Papur 2: Twf Strategol ac Opsiynau Dosbarthiad Gofodol

Daeth i ben ar 25 Ionawr 2019

Opsiynau Twf (Lefelau Twf 2018 - 2033)

5.1 Mae'r adran hon yn cyflwyno chwe opsiwn ar gyfer twf dros gyfnod y CDLlN (2018 - 2033). Ar gyfer pob opsiwn rhoddir ffigwr ar gyfer nifer y tai newydd a nifer y swyddi newydd a ragwelir dros gyfnod y CDLlN o 15 mlynedd (Cyfeiriwch at Dabl 1). Dylid darllen yr adran hon ar y cyd â BP01 - Adroddiad Opsiynau Lefel Twf a BP18 - Adolygiad Tir Cyflogaeth Conwy, sy'n cynnwys asesiad o effaith y Gyrwyr Economaidd Rhanbarthol a nodwyd ym Margen Twf y Gogledd a Strategaeth Economaidd Conwy.

Mae Polisi Cynllunio Cymru (PCC Argraffiad 9) yn nodi ym Mharagraff 9.2.2:....Bydd Amcanestyniadau diweddaraf Llywodraeth Cymru, a gyflwynir fesul awdurdod lleol, ynghyd â'r Asesiad diweddaraf o'r Farchnad Dai Leol, yn rhan o'r sylfaen dystiolaeth ar gyfer y cynllun. Bydd materion eraill hefyd yn rhan o'r sylfaen honno, er enghraifft, yr hyn y mae'r cynllun yn ceisio'i gyflawni, y cysylltiadau rhwng cartrefi a swyddi, yr angen am dai fforddiadwy, ystyriaethau'n ymwneud â'r Gymraeg, darpariaethau mewn strategaethau corfforaethol, a'r gallu i gyflawni'r cynllun. Mae'r amcanestyniadau aelwydydd yn amcangyfrif niferoedd aelwydydd yn y dyfodol. Maent yn cael eu seilio ar amcanestyniadau poblogaeth a rhagdybiaethau ynghylch cyfansoddiad a nodweddion aelwydydd.

Mae fersiwn ddrafft Polisi Cynllunio Cymru (Argraffiad 10) yn nodi ym Mharagraff 3.24: Bydd yr Amcanestyniadau Aelwydydd lefel awdurdod lleol diweddaraf i Gymru ... ochr yn ochr â'r Asesiad o'r Farchnad Dai Leol (LHMA) diweddaraf a'r cynllun Llesiant yn rhan o'r sylfaen dystiolaeth ar gyfer y cynllun. Dylid ystyried y rhain ynghyd â materion allweddol eraill fel beth mae'r cynllun yn ceisio'i gyflawni, cysylltiadau rhwng tai a swyddi, yr angen am dai fforddiadwy, ystyriaethau'r Gymraeg ac ymarferoldeb y cynllun. Mae ystyried y ffactorau economaidd, cymdeithasol, diwylliannol ac amgylcheddol ehangach yn rhan hanfodol o nodi'r gofyniad tai i greu lleoedd cynaliadwy a chymunedau cydlynus.

Hefyd mewn llythyr ar 10 Ebrill 2014 , cadarnhaodd Carl Sargeant (y Cyn-Weinidog Adnoddau Naturiol) fod yn rhaid i Awdurdodau Cynllunio Lleol ddarparu ar gyfer lefel tai sydd yn seiliedig ar yr holl ffynonellau tystiolaeth yn hytrach nag amcanestyniadau aelwydydd Llywodraeth Cymru yn unig. Mae'n ofynnol felly i'r Cyngor bennu'r ffigur hwn ar sail y sylfaen dystiolaeth sy'n dod i'r amlwg a phob math o faterion ac ystyriaethau perthnasol. Er enghraifft, rhaid i'r opsiynau twf ystyried sut gallant gyfrannu mewn ffordd gynaliadwy at gyflenwi'r gofyniad o ran swyddi a'r anghenion tai fforddiadwy a nodwyd yn yr Asesiad o'r Farchnad Dai Leol. At hynny, rhaid ystyried yr opsiynau twf yn ôl yr hyn a gyflenwyd yn y gorffennol a chapasiti cyffredinol y diwydiant adeiladu i gyflenwi twf. Bydd manylion o'r fath yn sail i'r opsiwn twf a ffefrir a byddwn yn ymgynghori yn ei gylch ar gam diweddarach ym mis Gorffennaf 2019.

