’u Hasesu yng Nghymru’r Dyfodol 2040.

Telathrebu Sylw

3.4.11 Y materion a’r cymhellion blaenoriaethol yw: Sylw

  • Mae isadeiledd cyfathrebu electronig diogel a fforddiadwy yn allweddol ar gyfer pobl a busnesau.
  • Parthau Gweithredu ar Ffonau Symudol – Cyfeirir atynt yng Nghymru’r Dyfodol - y Cynllun Cenedlaethol 2040, ond, nid yw’r ardaloedd hyn wedi’u dylunio’n ofodol eto.
  • Mae ardaloedd o Fwrdeistref Sirol Conwy’n profi diffyg o ran telathrebu symudol ac nid oes gan rai ardaloedd fynediad at fand eang sefydlog.

3.4.12 Y goblygiadau ar gyfer y CDLlN yw: Sylw

  • Dylai’r CDLlN gynorthwyo i gefnogi isadeiledd telathrebu mewn lleoliadau priodol. Dylai nodi’r polisïau ar gyfer datblygu telathrebu, gan gynnwys polisïau'n seiliedig ar feini prawf i arwain datblygiad mewn lleoliadau addas.
  • Dylai’r CDLlN geisio cefnogi cynigion ar gyfer isadeiledd band eang newydd neu welliannau i rwydweithiau neu gyfarpar presennol. Dylai polisïau sicrhau bod isadeiledd band eang yn anghenion hanfodol yn y cynigion datblygu newydd.
  • O ran Parthau Gweithredu ar Ffonau Symudol, er na chyhoeddwyd unrhyw barthau’n swyddogol hyd yma, bydd yr Awdurdod Cynllunio Lleol yn parhau i weithio gyda’r broses gynllunio o ran isadeiledd symudol er mwyn gwella’r lleoliadau sydd â gwasanaeth gwael neu ddim gwasanaeth ar hyn o bryd.

Mwynau Sylw

3.4.13 Y materion a’r cymhellion blaenoriaethol yw: Sylw

  • Mae’r ddarpariaeth ar gyfer agregau o fewn awdurdodau lleol unigol yn cael ei arwain gan Ddatganiad Technegol Rhanbarthol ar gyfer agregau, sy’n ofyniad ym mharagraff 50 Nodyn Cyngor Technegol 1 Mwynau. Mae’r datganiad technegol wedi’i adolygu am yr eildro yn 2020 a dyma’r ail adolygiad sy’n berthnasol i’r CDLlN.
  • Mae’r Datganiad Technegol Rhanbarthol diwygiedig yn llunio argymhellion ar gyfer unrhyw ddosraniad gofynnol i sicrhau cyflenwad digonol o gerrig mâl ac agregau tywod a graean gan gynnwys isafswm darpariaeth a argymhellir yn genedlaethol ar gyfer 7 mlynedd o dywod a graean a 10 mlynedd o gerrig mâl.
  • Mae nifer o adroddiadau monitro rhanbarthol wedi’u cyhoeddi sy’n dangos bod gwastraff a gasglwyd gan awdurdodau lleol yn y Fwrdeistref Sirol wedi gostwng yn gyffredinol ers dechrau cyfnod y cynllun ac mae cyfraddau ailgylchu wedi cynyddu’n gyffredinol.
  • Mae’r gofyniad i gynhyrchu Cynlluniau Gwastraff Rhanbarthol wedi’i dynnu, ond mae gofyniad i gyflawni gwaith monitro i sicrhau bod capasiti gwaredu ac adfer digonol yn bodoli o fewn rhanbarth.
  • Y prif gasgliad hyd yma yw nad oes angen ychwanegol am gapasiti gwaredu yn y rhanbarth ac y dylid ystyried unrhyw ofyniad pellach am allu trin gwastraff gweddillol yn ofalus i sicrhau na fyddai’r cyfleuster yn arwain at orddarpariaeth.

