Papur 1: Materion Blaenoriaeth, Gweledigaeth ac Amcanion

Daeth i ben ar 25 Ionawr 2019

Materion Blaenoriaeth ac Amcanion CDLl Newydd Conwy

5.1 Mae amcanion y CDLl yn nodi beth y mae'r Cynllun yn ceisio ei gyflawni ar ôl deall beth yw'r prif broblemau neu faterion sy'n effeithio ar y Fwrdeistref Sirol. Maent yn adlewyrchu'r Weledigaeth sydd mewn golwg ac wedi'u llunio ar ôl adolygu'r cyd-destun polisi cenedlaethol, rhanbarthol a lleol ehangach, y dystiolaeth sylfaenol a nodi'r materion cynaliadwyedd cychwynnol yn Adroddiad Cwmpasu'r Arfarniad Cynaliadwyedd. Drwy'r tasgau hyn rydym wedi gallu deall y cyd-destun ehangach a chanfod beth yw'r prif faterion ac amcanion sydd angen i CDLl Newydd Conwy roi sylw iddynt. Ar ben hynny, mae amcanion a pholisïau cynllunio'r CDLl presennol hefyd wedi eu hadolygu, er enghraifft pa mor aml y defnyddir hwynt wrth wneud penderfyniadau rheoli datblygu a / neu pa mor effeithiol oeddent mewn apeliadau cynllunio diweddar. Mae'r Papurau Materion ac Opsiynau unigol, ynghyd â'r Papurau Pwnc a'r Papurau Cefndir ategol, yn nodi beth yw canlyniadau'r tasgau hyn a'r goblygiadau i'r CDLl Newydd.
5.2 Defnyddiwyd y materion cynllunio a chynaliadwyedd allweddol i lunio'r amcanion sydd mewn golwg ar gyfer y CDLl Newydd (yn Nhabl 2 isod), a fydd yn eu tro'n cyflawni'r Weledigaeth arfaethedig. Mae'r amcanion wedi eu strwythuro'n unol â Gweledigaeth, themâu a meysydd pwnc arfaethedig y CDLl Newydd. Mae rhai o'r amcanion sydd mewn golwg hefyd yn ymdrin â nifer o faterion unigol. Er mwyn cysondeb, noda'r tabl y materion allweddol, y ffynonellau a'r amcanion sy'n deillio ohonynt, sydd wedi'u grwpio o dan Strwythur arfaethedig y CDLl Newydd (Themâu a Meysydd Pwnc). Mae rhai o'r amcanion arfaethedig yn ymdrin â nifer o faterion gwahanol. Mae'r amcanion sydd mewn golwg hefyd wedi'u profi yn erbyn yr Amcanion Cynaliadwyedd a nodir yn Adroddiad Cwmpasu'r SA (wele BP04). Yn yr un modd â'r Weledigaeth, mae'r amcanion yn fan dechrau a gallant newid unwaith y bydd y dystiolaeth wedi'i gwblhau.
Tabl 2 Amcanion Arfaethedig y CDLl Newydd

Materion Allweddol a Phroblemau (Arfarniad Cynaliadwyedd a Chynllunio)

Ffynhonnell

Amcan Arfaethedig i ymdrin â'r Mater / Problem

Creu lleoedd

Creu Lleoedd Cynaliadwy, Gwneud Dewisiadau Gofodol a Chreu Lleoedd mewn Aneddiadau Trefol a Gwledig: Yn unol â'r Egwyddorion Cynllunio Allweddol a Chanlyniadau Creu Lleoedd Cynaliadwy, mae angen sicrhau bod y CDLl Newydd yn hwyluso'r datblygiad iawn yn y lle iawn. Mae angen i'r CDLl Newydd hybu ffyniant drwy ateb anghenion cymdeithasol, amgylcheddol, diwylliannol ac economaidd. Dylid hyrwyddo gwneud y defnydd gorau o'r seilwaith sydd gennym, a lle bo angen seilwaith newydd, rhaid iddo gyd-fynd â datblygu newydd.

Mae hefyd angen cyd-fynd â'r Fframwaith Datblygu Cenedlaethol (NDF) newydd ar gyfer Cymru, Bargen Twf y Gogledd ac efallai o baratoi SDP posib ar gyfer Coridor yr A55.

Nid yw'r CDLl presennol mabwysiedig (2007-2022) yn ystyried y canllawiau polisi newydd yng nghyswllt Lleoedd Cynaliadwy ac felly cynigiwn amcan newydd.

Fframwaith Datblygu Cenedlaethol (NDF) Drafft

Polisi Cynllunio Cymru (Argraffiad 9) a Drafft (Argraffiad 10)

Egwyddorion Cynllunio Allweddol Llywodraeth Cymru

Canlyniadau Creu Lleoedd Cynaliadwy Llywodraeth Cymru

Nodiadau Cyngor Technegol

Bargen Twf y Gogledd

Y CDLl presennol mabwysiedig (2007-2022)

Papurau Pwnc

Papurau Cefndir

Amcan Strategol 1 (SO1): Cyfrannu at greu lleoedd cynaliadwy, cynhwysiant cymdeithasol ac at wella lles yn gyffredinol yng Nghonwy drwy ddarparu proses gynhwysol o greu ac adfywio lleoedd sy'n sicrhau twf yn y dyfodol a bod datblygu'n digwydd mewn lleoliadau cynaliadwy a hygyrch, sy'n ceisio hyrwyddo dyluniad da a lleoedd iachach, sy'n gwarchod yr iaith Gymraeg ac sydd wedi'i chefnogi gan y seilwaith cymdeithasol, amgylcheddol, diwylliannol ac economaidd angenrheidiol i greu lleoedd rhagorol.

Amcanion Cysylltiedig: Pob Amcan

Lleoedd Iach a Lles: Mae angen rhoi sylw i'r materion iechyd a lles penodol sy'n cael eu hadnabod yng Nghynllun Lles Conwy a Sir Ddinbych, gan gynnwys yng nghyswllt iechyd corfforol a meddwl, lles cymdeithasol a diogelwch cymunedol. Gan hynny, mae angen ehangu cwmpas y CDLl mabwysiedig (2007 - 2022).

At ei gilydd, mae preswylwyr CCBC yn perfformio ychydig yn well na'r cyfartalog yng Nghymru o ran dangosyddion iechyd fel gordewdra, salwch meddwl ac yfed alcohol. Fodd bynnag, mae cysondeb yr ymarfer corff ac achosion derbyn i'r ysbyty am resymau alcohol gryn dipyn yn waeth nag yng ngweddill Cymru.

Mae angen gwarchod a gwella mynediad at gyfleusterau a gwasanaethau gofal iechyd, lleihau anghydraddoldebau iechyd a gwella iechyd meddwl a chorfforol a lles cymunedau. Mae angen hwyluso neu annog pobl i deithio'n llesol neu wneud ymarfer corff a gwella ansawdd a hygyrchedd pobl at fannau awyr agored. Dylai'r CDLl Newydd hefyd nodi'r anghydraddoldeb iechyd amlwg ymhlith preswylwyr ardal CCBC o'i gymharu â'r lefelau cyfartalog rhanbarthol a chenedlaethol. Dylai ddisgrifio'r cynigion, polisïau a'r canllawiau i'w dilyn er mwyn diogelu a gwella amwynder, ansawdd bywyd a chanlyniadau iechyd (meddwl a chorfforol) pawb yn ardal CCBC, h.y. y gweithlu a'r preswylwyr.

Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol 2015

Cynllun Lles Conwy a Sir Ddinbych (2017 - 2023)

Papur Pwnc

Papurau Cefndir

Amcan Strategol 1 (SO1): Cyfrannu at greu lleoedd cynaliadwy, cynhwysiant cymdeithasol ac at wella lles yn gyffredinol yng Nghonwy drwy ddarparu proses gynhwysol o greu ac adfywio lleoedd sy'n sicrhau twf yn y dyfodol a bod datblygu'n digwydd mewn lleoliadau cynaliadwy a hygyrch, sy'n ceisio hyrwyddo dyluniad da a lleoedd iachach, sy'n gwarchod yr iaith Gymraeg ac sydd wedi'i chefnogi gan y seilwaith cymdeithasol, amgylcheddol, diwylliannol ac economaidd angenrheidiol i greu lleoedd rhagorol.

Amcanion Cysylltiedig: Pob Amcan

Dylunio Da, yr Amgylchedd Adeiledig a Chreu Lleoedd: Mae'n ofynnol i ni wneud y defnydd mwyaf effeithlon o dir a seilwaith, a gwella ansawdd dylunio, i greu lleoedd gwych i bobl gael byw, gweithio ac ymweld â nhw yng Nghonwy.

Mae angen sicrhau bod y CDLl Newydd yn canolbwyntio ar ansawdd dyluniad yr amgylchedd adeiledig, sy'n bwysig o ystyried y cymysgedd o wahanol fathau o aneddiadau a chymeriad gwledig yn bennaf ardal CCBC. Bydd materion dylunio a chreu lleoedd yn berthnasol i rai o elfennau'r CDLl Newydd (e.e. polisïau dylunio a dyrannu safleoedd).

Mae angen i'r CDLl Newydd sicrhau ei fod yn hyrwyddo pensaernïaeth a dylunio o safon uchel sy'n cryfhau cymeriad lleol unigryw a'n meithrin naws arbennig cymuned. Mae creu a chynnal tir cyhoeddus diogel a deniadol sy'n annog pobl i gerdded a beicio'n faterion allweddol i'r CDLl Newydd. Dylai datblygiadau fod o faint priodol gyda mas a dwysedd ac mewn lleoliad priodol a gwneud y defnydd gorau o dir, gan gynnwys drwy roi blaenoriaeth i ailddatblygu safleoedd tir llwyd a lleoli defnyddiau fydd yn denu cryn dipyn o ymwelwyr yn agos i'r rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus.

Polisi Cynllunio Cymru (Argraffiad 9) a Drafft (Argraffiad 10)

Nodiadau Cyngor Technegol

Papurau Pwnc

Papurau Cefndir

Amcan Strategol 1 (SO1): Cyfrannu at greu lleoedd cynaliadwy, cynhwysiant cymdeithasol ac at wella lles yn gyffredinol yng Nghonwy drwy ddarparu proses gynhwysol o greu ac adfywio lleoedd sy'n sicrhau twf yn y dyfodol a bod datblygu'n digwydd mewn lleoliadau cynaliadwy a hygyrch, sy'n ceisio hyrwyddo dyluniad da a lleoedd iachach, sy'n gwarchod yr iaith Gymraeg ac sydd wedi'i chefnogi gan y seilwaith cymdeithasol, amgylcheddol, diwylliannol ac economaidd angenrheidiol i greu lleoedd rhagorol.