Nid oes unrhyw opsiwn twf penodol yn cael ei ffafrio ar y cam hwn. Mae'r ffigyrau a gyflwynir yn dangos graddfa'r twf y bydd yn rhaid i'r CDLl roi sylw iddo o bosibl, yn unol ag ystadegau demograffig a'r sylfaen dystiolaeth. Dylid nodi fodd bynnag bod setiau data yn cael eu diweddaru'n barhaus a bydd angen i strategaeth y cynllun sy'n dod i'r amlwg fod yn ddigon hyblyg i alluogi'r CDLl i ymateb i amgylchiadau demograffig sy'n newid petai amcanestyniadau aelwydydd a/neu wybodaeth economaidd newydd yn dod i'r amlwg yn ystod y cyfnod pan fydd y cynllun yn cael ei baratoi.

Mae Tabl 1 yn dangos yr opsiynau ar gyfer lefel y datblygiadau tai a chyflogaeth y bydd yn rhaid i'r Cynllun ddarparu ar ei gyfer.

Mae'r senarios twf a amlinellir yn seiliedig ar ffynonellau data sefydledig a rhagdybiaethau wedi'u rhesymu am dueddiadau posibl yn y dyfodol. Gyda'i gilydd, rydym wedi edrych ar un ar bymtheg o senarios twf gwahanol - naw yn seiliedig ar newid poblogaeth, pump yn seiliedig ar newid tai, a dau yn seiliedig ar newid economaidd /cyflogaeth. Mae rhagor o wybodaeth am yr amcanestyniadau hyn a'r meini prawf y cawsant eu barnu yn eu herbyn ar gael yn BP01.

Ar ôl y rownd gyntaf hon o gasglu a dadansoddi tystiolaeth, dewiswyd y senarios a ganlyn yn y lle cyntaf ar gyfer eu hystyried i'w cynnwys yn yr ymgynghoriad â budd-ddeiliaid allweddol. Rhoddir asesiad byr o bob opsiwn isod, ynghyd â chrynodeb o'r opsiynau ar y rhestr fer (Tabl 1 a 2). Mae Siart 1 isod yn dangos y senarios twf ochr yn ochr â data cymharol eraill fel y tai a gafodd eu cwblhau gan y Cyngor rhwng 2017/18, y gyfradd gwblhau uchaf a osodwyd yn 2007/08 a ffigur gofynion tai blynyddol y CDLl cyfredol.

Tabl 1: Crynodeb o'r Opsiynau Twf ar y Rhestr Fer

Opsiwn Twf

Lefel Twf Tai a Chyflogaeth

Sylfaen Dystiolaeth a ddefnyddiwyd

Opsiwn 1: Senario twf a arweinir gan y boblogaeth (tuedd fudo 15 mlynedd yn sail-2017 - methodoleg Llywodraeth Cymru

Cyflogaeth - -600 (-4.0 ha)

Tai - 1,800 (120 y flwyddyn)

tuedd fudo 15 mlynedd yn seiliedig ar 2017 - methodoleg Llywodraeth Cymru*

Opsiwn 2: Senario twf a arweinir gan y boblogaeth (tuedd fudo 10 mlynedd yn sail- 2017 - methodoleg dueddfryd)

Cyflogaeth +750 (+5.2 ha)

Tai - 4,050 (270 y flwyddyn)

tuedd fudo 15 mlynedd yn sail- 2017 - methodoleg Llywodraeth Cymru *

Opsiwn 3: Senario twf a arweinir gan y boblogaeth (tuedd fudo 15 mlynedd yn sail-2017 - methodoleg dueddfryd)

Cyflogaeth +1,450 (+10.2 ha)

