CDLlN Cynllun i’w archwilio gan y cyhoedd 2018-2033
1. Cyflwyniad Sylw
1.1 Cefndir Sylw
1.1.1 Mae'r Cyngor yn gyfrifol am baratoi a chadw Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) cyfredol yn unol â Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 ar gyfer pob ardal sydd y tu allan i Barc Cenedlaethol Eryri. Mae gan y Parc Cenedlaethol ei awdurdod cynllunio a CDLl ei hun. Mae’n rhaid i’r CDLl nodi polisïau cynllunio a dyrannu safleoedd ar gyfer gwahanol fathau o ddatblygiad. Mae’r Cyngor hefyd yn gyfrifol am reoli datblygiad sy’n cynnwys prosesu a phenderfynu ar geisiadau cynllunio yn y Fwrdeistref Sirol y tu allan i Barc Cenedlaethol Eryri. Mae’r CDLl yn arwain a rheoli datblygu drwy ddarparu sylfaen ar gyfer gwneud penderfyniadau clir a chyson. Er mwyn diwallu’r cyfrifoldebau uchod, mae’r Cyngor yn paratoi CDLl Newydd (CDLlN). Sylw
1.1.2 Mabwysiadodd Conwy’r CDLl cyntaf yn 2013 gyda’r bwriad ei fod yn parhau tan 2022. Bydd y CDLl presennol yn parhau mewn grym nes bo’r CDLlN yn cael ei fabwysiadu, ond mae’r polisïau a’r cyflenwad tir i ddiwallu anghenion cymunedau Conwy wedi dyddio. Felly mae angen datblygu CDLlN, a fydd yn darparu fframwaith ar gyfer datblygu yng Nghonwy (gan eithrio Parc Cenedlaethol Eryri) o’r cyfnod o 2018 hyd at 2033. Bydd y CDLl presennol yn parhau mewn grym nes bydd y CDLlN yn cael ei fabwysiadu. Sylw
1.1.3 Mae tystiolaeth yn awgrymu y bydd poblogaeth a nifer yr aelwydydd yn ardal CDLlN Conwy’n tyfu dros y 15 mlynedd nesaf. Ynghyd â’r angen i gynyddu nifer y tai fforddiadwy, mynd i’r afael â digartrefedd a chyfrannu at ddyheadau economaidd Bargen Dwf Gogledd Cymru, mae angen i ni gydweithio a chynllunio ar gyfer cartrefi, swyddi, cyfleusterau cymunedol ac isadeiledd newydd i gefnogi’r twf. Mae’n bwysig bod twf yn cael ei gynllunio’n briodol er mwyn sicrhau ei fod yn darparu buddion ar gyfer cymunedau ac yn cyflawni datblygiad a lleoedd cynaliadwy. Mae ardaloedd o Fwrdeistref Sirol Conwy sydd angen eu gwella ac adfywio er mwyn hyrwyddo gwydnwch, tra bod ardaloedd eraill angen eu diogelu i annog ffyrdd o fyw iach a thwristiaeth gynaliadwy. Bydd y CDLlN yn mynd i’r afael â’r egwyddorion cynaliadwy a’r cysyniad o greu lleoedd i ddarparu’r twf mewn modd cynaliadwy a diwallu ein dyletswyddau lles o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015. Sylw
1.2 CDLlN Conwy i’w Archwilio gan y Cyhoedd Sylw
1.2.1 Y CDLlN i’w archwilio gan y cyhoedd yw canlyniad y camau paratoi statudol ac ymgysylltu cymunedol cynnar fel a ganlyn: Sylw
- Cytundeb Cyflawni a Chynllun Ymgysylltu â’r Gymuned (Hydref 2018 / Diwygiad Rhagfyr 2025);
- Galwad am Safleoedd Ymgeisiol (Medi - Tachwedd 2018)
- Cyfranogiad Cyn Cyflwyno i’w Archwilio gan y Cyhoedd (Ionawr - Gorffennaf 2019); ac
- Ymgynghoriad (Strategaeth a Ffefrir) Cyn Cyflwyno i’w Archwilio gan y Cyhoedd (Gorffennaf- Medi 2019)
