CDLlN Cynllun i’w archwilio gan y cyhoedd 2018-2033
2. Polisi a chyd-destun strategol Sylw
2.1 Nodweddion allweddol Conwy Sylw
Poblogaeth a ffurf ofodol Sylw
- Mae Bwrdeistref Sirol Conwy’n cynnwys ardal o 1,130km2 o Ogledd Cymru, yn ymestyn oddeutu 30 cilometr o’r dwyrain i’r gorllewin. Mae Conwy’n nghanol Gogledd Cymru. Mae cysylltiadau cryf gydag economi ehangach i’r dwyrain ac ar draws tuag at Loegr, ond hefyd tua’r gorllewin i Ynys Môn ac Iwerddon ynghyd â Chanolbarth a De Cymru.
- Amcangyfrifwyd mai maint y boblogaeth breswyl ym Mwrdeistref Sirol Conwy yn 2022 oedd 114,300 o bobl. Yn y 10 mlynedd ers 2012, mae’r boblogaeth wedi gostwng o 1,150, sy’n 1.0%. Yn yr un cyfnod fe dyfodd poblogaeth Cymru o 1.9% ac fe dyfodd poblogaeth y DU o 5.8%.
- Nid yw poblogaeth Bwrdeistref Sirol Conwy’n adnewyddu’n naturiol gan fod mwy o farwolaethau na genedigaethau yn yr ardal fesul blwyddyn. Gyda chyfartaledd o 1,600 o farwolaethau y flwyddyn a 1,000 o enedigaethau y flwyddyn dros gyfnod o ddeng mlynedd. Byddai poblogaeth Bwrdeistref Sirol Conwy’n lleihau o oddeutu 600 o bobl y flwyddyn pe na bai mewnfudiad net yn yr ardal.
- Mae nifer y plant yn y boblogaeth wedi bod yn gostwng yn gyson dros y ddegawd ddiwethaf neu fwy, gan adlewyrchu’r nifer llai o fabanod a anwyd ddiwedd yr 1990au / dechrau 2000au a dychwelyd at duedd cyfraddau geni is yn y 5 mlynedd diwethaf. Mae 15.9% o boblogaeth Bwrdeistref Sirol Conwy’n llai na 16 oed o gymharu â Chymru gyfan yn 17.5% a 18.3% ar draws Prydain.
- Mae strwythur oedran y Fwrdeistref Sirol yn sylweddol hŷn na Chymru a Phrydain yn eu cyfanrwydd. Mae 26.2% o boblogaeth Bwrdeistref Sirol Conwy dros 65 oed o gymharu â Chymru gyfan yn 20.3% a 17.8% ar draws Prydain. Oedran canolrifol y boblogaeth yn 2022 oedd 50.3 oed (Cymru = 42.9; Prydain = 40.8). Mae’r oedran canolrifol wedi cynyddu o 46.9 i 50.3 dros y ddegawd ddiwethaf.
- Mae mwyafrif y boblogaeth (85%) o fewn y prif ganolfannau trefol ar hyd y coridor arfordirol, sy’n cael ei gefnogi gan Gerbydffordd Ddeuol yr A55 a’r rheilffordd. Mae’r rhain yn cynnwys o’r dwyrain i’r gorllewin - Llanfairfechan, Penmaenmawr, Conwy, Cyffordd Llandudno, Deganwy, Llandudno, Mochdre, Bae Colwyn, Llandrillo-yn-Rhos, Hen Golwyn, Abergele, Pensarn, Towyn a Bae Cinmel. Mae Llanrwst oherwydd ei leoliad daearyddol, oddeutu 13 milltir i’r de o’r coridor trefol arfordirol, yn gweithredu fel canolfan wasanaethau allweddol ar gyfer yr ardaloedd gwledig.
- Mae trefi arfordirol gogleddol Bae Colwyn a Llandudno yn gweithredu fel canolbwynt ar gyfer gwasanaethau, cyflogaeth, tai a datblygiadau manwerthu ar gyfer y cymunedau cyfagos. Mae gan y trefi hyn, yn benodol, statws presennol fel prif ganolfannau gwasanaethau.
- Mae Bwrdeistref Sirol Conwy’n awdurdod gwledig gan fwyaf, gyda threfi a phentrefi amrywiol yn adlewyrchu maint ac amrywiaeth y Sir. Mae’r rhain yn amrywio o ran maint a rôl gyda nifer yn gwneud cyfraniadau nodedig at anghenion a gofynion eu cymuned a’r ardaloedd cyfagos. Mae nifer o aneddiadau a phentrefi yn hunangynhaliol o ran cyfleusterau a gwasanaethau, yn aml yn cyflawni rôl wasanaeth ehangach. Ond, mae diffyg gwasanaethau a chyfleusterau mewn rhai aneddiadau llai. Mae anghenion preswylwyr yr ardaloedd hyn yn cael eu diwallu gan y prif ganolfannau gan fwyaf ac mewn rhai amgylchiadau gan yr aneddiadau llai eraill sydd â gwasanaethau.
Tai Sylw
- Yn ystod cyfnod y CDLlN hyd yma, mae cyfartaledd prisiau tai o fewn CBSC wedi cynyddu o 39% o fis Ebrill 2018 i fis Mawrth 2025. Roedd cynnydd flwyddyn ar ôl blwyddyn gydag uchafbwynt o 21% ar ôl Covid yn ystod yr haf 2021, a oedd yn sylweddol uwch na chyfartaledd Cymru o 16% ym mis Mehefin 2021. Ers hynny, mae prisiau tai yng Nghonwy wedi codi llai nag yng Nghymru yn ei chyfanrwydd, gyda chyfartaledd prisiau yng Nghonwy yn £209,000; dim ond £1,000 yn uwch na chyfartaledd Cymru. Y pris ar gyfer tŷ ar wahân yng Nghonwy yw £308,000; tŷ teras yn £168,000 a fflat yn £127,000 ym mis Mawrth 2025.
- Mae darpariaeth tai yn ardal CDLlN Conwy wedi newid yn sylweddol dros gyfnod y cynllun hyd yma; yn rhannol oherwydd amserlenni datblygu safleoedd mawr (roedd oddeutu 40 wedi’u cwblhau ar safleoedd mawr yn 2024-25, ond disgwylir dros 200 yn 2025-26). Mae effaith pandemig Covid-19 a’r amrywiadau dilynol yn y farchnad dai a chostau datblygu hefyd wedi dylanwadu ar ddarpariaeth tai.
