CDLlN Cynllun i’w archwilio gan y cyhoedd 2018-2033

Yn dod i ben ar 8 Mawrth 2026 (46 diwrnod ar ôl)

6. Fframwaith monitro Sylw

6.1 Diben a gofyniad statudol Sylw

6.1.1 Mae'n ofynnol i'r Cyngor baratoi Adroddiad Monitro Blynyddol a'i gyflwyno i Lywodraeth Cymru erbyn 31 Hydref bob blwyddyn yn dilyn mabwysiadu’r Cynllun. Nodir hyn yn Adran 37 Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Cynllun Datblygu Lleol) (Cymru) 2005. Bydd yr Adroddiad Monitro Blynyddol yn asesu i ba raddau y mae’r polisiau yn y CDLlN yn cael eu cyflawni a bydd hefyd yn ymgorffori canlyniadau'r gwaith monitro SEA/SA. Mae Rheoliad 37 y CDLl yn mynnu bod yr Adroddiad Monitro Blynyddol yn nodi unrhyw bolisi na chaiff ei weithredu ac i roi’r rhesymau, ynghyd ag unrhyw gamau y mae’r awdurdod yn bwriadu eu cymryd i sicrhau gweithrediad y polisi ac unrhyw fwriad i ddiwygio’r Cynllun Datblygu Lleol Newydd drwy ddileu neu newid y polisi. Sylw

6.1.2 Ni ddylid ystyried paratoi unrhyw gynllun fel gweithgaredd unwaith ac am byth. Mae’n hanfodol gwirio bod y cynllun yn cael ei weithredu’n gywir, asesu’r canlyniadau, a sicrhau bod y rhain yn parhau i fod yn unol â’r bwriad a’r hyn a ddymunir ar hyn o bryd. Felly mae monitro yn elfen bwysig o broses y cynllun datblygu, gan ddarparu sail ar gyfer adolygu’r cynllun, a pharatoi addasiadau ble fo angen. Sylw

6.1.3 Dylai paratoi’r fframwaith monitro fod yn ystyriaeth barhaus gan ddechrau o gamau cynnar paratoi’r cynllun. Mae cael fframwaith monitro effeithiol yn un o brofion cadernid a ystyrir gan yr Arolygydd yn ystod cam Archwilio’r CDLlN. Ni fydd angen monitro pob polisi neu gynnig. Mae’r Llawlyfr Cynlluniau Datblygu yn nodi mai ond y rhai sy’n allweddol o ran cyflawni strategaeth ac amcanion y cynllun sydd angen eu monitro. Mae angen dangosyddion clir, cryno a mesuradwy i ddangos sut maent yn ymwneud â strategaeth y cynllun. Dylai targedau fod yn glir ac yn briodol. Dylai pwyntiau sbardun fod yn effeithiol. Sylw

6.2 Dangosyddion Monitro Sylw

6.2.1 Mae’r dangosyddion canlynol yn ofynnol gan Reoliad 37 y Cynllun Datblygu Lleol a Llawlyfr y Cynlluniau Datblygu: Sylw

  1. Dangosyddion cyd-destunol
  2. Dangosyddion craidd cenedlaethol
  3. Dangosyddion allbwn lleol
  4. Dangosyddion yr Asesiad Amgylcheddol Strategol/Arfarniad o Gynaliadwyedd

6.2.2 Y dangosyddion monitro fydd y prif faen prawf ar gyfer mesur gweithredu’r polisïau a dyraniadau. Bydd dangosyddion monitro hefyd yn cynnwys targed a phwynt sbarduno ar gyfer gweithredu. Sylw

6.2.3 Os yw pwyntiau sbarduno yn cael eu bodloni neu eu hysgogi, mae’n bwysig fod yr Awdurdod Cynllunio Lleol yn deall pam nad yw’r polisi neu’r cynnig yn cael ei weithredu fel y disgwyliwyd. Mae proses yr Adroddiad Monitro Blynyddol yn rhan allweddol o hyn a bydd yn awgrymu’r camau mwyaf priodol mewn ymateb. Mae Llawlyfr y Cynlluniau Datblygu yn darparu’r camau canlynol a awgrymir. Sylw

  • Parhauifonitro: Mae polisïau cynllun datblygu yn cael eu gweithredu’n effeithiol.
  • Yr hyfforddiant sydd ei angen: Nid yw polisïau cynllun datblygu yn cael eu gweithredu fel y bwriadwyd a bod angen hyfforddiant ar swyddogion neu Aelodau
  • Angen CCA: Nid yw polisïau cynllun datblygu yn cael eu gweithredu fel y bwriadwyd ac mae angen canllawiau pellach, ac o bosibl paratoi CCA ychwanegol.
  • Angen ymchwilio ymhellach: Nid yw polisïau’r cynllun datblygu yn cael eu gweithredu fel y bwriadwyd ac mae angen ymchwil a/neu archwiliad pellach.
  • Angen adolygiad polisi: Nid yw polisïau’r cynllun datblygu yn cael eu gweithredu ac nid ydynt yn cyflawni, fe allai fod angen adolygiad o’r polisi penodol.
  • Adolygiad cynllun: Nid yw polisïau’r cynllun datblygu yn cael eu gweithredu ac nid yw strategaeth y cynllun yn cael ei chyflawni, gan sbarduno adolygiad ffurfiol cyn yr adolygiad statudol bob 4 mlynedd.

6.3.4 Mae rhestr lawn o’r dangosyddion monitro wedi eu cynnwys yn atodiad 7. Sylw

Am gyfarwyddiadau ar sut i ddefnyddio’r system ac i wneud sylwadau, gwelwch ein canllaw cymorth.
back to top Yn ôl i’r brig