Amcanion Cysylltiedig: Pob Amcan

Creu Lleoedd Cynaliadwy a Gwneud Dewisiadau Gofodol (safleoedd Tir Llwyd ac Aneddiadau gyda Chyfyngiadau): Mae yna brinder tir llwyd i dderbyn twf dros Gyfnod y Cynllun. Mae rhai aneddiadau ar hyd y coridor arfordirol wedi eu cyfyngu'n sylweddol, yn bennaf oherwydd y topograffi i'r de, peryglon llifogydd i'r gogledd ac oherwydd capasiti priffyrdd.

Polisi Cynllunio Cymru (Argraffiad 9) a Drafft (Argraffiad 10)

Nodiadau Cyngor Technegol

Papurau Pwnc

Papurau Cefndir

Asesiad Perygl Llifogydd Llanw Conwy

Adolygiad Atal Llifogydd Conwy

Cyd-astudiaethau Argaeledd Tir ar gyfer Tai

Cynllun Rheoli Perygl Llifogydd Llanw Clwyd gan Gyfoeth Naturiol Cymru

Amcan Strategol 1 (SO1): Cyfrannu at greu lleoedd cynaliadwy, cynhwysiant cymdeithasol ac at wella lles yn gyffredinol yng Nghonwy drwy ddarparu proses gynhwysol o greu ac adfywio lleoedd sy'n sicrhau twf yn y dyfodol a bod datblygu'n digwydd mewn lleoliadau cynaliadwy a hygyrch, sy'n ceisio hyrwyddo dyluniad da a lleoedd iachach, sy'n gwarchod yr iaith Gymraeg ac sydd wedi'i chefnogi gan y seilwaith cymdeithasol, amgylcheddol, diwylliannol ac economaidd angenrheidiol i greu lleoedd rhagorol.

Amcanion Cysylltiedig: Pob Amcan

Cydraddoldeb a Chynhwysiant Cymdeithasol: Mae rhai rhannau o ardal CCBC, yn enwedig yn y cymunedau trefol ar hyd Arfordir y Gogledd, ymhlith rhai o'r ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru, gyda lefelau isel o weithgarwch economaidd a mynediad at gyfleusterau a gwasanaethau, yn enwedig i blant, pobl ifanc a'r henoed. Ond ar y llaw arall, mae ardal wledig ddeheuol CCBC yn cynnwys rhai o'r cymunedau lleiaf difreintiedig yng Nghymru. Mae angen lleihau tlodi ac anghydraddoldeb, mynd i'r afael ag allgau cymdeithasol a hyrwyddo cydlyniant cymunedol, gan gynnwys drwy wella mynediad at gyfleusterau cymunedol. Mae angen sicrhau bod y cymunedau'n agos at gyfleusterau cymunedol, gwasanaethau cyhoeddus ac amwynderau allweddol.

Mae angen strategaeth holistig i roi sylw i'r amddifadedd lluosog mewn rhai rhannau o ardal CCBC, gan gynnwys ond heb ei gyfyngu i greu cyfleoedd cyflogaeth newydd o ansawdd uchel. Bydd angen i'r CDLl Newydd gyflwyno strategaeth dir glir ar gyfer cyflogaeth i gefnogi'r cyfleoedd cyflogaeth newydd mewn lleoliadau priodol a hygyrch. Bydd angen i'r CDLl Newydd gynnwys strategaeth adfywio a pholisïau a chynigion cysylltiedig i ysgogi ystod o welliannau ffisegol, amgylcheddol, iechyd ac economaidd-gymdeithasol mewn cymunedau difreintiedig neilltuol.

Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol 2015

Cynllun Lles Conwy a Sir Ddinbych (2017 - 2023)

Papurau Pwnc

Papurau Cefndir

Amcan Strategol 1 (SO1): Cyfrannu at greu lleoedd cynaliadwy, cynhwysiant cymdeithasol ac at wella lles yn gyffredinol yng Nghonwy drwy ddarparu proses gynhwysol o greu ac adfywio lleoedd sy'n sicrhau twf yn y dyfodol a bod datblygu'n digwydd mewn lleoliadau cynaliadwy a hygyrch, sy'n ceisio hyrwyddo dyluniad da a lleoedd iachach, sy'n gwarchod yr iaith Gymraeg ac sydd wedi'i chefnogi gan y seilwaith cymdeithasol, amgylcheddol, diwylliannol ac economaidd angenrheidiol i greu lleoedd rhagorol.

Amcanion Cysylltiedig: Pob Amcan

Yr Iaith Gymraeg: Mae Strategaeth Iaith Gymraeg CCBC yn ymrwymo'r Cyngor i drin y Gymraeg a'r Saesneg yn gyfartal wrth gyflawni busnes cyhoeddus. Mae CCBC hefyd yn ymroddedig i helpu i godi proffil yr iaith Gymraeg a'i diwylliant ymhlith preswylwyr a gweithwyr.

Mae angen diogelu a chefnogi preswylwyr ardal CCBC i ddefnyddio mwy ar y Gymraeg. Dylai unrhyw CDLl Newydd gynnwys darpariaethau polisi i gefnogi twf mewn defnyddio'r Gymraeg.

Polisi Cynllunio Cymru (Argraffiad 9) a Drafft (Argraffiad 10)

Nodiadau Cyngor Technegol

Papurau Pwnc

Papurau Cefndir

Cynllun Lles Conwy a Sir Ddinbych (2017 - 2023)

Strategaeth Iaith Gymraeg CCBC

Amcan Strategol 1 (SO1): Cyfrannu at greu lleoedd cynaliadwy, cynhwysiant cymdeithasol ac at wella lles yn gyffredinol yng Nghonwy drwy ddarparu proses gynhwysol o greu ac adfywio lleoedd sy'n sicrhau twf yn y dyfodol a bod datblygu'n digwydd mewn lleoliadau cynaliadwy a hygyrch, sy'n ceisio hyrwyddo dyluniad da a lleoedd iachach, sy'n gwarchod yr iaith Gymraeg ac sydd wedi'i chefnogi gan y seilwaith cymdeithasol, amgylcheddol, diwylliannol ac economaidd angenrheidiol i greu lleoedd rhagorol.

Amcanion Cysylltiedig: Pob Amcan

Cymdeithasol

Lefelau Twf Tai Marchnad a Thai Fforddiadwy, Capasiti Datblygwyr, Strategaethau Cydlynus, Math, Maint a Deiliadaeth Tai a Safleoedd ar gyfer Sipsiwn a Theithwyr.

Ateb yr Angen am Dai: Wrth greu lleoedd cynaliadwy yng Nghonwy, bydd angen i'r CDLl Newydd ystyried goblygiadau'r rhagolygon poblogaeth ac aelwydydd diweddaraf, yr Asesiad o'r Farchnad Dai Leol (LHMA) a'r effeithiau ar dwf swyddi sy'n gysylltiedig ag Adolygiad Tir Cyflogaeth (ELR) Conwy ynghyd â'r ffactorau sy'n ysgogi'r economi ranbarthol sy'n cael eu hyrwyddo ym Margen Twf y Gogledd wrth benderfynu beth fyddai lefelau cynaliadwy o dwf tai a chyflogaeth. O ran tai, ystyriwyd amrywiol ragolygon twf ar gyfer poblogaeth, tai a swyddi sy'n dod i'r casgliad y gallai lefelau twf tai posib amrywio rhwng 1,800 a 17,300 o gartrefi newydd dros gyfnod y cynllun (2018 - 2033). Mae casgliadau'r LHMA wedi eu diweddaru i adlewyrchu rhagolygon poblogaeth 2017 sy'n casglu y bydd angen 190 o dai fforddiadwy'n flynyddol (2850 dros gyfnod y CDLl Newydd). Byddai'r lefelau twf tai arfaethedig yn darparu rhwng tua 360 a 3450 o dai fforddiadwy newydd.

Capasiti Datblygwyr: Y lefel ddarparu flynyddol gyfartalog dros y pum mlynedd diwethaf, fel y mae Astudiaethau Argaeledd Tir ar gyfer Tai Conwy wedi'i nodi, yw 244 o gartrefi gyda'r lefel ddarparu uchaf yn 320 o gartrefi newydd yn 2017. Mae angen sicrhau bod y lefel dwf a ddefnyddir yn y CDLl Newydd yn ystyried capasiti'r diwydiant codi tai i ddarparu.

Strategaeth Cydlynus a Holistig: Bydd yn bwysig i'r CDLl Newydd gyflwyno strategaethau cydlynus a holistig ar gyfer tir ar gyfer tai a chyflogaeth a'r seilwaith cymunedol er mwyn cwrdd ag anghenion presennol ac anghenion yn y dyfodol.

Math, Maint a Deiliadaeth Tai: Mae twf araf y boblogaeth, newidiadau naturiol negyddol (mwy'n marw na'n cael eu geni) a rhagolygon y bydd y boblogaeth yn heneiddio'n debygol o greu problem weithlu hirdymor ac yn rhoi mwy o bwysau ar amryw o wasanaethau cyhoeddus. Mae'r ffaith bod pobl ifanc oed gweithio'n symud allan o ardal CCBC yn cyflwyno problem o ran sut i gadw oedolion ifanc yn yr ardal. O ganlyniad mae angen sicrhau bod y CDLl Newydd yn ceisio ateb anghenion tai poblogaeth sy'n heneiddio ond, ar yr un pryd, sicrhau bod cartrefi newydd yn ceisio cadw'r boblogaeth iau yn yr ardal. Dylai'r tai o ran math (gan gynnwys unedau addas i'r pwrpas), maint a deiliadaeth a ddisgrifir yn y LHMA gael eu hyrwyddo drwy'r CDLl Newydd.

Astudiaeth o Angen Safleoedd ar gyfer Sipsiwn a Theithwyr: Mae'r astudiaeth yn casglu y dylai'r CDLl Newydd hyrwyddo tir i dderbyn safle teithiol ar gyfer saith llain. Mae safle preswyl ar gyfer pedair llain wedi'i ddarparu'n ddiweddar yng Nghonwy.