- Dros y 5 mlynedd diwethaf, mae landlordiaid cymdeithasol cofrestredig wedi darparu cyfran uwch o dai yn ardal CDLlN Conwy, gan gefnogi’r lefelau uwch o ddarpariaeth tai fforddiadwy. Mae dros 400 o anheddau fforddiadwy wedi’u hadeiladu hyd yma dros gyfnod y CDLlN (Ebrill 2018 i fis Mawrth 2025). Mae sawl safle mawr naill ai wrthi’n cael eu hadeiladu neu gyda chaniatâd cynllunio, gyda’r disgwyl y byddant yn darparu dros 500 o dai fforddiadwy ychwanegol dros y 2-3 blynedd nesaf, ac mae safleoedd eraill ar y gweill.
Perygl llifogydd Sylw
- Mae afonydd yn brif ffynhonnell llifogydd ym Mwrdeistref Sirol Conwy. Mae ardaloedd sylweddol ar hyd cyrsiau dŵr o fewn y Fwrdeistref Sirol wedi’u nodi fel rhai sydd mewn perygl o lifogydd. Mae’r arfordir gogleddol hefyd yn wynebu perygl llifogydd o’r môr (llanw) mewn rhai ardaloedd. Mae aneddiadau i’r dwyrain o’r Fwrdeistref Sirol wedi’u cyfyngu’n helaeth o ganlyniad i berygl llifogydd, gan effeithio ar eu gallu i fod yn wydn.
Rheoli gwastraff Sylw
- Mae rheoli gwastraff, ailgylchu a thrin gwastraff yn digwydd yng Nghanolfan Ailgylchu Cyngor Conwy. Yn 2022- 2023, o’r cyfanswm o 51,523 tunnell o wastraff trefol a gynhyrchwyd, ail-ddefnyddiwyd, ailgylchwyd neu fe gompostiwyd 35,573 tunnell ohono, ac roedd 15,453 o dunelli wedi’u llosgi i adennill ynni a 69% o’r gwastraff yn cael ei ail-ddefnyddio/ailgylchu/compostio. Gan olygu mai dim ond 263 tunnell a anfonwyd i’w dirlenwi. Cyfradd ailgylchu’r DU ar gyfer Gwastraff o Aelwydydd yn 2023 oedd 43.3% o gymharu â chyfartaledd Cymru o 65.7%.
Ansawdd aer Sylw
- Mae’r data diweddaraf sydd ar gael yn nodi nad yw safonau ansawdd aer ym Mwrdeistref Sirol Conwy mewn perygl o ragori ar Amcanion Ansawdd Aer yr Undeb Ewropeaidd ac nid oes angen asesiadau manwl na chynlluniau rheoli ar lefel y Cyngor ar gyfer unrhyw lygryddion.
Economi ac adfywio Sylw
- Mae gan Fwrdeistref Sirol Conwy gynrychiolaeth gyflogaeth hynod o gref mewn gwasanaethau llety a bwyd, manwerthu, addysg, iechyd, gofal preswyl a gwaith cymdeithasol. Mae’r sectorau llety a gwasanaethau bwyd, manwerthu ac addysg hefyd yn cyflogi lefelau uchel dros ben o weithwyr mewn termau absoliwt. Nid yw hyn yn syndod – mae golygfeydd hyfryd gwledig ac arfordirol y Fwrdeistref Sirol yn sicrhau mai twristiaeth (a sectorau cysylltiedig â thwristiaeth megis lletygarwch) yw prif gynheiliad yr economi lleol. Mae’r sector amaethyddiaeth, coedwigaeth a physgota hefyd yn elfen bwysig, yn enwedig yn yr ardal wledig, tra bo gwasanaethau proffesiynol a phreifat eraill wedi’u tangynrychioli o gymharu â Chymru a’r DU. Mae Bwrdeistref Sirol Conwy’n wahanol i weddill Gogledd Cymru gan fod cyfraddau is o fusnesau gweithgynhyrchu, a chyfran uwch o’r sectorau llety, gwasanaethau bwyd a busnesau hamdden.
- I’r gwrthwyneb, mae cyfraddau isel dros ben (ac mewn rhai achosion, absenoldeb llwyr) o gyflogaeth yn y sectorau mwy diwydiannol. Yn benodol, dim ond oddeutu 1,500 o bobl sydd wedi’u cyflogi yn y sectorau gweithgynhyrchu traddodiadol, neu 3.6% o gyfanswm gweithlu Bwrdeistref Sirol Conwy. Mae hyn yn cymharu â 10.8% o gyfanswm y gweithlu sydd wedi’u cyflogi ym maes gweithgynhyrchu ledled Cymru yn 2023.
- Y boblogaeth sy’n economaidd weithgar ym Mwrdeistref Sirol Conwy yw 75.9%, sydd ychydig yn uwch na chyfartaledd Cymru o 75.1%, ond yn is na ffigwr Prydain o 78.4%. Mae mwyafrif y rhai sy’n economaidd weithgar yn y Fwrdeistref Sirol hefyd wedi’u cyflogi; y gyfradd gyflogaeth bresennol yw 73.5%. Mae hyn yn uwch na gweddill Cymru (72.9%) ond yn is na Phrydain (74.8%).
- Mae lefelau gweithio’n rhan-amser yn uchel ym Mwrdeistref Sirol Conwy – mae 42.9% o weithwyr yn gweithio’n rhan-amser o gymharu â 31.2% ym Mhrydain.
- Mae gan Gonwy oddeutu 5,500 o fusnesau, ac fel sy’n gyffredin ledled Cymru a’r DU yn gyffredinol, mae’r mwyafrif helaeth o’r rhain yn cael eu cyfrif fel busnesau meicro, bach neu ganolig gyda hyd at 249 o weithwyr. Mae mwyafrif y busnesau wedi’u lleoli ar ystadau diwydiannol penodol, wedi’u lleoli’n agos at gyffyrdd yr A55 a’r A470 mewn ardaloedd fel Cyffordd Llandudno, Mochdre a Llandudno.
- Mae’r Fwrdeistref Sirol wedi bod yn llwyddiannus yn denu buddsoddiad sylweddol, ac yn cyflwyno adfywio a gwella fel blaenoriaeth bwysig, yn enwedig ym Mae Colwyn, Abergele, Pensarn, Towyn a Bae Cinmel.
- Mae Conwy’n ganolbwynt twristiaeth, yn denu 7.8 miliwn o ymwelwyr bob blwyddyn. Mae gwerth twristiaeth yr economi leol oddeutu £729 miliwn, gan gefnogi dros 8,780 o swyddi.