Tai - 4,950 (330 y flwyddyn)

tuedd fudo 15 mlynedd sail- 2017 - methodoleg Llywodraeth Cymru *

Opsiwn 4: Amcanestyniad a arweinir gan gyflogaeth - 'Polisi' Arolwg Tir Cyflogaeth Conwy amcanestyniad o 1,850 swydd ychwanegol

Cyflogaeth +1850 (12.6 i 14.3 ha)

Tai - 5,250 (350 y flwyddyn)

Arolwg Tir Cyflogaeth (2018)

Bargen Dwf Gogledd Cymru

Opsiwn 5: Amcanestyniad a arweinir gan gyflogaeth - Arolwg Tir Cyflogaeth a Strategaeth Economaidd Conwy amcanestyniad o 3,500 swydd ychwanegol

Cyflogaeth +3,500 (18.8 i 24.5 ha)

Tai - 7,150 (480 y flwyddyn)

Strategaeth Twf Economaidd Conwy

Bargen Dwf Gogledd Cymru

Opsiwn 6: Amcanestyniad a arweinir gan dai - gofyniad tai fforddiadwy Asesiad y Farchnad Dai Leol (yn seiliedig ar gyfraniad tai fforddiadwy 20%)

Cyflogaeth - ddim yn gymwys (Cyfeiriwch at y crynodeb isod)

Tai - 17,300 (1,150 y flwyddyn

Asesiad o Farchnad Dai Leol Conwy

Asesiad Hyfywedd Tai Fforddiadwy

*Rhoddwyd ystyriaeth hefyd i Arolwg Tir Cyflogaeth Conwy (2018 - 2033), Arolwg Gyrwyr Economaidd Conwy (2018 - 2033) ac Asesiad o Farchnad Dai Leol Conwy.

Opsiwn 1: Senario twf a arweinir gan y boblogaeth (tuedd fudo 15 mlynedd yn sail- 2017 - methodoleg Llywodraeth Cymru)
Mae'r opsiwn hwn yn seiliedig ar ddiweddariad o'r amcanestyniadau swyddogol, yn seiliedig ar 2014, gan ddefnyddio'r un fethodoleg yn union ond lle bo'n briodol diweddarwyd y data ar gyfer y flwyddyn ddiweddaraf y mae data poblogaeth ar gael (2017) ar ei chyfer, ac ymestynnwyd cyfnod y duedd i 15 mlynedd, er mwyn cyfateb yn well i gyfnod y CDLlN (2018 - 2033). Mae'r duedd fudo yn seiliedig ar ddata ar gyfer y 15 mlynedd rhwng 2002/2003 a chanol 2016/2017.

Mae'r senario hwn wedi'i gynnwys gan ei fod yn golygu bod modd cymharu â'r amcanestyniadau swyddogol a awgrymir fel rhan allweddol o'r dystiolaeth y dylid ei hystyried wrth lunio strategaethau twf y dyfodol ar gyfer y CDLlN.

Yn y senario hwn, er bod twf poblogaeth a gofynion anheddu yn cyfateb yn fras i'r tueddiadau a welwyd yn amcanestyniadau Llywodraeth Cymru yn seiliedig ar 2011 a 2014 a thystiolaeth arall am y boblogaeth, gwelir effaith y nifer fawr o bobl a anwyd yn y cyfnod wedi'r rhyfel sy'n gadael y boblogaeth oedran gwaith yn adran effeithiau economaidd tabl 2 isod, sy'n tanseilio dyheadau ar gyfer twf swyddi a dyheadau economaidd yn y Fwrdeistref Sirol.