Polisi Cynllunio Cymru (Argraffiad 9) a Drafft (Argraffiad 10)

Nodiadau Cyngor Technegol

Papurau Pwnc

Papurau Cefndir

Amcan Strategol 2 (SO2): Hyrwyddo strategaeth holistig ar gyfer cyd-leoli twf tai a chyflogaeth drwy ddarparu cartrefi newydd, gan gynnwys tai fforddiadwy a safleoedd ar gyfer sipsiwn a theithiwr, mewn lleoliadau cynaliadwy a hygyrch a sicrhau bod y mathau a'r ystod iawn o dai o ran math, maint a deiliadaeth yn cael eu datblygu ochr yn ochr â'r seilwaith cymunedol angenrheidiol.

Amcanion Cysylltiedig: SO1, 2, 3, 4, 5, 6, 7, 9, 10, 11, 12, 13, 14, 15 ac 16

Canolfannau Masnachol a Manwerthu: Dylai awdurdodau cynllunio sefydlu, drwy eu cynllun datblygu, strategaeth glir ar gyfer datblygiadau manwerthu, wedi'i chefnogi gan bolisïau, er mwyn creu canolfannau manwerthu a masnachol bywiog, deniadol a hyfyw. Dylai'r strategaeth a'r polisïau gyflwyno fframwaith ar gyfer dyfodol canolfannau manwerthu a masnachol yn eu hardal, gan ystyried strategaethau gan awdurdodau cyfagos, i hyrwyddo sector manwerthu llwyddiannus i gefnogi cymunedau presennol a rhai newydd.

I gefnogi hyn mae'r Cyngor wedi cynhyrchu Cyd-astudiaeth Manwerthu gyda Sir Ddinbych sy'n casglu bod angen canolfan fanwerthu a chymhariaeth fawr rhwng Bae Colwyn a gweddill ardal ddwyreiniol y Fwrdeistref Sirol. Yn ogystal, mae Archwiliadau Iechyd Canol Tref wedi eu cyflawni i asesu pa mor fywiog, hyfyw a deniadol yw'r trefi. Mae rhai trefi yn y Fwrdeistref Sirol yn mwynhau iechyd da a lefelau isel o siopau gwag ond mae eraill wedi gweld dirywiad dros y blynyddoedd diwethaf oherwydd y ffocws presennol ar bolisi manwerthu A1 ac wrth i rai unedau canol tref gau (e.e. banciau stryd fawr). Drwy'r CDLl Newydd, mae angen sicrhau strategaethau manwerthu priodol i gefnogi'r anghenion, y pwysau a'r cyfleoedd manwerthu hyn. Mewn rhai sefyllfaoedd, gallai fod angen gweithredu'n rhagweithiol i adnabod lleoliadau i ganolfannau masnachol a manwerthu gael ehangu. Dro arall efallai y bydd angen adnabod mesurau i adfywio canolfannau neu reoli newid mewn pwysigrwydd cymharol canolfan wrth i ganolfannau eraill, a'u pwrpas, ehangu.

O ganlyniad i bolisi cenedlaethol a thystiolaeth leol, mae angen diwygio'r Amcan Manwerthu yn y CDLl presennol.

Polisi Cynllunio Cymru (Argraffiad 9) a Drafft (Argraffiad 10)

Nodiadau Cyngor Technegol

Papurau Pwnc

Papurau Cefndir

Amcan Strategol 3 (SO3): Darparu canolfannau tref a masnachol deniadol a hyfyw yng Nghonwy drwy ail-ddiffinio eu rôl ac annog amrywiaeth o weithgareddau a defnyddiau.

Amcanion Cysylltiedig: SO1, 2, 6, 7, 8, 9, 13, 14 ac 16

Cyfleusterau Cymunedol: Mae cyfleusterau cymunedol yn ateb sawl diben yn ymwneud ag ystod eang o weithgareddau a gwasanaethau y gellir eu darparu gan y sectorau cyhoeddus, preifat a'r trydydd sector. Mae cyfleusterau cymunedol yn cyfrannu at naws lle, sy'n bwysig i iechyd, lles ac amwynder cymunedau lleol ac yn aml iawn mae eu bodolaeth yn elfen bwysig ar gyfer creu cymunedau hyfyw a chynaliadwy. Medrant gynnwys ysgolion, cyfleusterau diwylliannol, gwasanaethau iechyd, llyfrgelloedd, rhandiroedd ac addoldai. Mae llawer o'r rhain hefyd yn asedau hanesyddol.

Bydd angen mwy o seilwaith cymunedol i gefnogi poblogaeth sy'n gynyddol heneiddio yn ardal CCBC. Mae mynediad at wasanaethau mewn ardaloedd gwledig yn broblem benodol, gyda'r naw ardal LSOA ymhlith y 10% mwyaf difreintiedig yn y wlad o ran mynediad at wasanaethau.

Ar hyn o bryd mae 53 o ysgolion cynradd a saith ysgol uwchradd yn ardal CCBC. Mae pob ysgol yn gwneud defnydd amrywiol o ieithoedd llafar Saesneg a Chymraeg. Mae rhai o'r ysgolion hyn yn orlawn neu gallent fynd yn orlawn gan ddibynnu ar y cynnydd yn y boblogaeth ac mewn cartrefi newydd yn y dyfodol. Bydd angen i'r CDLl Newydd sicrhau bod y gofynion tir ar gyfer ysgolion newydd yn cael eu darparu i gyd-fynd â'r twf tai.

Mae CCBC yn rhedeg deg llyfrgell (Abergele, Conwy, Llanfairfechan, Bae Penrhyn, Cerrigydrudion, Bae Cinmel, Llanrwst, Bae Colwyn, Llandudno a Phenmaenmawr). Mae gan y Sir hefyd bedair canolfan hamdden (Abergele, Colwyn, Llandudno a Phwll Nofio Llanrwst)

Fel y mae'r Papurau Pwnc a'r Papurau Cefndir yn ei nodi, mae hefyd angen tir ar gyfer rhandiroedd a mynwentydd. Mae amrywiol sefydliadau Iechyd hefyd wedi cyrraedd capasiti ac felly bydd angen i'r CDLl Newydd ddelio ag unrhyw ofynion tir o ganlyniad i dwf.

Dylai'r Adolygiad o'r CDLl adnabod seilwaith cymunedol digonol i gwrdd ag anghenion y boblogaeth bresennol a'r boblogaeth yn y dyfodol.

Polisi Cynllunio Cymru (Argraffiad 9) a Drafft (Argraffiad 10)

Nodiadau Cyngor Technegol

Papurau Pwnc

Papurau Cefndir

Amcan Strategol 4 (SO4): Cyfrannu at naws lle ac at iechyd, lles ac amwynder cymunedau lleol drwy sicrhau bod gan y boblogaeth bresennol, a'r boblogaeth yn y dyfodol, fynediad at gymysgedd cynaliadwy o gyfleusterau cymunedol.

Amcanion Cysylltiedig: SO1, 2, 3, 4, 5, 6, 7, 9, 13, 14 ac 16

Ardaloedd Hamdden: Mae ardaloedd hamdden yn hanfodol i iechyd, lles ac amwynder ac yn gallu cyfrannu at seilwaith gwyrdd ardal. Maen nhw'n darparu lle i chwarae ac ymlacio, i wneud gweithgarwch corfforol a chwaraeon, yn aml yng nghanol natur, ac yn cyfrannu at ansawdd ein bywyd. Bydd rhwydweithiau o ardaloedd gwyrdd a hamdden hygyrch o safon uchel hefyd yn hyrwyddo cadwraeth natur, bioamrywiaeth ac yn rhoi cyfle i breswylwyr ac ymwelwyr fwynhau a chymryd rhan mewn ystod eang o weithgareddau corfforol er mwyn hybu lles corfforol a meddwl.

Mae angen i'r CDLl Newydd gefnogi datblygu chwaraeon a hamdden, a'r ystod eang o weithgareddau hamdden sy'n annog gweithgarwch corfforol. Mae angen adnabod, rheoli, ehangu a gwella rhwydwaith Seilwaith Gwyrdd y Fwrdeistref Sirol, gan gynnwys mannau agored cyhoeddus, a chydnabod eu pwysigrwydd i ddarparu manteision iechyd, amgylcheddol ac economaidd-gymdeithasol lleol, sy'n bethau y mae Cynllun Lles Conwy a Sir Ddinbych yn eu nodi fel materion allweddol. Mae Asesiad Mannau Agored Conwy hefyd yn adnabod lle mae prinder mewn rhai ardaloedd o'r Fwrdeistref Sirol.

Polisi Cynllunio Cymru (Argraffiad 9) a Drafft (Argraffiad 10)

Nodiadau Cyngor Technegol

Papurau Pwnc

Papurau Cefndir

Amcan Strategol 5 (SO5): Annog lles meddwl a chorfforol drwy ddarparu a diogelu rhwydweithiau o ardaloedd hamdden a mannau gwyrdd hygyrch o ansawdd uchel.

Amcanion Cysylltiedig: SO1, 2, 4, 6, 8, 12, 13, 14, 15 ac 16

Trafnidiaeth: Ar hyn o bryd, mae rhannau o'r rhwydwaith priffyrdd yn ardal CCBC yn profi tagfeydd, yn enwedig ar adegau prysur (yr A55 a'r A470). Bydd gwelliannau seilwaith mewn ardaloedd trefol a gwledig yn dod â newid sylfaenol i gysylltedd trafnidiaeth gyhoeddus a dylid defnyddio hyn i ysgogi twf economaidd a gwella mynediad at gyflogaeth a gwasanaethau cyhoeddus yn ardal CCBC.

Y Rhwydwaith Ffyrdd: Mae'r Rhwydwaith Ffyrdd Craidd yn cysylltu ardal CCBC i'r Bwrdeistrefi Sirol cyfagos ac i ardaloedd consortiwm trafnidiaeth rhanbarthol. Mae'r ffyrdd canlynol yn rhan o'r Rhwydwaith Ffyrdd Craidd yn ardal CCBC: Yr A55 (llwybr Arfordir y Gogledd) a'r A470 (llwybr canolog). Mae'r ddwy brif ffordd graidd yn cysylltu'r ardaloedd poblogaeth lleol i'r aneddiadau mawr ac yn cyffinio â rhwydweithiau o ffyrdd B a'r holl ffyrdd dosbarthedig di-rif yn ardal CCBC.