- Mae mwy o bobl yn teithio allan o Fwrdeistref Sirol Conwy i weithio nag sy'n teithio i'r Fwrdeistref Sirol – llif net allan o tua 4,300 o gymudwyr. Mae'r rhan fwyaf o'r cymudwyr tuag allan hyn yn teithio i ardaloedd awdurdodau ffiniol yng Nghymru (i Sir Ddinbych yn benodol). Mae oddeutu 3,100 o bobl yn teithio i Loegr i weithio.
Addysg Sylw
- Mae’r rhagamcanion poblogaeth diweddaraf yn rhagweld y bydd gostyngiad sylweddol yn nifer y disgyblion cynradd (850 yn llai o blant 5-10 mlwydd oed) a chynnydd yn nifer y disgyblion uwchradd.
- Yn 2023, nid oedd gan 13.3% o’r boblogaeth oedran gweithio (18 i 64 oed) ym Mwrdeistref Sirol Conwy unrhyw gymwysterau, sy’n is na chyfartaledd y boblogaeth sydd heb gymwysterau yng Nghymru (7.9%). Mae lefelau cyrhaeddiad y boblogaeth oedran gweithio gyda chymwysterau yn y Fwrdeistref Sirol yn debyg i Gymru; 64.6% wedi cymhwyso i lefel NVQ3 neu uwch o gymharu â 67.4% ledled Cymru ac mae 44.2% wedi cymhwyso i lefel NVQ4 neu uwch o gymharu â 45.0% ar lefel genedlaethol.
Cyrff dŵr Sylw
- Mae Bwrdeistref Sirol Conwy o fewn Ardal Basn Afon Gorllewin Cymru. Mae’n cynnwys 25 o gyrff dŵr daear, ac mae canlyniadau’r dosbarthiad diweddaraf gan Gyfoeth Naturiol Cymru yn nodi bod 42% o’r cyrff dŵr wedi cyflawni statws cyffredinol da neu well. Dylid cyfeirio at Gynllun Rheoli Basn Afon Gorllewin Cymru 2021-2027 mewn perthynas â sgrinio SEA.
- Mae 63 o gyrff dŵr a 9 o lynnoedd ar draws dalgylchoedd Conwy a Chlwyd. O’r rhain, mae 16 o afonydd ac 8 o’r llynnoedd yn rhai artiffisial neu wedi’u haddasu’n helaeth.
Isadeiledd cymunedol a mynediad at wasanaethau Sylw
- Ar hyn o bryd, mae yna 51 ysgol gynradd, 7 ysgol uwchradd, 1 ysgol arbennig a 4 Canolfan Cyfeirio Disgyblion yn ardal Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy. Mae pob ysgol yn defnyddio gwahanol raddau o Gymraeg a Saesneg fel ieithoedd llafar.
- Mae gan Gonwy 10 o lyfrgelloedd (Abergele, Conwy, Llanfairfechan, Bae Penrhyn, Cerrigydrudion, Bae Cinmel, Llanrwst, Bae Colwyn, Llandudno a Phenmaenmawr). Maent hefyd yn gweithredu pum canolfan hamdden yng Nghonwy (Abergele, Bae Colwyn, Cyffordd Llandudno, Llandudno a Llanrwst).
- Mae canol tref Llandudno wedi’i lleoli ar frig hierarchaeth fanwerthu’r Fwrdeistref Sirol ac yn cael ei diffinio fel Canolfan Is-ranbarthol oherwydd y dalgylch manwerthu mawr.
Ynni a newid hinsawdd Sylw
- Yn 2018, roedd cyfanswm defnydd ynni Conwy yn 2,460GWh, sef tua 2.5% o ddefnydd blynyddol Cymru. O’r swm hwn, roedd 980GWh ohono’n cael ei ddefnyddio ar gyfer y galw am ynni domestig, 500GWh o’r byd diwydiannol a masnachol, a 980GWh o’r sector cludiant.
- Yn 2018, cynhyrchwyd 2,200GWh o ynni adnewyddadwy ym Mwrdeistref Sirol Conwy (bron dengwaith y galw), gyda’r mwyafrif ohono’n cael ei gynhyrchu o ynni gwynt ar y môr ac ynni dŵr.
- Y galw am wres yn 2018 yn y Fwrdeistref Sirol oedd 710GWh, gyda rhaniad o 15% eiddo domestig a 85% eiddo annomestig. Mae oddeutu 19% o’r cartrefi yn rhai nad ydynt ar y grid nwy ac mae’r eiddo hyn yn tueddu i fod yn ardaloedd gwledig y Fwrdeistref Sirol.
- Mae’r Cyngor wedi mabwysiadu ei Gynllun Ynni Ardal Leol, sy’n nodi’r ymyraethau sy’n ofynnol i ddiwallu’r targedau lleihau carbon gan gynnwys: ôl-osod, gwynt ar y môr ac ar y tir, ynni’r haul ar y tir, isadeiledd Cerbydau Trydan, cefnogaeth ar gyfer prosiect morlyn llanw ar yr arfordir gogleddol.
Bioamrywiaeth, planhigion ac anifeiliaid Sylw
- Mae gan Fwrdeistref Sirol Conwy amrywiaeth eang o fathau o gynefinoedd pwysig, yn adlewyrchu’r amodau daearyddol ac amgylcheddol amrywiol o’r arfordir i’r mewndir. Mae’r cynefinoedd hyn yn cefnogi planhigion ac anifeiliaid amrywiol, gan gynnwys sawl rhywogaeth a ddiogelir, prin neu sy’n dirywio. Mae gan Gonwy 3 Ardal Gwarchodaeth Arbennig, 8 Ardal Gadwraeth Arbennig ac un Safle Ramsar, gyda 43 o Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, 6 o Warchodfeydd Natur Cenedlaethol, 40 Ardal Bioamrywiaeth ar dir sy’n eiddo neu’n cael ei reoli gan y Cyngor a 11 Gwarchodfa Natur Lleol. Mae gwaith ar y gweill i asesu Safleoedd Bywyd Gwyllt Lleol.
- Mae’n allweddol diogelu a gwella gwydnwch ecosystemau yn erbyn effaith datblygu niweidiol yn dilyn ymagwedd fesul cam a Fframwaith Amrywiaeth, Graddau, Cyflwr, Cysylltedd ac Agweddau o wydnwch ecosystem (DECCA) a nodwyd yn y canllawiau cenedlaethol.
