Papur 1: Materion Blaenoriaeth, Gweledigaeth ac Amcanion

Daeth i ben ar 25 Ionawr 2019

Atodiad 1 - Papurau Tystiolaeth Cefndir

7.1

Papur Cefndir

Pwrpas

PC1

Adroddiad Opsiynau Lefel Twf (Tai a Chyflogaeth)

Mae'r papur briffio hwn yn edrych ar yr amcanestyniadau poblogaeth ac aelwydydd cenedlaethol diweddaraf, gan nodi nifer o opsiynau twf. Mae'n eu cymharu ag amcanestyniadau'r gorffennol, edrych ar oblygiadau'r amcanestyniadau ar gyfer yr RLDP a darparu beirniadaeth o ddefnydd yr amcanestyniadau. Rhoi diweddariad er mwyn canfod Lefel Twf a Ffefrir.

PC2

Adroddiad Opsiynau Dosbarthiad Gofodol

Mae'r papur hwn yn nodi dosbarthiad gofodol cyffredinol datblygiad dros gyfnod y Cynllun. Mae'r papur hwn yn nodi'r opsiynau gofodol a ystyriwyd. Rhoi diweddariad er mwyn canfod Lefel Twf a Ffefrir.

PC3

Hierarchaeth Aneddiadau ac Aneddiadau a Rennir

Mae'r BP yn nodi'r opsiynau hierarchaeth aneddiadau presennol ar gyfer yr RLDP ar sail asesiad o gymeriad a chynaliadwyedd pob anheddiad. Mae'r Hierarchaeth Aneddiadau yn hanfodol wrth osod dosbarthiad gofodol twf. Rhoi diweddariad pan fydd y strategaeth anheddu a ffefrir yn hysbys.

PC4

Arfarniad Cynaliadwyedd ac Asesiad Amgylcheddol Strategol

Mae'r adroddiad Arfarniad Cynaliadwyedd llawn yn ddogfen gyhoeddus a'i bwrpas yw dangos sut caiff yr ystyriaethau cynaliadwyedd eu hintegreiddio i baratoi'r RLDP. Bwriedir i'r adroddiad Arfarniad Cynaliadwyedd ganiatáu i rai sy'n darllen yr adroddiad gael syniad o pa mor effeithiol allai'r RLDP fod o ran darparu datblygu mwy cynaliadwy a lle gallai effaith fwy andwyol fodoli. Lle caiff effaith negyddol bosibl ei nodi, bydd yr Arfarniad Cynaliadwyedd yn gwneud argymhellion o ran sut gellir addasu'r RLDP, neu roi rheolaethau ar ddatblygiad, er mwyn osgoi neu liniaru yn erbyn y rhain. Mae hyn yn rhan o broses lle caiff camau olynol o'r RLDP sy'n dod i'r amlwg eu harfarnu a lle caiff canfyddiadau eu bwydo i gam nesaf paratoi'r cynllun.

PC5

Arfarniad Rheoliadau'r Cynefinoedd

Mae chwe Safle Ewropeaidd yn Ardal y Cynllun a phump arall y tu allan i'r ardal a gallai'r RLDP gael effaith arnynt o bosibl. Mae'r safleoedd hyn yn naill ai ardaloedd cadwraeth arbennig (ACA) (am bwysigrwydd eu cynefinoedd) neu Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig (AGA) (am bwysigrwydd eu rhywogaethau adar). Yn ei hanfod, bydd angen arfarniad er mwyn asesu pob cam o'r RLDP ac a yw'n debygol o gael effaith sylweddol ar Safle Ewropeaidd ac os felly, bydd angen cynnal Asesiad Priodol. Ni ellir mabwysiadu'r RLDP oni bai y gellir canfod, drwy'r Asesiad Priodol, na fydd y cynllun yn cael effaith andwyol ar integriti'r safle(oedd).

PC6

Asesiadau Cyflawni Safleoedd

Mae'r adroddiad hwn yn nodi'r broses a gynhelir ar gyfer asesu safleoedd a gyflwynwyd ar gyfer eu cynnwys yn yr RLDP, a elwir 'safleoedd ymgeisiol'. Mae safleoedd wedi'u cyflwyno ar gyfer nifer o wahanol ddefnydd tir ac maent wedi bod yn destun proses asesu safleoedd manwl, ei phwrpas yw nodi'r safleoedd mwyaf addas i'w cynnwys yn yr RLDP i ddiwallu anghenion safle a nodwyd ar gyfer defnydd preswyl, cyflogaeth a chymysg.