3.4.14 Y goblygiadau ar gyfer y CDLlN yw: Sylw

  • Mae banc tir sylweddol o gronfeydd cerrig mâl a ganiateir ym Mwrdeistref Sirol Conwy, ac fe ragwelir y bydd yn para am gyfnod llawn y CDLlN a’r 10 mlynedd gofynnol o fanc tir. Felly credir nad yw’n debygol y bydd unrhyw ofyniad sylweddol ar gyfer darpariaeth ychwanegol yn y CDLlN.
  • Hefyd mae absenoldeb adnoddau tywod a graean nas cyfyngir ac sy’n fasnachol hyfyw yn golygu bod unrhyw ddarpariaeth sydd ei hangen o bosibl ym Mwrdeistref Sirol Conwy o dywod a graean yn fwy tebygol o gael eu diwallu drwy ddosraniad o Wynedd.
  • Bydd angen i adolygiadau CDLlN yn y dyfodol roi ystyriaeth i ganlyniad adolygiadau pellach o’r RTS (ar ôl eu cyhoeddi).
  • Er bod polisi a chanllawiau cenedlaethol ym maes gwastraff wedi newid, mae polisïau MWS/6 ac MWS/7 y CDLl presennol wedi bod yn ddigon hyblyg i fedru darparu’r isadeiledd ar gyfer gwastraff. Ond, gan na nodir gofyniad am safleoedd gwastraff ychwanegol ym Mwrdeistref Sirol Conwy, nid oes angen polisi yn canolbwyntio ar ddyraniadau mwyach.
  • Mae’r ymagwedd o ddefnyddio tir cyflogaeth ar gyfer gwastraff yn parhau i fod yn hyfyw. Mae alinio gyda pholisïau yn adran gyflogaeth y CDLlN yn ofynnol i sicrhau hyblygrwydd o ran lleoliad i ddarparu unrhyw gyfleusterau newydd neu i adleoli unrhyw gyfleusterau presennol.

3.5 Lleoedd naturiol a diwylliannol yng Nghonwy Sylw

Tirweddau Sylw

3.5.1 Y materion a’r cymhellion blaenoriaethol yw: Sylw

  • Mae tirweddau Bwrdeistref Sirol Conwy’n anhygoel ac amrywiol. Mae CDLl Conwy sydd wedi’i fabwysiadu’n dynodi 6 o Ardaloedd Tirwedd Arbennig yn ardal y cynllun.
  • Parc Cenedlaethol Eryri, a ddynodwyd fel parc cenedlaethol ym 1952, yw’r mwyaf a’r cyntaf i dderbyn y dynodiad yng Nghymru. Mae’n cynnwys ardal o 213,200 hectar. Mae Parc Cenedlaethol Eryri yn cynnwys rhannau o Wynedd a rhannau o Fwrdeistref Sirol Conwy. Mae’r ffin yn croesi drwy aneddiadau gwledig gan olygu eu bod yn rhai a ‘rennir’ o safbwynt cynllunio defnydd tir.

3.5.2 Y goblygiadau ar gyfer y CDLlN yw: Sylw

  • Bydd angen i’r CDLlN ystyried tirweddau o’r cam cyntaf wrth lunio strategaethau a pholisïau.
  • Bydd angen i’r CDLlN gadw a gwella asedau naturiol o ansawdd uchel ym Mwrdeistref Sirol Conwy.
  • Bydd angen cydweithio rhwng Awdurdodau Cynllunio Lleol Conwy a Pharc Cenedlaethol Eryri i gynllunio’n effeithiol ar gyfer ein haneddiadau a rennir.

Ardaloedd arfordirol Sylw

3.5.3 Y materion a’r cymhellion blaenoriaethol yw: Sylw

  • Mae arfordir Conwy’n cynnwys 85% o’r boblogaeth. Mae’r holl ardaloedd trefol lefel uwch ar hyd coridor arfordirol yr A55.
  • Mae gan yr ardal lefelau uchel o bwysau datblygu ac mae ardaloedd fel Pensarn, Towyn a Bae Cinmel angen eu hadfywio, lle bo perygl llifogydd yn her allweddol.

3.5.4 Y goblygiadau ar gyfer y CDLlN yw: Sylw

  • Bydd angen i’r CDLlN sefydlu’n glir beth mae’r arfordir yn ei olygu ar gyfer Bwrdeistref Sirol Conwy a datblygu, neu gymhwyso, polisïau penodol, sy’n adlewyrchu cymeriad yr arfordir. Trwy wneud hynny dylai’r CDLlN gydnabod y rhyngberthynas rhwng rhinweddau ffisegol, biolegol a defnydd tir yr ardaloedd arfordirol ac effeithiau newid hinsawdd yn y Fwrdeistref Sirol.