Trafnidiaeth Gyhoeddus: Mae gan Gonwy amryw o orsafoedd rheilffordd trefol (Abergele a Phensarn, Bae Colwyn, Cyffordd Llandudno, Conwy, Penmaenmawr a Llanfairfechan) ar hyd prif linell reilffordd y Gogledd, gyda chysylltiadau i nifer o drefi mawr eraill. Yn ogystal, mae llinell Dyffryn Conwy'n rhedeg o orsaf Llandudno gan gysylltu llawer o'r pentrefi gwledig; Deganwy, Glan Conwy, Tal-y-Cafn, Dolgarrog, Gogledd Llanrwst, Llanrwst, Betws-y-Coed, Pont-y-pant, Dolwyddelan, Pont Rufeinig a Blaenau Ffestiniog. Mae amryw o wasanaethau bws yn cysylltu'r prif aneddiadau yn y Gogledd ynghyd â gwasanaeth bws Sherpa'r Wyddfa sy'n cysylltu i'r chwe phrif lwybr i fyny'r Wyddfa a'r pentrefi o gwmpas.

Hedfan a Morol: Mae Maes Awyr John Lennon yn Lerpwl a Maes Awyr Manceinion o fewn siwrne 75 munud o Gonwy, ac mae Maes Awyr Môn (sy'n hedfan i Faes Awyr Rhyngwladol Caerdydd) 40 munud i ffwrdd. Mae'n rhoi mynediad at gyrchfannau Cenedlaethol a Rhyngwladol i deithwyr ac o ran cludo nwyddau. Mae'r ddau brif borthladd yng Ngogledd Cymru (Porthladd Caergybi a Phorthladd Mostyn) o fewn 40 munud i Gonwy, gan roi mynediad cenedlaethol a rhyngwladol ar fwrdd fferis / llongau pleser ac er mwyn cludo nwyddau. Porthladd Mostyn yw un o'r prif leoliadau yn Ewrop ar gyfer cydosod / gosod tyrbinau gwynt. Mae Porthladd Caergybi'n cynnig cysylltiadau fferi i Weriniaeth Iwerddon, gan gwmni Stena Line.

Teithio Llesol: Disgrifiwyd y llwybrau teithio llesol yn ardal CCBC fel rhai gwael ac nad oes digon o fuddsoddi ynddynt. Ers 2013 o dan y Ddeddf Teithio Llesol (Cymru), rhaid darparu map rhwydwaith integredig (INM) o lwybrau teithio llesol.

Oherwydd rhai newidiadau i bolisi cenedlaethol a rhanbarthol, mae angen diwygio'r Amcan trafnidiaeth yn y CDLl presennol.

Polisi Cynllunio Cymru (Argraffiad 9) a Drafft (Argraffiad 10)

Nodiadau Cyngor Technegol

Papurau Pwnc

Papurau Cefndir

Amcan Strategol 6 (SO6): Darparu datblygu cynaliadwy a cheisio mynd i'r afael ag achosion y newid yn yr hinsawdd drwy ehangu'r dewis o drafnidiaeth gynaliadwy er mwyn rhoi mynediad at swyddi a gwasanaethau allweddol i gymunedau Conwy, drwy hybu rhwydwaith o lwybrau byrrach, mwy llesol ac effeithlon ar gyfer cerdded, beicio a defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus a thrwy ddylanwadu ar leoliad, maint, dwysedd, cymysgedd defnyddiau a dyluniad datblygiadau newydd.

Amcanion Cysylltiedig: Pob Amcan

Yr Economi

Datblygu Economaidd: Mae angen deall beth fydd goblygiadau'r 120,000 o swyddi sydd mewn golwg gan Fargen Twf y Gogledd a cheisio darparu ar gyfer yr anghenion defnydd tir yng Nghonwy. Daw Adolygiad Tir Cyflogaeth Conwy (ELR 2018) a'r Adroddiad Sbardunau Economaidd Rhanbarthol i'r casgliad y byddai angen i Gonwy ddarparu ar gyfer tua 1800 o swyddi ychwanegol dros gyfnod y CDLl Newydd. Yn ôl yr ELR, dylid rhannu'r dyraniadau tir ar gyfer cyflogaeth yn 50% B1 ar gyfer Busnesau a 50% B2/B8 ar gyfer Diwydiant a Warysau. Mae Asesiad o Farchnad Eiddo Conwy'n awgrymu y dylid lleoli tir newydd ar gyfer cyflogaeth ar hyd prif lwybr traws-Ewropeaidd yr A55.

Mae Strategaeth Economaidd Conwy hefyd yn hyrwyddo defnydd canolfannau trefi fel ardaloedd twf cyflogaeth allweddol.

Yn 2017, o blith y 76.6% o'r boblogaeth weithio economaidd weithgar yng Nghonwy, roedd 73.3% mewn gwaith, sy'n uwch na gweddill Cymru (72.4%) ond yn is na gweddill Prydain (74.9%). Mae 23.4% o boblogaeth weithio Conwy'n economaidd anweithgar (Cymru 24.0%) (Prydain 21.6%).

Yn 2017 roedd y gyfradd ddiweithdra swyddogol yn ardal CCBC yn 4.2% oedd yn is na'r gyfradd ddiweithdra ar draws Cymru (4.8%) a Phrydain (4.4%). Yn gysylltiedig â hyn, yn 2016 roedd gan ardal CCBC ddwysedd swyddi o 0.78 (y gymhareb swyddi i'r boblogaeth oed gweithio breswyl) o'i gymharu â 0.76 ar draws Cymru a 0.84 ar draws Prydain.

Mae angen cefnogi rhwydweithiau a chlystyrau busnes i ddatblygu, yn enwedig busnesau arloesol a thechnolegol.

O ganlyniad i newidiadau polisi cenedlaethol a rhanbarthol, a thystiolaeth newydd, mae angen diwygio'r Amcan yn y CDLl presennol.

Polisi Cynllunio Cymru (Argraffiad 9) a Drafft (Argraffiad 10)

Nodiadau Cyngor Technegol

Papurau Pwnc

Papurau Cefndir

Amcan Strategol 7 (SO7): Cefnogi ffyniant economaidd hirdymor, arallgyfeirio ac adfywio drwy fanteisio ar sefyllfa strategol Conwy yn y fargen dwf ranbarthol ehangach a thrwy hyrwyddo strategaeth holistig sy'n cyd-leoli twf cyflogaeth a thwf tai, fydd yn hwyluso twf swyddi newydd o'r math iawn mewn lleoliadau cynaliadwy a hygyrch, yn cefnogi clystyrau a rhwydweithiau o fusnesau, yn cynyddu sgiliau mewn swyddi gwerth uchel ac yn darparu'r seilwaith newydd angenrheidiol. Bydd hyn yn hwyluso lleoli busnesau newydd yng Nghonwy a thwf y busnesau presennol.

Amcanion Cysylltiedig: SO1, 2, 3, 6, 7, 8, 9, 10, 11, 12, 13 ac 16

Twristiaeth: Mae twristiaeth yn ymwneud ag ystod eang o weithgareddau, cyfleusterau a mathau o ddatblygiad ac yn hanfodol i ffyniant yr economi a chreu gwaith mewn sawl rhan o Gonwy. Gall twristiaeth fod yn gatalydd ar gyfer adfywio, gwella'r amgylchedd adeiledig a gwarchod yr amgylchedd. Gan hynny, bydd angen i'r CDLl Newydd annog twristiaeth lle mae'n cyfrannu at ddatblygu economaidd, cadwraeth, arallgyfeirio gwledig, adfywio trefol a chynhwysiant cymdeithasol, ond cydnabod anghenion ymwelwyr a chymunedau lleol. Bydd angen sicrhau bod twristiaeth gynaliadwy'n cael ei hyrwyddo a cheisio denu twristiaeth drwy'r flwyddyn yn hytrach na dim ond yn dymhorol.

Dylai'r CDLl Newydd ddarparu fframwaith ar gyfer cynnal a datblygu cyfleusterau twristiaeth o safon, wedi eu dylunio a'u lleoli'n dda. Dylai ystyried maint a dosbarthiad yr atyniadau twristiaeth presennol ac arfaethedig a galluogi datblygiadau ategol fel llety a mynediad mewn ffyrdd sy'n cyfyngu effeithiau negyddol ar yr amgylchedd.

Mae twristiaeth yn chwarae rhan bwysig iawn yn economi Conwy a dylai'r CDLl Newydd ei gefnogi mewn ffordd gynaliadwy. Yn hanesyddol, mae twristiaeth yng Nghonwy wedi cael ei gefnogi gan asedau naturiol a hanesyddol ardderchog a chan ei lleoliad strategol wrth ymyl yr arfordir a Pharc Cenedlaethol Eryri. Yn fwy diweddar mae twf wedi bod mewn busnesau twristiaeth antur ac awyr agored cynaliadwy drwy'r flwyddyn. Mae hyn wedi gweld galw am lety gwyliau. Mae Strategaeth Twf Twristiaeth Conwy wrthi'n cael ei chynhyrchu a bydd yn ceisio asesu a deall y galw am y busnesau hyn, a'r galw am lety cysylltiedig, dros gyfnod y CDLl Newydd. Bydd angen i'r CDLl Newydd ddarparu ar gyfer y galw hwn drwy ddyrannu tir a thrwy bolisïau priodol. Mae Cynllun Llety Twristiaeth Conwy hefyd wrthi'n cael ei gynhyrchu i ddeall ymhellach y galw a'r cyflenwad ar gyfer y CDLl Newydd.

Mewn ardaloedd gwledig, mae datblygiadau twristiaeth yn elfen hanfodol mewn darparu economi iach ac amrywiol a bydd angen ystyried hyn yn ofalus wrth adolygu'r CDLl Newydd. Bydd angen i ddatblygiadau twristiaeth mewn ardaloedd gwledig gyd-weddu, o ran natur a maint, â'r amgylchedd lleol.

Polisi Cynllunio Cymru (Argraffiad 9) a Drafft (Argraffiad 10)

Nodiadau Cyngor Technegol

Papurau Pwnc

Papurau Cefndir

Amcan Strategol 8 (SO8): Annog a chefnogi twristiaeth gynaliadwy lle mae'n cyfrannu at ffyniant a datblygiad yr economi ac at gadwraeth, arallgyfeirio gwledig, adfywio a chynhwysiant cymdeithasol ond yn cydnabod anghenion ymwelwyr, busnesau a chymunedau lleol a bod angen gwarchod yr amgylchedd hanesyddol a naturiol.

Amcanion Cysylltiedig: SO1, 2, 3, 4, 5, 6, 7, 9, 12, 13, 13, 15 ac 16

Yr Economi Wledig: Mae economi wledig gref yn hanfodol i gynnal cymunedau gwledig cynaliadwy a bywiog. Mae sefydlu mentrau newydd ac ehangu busnesau presennol yn greiddiol i dwf a sefydlogrwydd ardaloedd gwledig, wedi eu cefnogi gan y seilwaith cymunedol a thai angenrheidiol.

