CDLlN Cynllun i’w archwilio gan y cyhoedd 2018-2033
4. Fframwaith Gofodol Sylw
4.1 Gweledigaeth y CDLl Newydd Sylw
4.1.1 Mae angen i’r CDLlN gael ei gefnogi gan weledigaeth gryno, hirdymor, amcanion a strategaeth. Er mwyn cyflawni hyn, mae gweledigaeth glir wedi cael ei lunio sy’n seiliedig ar gonsensws ar ôl ymgysylltu â budd-ddeiliaid allweddol a’r gymuned. Mae gweledigaeth y CDLlN wedi cael ei ffurfio gan roi ystyriaeth i’r gyrwyr a’r materion blaenoriaeth lefel uchel a nodir mewn dogfennau ategol. Mae hefyd wedi’i llywio gan ddeddfwriaethau, polisïau a seiliau tystiolaeth cenedlaethol, rhanbarthol a lleol y manylir arnynt yn rhannau 2, 3 a 4. Yna, cafodd ei mireinio a’i chwtogi ymhellach ar gyfer y CDLlN i’w Archwilio drwy’r broses Arfarniad o Gynaliadwyedd / Asesiad Amgylcheddol Strategol sy’n parhau ac i adlewyrchu themâu allweddol Cynllun Lles Lleol Conwy a Sir Ddinbych (2023-2028). Yn bwysig iawn, mae’r weledigaeth yn awr yn fwy cryno, yn croesawu creu lleoedd ac yn pwysleisio pwysigrwydd creu lleoedd cynaliadwy a gwella lles i bawb. Sylw
Erbyn 2033, fe fydd ffocws newydd ar greu lleoedd yn arwain at lefydd cynaliadwy, lles gwell a mwy o gyfleoedd i fyw, gweithio ac ymweld, lle gall y Gymraeg ffynnu, gan sicrhau bod Conwy yn fwy cyfartal, yn llai difreintiedig ac yn wydn ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Sylw
4.2 Cyflawni’r weledigaeth Sylw
4.2.1 Mae cydnawsedd y weledigaeth ac amcanion wedi cael eu hystyried yn erbyn golau Lles Cenedlaethau’r Dyfodol, Cynllun Lles Conwy a Sir Ddinbych a dogfennau pwysig eraill megis Bargen Dwf Gogledd Cymru. Caiff y weledigaeth ar gyfer CDLlN Conwy ei chyflawni drwy gydweithio gyda phob budd-ddeiliad sy’n rhan o’r broses gynllunio gan ddilyn y 5 ffordd o weithio (cydweithio, atal, integreiddio, tymor hir a chyfranogi) ac anelu i ddarparu llefydd cynaliadwy a lles gwell. Bydd ymdrechion creu lleoedd ac adfywio felly’n canolbwyntio ar ddarparu datrysiadau’n seiliedig ar leoedd ar gyfer yr heriau cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol sy’n wynebu’r ardal. Bydd y weledigaeth felly’n cael ei gweithredu drwy fynd i’r afael â’r amcanion a nodir yn y rhan nesaf, ac yn ei dro, drwy weithredu polisïau cysylltiedig a chynigion a fanylir arnynt yn fframwaith polisi creu lleoedd y CDLlN. Sylw
4.3 Amcanion y CDLlN Sylw
4.3.1 Mae polisi Llywodraeth Cymru yn awgrymu y dylai Cynlluniau Datblygu Lleol nodi prif amcanion y cynllun yn glir, ynghyd â chyfeiriad cyffredinol unrhyw newid. Sylw
4.3.2 Mae amcanion strategol y CDLlN nid yn unig yn llawn dyhead ac yn uchelgeisiol ond mae modd eu darparu o fewn cyd-destun cynllunio gofodol. Maent yn ymateb i faterion allweddol y cynllun ac yn eu cyflawni, gan gynnig llwyfan ar gyfer gwireddu’r weledigaeth. Fel yn achos y weledigaeth, mae’r amcanion wedi cael eu mireinio ymhellach yn dilyn ymgynghoriad, drwy’r broses Arfarniad o Gynaliadwyedd / Asesiad Amgylcheddol Strategol parhaus ac o ganlyniad i Gynllun Lles Lleol Conwy a Sir Ddinbych (2023 - 2028). Unwaith yn rhagor, mae’r amcanion wedi’u grwpio o amgylch strwythur arfaethedig a themâu strategol y CDLlN sy’n adlewyrchu nodau Lles Cenedlaethau’r Dyfodol, y 5 egwyddor gynllunio allweddol, canlyniadau cynaliadwy a Pholisi Cynllunio Cymru fel y dangosir yn Ffigur 2. Y prif nod yw gallu cyfrannu’n gadarnhaol at greu lleoedd cynaliadwy a gwella lles yn ardal CDLlN Conwy. Sylw
Dewisiadau strategol a gofodol Sylw
SO1: Cyfrannu at greu mannau cynaliadwy, cynhwysiant cymdeithasol a lles gwell yn gyffredinol yng Nghonwy drwy ddarparu proses creu lleoedd ac adfywio cynhwysol sy’n sicrhau bod lefelau twf yn y dyfodol a datblygiad yn digwydd mewn lleoliadau cynaliadwy a hygyrch, yn ceisio hyrwyddo dyluniad da a lleoedd mwy iach, yn diogelu’r Gymraeg a’i hanes a hybu ei defnydd ac yn cael ei gefnogi gan yr isadeiledd cymdeithasol, amgylcheddol, diwylliannol ac economaidd angenrheidiol i gynnal lleoedd gwych a chreu rhai newydd. Sylw
Amcanion cysylltiedig: pob amcan Sylw
4.3.3 Y materion sy’n flaenoriaeth ar gyfer yr amcan yma yw: Sylw
- creu lleoedd cynaliadwy;
- strategaeth tai cynaliadwy;
- strategaeth economaidd gynaliadwy;
- dosbarthiad twf a hierarchaeth aneddiadau;
- creu lleoedd a dyluniad da;
- hybu llefydd iachach;
- y Gymraeg;
- rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy;
- creu lleoedd mewn ardaloedd gwledig;
- addasiadau gwledig;
- cynlluniau creu lleoedd a chynlluniau bro;
- datblygiad, isadeiledd a rhwymedigaethau cynllunio newydd;
- datblygiad newydd a hyfywedd;
- rheoli ffurf anheddiad;
- Ardal Wella Ddwyreiniol; a,
- chreu lleoedd a safleoedd datblygu.
Lleoedd iach a chymdeithasol yng Nghonwy Sylw
SO2: hyrwyddo strategaeth cyflogaeth a thwf tai gyfannol ac wedi’i chyd-leoli trwy ddarparu cartrefi newydd, gan gynnwys cartrefi fforddiadwy ac anghenion llety sipsiwn a theithwyr mewn lleoliadau cynaliadwy a hygyrch, a sicrhau bod yr amrywiaeth gywir o fathau, meintiau a deiliadaeth tai yn cael eu cyflwyno ochr yn ochr â’r isadeiledd cymunedol angenrheidiol. Sylw
Amcanion cysylltiedig: 1, 2, 3, 4, 5, 6, 7, 9, 10, 11, 12, 13, 14 a 15 Sylw
4.3.4 Y materion sy’n flaenoriaeth ar gyfer yr amcan yma yw: Sylw
- Tai, tai fforddiadwy a Sipsiwn a Theithwyr;
- Tai gwledig;
- Math o dŷ, dwysedd a chymysgedd;
- Digartrefedd;
- Ail gartrefi a llety gwyliau tymor byr;
- Llety a rennir; a
- Chartrefi gofal, cartrefi nyrsio, gofal ychwanegol, byw â chymorth a thai gwarchod
SO3: cyflawni canolfannau masnachol a thref ffyniannus, deniadol a hyfyw yng Nghonwy drwy ailddiffinio eu rôl a thrwy annog amrywiaeth o weithgareddau a defnydd. Sylw
Amcanion cysylltiedig: 1, 2, 6, 7, 8, 9, 13 a 14. Sylw
4.3.5 Y materion sy’n flaenoriaeth ar gyfer yr amcan yma yw: Sylw
- Manwerthu mewn ardaloedd trefol a gwledig;
- Dull canol tref yn gyntaf;
- Hierarchaeth manwerthu, prif ardaloedd siopa a pharthau siopa;
- Parciau manwerthu a hamdden; a,
- Dyluniad a diogelwch blaen siopau.
SO4: cyfrannu at synnwyr o le ac iechyd, lles ac amwynder cyffredinol cymunedau lleol drwy sicrhau bod gan y grwpiau poblogaeth presennol a rhai’r dyfodol fynediad at gymysgedd cynaliadwy o gyfleusterau cymunedol. Sylw
Amcanion cysylltiedig: 1, 2, 3, 4, 5, 6, 7, 9, 13 a 14 Sylw
4.3.6 Y materion sy’n flaenoriaeth ar gyfer yr amcan yma yw: Sylw
- Cyfleusterau a gwasanaethau cymunedol;
- Rhandiroedd newydd a diogelu rhandiroedd; ac,
- Addysg, iechyd a chyfleusterau cymunedol eraill.
SO5: annog lles corfforol a meddyliol trwy ddarparu a diogelu mannau gwyrdd hygyrch o ansawdd da a rhwydweithiau mannau hamdden. Sylw
Amcanioncysylltiedig: 1, 2, 4, 6, 8, 12, 13, 14 a 15. Sylw
4.3.7 Y materion sy’n flaenoriaeth ar gyfer yr amcan yma yw: Sylw
- Mannau hamdden;
- Datblygu a mannau hamdden; a,
- Diogelu mannau hamdden presennol.