Opsiwn 2: Senario twf a arweinir gan y boblogaeth (tuedd ymfudo 10 mlynedd sail-2017 - methodoleg dueddfryd)
Mae'r senario hwn yn defnyddio'r un tybiaethau am feichiogrwydd, marwolaeth a natur aelwydydd â senario twf a arweinir gan y boblogaeth dewis 1 (ac o'r herwydd ceir llawer o debygrwydd â methodoleg swyddogol Llywodraeth Cymru ar gyfer cynhyrchu amcanestyniadau a arweinir gan y boblogaeth). Fodd bynnag, yn hytrach na defnyddio cyfansymiau ymfudo sefydlog ar gyfer twf y boblogaeth i'r dyfodol, mae'n gweithio ar fodel tueddiadau sy'n cyfrifo tebygolrwydd ymfudo yn ôl oedran/rhyw ar sail proffil poblogaeth cyffredinol yr ardal ac, yn achos mewnfudo i'r DU, y wlad yn ei chyfanrwydd.

Mae'n defnyddio tuedd ymfudo 10 mlynedd yn seiliedig ar ddata ar gyfer y 10 mlynedd rhwng 2007/2008 a chanol 2016/2017. Defnyddiwyd tuedd ymfudo 10 mlynedd ar gyfer amcanestyniadau swyddogol seiliedig ar 2014 Llywodraeth Cymru.

Mae'r senario hwn yn cynhyrchu twf poblogaeth cyffredinol lefel uwch, sy'n arwain at ofyn am anheddau uwch na dewis 1 (oddeutu 4,050 o anheddau newydd dros gyfnod y cynllun neu ffigur cyfartalog o oddeutu 270 bob blwyddyn), ac mae'n caniatáu ar gyfer twf economaidd o oddeutu 5.2 ha o dir cyflogaeth ar gyfer 750 o swyddi newydd dros gyfnod y Cynllun (mae'n bosibl y bydd tir cyflogaeth ychwanegol yn angenrheidiol i adnewyddu neu ehangu safleoedd sy'n bodoli eisoes).

Opsiwn 3: Senario twf a arweinir gan y boblogaeth (tuedd ymfudo 15 mlynedd sail-2017 - methodoleg dueddfryd)
Mae'r senario hwn yn defnyddio'r un fethodoleg â opsiwn 2, ond ei fod yn defnyddio tuedd ymfudo 15 mlynedd yn seiliedig ar ddata ar gyfer y 15 mlynedd rhwng 2002/2003 a chanol 2016/2017.

Mae'r senario hwn yn rhoi lefelau twf tai a phoblogaeth uwch na opsiwn 2 (oddeutu 4,950 o anheddau newydd dros gyfnod y cynllun neu ffigur cyfartalog o oddeutu 330 bob blwyddyn), ond ei fod yn dal o fewn ystod y ffigurau cwblhau tai diweddar. Mae hefyd yn arwain at dwf yn y boblogaeth oedran gweithio sy'n helpu i gyd-fynd â'r dyheadau am dwf economaidd yn y rhanbarth , gan awgrymu angen am dir cyflogaeth o oddeutu 10.2 ha ar gyfer 1,450 o swyddi newydd dros gyfnod y Cynllun (mae'n bosibl y bydd tir cyflogaeth ychwanegol yn angenrheidiol i adnewyddu neu ehangu safleoedd sy'n bodoli eisoes). Ynghyd â pholisïau eraill i wella'r ffordd y darperir tai fforddiadwy (cyfeiriwch at Bapur Testun 1 Tai), mae'r opsiwn hwn hefyd yn cyfrannu tua 1000 o dai fforddiadwy newydd dros gyfnod y CDLlN ar sail cyfraniadau amrwd o 20% gan gynlluniau tai. Mae Papur Testun 1 hefyd yn ystyried ffyrdd eraill o wella dulliau o ddarparu tai fforddiadwy drwy wahanol fecanweithiau defnydd tir a pholisïau, a bydd y canlyniadau hyn o gymorth i lunio Strategaeth a Ffefrir y CDLlN ar gyfnod diweddarach. Mae rhagor o waith hyfywedd yn mynd rhagddo ar hyn o bryd drwy BP10 - Astudiaeth Hyfywedd Tai Fforddiadwy, a fydd hefyd o gymorth i lunio polisi'r dyfodol.