1.2.2 Mae’r Awdurdod Cynllunio Lleol wedi cymryd ymagwedd ragweithiol a thryloyw tuag at ymgysylltu, blaenlwytho a pharatoi’r cynllun hyd yma. Cynhaliwyd ail Alwad am Safleoedd Ymgeisiol ar gyfer tai fforddiadwy ym mis Awst 2022. Cynhaliwyd rhagor o ddigwyddiadau ymgysylltu creu lleoedd anstatudol ochr yn ochr â Chymorth Cynllunio Cymru i nodi anghenion y gymuned a nodi anghenion creu lleoedd yn seiliedig ar safleoedd ac ardaloedd penodol. Mae’r CDLlN i’w Archwilio gan y Cyhoedd yn cyfuno’r dystiolaeth a gasglwyd, ymgysylltiad â budd-ddeiliaid a gwaith cyn cyflwyno i’w archwilio a wnaed hyd yma, gan gynnwys y gwaith o fewn y Strategaeth a Ffefrir ac yn ystyried datblygu’r cyfeiriad strategol drwy bolisïau a chynigion defnydd tir sy’n fwy manwl (gan gynnwys dyrannu tir ar gyfer datblygu). Sylw
1.2.3 Mae’r CDLlN i’w Archwilio gan y Cyhoedd yn cynnwys datganiad ysgrifenedig a map cynigion. Mae’r datganiad ysgrifenedig yn amlinellu polisïau cynllunio lleol, dyraniadau defnydd tir a chyfiawnhad cysylltiedig yn seiliedig ar y dystiolaeth ategol yn y papurau cefndir. Mae hefyd yn cynnwys fframwaith monitro, sy’n nodi sut y bydd strategaeth, amcanion, polisïau a chynigion y cynllun yn cael eu monitro’n erbyn y dangosyddion priodol a phwyntiau sbardun ar gyfer gweithredu (yn gysylltiedig ag adolygiad / diwygiad y cynllun). Mae’r map cynigion yn nodi’r dyraniadau defnydd tir, ffiniau anheddiad a dynodiadau cynllunio yn y cynllun, sy’n allweddol er mwyn cyflawni’r strategaeth ofodol. Sylw
1.2.4 Mae’r CDLlN yn llawer mwy na chynllun defnydd tir yn unig; mae ei gylch gorchwyl yn ehangach, gyda phwyslais ar greu lleoedd a chreu cymunedau cynaliadwy, ac mae’n dangos cysylltiadau gyda materion cysylltiedig fel iechyd, addysg, newid yn yr hinsawdd, isadeiledd gwyrdd, teithio llesol a llesiant. Mae holl amcanion a pholisïau'r CDLlN yn rhyng-gysylltiedig o ran eu natur ac mae angen eu darllen ochr yn ochr â’i gilydd er mwyn cael dealltwriaeth o gyfeiriad polisi cyffredinol y CDLlN i’w Archwilio gan y Cyhoedd. Sylw
1.3 Dogfennau ategol Sylw
1.3.1 Mae’r CDLlN i’w Archwilio gan y Cyhoedd yn cael ei gefnogi gan nifer o asesiadau o effaith a dogfennau sylfaen dystiolaeth gefndirol i hysbysu’r ymagwedd a’r nod gyffredinol o hyrwyddo cymunedau cynaliadwy. Dylid darllen yr holl ddogfennau canlynol ochr yn ochr â’r CDLlN i’w Archwilio gan y Cyhoedd. Sylw
- Arfarniad o Gynaliadwyedd yn cynnwys Asesiad Amgylcheddol Strategol - Mae’r CDLlN i’w Archwilio gan y Cyhoedd wedi bod yn destun Arfarniad o Gynaliadwyedd / Asesiad Amgylcheddol Strategol i nodi a fyddai’n cael unrhyw effaith sylweddol ar yr amgylchedd (cadarnhaol neu negyddol) ac i ddeall a fydd yn cynorthwyo i gyflawni datblygu cynaliadwy. Mae Fframwaith yr Arfarniad o Gynaliadwyedd sy’n tanategu’r asesiad hwn yn cynnwys canolbwynt cryf ar faterion lles sy’n gysylltiedig â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.
- Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd - asesiad o effeithiau sylweddol tebygol ar safleoedd sydd wedi’u dynodi ar lefel Ewropeaidd (‘Safleoedd Ewropeaidd’) am resymau o bwysigrwydd ecolegol.