Anghydraddoldeb, eithrio cymdeithasol ac amddifadedd Sylw
- Mae rhai rhannau o Fwrdeistref Sirol Conwy, yn enwedig yn y cymunedau trefol, gogleddol ac arfordirol, ymysg y rhai mwyaf difreintiedig yng Nghymru, gyda lefelau isel o weithgarwch economaidd a mynediad at wasanaethau a chyfleusterau, yn enwedig ar gyfer plant, pobl ifanc a’r henoed (Mynegai amddifadedd lluosog Cymru, 2019).
- Yr ardaloedd arfordirol sy’n hynod uchel yw ardal Bae Colwyn gyda’r Ardaloedd Cynnyrch Ehangach Haen Is arfordirol Colwyn 2 a Glyn 2 ymysg y 10% o’r ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru ynghyd â Tudno 2 yn Llandudno. Mae’r Ardaloedd Cynnyrch Ehangach Haen Is hyn, ymysg y 10% mwyaf difreintiedig o ran incwm ynghyd â Llysfaen 1, cymuned arfordirol arall. Mae Colwyn 2, Glyn 2 a Tudno 2 hefyd ymysg y 10% o’r wardiau mwyaf difreintiedig yn y parth cyflogaeth ynghyd â Rhiw 3. Mae Glyn 2 a Tudno 2 hefyd ymysg y 10% mwyaf difreintiedig yn y parth iechyd a diogelwch cymunedol.
- Mae’r Ardaloedd Cynnyrch Ehangach Haen Is canlynol ym Mwrdeistref Sirol Conwy ymysg y 10% mwyaf difreintiedig yng Nghymru yn enwedig mewn perthynas â mynediad at wasanaethau: Betws-y-Coed, Betws-yn-Rhos, Caerhun, Eglwysbach, Llangernyw, Llansannan, Trefriw, Uwch Conwy ac Uwchaled.
- Mae ardaloedd eraill ym Mwrdeistref Sirol Conwy o fewn yr Ardaloedd Cynnyrch Ehangach Haen Is sydd yn y 10% mwyaf difreintiedig yn cynnwys Bae Cinmel 1 ar gyfer Addysg, Glyn 1, Glyn 2, Gogarth 1, Llangernyw, Llysfaen 1, Uwch Conwy ar gyfer tai. Ym mharth diogelwch cymunedol, mae’r ardaloedd cynnyrch ehangach haen is canlynol o fewn y 10% mwyaf difreintiedig, Glyn 2, Gogarth 1, Rhiw 3, Tudno 1, Tudno 2.
- Mae gwahaniaeth o ran incwm yn amlwg wrth gymharu cyflog wythnos gros llawn amser ar draws y Fwrdeistref Sirol sy’n £678.40, sy’n is na chyfartaledd y DU o £728.30.
- Mae nifer y plant sy’n cael eu hystyried fel rhai o deuluoedd incwm isel (tlodi incwm perthynol) yn 28.3% o deuluoedd ym Mwrdeistref Sirol Conwy, o gymharu â 26.6% yng Nghymru.
Treftadaeth ddiwylliannol Sylw
- Mae ardal y cynllun yn cynnwys safleoedd sydd wedi’u dynodi ar lefel ryngwladol i ddiogelu a gwella gwerth cadwraeth natur pwysig, ynghyd â thirweddau trawiadol a threfi a phentrefi hanesyddol nodedig. Mae gan asedau hanesyddol rôl bwysig o safbwynt twristiaeth, buddsoddiad a chymunedau. Mae Castell Conwy wedi’i ddynodi’n Safle Treftadaeth y Byd. Mae UNESCO o’r farn bod Castell Conwy ymysg un o’r enghreifftiau gorau o bensaernïaeth filwrol o ddiwedd y 13eg ganrif a dechrau’r 14eg ganrif yn Ewrop”. Mae ardal gynllunio CBSC yn cynnwys 80 o Henebion Cofrestredig, 1,488 o adeiladau rhestredig gyda 22 ohonynt yn rhai Gradd I, 1,389 yn rhai Gradd II a 77 yn rhai Gradd II*, a 25 o Ardaloedd Cadwraeth.
Y Gymraeg Sylw
- Mae Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 yn ei gwneud yn ofynnol bod y Cyngor yn hyrwyddo a hwyluso’r defnydd o’r iaith Gymraeg mewn bywyd bob dydd, ac na ddylid trin yr iaith yn llai ffafriol na’r Saesneg.
- Yn 2021, roedd 25.9% o boblogaeth Bwrdeistref Sirol Conwy (29,000 o bobl) wedi nodi eu bod yn gallu siarad Cymraeg. Mae hyn yn uwch na’r cyfartaledd ar gyfer Cymru sef 17.8%. Mae strategaeth hyrwyddo’r Gymraeg y Cyngor yn gosod targed i gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg.
Cludiant a chysylltiadau Sylw
- Mae Bwrdeistref Sirol Conwy mewn lleoliad da ar y rhwydwaith priffyrdd strategol gyda Cherbydffordd Ddeuol yr A55 yn ffurfio rhan o Rwydwaith Traws-Ewropeaidd. Mae’r coridor dwyrain-gorllewin hwn yn cael ei bwysleisio ymhellach gan reilffordd Gogledd Cymru sy’n darparu cysylltiadau strategol i’r rhwydwaith rheilffyrdd ehangach. Mae’r cysylltiadau strategol hyn yn darparu cysylltiadau gyda Phorthladd Caergybi ar gyfer Llongau i Iwerddon a chysylltiadau ehangach tua Chaer a De Cymru. Mae cyfleusterau Rheilffyrdd Nwyddau wedi’u diogelu mewn lleoliadau strategol yng Nghyffordd Llandudno a Phenmaenmawr.
- Hefyd mae sawl ffordd dosbarth A yn gwasanaethu’r Fwrdeistref Sirol ynghyd â sawl ffordd dosbarth B yn cynrychioli elfennau pwysig o’r rhwydwaith priffyrdd. Mae ein prif rwydwaith priffyrdd yn cynnwys cefnffordd yr A470 sy’n darparu cysylltiadau i’r A55 a’r aneddiadau gwledig. Mae cefnffyrdd yr A470 a’r A5 yn cysylltu gyda Chanolbarth a De Cymru. Mae’r A470 a rheilffordd Dyffryn Conwy’n darparu cysylltiadau i Ganolfan Wasanaethau Allweddol Llanrwst.