Isadeiledd gwyrdd Sylw

3.5.5 Y materion a’r cymhellion blaenoriaethol yw: Sylw

  • Mae Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 yn rhoi cymhelliant cryf ar gyfer darparu isadeiledd gwyrdd aml-swyddogaeth.
  • Mae Asesiad Isadeiledd Gwyrdd Conwy (Papur Cefndir 47) wedi’i gyflawni ac mae’n hysbysu’r CDLlN i ddatblygu ymagwedd gadarn i wella bioamrywiaeth, cynyddu gwydnwch ecolegol a gwella canlyniadau lles. Mae hefyd yn nodi’r cyfleoedd strategol allweddol lle bo adfer, cynnal, creu neu gysylltu nodweddion a swyddogaethau gwyrdd a glas yn darparu’r buddion mwyaf arwyddocaol yn ardal CDLlN Conwy.

3.5.6 Y goblygiadau ar gyfer y CDLlN yw: Sylw

  • Dylai’r CDLlN amddiffyn a gwella asedau a rhwydweithiau isadeiledd gwyrdd.
  • Mae’n rhaid i’r CDLlN weithredu ei Ddyletswydd Adran 6 o ran amrywiaeth, graddau, cyflwr, cysylltedd a’r gallu i newid.

Bioamrywiaeth Sylw

3.5.7 Y materion a’r cymhellion blaenoriaethol yw: Sylw

  • Dylid ystyried y wybodaeth yn Natganiadau Ardal Cyfoeth Naturiol Cymru a’r cofnodion rhywogaethau gan Ganolfannau Cofnodi Amgylcheddol Lleol. Hyd yma, nid yw Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cynhyrchu’r datganiadau ardal ar gyfer Gogledd Orllewin Cymru.
  • Mae gan Fwrdeistref Sirol Conwy 3 Ardal Gwarchodaeth Arbennig, 8 Ardaloedd Cadwraeth Arbennig, un safle Ramsar, 43 Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig a 6 Gwarchodfa Natur Genedlaethol. Mae’n rhaid i’r CDLlN gefnogi rheolaeth yr holl safleoedd dynodedig cenedlaethol er mwyn cyflawni eu hamcanion cadwraeth diffiniedig.
  • Mae gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy dros 40 o Ardaloedd Bioamrywiaeth ar dir sy’n eiddo neu sy’n cael ei reoli gan y Cyngor ac 11 o Warchodfeydd Natur Lleol.

3.5.8 Y goblygiadau ar gyfer y CDLlN yw: Sylw

  • Bydd angen i’r CDLlN sicrhau ei fod yn dilyn ymagwedd fesul cam i ddiogelu a gwella bioamrywiaeth a datblygu rhwydweithiau ecolegol gwydn drwy sicrhau bod unrhyw 

Dŵr, aer, seinwedd a golau Sylw

3.5.9 Y materion a’r cymhellion blaenoriaethol yw: Sylw

  • Mae aer glân a seinwedd priodol yn cyfrannu at brofiad cadarnhaol o le ynghyd â bod yn hanfodol ar gyfer iechyd, amwynder a lles cyhoeddus.
  • Mae’r data diweddaraf sydd ar gael yn nodi nad yw safonau ansawdd aer ym Mwrdeistref Sirol Conwy mewn perygl o ragori ar Amcanion Ansawdd Aer yr Undeb Ewropeaidd ac nid oes angen asesiadau manwl neu gynlluniau rheoli ar lefel y Cyngor ar gyfer unrhyw lygryddion.
  • Mae angen cydbwyso darpariaeth golau er mwyn gwella diogelwch er mwyn atal troseddau a chaniatáu cynnal gweithgareddau chwaraeon a hamdden gyda’r angen i ddiogelu’r amgylchedd naturiol a hanesyddol gan gynnwys bywyd gwyllt; cadw awyr dywyll lle bo’n briodol; atal effaith golau a pharchu amwynder defnydd tir cyfagos, a lleihau’r allyriadau carbon sy’n gysylltiedig â golau.