PC7

Cyflenwad Tir ar gyfer Tai

Mae'r Papur Cefndir hwn yn edrych ar ffynonellau posibl a realistig y cyflenwad o dir sydd ar gael ar gyfer tai dros gyfnod yr RLDP 2018 - 2033. Dylid ei ddarllen ar y cyd â'r papurau cefndir cysylltiedig eraill, gan gynnwys y Cyd-Astudiaeth Argaeledd Tir Ar Gyfer Tai.

PC8

Cydastudiaeth Flynyddol Argaeledd Tir ar Gyfer Tai Conwy (2018)

Dyma'r Adroddiad blynyddol Cydastudiaeth Argaeledd Tir Ar Gyfer Tai ac mae'n darparu data tueddiadau hanfodol sy'n ymwneud â darpariaeth tai a nifer sy'n manteisio arnynt. Mae'r Cyd-Astudiaeth Argaeledd Tir Ar Gyfer Tai yn ffynhonnell ddata dda i ddeall capasiti'r diwydiant adeiladu tai a llywio lefelau twf.

PC9

Asesiad y Farchnad Dai Leol (LHMA)

Mae'r adroddiad hwn yn ystyried tystiolaeth am angen o ran tai a galw yng Nghonwy a bydd yn llywio gwaith paratoi strategaethau lleol gan gynnwys polisïau cynllunio a thai. Dylid ei ddarllen ar y cyd â'r papurau cefndir cysylltiedig eraill, gan gynnwys BP08 y Cyd-Astudiaeth Argaeledd Tir Ar Gyfer Tai, BP11 Cyfrifiad Anghenion o ran Tai Fforddiadwy a BP10 Astudiaeth Hyfywedd Tai Fforddiadwy.

PC10

Astudiaeth Hyfywedd Tai Fforddiadwy

Bydd yr Astudiaeth yn cynghori am y targed(au) a'r trothwy(au) mwyaf uchelgeisiol ond cyraeddadwy ar gyfer tai fforddiadwy sy'n adlewyrchu'n llawn argaeledd amrywiaeth o gyllid tuag at dai fforddiadwy ac sy'n adlewyrchu anghenion isadeiledd blaenoriaethol. Bydd yr astudiaeth yn asesu'r opsiynau posibl ar gyfer cynyddu lefelau tai fforddiadwy drwy amryw opsiynau hefyd, a fydd yn llywio polisi diweddarach.

PC11

Cyfrifiad Anghenion Tai Fforddiadwy

Pan fydd y Cyngor yn cyhoeddi ei RLDP, rhaid iddo egluro sut mae'r polisi perthnasol wedi'i lunio ar sail y dystiolaeth sydd ar gael i'r Cyngor ar y pryd. Mae'r papur cefndir hwn yn darparu tystiolaeth a chyfiawnhad ar gyfer y dull polisi yn yr RLDP sy'n ymwneud â'r targed tai fforddiadwy. Bydd y papur hwn yn bwysig wrth asesu'r holl systemau posibl o wella cyflenwi tai fforddiadwy, gan gynnwys archwilio gwerthoedd tai i gynorthwyo Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig. Mae'r cyfrifiad anghenion tai fforddiadwy yn edrych ar angen presennol a phosibl yn y dyfodol o ran tai fforddiadwy, ac mae'n cyfrifo amcangyfrif blynyddol o faint o aelwydydd fydd angen help i gael mynediad i dai fforddiadwy yn ychwanegol at aelwydydd sydd eisoes yn cael help.