- Asesiad o Effaith ar Gydraddoldeb - yn adolygu a nodi effaith debygol y Cynllun ar gymunedau presennol ac yn y dyfodol, gan ystyried y dystiolaeth berthnasol er mwyn deall effaith debygol neu wirioneddol y polisïau ac arferion ar grwpiau gwarchodedig.
- Asesiad o Effaith ar Iechyd - yn asesu effaith debygol y Cynllun ar ystyriaethau iechyd a chydraddoldeb, yn enwedig y rhai a allai effeithio ar iechyd trigolion y Fwrdeistref Sirol.
- Asesiad o’r Effaith ar y Gymraeg - yn asesu effaith bosibl y CDLlN ar y Gymraeg a diwylliant Cymru ac yn cynnig mesurau lliniaru priodol.
- TystiolaethPapurauCefndir - amrywiaeth o sylfaen dystiolaeth i hysbysu a chefnogi’r CDLlN. Mae Papurau Cefndir hefyd yn darparu gwybodaeth a rhesymeg ar gyfer y CDLlN i’w Archwilio gan y Cyhoedd. Mae’r rhain yn rhoi mwy o fanylder ar rai o’r materion allweddol a’r meysydd testun sydd yn arwyddocaol ar gyfer y CDLlN. Mae 66 o Bapurau Cefndir ar hyn o bryd fel y nodir yn Atodiad 4.
1.3.2 Mae’r Asesiadau o Effaith a Phapurau Cefndir wedi’u cyflawni mewn modd integredig a’u defnyddio fel teclynnau creu cynllun i hysbysu’r CDLlN, yn hytrach nag ymarferion adrodd statudol yn unig. Mae hyn wedi caniatáu profi goblygiadau amgylcheddol, cymdeithasol, economaidd a diwylliannol holl elfennau’r cynllun ar y cam cynharaf posibl a bod unrhyw ansicrwydd, materion neu ofynion lliniaru’n cael eu nodi yn ystod prosesau asesiadau o effaith i fynd i’r afael â nhw yn ystod gwaith paratoi’r cynllun. Hefyd er mwyn diwallu’r gofynion statudol, mae’r broses wedi cynorthwyo i wneud y mwyaf o berfformiad a gwella ansawdd y CDLlN yn gyffredinol. Sylw
1.3.3 Mae rhagor o ddogfennau wedi’u cyhoeddi ochr yn ochr â’r CDLlN i’w Archwilio gan y Cyhoedd. Sylw
- Adroddiad Adolygu’r CDLl Presennol - yn nodi graddau arfaethedig y newidiadau tebygol i’r CDLl presennol (2007 - 2022) a chadarnhau’r weithdrefn ddiwygio i’w dilyn wrth baratoi’r CDLlN.
- Cytundeb Cyflawni a Chynllun Ymgysylltu â’r Gymuned - mae’r Cytundeb Cyflawni’n darparu cynllun prosiect ar gyfer paratoi’r CDLlN a nodi mesurau o fewn y Cynllun Ymgysylltu â’r Gymuned o ran ymgynghori ac ymgysylltu. Mae’r Cytundeb Cyflawni a’r Cynllun Ymgysylltu â’r Gymuned wedi’u diwygio i adlewyrchu effaith COVID19 ar yr amserlen gynhyrchu.
- Cofrestr o Safleoedd Ymgeisiol- mae Cofrestr y Safleoedd Ymgeisiol yn nodi’r holl safleoedd a gyflwynwyd i’r Awdurdod Cynllunio Lleol fel rhan o’r Alwad am Safleoedd Ymgeisiol. Mae’r safleoedd hyn yn cael eu cyflwyno gan y cyhoedd a budd-ddeiliaid sy’n awgrymu tir i’w ddatblygu, neu ei ddiogelu rhag datblygiad. Mae’r safleoedd a awgrymwyd i’w datblygu wedi’u nodi yn y CDLlN i’w Archwilio gan y Cyhoedd yn seiliedig ar anghenion ac asesiad llawn i ddangos bod modd eu cyflawni.