SO6: darparu datblygiad cynaliadwy a cheisio mynd i’r afael ag achosion newid hinsawdd trwy ymestyn y dewis o gludiant cynaliadwy i alluogi cymunedau Conwy i gael mynediad at swyddi a gwasanaethau allweddol trwy annog pobl i wneud siwrneiau byrrach a mwy egnïol ac effeithlon trwy gerdded, beicio a defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus a thrwy ddylanwadu ar leoliad, graddfa, dwysedd, cymysgedd defnydd a dyluniad datblygiadau newydd. Sylw
Amcanion cysylltiedig: pob amcan Sylw
4.3.8 Y materion sy’n flaenoriaeth ar gyfer yr amcan yma yw: Sylw
- Cludiant Cynaliadwy, hygyrchedd a datgarboneiddio;
- Cerbydau allyriadau isel iawn;
- Lliniaru effaith teithio;
- Llwybrau a chynlluniau cludiant;
- Canolfannau nwyddau a gwastraff cyfunol;
- Teithio llesol ac isadeiledd gwyrdd;
- Gwelliannau i gyfnewidfeydd a chyfleusterau cludiant cyhoeddus; a,
- Safonau parcio;
Lleoedd ffyniannus yng Nghonwy Sylw
SO7: cefnogi ffyniant economaidd, arallgyfeirio ac adfywio yn hirdymor drwy fanteisio ar safle strategol Conwy yng nghyd-destun y rhanbarth ehangach a hyrwyddo strategaeth gyfannol ar gyfer twf cyflogaeth a thai, a fydd yn hwyluso twf swyddi newydd o’r mathau iawn mewn mannau hygyrch a chynaliadwy, cefnogi rhwydweithiau a chlystyrau busnes, hybu sgiliau ar gyfer swyddi â chyflogau da a darparu’r isadeiledd newydd angenrheidiol, a bydd hynny at ei gilydd yn galluogi busnesau newydd i sefydlu yng Nghonwy a’r busnesau presennol i dyfu. Sylw
Amcanion cysylltiedig: 1, 2, 3, 6, 7, 8, 9, 10, 11, 12 a 13 Sylw
4.3.9 Y materion sy’n flaenoriaeth ar gyfer yr amcan yma yw: Sylw
- Datblygu economaidd;
- Isadeiledd cludiant a’r economi;
- Telathrebu;
- Arallgyfeirio ffermydd ac ehangu busnesau yn yr ardal wledig; a,
- Chlystyrau busnes.
SO8: annog a chefnogi darpariaeth twristiaeth gynaliadwy lle mae’n cyfrannu at ffyniant a datblygiad economaidd, cadwraeth, arallgyfeirio gwledig, adfywio a chynhwysiant cymdeithasol, wrth gydnabod anghenion ymwelwyr, busnesau, cymunedau lleol a’r angen i ddiogelu amgylcheddau hanesyddol a naturiol. Sylw
Amcanion cysylltiedig: 1, 2, 3, 4, 5, 6, 7, 9, 12, 13 a 15. Sylw
4.3.10 Y materion sy’n flaenoriaeth ar gyfer yr amcan yma yw: Sylw
- Atyniadau hamdden a thwristiaeth cynaliadwy;
- Parth llety gwyliau Llandudno; a,
- Llety Gwyliau.
SO9: hyrwyddo a chefnogi economïau gwledig cynaliadwy a ffyniannus trwy sefydlu menter newydd, ehangu busnes presennol a thrwy fabwysiadu dull adeiladol o ran amaethyddiaeth a newid arferion ffermio. Sylw
Amcanion cysylltiedig: pob amcan Sylw
4.3.11 Y materion sy’n flaenoriaeth ar gyfer yr amcan yma yw: Sylw
- Economi wledig Conwy;
- Arallgyfeirio ffermydd; ac,
- Ehangu busnesau yn yr ardal wledig.
SO10: sicrhau cymysgedd priodol o ddarpariaeth ynni, gan gynnwys hyrwyddo morlyn llanw, sy’n sicrhau’r manteision mwyaf posibl i economi a chymunedau Conwy tra’n sicrhau fod yr effaith amgylcheddol a chymdeithasol mor isel â phosibl. Sylw
Amcanion cysylltiedig: 1, 2, 3, 6, 7, 8, 9, 11 a 13 Sylw
4.3.12 Y materion sy’n flaenoriaeth ar gyfer yr amcan yma yw: Sylw
- Sero net, ynni a newid hinsawdd;
- Cyflawni sero net mewn datblygiadau newydd;
- Adeiladau ynni effeithlon;
- Ffynonellau ynni di-garbon neu garbon isel a thechnoleg di-garbon parod;
- Gwrthbwyso a dal a storio carbon;
- Cysylltu â’r grid a storio ynni;
- Cynhyrchu ynni’n lleol;
- Grid clyfar a rhwydweithiau gwresogi ac oeri ardal;
- Datblygiadau ynni gwynt a solar ar y tir; ac,
- Isadeiledd ar y tir sydd wedi’i gysylltu ag ynniadnewyddadwy ar y môr.
SO11: cyfrannu at weithrediad yr economi gylchol, rheoli gwastraff gydag effaith amgylcheddol lleiaf posibl a sicrhau defnydd cynaliadwy o adnoddau naturiol, gan gynnwys ar gyfer cynhyrchu ynni a darparu cyflenwad digonol o fwynau a deunydd ar gyfer adeiladu. Sylw
Amcanion cysylltiedig: 1, 2, 6, 7, 9, 10 a 15. Sylw
4.3.13 Y materion sy’n flaenoriaeth ar gyfer yr amcan yma yw: Sylw
- Mwynau a gwastraff;
- Echdynnu mwynau;
- Diogelu creigiau caled ac adnoddau tywod a graean;
- Chwarel a pharthau clustogi ar gyfer safleoedd tirlenwi;
- Cynigion ar gyfer rheoli gwastraff; a,
- Defnydd o dir diwydiannol ar gyfer cyfleusterau rheoli gwastraff.
Lleoedd naturiol a diwylliannol yng Nghonwy Sylw
SO12: diogelu a gwella asedau naturiol a threftadaeth ddiwylliannol Conwy sydd o ansawdd uchel. Sylw
Amcanion cysylltiedig: pob amcan Sylw
4.3.14 Y materion sy’n flaenoriaeth ar gyfer yr amcan yma yw: Sylw
- Amgylchedd naturiol;
- Amgylchedd hanesyddol;
- Datblygiadau yn effeithio ar asedau hanesyddol;
- Asedau hanesyddol o ddiddordeb lleol arbennig;
- Adfywio drwy ddiwylliant;
- Newid hinsawdd a gwydnwch ecosystemau;
- Tirluniau dynodedig;
- Diogelu ardaloedd tirwedd arbennig;
- Lletemau glas;
- Coed, tirlunio a gwaith rheoli; a
- Gwarchod a rheoli safleoedd dynodedig.
SO13: cefnogi twf, adfywio a chyfleoedd datblygu mewn ardaloedd arfordirol, wrth fod yn ymwybodol ac ymatebol i’r heriau sy’n dod o bwysau naturiol hefyd. Sylw
Amcanion cysylltiedig: pob amcan Sylw
4.3.15 Y materion sy’n flaenoriaeth ar gyfer yr amcan yma yw: Sylw
- Ardaloedd a pharthau arfordirol;
- Cynlluniau rheoli traethlin a newid arfordirol; ac,
- Ardaloedd Arfordirol a Chynlluniau Morol.
SO14: gwarchod a gwella bioamrywiaeth ac adeiladu rhwydweithiau ecolegol cryf. Sylw
Amcanion cysylltiedig: 1, 2, 3, 4, 5, 7, 8, 9, 12, 13 a 15. Sylw
4.3.16 Y materion sy’n flaenoriaeth ar gyfer yr amcan yma yw: Sylw
- Isadeiledd gwyrdd;
- Bioamrywiaeth; a,
- Gwarchod a rheoli safleoedd dynodedig.
SO15: lleihau dod i gysylltiad â llygredd aer a sŵn, cydbwyso darpariaeth datblygiad a golau i wella diogelwch, a gwarchod a gwella amgylchedd y dŵr ac adnoddau dŵr gan gynnwys faint o ddŵr wyneb a dŵr daear sydd, a’i ansawdd. Sylw
Amcanion cysylltiedig: Pob amcan Sylw
4.3.17 Y materion sy’n flaenoriaeth ar gyfer yr amcan yma yw: Sylw
- Rhinweddau amgylcheddol;
- Dŵr, aer, seinwedd a golau;
- Cadwraeth dŵr a draenio cynaliadwy; a,
- Rheoli perygl llifogydd.