Mae'n bwysig nodi bod y ffigur gwaelodlin angen o ran tai fforddiadwy yn ymwneud â'r gofyniad i adeiladu cartrefi newydd - a hefyd am aelwydydd mewn angen. Yn ogystal â darparu tai fforddiadwy newydd, mae amrywiaeth o ffyrdd eraill o helpu'r aelwydydd hyn nad oes angen gwaith adeiladu newydd - er enghraifft trwy leoli mewn stoc tai cymdeithasol presennol; darparu cynlluniau prynu â chymorth fel yr un a ddarperir drwy'r gofrestr Camau Cyntaf; trawsnewid neu addasu stoc presennol i ddiwallu anghenion tenantiaid yn well (o stoc yn y sector cymdeithasol a'r sector preifat) a thrwy gefnogaeth ariannol i rentu yn y sector preifat (budd-dal tai). Er bydd rhai aelwydydd sydd wedi'u nodi fel bod angen help arnynt i gael mynediad i dai fforddiadwy heb gartref ar hyn o bryd, bydd gan y rhan fwyaf lety, er ei fod mewn tai annigonol. Nid yw hyn yn negyddu'r angen i ddarparu nifer sylweddol uwch o opsiynau tai fforddiadwy (yn enwedig wrth i gostau tai barhau i gynyddu ac wrth i'r rhai ag incymau is gael eu gwasgu allan o'r farchnad), ond mae'n awgrymu bod angen defnyddio dulliau ar wahân i adeiladu tai newydd ar gyfer deiliadaeth cymdeithasol a chanolradd i ddiwallu'r angen hwn. Bydd y BP hwn yn hanfodol o ran deall hyn.

PC12

Tai Amlfeddiannaeth (HMO)

Yng ngoleuni newidiadau i'r Gorchymyn Dosbarthiadau Defnydd sy'n ymwneud â Thai amlfeddiannaeth a'r angen i ddarparu ar gyfer llety aelwydydd sengl, caiff y polisi presennol ei adolygu yng ngoleuni canlyniadau'r papur hwn.

PC13

Cynllun Graddol

Ei bwrpas yw darparu rhagor o dystiolaeth a chyfiawnhad dros ddatblygu safleoedd tai a chyflogaeth yn raddol rhwng 2018 a 2033.

PC14

Capasiti'r Diwydiant Adeiladu Tai

Mae'n hanfodol bod gan y Cyngor ddealltwriaeth o gapasiti'r diwydiant adeiladu tai. Bydd hyn caniatáu i lefel gadarn a phriodol o gyflenwad tai gael ei ddarparu gan alluogi'r Cyngor i fynd i'r afael â'r materion sy'n gysylltiedig â'r newid o ran amcanestyniad poblogaeth yn ystod y cyfnod hwnnw. Er mwyn helpu i gael y ddealltwriaeth hon, bydd y Cyngor yn cysylltu â datblygwyr a pherchnogion tir i ddeall materion capasiti.

PC15

Asesiad o Anghenion Llety Sipsiwn a Theithwyr

Mae'n nodi bod gan Gonwy angen presennol i ddarparu 1 safle tramwy i ddarparu ar gyfer 7 llain.

PC16

Brexit a'r Economi Wledig

Mae'r BP yn archwilio effaith bosibl Brexit ar yr economi leol yn benodol ac effaith arallgyfeirio ffermydd a goblygiadau ar bolisi yn yr RLDP.

PC17

Cyflenwad Tir Cyflogaeth

Mae'r Adroddiad Cyflenwad Tir Cyflogaeth yn astudiaeth o'r holl safleoedd cyflogaeth dros 0.1 hectar a gaiff eu hystyried yn addas ar gyfer datblygiad swyddfa, diwydiannol neu warws. Mae hwn yn ymarfer parhaus a chaiff ei ddiweddaru bob blwyddyn. Mae'r astudiaeth yn monitro nifer sy'n manteisio ar dir cyflogaeth, ei ddyraniad a'i ddosbarthiad ac mae'n galluogi'r Cyngor i ddechrau penderfynu'r graddau y gall y gofynion cyflogaeth a nodir yn yr RLDP gael eu bodloni'n realistig drwy ddarpariaeth bresennol.

PC18

Adolygiad Tir Cyflogaeth (gan gynnwys Gyrwyr Economaidd Rhanbarthol)

Mae'n asesu nifer o ragolygon cyflogaeth i benderfynu ar lefel y tir cyflogaeth gofynnol dros gyfnod yr RLDP. Mae'r BP hefyd yn nodi'r math o ddatblygiad dosbarthu busnes gofynnol. Mae'r BP hefyd wedi rhoi ystyriaeth i oblygiadau Bargen Dwf Gogledd Cymru a Strategaeth Economaidd Conwy o ran angen cyflogaeth a gofyniad tir.

PC19

Dadansoddiad Marchnad Masnachol

Mae'r BP yn ystyried y lleoliadau gorau ar gyfer cyflogaeth ar ôl ymgynghori â gweithwyr presennol yn y Fwrdeistref Sirol. Bydd y gwaith yn cynorthwyo'r lleoliadau tir cyflogaeth a llywio'r strategaeth twf.

