Papur 1: Materion Blaenoriaeth, Gweledigaeth ac Amcanion

Daeth i ben ar 25 Ionawr 2019
Am gyfarwyddiadau ar sut I ddefnyddio’r system ac I wneud sylwadau, gwelwch ein canllaw cymorth.

Gweledigaeth ar gyfer CDLl Newydd Conwy

4.1 Rhan gynnar o baratoi'r cynllun yw penderfynu a chytuno â'r Budd-ddeiliaid Allweddol ar y Weledigaeth a'r Amcanion y mae angen i'r CDLl roi sylw iddynt.Dylai'r CDLl Newydd fod yn seiliedig ar weledigaeth glir wedi'i chytuno gan y gymuned a budd-ddeiliaid eraill, yn nodi'n glir a chryno sut y mae lleoedd yn cael eu cynllunio i ddatblygu, newid neu gael eu gwarchod. Mae'r CDLl presennol yn cynnwys Gweledigaeth hirfaith, fodd bynnag teimlwn y dylai Gweledigaeth y CDLl Newydd fod yn fwy pwrpasol a chryno ac yn trosi'n ddi-dor i Amcanion, Strategaeth Ofodol, Polisïau, Dyraniadau Tir a Gwaith Monitro'r cynllun.

Y weledigaeth arfaethedig ar gyfer CDLl Newydd Conwy yw sicrhau:

Erbyn 2033, bydd Sir Conwy yn parhau fel ardal sy'n ffynnu yng Ngogledd Cymru gyda' economi gynaliadwy wedi'i 'adeiladu ar egwyddorion sydd yn hyrwyddo tyfiant ac yn uchafu cyfleon i bawb gan ddiogelu tirwedd â threftadaeth unigryw yr ardal ynghyd a'u 'asedau amgylcheddol ehangach. Bydd adnewyddu'r ffocws ar gynllunio lle ac adfywio yn sicrhau bod datblygiadau o safon uchel yn cefnogi creu llefydd iach â dirgrynol gyda thai, cyflogaeth â thyfiant isadeiledd yn gyfeiriol at leoliadau cynaliadwy sydd yn cwrdd ac anghenion preswylwyr, gweithwyr ac ymwelwyr. Drwy gwell mewnfuddsoddiad, darpariaeth isadeiledd ac amddiffyniad cryf o'r iaith Gymraeg, bydd Conwy yn dod yn beiriant twf i economi â diwylliant Gogledd Cymru. Mi fydd yn le cystadleuol, mwy cynwysedig, yn cynnig safon byw da i bawb, gyda gwell ansawdd amgylcheddol â llesiant ar gyfer y genhedlaeth hon ac i'r dyfodol. Golyga hyn y bydd gan Conwy rwydwaith o drefydd â phentrefydd llewyrchus ynghyd a economi wledig ddichonadwy sydd yn gwarchod ac yn gwella'r amgylchedd naturiol.
4.2 Cyflawni'r weledigaeth
Bydd y weledigaeth hon i Gonwy yn cael ei chyflawni gan holl ddeiliaid diddordeb ymglymedig a chynllunio drwy ddilyn y 5 ffordd o weithio (cynnwys, cydweithredu, atal, integreiddio, hirdymor, ) ac yn ymdrechu i drosglwyddo datblygiadau cynaliadwy. Bydd ffocws ymdrechion cynllunio lle ac adfywio ar drosglwyddo atebion yn seiliedig ar le ar gyfer cymdeithas, economi, amgylchedd â sialensiau diwylliannol sydd yn wynebu'r ardal. Felly bydd y weledigaeth yn cael ei gweithredi drwy fynd ir afael a'r amcanion a nodir yn yr adran nesa' gan hefyd weithredu polisi a chynigion cysylltiol.

4.3 Dengys y paragraffau canlynol pam y cynigiwn y Weledigaeth hon ar gyfer y CDLl Newydd.

4.4 Mae'r berthynas gyda Chynllun Lles Conwy a Sir Ddinbych (CCBC/DCC WP), a gynhyrchwyd gan Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Conwy a Sir Ddinbych, yn arbennig o bwysig.Dylai CDLl gyfrannu mynegiant defnydd tir y gyd-weledigaeth ar gyfer sut y bydd ardal yn newid.Dylai'r CDLl Newydd adnabod yr agweddau hynny ar y CCBC/DCC WP sydd angen eu mynegi'n ofodol.

4.5 Yn ogystal â'r CCBC/DCC WP, mae hefyd angen i'r Weledigaeth sydd mewn golwg ystyried nodau Deddf LlCD a Chynllun Gofodol Cymru (2008). Mae hefyd angen ystyried Bargen Twf y Gogledd a allai fod â goblygiadau o ran y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol sydd wrthi'n cael ei baratoi.

4.6 Mae'r manylion isod yn ystyried negeseuon allweddol y dogfennau hyn sydd yna'n cael eu trosi i Weledigaeth arfaethedig y CDLl Newydd.