- Mae cludiant cyhoeddus da yn yr ardal yn gyffredinol ar y rhwydwaith bysiau a threnau, ond mae lefel ac amlder y gwasanaeth yn amrywio gan ddibynnu ar y lleoliad a’r cyrchfan. Er bod rhwydweithiau teithio llesol ar hyd y coridor arfordirol, mae gwelliannau’n ofynnol. Mae gan y Fwrdeistref Sirol sawl gorsaf reilffordd mewn trefi (Abergele Pensarn, Bae Colwyn, Cyffordd Llandudno, Conwy, Penmaenmawr a Llanfairfechan) ar brif reilffordd Gogledd Cymru gyda chysylltiadau i sawl cyrchfan arall. Hefyd, mae rheilffordd Dyffryn Conwy yn mynd o orsaf Llandudno, gan gysylltu sawl pentref gwledig; Deganwy, Cyffordd Llandudno, Glan Conwy, Tal-y-Cafn, Dolgarrog, Gogledd Llanrwst a Llanrwst.
- Mae Deddf Teithio Llesol (Cymru) yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol gynhyrchu map rhwydwaith integredig yn nodi’r llwybrau teithio llesol fydd yn cael eu cyflawni. Ar hyn o bryd mae’r Cyngor wedi llunio cynigion ar gyfer pob tref (Abergele, Bae Colwyn, Conwy, Deganwy, Llandudno, Cyffordd Llandudno, Llanfairfechan, Llanrwst, Llansanffraid Glan Conwy, Llysfaen, Llanddulas, Hen Golwyn, Penmaenmawr, Bae Penrhyn, Llandrillo-yn-Rhos, a Thowyn/Bae Cinmel. Mae’r llwybrau allweddol ar gyfer y dyfodol wedi’u nodi ar y map cynigion.
Adeiledd, cymeriad a chapasiti’r dirwedd Sylw
- Y tu hwnt i’r prif aneddiadau, sydd ar hyd arfordir môr Iwerddon yn y gogledd yn bennaf, mae ardal y cynllun yn cynnwys cymysgedd o ucheldir pellennig a gwyllt a gweundiroedd i orlifdiroedd afonydd eang, tir pori iseldirol, arfordiroedd a dyffrynnoedd serth. Nodwedd amlwg yn y dirwedd yw’r dyffrynnoedd a’r ucheldir cysylltiol. Ymhellach i’r de mae’r dirwedd yn agor i ddyffryn eang gydag iseldir y Carneddau a Pharc Cenedlaethol Eryri tua’r gorllewin.
- Mae tirweddau hanesyddol cofrestredig ledled Conwy’n cynnwys: Pen Isaf Dyffryn Conwy, Creuddyn a Chonwy, Gogledd Arllechwedd, Pen Isaf Dyffryn Elwy a Mynydd Hiraethog.
Iechyd a lles Sylw
- Wrth gymharu â Chymru, mae ychydig mwy o bobl yn byw gyda salwch hir dymor cyfyngedig yng Nghonwy yn 22.6% o gymharu â 21.6%. Mae’r unigolion sy’n darparu gofal di-dâl yn gymharol â chyfartaledd Cymru.
- Yn gyffredinol, mae lefel y rhai â salwch cronig yn debyg i gyfartaledd Cymru, ond mae cyfraddau gorbwysedd, diabetes mellitus, clefyd coronaidd y galon a chancr yn uwch.
- Mae rhai rhannau o Fwrdeistref Sirol Conwy, yn enwedig yn y cymunedau trefol, gogleddol ac arfordirol, ymysg y rhai mwyaf difreintiedig yng Nghymru, gyda lefelau isel o weithgarwch economaidd a mynediad at wasanaethau a chyfleusterau, yn enwedig ar gyfer plant, pobl ifanc a’r henoed.
- Mae oddeutu 9.8% o boblogaeth CBSC yn derbyn triniaeth ar gyfer salwch meddwl (Cyfartaledd Cymru - 12.1%).
- Mae tri prif ysbyty cyffredinol rhanbarthol o fewn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn gwasanaethu Conwy. Mae’r tri ohonynt y tu hwnt i ffiniau’r sir. Mae ysbyty cymunedol yn Abergele, Llandudno a Bae Colwyn. O fewn ardal CBSC mae 20 o Feddygfeydd a 16 Deintyddfa.
2.2 Cyd-destun cenedlaethol Sylw
2.2.1 Er bod y CDLlN yn chwarae rôl allweddol o ran llunio penderfyniadau a lleoliad a natur datblygiadau yn ardal CDLlN Conwy, mae’n cael ei baratoi a’i weithredu o fewn y fframwaith cenedlaethol a osodwyd drwy ddeddfwriaeth a gan Bolisi Cynllunio Cymru a’r Nodiadau Cyngor Technegol ategol (TAN). Sylw
Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 Sylw
2.2.2 Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn ddeddfwriaeth allweddol, a’i nod yw gwella lles cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru nawr ac yn y tymor hir. Mae’r Ddeddf yn cyflwyno ‘egwyddor datblygu cynaliadwy’ sy’n ddyletswydd ar y cyrff cyhoeddus i weithredu “mewn ffordd sy’n ceisio sicrhau fod anghenion presennol yn cael eu diwallu heb gyfaddawdu gallu cenedlaethau’r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion eu hunain”. Mae’r Ddeddf yn cael ei thanategu gan saith o nodau lles, y mae’n rhaid i gyrff cyhoeddus weithio tuag atynt (Cymru gydnerth; Cymru o gymunedau cydlynus; Cymru lewyrchus; Cymru iachach; Cymru sy’n fwy cyfartal; Cymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu; Cymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang). Mae gan y Ddeddf felly ddylanwad mawr ar holl agweddau’r CDLlN, a fydd yn cysylltu gyda phob nod lles a darparu cyd-destun polisi sy’n caniatáu iddynt gael eu diwallu. Mae Ffigur 2 uchod yn dangos y cysylltiadau allweddol rhwng y ffyrdd o weithio, y CDLlN i’w Archwilio gan y Cyhoedd a’r saith nod lles. Sylw