4.4 Strategaeth ofodol Sylw
Cyflwyniad Sylw
4.4.1 Mae strategaeth ofodol y CDLlN yn nodi sut bydd y cynllun yn darparu’r weledigaeth, yr amcanion strategol ac yn mynd i’r afael â phrif faterion sy’n effeithio ar ardal CDLlN Conwy. Mae rhan nesaf y CDLlN yn nodi’r Fframwaith Polisi Creu Lleoedd a pholisïau ategol a fydd yn cael eu defnyddio i gefnogi a datblygu’r gwaith o gyflawni’r strategaeth newydd. Sylw
4.4.2 Mae’r strategaeth hon yn benllanw meithrin consensws yn eang ac ymgysylltu â budd-ddeiliaid yn flaenorol. Mae’n rhaid iddo ystyried y sail dystiolaeth allweddol a nodi faint o gyflogaeth a thwf tai sydd ei angen hyd at 2033 a lle y dylid lleoli’r twf yma. Caiff ei gefnogi gan hierarchaeth aneddiadau. Sylw
Nodyn i’r darllenydd Sylw
Mae’r CDLlN i’w harchwilio gan y cyhoedd a gyflwynir yn benllanw meithrin consensws yn eang ac ymgysylltu â budd-ddeiliaid yn flaenorol. Sylw
Mae’r ymgynghoriad hefyd yn cael ei gefnogi gan sail tystiolaeth ar ffurf 73 o Bapurau Cefndir, sydd wedi ysbrydoli ymgynghoriadau blaenorol a’r ymagwedd y CDLlN i’w harchwilio gan y cyhoedd (cyfeiriwch at Atodiad 4 i gael rhestr lawn o ddogfennau tystiolaeth gefndirol). Sylw
Mae’r holl bapurau ymgynghori blaenorol a thystiolaeth newydd ar gael yn rhan o’r ymgynghoriad cyhoeddus ar wefan y Cyngor. Nid bwriad y rhan yma yw ailadrodd y prif bwyntiau trafod yn y papurau yma a’r dogfennau sail tystiolaeth. Caiff darllenwyr eu hannog i ddarllen y dogfennau pwysig yma ochr yn ochr â’r cynllun i’w archwilio gan y cyhoedd. Sylw
Strategaeth y CDLlN Sylw
4.4.3 Mae Strategaeth y CDLlN yn hyrwyddo llefydd cynaliadwy hyd at 2033. Wrth gynllunio ar gyfer llefydd cynaliadwy yn ardal CDLlN Conwy, mae’r cynllun i’w archwilio gan y cyhoedd yn ceisio croesawu egwyddorion datblygu cynaliadwy, y cysyniad o greu lleoedd a sefydlu’r dyletswyddau a osodwyd drwy Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2025. Mae’r strategaeth newydd yn cynnwys y canlynol: Sylw
- LefelTwf – faint o dai a swyddi sydd wedi’u cynllunio hyd at 2033
- Strategaeth dosbarthiad gofodol – yn nodi ble fydd y lefel twf newydd yn cael ei leoli mewn modd cynaliadwy.
- Egwyddorion creu lleoedd cynaliadwy – yn manylu ar y prif egwyddorion datblygu a chreu lleoedd cynaliadwy y dylid eu dilyn er mwyn cyflawni’r amcan o lefydd cynaliadwy yn ardal CDLlN Conwy.
- Prif gyfansoddion y strategaeth – yn manylu ar brif gyfansoddion y strategaeth y dylid eu dilyn er mwyn sicrhau bod y strategaeth newydd yn cydymffurfio ac yn cael ei gyflawni.
4.4.4 Mae’r Strategaeth yn annog twf yn seiliedig ar ddealltwriaeth glir o’r newidiadau mewn poblogaeth ac aelwydydd dros gyfnod y Cynllun a’r angen i hyrwyddo strwythur oedran mwy cytbwys, lleihau lefelau cymudo allan, hwyluso twf swyddi a chynyddu nifer y tai fforddiadwy yn ardal y Cynllun. Sylw
4.4.5 Mae dosbarthiad y twf yn adlewyrchu ar nifer o ffactorau allweddol yn cynnwys cynaliadwyedd aneddiadau a’u poblogaeth, hygyrchedd, capasiti isadeiledd, yr angen i fynd i’r afael â newid hinsawdd, amddiffyn, hybu a gwella’r Gymraeg a chreu cymunedau iachach i bawb. Mae’r strategaeth hefyd wedi’i dylanwadu gan y lefel uchel o gyfyngiadau a materion o ran argaeledd tir sy’n gysylltiedig â dwyrain y Fwrdeistref Sirol. Ar yr un pryd, mae’r strategaeth newydd arfaethedig yn dangos gallu i gyflawni drwy ystyried beth sydd wedi cael ei gyflawni yn y gorffennol a sut y bydd yn cael ei gyflawni hyd at 2033. Sylw
4.4.6 Mae'r strategaeth yn derbyn er mwyn creu lleoedd cynaliadwy a lles gwell, mae’n rhaid cynllunio ar gyfer strwythur oedran mwy cytbwys. Mae yna heriau ynghlwm â hyn, gan fod y boblogaeth iau yn disgyn a’r boblogaeth hŷn yn cynyddu ar draul creu lleoedd cynaliadwy yn ardal CDLlN Conwy. Mae’n rhaid taro’r cydbwysedd drwy ddarparu’r lefel gywir o dai a thwf cyflogaeth a’r isadeiledd cymunedol angenrheidiol i annog y boblogaeth iau i aros a dychwelyd i’r ardal, ond hefyd i’r boblogaeth hŷn fyw bywydau iach ac egnïol. Sylw
4.4.7 Mae’r strategaeth newydd yn gyson â golau lles, prif egwyddorion cynllunio a chanlyniadau creu lleoedd cynaliadwy cenedlaethol yn cynnwys lleihau’r angen i deithio a hygyrchedd cynyddol drwy ffurfiau eraill heblaw car preifat. Mae cydbwysedd eang a hyblygrwydd rhwng tai a chyfleoedd cyflogaeth mewn ardaloedd trefol a gwledig yn cael ei hyrwyddo er mwyn lleihau’r angen am gymudo pellter hir. Mae’r strategaeth yn mabwysiadu dull i leoli’r prif resymau sy’n achosi galw mawr am deithio, megis tai, cyflogaeth, manwerthu, hamdden, cyfleusterau hamdden a chymunedol (yn cynnwys llyfrgelloedd, ysgolion, meddygfeydd teulu ac ysbytai), o fewn ardaloedd trefol sydd eisoes yn bodoli neu mewn lleoliadau eraill sydd yn, neu y gellir eu cyrraedd yn hawdd drwy gerdded neu feicio, neu eu bod yn hawdd i’w cyrraedd ar gludiant cyhoeddus. Lle y bo’n bosibl, mae’r strategaeth yn ceisio lleoli datblygiad â dwysedd uwch yn agos at leoliadau cludiant cyhoeddus mawr neu gyfnewidfeydd lle mae gan yr isadeiledd cludiant y capasiti i ddelio â mwy o ddefnyddwyr ac sy’n cyd-fynd â chynnal iechyd, amwynderau a lles pobl. Sylw
Twf y gellir ei gyflawni a’i gynnal Sylw
4.4.8 Bydd y CDLlN yn gwneud darpariaeth ar gyfer y lefel ganlynol o dwf dros gyfnod y cynllun rhwng 2018 a 2033. Mae’r twf a gynigir ychydig uwch na senarios y mae LlC yn eu rhagweld. Serch hynny, mae’r twf a gynigir yn adlewyrchu newidiadau poblogaeth a thai (Papur Cefndir 1 Adroddiad Opsiynau Lefel Twf), rhagolygon cyflogaeth yn lleol a rhanbarthol, yn cynnwys goblygiadau Bargen Dwf Gogledd Cymru (Papur Cefndir 18 Adolygiad Tir Cyflogaeth) ac anghenion tai fforddiadwy (Papur Cefndir 09 Asesiad o Farchnad Dai Leol, Papur Cefndir 10 Astudiaeth Hyfywedd Tai Fforddiadwy, Papur Cefndir 11 Tai Fforddiadwy ar gyfer Anghenion Cymunedol Lleol), gan arwain at angen am y lefelau twf canlynol: Sylw
4,300 o gartrefi newydd a Sylw
1,500 o swyddi newydd Sylw
4.4.9 Mae’r fethodoleg ar gyfer y senario twf yma’n wahanol i’r fethodoleg rhagolygon traddodiadol a ddefnyddir i asesu opsiynau eraill. Caiff effeithiau ar y boblogaeth, aelwydydd ac anheddau eu cyfrifo gan ddefnyddio methodoleg adrifo am yn ôl sydd yn addasu cyfansoddion newid yn y boblogaeth (lefelau mudo ymysg y boblogaeth oedran gweithio a’u dibynyddion yn bennaf), i baru twf swyddi gyda lefelau twf yn y boblogaeth. Mae Papur Cefndir 01: Adroddiad Opsiynau Lefel Twf yn cynnwys rhagor o fanylion. Sylw
Twf a math o gartrefi Sylw
4.4.10 Mae lefel cyfannol o dai a thwf cyflogaeth yn cael ei hyrwyddo. Bydd y CDLlN yn gyfle i ddarparu 4,300 o gartrefi dros gyfnod y cynllun. Mae hyn gyfystyr a 290 o gartref bob blwyddyn o 2018 i 2033. Sylw
4.4.11 Mae’r strategaeth newydd yn sicrhau bod digon o gyfle yn bodoli i fanteisio ar ddarpariaeth fforddiadwy i gefnogi anghenion tai gwledig a threfol, tra’n darparu sylfaen gadarn i ddarparu tai'r farchnad agored y gellir eu cyflawni. Mae’n rhoi cyfle i gydbwyso demograffeg y Fwrdeistref Sirol drwy gadw oedolion ifanc sy’n mewnfudo, a lleihau cymudo allan, a mynd i’r afael â rhai o’r materion sy’n ymwneud â strwythur poblogaeth sy’n heneiddio. Sylw
Cartrefi a hyblygrwydd Sylw
4.4.12 Y gofyniad tai gwaelodlin ar gyfer ardal CDLlN Conwy yw 4,300, sydd hefyd yn adlewyrchu cyflenwad posibl allai gael ei ddarparu o fewn ardal Parc Cenedlaethol Eryri o’r Fwrdeistref Sirol (100 o gartrefi dros gyfnod y cynllun). Mae’r ffigur 4,300 yn cynnwys lwfans hyblygrwydd o 700 o anheddau. Mae LlC angen hyn i ganiatáu ar gyfer dewis, hyblygrwydd ac adnewyddu’r stoc bresennol ac ar gyfer pan na fydd unrhyw un yn cymryd safleoedd. Sylw
Tai fforddiadwy Sylw