Opsiwn 4: Amcanestyniad a arweinir gan gyflogaeth ('Polisi' Arolwg Tir Cyflogaeth Conwy) 1,850 o swyddi ychwanegol
Cynigir yr opsiwn twf 'polisi' hwn o 1,850 o swyddi ychwanegol yn Arolwg Tir Cyflogaeth Conwy ac mae'n seiliedig ar asesiad o yrwyr economaidd y rhanbarth a nodwyd ym Margen Dwf Gogledd Cymru. Mae methodoleg y senario twf hwn yn wahanol i fethodoleg draddodiadol yr amcanestyniadau a ddefnyddiwyd yn opsiynau 1, 2 a 3. Cyfrifir effaith poblogaeth, aelwydydd ac anheddu gan ddefnyddio methodoleg iteriad am yn ôl sy'n addasu cydrannau newid poblogaeth (yn bennaf, lefelau mudo ymhlith y boblogaeth oedran gwaith a'u dibynyddion) er mwyn paru twf swyddi â lefelau twf y boblogaeth.

Mae'r senario hwn yn arwain at lefelau tebyg o dwf cyffredinol i'r rhai a welir yn opsiwn 2. Mae'n gosod twf anheddu o fewn ystod ffigyrau cwblhau diweddar (tua 5,250 annedd newydd dros gyfnod y Cynllun neu gyfartaledd o tua 350 y flwyddyn). Mae twf swyddi o 1,850 o gymorth i baru dyheuadau am dwf economaidd yn y rhanbarth, gan awgrymu angen am tua 12.6 - 14.3 ha o dir cyflogaeth ar gyfer swyddi newydd dros gyfnod y Cynllun (mae'n bosibl bydd angen tir cyflogaeth ychwanegol i gymryd lle neu ehangu safleoedd presennol).

Opsiwn 5: Amcanestyniad a arweinir gan gyflogaeth (Strategaeth Economaidd Conwy) - 3,500 o swyddi ychwanegol
Mae'r opsiwn hwn yn seiliedig ar dwf swyddi uchelgeisiol o 3,500 fel y nodwyd yn Strategaeth Twf Economaidd Conwy, a seiliwyd ar Fargen Dwf Gogledd Cymru. Mae'n defnyddio'r un fethodoleg ag opsiwn 4 ond gyda lefel twf swyddi sydd tua dwywaith y ffigur a welir yn yr opsiwn hwnnw.

Mae'r senario hwn yn arwain at lefelau twf cyffredinol sydd yn uwch nag opsiynau 1 - 4. Mae'n darparu twf anheddu sydd yn llawer mwy na lefel y tai a gwblhawyd yn ystod y blynyddoedd diweddar (tua 7,250 annedd newydd dros gyfnod y Cynllun neu gyfartaledd o tua 480 y flwyddyn). Mae twf swyddi o 3,500 yn awgrymu angen am tua 18.8 i 24.5 ha o dir cyflogaeth ar gyfer swyddi newydd dros gyfnod y Cynllun (mae'n bosibl bydd angen tir cyflogaeth ychwanegol i gymryd lle neu ehangu safleoedd presennol).

Opsiwn 6: Amcanestyniad a arweinir gan dai - gofyniad tai fforddiadwy'r Asesiad o'r Farchnad Dai Leol
Mae'r opsiwn hwn yn defnyddio cyfrifiad y gofyniad tai fforddiadwy yn yr Asesiad o'r Farchnad Dai Leol fel ei fan cychwyn. Mae'r fersiwn a gyflwynir yn y papur hwn yn defnyddio'r gofrestr dai ar y cyd (SARTH) o fis Ebrill 2018 fel prif elfen y cyfrifiad.