2.2.3 Mae pob cam o waith paratoi’r cynllun wedi ystyried y nodau hyn a’r egwyddor datblygu cynaliadwy ehangach drwy’r ‘pum ffordd o weithio’ sydd yn y Ddeddf. Mae cysylltiad agos rhwng pob polisi a’u nod(au) perthnasol sy’n ymwneud â’i ddiben a’i weithrediad, gyda phwyslais ar wneud y mwyaf o fuddion cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol i sicrhau bod yr Awdurdod Cynllunio Lleol wedi cyflawni ei ddyletswydd datblygu cynaliadwy. Mae’r weledigaeth a’r amcanion wedi’u mireinio yn ystod y broses adolygu yn seiliedig ar yr ymgysylltiad gyda budd-ddeiliaid a chanlyniadau’r sylfaen dystiolaeth newydd. Sylw
Deddf Cynllunio (Cymru) 2015 Sylw
2.2.4 Mae Deddf Cynllunio (Cymru) 2015 yn nodi cyfres o newidiadau deddfwriaethol i gyflawni diwygiad yn y system gynllunio yng Nghymru, er mwyn sicrhau bod y system yn deg, gwydn ac yn galluogi datblygu. Mae’r Ddeddf yn mynd i’r afael â 5 o amcanion allweddol gan gynnwys atgyfnerthu’r ymagwedd a arweinir gan y cynllun ar gyfer cynllunio drwy gyflwyno sylfaen gyfreithiol ar gyfer paratoi Fframwaith Datblygu Cenedlaethol a Chynllun Datblygu Strategol. Sylw
Deddf yr Amgylchedd 2016 Sylw
2.2.5 Mae Deddf yr Amgylchedd 2016 yn nodi'r ddeddfwriaeth sydd ei hangen i gynllunio a rheoli adnoddau naturiol Cymru mewn ffordd sy'n fwy rhagweithiol, cynaliadwy ac ar y cyd. Mae’n ei gwneud yn ofynnol bod Cyfoeth Naturiol Cymru’n adrodd ar adnoddau naturiol Cymru ac yn nodi eu gallu i ymateb i bwysau ac addasu i newid hinsawdd. Felly, cyhoeddodd Cyfoeth Naturiol Cymru Adroddiad Cyflwr yr Adnoddau Naturiol yn 2016. Sylw
2.2.6 Cyhoeddodd LlC Bolisi Adnoddau Naturiol Cenedlaethol 2017; a oedd yn canolbwyntio ar beth yw rheolaeth gynaliadwy o adnoddau naturiol Cymru, er mwyn gwneud y mwyaf o’u cyfraniad i gyflawni nodau o fewn Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Mae’r Polisi Adnoddau Naturiol Cenedlaethol yn nodi tair blaenoriaeth genedlaethol ar gyfer darparu datrysiadau’n seiliedig ar natur; cynyddu ynni adnewyddadwy ac effeithlonrwydd adnoddau; a defnyddio dull yn seiliedig ar le. Mae saith Datganiad Ardal Cyfoeth Naturiol Cymru’n cynrychioli ymateb ar y cyd i’r Polisi Adnoddau Naturiol Cenedlaethol, sy’n nodi’r heriau allweddol a’r cyfleoedd ar gyfer rheolaeth gynaliadwy o adnoddau naturiol Cymru yn y dyfodol ac yn hysbysu darpariaeth yn lleol. Mae Adroddiad Cyflwr Adnoddau Naturiol, Polisi Adnoddau Naturiol Cenedlaethol a Datganiad Ardal Gogledd Orllewin Cymru wedi’u hystyried wrth adolygu’r CDLlN i’w Archwilio gan y Cyhoedd. Sylw
Polisi Cynllunio Cymru (rhifyn 12) Sylw
2.2.7 PCC (rhifyn 12) yw polisi cynllunio defnydd tir LlC ar gyfer Cymru a dylid ei ystyried wrth baratoi cynlluniau datblygu. Mae’r PCC yn sicrhau rhagdybiaeth o blaid datblygu cynaliadwy ac yn nodi mai ymagwedd a arweinir gan gynllun yw’r ffordd fwyaf effeithiol o sicrhau datblygu cynaliadwy drwy’r system gynllunio. Mae gan y PCC ganolbwynt cryf ar hyrwyddo creu lleoedd, sy’n cael ei ystyried yn allweddol er mwyn cyflawni lleoedd cynaliadwy, darparu datblygiad â chynhwysiad cymdeithasol a hyrwyddo cymunedau sy’n fwy cydlynol. Ystyrir bod creu lleoedd yn ddull cyfannol sy'n "ystyried y cyd-destun, y swyddogaeth a'r perthnasoedd rhwng safle datblygu a'i amgylchoedd ehangach" (PCC, rhifyn 12). Sylw
Cymru’r Dyfodol 2040: Y Cynllun Cenedlaethol Sylw
2.2.8 Mae Cymru’r Dyfodol 2040: y Cynllun Cenedlaethol yn ystyried y materion sy’n arwyddocaol i ffyniant a lles Cymru, megis yr economi, tai, cludiant, ynni a’r amgylchedd. Mae’n nodi lle y dylid cyflawni datblygiadau cenedlaethol, lle mae’r ardaloedd twf allweddol a pha isadeiledd a gwasanaethau sy’n ofynnol. Mae wedi’i osod yng nghyd-destun gweledigaeth a fydd yn gymorth i ddarparu lleoedd cynaliadwy ledled Cymru erbyn 2040, trwy gefnogi creu lleoedd a sicrhau bod ein dewisiadau yn arwain at ddatblygiadau yn y lleoedd cywir, gwneud y defnydd gorau o adnoddau, creu a chynnal cymunedau iach hygyrch, diogelu ein hamgylchedd a chefnogi ffyniant i bawb. Sylw