4.4.13 Mae targed uchelgeisiol ond un y gellir ei gyflawni i ddarparu 1,780 o dai fforddiadwy wedi’i gynllunio ar gyfer hyd at 2033. Mae’r targed hwn yn benllanw cynnal asesiad o anghenion tai fforddiadwy y gymuned a llunio Asesiad o Hyfywedd Tai Fforddiadwy (Papur Cefndir 10). Gellir darparu rhagor o dai fforddiadwy drwy fecanweithiau polisi eraill a mentrau’r Cyngor sydd y tu allan i gwmpas y CDLlN. Sylw
4.4.14 Fe fydd y strategaeth yn ceisio sicrhau bod cartrefi newydd yn bodloni’r angen fforddiadwy a nodwyd yn lleol ar gyfer yr ardal honno. Mae’r Prosbectws Tai Lleol a’r CDLlN wedi cael eu halinio fel y gellir manteisio ar y tai fforddiadwy newydd a ddarperir i fodloni’r angen a nodwyd yn lleol, drwy’r system gynllunio. Sylw
Twf a mathau o swyddi Sylw
4.4.15 Trwy greu lleoedd cynaliadwy, cyfrannu at strwythur oedran mwy cytbwys a lleihau lefelau cymudo allan anghynaladwy, mae twf o 1,500 o swyddi’n cael ei gynllunio hyd at 2033, gan awgrymu angen am tua 14-20 hectar o dir cyflogaeth i ganiatáu ar gyfer swyddi newydd dros gyfnod y cynllun. Mae hyn yn adlewyrchu’r amcanion twf a chreu swyddi sy’n debygol o gael eu darparu ym Mwrdeistref Sirol Conwy drwy Fargen Dwf Gogledd Cymru. Bydd y strategaeth newydd yn cynllunio ar gyfer tir i ddelio â rhaniad o 65% ar gyfer defnydd B1c/B2/B8 a 35% ar gyfer defnydd B1a/b ar gyfer dyraniadau newydd. Sylw
Strategaeth dosbarthiad gofodol Sylw
4.4.16 Er mwyn sicrhau bod gweledigaeth ac amcanion y CDLlN yn cael eu darparu, mae’r strategaeth dosbarthiad gofodol yn arwain lleoliad twf a darpariaeth gwasanaethau ac isadeiledd tuag at y lleoedd mwyaf hygyrch a chynaliadwy sydd wedi’u nodi yn yr hierarchaeth aneddiadau. Ar ôl nodi a deall anghenion a chynaliadwyedd ardaloedd trefol a gwledig presennol a nodwyd yn yr hierarchaeth aneddiadau, mae’r strategaeth yn cynnig canolbwyntio 90% o dwf o fewn y CDSA a 10% o fewn y RDSA. Mae hyn yn cyd-fynd yn gyffredinol â rhaniad presennol y boblogaeth ym Mwrdeistref Sirol Conwy ac mae yna fanteision o ddarparu anghenion a chyfleoedd i gymunedau trefol a gwledig. Sylw
Ardal Strategaeth Datblygu’r Arfordir (CDSA) Sylw
4.4.17 Mae'r CDSA yn cynnig y cyfle gorau i leoli twf, diwallu anghenion cymunedau, hyrwyddo teithio llesol, cymunedau iachach, mynd i'r afael â newid hinsawdd ac yn y pen draw cydymffurfio ag egwyddorion creu lleoedd cynaliadwy a phrif gyfansoddion strategaeth. Mae’n cynnwys pedwar ardal strategol ar hyd y coridor arfordirol, sy’n cynnwys y prif aneddiadau trefol, y Prif Bentrefi Haen 1 a nifer o aneddiadau llai eraill o fewn yr hierarchaeth aneddiadau (gweler Error! Reference source not found.). Sylw
4.4.18 Er na fydd y Prif Bentrefi Haen 1 yn gallu delio â’r un lefel o dwf â’r aneddiadau trefol, maent wedi cael eu cynnwys yn sgil eu hygyrchedd a’r berthynas gydag ardaloedd trefol a llwybrau cludiant strategol. O ganlyniad, mae’r CDSA yn cyfeirio 90% o’r datblygiad newydd yn bennaf o fewn, neu ger aneddiadau trefol sydd wedi’u lleoli o fewn y pedwar is-ardal strategol i’r Gorllewin, Creuddyn, Canol, ac i raddau llai, i’r Dwyrain (gweler Ffigur 3). Mae'r lleoliadau yma’n hygyrch i brif wasanaethau, mae ganddynt gysylltiad agos ag ardaloedd cyflogaeth sydd eisoes yn bodoli, ac maent yn cael eu cefnogi gan rwydwaith ffordd, rheilffordd a chludiant cyhoeddus ardderchog, ac maent yn ffurfio prif ardaloedd sydd angen tai’r farchnad agored a thai fforddiadwy. Sylw
Ffynhonnell: SPPS,CBSC Sylw
4.4.19 Fe fydd angen cael dull cytbwys wedi’i addasu i ddosbarthu’r twf o fewn y pedwar is-ardal arfordirol er mwyn sicrhau bod y cyfyngiadau perygl llifogydd lefel uchel sy’n gysylltiedig â’r Dwyrain yn cael eu hystyried yn llawn. O ganlyniad fe fydd y twf na ellir delio ag o yn y Dwyrain yn cael ei ddosbarthu’n gyfatebol ar draws yr is-ardaloedd sy’n weddill gan mai’r rhain yw’r lleoliadau mwyaf cynaliadwy. Sylw
4.4.20 Er mwyn gallu delio â thwf, mae ffiniau aneddiadau a Lletemau Glas wedi cael eu hadolygu a’u diwygio. Ni chaniateir datblygiad y tu allan i ffiniau aneddiadau yn yr aneddiadau trefol a Phrif Bentrefi Haen 1 y CDSA, oni bai mewn amgylchiadau eithriadol i gefnogi newidiadau yn y galw am gyflogaeth (gweler polisi ED/3) ac i gynorthwyo Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig i ddod â safleoedd ar gyfer tai fforddiadwy ymlaen (gweler polisi HS/5). Sylw
Ardal Strategaeth Datblygu’r Arfordir (CDSA): Y Gorllewin Sylw
4.4.21 Mae’r is-ardal yma ar ben gorllewinol ardal y CDLlN, wedi’i wahanu’n gorfforol o ardal Creuddyn gan benrhyn Penmaenbach ac mae Parc Cenedlaethol Eryri ar ei ffin ddeheuol. Llanfairfechan a Phenmaenmawr ydi’r ddau anheddiad trefol yn yr ardal strategol yma ac yn gyffredinol maent yn hunangynhwysol ac mae ganddynt lefel dda o gyfleusterau a gwasanaethau (cyfeiriwch at Ffigur 4). Sylw
4.4.22 I adlewyrchu lefelau’r boblogaeth, gwasanaethau a chyfleusterau, hygyrchedd da a’r effeithiau sy’n gysylltiedig â’r dosbarthiad twf wedi’i addasu o’r Dwyrain, mae 10% o dwf tai (ar y farchnad agored a fforddiadwy) wedi’i gynllunio yn is-ardal y Gorllewin, yn cynnwys cyflawniadau, caniatâd, dyraniadau ar hap a newydd. Yn sgil topograffeg a’r tir sydd ar gael ym Mhenmaenmawr, fe fydd mwyafrif y cartrefi newydd yn cael eu lleoli yn Llanfairfechan, sydd â hygyrchedd ardderchog i’r rhwydwaith rheilffordd a ffordd strategol a’r aneddiadau trefol sy’n uwch i fyny’r hierarchaeth. Sylw
4.4.23 Yn seiliedig ar gasgliadau Adroddiad Dadansoddiad o’r Farchnad Fasnachol (Papur Cefndir 19), ni fydd dyraniadau cyflogaeth newydd yn cael eu lleoli yn is-ardal y Gorllewin. Mae yna broblemau efo capasiti yn ysgol gynradd Llanfairfechan ac mae wedi cael ei nodi fel maes blaenoriaeth yn Rhaglen Amlinellol Strategol 9 mlynedd Cymunedau Dysgu Cynaliadwy Gwasanaethau Addysg CBSC. Er mwyn sicrhau bod twf a thai newydd yn cael eu darparu, mae safle strategol defnydd cymysg newydd yn cael ei gynnig yn Llanfairfechan sy’n cynnwys 145 o gartrefi newydd, tai fforddiadwy, ysgol gynradd newydd a gofod hamdden. Bydd angen gwella’r ardal i gerddedwyr o’r ardaloedd preswyl a llwybrau teithio llesol i gefnogi cynaliadwyedd y safle ac ardal strategol (gweler polisi PL/17). Sylw
4.4.24 Mae Dwygyfylchi, sef Prif Bentref Haen 1, wedi’i leoli o fewn is-ardal y Gorllewin, fel y mae Pentrefan Capelulo. Maent wedi’u lleoli i’r dwyrain o aneddiadau trefol Llanfairfechan a Phenmaenmawr ac mae ganddynt fynediad da i’r aneddiadau trefol drwy’r rhwydwaith cludiant strategol a chludiant cyhoeddus. Bydd lefel y twf yn yr aneddiadau yma’n cyd-fynd â’r hierarchaeth aneddiadau ac yn adlewyrchu yr ystod bresennol o gyfleusterau a gwasanaethau a’r rhai sydd wedi’u cynllunio dros gyfnod y cynllun. Sylw
Ffynhonnell: SPPS,CBSC Sylw
Ardal Strategaeth Datblygu’r Arfordir (CDSA): Y Creuddyn Sylw
4.4.25 Llandudno, Cyffordd Llandudno, Deganwy a Chonwy ydi’r prif aneddiadau trefol yn yr ardal yma, ac mae ganddynt rôl ddiwylliannol, gymdeithasol ac economaidd bwysig yn ardal y cynllun. Maent wedi’u lleoli’n strategol ac mae ganddynt gysylltiadau ardderchog i’r rhwydwaith ffordd, rheilffordd a chludiant cyhoeddus. Dros gyfnod y cynllun, rhagwelir y bydd tua 30% o dwf tai (ar y farchnad agored a fforddiadwy) yn cael eu lleoli o fewn is-ardal Creuddyn, yn cynnwys cyflawniadau, caniatâd dyraniadau ar hap a newydd. Sylw
4.4.26 Er ei fod yn faes pwysig ar gyfer twf, mae argaeledd tir wedi’i gyfyngu yn sgil materion corfforol, hanesyddol ac amgylcheddol. Safleoedd dan sylw: Sylw
- Llanrhos rhwng aneddiadau trefol Deganwy, Cyffordd Llandudno a Llandudno, yn cynnwys 140 o gartrefi newydd (yn cynnwys tai fforddiadwy), rhandiroedd a gofod hamdden.
