Papur 1: Materion Blaenoriaeth, Gweledigaeth ac Amcanion

Daeth i ben ar 25 Ionawr 2019
Am gyfarwyddiadau ar sut I ddefnyddio’r system ac I wneud sylwadau, gwelwch ein canllaw cymorth.

Rhagarweiniad

1.1 Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy (y Cyngor) wrthi'n paratoi Cynllun Datblygu Lleol newydd (CDLl Newydd) yn lle'r un blaenorol, ar gyfer y cyfnod 2018-2033. Unwaith y bydd wedi'i fabwysiadu, bydd yn disodli'r cynllun presennol (2007 - 2022). Y CDLl yw cynllun defnydd tir y Cyngor, fydd yn sefydlu ble a faint o ddatblygu o'r newydd sydd i ddigwydd yn y Fwrdeistref Sirol rhwng 2018-2033. Bydd hefyd yn adnabod pa ardaloedd fydd yn cael eu gwarchod rhag datblygu.

1.2 Bydd y CDLl Newydd yn cael ei baratoi'n unol â Chytundeb Darparu mabwysiedig y Cyngor (Ebrill 2018) sy'n cyflwyno'r amserlen a sut y byddwn yn ymgynghori â'r gymuned. Y man cychwyn pennaf gyda chyflawni'r adolygiad yw'r CDLl presennol (2007 - 2022), yr Adroddiadau Monitro Blynyddol a'r Adroddiad Adolygu. Yr ymgynghoriad Cyfranogi Cyn Adneuo hwn ar Faterion ac Opsiynau yw'r cam cyntaf mewn paratoi'r CDLl Newydd ac mae'n cynnwys y dogfennau ymgynghori a ganlyn:
  1. Papur Ymgynghori 1: Materion Blaenoriaeth, Gweledigaeth ac Amcanion (gan gynnwys y bwriad i ailstrwythuro'r CDLl presennol (2007-2022)). Y Papur hwn.
  2. Papur Ymgynghori 2: Opsiynau Dosbarthu Gofodol a Thwf Strategol
  3. Cyfres o Bapurau Pwnc:
  • Tai
  • Economi, Sgiliau a Chyflogaeth
  • Manwerthu
  • Twristiaeth
  • Cyfleusterau Cymunedol
  • Yr Amgylchedd Naturiol
  • Yr Amgylchedd Hanesyddol
  • Trafnidiaeth
  • Ynni Adnewyddadwy
  • Mwynau a Gwastraff
  • Lles, Iechyd a Chydraddoldeb
  • Ardaloedd Hamdden
  1. Adroddiad Cwmpasu ar yr Arfarniad Cynaliadwyedd / Asesiad Amgylcheddol Strategol (SA / SEA).
  2. Papurau Tystiolaeth Cefndir (Atodiad 1)
1.3 Yng ngham hwn proses y CDLl Newydd, mae ffocws yr ymgynghori ar gyfranogi a thrafod gyda'r budd-ddeiliaid allweddol a nodir yng Nghytundeb Darparu'r CDLl Newydd. Nid yw'n statudol ofynnol i'r Cyngor ymgynghori gyda'r cyhoedd ar hyn o bryd. Bydd hynny'n digwydd yng ngham nesa'r broses pan fyddwn yn ymgynghori ar Strategaeth a Ffafrir y CDLl Newydd. Fodd bynnag, cyn gwneud dim byd arall, mae cael y budd-ddeiliaid allweddol o gwmpas y bwrdd i drafod y dystiolaeth a'r opsiynau strategol, y strategaeth a ffafrir a chynigion cysylltiedig, yn allweddol i greu consensws.
Mae'r Papur 1 hwn ar Faterion Blaenoriaeth, Gweledigaeth ac Amcanion yn rhan o gyfres o ddogfennau i oleuo camau cyntaf y gwaith o baratoi'r CDLl Newydd. Mae'r Papur hwn yn holi eich barn gychwynnol am y tri chynnig canlynol:
Cynnig 1: Strwythur y CDLl Newydd
Mae'r Papur hwn yn holi eich barn am Strwythur y CDLl Newydd. Rhaid gwneud hyn er mwyn ystyried Deddf Gynllunio (Cymru), Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) a Deddf yr Amgylchedd (Cymru). Rhaid hefyd ystyried y Polisi Cynllunio Cymru Drafft (Argraffiad 10) yng nghyswllt y cysyniad o Greu Lleoedd a datblygu strwythur y CDLl Newydd.
Cynnig 2: 'Gweledigaeth' y CDLl Newydd
Mae'r Papur hwn hefyd yn holi eich barn am Weledigaeth newydd ar gyfer y CDLl Newydd. Mae'n ystyried polisi cenedlaethol, rhanbarthol a lleol a hefyd y dystiolaeth hyd yma a gyflwynir yn y Papurau Pwnc a'r Papurau Cefndir ategol.
Cynnig 3: Materion Blaenoriaeth ac Amcanion y CDLl Newydd
Ar ôl ystyried y dystiolaeth hyd yma, mae'r Papur hefyd yn cyflwyno cyfres o amcanion ar gyfer cyflawni'r weledigaeth. Mae'r rhan yma o'r ddogfen hefyd yn nodi'r prif faterion sy'n wynebu'r Fwrdeistref Sirol, wedi eu hysbysu gan Adroddiad Cwmpasu'r Arfarniad Cynaliadwyedd, y Papurau Pwnc cysylltiedig a'r Papurau Cefndir sy'n ategu'r CDLl Newydd.
1.4 Eich Barn
Defnyddir eich barn a'ch safbwyntiau i'n helpu i baratoi ar gyfer cam nesaf y broses o baratoi'r CDLl Newydd, sef y Strategaeth a Ffafrir. Mae cwestiynau penodol yn y ddogfen y byddem yn hoffi i chi eu hateb.
1.5 Mae cyfnod ymgynghori'r cam hwn sef Cyfranogi Cyn Adneuo ar Faterion ac Opsiynau yn rhedeg am chwe wythnos rhwng 17 Rhagfyr 2018 a 25 Ionawr 2019 fel y nodir hynny yng Nghytundeb Darparu CDLl Newydd Conwy. Gallwch anfon eich sylwadau atom drwy lenwi'r holiadur ymgynghori electronig sydd ynghlwm. Neu, os oes angen copi papur o'r holiadur arnoch, cysylltwch os gwelwch yn dda â'r Gwasanaeth Polisi Cynllunio Strategol.
Gwasanaeth Polisi Cynllunio Strategol
Drwy ffonio: 01492 575461; neu
Drwy e-bostio: cdll-ldp@conwy.gov.uk
Am gyfarwyddiadau ar sut I ddefnyddio’r system ac I wneud sylwadau, gwelwch ein canllaw cymorth.
back to top Yn ôl i’r brig