1.4 Ymgysylltu blaenorol gyda’r gymuned a budd-ddeiliaid allweddol. Sylw
1.4.1 Mae’n rhaid i’r CDLlN fod yn seiliedig ar ac yn cael ei danategu gan ymgysylltiad cynnar, effeithiol ac ystyrlon gyda’r gymuned er mwyn deall ac ystyried ystod eang o safbwyntiau, gyda’r nod o lunio consensws eang ar y strategaeth ofodol, polisïau a chynigion. Sylw
1.4.2 Mae’r Cyngor wedi paratoi Adroddiad Ymgynghori i’w Archwilio gan y Cyhoedd sy’n ddogfen gynhwysfawr yn nodi sut mae’r holl sylwadau blaenorol a wnaed wedi hysbysu’r Cynllun i’w Archwilio gan y Cyhoedd. Mae’n crynhoi’r materion allweddol a godwyd drwy’r broses, gan gynnwys y sylwadau a wnaed ac argymhellion o ran sut mae’r Awdurdod Cynllunio Lleol yn ystyried y dylid mynd i’r afael â phob sylw. Sylw
1.4.3 Mae’r sylwadau a dderbyniwyd yn ystod ymgynghoriadau blaenorol wedi’u hasesu ac mae nifer wedi dylanwadu ar baratoad y Cynllun i’w Archwilio gan y Cyhoedd. Mae crynodeb o sylwadau a dderbyniwyd yn ystod yr ymgynghoriad yn cael ei gyhoeddi ar wahân fel rhan o’r CDLlN i’w Archwilio gan y Cyhoedd. Sylw
1.5 Strwythur y CDLlN Sylw
1.5.1 Roedd y camau ymgynghori cychwynnol cyn cyflwyno i’w archwilio gan y cyhoedd yn cynnig strwythur newydd i’r CDLlN i sicrhau ei fod yn mynd i’r afael â’r themâu allweddol yng nghynllun cenedlaethol ‘Cymru’r Dyfodol 2040’, PCC a’r nodau lles a nodwyd yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015. Mae holl elfennau’r CDLlN i’w Archwilio gan y Cyhoedd wedi’u strwythuro o amgylch y pedair thema i gyflawni’r weledigaeth, amcanion a’r strategaeth ofodol. Mae’r themâu hyn yn uno’r cysylltiadau rhwng polisïau cynllunio i’w gwneud yn glir sut mae elfennau unigol yn cyfrannu at y nod gyffredinol i gyfrannu’n gadarnhaol at leoedd cynaliadwy a gwella lles yng Nghonwy. Mae’r Cynllun Monitro a Gweithredu hefyd yn adlewyrchu’r pedair thema allweddol. Sylw
1.5.2 Mae’r CDLlN i’w Archwilio gan y Cyhoedd yn cynnwys datganiad ysgrifenedig yn nodi ei bolisïau a chynigion a map cynigion ar sail ddaearyddol. Mae’r CDLlN i’w Archwilio gan y Cyhoedd wedi’i strwythuro fel a ganlyn: Sylw
Crynodeb gweithredol - yn cyflwyno a chrynhoi CDLlN Conwy yn gryno.
Adran 1:cyflwyniad - gwybodaeth gefndir gyffredinol am CDLlN Conwy i’w Archwilio gan y Cyhoedd gan gynnwys pwrpas, strwythur, proses statudol, asesiadau a dogfennau ategol.
Adran 2: cyd-destun polisi a gofodol - yn nodi proffil ardal y cynllun a nodweddion allweddol yn ogystal ag aliniad y CDLlN i’w Archwilio gan y Cyhoedd, gyda pholisi a deddfwriaeth cenedlaethol, rhanbarthol a lleol.
Adran 3: materionachymhellionblaenoriaethol - yn amlinellu materion a nodwyd mewn perthynas â’r CDLlN.
Adran 4: fframwaith gofodol - yn nodi gweledigaeth, amcanion strategol a strategaeth dwf a gofodol y CDLlN i’w Archwilio gan y Cyhoedd.
Adran 5: fframwaith polisi creu lleoedd - yn nodi polisïau strategol ac yn seiliedig ar feini prawf sydd wedi’u cyfuno o dan y pedair thema fel y nodwyd isod.
Adran 6: monitro a gweithrediad - yn nodi ac ymgorffori targedau allweddol, yn nodi perfformiad y cynllun ac yn mesur sut y bydd yn cael ei fonitro. Gwybodaeth dechnegol a chefndirol yn darparu manylion i gefnogi cynnwys y Cynllun, neu ddarparu gwybodaeth i gynorthwyo gyda’i ddehongli.