3.5.10 Y goblygiadau ar gyfer y CDLlN yw: Sylw

  • Dylai’r CDLlN sicrhau ei fod yn cynnwys polisïau sy’n atal effaith a gwneud y mwyaf o’i gyfraniad er mwyn cyflawni Cymru iachach drwy geisio lleihau amlygiad y boblogaeth gyffredinol at lygredd aer a sŵn ochr yn ochr â gweithredu i fynd i’r afael ag ardaloedd llygredd uchel. Drwy wneud hynny, bydd egwyddor asiant newid yn ystyriaeth berthnasol.
  • Dylai’r CDLlN nodi ardaloedd, megis ardaloedd o bwysigrwydd diwylliannol neu hanesyddol, y dylid rhoi ystyriaeth arbennig iddynt o ran seinwedd lle efallai y bydd yn ofynnol diogelu bywiogrwydd lleoedd neu ddarparu amgylchedd tawel, adferol o fewn ardaloedd adeiledig prysur.
  • Fe fydd yn amhrisiadwy bod y CDLlN yn nodi synergedd rhwng mapio isadeiledd gwyrdd a chymedroli effaith diogelu, neu ddarparu, isadeiledd gwyrdd o ran cynnal ansawdd aer da a seinweddau priodol, gan gynnwys rôl gofodau gwyrdd tawel.

Amgylchedd hanesyddol Sylw

3.5.11 Y materion a’r cymhellion blaenoriaethol yw: Sylw

  • Mae gan asedau hanesyddol rôl allweddol o safbwynt twristiaeth, buddsoddi a chymunedau, ac mae angen eu diogelu a’u gwella drwy’r CDLlN.
  • Mae Castell a muriau tref Conwy wedi’u dynodi yn Safle Treftadaeth y Byd. Mae UNESCO o’r farn bod Castell Conwy ymysg un o’r enghreifftiau gorau o bensaernïaeth filwrol o ddiwedd y 13eg ganrif a dechrau’r 14eg ganrif yn Ewrop”.
  • Mae ardal y CDLlN yn cynnwys 80 o Henebion Cofrestredig, 1,488 o Adeiladau Rhestredig gyda 22 ohonynt yn rhai Gradd I, 1,389 yn rhai Gradd II a 77 yn rhai Gradd II*, a 25 o Ardaloedd Cadwraeth. Mae’n rhaid i’r CDLlN gefnogi diogelu a gwella’r holl asedau treftadaeth sydd wedi’u dynodi’n genedlaethol, gan gynnwys eu lleoliadau.
  • Mae’r CDLl sydd wedi’i fabwysiadu yn cynnwys polisi i ddiogelu adeiladau a strwythurau o bwysigrwydd lleol, ond hyd yma, nid oes rhestr o’r asedau hanesyddol i gefnogi’r polisi.

3.5.12 Y goblygiadau ar gyfer y CDLlN yw: Sylw

  • Mae’r asedau treftadaeth a nodwyd yn elwa o amddiffyniad statudol ac mae’n rhaid ystyried hyn o fewn polisïau, cynigion a chanllawiau yn y CDLlN.
  • Mae’n rhaid i’r CDLlN gadw a gwella asedau treftadaeth ddiwylliannol o ansawdd uchel ym Mwrdeistref Sirol Conwy.
  • Dylid cadw, gwarchod a hyrwyddo eu cyfraniad i’r ardal ac i dref Conwy’n enwedig (tref treftadaeth y byd) er mwyn annog twristiaeth yn yr ardal.
  • Er mwyn diogelu asedau hanesyddol o bwysigrwydd lleol, bydd angen llunio rhestr o asedau o’r fath cyn mabwysiadu’r CDLlN. Mae’r broses hon eisoes ar y gweill, gyda sawl ased hanesyddol posibl wedi’u nodi ar lefel tref a chymuned. Bydd y rhestr derfynol yn ffurfio rhan o CCA ar Asedau Hanesyddol o Bwysigrwydd Lleol.

Adfywio drwy ddiwylliant Sylw

3.5.13 Y materion a’r cymhellion blaenoriaethol yw: Sylw

  • Mae’r polisi cynllunio cenedlaethol yn nodi pwysigrwydd cynnal nodweddion unigryw ac arbennig sy’n rhoi ar wella a chynnal asedau diwylliannol Bwrdeistref Sirol Conwy.

3.5.14 Y goblygiadau ar gyfer y CDLlN yw: Sylw

  • Bydd angen i’r CDLlN gynnig cefnogaeth i’r fath fentrau pan maent yn berthnasol i gynlluniau defnydd tir ac yn cyd-fynd ag amcanion / polisïau eraill yn y cynllun.
Am gyfarwyddiadau ar sut i ddefnyddio’r system ac i wneud sylwadau, gwelwch ein canllaw cymorth.
back to top Yn ôl i’r brig