Cyfrifir mai'r angen blynyddol fydd tua 190 aelwyd y flwyddyn (ychydig yn is na'r ffigur yn yr Asesiad o'r Farchnad Dai Leol yn 2017). Mae hyn yn golygu mai cyfanswm y gofyniad dros gyfnod y CDLlN yw 2850 o unedau fforddiadwy. Os bydd lefel cyflawniad o 20% yn cael ei bennu ar gyfanswm y datblygiadau tai er mwyn cyrraedd y lefel hon o dai fforddiadwy, yna byddai'n rhaid adeiladu tua 960 annedd y flwyddyn i ateb yr angen hwn. Ar ôl ychwanegu nifer wrth gefn at y ffigur hwn, cyfanswm y gofyniad blynyddol yw tua 1,150, sydd fwy na deirgwaith yn fwy na'r lefel uchaf o dai newydd a gwblhawyd ym Mwrdeistref Sirol Conwy yn ystod y deng mlynedd diwethaf. Ar ôl gweld effaith anheddu uchel yr amcanestyniad hwn (ac eraill yn seiliedig ar yr un fethodoleg), penderfynwyd y byddai'r ffigyrau yn cael eu cyflwyno fel tystiolaeth ym mhapurau cefndir yr ymgynghoriad â budd-ddeiliaid allweddol, ond na fyddai'r opsiwn hwn yn cael ei ystyried fel senario twf posibl gan y byddai ffigyrau anheddu o'r maint hwn yn heriol iawn o safbwynt cyrraedd nodau cyflenwi a chynaliadwyedd.

Mae'r cyfrifiad o anghenion tai fforddiadwy o 2850 (190 y flwyddyn) yn edrych ar yr angen tai fforddiadwy presennol ac yn y dyfodol, ac yn cyfrifo amcangyfrif blynyddol o ran nifer yr aelwydydd fydd arnynt angen cymorth i gael tai fforddiadwy yn ogystal ag aelwydydd sydd eisoes yn derbyn cymorth.

Mae'n bwysig nodi nad yw'r ffigur tai fforddiadwy 'llinell isaf' yn ymwneud â'r gofyniad i adeiladu tai newydd yn unig - mae'n ymwneud ag aelwydydd mewn angen. Yn ogystal â darparu tai fforddiadwy newydd, mae pob math o ffyrdd eraill y gellid eu defnyddio i helpu'r aelwydydd hyn heb yr angen i godi adeiladau newydd - er enghraifft, drwy gael lle iddynt yn y stoc tai cymdeithasol presennol; darparu cynlluniau prynu â chymorth fel yr un a ddarparwyd drwy'r gofrestr Camau Cyntaf; trosi neu addasu stoc bresennol i ateb anghenion tenantiaid yn well (stoc yn y sector cymdeithasol a'r sector preifat) a thrwy gynnig cymorth ariannol i rentu yn y sector preifat (budd-dal tai). Er y bydd rhai o'r aelwydydd sydd wedi'u hadnabod fel rhai sydd arnynt angen cymorth i gael tai fforddiadwy heb gartref ar hyn o bryd, bydd gan y rhan fwyaf lety o ryw fath, boed hynny mewn tai annigonol. Nid yw hyn yn dileu'r angen i ddarparu nifer sylweddol iawn o opsiynau tai fforddiadwy ychwanegol (yn enwedig wrth i gostau tai barhau i godi ac mae'r rhai sydd ar incwm is yn cael eu gwasgu allan o'r farchnad), ond mae'n awgrymu bod angen defnyddio dulliau eraill heblaw adeiladu tai newydd ar gyfer deiliadaeth gymdeithasol a chanolradd i ateb yr angen hwn. Gall hyn gynnwys ceisio dylanwadu ar y math o dai sy'n cael eu hadeiladu er mwyn eu gwneud yn fwy addas i'r rheini y gellid o bosibl eu cartrefu yn nhai'r farchnad pe bai tai digonol ac addas ar gael (er enghraifft, annog adeiladwyr i ddarparu anheddau llai neu i ddefnyddio safonau 'cartrefi am oes'). Bydd asesiad pellach o'r angen i adeiladu tai newydd yn cael ei gynnal yn BP/11 'Cyfrifiad o Anghenion Tai Fforddiadwy'

Siart 1: Gofyniad am anheddau - cyfartaledd blynyddol ar gyfer rhai senarios twf yn CDLl newydd CBS Conwy rhwng 2018 a 2033, gyda data cymharol

siart%201

Tabl 2 Crynodeb o'r newid ar gyfer rhai senarios twf yn CDLl newydd CBS Conwy rhwng 2018 a 2033