Map cynigion ar sail ddaearyddol - mae’r map cynigion ynghyd â’r mapiau o aneddiadau penodol neu ardaloedd datblygu yn nodi polisïau a chynigion ar sail ddaearyddol.
1.5.3 Mae’r cynllun yn cynnwys y polisïau strategol a pholisïau sy’n seiliedig ar feini prawf canlynol ar gyfer pob adran: Sylw
Dewisiadau strategol a gofodol yng Nghonwy Sylw
Fframwaith y polisi Creu Lleoedd Sylw
PL/1 creu lleoedd cynaliadwy
PL/2 strategaeth tai cynaliadwy
PL/3 strategaeth economaidd gynaliadwy
PL/4 dosbarthiad twf a hierarchaeth aneddiadau
PL/5 creu lleoedd a dylunio da
PL/6 hyrwyddo lleoedd iachach
PL/7 yr iaith Gymraeg
PL/8 rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy
PL/9 creu lleoedd mewn ardaloedd gwledig
PL/10 addasiadau gwledig
PL/11 Cynlluniau Creu Lleoedd a Chynlluniau Bro
PL/12 datblygiad, isadeiledd a rhwymedigaethau cynllunio newydd
PL/13 datblygiad newydd a hyfywedd
PL/14 rheoli ffurf anheddiad
PL/15 Ardal Wella’r Dwyrain
PL/16 creu lleoedd a safleoedd
PL/17 safle 157 Caeffynnon, Llanfairfechan - safle tai ac addysg defnydd cymysg
PL/18 safle 91 Pentywyn Road, Deganwy / Llanrhos - safle tai
PL/19 safle 68, safle tai Fferm Peulwys, Hen Golwyn
PL/20 safle 56, Penloyn, Llanrwst - safle tai
PL/21 safle 203, safle tai Queens Road, Llandudno
PL/22 safle 115, safle cyflogaeth ac ynni adnewyddadwy Chwarel Llanddulas
PL/23 safle 103, safle cyflogaeth Bryniau, Llandudno
PL/24 safle 206 Nant y Coed, Cyffordd Llandudno - safle tai
PL/25 safle 132 Dinerth Road, Llandrillo-yn-Rhos - safle tai
Lleoedd iach a chymdeithasol yng Nghonwy Sylw
Fframwaith tai a thai fforddiadwy Sylw
HS/1 fframwaith tai cynaliadwy
HS/2 cyflawni’r angen o ran tai
HS/3 darpariaeth tai fforddiadwy
HS/4 safleoedd a arweinir gan dai fforddiadwy
HS/5 safleoedd eithriedig tai fforddiadwy
HS/6 dwysedd tai
HS/7 cymysgedd tai
HS/8 cynlluniau anghenion tai lleol
HS/9 anheddau menter wledig
HS/10 ail gartrefi a llety gwyliau tymor byr
HS/11 amod meddiannaeth man preswylio parhaol C3
HS/12 llety a rennir
HS/13 cartrefi gofal, cartrefi nyrsio, gofal ychwanegol, byw â chymorth a thai gwarchod
HS/14 datblygiad Sipsiwn, Roma a Theithwyr
HS/15 diwallu anghenion Sipsiwn, Roma a Theithwyr
Strategaeth Cludiant Cynaliadwy a Hygyrchedd Sylw
STA/1 cludiant cynaliadwy, hygyrchedd a datgarboneiddio
STA/2 cerbydau allyriadau isel iawn
STA/3 lliniaru effaith teithio
STA/4 Llwybrau a chynlluniau cludiant
STA/5 Canolfannau nwyddau a gwastraff cyfunol
STA/6 Teithio llesol ac isadeiledd gwyrdd
STA/7 Gwelliannau i gyfnewidfeydd a chyfleusterau cludiant cyhoeddus
STA/8 Safonau parcio
Canolfannau manwerthu a masnachol Sylw
RTC/1 manwerthu a chanol trefi yn gyntaf
RTC/2 hierarchaeth manwerthu
RTC/3 Prif Ardal Siopa
RTC/4 Parthau Siopa
RTC/5 parciau manwerthu a hamdden
RTC/6 dyluniad a diogelwch blaen siopau
RTC/7 datblygiad manwerthu newydd
Strategaeth cyfleusterau a gwasanaethau cymunedol Sylw
CFS/1 cyfleusterau a gwasanaethau cymunedol
CFS/2 rhandiroedd newydd a phresennol