2.2.9 Mae Cymru’r Dyfodol 2040 yn darparu fframwaith lefel uchel ar gyfer y Cynllun Datblygu Strategol yn y dyfodol ac yn nodi Bwrdeistref Sirol Conwy fel Ardal Dwf Ranbarthol o fewn y rhanbarth ehangach. Mae strategaeth CDLlN Conwy i’w Archwilio gan y Cyhoedd yn ategu ac yn alinio gyda Chymru’r Dyfodol drwy ddosrannu twf cynaliadwy i’r coridor arfordirol a thrwy wneud y mwyaf o’i gysylltiadau cludiant cynaliadwy. Mae’r pedair thema a pholisïau ategol y CDLlN i’w Archwilio gan y Cyhoedd yn ffurfio’r fframwaith ar gyfer gweithredu a darparu’r weledigaeth a’r amcanion. Mae’n allweddol bod egwyddorion datblygu cynaliadwy yn cael eu hymgorffori yn y CDLlN i’w Archwilio gan y Cyhoedd i gynorthwyo i gyflawni darpariaeth yr un ar ddeg o Ganlyniadau yng Nghymru’r Dyfodol. Mae Atodiad 2 yn nodi’r asesiad gwrthrychol a gynhaliwyd i ddangos sut mae CDLlN Conwy i’w Archwilio gan y Cyhoedd yn gwneud cyfraniad cadarnhaol sylweddol tuag at gyflawni’r un ar ddeg o amcanion a nodwyd yng Nghymru’r Dyfodol 2040. Mae’r asesiad yn dangos bod y polisïau o fewn y CDLlN yn cyd-fynd ac yn cefnogi darpariaeth Canlyniadau Cymru’r Dyfodol yn gyffredinol, gan ddarparu fframwaith cadarn er mwyn galluogi datblygu cynaliadwy o fewn ardal y cynllun. Sylw
2.2.10 Mae Deddf Cynllunio (Cymru) 2015 yn nodi’r broses ar gyfer sefydlu a pharatoi Cynllun Datblygu Strategol Gogledd Cymru. Mae Cyd-bwyllgor Corfforedig Rhanbarthol Gogledd Cymru wedi’i sefydlu i ymgymryd â gwaith datblygu strategol a chynllunio cludiant rhanbarthol ar gyfer y dyfodol, gan gynnwys paratoi Cynllun Datblygu Strategol Gogledd Cymru. Er bod Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn symud ymlaen gyda CDLlN, bydd gwaith ar y cyd hefyd yn cael ei gyflawni gydag awdurdodau cyfagos a’r ardal ehangach i baratoi Cynllun Datblygu Strategol. Bydd sylfaen dystiolaeth ar y cyd yn cael ei rhannu lle bo modd. Mae CDLlN Conwy i’w Archwilio gan y Cyhoedd wedi’i baratoi yn unol â Chymru’r Dyfodol, gan hyrwyddo Bwrdeistref Sirol Conwy fel Ardal Dwf Rhanbarthol yng nghyd-destun yr ardal ehangach. Mae’r ymagwedd hon yn hynod debygol o gyd-fynd â’r ymagwedd a ddefnyddir wrth baratoi’r Cynllun Datblygu Strategol i ddiogelu CDLlN Conwy ar gyfer y dyfodol. Sylw
2.2.11 Mae CDLlN Conwy wedi’i ddatblygu yn dilyn deialog agos gyda’r holl Awdurdodau Cynllunio Lleol cyfagos yng Ngogledd Cymru ynghyd â sefydliadau allweddol eraill. Cynhaliwyd y ddeialog ar sail unigol a fesul testun, ond hefyd drwy Grŵp Cynllunio Strategol Gogledd Cymru a fforymau eraill sy’n seiliedig ar destun. Mae methodoleg ranbarthol hefyd wedi’i defnyddio drwy gydol datblygiad sylfaen dystiolaeth y CDLlN i hysbysu, er enghraifft, asesiad anheddiad ac asesiad safleoedd ymgeisiol. Cynhaliwyd gwaith ar y cyd trawsffiniol a defnyddiwyd ymagwedd a gytunwyd, yn benodol gyda Pharc Cenedlaethol Eryri a Chyngor Sir Ddinbych. Mae hyn wedi sicrhau ymagwedd gyson i ddatblygu’r sylfaen dystiolaeth, cynorthwyo i waredu dyblygu a hyrwyddo rhannu data ac arferion gorau ar draws y rhanbarth; gan ystyried y cyd-destun rhanbarthol ehangach cymaint â phosibl. Sylw
2.2.12 Mae proses asesu safleoedd ymgeisiol CDLlN Conwy wedi ceisio hyrwyddo’r safleoedd mwyaf cynaliadwy sy’n arwain at ddatblygiad cynaliadwy wedi’i arwain gan greu lleoedd, mabwysiadu egwyddor canol y dref yn gyntaf a dilyn trefn chwilio safleoedd tir llwyd PCC. Mae’r strategaeth wedi’i dylunio i hyrwyddo datblygiad sy’n canolbwyntio ar dramwy, gwneud y mwyaf o gyfleoedd teithio llesol, lleihau’r pwysau ar y tir amaethyddol mwyaf amlbwrpas a galluogi darpariaeth tai fforddiadwy mewn ardaloedd lle bo’r galw am dai yn uchel. Sylw
2.2.13 Felly mae’r CDLlN wedi’i baratoi gan gydlynu’n llym gyda pholisïau cenedlaethol ac ymagwedd a fydd yn cyd-fynd â’r Cynllun Datblygu Strategol yn y dyfodol. Yn seiliedig ar addasrwydd safleoedd, credir y bydd y dyraniadau arfaethedig yn ffurfio rhan allweddol o’r banc tir presennol o safleoedd a fydd yn cefnogi’r Cynllun Datblygu Strategol ac yn cael effaith gadarnhaol ar y rhanbarth. Felly ni fydd y CDLlN yn cael effaith andwyol ar ffurfio na chyflawni’r Cynllun Datblygu Strategol ar gyfer Gogledd Cymru yn y dyfodol. Mewn gwirionedd, bydd y CDLlN yn cyfrannu’n sylweddol at amcanion a nodau y Cynllun Datblygu Strategol yn y dyfodol ac yn gymorth i wneud y mwyaf o’i allu i gynhyrchu canlyniadau cynllunio cynaliadwy. Sylw
Llwybr Newydd: Strategaeth Drafnidiaeth Cymru 2021 Sylw
2.2.14 Mae Strategaeth Drafnidiaeth Cymru 2021 yn nodi sut mae’n dymuno darparu system gludiant sy’n fwy cynaliadwy a theg yng Nghymru sy’n gweithio’n well i bawb, yn awr ac yn y dyfodol. Mae’r strategaeth yn nodi hierarchaeth cludiant cynaliadwy fel arweiniad ar gyfer buddsoddi fel a ganlyn: Sylw
- cerdded a beicio (blaenoriaeth uchaf)
- cludiant cyhoeddus
- cerbydau allyriadau isel iawn
- cerbydau modur preifat eraill (blaenoriaeth isaf)