PC20

Asesiad o Anghenion Sgiliau

Mae'r BP hwn yn ystyried y canlyniad a nodir yn Strategaeth Economaidd Conwy i ddeall yr anghenion ar gyfer cyfadrannau addysg uwch a'r potensial ar gyfer campws addysg uwch newydd. Bydd canlyniadau'r BP yn llywio'r angen am dir/polisi.

PC21

Ardaloedd Llety Gwyliau Cynradd

Mae'r papur hwn yn dadansoddi'r polisïau a darpariaeth bresennol ar gyfer llety gwyliau yng nghanolfan dwristiaeth Llandudno. Caiff darpariaeth llety gwyliau yn yr Ardaloedd Llety Gwyliau Cynradd ei hadolygu yn unol â'r polisïau sydd wedi'u sefydlu ar gyfer ardaloedd llety gwyliau, a bydd canlyniadau'r arolwg yn llywio unrhyw newidiadau arfaethedig i'r ardaloedd hyn yn yr RLDP.

PC22

Strategaeth Twf Twristiaeth

Bydd yn asesu'r galw am gyfleusterau twristiaeth (gan gynnwys twristiaeth antur) a llety drwy'r Fwrdeistref Sirol. Bydd y BP yn llywio polisi posibl a dynodiadau a dyraniadau defnydd tir.

PC23

Gweledigaeth Twristiaeth Llandudno

Bydd yn nodi'r cyfeiriad yn y dyfodol ar gyfer Llandudno mewn partneriaeth gyda'r sector. Gallai'r Weledigaeth arwain at angen i nodi polisi ategol a dyraniadau defnydd tir.

PC24

Astudiaeth Capasiti Manwerthu

Mae'r astudiaeth yn ystyried ystadegau manwerthu allweddol a gwariant yn y Fwrdeistref Sirol ac mae'n nodi cyfleoedd a chyfyngiadau sy'n effeithio ar bob anheddiad. Yna mae'n darparu asesiad o sut i ddarparu orau ar gyfer gofynion y dyfodol ar gyfer gofod llawr manwerthu. Mae'r Astudiaeth Manwerthu hefyd yn nodi nifer o gamau gweithredu a argymhellir i'r Cyngor eu cyflawni o ran polisi cynllunio.

PC25

Gwiriadau Iechyd Canolfan Fanwerthu

Mae'r BP hwn yn asesu iechyd cyffredinol y canol trefi yn erbyn amrywiaeth o feini prawf, gan gynnwys lefelau swyddi gwag, hygyrchedd ac ati. Bydd yn llywio'r polisïau manwerthu a strategaethau adfywio ar gyfer yr RLDP.

PC26

Hierarchaeth Fanwerthu

Mae gan y CDLl presennol Hierarchaeth Fanwerthu sy'n seiliedig ar feini prawf cynaliadwyedd. Defnyddir yr hierarchaeth mewn polisi i sicrhau bod manwerthu mawr wedi'i gyfeirio at y trefi mwyaf cynaliadwy.

PC27

Ardaloedd Manwerthu Cynradd ac Eilradd

Mae dau brif bwrpas i'r papur hwn; egluro'r rhesymeg sy'n sail i ffurfio'r hierarchaeth fanwerthu, ac adolygu a rhesymoli'r ardaloedd siopa presennol yn y CDLl a fabwysiadwyd, gan gynnig diwygiadau a ffiniau newydd lle bo'n briodol.

PC28

Asesiad Mannau Agored

Mae'r papur hwn yn dadansoddi ac adolygu darpariaeth bresennol mannau agored yng Nghonwy a bydd yn cynnwys safleoedd newydd arfaethedig yn yr RLDP. Bydd y BP hefyd yn llywio strategaethau twf posibl oherwydd pwysigrwydd creu ffyrdd o fyw iach ac actif.

PC29

Asesiadau Lleiniau Gwyrdd

Mae'r adroddiad hwn yn adolygu rôl Rhwystrau Glas a Lletemau Glas dynodedig o fewn cynlluniau datblygu presennol sy'n cwmpasu Bwrdeistref Sirol Conwy. Mae hefyd yn ceisio nodi unrhyw ddiwygiadau arfaethedig i Rwystrau/Lletemau Glas presennol o ganlyniad i ymrwymiadau blaenorol neu ddyraniadau tai arfaethedig. Yn olaf mae'n ceisio nodi unrhyw ardaloedd newydd sydd angen dynodiad oherwydd perygl o ymgyfuniad neu resymau tirwedd eraill.