Opsiwn 1

Opsiwn 2

Opsiwn 3

Opsiwn 4

Opsiwn 5

Opsiwn 6

Twf aelwydydd

1,350

3,100

3,750

4,000

5,400

-

Effeithiau anheddau - newid 2018-2033

Aelwydydd i anheddau

1,500

3,400

4,100

4,400

5,950

14,400

Ynghyd â thai wrth gefn

300

680

820

880

1,190

2,880

Cyfanswm

1,800

4,050

4,950

5,250

7,150

17,300

Ffigur blynyddol

120

270

330

350

480

1,150

Gofynion tir ar gyfer tai - newid 2018-2033

Cyflenwad presennol

2,650

2,650

2,650

2,650

2,650

2,650

Dyraniadau newydd sy'n ofynnol

-900

1,400

2,300

2,600

4,450

14,600

Effeithiau economaidd - newid 2018-2033

Twf swyddi

-600

750

1,450

1,850

3,500

-

Tir (ha)

-4.0

5.2

10.2

12.9

24.5

-

Opsiwn 1: Senario twf a arweinir gan y boblogaeth (tuedd ymfudo 15 mlynedd sail-2017 - methodoleg Llywodraeth Cymru)
Opsiwn 2: Senario twf a arweinir gan y boblogaeth (tuedd ymfudo 10 mlynedd sail-2017 - methodoleg dueddfryd)
Opsiwn 3: Senario twf a arweinir gan y boblogaeth (tuedd ymfudo 15 mlynedd sail-2017 - methodoleg dueddfryd)
Opsiwn 4: Amcanestyniad a arweinir gan gyflogaeth - 1,850 o swyddi ychwanegol
Opsiwn 5: Amcanestyniad a arweinir gan gyflogaeth - 3,500 o swyddi ychwanegol

Gan mai amcanestyniadau o ofynion y dyfodol yw'r ffigyrau hyn yn unig, yn hytrach na rhifau cywir, mae'r canlyniadau wedi'u talgrynnu i'r 50 agosaf ar gyfer eu cyhoeddi, ac eithrio amcanestyniadau'r gofynion anheddu blynyddol, sydd wedi'u talgrynnu i'r 10 agosaf.
Mae'r ffigyrau ar gyfer Bwrdeistref Sirol Conwy i gyd, gan gynnwys y rhan honno o'r ardal sydd o dan awdurdodaeth Awdurdod Cynllunio Lleol Parc Cenedlaethol Eryri.

(3) Cwestiwn 3: A ydych chi'n cytuno â'r ffigyrau a'r rhesymeg ar gyfer Opsiwn Twf 1?

(3) Cwestiwn 4: A ydych chi'n cytuno â'r ffigyrau a'r rhesymeg ar gyfer Opsiwn Twf 2?

(3) Cwestiwn 5: A ydych chi'n cytuno â'r ffigyrau a'r rhesymeg ar gyfer Opsiwn Twf 3?

(3) Cwestiwn 6: A ydych chi'n cytuno â'r ffigyrau a'r rhesymeg ar gyfer Opsiwn Twf 4?

(3) Cwestiwn 7: A ydych chi'n cytuno â'r ffigyrau a'r rhesymeg ar gyfer Opsiwn Twf 5?

(3) Cwestiwn 8: A ydych chi'n cytuno â'r ffigyrau a'r rhesymeg ar gyfer Opsiwn Twf 6?

(1) Cwestiwn 9: Beth yw'r opsiwn twf rydych chi'n ei ffafrio o'r opsiynau a nodir uchod?

Opsiwn 1

Opsiwn 2

(1) Opsiwn 3

(5) Opsiwn 4

(3) Opsiwn 5

Opsiwn 6

(4) Cwestiwn 10: A oes unrhyw opsiynau eraill y dylem eu cynnwys?

Am gyfarwyddiadau ar sut I ddefnyddio’r system ac I wneud sylwadau, gwelwch ein canllaw cymorth.
back to top Yn ôl i’r brig