Papur 1: Materion Blaenoriaeth, Gweledigaeth ac Amcanion

Daeth i ben ar 25 Ionawr 2019
Am gyfarwyddiadau ar sut I ddefnyddio’r system ac I wneud sylwadau, gwelwch ein canllaw cymorth.

Y prif ffactorau i'w hystyried wrth Gynllunio, Creu Lleoedd a chreu Cymunedau Cynaliadwy

2.1 Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi penderfynu fod angen adolygu'r CDLl presennol (mabwysiadwyd Hydref 2013) er mwyn gallu paratoi CDLl Newydd a'i fabwysiadu cyn i'r CDLl presennol ddod i ben yn 2022.Ystyrir bod angen CDLl Newydd er mwyn ystyried amrediad o Ddeddfau, fframweithiau polisi, rhaglenni, tystiolaeth a materion gofodol newydd ar lefel genedlaethol, ranbarthol a lleol ers mabwysiadu'r CDLl presennol.Mae'r rhan yma o'r Papur yn eich cyflwyno i'r prif ffactorau sy'n effeithio ar greu cymunedau cynaliadwy ac, yn y pen draw, ar baratoi CDLl Newydd Conwy. Mae'n manylu ar ddeddfwriaeth newydd bwysig a basiwyd ers mabwysiadu'r CDLl presennol. Mewn ymateb i'r ddeddfwriaeth newydd hon, ynghyd ag asesiad o'r dystiolaeth, mae'r adran yma'n cynnig strwythur newydd ar gyfer y CDLl Newydd. Mae hefyd yn tynnu sylw at y dulliau o asesu'r CDLl Newydd i sicrhau bod lleoedd cynaliadwy'n cael eu creu. Byddem yn hoffi clywed eich barn am hyn cyn symud ymlaen at 'Weledigaeth ac Amcanion' y CDLl Newydd nes ymlaen yn y Papur hwn.Mae llawer iawn o wybodaeth i'w hystyried, ond credir bod hynny'n hanfodol i ddeall y strwythur a'r cyfeiriad sydd mewn golwg ar gyfer y CDLl Newydd.

2.2 Cynllunio a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol 2015
Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 (Deddf LlCD) yn rhoi dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i ddatblygu'n gynaliadwy wrth baratoi Cynlluniau Datblygu Lleol. Mae Deddf LlCD yn cyflwyno saith nod llesiant (Diagram 1) y mae'n rhaid i CDLl Newydd Conwy weithio tuag atynt. Nid yw'r cysyniad o ddatblygu cynaliadwy'n un newydd i'r system gynllunio oherwydd mae egwyddorion datblygu cynaliadwy wedi bod wrth galon polisïau cynllunio ers tro byd. Fodd bynnag, mae'r cysyniad wedi'i ehangu o dan Ddeddf LlCD ac felly rhaid ei ystyried wrth baratoi'r CDLl Newydd.

2.3 Gyda chyflwyno Deddf LlCD, yn ogystal â Deddf Gynllunio (Cymru) 2015 a Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, mae angen ystyried ailstrwythuro'r cynnwys a'r prosesau asesu sy'n rhan o'r CDLl mabwysiedig fel bo'r cynllun yn ystyried y gofynion deddfwriaethol hyn.

Diagram 1: Saith nod llesiant Deddf LlCD

diagram%201%20cymraeg

2.4 Mae Deddf LlCD hefyd yn sefydlu'r 'Pum Ffordd o Weithio' y mae angen i gyrff cyhoeddus ddangos eu bod yn eu gweithredu wrth gyflawni eu dyletswydd datblygu cynaliadwy ac wrth baratoi'r CDLl Newydd.Mae ystyried y ffyrdd hyn o weithio'n rhan annatod o'r system gynllunio.Bydd angen i Gonwy egluro sut y bydd yn gweithredu fel hyn wrth ddatblygu a darparu'r CDLl Newydd. Y pum ffordd o weithio yw 'Tymor Hir', 'Atal', 'Integreiddio', 'Cydweithredu' a 'Cynnwys'.