PC30

Adroddiad Galw a Chyflenwad Safleoedd Lotments

Pwrpas y papur cefndir hwn yw amlinellu lefel bresennol darpariaeth lotments, nodi'r ardaloedd lle mae'r galw mwyaf am lotments ac asesu unrhyw safleoedd lotments newydd posibl.

PC31

Adroddiad Galw a Chyflenwad Safleoedd Claddfeydd

Pwrpas y papur cefndir hwn yw amlinellu lefel bresennol darpariaeth claddfeydd, nodi'r ardaloedd lle mae galw am ddarpariaeth claddfeydd ac asesu unrhyw safleoedd newydd posibl.

PC32

Ardaloedd Tirwedd Arbennig

Mae'r Papur Cefndir hwn yn darparu trosolwg byr o brosesau sy'n rhan o nodi'r ardaloedd cymeriad tirwedd yn Ardal y Cynllun a'r rhesymeg a chyfiawnhad dros y meini prawf a nodir ym Mholisi NTE/5 yr RLDP. Roedd Ardaloedd Tirwedd Arbennig wedi'u cynnwys yng Nghynllun Lleol Bwrdeistref Colwyn, Cynllun Fframwaith Gwynedd a Chynllun Datblygu Unedol gyda'r bwriad o ychwanegu rhagor o gryfder i ddiogelu'r ardaloedd gwledig heb eu datblygu. Ym mhob un o'r cynlluniau hyn, roedd yr Ardaloedd Cymeriad yn cwmpasu holl Ardal y Cynllun y tu allan i ffiniau'r anheddiad a ddiffiniwyd. Yn y dyfodol, cynigir defnyddio LANDMAP fel sail ar gyfer asesiadau effaith tirwedd.

PC33

Asesiad Ynni Adnewyddadwy

Darparu sylfaen dystiolaeth Ynni Adnewyddadwy cadarn a fydd yn llywio gwaith cynhyrchu'r RLDP a ffurfio'r gwaelodlin ar gyfer monitro Ynni Adnewyddadwy yn y dyfodol.

PC34

Asesiad Canlyniadau Llifogydd Strategol Conwy (SFCA)

Mae llifogydd yn ddigwyddiad naturiol sy'n anodd ei ragweld yn aml. Gall beri risg uniongyrchol i fywyd dynol ac achosi difrod helaeth i eiddo ac isadeiledd. Mae'r bygythiad gan newid hinsawdd yn debygol o gynyddu'r risg o lifogydd arfordirol ac afonol oherwydd rhagwelir y bydd lefel y môr yn codi a rhagwelir cawodydd glaw mwy dwys. Felly mae'r perygl o lifogydd yn ystyriaeth berthnasol sy'n dylanwadu ar benderfyniadau rheoli datblygu a dyraniadau safle'r CDLl. Nod yr SFCA yw llywio defnydd o'r prawf cymalog i safleoedd datblygu ymgeisiol yn yr RLDP. Bydd hyn yn galluogi'r Awdurdod Cynllunio Lleol i fabwysiadu'r egwyddor ragofalus a gaiff ei hyrwyddo mewn canllawiau cynllunio Cenedlaethol i gyfeirio datblygiad oddi wrth ardaloedd lle ceir perygl mawr o lifogydd.

PC35

Perygl Llifogydd a Chyfleoedd i Ddatblygu i'r Dwyrain o'r Fwrdeistref Sirol

Prif bwrpas yr astudiaeth hon yw asesu'r potensial ar gyfer datblygiad yn yr ardal perygl llifogydd drwy hyrwyddo datrysiadau dylunio arloesol. Bydd y papur yn llywio'r strategaeth twf a ffefrir, ond yn y pen draw bydd yn asesu'r potensial ar gyfer darparu datblygiad yn yr ardal hon oherwydd lefelau uchel o berygl llifogydd presennol.

PC36

Rheoli Gwastraff

Mae llawer o yrwyr newid o ran sut rydym yn rheoli ein gwastraff. Mae Cyfarwyddebau Ewropeaidd a Chanllawiau Cenedlaethol a gweithio ar lefel rhanbarthol yn cyflwyno newid o ran dulliau rheoli gwastraff. Pwrpas y papur cefndir hwn yw gosod y cyd-destun a darparu crynodeb o'r gyrwyr hyn a materion lleol a fydd yn dylanwadu ar bolisi defnydd tir, a ffurfio rhan o'r sylfaen dystiolaeth i gefnogi polisïau Gwastraff yn yr RLDP.