Mae aneddiadau gwledig Conwy'n cyfrif am tua 15% o boblogaeth y Fwrdeistref Sirol. Mae'r rhan fwyaf o'r aneddiadau gryn bellter o'r canolfannau trefol mwy ac felly bydd angen i'r CDLl Newydd ystyried datblygu economaidd a'r seilwaith angenrheidiol ar eu cyfer.

Bydd angen i'r CDLl Newydd fabwysiadu dull adeiladol tuag at gynigion datblygu amaethyddol, yn enwedig rhai sy'n cael eu dyfeisio i ateb anghenion arferion ffermio newydd neu sydd eu hangen i gydymffurfio â deddfwriaeth newydd ar gyfer yr amgylchedd, hylendid neu les.

Yn ogystal, dylai'r CDLl Newydd fabwysiadu dull cadarnhaol gyda cheisiadau i drosi adeiladau gwledig ar gyfer busnes.

Yn aml iawn gellir lleoli gweithgareddau economaidd bach yn gynaliadwy ar ffermydd a safleoedd busnes gwledig eraill gan ddarparu incwm ychwanegol. Bydd angen i'r CDLl Newydd fabwysiadu dull cadarnhaol tuag at brosiectau arallgyfeirio mewn ardaloedd gwledig. Gall arallgyfeirio gryfhau'r economi wledig a dod â chyflogaeth ychwanegol a ffyniant i gymunedau.

O ganlyniad i newidiadau mewn canllawiau cenedlaethol a thystiolaeth newydd, ystyrir nad yw'r Amcan yn y CDLl presennol yn addas.

Polisi Cynllunio Cymru (Argraffiad 9) a Drafft (Argraffiad 10)

Nodiadau Cyngor Technegol

Papurau Pwnc

Papurau Cefndir

Amcan Strategol 9 (SO9): Hyrwyddo a chefnogi cymunedau gwledig cynaliadwy a bywiog drwy sefydlu mentrau newydd, ehangu busnesau presennol a mabwysiadu dull adeiladol tuag at amaeth ac arferion ffermio newydd.

Amcanion Cysylltiedig: Pob Amcan

Ynni a'r Newid yn yr Hinsawdd: Mae ymchwil i'r newid yn yr hinsawdd yn darogan cynnydd o ran pa mor aml a difrifol fydd ein tywydd glaw. Mae llifogydd o afonydd, carthffosydd a dŵr wyneb felly'n debygol o waethygu ar draws ardal CCBC yn y dyfodol. Disgwylir i ardal CCBC hefyd wynebu mwy o lifogydd llanw wrth i lefel y môr godi.

Roedd adroddiad Rhagolygon Llifogydd Foresight 2004 yn awgrymu y bydd y difrod economaidd blynyddol yng Nghymru'n codi o £70m yn 2004 i £1,235m erbyn canol y 2080au o dan y senario fwyaf tebygol. Ond yn ôl Adroddiad Stern, drwy weithredu'n ddioed gallwn leihau'r difrod economaidd mwy hirdymor.

Allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr: Dengys ystadegau 2015 gan InfoBase Cymru fod cyfanswm yr allyriadau nwyon tŷ gwydr (GHG) yn ardal CCBC (4.9) yn dangos bod lefel y CO2 fesul preswylydd (tunelli) yn is na'r cyfartalog drwy Gymru (8.0) yn 2016. Er yn gadarnhaol, mae angen parhau i ostwng lefel yr allyriadau GHG.

Yn 2015 roedd CCBC yn darparu 2.7% o'r ynni carbon isel a gynhyrchir yng Nghymru. Fodd bynnag, mae lle i wella hyn drwy gynhyrchu mwy o ynni adnewyddadwy yn y dyfodol

Dylai'r CDLl Newydd gyflwyno polisïau, cynigion a chanllawiau i gefnogi'r broses o bontio i economi carbon isel. Dylai hyn gynnwys darparu fframwaith polisi cefnogol ar gyfer cynhyrchu ynni adnewyddadwy a charbon isel mewn lleoliadau priodol. Dylai'r CDLl Newydd hefyd gynnwys polisïau i annog dylunio carbon isel a chyflwyno strategaeth ar gyfer trafnidiaeth gynaliadwy sy'n manteisio ar y seilwaith presennol o reilffyrdd a phorthladdoedd yn ardal CCBC er mwyn cyfrannu at ddatgarboneiddio'r sector trafnidiaeth.

Mae Adolygiad Ynni Adnewyddadwy Conwy hefyd yn nodi cynigion strategol ar gyfer gwynt a solar y bydd angen i'r CDLl Newydd eu hystyried. Yn ogystal, mae Strategaeth Economaidd Conwy'n hyrwyddo cynnydd mewn cynlluniau ynni adnewyddadwy ac yn dyheu am gyflwyno Morlyn Ynni Llanw ar hyd arfordir y Gogledd, gan greu ardal fwy gwydn yn erbyn llifogydd, adfywio a chynhyrchu ar gyfer twristiaeth a hamdden yn ogystal â chynhyrchu ynni adnewyddadwy.

Dylai'r CDLl Newydd sicrhau cymysgedd priodol o ynni sy'n cynnig y manteision gorau i economi a chymunedau Conwy ond yn lleihau unrhyw effeithiau amgylcheddol a chymdeithasol negyddol. Dylai gydnabod yn llawn y manteision a gyflwynir gan ynni adnewyddadwy a charbon isel fel rhan o'r ymrwymiad cyffredinol i fynd i'r afael â'r newid yn yr hinsawdd ac i wella diogelwch ynni.

O ganlyniad i newidiadau polisi cenedlaethol, rhanbarthol a lleol, a thystiolaeth newydd, bwriedir diwygio'r Amcan yn y CDLl presennol.

Polisi Cynllunio Cymru (Argraffiad 9) a Drafft (Argraffiad 10)

Nodiadau Cyngor Technegol

Papurau Pwnc

Papurau Cefndir

Amcan Strategol 10 (SO10): Sicrhau cymysgedd priodol o ynni, gan gynnwys hyrwyddo Morlyn Ynni Llanw, sy'n cynnig y manteision gorau i economi a chymunedau Conwy ond yn lleihau unrhyw effeithiau amgylcheddol a chymdeithasol negyddol.

Amcanion Cysylltiedig: SO1, 2, 3, 6, 7, 8, 9, 11, 13, 16 ac 16

Mwynau a Gwastraff: Dylai'r CDLl Newydd hyrwyddo newid tuag at economi gylchol drwy ddylanwadu ar ba ddeunyddiau y mae datblygiad yn eu defnyddio, annog dull mwy hyblyg a hirbarhaus o ddylunio adeiladau, dylunio i ddileu gwastraff yn defnyddio deunyddiau sydd wedi neu y gellir eu hail-weithgynhyrchu, eu hailwampio, eu datgymalu a'u hailgylchu neu y gellir eu dadadeiladu a'u hailddefnyddio gan sicrhau y gellir cyflenwi'r deunyddiau sydd eu hangen ar gymdeithas, gan gynnwys mwynau cynradd. Bydd hyn yn helpu i sicrhau argaeledd deunyddiau yn y tymor hir fel nad oes baich ar genedlaethau'r dyfodol. Mae amser sy'n cael ei dreulio yn y cam dylunio'n ffordd hanfodol o wneud defnydd effeithiol o adnoddau a sicrhau manteision lluosog.

Mae gwaredu, ailgylchu a thrin gwastraff yn digwydd yng Nghanolfan Ailgylchu Cyngor Conwy. Yn 2016-2017, o'r cyfanswm o 62,560 tunnell o wastraff trefol a gynhyrchwyd, cafodd 39,149 ei ailddefnyddio, ailgylchu neu ei gompostio a chafodd 5,438 tunnell ei losgi a 62.6% o wastraff ei ailddefnyddio / ailgylchu / compostio. Roedd hyn ond yn gadael 17,813 tunnell, a anfonwyd i gael ei dirlenwi.

Yn 2016 roedd cyfradd ailgylchu'r DU ar gyfer Gwastraff o Gartrefi'n 45.2% o'i gymharu â chyfartalog drwy Gymru o 57.3%.

Mae ardal CCBC yn rhagori ar gyfraddau ailgylchu cyfartalog gweddill Cymru a'r DU, gyda Chymru hefyd yn parhau gyda thuedd ar i fyny. Dylai'r perfformiad ailgylchu presennol yng Nghonwy gael ei gynnal a, lle bo'n bosib, parhau i wella drwy'r CDLl Newydd.

Un o brif nodweddion ardal CCBC yw'r dyffrynoedd bychain a'r ucheldir cysylltiedig sy'n rhan o hen Feysydd Glo Cymru. Yn fwyaf nodedig, mae mapiau cloddio mwynau / glo Gogledd-Orllewin a Gogledd-Ddwyrain Cymru'n cynnwys cyfran helaeth o Ddyffryn Conwy. Er bod cloddio am lo yn yr ardal wedi dod i ben, mae llawer o'r hen byllau glo'n dal i fodoli a allai fod yn effeithio ar lwybrau hydrolig o dan, ac ar yr wyneb.

O ganlyniad i newidiadau polisi cenedlaethol, rhanbarthol a lleol, a thystiolaeth newydd, bwriedir diwygio'r Amcan yn y CDLl presennol.

Polisi Cynllunio Cymru (Argraffiad 9) a Drafft (Argraffiad 10)

Nodiadau Cyngor Technegol

Papurau Pwnc

Papurau Cefndir

Amcan Strategol 11 (SO11): Cyfrannu at weithredu'r economi gylchol, rheoli gwastraff gan effeithio cyn lleied ar yr amgylchedd â phosib a sicrhau y gwneir defnydd cynaliadwy o adnoddau naturiol, gan gynnwys ar gyfer cynhyrchu ynni a darparu cyflenwad digonol o fwynau a deunyddiau ar gyfer adeiladu.

Amcanion Cysylltiedig: SO1, 2, 6, 7, 9, 10, 15 ac 16

Yr Amgylchedd a Diwylliant

Tirluniau: Mae holl dirluniau Conwy'n cael eu gwerthfawrogi am eu cyfraniad cynhenid i naws arbennig yr ardal a dylai awdurdodau lleol warchod a gwella eu nodweddion arbennig yn y CDLl Newydd a rhoi sylw dyledus i'r budd cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol y maent yn ei ddarparu, ac i'w rôl mewn creu lleoedd sydd o werth. Mae ystyried tirlun ar ddechrau'r broses o lunio strategaethau a pholisïau ar gyfer cynlluniau datblygu, ac wrth gynnig datblygiadau newydd, yn allweddol i gynnal a gwella eu nodweddion arbennig ac i ddarparu'r budd a'r manteision lles mwyaf i bobl heddiw ac i genedlaethau'r dyfodol yn ogystal â helpu i ddarparu dull effeithiol ac integredig o reoli adnoddau naturiol yn y tymor hir. Bydd angen cydweithredu ag awdurdodau cynllunio cyfagos, Cyfoeth Naturiol Cymru (NRW) a'r trydydd sector er mwyn defnyddio a manteisio ar ystod eang o arbenigedd a thystiolaeth wrth lunio'r CDLl Newydd.