4.7 Cynllun Lles Conwy a Sir Ddinbych 2018 - 2023
Mae CCBC/DCC WP hefyd wedi'i ategu gan saith nod llesiant Deddf LlCD, felly hefyd strwythur arfaethedig y CDLl Newydd. Sefydlwyd y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus i sicrhau bod gwasanaethau'n gweithio gyda'i gilydd i wella:
  • lles diwylliannol
  • lles economaidd
  • lles amgylcheddol
  • lles cymdeithasol
4.8 Yn benodol, mae'r CCBC/DCC WP eisiau i bawb "fwynhau lles da". Mae'n disgrifio'r heriau a wynebir gan gymunedau gyda ffocws ar dri maes blaenoriaeth:
  • Pobl - Cefnogi Lles Meddwl Da i bobl o bob oed
  • Cymuned - Cefnogi Grymuso Cymunedol
  • Lle - Cefnogi Gwydnwch Amgylcheddol
4.9 Yna mae'n adnabod pedair egwyddor sy'n cefnogi'r blaenoriaethau hyn:
  • Mynd i'r afael ag anghydraddoldeb a thrin pawb yn gyfartal
  • Cefnogi a hyrwyddo'r Iaith Gymraeg
  • Cefnogi pobl i gael mynediad at gartrefi iach, diogel a phriodol
  • Osgoi dyblygu gwaith.

4.10 Mae'r Cynllun yna'n adnabod nifer o feysydd i'w hystyried a allai gyfrannu'n gadarnhaol at y blaenoriaethau a'r egwyddorion hyn.

4.11 Neges allweddol i Weledigaeth y CDLl Newydd: Mae'r Weledigaeth arfaethedig yn ceisio creu lleoedd cynaliadwy, gyda phwyslais cryf ar leoedd mwy iach a hyrwyddo'r Gymraeg. Bydd strwythur arfaethedig y CDLl Newydd a themâu yn cael eu darparu drwy amrywiol feysydd pwnc fel tai, cyflogaeth, cyfleusterau cymunedol ac ati, sydd mewn sefyllfa dda i ddarparu elfennau defnydd tir a pholisi cynllunio'r CCBC/DCC WP. Er enghraifft, bydd y thema 'Cymdeithasol' yn ceisio hyrwyddo tir / polisi i ddarparu tai marchnad a thai fforddiadwy priodol, cyfleusterau cymunedol, ardaloedd hamdden, sydd i gyd yn bethau fydd yn cael effaith dda ar les. Mae Atodiad 2 i'r Papur hwn yn cyflwyno matrics sy'n asesu'r Weledigaeth arfaethedig yn erbyn elfennau gofodol a defnydd tir y CCBC/DCC WP. Dengys y matrics yn glir y bydd Gweledigaeth a Strwythur arfaethedig y CDLl Newydd mewn sefyllfa i gyfrannu'n gadarnhaol at CCBC/DCC/ WP dros gyfnod y CDLl Newydd sef 2018 - 2033.
4.12 Cynllun Gofodol Cymru a Bargen Twf y Gogledd
Cafodd Gynllun Gofodol Cymru (WSP) ei ddiweddaru yn 2008 ac er bod gwaith yn mynd rhagddo ar y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol (NDF) a Bargen Twf y Gogledd, sy'n debygol o ddod i rym dros y cyfnod o baratoi'r CDLl, mae'n parhau i fod yn gynllun cyfeiriol defnyddiol a pherthnasol ar gyfer cynllunio yn yr is-ranbarth ehangach. Mae Bargen Twf y Gogledd yn ennill momentwm sylweddol a gallai'r sbardunau economaidd a'r prosiectau strategol a hyrwyddir drwyddi fod â goblygiadau i'r fframwaith NDF yn y dyfodol (neu i'r Cynllun Datblygu Strategol os caiff ei baratoi) ac, felly, bydd angen iddi fod yn ffactor wrth ystyried materion ac opsiynau ar gyfer CDLl Newydd Conwy.
4.13 Cynllun Gofodol Cymru (WSP): Mae'r WSP (2008) yn cynnwys gweledigaeth gyffredinol ar gyfer Cymru gyfan ynghyd â gweledigaethau a strategaethau ar wahân ar gyfer pob un o chwe ardal y cynllun gofodol. Lleolir Conwy'n bennaf yn Ardal Strategol Gogledd Ddwyrain Cymru ac yn rhannol yn Ardal y Gogledd Orllewin. Mae'r prif ffocws ar yr aneddiadau a leolir yn fwyaf cynaliadwy ar hyd yr A55. Yn benodol, Prif Aneddiadau Cynradd Bae Colwyn, Llandudno, Cyffordd Llandudno a Chonwy, ac edrychir hefyd ar Brif Aneddiadau Llanrwst, Penmaenmawr a Llanfairfechan fel aneddiadau allweddol i wireddu'r weledigaeth ar gyfer yr ardal ofodol hon.
4.14 Neges allweddol i Weledigaeth y CDLl Newydd: Dylid rhoi ffocws allweddol ar ddarparu twf i leoliadau cynaliadwy sy'n cynnig hygyrchedd rhagorol. Nid yw'r WSP yn ystyried yr effaith ar aneddiadau eraill yn ardal y Cynllun, a bydd angen canolbwyntio ar rai ohonynt i ddarparu anghenion ac adfywio cymunedol a lleoedd cynaliadwy'n gyffredinol. I gyflawni'r negeseuon allweddol hyn, mae'r Weledigaeth sydd mewn golwg yn canolbwyntio ar Gonwy'n gyffredinol ac nid yn benodol ar yr ardaloedd yn WSP. Mae hefyd yn hyrwyddo lleoedd cynaliadwy a chreu lleoedd cynaliadwy.
4.15 Bargen Twf y Gogledd: Paratowyd Bargen Twf y Gogledd mewn partneriaeth â Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru ac mae'n ymwneud â Rhanbarth Gogledd Cymru i gyd. Bydd ffactorau economaidd y Fargen yn dylanwadu ar fframwaith y NDF a hefyd ar sut olwg a ffurf fydd ar y Fwrdeistref Sirol yn y blynyddoedd nesaf. Mae'n cynnwys y weledigaeth ganlynol:
'..yn rhanbarth hyderus a chydlynus gyda thwf economaidd cynaliadwy, sy'n manteisio ar lwyddiant sectorau economaidd o werth uchel a'n cysylltiad i economi Pwerdy'r Gogledd ac economi Iwerddon'.
4.16 Mae Gweledigaeth Twf y Gogledd yn seiliedig ar dair egwyddor, sef:
  • Y Gogledd Clyfar - arloesi mewn sectorau o werth uchel i wella perfformiad economaidd
  • Y Gogledd Cysylltiedig - gwella'r seilwaith trafnidiaeth a digidol i wella cysylltedd i'r rhanbarth ac oddi mewn iddo
  • Y Gogledd Gwydn - cadw ein pobl ifanc, codi lefelau cyflogaeth a gwella sgiliau i sicrhau twf cynhwysol