CFS/3 claddfeydd
CFS/4 cyfleusterau cymunedol newydd
CFS/5 colli cyfleusterau cymunedol
Strategaeth mannau hamdden Sylw
RS/1 mannau hamdden
RS/2 datblygu a mannau hamdden
RS/3 diogelu mannau hamdden presennol
RS/4 mannau hamdden newydd
Lleoedd ffyniannus yng Nghonwy Sylw
Strategaeth datblygu economaidd Sylw
ED/1 datblygu economaidd
ED/2 dyraniadau cyflogaeth
ED/3 datblygiadau B1, B2 a B8 newydd ar safleoedd heb eu dyrannu
ED/4 diogelu safleoedd swyddfa a diwydiannol B1, B2 a B8
ED/5 ardaloedd gwella cyflogaeth swyddfeydd a diwydiannol
ED/6 arallgyfeirio ffermydd ac ehangu busnesau mewn ardaloedd gwledig
ED/7 telathrebu
ED/8 clystyrau busnes
Strategaeth Twristiaeth Sylw
TO/1 twristiaeth
TO/2 atyniadau hamdden a thwristiaeth cynaliadwy newydd
TO/3 Llety Gwyliau Llandudno
TO/4 safleoedd cabannau, carafanau sefydlog a charafanau teithiol
TO/5 llety gwyliau effaith isel
Fframwaith cynllunio sero net Sylw
EN/1 fframwaith cynllunio sero net
EN/2 cyflawni sero net mewn datblygiadau newydd
EN/3 adeiladau ynni effeithlon
EN/4 ffynonellau ynni di-garbon neu garbon isel a thechnoleg di-garbon parod
EN/5 Allyriadau carbon heb eu rheoleiddio a charbon ymgorfforedig mewn adeiladau
EN/6 asesiad allyriadau nwyon tŷ gwydr ar gyfer datblygiadau newydd
EN/7 gwrthbwyso a dal a storio carbon
EN/8 cysylltu â’r grid a storio ynni
EN/9 cynhyrchu ynni’n lleol a’r cynllun ynni ardal leol
EN/10 grid clyfar a rhwydweithiau gwresogi ac oeri ardal
EN/11 datblygiad solar a gwynt ar y tir a rhwydweithiau gwresogi ac oeri ardal
EN/12 isadeiledd ar y tir sydd wedi’i gysylltu ag ynni adnewyddadwy ar y tir
Mwynau a Gwastraff Sylw
MW/1 mwynau a gwastraff
MW/2 echdynnu mwynau
MW/3 diogelu creigiau caled ac adnoddau tywod a graean
MW/4 Parthau Clustogi Chwarel
MW/5 cynigion ar gyfer rheoli gwastraff
MW/6 defnydd o dir diwydiannol ar gyfer cyfleusterau rheoli gwastraff
MW/7 Parth Clustogi Tirlenwi
Lleoedd naturiol a diwylliannol yng Nghonwy Sylw
Yr amgylchedd naturiol Sylw
NE/1 yr amgylchedd naturiol
NE/2 newid yn yr hinsawdd a gwydnwch ecosystemau
NE/3 tirluniau dynodedig
NE/4 diogelu Ardaloedd Tirwedd Arbennig
NE/5 Lletemau Glas
NE/6 coed, tirlunio a gwaith rheoli
NE/7 rhwydwaith isadeiledd gwyrdd
NE/8 bioamrywiaeth
NE/9 gwarchod a rheoli safleoedd dynodedig
NE/10 cynlluniau rheoli’r Parth Arfordirol, newid arfordirol a’r traethlin
NE/11 ardaloedd arfordirol a chynlluniau morol
Rhinweddau amgylcheddol Sylw
EQ/1 rhinweddau amgylcheddol
EQ/2 cadwraeth dŵr a draenio cynaliadwy
EQ/3 ansawdd aer, seinwedd a rheoli golau
EQ/4 Awyr Dywyll a golau sensitif
EQ/5 rheoli perygl llifogydd a datblygiad
Amgylchedd hanesyddol Sylw
HE/1 amgylchedd hanesyddol
HE/2 datblygiadau yn effeithio ar asedau hanesyddol
HE/3 Asedau Hanesyddol o Ddiddordeb Lleol Arbennig
HE/4 adfywio drwy ddiwylliant
1.6 Gweithio tuag at fannau cynaliadwy a lles gwell yng Nghonwy Sylw