Parc Cenedlaethol Eryri. Wedi'i ddynodi'n Barc Cenedlaethol yn 1951, Parc Cenedlaethol Eryri yw'r parc mwyaf a'r cyntaf i gael ei ddynodi yng Nghymru. Mae'n ymestyn dros 213,200 hectar. Mae Parc Cenedlaethol Eryri'n cynnwys rhannau o Wynedd a rhannau o ardal CCBC, gan gynnwys aneddiadau sydd yn y ddwy Sir. Dylai'r CDLl Newydd ddarparu lefel briodol o warchodaeth.

Mae Conwy wedi dynodi chwe Ardal Tirwedd Arbennig ar lefel leol. Dylai'r CDLl Newydd ddarparu lefel briodol o gyfleoedd i warchod a gwella tirluniau (neu dirweddau) sydd wedi eu dynodi ar lefel leol.

Polisi Cynllunio Cymru (Argraffiad 9) a Drafft (Argraffiad 10)

Nodiadau Cyngor Technegol

Papurau Pwnc

Papurau Cefndir

Amcan Strategol 12 (SO12): Gwarchod a gwella asedau naturiol, diwylliannol a threftadaeth ansawdd uchel Conwy.

Amcanion Cysylltiedig: Pob Amcan

Ardaloedd Arfordirol: Mae'r cyswllt rhwng y tir a'r môr yn creu nodweddion unigryw sy'n gysylltiedig ag ardaloedd arfordirol. Yn ogystal â chyfleoedd, mae'r nodweddion hyn yn cyflwyno eu cyfres eu hunain o heriau sy'n gofyn am ystyriaethau ac ymatebion penodol. Bydd adnabod a deall y nodweddion unigryw hyn, eu perthynas a'u cyswllt â'i gilydd, yn helpu i sicrhau dulliau cynllunio mewn ardaloedd arfordirol sy'n economaidd ac amgylcheddol gynaliadwy, sy'n gymdeithasol deg a chydlynus ac sy'n cydnabod y bygythiad a gyflwynir gan y newid yn yr hinsawdd. Mae Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru'n cael ei ddatblygu i wneud y mwyaf o'r cyfleoedd i ddatblygu moroedd Cymru'n gynaliadwy. Er nad yw wedi'i fabwysiadu, bydd angen i'r CDLl Newydd ystyried y materion polisi sy'n berthnasol i Gonwy.

Gallai pwysau oddi wrth ddatblygu ar y lan gynnwys datblygiadau mawr ar yr arfordir, gwaith porthladd a harbwr, cyfleusterau hamdden, cynhyrchu ynni adnewyddadwy neu amddiffynfeydd arfordirol. Gallai'r pwysau oddi wrth ddatblygu ar y môr gynnwys gwaredu gwastraff, pysgota môr, mwy o hwylio hamdden, carthu sianeli mordwyo, chwaraeon dŵr ac ymdrochi, cloddio am agregau morol neu gynhyrchu ynni llanw a thonnau. Gall yr effeithiau sy'n gysylltiedig â'r gweithgareddau hyn fod yn eang ac ymwneud efallai â defnydd amhriodol o dir, pwysau oddi wrth wasanaethau a chyfleusterau ynghyd ag effeithiau ar fusnesau a chyflogaeth yn ogystal ag ar gymeriad naturiol a hanesyddol yr arfordir.

Mae'r newid yn yr hinsawdd hefyd yn ychwanegu i'r heriau a wynebir gan ardaloedd arfordirol gan arwain at golli cynefinoedd gwarchodedig neu golli nodweddion sy'n amddiffyn y tir rhag y môr, fel twyni tywod, ynghyd â'r effeithiau ar draethau hamdden, pobl ac eiddo yn ysgil hynny. Mae 'Astudiaeth o Botensial Datblygu Dwyrain y Fwrdeistref Sirol' hefyd ar y gweill i benderfynu pa gyfleoedd a allai gynorthwyo adfywio.

Mae arfordir Conwy'n gartref i 85% o'r boblogaeth a lleolir yr ardaloedd trefol mwy poblog i gyd ar hyd coridor arfordirol yr A55. Mae gan yr ardal lefel uchel o bwysau oddi wrth ddatblygu ac mae angen adfywio ardaloedd fel Pensarn, Towyn a Bae Cinmel lle mae effeithiau andwyol o beryglon llifogydd yn her sylweddol. Mae twristiaeth yn sector allweddol i nifer fawr o'r cymunedau hyn, er bod hyn yn dymhorol yn y rhan fwyaf ohonynt. Mae Strategaeth Twf Economaidd Conwy hefyd yn hyrwyddo Morlyn Ynni Llanw newydd. Bydd angen i'r CDLl Newydd sefydlu'n glir beth y mae'r arfordir yn ei olygu i Gonwy, a datblygu neu ddefnyddio polisïau penodol sy'n adlewyrchu nodweddion yr arfordir. Drwy wneud hynny, dylai'r CDLl Newydd gydnabod y cyswllt a'r berthynas rhwng nodweddion ffisegol, defnydd tir a biolegol yr ardaloedd arfordirol ac effeithiau'r newid yn yr hinsawdd.

Mae'r CDLl presennol eisoes yn cynnwys polisi ar Ardaloedd Arfordirol, felly Amcan arfaethedig newydd yw hwn.

Polisi Cynllunio Cymru

Nodiadau Cyngor Technegol

Papurau Pwnc

Papurau Cefndir

Amcan Strategol 13 (SO13): Cefnogi cyfleoedd twf, adfywio a datblygu mewn Ardaloedd Arfordirol ond, ar yr un pryd, bod yn ymwybodol ac ymatebol i'r heriau sy'n dod oddi wrth bwysau naturiol.

Amcanion Cysylltiedig: Pob Amcan

Yr Amgylchedd Hanesyddol: Mae asedau hanesyddol yn chwarae rôl bwysig mewn twristiaeth, buddsoddi a chymunedau a dylid eu gwarchod a'u gwella drwy'r CDLl Newydd. Mae amgylchedd hanesyddol yn cynnwys yr holl elfennau ffisegol a oroesodd o weithgarwch dyn ac yn dangos sut y mae cenedlaethau'r gorffennol wedi dylanwadu ar olwg a ffurf y byd o'n cwmpas. Mae'n ganolog i ddiwylliant a chymeriad Conwy ac yn cyfrannu at hunaniaeth a naws arbennig yr ardal. Mae'n gwella ansawdd bywyd, yn ychwanegu at gymeriad unigryw rhanbarthol a lleol yr ardal ac yn ased economaidd a chymdeithasol pwysig.

Mae Castell Conwy wedi'i ddynodi'n Safle Treftadaeth Byd. Ym marn UNESCO, Castell Conwy yw un o'r enghreifftiau mwyaf godidog yn Ewrop o bensaernïaeth filwrol diwedd yr 13eg ganrif a dechrau'r 14eg ganrif

Mae ardal CCBC yn cynnwys 162 o Henebion Cofrestredig, 1735 o Adeiladau Rhestredig ac o'r rhain mae 29 yn rhai Gradd I, 1610 yn rhai Gradd 2 a 96 yn rhai Gradd 2*, a 24 o Ardaloedd Cadwraeth. Rhaid i'r CDLl Newydd gefnogi ymdrechion i warchod a gwella ein holl asedau treftadaeth dynodedig cenedlaethol, gan gynnwys eu gosodiad. Mae'r asedau treftadaeth hyn yn mwynhau gwarchodaeth statudol sy'n rhaid ei ystyried yng nghyswllt polisïau, cynigion a chanllawiau'r CDLl Newydd.

Mae ardal CCBC yn gartref i ystod o asedau treftadaeth dynodedig a rhaid eu hamddiffyn i gyd yn briodol rhag effeithiau ar eu cyfanrwydd a'u gosodiad. Dylid gwarchod, amddiffyn a hyrwyddo eu cyfraniad i ardal CCBC, ac yn enwedig i dref Conwy ei hun (tref treftadaeth byd), er mwyn annog twristiaeth yn yr ardal.

Daearegol: Mae ardal CCBC yn cynnwys 12 safle SoDdGA a ddynodwyd am resymau o bwysigrwydd daearegol. Rhaid i'r CDLl Newydd gefnogi'r gwaith o reoli pob safle dynodedig cenedlaethol i gynnal neu wella eu cyflwr presennol.

Polisi Cynllunio Cymru (Argraffiad 9) a Drafft (Argraffiad 10)

Nodiadau Cyngor Technegol

Papurau Pwnc

Papurau Cefndir

Amcan Strategol 12 (SO12): Gwarchod a gwella asedau naturiol, diwylliannol a threftadaeth ansawdd uchel Conwy.

Amcanion Cysylltiedig: Pob Amcan

Seilwaith Gwyrdd a Bioamrywiaeth

Seilwaith Gwyrdd: Seilwaith gwyrdd yw'r rhwydwaith o nodweddion naturiol a lled-naturiol, mannau gwyrdd, afonydd a llynnoedd sy'n rhedeg drwy ac yn cysylltu lleoedd. Gall yr elfennau cyfansawdd o seilwaith gwyrdd weithredu ar wahanol lefelau. Ar lefel tirlun, gall seilwaith gwyrdd gynnwys ecosystemau cyfan fel gwlypdiroedd, dyfrffyrdd a chadwyni mynyddoedd. Ar lefel leol, gallai gynnwys parciau, caeau, hawliau tramwy cyhoeddus, gerddi, rhandiroedd a mynwentydd. Ar lefelau llai, gall nodweddion trefol unigol fel coed stryd, gwrychoedd, ymylon y ffyrdd a thoeau gwyrdd i gyd gyfrannu at rwydweithiau o seilwaith gwyrdd.

