Papur 1: Materion Blaenoriaeth, Gweledigaeth ac Amcanion
Ailstrwythuro CDLl presennol Conwy (2017-2022)
3.1 Er bod Datblygu Cynaliadwy un elfen graidd o CDLl presennol Conwy, mae wedi'i strwythuro o gwmpas themâu allweddol a gysylltir i weledigaeth ac amcanion cyffredinol y Cynllun. Mae'r gofynion deddfwriaethol a ddisgrifir uchod yn Neddf LlCD yn cyflwyno rhwymedigaeth i wella lles neu lesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru.Mae'n gofyn bod cyrff cyhoeddus (gan gynnwys Llywodraeth Cymru ac Awdurdodau Cynllunio Lleol) yn meddwl yn fwy hirdymor, yn gweithio'n well gyda phobl a chymunedau, yn meddwl am atal problemau a gweithio'n fwy cydgysylltiedig wrth ddarparu datblygu cynaliadwy.Gan hynny cynigir bod y strwythur CDLl presennol yn cyd-fynd â'r goblygiadau gwella a nodir yn Neddf LlCD a WP Conwy a Sir Ddinbych (h.y. cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol) ac yn ystyried y prif feysydd pwnc a nodir yn y PPW drafft (rhifyn 10). Mae hyn yn sicrhau edau aur glir o'r canllawiau cenedlaethol a bod y meysydd polisi allweddol yn cael eu cynllunio i gyflawni nodau Deddf LlCD a Chreu Lleoedd Cynaliadwy yng Nghonwy.Bydd unrhyw newidiadau i'r PPW terfynol yn cael eu hadlewyrchu yng nghamau diweddarach y gwaith o baratoi'r CDLl Newydd.Yn ogystal, gallai rhai meysydd pwnc newid gan ddibynnu ar ganlyniad tystiolaeth gefndir y CDLl Newydd.
Tabl 1: Strwythur Arfaethedig y CDLl Newydd (themâu a meysydd pwnc)
Creu lleoedd |
Cymdeithasol |
Yr Economi |
Yr Amgylchedd a Diwylliant |
Creu Mannau Cynaliadwy Dylunio Da Hybu Lleoedd Iachach Y Gymraeg Gwneud Dewisiadau Gofodol Creu Lleoedd mewn Ardaloedd Gweledig |
Tai Canolfannau Manwerthu a Masnachol Cyfleusterau Cymunedol Mannau Hamdden Trafnidiaeth |
Datblygu Economaidd Twristiaeth Yr Economi Wledig Seilwaith Cludiant Ynni Mwynau & Gwastraff |
Tirwedd Ardaloedd Arfordirol Yr Amgylchedd Hanesyddol Seilwaith Gwyrdd a Bioamrywiaeth Dwr, Aer, Seinwedd a Golau Llifogydd Dadrisgio |
(9) Cwestiwn 1: Ydych chi'n cytuno y dylid cysoni'r strwythur CDLl Newydd i adlewyrchu rhwymedigaethau Deddf LlCD a'r meysydd pwnc a nodir yn PPW Drafft (rhifyn 10), i fod yr un fath a'r hyn a nodir yn Nhabl 1?)