- Hen Ysgol Nant y Coed yng Nghyffordd Llandudno ar gyfer 50 o dai fforddiadwy newydd a gofod hamdden.
- Queen’s Road yn Llandudno ar gyfer 70 o gartrefi newydd(yn cynnwys tai fforddiadwy) a gofod hamdden.
- Tir ym Mryniau, Llandudno ar gyfer 3.85 hectar o dir cyflogaeth dosbarth B1.
4.4.27 Mae’r safleoedd yma wedi’u cefnogi gan hygyrchedd ardderchog i’r A470 a A55 a dulliau eraill i gyrraedd yr aneddiadau trefol sy’n uwch i fyny’r hierarchaeth. Bydd angen gwelliannau i gludiant cyhoeddus, teithio llesol ac isadeiledd gwyrdd. Sylw
4.4.28 Ni fydd yna fwy o siopau mawr nwyddau cymhariaeth neu nwyddau cyfleus yn dod i ganol tref Llandudno, ond bydd yn cael ei warchod, a lle y bo’n bosibl, yn cael ei wella er mwyn sicrhau cydbwysedd a chymysgedd o ddefnydd sy’n cynnal y gweithgarwch trwy gydol y dydd a’r nos. Bydd y cynnig twristiaeth a llety yn Llandudno yn cael ei warchod, ei wella a’i arallgyfeirio ymhellach tuag at dwristiaeth drwy gydol y flwyddyn. Bydd Llandudno yn cydnabod y newidiadau mewn arferion siopa, yn enwedig y cynnig cymhariaeth. Sylw
4.4.29 Mae Cyffordd Llandudno yn gweithredu fel canolbwynt economaidd pwysig yng nghanol gogledd Cymru, ac mae ganddo gysylltiadau ffordd, rheilffordd a chludiant cyhoeddus ardderchog. Bydd safleoedd cyflogaeth pwysig sydd eisoes yn bodoli (fel y dangosir ar fap y cynnig) yn cael eu diogelu. Sylw
4.4.30 Ychydig o dwf tai a chyflogaeth fydd yng Nghonwy yn bennaf oherwydd ei ansawdd amgylcheddol a hanesyddol. O fewn canol tref Conwy bydd dull cytbwys yn cael ei weithredu er mwyn sicrhau bod anghenion y gymuned yn cael eu bodloni, ond ar yr un pryd, bod yr asedau hanesyddol ac amgylcheddol yn cael eu gwarchod a’u gwella i gyfrannu’n gadarnhaol at dwristiaeth. Sylw
4.4.31 Bydd aneddiadau eraill o fewn is-ardal Creuddyn hefyd yn cefnogi rhyw lefel o dwf, sy’n gymesur â’u lefel o fewn yr hierarchaeth aneddiadau (Ffigur 5). Mae Glan Conwy, sef Prif Bentref Haen 1, wedi’i leoli yn ne is-ardal Creuddyn ar hyd yr A470. Mae wedi’i leoli i’r de o anheddiad trefol Cyffordd Llandudno, ac mae ganddo fynediad da i’r aneddiadau trefol drwy’r rhwydwaith cludiant strategol a chludiant cyhoeddus. Bydd lefel y twf yng Nglan Conwy yn adlewyrchu yr ystod bresennol o gyfleusterau a gwasanaethau a’r rhai sydd wedi’u cynllunio dros gyfnod y cynllun. Sylw
Ffynhonnell:SPPS,CBSC Sylw
Ardal Strategaeth Datblygu’r Arfordir (CDSA): Y Canol Sylw
4.4.32 Dros gyfnod y cynllun, rhagwelir y bydd tua 35% o dwf tai (ar y farchnad agored a fforddiadwy) yn cael eu lleoli o fewn yr is-ardal Ganolog, yn cynnwys cyflawniadau, caniatâd dyraniadau ar hap a newydd. Sylw
4.4.33 Mae Bae Colwyn yn gwasanaethu anghenion manwerthu ac economaidd y dalgylch ac mae’n parhau i fwynhau buddsoddiad sylweddol a gwelliant i ganol y dref a’r traeth. Mae wedi’i leoli ar hyd y rhwydwaith rheilffordd a ffordd strategol ac mae yna ddigon o gludiant cyhoeddus a dulliau eraill o gludiant. I barhau â’r buddsoddiad, bydd yr ardal yn cael ei adnewyddu ymhellach dros gyfnod y cynllun. Sylw
4.4.34 Dyrannu safle preswyl i’r de o Hen Golwyn yn cynnwys 300 o gartrefi newydd (250 yn ystod cyfnod y CDLlN) a gofod hamdden. Bydd y safle’n cael ei gefnogi drwy wella’r briffordd, cludiant cyhoeddus a chysylltiadau teithio llesol. Os bydd angen cynyddu capasiti ysgolion cynradd lleol yn sgil y safle yma a/neu newid yn y boblogaeth, mae tir wedi cael ei ddiogelu ger Ysgol Sŵn y Don i ganiatáu ar gyfer estyniad newydd. Mae’r feddygfa leol, Cadwgan, yn llawn i’r eithaf ac nid oes lle i ddatblygu nac ymestyn yr adeilad presennol. Mae CBSC a BIPBC wedi cytuno ar Ddatganiad Tir Cyffredin sy’n cynnwys nifer o fesurau lliniaru i helpu i ddelio ag unrhyw gleifion ychwanegol y bydd y datblygiad yma’n ei greu. Ceisir swm gohiriedig gan ddatblygiadau preswyl newydd yn ardal Hen Golwyn helpu i hwyluso mesurau o’r fath (yn amodol ar dystiolaeth a hyfywedd ariannol). Sylw
4.4.35 Mae ail safle wedi’i glustnodi yn yr ardal yma yn hen swyddfeydd y llywodraeth oddi ar Dinerth Road, Llandrillo-yn-Rhos. Fe fydd y safle’n darparu 50 o gartrefi fforddiadwy newydd a gofod hamdden. Sylw
4.4.36 Mae Llysfaen, sef Prif Bentref Haen 2, wedi’i lleoli o fewn y CDSA yn sgil ei berthynas â Hen Golwyn. O ran tir at ddefnydd economaidd, yn sgil lefel uchel o hygyrchedd strategol, argaeledd tir a chapasiti priffyrdd, mae tir wedi cael ei glustnodi yn Chwarel Llanddulas at ddefnydd cyflogaeth (mae rhywfaint ohono o fewn ffin Llysfaen, ac mae’r gweddill ohono o fewn ardal Llanddulas). Cyfanswm maint y safle ydi 12.65 hectar ac mae wedi’i glustnodi ar gyfer cymysgedd o ddefnydd cyflogaeth Dosbarth B. Mae Pentrefan Bryn y Maen yn agos at Fae Colwyn Uchaf, serch hynny, mae cynaliadwyedd yr anheddiad yma wedi’i gyfyngu gan gysylltiadau strategol i’r prif ffyrdd a rhwydwaith cludiant cyhoeddus. Bydd agwedd y polisi i’r aneddiadau yma dros gyfnod y cynllun yn cael ei ddylanwadu gan eu safle yn yr hierarchaeth aneddiadau, a bydd lefel y twf yn adlewyrchu anghenion lleol a’r ystod bresennol o gyfleusterau a gwasanaethau y maent yn eu cynnig. Sylw
Ffynhonnell:SPPS,CBSC Sylw
Ardal Strategaeth Datblygu’r Arfordir (CDSA): Y Dwyrain Sylw
4.4.37 Mae is-ardal y Dwyrain yn cynnwys aneddiadau trefol Abergele, Pensarn, Towyn a Bae Cinmel a Phrif Bentref Haen 1 Llanddulas fel y prif leoliadau preswyl ac economaidd. Mae’r ardal yn gwasanaethu anghenion gwasanaeth hanfodol y dalgylch, yn cynnwys ardal weledig ehangach. Sylw
4.4.38 Mae Abergele wedi gweld lefelau uchel o dai a thwf cyflogaeth dros y blynyddoedd diwethaf, ac yn ei dro mae hyn wedi rhoi straen sylweddol ar gapasiti traffig yng nghanol y dref. Bydd datblygiad yn Abergele wedi’i gyfyngu dros gyfnod y cynllun ac nid oes safleoedd newydd wedi’u clustnodi. Bydd ffocws ar adfywio ardaloedd Abergele a Phensarn wedi’u cefnogi gan ymyriadau newydd yng nghanol y dref. Sylw
4.4.39 Mae is-ardal y Dwyrain hefyd yn cynnwys aneddiadau trefol Pensarn, Towyn a Bae Cinmel. Mae yna gyfyngiadau mawr ar yr ardaloedd yma yn sgil perygl llifogydd gan olygu mai ychydig o gyfleoedd sydd yna i allu delio â thwf tai a chyflogaeth dros gyfnod y cynllun. Mae yna amddifadedd yn yr ardal yma, ac mae cyfleoedd i ddarparu anghenion y gymuned yn gyfyngedig. Mae’r ardal yn destun gwelliannau i’r amddiffynfeydd rhag llifogydd er mai dim ond i gynnal yr amddiffyniad mae hyn yn hytrach na helpu gyda chyfleoedd am dwf. Mae’r cyfyngiadau yma a diffyg cyfle i ddatblygu yn cael ei gydnabod yn strategaeth CDLlN drwy hybu Ardal Wella Ddwyreiniol newydd. Sylw
4.4.40 O ganlyniad, dros gyfnod y cynllun, rhagwelir y bydd tua 15% o dwf tai (ar y farchnad agored a fforddiadwy) yn cael eu lleoli o fewn is-ardal y Dwyrain, yn cynnwys cyflawniadau, caniatâd, dyraniadau ar hap a newydd. Ni fydd dyraniadau tai newydd yn cael eu clustnodi yn yr ardaloedd yma. Sylw