Mae Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 yn sbardun cryf i ddarparu seilwaith gwyrdd aml-weithredol. Gall darparu seilwaith gwyrdd wneud cyfraniad sylweddol i reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy, ac yn enwedig i gynnal a gwella bioamrywiaeth a gwydnwch ecosystemau o ran yr amrywiaeth rhwng ac oddi mewn i ecosystemau a hefyd i ehangder, cyflwr a'r cysylltedd rhwng ecosystemau a sut y medrant ymdopi gyda, ac adfer o ddigwyddiadau annisgwyl. Mae hyn yn golygu bod datblygu seilwaith gwyrdd yn ffordd bwysig i awdurdodau lleol gyflawni eu dyletswydd adran 6 drwy'r CDLl Newydd.

Mae Asesiad Seilwaith Gwyrdd Conwy ar y gweill i oleuo'r gwaith o gynhyrchu'r CDLl Newydd ac i ddatblygu dull cadarn o lunio cynigion i wella bioamrywiaeth, cynyddu gwydnwch ecolegol a gwella canlyniadau lles. Bydd yr Asesiad yn adnabod cyfleoedd strategol allweddol lle gallai adfer, cynnal, creu neu gysylltu nodweddion gwyrdd a'u swyddogaethau ddarparu'r manteision gorau yng Nghonwy.

Bioamrywiaeth: Bydd angen i'r CDLl Newydd sicrhau ei fod yn dilyn dull graddol fesul cam o warchod a gwella bioamrywiaeth a chreu rhwydweithiau ecolegol gwydn drwy sicrhau bod unrhyw effeithiau andwyol i'r amgylchedd yn cael eu lleihau a'u lliniaru.

Mae Conwy yn cynnwys tair Ardal Tirwedd Arbennig (SPA), wyth Ardal Cadwraeth Arbennig (SAC) ac un Safle Ramsar. Mae angen cefnogi'r gwaith o reoli'r holl safleoedd gyda dynodiadau rhyngwladol (gan gynnwys Safleoedd Ewropeaidd newydd posib neu arfaethedig) yn unol â'r amcanion cadwraeth a ddiffiniwyd ar eu cyfer.

Mae gan Gonwy 43 Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) a chwe Gwarchodfa Natur Genedlaethol (NNR). Rhaid i'r CDLl Newydd gefnogi'r gwaith o reoli safleoedd gyda dynodiadau cenedlaethol yn unol â'r amcanion cadwraeth a ddiffiniwyd ar eu cyfer.

Mae Conwy wedi dynodi dros 40 o Ardaloedd Cadwraeth ar dir y mae'r Cyngor yn berchen arno neu'n ei reoli, a 11 Gwarchodfa Natur Leol. Dylai'r CDLl Newydd ddarparu lefel briodol o gyfleoedd i warchod a gwella safleoedd bioamrywiaeth a ddynodwyd ar lefel leol.

Gallai unrhyw gynnig i ddatblygu yn ardal CCBC gael effaith andwyol ar safleoedd dynodedig a bioamrywiaeth drwy ystod o wahanol effeithiau union ac anuniongyrchol, gan gynnwys rhai fel colli cynefinoedd clwydo, fforio a chynefinoedd eraill, achosi aflonyddwch sŵn neu gorfforol, drwy dynnu dŵr o afonydd, gollwng elifion carthion, halogi a llygru'r aer. Gan hynny, rhaid i bob cynnig a pholisi yn y CDLl Newydd ystyried ffactorau ecolegol sensitif perthnasol. Mae hyn yn cynnwys y bydd angen cefnogi'r gwaith o reoli'r holl safleoedd dynodedig o ran eu statws ac yn unol â chwrdd â'u hamcanion cadwraeth. Rhaid i'r CDLl Newydd hefyd ddarparu lefel briodol o warchodaeth i rywogaethau gwarchodedig a buddiannau ecolegol heb eu dynodi.

Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016

Polisi Cynllunio Cymru (Argraffiad 9) a Drafft (Argraffiad 10)

Nodiadau Cyngor Technegol

Papurau Pwnc

Papurau Cefndir

Amcan Strategol 14 (SO14): Gwarchod a gwella bioamrywiaeth a chreu rhwydweithiau ecolegol gwydn.

Amcanion Cysylltiedig: SO1, 2, 3, 4, 5, 7, 8, 9, 12, 13, 15 ac 16

Dŵr, Aer, Seinwedd a Golau

Aer a Seinwedd: Mae aer glân a seinwedd priodol yn cyfrannu at brofiad cadarnhaol o le, yn ogystal â bod yn angenrheidiol ar gyfer iechyd, amwynder a lles cyhoeddus. Mae'r pethau hyn yn arwydd o ansawdd yr amgylchedd lleol ac yn nodweddion lle annatod y dylid eu gwarchod drwy fesurau ataliol neu ragweithiol y system gynllunio. Dylai'r CDLl Newydd sicrhau ei fod yn cynnwys polisïau i atal effaith a gwneud y mwyaf o'i gyfle i gyfrannu at greu Cymru iachach drwy geisio lleihau faint y mae pobl yn dod i gysylltiad ar gyfartaledd â llygredd aer a sŵn, ochr yn ochr â mesurau i fynd i'r afael ag ardaloedd o lygredd uchel. Drwy wneud hyn bydd yr egwyddor 'cyfrwng newid' yn ystyriaeth berthnasol.

Yn ôl y data diweddaraf, nid yw safonau ansawdd yr aer yn ardal CCBC mewn perygl o fynd dros y safonau a nodir yn Amcanion Ansawdd Aer yr Undeb Ewropeaidd ac nid oes angen unrhyw asesiadau manwl na chynlluniau rheoli ar lefel Cyngor ar gyfer unrhyw lygredd. Bydd angen parhau i fonitro ansawdd yr aer yn CCBC, yn enwedig ffordd ddeuol yr A55 oherwydd hon yw'r brif gefnffordd rhwng Gogledd-Orllewin Lloegr a phorthladd Caergybi, gan gynnwys twnnel Conwy ar hyd yr A55 a'r A470 wrth iddi fynd i gyfeiriad Eryri. Dylid parhau i fonitro traffig ychwanegol ar y ffyrdd hyn sy'n deillio o ddatblygiadau newydd.

Dylai'r CDLl Newydd hefyd adnabod ardaloedd o bwysigrwydd diwylliannol neu hanesyddol er enghraifft, y dylid rhoi ystyriaeth arbennig iddynt o ran seinwedd lle gallai fod angen gwneud hyn i ddiogelu bywiogrwydd lle neu i ddarparu amgylchedd heddychlon ac adferol mewn ardaloedd adeiledig prysur. Yn ogystal â hyn, bydd yn anhepgor adnabod synergedd rhwng mapio seilwaith gwyrdd a'r effaith gymedroli y gallai gwarchod neu ddarparu seilwaith gwyrdd ei chael ar gynnal ansawdd aer da a seinwedd priodol, gan gynnwys rôl mannau gwyrdd tawel. Dylai'r CDLl Newydd hefyd gyflwyno polisïau, cynigion a chanllawiau i fynd i'r afael ag ardaloedd lle mae ansawdd yr aer yn wael, a hefyd ag effeithiau tebygol datblygiadau newydd ar ansawdd yr aer, gan gynnwys o draffig. Dylai hefyd geisio lleihau llygredd aer lleol drwy gyflwyno polisïau a chynigion i hyrwyddo dulliau cynaliadwy ac egnïol o deithio.

Golau: Mae angen cydbwyso darparu goleuadau i gadw pobl ac eiddo'n ddiogel er mwyn helpu i atal troseddu, a gallu cynnal gweithgareddau fel chwaraeon a hamdden, â'r angen i warchod yr amgylchedd naturiol a hanesyddol gan gynnwys bywyd gwyllt; cadw ein hawyr yn dywyll lle bo hynny'n briodol; atal golau tanbaid a pharchu amwynder defnyddiau tir cyfagos ynghyd â lleihau'r allyriadau carbon sy'n gysylltiedig â goleuadau. Bydd hefyd angen i'r CDLl Newydd ystyried y Gwarchodfeydd Awyr Dywyll ym Mharc Cenedlaethol Eryri.

Cyrff dŵr yng Nghonwy: Mae ardal CCBC yn gorwedd o fewn Ardal Basn Afon Gorllewin Cymru. Mae'r ardal yn cynnwys 25 o gyrff dŵr daear, gyda statws 60% ohonynt wedi ei ddisgrifio i fod yn dda'n gyffredinol yn 2015 (yn feintiol a chemegol). Ar draws Gorllewin Cymru, mae gwaith mwyngloddio hanesyddol yn parhau i fygwth ansawdd dŵr - sy'n agored i gael ei halogi gan lygredd o nitradau. Mae cyrff dŵr ar draws ardal CCBC yn amrywio o ran ansawdd, gwerth ecolegol a chyflwr presennol. Mae rheoli ansawdd dŵr yn hanfodol i wella iechyd hirdymor pobl a'r amgylchedd. Mae 63 o gyrff dŵr a naw o lynnoedd ar draws dalgylch Conwy a Chlwyd. O'r rhain mae 16 o afonydd ac wyth o'r llynnoedd yn artiffisial neu wedi cael eu haddasu'n drwm.

Bydd angen i'r CDLl Newydd gyflwyno polisïau, cynigion a chanllawiau i warchod a gwella'r amgylchedd dŵr ac adnoddau dŵr, gan gynnwys dŵr wyneb a dŵr daear, o ran ei ansawdd a faint sydd ohono. Dylai hyn gynnwys mesurau i ddileu ffynonellau sy'n halogi dŵr ac yn gwneud drwg i'r amgylchedd dŵr, ac i reoleiddio gollwng llygredd o ddatblygiadau newydd i mewn i gyrsiau dŵr.

Nid yw'r CDLl presennol yn cynnwys Amcan sy'n ymdrin â'r materion gofynnol hyn, felly Amcan a gynigir o'r newydd ydyw.

Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016

Polisi Cynllunio Cymru

Nodiadau Cyngor Technegol

Papurau Pwnc

Papurau Cefndir

Amcan Strategol 15 (SO15): Lleihau faint y mae pobl a phethau'n dod i gysylltiad â llygredd aer a sŵn, cydbwyso darparu datblygu a goleuadau i gadw pobl ac eiddo'n ddiogel â gwarchod a gwella'r amgylchedd dŵr ac adnoddau dŵr, gan gynnwys dŵr wyneb a dŵr daear, o ran eu hansawdd a faint sydd ohonynt.