1.6.1 Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yn cyflwyno dyletswydd ar gyrff cyhoeddus bod yn rhaid iddynt gyflawni datblygu cynaliadwy wrth baratoi CDLl. Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn nodi saith nod lles y mae’n rhaid i CDLlN Conwy weithio tuag atynt. Mae CDLlN Conwy i’w Archwilio gan y Cyhoedd yn mynd i’r afael â’r egwyddor datblygu cynaliadwy a’r cysyniad o greu lleoedd i sicrhau ei fod yn gweithio tuag at leoedd cynaliadwy a lles gwell yng Nghonwy. Sylw
1.6.2 Er mwyn sicrhau bod y CDLlN yn gweithio tuag at y nodau hyn, mae cymhellion allweddol y mae’n rhaid eu dilyn a chysylltu â nhw, a fydd yn galluogi gwireddu’r nodau yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Mae ffigur 2 yn dangos sut mae’r dogfennau allweddol hyn yn cysylltu i hysbysu’r CDLlN a chyfrannu’n gadarnhaol tuag at leoedd cynaliadwy a lles: Sylw
- Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn sefydlu’r ‘pum ffordd o weithio’ y mae’n rhaid i gyrff cyhoeddus ddangos eu bod wedi’u cyflawni wrth ddiwallu eu dyletswydd datblygu cynaliadwy ac wrth baratoi’r CDLlN.
- Mae Llywodraeth Cymru’n nodi cymhellion cynllunio allweddol ar ffurf ‘pum egwyddor cynllunio allweddol’ a ddylai ffurfio man cychwyn wrth baratoi’r CDLlN. Mae’r egwyddorion hynny’n cefnogi’r newid diwylliant oedd ei angen er mwyn mynd i’r afael â chreu lleoedd, a sicrhau bod cynllunio’n hwyluso’r datblygiad cywir yn y lleoliad cywir.
- Dylid defnyddio canlyniadau creu lleoedd cynaliadwy cenedlaethol i hysbysu gwaith paratoi’r cynlluniau datblygu ac asesiad y cynigion datblygu. Mae’r canlyniadau’n darparu fframwaith sy’n cynnwys y ffactorau hynny sy’n cael eu hystyried fel canlyniad delfrydol y cynlluniau datblygu a datblygiadau unigol. Mae’r canlyniadau hyn hefyd yn ffurfio’r man cychwyn ar gyfer y CDLlN.
1.6.3 Mae Atodiad 2 yn dangos sut mae’r canlyniadau creu lleoedd cynaliadwy cenedlaethol yn cysylltu â’r nodau lles cenedlaethol, themâu PCC, polisïau Cymru’r Dyfodol, Cynllun Lles Conwy a Sir Ddinbych a’r themâu arfaethedig yn y Cynllun i’w Archwilio gan y Cyhoedd yn cydymffurfio â’i gilydd. Sylw
Ffynhonnell: SPPS,CBSC Sylw
1.6.4 Mae’n rhaid i’r CDLlN fod yn seiliedig ar ddealltwriaeth gref o rôl a swyddogaeth ardal gan gynnwys cysylltiadau gweithredol gydag ardaloedd y tu hwnt i ffiniau gweinyddol. Mae’r adran hon wedi’i hysbysu gan ddealltwriaeth drylwyr o’r materion allweddol lleol, rhanbarthol a chenedlaethol sy’n effeithio ar ardal cynllun Conwy, sy’n hysbysu gweledigaeth, amcanion a fframwaith strategol y CDLlN wedi’i gyflwyno yn adran 4 a’r polisïau strategol ac yn seiliedig ar feini prawf yn adran 5. Wrth baratoi’r CDLlN rydym wedi ceisio adolygu a diweddaru ein dealltwriaeth o’r materion perthnasol ymhellach drwy flaenlwytho a chasglu tystiolaeth drwy ymgysylltu â budd-ddeiliaid allweddol a chymunedau. Sylw
1.6.5 Mae’n rhaid i’r CDLlN gael cydbwysedd rhwng diogelu’r elfennau hynny sy’n gwneud Conwy’n arbennig, gan gynorthwyo i hwyluso cyfleoedd ar gyfer twf newydd ac adfywio er mwyn cyfrannu at greu lleoedd cynaliadwy a lles gwell. Sylw