4.4.41 Mae Llanddulas, Prif Bentref Haen 1, wedi’i lleoli ar hyd y rhwydwaith ffordd a chludiant cyhoeddus strategol, ac mae Abergele i’r dwyrain a Bae Colwyn i’r gorllewin. Bydd lefel y twf yn cael ei gefnogi drwy’r CDLlN a bydd yn adlewyrchu yr ystod bresennol o gyfleusterau a gwasanaethau a’r rhai sydd wedi’u cynllunio dros gyfnod y cynllun. O ganlyniad i lefel uchel o hygyrchedd strategol, argaeledd tir a chapasiti priffyrdd, mae rhan o’r tir sydd wedi cael ei glustnodi yn Chwarel Llanddulas at ddefnydd cyflogaeth o fewn ardal Llanddulas. (Mae’r gweddill o fewn ffin Llysfaen). Cyfanswm maint y safle ydi 12.65 hectar ac mae wedi’i glustnodi ar gyfer cymysgedd o ddefnydd cyflogaeth Dosbarth B. Mae hyn yn sgil lefel uchel o hygyrchedd strategol, argaeledd tir a chapasiti prif ffyrdd. Sylw
4.4.42 Bydd yr angen am dwf na ellir delio ag o yn y Dwyrain yn cael ei rannu drwy’r aneddiadau trefol cynaliadwy sy’n weddill o fewn y CDSA. Sylw
Ffynhonnell:SPPS,CBSC Sylw
Ardal Strategaeth Datblygu Gwledig (RDSA) Sylw
4.4.43 Ar gyfer y rhan fwyaf o ardaloedd gwledig yn RDSA Conwy, mae'r cyfleoedd i leihau'r defnydd o geir a chynyddu cerdded, beicio a defnyddio cludiant cyhoeddus yn fwy cyfyngedig nag yn CDSA. Felly, bydd aneddiadau mewn ardaloedd gwledig yn canolbwyntio ar dwf ac arallgyfeirio lleol yn dibynnu ar eu cynaliadwyedd a’u safle yn yr hierarchaeth aneddiadau. Mae Llanrwst wedi’i diffinio fel Canolfan Wasanaethau Allweddol sy’n gwasanaethu llawer o gefn gwlad ardal CDLlN Conwy, a dyma lle y bydd datblygiad cyflogaeth a thwf yn cael ei ganolbwyntio yn yr ardaloedd gwledig. Sylw
4.4.44 Bydd economi wledig gref yn cael ei hybu er mwyn cefnogi cymunedau gwledig cynaliadwy a ffyniannus. Mae sefydlu mentrau newydd ac ehangu busnesau newydd yn hanfodol o ran twf a sefydlogrwydd ardaloedd gwledig, gyda chefnogaeth y tai gofynnol a’r isadeiledd cymunedol angenrheidiol. Sylw
4.4.45 Mae’r strategaeth newydd yn canolbwyntio 10% o dwf tai ar aneddiadau gwledig sydd â hygyrchedd cymharol dda drwy ddulliau heblaw mewn car, o’i gymharu â’r ardal weledig yn gyffredinol. Bydd 10% o gyflogaeth hefyd yn cael ei leoli yn y RDSA. Sylw
4.4.46 Mae mwyafrif y twf gwledig wedi’i leoli yn Llanrwst, sef anheddiad sy'n cefnogi'r cymunedau gwledig ehangach o ran cyflogaeth, manwerthu a gwasanaethau a chyfleusterau cymunedol. Llanrwst ydi’r anheddiad mwyaf a mwyaf cynaliadwy yn yr RDSA, mae wedi’i leoli tua 13 milltir o aneddiadau trefol Cyffordd Llandudno a Chonwy. Caiff ei wasanaethu’n bennaf gan brif ffordd yr A470, ac mae’r A548 a B5106 hefyd yn darparu cysylltiadau ffordd lleol, tra bod rheilffordd Dyffryn Conwy yn cysylltu â rhwydwaith rheilffordd strategol yr arfordir. Er mwyn annog datblygiad mewn lleoliadau cynaliadwy mae safle a glustnodwyd yn Llanrwst yn cael ei gynnig sy’n cynnwys 100 o gartrefi newydd (ar y farchnad agored a fforddiadwy) a gofod hamdden ar hyd yr A470. Bydd tir cyflogaeth gwag yn Safle Diwydiannol Tŷ Gwyn hefyd yn cael ei ddiogelu ar gyfer datblygiad yn y dyfodol. Sylw
4.4.47 Mae ffin anheddiad Llanrwst a’r Lletemau Glas wedi cael eu hadolygu. Bydd datblygiad y tu allan, ond ar ymylon ffin anheddiad Llanrwst yn cael ei ganiatáu, mewn amgylchiadau eithriadol i gefnogi newidiadau mewn galw am gyflogaeth ac i ddarparu safleoedd tai fforddiadwy, lle nad oes yna unrhyw effeithiau annerbyniol. Sylw
4.4.48 Mae mwyafrif y Prif Bentrefi Haen 2, Pentrefi Bach a Phentrefannau hefyd wedi'u lleoli yn yr RDSA (Ffigur 8), ac mae lefelau twf cyflogaeth a thai yn y cymunedau yma’n gysylltiedig â’u hanghenion am ddatblygiad economaidd a phreswyl, yn seiliedig ar hierarchaeth aneddiadau. Sylw
Ffynhonnell: SPPS, CBSC Sylw
Ffigur 9: hierarchaeth aneddiadau CDSA Sylw
|
Hierarchaeth Aneddiadau |
Y Gorllewin |
Y Creuddyn |
Y Canol |
Y Dwyrain |
|
Trefol |
Llanfairfechan, Penmaenmawr |
Conwy, Cyffordd Llandudno, Deganwy / Llanrhos, Llandudno, Bae Penrhyn / Ochr y Penrhyn |
Llandrillo-yn-rhos, Mochdre, Bae Colwyn, Hen Golwyn |
Abergele/ Pensarn, Towyn, Bae Cinmel |
|
Prif Bentrefi Haen 1 |
Dwygyfylchi* |
Glan Conwy |
Amherthnasol |
Llanddulas |
|
Prif Bentrefi Haen 2 |
Amherthnasol |
Amherthnasol |
Llysfaen |
Amherthnasol |
|
Mân Bentrefi |
Amherthnasol |
Bryn Pydew, Glanwydden, Pentrefelin |
Amherthnasol |
Rhyd y Foel, Llansan Siôr |
|
Pentrefannau |
Capelulo* |
Amherthnasol |
Bryn y Maen |
Bodtegwel |
* Aneddiadau sydd o fewn Parc Cenedlaethol Eryri yn rhannol. Ffynhonnell: SPPS, CBSC Sylw
Ffigur 10: tabl yn dangos hierarchaeth aneddiadau RDSA Sylw
|
Hierarchaeth Aneddiadau |
Ardal Strategaeth Datblygu Gwledig (RDSA) |
|
Canolfan Gwasanaeth Allweddol |
Llanrwst |
|
Prif Bentrefi Haen 2 |
Betws yn Rhos, Cerrigydrudion, Dolgarrog*, Eglwysbach, Llanfair TH, Llangernyw, Llansannan, Trefriw*, Tal y Bont*/Castell |
|
Mân Bentrefi |
Groes, Henryd, Llanbedr y Cennin*, Llanddoged, Llanelian, Llangwm, Llannefydd, Pentrefoelas, Tal y Cafn, Tyn y Groes |
|
Pentrefannau |
Bryn Rhyd-yr-Arian, Brymbo, Bylchau, Cefn Berain, Cefn Brith, Dinmael, Glasfryn, Groesffordd, Gwytherin, Hendre, Llanfihangel GM, Maerdy, Melin y Coed, Nebo*, Pandy Tudur, Pentre Isa, Pentre Llyn Cymmer, Pentre Tafarn y Fedw, Rhydlydan, Tan y Fron |
* Aneddiadau sydd o fewn Parc Cenedlaethol Eryri yn rhannol. Ffynhonnell: SPPS, CBSC Sylw
Hierarchaeth Aneddiadau: aneddiadau trefol a’r Ganolfan Wasanaethau Allweddol Sylw
4.4.49 Yr aneddiadau trefol yn y CDSA a Llanrwst yn y RDSA ydi’r prif ffocws ar gyfer datblygiad preswyl ac economaidd dros gyfnod y cynllun, a bydd yn parhau i fod yn brif ffocws. Dyma’r aneddiadau mwyaf gyda phoblogaeth o leiaf 3,000, a’r aneddiadau yma sydd â’r cysylltiadau cludiant, cyfleusterau a gwasanaethau gorau i fodloni anghenion eu preswylwyr. Sylw
4.4.50 Bydd datblygiadau economaidd presennol ac arfaethedig yn yr aneddiadau yma sy’n cefnogi swyddi lleol yn cael eu cefnogi. Mae safleoedd wedi’u nodi yn Llanfairfechan, Llanrhos, Cyffordd Llandudno, Llandudno, Hen Golwyn, Llandrillo-yn-Rhos a Llanrwst sydd yn bodloni’r angen am ystod o ddarpariaeth cyflogaeth, preswyl, rhandiroedd, addysg a gofod hamdden. Er mwyn darparu cyfleoedd i ddarparu mwy o dai fforddiadwy ar gyfer angen lleol, bydd datblygiadau ar gyfer 100% o dai fforddiadwy yn cael eu caniatáu ar safleoedd addas y tu allan, ond yn gyfagos ag aneddiadau trefol a’r Ganolfan Wasanaethau Allweddol. Sylw
Hierarchaeth Aneddiadau: Prif Bentrefi Haen 1 Sylw