4.17 Mae'r Fargen Twf yn nodi y bydd y Weledigaeth yn cael ei darparu drwy gyfuno adnoddau mewn cynllunio trafnidiaeth strategol, datblygu economaidd, cyflogaeth a sgiliau a defnydd tir strategol i gefnogi cynllunio a darparu cydweithredol.Felly, dylid ystyried y pethau hyn wrth lunio Gweledigaeth, Amcanion a Strategaeth y CDLl Newydd.I oleuo'r CDLl Newydd, mae BP/18 'Adolygiad Tir Cyflogaeth Conwy' wedi asesu effaith Bargen Twf Gogledd Cymru o ran twf swyddi, polisïau a dyrannu tir.Mae hefyd wedi asesu goblygiadau Strategaeth Economaidd Conwy o ran opsiynau, polisïau a dyrannu tir ar gyfer twf swyddi.

4.18 Neges allweddol i Weledigaeth y CDLl Newydd: Neges sylfaenol y Weledigaeth yw y bydd lleoedd cynaliadwy, drwy broses gynhwysol o 'greu lleoedd', yn cael eu creu a'u gwella yng Nghonwy a bydd twf economaidd yn cael ei wireddu.Yn benodol, bydd y thema 'Economi' mewn sefyllfa dda i sicrhau bod yr amcanion, strategaeth, polisïau a'r dyraniadau tir yn cyfrannu'n gadarnhaol i dwf economaidd cynaliadwy, a bydd hynny yn ei dro'n cyfrannu at ddarparu Gogledd Cymru wydn. Bydd y dystiolaeth yn BP/18 yn sicrhau bod y lefelau twf a'r dosbarthiad gofodol yn y CDLl Newydd yn lleoli cyflogaeth mewn mannau hygyrch i gysylltu'n strategol i economi Pwerdy'r Gogledd ac economi Iwerddon.Bydd lleoliadau o'r fath o dan thema 'Economi' hefyd yn sicrhau bod gwelliannau trafnidiaeth a seilwaith digidol yn cael eu hyrwyddo. At ei gilydd, bydd y Weledigaeth arfaethedig mewn sefyllfa dda i weithredu'r Fargen Twf drwy broses gynhwysol o 'greu lleoedd' a ffocws ar hyrwyddo a gwneud y mwyaf o dwf.

4.19 I asesu'r Weledigaeth ymhellach yn erbyn y cynlluniau a'r strategaethau hanfodol, mae matrics asesu wedi'i gynhyrchu yn Atodiad 2.

(8) Cwestiwn 2: Ydych chi'n meddwl mai dyma'r Weledigaeth iawn ar gyfer CDLl Newydd Conwy?

(8) Cwestiwn 3: Ydych chi'n meddwl bod y Weledigaeth mewn sefyllfa dda i ddarparu Lleoedd Cynaliadwy yng Nghonwy?

Am gyfarwyddiadau ar sut I ddefnyddio’r system ac I wneud sylwadau, gwelwch ein canllaw cymorth.
back to top Yn ôl i’r brig