Amcanion Cysylltiedig: Pob Amcan

Datgloi Potensial Datblygu drwy Ddadrisgio: Mae amrywiol gyfyngiadau'n bodoli yng Nghonwy fydd yn effeithiau ar sut y bydd rhai cymunedau'n gallu hybu lles a chwrdd ag anghenion datblygu. Mae'r rhain yn cynnwys risg neu berygl llifogydd, topograffi, y tirlun naturiol a hanesyddol a phriffyrdd. Mae deall y rhwystrau i ddatgloi potensial lleoedd, gan gynnwys trawsnewid neu adfywio ardal neu ddatblygiad un safle, yn rhan allweddol o greu lleoedd cynaliadwy a rhaid eu hystyried wrth ddatblygu'r CDLl Newydd.

Mae'r newid yn yr hinsawdd yn debygol o waethygu'r perygl llifogydd wrth i lefel y môr godi ac wrth i ni weld mwy o law trwm. Mae llifogydd fel perygl yn golygu bod angen ystyried y canlyniadau posib yn ogystal â pha mor debygol yw llifogydd o ddigwydd. Dylai'r CDLl Newydd fabwysiadu dull rhagofalus o gymell pobl yn gadarnhaol i osgoi datblygu mewn ardaloedd sy'n profi llifogydd o'r môr neu o afonydd.

Mae rhannau helaeth o'r Fwrdeistref Sirol yn wynebu perygl llifogydd, yn enwedig Llandudno a'r aneddiadau i'r dwyrain o'r Fwrdeistref Sirol. Ar hyn o bryd mae'r Cyngor yn adolygu'r perygl llifogydd a'r amddiffynfeydd yn y Dwyrain gan ddisgwyl gallu cynorthwyo adfywio a datblygu i gwrdd ag anghenion cymunedau. Bydd y gwaith hwn yn goleuo'r CDLl Newydd ymhellach wrth iddo ddatblygu.

Fel rhan o ddatblygu'r CDLl Newydd, mae angen hwyluso dull o ddadrisgio lle mae peryglon naturiol a pheryglon a grewyd gan ddyn ar yr wyneb ac o dan yr wyneb, a pheryglon amgylcheddol, yn cael eu hystyried fel rhan annatod o geisio deall nodweddion lleoedd yn well Mae hyn yn golygu mai rôl awdurdodau cynllunio yw hwyluso ymwybyddiaeth o beryglon a risgiau amgylcheddol ac adnabod cyfleoedd creadigol ar gyfer creu lleoedd.

Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016

Polisi Cynllunio Cymru

Nodiadau Cyngor Technegol

Papurau Pwnc

Papurau Cefndir

Amcan Strategol 16 (SO16): Datgloi potensial twf, adfywio a datblygu yng Nghonwy drwy ymarfer dull o ddadrisgio.

Amcanion Cysylltiedig: SO1, 2, 3, 4, 5, 6, 7, 8, 9, 10, 11, 13 ac 14

5.3 Ar ôl ystyried y materion a'r problemau allweddol, cynigir 16 o Amcanion a restrir yn Nhabl 3 isod.

Tabl 3: Amcanion Arfaethedig

Creu lleoedd

Amcan Strategol 1 (SO1) Creu Lleoedd Cynaliadwy yng Nghonwy: Cyfrannu at greu lleoedd cynaliadwy, cynhwysiant cymdeithasol ac at wella lles yn gyffredinol yng Nghonwy drwy ddarparu proses gynhwysol o greu ac adfywio lleoedd sy'n sicrhau twf yn y dyfodol a bod datblygu'n digwydd mewn lleoliadau cynaliadwy a hygyrch, sy'n ceisio hyrwyddo dyluniad da a lleoedd iachach, sy'n gwarchod yr iaith Gymraeg ac sydd wedi'i chefnogi gan y seilwaith cymdeithasol, amgylcheddol, diwylliannol ac economaidd angenrheidiol i greu lleoedd rhagorol.

Cymdeithasol

Amcan Strategol 2 (SO2) Tai: Hyrwyddo strategaeth holistig ar gyfer cyd-leoli twf tai a chyflogaeth drwy ddarparu cartrefi newydd, gan gynnwys tai fforddiadwy a safleoedd ar gyfer sipsiwn a theithiwr, mewn lleoliadau cynaliadwy a hygyrch a sicrhau bod y mathau a'r ystod iawn o dai o ran math, maint a deiliadaeth yn cael eu datblygu ochr yn ochr â'r seilwaith cymunedol angenrheidiol.

Amcan Strategol 3 (SO3) Canolfannau Manwerthu a Masnachol: Darparu canolfannau tref a masnachol deniadol a hyfyw yng Nghonwy drwy ail-ddiffinio eu rôl ac annog amrywiaeth o weithgareddau a defnyddiau.

Amcan Strategol 4 (SO4) Cyfleusterau Cymunedol: Cyfrannu at naws lle ac at iechyd, lles ac amwynder cymunedau lleol drwy sicrhau bod gan y boblogaeth bresennol, a'r boblogaeth yn y dyfodol, fynediad at gymysgedd cynaliadwy o gyfleusterau cymunedol.

Amcan Strategol 5 (SO5) Ardaloedd Hamdden: Annog lles meddwl a chorfforol drwy ddarparu a diogelu rhwydweithiau o ardaloedd hamdden a mannau gwyrdd hygyrch o ansawdd uchel.

Amcan Strategol 6 (SO6) Trafnidiaeth: Darparu datblygu cynaliadwy a cheisio mynd i'r afael ag achosion y newid yn yr hinsawdd drwy ehangu'r dewis o drafnidiaeth gynaliadwy er mwyn rhoi mynediad at swyddi a gwasanaethau allweddol i gymunedau Conwy, drwy hybu rhwydwaith o lwybrau byrrach, mwy llesol ac effeithlon ar gyfer cerdded, beicio a defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus a thrwy ddylanwadu ar leoliad, maint, dwysedd, cymysgedd defnyddiau a dyluniad datblygiadau newydd.

Yr Economi

Amcan Strategol 7 (SO7) Datblygu Economaidd: Cefnogi ffyniant economaidd hirdymor, arallgyfeirio ac adfywio drwy fanteisio ar sefyllfa strategol Conwy yn y fargen dwf ranbarthol ehangach a thrwy hyrwyddo strategaeth holistig sy'n cyd-leoli twf cyflogaeth a thwf tai, fydd yn hwyluso twf swyddi newydd o'r math iawn mewn lleoliadau cynaliadwy a hygyrch, yn cefnogi clystyrau a rhwydweithiau o fusnesau, yn cynyddu sgiliau mewn swyddi gwerth uchel ac yn darparu'r seilwaith newydd angenrheidiol. Bydd hyn yn hwyluso lleoli busnesau newydd yng Nghonwy a thwf y busnesau presennol.

Amcan Strategol 8 (SO8) Twristiaeth: Annog a chefnogi twristiaeth gynaliadwy lle mae'n cyfrannu at ffyniant a datblygiad yr economi ac at gadwraeth, arallgyfeirio gwledig, adfywio a chynhwysiant cymdeithasol ond yn cydnabod anghenion ymwelwyr, busnesau a chymunedau lleol a bod angen gwarchod yr amgylchedd hanesyddol a naturiol.

Amcan Strategol 9 (S09) Yr Economi Wledig: Hyrwyddo a chefnogi cymunedau gwledig cynaliadwy a bywiog drwy sefydlu mentrau newydd, ehangu busnesau presennol a mabwysiadu dull adeiladol tuag at amaeth ac arferion ffermio newydd.

Amcan Strategol 10 (SO10) Ynni a'r Newid yn yr Hinsawdd: Sicrhau cymysgedd priodol o ynni, gan gynnwys hyrwyddo Morlyn Ynni Llanw, sy'n cynnig y manteision gorau i economi a chymunedau Conwy ond yn lleihau unrhyw effeithiau amgylcheddol a chymdeithasol negyddol.

Amcan Strategol 11 (SO11) Mwynau a Gwastraff: Cyfrannu at weithredu'r economi gylchol, rheoli gwastraff gan effeithio cyn lleied ar yr amgylchedd â phosib a sicrhau y gwneir defnydd cynaliadwy o adnoddau naturiol, gan gynnwys ar gyfer cynhyrchu ynni a darparu cyflenwad digonol o fwynau a deunyddiau ar gyfer adeiladu.

Yr Amgylchedd a Diwylliant

Amcan Strategol 12 (SO12) Tirluniau a'r Amgylchedd Hanesyddol: Gwarchod a gwella asedau naturiol, diwylliannol a threftadaeth ansawdd uchel Conwy.

Amcan Strategol 13 (SO13) Ardaloedd Arfordirol: Cefnogi cyfleoedd twf, adfywio a datblygu mewn Ardaloedd Arfordirol ond, ar yr un pryd, bod yn ymwybodol ac ymatebol i'r heriau sy'n dod oddi wrth bwysau naturiol.

Amcan Strategol 14 (SO14) Seilwaith Gwyrdd a Bioamrywiaeth: Gwarchod a gwella bioamrywiaeth a chreu rhwydweithiau ecolegol gwydn.

Amcan Strategol 15 (SO15) Dŵr, Aer, Seinwedd a Golau: Lleihau faint y mae pobl a phethau'n dod i gysylltiad â llygredd aer a sŵn, cydbwyso darparu datblygu a goleuadau i gadw pobl ac eiddo'n ddiogel â gwarchod a gwella'r amgylchedd dŵr ac adnoddau dŵr, gan gynnwys dŵr wyneb a dŵr daear, o ran eu hansawdd a faint sydd ohonynt.

Amcan Strategol 16 (SO16) Datgloi Potensial Datblygu drwy Ddadrisgio: Datgloi potensial twf, adfywio a datblygu yng Nghonwy drwy ymarfer dull o ddadrisgio.

5.4 Mae hefyd angen i amcanion y CDLl fod yn gyson â'i gilydd. Felly mae'n syniad da profi pa mor gydnaws yw'r amcanion drwy ddefnyddio dull matrics.Bydd hyn yn helpu i dynnu sylw at yr amcanion pwysicaf ac unrhyw densiynau rhyngddynt na ellir eu datrys fel bod unrhyw benderfyniadau a wneir ar flaenoriaethau wedi eu seilio'n dda ac er mwyn gallu ystyried opsiynau eraill a mesurau lliniaru.Mae'r gwaith hwn wedi'i wneud yn y Papurau Cefndir a'r Adroddiad SA.

(11) Cwestiwn 4: Ydych chi'n cytuno â'r amcanion?

(7) Cwestiwn 5: A ddylid ystyried unrhyw amcanion eraill?

Am gyfarwyddiadau ar sut I ddefnyddio’r system ac I wneud sylwadau, gwelwch ein canllaw cymorth.
back to top Yn ôl i’r brig