2.5 Wrth ystyried sut y gall y Pum Ffordd o Weithio drosi'n benodol i'r system gynllunio yng Nghymru, mae Llywodraeth Cymru wedi adnabod pum 'Egwyddor Gynllunio' allweddol (Diagram 2) fel man cychwyn ar gyfer paratoi'r CDLl Newydd. Mae Diagram 2 yn dangos yn glir sut y mae'r pum egwyddor gynllunio allweddol yn cysylltu i'r 'Ffyrdd o Weithio' yn Neddf LlCD. Wrth baratoi'r CDLl Newydd yn erbyn yr egwyddorion hyn, bydd modd i'r nodau a'r ffyrdd o weithio a ddisgrifir yn Neddf LlCD a Deddf yr Amgylchedd gael eu gwireddu drwy gynhyrchu'r CDLl Newydd.Mae'r egwyddorion yn rhoi'r cyd-destun ac yn gatalydd ar gyfer darparu'r system gynllunio'n gadarnhaol drwy Gymru. Bydd yr egwyddorion hyn yn cael eu hystyried ymhellach yn SA/SEA Conwy ac yn gweithredu fel man cychwyn i oleuo tystiolaeth, gweledigaeth, amcanion, polisïau, dyrannu tir ac i fonitro'r CDLl Newydd yn y dyfodol.

Diagram 2: Pum Egwyddor Gynllunio Allweddol Llywodraeth Cymru

diagram%202%20cymraeg

2.6 Creu Lleoedd Cynaliadwy yng Nghymru drwy 'Greu Lleoedd'
Mae Creu Lleoedd Cynaliadwy'n un o brif nodau'r system o gynllunio defnydd tir yng Nghymru; dyma allbwn y broses gynllunio. Dylai bob penderfyniad datblygu, naill ai drwy gynhyrchu'r CDLl Newydd neu drwy benderfyniadau rheoli datblygu unigol, geisio cyfrannu at greu Lleoedd Cynaliadwy yng Nghonwy.

2.7 Bydd y pethau sy'n gwneud lle'n gynaliadwy yng Nghonwy'n amrywio o un lle i'r llall.Bydd gan bob man neu le ei nodweddion, hanes a hunaniaeth unigryw ei hun, ar sail sut y mae a sut y bydd pobl yn rhyngweithio â fo, gan ei wneud yn unigryw.Mae'r 'naws lle' hwn yn amrywio, o berfeddion cefn gwlad sy'n creu sylfaen economaidd ac amgylcheddol fel bod amaeth a thwristiaeth yn gallu ffynnu, i ardaloedd trefol y gellir eu hadnewyddu drwy adfywio a newid.

2.8 Mae creu lleoedd cynaliadwy'n broses gynhwysol, gan gynnwys pawb sydd â diddordeb proffesiynol neu bersonol yn yr amgylchedd adeiledig a naturiol, ac yn canolbwyntio ar ddatblygu cynlluniau, gwneud penderfyniadau a chyflwyno datblygiadau sy'n cyfrannu at greu a gwneud lleoedd cynaliadwy'n well.

2.9 Mae creu lleoedd wrth wneud penderfyniadau datblygu'n digwydd ar bob lefel ac yn cynnwys ystyried pethau ar lefel fyd-eang, gan gynnwys y newid yn yr hinsawdd, i lawr i'r lefel leol fel ystyried yr effaith ar amwynder pobl ac eiddo cyfagos. Mae'r system gynllunio a chynhyrchu CDLl Newydd Conwy'n gyfrwng rheoli allweddol i ddarparu Lleoedd Cynaliadwy yng Nghonwy. Mae'n cynnig dull creiddiol lle mae cyfleoedd i ennill budd hirdymor a gwneud penderfyniadau integredig yn cwrdd er mwyn gallu canfod atebion ataliol a rhagweithiol.

2.10 Canlyniadau Cenedlaethol Creu Lleoedd Cynaliadwy
Mae Llywodraeth Cymru wedi datblygu cyfres o Ganlyniadau Cenedlaethol Creu Lleoedd Cynaliadwy (Diagram 3) i helpu i sicrhau bod penderfyniadau datblygu'n cael eu gwneud yn holistig a thrwy ystyried y nodau llesiant mor gynnar yn y broses ddatblygu â phosib pryd y gellir ennill y mwyaf o fudd. Dylai'r canlyniadau hyn, er yn tynnu sylw at nodweddion cynaliadwy'r datblygiad adeiledig terfynol, fod yn fan cychwyn ar gyfer cynigion datblygu ac ar gyfer asesu cyfeiriad priodol y CDLl Newydd. Bydd y canlyniadau hyn yn cael eu hystyried ymhellach yn y SA/SEA ac yn goleuo cyfeiriad y CDLl Newydd.