2.2.15 Mae strategaeth ofodol, polisïau a dyraniadau tir CDLlN Conwy yn croesawu’r hierarchaeth cludiant cynaliadwy, gan flaenoriaethau’r dulliau mwyaf cynaliadwy. Mae twf a datblygu safleoedd yn cael ei hyrwyddo mewn lleoliadau cynaliadwy lle bo cerdded a beicio’n ddull cludiant realistig ac atyniadol ar gyfer teithiau pwrpasol (h.y. i fynd i’r gwaith, yr ysgol neu siopau a gwasanaethau). Drwy bolisïau creu lleoedd, mae’r CDLlN yn ceisio cyflwyno trawsnewidiad parhaus o ran sut y cynllunnir datblygiadau i gynnwys isadeiledd cerdded a beicio o’r cam cyntaf ynghyd ag annog newid ymddygiad hir dymor. Sylw
2.2.16 Mae gan y system gynllunio rôl allweddol er mwyn hwyluso teithio llesol drwy ystyried rhyng-berthynas aneddiadau, cyfeirio twf tuag at ardaloedd cynaliadwy a darparu datblygiadau newydd sy’n hyrwyddo teithiau llesol drwy ddyluniadau cynaliadwy. Yn yr un modd, bydd anghenion cerddwyr a beicwyr yn cael eu hystyried yn yr holl gynlluniau newydd a swyddogaethau eraill yr awdurdod priffyrdd. Bydd cynyddu’r cyfraddau teithio llesol ym Mwrdeistref Sirol Conwy’n cefnogi cyflawni pob un o’r saith nod lles yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Sylw
2.3 Cyd-destun rhanbarthol Sylw
Bargen Dwf Gogledd Cymru Sylw
2.3.1 Sefydlwyd partneriaeth Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru yn 2012 i ddatblygu ymagwedd ranbarthol ar gyfer twf economaidd ac i fynd i’r afael â’r heriau a’r rhwystrau ar gyfer economi Gogledd Cymru. Roedd y bartneriaeth yn cynnwys y chwe ardal awdurdod lleol yng Ngogledd Cymru yn cynnwys Cyngor Gwynedd, Ynys Môn, Conwy, Sir Ddinbych, Wrecsam a Sir y Fflint. Roedd y bartneriaeth hefyd yn cynnwys Prifysgol Bangor, Prifysgol Wrecsam, Coleg Cambria a Grŵp Llandrillo Menai. Sylw
2.3.2 Penodwyd Swyddfa Rheoli’r Portffolio yn 2019 i arwain ar ddarpariaeth Bargen Dwf Gogledd Cymru. Sylw
2.3.3 Yn 2021, cefnogodd y Bwrdd Uchelgais Economaidd y cynnig i bennu Uchelgais Gogledd Cymru fel brand newydd ar gyfer y Bwrdd Uchelgais Economaidd a Bargen Dwf Gogledd Cymru. Sylw
2.3.4 Ym mis Ebrill 2024, sefydlwyd Cyd-Bwyllgor Corfforedig gyda chyfrifoldebau newydd ar gyfer cludiant rhanbarthol a chynllunio strategol ynghyd â chyfrifoldeb i wella a hyrwyddo lles economaidd Gogledd Cymru. Mae’r Cyd-bwyllgor Corfforedig yn cynnwys y chwe awdurdod lleol ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri. Cytunodd y Cyd-bwyllgor Corfforedig i fabwysiadu brand Uchelgais Gogledd Cymru. Sylw
2.3.5 Ar 1 Ebrill 2025 trosglwyddwyd Swyddfa Rheoli’r Portffolio a Bargen Dwf Gogledd Cymru i Gyd-bwyllgor Corfforedig Gogledd Cymru a elwir nawr yn Uchelgais Gogledd Cymru. Sylw
2.3.6 Drwy gynhyrchu Papur Cefndir 1: Adroddiad Dewisiadau Lefel Twf, Adolygiad Tir Cyflogaeth Conwy (Papur Cefndir 18) ac Asesiad o Ddadansoddiad y Farchnad (Papur Cefndir 19), mae’r CDLlN wedi ystyried effaith bosibl y Fargen Dwf ar ei strategaeth dwf, gan gynnwys nifer y swyddi, dyraniadau tir ac isadeiledd i sicrhau twf cynaliadwy ar gyfer yr ardal. Sylw
Cynllun Lles Lleol Conwy a Sir Ddinbych (2023-2028) Sylw
2.3.7 Mae Cynllun Lles Lleol Conwy a Sir Ddinbych yn nodi’r amcanion lleol i wella lles economaidd, cymdeithasol, diwylliannol ac amgylcheddol yr ardal. Sylw
2.3.8 Mae’r Cynllun Lles yn canolbwyntio ar le sy’n fwy cyfartal gyda llai o amddifadedd ac yn nodi 4 thema allweddol i gefnogi ein prif amcan, sydd hefyd yn adlewyrchu’r weledigaeth ar gyfer CDLlN Conwy i’w Archwilio gan y Cyhoedd ac fe gyfrannir tuag atynt drwy fframwaith polisi creu lleoedd. Mae’r rhain yn cynnwys: Sylw
- Lles – Mae cymunedau’n hapusach, yn fwy iach ac yn fwy gwydn i wynebu heriau, fel yr argyfwng newid hinsawdd a natur, neu’r cynnydd mewn costau byw.
- Economi – mae’r economi’n llewyrchus, wedi’i chefnogi gan weithlu medrus sy’n barod at y dyfodol.
- Cydraddoldeb – mae rhai sydd â nodweddion gwarchodedig yn wynebu llai o rwystrau.
- Tai – mae gwell mynediad at dai o ansawdd da.
2.4 Cyd-destun lleol Sylw
Cynllun Corfforaethol Conwy (2022-2027) Sylw
2.4.1 Mae gan Gynllun Corfforaethol Conwy (2022-2027) weledigaeth glir a syml ‘Sir flaengar sy’n creu cyfleoedd’. Mae’r weledigaeth yn seiliedig ar 5 nod ac yn adlewyrchu ymrwymiad y Cyngor o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 i gyhoeddi amcanion lles. Sylw
- Nod1: Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn wydn.
- Nod 2: Mae pobl yng Nghonwy yn gwerthfawrogi ac yn gofalu am yr amgylchedd
- Nod 3: Mae pobl yng Nghonwy yn byw mewn sir sy’n ffynnu, sydd â llai o dlodi ac sy’n cefnogi dysgu a sgiliau.
- Nod 4: Mae gan bobl yng Nghonwy fynediad at lety fforddiadwy ac addas o safon uchel sy’n gwella safon eu bywyd.
- Nod 5: Mae gan bobl yng Nghonwy iechyd a lles da ac maent yn teimlo’n ddiogel.
2.4.2 Bydd y CDLlN yn cyfrannu’n sylweddol at y 5 nod drwy’r 4 thema strategol yn y CDLlN a’r fframwaith polisi creu lleoedd ategol. Sylw