PC37

Mwynau

Gall prosiectau adeiladu sterileiddio adnoddau cyfansymiol yn barhaol, gan olygu na fyddant ar gael ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Mae polisïau cynllunio yn diogelu adnoddau cyfansymiol a allai fod yn werthfawr rhag cynigion datblygu a allai eu sterileiddio yn y tymor hir. Mae'r papur cefndir hwn yn egluro sut mae'r CDLl yn sicrhau bod cronfeydd wrth gefn cyfansymiol yn cael eu diogelu ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

PC38

Dynodiadau Treftadaeth

Mae'r Papur Cefndir hwn yn darparu trosolwg byr o'r dynodiadau treftadaeth statudol sydd angen eu hystyried wrth adolygu'r CDLl.

PC39

Adeiladau a Strwythurau o Bwysigrwydd Lleol

Bydd y BP yn llywio'r rhesymeg a'r cyfiawnhad dros y polisi Adeiladau a Strwythurau o Bwysigrwydd Lleol sy'n ceisio cadw adeiladau heb eu rhestru sydd o ddiddordeb hanesyddol/pensaernïol.

PC40

Cynllun Teithio Llesol

Mae'n asesu'r llwybrau dulliau amgen (beicio, cerdded ac ati) drwy'r Fwrdeistref Sirol ac mae'n nodi bylchau allweddol o ran y system gyffredinol. Bydd y BP yn llywio'r meysydd gwelliant posibl, polisi a'r dosbarthiad gofodol.

PC41

Strategaeth Cludiant Strategol Conwy

Bydd yn nodi'r ymyriadau cludiant strategol ar gyfer y Fwrdeistref Sirol.

PC42

Asesiad o'r Effaith ar y Gymraeg

Mae'r papur cefndir hwn yn darparu tystiolaeth a chyfiawnhad ar gyfer y dull polisi yn yr RLDP sy'n ymwneud â'r Gymraeg. Bydd yn llywio'r strategaeth dwf a ffefrir yn unol â TAN20.

PC43

Cydweithio gydag Awdurdodau cyfagos

Mae'r papur cefndir hwn yn nodi'r cydweithio a wneir gyda Chynghorau cyfagos ac awdurdodau cynllunio lleol wrth baratoi'r RLDP. Mae hyn yn cynnwys materion trawsffiniol fel yr economi, tai fforddiadwy a chludiant.

PC44

Cynnydd Poblogaeth, Tai ac Effaith Iechyd/Gofal Sylfaenol

Bydd y BP yn asesu'r materion capasiti presennol a deall effaith twf a ragwelir ar Ofal Sylfaenol. Bydd y BP yn penderfynu a oes angen tir/goblygiadau i gynorthwyo â lefelau twf.

PC45

Cynnydd Poblogaeth, Tai ac Effaith Addysg

Bydd y BP yn asesu'r materion capasiti presennol a deall effaith twf a ragwelir ar addysg. Bydd y BP yn penderfynu a oes angen tir/goblygiadau i gynorthwyo â lefelau twf.

PC46

Cynlluniau Lleoedd

Mae'r papur hwn yn nodi'r dull ymlaen a statws Cynlluniau Lleoedd yng Nghonwy. Bydd Cynlluniau Lleoedd yn nodi'r canllawiau mwy manwl thematig neu sy'n benodol i safleoedd i ategu'r polisïau a'r cynigion a gyflwynir mewn CDLl, bydd Cynghorau Tref a Chymuned yn ymgysylltu â chymunedau lleol, busnes a'r Awdurdod Cynllunio Lleol i ddarparu Cynlluniau Lleoedd yn lleol. Bydd Cynlluniau Lleoedd yn Ganllawiau Cynllunio Atodol (CCA) i'r Cynllun Datblygu Lleol a fabwysiadwyd a rhaid iddynt fod yn unol ag ef. Bydd Cynllun Lleoedd pan gaiff ei gynhyrchu yn unol â'r canllawiau yn ystyriaeth berthnasol wrth benderfynu ar geisiadau cynllunio.

Am gyfarwyddiadau ar sut I ddefnyddio’r system ac I wneud sylwadau, gwelwch ein canllaw cymorth.
back to top Yn ôl i’r brig