4.4.51 Mae’r CDLlN yn nodi tri Phrif Bentref Haen 1, sydd yn llai eu maint a gyda llai o wasanaethau a chyfleusterau lleol na’r aneddiadau trefol, felly bydd lefel o dwf sy’n cael ei gefnogi dros gyfnod y cynllun yn gymesur is yn gyffredinol. Wedi dweud hynny, mae Prif Bentrefi Haen 1 wedi'u lleoli mewn lleoliadau cynaliadwy iawn gyda mynediad da at gysylltiadau cludiant a’r aneddiadau trefol, felly fe fydd rhai safleoedd datblygu yn cael eu caniatáu yn y lleoliadau hyn yn unol â’r Fframwaith Polisi Creu Lleoedd. Sylw
4.4.52 Nid oes yna ddyraniadau o fewn Prif Bentrefi Haen 1. Fe fydd y polisi yn canolbwyntio ar ddarparu 50% o dai fforddiadwy ar safleoedd o fewn ffiniau anheddiad Prif Bentrefi Haen 1. Efallai y bydd lefelau is o fewn yr aneddiadau yn cael eu caniatáu ar safleoedd o’r fath, yn amodol ar angen yn y gymuned ac asesiad hyfywedd. Er mwyn darparu cyfleoedd i ddarparu mwy o dai fforddiadwy, fe ganiateir i ddatblygiadau ar safleoedd addas y tu allan, ond yn gyfagos â Phrif Bentrefi Haen 1, yn amodol ar isafswm darpariaeth o 100% o dai fforddiadwy. Sylw
Hierarchaeth Aneddiadau: Prif Bentrefi Haen 2 Sylw
4.4.53 Mae’n hollbwysig bod Prif Bentrefi Haen 2 yn gallu cynnal eu hunain er mwyn creu lleoedd cynaliadwy. Yn bennaf mae’r aneddiadau yma’n gwasanaethu eu cymuned leol ac felly bydd twf lleol ac arallgyfeirio yn cael ei hybu i gadw hunaniaeth gymunedol, gwarchod y Gymraeg ac annog strwythur oedran mwy cytbwys. Sylw
4.4.54 Ni fydd tir yn cael ei glustnodi ar gyfer datblygiad newydd yn y Prif Bentrefi Haen 2. Fel arall, caiff dull hyblyg ei hybu o fewn ffiniau’r anheddiad. Bydd mentrau newydd a busnesau sy’n tyfu hefyd yn cael eu cefnogi. Bydd ymagwedd adeiladol tuag at gynigion datblygu amaethyddol yn cael ei fabwysiadu, yn enwedig y rhai a gynlluniwyd i ddiwallu anghenion mewn perthynas ag arferion ffermio sy’n newid, neu sy’n angenrheidiol i sicrhau cydymffurfiaeth â deddfwriaeth amgylcheddol, hylendid neu les newydd. Bydd ymagwedd gadarnhaol at drosi adeiladau gwledig i’w hailddefnyddio at ddibenion busnes, yn ogystal â dull cadarnhaol o ran prosiectau arallgyfeirio mewn ardaloedd gwledig yn cael eu mabwysiadu. Sylw
4.4.55 Gan gydnabod darpariaeth tai yn y gorffennol yn yr aneddiadau gwledig yma, bydd rhagor o hyblygrwydd yn cael ei ddefnyddio. Caniateir tai’r farchnad agored a thai fforddiadwy o fewn ffiniau aneddiadau ar safleoedd ar hap. Ar y cyfan, bydd cynlluniau o’r fath yn llai nag aneddiadau yn uwch ar yr hierarchaeth er mwyn amddiffyn yr amgylchedd naturiol a chymeriad yr anheddiad. Gellir caniatáu safleoedd eithriadau tai fforddiadwy a chyfleoedd cyflogaeth y tu allan, ond yn gyfagos â ffiniau anheddiad ar raddfa sy’n briodol i swyddogaeth yr anheddiad a lle nad oes yna unrhyw effeithiau annerbyniol. Sylw
Hierarchaeth Aneddiadau: Mân Bentrefi Sylw
4.4.56 Mae Pentrefi Bach yn profi’r un problemau â chymunedau gwledig eraill ond maent yn fwy hunangynhwysol na Phrif Bentrefi Haen 2. Y flaenoriaeth i’r Pentrefi Bach yw gwella hyfywedd, amddiffyn hunaniaeth y gymuned a chreu strwythur oedran mwy cytbwys. Mae’r aneddiadau yma’n gwasanaethu eu poblogaeth leol yn dda ond mae ganddynt lai o wasanaethau a chyfleusterau cymunedol na’r aneddiadau gwledig eraill yn uwch i fyny’r hierarchaeth, ac felly dylid eu gwarchod a’u hybu. Sylw
4.4.57 Nid oes unrhyw ffiniau aneddiadau ar gyfer Pentrefi Bach ac ni wnaed unrhyw ddyraniadau safle. Fel arall, bydd lefel briodol o ddatblygiad yn cael ei gefnogi i fodloni twf lleol ac arallgyfeirio. Fe ganiateir sefydlu mentrau newydd ac ehangu busnesau newydd gyda chefnogaeth y tai gofynnol a’r isadeiledd cymunedol angenrheidiol sy’n briodol i gymeriad yr anheddiad.Fe fydd datblygiad ar lefel is na’r hyn a ganiateir mewn aneddiadau gwledig sy’n uwch i fyny’r hierarchaeth. Sylw
4.4.58 Bydd ymagwedd adeiladol tuag at gynigion datblygu amaethyddol yn cael ei fabwysiadu, yn enwedig y rhai a gynlluniwyd i ddiwallu anghenion mewn perthynas ag arferion ffermio sy’n newid. Bydd trosi adeiladau gwledig i’w hailddefnyddio at ddibenion busnes, yn ogystal â dull cadarnhaol o ran prosiectau arallgyfeirio mewn Pentrefi Bach yn cael eu mabwysiadu. Sylw
4.4.59 Bydd mwy o hyblygrwydd yn cael ei ddefnyddio i ddatblygu tai i fodloni anghenion dros gyfnod y cynllun. Fe ganiateir tai’r farchnad agored a thai fforddiadwy o fewn cyfyngiadau’r aneddiadau ar safleoedd ar hap, lle mae’n cynrychioli mewnlenwi neu derfynu safle. Ar y cyfan bydd cynlluniau o’r fath yn llai nag aneddiadau gwledig yn uwch ar yr hierarchaeth er mwyn amddiffyn yr amgylchedd naturiol a chymeriad yr ardal leol. Gellir caniatáu safleoedd eithriadau tai fforddiadwy a chyfleoedd cyflogaeth ar safleoedd sydd gyfagos ag aneddiadau ar raddfa sy’n briodol i swyddogaeth yr anheddiad a lle nad oes yna unrhyw effeithiau annerbyniol. Sylw
Hierarchaeth Aneddiadau: Pentrefannau Sylw
4.4.60 Pentrefannau ydi’r haen isaf o aneddiadau a nodir yn CDLlN Conwy, ac maent fel arfer yn cynnwys clystyrau bychan iawn o tua 20-50 o dai. Mae cyfleusterau lleol a chyfleusterau cludiant cyhoeddus yn wael ar y cyfan, gan wneud y rhain yn lleoliadau llai cynaliadwy ar gyfer datblygiad cyflogaeth neu breswyl newydd. Wedi dweud hynny, gan gydnabod bod dal angen am dai newydd mewn cymunedau gwledig iawn, fe ganiateir datblygiad preswyl cyfyngedig, wedi’i arwain gan alw lleol. Sylw
4.4.61 Nid oes yna ffiniau anheddiad mewn Pentrefannau, ond ar safleoedd addas o fewn yr anheddiad, sy’n mewnlenwi neu derfynu safle, fe ganiateir elfen o dai'r farchnad agored i gefnogi darparu tai fforddiadwy. Dim ond mewn amgylchiadau eithriadol y caniateir i aneddiadau ymestyn, ar safleoedd sy’n gyfagos i’r Pentrefan presennol er mwyn darparu 100% o dai fforddiadwy, yn amodol ar gydymffurfiaeth â pholisïau eraill. Sylw
Hierarchaeth Anheddiad: Cefn Gwlad Agored Sylw
4.4.62 Mae cefn gwlad agored, y tu allan i unrhyw aneddiadau cydnabyddedig, yn adnodd deinamig amlbwrpas ac mae’n rhaid ei gadw, a lle y bo’n bosibl, ei wella ers lles ei werth ecolegol, daearegol, ffisiograffeg, hanesyddol, archeolegol, diwylliannol ac amaethyddol ac am ei dirwedd ac adnoddau naturiol. Mae Lletemau Glas ac Ardaloedd Tirwedd Arbennig wedi’u diffinio i warchod yr ardaloedd hynny sydd yn gwneud cyfraniad eithriadol i asedau’r dirwedd. Bydd yr angen i warchod y priodoleddau hyn yn cael ei gydbwyso yn erbyn anghenion economaidd, cymdeithasol a hamdden cymunedau lleol ac ymwelwyr. Er y dylid diogelu cefn gwlad agored lle bo’n bosibl, dylid cefnogi ehangu busnesau sydd eisoes wedi’u lleoli mewn cefn gwlad agored, cyn belled â nad oes unrhyw effeithiau annerbyniol. Sylw
Creu lleoedd cynaliadwy a lles gwell Sylw