2.11 Felly, i sicrhau bod CDLl Newydd Conwy'n cyfrannu at saith nod llesiant Deddf LlCD (Diagram 1), yr 'egwyddorion cynllunio' allweddol (Diagram 2) ac yn cyfrannu at Leoedd Cynaliadwy, mae'n hanfodol bod y CDLl Newydd yn ceisio tywys datblygu sy'n ateb y Canlyniadau Cenedlaethol ar Greu Lleoedd Cynaliadwy (Diagram 3).

Diagram 3: Canlyniadau Cenedlaethol Creu Lleoedd Cynaliadwy

diagram%203%20cymraeg

2.12 Polisi Cynllunio Cymru Drafft (Argraffiad 10)
PPW yw dogfen bolisi genedlaethol Llywodraeth Cymru ar gynllunio defnydd tir. Fe'i cyhoeddwyd gyntaf yn 2002 ac ers hynny mae wedi'i ddiweddaru bump o weithiau. Mae PPW wedi'i atodi gan Nodiadau Cyngor Technegol (TAN), Cylchlythyrau a llythyrau gweinidogol. Mae'n rhoi'r cyd-destun polisi ar gyfer Cynlluniau Datblygu Lleol (CDLl) ac yn ystyriaeth berthnasol wrth benderfynu ceisiadau cynllunio ac apeliadau.

2.13 Pan oedd Deddf Gynllunio (Cymru) 2015, Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 a Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 yn cael eu datblygu, ymrwymodd Llywodraeth Cymru i ailstrwythuro PPW yn unol â'r ddeddfwriaeth uchod.Roedd y PPW drafft newydd (Argraffiad 10) hefyd yn ceisio hyrwyddo'r cysyniad o 'greu lleoedd' wrth ddatblygu cynlluniau a gwneud penderfyniadau rheoli datblygu, sy'n ganolog i'r amcanion ehangach yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Ymgynghorwyd ar y PPW drafft (Argraffiad 10) rhwng 12 Chwefror a'r 18 Mai 2018. Er bod Argraffiad newydd y PPW ar ffurf drafft, mae'r Papur 1 hwn yn ei ystyried yn llawn wrth baratoi i ailstrwythuro CDLl Newydd Conwy. Bydd unrhyw newidiadau a wneir i'r PPW terfynol yn cael eu hadlewyrchu yng nghamau diweddarach y gwaith o baratoi CDLl Newydd Conwy.

2.14 O ran strwythur newydd y PPW, mae Llywodraeth Cymru wedi ystyried y prif ffactorau gan fwriadu ail-lunio'r meysydd polisi cynllunio presennol i fod yn unol â'r saith nod llesiant yn Neddf LlCD. Ar ôl edrych ar y nodau a'u mesur yn erbyn y Canlyniadau Cenedlaethol Creu Lleoedd Cynaliadwy, mae'r meysydd polisi wedi eu grwpio o dan bedwar pennawd thematig sef 'Creu Lleoedd', 'Lleoedd Bywiog a Chymdeithasol', 'Lleoedd Cynhyrchiol a Mentrus' a 'Lleoedd Unigryw a Naturiol' sy'n dangos eu perthynas â'i gilydd.Er enghraifft, mae'r bennod ar 'Lleoedd Bywiog a Chymdeithasol' yn cynnwys datganiadau polisi ar dai, manwerthu, cyfleusterau cymunedol, mannau agored a thrafnidiaeth.Mae pob pennod yn nodi'r cysylltiadau rhwng y maes polisi a'r canlyniadau creu lleoedd ac yn cyfeirio at y berthynas gyda'r saith nod llesiant a'r pum ffordd o weithio yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.

2.15 Mae Pennod 2 y PPW drafft yn cyfeirio at 'greu lleoedd' ac mae paragraff 2.1 yn nodi bod "yn rhaid i bawb sy'n ymwneud â, neu'n gweithio yn y system gynllunio yng Nghymru gofleidio'r cysyniad o greu lleoedd wrth ddatblygu cynlluniau a gwneud penderfyniadau rheoli datblygu os am lwyddo i greu lleoedd cynaliadwy".

2.16 Mae Diagram 4 isod yn ceisio dangos y broses y dylid arwain CDLl Newydd Conwy drwyddi i greu lleoedd cynaliadwy yng Nghonwy.

Diagram 4: Canlyniadau Cenedlaethol Creu Lleoedd Cynaliadwy

diagram%204%20cymraeg

Am gyfarwyddiadau ar sut I ddefnyddio’r system ac I wneud sylwadau, gwelwch ein canllaw cymorth.
back to top Yn ôl i’r brig