4.4.63 Lleoedd cynaliadwy a lles gwell ydi blaenoriaeth CDLlN Conwy. Wrth gynllunio ar gyfer lleoedd cynaliadwy, mae’r strategaeth yma’n croesawu egwyddorion datblygu cynaliadwy a’r cysyniad o greu lleoedd. Dylai pob penderfyniad am ddatblygiad o fewn Awdurdod Cynllunio Lleol Conwy geisio cyfrannu tuag at wneud lleoedd cynaliadwy a lles gwell, yn unol â’r Fframwaith Gofodol a’r Fframwaith Polisi Creu Lleoedd. Dylai’r CDLlN gyfarwyddo datblygiad i greu lleoedd cynaliadwy, sy’n ddeniadol, cymdeithasol, hygyrch, actif, diogel, croesawgar, iach a chyfeillgar. Bydd gweithredu fel hyn yn sicrhau bod y CDLlN yn sefydlu ysbryd Deddf Lles Cenedlaethau’r Dyfodol ac yn ceisio cymryd camau cadarnhaol i greu lleoedd cynaliadwy a gwella lles economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol, diwylliannol ac ieithyddol cymunedau. Sylw
Prif gyfansoddion strategaeth ofodol Sylw
4.4.64 Mae’r strategaeth ofodol newydd wedi cael ei llunio ar ôl cael ei hystyried yn erbyn nifer o brif gyfansoddion strategaeth sydd yn seiliedig ar y Papurau Cefndir, y materion a nodwyd a’r amcanion arfaethedig. Mae nifer o brif gyfansoddion strategol wedi dylanwadau ar y strategaeth yma er mwyn sicrhau ei fod yn iawn ar gyfer CDLlN Conwy: Sylw
Ffigur11: tabl yn dangos prif gyfansoddion strategaeth Sylw
|
Prif gyfansoddion strategaeth |
Wedi’i ystyried yn y strategaeth |
|
Wedi ystyried strategaethau, cynlluniau, polisïau a thystiolaeth genedlaethol, rhanbarthol a lleol. |
Ydi |
|
Wedi ystyried Deddf Lles Cenedlaethau’r Dyfodol, 5 egwyddor cynllunio a chanlyniadau cynaliadwy. |
Ydi |
|
Ceisio creu lleoedd cynaliadwy a chroesawu creu lleoedd cynaliadwy. |
Ydi |
|
Yn hyrwyddo lleoedd iach, cydraddoldeb a lles yng Nghonwy. |
Ydi |
|
Yn hyrwyddo strwythur oedran mwy cytbwys ac yn ceisio lleihau cymudo allan trwy gyflenwi ac amddiffyn y lefel cywir o gartrefi, swyddi a chyfleusterau cymunedol i gefnogi cadw a dychwelyd y boblogaeth iau sydd yn fwy gweithgar yn economaidd. |
Ydi |
|
Yn hyrwyddo strategaeth gyfannol ac yn galluogi ar gyfer cartrefi newydd a chyflogaeth i gael ei ddarparu yn unol â’r hierarchaeth aneddiadau i adlewyrchu cynaliadwyedd, hygyrchedd a rhinweddau swyddogaethol aneddiadau, gwasanaethau a chyfleusterau a’r gallu i ddelio â thwf. |
Ydi |
|
Yn cydnabod y lefel uchel o berygl llifogydd a chyfyngiadau priffyrdd yn Nwyrain y Fwrdeistref Sirol a’r angen i symud ymlaen â buddsoddi ac adfywio i hyrwyddo cymunedau gwydn. |
Ydi |
|
Yn cefnogi ac yn darparu ar gyfer isadeiledd cyfleustodau a chymunedol angenrheidiol i gefnogi twf. |
Ydi |
|
Yn geisio darparu 4,300 o gartrefi newydd a 1,760 o dai fforddiadwy wedi’u cefnogi gan yr isadeiledd cyfleustodau a chymunedol gofynnol. |
Ydi |
|
Yn ceisio cynyddu’r nifer o unedau tai llai, cyfleoedd ar gyfer byw wedi’i addasu a rhaniad priodol o dai fforddiadwy. |
Ydi |
|
Yn gallu cael ei gyflawni ac yn adlewyrchu ar gyfraddau adeiladu o’r gorffennol a chapasiti y diwydiant datblygu. |
Ydi |
|
Yn hyrwyddo mwy o hyblygrwydd mewn ardaloedd gwledig er mwyn adlewyrchu anhawster darparu cynlluniau tai ac yn y pendraw, darparu ar gyfer fframwaith sy’n amddiffyn hunaniaeth cymuned a chefnogi twf lleol. |
Ydi |
|
Yn darparu ar gyfer 1,500 o swyddi newydd i gyfrannu at dwf economaidd a chreu swyddi sy’n adlewyrchu Adolygiad Tir Cyflogaeth Conwy, Bargen Dwf Gogledd Cymru a chyflenwad isadeiledd, tra’n darparu hyblygrwydd am newidiadau mewn galw economaidd ar yr un pryd. |
Ydi |
|
Yn adlewyrchu Dadansoddiad o Farchnad Cyflogaeth Conwy o ran y lleoliad priodol ar gyfer twf cyflogaeth newydd. |
Ydi |
|
Yn cydnabod argaeledd cyfyngedig tir a ddatblygwyd eisoes, ond ar yr un pryd yn blaenoriaethu cyfleoedd tir a ddatblygwyd eisoes lle y bo’n addas, a lle y gellir eu cyflawni, cyn tir glas. |
Ydi |
|
Yn hyrwyddo lefel priodol o ddatblygiad mewn aneddiadau gwledig i fodloni twf lleol ac arallgyfeirio. |
Ydi |
|
Mewn ardaloedd gwledig, mae’n cadw rhinweddau sy’n cael eu cydbwyso yn erbyn anghenion economaidd, cymdeithasol, diwylliannol a hamdden cymunedau lleol ac ymwelwyr. |
Ydi |
|
Yn mabwysiadu ymagwedd adeiladol tuag at gynigion datblygu amaethyddol, yn enwedig y rhai a gynlluniwyd i ddiwallu anghenion mewn perthynas ag arferion ffermio sy’n newid, neu sy’n angenrheidiol i sicrhau cydymffurfiaeth â deddfwriaeth amgylcheddol, hylendid neu les newydd. Bydd ymagwedd gadarnhaol at drosi adeiladau gwledig i’w hailddefnyddio at ddibenion busnes, yn ogystal â dull cadarnhaol o ran prosiectau arallgyfeirio mewn ardaloedd gwledig yn cael eu mabwysiadu. |
Ydi |
|
Yn cyfrannu at ddarparu cyfleoedd adfywio ffisegol a chymdeithasol ac yn darparu ar gyfer ystod amrywiol a chydlynol o aneddiadau a chymunedau. |
Ydi |
|
Yn cydnabod gwerth iaith ac yn cynnwys polisïau i gefnogi twf, amddiffyn, hyrwyddo a gwella’r iaith Gymraeg. |
Ydi |
|
Yn gwella ansawdd dyluniad i greu lleoedd iach. |
Ydi |
|
Yn amddiffyn rhag blerdwf trefol a datblygu amhriodol drwy adolygu Lletemau Glas a defnyddio ffiniau anheddiad. |
Ydi |
|
Yn adnabod safleoedd y gellir eu cyflawni a dyraniadau safle sydd ar gael. |
Ydi |
|
Yn annog dulliau cynaliadwy eraill o gludiant i gynyddu cerdded, beicio a chludiant cyhoeddus, lleihau dibyniaeth ar y car ar gyfer teithio dyddiol a chyfrannu at leihau newid hinsawdd. |
Ydi |
|
Yn cefnogi llwyddiant parhaus twf twristiaeth presennol drwy annog datblygiad priodol sy’n ymwneud â thwristiaeth, sy’n cyd - fynd o ran natur a graddfa i’r amgylchedd lleol. |
Ydi |
|
Yn sicrhau bod twristiaeth gynaliadwy yn cael ei hybu sy’n ceisio hyrwyddo twristiaeth gydol y flwyddyn yn hytrach na thymhorol, ond ar yr un pryd yn sicrhau bod hunaniaeth y gymuned leol yn cael ei gwarchod. |
Ydi |
|
Yn cefnogi isadeiledd telathrebu mewn lleoliadau priodol ac yn nodi polisïau ar gyfer datblygu telathrebu, yn cynnwys polisïau sy’n seiliedig ar feini prawf i arwain datblygiad i leoliadau addas. |
Ydi |
|
Yn ceisio cefnogi cynigion ar gyfer isadeiledd band eang newydd neu welliannau i rwydweithiau neu gyfarpar presennol. |
Ydi |
|
Yn cydnabod manteision ynni adnewyddadwy a charbon isel yn rhan o’r ymrwymiad cyffredin i fynd i’r afael â newid hinsawdd a chynyddu diogelwch ynni |
Ydi |
|
Yn cefnogi ynni cynaliadwy adnewyddadwy, ynni isel a mynediad i’r grid o fewn datblygiadau. |
Ydi |
|
Yn ystyried ac yn cynllunio i amddiffyn a dyrannu anghenion mwynau dros gyfnod y cynllun. |
Ydi |
|
Yn hybu rheoli gwastraff cynaliadwy. |
Ydi |
|
Yn amddiffyn ac yn gwella rhinweddau cadwraeth naturiol, hanesyddol ac amgylchedd adeiladu yr ardal a’i dirweddau gwerth uchel. |
Ydi |
|
Yn sefydlu beth mae’r arfordir yn ei olygu’n lleol a llunio polisïau penodol, sy’n adlewyrchu rhinweddau’r arfordir. Trwy wneud hynny mae’n cydnabod y rhyngberthynas rhwng rhinweddau ffisegol, biolegol a defnydd tir yr ardaloedd arfordirol ac effeithiau newid hinsawdd. |
Ydi |
|
Yn amddiffyn ac yn gwella asedau a rhwydweithiau isadeiledd gwyrdd. |
Ydi |